19
Rhif Cofrestru’r Elusen 1043989. Rhif Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 2993429 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2012-2013

ADOLYGIAD BLYNYDDOL Annual...2 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL Croeso n sicr, mae 2012/13 wedi bod yn heriol iawn i sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol, i’r staff a’r

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • 1AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOLRhif Cofrestru’r Elusen 1043989. Rhif Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 2993429

    ADOLYGIADBLYNYDDOL

    2012-2013

  • 2 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Croeson sicr, mae 2012/13 wedi bod yn heriol iawn i sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol, i’r staff a’r gwirfoddolwyr; yn gryno, mae mwy o alw ac angen am eu cymorth nag erioed o’r blaen. Bu pwysau cynyddol ar bob sefydliad i ddarganfod yr

    arian prin sydd ei angen er mwyn cynnal eu gwasanaethau. Mae’r hinsawdd economaidd sydd ohoni yn effeithio ar bawb. Er enghraifft mae’r niferoedd sy’n rhoi arian yn lleihau ac mae ceisiadau am grantiau yn hynod gystadleuol ac yn anoddach eu cael. Yn fwy nag erioed, mae’r sector gwirfoddol a chymunedol yn cael eu hannog i gydweithio er mwyn gweithredu’n fwy effeithiol. Yma yn AVOW rydym ni’n cynnig cefnogaeth ymarferol i grwpiau cymunedol ac yn rhoi benthyg amrywiaeth o offer ac adnoddau. Rydym hefyd wedi dechrau cynnwys llawer mwy o wybodaeth ar ein gwefan er mwyn cynorthwyo grwpiau gyda pha bynnag ofidiau sydd ganddyn nhw. Er hynny, mae cael trafodaeth wyneb yn wyneb yn bwysig i ni ac mae’n staff yn fwy na pharod i fynd i gyfarfodydd er mwyn cynnig cefnogaeth.Mae yna ddigonedd o gyfleodd yn dal i fod i grwpiau ddod at ei gilydd er mwyn rhannu profiadau a gwybodaeth - wedi’r cwbl, os oes rhywbeth wedi bod yn llwyddiant ysgubol i un grŵp, be well na rhannu’r wybodaeth â’r grwpiau eraill? Yn yr un modd, mae gwybod pa weithgareddau na fu’n llwyddiannus yn ddefnyddiol iawn er mwyn osgoi eraill rhag gwneud yr un camgymeriadau. Fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei anerchiad groesawu, mae AVOW yn dathlu ei phen-blwydd yn bump ar hugain, a’n slogan am eleni yw Gwneud Gwahaniaeth - (GG) - wrth gwrs, mae cyfraniadau gan unigolion yn werthfawr iawn, ond drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn fynd un cam ymhellach a gwneud gwir wahaniaeth. Dyma yw’n cryfder fel sector. Hoffwn ddiolch i holl aelodau AVOW, Ymddiriedolwyr, Staff, y don gynyddol o wirfoddolwyr, heb anghofio’r sefydliadau a’r asiantaethau sy’n bartneriaid i ni am eu gwaith di-ildio a’u cefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

    Yleser o’r mwyaf i mi fel Cadeirydd AVOW yw cyflwyno ein Adolygiad Blynyddol ar gyfer 2012-2013 ym mlwyddyn ein Jiwbilî Arian.Yn gyntaf, hoffwn ddangos fy ngwerthfawrogiad i gyfraniad sylweddol fy rhagflaenydd, Mervyn Rosenberg a’r cyn Is-Gadeirydd Gail Thomas i AVOW dros y blynyddoedd. Mae’r ddau wedi penderfynu ymddeol fel

    ymddiriedolwyr eleni. Rydym ni hefyd wedi colli dwy o’n rheolwyr mwyaf profiadol, Catherine Williams ac Ann Vaughan. Rydym yn dymuno’n dda i’r ddwy ohonyn nhw yn y dyfodol, ac yn sicr, bydd colled enfawr ar eu hôl. Bu’n rhaid ffarwelio â staff Cymunedau’n Gyntaf ym Mhlas Madog ar ôl trosglwyddo’r cynllun (a’r staff) i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.Roedd cyflwyniad adroddiad llynedd yn ein rhybuddio o’r anawsterau sy’n ein hwynebu, a mwy na thebyg, dyma fydd realiti’r sefyllfa am rai blynyddoedd. Er hyn, mae AVOW yn fwy na pharod i gynorthwyo sefydliadau’r trydydd sector ym mhob agwedd o’u gwaith, boed hynny gyda gwaith ymarferol neu agweddau llywodraethu. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad hynod bwysig o’r Trydydd Sector yn 2013/14 – bydd y canlyniadau’n debygol o ddylanwadu ar y berthynas rhwng y Llywodraeth a’r sector, felly mae’n hanfodol fod pob sefydliad yn ymuno yn y broses ymgynghori. Am naw mlynedd AVOW fu’n gyfrifol am weinyddu’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (cynllun grantiau CFAP). Bellach mae’r rhaglen wedi’i chyfuno i’r gronfa ganolog sy’n cael ei gweinyddu’n genedlaethol gan y Llywodraeth. Er hyn rydym yn parhau i gynorthwyo cyrff lleol i lunio eu ceisiadau gan ymdrechu’n galed i sicrhau na fydd gostyngiadau i’r cymorth ariannol sy’n dod i ardal Wrecsam. Dros y blynyddoedd nesaf bydd Mesur y Gymraeg yn cael effaith gynyddol ar bawb sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru a bydd AVOW yn gwahodd Meri Huws – Comisiynydd y Gymraeg – i Wrecsam i gyfarfod â’r aelodau ac esbonio’r ymrwymiadau a’r disgwyliadau. Hoffwn ddiolch o waelod calon i’n staff, gwirfoddolwyr, aelodau a fy nghyd-ymddiriedolwyr, nid yn unig am eu gwaith caled, ond am eu brwdfrydedd a’u hagwedd gadarnhaol drwy’r flwyddyn. Rydw i’n gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen yr adolygiad hwn o weithgareddau AVOW dros y flwyddyn ddiwethaf.

    P

    John Leece Jones Cadeirydd John Gallanders Prif Swyddog

    AVOW | Tŷ Avow | 21 Stryd Egerton | Wrecsam | LL11 1ND | Ffôn: 01978 312556 | Ffacs: 01978 352046 | [email protected] | www.avow.org

  • 3AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Ymddiriedolwyr AVOWCroeso i’n Hymddiriedolwyr newydd Stephen PerkinsMae Stephen wedi ymddeol fel cyfarwyddwr cwmni, mae’n cadeirio Grŵp Cynghori y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr ac yn aelod o’r Grŵp Cynghori Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Joyce M’CawCyn ei hymddeoliad ar ddiwedd mis Mawrth 2012, roedd hi’n Brif Weithredwr Gyrfa Cymru y Gogledd-Ddwyrain. Cafodd Joyce brofiad helaeth o gysylltu â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau Cynulliad ac uwch weision sifil yn yr Adran Addysg a Sgiliau.

    Peter WebbMae Peter wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl gweithio am dros 35 mlynedd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector a hynny mewn sawl disgyblaeth o Arolygu Gwasanaethau Practis Cyffredinol, Rheoli Cyfleusterau a Rheoli Prosiectau.

    Ffarwel...Fe hoffem ni ddweud diolch a hwyl fawr i’n cyn – ymddiriedolwyr

    David Galley, Gail Thomas, Mervyn Rosenberg, Wendy SmithMae pawb yn AVOW yn dymuno’r gorau iddyn nhw yn y dyfodol.

    Ymddiriedolwyr a Staff AVOWI gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolwyr a Staff AVOW, ewch i’n gwefan www.avow.org

    Ein Hymddiriedolwyr PresennolEin Hymddiriedolwyr presennol yw:Margaret Bryden, Marjorie Dykins OBE, Dave Hylands, Moira Jones, Raymond Jones, John Leece Jones (Cadeirydd), Joyce M’Caw, Stephen Perkins, Barbara Roxburgh, Anne Ryan (Is-gadeirydd), Peter Webb, Michael Williams, Rosemarie Williams.

    Mae AVOW yn cefnogi holl fudiadau gwirfoddol a chymunedol Wrecsam ac yn ceisio eu clymu i gyd wrth ei gilydd. Rydym ni’n cynnig cyngor a gwybodaeth i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ac yn eu cynorthwyo gyda datblygu cymunedol a materion ariannol. Mae gennym ni hefyd nifer o gynlluniau i gynorthwyo pobl sy’n ceisio ymdopi â thrafferthion bywyd.

    Pwy ydym ni?

    Ein prif amcanydi helpu holl rwpiau gwirfoddol a chymunedol Sir Wrecsam i gyrraedd eu nodau er lles y gymuned.

    Rydym yn gwneud hyn drwy• Gefnogidatblygiadunigolionamudiadau’rsectorgwirfoddola chymunedol;• Hyrwyddoymarferda,ac• Ymgynghoriâ’rsectoraugwirfoddolachymunedol,ynlleolachenedlaethol, ac eiriol ar eu rhan. Mae ein datganiadau gweledigaeth a chenhadaeth yn adlewyrchu hyn.

    /AVOWwrexham @AvowWrexham

    Cynnwys

    0304

    02Ymddiriedolwyr AVOW

    Cyflwyniad

    AVOW mewn Geiriau

    AVOW mewn Ystadegau

    12

    14

    081816Yma i chi...

    Cefnogi’ch mudiad...

    Astudiaethau Achos

    Rhoi Llais i Chi

    07 Gwobrau a Chydnabyddiaethau

    13 Hyfforddiant

    19 Cyfrifon20 AVOW mewn Lluniau

    Mae m

    odd d

    arllen

    yr Ad

    olygia

    d Blyn

    yddol

    gyda N

    ODWE

    DDION

    RHYN

    GWEIT

    HIOL a

    c AR

    DDIW

    YG GW

    ELL

    avow.o

    rg/an

    nual-

    review

    -2013

  • 4 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Yma i chihwng Ebrill y 1af 2012 a Mawrth yr 31ain 2013 bu Tîm y Ganolfan Wirfoddoli yn brysur yn rhoi cyfweliadau i dros 500 o ddarpar wirfoddolwyr gan drefnu 280 o leoliadau gwirfoddol.

    Mae Prosiect Gwirfoddoli’r Gronfa Loteri Fawr yn rhedeg ochr yn ochr â’r Ganolfan Wirfoddoli. Bwriad

    y cynllun yw galluogi unigolion sy mewn peryg o fod yn unig a digyfaill i fachu ar y cyfle i wirfoddoli er mwyn datblygu eu sgiliau

    cymdeithasol a chwarae mwy o ran yn y gymuned.Rhoddir sesiwn un i un i’r unigolion er mwyn trafod y cynllun a rhoi gwybod iddyn nhw am y sesiynau gwirfoddoli grŵp a’r sesiynau gwirfoddoli blasu sydd ar gael. Bwriad y sesiynau hyn yw rhoi hyder i bobl allu gwirfoddoli’n annibynnol yn eu cymuned yn y dyfodolMae Lisa Jones, Cydgysylltydd y Prosiect wedi rhoi cymorth i 48 o bobl hyd yma. Mae 38 wedi mynd rhagddyn nhw i wirfoddoli. Rydym wedi dechrau’r cynllun ers blwyddyn erbyn hyn, ac o ran amserlen, rydym ar amser i gyflawni ymrwymiadau’r contract gan y Loteri Fawr. Rydym ond megis dechrau; mae llawer mwy yn siŵr o elwa o’r cynllun arbennig hwn.

    Mae AVOW wedi rhedeg Byrbrydau Ollie (Ollie’s Snax) yn y Llysoedd Barn ym Modhyfryd, Wrecsam ers mis Chwefror 2012.Bwriad y caffi yw cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn y maes arlwyo i unigolion di-waith, rhai sy’n dioddef â materion iechyd neu sy’n camddefnyddio sylweddau. Mae Marie Dingly-Short, Cydgysylltydd Arlwyo’r caffi, wedi gweld y cynllun yn mynd o nerth i nerth ac wedi gweld llawer o wirfoddolwyr yn ei ddefnyddio fel cyfle i feithrin sgiliau, ennill profiad a magu hunan hyder.

    Pwt arall o newyddion da yw i AVOW rannu £5,000 gan Lywodraeth Cymru drwy’r prosiect Grantiau Gwirvol dan Arweiniad Pobl Ifanc. Roedd pum person ifanc ar y panel dyfarnu, ac allan o’r 14 cais a ddaeth

    i law, bu 11 yn llwyddiannus. Roedd yr arian o gymorth i nifer o brosiectau fel plannu gardd lysiau (wedi’i chodi) i bobl ifanc a chynorthwyo grŵp o ddisgyblion i drefnu cinio arbennig i henoed yr ardal.

    RPros

    iect Gwirfo

    ddoli’r Gr

    onfa Lote

    ri Fawr

  • 5AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Yma i chi...Trefnodd Tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol AVOW Ddiwrnod Iechyd Mawr ym mis Mai’r llynedd yn Neuadd Goffa Wrecsam yng nghanol y dref. Roedd 40 o stondinau wedi eu gosod gan wirfoddolwyr, cynrychiolwyr a phartneriaid y Sector Cyhoeddus o sawl grŵp a sefydliad gwahanol.Roedd pob un o’r grwpiau dan sylw yn arbenigo yn y maes iechyd a lles a bu iddyn nhw gynnig cyngor, gwybodaeth, samplau ac archwiliad iechyd am ddim i’r 350 aelod o’r cyhoedd a ddaeth i’r digwyddiad. Bu’n ddiwrnod prysur ond llwyddiannus i bawb a bydd Diwrnod Iechyd Mawr arall ym mis Hydref 2013. Y ffocws bryd hynny fydd iechyd pobl hŷn.

    ae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth emosiynol i ofalwyr di-dâl, answyddogol sy’n byw ym Mwrdeistref

    Sirol Wrecsam. Dros y deuddeg mis diwethaf mae’r gwasanaeth wedi cynorthwyo 1370 o ofalwyr i ddeall eu hawliau eu hunain a hawliau’r sawl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw hefyd. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw gyfarfod pobl eraill sydd yn yr un sefyllfa a

    nhw drwy gyfrwng sesiynau grwpiau cymorth, tripiau a gweithgareddau. Eleni fe lansiwyd sesiynau hyfforddi newydd yn benodol

    i Ofalwyr ar bynciau megis Codi a Chario, Rheoli Straen, Epilepsi, Clefyd Siwgr ac Ymwybyddiaeth Strôc. Mae’r gwasanaeth yn gweithio ar y cyd â nifer o sefydliadau megis Cymdeithas Parkinson, Y Gymdeithas Strôc, Cymdeithas Alzheimer a Chanolfan Dysgu Gwirfoddol HAFAL er mwyn sicrhau fod gofalwyr yn manteisio ar yr holl wasanaethau a’r cymorth sydd ar gael. Mae gan Y Groes Goch Brydeinig rôl flaenllaw gydag AVOW o ran cynnal gwahanol wasanaethau i Ofalwyr, megis Cerdyn Argyfwng Gofalwyr, hyfforddiant Cymorth Cyntaf a gofal therapiwtig i’r gofalwyr a’u hanwyliaid.

    M

    Dros y flwyddyn ddiwethaf mae AVOW wedi dal ati i gynnig gwasanaeth mentora i bobl y mae eu bywydau wedi eu heffeithio gan gamddefnydd alcohol neu gyffuriau eraill.Fe recriwtiwyd Mentoriaid Gwirfoddol, pobl a oedd eu hunain wedi profi effaith camddefnyddio sylweddau, a’u hyfforddi i roi cefnogaeth i ddioddefwyr, i ddatblygu eu hyder a meithrin ynddyn nhw’r sgiliau a fyddai arnyn nhw eu hangen i gael mynediad i fyd gwaith. Fe ddaeth y cynllun gwreiddiol i ben ym mis Rhagfyr 2012 ond mae CAIS ac AVOW gyda’i gilydd wedi sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau i fod ar gael ar draws y Fwrdeistref Sirol.

    Y PROSIECT

    MENTORA

    “Does gen i ddim angen cyffuriau erbyn hyn i allu wynebu pethau. Ddaru’r Mentoriaid ddim rhoi fyny arna’ i; mi oedden nhw’n gwneud i mi ddal ati.”

    Meddai un defnyddiwr gwasanaeth:

  • 6 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    “Fy nod yw rhoi cymorth i fentrau sy’n annog pobl hŷn a phobl fregus i gymryd rhan lawn yn eu cymuned. Rydw i hefyd o blaid prosiectau pontio’r cenedlaethau ar gyfer ysgolion a darpariaethau ieuenctid. Bwriad prosiect o’r fath yw cynorthwyo nid yn unig yr unigolion sy’n ymwneud â’r prosiect ond y gymuned ehangach.”

    Dywedodd Victoria Westaway, Swyddog Adfywio ym Mhlas Madog

    Yma i chi...Mae Little Sunflowers yn wasanaeth gofal plant sy’n cael ei gynnal yn safle AVOW ym Mhlas Madog. Bwriad y gwasanaeth yw ymateb yn gadarnhaol i anghenion amrywiol plant a’u teuluoedd, gan drin pawb fel unigolion. Caiff y gofal plant ei haddasu er mwyn diwallu anghenion penodol pob teulu - mae rhai rhieni’n dymuno mynd yn ôl i’w swyddi a manteisio ar gyfleoedd addysg tra bod rhieni eraill angen seibiant neu gefnogaeth emosiynol ac anogaeth. Gall rhieni gysgu’n dawel o wybod fod eu plant yn cael y gofal gorau posib gan staff sydd â chymwysterau uchel.

    Mae gan AVOW enw da am gynnal prosiectau chwarae boed hynny fel rhan o’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf neu’n annibynnol. Mae’r elfen chwarae’n allweddol i’r gwaith datblygu mae AVOW yn ei hwyluso wrth ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw ym Mhlas Madog, Gwenfro a’r cyffiniau. Mae’r gwasanaeth bellach wedi’i gyflwyno mewn saith ardal newydd ers mis Chwefror fel rhan o’r Clwstwr Pentrefi Trefol. Mae gan y Tîm Chwarae brofiad helaeth o ymgynghori â’r gymuned a datblygu prosiectau sy’n cwrdd ag anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Eleni, mae AVOW wedi sicrhau cymorth ariannol drwy’r elusen Plant

    mewn Angen er mwyn medru cynnig cymorth ychwanegol i blant a theuluoedd penodol sy’n cael trafferth ymuno â’r ddarpariaeth chwarae bresennol oherwydd anabledd, arwahanrwydd neu sy’n cael eu heithrio. Yn ogystal â’r niferoedd uchel o blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y ddarpariaeth, mae nifer sylweddol o oedolion, gan gynnwys rhieni hefyd yn dangos diddordeb. Mae’n gyfle gwych iddyn nhw chwarae gyda’u plant, siarad â’r staff a chymdeithasu gydag oedolion eraill. Mae’r prosiect felly nid yn unig yn uno plant a phobl ifanc y gymuned, ond oedolion hefyd. Drwy ddefnyddio’r cysylltiad hwn a’r rhyngweithio cymdeithasol parhaus, roedd modd datblygu perchnogaeth gymunedol yn y prosiectau hyn.

    iolch i nawdd gan Ymddiriedolaeth Kathleen Davies, roedd modd i AVOW hyrwyddo a datblygu pwysigrwydd cymryd rhan yn y gymdeithas sifil drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a gwella economi cymdeithasol ardal Plas Madog a’r cymunedau cyfagos.

    Yng Nghanolfan Gyfleoedd Plas Madog mae nifer o grwpiau ymgysylltu a gweithgareddau sy’n rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau a hunanhyder unigolion er mwyn eu harfogi nhw i wneud y dewisiadau cywir mewn bywyd. Mae modd cyflawni hyn drwy gydweithio’n agos ag unigolion er mwyn eu helpu nhw i adnabod a chael gwared ar unrhyw broblem ragdybiedig neu rwystr go iawn sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol.

    D

  • 7AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    7 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Enillodd 6 o bobl Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd yng

    nghaffi Ollie’s

    Enillodd caffi Ollie’s Gymhwyster

    Hylendid Lefel 5 Enillodd y Grŵp Canlyniad Bwyta’n Iach a Bod

    yn Fwy Heini, sy’n cael ei arwain gan Ddirprwy Brif Swyddog AVOW,

    gymhwyster am greu poster academaidd yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol

    Cymru gan y Prif Swyddog Meddygol. Bwriad y digwyddiad oedd cydnabod y

    cydweithio a wnaed er mwyn mynd i’r afael â gordewdra yn

    Wrecsam.

    Enillodd Louise Bollington,

    Gofalwraig Wirfoddol, Gymhwyster Gwirfoddoli

    Uchel -Siryf

    Enillodd Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Wrecsam Gymhwyster

    Ansawdd Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

    Partneriaeth Cynghrair Defnyddwyr Gwasanaeth Wrecsam

    (WASUP)Ym mis Mawrth 2013 fe wahoddwyd Tony Ormond,

    Cydgordiwr Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth AVOW, ynghyd â thri o’r defnyddwyr gwasanaeth i Gaerdydd i

    ail-gyflwyno digwyddiad “Y Cysylltiad Perffaith”. Yno yng Nghynhadledd Arfer Gorau Cenedlaethol Cymru, digwyddiad

    a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, fe arweiniodd y grŵp ddau weithdy’n cyflwyno’r gwaith arloesol a wnaethpwyd

    gan AVOW fel esiampl o arfer da i weddill Cymru. Cyflwynwyd llythyr gan Lywodraeth Cymru i’r pedwar

    cynrychiolydd yn nodi ac yn cymeradwyo’r gwaith aruthrol a gyflawnwyd yn

    Wrecsam.

    Ailasesiad llwyddiannus

    o Gymhwyster Amgylcheddol y Draig

    Werdd Lefel 2

    Mae Little Sunflowers wedi ymuno â menter ysgolion meithrin

    iach

    Enillodd Little Sunflowers gymhwyster

    aur gan Dîm Cynllun Gwên fel cydnabyddiaeth am gymryd rhan yn rhaglenni brwsio dannedd cyn

    oed ysgol am bedair blynedd.

    Enillodd 8 aelod o staff y cymwysterau

    priodol yn eu maes arbenigedd

    AVOWGWOBRAU A

    CHYDNABYDDIAETHAU

    Mae’r ffilm ‘Y Tir’ wedi ennill

    cydnabyddiaeth ryngwladol; mae plant a’r staff wedi cael eu ffilmio ar gyfer ffilm ddogfen a fydd yn barod i’w darlledu

    ym mis Rhagfyr 2013.

  • 8 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Cefnogi’ch mudiad...

    Yn ystod y cyfnod hwn cynhaliodd y Tîm Datblygu Cymunedol ddigwyddiad o’r enw “Sut i” yn Neuadd y Dref, Marchwiail. Yn y sesiynau byr, bachog hyn, roedd cyfle i drafod y pynciau canlynol: • Sutiddeallcyfrifoneichmudiad• Sutiwneudeichmudiadynfwyeffeithiol• Sutiwybodbethmae’rarianwyrynedrychamdano

    Roedd gan bawb a fynychodd rywbeth da i’w ddweud am y digwyddiad a bu i bawb elwa yn ei ffordd bersonol ei hun. Yn dilyn y sesiwn bu i Chwarel Maes-y-Pant, Gresffordd, weithio gyda Busnesau’n Cefnogi Cymunedau (B2C) i feithrin perthynas gydag un o fusnesau’r ardal sy’n rhyddhau eu staff am ddiwrnod i wirfoddoli yn y goedwig. Maen nhw hefyd wedi llwyddo i gael grant i orffen gosod llwybrau ac arwyddion yn y goedwig.

    • Sutirecriwtiogwirfoddolwyrargyfereichmudiad• Sutifanteisioarfusnesaulleol• Sutiddeallyswiriant

    Mae’r Ganolfan Wirfoddoli yn gyfrifoldeb am gynorthwyo sefydliadau gwirfoddol drwy roi cyngor a gwybodaeth am faterion yn ymwneud â gwirfoddoli. Trefnodd Tîm y Ganolfan Wirfoddoli 10 o sesiynau recriwtio yn swyddfeydd AVOW yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Bu’r sesiynau hyn yn gyfle i 60 o sefydliadau hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael i ddarpar wirfoddolwyr.

    Y Ganolfan

    Gwirfoddol

  • 9AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Bu i Glwb Bowlio Dyffryn Ceiriog holi ynghylch cysylltu eu canolfan â’r prif gyflenwad trydan.

    Bu i’r Tîm Datblygu Cymunedol ddod o hyd i gronfa a rhoi cyngor i’r clwb ar sut i wneud cais. Roedden nhw’n llwyddiannus ac fe gawson nhw grant o £4000. Rŵan fe allan nhw fwynhau paned haeddiannol ar ôl gêm flinedig!

    Mae Cynllun Gweithgareddau a Chyfleusterau Cymunedol Wrecsam wedi darparu grantiau i ystod eang o rwpiau cymunedol er mwyn gwella cyfleusterau ar draws cymunedau’r sir. Mae’r grantiau wedi talu am bethau fel:• trwsio siglenni• cynnal a chadw adeiladau cymunedol• clociau amseru i gymdeithasau colomennod• llunio llwybrau mewn coedwigoedd• meinciau parc a meinciau picnic• drysau a ffenestri newydd• offer chwarae ar gyfer grŵp chwarae• lloriau a charpedi• cyfrifiaduron ac offer digidol• offer cegin ar gyfer neuadd bentref

    Mae AVOW yn gwahodd Arianwyr i siarad â’n haelodau yn aml gan ein bod yn deall fod arian yn broblem i’r rhan fwyaf o grwpiau. Mae cael cyfle i siarad â’r arianwyr cyn gwneud cais am grant yn gwneud ymgeisio’n haws o lawer, ac mae’n gallu rhoi llawer gwell siawns i chi fod yn llwyddiannus. Yn ystod 2012 fe drefnwyd pedwar clinig ariannu i roi cyfle i aelodau AVOW gael sgwrs ag arianwyr perthnasol cyn cyflwyno cais. Bu clinigau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Amgylcheddol Cory ym Mhrydain, y Gronfa Loteri Fawr ac Amgylchedd Cymru.

    BCymorth gyda Grantiau a Nawdd

    Cefnogi’ch mudiad...

  • 10 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Mae Julie Cooper, Swddog Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol AVOW, wastad yn barod i roi cymorth a chyngor ac i gyfeirio pobl at yr asiantaeth briodol fel bo angen.Canolfan Gymorth a Gwybodaeth Seren Wib Macmillan yw’r ganolfan Macmillan gyntaf o’i bath yng Nghymru. Bu iddi agor ei drysau ym mis Chwefror 2009. Daeth hi’n amlwg yn fuan iawn y byddai cydweithio â mudiadau Gwasanaethau Gwirfoddol yn hanfodol os oedd y gwasanaeth am ddarparu cymorth ychwanegol i’w gleientiaid. Dros y blynyddoedd mae AVOW wedi parhau i gynnig cymorth i staff ac ymwelwyr sy’n ymweld â Chanolfan Gymorth a Gwybodaeth Seren Wib Macmillan.

    Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr yn cydweithio â sawl mudiad statudol a thrydydd sector i sicrhau fod gofalwyr yn medru cael yr wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Mae’r cylchlythyrau rheolaidd yn hyrwyddo gwasanaethau mudiadau lleol a chenedlaethol ac yn sôn am sut gall gofalwyr fanteisio ar y rhain.Wrth drefnu digwyddiadau mawr ar gyfer gofalwyr fel y Diwrnod Hawliau Gofalwyr neu Wythnos y Gofalwyr rydym ni’n gwahodd llawer o fudiadau i ymuno â ni. Mae hyn yn rhoi darlun lawn i ofalwyr o’r holl wasanaethau sydd ar gael. Mae’rgwasanaeth hefyd wedi anfon a chyfeirio pobl at fudiadau statudol a thrydydd sector ar draws Wrecsam.

    “Mae Julie yn hawdd iawn siarad â hi ac mae hi wedi llwyddo i gael cymorth ychwanegol yn y gymuned i gleifion cancr, eu perthnasau a’u gofalwyr ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor i fi.”Aeth Pam rhagddi i ddweud: “Mae AVOW wedi bod yn gefnogol eithriadol o waith Cymorth Cancr Macmillan. Mae Julie a’r tîm wedi darparu ystafelloedd cyfarfod, wedi cyfeirio pobl at wasanaeth gofalwyr AVOW, wedi hyrwyddo digwyddiadau Macmillan yng nghylchlythyr AVOW, wedi helpu i recriwtio gwirfoddolwyr i weithio yn y ganolfan a rhoi cyfleoedd i bobl gael hyfforddiant bellach i gefnogi gwirfoddolwyr wrth eu gwaith.”

    Mae AVOW yn parhau i gydweithio â Chymorth Cancr Macmillan i gefnogi digwyddiadau codi ymwybyddiaeth o gancr. Mae Julie a’r Tîm yn AVOW wedi gallu darparu cefnogaeth neu wasanaethau eraill nad yw’r Bwrdd Iechyd na Macmillan yn eu darparu, neu gyfeirio pobl at rai perthnasol. Mae AVOW hefyd yn hwyluso cyfarfodydd rhwng mudiadau lleol, gan gynnwys Cymorth Cancr Macmillan. At hyn mae AVOW yn hysbysu’r bobl sy’n ymweld â’r ganolfan o waith y mudiad ac mae hi’n darparu cylchlythyrau hefyd.

    Dywedodd Pam Wedley, Rheolwr Cefnogaeth a Gwybodaeth Macmillan:

    Dywedodd Pam “ar nodyn personol, bu i Julie fy nghyfeirio i at gwrs darllen gwefusau roedd AVOW yn ei chynnal yn rhad ac am ddim. Roedd hyn o fudd mawr i mi.”

    Cefnogi’ch mudiad...

  • 11AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Mae Tîm Datblygu Cymunedol Plas Madog yn gweithio gyda mudiadau eraill i gynnal a datblygu’r gwasanaethau perthnasol sydd ar gael yn Sir Wrecsam ac yn rhanbarthol. Mae’r gwasanaethau hyn yn gymorth i ddatblygu diwylliant o gyfranogi. Mae’r tîm yn ymdrechu i gydweithio â phartneriaid addas ar brosiectau fydd yn lleihau unigrwydd ac yn annog grwpiau cymdeithasol / diwylliannol gwahanol i chwarae rhan lawn ym mywyd y gymuned.

    Saif Tŷ Avow ger yr orsaf fysiau yng nghanol tref Wrecsam. Mae wedi datblygu i fod yn ganolbwynt ar gyfer holl rwpiau gwirfoddol a chymunedol y sir ac mae myrdd o wybodaeth, cyngor ac adnoddau ar gael yno. Mae Adeiladau AVOW yn Wrecsam a Phlas Madog yn hawdd eu cyrraedd ac mae ynddyn nhw fannau cyfarfod, ystafelloedd hyfforddi a gofod swyddfa addas. Mae’r ddau adeilad mewn lle delfrydol i gefnogi’r cymunedau cyfagos. Mae gan AVOW offer i’w logi i grwpiau hefyd, fel: • Taflunwyr• Pebyll• Byrddau CyflwynoGallwn hefyd gynnig cyfleusterau swyddfa cyffredinol fel llungopïo, ffacsio a ffrancio (labelu post ac ati)-Rydym ni yma i helpu holl grwpiau cymunedol a holl fudiadau trydydd sector Wrecsam-

    Eleni fe lansiwyd y Cyfeirlyfr Cymunedol fel y gallai unrhyw un ddod o hyd i fudiad penodol. Mae modd gweld y cyfeirlyfr ar ein gwefan, www.avow.org, ac arno mae mwy na 250 o grwpiau cymunedol a mudiadau gwahanol o Institiwt Pentref Aberoer hyd at Gymorth i Ferched Wrecsam. Gallwch chwilio’r cyfeirlyfr ar sail ardal, gweithgarwch neu fudiad. Mi fuasem ni’n hoffi ehangu’r cyfeirlyfr a gofyn i bawb wirio manylion y mudiadau maen nhw’n gweithio iddyn nhw. Os nad ydi eich mudiad yn y cyfeirlyfr rhowch wybod i ni. Bydd cael eich cynnwys yn fodd o hyrwyddo’ch gwaith.

    • Bwced Codi Arian • Systemau PA

    CYMORTH I CHI

    Cefnogi’ch mudiad...

  • 12 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Rhoi Llais i Chiae sicrhau fod llais mudiadau’r trydydd sector yn cael ei glywed a’i gymryd o ddifri yn un o swyddogaethau craidd Tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol AVOW. Caiff dogfennau lu eu rhoi i’r grŵp sy’n sôn am newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu. Ymysg y rhain roedd dogfen am newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu darparu ar draws Gogledd Cymru gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    Trefnwyd digwyddiadau ymgynghori ar gyfer grwpiau a mudiadau er mwyn trafod y newidiadau arfaethedig a’u heffeithiau ar gleientiaid. Cafwyd trafodaeth fywiog. Gwnaed crynodeb o’r prif bwyntiau ar ran grwpiau’r trydydd sector ac fe anfonwyd hwn at y Bwrdd Iechyd fel rhan o’u proses ymgynghori ffurfiol. Bu i’r sector godi llais i ddylanwadu ar benderfyniad y Bwrdd Iechyd pan roedden nhw’n pendroni pa un ai i roi’r argymhellion ar waith ai peidio. Rydym ni’n ddiolchgar iawn am yr holl sylwadau a gafwyd ar yr argymhellion.

    Drwy Wasanaeth Gofalwyr AVOW mae gofalwyr Wrecsam wedi cyfrannu at ystod o ymgynghoriadau sy’n effeithio ar wasanaethau lleol a chenedlaethol. Ymhlith y rhain mae: • Bil Lles y Gwasanaethau Cymdeithasol, • Taflen i Ofalwyr ar Brawf Sgrinio’r Coluddyn• Strategaeth Gomisiynu Anableddau Dysgu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam • Diweddaru Strategaeth Gofalwyr Cymru• Taflen Wybodaeth Gofalwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

    Bu i Claire Griffiths, y Rheolwr Chwarae, gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i lunio Asesiad Digonolrwydd Chwarae ar gyfer y sir. Bu i Lywodraeth Cymru basio deddf yn ddiweddar oedd yn rhoi dyletswydd ar bob cyngor yng Nghymru i weld faint o amser a llefydd sydd ar gael i blant a phobl ifanc chwarae. Diben yr asesiad digonolrwydd oedd asesu faint o gyfleoedd chwarae sydd yna i blant a phobl ifanc sir Wrecsam a beth yw safon y cyfleoedd hynny. Bu i Claire gynorthwyo i ffurfio grŵp ffocws rhieni ym Mhlas Madog fel modd o gasglu barn unigolion. Caiff yr wybodaeth ei ddefnyddio i amddiffyn a gwella yr amser a’r llefydd sydd ar gael i blant a phobl ifanc chwarae y tu allan.

    M

  • 13AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Bu i 88% o’r rheini a ymatebodd ddweud fod y gefnogaeth gawson nhw yn rhagorol neu’n dda iawn. Bu i 12% ddweud fod y gefnogaeth yn dda.88%

    Bu i 100% o’r rheini a ymatebodd ddweud eu bod nhw’n gwybod llawer mwy oherwydd y gefnogaeth gafwyd100%

    Mae 71% o’r rheini a ymatebodd wedi gweithredu ar y cyngor a gafwyd ac mae 29% yn dweud eu bod yn bwriadu gweithredu arno71%

    Byddai 100% o’r rheini a ymatebodd yn troi at AVOW am gyngor pellach100%Byddai 100% o’r rheini a ymatebodd yn argymell AVOW i berson arall100%Bu i 98% ddweud fod y cwrs yn dda / da iawn98% Bu i 86% gyflawni’r nodau oedd ganddyn nhw yn sgil mynychu’r cwrs86%

    Bu i 98% ddweud eu bod nhw’n gwybod llawer mwy oherwydd y cwrs98%

    AVOW Hyfforddiant drwy’r flwyddynCYFLWYNIAD I REOLI PROSIECTAUCYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH

    CYMHWYSTER LLYTHRENNEDD ESW LEFEL MYNEDIAD 3

    MARCHNATA’CH MUDIADY CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

    SWYDDOGAETHAU A CHYFRIFOLDEBAU

    YMDDIRIEDOLWYRCYMORTH CYNTAFHYLENDID BWYD

    IECHYD A DIOGELWCHAMDDIFFYN PLANT

    YN ADDAS I GAEL ARIAN? SGILIAU CADEIRYDDIO

  • 14 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Pwy sydd wedi gweld gwahaniaeth o ganlyniad i’n gwaith?Mae Dan MacKenzie yn gwirfoddoli gydag AVOW ac mae wedi bod yn cadeirio Partneriaeth Cynghrair Defnyddwyr Gwasanaeth Wrecsam ers 14 mis. Mae wedi cynnig ymgymryd â swyddogaeth newydd yn y bartneriaeth gan ymdrin â digwyddiadau a marchnata. Mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn trefnu a chynnal dau ddigwyddiad mawr yn Wrecsam oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaeth. At hyn mae wedi cynnal gweithdy mewn Cynhadledd Cymru gyfan. Galwyd y gynhadledd hon er mwyn edrych ar y ffyrdd mae modd i’r bobl hynny sy’n darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, fel y cyngor a’r awdurdod iechyd lleol, weithio’n well gyda’r

    bobl hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Siaradodd Dan am sut mae gwasanaethau yn Wrecsam yn cydweithio efo’r bobl sy’n eu defnyddio nhw. Mae Dan yn gwella o alcoholiaeth wedi iddo droi dalen lân ar ôl bod ar gynllun adfer yn The Elms. Wedi hyn bu iddo hyfforddi i helpu pobl oedd yn camddefnyddio sylweddau drwy ddod yn Fentor Cyfoedion gyda phrosiect mentora AVOW.

    Mae Steven yn 52 oed ac yn briod ag Elizabeth sy’n 44. Cafodd bywyd Steven ei wyrdroi’n llwyr pan gafwyd fod clefyd Huntingdon’s ar ei wraig yn 2004. Roedd Steven yn gweithio’n llawn amser fel rheolwr ac ar y dechrau, gallodd ymdopi â hyn. Fodd bynnag, gad nad oes gwellhad o glefyd Huntingdon bu Steven yn gofalu mwy a mwy am ei wraig gyda threigl y blynyddoedd. Gwaetha’r modd, teimlai Steven y byddai’n rhaid iddo roi’r gorau i’w waith er mwyn darparu’r gofal llawn amser roedd ar ei wraig ei hangen. Bu i Steven dderbyn taflen gan Therapydd Gwaith ynglŷn â’n gwasanaeth ac fe alwodd draw i’n gweld ni ym mis Medi 2012. Ar ôl sgwrs hir gyda’i weithiwr cefnogi bu iddo gofrestru gyda’r gwasanaeth. Dyma’r tro cyntaf erioed iddo ystyried ei anghenion ei hun. Mae Steven yn cofio am hyn fel ei ‘gam cyntaf tuag at adferiad.’ Un o’r gwasanaethau cyntaf i Steven ei ddefnyddio oedd y gwasanaeth galw heibio i ofalwyr. Bu’r gwasanaeth yn gaffaeliad mawr iddo. Dywed i hyn ei helpu i ddod i delerau â salwch ei

    wraig ac i dderbyn y ffaith fod ganddo ei hunaniaeth ei hun ynghyd â’i swyddogaeth ofalu. Mae bellach yn mynychu mor aml â phosib.Mae’r cylchlythyr yn rhoi’r diweddaraf iddo am wasanaethau a allai fod o fudd iddo yntau a’i wraig. Mae hefyd wedi mynychu tripiau a gweithgareddau gwahanol gyda gofalwyr eraill, sydd yn ôl Steven yn “seibiant braf.”Rydym ni wedi llwyddo i gael grant i’r cwpwl gael carpedi newydd yn eu cartref. At hyn, maen nhw wedi cael gwiriad budd-dal lles ac wedi derbyn arian yn ôl gan Gyngor Wrecsam pan ddaeth hi i’r amlwg iddyn nhw dalu gormod o dreth cyngor.

    Fy AVOWStori gan Pete Fuller

    “Rôn i’n yfed hyd at chwe photel o seidr bob dydd. Roedd o’n ofnadwy ac yn dorcalonnus. Rôn i’n yfed jest i leddfu’r boen.”Ac yntau’n rhydd o’r ddiod bellach dywedodd Dan “Dw i’n teimlo’n llawer mwy hyderus a dw i’n gwneud gwaith gwirfoddol rŵan i AVOW a WASUP.”

    Dywedodd Dan:

    “Mae hi’n dda gwybod fod Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam wrth law i helpu pan mae angen cymorth a chefnogaeth arna i a dw i wedi gwneud ffrindiau newydd hefyd.”

    Mae Steven yn dweud wrthym ni

  • 15AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Pwy sydd wedi gweld gwahaniaeth o ganlyniad i’n gwaith? Mae bywyd yn rhoi amseroedd da a drwg i bob un ohonom ni ond weithiau mae’r cyfnod anodd yn ymestyn yn hirach ac yn hirach. Mewn cyfnodau o’r fath mae’ch holl nerth a’ch cadernid

    arferol yn cael ei wisgo’n ddim wrth i chi geisio ymdopi. Dyma’r amseroedd tywyllaf i unrhyw un a phan fo pob golau’n diffodd mae hi’n hawdd iawn mynd ar goll a rhoi’r gorau iddi. Ond weithiau mae llusern yn dod atoch chi drwy’r caddug ac yn eich arwain yn ôl i’ch hen lwybr. AVOW oedd y llusern honno i fi. Yn ôl yn 2004 roeddwn i’n briod ac roedd gen i dri phlentyn bendigedig. Roeddwn i’n berchen ar fy nhŷ fy hun, roedd gen i gar newydd, roedden ni’n mynd ar wyliau teuluol bob blwyddyn, roedd gen i ffrindiau da a theulu clos. Roeddwn i wedi gwasanaethu yng Nghatrawd Parasiwt Byddin Prydain yn y gorffennol ond erbyn hynny yn yrrwr lori proffesiynol. Roeddwn i’n gyrru lorïau hyd at 40 tunnell ac yn fy amser hamdden yn trwsio cyfrifiaduron ac yn sgwennu fy rhaglenni fy hun ar eu cyfer. Roedd bywyd yn wych ac roedd gen i deulu iach a hapus. Doedd dim byd allai fy rhwystro i, dim problem na allwn i ei wynebu, dim mynydd na allwn i ei ddringo. Yn fuan un bore pan rôn i’n dadlwytho cerbyd mi syrthiais i i’r llawr mewn poen ofnadwy. Dôn i methu symud. Roedd bore gwych o hydref wedi troi’n ddechrau’r diwedd. Dyma derfyn ar y bywyd rôn i mor gyfarwydd ag o. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf rôn i mewn poen bob munud o’r dydd a’r nos. Roedd sefyll, eistedd, cysgu ac ymdrochi yn boenus ond roedd cerdded ychydig gamau yn artaith hollol. Bu i mi golli fy iechyd yn sydyn gan chwyddo o 14 stôn i 19 stôn mewn naw mis. Bu i mi lithro i iselder mawr gan fod yn rhaid i mi ddibynnu ar deulu a ffrindiau i wneud bob dim. Mi gês i archwiliad ar ôl archwiliad a thriniaeth ar ôl triniaeth ond yn aml roedd y sgîl effeithiau cynddrwg â phopeth arall. Am bedair blynedd doedd dim ateb a fawr ddim esmwythâd – dim ond morffin ddwywaith y dydd. Yn ystod y cyfnod hwn bu i fy mywyd ddirywio’n ddim. Wrth i ni ymdrechu i ymdopi bu’n rhaid i mi wylio fy ngwraig yn ceisio ymdrin â nid yn unig merch anabl ond gŵr anabl hefyd. Bu’n rhaid i ni werthu’r tŷ a’r car i dalu dyledion oedd yn prysur gynyddu. Bu’n rhaid i ni adael yr ardal ac edrych am gartref addas ar rhent ac yn raddol fe gollon ni ein ffrindiau hefyd. Efallai bod poen yn eich rheoli chi’n llwyr ond mae o hefyd yn hoelio’ch sylw, ac os oes gen i un nodwedd o gwbl dw i’n styfnig iawn. Mi ffeindiais i mai’r ffordd orau o dynnu fy meddwl oddi ar y boen barhaol oedd ei droi at rywbeth arall ac yn hytrach nac eistedd yn crïo am fy mhroblemau

    mi ddechreuais i astudio efo’r Brifysgol Agored. Bu i rai cyrsiau syml arwain at rai mwy cymhleth a chyn pen fawr o dro roedd gen i gymwysterau addysg uwch mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol. Bu i mi ddechrau cynnig cyngor a chanllawiau i ffrindiau a busnesau lleol ac arweiniodd hyn at aelodaeth gyda’r Sefydliad Siartredig Technoleg Gwybodaeth. Fodd bynnag, nid dyma oedd y trobwynt rôn i’n dyheu amdano. Roedd popeth gwerthfawr yn dal i lithro drwy fy nwylo ac yn 2009 bu i fy mhriodas chwalu. Dyma pryd y diffoddodd pob golau i mi. Rôn i wedi brwydro yn erbyn poen ac wedi colli bob dim ond heb gael unrhyw gymorth o gwbl, yn feddygol na chan y llywodraeth. Un diwrnod bu i fy meddyg teulu awgrymu i mi gysylltu ag AVOW gyda’r golwg o wirfoddoli yn rhywle. Dw i’n cofio meddwl nad ydi gwirfoddoli yn ddim byd ond twyll, yn ffordd i fudiadau gael gwaith am ddim, ond doedd gen i ddim byd i’w golli ac rôn i’n teimlo yn ynysig, yn ddiwerth ac yn unig iawn felly pam lai . . . mi wnes i gysylltu ag AVOW. O’r funud gyntaf i mi siarad â rhywun mi ddaeth golau i ben arall y twnnel. Anghofia i fyth y ddau berson y cwrddais i â nhw’r diwrnod hwnnw. Pobl ddidwyll llawn cydymdeimlad efo dim agenda gudd. Pobl oedd yno i wrando a chynnig nid yn unig cyngor ond arweiniad go iawn. Yn fuan wedi hynny mi ddechreuais i helpu AVOW ac yn aml roeddwn i yna am ddiwrnod cyfan. Drwy fod yng nghanol pobl ddidwyll, ofalgar a gweld y gallwn i eu helpu nhw mi ddechreuais i gael fy nerth yn ôl yn araf bach. Mi ddechreuais i deimlo bod yna bwrpas i fy mywyd i unwaith eto ac fe helpon nhw fi i feithrin hyder yn y sgiliau oedd gen i. Yn bwysicach na dim mi ddechreuais i fwynhau cwmni bobl unwaith eto a doedd gen i ddim cywilydd o fy mhroblemau iechyd nac o fy anabledd. Mi wnes i ffrindiau, a mwy na hynny hefyd, ffrindiau da. Yn 2012 mi gês i lawdriniaeth ar waelod fy nghefn i geisio mynd i’r afael a’r difrod i’r nerfau oedd wedi achosi fy holl broblemau. Y gobaith oedd y gallwn i ymdopi efo’r boen yn well a dod i symud yn rhwyddach. Diolch i AVOW a’u ffydd ynddof i a’u cefnogaeth bu i mi gael gwaith llawn amser fel Swyddog Cymorth Technegol ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint. Bu i AVOW ddysgu i mi gwir werth helpu pobl lai ffodus a’r boddhad personol o wneud gwahaniaeth i rywun sydd ar goll ac yn ei chael hi’n anodd. Ar ôl gweld dwy ochr y geiniog dw i’n ffodus o fod mewn sefyllfa lle medra i barhau i wneud hynny ar lefel broffesiynol gan ddefnyddio’r sgiliau i mi eu hennill pan oeddwn i mewn adfyd. Ond wna i byth anghofio pobl AVOW a’r sgiliau bywyd i mi ei ddysgu ganddyn nhw. Heb eu cymorth, eu gofal a’u cefnogaeth nhw mi fyddwn i ar goll. Os ydi Wrecsam yn wir yn un o emau Cymru yna pobl AVOW sy’n ei gadw’n loyw.

    Fy AVOWStori gan Pete Fuller

    15 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

  • 16 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Bu i AVOW ein helpu ni...

    Mi hoffwn i ddiolch i AVOW am y cyfleoedd maen nhw wedi eu rhoi i mi ddatblygu fy sgiliau, ennill profiadau a chyfrannu at holl waith y mudiad. Mi fedra i weld y gwahaniaeth ynddof fi rhwng dechrau’r lleoliad gwaith a rŵan. Dw i’n siŵr y bydd y profiadau a’r hyder dw i wedi eu hennill yn gymorth i mi yn y dyfodol yn fy ngyrfa.

    Marta Karwacka

    Rôn gen i jest eisio dweud diolch am fy nghael i draw. Dw i wedi dysgu llawer yn y 10 wythnos rôn i yma ac mi fuaswn i wrth fy modd yn cael dod yn fy ôl rhywbryd petai’r cyfle’n codi. Dw i’n gadael yn berson gwahanol ac mi fydda i’n cofio’r profiad am byth. Unwaith eto, diolch am y cyfle gwych! Mi fydda i’n gweld eich eisio. . .Audrey Mukosera

    “”

    “”

    ... Drwy ein cefnogi ni pryd bynnag oedd angen drwy’r flwyddyn. Family Friends

    Drwy roi’r cyfle i ni ddweud wrth fwy o bobl am ein gwasanaethau a chael hyd i fwy o wirfoddolwyr.Cyswllt â’r Henoed

    ... Drwy gael pobl ar ben arall y ffôn sy’n eich trin chi fel bodau dynol ac yn ateb eich cwestiynau gwaeth pa mor fach - pobl sy’n fodlon dod i gwrdd â chi yn lle peiriant ateb bondigrybwyll.David Harris

    Drwy ddarparu cronfeydd cyfalaf drwy gynllun grant fel y gallai ein mudiad sefydlu a darparu’r adnoddau angenrheidiol i ddatblygu’n gallu i gynyddu nifer y disgyblion sydd gennym ni’n cymryd rhan mewn cerddoriaeth a drama. Limelight Productions

    Maen nhw yno o hyd i fy helpu i a rhoi cefnogaeth. Maen nhw’n wasanaeth gwych a dw i’n ymddiried ynddyn nhw.Scott Gormally

    Drwy ddarparu grantiau i ni allu talu am welliannau i’n canolfan gymunedol. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth anhygoel i olwg y neuadd sydd wedi arwain at gynnydd mewn archebion. Pwyllgor Rheoli Cymdeithasau Canolfannau Cymunedol Garth a Threfor

    “ ”

    ”“

    ““

    “ ””

    16 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

  • 17AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Dyfyniadau o le chwarae The Land:Mi alla i gael hwyl – plentyn 9 ½ mlwydd oed

    Dan ni’n mynd ar dripiau, mi alla i neidio yn y llyn. Pa mor wych ydi hynny! – plentyn 11 oedTaswn i ddim yn dod yma mi fuaswn i yn y tŷ – plentyn 9 oed

    Taswn i ddim yn dod yma mi fuaswn i’n cysgu am 1200 o flynyddoedd – plentyn 11 oedMi alla i wneud llanast o fy hun pryd bynnag dw i eisio - plentyn 9 oed

    Dw i wedi dysgu i sefyll i fyny dros fy hun – plentyn 11 oedMae o wedi fy helpu i wneud ffrindiau newydd – plentyn11oed

    Mae AVOW wedi ein helpu i wneud gwahaniaeth trwy...

    Am ein harfogi ni drwy gyfrwng yr wybodaeth sydd ar eich gwefan . David Harris

    ... ...Drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i sicrhau y bu i Bwyllgor Llywio Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown ennill yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i fynd rhagddom â’r prosiect.Tai Wales & West

    ... ...Drwy ddarparu gwasanaeth unigryw i aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam. Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam““

    “”

    17 ”

    AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

  • 18 AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    AVOW mewn Ystadegau38,000 12,172 11,220 7,7217,398 £5,617,85 2,743 1,3701,223 500 376 350 312290 250 154 51 4640 14 12 11 09

    08 05 05 02

    o ymwelwyr â’r wefano gylchlythyrau wedi eu dosbarthu o ymholiadau wedi eu derbyn a’u hateb

    o ymweliadau â thudalen swyddi gwefan AVOW

    o ymweliadau â ‘The Land’ o arian grant y mae AVOW yn ymholi yn ei gylch o ymholiadau wedi eu derbyn gan ofalwyr a’u hateb

    o oriau chwarae wedi eu darparu o ymgeiswyr llwyddiannus dan y Cynllun Grant Bach i Ofalwyr

    o apwyntiadau, sesiynau cynghori a sesiynau therapi ymlacio wedi eu darparu i ofalwyr

    o bobl wedi ymweld â’r Diwrnod Mawr Iechyd

    o ofalwyr newydd wedi cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr

    o ymholiadau ynghylch ariannu wedi eu derbyn a’u hateb

    o bobl yn derbyn y cylchlythyr yn rheolaidd

    o ofalwyr ar gyfer wythnosau Little Sunflowers (LSCC)

    o bobl wedi elwa o gyrsiau hyfforddiant

    nifer y gwahanol gyrff a mudiadau a gysylltwyd â nhw ynglŷn â’r Prosiect Mawr Gwirfoddoli

    o gyfleodd newydd i wirfoddoli wedi eu creu ar gyfer pobl ifanc

    o gyrff a mudiadau’n arddangos eu gwaith yn y Diwrnod Mawr Iechyd

    o gylchlythyrau wedi eu cynhyrchu

    o gyfarfodydd fforwm ar gyfer cyrff a mudiadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

    o e-gyfathrebiadau cyfarwyddo i dros 150 o bobl, cyrff a mudiadau

    wedi ennill cymwysterau achrededig ar ôl mynychu digwyddiadau’r Ganolfan Cyfleoedd

    wedi cael swydd gyflogedig neu wirfoddol ar ôl mynychu digwyddiadau’r Ganolfan Cyfleoedd

    o bobl ifanc ar Banel Grantiau Gwirvol

    wedi gwirfoddoli ac ymgymryd â hyfforddiant dan gynllun yr Little Sunflowers

    o gyfleoedd i grwpiau lleol drafod newidiadau arfaethedig i’r drefn iechyd a gofal cymdeithasol

    18 AVOW 2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

  • 19AVOW 2012-2013 ADOLYGIAD BLYNYDDOL

    Mae’r datganiad o Weithgarwch Ariannol yn cynnwys holl enillion a cholledion y flwyddyn. Mae’r holl incwm a’r gwariant yn deillio o weithgarwch cyfredol.

    Mae’r manylion ariannol uchod wedi eu tynnu o’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ddaeth i ben ar Fawrth yr 31ain 2013. Mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi yn unol â’r darpariaethau ar gyfer cwmnïau yn ôl cyfundrefn y cwmnïau bychain ac yn

    unol â’r Safon Adroddiadau Ariannol ar gyfer Endidau Llai (daeth i rym ym mis Ebrill 2008).

    Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr ar Orffennaf y 25ain 2013. Llofnodwyd hwy ar ran y Bwrdd gan John Leece Jones (Cadeirydd)

    2013

    £ £

    2012

    £ £

    ASEDAU SEFYDLOG

    Asedau Cyffwrddadwy 244,818 255,194

    ASEDAU CYFREDOL

    Dyledwyr 125,807 73,605

    Arian yn y banc ac mewn llaw 519,720645,527

    433,718507,323

    CREDYDWYR: Cyfansymiau’n ddyledus o fewn blwyddyn

    (254,280) (81,465)

    ASEDAU NET CYFREDOL 391,247 425,858

    CYFANSWM ASEDAU LLAI NA’R DYLEDION CYFREDOL

    636,065 681,052

    Credydwyr: Cyfansymiau’n ddyledus wedi mwy na blwyddyn

    (180,700) (187,500)

    ASEDAU NET 455,365 493,552

    CYLLID YR ELUSEN:

    Cyllid Cyfyngedig 268,411 367,124

    Cyllid Anghyfyngedig

    Cronfa gyffredinol 118,640 61,114

    Cyllid wedi’u neilltuo 68,314 65,314

    HOLL GYLLID YR ELUSEN 455,365 493,552

    Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW)Cyfriflen Gweithgarwch Ariannol y Flwyddyn sy’n dod i ben

    ar yr 31ain o Fawrth 2013 (gan ymgorffori’r cyfrif incwm a gwariant)Cyllid

    Anghyfyngedig£

    Cyllid Cyfyngedig

    £

    Holl Gyllid2013

    £

    Holl Gyllid2012

    £

    INCWM

    Incwm wedi’i gynhyrchu

    Incwm Gwirfoddol 160,901 71,673 232,574 222,756

    Incwm drwy Fuddsoddi -llog dderbyniwyd

    6,077 - 6,077 4,304

    Incwm o weithgarwch elusennol 141,253 1,248,758 1,390,011 1,391,393

    Cyfanswm Incwm 308,231 1,320,431 1,628,662 1,618,453

    GWARIANT

    Gweithgarwch elusennol 401,980 1,242,398 1,644,378 1,530,043

    Costau Llywodraethu 18,042 4,429 22,471 17,803

    Cyfanswm Gwariant 420,022 1,246,827 1,666,849 1,547,846

    Cyfanswm incwm/(gwariant) net y flwyddyn cyn trosglwyddiadau

    (111,791) 73,604 (38,187) 70,607

    Trosglwyddiadau gros rhwng cronfeydd 172,317 (172,317) - -

    Symudiadau net cyllid 60,526 (98,713) (38,187) 70,607

    Cysoniad cyllid:

    Cyfanswm y cyllid weoi’i ddwyn ymlaen 126,428 367,124 493,552 422,945

    Cyfanswm y cyllid wedi’i gario drosodd

    186,954 268,411 455,365 493,552

    Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW)Mantolen ar yr

    31ain o Fawrth 2013

    Mae copi llawn o’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon ar gael gan John Leece Jones, yr Ysgrifennydd, Tŷ Avow, 21 Stryt Egerton, Wrecsam, LL11 1ND. Ffôn: 01978 312556, E-bost: [email protected]