12
Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Hywel Dda Health Board is the operational name of Hywel Dda Local Health Board

Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg

2012/13

Hywel Dda Health Board is the operational name of Hywel Dda Local Health Board

Page 2: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 2 ����

Page left blank intentionally

for double sided printing

Page 3: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 3 ����

Cyflwyniad

Yma ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda rydym wedi mabwysiadu’r egwyddor y byddwn yn trin yr Iaith Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru a dylai cleifion, fel mater o arfer da, dderbyn gwasanaeth yn eu dewis iaith. Bob blwyddyn rydym yn monitro’n cynnydd yn erbyn y gofynion sydd wedi’u gosod yn ein Cynllun Iaith Gymraeg ac mae’r crynodeb hwn o’n Adroddiad Monitro Cynllun Iaith Gymraeg 2012/13 yn adlewyrchu’n cynnydd, gan gynnwys arferion da a meysydd i’w datblygu. Mae fersiwn llawn yr Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Iaith Gymraeg ar gael yma http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/47485

Cefndir

Hywel Dda Health Board is the provider of all healthcare services in Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire and we are committed to improving the health and general wellbeing of our community. Therefore, it is imperative that we mainstream the Welsh language in every aspect of our service commissioning and delivery. We have an ambitious and challenging agenda, and we are committed to the following principles to:

• treat the English and Welsh languages on a basis of equality and for this to be reflected in the way we conduct our corporate duties

• enable everyone who receives or uses our services to do so through the medium of Welsh or English, according to personal choice

• encourage others to use and promote the Welsh language in the health sector

Page 4: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 4 ����

10 Targed a Dangosydd Iaith Gymraeg

The health board’s Welsh Language Scheme has ten targets and Welsh language indicators that we report on annually to the Welsh Language Commissioner and Welsh Government. Following last year’s performance report, good progress has been made. We are confident that plans and processes are now in place to ensure that progress can be monitored and recorded fully on all targets and indicators. Details of progress against each target are contained later in this review and we are pleased to report a number of all-Wales ‘firsts’ in 2012-13.

Strategaeth Sgiliau Dwyieithog Eleni, Hywel Dda yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i lunio dogfen Strategaeth Sgiliau Dwyieithog i sicrhau y bydd gan y Bwrdd Iechyd ddigon o staff â sgiliau iaith priodol i ddarparu gwasanaeth gofal iechyd i’r cyhoedd yn ddwyieithog.

Drwy werthuso cymysgedd iaith y tîm, meini prawf y swydd a gofynion

Uchafbwyntiau Allweddol

Targed 1: Lluniwyd 62 polisi newydd ac aseswyd effaith ieithyddol 62 polisi (100%).

Targed 2: Cafodd contractau caffael, contractau Iechyd Meddwl y Trydydd Sector a chontractau Meddygon Teulu, Deintyddion a Fferyllfeydd eu monitro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

Targed 3: Hysbysebwyd bod y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un (0.1%) swydd ym maes gwasanaethau derbynfa, cleifion allanol, cofnodion meddygol a thelathrebu.

Targed 4: Paratowyd un cynllun gwella a’i roi ar waith yn llwyr, a pharatowyd un cynllun gwella a gaiff ei roi ar waith gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg yn 2013/14. Targed 5: Hysbysebwyd tair swydd lle’r oedd y Gymraeg yn hanfodol. Bwriwyd ymlaen i recriwtio i ddwy swydd a llenwyd 100% ohonynt gan siaradwyr Cymraeg. Targed 6: Dychwelwyd 3,322 o archwiliadau sgiliau (Mawrth 2013). Roedd gan 34% rywfaint o hyfedredd yn y Gymraeg ar lefelau 3-5 (Cymedrol-Hyfedr) Targed 7: Mae 85 (0.9%) aelod staff wedi cael Hyfforddiant Iaith Gymraeg. Targed 8: Bu i’r Bwrdd Iechyd recriwtio 523 aelod staff newydd, a chafodd 100% ohonynt sesiwn Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Targed 9: Daeth tair cwyn i law ynghylch darpariaeth Gymraeg a bu i ni ymdrin â 100% ohonynt yn unol â safonau’r sefydliad. Targed 10: Gwefan Hywel Dda: cofnodwyd 3963 o drawiadau ar y wefan Gymraeg. Mae hyn yn gyfwerth â 4.83% o’r holl drawiadau.

Page 5: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 5 ����

ieithyddol y boblogaeth sy’n cael ei gwasanaethu ganddo, bydd modd i reolwyr wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch yr angen i gynnig hyfforddiant sgiliau iaith neu i recriwtio sgiliau Cymraeg pan fydd swyddi newydd yn cael eu creu neu pan fydd swyddi’n dod yn wag.

Yn sgil ymarfer ymgynghori, lansiwyd y ddogfen yn swyddogol ym mis Mawrth. Mae Tîm y Gymraeg a’r Gweithlu wrthi’n llunio Cynlluniau Gweithredu’r Arweinwyr Gwasanaeth i roi gofynion y Strategaeth ar waith, a bydd yn treialu’r rhain yn yr Adrannau Cofnodion Meddygol, Telathrebu a Chleifion Allanol dros yr wythnosau nesaf.

Enwyd proses y Strategaeth Sgiliau Dwyieithog ar restr fer Gwobrau Rhagoriaeth mewn Rheoli Adnoddau Dynol 2013 y Gymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd.

E-Rota Hywel Dda yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio system e-rota i gasglu gwybodaeth am sgiliau Cymraeg.

System rota electronig yw’r system e-rota, ac mae modd iddi gasglu gwybodaeth am set sgiliau hanfodol. Gall Prif Nyrsys / Rheolwyr Wardiau ddefnyddio’r wybodaeth hon i greu rotas effeithiol ar wardiau.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi caffael ychwanegiad i’r rhaglen hon i alluogi prif nyrsys a rheolwyr wardiau i weld y staff hynny ar y rota sy’n siarad Cymraeg. Bydd hyn yn cyfrannu at sicrhau bod gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ddigon o siaradwyr Cymraeg yn ystod pob sifft ar ward, a bydd yn sicrhau ei bod yn rhwydd adnabod staff sy’n siarad Cymraeg. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y system a’r System ESR (Cofnod Staff Electronig), sy’n casglu gwybodaeth am lefelau sgiliau Cymraeg y staff erbyn hyn.

Rwy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd wrth fy ngwaith – mae tri ohonom yn gweithio yn yr adran cleifion allanol ac mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf i’r tri ohonom. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod yr holl gleifion yn gyfforddus pan fyddant yn dod i’w hapwyntiadau a sicrhau bod modd iddynt gyfathrebu yn eu hiaith ofynnol – mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl oedrannus, pobl anabl a phlant. Mae ein gwisgoedd yn dangos ein bod yn gallu siarad Cymraeg. Rydym yn rhoi sticeri ar nodiadau’r cleifion i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg. Mae’r system hon yn sicrhau bod staff mewn gwahanol adrannau mewn ysbytai perthnasol yn gwybod mai Cymraeg yw eu hiaith gyntaf. Mae’r ymgynghorwyr yn deall beth yw diben y sticeri ac mae nifer ohonynt yn gallu cyfathrebu â’r cleifion drwy ddweud “Bore da, Prynhawn Da ac ati” erbyn hyn ac mae’r cleifion yn falch o gael eu cyfarch yn y modd hwn. Mae’n hollbwysig fod pob unigolyn sy’n dod i’r adran yn cael cyfle i siarad Cymraeg.

Nia Thomas Cydgysylltydd Cleifion Allanol, Ysbyty Aberteifi

Page 6: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 6 ����

Ymgynghoriad – y Cynllun Ymgysylltu a Dwyieithrwydd Yn fwyaf arwyddocaol, ym mis Rhagfyr 2011, Bwrdd Iechyd Hywel Dda oedd y Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i lansio cyfnod ymgysylltu cynhwysfawr cyfan gwbl ddwyieithog â’r cyhoedd ynghylch y ffordd y caiff gwasanaethau’u darparu yn y dyfodol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad, ‘Eich Iechyd, Eich Dyfodol – ymgynghori â’n cymunedau’, rhwng mis Awst a mis Hydref 2012. Yn ystod yr ymgynghoriad, rhoddwyd nifer o wahanol gyfleoedd i randdeiliaid, staff, cleifion a’r cyhoedd gymryd rhan a rhannu’u safbwyntiau, ac aethpwyd ati i annog y cyfranogwyr i gyfathrebu yn eu dewis iaith.

Cyfryngau Cymdeithasol Dwyieithog Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn adnodd sy’n cael ei ddefnyddio bob dydd yn y Bwrdd Iechyd. Mae tîm cyfathrebu a thîm cyfieithu’r Bwrdd Iechyd yn cydweithio i sicrhau bod y ddwy wefan cyfryngau cymdeithasol ar gael i’w defnyddio’n ddwyieithog. Mae’r ymgyrch barhaus, Dydd Mercher Iach, ac ymgyrch 12 Diwrnod Iach y Nadolig yn enghreifftiau llwyddiannus o’r modd y mae’r Bwrdd Iechyd wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol dwyieithog fel rhan o’i ymgyrchoedd. Yn ystod ymgynghoriad ‘Eich Iechyd, Eich Dyfodol’, bu’r Bwrdd Iechyd yn trydar ‘mewn amser real’ am y tro cyntaf ac roedd modd i’r dilynwyr ofyn cwestiwn i’r Bwrdd Iechyd a sgwrsio ag ef yn eu dewis iaith.

Pecyn e-Ddysgu Newydd Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae’n anodd rhyddhau staff ar gyfer unrhyw hyfforddiant. Yn ddiweddar, mae’r Bwrdd Iechyd, gan ddefnyddio arian Bwrdd yr Iaith Gymraeg gynt, wedi lansio pecyn e-ddysgu newydd sydd ar gael i holl staff y Bwrdd Iechyd. Mae’r rhaglen hyfforddi’n cynnwys adran labordy iaith i helpu i feithrin neu i wella sgiliau iaith Gymraeg. Mae adran ymwybyddiaeth iaith ar gael sy’n cynnwys pecyn adnoddau asesu i helpu i gynllunio ac i ddatblygu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg; ac mae’n rhoi canllawiau am y Cynllun Iaith Gymraeg a dyletswydd statudol y Bwrdd Iechyd.

Page 7: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 7 ����

Grŵp y Gymraeg a Gofal Sylfaenol Ym mis Hydref 2012, sefydlwyd Grŵp y Gymraeg a Gofal Sylfaenol a’i brif nod yw annog a chynorthwyo darparwyr gofal sylfaenol i ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Er bod y grŵp newydd gael ei ffurfio, cafwyd canlyniadau cadarnhaol eisoes, gan gynnwys rhoi’r Gymraeg fel eitem ar agenda’r Pwyllgor Meddygol Lleol, y Pwyllgor Deintyddol Lleol a Fferylliaeth Gymunedol Cymru; cyhoeddi erthyglau am ofynion y cynllun iaith Gymraeg yn eu cylchlythyron; yn ogystal â dosbarthu archwiliadau hunanasesu i gasglu gwybodaeth am y ddarpariaeth Gymraeg ar hyn o bryd.

Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd Gŵyl Ddewi. Mae’r porth yn cynnwys llu o adnoddau Cymraeg i annog ac i hybu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Yn eu plith mae dolenni at adnoddau addysgu Cymraeg, cronfa ddata o arwyddion dwyieithog, rhestr o’r sefydliadau sy’n bartneriaid, canllawiau a manylion cyswllt Tîm yr Iaith Gymraeg. Mae dolen at y dudalen adnoddau Cymraeg ar gael ar Hafan Mewnrwyd y Staff, ochr yn ochr ag ymadrodd Cymraeg yr wythnos.

Mae llawer o bobl hŷn Ceredigion yn siarad Cymraeg fel mamiaith. Rwy’n ffodus o gael gweithio gyda phobl sy’n ymrafael â dementia. Wrth i’r cyflwr torcalonnus ennill ei blwyf, doeddwn i ddim am ychwanegu at bryderon y

cleifion drwy ddisgwyl iddynt fynegi’u hunain mewn unrhyw iaith ac eithrio’u mamiaith. Am y rheswm hwnnw, penderfynais fynd ati i ddysgu Cymraeg gyda chymorth Bwrdd Iechyd Hywel Dda a chefnogaeth fy rheolwr. Nid yw’n rhwydd. Mae’n cymryd cryn amser a llawer o ymrwymiad, ond mae’r buddion galwedigaethol a phersonol yn fawr. Dysgwch Gymraeg ac agorwch y drws ar fyd newydd!

Nick Rusbatch Nyrs Staff, Ward Enlli, Ysbyty Bronglais

Page 8: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 8 ����

Further Examples of Good Practice Further Examples of Good Practice

Clinig Cof Ysbyty Bronglais Mae ymwybyddiaeth gref o anghenion siaradwyr Cymraeg yn y gwasanaeth hwn. Mae nyrs a seicolegydd y clinig cof yn ddwyieithog ac maen nhw wedi datblygu darpariaeth arbenigol i siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys strategaethau cof a therapïau seicolegol, ac maen nhw’n darparu asesiadau iaith Gymraeg os oes angen. Yn y tîm, ceir trafodaeth gyson rhwng staff am anghenion iaith Gymraeg y cleifion – gan gynnwys cleientiaid a’u teuluoedd lle bo angen. Mae hyn wedi arwain at newidiadau penodol o ran cynllunio gofal. Mae’r Seicolegydd yn cymryd rhan mewn Prosiect Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor sy’n pwyso a mesur natur Dementia ymhlith siaradwyr Cymraeg. Maen nhw eisoes wedi nodi nad yw siaradwyr Cymraeg-Saesneg dwyieithog yn perfformio cystal â siaradwyr uniaith Saesneg o ran elfennau rhuglder llafar ffonemig a semantig y prawf COWAT pan fyddant yn siarad yn Saesneg a phan fyddant yn siarad yn Gymraeg. Mae hyn yn awgrymu bod angen gofal wrth ddehongli canlyniadau rhuglder unigolion dwyieithog a bod angen ymchwilio ymhellach i natur dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg a’i effaith o safbwynt niwroseicolegol.

Prosiect ERAS, Ward Orthopedeg, Ysbyty’r Tywysog Philip Mae’r tîm wedi mynd tu hwnt i’r hyn sy’n arferol i sicrhau bod cleifion sy’n agored i niwed yn cael y gofal iechyd y mae ei angen arnynt yn eu dewis iaith. Mae’r gwasanaeth yn darparu gofal cyn ac ar ôl llawdriniaeth i’r rheini y mae angen iddynt gael llawdriniaeth i gael pen-glin neu glun newydd yn bennaf, ond mae hefyd yn darparu ymyriadau orthopedig eraill. Ar gyfer y math o hwn o lawdriniaeth, mae angen i’r cleifion ddeall a chydweithredu’n llwyr, a rhaid iddynt fod yn barod yn gorfforol ac yn feddyliol i gyflawni’r ymarferion egnïol y mae eu hangen ar ôl y llawdriniaeth er mwyn iddi fod yn llwyddiant. Rhaid iddynt hefyd ddeall yn llwyr y rhagofalon y gall fod angen iddynt eu dilyn. Yn ogystal â chofnodi dewis iaith yn ystod yr asesiad cychwynnol a pharu cleifion ag ymarferwyr sy’n siarad Cymraeg, maen nhw hefyd wedi llunio llyfryn dwyieithog a phosteri wal lliwgar sy’n rhoi’r holl wybodaeth berthnasol y mae ei hangen ar y cleifion i sicrhau eu bod yn elwa i’r eithaf ar y llawdriniaeth ac yn gwella ar ei hôl. Mae’r staff wedi sylweddoli bod rhaid iddynt ddarparu rhaglen ofal sy’n canolbwyntio ar y claf i sicrhau’r canlyniadau gorau posib, ac mae hyn yn cynnwys siarad â’r cleifion yn eu dewis iaith. Ar gyfartaledd, mae 70% o’r cleifion sy’n cael gofal gan y tîm hwn yn siarad Cymraeg. Weithiau, gall hyn fod yn angenrheidiol o safbwynt clinigol, gan fod angen i’r cleifion ddeall beth sy’n digwydd iddynt a beth fydd yn digwydd iddynt er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus.

Page 9: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 9 ����

Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Aberteifi Ar gyfartaledd, mae 46% o’r cleifion sy’n mynd i Ysbyty Aberteifi yn siarad Cymraeg. Mae llawer ohonynt yn oedrannus, yn fregus ac yn agored i niwed. Mae’r nyrs staff wedi helpu i sicrhau bod cleifion yn cael gwasanaeth dwyieithog ac mae wedi helpu i gofnodi’u dewis iaith yn ffurfiol drwy roi sticeri ar eu nodiadau. Wrth i’r nodiadau hyn gyrraedd yr adran dderbyniadau, mae’n helpu staff i wybod cyn i’r cleifion gyrraedd eu bod am siarad Cymraeg. Gellir sicrhau bod aelod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i’w cyfarch, gan wneud iddynt deimlo’n gysurus mewn amgylchiadau sy’n gallu bod yn anghyfarwydd.

Gwirfoddoli dros Iechyd Mae’r prosiect Gwirfoddoli dros Iechyd ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda’n arddangos arferion da o ran prif ffrydio’r Gymraeg.

Cychwynnodd y prosiect yn 2010 ac mae wedi mabwysiadu hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog ers ei sefydlu. Mae’r holl gyhoeddiadau a’r deunyddiau hyrwyddo ar gael yn ddwyieithog, gan gynnwys y ffurflen gais a thudalennau penodol ar y wefan. O dan y cynllun hwn, mae’r gwirfoddolwyr yn helpu cleifion sy’n agored i niwed â thasgau beunyddiol sylfaenol tra’u bod yn yr ysbyty.

Mae’r cleifion wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cynllun. Gall mynd i’r ysbyty fod yn gyfnod straenus ac unig, ond o gael rhywun i siarad ag ef neu rywun i helpu â thasgau syml, gall wneud byd o wahaniaeth.

Mae’r tîm Gwirfoddoli dros Iechyd wedi sylweddoli bod cael gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg yn bwysig i lwyddiant y cynllun, yn enwedig ar wardiau lle mae nifer fawr o siaradwyr Cymraeg ar gael. Hyd yma, mae 67 o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg wrthi’n gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd.

Gan weithio gyda chyflenwyr allanol, caiff y wybodaeth a ddarperir i gleifion ERAS ei pharatoi’n ddwyieithog erbyn hyn. Mae darparu gwybodaeth yn Gymraeg yn bwysig i’n poblogaeth. Yn yr amgylchedd gofal iechyd, rydym yn sylwi bod claf yn ymlacio ar unwaith pan fydd aelod staff yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn

cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar y claf, ond hefyd ar y staff sy’n gwerthfawrogi’r cyfle hwn i ddefnyddio’u hiaith gyntaf yn y gweithle. Mae mantais arall i hyn hefyd; mae staff sy’n siarad Cymraeg yn cymell eu cydweithwyr i ddysgu’r iaith hefyd. Mae rhai o’n staff yn rhannu ymadroddion Cymraeg allweddol â siaradwyr Saesneg a’u helpu i ddefnyddio’r ymadroddion hyn gyda’r cleifion. Yn ddiweddar, tynnodd aelod o Ymddiriedolaeth y Tywysog sylw at y ffaith fod modd iddo sgwrsio yn Gymraeg yn ystod cyfnod profiad gwaith. Rhoddodd hyn hwb i’w hyder wrth ymdrin â chleifion a chyfrannu at waith y ward. Sylwodd hefyd fod cleifion yn gallu egluro’u gofynion deietegol yn llawer mwy eglur drwy ddefnyddio’r Gymraeg.

Linda Williams Cyfarwyddwr Sir Gaerfyrddin

Page 10: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 10 ����

Erbyn hyn, mae’r holl wirfoddolwyr yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia, gan gynnwys y Cynllun Pili Pala, ar eu diwrnod cynefino cychwynnol. Menter i helpu cleifion sy’n dioddef dementia yw’r Cynllun Pili Pala, ac mae’n rhannu gwybodaeth amdanynt, gan gynnwys eu gofynion ieithyddol. Hwn yw’r prif destun pryder i wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo cleifion iechyd meddwl. Bellach, mae gan Gwirfoddoli dros Iechyd grŵp arbennig o wirfoddolwyr o’r enw’r ‘Garfan Wib’, sy’n gallu ymateb i geisiadau am gymorth gwirfoddolwyr ar fyr rybudd – mae dau siaradwr Cymraeg ar gael hyd yma. Ceisiadau am gymorth gyda chleifion dryslyd/dementia ym mhob rhan o Fronglais yw’r rhain yn bennaf. Bu modd i’r Tîm Gwirfoddoli baru gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg â chleifion sy’n siarad Cymraeg, sy’n golygu bod y cleifion yn llawer hapusach a’u bod yn ymlacio mwy o gael siarad eu mamiaith.

Siarad Iechyd Cynllun ymwneud ac ymgysylltu dwyieithog y Bwrdd Iechyd yw Siarad Iechyd. Mae’n darparu dull cadarn i ymgysylltu’n barhaus â chleifion, dinasyddion, rhanddeiliaid a staff.

Estynnir gwahoddiad i unrhyw un a hoffai gymryd rhan ymuno â’r cynllun drwy lenwi ffurflen gais (yn electronig neu ar bapur) yn eu dewis iaith. Mae’r ffurflen yn gofyn am fanylion cyswllt, lefel yr ymwneud, a pha wasanaethau iechyd sydd o ddiddordeb i’r ymgeisydd.

Mae aelodau sy’n ymuno â Siarad Iechyd yn cael pecyn croeso dwyieithog. Mae cylchlythyron dwyieithog rheolaidd ar gael i’r holl aelodau ac fe’u cynigir ar bapur neu ar ffurf electronig. Caiff y wefan ei diweddaru’n rheolaidd ac mae’n gyfan gwbl ddwyieithog.

Gall dros 30% o aelodau Siarad Iechyd (250 aelod) sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfathrebu Cyflawn (Gwasanaeth Anableddau Dysgu) Dewiswyd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru eleni (2013). Dewiswyd prosiect y Bwrdd Iechyd i wella cyfarwyddiadau ac arwyddion i gleifion yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar gyfer y wobr Dinasyddion wrth Wraidd Ailgynllunio a Darparu Gwasanaethau. Bu’r prosiect, a gyflawnwyd yn 2012, yn ymgysylltu ag oedolion ag anableddau dysgu, staff, y cyngor iechyd cymuned lleol a chleifion i ddod o hyd i ddull newydd o helpu cleifion, yn enwedig y rheini ag anableddau dysgu, i gael hyd i’w ffordd o amgylch yr ysbyty.

Page 11: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 11 ����

Mae’r cynllun yn defnyddio symbolau (darluniau llinell), parthau lliw a ffont bras yn Gymraeg ac yn Saesneg i alluogi pobl â sgiliau llythrennedd gwael i gael hyd i’w ffordd i’r gwahanol adrannau a gwasanaethau.

Mae grŵp o bobl ag anableddau dysgu, gyda chymorth y gwasanaeth therapi lleferydd ac iaith, wedi archwilio’r arwyddion ac maen nhw wedi rhoi adroddiadau cadarnhaol am y datblygiadau.

Eleni, mae’r Gwasanaeth Anableddau Dysgu wedi datblygu Gwefan Cyfathrebu Cyflawn sy’n rhwydd i’w defnyddio. Mae’n cynnwys deunydd sain a fideo yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cymerodd defnyddwyr gwasanaethau ran yn y gwaith o ddylunio’r wefan a darparu sain ar ei chyfer. Mae’r wefan yn cynnwys taflenni gwybodaeth am nifer o wahanol bynciau sy’n berthnasol i bobl ag anableddau dysgu. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys nifer o fwydlenni dwyieithog a ddefnyddir mewn caffis lleol ac mae defnyddwyr gwasanaethau wedi helpu i’w datblygu. Y gobaith yw y bydd y wefan yn galluogi ystod eang o ddefnyddwyr gwasanaethau i fynd i’r wefan a’i defnyddio’n fwy hwylus, gyda rhai o’r defnyddwyr gwasanaethau’n defnyddio’r wefan yn annibynnol. Mae’r wefan ar gael yn www.totalcommunication.uk.com Rydym yn hyderus y bydd yn cyflawni’i ymrwymiadau i’r cyhoedd drwy roi’r Cynllun Iaith Gymraeg ar waith dros y flwyddyn sy’n weddill o’r Cynllun. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi parhau i ymdrechu i feithrin ymdeimlad o berchenogaeth o’r Cynllun Iaith Gymraeg, a chyfrifoldeb amdano, ymhlith ei weithlu.

Mae ein Swyddogion Iaith Gymraeg yn parhau â’u hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o’r iaith yn y gwasanaethau hynny sy’n ymwneud â’r pedwar grŵp sy’n agored i niwed, ac i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog. Bydd gwaith yn parhau ar y cyd â Thîm y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol i gwblhau’r Strategaeth Sgiliau Dwyieithog a’i rhoi ar waith, i sicrhau bod gan Hywel Dda ddigon o siaradwyr Cymraeg i ddarparu gwasanaethau i’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg. Bydd gwaith hefyd yn parhau i roi cynlluniau gwella ar waith o fewn strwythurau’r Siroedd, gan gydweithio’n agos â’r Hyrwyddwyr Sirol. Nodwyd camau pellach i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn parhau i wneud cynnydd o ran cyflawni’r 10 Dangosydd Perfformiad Allweddol, ac fe’u cofnodwyd ym mhrif gorff yr adroddiad hwn o dan bob targed fel camau allweddol ar gyfer 2013/14.

Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r berthynas waith â Chomisiynydd y Gymraeg ac at ddysgu rhagor am y safonau statudol a fydd yn disodli’r Cynlluniau Iaith Gymraeg.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i gydweithio â’i bartneriaid allweddol a’i randdeiliaid i roi’r Cynllun Iaith Gymraeg ar waith, ac annog defnydd o’r Gymraeg ar draws y ddarpariaeth gofal iechyd yn Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Y CAMAU NESAF A’R CYNLLUN GWELLA

Page 12: Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13...Porth Adnoddau Cymraeg Ar-lein ar Fewnrwyd y Staff Lansiodd y Bwrdd Iechyd borth adnoddau ar-lein i staff yn ystod yr wythnos cyn Dydd

Annual Plan Summary 2013

� Adolygiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 Tudalen 12 ����

Mae pwyntiau gweithredu ar gyfer 2013/14 wedi cael eu hadnabod trwy gydol Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2012/13 o dan bob Dangosydd a Tharged Iaith Gymraeg. Isod rhestrir rhai o’r pwyntiau gweithredu allweddol: • Adolygu Polisi Systemau Rheoli Ysgrifenedig , gan gynnwys system gref i

ymgynghori â rhanddeiliaid sydd â diddordeb • Dadansoddi data arolygon gofal sylfaenol a chynhyrchu adroddiadau ag

argymhellion • Peilota a gweithredu Cynllun Gweithredu Rheolwr / Gwasanaeth y

Strategaeth Sgiliau Dwyieithog • Mae diffygion o ran sgiliau Iaith Gymraeg wedi cael eu hadnabod, bydd y

rhain yn cael eu lleihau trwy gyfuniad o recriwtio, gweithio’n greadigol neu hyfforddiant

• Amlygu pwysigrwydd cwblhau’r adran dewis iaith gyda hyfforddwyr system Myrddin

• Tîm y Gweithlu i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad wrth ddatblygu Cynlluniau Gweithredu i Reolwyr / Arweinwyr Gwasanaeth

• Lansio’r eicon iaith Gymraeg ar y system e-rota er mwyn galluogi Prif Nyrsys wardiau i weld pa staff sydd yn gallu siarad Cymraeg ar bob sifft

• Parhau i gynnal sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg i staff presennol ac yn ystod sesiynau cynefino corfforaethol

• Adolygu’r Rhaglen Hyfforddiant Iaith Gymraeg, ac yn ddibynnol ar gyllid, cyflenwi cyrsiau byr wedi’u teilwra

• Cynnal y system sydd eisoes yn bodoli rhwng y Swyddogion Iaith Gymraeg a’r Gwasanaeth Cefnogi Cleifion

• Cynyddu’r nifer o bobl sy’n cyflawni’r pecyn hyfforddiant iaith Gymraeg fel bod y rhai hynny sydd yn gweithio mewn cyswllt uniongyrchol â’r cyhoedd yn meddu ar sgiliau cwrteisi sylfaenol yn y Gymraeg