66
1 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor Dinas a Sir Abertawe Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-2017 Y fersiwn derfynol a fabwysiadwyd gan y cyngor 15 Ebrill 2014

Dinas a Sir Abertawe Cynllun Strategol y Gymraeg mewn ......Hydref 2012 ar gyfer 2015 - 345 o ddisgyblion ym Ml. 2 (i gwrdd â'r cynnydd rhanbarthol) Sylwer: ni fydd targed yr SAG

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • 1 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Dinas a Sir Abertawe

    Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

    2014-2017

    Y fersiwn derfynol a fabwysiadwyd gan y cyngor 15 Ebrill 2014

  • 2 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Y Cynllun Gweithredu - Taclo Targedau Cenedlaethol yn yr Awdurdod Lleol

    Adran 1:

    Mae Abertawe'n ddinas Ewropeaidd amrywiol, modern a blaengar. Mae ganddi rôl allweddol wrth hyrwyddo diwylliant a threftadaeth yr ardal a'u pwysigrwydd mewn cyd-destun Cymreig ac ehangach. O ganlyniad mae ganddi hefyd rôl allweddol wrth hwyluso'r twf yn y Gymraeg ac addysg Gymraeg ac ymateb i'r galw am fynediad i'r rhain.

    Yn Ninas a Sir Abertawe rydym am barhau i ddarparu addysg yn yr iaith genedlaethol o ddewis, yn ôl y galw a hyd at safon uchel. Er mwyn diwallu'r galw cynyddol am leoedd mewn addysg Gymraeg, caiff y Polisi ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg presennol ei adolygu'n rheolaidd. Bydd hyn yn galluogi hyblygrwydd i ateb y galw gyda'r adnoddau sydd ar gael wrth barhau i gynnal y safonau uchel presennol.

    Bydd yr awdurdod yn gweithio i:

    Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob ysgol.

    Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i ysgolion.

    Darparu ar gyfer disgyblion sy'n newydd neu'n hwyrddyfodiaid i addysg Gymraeg.

    Parhau i helpu ysgolion i wella safonau mewn Cymraeg Iaith Gyntaf sydd eisoes yn dda.

    Cadw'r ffocws ar ddatblygu llythrennedd a gwella perfformiad bechgyn mewn Cymraeg Iaith Gyntaf.

    Gweithredu'r argymhellion yn ‘Adolygiad o Gymraeg Ail Iaith yn CA3 a CA4’ Llywodraeth Cymru trwy gefnogi ysgolion i wella pontio o CA2 i CA3 er mwyn lleihau unrhyw golled iaith cymaint â phosib.

    Lleihau nifer y disgyblion nad ydynt yn sefyll unrhyw arholiad yn CA4.

    Gwella perfformiad yn y cwrs byr TGAU.

    Cynyddu canran y disgyblion sy'n dilyn y cwrs llawn TGAU ac yn cyflawni graddau da ynddo.

    Diwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol trwy ddatblygu galluedd mewn ysgolion.

    Parhau i hyfforddi athrawon a chefnogi staff i gyflwyno'r iaith Gymraeg.

    Symud i ymagwedd fwy penodol at gefnogi a datblygu trwy annog ysgolion i weithio gyda'i gilydd er mwyn cefnogi ei gilydd, trwy ddatblygu tîm lleol/rhanbarthol i ddarparu cefnogaeth mewn unrhyw leoliad a thrwy hyrwyddo cyngor ac arweiniad cenedlaethol.

    Parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau rhanbarthol, addysg bellach, addysg uwch ac eraill megis Mudiad Meithrin, Menter Iaith, yr Urdd a Rhieni dros Addysg Gymraeg.

  • 3 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Adran 2: Y Cynllun Gweithredu

    Deilliant 1: Mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am

    gynnydd

    1.1 Cynyddu nifer y plant saith oed sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

    Mae nifer y disgyblion mewn addysg Gymraeg yn parhau i gynyddu wrth i fwy o leoedd gael eu darparu trwy'r Rhaglen AoS 2020 mewn ymateb i'r galw.

    Ceisio cynyddu nifer y lleoedd yn unol ag isafswm ystod band y SAG (WMES), fel a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2011-12 gwreiddiol ac yn y tablau isod, ond ymdrechu i ragori ar hyn os bydd arian ar gael.

    Bydd adolygiad o Bolisi'r Gymraeg mewn Addysg (a gymeradwywyd gan y cyngor ym mis Chwefror 2010) i sicrhau ei fod yn addas i'r diben o fodloni'r angen yn Abertawe a'i fod yn cyd-fynd â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP). Datblygwyd y polisi hwn yn wreiddiol fel targed ychwanegol yng Nghynllun Addysg Gymraeg 2006-11. Gellir darllen hwn yn www.abertawe.gov.uk/wesp.

    Bydd y Cabinet yn adolygu Polisi'r Iaith Gymraeg mewn Addysg ym mlwyddyn academaidd 2013-14 i sicrhau ei fod yn addas at y diben wrth ddiwallu anghenion yn Abertawe.

    http://www.swansea.gov.uk/wesp

  • 4 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae Dinas a Sir Abertawe yn ymroddedig i ddadansoddiad achlysurol o'r galw a nifer y rhai sy'n derbyn addysg Gymraeg er mwyn bodloni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer cynyddu addysg Gymraeg. Holir rhieni babanod newydd eu geni ynglŷn â'u dewis addysg ar gyfer eu plant - addysg Saesneg, Cymraeg neu ffydd. Ceir adroddiadau am arolygon blaenorol yn http://www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=29525. Hyd yn hyn, mae'r arolwg hwn wedi cadarnhau asesiad yr awdurdod ei hun o'r galw.

    Cynnal y ddeialog â rhieni, RhAG a phenaethiaid ysgolion Cymraeg a pharhau â'r arolwg blynyddol o rieni babanod newydd eu geni i gadarnhau'r galw am addysg Gymraeg neu Saesneg.

    Mae'r galw am leoedd cynradd yn ardal ehangach Treforys yn nwyrain Abertawe wedi cael ei ateb yn llwyddiannus trwy agor dwy ysgol gynradd Gymraeg newydd yn 2011 a 2012. Yn 2013 mae YGG Tirdeunaw yn ehangu i lety cyfagos a ddaeth yn wag yn ddiweddar. I YGG Lôn-las, mae cynnig i ailadeiladu'r ysgol ar y safle presennol - yn amodol ar ganiatâd cynllunio - a chynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol i 525 (2.5 dosbarth/75 o ddisgyblion o 2.0 ddosbarth/60 o ddisgyblion) er mwyn ateb y galw. Byddwn yn parhau i fonitro'r galw a cheisio atebion tymor byr, canolig a hir.

    Parhau i asesu'r galw yn nwyrain Abertawe a darparu lleoedd yn unol â hyn, yn amodol ar gyllid cyfalaf.

    Eir i'r afael â'r galw cynyddol am leoedd cynradd yng ngorllewin Abertawe trwy ddarparu llety dros dro yn YGG Pontybrenin yn y lle cyntaf. Mae atebion tymor byr a chynlluniau tymor hwy i ddarparu lleoedd ychwanegol i ddiwallu'r angen canfydeddig yn ardal

    Parhau i gynnwys rhanddeiliaid yn y gorllewin fel a wneir ar hyn o bryd.

    http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=29525

  • 5 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Gogledd Gŵyr. Mae'r cynlluniau hyn yn ddibynnol ar ystyriaethau eraill yn rhaglen gyffredinol AoS 2020.

    Caiff nifer y lleoedd yn y sector uwchradd ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hwy ei asesu gyda rhanddeiliaid.

    Parhau i asesu.

    Mae'r awdurdod lleol yn cydymffurfio'n llawn â'r canllawiau a geir ym Mesur Cludiant Dysgwyr (Cymru) 2008 o ran pellter teithio a'r asesiad o'r llwybrau sydd ar gael. Darperir cludiant am ddim i ysgolion Saesneg a Chymraeg yn ôl meini prawf pellter cytunedig – 2 filltir i ysgolion cynradd, 3 milltir i ysgolion uwchradd – o'r ysgol agosaf sydd ar gael. Nid yw'n ofynnol i ddarparu cludiant ysgol na choleg am ddim i unrhyw ddysgwr sy'n hŷn na'r oed ysgol gorfodol. Ar hyn o bryd, darperir cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim i ddisgyblion 16+ oed sy'n mynychu chweched dosbarth yn Abertawe sy'n byw'n bellach na 3 milltir o'r ysgol. Fodd bynnag, mae'r holl gludiant dewisol a ddarperir yn cael ei adolygu.

  • 6 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Blwyddyn Holl ddisgyblion

    Bl. 6 (11+ oed)

    Disgyblion Bl. 6 ysgolion Cymraeg

    (EDU/006a)

    Targed Targed Strategaeth Addysg Gymraeg Gwaelodlin Abertawe 2009 ym Ml. 6 yw 242 o ddisgyblion = 9.31% Targed gwreiddiol: Cynyddu 32-40% i gyflawni targed yr SAG erbyn 2015 = 319-339 o ddisgyblion ym Ml. 6 (= cynydd 32-40%) Cynyddu, yn amodol ar gyllid, tuag at darged SAG Hydref 2012 ar gyfer 2015 - 345 o ddisgyblion ym Ml. 2 (i gwrdd â'r cynnydd rhanbarthol) Sylwer: ni fydd targed yr SAG ar gyfer 2015, sef 319-339, yn cael ei gyrraedd ond dengys y tabl nesaf isod fod cynlluniau ar waith i gynyddu lleoedd dros gyfnod hwy. Ffynonellau: Cynnyrch o dablau canlyniadau yn DEWI, targedau o'r PLASC

    Nifer % Nifer %

    2007 2617 209 8.00

    2008 2700 246 9.11

    2009 2599 242 9.24

    2010 2479 227 9.16

    2011 2481 266 10.72

    2012 2436 245 9.98

    2013 2413 251 10.40 259/2425 10.7

    2014 305/2511 12.1

    2015 293/2493 11.8

    2016 329/2448 13.4

    2017 366/2546 14.4

    2018 433/2775 15.6

    2019 425/2583 16.4

  • 7 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Disgyblion 7 oed mewn ysgolion cynradd Cymraeg (Blwyddyn 2)

    Rhagamcanion Lleoedd Disgyblion (lleol) Gwaelodlin Abertawe 2009 ym Ml. 2 yw 275 o ddisgyblion/11.61% Targed gwreiddiol: cynyddu 27-32% i gyflawni'r targed cenedlaethol ar gyfer 2015 = 349-363 o ddisgyblion ym Ml. 2 (cynnydd 27/32%) Cynyddu, yn amodol ar gyllid, tuag at darged SAG Hydref 2012 ar gyfer 2015 - 345 o ddisgyblion ym Ml. 2 (i gwrdd â'r cynnydd rhanbarthol) Sylwer: Mae'r cynnydd yn amodol ar gymeradwyaeth a chyllid. Dylid ystyried y niferoedd a'r canrannau fel Rhagamcanion blynyddol (fel a nodir), nid fel targedau.

    Blwyddyn Holl ddisgyblion

    Bl. 2

    Disgyblion Bl. 2 ysgolion Cymraeg

    Rhagamcan

    Nifer % %

    Nifer % Nifer %

    2007 2497 279 11.17

    2008 2446 267 10.92

    2009 2369 275 11.61

    2010 2460 320 13.01

    2011 2472 297 12.01

    2012 2441 332 13.6

    2013 2546 366 14.4 377/2539 14.8

    2014 433/2775 15.6

    2015 425/2583 16.4

    2016 415/2708 15.3

    2017 426/2710 15.7

    2018 426/2672 15.9

    2019 422/2967 14.2 Ffynhonnell: Rhagamcanion PLASC a disgyblion, mis Ionawr

  • 8 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    1.2 Mabwysiadu prosesau systematig ar gyfer mesur y galw am ofal plant cyfrwng Cymraeg a darpariaeth addysgol cyfrwng Cymraeg statudol. Gweithredu'n brydlon ar ganfyddiadau arolygon rhieni.

    Mae Mudiad Ysgolion Meithrin a Menter Iaith Abertawe wedi'u comisiynu i gefnogi a datblygu mwy o ofal plant cyfrwng Cymraeg o safon yn Abertawe trwy dargedau cytunedig sy'n adlewyrchu casgliadau'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant sy'n cael eu monitro bob chwarter. Yn bennaf, mae Mudiad Meithrin yn cefnogi lleoliadau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli i gynnig gwasanaeth o safon gyda'r nod bod yr holl ddarparwyr yn ennill cofrestriad AGGCC maes o law. O fewn y cynllun hwn, byddai Dinas a Sir Abertawe'n argymell cynnal y tri lleoliad sy'n gofrestredig ar hyn o bryd (Parc y Werin, Abacus, Treboeth a Thirdeunaw), yn ogystal â chyflawni statws cofrestredig i 8 Cylch Meithrin ychwanegol rhwng 2013 a 2017.

    Yn amodol ar gyllideb, parhau i nodi anghenion a chyflawni targedau a bennir trwy broses drylwyr o fonitro perfformiad, byddai'r awdurdod yn ceisio parhau i weithio mewn partneriaeth â Mudiad Meithrin a Menter Iaith Abertawe.

    Rhoddwyd i Fenter Iaith Abertawe y dasg o ddatblygu a chyflwyno pecyn ymdrochi yn y Gymraeg mewn nifer penodol o leoliadau cofrestredig sy'n cynnwys plant a staff, gyda'r nod yn y pen draw o wella safon a defnydd y Gymraeg yn ddyddiol, ynghyd â chyfrannu at y Strategaeth Datblygu Gweithlu Gofal Plant o ran samplu olrhain cynnydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Defnyddir targedau chwarterol a methodoleg Atebolrwydd sy'n Seiliedig ar Ganlyniadau i fonitro'r Cytundebau Lefel Gwasanaeth. Mae manylion llawn ar gael.

    Monitro perfformiad gwaith Menter Iaith trwy fonitro targedau'r cerdyn sgorio ASG.

  • 9 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae arolygon rhieni babanod newydd eu geni wedi cael eu cynnal ers 2007, fel y disgrifiwyd yn 1.1 uchod. Mae'r canfyddiadau wedi cael eu dadansoddi a'u cyhoeddi ar wefan Abertawe yn http://www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=29525 a'u rhannu â RhAG, rheini, ysgolion, Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru. Ym mis Medi 2012 ychwanegwyd adran newydd ar ddewis iaith i blant cyn oed ysgol at yr arolwg er mwyn atodi gwybodaeth o'r Archwiliad Digonolrwydd Gofal Plant. Hyd yma, un arolwg yn unig sydd wedi cael ei ddadansoddi ond ni chafwyd tystiolaeth bendant ohono. Fodd bynnag, y gobaith yw y bydd parhau i gynnwys y cwestiwn hwn mewn arolygon yn y dyfodol yn rhoi tystiolaeth o'r galw daearyddol.

    Parhau i gynnal yr arolwg o ddewisiadau rhieni babanod newydd eu geni am gyfrwng addysg a gofal plant.

    1.3 Sicrhau bod cynigion ar gyfer Ysgolion yr 21ain ganrif yn ystyried addysg cyfrwng Cymraeg yn llawn.

    Mae cynlluniau'r awdurdod wedi eu hadlewyrchu'n llawn yn Rhaglen Amlinellol Strategol Abertawe ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, ac yn gwbl gyson â hi. Byddai'r anghenion y blaenoriaethwyd i dderbyn buddsoddiad cyfalaf yn galluogi symleiddio darpariaeth Gymraeg ymhellach yn ogystal â chyflwyno mwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i gyfateb â'r twf cynyddol yn y galw. Mae rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys bob amser yn y cyfnodau cynllunio cynnar.

    Cyflwyno'r blaenoriaethau buddsoddiad cyfalaf a nodwyd yn y Rhaglen Amlinellol Strategol wrth i arian ddod ar gael.

    1.4 Sicrhau gwaith trawsffiniol trwy gonsortia.

    Mae elfennau o ddarpariaeth uwchradd Cymraeg 14-19 eisoes yn cael eu datblygu mewn partneriaethau trawsawdurdod e.e. gydag YG Ystalyfera (CNPT) a Choleg Sir Gâr (Sir Gâr). (Gweler 3.4 isod.)

    Monitro deilliannau ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth hon gyda'r nod o'i hehangu a'i datblygu os bydd

    http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=29525

  • 10 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    digon o alw gan ddysgwyr.

    Mae Rhaglen Amlinellol Strategol yr awdurdod yn adlewyrchu'r broses o ymgysylltu eang â rhanddeiliaid sydd wedi cynnwys cyfarfodydd ag awdurdodau cyfagos. Mae'n cynnwys datganiad am waith rhanbarthol ar y cyd lle mae pob awdurdod yn ymrwymo i ddatblygu gwaith ar y cyd o ran rhaglenni Ysgolion yr 21ain Ganrif trwy adeiladu ar y cydweithredu presennol sy'n digwydd ymysg awdurdodau de-orllewin a chanolbarth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys:

    Datblygu consensws am geisiadau a blaenoriaethau CTY a dysgu gwersi o brosiectau blaenorol;

    Archwilio cynlluniau parhaus yn feirniadol i osgoi dyblygu darpariaeth, yn arbennig yn agos at y ffiniau ac ynglŷn â darpariaeth arbenigol, cyfrwng Cymraeg a ffydd;

    Ymrwymo i archwilio rhannu adnoddau a'r posibiliadau ar gyfer cydgomisiynu gwasanaethau.

    Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i ddarparu lleoedd ar y cyd ag awdurdodau cyfagos.

    Parhau i adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y rhanbarth i sicrhau cydlyniant blaenoriaethau buddsoddiad cyfalaf a nodwyd ac elwa i'r eithaf ar rannu caffael ac arbenigedd.

  • 11 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    1.5 Cynyddu'r gallu i fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy gynlluniau addysg trochi a chanolfannau i hwyrddyfodiaid.

    Daeth cydweithio â Chastell-nedd Port Talbot i ddarparu'r Ganolfan i Hwyrddyfodiaid yn Ysgol y Wern CNPT i ben ym mis Awst 2012.

    Data hanesyddol Disgyblion sy'n mynychu'r Ganolfan Hwyrddyfodiaid

    tan fis Gorffennaf 2012

    Dyddiad Abertawe CNPT

    Medi 2011 – Chwefror 2012 4 8

    Chwefror 2012 -Gorffennaf 2012 (diwedd)

    6 6

    Gofynnodd penaethiaid yr ysgolion Cymraeg am ddarpariaeth i Abertawe'n unig o fis Medi 2012, gydag arian WEG yn bennaf. Mae'r ddarpariaeth hon wedi'i sefydlu a hefyd yn cynnwys darpariaeth o gefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion y mae arnynt angen hwb yn eu sgiliau iaith. Mae'r ddarpariaeth hwyrddyfodiaid/hybu yn YGG Tan-y-lan tan fis Chwefror 2014 pan fydd rhaid chwilio am lety arall. Mae ganddi le i 12 disgybl y sesiwn ac mae'n cael ei staffio gan un Swyddog Cymraeg mewn Addysg amser llawn a chynorthwy-ydd dysgu 0.8%.

    Disgyblion sy'n derbyn darpariaeth Hwyrddyfodiaid/Hybu

    Dyddiad Hwyrddyfodiaid Hybu

    Medi 2012 – Chwefror 2013

    3 11

    Chwefror 2013 – Gorffennaf 2013

    1 12

    Medi 2013 – Chwefror 2014

    8 7

    Cynnal y ddarpariaeth i hwyrddyfodiaid a disgyblion y mae angen hwb arnynt. Monitro cynnydd disgyblion trwy PACA.

  • 12 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Chwefror 2014 – Gorffennaf 2014

    Mae penaethiaid cynradd ysgolion Cymraeg yn fodlon iawn ar y cynnydd a wneir gan ddisgyblion o ganlyniad i'r ddarpariaeth i hwyrddyfodiaid/hybu. Gall disgyblion gael mynediad i'r cwricwlwm yn y Gymraeg mewn amser cymharol byr a mynd ymlaen i gyflawni'n dda a chyfrannu at godi safonau. Mae'r Swyddog dros Hwyrddyfodiaid/Hybu a'r swyddog a ariennir gan WEG sy'n darparu cefnogaeth i athrawon yn y dosbarth yn gweithio gyda'i gilydd dan arweiniad penaethiaid ysgolion cynradd Cymraeg.

  • 13 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    1.6 Sefydlu Fforwm Addysg Gymraeg a chreu cysylltiadau â'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Sicrhau y rhoddir ystyriaeth i adnoddau a chyllid ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Blynyddoedd Cynnar.

    Sefydlwyd PACA (Partneriaeth Addysg Gymraeg Abertawe) yn 2008 i arwain y Gymraeg mewn Addysg. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr penaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg a Saesneg a swyddogion addysg yr awdurdod lleol. Mae PACA yn rhan o'r bartneriaeth drosgynnol ar gyfer codi safonau mewn ysgolion, sef y Bartneriaeth Gwella Ysgolion (PGY). Mae penaethiaid ysgolion Cymraeg PACA hefyd yn rhan o PGY. Mae PACA yn cwrdd bob hanner tymor. Mae gan PACA gyfrifoldeb dros y Gymraeg mewn addysg statudol ac eithrio'r elfen trefniadaeth ysgolion y mae ganddi ei phrosesau ei hun o dan y rhaglen AoS 2020. Dyma'r grŵp a gytunodd ar y targedau yn y Cynllun Addysg Gymraeg (hyd at 2012) ac a fu'n gyfrifol am eu monitro. Mae Estyn (2009) a Llywodraeth Cymru/Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Gorffennaf 2011) wedi canmol ei waith. Mae PACA yn gyfrifol am bron yr holl gamau gweithredu yn y cynllun hwn, ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â lleoedd ysgol (1.1 - 1.4 uchod) - sy'n rhan o'r rhaglen AoS 2020 - a darpariaeth cyn ysgol a arweinir gan Bwrdd a Grŵp Gweithredu'r Blynyddoedd Cynnar, sy'n atebol i'r Bwrdd Plant a Phobl Ifanc.

    Parhau i gynnal cyfarfodydd PACA rheolaidd ynghyd â chofnodion a monitro'r prif gyflawniadau trwy'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Parhau i gynnal hunanwerthusiad blynyddol o weithgaredd PACA wrth gefnogi addysg Gymraeg a chytuno ar unrhyw gamau gweithredu er gwella yn Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

    Yn 2011 cytunodd y Bartneriaeth PPI ar 11 o flaenoriaethau ar gyfer Cynllun PPI 2011-14 (www.cypswansea.co.uk/plan) i gael effaith ar 3 'phwnc mawr' Abertawe, sef diogelu, camddefnyddio sylweddau a thlodi teuluoedd. Codi safonau mewn ysgolion, yn enwedig llythrennedd, yw un o'r prif gamau gweithredu i helpu teuluoedd allan o dlodi. Caiff y gefnogaeth ei thargedu yn ôl yr angen, gan gynnwys ysgolion cynradd Cymraeg sy'n gwasanaethu'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.

    http://www.cypswansea.co.uk/plan

  • 14 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Mae'r Cynllun Integredig Sengl newydd ar gyfer 2013, ‘Un Abertawe’, a'i Asesiad Anghenion, yn cynnwys heriau i sicrhau bod ‘plant yn cael dechrau da mewn bywyd’ a bod ‘pobl yn dysgu'n llwyddiannus’. Caiff darpariaeth Gymraeg ei thrin yn gyfartal â darpariaeth Saesneg yn unol â blaenoriaethau'r cynllun. http://www.abertawe.gov.uk/oneswansea

    Ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Strategol y Gymraeg 2014-17 Gwahoddwyd rhanddeiliaid allweddol i roi eu barn ar ddrafft cyntaf y ddogfen hon ym mis Medi/Hydref 2013. Cafodd dau ymateb eu derbyn a'u hystyried i'w cynnwys yn y fersiwn hon. Cafwyd hwy gan RhAG a Choleg Gŵyr Abertawe. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng mis Rhagfyr 2013 a mis Chwefror 2014. Ceir y manylion yn Atodiad 6. Gwnaed newidiadau i Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg o ganlyniad i sylwadau a godwyd gan ymatebwyr, gan gynnwys ychwanegu mwy o dargedau fel a awgrymwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hymateb anffurfiol. Nid oedd hyn yn golygu diwygio'r cynllun yn sylweddol. Mae'r elfen trefniadaeth ysgol yn y cynllun yn destun prosesau llywodraethu a rhanddeiliaid Rhaglen AoS 2020 yr ymdrinnir â hwy ar wahân.

    Cynnal cyfranogiad rhanddeiliaid trwy:

    RhAG

    Grŵp Penaethiaid Cymraeg

    Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd Dinas a Sir Abertawe (CPUDSA)

    Cyngor Ysgolion Cynradd Abertawe (penaethiaid cynradd)

    ac eraill

    http://www.swansea.gov.uk/oneswansea

  • 15 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    1.7 Darparu gwybodaeth i Rieni/Ofalwyr

    Anfonir taflen sy'n esbonio'r ddarpariaeth addysg yn Abertawe i holl rieni babanod newydd eu geni fel rhan o'r arolwg blynyddol. Darperir dolenni i wybodaeth am Fudiad Meithrin/Twf hefyd.

    Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Blant y Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gwybodaeth am yr holl ddarpariaeth gofal plant cyn ysgol. Ar hyn o bryd ychydig iawn o ofal plant cofrestredig Cymraeg sydd ar gael o hyd (gweler 1.2 uchod). Mae'r awdurdod yn darparu llyfryn dwyieithog i rieni disgyblion oed ysgol gynradd ac uwchradd bob blwyddyn, sef 'Gwybodaeth i Rieni'. Ceir y llyfrynnau yn http://www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=5738

    Fel rhan o dargedau'r Strategaeth Addysg Gymraeg 2006-11, cynhyrchwyd datganiad dwyieithog syml am natur addysg yn Abertawe – Polisi ar y Gymraeg mewn Addysg (www.abertawe.gov.uk/wesp). Caiff hwn ei adolygu yn 2013-14 i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion lleol (gweler 1.1. uchod). Caiff Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a'i adroddiadau cynnydd eu cyhoeddi ar yr un wefan.

    Parhau â'r gwasanaethau gwybodaeth i rieni

    http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=5738http://www.swansea.gov.uk/wesp

  • 16 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Deilliant 2: Mwy o ddysgwyr yn parhau i wella eu sgiliau iaith wrth drosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd (gweler hefyd Atodiadau 3/4) A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad

    cynnydd

    2.1 Cynyddu canran y dysgwyr ym Mlwyddyn 9 sy'n cael eu hasesu trwy'r Gymraeg (Iaith Gyntaf).

    Mae'r nifer sy'n mynychu ysgolion uwchradd Cymraeg yn cynyddu'n gyson wrth i nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd ehangu. Mae'r holl ddisgyblion yn y ddwy ysgol uwchradd Gymraeg yn Abertawe'n cael eu hasesu yn Gymraeg ym Mlwyddyn 9. Yn 2012, Abertawe oedd yr awdurdod lleol a oedd yn perfformio orau yng Nghymru yng Nghyfnod Allweddol 3. Yn 2013 gostyngodd perfformiad 1.00%.

    Parhau ag asesiadau athrawon 100% trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mlwyddyn 9 yn y ddwy ysgol uwchradd.

  • 17 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Disgyblion Blwyddyn 9 a aseswyd yn Gymraeg Iaith Gyntaf (cyhoeddir fel DP EDU/006 b)

    Blwyddyn Holl ddisgyblion

    Bl 9

    Disgyblion Bl 9 ysgolion Cymraeg

    (EDU/006b)

    Targed Camau gweithredu Cynyddu lleoedd ar ôl ymgynghori, yn amodol ar gyllid. Ffynonellau: Cynnyrch o dablau canlyniadau yn DEWI, targedau o'r PLASC

    Nifer % Nifer %

    2007 2631 189 7.18

    2008 2600 229 8.81

    2009 2563 208 8.12

    2010 2561 233 9.09

    2011 2653 239 9.00

    2012 2535 245 9.66

    2013 2420 226 9.34 233/2426 9.6

    2014 266/2481 10.7

    2015 245/2436 9.98

    2016 253/2418 10.4

    2017 305/2511 12.1

    2018 293/2493 11.8

    2019 329/2448 13.4

  • 18 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    2.2 Datblygu trosglwyddo mwy effeithiol rhwng y ddarpariaeth nas cynhelir a ariennir i ddarpariaeth a gynhelir rhwng Cyfnodau Allweddol 2 a 3 a Chyfnodau Allweddol 3 a 4. (Gweler hefyd Atodiad 2)

    Trosglwyddo o Gyn-Ysgol i'r Ysgol Er bod cefnogi datblygiad wedi'i gomisiynu trwy'r Mudiad Meithrin a'r Fenter Iaith, prin yw'r ddarpariaeth cyn ysgol neu ofal plant yn Abertawe trwy gyfrwng y Gymraeg, naill ai yn y sector a gynhelir neu'r sector nas cynhelir. Mae Mudiad Meithrin wedi darparu gwybodaeth ar gyfer 2011-12 a 2012-13 am ble aeth plant ifanc a adawodd ofal plant yn Abertawe'n gyffredinol. Yn 2011-12 symudodd 89.4% (152/170) o blant i ddarpariaeth feithrin Gymraeg. Yn 2012-13 y ganran oedd 81.7% (156/191). Bydd plant ifanc sy'n mynychu'r lleoliadau Dechrau'n Deg, gan gynnwys y ddau leoliad Cymraeg, yn cael eu holrhain trwy gydol eu hamser yn yr ysgol i fonitro effaith y ddarpariaeth. (Mae Dechrau’n Deg yn cael ei dargedu ar gyfer ardaloedd lle ceir yr amddifadedd cymdeithasol mwyaf.) Mae systemau'n cael eu datblygu i wneud hyn ond bydd sawl blwyddyn yn mynd heibio cyn i'r deilliannau ddod yn amlwg. Ysgolion a gynhelir yw pob un o ysgolion cynradd Cymraeg Abertawe ac mae ganddynt ddarpariaeth feithrin. Nid oes unrhyw leoliadau nas cynhelir sy'n darparu'r Cyfnod Sylfaen yn Abertawe. (Gweler 1.2 uchod)

    Defnyddiwch ddata Mudiad Meithrin am ble aeth disgyblion er mwyn monitro unrhyw bryderon trosglwyddo.

  • 19 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Trosglwyddo o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3 Fel arfer mae'r gyfradd drosglwyddo o ysgolion cynradd Cymraeg (CA2) i ysgolion uwchradd Cymraeg (CA3) bron yn 100%. Yn 2012 roedd y gyfradd drosglwyddo yn 99.2% ac yn 2013 roedd yn 98.81% gyda 3 disgybl yn unig yn cael eu colli i addysg cyfrwng Saesneg. (Gweler Atodiad 3 isod) Yn gyffredinol ceir enghreifftiau o ddisgyblion yn symud i mewn i Flwyddyn 7 yn ysgolion uwchradd Cymraeg Abertawe o awdurdodau eraill. Er enghraifft, ym mis Medi 2013, derbyniwyd 4 disgybl o Gastell-nedd Port Talbot i Flwyddyn 7 yn YGG Bryn Tawe. Derbyniodd YG Gŵyr 8 disgybl o ardaloedd Llanelli a Phontarddulais yn Sir Gâr. Ceir pwysau cynyddol ar dderbyniadau.

    Cynnal cyfradd drosglwyddo CA2-3 o ysgolion cynradd Cymraeg i ysgolion uwchradd Cymraeg sydd bron yn 100%

    Trosglwyddo o Gyfnod Allweddol 3 i Gyfnod Allweddol 4 Mae 98% o ddisgyblion yn parhau mewn addysg Gymraeg ar ôl trosglwyddo o CA3 i CA4. Mae hyn yn gadarnhaol iawn. Mae cyfradd y rhai ôl-16 sy'n aros yn y ddwy ysgol uwchradd yn uchel iawn, sef dros 70% fel arfer. Ym mis Medi 2013 cafwyd gostyngiad yn y gyfradd hon yn YGG Bryn Tawe oherwydd y dewisodd disgyblion barhau â'u hastudiaethau mewn coleg addysg bellach.

    Cynnal y gyfradd adael leiaf rhwng CA3 a CA4.

  • 20 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Prin yn gyffredinol yw'r disgyblion a gollir. Dangosodd astudiaeth o symudiadau disgyblion mewn ysgolion uwchradd i PACA yn 2012 fod disgyblion yn symud o ysgol i ysgol o fewn y sector Cymraeg, ond mai nifer bach iawn sy'n gadael addysg Gymraeg erbyn CA4. Y rheswm dros adael y ddwy ysgol uwchradd yn gyffredinol yw bod y teulu'n symud i ardal lle mae'r ysgol uwchradd Saesneg yn fwy cyfleus o lawer yn hytrach na bod y disgybl yn cael trafferth ymdopi â'r Gymraeg.

    2.3 Hyrwyddo cyfran uwch o ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion dwyieithog.

    Nid oes unrhyw ysgolion dwyieithog yn Abertawe.

  • 21 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Deilliant 3: Mwy o ddysgwyr 14-16 oed yn astudio am gymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr 16-19 oed yn astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, y coleg ac yn y gweithle A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am

    cynnydd

    3.1 Cynyddu canran y dysgwyr 14-16 oed sy'n astudio am gymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg.

    100% o ddysgwyr Blwyddyn 11 yn y ddwy ysgol uwchradd Gymraeg yn astudio o leiaf 5 cymhwyster cydnabyddedig trwy'r Gymraeg. Mae cynnal hyn yn ddibynnol ar ddarparu ystod addas o ddewisiadau ac ar Fyrddau Arholi a'r DfES yn darparu cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer cymwysterau newydd.

    Cynnal y lefel 100%

    3.2 Sicrhau bod darpariaeth ar gyfer dysgwyr 14-16 oed yn cydymffurfio â Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

    Caiff dewisiadau ôl-14 Cymraeg eu cynnal trwy barhau i ddatblygu Partneriaeth Gŵyr-Bryn Tawe 14-16 sydd ar hyn o bryd yn cynnig y cyrsiau canlynol ar y cyd, yn ogystal â'r rhai a gynigir ym mhob ysgol:

    Yn 2012-13 sefydlodd YGG Bryn Tawe bartneriaeth newydd â Choleg Castell-nedd ar ei safle yn Llansamlet i gyflwyno BTEC Adeiladu L2. Ymunodd myfyrwyr Blwyddyn 10 o Ysgol Gŵyr â'r cwrs hwn yn 2013.

    Cynigir BTEC Gofal Plant L2 yn y ddwy ysgol ar y cyd â Choleg Gŵyr Abertawe. Mae'r coleg hefyd yn darparu Trin Gwallt Lefel 2 ar gyfer YGG Bryn Tawe trwy gyfrwng y Gymraeg.

    Mae partneriaeth i gyflawni Lefel ? Gwleidyddiaeth a Cherddoriaeth gydag YG Ystalyfera.

    Parhau â datblygu'r Bartneriaeth 14-16

  • 22 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am cynnydd

    Mewn partneriaeth, cyflwynir cyrsiau peilot TGCh cenedlaethol Caergrawnt (disgwylir y canlyniadau cyntaf yn 2014), yn ogystal â BTEC Gwyddoniaeth L2 ar gampws Bryn Tawe. Mae BTEC Gwyddoniaeth L2 wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda bron yr holl ymgeiswyr yn cyrraedd L2 yn 2013.

    Cyflwynir BTEC Chwaraeon L2 yn y ddwy ysgol. Mae cymhwyster Canolradd Bagloriaeth Cymru yn YG Gŵyr ac YGG Bryn Tawe wedi'i sefydlu'n llawn erbyn hyn gyda'r ail gohortau'n cyflawni'r cymhwyster yn haf 2013 ac yn cyflawni hyd at safon uchel ar lefelau Sylfaen a Chanolradd. Canmolwyd y ddarpariaeth gan CBAC

    3.3 Cynyddu nifer y dysgwyr 16-19 oed sy'n astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion

    Chweched Dosbarth Mae chweched dosbarth ar y cyd yn cael ei weithredu gan y ddwy ysgol uwchradd ac mae nifer da o ddysgwyr, sef tua 70+% o gohort Bl. 11 yn YG Gŵyr a thua 50% yn YGG Bryn Tawe yn 2013. Gall 100% o ddysgwyr ddewis astudio 2 neu fwy o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg wrth astudio mewn amgylchedd Cymraeg. Mae lefel y perfformiad yn uchel. Mae Estyn wedi cydnabod y 6ed dosbarth ar y cyd fel arfer da. Mae'r 6ed Dosbarth ar y cyd yn cael cefnogaeth gan Rwydwaith 14-19 Abertawe a Chonsortiwm 6ed Dosbarth Abertawe. Mae Cydlynydd 14-19 Abertawe a chynrychiolwyr penaethiaid yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm Cymraeg Rhanbarthol ac yn cael arian ar gyfer gwaith partneriaeth.

    Cynnal y 6ed dosbarth ar y cyd llwyddiannus Archwilio ffyrdd o gadw mwy o fyfyrwyr 6ed dosbarth yn YGG Bryn Tawe

  • 23 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am cynnydd

    Addysg Bellach Mae tua 200 o ddysgwyr sy'n rhugl yn y Gymraeg wedi cofrestru ar gyrsiau amser llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar gyfer 2013/14. Ceir niferoedd tebyg o amrywiaeth o ysgolion - Gŵyr, Bryn Tawe, Strade, Ystalyfera a Chwmtawe - a nifer llawer is o ysgolion eraill y tu allan i'r ardal. Yn ddiweddar mae'r coleg wedi penodi Hyrwyddwr Dwyieithrwydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Erbyn hyn mae gan y coleg gynllun strategol i gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithrwydd, e.e. cynnydd o 30 o ddysgwyr ym mhob blwyddyn academaidd yn dilyn modiwlau/cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, gyda 50% o'r dysgwyr hyn yn cael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg, a sicrhau cynnydd blynyddol o 10 opsiwn modiwl o leiaf trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog gyda 5 gweithgaredd dysgu yn cyrraedd trothwy 50% LA26.

    Gweithio gyda'n gilydd Mae egwyddor datblygu cyflenwol, yn hytrach na chystadleuaeth, yn cael ei datblygu. Bydd Coleg Gŵyr Abertawe'n targedu cyrsiau galwedigaethol e.e. Gofal, Iechyd a Harddwch, a hefyd yn datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr Cymraeg gynnal eu sgiliau iaith trwy grwpiau tiwtora a gweithgareddau Bagloriaeth Cymru.

  • 24 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    3.4 Gweithio trwy'r Rhwydweithiau 14-19 a'r Fforymau Rhanbarthol 14-19 i gynnal a gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

    Mae'r ddwy ysgol uwchradd yn cydweithio'n agos i gynllunio ar gyfer dysgu 14-19 gyda chefnogaeth y fforymau lleol a rhanbarthol. Er enghraifft maent yn cydweithredu ag YG Ystalyfera (CNPT) ar gyfer Peirianneg Lefel 3, Ymarferwyr Cerddoriaeth Lefel 3 a Gwleidyddiaeth; Adeiladu L1 â Choleg Sir Gâr a L2 â Choleg Castell-nedd; a Thrin Gwallt L2 â Choleg Gŵyr Abertawe. Dechreuwyd partneriaeth beilot o Tystysgrif/Diploma Genedlaethol BTEC L3 mewn Lletygarwch ym mis Medi 2013. Mae'r ddwy ysgol uwchradd yn rhan o Gonsortiwm 6ed Dosbarth Abertawe sy'n galluogi myfyrwyr i ymgymryd â chyrsiau ôl-16 ar brynhawn dydd Mercher. Mae'r ysgolion uwchradd Cymraeg hefyd yn gweithio gyda phenaethiaid yr ysgolion uwchradd Saesneg trwy eu cymdeithas, sef Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd Dinas a Sir Abertawe (CPUDSA).

    Cynnal y datblygu cydweithredol mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg

    3.5 Casglu, dadansoddi a defnyddio data addysg cyfrwng Cymraeg 14-19 oed. Cynllunio ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16 mewn partneriaethau

    Mae gwaith partneriaeth lleol a rhanbarthol effeithiol yn hirsefydlog er nad yw'r partneriaethau ffurfiol yn bodoli mwyach. Mae Partneriaeth Gwella Ysgolion wedi bodoli yn Abertawe ers 1996 ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliad hyfforddi athrawon rhanbarthol mewn addysg uwch, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'r bartneriaeth cyfrwng Cymraeg - PACA - yn is-grŵp o PGY ac mae penaethiaid ysgolion Cymraeg PACA yn aelodau o PGY. Ceir cyfarfodydd PACA rheolaidd i drafod lefel y ddarpariaeth yn yr ysgolion uwchradd. Caiff argymhellion neu gamau gweithredu eu bwydo i gyfarfodydd

    Parhau i ddatblygu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg trwy waith partneriaeth

  • 25 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    PGY er mwyn cytuno arnynt. Caiff camau gweithredu o ran 14-19 hefyd eu cyflwyno i Bartneriaeth Ddysgu Abertawe, sef corff strategol eang sy'n trafod dysgu ar draws y ddinas a'r sir. Mae'r rhanbarth yn darparu cefnogaeth trwy ymgynghorydd cyswllt dynodedig ar gyfer pob ysgol uwchradd. Mae gwaith rhanbarthol gyda phartner hwb Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, yn datblygu. Bydd Arweinydd Systemau â chyfrifoldeb dros y Gymraeg mewn Addysg yn yr hwb.

    Mae Coleg Gŵyr Abertawe'n bwriadu datblygu ei ddarpariaeth Gymraeg trwy ddulliau addysgu dwyieithog yn bennaf dros y blynyddoedd nesaf mewn nifer bach o feysydd dysgu galwedigaethol fel a nodir gan archwiliad darpariaeth. Ar hyn o bryd mae myfyrwyr yn cael y cyfle i gwblhau aseiniadau yn Gymraeg mewn unrhyw bwnc lle mae aelodau o staff addysgu sy'n siarad Cymraeg yn rhugl yn y maes dysgu hwnnw. Caiff addysgu dwyieithog ei ddatblygu lle mae nifer ymarferol o fyfyrwyr a staff addysgu sy'n siarad Cymraeg. Ceir tri grŵp tiwtorial Safon Uwch cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, ac mae cynlluniau i ehangu ar hyn.

  • 26 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Deilliant 5: Mwy o ddysgwyr â sgiliau uwch yn y Gymraeg A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am

    cynnydd

    5.1 Gwella'r ddarpariaeth i fynd i'r afael â llythrennedd yn y Gymraeg

    Caiff perfformiad disgyblion ac ysgolion, gan gynnwys gwella llythrennedd, ei drafod yn PACA. Mae PACA yn cytuno ar argymhellion a chamau gweithredu yn ôl y galw.

    Parhau i drafod materion perfformiad yn PACA bob blwyddyn.

    Mae Abertawe eisoes wedi datblygu Strategaeth Llythrennedd Oed Ysgol sy'n cael ei haddasu i'w defnyddio gyda'r Gymraeg yn yr ysgolion Cymraeg. Mae'n seiliedig ar sicrhau bod disgyblion yn datblygu llafaredd yn gynnar, y sgiliau sy'n hanfodol i fod yn ddarllenwr rhugl trwy'r ‘8 Ymddygiad Darllen’, a sgiliau ysgrifennu da. Caiff disgyblion eu targedu i'w cefnogi a mesurir eu cynnydd. Mae'r Strategaeth Llythrennedd wedi cael ei haddasu i'w defnyddio mewn ysgolion Cymraeg.

    Roedd asesiad o'r cynnydd mewn sampl o ddisgyblion a oedd yn cymryd rhan yn yr 8 Ymddygiad Darllen mewn ysgolion Saesneg, a gynhaliwyd yn 2011-12, yn gadarnhaol iawn.

    Mae cynnydd mewn gwella llythrennedd wedi parhau i fod yn allweddol i wella perfformiad yn CA2 a 3 mewn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Perfformiad Abertawe yn y Gymraeg yn 2013 oedd y 5ed gorau yng Nghymru yn CA2 a'r 11eg gorau yng Nghymru yn CA3.

    Parhau i addasu Strategaeth Llythrennedd Abertawe i'w defnyddio mewn ysgolion Cymraeg.

    Parhau â chefnogaeth ar gyfer y Strategaeth Llythrennedd Genedlaethol a Strategaeth Llythrennedd Abertawe ym mhob ysgol, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg.

    .

  • 27 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am cynnydd

    Mae Abertawe'n cydymffurfio â gofynion y Strategaeth Llythrennedd Genedlaethol. Sefydlwyd Cymuned Ddysgu Broffesiynol (CDdB) ar y cyd ar gyfer llythrennedd yn y clwstwr er mwyn sicrhau strategaeth glir i ddatblygu llythrennedd ar draws yr holl ysgolion Cymraeg.

    Mae swyddog a ariennir gydag arian WEG wedi'i gyflogi ers mis Medi 2010 i ddarparu cefnogaeth llythrennedd mewn dosbarthiadau yn yr ysgolion cynradd Cymraeg. Mae penaethiaid yr ysgolion Cymraeg yn arwain ei chefnogaeth. Cyflwynir adroddiad gan y swyddog i PACA ar ddiwedd bob blwyddyn. Mae penaethiaid wedi dweud bod ei gwaith wedi helpu i godi safonau CA2 i'r safle uchaf yng Nghymru yn 2012 (5ed yn 2013). O fis Medi 2012 mae cefnogaeth ychwanegol wedi cael ei darparu ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd Cymraeg y mae angen hybu eu Cymraeg arnynt, ar y cyd â chefnogaeth i hwyrddyfodiaid. Mae penaethiaid yn fodlon ar y cynnydd y mae'r disgyblion hyn wedi'i wneud. (Gweler 1.5 uchod)

    Er gwaethaf gwelliant cyffredinol da mewn safonau, mae bwlch rhwng y rhywiau'n parhau. Bydd perfformiad bechgyn yn parhau i fod yn ffocws i'r swyddog a ariennir gan WEG. Caiff bechgyn ym mlynyddoedd 3, 4 a 5 eu targedu (a hefyd rai merched y mae eu perfformiad yn isel). Os na fydd disgybl yn gwneud cynnydd digonol, bydd yn gallu derbyn y gefnogaeth ‘hybu’.

    Parhau i ddarparu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer llythrennedd disgyblion ysgolion cynradd Cymraeg yn ôl cyfarwyddyd penaethiaid ysgolion Cymraeg.

  • 28 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am cynnydd

    Nododd yr ysgolion uwchradd Cymraeg fod cyflawniad bechgyn yn bryder ac maent wedi bod yn gweithio i wella hyn. Mae'r ddwy ysgol yn wahanol iawn o ran eu cyd-destun, ond cafwyd cynnydd ymhlith y bechgyn yn y ddwy. Yn YGG Bryn Tawe mae'r ffocws ar gyflawniad bechgyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae CDdB fewnol ar dangyflawniad bechgyn a sefydlwyd yn 2012-13 ym Mryn Tawe, gan gynnwys penaethiaid cyfadrannau a phenaethiaid blwyddyn, wedi bod yn llwyddiannus. Mae rhaglenni mentora ysgol gyfan ar waith gyda grŵp targed o fechgyn Blwyddyn 10 ar gyfer ymddygiad a grŵp targed Blwyddyn 11 ar gyfer Sgiliau Allweddol. Mae effeithiolrwydd yr ymagwedd dargedu hon yn amlwg yn y canlyniadau gwell, gyda 91% o'r grŵp targed yn cyflawni Trothwy L2 a 73% yn cyflawni Lefel 2 Cynhwysol.

    Ysgolion uwchradd Cymraeg i barhau â'r gefnogaeth llythrennedd ychwanegol a thargedu tangyflawniad bechgyn.

    Yn YG Gŵyr, mae cyflawniad bechgyn yn ffocws ysgol gyfan gyda monitro tymor hir ac olrhain blynyddol. Cafwyd grwpiau targed ym mhob grŵp blwyddyn. Mae Anogwyr Dysgu wedi cefnogi disgyblion a chafwyd cydweithio agos â rhieni bechgyn yn y grwpiau targed. Trefnwyd sesiynau ar ôl ysgol. Mae'r duedd yn gadarnhaol i fechgyn CA4 dros gyfnod estynedig. Mae'r bwlch wedi lleihau ond byth yn cau'n llwyr am fod y merched yn dal i berfformio'n well. Mae canlyniadau 2013 ar gyfer L2 Cynhwysol a Lefel 2 Trothwy yn dangos tueddiadau ar i fyny i'r bechgyn a'r merched.

  • 29 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am cynnydd

    5.2 Gwella darpariaeth a safonau Cymraeg Iaith Gyntaf

    Y Cyfnod Sylfaen

    Dechreuwyd asesu canran y dysgwyr ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen sy'n cyrraedd o leiaf Deilliant 5 y Cyfnod Sylfaen mewn Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu yn haf 2012. Yn ail flwyddyn yr asesu yn 2013, roedd perfformiad y Gymraeg yn well na'r Saesneg unwaith eto, gan ragori ar ffigurau Cymru gyfan. Mae perfformiad ysgolion cynradd Cymraeg yn nodweddiadol o'r ystod berfformio ar draws yr awdurdod, gyda thair ysgol yn is na chyfartaledd yr awdurdod, sef 80.1%, a chwe'n uwch na hyn. Mae gan bob ysgol darged i wella'i pherfformiad ei hun.

    Yn gyffredinol, roedd canlyniadau'r Cyfnod Sylfaen ar draws Abertawe'n rhy isel. Mae Abertawe'n canolbwyntio ar wella asesiadau Cyfnod Sylfaen i gael effaith ar ddeilliannau.

    Gwella Asesiadau Cyfnod Sylfaen a pherfformiad cyffredinol ar draws yr awdurdod.

  • 30 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am cynnydd

    Asesiad Cyfnod Sylfaen

    Blwyddyn Disgyblion sy'n cyflawni Deilliant 5 mewn Sgiliau Iaith, Llythrennedd a

    Chyfathrebu

    Ysgolion Cymraeg

    (Cymraeg)

    Ysgolion Saesneg

    (Saesneg)

    2012 85.8% (Cymru 85.9%)

    81.3% (Cymru 83.4%)

    2013 89.4% (Cymru 86.7%)

    81.6% (Cymru 85.2%)

    2014 89.6% 82.0%

    2015 89.8% 82.4%

    2016 90.0% 82.8%

    2017 90.2% 83.2%

  • 31 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Asesiadau Athrawon Cyfnod Allweddol 2

    Blwyddyn Disgyblion sy'n cyflawni

    o leiaf L4 mewn

    Cymraeg Iaith 1af ym

    Ml 6

    Targedau

    %

    2007 76.6

    2008 74.4

    2009 84.3

    2010 84.1

    2011 84.2*

    2012 90.6*

    2013 91.2

    2014 91.7%

    2015 91.7%

    2016 91.7%

    2017 91.7% * Bwletin ystadegau LlC

    Mae'r targedau hyn yn cydnabod bod perfformiad ar lefel uchel ac y bydd yn heriol i'w cynnal. Maent hefyd yn ystyried perfformiad disgyblion y ddwy ysgol newydd, Tan-y-lan ac Y Cwm, yn y dyfodol sy'n dod o ardaloedd mwy difreintiedig. Caiff gwella perfformiad ar Lefel 5 (Lefel Ddisgwyliedig ac un ) ei drafod gan PACA yn 2014.

  • 32 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am cynnydd

    Cafwyd gwelliant da yn 2011-12 ar ôl cyfnod o berfformiad gwastad a oedd yn ganlyniad i herio gan yr awdurdod lleol a chefnogaeth well yn y dosbarth, yn enwedig ar gyfer llythrennedd (fel y disgrifiwyd uchod). Yn 2013 cafwyd ychydig o welliant ond gostyngodd y sgôr i'r 5ed o'r 1af yn 2012. Fel rhan o waith rhanbarthol, pennwyd targedau sylfaenol a dyheadol ar gyfer pob ysgol gynradd ar sail amcangyfrifon Ymddiriedolaeth Teulu Fischer.

    Cynnal y gwelliant.

    Cyfnod Allweddol 3

    Blwyddyn Disgyblion sy'n cyflawni

    L5 mewn Cymraeg

    Iaith 1af ym Ml 9

    Targed Abertawe

    % y Targed i gyflawni L5* S = Sylfaenol D = Dyheadol

    % Gŵyr Bryn Tawe

    Gŵyr Bryn Tawe

    2007 85.2 83.0 87.1

    2008 81.7 86.8 78.3

    2009 79.3 81.7 76.8

    2010 84.5 83.5 85.3

    2011 82.0** 84.3 79.8

    S D S D

    2012 88.6** 87.9 89.3 82 89 75 83

    2013 87.6** 89.1 85.6 78 88 87 91

    2014 86.0 79 88 82 88

    2015 89.0 85 93 79 83

    2016 89.0

    2017 89.0 *Pennir targedau fesul ysgol gan ddefnyddio'u grwpiau meincnodi perthnasol ** Ffynhonnell: Bwletin ystadegau LlC

  • 33 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae perfformiad yn parhau'n dda, gyda thuedd ar i fyny, er y cafwyd gostyngiad 1.0% ar draws yr awdurdod a gostyngiad yn y sgôr i'r 11eg o'r 1af yn 2012. Yn y gorffennol mae'r perfformiad wedi amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond wedi cynnal tuedd gynyddol. Mae targedau o 2013 yn adlewyrchu'r gwahaniaethau yng nghyd-destun a pherfformiad blaenorol y cohortau. Mae hyn yn golygu nad yw blynyddoedd olynol o anghenraid yn dangos cynnydd mewn perfformiad. Mae targedau YGG Bryn Tawe'n dangos hyn lle mae cyfran y disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn cynyddu ac felly ni ddisgwylir i'r perfformiad uchel blaenorol barhau. Caiff gwella perfformiad ar Lefel 6 yn CA3 ei drafod yn PACA yn ystod 2014.

    Mae'r ymgyrch i godi safonau mewn ysgolion uwchradd Cymraeg yn canolbwyntio'n bennaf ar wella lefelau llythrennedd. Bydd y ddwy ysgol yn parhau i gyflwyno Strategaeth Llythrennedd Abertawe a thargedu tangyflawniad bechgyn.

    Parhau i wella canran y disgyblion sy'n cyflawni L5 yn CA3.

    Cyfnod Allweddol 4/TGAU Mae disgyblion yn y ddwy ysgol uwchradd yn cyflawni canlyniadau rhagorol ym mhob dangosydd. Mae'r ysgolion ymysg y goreuon yng Nghymru ac roedd y ddwy ym mand 1 yn 2012-13. Mae'r ysgolion fel arfer yn chwartel uchaf eu grwpiau meincnodi perthnasol.

    Cynnal perfformiad uchel.

  • 34 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Lefel 2 gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg - % Blwyddyn Gŵyr

    (Chwartel Meincnodi

    PYDd)

    Gŵyr Targed

    Bryn Tawe

    (Chwartel Meincnodi

    PYDd)

    Targed Bryn Tawe

    ALl Cymru

    2013 76.32 (1)

    - 68.9 (1)

    - 55.31

    52.37

    2014 83.0 69.0

    2015 80.0 74.0

    2016 78.0 76.0

    2017 82.0 74.0

    Mae'r targedau hyn yn seiliedig ar FFT ac yn cynrychioli'n llawer yn uwch na'r chwartel gwerth ychwanegol uchaf.

    5.3 Cynyddu'r cyfleoedd i ddysgwyr o bob oed ymarfer eu Cymraeg y tu allan i'r dosbarth

    Mae pob ysgol gynradd Gymraeg yn cynnig profiadau preswyl mewn lleoliadau Cymraeg eu hiaith - gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Bae Caerdydd, Plas Tan-y-bwlch. Cynigir amrywiaeth eang o weithgareddau ar ôl ysgol ym mhob ysgol, gan gynnwys clybiau chwaraeon amrywiol, cerddoriaeth, cyfrifiaduron, garddio ac ioga. Anelir y rhain yn bennaf at ddisgyblion CA2. Fe'u cynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg gan staff yr ysgol yn bennaf, gyda chymorth asiantaethau allanol mewn rhai achosion. Yn ogystal â'r clybiau brecwast, mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion hefyd yn cynnal clybiau ar ôl ysgol a'r rhain hefyd yn cael eu cynnal trwy'r Gymraeg.

    Parhau i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu Cymraeg y tu allan i'r dosbarth. Parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau a darparwyr allanol a monitro effeithiolrwydd a deilliannau gweithgareddau allgyrsiol.

  • 35 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae amrywiaeth eang o brofiadau allgyrsiol a phreswyl ar gael i ddysgwyr uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y cynlluniau GYTS a BYDI mewn ysgolion uwchradd gyda chefnogaeth y Fenter Iaith. Comisiynir y Fenter Iaith hefyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid i ddarparu cefnogaeth Gymraeg allgyrsiol. Sefydlwyd prosiect a hwyluswyd gan Trywydd yn YGG Bryn Tawe yn 2011-12 ac mae'n parhau yn 2013-14 gydag ymchwil fanylach. Mae'n canolbwyntio ar seicoleg iaith ac agwedd meddwl disgyblion. Mae sesiynau ‘Cymreictod’ wedi eu cynnwys yn y rhaglen ABCh ac mae disgyblion yn mapio eu taith iaith bersonol. Mae Coleg Gŵyr Abertawe'n ehangu ei gyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg yn anffurfiol ac mae wedi pennu targedau ar gyfer gweithgareddau ychwanegol, gan gynnwys sefydlu cymdeithas Gymraeg i drefnu digwyddiadau bach. Mae myfyrwyr ar rai cyrsiau'n cymryd rhan mewn uned iaith ychwanegol a ddyluniwyd i gynnal a datblygu eu sgiliau iaith.

  • 36 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am cynnydd

    5.4 Gwella darpariaeth a safonau Cymraeg Ail Iaith

    Cymraeg Ail Iaith CA2 Canran y dysgwyr ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 sy'n cyrraedd o leiaf Lefel 4 yn asesiadau'r athrawon o'r Gymraeg Ail Iaith

    Blwyddyn Disgyblion sy'n

    cyflawni o leiaf L4 mewn

    Cymraeg 2il Iaith ym Ml.

    6

    % y Targedau Sylfaenol a Dyheadol

    i gyflawni L4 wedi'u pennu gan bob ysgol

    %

    2010 36.4

    2011 47.8

    2012 59.1

    2013 67.1

    2014 69%

    2015 71%

    2016 72%

    2017 73% * Mae'n anodd pennu targedau ystyrlon gan nad yw'n rhan o ddyletswyddau statudol ysgolion ac nad yw'r broses asesu'n ddigon cadarn eto.

    Cafwyd gwelliant da yn y bedwaredd flwyddyn hon o asesu. Yn 2013 roedd Abertawe'n agos at y cyfartaledd cenedlaethol, sef 67.7%.

  • 37 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Nod y Gwasanaeth Cymraeg yw cefnogi ysgolion i gyflwyno'r swyddogaeth statudol. Mewn ymateb i feirniadaeth yn adroddiad Estyn yn 2013, bydd y Gwasanaeth Cymraeg yn gweithio gydag ysgolion er mwyn

    lleihau amrywioldeb yn CA2

    gwella asesiadau isel a gwirio asesiadau uchel

    gwneud asesu'n fwy realistig a thrylwyr. Mae ysgolion lle mae asesu'n is na 40% neu'n uwch na 90% yn cael eu targedu ar gyfer heriau ychwanegol gan y Swyddogion Cymraeg mewn Addysg. Mae'r Swyddogion Cymraeg mewn Addysg yn annog clystyrau i wella'u cynllunio a'u strwythurau. Mae cyrsiau'n cael eu darparu ar gyfer athrawon ym Mlwyddyn 5 a 6 ar lefelu, a chaiff y rhain eu hestyn i athrawon Bl7. Mae'r cyrsiau hyn yn agored i bob ysgol Gymraeg gan fod angen i bob clwstwr fod yn fwy sefydlog yn ei harfer. Mae'n rhaid i bob clwstwr ddangos ei bortffolio o waith Lefel 4 a Lefel 5 i'r Swyddogion Cymraeg mewn Addysg cyn ei gyflwyno. Cafwyd gwelliant mewn gwaith rhanbarthol a rhannu arfer da er mwyn cynyddu cywirdeb a chysondeb.

    Gwella safonau flwyddyn ar ôl blwyddyn a lleihau amrywioldeb perfformiad

    Gwella cymedroli CA2/3 Darparwyd cefnogaeth ar gyfer cymedroli gwell o'r asesu a gwiriwyd prosesau'r clystyrau gan staff yr awdurdod. Mae trylwyredd asesiadau athrawon yn gwella a bydd y gefnogaeth yn parhau i ganolbwyntio ar wreiddio asesu ar draws Cyfnod Allweddol 2 (i'r holl athrawon) a chael asesu mwy cywir.

    Gwreiddio asesu, safoni a chymedroli - mewn ysgolion, yn enwedig yn CA2 - mewn clystyrau - ar draws yr awdurdod

  • 38 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Cyfnod Allweddol 3 Canran y dysgwyr ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 sy'n cyrraedd o leiaf Lefel 4 yn asesiadau'r athrawon o Gymraeg Ail Iaith:

    Blwyddyn Disgyblion sy'n

    cyflawni o leiaf L4 mewn

    Cymraeg 2il Iaith

    ym Ml9

    % y Targedau Sylfaenol a Dyheadol

    i gyflawni L4 wedi'u pennu gan bob ysgol

    %

    2009 47.3

    2010 55.3

    2011 67.4

    2012 70.5

    2013 73.1 73%

    2014 75%

    2015 76%

    2016 77%

    2017 78%

    Cynnal gwelliant mewn safonau a lleihau amrywioldeb mewn perfformiad.

    Datblygu mwy o ddeunyddiau ar gyfer CA3 i gynorthwyo yn yr asesu a chael cysondeb yn y broses lefelu.

  • 39 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae asesu athrawon wedi'i sefydlu'n dda ac mae tuedd gref ar i fyny. Mae Abertawe'n agos at y cyfartaledd cenedlaethol, sef 73.3%. Mae perfformiad ar darged. Mae'r 12 ysgol uwchradd Saesneg yn cydweithio'n dda trwy benaethiaid adrannau gyda chefnogaeth y swyddog a ariennir gan WEG (Cymraeg Ail Iaith, Uwchradd). Mae dyraniad amser ar gyfer y Gymraeg yn CA3 yn bryder o hyd mewn rhai ysgolion, ond mae ysgolion eraill yn dechrau'r cwrs TGAU ym Mlwyddyn 9.

    Annog ysgolion i ddyrannu digon o amser i'r Gymraeg yn CA3.

    Cyfnod Allweddol 4 – Cwrs Llawn: Perfformiad

    Canran y dysgwyr ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4 sy'n cyflawni graddau A*-C mewn TGAU Cymraeg Ail Iaith - Cwrs Llawn fel canran o'r ymgeiswyr:

    Blwyddyn Cymraeg Ail Iaith CA4 Graddau A*-C

    Niferoedd Abertawe

    Abertawe %

    Cymru %

    2009 259/314 82.5

    2010 244/294 82.7

    2011 217/253 85.6

    2012 217/244 89.8 73.6

    2013 226/239 94.6 76.8

    2014 94.8

    2015 95.0

    2016 95.0

    2017 95.0

  • 40 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae'n debygol y bydd angen adolygu hyn dros amser wrth i fwy o ddisgyblion ddilyn y cwrs llawn.

    Mae'r 12 ysgol uwchradd Saesneg yn cydweithio'n dda trwy benaethiaid adrannau gyda chefnogaeth y swyddog a ariennir gan WEG (Cymraeg Ail Iaith, Uwchradd). Mae safonau TGAU ar gyfer A*-C yn uchel iawn ond i'r cohort maent yn isel o hyd. Mae cynyddu nifer y disgyblion sy'n dilyn y cwrs llawn yn flaenoriaeth i Abertawe. Wrth arolygu Abertawe yn 2013, cadarnhaodd Estyn yr angen i gynyddu nifer y bobl sy'n astudio'r cwrs llawn. Mae PACA a'r swyddog (Cymraeg 2il Iaith, Uwchradd) wedi bod yn annog ysgolion i hyrwyddo'r cwrs llawn yn hytrach na'r cwrs byr ac mae hyn wedi cael effaith fel a ddisgrifir isod. Yn 2013, nid yw effaith hyn i'w gweld eto yn niferoedd a chanrannau'r canlyniadau. Mae pob ysgol uwchradd Saesneg yn cynnig y cwrs llawn ond mewn sawl ysgol yn 2013, roedd y nifer a ddewisodd hynny'n fach yn gyffredinol (5% - 30% o'r cohort) gan fod y rhan fwyaf o'r disgyblion yn parhau i ddewis y cwrs byr. Yn sgîl pwysau gan PACA ac o ganlyniad i ddeilliannau arolygiad Estyn, mae ysgolion uwchradd yn cynyddu eu hanogaeth i ddisgyblion astudio Cymraeg Ail Iaith. Mae tair ysgol - Pontarddulais, yr Olchfa a Phentrehafod - wedi gwneud Cymraeg Ail Iaith yn bwnc craidd yn CA4 a chaiff effaith lawn hyn ei gweld yng nghanlyniadau 2014.

    Parhau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dilyn y cwrs llawn.

  • 41 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae'r Cwrs Cymhwysol newydd wedi ei gyflwyno mewn rhai ysgolion ac mae ei boblogrwydd a chyfradd llwyddiant y disgyblion yn cael ei fonitro. Dangosodd dadansoddiad o'r canlyniadau fod y cwrs newydd yn cymharu'n ffafriol â'r hen gwrs.

    Parhau i fonitro effaith y Cwrs Cymhwysol newydd (opsiwn amser llawn)

    Cyfnod Allweddol 4 – Cwrs Llawn: y nifer sy'n cofrestru

    Blwyddyn Cymraeg Ail Iaith CA4 Disgyblion sy'n dilyn y cwrs llawn fel canran o'r cohort

    cyfrwng Saesneg

    Niferoedd %

    2009 314/2467 12.7

    2010 294/2397 12.3

    2011 253/2366 10.7

    2012 244/2294 10.6

    2013 239/2391 10.0

    2014 Targed 12%

    2015 Targed 14%

    2016 Targed 16%

    2017 Targed 17%

    Pennwyd targedau i adlewyrchu ymrwymiad cynyddol i'r cwrs llawn ymhlith penaethiaid uwchradd Abertawe, fel a ddisgrifir yn y testun.

  • 42 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Cam Allweddol 4 – Cwrs Byr: Perfformiad

    Blwyddyn Cymraeg Ail Iaith CA4 Graddau A*-C Cyrsiau Byr

    fel % o'r ymgeiswyr

    Niferoedd Abertawe

    Abertawe %

    Cymru %

    2009 630/1412 44.6

    2010 480/1064 45.11

    2011 506/1150 44.0

    2012 598/1268 47.2 49.6

    2013 670/1422 47.12 50.5

    2014 Targed 50.5

    2015 Targed 52.0

    2016 Targed 52.5

    2017 Targed 53.0

    Pennwyd targedau i ystyried y gostyngiad yn nifer y rhai sy'n cofrestru ar gyrsiau byr wrth i'r nifer sy'n cofrestru ar gyrsiau llawn gynyddu. Bydd mwy o amrywiaeth yng ngallu'r disgyblion sy'n dilyn cyrsiau llawn ac efallai y bydd ystod allu'r disgyblion sy'n dilyn cyrsiau byr yn amrywio hefyd. O ystyried hyn, rhagfynegir cynnydd bach mewn perfformiad ar hyn o bryd.

    Gwella safonau A*-C mewn cyrsiau byr

  • 43 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Mae safonau A*-C mewn cyrsiau byr yn parhau ychydig yn is na ffigur Cymru gyfan ac mae angen gwella'r rhain.

    Sicrhau bod ysgolion yn dyrannu digon o amser yn CA4 ar gyfer y cyrsiau byr.

    Mae canlyniadau'r Cwrs Cymhwysol modiwlaidd newydd, y gellir ei achredu fel cwrs byr (sylfaen), yn cael eu monitro.

    Monitro effaith y Cwrs Cymhwysol (opsiwn byr).

    Cam Allweddol 4 – Cwrs Byr: y nifer sy'n cofrestru

    Blwyddyn Cymraeg Ail Iaith CA4 Disgyblion sy'n dilyn y Cwrs Byr fel % o'r cohort cyfrwng

    Saesneg

    Niferoedd %

    2009 1412/2467 57.23

    2010 1064/2397 44.4

    2011 1150/2366 48.6

    2012 1266/2294 55.1

    2013 1422/2391 59.47

    Mae'r 12 ysgol uwchradd Saesneg yn cynnig y Cwrs Byr. Fodd bynnag, nid yw pob ysgol yn mynnu bod disgyblion yn sefyll yr arholiad. Bydd rhaid cydbwyso cynyddu nifer yr ymgeiswyr ar gyfer y Cwrs Byr â hyrwyddo'r Cwrs Llawn. Oherwydd hyn, nid oes targed wedi'i bennu.

    Dylid cynyddu nifer y disgyblion sy'n sefyll arholiad y Cwrs Byr lle bo'n ddewisol ar hyn o bryd.

  • 44 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Llwybr Dysgu Mae pum ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn bwriadu darparu cwrs Llwybr Dysgu Cymraeg Ail Iaith CBAC i ddisgyblion CA4 o allu is a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, a fydd yn eu galluogi i ennill cymhwyster cydnabyddedig mewn Cymraeg CA4.

    Cyfnod Allweddol 4 – Dim cwrs Canran y dysgwyr nad ydynt yn sefyll arholiad Cymraeg Ail Iaith CA4/TGAU

    Blwyddyn Nifer dim

    arholiad

    Canran dim arholiad

    2009 1522/2467 61.7

    2010 1312/2397 54.7

    2011 926/2366 39.1

    2012 817/2336 35.0

    2013 730/2391 30.5

    2014 Targed 25%

    2015 Targed 20%

    2016 Targed 18%

    2017 Targed 16% DS Defnyddiwyd y garfan cyfrwng Saesneg Cafwyd cynnydd da yn nifer y disgyblion sy'n dewis Cymraeg Ail Iaith ac sy'n mynd ymlaen i sefyll arholiad yn CA4. Rhagwelir mwy o welliant.

    Parhau i gynyddu nifer a chanran y dysgwyr sy'n sefyll yr arholiad Cymraeg Ail Iaith yn CA4.

  • 45 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    5.5 Cynyddu'r cyfleoedd i ddysgwyr o bob oed ymarfer eu Cymraeg y tu allan i'r dosbarth

    Mae datblygu'r defnydd achlysurol o'r Gymraeg ymhlith disgyblion ysgolion Saesneg yn digwydd trwy'r canlynol:

    Clybiau Cymraeg

    Yr Urdd

    Llangrannog a Glan-llyn

    Menter Iaith

    Darpariaeth ieuenctid

    Cynyddu a hyrwyddo'r cyfleoedd ar gyfer y defnydd achlysurol o'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth

    Cynhaliwyd archwiliad rhanbarthol o'r cyfleoedd ar gyfer Cymraeg achlysurol y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn 2012-13. Y nod yw datblygu perthnasoedd gweithio â phartneriaid mewn awdurdodau eraill. Mae staff ysgolion mewn rhai ysgolion cynradd ac uwchradd wedi cael cynnig gwersi Cymraeg, gan gynnwys cyrsiau achrededig.

    5.6 Cynyddu cyfanswm yr ymgeiswyr Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith Safon Uwch fel canran o'r ymgeiswyr Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith TGAU.

    Cyfnod Allweddol 5 – Safon Uwch - Cymraeg Iaith Gyntaf Mae nifer da o ddisgyblion yn astudio Cymraeg Safon Uwch yn y ddwy ysgol Gymraeg ac mae deilliannau'n gadarnhaol. Yn haf 2013, roedd cyfradd lwyddo 100% gan y ddwy ysgol ac roedd bron pob disgybl wedi ennill graddau A-C.

    Cynnal y cyd-ddarpariaeth a'r deilliannau 6ed dosbarth llwyddiannus

  • 46 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Blwyddyn Cymraeg Iaith Gyntaf CA5 Disgyblion sy'n sefyll

    arholiadau mewn Iaith/Llenyddiaeth

    Gymraeg

    Nifer/Cohort

    Gŵyr Bryn Tawe

    2010 10 17

    2011 8 14

    2012 6 11

    2013 14 / 72 9 / 49

    Cyflwynodd Coleg Gŵyr Abertawe gwrs UG Cymraeg Iaith Gyntaf yn 2012-13, gyda 6 myfyriwr wedi cofrestru. Llwyddodd tri o'r myfyrwyr i gwblhau'r cwrs gyda gradd 100% ond nid aeth yr un ohonynt ymlaen i gwblhau'r Safon Uwch lawn. Mae'r cwrs UG yn parhau yn 2013-14 gyda 7 myfyriwr wedi cofrestru.

  • 47 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Cyfnod Allweddol 5 – Safon Uwch - Cymraeg Ail Iaith Fel rhan o ddarpariaeth 14-19 Abertawe, sef Gwarant Abertawe, un ysgol uwchradd yn unig sy'n cynnig Cymraeg Safon Uwch. Yn 2013, mae ysgol uwchradd ychwanegol wedi dechrau cynnig Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch. Mae hefyd ar gael gan y darparwyr AB lleol. Mae'r nifer sy'n astudio yn dibynnu ar nifer y disgyblion sy'n dilyn y cwrs TGAU llawn.

    Blwyddyn Cymraeg Ail Iaith CA5 Nifer y disgyblion sy'n cyflawni A2 mewn Iaith/Llenyddiaeth Gymraeg

    Yr Olchfa Esgob Vaughan

    Coleg Gŵyr Abertawe

    2010 0 -

    2011 0 -

    2012 6 14

    2013 6 (11 wedi cofrestru

    Hydref 2012)

    1 9

    2014 10 wedi cofrestru

    Medi 2013

    - 13 wedi cofrestru

    Medi 2012

    2015 8 wedi cofrestru

    Medi 2013

    6 wedi cofrestru Medi

    2013

    17 wedi cofrestru

    Medi 2013

    Cynyddu'r niferoedd sy'n astudio'r cwrs llawn TGAU i hybu dilyniant i'r Safon Uwch.

  • 48 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Yn haf 2013, pasiodd 6 disgybl gwrs Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch yn yr Olchfa ac un yn Esgob Vaughan. Mae'r Olchfa'n parhau i gynnig gwersi hybu ar ôl ysgol i ddisgyblion a astudiodd y cwrs byr TGAU fel y gallant ddilyn y cwrs Safon Uwch. Bydd Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan hefyd yn darparu cwrs Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch o fis Medi 2013. Bydd Coleg Gŵyr Abertawe'n gweithio gydag ysgolion Saesneg i annog mwy o ddisgyblion i wneud y cwrs llawn Cymraeg Ail Iaith TGAU er mwyn gallu astudio Cymraeg Ail Iaith UG yn y coleg.

    Cefnogi ysgolion i annog myfyrwyr i astudio Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch.

  • 49 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Deilliant 6: Gwella darpariaeth Gymraeg ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol

    A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am cynnydd

    6.1 Gwella darpariaeth Gymraeg ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

    Adolygir y cynllun datblygu AAA ddwywaith y flwyddyn. O ganlyniad i'r adolygiadau hyn, gwelwyd nad oedd angen datblygu CAA ychwanegol ar gyfer disgyblion Cymraeg.

    Parhau i adolygu'r cynllun datblygu AAA ddwywaith y flwyddyn

    Mesurir y galw am leoedd CAA cyfrwng Cymraeg trwy'r adolygiadau blynyddol a dadansoddi'r cyfeiriadau gan y Gwasanaeth Iechyd i'r rhai yn y Blynyddoedd Cynnar. Mae'r wybodaeth hon yn dylanwadu ar yr adolygiad o'r Cynllun Datblygu AAA a gynhelir ddwywaith y flwyddyn.

    Caiff darpariaeth mewn addysg Gymraeg ei hadolygu, fel yn achos addysg Saesneg, trwy'r Cynllun Datblygu CAA. Mae mwy o leoedd mewn CAA presennol neu newydd yn cael eu cynllunio yn ôl yr angen. Mae CAA yn YG Gŵyr â 9 lle, y mae 8 ohonynt wedi'u llenwi (mis Ionawr 2014) ac a fydd yn llawn ym mis Medi 2014. Nid oes unrhyw restr aros ac nid yw'r awdurdod yn ymwybodol o unrhyw alw heb ei ateb. Mae gan YGG Bryn Tawe adnodd iaith a lleferydd ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws yr awdurdod cyfan. Bwriedir cynyddu'r lle yn yr adnodd hwn i gynnal 11 o ddisgyblion (9 ar hyn o bryd) o fis Medi 2014, yn amodol ar gymeradwyaeth yr awdurdod. Unwaith eto, nid yw'r awdurdod yn ymwybodol o unrhyw alw heb ei ateb.

    Parhau i ddadansoddi'r adolygiadau blynyddol a'r cyfeiriadau gan y Gwasanaeth Iechyd ac adolygu'r cynllun datblygu AAA ddwywaith y flwyddyn.

  • 50 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae Abertawe hefyd yn monitro ac yn arfarnu'r galw am ddarpariaeth ADY mewn ysgolion Cymraeg trwy'r adolygiad AAA blynyddol sy'n darparu arian i ddisgyblion ag anawsterau llythrennedd yn bennaf.

    Mae'r tîm hefyd yn arfarnu galw trwy gyfarfodydd SENCo/cefnogi a gynhelir bob tymor pan fo'r SENCos yn gallu mynegi pryderon. Mae presenoldeb SENCos y sector Cymraeg mewn cyfarfodydd rhwydweithio SENCos yn rhagorol.

    Mae'r CLG hefyd yn ddull arall o roi gwybodaeth i'r awdurdod ynghyd â data gan yr ysgolion Cymraeg.

    Mae Tîm Cynhwysiad Effeithiolrwydd Addysg, trwy weithio gyda chydweithwyr o'r Gwasanaeth Mynediad i Ddysgu, yn gallu targedu cefnogaeth a hyfforddi athrawon a chynorthwywyr addysgu yn ôl y galw. Mae penaethiaid yr ysgolion Cymraeg yn fodlon ar yr hyfforddiant effeithiol hwn.

    Cynnal cyfarfodydd rheolaidd â SENCos y sector Cymraeg i bwyso a mesur y galw. Bydd Abertawe a CNPT yn trefnu cyfarfod ar y cyd i ysgolion Cymraeg fel y gallant rannu pryderon ac arfer da.

    Bu'r Tîm Cynhwysiad Effeithiolrwydd Addysg yn gweithio gyda'r grŵp o SENCos i ddatblygu adnoddau dyslecsia Cymraeg - asesiadau yn benodol. Gwahoddodd y grŵp gydweithwyr o Gastell-nedd Port Talbot hefyd. Cynhelir cyfarfodydd tymhorol i wirio'r asesiadau. Mae pecyn am asesiadau a deunyddiau dyslecsia ar gyfer ysgolion Cymraeg, a ddatblygwyd ar y cyd â CNPT, wedi cael eu dosbarthu i ysgolion Abertawe.

    Trafod gwaith ar y cyd i'r dyfodol â Chastell-nedd Port Talbot. Sicrhau bod y pecyn dyslecsia ar gael ledled Cymru

  • 51 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae rhieni plant sy'n cael eu hasesu'n statudol ar gyfer AAA yn cael y cyfle i fynegi eu dewis o ran addysg eu plant, gan gynnwys ym mha iaith y dylid eu haddysgu.

    Parhau i ystyried barn rhieni o ran dewis yn unol â'r arweiniad yn y Côd Ymarfer AAA a sicrhau bod y data hwn yn cyfeirio'r broses o gynllunio darpariaeth AAA yn y Cynllun Datblygu AAA.

    Mae'r pecyn dyslecsia newydd Cymraeg yn cynnwys adran benodol ar gyfer rhieni sy'n amlinellu strategaethau y gallant eu defnyddio gyda'u plant. Caiff rhieni gyfle hefyd i ddod i weithdai cyfrwng Cymraeg.

    Mae SENCo ysgol Gymraeg wedi cael ei hyfforddi i gyflwyno cwrs Parodrwydd Cyn Ysgol. Mae'r cwrs hwn yn cefnogi rhieni gyda strategaethau ymddygiad yn ystod y cyfnodau Meithrin a Derbyn.

    Darparu gweithdai ar gyfer rheini ynglŷn â dyslecsia.

    Mae cyfle i rannu'r arbenigedd sydd gennym yn adnodd YGG Bryn Tawe ar draws awdurdodau cyfagos ac i weithio i asesu'r angen ar draws y rhanbarth. Mae trafodaethau â CNPT ynglŷn â hyn yn parhau.

    Lluniwyd dogfen hunanwerthuso ar gyfer CAA ac UCD gan weithgor a oedd yn cynnwys y ddwy ysgol uwchradd Gymraeg. Bydd yn helpu i sicrhau y caiff anghenion yr ysgolion Cymraeg a'r CAA eu bodloni. Mae'r ddogfen hunanwerthuso yn ddwyieithog a chaiff ei dosbarthu ar draws y rhanbarth

    Rhannu adnoddau ac arbenigedd a datblygu darpariaeth newydd yn rhanbarthol. Cwblhau a chyflwyno'r dogfennau hunanwerthuso CAA ac UCD yn lleol ac yn rhanbarthol.

  • 52 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Mae ymchwil i ‘Ddefnydd Effeithiol o CA yn y Sector Uwchradd’ wedi'i chwblhau a bydd ar gael yn ddwyieithog. Fe'i harweiniwyd gan YGG Bryn Tawe, gan gydweithio'n agos ag ysgolion uwchradd eraill a chydlynydd Llywodraeth Cymru dros CALU yng Nghymru.

    Rhoi adborth i ysgolion uwchradd am yr ymchwil yng nghyfarfodydd hydref 2013 y SENCos.

    Dosbarthu'r adborth i bob ysgol yn nhymor gwanwyn 2014.

  • 53 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Deilliant 7: Cynllunio'r gweithlu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus A. Amcan B. Y sefyllfa bresennol C. Targedau Ch. Adroddiad am

    cynnydd

    7.1 Sicrhau bod digon o ymarferwyr i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg

    Nid oedd unrhyw swyddi gwag heb eu llenwi yn yr ysgolion cynradd Cymraeg ym mis Medi 2013. Nid yw recriwtio athrawon yn broblem yn y sector cynradd Cymraeg lle mae swyddi sy'n cael eu hysbysebu'n cael ymateb da.

    Parhau â'r recriwtio llwyddiannus

    Nid oedd unrhyw swyddi gwag heb eu llenwi yn yr ysgolion uwchradd Cymraeg ym mis Medi 2013. Nid oes unrhyw swyddi neu mae ychydig iawn ohonynt wedi'u llenwi gan athrawon nad ydynt yn arbenigwyr yn y pwnc. Mae'r gyfradd ymateb isel i recriwtio mewn rhai pynciau'n parhau, fel y mae'r anhawster wrth benodi rhywun i gyflenwi absenoldeb tymor byr, e.e. yn ystod mamolaeth.

    Ychydig o ymgeiswyr sydd ar gael mewn rhai meysydd pwnc o hyd a nifer bach sy'n ymgeisio mewn eraill, ond mae ysgolion yn rheoli hyn.

    Mae llai o leoedd ar gael yn y Rhaglen Athrawon Graddedig ac mae hyn yn parhau i gyfyngu ar allu ysgolion i lenwi swyddi trwy'r llwybr hwn mewn meysydd pwnc lle ceir prinder.

    Sicrhau bod athrawon da ym mhob pwnc

    Monitro effeithiau diffyg lleoedd ar y rhaglen Athrawon Graddedig

  • 54 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Nid oedd unrhyw swyddi gwag heb eu llenwi i addysgu Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion uwchradd Saesneg ym mis Medi 2013.

    Parhau â'r recriwtio llwyddiannus

    Nid oedd unrhyw swyddi gwag ar gyfer cynorthwywyr addysgu amser llawn parhaol yn yr ysgolion cynradd Cymraeg ar ddechrau mis Medi 2013. Mae pob swydd sy'n cael ei hysbysebu'n denu dewis o ymgeiswyr. Mae'n galetach llenwi swyddi rhan-amser a swydd dros dro o hyd.

    Sicrhau bod cynorthwywyr addysgu da ym mhob swydd

    Nid oes unrhyw broblemau recriwtio o bwys ar gyfer ysgolion Cymraeg Abertawe. Mae'r awdurdod lleol, trwy'r Ymgynghorwyr Datblygu Ysgolion, yn cefnogi'r holl benodiadau penaethiaid, a gall gynnig cyngor ar faterion recriwtio eraill trwy bersonél Adnoddau Dynol.

    Cynnal y gefnogaeth ar gyfer recriwtio.

    Nid yw ysgolion yn cael unrhyw anhawster wrth recriwtio Cynorthwywyr Cefnogi Dysgu. Mae'r awdurdod yn darparu hyfforddiant effeithiol ar gyfer ADY sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg gan aelod hyfforddedig o staff ysgol gynradd Gymraeg. Cafodd ymchwil i'r ‘Defnydd Effeithiol o Gynorthwywyr Cefnogi Addysgu yn y Sector Uwchradd’ ei harwain gan athro prif ffrwd a SENCo o YGG Bryn Tawe, gan gydweithio'n agos ag ysgolion uwchradd eraill a chydlynydd Llywodraeth Cymru dros CALU yng Nghymru. Roedd Prifysgol Fetropolitan Abertawe hefyd yn rhan o'r ymchwil. Caiff canfyddiadau eu hadrodd i benaethiaid yn hydref 2013 a'u rhannu'n ehangach yng ngwanwyn 2014.

  • 55 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    7.2 Gwella sgiliau ieithyddol ymarferwyr. Gwella sgiliau methodolegol ymarferwyr

    Archwiliad ieithyddol mewn ysgolion Saesneg Cynhelir archwiliad sgiliau ieithyddol o'r gweithlu addysgu cyfredol yn yr awdurdod gyda chydlynwyr Cymraeg mewn ysgolion cynradd Saesneg yn ystod tymor yr hydref bob yn ail flwyddyn. Mae'r archwiliad yn nodi pob aelod o staff fel hyn: Rhugl/Dysgwr Hyderus/Dysgwr/Dechreuwr. Mae'r archwiliad yn nodi unrhyw hyfforddiant blaenorol a gwblhawyd a'r anghenion ar gyfer datblygu sgiliau. Mae'r wybodaeth a gafwyd yn rhoi trosolwg o allu pob ysgol i gyflwyno'r gofyniad o ran yr iaith Gymraeg. Mae'n cyfeirio natur y ddarpariaeth (cyrsiau) a gynigir gan yr awdurdod. Darperir y cyrsiau hyn gydag arian WEG trwy Academi Hywel Teifi a Phrifysgol Abertawe o fis Tachwedd 2012.

    Yn yr ysgolion uwchradd Saesneg, mae penaethiaid a phenaethiaid yr adrannau Cymraeg yn monitro'r angen. Mae'r swyddog a ariennir gan WEG (Cymraeg Ail Iaith, Uwchradd) yn monitro hyn ac yn helpu i gydlynu cefnogaeth, gan gynnwys rhwydwaith y penaethiaid adrannau. Mae'r holl ofynion yn mynd i PACA i gael cytundeb i fwrw ymlaen

    Parhau i archwilio gallu gan ddefnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru. Parhau i ddarparu cefnogaeth yn ôl y galw mewn ysgolion.

  • 56 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Archwiliad ieithyddol yn yr ysgolion Cymraeg Mae'r swyddog a ariennir gan WEG (ysgolion cynradd Cymraeg) yn gweithio ochr yn ochr â'r penaethiaid i nodi'r anghenion datblygiad proffesiynol ym mhob ysgol ac ar y cyd. Mae'r ddwy ysgol uwchradd Gymraeg yn gweithio gyda'i gilydd i nodi anghenion datblygiad proffesiynol a threfnu cefnogaeth, weithiau trwy ddarpariaeth allanol.

    Parhau i fonitro'r anghenion yn yr ysgolion Cymraeg a sicrhau bod yr anghenion yn cael eu diwallu.

    Newidiadau i gefnogaeth Abertawe i'r Gymraeg, Medi 2013 Mae gallu'r awdurdod i gyflwyno cefnogaeth yn dibynnu ar yr arian sydd ar gael, yn fewnol ac yn allanol. Yn 2011-12, penderfynodd y penaethiaid a PACA y byddai'n rhaid newid y gefnogaeth i'r Gymraeg. Diben hynny oedd diwallu anghenion lleol a symud hefyd tuag at y gofynion cenedlaethol i fod yn drawsgyfryngol a thrawsgyfnodol, defnyddio ymagwedd sydd wedi'i thargedu'n fwy a gweithio'n rhanbarthol. Ym mis Awst 2012, daeth y gweithio ar y cyd â Chastell-nedd Port Talbot i ben gan fod anghenion y ddau awdurdod yn wahanol. Mae'r gwasanaeth a gynigir gan Wasanaeth Cymraeg Abertawe'n canolbwyntio ar Abertawe. Cafodd canolfan y gwasanaeth ei hadleoli yn ystod 2012-13.

    Parhau i ddatblygu gwasanaeth yr iaith Gymraeg i ddiwallu anghenion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

  • 57 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Ym mis Medi 2013 cynigir cefnogaeth Gymraeg trwy swyddogion a ariennir gan WEG sydd â chyfrifoldeb dros y sector cynradd Cymraeg a Hwyrddyfodiaid/Hybu Cymraeg, a thîm ar gyfer ysgolion cynradd Cymraeg (yr athrawon bro gynt) ac ysgolion Cymraeg ail iaith. Mae arweinydd tîm yn ei le. Mae'r holl ofynion a chynigion yn mynd i PACA i'w trafod a chael cytundeb i fwrw ymlaen.

    Cyrsiau Cymraeg Mae rhaglen DPP i athrawon a chynorthwywyr dosbarth yn cael ei threfnu trwy'r Gwasanaeth Cymraeg, a ariennir trwy WEG. O fis Tachwedd 2012, bydd yn cael ei darparu gan Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gwerthusiadau o gyrsiau wedi bod yn gadarnhaol. Mae darpariaeth ranbarthol a chydweithredol yn cael ei hystyried. Bydd Abertawe'n gweithio gyda chydweithwyr o Gastell-nedd Port Talbot i ddatblygu cyrsiau Cymraeg i'w cynnal yn ystod blwyddyn academaidd 2013-2014. Un o brif amcanion y rhaglen DPP yw sicrhau cynnydd yn safonau llythrennedd.

    Parhau i gydlynu cefnogaeth trwy Ganolfan Gymraeg Abertawe.

    Ymchwilio i'r opsiynau i gynyddu darpariaeth ar y cyd

  • 58 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Caiff nifer yr athrawon sy'n mynd ar gyrsiau yn Academi Hywel Teifi fel rhan o'r broses sefydlu neu ddatblygiad proffesiynol cynnar ei fonitro gan y Gwasanaeth Cymraeg.

    Monitro nifer yr athrawon sy'n mynd ar gyrsiau fel rhan o'r broses sefydlu neu ddatblygiad proffesiynol cynnar.

  • 59 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Cynlluniau Sabothol Mae staff ysgolion a chanolog Abertawe wedi defnyddio Cynlluniau Sabothol Llywodraeth Cymru wrth iddynt fod ar gael. Mae Canolfan Gymraeg Abertawe wedi helpu i gefnogi'r Cynlluniau Sabothol. Roedd Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn bresennol yng nghyfarfod PACA ym mis Mai 2012 i esbonio am ddatblygiad y Cynllun Sabothol Sylfaen y maent yn ei ddarparu.

    Mae Canolfan Cymraeg Abertawe'n gweithio gydag Academi Hywel Teifi i nodi'r staff ysgolion cynradd i fynd ar y Cwrs Sylfaen. Cynhelir y cwrs yn nhymor y gwanwyn. Yn 2012 roedd 9 aelod o staff o Abertawe ar y cwrs ac yn 2013 roedd 5. Mae cyrsiau sabothol i athrawon dosbarth wedi bod yn boblogaidd iawn.

    Bu'r adborth o'r cwrs yn gadarnhaol. Mae'r swyddogion a ariennir gan WEG yn dweud bod addysgu yn y dosbarth wedi gwella a bod mwy o Gymraeg yn cael ei siarad.

    Trefnir sesiynau adolygu ar ôl pob cohort er mwyn rhannu profiadau o roi sgiliau ar waith yn yr ystafell ddosbarth. Mae monitro sesiynau gan swyddogion mewn ysgolion yn rhoi cefnogaeth ychwanegol.

    Cynhelir y Cwrs Sabothol i Gynorthwywyr Addysgu yn Academi Hywel Teifi o fis Mai i fis Mehefin 2014.

    Mae Cynllun Sabothol Uwch hefyd ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd a ddarperir dros gyfnod o 3 mis (yn y Drindod Dewi Sant) neu fel rhan o gyrsiau dysgu o bell neu gyrsiau byr (yng Nghaerdydd). Mae'r swyddogion a ariennir gan WEG yn sicrhau bod ysgolion yn gwybod am y dewisiadau hyn.

    Hyrwyddo a chefnogi Cynlluniau Sabothol trwy'r Gwasanaeth Cymraeg a darparwyr lleol a rhanbarthol. Monitro nifer y staff o Abertawe sy'n mynd ar y cyrsiau.

  • 60 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Integreiddio ystyriaethau cyfrwng Cymraeg ym mhob agwedd o'r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.

    Mae presenoldeb cynorthwywyr addysgu ar gyrsiau iaith Gymraeg yr awdurdod yn wirfoddol. Mae'r swyddogion (Cymraeg Ail Iaith, Cynradd a Hwyrddyfodiaid/Hybu) ar gael i roi cefnogaeth mewn ysgolion. Erbyn mis Hydref 2013, roedd cynorthwywyr addysgu Lefel 3 wedi cael eu derbyn i fynd ar gyrsiau iaith. Cynhelir y Cwrs Sabothol i Gynorthwywyr Addysgu yn AHT o fis Mai i fis Mehefin 2014. Mae ERW wedi creu adnoddau i gynorthwywyr addysgu mewn Cymraeg Ail Iaith.

    Cynnal y gefnogaeth i gynorthwywyr addysgu yn yr ysgol a'r tu allan.

    Mae dwy Gymuned Ddysgu Broffesiynol ar hyn o bryd yn ystyried sut i wella'r Gymraeg drwy wella cyflawniad bechgyn. Mae gan YGG Bryn Tawe Gymuned Ddysgu Broffesiynol (CDB) fewnol ac mae CDP ar gyfer llythrennedd yn y clwstwr wedi cael ei sefydlu i sicrhau strategaeth glir ar gyfer datblygu llythrennedd ym mhob ysgol Gymraeg. (Gweler 5.1 uchod)

    Hybu cymunedau dysgu proffesiynol yn y cyfnodau cynradd ac uwchradd mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg.

  • 61 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    A. Amcan B. Perfformiad presennol C. Targedau Ch. Adroddiad am gynnydd

    Ceir mwyfwy o gyfleoedd i gynyddu gwaith ar y cyd i gefnogi'r Gymraeg mewn addysg. Mae Prifysgol Abertawe a Chanolfan Addysgu Athrawon De-orllewin Cymru yn y Drindod Dewi Sant yn awyddus i gynyddu'r gwaith ar y cyd â'r awdurdod. Sefydlwyd cysylltiadau ag Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe a Chanolfan Peniarth yng Nghanolfan Addysgu Athrawon De-orllewin Cymru ar gyfer Addysg Athrawon trwy PACA. Caiff cysylltiadau cryfach eu datblygu â Choleg Gŵyr Abertawe yn 2013-14, trwy eu Hyrwyddwr Dwyieithrwydd.

    Datblygu gwaith ar y cyd ag Academi Hywel Teifi a Chanolfan Peniarth.

    Parhau i chwilio am gyfleoedd wrth i waith ar y cyd/ gwaith rhanbarthol ddatblygu.

    Parhau i chwilio am gyfleoedd wrth i waith ar y cyd/ gwaith rhanbarthol ddatblygu.

  • 62 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    Adran 3: Sylwadau a nodiadau ychwanegol

    Mae'r berthynas dda â RhAG dros amser yn parhau i fod yn ddefnyddiol wrth nodi materion a thueddiadau yn y sector Cymraeg.

  • 63 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    ATODIAD 2: Nifer a chanran y disgyblion sy'n mynd i leoliadau Cymraeg nas cynhelir sy'n darparu'r Cyfnod Sylfaen ac sy'n trosglwyddo i ysgolion Cymraeg/dwyieithog (sylwer os nad oes modd cael hyd i'r wybodaeth).

    Enw'r Cylch

    Meithrin/Cylch Ti a Fi/lleoliad gofal plant Cymraeg nas cynhelir

    Enw'r lleoliad Cymraeg a ariennir

    nas cynhelir (Cylch Meithrin)

    Nifer y lleoedd a ddarperir

    gan y lleoliad

    Nifer y plant sy'n

    mynychu

    Ionawr 2014

    Canran y disgyblion a

    drosglwyddodd i ysgolion Cymraeg

    2011-12

    Canran y disgyblion a

    drosglwyddodd i ysgolion Cymraeg

    2012-13

    Cylch Meithrin Abacus (C) 16 12 Dim data ar gael Dim data ar gael

    Clydach (C) 20 20 90% (37/41) 73% (32/44)

    Lôn-las 20 16 94% (29/31) 90% (36/40)

    Penllergaer 8 8 82% (9/11) 64% (14/22)

    Pontarddulais 12 12 100% (12/12) 64% (9/14)

    Y Mwmbwls 12 8 92% (12/13) 100% (8/8)

    Parc y Werin (C) 12 8 67% (2/3) 92% (11/12)

    Plantos Bach (Dechrau'n Deg)

    12 6 100% (13/13) 100% (6/6)

    Waunarlwydd* 8 7 Dim data ar gael Dim data ar gael

    Sgeti 16 7 89% (8/9) 92% (12/13)

    Treboeth/Tirdeunaw (C) 20 13 73% (16/22) 84% (16/19)

    Tan-y-lan (yn ogystal â Dechrau’n Deg)

    8 8 93% (14/15) 85% (11/13)

    * Mae Abacus yn cynnwys y Cylch Meithrin yn ei leoliad gofal dydd llawn. Waunarlwydd yw'r darparwr lleol. Dim data trosglwyddo ar gael gan MM ar gyfer y naill leoliad neu'r llall.

    Enw Nifer y plant sy'n mynychu

    Nifer y plant sy'n mynychu

    Allwedd C = Cofrestredig Nodiadau

    Bydd Cylch Meithrin Tan-y-lan yn ailagor ar ôl hanner tymor mis Hydref.

    Mae Ti a Fi yn St Thomas wedi cau. (Nid yw'n gallu cystadlu â Dechrau'n Deg sydd ar fin agor.)

    Mae Ti a Fi Pontarddulais wedi cau oherwydd niferoedd isel.

    Bydd Ti a Fi Treforys a Ti a Fi Lôn-las yn agor ym mis Mawrth 2014.

    Cylch Ti a Fi Clydach 25 Cylch Ti a Fi Waunarlwydd 25 Cylch Ti a Fi Capel y Nant 15 Cylch Ti a Fi y Mwmbwls 15 Cylch Ti a Fi Felindre 5 Cylch Ti a Fi Parc y Werin 18 Cylch Ti a Fi Llangyfelach 25 Cylch Ti a Fi Treboeth 12 Cylch Ti a Fi Penllergaer 25 Cylch Ti a Fi Bonymaen 20 Cylch Ti a Fi Sgeti 38 Cylch Ti a Fi Tan-y-lan 20 Cylch Ti a Fi St Thomas 12 Cylch Ti a Fi Pontarddulais 1

    Cylch Ti a Fi Glandŵr 8

  • 64 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    ATODIAD 3: Nifer a chanran y disgyblion mewn ysgolion cynradd Cymraeg sy'n trosglwyddo i ysgolion uwchradd Cymraeg

    BLWYDDYN Cyfanswm nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd Cymraeg

    Cyfanswm nifer y disgyblion sy'n trosglwyddo

    i ysgolion uwchradd Cymraeg

    Canran y disgyblion sy'n trosglwyddo i ysgolion uwchradd Cymraeg

    2009 242 240 99.2%

    2010 227 225 99.1%

    2011 267 255 yn ysgolion Abertawe a 3 y tu allan i'r sir*

    96.6%

    2012 242 239 yn ysgolion Abertawe, ac un y tu allan i'r sir.

    99.17%

    2013 253 249 yn ysgolion Abertawe, ac un y tu allan i'r sir*

    98.8%

    Ffynhonnell: Un gronfa ddata disgyblion *Sylwer: Rhwng Gorffennaf a Medi 2013, 3 ddisgybl yn unig na throsglwyddodd i ysgol uwchradd Gymraeg. Symudodd dau i ysgol uwchradd Saesneg ac ymfudodd un i wlad arall.

  • 65 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    ATODIAD 4: Cyrhaeddiad a pherfformiad mewn Cymraeg Ail Iaith Blwyddyn: 2013 Cyfnod Allweddol 2

    Asesiad athrawon mewn Cymraeg Ail Iaith ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2

    Nifer y disgyblion a aseswyd

    Canran holl ddisgyblion

    Bl. 6

    Y ganran a gyflawnodd Lefel 4

    2010 2193/2479 88.46% 36.4%

    2011 2254/2507 89.91% 47.8%

    2012 2209/2436 90.68% 59.1%

    2013 2147/2413 88.98% 67.1%

    Cyfnod Allweddol 3

    Asesiad athrawon mewn Cymraeg Ail Iaith ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3

    Nifer y disgyblion a aseswyd

    Canran holl ddisgyblion

    Bl. 9

    Y ganran a gyflawnodd Lefel 5

    2009 2355/2562 91.92% 47.3%

    2010 2329/2561 90.94% 55.3%

    2011 2422/2653 91.29% 67.4%

    2012 2301/2535 90.77% 70.5%

    2013 2200/2420 90.91% 73.1%

    (Dim Atodiad 5 – caiff yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ei chynnwys yng nghorff Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg)

  • 66 CSGA 2014-2017 TERFYNOL 17Ebrill14 ar ôl y Cyngor

    ATODIAD 6 Ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-14, Rhagfyr 2013 – Chwefror 2014 Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus, yn unol â'r gofynion statudol, rhwng 9 Rhagfyr 2013 a 14 Chwefror 2014. Roedd y ddogfen ar gael yn ddwyieithog yn www.abertawe/gov/uk/wesp. Cafwyd ymatebion gan:

    1. Lywodraeth Cymru (sylwadau anffurfiol) 2. Comisiynydd y Gymraeg 3. RhAG 4. Mudiad Meithrin 5. Aelod etholedig o Ddinas a Sir Abertawe 6. Aelod o'r cyhoedd 7. Cynghorau ysgol/cynrychiolwyr disgyblion o 3 ysgol uwchradd Saesneg, 15 ysgol gynradd Saesneg, un ysgol gynradd

    Gymraeg ac un ysgol arbennig. Ymatebodd yr awdurdod i sylwadau Llywodraeth Cymru ar 18 Chwefror 2014. Cafodd y sylwadau eraill eu crynhoi mewn dogfen unigol at ddibenion corfforaethol. Mae'r grynodeb a'r ymatebion unigol ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod ar gais (e-bostiwch [email protected]). Cafodd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ei addasu yn sgîl rhai o'r sylwadau a wnaed. Nid arweiniodd y newidiadau hyn at ddiwygiad sylweddol. Caiff yr holl sylwadau eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer Cymraeg mewn Addysg yn y dyfodol.

    http://www.swansea/gov/uk/wespmailto:[email protected]