16
Arolwg Blynyddol 2012|13

2012/13 Arolwg Blynyddol

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: 2012/13 Arolwg Blynyddol

ArolwgBlynyddol2012|13

Page 2: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Datganiad Cenhadaeth Coleg Sir Benfro:Darparu’r profiad dysgu o ansawdd uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Nifer o orchestion mewn un flwyddynMae’n bleser gennyf gyflwyno Arolwg Coleg Sir Benfro ar gyfer 2012/13. Mae’r Coleg yn parhau i gynnal sefyllfa gref yn wyneb newid cyflym ym maes Addysg Bellach yng Nghymru.

Mae ein hansawdd - hynny yw, ein canlyniadau myfyrwyr - wedi gwella ymhellach – sydd yn dyst i wybodaeth, arbenigedd ac ymrwymiad ein staff. Mae’r canlyniadau mewn addysg bellach a dysgu yn y gwaith wedi gwella, ac mae ein myfyrwyr wedi cyflawni nifer o lwyddiannau ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae ein gweithgareddau ar y cyd wedi cael eu datblygu ymhellach. Mae’r rhain wedi cynnwys adolygiad ar y cyd o addysg a hyfforddiant 14-19 yn Sir Benfro gyda’r Cyngor Sir, a chynghrair gyda Phrifysgol Abertawe. Mae ein ffocws ar ddysgu yn y gwaith wedi arwain at ehangu’r Consortiwm, ac mae cyfraddau llwyddiant wedi codi’n sylweddol. Mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannu cynyddol, mae ein sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn iach, ac mae ein strategaeth o fuddsoddi parhaol mewn adnoddau ac isadeiledd y Coleg wedi cael ei chynnal.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Bwrdd Corfforaethol, y rheolwyr a’r staff am eu brwdfrydedd a’u balchder mewn darparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel ar gyfer ein rhanbarth.

Edrychaf ymlaen at eich croesawu i Goleg Sir Benfro yn fuan. Sharron Lusher, Pennaeth

Page 3: 2012/13 Arolwg Blynyddol
Page 4: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Y freuddwyd olympaidd wedi’i hatebYn 2012, cyflawnodd myfyriwr Coleg Sir Benfro, Jacob Thomas ei freuddwyd o gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y Gemau Paralympaidd. Fe wnaeth y myfyriwr gwyddor chwaraeon, Jacob, gystadlu yn y gemau yn y gystadleuaeth Boccia, camp manwl gywir tebyg i Boules. Cafodd y gamp ei datblygu yn wreiddiol ar gyfer pobl â pharlys yr ymennydd, ond nawr caiff ei chwarae gan bobl o bob gallu ac anallu. Ystod 2012/13 Jacob oedd Pencampwr Boccia Cymru a Phrydain ac roedd yn un o naw o chwaraewyr a gynrychiolodd Prydain yn y Gemau Paralympaidd, “Ro’n i mor gyffrous am chwarae, roedd hyn wir yn fy mreuddwyd yn dod yn wir. Fe wnes i ymarfer yn galed ar gyfer hyn, rhwng wyth a deg awr yr wythnos. Fy nod fawr nesaf yw cynrychioli fy ngwlad a fy nghamp ym Mrasil,” meddai Jacob.

Jacob ‘Dysgwr y Flwyddyn’-ColegauCymru Yn ystod 2012/13, coronwyd Jacob hefyd yn ‘Ddysgwr y Flwyddyn’ ColegauCymru. Mae ColegauCymru yn sefydliad cenedlaethol sy’n cynrychioli pob un o’r 17 coleg addysg bellach (AB) a 2 sefydliad AB yng Nghymru. Cynhaliwyd seremoni wobrwyo flynyddol yng Nghaerdydd i ddathlu dysgwyr ac athrawon rhagorol ar draws Cymru. Ar ôl ennill y wobr, dywedodd Pennaeth y Coleg Sharron Lusher: “’Dyn ni’n hynod falch o Jacob – ei orchestion a’i agwedd tuag at fywyd ac astudio yn y Coleg. Mae’n fraint gennym ein bod wedi gallu ei enwebu ar gyfer y wobr hon, gwobr y mae e yn ei haeddu.”

Page 5: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Dywedodd mam Jay, Lisa, “Mae’r gefnogaeth a’r anogaeth gan bawb wedi bod yn anhygoel. Mae hyn wedi bod yn brofiad dysgu cadarnhaol tu hwnt i fy mab.”

Roedd cyrchfannau prifysgol eraill y myfyrwyr yn cynnwys: Prifysgol Caeredin, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Kingston.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig cyrsiau Lefel A ar-lein i fyfyrwyr i’w hastudio gartref neu dramor. Roedd Max Robinson, 28, yn hynod falch o’i ganlyniadau - B mewn Bioleg ac A mewn Cemeg. Dangosodd Max bod canolbwyntio a bod yn benderfynol yn gallu arwain at yr union beth rydych chi eisiau, hyd yn oed tra’n gweithio mewn swydd lawn-amser gyda Sign Box yn Nhredeml a gwneud gwaith gwirfoddoli!

Canlyniadau Lefel A 2012/13Gwelwyd canlyniadau Lefel A da rhagorol yn y flwyddyn academaidd hon gyda chynnydd o 1.6 % ar gyfer graddau A* (a oedd yn uwch na’r cymharydd cenedlaethol). Yn ogystal, gwelwyd cynnydd sylweddol yn y canlyniadau Uwch Gyfrannol (AS) ar y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd y myfyriwr uchelgeisiol, Jay Burnet (A*, A, A, A), “Mae’r Coleg wedi rhagori ar fy nisgwyliadau, ac mae’r diolch i gyd i dîm gwych o ddarlithwyr gwyddoniaeth a mathemateg.” Casglodd Jay, a fydd yn astudio Ffiseg ym Mryste, ei ganlyniadau a siec o £1,000, fel rhan o’r bwrsari STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) yn y Coleg.

Page 6: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Student Success

Y Cyffyrddiad EuraiddDisgleiriodd myfyrwyr celf ewinedd talentog Coleg Sir Benfro yng nghystadlaethau WorldSkills Y DU 2012 gan ennill y medalau aur ac efydd. Daeth WorldSkills Y DU â’r prentisiaid mwyaf talentog , cyflogwyr a dysgwyr ynghyd mewn Sioe Sgiliau 3 diwrnod a gynhelwyd yn yr NEC, Birmingham. Cynrychiolodd y myfyrwyr Celf Ewinedd, Oksana Cooper a Kirsty Bushen y Coleg yn y digwyddiad sgiliau proffil uchel ynghyd â therapyddion harddwch a therapyddion cyflenwol o’r Coleg. Y thema oedd ‘The Midas Touch’, ac yn wir fe wnaeth cynllun celf ewinedd Oksana droi yn aur wrth iddi dderbyn y marc uchaf yn ei chategori, gan guro’r cystadleuwyr eraill o bob cwr o’r DU.

Roedd ei chyd-fyfyriwr Kirsty yn agos ar ei hôl ac enillodd yr efydd am ei dehongliad o’r foeswers Roegaidd hynafol. Mynychodd y Gweinidog Sgiliau, Matthew Hancock, y digwyddiad a dywedodd: “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr eleni. Dyma sgiliau ar eu gorau. Rydyn ni’n dathlu ac yn cyfarch eu sgiliau. Helpodd sgiliau galwedigaethol wneud y DU mewn cenedlaethau a fu a bydd sgiliau galwedigaethol yn adeiladu dyfodol Prydain. Rydw i’n mawr obeithio y bydd enillwyr heddiw yn ysbrydoli sêr yr yfory.”

Page 7: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Buddugoliaeth Pobi Cymru i Betsan Defnyddiodd myfyrwraig y Coleg Betsan Towse ddoniau pobi a etifeddodd gan ei mam i ennill y brif wobr mewn cystadleuaeth goginio Cymru gyfan. Brwydrodd Betsan, myfyrwraig Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2, a phump arall o bob rhan o’r wlad yn y rownd derfynol er mwyn ennill cystadleuaeth Patisserie Sgiliau Cymru.

Triniwr gwallt y Coleg ymysg y goreuon!Profodd myfyriwr trin gwallt bod ganddi’r hyn sydd ei angen i sefyll allan yn y diwydiant ar ôl cipio’r ail wobr yn y gystadleuaeth ‘Avant Garde’ yng nghystadleuaeth fawreddog Salon Cymru 2013 a drefnwyd gan Hyfforddiant ISA. I Nikki Nelson, triniwr gwallt dan hyfforddiant o Cross Hands, dyma oedd ei hail fuddugoliaeth yn y digwyddiad pwysicaf ar gyfer trin gwallt creadigol ar ôl cipio’r wobr gyntaf y llynedd yn y categori ‘Vamp it up!” Cymerodd Nikki ran yn y gystadleuaeth categori ‘Avant Garde’ a gyn-haliwyd yn Stadiwm Swalec, Caerdydd lle roedd y beirniaid yn chwilio am steilyddion i greu edrychiad wedi ei ysbrydoli gan eicon cerddoriaeth o gyfnod o’u dewis.

Gyda beirniaid yn sgorio ar nifer o feini prawf yn cynnwys taclusrwydd, cymhlethdod yr arddull ac ansawdd y steil gorffenedig yn gyffredinol, gan gynnwys colur a gwisg, daliodd creadigaeth Nikki a gafodd ei ysbrydoli gan y 1920au lygad y beirniaid. Dywedodd Nikki: “Es i am edrychiad y 1920au gan ‘mod i’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn mynd am yr 80au ac ro’n i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol a fyddai’n sefyll mas”.

Cadwraethwyr cymunedol yn rhannu diwrnod arbennig gyda’r Parc Cenedlaethol Enillodd un deg tri o breswylwyr Gofal yn y Gymuned Tyddewi Wobr Cadwraeth yn dilyn rhaglen dwy flynedd gyda’r Parc Cenedlaethol, gyda chefnogaeth gan yr Ym-ddiriedolaeth Cenedlaethol a myfyrwyr Coleg Sir Benfro fu’n gweithio tuag at eu Diploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“I’r myfyrwyr, baswn i’n dweud bod y prosiect hwn wedi dod yn rhan annatod o’u cwricwlwm a phrofiad gofal cymdeithasol gwerthfawr,” meddai cydlynydd y prosiect Liz Taylor. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan y myfyrwyr a’r trigolion a esboniodd yr amrywiaeth o waith roedden nhw wedi’i wneud gan amlinellu’r gwersi gwerthfawr roedden nhw wedi’u dysgu.

Myfyrwyr ar Sbringfwrdd i lwyddiantMae gan Goleg Sir Benfro dîm o weithwyr arlwyo proffesiynol eithriadol, yn hyfforddi myfyrwyr ifanc i fod yn brif gogyddion y dyfodol. O blith y llwyddiannu arlwyo yn 2012/13 oedd y myfyriwr Tom Morgan, 16 oed o Aberporth – fe oedd enillydd lleol cystadleuaeth 2013 Prif Gogydd y Dyfodol Springboard. Y brîff oedd creu a choginio pryd o fwyd dau gwrs mewn 40 munud gyda chyllideb gyfyngedig o £7.00.

“Mae’r myfyrwyr sy’ wedi cystadlu heddi wedi bod yn eithriadol. Galla i ddweud yn onest eu bod yn rhai o’r cogyddion ifanc gore dw i wedi gweld yng Nghymru,” Neil Medhurst, Rheolwr Springboard

Gorchestion

Dywedodd 93% o fyfyrwyr eu bod yn mwynhau dysgu. Mae cyfradd pasio Lefel A yn 99%. Mae cyfraddau llwyddiant cyffredinol yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae cyrhaeddiad cyffredinol yn 95%. Mae cyfradd cwblhau’n llwyddiannus yn 83%Weldwyr talentog yn gwneud eu marcBu weldwyr ifanc talentog o’r Coleg yn cystadlu yn erbyn rhai o’r weldwyr ifanc gorau yn y DU mewn ymgais i fynd adre â’r teitl Prentis Weldiwr BOC UK y Flwyddyn.

Cynhaliwyd rownd derfynol y gystadleuaeth bwysig hon yn ystod Hydref 2012 yn yr Athrofa Weldio (TWI) yng Nghaergrawnt. Yn ystod y digwyddiad tri diwrnod gwelwyd wyth prentis ifanc gobeithiol yn cwblhau rhai tasgau weldio heriol iawn wrth i’r beirniaid geisio dod o hyd i’r gorau o’r goreuon. I gyrraedd y rownd derfynol roedd y cystadleuwyr eisoes wedi llwyddo yn rowndiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y gystadleuaeth gyda Neil Brace, prentis gyda Mainport 1990, a Billy Davies, prentis gyda Pheirianwyr Jenkins & Davies, yn ennill y wobr gyntaf a’r ail wobr yn rownd derfynol Cymru. A hwythau eisoes wedi’u coroni y gorau yng Nghymru, roedd Neil a Billy yn barod ar gyfer yr her o gystadlu yn erbyn y gorau o weddill y DU.

Page 8: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Scott yn troi ei efydd yn aurUn arall a ddaeth yn Bencampwr Sgiliau Cymru yn 2012/13 oedd Scott James, 19 oed, o Solfach. Daeth Scott, prentis peirianneg, nôl â’r fedal Aur yn y gystadleuaeth Turnio a gynhelwyd yng Ngholeg Sir Gâr, ac yn ddiweddarach aeth ymlaen i rownd Pencampwriaethau WorldSkills y DU. Y brîff oedd cynhyrchu Plymen efydd mewn 6 awr. Cafodd darn buddugol Scott, a gynhyrchodd mewn 5 awr, ei feirniadu ar oddefiannau, cywirdeb a manylder.

Mae Scott, sy’n cael ei gyflogi gan St Davids Assemblies LTD, cwmni sy wedi’i sefydlu fel un o gyflenwyr cydrannau manwl mwyaf blaenllaw y DU, yn cael cyfoeth o brofiad gan gwmni arloesol iawn. Profodd hyfforddiant Scott yn y gweithle, ynghyd â dysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu ymarferol, i fod yn werthfawr i bawb.

Page 9: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Peirianwyr yn cipio’r wobr EESWRoedd peirianwyr addawol wrth eu bodd ar ôl ennill gwobr am y ‘Prototeip Gweithio Gorau’ yn Niwrnod Gwobrau Cynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW). Roedd y myfyrwyr ymhlith mwy na 60 o ysgolion a cholegau fu’n cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol a gynhelwyd yn y Celtic Manor, yn annog pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn peirianneg.

I’r myfyrwyr Elliott Llewellyn, Jack Dalkin, Hatti Sonley, Byron Phillips a Sam Dolling, rhoddodd y digwyddiad gyfle iddyn nhw arddangos eu dyluniad a oedd yn cyflwyno ateb i brîff go iawn a osodwyd gan Dragon LNG. Ar ôl ei roi ar waith, roedd hyn yn galluogi’r pwll falf gael ei gadw’n rhydd o ddŵr, gwella’r gallu i weithredu a gwella disgwyliad oes ar gyfer y falfiau gyda’r cyfleuster ychwanegol o anfon larwm lefel uchel i’r ystafell reoli pe byddai lefel uchel o ddŵr yn cyrraedd am unrhyw reswm.

Academi Pêl-droed y Coleg yn dathlu ar ôl derbyn statws Coleg FfocwsRoedd academi pêl-droed y Coleg yn un o wyth ar draws Cymru i ennill statws Coleg Ffocws Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) yn ystod 2013. Yn ystod seremoni wobrwyo a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, cyflwynwyd tystysgrifau i gynrychiolwyr o bob un o’r colegau llwyddiannus gan Reolwr Cymru, Chris Coleman a Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau.

Er mwyn ennill y wobr bwysig hon, bu rhaid i’r Coleg gwrdd â meini prawf perfformiad a rheolaeth llym sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth pêl-droed yn y Coleg. Roedd hyn yn cynnwys archwiliad gan Swyddog Datblygu FAW a phanel adolygu.

Cyfle newid bywyd traws-Iwerydd i OliviaCafodd myfyriwr Lefel A Coleg Sir Benfro, Olivia Collens, ei chydnabod am ei gallu academaidd gyda’r cyfle i gymryd rhan yn Ysgol Haf Ymddiriedolaeth Sutton yn yr Unol Daleithiau. Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 1997 gan y Cadeirydd Syr Peter Lampl i wella symudedd cymdeithasol drwy addysg. Mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi ariannu dros 200 o raglenni, fel y fenter ysgol haf, sydd yn cynnig blas ar fywyd prifysgol i ieuenctid dawnus.

Mae’r rhaglen y cymerodd Olivia ran ynddi yn canolbwyntio ar ysgol haf un wythnos ym Mhrifysgol Yale, gyda digwyddiadau rhagarweiniol a chymorth ymgeisio cyn ac ar ôl yn y DU.

Mae’r rhaglen yn darparu cyfranogwyr ag ystod eang o weithgareddau i’w helpu i wneud y penderfyniadau cywir am addysg uwch. Bydd Olivia nawr yn gwneud cais i astudio ar gyfer ei gradd yn yr Unol Daleithiau.

Blociau amgylcheddol yn llosgi’n llachar Rhoddodd myfyrwyr amgylcheddol-ymwybodol bapur gwastraff at ddefnydd da drwy wneud blociau papur sych i’w defnyddio ar danau agored. Fel rhan o’u sesiynau Byd Gwaith, ymchwiliodd myfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs Pontio a’r cwrs Cornerstone yn y Coleg i effaith torri coed ar gyfer coed tân ac edrychon nhw ar wledydd o gwmpas y byd sy’n cynhyrchu blociau papur fel dewis amgen i losgi pren neu glo go iawn. Fel rhan o’u hastudiaethau trafododd y myfyrwyr hefyd ddiwydiannau cartref a’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer gweithio gartref. Rhoddwyd y blociau pap-ur sych i Blwyf Hill Park.

Gorau yr yfory yn barod i wasanaethu ein gwladYn 2013 fe wnaeth myfyrwyr y Coleg ar gwrs Paratoi ar gyfer y Fyddin dyngu Llw Teyrngarwch i’w Mawrhydi mewn seremoni a gynhaliwyd yn Swyddfa Gyrfaoedd y Fyddin yn Hwlffordd. Bu rhieni balch yn dystion i’r achlysur hwn, ynghyd â thiwtoriaid y Coleg a phersonél y fyddin. Dywedodd yr Uwch-ringyll John Warlow bod y garfan yn un “hynod ac un a wnaeth greu argraff”. Bydd y myfyrwyr Owyn Shields, Willis Ashby, Ashley Watts, Alex Hilmer-Hill, Ryan Coaker, Daniel Heeps, Jack Davies a Cheyne Lloyd-Neal nawr yn mynychu un o ysgolion hyfforddi gorau’r fyddin yn y wlad – AFC Harrogate yng ngogledd Swydd Efrog, lle byddan nhw’n ymgymryd â rhaglen hyfforddi llym o 23 wythnos. Bydd y rhan fwyaf o’r garfan hon yn ymuno â Chatrawd Frenhinol Cymru, ac eithrio Owyn Shields a ymrestrodd gyda’r Gwarchodlu Cymreig.

“’Dw i’n barod ar gyfer bywyd yn y fyddin, mae rhai o fy mherthnasau eisoes yn gwasanaethu felly mae gen i syniad da beth i’w ddisgwyl. Dw i’n ymuno â chorfflu’r troedfilwyr ac yn disgwyl rhoi fy ymrwymiad llawn i’r fyddin”, meddai Owyn yn frwdfrydig.

Y cogyddion gorau yn mentora myfyrwyr arlwyoY Cogydd aml-arobryn a pherchennog clodfawr y Purple Poppadom yng Nghaerdydd, Anand George, oedd y cogydd gwadd proffil uchel diweddaraf i gael ei wahodd i’r coleg. Cyflwynodd Anand gysyniad newydd o Goginio Indiaidd - Indian Nouvelle Cuisine - i fyfyrwyr arlwyo trwy gyflwyno theori a dulliau dysgu ymarferol. Cafodd pryd o fwyd Indiaidd coeth ei gyflwyno gan fyfyrwyr Arlwyo Proffesiynol mewn noson hynod lwyddiannus.

Mae myfyrwyr arlwyo y Coleg wedi elwa o gyfres o nosweithiau arbennig a gynhaliwyd gan gogyddion gwadd, yn cynnwys Prif Gogydd Dominic Ashworth o fwyty Jamie Oliver yng Nghaerdydd, a chyn-fyfyriwr y Coleg Christian Fuchs a dreuliodd amser yn hyfforddi fel Cogydd yn Cowarth Park yn Ascot cyn cymryd drosodd y Silverdale yn Hwlffordd.

Gorchestion

Page 10: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Pob tocyn ar gyfer cynhyrchiad y celfyddydau perfformio wedi gwerthuYm Mai 2013 gwelwyd myfyrwyr Y Celfyddydau Perfformio yn cymryd yr her o berfformio Les Miserables yn Theatr Myrddin.

Agorodd y swyddfa docynnau a gwerthwyd y tocynnau mewn chwinciad; dyma’r cynhyrchiad sydd wedi gwerthu gyflymaf hyd yn hyn! Rhoddodd y myfyrwyr berfformiad dirdynnol, heb un llygad sych yn y tŷ.

Yr hyn wnaeth y perfformiad yn un rhagorol oedd yr ymrwymiad a’r angerdd amlwg i’r sgript gymhleth a heriol hon. Yn ystod ymarferion dysgodd myfyrwyr am eu hunain a sut mae cymeriadau - a phobl go iawn - yn datblygu ac yn newid drwy gydol eu bywydau.

Page 11: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Catrin ynghanol y PengwiniaidLlwyddodd y fyfyrwraig, Catrin Thomas, i gael ei swydd ddelfrydol ar ôl astudio’r cwrs Diploma Estynedig mewn Gofal Anifeiliaid. Daeth Catrin, sydd bellach wedi symud ymlaen i astudio’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Gwyddor Anifeiliaid yn y Coleg, ynghyd â Cheidwad Sŵ Fferm Folly Caroline Gregory (sydd hefyd wedi astudio Gofal Anifeiliaid yng Ngholeg) yn Geidwaid Pengwiniaid yn y caeadle pengwiniaid newydd. Ar ôl cwblhau ei lleoliad gwaith yn Fferm Folly, cynigiwyd swydd lawn-amser i Catrin gyda’r tîm sŵ ac mae bellach wedi sicrhau un o’r swyddi mwyaf cyffrous yn Sir Benfro.

Roedd Catrin a’r Rheolwr Sŵ ynghyd â gweddill y tîm sŵ yn rhan o’r gwaith o ddylunio’r caeadle a pharatoi ar gyfer cyrhaeddiad y pengwiniaid; roedd hyn yn cynnwys taith i sŵ Newquay, o le daeth chwech o bengwiniaid Fferm Folly, er mwyn iddi hi ddod yn gyfarwydd â’r drefn fwydo a thrin yr adar hyn.

Myfyrwyr yn mynd i’r Almaen ar gyfer yr Her Entrepreneuriaeth Fyd-eangYm mis Mehefin, aeth wyth myfyriwr y Coleg i’r Almaen ar gyfer her fyd-eang i ddangos eu sgiliau entrepreneuraidd. Enillodd y myfyrwyr rownd derfynol Entrepreneuriaeth Cymru yng Nghaerdydd, gan guro dros 100 o fyfyrwyr eraill o 18 coleg ledled Cymru cyn mynd i’r EuroHub yn Mainz, Yr Almaen, i gystadlu yn erbyn myfyrwyr o bob rhan o’r byd. Heb unrhyw syniad ymlaen llaw o beth fyddai’r her, roedd ganddyn nhw 12 awr yn unig i ddyfeisio menter oedd yn ymateb i’r her a osodwyd.

Enillodd yr wyth myfyriwr - James Newman, Matthew Cooper, Joseph Thomas, Charlie Managhan, Amy King, Sophie Reynolds, Jess Webb a Cheyenne Richards-Wright - rownd derfynol Her Entrepreneuriaeth Fyd-Eang Cymru ar ôl dod i fyny â’r syniad o frand dillad pobl ifanc fforddiadwy i bawb ac yn gallu bod yn “cŵl.”

Dathlu prentisiaethau DUYn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ymwelodd Jeff Cuthbert. y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, â Choleg Sir Benfro i gwrdd â chyflogwyr a dysgwyr.

Trwy gydol Wythnos Prentisiaethau cynhaliodd y Coleg sesiynau galw i mewn lle gallai cyflogwyr siarad ag ymgynghorydd a chael gwybod mwy am brentisiaethau. Drwy’r sesiynau hyn, roedd y Coleg yn gobeithio lledaenu gwerth prentisiaethau i fusnesau ar draws yr holl sectorau yn Sir Benfro a thu hwnt.

Gyda’r thema ‘Prentisiaethau yn Darparu’, yn ystod ei ymweliad ar 14 Mawrth, treuliodd y Dirprwy Weinidog amser yn siarad â chyflogwyr am y manteision y gall prentisiaid ddod i’w busnesau, ynghyd â sut y gall y Coleg helpu i’w cefnogi â’u hanghenion sgiliau ehangach. Yna, ymunodd y Gweinidog â chyflogwyr a dysgwyr am ginio lle cafodd y cyfle i siarad â phobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn astudio ar y llwybr prentisiaeth i ddarganfod pam eu bod wedi dewis prentisiaeth a sut yr oeddynt o fudd iddyn nhw.

Y wobr gyntaf ar y cynnig cyntafLlongyfarchwyd myfyrwyr Cornerstone ar eu buddugoliaeth yng nghategori Celf a Dylunio yng nghystadlaethau Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro. Enillodd y grŵp y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth creu darn gwaith celf 2D i fyfyrwyr o dan 25 oed ag anghenion dysgu ychwanegol. Dyma’r tro cyntaf erioed i’r myfyrwyr gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.

Roedd y darn buddugol yn seiliedig ar y thema a osodwyd gan yr Urdd ‘Patrymau’r Amgylchfyd’ a chreodd y myfyrwyr ddarn trawiadol ac unigryw dan arweiniad eu tiwtor, Heidi Baker. Roedd y gwaith yn seiliedig ar batrwm ‘Y Gellygen Gymreig’, a welir yn aml ar y siôl a wisgir gyda’r wisg Gymreig, a thu mewn i’r patrwm persli gellid gweld syniadau’r myfyrwyr o’r patrymau o fewn yr amgylchedd.

“Gwnaeth y myfyrwyr waith hyfryd, yn gwneud llunIau arsylwadol o blanhigion y goedwig a’u rhoi gyda’i gilydd i wneud dyluniad trawiadol”, meddai Heidi.

2012 - 2013: 50 o bencampwyr Sgiliau wedi’u coroni. 40 o gemau Academi Chwaraeon wedi’u chwarae.

Gorchestion

Page 12: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Tiwtor Digidol y FlwyddynRoedd y dyfodol yn edrych yn fwy disglair i lawer o bobl ddi-waith hir-dymor yn Sir Benfro, diolch i waith tiwtor Coleg Sir Benfro, Emma James a’r ffonau symudol a ddaeth â dysgu, cyfleoedd ac anogaeth dyddiol iddynt. Yn seremoni wobrwyo Niace (a gynhelwyd yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd), cafodd Emma ei hanrhydeddu am ei hymroddiad diflino i roi hwb i sgiliau a hyder ei myfyrwyr drwy dechnoleg symudol. Ers ymuno â’r Coleg, mae Emma wedi bod yn gysylltiedig â nifer o brosiectau cymunedol ac mae wedi helpu llawer o bobl yn yr ardal i ddatgloi eu potensial a mynd yn ôl i mewn i waith.

Wrth chwarae rhan flaenllaw ym mhrosiect mCymuned y Coleg, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy raglen trawsffiniol Iwerddon Cymru (2007-2013), defnyddiodd Emma ffonau symudol i ddarparu cymorth dysgu un-i-un a chymorth i chwilio am swydd i unigolion a oedd yn aml ar ymylon cymdeithas.

Page 13: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Y Coleg yn sicrhau Gwobr Platinwm Safon Iechyd GorfforaetholYn ystod 2012/13, ychwanegodd y Coleg at ei gyfres o wobrau drwy ennill Gwobr Platinwm Safon Iechyd Gorfforaethol Llywodraeth Cymru. Dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Coleg, Kathryn Robson, “Fel un o dim ond pum cyflogwr yng Nghymru, a’r ail Goleg i gyflawni hyn, mae’r wobr bwysig hon yn gyflawniad sylweddol na fyddai’n bosibl heb waith caled ac ymrwymiad tîm ardderchog o staff.

“Gwnaeth rheolaeth o’n cyfleusterau ac agweddau amgylcheddol/cynaliadwyedd argraff arbennig o dda ar yr aseswyr ynghyd â’r partneriaethau cymunedol a’r cynllun gwirfoddoli drwy’r Diwrnod Gwneud Gwahaniaeth.”

Mwy o gynabyddiaeth gwyrdd i’r ColegGan barhau â’i ymrwymiad i leihau ei ôl troed carbon, cafodd y Coleg ei gydnabod unwaith eto am ei nodweddion gwyrdd drwy gyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori o’r gwobrau ‘Green Gown’.

Gyda chyfres o wobrau eisoes i ddangos ein hymrwymiad i wella’r amgylchedd, mae’r Coleg ar flaen y gad o wneud adeiladau mawr yn gynaliadwy. Yng ngwobrau 2012, gwelodd y Coleg ei ddau gais yn cyrraedd y rhestr fer: Gwelliant Parhaus: Newid Sefydliadol; a Moderneiddio - Effeithiolrwydd ac Effeithlonrwydd yn yr Ystâd (categori newydd ar gyfer 2012). Wedi’u lansio yn 2005, mae gwobrau ‘Green Gown’ yn cydnabod mentrau cynaliadwyedd eithriadol a wneir gan brifysgolion a cholegau ar draws y DU.

LocalEyes Yn ystod 2012/13, dechreuodd y Coleg gefnogi busnes lleol wrth ddatblygu gwasanaeth ar-lein arloesol newydd (Local-Eyes) sy’n galluogi unrhyw gymuned i gasglu syniadau, eu graddio a’u trafod cyn penderfynu pa syniadau y dylid eu rhoi ar waith.

Helpodd arbenigwyr y Coleg mewn rhyngweithio dynol a chyfrifiadurol (HCI) y busnes i ddatblygu eu gwasanaeth newydd drwy ddefnyddio’r Coleg fel ‘mainc arbrofi.’ Dadorchuddiwyd y llwyfan ar-lein arloesol sy’n ymgysylltu dysgwyr, eu hysbrydoli i ddod i fyny â, a graddio syniadau ei gilydd i wella bywyd y Coleg, yn y gynhadledd AoC lle gwnaed ymchwil i bennu a yw ‘LocalEyes’, ar ffurf Llais y Dysgwr, wedi apelio ymhellach i ffwrdd.

Mae’r Coleg wedi bod yn defnyddio’r system ‘LocalEyes’ ers mis Medi 2011 i danategu ei strategaeth Llais y Dysgwr a chynyddodd rhyngweithiadau o tua 100 i 15,000 mewn dim ond deuddeg mis.

Llwyddiant yng Ngwobrau RoSPA 2013 i Goleg Sir BenfroCafodd dull y Coleg tuag at iechyd a diogelwch galwedigaethol ei gydnabod mewn cynllun gwobrwyo gan elusen ddiogelwch Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA). Enillodd y Coleg y Wobr Aur yng Ngwobrau Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol RoSPA 2013. Yn dyddio yn ôl i 57 mlynedd, cynllun Gwobrau RoSPA yw’r rhaglen fwyaf a hynaf o’i math yn y DU. Mae’n cydnabod ymrwymiad i atal damweiniau ac afiechyd ac mae’n agored i fusnesau a sefydliadau o bob math a maint o bob cwr o’r DU a thramor. Mae’r cynllun nid yn unig yn edrych ar gofnodion damweiniau, ond hefyd systemau rheoli iechyd a diogelwch cyffredinol ymgeiswyr, gan gynnwys arferion fel arweinyddiaeth a chyfranogiad y gweithlu.

Gwobrau Nod Siarter olynol yng NgwasanaethCyhoeddus 2004-2012.Dywedodd Estyn, “Mae’r Coleg yn cynrychioli gwerth gwych am arian”.

Ansawdd

Page 14: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Johnny Ball yn ysbrydoli rhieni a disgyblionEr mwyn helpu rhieni i wneud synnwyr o’r holl wahanol gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr ôl -16, estynodd y Coleg wahoddiad i rieni a disgyblion i ddigwyddiad a gynhaliwyd gan y cyflwynydd teledu Johnny Ball.

Fel rhan o’r digwyddiad, cafodd cymwysterau ôl-16 a llwybrau dilyniant eu hesbonio i helpu rhieni a disgyblion ddeall y cyfoeth o wahanol gymwysterau sydd ar gael, gan gynnwys Lefel A, Diplomâu, Prentisiaethau a Hyfforddiaethau i’w helpu i ganolbwyntio ar y cymwysterau sydd fwyaf priodol i’w galluoedd a’u dyheadau yn y dyfodol.

Yn dilyn y digwyddiad dywedodd rhieni: “Roedd y digwyddiad yn llawn gwybodaeth.” “Doedd gen i ddim syniad y gallai Prentisiaethau arwain at astudio ar lefel gradd.” “Roedd Johnny Ball yn ardderchog.” “Dydy fy mab ddim yn academaidd iawn. Dw i nawr yn sylweddoli y gallai’r llwybr diploma neu brentisiaeth fod yn well iddo na Lefel A.” “Diolch am daflu goleuni ar opsiynau ôl-16. Dw i’n credu y byddai rhan fwyaf o rieni’n elwa ar fynychu digwyddiad tebyg.”

Page 15: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Prosiect yn cynnig gobaith i raddedigion di-waithHelpodd prosiect arloesol a ddarparwyd gan Goleg Sir Benfro, ar y cyd â Choleg Gŵyr Abertawe a TSSG (Grŵp Telathrebu, Meddalwedd a Systemau yn Iwerddon), raddedigion di-waith i hybu eu sgiliau a chynyddu eu siawns o gael gwaith yn ystod 2012/13.

Mae yna nifer cynyddol o raddedigion yn dychwelyd adref ar ôl methu dod o hyd i gyflogaeth; gwelir hyn yn Sir Benfro, Dinas a Sir Abertawe a ledled y wlad. Yn y gobaith o helpu graddedigion lleol i fynd yn groes i’r duedd hon, defnyddiodd y prosiect mCymuned dechnoleg symudol ynghyd â thiwtoriaid personol i ymgysylltu â graddedigion a dadansoddi’r sgiliau sydd eu hangen i wella er mwyn cynyddu lefel eu cyflogadwyedd.

Canfu’r prosiect, er bod gan lawer o raddedigion y gallu academaidd i wneud y gwaith, roedden nhw’n aml yn ddiffygiol yn rhai o’r sgiliau mwy meddal sydd eu hangen i sicrhau cyflogaeth, fel cyfathrebu effeithiol, sgiliau rhagweithiol a sgiliau bywyd sylfaenol – dyma’r sgiliau roedd y tiwtoriaid personol yn helpu graddedigion i’w datblygu.

Llwyddiant y siop goffi elusennolProfodd menter ar y cyd rhwng Coleg Sir Benfro ac elusen leol Sefydliad Paul Sartori, i fod yn llwyddiant mawr yn dilyn lansio’r fenter yn 2012. O dan y cynllun cyflogaeth, gyda’r nod o helpu pobl ifanc i ennill sgiliau a phrofiad yn y diwydiant gwasanaeth cwsmer a lletygarwch, gwelwyd y chwech person ifanc cyntaf i gymryd rhan yn y rhaglen yn ennill cyflogaeth o fewn y sir. Gweithiodd y Cydlynydd Prosiect ar y Cyd, Alex Findlay, gyda’r bobl ifanc a dywedodd: “Mae wedi bod yn foddhad mawr i weld y bobl ifanc hyn yn tyfu mewn hyder a datblygu cyfres o sgiliau trosglwyddadwy a fydd o fudd iddyn nhw mewn unrhyw sefyllfa yn y dyfodol beth bynnag yw’r sector.”

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Camau i Gyflogaeth neu ran o’r rhaglen 12 wythnos hon, fe wnaeth y chwe hyfforddai cyntaf gael gwaith gydag amrywiaeth o gyflogwyr, yn cynnwys Casa Maria, Costa Coffee, Allied Healthcare, Merlin’s Magic, Y Ffreutur yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Charfref Gofal Meadows.

Chevron i fod yn bartner gyda’r Coleg ar addysg gweithgynhyrchuYn 2012 cyhoeddodd Chevron (cyn-berchnogion Purfa Penfro) bartneriaeth cyffrous newydd gyda Choleg Sir Benfro i gyflwyno cwrs newydd gwerthfawr yng nghwricwlwm addysg gweithgynhyrchu. Trwy eu gwybodaeth a’u harbenigedd cyfunol, cynlluniodd arbenigwyr o’r ddau sefydliad raglen hyfforddiant y gellid ei gymhwyso ar draws llawer o ddiwydiannau proses y DU.

“Mae Chevron wedi gweithio gyda Choleg Sir Benfro ers nifer o flynyddoedd ac rydym yn falch o fod wedi gallu adeiladu ar y bartneriaeth hon a chreu’r cwrs newydd hwn”, meddai Greg Hanggi, Rheolwr Cyffredinol Petrocemegion – Datblygiad Puro Olew Asia. “Gall y modi-wlau cwrs hyn wneud cyfraniadau pwysig i addysg Rheola-eth Diogelwch Proses mewn llawer o sefyllfaoedd gweithgynhyrchu,” ychwanegodd Greg.

Y Coleg yn cael ei ddewis i beilota menter gofalCafodd y Coleg ei ddewis fel y lleoliad ar gyfer lansio Unedau Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd hir-ddisgwyliedig ar gyfer Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol. Wedi’i anelu at gefnogi’r nifer cynyddol o unigolion sy’n dymuno mynd i mewn i’r sector yn ogystal â’r rhai a gyflogir eisoes mewn lleoliadau gofal, roedd Coleg Sir Benfro yn falch o fod wedi cael ei ddewis i dreialu’r fenter newydd hon.

Mynychodd Nikki Smith, Swyddog Datblygu’r Gweithlu yng Nghyngor Gofal Cymru, y digwyddiad lansio a dywedodd: “Mae Cyngor Gofal Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro i dreialu defnydd yr unedau Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd ar gyfer y Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol. Gweledigaeth y Cyngor Gofal yw y ‘gall pobl Cymru fod yn sicr bod y gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu gan weithlu proffesiynol, medrus a hyderus’. Bydd cael mynediad i raglen sefydlu sydd wedi’i hachredu’n llawn yn rhoi gweithwyr ar y llwybr cywir tuag at gaffael sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd angen arnynt i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.”

Yn 2012-2013 gweithiodd y Coleg gyda: 213 o gyflogwyr drwy brosiectau Sgiliau ar gyfer Diwydiant/Ynni. 207 o gyflogwyr trwy gymwysterau dysgu yn y gwaith. 88 o gyflogwyr drwy Twf Swyddi Cymru.

Cymunedol

Page 16: 2012/13 Arolwg Blynyddol

Financial Statement Year ended 31 July 2013

Income 2012/13£’000

2011/12£’000

Welsh government grants 21,054 18,944Tuition fees and educational contracts

2,478 2,358

Other income 1,959 2,285Endowment and investment income

37 31

Total income 25,528 £23,618Expenditure 2012/13

£’0002011/12£’000

Staff costs 13,635 13,222Other operating expenses 10,372 8,817Depreciation 1,068 1,081

Interest and other finance costs 96 129Total expenditure 25,171 £23,449Surplus on continuing operations after depreciation of tangible fixed assets as valuation and before taxation

357 269

Profit and disposal of assets 9 -Surplus on continuing operations after depreciation of tangible fixed assets at valuation and disposal of assets and before and after taxation

366 269

Student numbersFE 2012/13 2011/12

Full-time 1688 2113Part-time 6158 5997

Total 7846 7710Higher Education 2012/13 2011/12Full-time 92 134Part-time 253 270Total 345 404Full-time 1780 2247

Part-time 6411 5867Grand Total 8191 8114

Figures include Pembrokeshire College learners only. Notes: Source EBS (Central Student Database). January 2014Year 12/13 11/12 10/11 09/10FE attainment 93% 92% 94% 88%FE completion 90% 90% 88% 91%FE successful completion 83% 83% 83% 80%

Datganiad ariannolY flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2013

Incwm 2012/13£’000

2011/12£’000

Grantiau Llywodraeth Cymru 21,054 18,944Ffioedd dysgu a chytundebau addysg

2,478 2,358

Incwm arall 1,959 2,285Gwaddoliad ac incwm buddsoddi

37 31

Cyfanswm yr incwm 25,528 £23,618Gwariant 2012/13

£’0002011/12£’000

Costau staff 13,635 13,222Treuliau gweithredu eraill 10,372 8,817Dibrisiant 1,068 1,081Llog a chostau ariannol eraill 96 129Cyfanswm y gwariant 25,171 £ 23,449Gwarged ar weithrediadau sy'n parhau ar ôl dibrisiad diriaethol asedau sefydlog ar brisiad a chyn treth

357 269

Elw ar waredu asedau 9 -Gwarged ar weithrediadau parhaus ar ôl dibrisio asedau sefydlog ar brisiad agwaredu asedau a chyn acar ôl trethiant

366 269

Nodiadau: Mae’r cyfrif incwm a gwariant yn ymwneud âgweithgareddau parhaus Coleg Sir Benfro.Dangosyddion ariannol allweddol• Trosiant - wedi cynyddu 0 8% i £25.5• Gwarged o £366,00 o’i gymharu â gwarged o £269,000 yn 2011/12• Buddsoddiad cyfalaf dros y 5 mlynedd diwethaf £8m• Cymhareb incwm tâl - 71%• Cymhareb amrywiaeth Incwm - 80%

Nifer y myfyrwyrAB 012/13 2011/12Llawn-amser 1688 2113Rhan-amser 6158 5997

Cyfanswm 7846 7710Addysg Uwch 2012/13 2011/12

Llawn-amser 92 134Rhan-amser 253 270Cyfanswm 345 404Llawn-amser 1780 2247Rhan-amser 6411 5867

Cyfanswm 8191 8114

Notes: The income and expenditure account is in respect of the continuing activities of Pembrokeshire College.Key financial indicators• Turnover – increased by 8% to £25.5m• Surplus of £366,000 compared to a surplus of £269,000 in 2011/12• Capital investment over the last 5 years £8m• Pay income ratio – 71%• Income diversity ratio – 80%

Mae’r ffigurau yn cynnwys dysgwyr Coleg Sir Benfro yn unig.Nodiadau: Ffynhonnell EBS (Cronfa Ddata Ganolog Myfyrwyr). Ionawr 2014Blwyddyn 12/13 11/12 10/11 09/10Cyrhaeddiad AB 93% 92% 94% 88%Cwblhau AB 90% 90% 88% 91%Cwblhau’n llwyddiannus AB 83% 83% 83% 80%