Upload
pembrokeshire-college
View
245
Download
5
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Roedd 2013/14 yn flwyddyn hynod lwyddiannus i Goleg Sir Benfro. Er gwaethaf pwysau ariannol cynyddol, cyflawnodd y Coleg ganlyniadau myfyrwyr gorau erioed; rydym yn arbennig o falch o’n canlyniadau Lefel A a Diploma Estynedig.
Citation preview
Arolwg Blynyddol 2013 | 14
Yn ystod 2013/14 cyflwynodd myfyrwyr Y Celfyddydau Perfformio nifer o berfformiadau eithriadol gan gynnwys eu sioe haf – ‘Jesus Christ Superstar’.
2013-14 Blwyddyn o GydweithioRoedd 2013/14 yn flwyddyn hynod lwyddiannus i Goleg Sir Benfro. Er gwaethaf pwysau ariannol cynyddol, cyflawnodd y Coleg ganlyniadau myfyrwyr gorau erioed; rydym yn arbennig o falch o’n canlyniadau Lefel A a Diploma Estynedig (gweler tudalennau 5 -7).
Parhaodd y Coleg i gyflawni rôl bwysig yn Sir Benfro a thu hwnt; gwella sgiliau ein myfyrwyr, a’u galluogi i gyfrannu tuag at lwyddiant cyflogwyr ac yn fwy cyffredinol i’r economi leol.
O ystyried yr ystod o weithgareddau a wneir gan y Coleg, o addysgu sgiliau sylfaenol, i astudiaethau galwedigaethol (yn y Coleg ac yn y gweithle), i Lefel A a graddau a diplomâu lefel uwch, buom yn gweithio ar y cyd â nifer o randdeiliaid er mwyn cyflawni ein strategaeth. Yn 2013/14 gwelwyd ein partneriaethau cydweithredol yn cryfhau a oedd yn cynnwys: 1) perthynas ddyfnach gyda Chyngor Sir Penfro, yn gweithio er lles gorau ein myfyrwyr 14-19 oed, 2) estyniad o’n Consortiwm Prentisiaeth - Academi Sgiliau Cymru - sy’n dod â dynameg newydd i’r Coleg, a 3) ffurfio menter ar y cyd gyda Phrifysgol Abertawe a cholegau eraill i ddarparu addysg uwch alwedigaethol.
Diolch i chi am gymryd yr amser i ddarllen ein Harolwg Blynyddol. Coleg Sir Benfro yw eich Coleg chi, ac rydym yn gobeithio eich croesawu i’r Coleg yn fuan.
Pennaeth y Coleg:Sharron Lusher
Cadeirydd: Stephen Harrison a benodwyd yn 2014. Corfforaeth, Cydnabyddiaeth a Chwilio
Ffarwel:Yn 2014 fe wnaeth Derek Lloyd gamu i lawr ar ôl 19 mlynedd fel Cadeirydd a chamu’n syth i mewn i rôl newydd fel Llywydd Fforwm Ymgynghorol Coleg Sir Benfro.
Mae’r ddogfen yma ar gael yn Saesnegwww.pembrokeshire.ac.uk/downloads
Myfyrwyr ysgoloriaeth STEM 2013/14
Dysgu yn y Gwaith 44% Addysg Bellach 44% (yn cynnwys 1% Lefel A)
Mae llwyddiant ysgol, coleg neu brifysgol yn cael ei adlewyrchu yn llwyddiant ei myfyrwyr. Yn hyn o beth roedd 2013/14 yn flwyddyn hynod lwyddiannus i Goleg Sir Benfro.
Yn cyflwyno hyfforddiant i dros 15,000 o fyfyrwyr ar draws Sir Benfro a thu hwnt, roedd prif feysydd gweithgareddau’r Coleg yn ymwneud â chyrsiau galwedigaethol a dysgu yn y gwaith, fel y dangosir yn y siart cylch gyferbyn.
PERFFORMIAD Y DYSGWR
0
20
40
60
80
100
97.5
%
33%
23.3
%
19%
83%
75%
74.6
%
97.5
%
98%
Coleg Sir Benfro
Cymharydd cenedlaethol
Cymharydd Sir Benfro
A/A* A-C A-E
Lefel A
Addysg Uwch 4%
Rhyngwladol 1% Adran Gwaith a Phensiynau 2%
Contractau 7%
15,000 o Fyfyrwyr
Gwelwyd canlyniadau rhagorol gan fyfyrwyr oedd yn astudio eu Lefel A yng Ngholeg Sir Benfro, gyda 23 allan o 25 o bynciau yn cyflawni cyfradd pasio o 100% a 33.3% yn ennill graddau A* - A.
Roedd cyrchfannau Prifysgol yn cynnwys:Rhydychen, Caerwysg, Durham, Plymouth, Efrog, UCL a Phrifysgol Middlebury yn yr Unol Daleithiau.
Canlyniadau Lefel A Awst 2014
Un o’r creadigaethau gan y fyfyrwraig ff asiwn a thecsti lau Tunde Komas a enillodd y Gystadleuaeth Ffasiwn Cynaliadwy Cenedlaethol
Diplomâu Estynedig
37%Rh/RH*
DilyniantMae llawer o bobl yn dal i gamgymryd taw Lefel A yw’r llwybr i’r brifysgol. Yn ddiddorol, aeth mwyafrif y myfyrwyr yn y Coleg ymlaen i’r brifysgol ar ôl astudio cyrsiau galwedigaethol. Yn 2014 roedd gan y Coleg fwy o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i brifysgolion ac addysg uwch nag unrhyw ysgol arall yn Sir Benfro, gweler y graff isod.
63%Teilyngdod/Pas
Myfyrwyr DiplomaMyfyrwyr Lefel A
PrentisiaethauCyfl awnodd myfyrwyr prenti siaeth:
Cyfradd llwyddiant 89%(3% yn uwch na’r cymharydd cenedlaethol)
FFAITHYn ystod 13/14, cafodd 169 o asesiadau ff urfi ol ysgrifenedig eu cwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg, a chwblhaodd 326 o fyfyrwyr ychwanegol unedau Agored Cymru yn ymwneud â’r Gymraeg.
Yn ystod 2013/14, fe wnaeth myfyrwyr oedd yn astudio ar Ddiplomâu Estynedig ragori, gweler y graff gyferbyn.
Roedd 37% o’r canlyniadau yn Rhagoriaeth/Rhagoriaeth *
PERFFORMIAD Y DYSGWR
(Yn gyfwerth â thair gradd A/A * Lefel A)
115
145
50
125 40
Ysgolion Ffederasiwn y De
Coleg Sir Benfro
Ysgolion Ffederasiwn y Gogledd
Ysgol y Preseli
Myfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch
0 40 80 120 160 200
LLAIS Y DYSGWRYn ystod 2013/14 sianelodd y Coleg adnoddau i mewn i ddatblygu llwyfan democrataidd ar gyfer llais y dysgwr. Roedd gweithgarwch yn cynnwys: ffurfio Cyngor y Coleg dan arweiniad y myfyrwyr, ymweliadau dosbarth Llais y Dysgwr, creu pwyllgor digwyddiadau, gwobrau addysgu a arweinir gan fyfyrwyr, Amser Cwestiynau gyda’r uwch reolwyr a chynrychiolaeth y myfyrwyr ar Fforwm Ymgynghorol Coleg Sir Benfro sydd newydd ei ffurfio.
Cafodd y myfyriwr Cyfryngau Rhyngweithiol, William Rowe lwyddiant mawr yng nghystadleuaeth genedlaethol Pôl Piniwn Ipsos MORI Llais y Dysgwr y llynedd. Defnyddiwyd cynllun William i arwain ymgyrch boster genedlaethol.
FFEITHIAUO ganlyniad i adborth Llais y Dysgwr gwnaeth y Coleg nifer o newidiadau:• Ailwampio systemau TG a’r Rhwydwaith yn llwyr• Gweithredu ‘MyDay|FyNiwrnod’ - rhyngwyneb
TG newydd i fyfyrwyr • Gwneud newidiadau i’r gweithdrefnau ar gyfer
marcio cofrestrau• Ymateb i faterion a godwyd ynghylch gwresogi’r
ystafell ddarlithio a llewyrch haul• Cyflwyno system gyhoeddiad bws ar adegau o
dywydd gwael
Mae Coleg Sir Benfro yn un o’r colegau lleiaf yn y DU. Ni wnaeth hyn fodd bynnag ein hatal rhag perff ormio’n well na cholegau mwy o faint drwy gystadlaethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ‘Rhestr yr Anrhydeddau’ 2013/14 fel a ganlyn:
LLEOLCafodd Ysgoloriaeth STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ei dyfarnu i’r myfyrwyr canlynol:Georgia GrearyTrystan Rummery (Llun 1)Leah PalmerIeuan EdmondsAnna DarlingtonAmy Staff Chloe AntonenSam White
Enillodd Benjamin Dazeley, myfyriwr Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celf a Dylunio (Cyfryngau Rhyngweithiol) gystadleuaeth gwrth-yfed a gyrru aml-gyfrwng Heddlu Dyfed Powys am ei animeiddiad.
Enillodd pedwar o fyfyrwyr wobrau yn nigwyddiad Cyfl awnwyr Ifanc Radio Sir Benfro:James Taylor - Cynnydd Eithriadol (Llun 2)Conor Ratcliff - Entrepreneur IfancJacob Thomas – Chwaraewr IfancRicky-Lee Everest - Ymrwymiad i’r Amgylchedd
Parhaodd y Coleg ei ymglymiad â’r Urdd a chafwyd llwyddiannau unwaith eto, yn enwedig yn y cystadlaethau Celf a Dylunio ar lefel genedlaethol: dyfarnwyd medalau Efydd i’r fyfyrwraig Diploma Estyngedig mewn Ffasiwn a Thecsti lau Ally Wilson (Llun 3) a’r grŵp Cornerstone.
CYMRUEnillwyr Prosiect ar gyfer cystadleuaeth Cynllun Addysg Peirianneg Cymru oedd Tîm Dragon LNG:Ben OrielBen FisherMike DaviesJack PinsonScott DedonkerJosh Beer
Ym maes Chwaraeon, cynrychiolodd Jack Britt on a Laurie Howarth Colegau Cymru mewn Pêl-droed. Aeth Laurie ymlaen i ennill cap Ysgolion dan 18 (Llun 5).
DUCafwyd y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr oedd yn gymwys i gystadlu yn Rownd Derfynol WorldSkills UK yn dilyn llwyddiant ar lefel ranbarthol.
Yn y rownd derfynol oedd:Dominic Hicks - Gwaith Saer Brian Schilke - Gwaith Saer Zak Longthorpe - BricwaithBen Cook - WeldioBilly Davis - WeldioSally Sanderson - Celf EwineddKirsty Bushen - Celf EwineddCharlott e Williams - AdweithegSarah King - Adweitheg (Llun 6)
Cafodd Daniel Panell ei gydnabod fel Hyff orddai y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth 2014 OFTEC (Llun 4)
Enillodd y fyfyrwraig ff asiwn Tunde Komas gystadleuaeth Ffasiwn Cynaliadwy Cenedlaethol a noddwyd gan Levis a Phrifysgol St Marti ns a gweithiodd ochr yn ochr â’r dylunydd Katherine Hamnett yn ystod Gŵyl Lenyddol y Gelli.
Enillodd Kathryn Penfold gystadleuaeth Cogydd y Flwyddyn 2013 y Rotariaid.
Enillodd Tom Morgan y wobr Arian ym Mhencampwriaeth Coginio Cymru ac Efydd yn WorldSkills Cymru.
Cafodd Dominic Hicks, Pencampwr Hŷn 2014 Cymru mewn Gwaith Saer, ei ddewis i gystadlu am le yn Nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd WorldSkills ym Mrasil, un o dim ond dau fyfyriwr i gael eu dewis i gystadlu am le ar y tî m.
5
3
1 2
4
6
Llwyddiant y Dysgwyr
SUSTAINABILITY
Llun: Mae ‘Diwrnod Gwneud Gwahaniaeth’ hynod lwyddiannus Coleg Sir Benfro yn cael ei gynnal bob blwyddyn, lle rhoir diwrnod i staff i fynd i helpu prosiectau lleol. Fe wnaeth 27 o elusennau a sefydliadau gwirfoddol lleol elwa yn 2014.
GORCHESTION STAFFEleni, cafodd nifer o’n darlithwyr gydnabyddiaeth genedlaethol - Daeth Clair Davies yn ail yn ei chategori yn Ironman Cymru a chystadlodd yn llwyddiannus ym Mhencampwriaeth Ironman y Byd yn Hawaii. Enillodd Kate Williams Wobr Times Educational Supplement am ‘Fenter Dysgu ac Addysgu Eithriadol’. Cyrhaeddodd Jo Bradshaw y rhestr fer ar gyfer Gwobr Athro/Athrawes y Flwyddyn ColegauCymru Drwy waith mentora Gareth Evans, Michelle Jennings, Cath Chapman, Mike Tennick a Jo Bradshaw fe wnaeth naw o fyfyrwyr sicrhau lleoedd i gystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK. Gweithiodd Will Bateman gyda SEMTA i ymgysylltu pobl ifanc mewn peirianneg. Fe wnaeth Rose Butler baratoi myfyrwyr i weini cinio i’r Frenhines yn ystod ei hymweliad â Sir Benfro.
Sylwadau Adolygu Perfformiad ESTYN “Arweiniad da gan y Pennaeth a’r Llywodraethwyr” “Mae gan y Coleg gysylltiadau cryf iawn gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol”
FFAITH: 600 o StaffMae llwyddiant ein myfyrwyr yn y pen draw o ganlyniad i’w gwaith caled eu hunain. Fodd bynnag, yn ystod 2013/14, roeddem yn ffodus iawn i gael 600 o staff ymroddedig yn ymdrechu i roi’r cyfle i’n myfyrwyr gyflawni eu potensial. Mae’r Coleg yn ei hystyried yn fraint i fwynhau lefel yr ymrwymiad a ddarperir gan ei staff.
STAFF AC ANSAWDD
Mae’r Coleg yn gweithio’n agos gyda chyfl ogwyr a’r gymuned fusnes yn Sir Benfro. Ein gweledigaeth yw cael ein ‘perchen’ gan y gymuned rydym yn darparu ar ei chyfer. Mae ein darpariaeth yn adlewyrchiad o economi ein sir.
Llun: Enillydd Cystadleuaeth Prenti s a Sgiliau Peirianneg Cymru Callum Lowe gyda’i gyfl ogwr, Mr Richard Scourfi eld, Barlett Engineering.
Rôl allweddol y Coleg yw gwella sgiliau galwedigaethol. Yn ystod 2013/14, darparodd y Coleg ddarpariaeth alwedigaethol i’r sectorau canlynol:
FFAITH: CYFRADD CWBLHAU 94%Darparodd y Coleg ddosbarthiadau cymunedol i dros 960 o ddysgwyr yn ystod 2013/14, gyda 94% yn cwblhau yn llwyddiannus.
Darparodd y Coleg ddosbarthiadau mewn 21 o leoliadau ar draws Sir Benfro. Roedd 90% o’r dysgwyr o’r farn bod y dysgu gan y ti wtoriaid yn ARDDERCHOG.
Fe wnaeth ein caffi hyff orddi yn Paul Sartori, sy’n hyff orddi ac yn cynorthwyo dysgwyr i sicrhau cyfl ogaeth, godi £2,988 yn ystod 2014 ar gyfer yr elusen.
FFAITH: ENNILL CONTRACT MAWRMae’r Coleg yn un o’r ychydig golegau addysg bellach yn y DU i sicrhau cytundeb Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym yn credu ein bod yn chwaraerhan bwysig yn yr economi leol a gwella’r cyfl eoedd i bobl yng ngorllewin Cymru.
FFAITH: 4,000 O GYFLOGWYRMae’r Coleg yn gweithio gydag oddeutu 4,000 o gyfl ogwyr lleol. Yn ogystal â hyn, mae darpariaeth dysgu yn y gwaith yn galluogi cyfl ogwyr i wella sgiliau eu gweithlu.
Mae lefel y myfyrwyr rhan-amser yn y Coleg yn adlewyrchu’r ymgysyllti ad sydd gan gyfl ogwyr gyda’r Coleg a’u hymrwymiad i fuddsoddi yn eu gweithlu.
0
20
40
60
80
100
1% Safon Uwch
27% Iechyd a Gofal
25% Peirianneg
10% Lletygarwch / Manwerthu
10% Sgiliau Hanfodol
9% Arall
8% Adeiladu
6% Busnes ac Addysg
5% Celf a Dylunio5% Technoleg Gwybodaeth4% Twristi aeth
Llun: Prosiect cymunedol Caffi Paul Sartori
BUSNES A CHYMUNED
,
Nifer y myfyrwyrAB 2013/2014 2012/2013Llawn-amser 1,766 1,688Rhan-amser 6,905 6,158
Cyfanswm 8,671 7,846Addysg Uwch 2013/2014 2012/2013Llawn-amser 69 92Rhan-amser 247 253Cyfanswm 316 345Llawn-amser 1,835 1,780Rhan-amser 7,152 6,411Cyfanswm 8,987 8,191
Nodiadau:Mae’r cyfrif incwm a gwariant yn ymwneud â gweithgareddau parhaus Coleg Sir Benfro.
Dangosyddion ariannol allweddol:• Trosiant – wedi cynyddu gan 12.4% i £28.7m• Gwarged o £150k o gymharu â gwarged o £366k yn 2012/13• Buddsoddiad cyfalaf dros y 5 mlynedd ddiwethaf £8m• Talu cymhareb incwm - 73%• Cymhareb amrywiaeth incwm - 84%
Mae’r ffigurau yn cynnwys dysgwyr Coleg Sir Benfro yn unig. Nodiadau: Ffynhonnell EBS (Cronfa Ddata Ganolog Myfyrwyr). Ionawr 2015Blwyddyn 13/14 12/13 11/12 10/11 Cyrhaeddiad AB 91% 93% 92% 94% Cwblhau AB 92% 90% 90% 88% Cwblhau’n llwyddiannus AB 84% 83% 83% 83%
Ariannol: Y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2014
Incwm 2013/14 2012/13£’000
Grantiau Llywodraeth Cymru 24,676 21,054Ffioedd dysgu a chontractau addysgol 2,255 2,478Incwm arall 1,712 1,959Gwaddol a buddsoddiad incwm 42 37Cyfanswm incwm £28,685 £25,528Gwariant 2012/13
£’000Costau staff 13,989 13,635Treuliau gweithredu eraill 13,712 10,372Dibrisiant 816 1,068Costau llog a chyllid arall 20 96Cyfanswm gwariant £28,537 £25,171Gwarged ar weithrediadau parhaus ar ôl dibrisiant asedau sefydlog diriaethol ar brisio a chyn treth
148 357
Elw a gwaredu asedau 2 9Gwarged ar weithrediadau parhaus ar ôl dibrisiant asedau sefydlog diriaethol ar brisio a gwaredu asedau a chyn ac ar ôl trethiant
150 366
DATGANIAD ARIANNOL
Rhifau myfyrwyr