12
Adolygiad Blynyddol 2018/19

Adolygiad Blynyddol 2018/19 - Cerebral Palsy Cymru...Wrth i chi ddarllen yr Adolygiad Blynyddol hwn, rwy'n gobeithio y byddwch yn teimlo'n hyderus ac yn falch, p'un a ydych wedi rhoi

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Adolygiad Blynyddol 2018/19

  • Mae'n bleser gennyf gyflwyno ein hadolygiad blynyddol ar gyfer 2018/19. P'un a ydychwedi ymwneud â'r elusen ers sawl blwyddyn neu eich bod yn darllen y ddogfen hon am ytro cyntaf, rwy'n gobeithio y byddwch yn mwynhau'r trosolwg hwn a'r crynodeb ouchafbwyntiau ein blwyddyn. Rydym wedi parhau i ddatblygu ein prosiectau strategol mawr, a sbardunwyd gan rodddrawsnewidiol Sefydliad Moondance yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Yn fwyafnodedig, rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu Cofrestr Parlys yr Ymennydd Cymruymhellach, ac wedi parhau i ystyried yr opsiynau ar gyfer cynyddu ein capasiti, gangynnwys cwrdd â gofynion o ran ein safleoedd sy'n gyson â'n darpariaeth o wasanaethauwedi'u targedu, wrth fynd i'r afael â'n gweithgareddau cynhyrchu incwm, gyda'r nod ogynnal sefyllfa gadarn o ran ein cronfeydd wrth gefn. Ar ran yr holl ymddiriedolwyr, hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r gwasanaethau sy'nnewid bywydau y mae Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru yn eu cynnig. Mae'n fraintfawr gweithio gyda'r elusen hon, a'r unig beth sydd i'w wneud yw diolch o galon i'r staffmedrus, y gwirfoddolwyr ymroddedig, y cefnogwyr hael, a'r noddwyr ffyddlon am sicrhauein bod wedi cael blwyddyn lwyddiannus arall.

    J Frank Holmes

    Croeso Mae Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru yn darparu ffisiotherapi, therapi galwediaethola therapi lleferydd ac iaith i blant ledled Cymru sydd â pharlys yr ymennydd. Mae therapyddion Bobath yn cydweithio fel tîm i gyfuno'r disgyblaethau hyn i roi'rsgiliau i bob plentyn archwilio eu byd, gyfleu eu hanghenion, gyrraedd eu potensial ac felly gwella ansawdd eu bywyd. Yng Nghanolfan Therapi Plant Bobath Cymru canolbwyntiwn ar y gallu ac nid yr anabledd.

    Neges y Cadeirydd

  • Gwnaethom gynnal ein cwrs cyntaf ar Weithredu ynGynnar ar gyfer therapyddion sydd am ddysgu mwyam roi cymorth i fabanod risg uchel. Aeth rhaiaelodau o'n tîm therapi ar y cwrs, yn ogystal âgweithwyr proffesiynol eraill o bob cwr o'r DU.Gwnaeth y cwrs redeg am chwe niwrnod a chafodd12 o fabanod driniaeth.

    Rhaglen Dechrau Gwell, sydd wedi bod ynganolbwynt allweddol dros y ddwy flyneddddiwethaf, yw man cychwyn y daith ar gyfer llawero'n plant, gan roi therapi sy'n newid bywydau iddyntmor fuan â phosibl.

    Cynhaliwyd ein Rhaglen Anturwyr y Jyngl ym misChwefror i blant rhwng chwech ac wyth oed sydd âhemiplegia, gan eu helpu i ddysgu sgiliau newydd agwneud ffrindiau. Dywedodd un fam, "Mae Kitty wedimwynhau mas draw yn y gwersyll; mae hi wedi maguhyder a datblygu ei nerth a’i gallu."

    Mae ein rhestr aros yn parhau i dyfu, gan ddangos yrangen mawr am y gwaith rydym yn ei wneud. Mae hynwedi bod yn wir ers sawl blwyddyn, ac wedi gwneud i'rBwrdd a'r uwch-dîm rheoli feddwl yn wahanol am eingwasanaethau a'r ffordd rydym yn eu darparu.

    Gwnaethom gynnal cyfanswm o o sesiynau therapi ledled Cymru,

    gan roi triniaeth i o blant unigol.

    1682286

  • 6

    600 metry pellter lleiaf a deithiwyd gan deulu i'ncanolfan i gael therapi.

    y pellter mwyaf a deithiwyd gandeulu i'n canolfan i gael therapi.

    132 milltir

    o sesiynau wedi'u cynnal y tu allani'n canolfan yn y gymuned.

    o blant rhwng chwech ac wythoed wedi cymryd rhan yn einRhaglen Anturwyr y Jyngla ariannwyd gan Plant mewnAngen.

    110 o gyfarfodyddcymorth i deuluoeddwedi'u cynnal.

    9 o foreau coffi wedi'u cynnal,gan gynnwys un mewn lleoliadrhanbarthol.

    15 o therapyddion Bobath wedi'ucyflogi gan Bobath Cymru.

    3 o ymgynghoriadau ar gysgu wedi'ucynnal gan ein Cydlynydd Cymorthi Deuluoedd.

    111

  • Cartref newydd i Bobath Cymru

    Prosiect amlasiantaeth Cymru gyfan ywhwn, dan arweiniad Jennifer Carroll, sefCyfarwyddwr y Ganolfan, a Dr RachelLindoewood, sy'n BediatregyddYmgynghorol o Bowys. Mae grŵp llywiogennym sy'n cynnwys 32 o bobl, gangynnwys unigolion sydd â pharlys yrymennydd a'u teuluoedd, a gweithwyrproffesiynol mewn 16 o ddisgyblaethaugwahanol. Mae gan y prosiect hwn ypotensial i newid bywydau teuluoedd sy'nbyw â pharlys yr ymennydd yng Nghymru. @CP_Reg_Wales

    Cofrestr Parlys yr Ymennydd i Gymru

    Mae'r flwyddyn hon wedi bod yn hynod obrysur a chyffrous. Ynghyd â darparutherapi ar gyfer y plant a'r teuluoedd, rydymwedi bod yn datblygu sawl prosiect mawr. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o'nhadnoddau gwerthfawr, rydym yn datblyguein gwasanaethau. Rydym wedi dechraudatblygu llwybrau allweddol ar gyfer ygwahanol fathau o barlys yr ymennydd. Ynod yw cyflwyno'r llwybrau hyn ar adegaupontio pwysig, fel dechrau'r ysgol, symud iysgol addysg uwchradd, blynyddoedd yrarddegau ac ati. Un enghraifft lle mae'rllwybrau hyn eisoes wedi cael eu cyflwynoyw ein Rhaglen Fforwyr y Jyngl a'nRhaglen Anturwyr y Jyngl ar gyfer plantsydd â math unochrog o barlys yrymennydd. Mae'r rhain wedi bod yn llawero hwyl i bawb a gymerodd ran, gan gynnigmanteision amlwg i'r plant, o ran sgiliaucorfforol a hyder. O ganlyniad i'rnewidiadau hyn, rydym wedi bod ynystyried a yw enw'r Ganolfan yn parhau iadlewyrchu’n llawn yr amrywiaeth owasanaethau arbenigol rydym yn eucynnig. Byddwn yn parhau i ystyried ymater hwn. Erbyn hyn, mae gennym 14 o wahanolfodelau gwasanaeth. Caiff tua thraean o'ngwasanaeth ei ddarparu'n lleol ar y cyd âtherapyddion lleol. Mae hyn yn rhan o'rgwaith o ddarparu'r gwasanaethau y maeteuluoedd a thimau lleol yn dymuno eucael. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2018-19,gwnaethom gynnal 111 o sesiynau therapiyn y gymuned. Bydd hyn yn codi yflwyddyn nesaf.

    Y wybodaeth ddiweddarafam therapi

    Ar hyn o bryd, ni allwn gynnig yr hollwasanaethau yr hoffem am fod prinder lle.Defnyddir ystafelloedd triniaeth ar gyfersesiynau Cymorth i Deuluoedd,cyfarfodydd a chyrsiau yn ogystal âtherapi. Felly, rydym yn ystyried ffyrdd ogynyddu faint o le sydd gennym yn ydyfodol agos. Ein hoff opsiwn yw symud ileoliad mwy er mwyn creu canolfan blantfodern sy'n addas at y diben. Ar hyn obryd, rydym yn ymchwilio i leoliadau achyllid posibl, gyda'r rhodd a gawsom ganSefydliad Moondance yn 2017 yn sbardun.

  • Mae'r grŵp hwn yn parhau i fod yn rhanbwysig o'n strategaeth i gefnogigwasanaethau ledled Cymru ar gyferplant sydd â pharlys yr ymennydd. Mae clinigwyr arweiniol ar gyfer parlys yrymennydd o bob Bwrdd Iechyd Lleol ynmynychu'r diwrnodau arweinyddiaethglinigol hyn, a'n nod yw eu cefnogi wrthiddynt arwain rhagoriaeth glinigol yn lleol.

    Arweinwyr Parlys yr Ymennydd

    Eleni, gwnaethom gynnal cwrsrhagarweiniol a chwrs cynorthwywyr ynein Canolfan Therapi yng Nghaerdydd achawsant eu croesawu. Rydym wedimynd yn ôl i fodel cwrs rhagarweiniol sy'npara am dridiau, sy'n rhoi ychydig mwy oamser i ni drafod a chynnwys mwy owybodaeth ar gyfer y cyfranogwyr.Gwnaeth ein Canolfan Therapi hefydgynnal cwrs Gweithredu yn Gynnar, yn ogystal â chwrs bach Asesu'r LlawGynorthwyol a chwrs Proffil EchddygolBabanod. Rydym yn bwriadu darparumwy o gyrsiau unwaith y bydd mwy o legennym yn y dyfodol.

    Arwain y ffordd o ran addysg

    Cynhaliwyd cyngres CymdeithasTiwtoriaid Bobath Ewrop (EBTA) ynBrighton yn 2018. Gwnaeth BobathCymru chwarae rôl hanfodol yn y gwaitho gynllunio, trefnu a chynnal y gyngreshon, a oedd yn llwyddiant mawr.Gwnaeth ein tîm therapi gyflwyno dwyddarlith a saith o bosteri academaidd.

    Cyngres EBTA 2018

    "Rydym yn gweithio tuag atflwyddyn lwyddiannus y flwyddyn

    nesaf, ac yn diolch i'r holltherapyddion cymunedol am y

    cymorth aruthrol rydym yn ei gael.

    Hoffwn hefyd ddiolch i'r teuluoedda thîm staff Bobath Cymru am y

    gefnogaeth ryfeddol y mae'rGanolfan yn ei chael."

    Jennifer J Carroll MA MCSP PGC(HE)Cyfarwyddwr y Ganolfan a Ffisiotherapydd Ymgynghorol

  • Gwnaeth 1179 o unigolion a

    sefydliadau ein helpu i godi arian.

    Gwnaeth 925 o bobl rodd i BobathCymru (rhoddion untro a rhai misol).

    Gwnaeth yr arwerthiant dillad 'LabeliDylunwyr a Dillad Newydd' godi£4,462 mewn dim ond wyth awr.

    Gwnaeth 53 o wirfoddolwyr

    newydd gofrestru i'n helpu yn ein

    pum siop elusen.

    Albwm lluniaugweithgareddau codi arian

    2018-19

    Ciplun ar ein blwyddyn!

    Diolch i chi am eich grant o £5,703 tuag atein Gwasanaeth Gweithredu yn Gynnar.

  • Aeth 12 o bobl ar ein Taith

    Eira i Sweden gan godi £15,944.

    Cafodd MILOEDD o gacennau eupobi a'u bwyta yn ystod digwyddiad

    Pobi dros Bobath.

    Ymwelodd aelodau o'r tîm codi ariana'r tîm therapi â Phalas San Steffaner mwyn codi ymwybyddiaeth oBobath Cymru.

    Gwnaeth Hwyl yr Ŵyl yn Pugh's Garde

    n

    Village godi £12,000.

    Cwblhaodd 11 o ddynion ifanc her

    Tri Chopa Cymru, gan godi £3,914.

    Diolch yn fawr!i bawb a'n cefnogodd yn ystod2018-19. Hebddoch chi, ni fyddemwedi gallu gwneud gwahaniaethcadarnhaol i gynnifer o blant atheuluoedd sy'n byw â pharlys yrymennydd!

  • Y wybodaeth ddiweddarafam Godi Arian

    Mae pob rhodd i Ganolfan Therapi Plant BobathCymru yn gwneud gwahaniaeth i blant atheuluoedd sy'n byw â pharlys yr ymennyddledled Cymru. Felly, rydym am achub ar y cyflehwn i ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi eincefnogi yn 2018/19. Ni fyddem yn gallu gwneudyr hyn rydym yn ei wneud hebddoch! Fel y gwelwch o'n cyfrifon, yn y flwyddyn ariannolhon, daeth 79% o'n hincwm o roddion,cymynroddion, manwerthu a gweithgareddaucodi arian. Mae hefyd yn bwysig dathlu'r ffaithanhygoel bod traean o'r swm hwnnw wedi dod oroddion a phobl yn prynu nwyddau ail-law ynein pum siop elusen ledled De Cymru. Er ein bod yn ddiolchgar am bob rhodd, mae'nrhaid i ni sôn yn arbennig y tro hwn am ydiweddar Ms Valerie Seaward, a adawodd swmsylweddol i'r elusen yn ei hewyllys. Drwy wneud yrhodd hwn, mae Valerie Seaward wedi ei gwneudyn bosibl i ni ddarparu therapi sy'n newidbywydau i lawer o blant eleni. Wrth i chi ddarllen yr Adolygiad Blynyddol hwn,rwy'n gobeithio y byddwch yn teimlo'n hyderus acyn falch, p'un a ydych wedi rhoi nwyddau i'nsiopau, rhoi arian, dod i ddigwyddiad neuwirfoddoli gyda ni, fod eich amser, arbenigedd acharedigrwydd wedi helpu i wneud gwahaniaethi blant a theuluoedd sy'n byw â pharlys yrymennydd yng Nghymru. Diolch yn fawr, Rachel MorganPennaeth Cynhyrchu Incwm

  • Incwm codi arian 42.2%

    Manwerthu36.6%

    Byrddau Iechyd20.7%

    Eraill 0.5%

    Adroddiad Ariannol

    Darparu therapi 53.1%

    Manwerthu21.9%

    Codi arian13.1%

    Gweinyddol ac arall11.9%

    Yng Nghanolfan Therapi Plant Bobath Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddarparu pobgwasanaeth am ddim i bob teulu sydd angen ein cymorth. Er mwyn parhau i wneud hyn,mae'n bwysig bod ein hincwm yn deillio o ffynonellau amrywiol er mwyn lleihau risgiau.Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein hincwm wedi dod o amrywiaeth eang o ffynonellau.Mae gennym bum siop elusen ar draws De Cymru. Mae ein hincwm manwerthu'n parhau idyfu ac erbyn hyn mae'n cyfrannu mwy na thraean o gyfanswm ein hincwm. Mae eincontractau â holl Fyrddau Iechyd GIG Cymru yn ariannu llawer o'n plant o tua 4 oed, tracaiff triniaeth y babanod rydym yn eu gweld ei hariannu drwy'r ffynonellau eraill. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl ffyrdd niferus (a dyfeisgar!) y mae ein cefnogwyr ynmynd ati i godi arian, ac rydym yn gweithio'n galed er mwyn gwneud yn siŵr y caiff pobpunt ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau sy'n newid bywydau i blant ledled Cymru.

    Cyfanswm Incwm £1,516,733

    Darparu therapi £818,852Manwerthu £336,836Codi arian £201,915Gweinyddol ac arall £183,911

    • Incwm codi arian £639,492• Manwerthu £555,621• Byrddau Iechyd £313,922• Eraill £7,698

    Cyfanswm Gwariant £1,541,514

  • Gallwch ddod o hyd i ni ar

    YmddiriedolwyrFrank HolmesChristine Barber Caroline Cooksley Ieuan Coombes Martin Gush Stephen Jones Paul Lubas Cathy White Marie Wood

    Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru

    19 Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd,Caerdydd CF14 7BPFfôn: 02920 522 600Ffacs: 02920 521 477E-bost: [email protected]

    www.bobathwales.org

    ArchwilwyrClifton House Partnership, Clifton House, Four Elms Road,Caerdydd, CF24 1LE

    BancwyrBarclays Bank plc, Heol Dewi Sant, Caerdydd, CF10 2DP

    Elusen Gofrestredig: 1010183Rhif Cwmni Cyfyngedig: 02691690