Upload
sian-stacey
View
221
Download
1
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Adolygiad Blynyddol 2013 y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru
Citation preview
02 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
Fel Noddwr y Gronfa i Gymru, rwyf wrth fy modd gyda chynnydd yr ymgyrch arloesol hon sy’n meithrin cymuned o roddwyr i gefnogi cronfa waddol genedlaethol unigryw.
Gall pob un ohonom werthfawrogi grym cymunedau i feithrin cydnerthedd ac i greu atebion lleol ar gyfer anghenion lleol. Mae gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru nod cyffredinol o hybu dyngarwch ac annog rhoddi elusennol yng Nghymru, ac i mewn i Gymru, er lles grwpiau gwirfoddol ac elusennau llai.
Un diffiniad o’r gair ‘dyngarwch’ yw cariad at ddynolryw. Gellir dangos hyn mewn sawl ffordd, bydded hynny trwy roddi ein sgiliau a’n harbenigedd, neu drwy roddion elusennol. Mae gwaith Cronfa i Gymru yn dangos yr effaith tymor-hir mae eich rhoddion yn eu cael ac yn cadarnhau’r ffaith y medrwn, gyda’n gilydd, wneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru.
Anfonaf fy niolchiadau gwresog i bawb sy’n cefnogi gwaith y Sefydliad a fy nymuniadau gorau ar gyfer ei lwyddiant yn y dyfodol. Diolch o galon ichi am eich cefnogaeth.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 03
BETH A WNAWN1. Pwy ydym ni2. Effaith dyngarwch ar y gymuned3. Cysylltu pobl sy’n poeni ag achosion
sy’n bwysig4. Dyngarwch strategol ar waith5. Hanfod dyngarwch6. Ein deiliaid Cronfa, cleientiaid a rhoddwyr7. Ein cyllid8. Ein Cronfa i Gymru
Elusen Gofrestredig 1074655Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 03670680
Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyflawni ein diben o hyrwyddo a rheoli dyngarwch gwerth £2 filiwn eleni - y cyfanswm mwyaf o grantiau cymunedol a ddyrannwyd gennym erioed, sy’n dangos ein rôl yn cysylltu pobl sy’n poeni ag achosion sy’n bwysig.
Fel busnes elusennol, rydym yn darparu tri gwasanaeth craidd i’n deiliaid Cronfa, rhoddwyr a chleientiaid: cyngor dyngarol, cymorth rheoli rhaglen grant, a buddsoddiad (yn nhermau cyfalaf cymdeithasol a stiwardio buddsoddiadau a ddenwyd er mwyn sicrhau’r elw mwyaf ar gyfer dyfarnu grantiau). Rydym yn elusen unigryw yng Nghymru, a chawn fudd o fod yn ddiduedd ac yn annibynnol. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth am anghenion a’r sector elusennol i reoli rhaglenni effaith uchel a gynlluniwyd i gyflawni canlyniadau cynaliadwy, gan ddyfarnu grantiau sy’n galluogi pobl leol i wneud newidiadau ysbrydoledig yn eu cymunedau.
Nodir uchafbwyntiau ein gwaith drwy’r Adolygiad Blynyddol hwn - bu’n flwyddyn brysur iawn! Buddsoddwyd £285,000 ar gyfer newid sylweddol mewn busnesau cymdeithasol drwy raglen Gwobrau Datblygu Menter Gymdeithasol Santander; cynhaliwyd sawl prosiect ymchwil i gleientiaid newydd; dathlwyd effaith ein
1. PWY YDYM NI
LIZA KELLETTPRIF WEITHREDWR
JANET LEWIS-JONES CADEIRYDD
rhaglen grantiau strategol ddeng mlynedd, yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg, a fuddsoddodd £3.3 miliwn mewn pum ardal yng Nghymru www.fairsharetrust.org; trefnwyd Wythnos Dyngarwch Cymru, sef cyfres o wyth digwyddiad ledled y wlad i ddathlu, hyrwyddo ac archwilio dyngarwch, gan ddyfarnu’r Gwobrau Dyngarwch cyntaf yng Nghymru a lansio ein gwefan newydd www.philanthropywales.org.uk; a sicrhawyd gwerth £1 filiwn o arian cyfatebol gan y Gronfa Loteri Fawr ar gyfer ein hymgyrch newydd, Cronfa i Gymru. Nod y grant yw annog dyngarwch, gan annog pobl i roi elusennau yng Nghymru, ac i mewn iddi, drwy ein Cronfa unigryw i Gymru www.fundforwales.org.uk.
Ar ran y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, hoffwn ddiolch i’n deiliaid Cronfa ac i’n rhoddwyr, ein gwirfoddolwyr, a’n buddiolwyr am eu hymrwymiad i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 03
04 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
GWELEDIGAETH
Cymru sydd â sector gwirfoddol a chymunedol sy’n ffynnu, lle mae pobl leol yn arwain prosiectau a lle mae ganddynt yr adnoddau ariannol i ddatblygu eu datrysiadau eu hunain yn seiliedig ar angen
CENHADAETH
Atgyfnerthu a chyfoethogi cymunedau lleol ledled Cymru drwy ysbrydoli a rheoli dyngarwch
GWERTHOEDD
Gwybodus, rhagweithiol, arloesol, creadigol, cynhwysol, proffesiynol, hyrwyddol, blaenllaw, cydweithredol, ysbrydoledig, cynaliadwy a graslon
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 04
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 05
TÎM Y SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRUYMDDIRIEDOLWYR YN YSTOD HAF 2013
• Janet Lewis-Jones - Cadeirydd • Lulu Burridge • Rt Rev John Davies• Alun Evans • Lloyd FitzHugh Esq OBE JP DL • Tom Jones OBE • Frank Learner - Trysorydd Anrhydeddus• Sheila Maxwell • Kathryn Morris - Darpar Drysorydd Anrhydeddus• Julian Smith
Eleni, ymddeolodd Dr Caryl Cresswell (Is-Gadeirydd), Peter Davies, David Dudley, Jonathan Hollins, Henry Robertson a Michael Westerman o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Gwerthfawrogwyd eu hymrwymiad, eu gweledigaeth a’u cefnogaeth i arweinwyr y Sefydliad yn fawr.
STAFF
• Liza Kellett - Prif Weithredwr• Helen Fagan - Swyddog Grantiau• Jennifer Lloyd - Cynorthwy-ydd Datblygu• Sarah Morris - Gweinyddydd• Tom Morris - Swyddog Cyllid, Ymchwil a Grantiau• Andrea Powell - Rheolwr Grantiau a Rhaglenni• Siân Stacey - Swyddog Datblygu• Owain Taylor-Shaw - Rheolwr Datblygu• Ffion Wyn-Morris - Cynorthwy-ydd Grantiau•
Mae cyn-aelodau o staff wedi gwneud cyfraniad enfawr i waith y Sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Julie Ashton-Davies, a’r Cynorthwywyr/Internïaid Ffion Owen-Strong, Tanwen Berrington, Catrin
Hopkins a Rhiannon Walsh.
SWYDDOGION CYSWLLT
Tom BarhamColin EvansAbigail Tweed
Rydym yn ddiolchgar am gymorth proffesiynol Giselle Davies (Geldards), Ruth Peck (HR Solutions), David Foxman, a Joe a’r tîm yn designdough am eu gwaith argraffu a dylunio gwefan
NODDWR CRONFA I GYMRU
• Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru LLYWYDD
• Capten Syr Norman Lloyd-Edwards KCVO, GCStJ, RD, JP, RNR
IS-LYWYDDION
• Byron Lewis Ysw Arglwydd Raglaw EM Gorllewin Morgannwg
• Yr Anrhydeddus Huw Morgan Daniel C.StJ Arglwydd Raglaw EM Gwynedd
• Yr Anrhydeddus Mrs Shân Legge-Bourke LVO Arglwydd Raglaw EM Powys
• Mrs Kathrin Thomas CVO Arglwydd Raglaw EM Morgannwg Ganol
• Dr Peter Beck Arglwydd Raglaw EM Gwynedd De Morgannwg
• Henry George Fetherstonhaugh Esq, OBE Arglwydd Raglaw EM Clwyd
• Simon Boyle Esq Arglwydd Raglaw EM Gwent
• Yr Anrhydeddus Robin William Lewis Arglwydd Raglaw EM Dyfed
Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth
Trefor Jones Ysw, cyn Arglwydd Raglaw EM Clwyd.
06 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
2. EFFAITH DYNGARWCH AR Y GYMUNED Mae dyngarwyr yn bobl sydd am wneud gwahaniaeth - gyda’u harian a’u hegni, ac mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn eu dwyn ynghyd. Mae ein hadolygiad blynyddol yn nodi straeon am roddwyr a buddiolwyr, ac effaith gwaith y Sefydliad ar gymunedau ledled y wlad. .
£2,120,225Gwerth y grantiau a fuddsoddwyd er mwyn atgyfnerthu cymunedau lleol yn 2012/13
£7,896,271Gwerth y gwaddol a ymddiriedwyd i’n stiwardiaeth ar 31ain Mawrth 2013
Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn aelod o Sefydliadau Cymunedol y DU, sef rhwydwaith o 44 o sefydliadau cymunedol achrededig ledled y DU y mae ganddynt, gyda’i gilydd, waddol gwerth £309 miliwn ac sy’n gweithio gyda 4,000 o ddyngarwyr. Y llynedd, cefnogodd ein rhwydwaith 20,577 o sefydliadau gyda grantiau o fwy na £52 miliwn.
£225,430
£212,422
£256,679£249,269
£194,142
£350,027
£12,500
£440,985
DYFED
GORL MORG MORG
GAN
DE MORG
GWENT
GWYNEDD
CLWYD
POWYS
Y TU ALLAN I GYMRU
£178,770
GRANTIAU A DDYFARNWYD I BOB ARDAL£659,021Galluogi pobl ifanc a hyrwyddo addysg, menter a dysgu gydol oes
£439,567Meithrin gwydnwch a hyder mewn cymunedau
£731,815Gwella iechyd corfforol ac iechyd meddwl
£91,192Meithrin treftadaeth a diwylliant
£198,630Diogelu’r amgylchedd
401Nifer o grantiau a ddyfarnwyd 2012/13 6,600Nifer o wirfoddolwyr 40,300Nifer o fuddiolwyr
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 07
Tom Morris, Swyddog Cyllid, Ymchwil a Grantiau’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru am yr anghenion yng Ngwent, a dangosodd yn glir sut mae Cronfa Gymunedol Uchel-Siryf Gwent yn targedu’r ardaloedd hyn lle mae angen ac amddifadedd mewn modd effeithiol. Crëwyd y Gronfa gan Uchel Siryf Gwent er mwyn codi arian ar gyfer prosiectau cymunedol ar draws pum sir Gwent. Y llynedd, dyfarnodd y Gronfa werth £30,000 o grantiau i brosiectau cymunedol ysbrydoledig, yn bennaf drwy fodel ‘dyfarnu grantiau cyfranogol’ arloesol, ac mae’r Uchel-Siryf presennol Murray MacFarlane yn parhau i ysbrydoli pobl i wneud rhoddion lleol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ardal.
ARWEINYDDIAETH GYMUNEDOL A DYNGAROL “Mae’r bobl sy’n rhoi drwy sefydliadau cymunedol yn gynyddol am ddefnyddio eu hadnoddau i weld newid lleol gwirioneddol lle maent yn byw, ac maent bellach yn ystyried y ‘gymuned’ ei hun fel achos dichonadwy ar gyfer buddsoddi”.
STEPHEN HAMMERSLEY CBEPRIF SWYDDOG GWEITHREDOL SEFYDLIADAU CYMUNEDOL Y DU
Mae arweinyddiaeth gymunedol a dyngarol yn rhan ganolog o waith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru - hyrwyddo rhoi i elusennau a chwarae amrywiaeth o rolau wrth gefnogi a hyrwyddo’r sector gwirfoddol. Mae Wythnos Dyngarwch Cymru a drefnir gennym yn ymgorffori hanfod y gwaith hwn. Eleni, cynhaliwyd cyfres o wyth digwyddiad ledled y wlad er mwyn dathlu, hyrwyddo ac archwilio dyngarwch.
Er enghraifft, lansiwyd Cronfa Gwaddol Cymuned Sir Ddinbych yng Nghanolfan Grefft Rhuthun mewn partneriaeth â chyngor Sir Ddinbych, a dathlwyd rôl dyngarwch yn y celfyddydau yn Clwyd Theatr Cymru, lle cafwyd cyfle i glywed gan ddyngarwyr lleol a mwynhau pedwarawd llinynnol a rhagarddangosfa luniau.
Diolch i grant gan Gronfa un o’n cleientiaid, sef Cronfa Daisy, lansiwyd gwefan unigryw www.philanthropywales.org.uk, sy’n llawn gwybodaeth a chysylltiadau i’r rhai â diddordeb mewn dyngarwch. Gwnaethom hefyd ddyfarnu’r Gwobrau Dyngarwch cyntaf yng Nghymru.
Un o’r uchafbwyntiau eraill oedd te prynhawn arbennig a gynhaliwyd i archwilio anghenion yng Ngwent a dathlu dyngarwch lleol, fel y gwelir yn y llun. Siaradodd Arglwydd Raglaw Gwent Simon Boyle, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Carmel Napier, Uchel-Siryf Gwent, Elizabeth Murray, ac Adrian Mahoney o Kaleidoscope (elusen adsefydlu cyffuriau yng Nghasnewydd a gefnogwyd gan Gronfa’r Uchel-Siryf dros y ddwy flynedd diwethaf ), am eu gwaith a pha mor allweddol y gall dyngarwch fod o ran diwallu anghenion lleol. Siaradodd
08 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
GWOBRAU DYNGARWCH Y SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU 2012
WYTHNOS DYNGARWCH CYMRUCEFNOGWYR A SIARADWYR
Er mwyn cydnabod y bobl hynny y mae eu dyngarwch wedi rhoi budd i gymunedau yng Nghymru, dyfarnodd Cadeirydd newydd y Sefydliad, Janet Lewis-Jones, dair gwobr arbennig yn ein Derbyniad Dyngarwch Blynyddol.
Trevor Pears CMG yw Cadeirydd Gweithredol Sefydliad Pears a sylfaenydd ymgyrch Give More, sy’n annog pobl i roi mwy o amser, arian ac egni er budd yr achosion a’r elusennau sy’n bwysig iddynt. Ar hyn o bryd, mae mwy
na 35,000 o bobl wedi addo rhoi mwy, gyda 6,251 o’r rheini yn dod o Gymru, sy’n ffigur gwych.
Mae Peter Saunders OBE yn entrepreneur, yn angel busnes, ac yn ddyngarwr. Mae buddsoddiad Peter, sy’n byw yn Nhywyn, mewn technoleg arloesol yn helpu i achub bywydau a gwella gofal iechyd
mewn gwledydd datblygol, ac mae wedi denu cefnogaeth gan Sefydliad Bill a Melinda Gates.
RHANDDEILIAID A PHARTNERIAID
Mae Alex a John Timpson yn rhoi mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys fel teulu ac fel busnes. Mae eu gwaith dyngarol yn cynnwys sefydlu bwyty hyfforddi menter gymdeithasol yn Ynys Môn. Mae
academi cogyddion yr Oyster Catcher yn adeilad unigryw, mewn lleoliad unigryw, sy’n rhoi cyfle unigryw i bobl ifanc Ynys Môn.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 09
“Mae gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru o ran dyfarnu grantiau a broceru cydberthnasau rhwng elusennau a rhoddwyr yn rhoi gwybodaeth llawer gwell am Gymru i arianwyr o’r tu allan i’r wlad. Mae’n helpu i sicrhau ffynonellau newydd o arian i Gymru ac yn darparu grantiau effaith uchel i rymuso’r sefydliadau. Mae arweinyddiaeth y Sefydliad Cymunedol wedi helpu i rymuso trydydd sector Cymru ac wedi rhoi sail resymegol gryno a chlir dros ariannu. Mae’r sefydliad yn chwarae rhan bwysig o ran denu incwm preifat i Gymru, gan greu cyfleoedd newydd a chynyddol i sefydliadau yn y sector gwirfoddol gael gafael ar arian a’u helpu i arallgyfeirio incwm ar adeg o doriadau difrifol yn y sector cyhoeddus. Mae ei wybodaeth leol yn golygu bod ganddo’r gallu i ariannu sefydliadau llai nad yw Esmée Fairbairn yn ymwybodol ohonynt o bosibl.”
Cawsom ein hysbrydoli gan siaradwyr yng nghynhadledd Sefydliadau Cymunedol y DU, a gynhelir bob dwy flynedd, a oedd yn cydnabod y nodweddion a’r anghenion sy’n ysbrydoli dyngarwch.
“Gwnaethom gyflawni’r amhosibl am na wyddem ei fod yn amhosibl. Mae syniadau gwych yn denu arian, ac mae modd creu cyfalaf drwy frwdfrydedd pobl gyffredin.”SIR TIM SMIT KBE ENTREPRENEUR CYMDEITHASOL A CHYD-SYLFAENYDD PROSIECT EDEN
YSBRYDOLI DYNGARWCH
“Mae lefelau troseddu’n cynyddu’n aruthrol ymhlith plant trwblus ar y strydoedd, ac mae’n effeithio ar blant sydd fel arall yn cael gofal da ac yn eu gorfodi i fod yn rhan o’r troseddu hynny... Does neb yn mynd yn dreisgar ar hap. Fy nghyngor i roddwyr ac arianwyr yw i gefnogi ystod eang o raglenni a gweithgareddau sy’n rhoi’r modd i bobl ddatrys y problemau fel nad oes trais mwyach.”CAMILA BATMANGHELIDJH CBESYLFAENYDD KIDS COMPANY SY’N RHOI CYMORTH DWYS I 18,000 O BLANT DIFREINTIEDIG A PHLANT SY’N WYNEBU RISG YN LLUNDAIN
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 09
10 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn gwneud mwy na dyrannu grantiau. Wrth gyfateb rhoddwyr i’r rhai sy’n gweithredu, rydym yn dangos yr effaith fawr y gall Arian y Sefydliad ei chael. P’un a yw’n grant bach i dalu costau cyfarpar neu ddigwyddiad cymunedol untro, neu’n fuddsoddiad strategol, hirdymor, i elusen fwy er mwyn creu rhaglen newydd i ddiwallu angen newydd, caiff grantiau’r Sefydliad eu dyfarnu i sefydliadau gwych yn dilyn diwydrwydd dyladwy ac asesiad cadarn. Mae aelodau panel annibynnol, cynghorwyr a rhoddwyr yn cyfrannu at y gwaith o werthuso ceisiadau, gan ddod ag amrywiaeth o arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad i’r broses gwneud penderfyniadau.
Mae’r straeon am brosiectau a ariennir gan ein rhoddwyr, cleientiaid a deiliaid Cronfa wedi’u cynnwys ar y tudalennau canlynol.
SICRHAU EFFAITHAr strategaethau... Llywio polisi ac ategu newidAr gymunedau lleol...Meithrin hyder a chyfalaf cymdeithasolAr elusennau a grwpiau cymunedol…Ariannu newid sylweddol a datrysiadau lleolAr bobl...Grymuso, cefnogi, buddsoddi
3. CYSYLLTU POBL SY’N POENI AG ACHOSION SY’N BWYSIG
ADDYSG CYMUNEDAU
GALLUOGI POBL IFANC A HYRWYDDO ADDYSG, MENTER A DYSGU GYDOL OES
IECHYD
GWELLA IECHYD CORFFOROL AC IECHYD MEDDWL
AMGYLCHEDD
DIOGELU’R AMGYLCHEDD
DIWYLLIANT
MEITHRIN TREFTADAETH A DIWYLLIANT
MEITHRIN GWYDNWCH A HYDER MEWN CYMUNEDAU
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 11
DYHEAD
Mae’r thema hwn yn cynnwys grantiau i sefydliadau sy’n meithrin hunan-barch a hyder pobl ifanc ac yn ehangu eu gorwelion; cymorth i elusennau sy’n gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant; bwrsarïau i fyfyrwyr; a phrosiectau sy’n meithrin sgiliau a chyflogadwyedd. Mae hyn o fewn cyd-destun y ffaith bod traean o’n plant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a’r effaith andwyol y mae hyn yn ei chael ar hunanwerth, llythrennedd, sgiliau, dyheadau a chyfleoedd mewn bywyd.
GALLUOGI POBL IFANC A HYRWYDDO ADDYSG, MENTER A DYSGU GYDOL OES
Mae Prosiect Ieuenctid Blaenllechau, yng Nghymoedd De Cymru, yn mynd i’r afael â’r ffaith nad oes fawr ddim cyfleusterau chwarae, gweithgareddau na chyfleoedd dysgu llawn hwyl i blant a phobl ifanc leol. Mae’r siop, Swyddfa’r Post a’r Ganolfan Gymunedol wedi cau. Mae’r prosiect ar agor bedwar diwrnod a noson yr wythnos, ac yn aml ar benwythnosau ar gyfer sesiynau chwarae, teithiau ac fel rhywle i fynd i wneud gwaith cartref a chwrdd â ffrindiau. Mae grantiau gan lawer o’n rhaglenni, gan gynnwys un gan ddeiliad Cronfa preifat, wedi helpu i sicrhau bod y rheolwr ysbrydoledig yn gallu canolbwyntio ar feithrin iechyd, dysgu a datblygiad y plant heb orfod poeni am y pwysau ariannol parhaus o geisio dod o hyd i arian i gadw’r clwb ar agor.
12 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
Mae grantiau o dan y pennawd hwn yn cynnwys y rhai i elusennau sy’n gweithio i rymuso pobl mewn cymunedau dan anfantais ariannol a chymdeithasol; sefydliadau sy’n cefnogi pobl ar yr ymylon; a buddsoddiad mewn cyfleusterau a digwyddiadau cymunedol. Mae’r grwpiau hyn yn gonglfaen cymdeithas sifil.
GWYDNWCH
Mae Cronfa Gwaddol Cymuned Wrecsam yn cefnogi prosiectau lleol sy’n gwella bywydau pobl dlotach yn Wrecsam. Eleni, cefnogodd grant gwerth £500 gan y Gronfa prosiect Bwydo’r Digartref Wrecsam, sy’n rhoi bwyd i’r digartref bob penwythnos. Mae pum gwirfoddolwr pennaf y prosiect, a gaiff ei redeg gan eglwys leol, yn cynnal banc bwyd mewn maes parcio lleol ar adeg o’r wythnos pan fo bwyd a sgwrs gyfeillgar yn bethau prin. Talodd y grant am eitemau fel fflasgiau, bocsys bwyd a chyllyll a ffyrc plastig - sy’n angenrheidiol er mwyn helpu’r prosiect i ateb y galw cynyddol am ei ddarpariaethau sylfaenol.
MEITHRIN GWYDNWCH A HYDER MEWN CYMUNEDAU
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 13
Mae’r categori eang ac amlweddog hwn yn cynnwys grantiau a ddyfarnwyd i sefydliadau sy’n cefnogi pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd a chaethiwed; yn sicrhau ei bod yn haws cael gafael ar gyfleoedd chwaraeon ac ymarfer corff; yn hyrwyddo ffordd o fyw iach; yn mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol ymhlith yr henoed a phobl agored i niwed; yn sicrhau ei bod yn haws cael gafael ar wasanaethau i bobl ag anableddau; ac yn gwella lles drwy wasanaethau cwnsela, cyfryngu a chyngor. Mae’r grantiau a ddyrennir gennym yn y categori hwn yn gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol drwy sicrhau ei bod yn hawdd cael gafael ar wasanaethau iechyd, a chefnogi’r gwasanaethau hynny, meithrin hunan-barch a lleihau achosion o iselder ac ynysu cymdeithasol.
DEWRDER
Nododd swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiweddar mai dynion hŷn yng Nghymru yw’r grŵp mwyaf unig o bobl yn y DU, ac amcangyfrifa fod 8,666 o bobl hŷn yng Nghymru wedi treulio Dydd Nadolig ar eu pen eu hunain y llynedd. Diolch i grant gwerth £2,400 gan Gronfa Wales & West Utilities, mae aelodau oedrannus Clwb Hydref Treffynnon yn Sir y Fflint wedi cael budd o ddiwrnodau allan a gweithgareddau wedi’u teilwra’n arbennig i ddiwallu eu hanghenion, bodloni eu diddordebau, a gwella ansawdd eu bywyd. Gyda’r aelodau’n perthyn i gymunedau difreintiedig ac ynysig heb fawr ddim cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, mae rhaglen y clwb yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a chefnogol ynghyd â phrofiadau diddorol a llawn hwyl. Cefnogodd y grant hwn gostau gwyliau grŵp i Landudno a oedd yn cynnwys taith ar drên a phryd o fwyd mewn bwyty i aelodau’r clwb.
GWELLA IECHYD CORFFOROL AC IECHYD MEDDWL
14 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
Mae’r celfyddydau, y Gymraeg a diwylliant, ac adeiladau a chyfleusterau sydd o bwys hanesyddol yn cael budd o grantiau a wneir o dan y categori hwn. Mae dathlu a hyrwyddo elfennau diwylliannol, ysbrydol a chreadigol ein bywydau a chynnal ein treftadaeth yn allweddol i feithrin cymunedau hyderus ac ymgysylltiol lle mae gan bobl ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth.
Canolfan sy’n eiddo i’r gymuned a thafarn gydweithredol yw Cymdeithas Cyfeillion Saith Seren yn Wrecsam. Mae’n ganolfan i lawer o gefnogwyr, dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, ac yn cynnal gwersi Cymraeg, nosweithiau comedi a sesiynau cerddoriaeth fyw. Bu grant gwerth £950 gan raglen Arian Cymunedol Diwrnod y Trwynau Cochion yn fodd iddi gynnal prynhawn llawn hwyl i’r teulu, gyda storïwyr a diddanwr.
MEITHRIN TREFTADAETH A DIWYLLIANT
PARCH
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 15
Yn y categori elusennol hwn, mae’r Sefydliad yn dyfarnu grantiau i sefydliadau sy’n cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol a chadwraeth, yn ogystal ag ymchwil ac arloesedd. Mae materion amgylcheddol, boed yn rhai lleol neu fyd-eang, yn dod â phobl ynghyd i fynd i’r afael â’r problemau hyn, gan atgyfnerthu cymunedau ar yr un pryd a darparu’r sail ar gyfer cymdeithas sy’n fwy ystyriol o’r amgylchedd.
Mae Ysgol y Goedwig Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot yn ymrwymedig i wella hyder, iechyd a lles plant drwy gynnal gweithdai coetir a Diwrnodau Hwyl yn y Goedwig, yn ogystal â diwrnodau hyfforddiant i rieni, athrawon a staff cymorth. Cefnogodd grant diweddar gwerth £3,798 gan Gronfa Ymddiriedolaeth Dulverton sesiynau wythnosol dros dymor yr Haf a gynlluniwyd er mwyn i blant anabl o ysgol leol a disgyblion o ysgolion cyfagos ymuno â hwy. Roedd y prosiect hwn yn cyfuno buddiannau bod yn yr amgylchedd naturiol a dysgu amdano ynghyd â buddiannau cymdeithasol rhaglen gwbl gynhwysol a llawn hwyl.
DIOGELU’R AMGYLCHEDD
BALCHDER
16 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
Yn 2003 penodwyd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn asiant ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg yng Nghymru - rhaglen deng mlynedd ledled y DU a ariennir gan grant gwerth £50 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr ac a reolir gan Sefydliadau Cymunedol y DU fel yr unig ymddiriedolwr. Cenhadaeth yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg oedd adeiladu cymunedau cryfach drwy ddatgloi’r potensial mewn ardaloedd nad oeddent wedi cael eu ‘cyfran deg’ o arian y loteri o’r blaen.
Y weledigaeth oedd gadael etifeddiaeth barhaus drwy feithrin hyder, sgiliau cymunedol, profiad a rhwydweithiau i wella cymunedau lleol, cefnogi cymunedau lleol i wneud eu newidiadau eu hunain a rhoi’r gwaith o wneud penderfyniadau yn eu dwylo nhw.
Nod y rhaglen oedd:1. Meithrin gallu – hyder, sgiliau a phrofiad
unigolion a chymunedau2. Datblygu cyfalaf cymdeithasol –
rhwydweithiau, cydberthnasau a chysylltiadau pobl, grwpiau gwirfoddol a chymunedol
3. Gwella cyfanedd-dra – y gofod ffisegol lle mae cymunedau’n ffynnu
4. Gwella cynaliadwyedd – etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaus
4. DYNGARWCH STRATEGOL AR WAITH
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 17
Wrth ddathlu diwedd rhaglen deng mlynedd yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg ym mis Mawrth 2013, talodd y Sefydliad deyrnged i’r buddiolwyr, y sefydliadau noddedig a’r partneriaid a oedd wedi gweithio i gyflawni newid cymdeithasol hirdymor. Y Sefydliad oedd yn gyfrifol am arwain y rhaglen ac yn atebol i’r arianwyr, ond y paneli lleol oedd yn gyfrifol am ddiffinio’r blaenoriaethau ar gyfer ariannu, ac am lywio, monitro, ysbrydoli ac argymell penderfyniadau ynghylch grantiau. Cynrychiolwyr cymunedol a sefydliadau lleol oedd aelodau’r paneli yr oedd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth leol o anghenion a heriau yn golygu eu bod yn gynghorwyr ac yn wneuthurwyr penderfyniadau arbenigol ar y ffordd orau o fuddsoddi cronfa grantiau eu hardal. Rhoddwyd cyfanswm gwreiddiol o £50m o arian loteri’r Ymddiriedolaeth Cyfran Deg mewn Ymddiriedolaeth, fel bod yr arian yn ddiogel a bod yr elw o’r arian yn cwmpasu’r holl gostau rheoli dros ddeng mlynedd y rhaglen. Roedd hyn yn sicrhau y gellid gwario’r £50 miliwn cyfan ar grantiau yn ardaloedd yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg - £650,000 ym mhob un o’r pum sir yng Nghymru.
Mae cyfanswm o 26 o brosiectau cymunedol ledled Cymru wedi cael budd o arian y rhaglen, gan effeithio’n uniongyrchol ac anuniongyrchol ar filoedd o fywydau a chefnogi amrywiaeth eang o rwydweithiau, asiantaethau cymorth, syniadau strategol a pholisïau llywodraeth lleol a chenedlaethol.
DEGAWD O BARTNERIAETH
BLAENORIAETHAU PANEL I’R YMDDIRIEDOLAETH CYFRAN DEG I GYMRU
Ynys Môn: cynnig cyfleoedd gwell i bob plentyn a pherson ifanc yn Ynys Môn i arddel eu hawl i gael cyfleoedd chwarae a ddewisir o’u gwirfodd, sy’n hygyrch ac o safon yn eu cymunedau lleol.
Blaenau Gwent: meithrin gallu cymunedol a datblygiad drwy ddarparu sgiliau, cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi.
Caerffili: darparu cyfleoedd amrywiol i bobl anabl a’u gofalwyr.
Castell-nedd Port Talbot: gwella iechyd a lles pobl hŷn a/neu anabl drwy gyfrannu tuag at fyw’n annibynnol, a chynnig cyfleoedd datblygu sgiliau a swyddi trosiannol i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers cyfnod hir ac unigolion economaidd anweithgar.
Wrecsam: cefnogi cynhwysiant cymdeithasol yn y gymuned ehangach o Geiswyr Lloches, Ffoaduriaid, Gweithwyr Mudol a Sipsiwn a Theithwyr a’u teuluoedd
“Cyn rhaglen yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg, nid oedd unrhyw beth i gefnogi pobl leol oedd yn anabl, na’u gofalwyr. Heb yr arian a’r cymorth, ni fyddem erioed wedi gallu creu elusen leol, a arweinir gan ddefnyddwyr, i eiriol dros bobl ag anableddau ac i ymgyrchu dros wasanaethau lleol gwell... mae hyd yn oed y bysiau lleol yn well o ganlyniad...Rydym wedi llwyddo i gyflawni cymaint o bethau a newid bywydau cymaint o bobl yng Nghaerffili”
www.fairsharetrust.org
18 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
Busnes elusennol yw’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru - cynghorydd yr ymddiriedir ynddo ym maes dyngarwch sy’n cynnig gwasanaeth wedi’i deilwra’n arbennig i ddeiliaid Cronfa a chleientiaid. Rydym yn eu cynghori ynghylch y meysydd lle gall eu blaenoriaethau ar gyfer rhoddion elusennol gael yr effaith orau, gan fuddsoddi eu rhoddion i wneud yr elw mwyaf a chyflawni rhaglenni dyfarnu grantiau cadarn ar eu rhan. Rydym yn ymchwilio i anghenion a materion ac yn cynghori yn eu cylch, yn cynnal diwydrwydd dyladwy, yn cyflwyno adroddiadau ar effaith a chanlyniadau, ac yn eu cynnwys yn eu dyngarwch i’r graddau y maent yn dymuno i ni wneud hynny
RYDYM YN CYSYLLTU POBL SY’N POENI AG ACHOSION SY’N BWYSIG
P’un a yw ein cleientiaid am wneud y canlynol: helpu plant difreintiedig i gyflawni eu potensial - fel gyda Chronfa Skiathos a Daisy; mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol anghydraddoldebau iechyd - fel y gwnaeth cleient newydd ein comisiynu i’w harchwilio; neu gefnogi grwpiau cymunedol yn yr ardaloedd difreintiedig y mae eu teuluoedd yn perthyn iddynt - fel gyda dau gleient preifat, mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn
5. HANFOD DYNGARWCHgwrando, yn meithrin ac yn goruchwylio, gan greu rhaglenni cymorth effaith uchel sy’n cynnig buddiannau hirdymor amlwg.
MAE EIN DEILIAID CRONFA A CHLEIENTIAID YN CYNNWYS
• Unigolion a theuluoedd - dyrannu grantiau ar eu rhan, a sicrhau bod eu rhoddion yn parhau i gael effaith ar ôl iddynt ddod i ben
• Busnesau - eu helpu i gyflawni eu hagendâu Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a chynnwys cymunedau mewn modd effeithiol ac effeithlon
• Ymddiriedolaethau eraill sy’n dyfarnu grantiau - eu helpu i ddyfarnu grantiau mewn cymdogaethau ledled Cymru
• Cleientiaid elusennol - yn gweithredu fel Asiant ar gyfer rhaglenni ledled y DU megis Sefydliad Teulu Ashley a’r Ymddiriedolaeth Cyfran Deg
• Ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau nad ydynt yn gweithredu’n ddigonol - galluogi cronfeydd gwaddol a adawyd yn eu gofal gan ddyngarwyr yn y gorffennol i gael eu trosglwyddo i stiwardiaeth y Sefydliad
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 19
EIN GWASANAETHAU CRAIDD...
• cyngor dyngarol i ddatblygu strategaeth rhoi wedi’i theilwra’n arbennig, gan gynnwys ymchwilio i anghenion a damcaniaeth newid
• rheoli rhaglenni grantiau - diwydrwydd dyladwy, monitro a gwerthuso
• stiwardio buddsoddiadau - cyfalaf cymdeithasol a rheoli cronfeydd
AMRYWIAETH O FUDDIANNAU
• trefniadau rheoli a phrotocol gwneud penderfyniadau wedi’u teilwra’n arbennig
• ymweliadau a chyfarfodydd prosiect• adroddiadau effaith a datganiadau buddsoddi
mewn Cronfa • Digwyddiadau ar gyfer deiliaid cronfa a
gwahoddiadau i ddigwyddiadau a fforymau dyngarwch
DEWIS O FATHAU O GRONFEYDD...
• Effaith Uniongyrchol - Arian ar gyfer heddiw• Gwaddol - Arian ar gyfer heddiw a’r dyfodol
Arian y gellir rhoi thema iddo yn unol â dymuniadau ein cleientiaid, er enghraifft fel rhaglenni grant ardal neu bwnc penodol.
EIN BUSNES ELUSENNOL
SAWL FFORDD O WNEUD GWAHANIAETH ...
• sefydlu eich cronfa eich hun• rhoi i un o’n Cronfeydd Ardal neu Thema• dyblu effaith eich rhodd i’r Gronfa i Gymru
www.fundforwales.org.uk diolch i’n Her Cyd-Godi
• cefnogi gwaith y Sefydliad drwy ymuno â ‘Phartneriaid y Sefydliad’
• rhoddion treth-effeithlon• etifeddiaethau, cyfranddaliadau, asedau ac
arian parod
Mae ein tîm dyngarwch yn gweithio gyda phob deiliad Cronfa i ddatblygu portffolio rhoi yn unol â’i ddymuniadau er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf ar ei ddyngarwch. Cysylltwch â Siân Stacey ar 02920 379580 i drafod sut y gall eich rhoddion wneud gwahaniaeth neu ewch i’n gwefan www.cfiw.org.uk.
YN GWNEUD MWY NA DYRANNU GRANTIAU UNIGOL
• Ategu a gweithio mewn partneriaeth• Gwybodaeth leol• Arbenigedd cenedlaethol• Rhannu• Cynnull a chadeirio• Diwallu anghenion• Dathlu a hyrwyddo
LLYWIO POLISI AC ATEGU NEWID
AR GYMUNEDAU LLEOL...
Meithrin hyder a chyfalaf cymdeithasol
AR ELUSENNAU A GRWPIAU CYMUNEDOL…
Ariannu newid sylweddol a datrysiadau lleol
AR BOBL...
Grymuso, cefnogi, buddsoddi
20 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
EIN RHANDDEILIAID
Sefydliad Esmée FairbairnSefydliad PearsSefydliadau Cymunedol y DU Llywodraeth CymruY Gronfa Loteri Fawr
EIN DEILIAID CRONFA
UNIGOLION A THEULUOEDD
Cronfa DaisySefydliad Cymunedol Guelph – Cronfa MorganCronfa Arglwydd MerthyrCronfa Antur a Theithio Martyn Groves Ymddiriedolaeth MyristicaCronfa Rhodd Elusennol y Tywysog William a Miss Catherine MiddletonCronfa SkiathosCronfa Teulu Sloman ar gyfer Trelái
6. EIN DEILIAID CRONFA, CLEIENTIAID A RHODDWYR
CRONFEYDD AC YMDDIRIEDOLAETHAU’R SEFYDLIAD
Cronfa Gwaddol Cymuned Ynys Môn Cronfa Gwaddol Cymuned CaerdyddElusen Dinasyddion CaerdyddYmddiriedolaeth Addysg Dinasyddion Caerdydd Cronfa Ysgolion y SefydliadCronfa i GymruCronfa Hiraeth/Rhoddion StaffCronfa Gymunedol Uchel-Siryf GwentYmddiriedolaeth Addysg Bellach Sir FynwyCronfa Gwaddol Cymuned CasnewyddCronfa Gwaddol Cymuned Powys Cronfa Powys y Sefydliad Cronfa Elusen Ysgol Uwchradd Llandrindod Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru Powys Cronfa Addysg Ganolraddol a Thechnegol Sir DrefaldwynCronfa Ymddiriedolaeth Dosbarth Sir DrefaldwynCronfa Goffa Stanley BlighCronfa Hen Ysgol Ramadeg i Ferched AberhondduCronfa Addysg Plwyf RudbaxtonCronfa Gwaddol Cymuned Wrecsam
BUSNESAU
Advanced Elastomer Systems (AES)Bristol & WestCronfa Gymunedol Cymdeithas Adeiladu Coventry Entrust/Gwasanaeth Gwaredu Gwastraff y RhonddaRWE Npower RenewablesWales & West Utilities
CLEIENTIAID
Comic ReliefYmddiriedolaeth DulvertonYmddiriedolaeth Cyfran DegElusen Henry SmithSefydliad Elusennol Trusthouse
YMGYRCHOEDD
Sialens Codi Miliwn i’r Gronfa i GymruGoroesi’r Gaeaf
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013 21
Daw’r wybodaeth hon o’r Cyfrifon Blynyddol llawn a archwiliwyd ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31ain Mawrth 2013. Ei diben yw helpu’r darllenydd i ddeall sut mae’r Sefydliad yn dyfarnu grantiau - ein prif weithgarwch elusennol. Mae’r Cyfrifon Blynyddol llawn (a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 30ain Medi 2013), Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ac Adroddiad yr Archwilydd ar gael o swyddfa’r Sefydliad.
7. EIN CYLLID ADNODDAU A DDERBYNNIR £3,154K ADNODDAU A WARIWYD £2,581K
MANYLION CYSWLLT
Y Sefydliad Cymunedol yng NghymruTŷ St Andrews24 St Andrews CrescentCaerdydd CF10 3DD
F: 02920 379580F: 02920 220816E: [email protected]: www.cfiw.org.uk
Facebook: cfinwalesTwitter: @cfinwales
Elusen Gofrestredig: 1074655Rhif y Cwmni: 03670680
ARIANWYR CRAIDD £110K
RHODDION £18K
CRAIDD AMRYWIOL £11K
FFIOEDD RHEOLI £269K
CODI ARIAN £141K
LLYWODRAETHU £69K
DATBLYGU
DYNGARWCH £75K GWEITHGAREDDAU
ELUSENNOL
£2,371K
GWEINYDDU
GRANTIAU £171K
GRANTIAU £2,125K
CRONFWYDD GWADDOL £7,896K
Cyfalaf rhoddwyr ar gyfer incwm grantiau
buddiolwyr y dyfodol
CRONFEYDD CYFYNGEDIG £1,515K
Arian rhoddwyr ar gyfer grantiau buan i fuddiolwyr
CRONFEYDD ANGHYFYNGEDIG £200K
Cyfalaf gweithio ar gyfer gweithgareddau craidd yr
elusen
EIDDO £650K
BUDDSODDIADAU £7,235K
ASEDAU CYFREDOL NET £1,772K
ASEDAU NET ARALL 123K
ARIAN RHODDWYR AR GYFER BUDDIOLWYR
£2,234K
INCWM GWADDOL AR GYFER BUDDIOLWYR
£216K
CYFALAF GWADDOL NEWYDD £296K
CRONFEYDD £9,611K ASEDAU NET £9,611K
Mantolen ar 31 Mawrth 2013
22 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013
BYDDWCH YN RHAN O RYWBETH MAWR HEDDIW ER BUDD PROSIECTAU CYMUNEDOL BACH Y DYFODOL
• Gwnewch rodd ar-lein: www.cronfaigymru.org.uk
• Codwch arian ar gyfer Cronfa i Gymru: justgiving.com/communityfoundationinwales
• Tecstiwch: RHOI05 ynghyd â swm eich rhodd i 70070
• Lawrlwythwch ffurflen rhoi ar gyfer sieciau, debydau uniongyrchol, sieciau’r Sefydliad Cymorth i Elusennau a rhoddion rheolaidd: www.cronfaigymru.org.uk
• Ffoniwch ni er mwyn trafod eich opsiynau: Siân Stacey ar 02920 379580
E: [email protected]: www.cronfaigymru.org.ukF: fundforwalesT: @fundforwales
GYDA’N GILYDD, GALLWN WNEUD GWAHANIAETH
Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â’i chronfa gwaddol genedlaethol ei hun i gymunedau - Cronfa i Gymru. Mae’n gwneud gwahaniaeth nawr ac yn y dyfodol drwy annog pobl i ariannu prosiectau cymunedol ledled y wlad. Mae’n un o ymgyrchoedd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn mai Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yw’r Noddwr.
Gan gysylltu pobl sy’n poeni ag achosion sy’n bwysig, mae Cronfa i Gymru yn creu cymuned fywiog o roddwyr y mae eu rhoddion - o bob maint ac o bob cwr o’r byd - yn gwella bywydau pobl ledled Cymru ac yn meithrin diwylliant, treftadaeth ac amgylchedd Cymru.
CRONFA I GYMRU
RHODD OESOL
Diolch i her cyd-godi y Gronfa Loteri Fawr i hyrwyddo dyngarwch, caiff yr £1 filiwn nesaf o roddion i’r Gronfa i Gymru eu cyfateb bunt am bunt - gan ddyblu effaith eich rhodd.
YMUNWCH Â’N CYMUNED O RODDWYR• £1-£1,000 - mae pob rhoddwr yn ymuno â
chymuned Cronfa i Gymru • £1,000+ - gadewch eich marc ar fap Hiraeth
Cronfa i Gymru• £10,000 + - ymunwch â Chylch y Noddwr
(Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yw ein noddwr), y mae’r buddiannau’n cynnwys ymweliadau prosiect a gwahoddiadau personol i dderbyniadau arbennig
• £25,000+ - sefydlwch eich Cronfa eich hun â strategaeth dyngarwch wedi’i theilwra’n arbennig
Gall pawb fod yn ddyngarwr drwy’r Gronfa i Gymru
£10,000 + £2,500 x 2 = £25,000
22 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013