Upload
others
View
4
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
ADOLYGIAD BLYNYDDOL
2018 – 2019
RHAGAIR
Croeso i’n hadolygiad o flwyddyn hynod brysur a llwyddiannus arall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru pryd rydym wedi croesawu hen ffrindiau ac wedi gwneud partneriaethau cyffrous newydd. Un o’r prif uchafbwyntiau oedd canmlwyddiant derbyn Casgliad Mostyn, a dathlwyd hynny drwy arddangosfa ddiddorol a chyfres o ddigwyddiadau a darlithoedd poblogaidd. Roeddem wrth ein bodd bod y cofnod rhyfeddol o ddigwyddiadau oes y Tuduriaid, Cronicl Elis Gruffudd a luniwyd tua 1550, wedi’i gynnwys, mewn seremoni yn Llundain, yng Nghofrestr Cof y Byd UNESCO y Deyrnas Unedig sy’n cydnabod treftadaeth ddogfennol o bwys byd-eang.
Cafodd Blwyddyn y Môr ei nodi gyda digwyddiadau ac arddangosfeydd poblogaidd a oedd yn cynnwys diwrnod o hwyl i’r teulu gyda’r RNLI i dynnu sylw at Jack Lowe: Lifeboat Station Project. Mae’r prosiect arloesol hwn yn defnyddio technegau ffotograffiaeth a chamerâu oes Fictoria i gofnodi criwiau bad achub cyfoes a’u gorsafoedd bad achub.
Roedd perthynas Cymru â’r môr hefyd yn thema arddangosfa deithiol Tra Môr Yn Fur: Cymru a’r Môr a Chynhadledd flynyddol Carto-Cymru ar fapio a drefnwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Ym mis Ionawr, dathlodd y Llyfrgell ein partneriaeth gyda Chyngor Sir Penfro pan agorwyd Oriel Llyfrgell Glan-yr-afon sy’n galluogi trigolion Sir Benfro a De Orllewin Cymru i weld eitemau o’r casgliadau cenedlaethol mewn oriel o’r radd flaenaf yn Hwlffordd.
Mae ein strategaeth i sefydlu Llyfrgell Genedlaethol ddigidol wedi symud ymlaen yn sgil cyflwyno ein cynnig cydweithredol i sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol gyntaf y DU i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am gymeradwyaeth ariannol yr ail rownd. Cafodd gwaith arloesol y Llyfrgell ei gydnabod mewn cynhadledd ryngwladol yn Washington DC am ddatblygu safonau rhyngwladol ar gyfer rhannu delweddau digidol, a cefais y fraint o gyflwyno papur ar ddatblygiadau digidol yn 9ed Fforwm Llyfrgell Rhyngwladol Shanghai a drefnwyd gan Lyfrgell Shanghai.
Mae llwyddiant a datblygiad y Llyfrgell yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth ein staff gweithgar, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Llywodraeth Cymru, ein defnyddwyr, Cyfeillion y Llyfrgell, ein gwirfoddolwyr ffyddlon a’n holl ffrindiau a phartneriaid, yn enwedig o fewn Partneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol. Unwaith eto, rydym yn cydnabod ein diolch diffuant i bawb sydd wedi sicrhau bod y Llyfrgell Genedlaethol yn parhau i wasanaethu pobl Cymru a’r tu hwnt drwy gyfnodau heriol o dan arweiniad ein gwerthoedd a’n diben gwreiddiol. Wrth i ni ffarwelio â Linda Tomos a dymuno’n dda iddi yn ei hymddeoliad, rydym hefyd yn estyn croeso cynnes i Pedr ap Llwyd i arwain y Llyfrgell fel y Prif Weithredwr a’r Llyfrgellydd Cenedlaethol nesaf.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen am ein blwyddyn a bod hynny’n eich annog i ddysgu mwy am ein gwaith.
Llywydd
Croeso i’n hadolygiad o flwyddyn hynod brysur a llwyddiannus arall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru pryd rydym wedi croesawu hen ffrindiau ac wedi gwneud partneriaethau cyffrous newydd.
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 1
BOD YN GEIDWAID RHAGOROL I’N CASGLIADAU
2 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Rhwng Mehefin a Rhagfyr, dathlodd y Llyfrgell ganmlwyddiant derbyn llawysgrifau teulu Mostyn, a brynwyd gan Mr A. Cecil Wright yn 1918 ar gyfer y Llyfrgell. Cafodd y canmlwyddiant ei nodi gydag arddangosfa o eitemau pwysig o’r casgliad, a oedd yn cynnwys eitemau a brynwyd gan y Llyfrgell yn ddiweddarach, yn ogystal ag eitemau sy’n eiddo i deulu Mostyn o hyd. Roedd yr eitemau a fenthycwyd o Neuadd Mostyn yn cynnwys comisiwn gwreiddiol 1567, a roddwyd o dan awdurdod y Frenhines Elizabeth I, yn gorchymyn i William Mostyn drefnu eisteddfod yng Nghaerwys, a’r delyn arian odidog - y wobr eisteddfodol gynharaf sydd wedi goroesi. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Arglwydd Mostyn am
roi’r eitemau ar fenthyg ac am agor yr arddangosfa gyda’r Arglwydd Elis-Thomas AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Dyma gyfle prin i weld trysorau un o’r casgliadau preifat gorau a welwyd erioed yng Nghymru. Roedd yr arddangosfa hefyd yn dangos gwaith yr artist dyfrlliw a’r ysgythrwr Moses Griffith a oedd yn byw yng Ngwibnant ger Mostyn ac aeth gyda Thomas Pennant fel darlunydd yn ystod ei deithiau niferus trwy Gymru a’r Alban.
Roedd tymor Mostyn yn gydweithrediad rhwng y Llyfrgell a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Mae Cyfarwyddwr y Sefydliad, Dr Shaun Evans, yn frodor o Dre-Mostyn, ac mae’n arbenigwr ar hanes yr ystad.
LLAWYSGRIFAU MOSTYN:
ARDDANGOSFA’R CANMLWYDDIANT
Mae Cronicl Elis Gruffudd wedi cael ei ychwanegu at Gofrestr Cof y Byd UNESCO y Deyrnas Unedig sy’n cydnabod treftadaeth ddogfennol o bwys byd-eang. Lluniwyd y Cronicl rhwng 1550 a 1552 gan filwr a gweinyddwr o Gymru a wasanaethodd yn y garsiwn Seisnig yn Calais. Mae’n cynnwys hanes y byd o’r Greadigaeth i’w gyfnod ei hun, a dyma’r cronicl Cymraeg olaf o bwys, sy’n cyfuno hanes,
corff unigryw o chwedloniaeth draddodiadol Gymraeg, a thystiolaeth ddiddorol o gyfnod y Tuduriaid. Roedd Elis yn llygad dyst i’r ornest anhygoel a gynhaliwyd ar Faes y Brethyn Aur yn 1520 rhwng Harri VIII a Francis I o Ffrainc, ac mae’n rhannu clecs y llys am berthynas drychinebus Harri gydag Anne Boleyn. Mae’r Cronicl yn ymuno â phum eitem arall o’r Llyfrgell sydd wedi’u cynnwys ar y Gofrestr.
CRONICL ELIS GRUFFUDD
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 3
Ym mis Ebrill, daeth dros 500 o ymwelwyr i’r Llyfrgell fel rhan o Ddiwrnod Hwyl Bad Achub a drefnwyd gyda’r RNLI i ddathlu Jack Lowe: The Lifeboat Station Project, ac i nodi Blwyddyn y Môr Llywodraeth Cymru. Cafodd yr ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o brofiadau a oedd yn cynnwys cyfle i ymweld ag arddangosfa ddiddorol o ffotograffau Jack Lowe. Daeth Jack â’i ystafell dywyll symudol
gydag ef, sef hen ambiwlans y GIG, a’i defnyddio i ddangos proses oes Fictoria o gynhyrchu ffotograffau ar wydr, gan adlewyrchu’r traddodiad cynnar o dynnu lluniau criwiau’r badau achub. Cynhaliwyd sesiynau crefft, perfformiad o chwedl Cantre’r Gwaelod, cyfle i weld bad achub go iawn, helfa drysor, peintio wynebau a chystadleuaeth ‘taflu’r weli’!
JACK LOWE: THE LIFEBOAT STATION PROJECT
4 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 5
Ym mis Ionawr, cynhaliwyd arddangosfa ddiddorol ar y cyd â phrosiect a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, i ddathlu bywyd a gwaith Humphrey Llwyd (1527-1568). Roedd Lluniwr Prydain: Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd yn arddangos peth o’i waith pwysicaf. Mae Humphrey Llwyd, hynafiaethydd a gwneuthurwr mapiau a aned yn Ninbych, yn cael ei ystyried gan lawer fel “Lluniwr Prydain”, ac ef sy’n cael y clod am fathu’r term Ymerodraeth Brydeinig. Fe hefyd roddodd Gymru ar y map drwy gynhyrchu’r map cyhoeddedig cyntaf o Gymru fel gwlad.
Fel ysgolhaig blaenllaw yn ystod cyfnod y Dadeni, cynhyrchodd nifer o weithiau pwysig gan gynnwys cyfieithiad Saesneg o’r Cronicl Cymraeg cynnar, Brut y Tywysogion. Roedd hefyd yn allweddol o ran helpu i lywio’r Mesur ar gyfer cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Senedd ac i boblogeiddio stori Tywysog Madog yn darganfod America.
HUMPHREY LLWYD
6 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Cynhaliwyd Carto-Cymru ym mis Mai, sef y Symposiwm Mapiau blynyddol poblogaidd. Roedd y symposiwm, a drefnwyd ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn archwilio pynciau o dan thema Siartio’r Moroedd, gan gynnwys y Prosiect Cherish sy’n mapio effaith newid hinsawdd ym môr Iwerddon, mapio morwrol o’r 19eg ganrif, llenyddiaeth Cymru a daearyddiaeth forwrol, a chasgliad o siartiau morwrol y Llyfrgell.
Rhoddodd yr arddangosfa Tra Môr yn Fur: Cymru a’r Môr gyfle i ddehongli perthynas Cymru â’r môr a sut mae wedi llywio ein hanes. Datblygwyd yr arddangosfa deithiol a’r rhaglen o ddarlithoedd mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
CARTO CYMRU CHARTING THE SEAS
BLWYDDYN Y MÔR
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 7
GALLUOGI MYNEDIAD AG YMGYSYLLTU
8 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Ym mis Tachwedd, lansiwyd gwefan newydd y Bywgraffiadur Cymreig gan Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Aelod Cynulliad Ceredigion, gyda chynnwys a chyfleuster chwilio gwell. Mae’r Bywgraffiadur yn cynnwys erthyglau awdurdodol ar tua 5,000 o Gymry sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol Cymru a’r tu hwnt, gan gynnwys
anturiaethwyr, gwyddonwyr, gwleidyddion, ymgyrchwyr, awduron ac artistiaid. Fe’i datblygwyd fel gwefan mewn partneriaeth â’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a chefnogaeth Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell, Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac Ymddiriedolaeth Colwinston.
Ym mis Medi, bu ein gwirfoddolwyr yn dathlu’r ffaith bod prosiect cyfrannu torfol cyntaf y Llyfrgell wedi’i gwblhau. Fe wnaeth dros 200 o wirfoddolwyr ar-lein gefnogi’r Llyfrgell i ddatgloi hanes cudd y Rhyfel Mawr drwy drawsysgrifio a mynegeio Cofnodion Tribiwnlys Rhyfel Byd Cyntaf Sir Aberteifi (Apeliadau). Roedd y tribiwnlysoedd hyn
yn delio ag apeliadau ar ôl 1916 yn erbyn consgripsiwn ar sail bersonol, economaidd, moesol neu grefyddol. Yn 1921, gorchmynnodd y Llywodraeth y dylid dinistrio holl gofnodion y tribiwnlysoedd, ond goroesodd cofnodion Sir Aberteifi. Mae’r archif yn un unigryw yng Nghymru, a dim ond tri ohonynt sydd wedi goroesi ledled y DU.
LLWYFAN CYFRANNU
TORFOLY BYWGRAFFIADUR CYMREIG
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 9
Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd y Llyfrgell nifer o eitemau a chasgliadau nodedig, naill ai drwy roddion neu drwy brynu, gan gynnwys:-
• archif Urdd Gobaith Cymru
• papurau’r nofelydd a’r dramodydd, Eigra Lewis Roberts
• rhodd o 24 o lythyrau gan y bardd a’r artist David Jones at Louis Bonnerot 1960-1974
• ychwanegiad sylweddol at archif Gwasg Gregynog gan gynnwys papurau sy’n ymwneud â’r broses o reoli’r wasg
• papurau Peter Thomas, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru
• dyddiadur y ffotograffydd pwysig o oes Fictoria, John Thomas
• archif Coleg Harlech, unig goleg preswyl Cymru i oedolion a sefydlwyd yn 1927
• chwe eitem yn ymwneud â’r bardd o’r Rhyfel Byd Cyntaf Edward Thomas, gan gynnwys drafftiau o’i gerddi The Mountain Chapel, The Birds’ Nests a House and Man, a brynwyd gyda chefnogaeth hael Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol
YCHWANEGU AT GYFOETH EIN CASGLIADAU
10 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Mae’r Llyfrgell yn parhau i sicrhau bod llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ganolog i’w gweithgareddau, a thrwy barhau â’i rhaglen ddigido gynhwysfawr, bydd yn sicrhau y bydd hyd yn oed mwy o’r casgliadau ar gael ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Mae’r Llyfrgell yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru ac yn darparu adnoddau addysgol a chwricwlwm digidol ar gyfer llwyfan Hwb, a’i nod yw cynyddu’r cynnwys hwn 10% erbyn diwedd 2019.
Mae’r Llyfrgell yn credu bod darparu cyfle cyfartal i bawb yn allweddol i’n cynaliadwyedd, a thrwy sefydlu presenoldeb yn Sir Benfro gydag agoriad Oriel Llyfrgell Glan-yr-afon, Hwlffordd, a pharhau i ddarparu mynediad i ddeunydd adnau cyfreithiol electronig ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn sicrhau ein bod yn cyrraedd mwy o bobl a chynulleidfaoedd mwy amrywiol.
Mae ein Cynllun Gwirfoddoli llwyddiannus wedi mynd o nerth i nerth eleni, ac mae wedi bod o fudd i nifer o’n gwirfoddolwyr, gan eu bod wedi gallu sicrhau gwaith cyflogedig o ganlyniad i’r broses o ryngweithio â’r Llyfrgell a’i staff.CYFRANNU
AT LESIANT CENEDLAETHAU’R
DYFODOL
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 11
Ym mis Tachwedd, daeth disgyblion Ysgol Brynsierfel yn Llwynhendy ger Llanelli i’r Llyfrgell fel rhan o Ddiwrnod Plant yn Meddiannu mewn Amgueddfeydd. Trefnwyd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Rhaglen Rhwydwaith Cyfuno Sir Gâr. Roedd y gweithgareddau i blant yn cynnwys treulio amser yn yr ystafelloedd darllen, digido eitemau, gweithio yn y
siop a helpu yn y dderbynfa, gwaith cadwraeth, gweithio gyda TG, prosesu eitemau newydd, diogelwch, a pharatoi eitemau i’w harddangos mewn arddangosfeydd. Mae’r digwyddiad blynyddol poblogaidd hwn yn cael ei fwynhau’n fawr gan ddisgyblion a staff y Llyfrgell ac mae’n cynnig nifer o ganlyniadau positif i’r plant, i’r ysgolion ac i’r Llyfrgell.
DIWRNOD PLANT YN MEDDIANNU MEWN AMGUEDDFEYDD
12 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 13
14 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Ym mis Ebrill, cyflwynodd y Llyfrgell brosiect Campweithiau mewn Ysgolion mewn partneriaeth â Rhaglen Rhwydwaith Cyfuno Gwynedd. Roedd y prosiect hwn yn rhan o raglen i goffáu ac i ddathlu canmlwyddiant geni’r artist o Fôn, Syr Kyffin Williams. Aethpwyd â chyfanswm o ddeg o’i weithiau gwreiddiol i ddwy ysgol ym Mhenygroes, a chomisiynwyd artistiaid i
arwain gweithdai yn seiliedig ar ei gelf a’i arddull. Arweiniodd Catrin Williams weithdy ar dirluniau Kyffin gyda disgyblion Blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Bro Lleu, ac arweiniodd Eleri Jones sesiynau ar ei bortreadau gyda myfyrwyr celf Safon Uwch yn Ysgol Dyffryn Nantlle. Yna, gwahoddwyd disgyblion y ddwy ysgol i’r Llyfrgell i ymweld â’r arddangosfa Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm yn Oriel Gregynog.
CAMPWEITHIAU MEWN YSGOLION
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 15
EISTEDDFOD YR URDD
16 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Prif thema ein huned yn Eisteddfod yr Urdd 2018 yn Llanelwedd oedd bywyd a gwaith Syr Kyffin Williams, a daeth dros 1,200 o bobl i ymweld â’r stondin yn ystod yr wythnos. Cafodd ymwelwyr ifainc gyfle i helpu i ail-greu nifer o dirluniau eiconig Kyffin drwy ddefnyddio paent acrylig ar gynfas. Dosbarthwyd llyfryn dwyieithog am fywyd a gwaith Syr Kyffin Williams am ddim i blant wnaeth ymweld â’r stondin. Cyflwynodd yr artist
Catrin Williams weithdy hefyd, ac yn ystod y dydd dysgodd 62 o blant sut i fraslunio yn ei arddull ef o baentio, a chynhyrchu llyfr braslunio. Roedd gweithgareddau’r Eisteddfod yn rhan o gyfres o weithdai a gyflwynwyd gan Wasanaeth Addysg y Llyfrgell pryd cafodd bron i 900 o blant gyfle i ddysgu mwy am yr artist, gyda nifer ohonynt yn dod o ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig o Gymru.
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 17
SICRHAU MYNEDIAD HIR DYMOR AT Y CASGLIADAU CENEDLAETHOL
18 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Derbyniodd y Llyfrgell grant gan Ymddiriedolaeth Wellcome ar gyfer y prosiect ‘Meddyginiaeth a Iechyd yng Nghymru cyn y GIG’. Mae’r prosiect yn cynnwys catalogio dros 4,000 o eitemau yn y casgliad llyfrau printiedig, a chaiff yr eitemau a gyhoeddwyd cyn 1900 eu digido. Bydd y casgliad llawn o gofnodion printiedig ac adroddiadau blynyddol Cymdeithas Goffa
Genedlaethol y Brenin Edward VII, oedd yn rhagflaenu’r GIG ac a sefydlodd rwydwaith gofal iechyd am ddim ledled Cymru i drin y diciâu, hefyd yn cael eu digido. Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn taflu goleuni ar gyfnod pryd roedd mynediad at ofal iechyd yn brin iawn, ac y bydd yn amlygu’r casgliadau cyfoethog sydd gennym.
Roedd llwyfan cyfrannu torfol newydd y Llyfrgell yn rhan o’r gynhadledd ryngwladol IIIF ym mis Mai 2018. Daeth dros 250 o lyfrgellwyr, archifwyr, arbenigwyr TG ac ysgolheigion o sefydliadau ledled y byd at ei gilydd yn Llyfrgell y Gyngres, Washington DC i gyflwyno papurau ar y modd mae’r IIIF (Fframwaith Rhyngwladol ar
Ryngweithredu Delweddau) yn galluogi sefydliadau i rannu delweddau digidol yn agored. Yn ogystal â chyflwyniad gan y Llyfrgell Genedlaethol ar ei llwyfan cyfrannu torfol, rhoddwyd cryn glod i waith arloesol y Llyfrgell yn digido papurau newydd.
CYN Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL
CYNHADLEDD RYNGWLADOL IIIF YN WASHINGTON
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 19
Mae bron i 5,000 o bortreadau o gasgliadau’r Llyfrgell wedi’u trosglwyddo i Gomin Wicimedia gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o’u crëwyr a’u pynciau, ac annog defnydd pellach. Drwy rannu’r portreadau fel hyn, gellir eu defnyddio i ddarlunio erthyglau Wicipedia mewn unrhyw iaith,
a thrwy hynny eu cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd ar lwyfan ar y we sydd wedi dod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd yn y byd. Bydd rhannu’r portreadau hyn yn annog cynulleidfa ehangach i ddadansoddi’r gweithiau’n feirniadol, i ddarparu croesgyfeiriadau ac i’w haddasu mewn ffyrdd newydd.
Dechreuodd blog wythnosol newydd ym mis Mehefin ar wefan y Llyfrgell. Mae’r gyfres yn seiliedig ar gyfraniad y Llyfrgell i brosiect The Rise of Literacy ar gyfer y llwyfan digidol Ewropeaidd Europeana, sy’n gweithio gyda 12 o sefydliadau partner eraill i archwilio hanes darllen ac ysgrifennu yn Ewrop. Bydd y prosiect yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at ystod eang o ddeunydd, gyda llawer ohono’n cael ei arddangos
ar lwyfan digidol am y tro cyntaf. O lawysgrifau i bapurau newydd, o eiriaduron i lyfrau coginio, o lenyddiaeth plant i faledi; mae gan bob un ohonynt rywbeth i’w gynnig wrth olrhain hanes llythrennedd. O’r eiconig i’r annisgwyl, gyda’i gilydd, mae’r gweithiau yn rhoi crynodeb aml-haenog o esblygiad darllen ac ysgrifennu yng Nghymru a’r tu hwnt, o ganol y drydedd ganrif ar ddeg hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif.
RHANNU PORTREADAU
O GYMRU
DATGELU’R GWRTHRYCHAU
20 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Mae dros 5000 o gyfrolau unigol wedi cael eu sganio, gyda llawer ohonynt yn cynnwys nodiadau ac arnodiadau â llaw. Nid yn unig y bydd yr adnodd hwn yn rhoi cipolwg ar feddyliau a safbwyntiau Gladstone, ond bydd hefyd yn ffynhonnell amhrisiadwy i ysgolheigion ar gyfer astudio rhagor ar oes Fictoria.
Ym mis Gorffennaf, cynhaliodd y Llyfrgell gynhadledd ryngwladol Cwlwm Celtaidd 2018 gyda’r nod o ddod â phobl sy’n gweithio i gefnogi cymunedau iaith at ei gilydd. Cafodd y gynhadledd ei threfnu a’i rheoli gan Jason Evans, Wicipediwr y Llyfrgell Genedlaethol, yn dilyn llwyddiant cynhadledd iaith gyntaf Cwlwm Celtaidd Wicipedia y llynedd yng Nghaeredin. Cafwyd nifer o drafodaethau gwerthfawr ac ysbrydoledig am rôl Wicipedia mewn addysg, mewn llyfrgelloedd ac yn y gymuned. Tynnwyd sylw at amrywiaeth
o ffyrdd o dyfu Wicipedia, ac fe wnaeth nifer o weithdai technegol helpu pobl i ddysgu mwy am isadeiledd Wicipedia a sut gellir defnyddio Wicidata i wella cynnwys fel blychau gwybodaeth. Drwy gydol y gynhadledd roedd yn amlwg fod gwella Wicipedia mewn iaith fach neu leiafrifol yn rhywbeth gwerthfawr.
Yr ydym yn ddiolchgar iawn i’r Farwnes Eluned Morgan, AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, am agor y gynhadledd ac am ei chefnogaeth i waith y Llyfrgell.
CROESAWU CYNHADLEDD
CWLWM CELTAIDD 2018
PAMFFLEDI GLADSTONE
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 21
BOD YN GANOLOG I FYWYD DIWYLLIANNOL CENEDLAETHOL
22 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Fe wnaeth y Llywydd a Dr Doug Jones, Rheolwr Prosiect Casgliadau Printiedig fynychu’r Seminar Llyfrgelloedd Rhyngwladol fawreddog a drefnwyd gan Lyfrgell Shanghai, un o lyfrgelloedd mwyaf y byd. Gwahoddwyd y Llywydd i gyflwyno papur ar ddatblygiadau digidol y Llyfrgell Genedlaethol
fel rhan o’r bartneriaeth gynyddol sydd wedi datblygu rhwng Llyfrgell Shanghai a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r ddwy lyfrgell wedi cytuno i gydweithio i dynnu sylw at gasgliad Tsieineaidd pwysig y Llyfrgell Genedlaethol a gasglwyd gan yr Athro David Hawkes yn yr 20fed ganrif.
9ED FFORWM LLYFRGELL
RHYNGWLADOL SHANGHAI
Ym mis Tachwedd, roeddem yn falch iawn o groesawu hanesydd nodedig a chyfaill triw i’r Llyfrgell, y Parchedig Ddoethur D. Ben Rees, i gyflwyno darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig ar rôl Aneurin Bevan wrth sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Roedd y ddarlith yn nodi 70 mlynedd ers sefydlu’r GIG ac mae ar gael i’w darllen yn Gymraeg ar wefan y Llyfrgell.
DARLITH FLYNYDDOL
YR ARCHIF WLEIDYDDOL
GYMREIG
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 23
Cymerwyd camau sylweddol yn ystod y flwyddyn i wireddu ein huchelgais i sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol gyntaf y DU. Diolch i Lywodraeth Cymru a’n partneriaid, llwyddodd y Llyfrgell i gyflwyno ei chais am gyllid yr ail rownd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ym mis Mawrth.ARCHIF
DDARLLEDU GENEDLAETHOL
24 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Bellach, gellir gweld arddangosfeydd o gynnwys rhai o gasgliadau’r Llyfrgell mewn oriel newydd yn Hwlffordd fel rhan o bartneriaeth gyffrous newydd rhwng y Llyfrgell a Chyngor Sir Benfro. Mae’r oriel yn rhan o Ganolfan Ddiwylliannol Glan-yr-afon sy’n cynnwys caffi, canolfan gynghori, llyfrgell gyhoeddus a chanolfan groeso. Mae gan y Llyfrgell raglen o arddangosfeydd thematig bob chwe mis, ac arddangosfa barhaol ar hanes, diwylliant a chwedlau Sir Benfro yn yr oriel.
Cafodd yr arddangosfa thematig gyntaf sef Kyffin: Tir a Môr ei agor gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ym mis Ionawr. Mae’r Llyfrgell hefyd yn cyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau a chyfres o weithdai addysg yn Llyfrgell Glan-yr-afon i gyd-fynd â’r arddangosfeydd.
ORIEL LLYFRGELL GLAN-YR-AFON
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 25
Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fod Pedr ap Llwyd wedi’i benodi’n Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol i ddilyn ymddeoliad Linda Tomos ym mis Ebrill 2019. Ar adeg ei benodi, roedd
Pedr yn Ddirprwy Lyfrgellydd Cenedlaethol a Chyfarwyddwr Casgliadau a Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell. Yn ystod ei gyfnod yn y Llyfrgell, mae Pedr hefyd wedi gwasanaethu’r sefydliad fel Ysgrifennydd a Phennaeth Llywodraethu.
PRIF WEITHREDWR A LLYFRGELLYDD CENEDLAETHOL
NEWYDD
Cymerodd y Llyfrgell ran yn Wythnos Cymru yn Llundain ym mis Mawrth gan arddangos darnau unigryw yn seiliedig ar weithiau Syr Kyffin Williams yn nigwyddiad yr Emporiwm Cymreig mewn cydweithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru. Wedi ei noddi gan yr Arglwydd Aberdâr, un o Ymddiriedolwyr y Llyfrgell, cynhaliwyd derbyniad yn Nhŷ’r Arglwyddi i dynnu sylw at waith y Llyfrgell, yn enwedig yr Archif Wleidyddol
Gymreig gynhwysfawr, a daeth atom nifer o wleidyddion cyfoes a chynrychiolwyr o’r gymuned Gymreig yn Llundain. Roeddem yn ddiolchgar i’r Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru am gefnogi’r digwyddiad a chroesawyd yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, sy’n noddi’r Llyfrgell.
WYTHNOS CYMRU YN LLUNDAIN
26 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Mae staff ac ymwelwyr yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddathliad Nadolig blynyddol y Llyfrgell. Eleni, fel arfer, cawsom gefnogaeth staff a gwirfoddolwyr y Llyfrgell a drefnodd fwyd a diod dymhorol Gymreig, ymweliad
gan Siôn Corn a cherddoriaeth band iwcalili. Darparodd cwmnïau crefftau lleol syniadau creadigol ar gyfer anrhegion Nadolig ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am gyfrannu unwaith eto at ddigwyddiad llwyddiannus iawn.
DATHLU’R NADOLIG
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 27
Ym mis Ionawr roedd y Llyfrgell yn falch o ymrwymo i Siartr Marw i Weithio’r Gyngres Undebau Llafur. Mae’n dangos ein bod wedi ymrwymo i drin ein staff gyda’r urddas a’r parch y maent yn ei haeddu wrth gael deiagnosis o salwch terfynol. Mae’r Llyfrgell wastad wedi cefnogi ei staff yn y ffordd orau bosib, a thrwy lofnodi’r Siartr hon mae’n cryfhau mwy fyth ar yr ymrwymiad hwnnw.
SIARTR “MARW I WEITHIO”
Roedd cwblhau’r Cynllun Pobl a’r Strategaeth Datblygu’r Gweithlu yn gerrig milltir pwysig wrth gyflawni ein hamcanion fel yr amlinellwyd yn ein Cynllun Strategol 2017-21. Yn y bôn, mae llwyddiant y Llyfrgell yn gysylltiedig â’r gefnogaeth a ddarperir i’n staff i ddatblygu ac i dyfu yn y gweithle. Gan weithio’n agos gyda’r staff a’r
undebau, datblygwyd cynllun drafft ar gyfer olyniaeth yn ystod y flwyddyn, ond daeth grŵp Partneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol i’r casgliad yn ddiweddarach bod angen cynllun ar draws y sector cyfan ac y dylid rhoi blaenoriaeth yng nghynllun gweithredol yr is-grŵp sgiliau i ddatblygu hwnnw.
STRATEGAETH DATBLYGU’R
GWEITHLU
28 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Roedd y Llyfrgell yn falch o dderbyn y Wobr Efydd yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru am ein gwaith yn cynnig profiad gwaith i ddisgyblion ysgolion uwchradd.
Y Llyfrgell hefyd yw’r partner sy’n arwain y Prosiect Uchelgais Diwylliannol ar gyfer Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yng Ngheredigion. Mae’r prosiect hwn yn cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr yn y sector diwylliannol wrth weithio tuag at Gymhwyster Cenedlaethol Galwedigaethol Lefel 2 mewn Treftadaeth Ddiwylliannol gyda Choleg Caerdydd a’r Fro. Cafodd Tomos James, myfyriwr cyntaf y Llyfrgell o dan y prosiect, ei roi ar y rhestr fer am y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig am Uchelgais Ddiwylliannol.
Un rhoddwr sy’n haeddu sylw arbennig eleni yw Murray Chapman, oherwydd mae ei haelioni caredig wedi galluogi’r Llyfrgell i ddiogelu rhai o “Bapurau Prif Gofiadur” Llys y Sesiwn Fawr yn Sir Drefaldwyn sydd yn y Llyfrgell.
Mae gan Mr Chapman ddiddordeb arbennig mewn ffeiliau yn dyddio o’r 1620au sy’n cynnwys gwybodaeth am gyrch gan gefnogwyr Herberts
Castell Powis ar Lwydiarth, cartref teulu’r Vaughan. Roedd y papurau mewn cyflwr gwael, wedi dirywio ac yn fudr, ac roedd hi bron yn amhosibl darllen y cynnwys. Er mwyn cael mynediad at y wybodaeth, rhaid oedd gwneud gwaith cadwraeth ar y dogfennau, a gwnaed hynny gan Dilwyn Williams, un o uwch gadwraethwyr archifau’r Llyfrgell
Mae Murray Chapman wedi rhoi rhodd hael arall i’r Llyfrgell, i’n galluogi i wneud gwaith cadwraeth bellach ar ddogfennau Llys y Sesiwn Fawr.
DARPARU CYFLEOEDD I GENEDLAETHAU’R DYFODOL
GWAITH CADWRAETH
Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 29
Fel rhan o’i rhaglen barhaus i hyrwyddo cynaliadwyedd, mae’r Llyfrgell wedi cyflwyno mannau gwefru beiciau, yr unig le yn Aberystwyth i gael cyfleuster o’r fath, ac mae’n ystyried mannau gwefru ar gyfer ceir trydan.
Canran cyfanswm y gwastraff gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio gan y Llyfrgell yn 2018/19 oedd 75.8% o’i gymharu â 32.5% yn 2017/18 tra bod y swm a anfonwyd i
safleoedd tirlenwi wedi gostwng 58.4% yn ystod 2018/19. Mae’r Llyfrgell hefyd wedi lleihau ei defnydd o ddŵr, trydan a nwy o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Bydd Rhaglen Adeiladu Cyfalaf ar raddfa fawr yn gweld gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu mawr yn cael ei wneud ar y prif adeilad er mwyn ei wneud yn fwy cynaliadwy ac i sicrhau ei ddiogelwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
CYNALIADWYEDD
30 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019
Diolch i Lywodraeth Cymru a phawb sydd wedi ein cefnogi’n ariannol ac wedi rhoi o’u hamser a’u sgiliau yn wirfoddol yn ystod 2018-19. Mae haelioni fel hyn yn sicrhau bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i dyfu a chyflawni ei photensial fel sefydliad cenedlaethol diwylliannol o bwys yng Nghymru. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen i ni ganfod ffrydiau ariannol hirdymor a chynaliadwy er mwyn sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau’n berthnasol i fywyd y genedl ac i sicrhau bod gwybodaeth o bwys ar gael i genedlaethau’r
dyfodol. Sefydlwyd y Llyfrgell yn wreiddiol gan roddion ariannol pobl Cymru ac rydym yn parhau i elwa o haelioni ein cefnogwyr ffyddlon. Gyda’n gilydd, gallwn barhau â’r traddodiad hwnnw a gwneud yn siŵr bod cof y genedl yn cael ei ddiogelu i’r dyfodol.
Hoffwn ddiolch hefyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r aelodau sydd wedi cefnogi gwaith y Llyfrgell mewn amrywiol ffyrdd yn ystod y flwyddyn, ac i’r Undeb Ewropeaidd am y gefnogaeth tuag at weithgareddau digidol y Llyfrgell.
EIN DIOLCH DIFFUANT
Estynnwn ein diolch arbennig i’r unigolion sydd wedi cyfrannu’n hael yn ystod y flwyddyn at y canlynol:
Ymgyrch Fframio’r Dyfodol a’r Gronfa Gasgliadau
Diolchwn hefyd i:
Aelodau Corfforaethol Castell Howell Foods Ltd
Cyfeillion y Llyfrgell Genedlaethol Y Cadeirydd, Y Parchedig Ganon Enid Morgan, a’i chyd-aelodau
Ymddiriedolaethau a Sefydliadau Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol Ymddiriedolaeth Elusennol Aurelius Ymddiriedolaeth Wellcome
Yr ydym yn ddiolchgar i fod wedi derbyn cyfraniadau o ystadau’r cymwynaswyr canlynol:
Dr William Hubert Evans Donald William Powell
Rhif Elusen Gofrestredig: 525775 Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 31