8
2012-13 Adolygiad Blynyddol

Adolygiad Blynyddol 2012 - 13

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Mae’r Adolygiad Blynyddol yn gyfle i gnoi cil a chydnabod yr hyn mae’r Brifysgol wedi’i gyflawni dros y 12 mis diwethaf.

Citation preview

Page 1: Adolygiad Blynyddol 2012 - 13

2012-13Adolygiad Blynyddol

Page 2: Adolygiad Blynyddol 2012 - 13

Neges y Llywydd

Mae’r Adolygiad Blynyddol hwn yn crynhoidatblygiad a llwyddiannau’r Brifysgol yn ystodblwyddyn academaidd 2012-13.

Mae’n bleser nodi y bu datblygiad sylweddol yn ystod y12 mis diwethaf yn erbyn nifer o amcanion strategol.Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, fel pobprifysgol arall, gyfraniad pwysig i’w wneud yn lleol ac ynrhyngwladol - hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol,hybu’r economi, meithrin partneriaethau lleol arhyngwladol, ymchwil a llawer mwy.

Mae’r myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydymyn falch o weld bod Prifysgol Metropolitan Caerdydd ynllwyddiannus mewn 4 adroddiad o bwys sy’nadlewyrchu’r addysg a’r profiad a rown i’n myfyrwyr ynogystal â pha mor dda rydym ni’n eu paratoi nhw ar gyferbyd gwaith.

Llwyddodd y Brifysgol i ennill y sgôr uchaf hyd yma o ranbodlonrwydd myfyrwyr, yn ogystal â’r brifysgol ‘newydd’orau yng Nghymru, yn ôl Arolwg Cenedlaethol oFyfyrwyr (NSS).

Dyfarnwyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd fel yr 8fedorau yn y DU o ran cyfran y graddedigion sy’n mynd ynsyth i fyd gwaith neu astudiaeth bellach.

Cawsom ein henwi fel y brifysgol orau yn y DU ganfyfyrwyr tramor, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, agyda phrofiad byw a dysgu’r brifysgol yn cael eu canmol,

Fel Llywydd y Brifysgol, hoffwn ddiolch i BarbaraWilding, CBE QPM, Cadeirydd y Bwrdd, am eistiwardiaeth yn ystod cyfnod anodd tu hwnt. Mae’rCadeirydd, ei Bwrdd a’i Thîm Gweithredol wedi llywio’rBrifysgol trwy ddyddiau tymhestlog, ond er gwaethapawb a phopeth, llwyddwyd i gyflawni pethaucadarnhaol ar draws pob maes.

Rwy’n ymroi i gefnogi Bwrdd y Llywodraethwyr a’r staff,ac yn bwysicach, y myfyrwyr, er mwyn sicrhau bodrhywbeth mor werth chweil â Phrifysgol MetropolitanCaerdydd yn cael ei gydnabod fel caffaeliad o’r iawn rywi’r holl wlad.

Neges y Cadeirydd a’r Is-Ganghellora’r myfyrwyr yn mynegi eu bod yn fodlon iawn â’rgwasanaeth cymorth i fyfyrwyr.

Yn y pedwerydd adroddiad, dywedodd ein myfyrwyrfod y Brifysgol gyda’r gorau yn y DU o ran ansawddbywyd. Rydym hefyd yn falch o nodi bod y gwaith oadeiladu’r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Celf a DylunioCaerdydd ar gampws Llandaf yn mynd rhagddo -datblygiad sy’n golygu y bydd yr Ysgol gyfan ar un safleo fis Medi 2014 ymlaen, ac yn enghraifft o fuddsoddisylweddol yn yr ystâd.

Mae recriwtio myfyrwyr yn parhau mor gryf ag erioed,wrth inni ddatblygu ymhellach sefydliad cadarn sy’ncanolbwyntio ar fyfyrwyr â phwyslais ar les economaidd,cymdeithasol a diwylliannol Caerdydd a’r De-ddwyrain.

Ein dyhead yw bod gyda’r 10 prifysgol ‘newydd’ orauerbyn 2017. Mae’r holl ganlyniadau cadarnhaol hyn yndangos bod ein gwaith yn helpu i gyflawni einhamcanion strategol.

Hoffai Bwrdd y Llywodraethwyr a’r Tîm Gweithredoldalu teyrnged i’r staff a’r myfyrwyr am eu hymroddiad ynystod y flwyddyn a fu. Ond nid da lle gellir gwell. Maeheriau niferus yn wynebu’r byd addysg uwch o hyd, ondgwyddom cystal y gallwn ymateb iddynt.

Barbara Wilding CBE, QPM,Cadeirydd y Llywodraethwyr

Y Cynghorydd Derrick MorganGwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydda Llywydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Yr Athro Antony J Chapman, Is-Ganghellor a Phennaeth

Mae’r Adolygiad Blynyddol yn gyfle i gnoi cil achydnabod yr hyn mae’r Brifysgol wedi’i gyflawnidros y 12 mis diwethaf.

Roedd y sefyllfa’n edrych tipyn gwahanol flwyddyn ynôl, pan roedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ynwynebu’r posibilrwydd o uno â PhrifysgolionMorgannwg a Chasnewydd. Nid fyddai BwrddLlywodraethwyr Metropolitan Caerdydd yn cytuno i hynheb dystiolaeth gadarn y byddai o fudd i’r Brifysgol, eimyfyrwyr a’i staff. Felly, roeddwn i’n falch iawn fisTachwedd diwethaf pan benderfynodd y GweinidogAddysg i adael Metropolitan Caerdydd fel sefydliadannibynnol.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn golygu cymainti gynifer, ac rwyf wrth fy modd o weld ei bod wedicadw’i hunaniaeth a’i hannibyniaeth wrth inni nesáu at ydathliadau 150 oed. Wedi dweud hynny, rwy’n gwybodna fydd yn gyfyngedig ei gweledigaeth. I’r gwrthwynebyn wir - yn ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid ardraws pob sector a maes ledled y De-ddwyrain a thuhwnt.

Rwy’n falch o’r ffaith fy mod i wedi bod trwy’rnewidiadau yn bersonol ac, yn wir, yn rhan o’r Brifysgolwrth iddi fwrw ymlaen a gweithredu’r newidiadau mawrer budd y myfyrwyr, staff a’r bobl sy’n gweithio gyda’rBrifysgol ar amrywiaeth eang o fentrau. Mae’r heriau’nparhau, ond gwn fod y Brifysgol mewn dwylo da iawn.

O’r chwith i’r dde, Barbara Wilding, CBE QPM, Cadeirydd yLlywodraethwyr, y Cynghorydd Derrick Morgan, Gwir AnrhydeddusArglwydd Faer Caerdydd a’r Llywydd a’r Athro. Antony J Chapman, Is-Ganghellor a Phennaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Page 3: Adolygiad Blynyddol 2012 - 13

Mae myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedienwi’r Brifysgol fel yr orau yn y DU am y bedwareddflwyddyn yn olynol. Diolch i bleidleisiau’n myfyrwyrtramor a gymrodd ran yn yr arolwg, llwyddodd yBrifysgol i gael y sgôr uchaf yn y DU am ei phrofiadaudysgu a byw, ac am fodlonrwydd gyda’r gwasanaethcymorth i fyfyrwyr. Mae’r Baromedr MyfyrwyrRhyngwladol, a gynhelir gan i-Graduate yn wasanaethymchwil annibynnol sy’n arbenigo yn y farchnad addysgryngwladol, a dyma’r astudiaeth fwyaf o fyfyrwyrrhyngwladol yn y byd bellach.

Diolch i €27 miliwn o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd,mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dal i arwain yblaen o ran cynnig ysgoloriaethau rhyngwladol i’wmyfyrwyr a staff drwy raglenni cyfnewid fel ErasmusMundus. Mae ysgoloriaethau Santander yn cynnig cyfle ifyfyrwyr astudio mewn dros fil o sefydliadau addysguwch ym mhedwar ban byd.

Ni yw’r unig sefydliad addysg uwch yng Nghymru syddwedi’i ddewis i dderbyn cyllid o’r fath, a’r unig brifysgolyn y DU i’w dewis ar gyfer chwe phrosiect CamGweithredu 2 Erasmus Mundus yr UE yn olynol.

Hefyd, mae cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn rhaglennicyfnewid ac astudio dramor gyda phartneriaidsefydliadol Addysg Drawswladol Prifysgol MetropolitanCaerdydd, mewn gwledydd fel Bwlgaria, Moroco a’rAifft. Mae myfyrwyr o Brydain a thramor yn gallu dilynrhan o’u cyrsiau mewn sefydliad tramor, gydachydnabyddiaeth academaidd lawn.

Meithrin partneriaethaurhyngwladol

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi penodiRhag Is-Ganghellor newydd, yr Athro MohamedLoutfi, sy’n gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu agweithredu strategaeth ryngwladol y Brifysgol ymMhrydain a thramor. Mae rôl yr Athro Loutfi yn cynnwyssicrhau cysylltiadau cynaliadwy a phellgyrhaeddol âphartneriaid tramor er mwyn hyrwyddo rhagoriaethacademaidd a bri ym maes addysgu, dysgu, ymchwil agweithgareddau menter cysylltiedig.

Rydym wedi agor swyddfa yn India, mewncydweithrediad â’n partner busnes Planet EDU. Mae hynyn dangos ymrwymiad pellach i bartneriaethlwyddiannus a lansiwyd yng nghwmni’r Prif WeinidogCarwyn Jones AC yn 2012.

Wedi’i leoli yn Gurgaon, Delhi Newydd, bydd swyddfaPrifysgol Metropolitan Caerdydd o gymorth i ddatblyguein gweithgareddau rhyngwladol yn India a De Asia.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi lansioei rhaglen Tempus - Meithrin Gallu’r Brifysgol ymmaes Rheoli Prifysgolion (BUCUM) prosiect a gafoddei ddewis i gael cyllid o €1.1 Miliwn gan yr AsiantaethWeithredol Addysg, Clyweledol a Diwylliant.

Nod y prosiect, sy’n dilyn prosiect Arweinyddiaeth wrthReoli Addysg Uwch TEMPUS, yw cysoni systemauaddysg uwch ledled yr Aifft, Libanus a Moroco; datblyguarferion rheoli da; creu cydweithrediad addysg uwchcynaliadwy rhwng gwledydd a mynd i’r afael â heriaubyd-eang yn yr 21ain Ganrif.

Page 4: Adolygiad Blynyddol 2012 - 13

Cydweithio ag eraill i gryfhau addysg uwch

Mae arferion cynaliadwy Prifysgol MetropolitanCaerdydd yn cwmpasu’r Brifysgol gyfan erbyn hyn, acmae’r enghreifftiau yn cynnwys polisi masnach deg,cynlluniau trafnidiaeth a theithio, a strategaeth iechyd alles yn ogystal â system rheoli amgylcheddol.

Gyda chymorth Cynnal Cymru, mae tîm rheoli’r Brifysgolwedi bod yn ystyried sut i adeiladu ar lwyddiannaudatblygu cynaliadwy a chreu athroniaeth unedig. Byddyn helpu i sicrhau bod y Brifysgol yn barod igydymffurfio â Bil Datblygu Cynaliadwy arfaethedigLlywodraeth Cymru.

Cafodd Dr Tom Crick, Uwch ddarlithydd CyfrifiaduregYsgol Rheoli Caerdydd wahoddiad i gyd-gadeirio grŵpllywio Llywodraeth Cymru er mwyn adolygu dyfodolcyfrifiadureg a TG yn ysgolion y wlad.

Mae’r grŵp llywio wedi ystyried sut y gellir cyflwynoCyfrifiadureg o’r ysgol gynradd ymlaen, a’i datblygudrwy gamau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, yn ogystal âsicrhau bod y sgiliau craidd, fel meddwl cyfrifiadurol,datrys problemau’n greadigol, rhaglenni a llythrennedddata, yn cael eu hannog a’u datblygu.

Bydd argymhellion y grŵp yn llywio adolygiad ehangacho waith asesu a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yma yngNghymru.

Cynhaliwyd ail Seminar Cymdeithas Fawr Cymru danarweiniad y Farwnes Randerson, Is-ysgrifennyddSeneddol, mewn cydweithrediad â PhrifysgolMetropolitan Caerdydd.

Daeth pobl ynghyd i gwrdd â grwpiau cymuned,sefydliadau a busnesau lleol er mwyn trafod syniadau adulliau newydd a allai annog a chefnogi partneriaethau amentrau cymdeithasol i ffynnu yn eu cynefinoedd.

Cynhaliodd Ysgol Chwaraeon Caerdydd CynhadleddFlynyddol i Fyfyrwyr Cymdeithas GwyddorauChwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES),y corff proffesiynol dros wyddorau chwaraeon acymarfer corff yn y DU.

Roedd y gynhadledd ddeuddydd i fyfyrwyr yn gyfle i330 o fyfyrwyr israddedig ac olraddedig ym maeschwaraeon, ymarfer corff neu bynciau cysylltiedig, o 70o sefydliadau ledled Cymru, Iwerddon, yr Alban, Lloegra chyn belled â Malaysia, Sweden a Taiwan i gyflwyno’ugwaith arloesol ym myd chwaraeon ac ymarfer corff, ahefyd i fynychu gweithdai a chyflwyniadau ganymchwilwyr ac ymarferwyr gwyddorau chwaraeon acymarfer corff Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Un o weithdai’r Gynhadledd a gynhaliwyd ar gampws Cyncoed.

Page 5: Adolygiad Blynyddol 2012 - 13

Mae’r gwaith o godi adeilad newydd ychwanegol yrYsgol Gelf a Dylunio wedi cyrraedd ei bwynt uchaf oran yr adeiladwaith erbyn hyn, gyda’r nod o’i agor erbynblwyddyn academaidd 2014-15. O fis Medi 2014, bydd1,200 o fyfyrwyr yr Ysgol yn symud i’r adeilad newyddllawn stiwdios a gweithdai pwrpasol. Bydd y cyfleusteraunewydd yn cynnwys pob math o dechnolegau, gangynnwys ffowndri anfferrus, stiwdio pwytho ddigidol, acodynau allanol. Hefyd, bydd yr adeilad newydd yngartref i FabLab cyntaf Cymru, sy’n gysylltiedig ârhwydwaith byd-eang o gyfleusterau pre-fab yMassachusetts Institute of Technology.

Llwyddodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ennill y sgôr uchaf erioed o ran lefelau bodlonrwyddmyfyrwyr, yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr(NSS).

Mae’r arolwg annibynnol wedi’i gomisiynu gan yrCyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), ac sy’ncael ei gynnal ledled y DU, yn gofyn i fyfyrwyr ledled yDU sgorio’u prifysgolion ar sail addysgu, asesu, cymorthacademaidd, trefn y rhaglen, adnoddau dysgu,datblygiad personol a bodlonrwydd cyffredinol.

Mae canlyniadau arolwg 2013 yn dangos bod myfyrwyrPrifysgol Metropolitan Caerdydd yn fwy bodlon nagerioed ym mhob un o’r 22 cwestiwn, a bod 85 y cant o’rymatebwyr yn ‘cytuno’ neu’n ‘cytuno’n gryf’ eu bod ynfodlon gyda safon eu cwrs yn gyffredinol.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r 8fedprifysgol orau yn y DU o safbwynt graddedigionsy’n mynd yn syth i fyd gwaith neu astudiaethbellach.

Yn ôl arolwg diweddar Cyrchfannau Ymadawyr AddysgUwch (DLHE), cafodd Prifysgol Metropolitan Caerdyddsgôr cyflogadwyedd o 95%, sy’n uwch na’r 90% wnaethfodloni’r maen prawf hwn y llynedd.

Mae’r ffigurau hyn yn golygu bod Prifysgol MetropolitanCaerdydd wedi cyflawni rhai o’i phrif dargedau 5mlynedd yn gynnar o gymharu â’r amserlen sydd yngNghynllun Ffioedd y Brifysgol.

Yn arolwg DLHE, 90.8% yw’r ffigur cyfartalog ar gyfer yDU - gyda chyfartaledd o 91.6% i brifysgolion Cymru a90.5% i brifysgolion Lloegr.

Dr Colleen Connor, Deon Dysgu ac Addysgu PrifysgolMetropolitan Caerdydd yw’r academydd cyntaf yngNghymru i’w chydnabod yn Brif Gymrawd yrAcademi Addysg Uwch.

Mae Dr Connor yn un o 25 ledled y DU i ennill statwsPrif Gymrawd - rhan o Gynllun Cydnabod Proffesiynol yrAcademi i wobrwyo ymrwymiad ehangach i ymarferacademaidd ac arweinyddiaeth strategol er mwyn gwellaprofiad dysgu myfyrwyr.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o fod â’rgyfran uchaf o Gymrodorion cydnabyddedig o blith hollsefydliadau addysg uwch y DU (62.1% ym MhrifysgolMetropolitan Caerdydd o gymharu â chyfartaledd o19.9% ar lefel sefydliadau addysg uwch y DU).

Adeilad newydd sbon Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, yng nghampws Llandaf.

Profiad dysgu o’r radd flaenaf

Page 6: Adolygiad Blynyddol 2012 - 13

Mae’r Brifysgol wedi ymuno â Rhaglen Fyd-eangPrifysgolion Santander. Mae Santander yn rhoicymorth am dair blynedd, gan gynnwys ysgoloriaethau,interniaethau, cynlluniau arloesol a gweithgareddaumentergarwch.

Meddai Matthew Taylor, Cyfarwyddwr Menter yBrifysgol: “Mae ein myfyrwyr a’n staff wedi caelcyfleoedd heb eu hail ers inni gael ein cynnwys yn yrhwydwaith byd-eang pwysig hwn. Diolch i’r cyllid syddar gael, rydym yn gallu cynnal costau pob math oweithgareddau, gan gynnwys teithio rhyngwladol,hyfforddiant mentergarwch trawsgwricwlaidd achymorth i gychwyn busnes.”

Mae dros 300 o uwch reolwyr wedi cymryd rhan yn yrhaglenni ‘Arwain 20Ugain’ ac ‘Arweinyddiaeth argyfer Cydweithredu’.

Nod y rhaglenni hyn yw gwella ymarfer a pherfformiadbusnesau bach a chanolig, cwmnïau mwy, a sefydliadau’rsector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r sefydliadau hyn yn defnyddio arferion gorau ar sailymchwil a astudiwyd gan uwch dimau. Mae’r manteisioni’r gweithle yn cynnwys mabwysiadu ffordd symlach ofeddwl, perfformiad sefydliadol gwell, effeithlonrwydd achost-effeithiolrwydd.

Mae FIFA, corff llywodraethu pêl-droed y byd wedicomisiynu dau o academyddion Ysgol ChwaraeonCaerdydd i gynnal astudiaeth 12 mis o ymatebchwaraewyr, rheolwyr a swyddogion i gaeau artiffisial.

Dyfarnwyd cyllid i Dr Ian Mitchell a’r Athro Gareth Irwinar gyfer ymchwilio i ffactorau seicolegol a nodweddionbiocemegol rhyngweithio â’r arwyneb.

Llwyddodd Canolfan Ymchwil Dylunio a DatblyguCynnyrch (PDR) Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ennillcomisiwn gan Befont Scientific Limited i ddatblygusystem esgor ocsid nitrus ar gyfer unedau newydd-anedig.

Gan fod hwn yn gynnyrch meddygol lle mae diogelwchyn dyngedfennol, roedd yn bwysig gofalu bod unrhywymwneud dynol mor effeithiol a greddfol â phosibl.

Manteisiodd tîm PDR ar ei waith ymchwil helaeth iGynllunio sy’n canolbwyntio ar Ddefnyddwyr ganddefnyddio prototeipiau meddalwedd a chaledweddcynnar i ddeall anghenion defnyddwyr.

Mae’r gwaith o gynllunio elfennau ffisegol ameddalwedd law yn llaw gan un tîm yn ymgorffori themaymchwil o fewn PDR, sy’n galw am strategaethaunewydd er mwyn i gynllunwyr allu datblygu cynhyrchionyn effeithiol mewn awyrgylch cyfoes o gynhyrchioncyfrifiadurol.

Mae’r Ganolfan Dysgu seiliedig ar Waith (CWBL) yndatblygu ac yn darparu cyrsiau ar ddatblygiadproffesiynol a chamu ymlaen yn eich gyrfa, i bobl syddeisoes mewn gwaith.

Mae’r cyrsiau yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd,ac yn helpu gweithwyr cyflogedig i gael graddau Sylfaenneu Feistr trwy astudio’n rhan-amser. Eleni, fe unodd yGanolfan ag Acorn Learning Limited er mwyn darparucwrs gradd Sylfaen mewn Ymarfer ProffesiynolCymhwysol, cwrs rhan-amser unigryw sy’n rhoi cyfle iddysgwyr astudio yn y gweithle.

‘Trwy gydweithio ag Acorn Learning, mae’n cyrsiau wedillwyddo i ddenu cynulleidfa tipyn ehangach’, meddai JenEvans, Swyddog Datblygu Hyfforddiant y Ganolfan.

Ymchwil a Menterffyniannus ac effeithiol

Cangen Santander Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Dathlu’r agoriad swyddogol gyda’r Athro Antony J Chapman, Is-Ganghellor a Phennaeth PrifysgolMetropolitan Caerdydd (canol) gyda Luis Juste, Cyfarwyddwr Santander Universities UK (pellaf ar y dde).

Page 7: Adolygiad Blynyddol 2012 - 13

Yn gryno

Yn 31ain Cynhadledd Cymdeithas RyngwladolBiomecaneg mewn Chwaraeon (Taiwan), enillodd yrAthro Emeritws David Kerwin Wobr Geoffrey Dyson(ei anrhydedd pennaf) a fe hefyd draddododd brif araithy gynhadledd.

Mae Outward Mobility yn ffynnu, diolch i ymgyrchhyrwyddo bwrpasol o raglenni astudio, felysgoloriaethau Santander ac Erasmus Mundus, ynogystal â chyfleoedd gwirfoddoli ac interniaeth. Yn2012/13, anfonwyd 189 o fyfyrwyr ac aelodau o staffPrifysgol Metropolitan Caerdydd i wledydd cyrchfan gangynnwys UDA, yr Almaen, yr Eidal, Iwerddon a Sweden.

Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ganGymdeithas y Prifysgolion Arabaidd (AArU) a’r SefydliadArweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch, DU (LFHE)mewn cinio arbennig dan law’r Athro Antony J Chapman,yr Is-Ganghellor.

Roedd Dr Sarah Waters, awdur o fri, Stephen Terry,cogydd Michelin, Nicole Cooke MBE a Barwn Jones oBirmingham Kt Digby Jones, ymhlith y rhai a gafoddGymrodoriaethau Anrhydeddus gan y Brifysgol eleni.

Cyrhaeddodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd restr fery Times Higher Education Awards 2012 yn ycategori Cyfraniad Eithriadol i Ddatblygu Cynaliadwy.

Fel rhan o raglen 5 mlynedd i fynd i’r afael â rheoli ynni,mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar y trywydd iawni arbed dros £1 filiwn o ran cyfleustodau. Rydym eisoeswedi llwyddo i arbed £330,000 trwy ddefnyddio 12 ycant yn llai o drydan, 5 y cant yn llai o nwy a 18 y cant ynllai o ddŵr dros y 3 blynedd diwethaf.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a’r Cardiff Devilswedi meithrin partneriaeth sy’n golygu bod dau serenhoci ia yn dilyn cwrs ôl-radd ar ein campws. Mae Phil Hillyn astudio MSc mewn Cryfder a Hyfforddi a Josh Batchyn dilyn cwrs BSc mewn Economeg.

Mae partneriaeth ar waith rhwng PrifysgolMetropolitan Caerdydd a CTI Education Group De Affrica ar hyn o bryd. Darparwr addysg uwch preifat,wedi’i gofrestru’n llawn, â statws gradd yw’r CTIEduction Group. Mae gan y grŵp 12 campws ledled DeAffrica, sy’n cynnig cyrsiau llawn amser a rhan-amser ymmaes technoleg gwybodaeth, masnach, y celfyddydaucreadigol a chyfathrebu, seicoleg a chwnsela a’r gyfraith.

Anthony Browne (uchod), awdur plant o fri a chyn-Lawryfog Plant y DU, oedd gwestai anrhydeddus

‘cynhadledd Athroniaeth i Blant’ Prifysgol MetropolitanCaerdydd. Bu’n arwain grŵp o siaradwyr blaenllaw addaeth ynghyd i drafod sut y gellir defnyddio llyfrau astraeon â lluniau i ddatblygu meddyliau plant, ganannerch cynulleidfa o athrawon ac athrawon danhyfforddiant.

Mae Jordan Van Flute, sydd â gradd Seicoleg o YsgolGwyddorau Iechyd Caerdydd, wedi torri tir newyddgyda thechnegau efelychu llawdriniaeth twll clo.Cyflwynodd Jordan y ‘Pyxus HD Laproscopic Simulator’yng Nghynhadledd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ganbwysleisio pwysigrwydd techneg efelychu llawdriniaethtwll clo realistig ym maes gofal iechyd.

Mae Ysgol Addysg Caerdydd, Prifysgol MetropolitanCaerdydd, wedi cynnal cynhadledd bwysig sy’nhyrwyddo prifysgolion sy’n cydweithio â chymunedaulleol er mwyn adfywio, creu gwaith a hyrwyddocydraddoldeb yn y DU. Roedd digwyddiad ‘BuildingBridges: Community - University Partnerships forSocial Justice’, yn cyflwyno arferion gorau wrthddatblygu partneriaethau cynaliadwy rhwng prifysgoliona chymunedau ledled Caerdydd, y De-ddwyrain acymhellach.

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (CSAD) wediparhau i weithio mewn partneriaeth ag elusen ‘Mothersof Africa’ sydd â’r nod o sicrhau bod mamolaeth yn fwydiogel yng ngwledydd Affrica. Roedd Clara Watkins,myfyrwraig PhD yr Ysgol Gelf a Dylunio, yn rhan o dîm oBrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydda fu’n cydweithio er mwyn datblygu cynhyrchion a fyddyn helpu i sicrhau genedigaethau mwy diogel; fel rhan owaith parhaus CSAD gyda’r elusen a’r Ysgol Feddygaeth.

Mae Anna Mayes wedi’i secondio o’i swydd feldarlithydd yn Ysgol Chwaraeon Prifysgol MetropolitanCaerdydd i hyfforddi tîm pêl-rwyd merched Lloegrtan Bencampwriaethau’r Byd yn 2015.

Page 8: Adolygiad Blynyddol 2012 - 13

Ôl-raddedig a addysgir 5418 (34.9%)

Ymchwil 745 (4.8%)

Israddedigion 9370 (60.3%)

Prifysgol orau’r DU mewnarolwg o fodlonrwyddmyfyrwyr tramor, am

4 blynedd yn olynol

cardiffmet.ac.ukRhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YB Ffôn: +44 (0)29 2041 6070 Ffacs: +44 (0)29 2041 6286

Mae’r cyhoeddiad hwn yn un carbon cytbwys Ailgylchwch ar ôl darllen.

Cartref/UE 10665 (69%)

Pêl-droed merched BUCS Premier South League - Enillwyr

BUCS Championship - Aur

Criced merched BUCS Indoor League - Enillwyr

BUCS Indoor and Outdoor Championship - Aur

Pêl-rwydBUCS Premier South League - Enillwyr

BUCS Championship - Aur

Pêl-fasged merchedBUCS Premier South League - EnillwyrBUCS Championship Silver - Arian

Rygbi dynion BUCS Premier South League - EnillwyrBUCS Championship - Arian

Rygbi merchedBUCS Premier South League - EnillwyrBUCS Championship - Arian

Myfyrwyr o dramor yn y DU:

4868 (31%)*

Yn cynnwys myfyrwyr o Ysgol FasnachLlundain, coleg cyswllt PrifysgolMetropolitan Caerdydd

Cyfanswm y myfyrwyr

15533

Addysg drawswladol (TNE)

2457 o fyfyrwyr

Mae gwledydd TNE yn cynnwys:

BangladeshBwlgariaYr AifftGwlad GroegIndiaCoreaLibanus

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS)*

85% yn fodlon ar y cyfan*Y brifysgol ‘newydd’ yng Nghymru

sydd yn y safle uchaf

Timau Chwaraeon - y 6 uchaf 2012-13

Arolwg cyrchfannau’r rhai sy’n gadael addysg uwch

Cyfradd cyflogadwyedd o 95% o Brifysgol Metropolitan Caerdydd

2010 - 11Arian ar ddiwedd

y flwyddyn£23m

2011 - 12Arian ar ddiwedd

y flwyddyn£32m

2012 - 13Arian ar ddiwedd

y flwyddyn£28m

Gwarged

£6.5m

Gwarged

£5.1m

Gwarged

£1.8m

*

BUCS

Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau

Prydain

MalaysiaMorocoSerbiaSinagaporeDe AffricaSri Lanka