8
2013-14 Adolygiad Blynyddol

Adolygiad Blynyddol 2013-14 - Cardiff Metropolitan University Review...Mae’r Adolygiad Blynyddol hwn yn crynhoi datblygiad a llwyddiannau’r Brifysgol yn ystod y flwyddyn academaidd

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • 2013-14Adolygiad Blynyddol

  • Mae’r Adolygiad Blynyddol hwn yn crynhoidatblygiad a llwyddiannau’r Brifysgol yn ystod yflwyddyn academaidd 2013-14.

    Mae llawer o bethau i’w dathlu o’r flwyddynacademaidd 2013-14, er enghraifft partneriaethaullewyrchus y brifysgol yn lleol, yn genedlaethol acyn fyd-eang; ein hymrwymiad parhaol i symudeddcymdeithasol gartref a thramor; ein llwyddiant yndarparu dysgu ac addysgu rhagorol; a gwaithymchwil a menter arloesol ein hacademyddion.

    Mae’n dda gennym gael ein cydnabod yn sefydliadsydd wedi’i reoli’n dda gan nifer o gyrff annibynnol.Mae ein hadroddiad 2014 gan y QAA (AsiantaethSicrwydd Ansawdd Addysg Uwch) yn cadarnhau einbod yn cwrdd â’r holl ddisgwyliadau ar gyfersafonau academaidd a chyfleoedd dysgu’rmyfyrwyr, ac mae’n pwysleisio’n arbennig yrarferion da yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu,ymgysylltiad Undeb y Myfyrwyr â’r myfyrwyr a’iphartneriaethau cydweithredol, a’r adnodd dysguar-lein ‘Eich Gyrfa’.

    Eleni cafodd y Brifysgol y lefel boddhad myfyrwyruchaf erioed yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr(NSS).

    Neges y Cadeirydd a’r Is-Ganghellor

    Mae’r adolygiad blynyddol yn amser i edrych nôla chydnabod y pethau a gyflawnwyd gan yBrifysgol mewn cyfnod o 12 mis.

    Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol bob amser yn uchelar restr blaenoriaethau’r Brifysgol ac rwyf wrth fymodd yn gweld Prifysgol Metropolitan Caerdydd yndilyn ei thrywydd ei hun wrth iddi edrych i gyfeiriad eiphen-blwydd yn 150 oed yn 2015.

    Mae’r Brifysgol yn ffynnu mewn cyfnod acamgylchedd newydd ac mae’n parhau i greu argraffyn annibynnol a gyda phartneriaethau rhagorol yngNghymru a thu hwnt.

    A minnau’n Llywydd y Brifysgol, hoffwn ddiolch iBarbara Wilding CBE, QPM, sydd wedi’i hail-ethol ynGadeirydd y Bwrdd am dair blynedd arall, yn ogystal â

    diolch i’r Bwrdd â’r Is-Ganghellor a’i Dîm Gweithredol am eu gwaith yn datblygu ac yn hybu prifysgolryfeddol a, blwyddyn ar ôl blwyddyn, yn llwyddo i oresgyn yr heriau y mae’r sector Addysg Uwch yn parhaui’w hwynebu.

    Y Cynghorydd Margaret Jones Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd a Llywydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd

    Neges y Llywydd

    Barbara Wilding CBE, QPM Cadeirydd yLlywodraethwyr

    Yr AthroAntony J Chapman Is-Ganghellora Phennaeth

    Mae ffigurau ceisiadau/recriwtio myfyrwyr yBrifysgol yn parhau i godi gan gofio lefel uchelboddhad y myfyrwyr, ac mae ffiguraucyflogadwyedd y Brifysgol yn rhagorol â thynnu at95% o’r myfyrwyr mewn gwaith chwe mis wediiddynt raddio.

    Dyfarnwyd achrediad Arian Buddsoddwyr mewnPobl (BmP) i’r Brifysgol, sef ail lefel uchaf yrachrediad sydd o fewn fframwaith BmP ac sydd yncynnwys pedair lefel wedi’u hasesu yn erbyn 196 oofynion tystiolaeth. Cafodd y Brifysgol ei rhoi ar yllwybr carlam gan symud heibio i’r Lefel Efydd asicrhau mai Met Caerdydd yw Prifysgol AchrediadArian gyntaf Cymru. Fe amlygodd yr asesydd a fu’narolygu achrediad y Brifysgol adborth y staff addisgrifiodd y Brifysgol yn lle proffesiynol, hyblyg,cyfeillgar, croesawgar a chynhaliol, ac â’i sylw arddatblygu gyrfaoedd ac ar gymorth personol.

    Mae’n dda gan Fwrdd y Llywodraethwyr a’rWeithrediaeth gydnabod a dathlu gwaith caled achyflawniadau'r staff a’r myfyrwyr yn y flwyddyn aaeth heibio, gan edrych ymlaen hefyd at yposibiliadau cyffrous yn y flwyddyn academaiddsydd i ddod.

    O’r chwith i’r dde, Yr Athro Antony J Chapman, Is-Ganghellor aPhennaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Barbara Wilding, CBEQPM, Cadeirydd y Llywodraethwyr a’r Cynghorydd Margaret JonesGwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd a Llywydd PrifysgolMetropolitan Caerdydd.

  • Mae’r Myfyrwyr Rhyngwladol ym Met Caerdydd,wedi rhoi’r Brifysgol ar y brig yn y DU a thuhwnt am gymorth cyffredinol i fyfyrwyrrhyngwladol am y bumed flwyddyn yn olynol.

    Mae’r ISB (International Student Barometer) yntracio ac yn cymharu penderfyniadau, disgwyliadau,canfyddiadau a bwriadau myfyrwyr rhyngwladol o’ucais hyd at eu graddio. Mae’n cynnigcydnabyddiaeth union a rhwydd a meincnod argyfer ymroddiad ac ymrwymiad Sefydliad AddysgUwch i bob gwedd ar brofiad y myfyriwr.

    Yn dilyn twf a llwyddiant y cynllun symudedd yn2013-14, lle y cafodd y staff a’r myfyrwyr gyfleoeddi weithio, i astudio neu i wirfoddoli dramor,llwyddodd y Brifysgol i sicrhau cyllidychwanegol i gefnogi cyfleoedd pellach yn2014-15 ar gyfer myfyrwyr ar draws pob un o’rpum ysgol. Bydd hyn yn gwella profiad y myfyrwyrdrwy roi amlygrwydd rhyngwladol iddyn nhw yn eumeysydd astudio penodol.

    Mae’r Brifysgol wedi parhau i weithio i hybuArweinyddiaeth mewn Rheoli Addysg Uwch drwyBrosiect Tempus, sydd wedi’i gyllido gan yr UE, acsy’n creu maes cydweithredol yn y gwledydd sy’namgylchynu’r UE.

    Un canlyniad nodedig fu creu’r RhwydwaithArweinyddiaeth Ewropeaidd Arabaidd mewnAddysg Uwch. Nod pennaf y Rhwydwaith ywgwella cyfathrebu a chydgordio gweledigaetharweinwyr academaidd gwahanol yn ardal y

    Datblygu PartneriaethauRhyngwladol

    Dwyrain Canol, Gogledd Affrica ac yn Ewropdrwy gydweithio. Cymdeithas y PrifysgolionArabaidd sy’n gyfrifol am y Rhwydwaith.

    Mae Swyddfa Tsieina Met Caerdydd newyddwedi agor ger Sgwâr Tiananmen yn Beijing ihwyluso datblygiad partneriaethau strategolgyda sefydliadau Tsieineaidd er mwyngweithio ar y cyd ar raglenni addysgu achyfnewid staff a myfyrwyr.

    Ers mwy na 20 mlynedd, mae PrifysgolMetropolitan Caerdydd yn croesawu myfyrwyr oTsieina i Met Caerdydd ar ystod o raglenni, a bydd yswyddfa yn Beijing yn hwyluso gwaith recriwtiomyfyrwyr i Gymru o’r farchnad Tsieineaidd sy’nprysur ehangu, yn ogystal â gweithio gyda dau obartneriaid strategol y Brifysgol, sef Coleg Caerdydda’r Fro a Chyngor Busnes Caerdydd.

    Cymerodd y Brifysgol ran yn 2013-14 yn nifer oseremonïau graddio yn sefydliadau partnerMet Caerdydd gan gynnwys Sefydliad UwchGwyddoniaeth a Thechnoleg ym Moroco,Academi Arabaidd Gwyddoniaeth a Thechnolegyn yr Aifft, Coleg Rhyngwladol Busnes aThechnoleg yn Sri Lanka ac Ysgol Reoli DwyrainAsia yn Singapore.

    Dathlu: Mae Myfyrwyr Rhyngwladol, sydd yn y llun gyda’r AthroMohamed Loutfi, Dirprwy Is-Ganghellor (Rhyngwladol) MetCaerdydd (ar y dde), wedi rhoi Met Caerdydd ar y brig yn y DU a thuhwnt am gymorth cyffredinol i fyfyrwyr rhyngwladol am y bumedflwyddyn yn olynol.

  • Mae lefel boddhad cyffredinol myfyrwyr MetCaerdydd ar ei huchaf erioed a Met Caerdyddsy’n dal i fod y ‘brifysgol newydd (ôl-1992)’uchaf ei safle yng Nghymru yn ArolwgCenedlaethol Boddhad Myfyrwyr (NSS).

    Mae’r arolwg annibynnol traws DU hwn, sydd wedi’igomisiynu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegrar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC),yn gofyn i israddedigion y flwyddyn olaf ar draws yDU i raddio addysgu, asesu, cymorth academaidd,trefniadaeth rhaglenni, adnoddau dysgu, datblygiadpersonol a boddhad cyffredinol yn y brifysgol.

    Dengys canlyniadau’r Arolwg yn 2014 fod 86% o’rymatebwyr ym Met Caerdydd yn cytuno neu’ncytuno’n gryf eu bod yn fodlon ar ansawdd eu cwrsyn gyffredinol.

    Mae adeilad newydd £14 miliwn Ysgol Gelf aDylunio Caerdydd yn gartref i’r Ffab Lab cyntafyng Nghymru sydd wedi’i achredu gan MIT(Massachusetts Institute of Technology).

    Bydd y labordy yn ehangu cyfleusterau prototeipiodigidol presennol yr Ysgol a bydd yn cynnwys ydechnoleg ddiweddaraf, a bydd yn sicrhau y caiffmyfyrwyr yr Ysgol y cyfle i ddefnyddio cyfleusterauo safon byd, gan gynnwys astudio dylunioofferynnau cerddorol a roboteg, ymchwil ar lefel ôl-raddedig a phrototeipio cynhyrchion argyfrifiaduron. Mae’r Ysgol Gelf a Dylunio yn aelodllawn o’r rhwydwaith Ffab Lab byd-eang. Dyma’rFfab Lab MIT cyntaf sydd wedi’i gysylltu â phrifysgol.

    Llwyddodd Cynllun Iaith Met Caerdydd i gyrraedd eidarged academaidd uchelgeisiol o ddyblu nifer ymyfyrwyr sy’n astudio’n rhannol neu’n gyflawn drwygyfrwng y Gymraeg erbyn diwedd cylch tair blyneddy Cynllun. Roedd 220 o fyfyrwyr yn ymgymryd agelfen o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2013-14.

    Mae’r Brifysgol yn gweithio’n agos gyda’r ColegCymraeg Cenedlaethol sy’n cyllido wyth aelodacademaidd o’r staff, un aelod o staff cymorth achwe myfyriwr PhD. Sicrhaodd cyllid o’r Coleg fodYsgol Addysg Caerdydd yn gallu gwella’i safle yn uno’r prif ddarparwyr rhaglenni Addysg-gysylltiedigdrwy gyfrwng y Gymraeg. Bellach, Met Caerdyddyw’r cyflenwr addysg cyfrwng Cymraeg mwyafmewn rhaglenni Chwaraeon a Busnes yngNghymru.

    Roedd yn dda gan Brifysgol MetropolitanCaerdydd i dair o’i hadrannau gyrraedd rhestrfer Gwobrau Arwain a Rheoli’r Times HigherEducation yn 2014.

    Ystyrir bod y gwobrau hyn yn dathlu’r gorau ynsector Addysg Uwch y DU a chafodd y Brifysgol eirhoi ar y rhestr fer am ‘Tîm Adnoddau DynolEithriadol’, ‘Menter TGCh Adrannol y Flwyddyn’, a‘Strategaeth Ryngwladol Eithriadol’.

    Cynnig profiad dysgu o ansawdd uchel

    Ffab Lab cyntaf Cymru, wedi’i achredu gan MIT (MassachusettsInstitute of Technology) ym Met Caerdydd.

  • Gweithio gydag eraill igryfhau Addysg Uwch Gan adeiladu ar fwy na 20 mlynedd ogydweithredu, mae Met Caerdydd wedi sefydlutrefniad partneriaeth ffurfiol gyda Choleg Pen-y-bont. Bydd y cytundeb yn canolbwyntio arfeysydd allweddol sydd o ddiddordeb i’r ddausefydliad, gan gynnwys rhaglenni newydd,cydweithredu mewn chwaraeon, er enghraiffthyfforddi unigolion elît ar y cyd, ac ymchwil agweithgaredd ysgolheigaidd. Bydd hyn ynychwanegu at gytundeb partneriaeth gyda CholegCaerdydd a’r Fro sydd hefyd yn canolbwyntio arfeysydd sydd o ddiddordeb i’r ddau sefydliad. Maegweithgareddau rhyngwladol yn y ddau Goleg AByn defnyddio arbenigedd a chysylltiadau'r staff yn ySwyddfa Ryngwladol ym Met Caerdydd..

    Ymunodd Stephen Terry, prif gogydd ar y ‘GreatBritish Menu’ â disgyblion ysgolion uwchradd ymMet Caerdydd i ddathlu pen-blwydd cynllunarloesol Campws Cyntaf yn 10 oed. Mae’r cynllunyn cael ei redeg mewn partneriaeth â gwahanolSefydliadau Addysg Uwch a Cholegau AddysgBellach yn Ne Ddwyrain Cymru ac yn cael ei gyllidogan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

    Mae’r Rhaglen Campws Cyntaf yn ategucwricwla ysgolion. Bwriad y rhaglen yw codilefel y cyfranogiad mewn Addysg Uwch ganamrywiaeth o grwpiau a chymunedau yngNghymru a helpu’r rheiny sy’n cymryd rhan ifagu hyder a sgiliau newydd. Mae gwahanol

    Mentor: Stephen Terry, prif-gogydd ‘Great British Menu’, ar y dde yny llun yn gweithio gyda myfyriwr o gynllun ‘Campws Cyntaf’ arGampws Llandaf, Met Caerdydd.

    ysgolion ac adrannau Met Caerdydd wedi cymrydrhan yn y cynllun oddi ar ei sefydlu 10 mlynedd ynôl.

    Cynigiodd Stephen Terry ei gefnogaeth i MetCaerdydd drwy sawl un o brosiectau lletygarwchCampws Cyntaf y Brifysgol, yn amrywio oddosbarthiadau coginio ac arddangosfeydd mewnysgolion hyd at groesawu grwpiau disgyblionCampws Cyntaf yn ei westy, yr Hardwick, yn y Fenni.

    Cafodd dau o ddarlithwyr PrifysgolMetropolitan Caerdydd GymrodoriaethauAddysgu Cenedlaethol gan yr Academi AddysgUwch.

    Mae Dr Tom Crick yn Uwch Ddarlithydd mewnCyfrifiadureg ac yn aelod o’r Cyngor Dysgu DigidolCenedlaethol. Yn 2013, bu’n gyd-gadeiryddAdolygiad Llywodraeth Cymru o’r cwricwlwm TGCh.Cafodd ei waith academaidd ei gydnabod yngyfraniad eithriadol sydd wedi cael effaithdrawsnewidiol.

    Cyflwynodd Jeff Lewis, sy’n ddarlithydd TechnolegDdeintyddol uwch, ddull arloesol sy’n defnyddiofideo gynadledda i gyflawni rhaglenni ar gyferdysgwyr sy’n byw mewn ardaloedd pell i ffwrdd.Cafodd Jeff ganmoliaeth am Ragoriaeth mewnaddysgu a chymorth dysgu mewn Addysg Uwch.

  • Gwnaeth llawfeddygon ym Mwrdd IechydPrifysgol Abertawe Bro Morgannwglawfeddygaeth arloesol i ail-lunio wyneb clafdrwy ddefnyddio’r ymchwil a’r gwaithdatblygu a wnaed gan Ganolfan PDR yBrifysgol. Credir bod defnyddio’r dull hwn ar gyferail-lunio wedi anafiadau ymhlith y cyntaf yn y byd.

    Drwy ddefnyddio argraffu 3D, creodd y tîm PDRmewnblaniadau titaniwm yn seiliedig arddelweddau o sgan CT ar gyfer claf a oedd aganafiadau difrifol i’w wyneb a gafodd mewndamwain ar feic modur. Mae cysylltiad hir dymorrhwng PDR ac Uned Lawfeddygaeth y Genau a’rWyneb yn ysbyty Treforys a’r GanolfanTechnolegau Ail-lunio Cymhwysol mewnLlawfeddygaeth ac mae’n cyfrannu i helpu i sefydluCymru yn arweinydd byd ym maes ymchwil,datblygiad a’r defnydd ar dechnolegau meddygoluwch mewn meddygaeth.

    Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan DiwydiantBwyd Met Caerdydd yn gweithio i helpu irwystro achosion o wenwyn bwyd rhagdatblygu ymhlith cleifion canser. Mae’r cleifionhyn bum gwaith yn fwy tebygol o godiafiechydon drwy fwydydd na phobl eraill.

    Darganfu arbenigwyr sy’n gweithio yn y Ganolfanfod cleifion canser yn aml yn bwyta bwyd parod ac,am eu bod yn teimlo’n gyfoglyd ac yn sâl oherwyddtriniaethau cemotherapi, weithiau caiff y bwydyddhyn eu gadael cyn eu bwyta am gyfnodau sy’n fwyna’r hyn a argymhellir.

    O ganlyniad i gyfres o grwpiau ffocws, datblygoddCanolfan Diwydiant Bwyd Met Caerdydd wybodaethac adnoddau diogelwch bwyd penodol ar gyfercleifion a gofalwyr er mwyn hybu trafod bwydmewn ffordd fwy diogel a helpu i atal achosionperyglus o wenwyn bwyd yn y grŵp bregus hwn.

    Comisiynodd FIFA, y corff sy’n llywodraethupêl-droed yn fyd-eang, dîm ymchwil o YsgolChwaraeon Caerdydd i ymchwilio a ywdatblygiad gorflinder mewn pêl-droed iddynion yn wahanol pan fyddant yn chwaraear gaeau gwair ac ar gaeau artiffisial. I FIFA ac i wneuthurwyr gwair, mae gorflinder ynfater o’r pwys mwyaf am fod cysylltiad rhyngddo a’rrisg o gael anafiadau a bod angen i gynnalnodweddion y gamp ar bob lefel o’r chwarae. MaeMet Caerdydd bellach yn un o’r prifysgolion mwyafblaengar yn y maes ymchwil hwn ac arweinioddllwyddiant prosiectau diweddar at sicrhau rhagor ogyllid gan FIFA a chyfleoedd i gydweithredu mwy.

    Mae Aimee Drane, Prif Eco-cardiograffydd ynYsgol Chwaraeon Caerdydd, yn rheoli prosiectarloesol ar iechyd anifeiliaid. Gan weithio gydasŵau a chyrff cadwraeth, mae’r Ysgol yn gyrru’rprosiect IPHP (International Primate Heart Project).Mae’r prosiect yn asesu iechyd y galon mewnepaod mawr, yn helpu i osod safonau eco-cardiograffig sy’n benodol i’r rhywogaeth, ac yncymharu strwythur a gweithrediad y galon ar drawsholl rywogaethau’r Epaod Mawr.

    Mae’r prosiect yn flaengar o ran cael hyd i ateb ibroblem epaod yn marw mewn sŵau ac ati oddolur y galon ac, os bydd y prosiect ynllwyddiannus, bydd modd ymestyn bywydauanifeiliaid, bydd yn arwain at raglenni bridio mwygrymus ac yn arbed arian i sŵau a gwarchodfeydd.

    Derbyniodd tîm o Ysgol Gwyddorau IechydCaerdydd gyllid yn ddiweddar oddi wrthTenovus, yr elusen canser, i ymgymryd âgwaith ymchwil i driniaeth adweitheg arloesolar gyfer menywod sy’n dioddef â lymffodemayn dilyn llawdriniaeth oherwydd canser y fron.Mae tua 20% o fenywod sy’n cael llawdriniaethcanser y fron yn dioddef â’r cyflwr hwn sy’n golygubod tasgau o ddydd i ddydd, e.e. codi pethau, ynfwy anodd.

    Partneriaethau ac ymchwileffeithiol a llewyrchus

    Ymchwil: Technolegau ail-lunio yn cael eu defnyddio ar y benglog ddynol.

  • Yn gryno

    Cynrychiolodd 15 o athletwyr Met Caerdydd 5 gwladmewn amrywiaeth o ddisgyblaethau yng Ngemau’rGymanwlad yn Glasgow yn 2014, gan gynnwys ycyn fyfyriwr Aled Davies, capten tîm Cymru (uchod),a gafodd y fedal arian yn y ddisgen i ddynion,categori F42/44, a’r myfyriwr presennol Mica Moorea redodd y trydydd cymal yn y ras gyfnewid 4 x100m i fenywod yn y rownd gyntaf ac yn y rowndderfynol.

    Enillodd Frankie Jones, y gymnastwraig rythmig agariodd baner Cymru yn seremoni agoriadolGemau’r Gymanwlad yn 2014, chwe medal ynGlasgow, y nifer fwyaf gan unrhyw athletwr o Gymrumewn Gemau unigol. Cafodd bum medal arian acun aur yng nghystadleuaeth y rhuban, sef eichystadleuaeth olaf cyn ymddeol ac ymuno â MetCaerdydd i astudio BSc (Anrh) Cyflyru, Adfer aThylino Chwaraeon.

    Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi lansiocyfleuster ymchwil newydd, CARIAD, (CanolfanYmchwil Cymhwysol mewn Dylunio a’r CelfyddydauCynhwysol). Mae’n gweithio i gynnwys pobl o bobrhan o’r byd mewn prosiectau amlddisgyblaetholsy’n ymwneud â’r celfyddydau gweledol apherfformio, iechyd, lles a chynhwysiantcymdeithasol, ac mae wedi’i lleoli yn Ysgol Gelf aDylunio Caerdydd.

    Dyma’r rhai a dderbyniodd Gymrodoriaethau erAnrhydedd gan y Brifysgol yn 2013-14: DavidAnderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol AmgueddfaGenedlaethol Cymru; Yr Athro Hossam Badrawi,Cadeirydd Sefydliad Badrawi ar gyfer Addysg aDatblygiad; Aimee Bateman, Hyfforddwr Gyrfaoedd;Yr Athro Emeritws Üstün Ergüder, Prifysgol Sabanci;Jon Horne, Ymgynghorydd Awyrennau; DebbieJevans CBE, Gemau Olympaidd; Saleem Kidwai OBE,Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd

    Cymru; Yr Athro Laura McAllister, CadeiryddChwaraeon Cymru; Rudi Plaut CBE PeiriannyddMecanyddol Siartredig; a Sean Power, gweithiwrproffesiynol ym maes Hyfforddi Chwaraeon.

    Cafodd Gareth Irwin, Athro a PhennaethBiomecaneg Chwaraeon yn Ysgol ChwaraeonCaerdydd, ei ethol yn Llywydd ISBS (InternationalSociety of Biomechanics in Sports).

    Enillodd Clwb Pêl-droed Menywod Met Caerdydddlws pencampwriaeth BUCS (ChwaraeonPrifysgolion a Cholegau Prydain) yn Ebrill 2014, fel ygwnaeth tîm rygbi menywod y Brifysgol âbuddugoliaeth 47-0 yn y gêm derfynol ynNhwickenham. Enillodd tîm criced menywod dando Met Caerdydd yr un teitl yn eu camp nhw.Enillodd Stephen Mitchell, myfyriwr TAR ym MetCaerdydd, deitlau Athletau BUCS yn y rasys 3000ma 5000m.

    Mae Richard McAndrew, myfyriwr TAR Uwchraddmewn Cemeg a Gwyddoniaeth yn Ysgol AddysgCaerdydd, yn dathlu ennill Gwobr Addysg aHyfforddiant nodedig Cwmni Lifrai Cymru. Rhoddir ywobr hon i’r unigolyn a ddangosodd y bydd e/hi’ndefnyddio’r wobr er lles pobl yng Nghymru ac ybydd yn gyfraniad gwerthfawr i’r celfyddydau, ygwyddorau neu i dechnoleg.

    Mae Met Caerdydd bellach yn ail flwyddyn eihaelodaeth o Adran Fyd-eang PrifysgolionSantander. Cafodd y staff a’r myfyrwyr bymthegdyfarniad yn amrywio o £1,000 hyd at £5,000, obob rhan o Met Caerdydd i’w galluogi i astudio neu iymchwilio mewn prifysgolion eraill o fewn AdranFyd-eang Prifysgolion Santander.

    Mae PDR Met Caerdydd wedi cynnig arbenigeddmewn dylunio defnyddwyr-ganolog a gwasanaethar gyfer cynllun tair blynedd i drin dementia yngNghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r cynllun wedi’igyllido gan brosiect SPIDER (cefnogi arloeseddmewn gwasanaeth cyhoeddus drwy ddefnyddiodylunio yn ardaloedd Ewrop).

    Enillodd Mike Stembridge, myfyriwr PhD MetCaerdydd, ‘Wobr Ymchwilydd Ifanc’ y ColegGwyddor Chwaraeon Ewropeaidd am ei waith ieffaith uchder mawr ar weithrediad y galon.

    Rhannodd dau ddarlithydd o Ysgol GwyddorauIechyd Caerdydd eu harbenigedd gyda myfyrwyrMaetheg yn Sefydliad Cenedlaethol Iechyd yCyhoedd yn Cambodia. Teithiodd Shirley Hinde a DrRuth Fairchild, y ddwy yn Uwch Ddarlithwyr mewnMaetheg, i Cambodia i addysgu’r myfyrwyr sy’nastudio ar gyfer gradd Meistr mewn Maetheg yno.

  • Israddedig

    Ymchwil

    Ôl-raddedig a addysgir

    Yn cael y safle uchaf yny DU am gymorth yn

    gyffredinol i fyfyrwyrrhyngwladol am bum

    mlynedd yn olynol

    Ailgylchwch y ddogfen hon.

    CricedMenywod yn ennill Cynghrair Dan Do BUCS Menywod yn ennill Pencampwriaeth Dan Do BUCSDynion yn ennill Cynghrair B Dan Do y Gorllewin

    AthletauDynion yn drydydd yn rasys Traws Gwlad BUCSAil ym Mhencampwriaeth Dan Do BUCSAil ym Mhencampwriaeth Awyr Agored BUCS

    TrampolinioEnnill Pencampwriaeth BUCS

    Pêl-fasged Menywod yn ennill Uwch Gynghrair y De BUCSMenywod yn ail yn rownd derfynol Cwpan CynghrairCenedlaethol

    HociUwch Gynghrair Hoci Dynion 3yddDynion Met Caerdydd wedi cynrychioli Cymruyng Nghynghrair Hoci Ewrop

    Pêl-droed Dynion yn ennill Cynghrair Pêl-droed Cymru,Adran 2Menywod yn ennill Pencampwriaeth BUCSMenywod yn ennill Uwch Ggynghrair CymruMenywod yn ennill Cwpan Cynghrair CymruMenywod yn ennill Cwpan CBC

    RygbiMenywod yn ennill Pencampwriaeth BUCSMenywod yn ennill Uwch Gynghrair y De (Tîm cyntaf)Dynion yn ail ym Mhencampwriaeth SWALEC URC

    Myfyrwyr wedi’u lleoli yng Nghaerdyddgan gynnwys myfyrwyr masnachfraint10000

    Addysg DrawsgenedlaetholGwledydd yn cynnwys:BangladeshBwlgariaYr AifftGroegHong KongIndiaLibanusMalaysia

    Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS)*

    Boddhad cyffredinol yn 86%*Y brifysgol newydd uchaf ei safle yng Nghymru

    Detholiad o Lwyddiannau Chwaraeon 2013-14

    Arolwg Myfyrwyr yn Gadael Addysg UwchCyfradd gyflogadwyedd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 95%

    Myfyrwyr wedi’u lleoli yn Llundain a thramor 6000

    BUCS

    Chwaraeon Prifysgolion a

    Cholegau Prydeinig

    MorocoSerbiaSingaporeDe KoreaSri Lanka.

    Cipolwg...Gwarged Cost Hanesyddol

    2002/03 – 2013/14

    Cyfanswm y Myfyrwyr

    16000

    Cyfanswm y Myfyrwyr

    16000