76

Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:
Page 2: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:
Page 3: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen i

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Cynnwys

1 Cyflwyniad.....................................................................................................................1

1.1 TraCC...................................................................................................................1

1.2 Datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.............................................................1

1.3 Adeiladwaith y Ddogfen..........................................................................................3

2 Polisi Trafnidiaeth: Y Cyd-destun...............................................................................6

2.1 Cyflwyniad ............................................................................................................6

2.2 Cymru'n Un...........................................................................................................7

2.3 Cynllun Gofodol Cymru ..........................................................................................8

2.4 Cymru’n Un: Cysylltu'r Genedl- Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ................................10

2.5 Cynllun Trafnidiaeth Genedlaethol Cymru................................................................13

2.6 Cymru’n Un: Cysylltu’r Genedl -Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru...........................13

2.7 Strategaeth Drafnidiaeth Integredig Partneriaeth Canolbarth Cymru...........................14

2.8 Strategaeth Drafnidiaeth Gyhoeddus Ranbarthol Canolbarth Cymru ..........................16

2.9 Polisi Trafnidiaeth Lleol ..........................................................................................17

2.10 Llythyrau Penderfyniad y Grant Trafnidiaeth 2008/2009 ............................................18

2.11 Cynlluniau Datblygu Lleol .......................................................................................18

2.12 Strategaethau Cymunedol ......................................................................................20

2.13 Fframwaith y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.....................................................21

3 Dadansoddiad o Broblemau a Chyfleoedd ................................................................22

3.1 Cyflwyniad ............................................................................................................22

3.2 Crynodeb o’r Broblemau.........................................................................................23

3.3 Modelu Accession..................................................................................................29

3.4 Ystyriaethau Cyllido a Gweithredu...........................................................................32

4 Gweledigaeth, Blaenoriaethau ac Amcanion TraCC.................................................34

4.1 Cyflwyniad ............................................................................................................34

4.2 Datganiad o Weledigaeth .......................................................................................34

4.3 Blaenoriaethau Rhanbarthol ...................................................................................36

4.4 Gwerthusiad WelTag..............................................................................................37

4.5 Amcanion Cynllunio Trafnidiaeth .............................................................................45

5 Ymyriadau a Chynhyrchu Opsiynau...........................................................................49

5.1 Ymyriadau.............................................................................................................49

5.2 Cynhyrchu Opsiynau..............................................................................................59

5.3 Gwerthuso’r Cynlluniau ..........................................................................................60

6 Cydrannau Cysylltiedig â’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ................................66

6.1 Cyflwyniad ............................................................................................................66

6.2 Cyfrifoldebau.........................................................................................................66

Page 4: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen ii

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

6.3 Cefnffyrdd.............................................................................................................67

6.4 Materion Refeniw...................................................................................................71

6.5 Materion eraill cysylltiedig â Thrafnidiaeth ................................................................79

6.6 Dimensiynau Rhyngwladol a Chenedlaethol ..................................................................87

7 Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Rhaglen 5 mlynedd ..........................................91

7.1 Cyflwyniad ............................................................................................................91

7.2 Rhaglen 5 mlynedd ...............................................................................................91

7.3 Disgrifiadau’r Prosiect / Cyfiawnhad ........................................................................93

8 Strategaeth Fwy Hirdymor...........................................................................................140

8.1 Cyflwyniad.......................................................................................................................140

8.2 Yr Heriau Allweddol i Drafnidiaeth yng Nghanolbarth Cymru ........................................ 140

8.3 Y Strategaeth Hirdymor...................................................................................................141

9 Ymgynghoriad ..............................................................................................................145

9.1 Cyflwyniad....................................................................................................................... 145

9.2 Ymgynghori gyda Rhanddeiliaid......................................................................................145

9.3 Ymgynghori â’r Cyhoedd ................................................................................................146

9.4 Taflen Sylwadau ..............................................................................................................147

10 Rhaglen Fonitro............................................................................................................150

10.1 Cyflwyniad....................................................................................................................... 150

10.2 Datblygu’r Fframwaith................................................................................................... ..151

10.3 Fframwaith Monitro a Gwerthuso TraCC..........................................................................152

10.4 Amserlen..........................................................................................................................155

Page 5: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen iii

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Tablau

Tabl 1.1 - Cynnydd gydag Asesiad Amgylcheddol Strategol TraCC

Tabl 2.1 - Partneriaeth Canolbarth Cymru – Blaenoriaethau Buddsoddi 2003

Tabl 2.2 - Grant Trafnidiaeth 2008/2009

Tabl 2.3 - Crynodeb o Bolisïau Trafnidiaeth y Cynllun Datblygu Unedol

Tabl 2.4 - Crynodeb o Weledigaeth a Themâu’r Strategaeth Gymunedol

Tabl 3.1 - Cyrchfannau – Gwasanaethau Cyhoeddus Hanfodol

Tabl 3.2 - Fframiau Amser Modelu Trafnidiaeth Gyhoeddus

Tabl 4.1 - Cyfradd Feintiol a ddefnyddir yn y Gwerthusiad WelTag

Tabl 4.2 - Problemau Rhanbarthol v Blaenoriaethau Rhanbarthol (Cychwynnol)

Tabl 4.3 - Problemau Rhanbarthol v Blaenoriaethau Rhanbarthol (Ar ôl WelTAG)

Tabl 4.4 - Problemau Rhanbarthol v Blaenoriaethau Rhanbarthol (Cydberthynas)

Tabl 4.5 - Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Blaenoriaethau v Deilliannau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru

Tabl 5.1 - Blaenoriaethau Rhanbarthol v Ymyriadau

Tabl 5.2 - Blaenoriaethau Rhanbarthol v Pecynnau Prosiect

Tabl 6.1 - Cyfrifoldebau Trafnidiaeth – Strwythur Model

Tabl 6.2 - Gofynion –Strwythur Priffyrdd

Tabl 7.1 - Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol

Tabl 7.2 - Pellter cefnffyrdd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

Tabl 7.3 - Hygyrchedd i Lyfrgelloedd ar Gludiant Cyhoeddus (Sefydlog a Symudol)

Tabl 7.4 - Sefydliadau sy’n Gyfrifol am Orsafoedd Rheilffordd

Tabl 7.5 - 2010/11 Gwariant yn ôl Categori

Tabl 7.6 - Crynodeb- Rhaglen 5 mlynedd 2010/11- 2014/15

Tabl 7.7 - Rhaglen 5 mlynedd 2010/11- 2014/15

Tabl 8.1 - Crynodeb o’r effaith ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wrth gyflawni’r senarios cyllido gwahanol

Tabl 9.1 - Blaenoriaethau

Tabl 9.2 - Canlyniadau o’r Blwch “Sylwadau Eraill”

Tabl 9.3 - Nifer yr Ymatebwyr

Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod

Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro

Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro

Page 6: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen iv

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Ffigurau

Ffigur 1.1 - Rhanbarth TraCC

Ffigur 2.1 - Fframwaith Polisi Cymru (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru)

Ffigur 2.2 - Hierarchaeth y Mesurau Cludo Nwyddau (Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru)

Ffigur 3.1 - Isranbarthau Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC

Ffigur 7.3 - Cynllun Gofodol Cymru: Aneddiadau Allweddol yng Nganolbarth Cymru

Page 7: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen v

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Atodiadau (Dogfen ar wahân)

Atodiad A - Camau Allweddol o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru

Atodiad B - Dadansoddiad o Broblemau a Chyfleoedd

Atodiad C - Deilliannau'r Ymarferiad Modelu Accession

Atodiad D - Taflenni Gwerthuso

Atodiad E - Cofrestr Dogfennau sydd i'w Derbyn

Atodiad F - Gwelliannau Strategol i’r Rhwydwaith Ffyrdd Sirol

Atodiad G - Cynllun Gofodol Cymru – Drafft o Fframwaith Darparu

Canolbarth Cymru

Atodiad H - Ymgynghori

Page 8: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:
Page 9: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen vi

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Rhagair

Mae’n bleser mawr gen i gyflwyno’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a baratowyd gan Drafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC), sef Consortiwm Trafnidaieth Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

Mae’r Cynllun Drafft yn ffrwyth cysylltiadau helaeth gyda rhanddeiliaid a’r cyhoedd ac wedi cael ei baratoi yn unol â Chanllawiau ac Amserlen cyfredol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Cynllun Trafnidaieth Rhanbarthol Drafft yn strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer Canolbarth Cymru yn ogystal â bod yn ddogfen geisiadau sy’n cynnwys Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf 5 Mlynedd (heb gynnwys y prif gynlluniau rheilffyrdd a chefnffyrdd).

Disgwylir y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymateb i’r Cynllun Drafft yn ystod Gwanwyn 2009 a gallai hynny achosi rhai newidiadau i’r Cynllun terfynol, y bwriedir ei gyflwyno ym mis Medi 2009. Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gyfle i sicrhau bod pob cynllun sy’n hanfodol er mwyn creu newid o ddifrif yng Nghanolbarth Cymru ac yng Nghynllun Pum Mlynedd arfaethedig TraCC (ynghyd â gwelliannau i’r rheilffyrdd a’r cefnffyrdd) yn dylanwadu ar Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth y Cynulliad.

Ar yr un pryd, er bod Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC yn cynnwys Rhaglen Pum Mlynedd o Fuddsoddiad Cyfalaf, mae’n hollbwysig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraaeth y Cynulliad yn cydnabod bod angen cefnogaeth refeniw digonol gan y Llywodraeth i adeiladu system drafnidaieth integredig sydd i bob pwrpas yn lleihau effeithiau traffig a thrafnidiaeth ar yr hinsawdd ac yn cefnogi cymdeithas sy’n hyfyw yn economaidd ac yn gynhwysol yn gymdeithasol – er enghraifft i redeg gwasnaethau bws, trên a thrafnidiaeth gymunedol ac i gynnal diogelwch a dibynadwyedd y seilwaith presennol (gan gynnwys ffyrdd, llwybrau beicio, goleuadau ffyrdd a phontydd).

Yn ystod y 12 mis nesaf bydd TraCC yn gwneud y gwaith paratoi angenrheidiol ar gyfer y cynlluniau sydd i ddigwydd ym mlynyddoedd cynnar Cynllun Pum Mlynedd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ogystal â sefydlu data sylfaenol (gwaelodlin) ar gyfer gosod targedau er enghraifft lleihau nifer y teithiau car i’r gwaith ac i’r ysgol a chynyddu’r defnydd a wneir o drafnidiaeth gyhoeddus) a monitro’r Cynllun fel y bo angen. Bydd TraCC hefyd yn gweithio’n galed i gryfhau ei drefniadau i weithio mewn partneriaeth yn fewnol, ac i atgyfnerthu’r berthynas rhwng TraCC a’i bartneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Bydd TraCC yn adolgu ei strwythur gweinyddol a’i drefniadau llywodraethu er mwyn i’r Consortiwm allu gweithredu’n fwy effeithiol a gwireddu ei Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Y Cynghorydd Sirol Ray Quant MBE, Cadeirydd TraCC

Ar ran Bwrdd TraCC

22 Rhagfyr 2008

Page 10: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:
Page 11: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 1

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

1 Cyflwyniad

1.1 TraCC 1.1.1 Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC) yw’r Consortiwm Trafnidiaeth

Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru. Mae’n cwmpasu siroedd Ceredigion, Powys a rhan o Wynedd (yr hen Feirionnydd) gan gynnwys rhannau o Barciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog. Mae’r Consortiwm yn ceisio gweithio gyda’i gilydd a gyda phartneriaid i sicrhau gwelliannau yn y system drafnidiaeth rhanbarth TraCC.

1.1.2 Mae ardal TraCC yn fawr ac yn amrywiol iawn. Mae’n ymestyn o Flaenau Ffestiniog yn y gogledd i Ystradgynlais yn y de ac o Fae Ceredigion yn y gorllewin i’r ffin â Lloegr yn y dwyrain. Mae rhanbarth TraCC yn unigryw gan ei fod yn ffinio gyda thri chonsortiwm arall Cymru; mae’r rhanbarth hefyd yn rhannu mwy o ffin gyda Lloegr. Mae’r rhanbarth yn cynnwys 40% (838,000 hectar) o gyfanswm arwynebedd tir Cymru ond mae llai na 10% o boblogaeth y wlad yn byw yno (235,295 yn ôl Cyfrifiad 2001). Mae’r trwch poblogaeth yn isel, gyda phatrwm gwasgaredig o aneddiadau. Dyma’r rhanbarth mwyaf gwledig yng Nghymru, - gwlad o ucheldir yn bennaf ond gydag arfordir sylweddol yn y gorllewin. Mae economi’r ardal yn ddibynnol iawn ar ddiwydiannau seiliedig ar y tir (megis amaethyddiaeth a choedwigaeth), cyflogaeth sector cyhoeddus (sectorau’r llywodraeth, iechyd ac addysg) a thwristiaeth.

1.1.3 Mae Ffigur 1.1 yn dangos maint ardal TraCC, gan nodi’r prif rwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd, ynghyd â ffiniau’r awdurdodau lleol a’r Parciau Cenedlaethol.

1.2 Datblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol 1.2.1 Roedd Deddf Trafnidiaeth Cymru 2006 a Deddf Rheilffyrdd 2005 yn rhoi

cyfrifoldebau a phwerau i Lywodraeth Cynulliad Cymru gynllunio a gwella’r system drafnidiaeth yng Nghymru. Ymhlith y newidiadau pwysicaf mae’r angen i gynhyrchu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, a rhoi pwerau i’r Cynulliad gynllunio trafnidiaeth ranbarthol a rheolaeth uniongyrchol dros wasanaethau rheilffyrdd lleol a rhanbarthol yng Nghymru.

1.2.2 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymeradwyo Gorchymyn Rheoleiddio sy’n newid yr angen i 22 awdurdod lleol Cymru gynhyrchu Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol, fel bod y pedwar Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol a ffurfiwyd gan yr awdurdodau lleol yn gorfod paratoi Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Y Consortia hyn yw TraCC ei hun, Taith (Gogledd Cymru), SWWITCH (De Orllewin Cymru) a Sewta (De Ddwyrain Cymru).

Page 12: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 2

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

1.2.3 Roedd yn ofynnol i’r pedwar Consortiwm gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Amlinellol erbyn mis Ionawr 2007, yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth. Hefyd cyflwynwyd adroddiad interim i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2008. Nid oedd hynny’n orfodol, ond roedd yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnig sylwadau a chyngor ynglŷn â’r ffordd yr oedd y broses yn datblygu. Yr ydym wedi rhoi ystyriaeth i’r sylwadau a gafwyd hyd yma wrth ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC.

1.2.4 Mae’r amserlen wreiddiol oedd yn y ‘Canllawiau ar Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol’, i gyflwyno’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol terfynol wedi llithro o fis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2009. Mae angen cyflwyno Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Rhagfyr 2008.

Ffigur 1.1: Rhanbarth TraCC

Page 13: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 3

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

1.2.5 Yn ogystal â’r Adroddiad Amlinellol a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2007, penderfynodd TraCC gyflwyno ‘Datganiad o Sefyllfa’ ynglŷn â Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC ym mis Hydref 2007, ochr yn ochr â’r cynigion Grant Trafnidiaeth. Roedd y Datganiad o Sefyllfa yn cynnwys:

• Manylion am gynnydd a chyfeiriad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

• Cyfle i Lywodraeth Cynulliad Cymru ystyried Gweledigaeth, Blaenoriaethau, Amcanion ac Ymyriadau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

• Nodi lle’r oedd angen mwy o waith ‘cyfiawnhau’.

• Tystiolaeth o fomentwm i randdeiliaid.

1.3 Adeiladwaith y Ddogfen 1.3.1 Mae adeiladwaith y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft hwn yn

adlewyrchu canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â Chynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a’r sylwadau a gafwyd oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad, rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol unigol. Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hefyd yn adlewyrchu’r amgylchiadau penodol sy’n berthnasol i gynllunio trafnidiaeth mewn ardal wledig fawr, sydd â phatrwm gwasgarog o aneddiadau ac yn rhoi sylw i broblemau sylweddol o safbwynt hygyrchedd.

1.3.2 Mae’r adroddiad yn cynnwys yr adrannau canlynol:

Adran 2 – Cyd-destun y Polisi Trafnidiaeth

Adran 3 – Dadansoddiad o Broblemau a Chyfleoedd

Adran 4 – Gweledigaeth, Blaenoriaethau ac Amcanion TraCC

Adran 5– Ymyriadau a Chynhyrchu Opsiynau

Adran 6 – Cydrannau Cysylltiedig y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

Adran 7 – Rhaglen y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’r Strategaeth fwy Hirdymor

Adran 8 – Ymgynghori

Adran 9 – Monitro a Gwerthuso

1.3.3 Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft yn cynnwys nifer o atodiadau sy’n cynnwys gwybodaeth gefnogol. Yn Atodiad A cyflwynir nifer o Gamau Allweddol o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Yn Atodiad B ceir dadansoddiad manwl o’r problemau a’r cyfleoedd a gynigir a cheir crynodeb o hyn yn Adran 3 o’r prif adroddiad. Cyflwynir y Deilliannau Modelu Accession yn Atodiad C a cheir taflenni Gwerthuso yn Atodiad D. Mae Atodiad E yn cynnwys y gofrestr o ddogfennau sydd wedi dod i mewn

Page 14: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 4

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

ac Atodiad F yn rhestru’r cynlluniau cefnffyrdd a fydd yn cael eu gwerthuso a’u blaenoriaethu yn ystod 20009/10. Mae Cynllun Gofodol Cymru - Fframwaith Cyflenwi Drafft Canolbarth Cymru yn cael ei gyflwyno yn Atodiad G a rhestrir yn Atodiad H y rhai a oedd yn bresennolo yn y digwyddiadau a drefnwyd ar gyfer rhanddeiliaid.

1.3.4 Gyda’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol terfynol fe gyhoeddir Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae hyn yn ofynnol yn ôl y Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol1 a ddaeth yn rhan uniongyrchol o ddeddfwriaeth Cymru ym mis Gorffennaf 2004 trwy Reoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol Cymru2.

1.3.5 Mae dull TraCC o ddelio gyda’r Asesiad wedi dilyn yn fanwl y canllawiau a roddir yn Atodiad B i’r canllawiau ar gyfer paratoi Asesiadau Amgylcheddol Strategol y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Y sefyllfa bresennol yw ein bod yn bwriadu gwneud asesiad o Ymyriadau a phecynnau o brosiectau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Bydd yr holl opsiynau ac ymyriadau wedi cael eu hasesu trwy ddull matrics. Mae Tabl 1.1 yn crynhoi gofynion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r cynnydd a fu mewn perthynas ag Asesiad Amgylcheddol Strategol TraCC.

1 Cyfarwyddeb Ewropeaidd 2001/42/EC “ar asesu effeithiau cynlluniau a rhaglenni penodol ar yr

amgylchedd”

2 S.I. 2004 No. 1656 (W.170) Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni

(Cymru) 2004

Page 15: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 5

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Tabl 1.1: Cynnydd gydag Asesiad Amgylcheddol Strategol TraCC

Cam Gofynion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol Y Sefyllfa Bresennol

A

Gosod y cyd-destun a’r amcanion, gan

sefydlu’r waelodlin a phenderfynu ar

gwmpas yr ymarferiad

Mae Cam A o Asesiad Amgylcheddol

Strategol y Cynllun Trafnidiaeth

Rhanbarthol wedi cael ei gwblhau a’i nodi

yn Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Asesiad

(D001-NE02520-NE-R001), a gyflwynwyd i

ymgynghoriad ym mis Rhagfyr 2006.

B

Datblygu a mireinio gwahanol

ddewisiadau ac asesu eu heffeithiau

Mae’r asesiad o Flaenoriaethau ac

Amcanion y Cynllun Trafnidiaeth

Rhanbarthol wedi cael ei gwblhau fel y nodir

yn Natganiad Sefyllfa Asesiad

Amgylcheddol Strategol y Cynllun

Trafnidiaeth Rhanbarthol mis Hydref 2007

(D002-NE02520-NE-01). Mae’r asesiad o

Ymyriadau a phecynnau prosiect y Cynllun

Trafnidiaeth Rhanbarthol Ymyriadau yn

broses barhaus.

C Paratoi’r Adroddiad Amgylcheddol Ar y gweill

D

Ymgynghori ynglŷn â’r rhaglen neu

gynllun drafft a’r Adroddiad

Amgylcheddol

I’w gwblhau

E Monitro gweithredu’r cynllun neu raglen I’w gwblhau

1.3.6 Mae Datganiad Sefyllfa Asesiad Amgylcheddol Strategol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, mis Hydref 2007 yn rhoi manylion pellach am ofynion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (D002-NE02520-NE-01).

Page 16: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 6

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2 Cyd-destun y Polisi Trafnidiaeth

2.1 Cyflwyniad 2.1.1 Nodir y fframwaith polisi ar gyfer paratoi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

ar gyfer Canolbarth Cymru mewn dogfennau polisi ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae’r dogfennau polisi strategol sydd wedi dylanwadu’n allweddol ar baratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC yn genedlaethol yn cynnwys:

• Cymru’n Un: Rhaglen Flaengar ar gyfer Llywodraethu Cymru (y rhaglen y cytunwyd arni rhwng grwpiau Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol);

• Cynllun Gofodol Cymru (sy’n gosod y fframwaith ar gyfer gweithredu agenda Strategol Cymru o safbwynt cynllunio); a

• Cymru’n Un Cysylltu’r Genedl - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (sy’n cefnogi a hyrwyddo’r amcanion yr anelir atynt yng Nghynllun Gofodol Cymru).

2.1.2 Mae Ffigur 2.1 yn cyfleu Fframwaith Polisi Cymru. Mae’n dangos y berthynas rhwng Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Cynllun Gofodol Cymru a’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

Ffigur 2.1: Fframwaith Polisi Cymru (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru)

2.1.3 Yn ychwanegol at hyn, wrth baratoi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol rhoddwyd ystyriaeth i’r fframweithiau polisi rhanbarthol a lleol gan gynnwys Astudiaeth Aneddiadau Canolbarth Cymru a dogfennau eraill megis

Page 17: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 7

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Strategaeth Twristiaeth Arfordir Cymru, yr astudiaeth Twristiaeth Fewndirol, dogfennau cynllunio lleol, Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol blaenorol a gwaith blaenorol a wnaethpwyd gan TraCC a Phartneriaeth Canolbarth Cymru i ddatblygu polisïau trafnidiaeth ar gyfer y Canolbarth. Hefyd, wrth ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC rhoddwyd ystyriaeth i’r tri Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol arall sy’n cael eu datblygu (Sewta, SWWITCH a Taith). Mae nifer o’r dogfennau polisi hynny wedi cael eu cymeradwyo gan yr awdurdodau lleol sy’n perthyn i Gonsortiwm Trac a gan hynny buont yn sail i ddatblygu polisïau Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC.

Polisi Cenedlaethol

2.2 Cymru’n Un 2.2.1 Y ddogfen Cymru’n Un3 a gynhyrchwyd ym mis Mehefin 2007, yw rhaglen

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2007-2011). Mae’r ddogfen yn darlunio Cymru lle bydd teithio rhwng cymunedau mewn gwahanol rannau o Gymru yn rhwydd ac yn gynaliadwy. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i greu gwell cysylltiadau trafnidiaeth, ar y ffyrdd ac ar y rheilffyrdd, rhwng y Gogledd, y Gorllewin a De Cymru. Bydd y rhaglen llywodraethu yn cynnwys:

• Gwella trafnidiaeth ranbarthol a chenedlaethol

• Gwella hygyrchedd

2.2.2 Mae Cymru’n Un gwneud nifer o ddatganiadau ynglŷn â’r rhaglen a chyflwynir y rhain isod.

‘Gwella Trafnidiaeth Ranbarthol a Chenedlaethol

Byddwn yn gwella trafnidiaeth rhwng cymunedau ar draws Cymru drwy fuddsoddi mewn gwahanol ddulliau o deithio.

• Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu rhaglen i wella’r cysylltiadau rhwng y Gogledd a’r De, gan gynnwys teithio ar ffyrdd a rheilffyrdd.

• Byddwn yn lleihau’r amser teithio ar y rheilffyrdd rhwng y Gogledd a’r De.

• Byddwn yn creu rhwydwaith trafnidiaeth TrawsCambria newydd ar gyfer Cymru gyfan a fydd yn integreiddio siwrneiau hir ar y trên a'r bws gyda thrawsdocynnau electronig erbyn 2011.

3 Cymru’n Un: Rhaglen flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru, Cytundeb rhwng grwpiau y Blaid

Lafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, 27 Mehefin 2007

Page 18: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 8

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Byddwn yn parhau i wella diogelwch ac ansawdd gorsafoedd a phlatfformau ym mhob rhan o Gymru, gan gyflwyno trenau a gwasanaethau trên newydd.

• Byddwn yn cyflwyno Pwyllgor Teithwyr Trafnidiaeth Cenedlaethol ar gyfer Cymru.

• Byddwn yn gwella’r trefniadau cynllunio strategol rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth.

• Byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith o wella'r prif gysylltiadau ffyrdd rhwng y Gogledd, y Gorllewin a'r De, gan fuddsoddi dros £50 miliwn at y diben hwnnw yn ystod tymor pedair blynedd y Cynulliad.

Gwella Hygyrchedd

Mae'r rhan fwyaf o siwrneiau yn lleol - mynd i siopa, mynd â'r plant i'r ysgol, mynd i'r gwaith neu i apwyntiadau ysbyty. Er mwyn gwella trafnidiaeth leol:

• Byddwn yn defnyddio pwerau newydd i awdurdodau lleol gynllunio a

chefnogi teithiau bysiau newydd i wella cysylltiadau rhwng cymunedau.

• Byddwn yn gwella ac yn cysylltu llwybrau beicio trwy Gymru gyfan.

• Byddwn yn gwella’r trefniadau gostyngiadau i bensiynwyr ar drenau.

• Byddwn yn cefnogi cynaliadwyedd trafnidiaeth drwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth gymunedol, beicio, llwybrau diogel i ysgolion a pharthau 20 milltir yr awr.

• Byddwn yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth ar wella cludiant i ysgolion.

• Byddwn yn datblygu cynllun i symud cludo nwyddau oddi ar y ffyrdd i'r rheilffyrdd.’

2.3 Cynllun Gofodol Cymru 2.3.1 Cafodd y Cynllun Gofodol Cymru cyntaf ei fabwysiadu’n ffurfiol yn 2004.

Roedd yn gosod agenda ar gyfer datblygu Cymru mewn ffordd gynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf. Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2008 cafwyd ymgynghoriad ynglŷn ag adroddiad Ymgynghori Diweddariad 2008. Mae’r agenda a’r weledigaeth fras o 20 mlynedd, a osodwyd yn Pobl, Lleoedd, Dyfodol yn 2004, yn aros yr un fath. Prif ddiben y ddogfen Diweddariad yw adlewyrchu ffactorau newydd sy’n gyrru newid, gan gynnwys Cymru’n Un a’i bolisïau allweddol, a rhoi statws i waith Ardal sydd wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

2.3.2 Mae’r Cynllun Gofodol yn nodi dau fater allweddol i rwydweithiau trafnidiaeth a chyfathrebu’r dyfodol; yn gyntaf gwella mynediad i swyddi a gwasanaethau ac yn ail sicrhau newidiadau mewn ymddygiad teithio mewn ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Page 19: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 9

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2.3.3 Mae Ardal Ofodol Canolbarth Cymru yn helaethach na rhanbarth TraCC, ond mae’r Fframwaith Ardal a ddatblygwyd ar gyfer Canolbarth Cymru yn adlewyrchu amcanion a dyheadau rhanbarth TraCC. Y weledigaeth ar gyfer Canolbarth Cymru yw ‘Safon byw a gweithio uchel mewn aneddiadau llai eu maint o fewn amgylchedd gwych, gan ddarparu modelau deinamig o ddatblygu gwledig cynaliadwy, gan symud pob sector i weithgareddau sy’n cynnig gwerth ychwanegol’.

2.3.4 Defnyddiwyd fframwaith Canolbarth Cymru i ddatblygu amcanion a fframwaith gwerthuso’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Credir bod y prosiectau a’r cynigion a ddatblygwyd ac a gynhwyswyd yn y rhaglen pum mlynedd yn adlewyrchu gweledigaeth y Cynlluniau Gofodol ar gyfer Canolbarth Cymru.

2.3.5 Rhestrir isod rhai datganiadau allweddol o Ddiweddariad y Cynllun Gofodol (Adran 11 - Canolbarth Cymru) y rhoddwyd ystyriaeth iddynt wrth baratoi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

• Mae Aberystwyth yn aneddiad allweddol o Bwysigrwydd Cenedlaethol.

• Mae’r Drenewydd yn brif aneddiad allweddol ac Aberhonddu a Dolgellau yn brif aneddiadau allweddol sydd i gael eu datblygu.

• Mae oddeutu 30 aneddiad allweddol yn rhanbarth TraCC gyda rhai clystyrau pwysig o aneddiadau.

• Mae’r ardal yn gefnwlad i fywyd gwledig ac yn gronfa i ansawdd amgylcheddol critigol Cymru ac mae ganddi botensial fel cronfa atafaelu carbon pwysig ac adnodd pwysig i gynhyrchu biomas.

• O gael ei datblygu mewn ffordd sensitif mae gan yr ardal botensial economaidd sydd heb ei sylweddoli, mewn diwydiannau seiliedig ar wybodaeth, technolegau amgylcheddol newydd a mathau cynaliadwy o dwristiaeth ansawdd uchel.

• Mae gan yr ardal gysylltiadau traws ffiniol pwysig ac ardaloedd cyd-ddibynnol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr.

• Eithaf gwan yw’r cysylltiadau sydd rhwng rhannau o’r ardal o fewn a thu hwynt i Gymru, gyda lefelau isel o hygyrchedd ar y rheilffordd.

• Mae’r ardal yn dioddef problemau cyffredinol amddifadedd yn deillio o lefelau uchel o anweithgarwch economaidd, trafnidiaeth wael, swyddi cyflog isel a diffyg hyfforddiant priodol.

• Mae prinder y cysylltiadau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) cyflym a hyd yn oed cysylltiadau ffôn symudol mewn rhannau o’r rhanbarth. Mae hyn yn cyfrannu at ymyleiddio’r ardal oddi wrth wasanaethau a marchnadoedd economaidd ehangach. Mae’n debygol bydd ardaloedd fydd yn methu derbyn teledu a radio digidol na dulliau eraill o dderbyn gwybodaeth a chyfathrebu electronig ar ôl trosglwyddo i wasanaethau digidol yn 2009.

Page 20: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 10

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2.3.6 O safbwynt hygyrchedd, mae tîm Ardal Ofodol Canolbarth Cymru wedi sefydlu’r blaenoriaethau canlynol i’r ardal trwy ymgynghori gyda rhanddeiliaid:

• Gwella argaeledd, ansawdd ac integreiddiad cludo teithwyr, gan gynnwys swyddogaeth trafnidiaeth gymunedol a thrafnidiaeth ‘yn ôl y galw’ yn ‘bwydo’r’ prif wasanaethau.

• Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau trafnidiaeth gynaliadwy, fforddiadwy ac iach.

• Gwella cysylltiad rhwng aneddiadau’r ardal a chysylltiad gyda rhanbarthau eraill yng Nghymru a Lloegr.

• Cynnal, gwella ac ymestyn y defnydd effeithiol o’r seilwaith trafnidiaeth bresennol.

• Lle bo modd, lleihau’r angen i deithio a thrwy hynny lleihau anfanteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol trafnidiaeth.

• Sicrhau bod trafnidiaeth a hygyrchedd/symudedd yn ystyriaethau pwysig sy’n dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau ynglŷn â defnydd tir, a’r strategaethau lleol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

2.3.7 Mae tîm ardal Gofodol Canolbarth Cymru yn cydnabod bod Gorllewin Canolbarth Lloegr yn ddylanwad allweddol ar gyfer rhanbarth TraCC, fel darparwr gwasanaeth ac fel rhan o brif rwydwaith dosbarthu Canolbarth Cymru. Ym mis Mawrth 2007 llofnodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Rhanbarthol Gorllewin Canolbarth Lloegr yn amlinellu eu hymrwymiad i hybu cydweithredu trawsffiniol cryfach a mwy effeithiol wrth ddatblygu polisïau ac wrth ddarparu gwasanaethau. Roedd hygyrchedd yn un o chwe thema y Memorandwm o Ddealltwriaeth.

2.4 Cymru’n Un: Cysylltu’r Genedl - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru

2.4.1 Cyhoeddwyd Cymru’n Un: Cysylltu’r Genedl - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ym mis Mai 2008. Mae’r ddogfen yn nodi sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cyflawni ei ddyletswydd trafnidiaeth.

2.4.2 Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn canolbwyntio ar swyddogaeth trafnidiaeth mewn cyflawni’r agenda polisi ehangach o integreiddio trafnidiaeth gyda chynllunio gofodol, datblygu economaidd, addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, yr amgylchedd a thwristiaeth, tra’n cyflawni’r agenda strategol ac yn gweithredu fframwaith Cynllun Gofodol Cymru. Gweledigaeth Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yw “hybu rhwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diogelu’r amgylchedd ac yn cryfhau bywyd economaidd a chymdeithasol ein gwlad’

Page 21: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 11

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2.4.3 Mae gan Strategaeth Drafnidiaeth Cymru bum blaenoriaeth, sy’n gosod cyfeiriad strategol ychwanegol i weithio tuag at ddeilliannau hirdymor, ac yn ymestyn y sgôp ar gyfer atebion lleol i heriau trafnidiaeth o fewn fframwaith cenedlaethol cyson. Y pum blaenoriaeth yw:

• Lleihau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr a ffactorau eraill sy’n effeithio ar yr amgylchedd.

• Gwella trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau gwell integreiddiad rhwng gwhanol ddulliau teithio.

• Gwella cysylltiadau a mynediad rhwng aneddiadau a safleoedd allweddol ym mhob rhan o Gymru a gwella cysylltiadau strategol Cymru gyfan.

• Gwella cysylltiadau rhyngwladol.

• Gwella diogelwch eiddo a diogelwch personol.

2.4.4 Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn cynnwys tair thema trafnidiaeth gynaliadwy allweddol a nifer o ddeilliannau dymunol sydd wrth wraidd y strategaeth. Y tair thema sydd wrth wraidd y strategaeth yw:

• Sicrhau system drafnidiaeth mwy effeithiol ac effeithlon.

• Gwneud mwy o ddefnydd o ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy ac iach.

• Lleihau’r galw ar y system drafnidiaeth

Sicrhau system drafnidiaeth mwy effeithiol ac effeithlon

2.4.5 Mae dulliau teithio presennol Cymru yn gosod y system drafnidiaeth dan bwysau mawr ac mewn rhai achosion mae’r galw yn uwch na chapasiti’r system. Bydd gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn creu system drafnidiaeth ddibynadwy – sy’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau, mynediad cydradd a gwerth gorau am arian i bobl a busnesau.

Gwneud mwy o ddefnydd o ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy ac iach 2.4.6 Ar hyn o bryd y prif ddull o deithio ym mhob rhan o Gymru yw’r car preifat. I

rai pobl, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, y car yw’r unig ddull realistig o deithio. Ond, bydd hybu dulliau teithio mwy cynaliadwy ac iach (cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus), a gwneud y dewisiadau hyn yn fwy atyniadol, yn helpu i leihau effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd, gwella iechyd a lles, a hybu cyfleoedd i bawb.

Lleihau’r galw ar y system drafnidiaeth

2.4.7 Er mwyn osgoi problemau mynediad yn y dyfodol, mae’n bwysig bod mynediad cynaliadwy yn cael ei ystyried yn gynnar yn y broses gynllunio. Lle bynnag y bo modd, dylai datblygiadau newydd gael eu lleoli mewn safleoedd lle mae cysylltiadau da yn bodoli eisoes ar gyfer cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, neu ardaloedd lle mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu fel rhan o’r datblygiad.

Page 22: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 12

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2.4.8 Mae’r galw presennol sydd ar y system drafnidiaeth yn adlewyrchu lleoliadau cartrefi, swyddi, siopau a chyfleusterau hamdden. Y nod yw lleihau’r gofynion hynny, er enghraifft trwy hrywyddo gweithio yn y cartref, oriau gwaith hyblyg a thelegynadleddau yn ogystal ag integreiddio dulliau cynaliadwy o deithio mewn datblygiadau.

2.4.9 Y deilliannau hyn sy’n sail i Strategaeth Drafndiaeth Cymru ac mae TraCC wedi eu defnyddio fel ffrâm a chanllaw i ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’r cynlluniau a’r ymyriadau sy’n rhan ohono.

Deilliannau Cymdeithasol

1 Gwella mynediad i ofal iechyd

2 Gwella mynediad i addysg, hyfforddiant a dysgu gydol oes

3 Gwella mynediad i siopau a chyfleusterau hamdden

4 Hybu ffyrdd iach o fyw

5 Gwneud teithio yn fwy diogel a gwella canfyddiad pobl o hynny

Deilliannau Economaidd

6 Gwella mynediad at gyfleoedd cyflogaeth

7 Gwella cysylltiadau o fewn Cymru a rhwng Cymru a’r byd

8 Gwella dulliau o symud pobl yn effeithlon, yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy

9 Cludo nwyddau mewn dulliau mwy effeithlon, dibynadwy a chynaliadwy

10 Gwella mynediad cynaliadwy i atyniadau ymwelwyr allweddol

Deilliannau Amgylcheddol

11 Cynyddu’r defnydd a wneir o ddeunyddiau cynaliadwy yn asedau a seilwaith trafnidiaeth y sir

12 Lleihau effaith trafnidiaeth ar ollyngiadau nwy tŷ gwydr

13 Addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd

14 Lleihau cyfraniad trafnidiaeth at lygru’r aer a gollyngiadau nwiediol eraill

15 Gwella effaith gadarnhaol trafnidiaeth ar yr amgylchedd lleol

16 Gwella effaith trafnidiaeth ar ein treftadaeth

17 Gwella effaith trafnidiaeth ar fioamrywiaeth

2.4.10 Yn y Rhagair ac yn y ddogfen ei hun, mae Strategaeth Drafnidaeth Cymru

yn pwysleisio’r angen i drafnidiaeth chwarae rhan mewn lleihau gollyngiadau CO2 a lleihau dibyniaeth ar geir. Gellir lleihau gollyngiadau trwy ddefnyddio technolegau sydd eisoes ar gael a thrwy gael unigolion i

Page 23: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 13

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

wneud dewisiadau doeth ynglŷn â sut, pryd a pham yr ydym yn teithio. Mae’r strategaeth yn nodi pedwar newidyn allweddol sy’n gallu dylanwadu ar lefelau CO2:

• Nifer a phellter y teithiau.

• Y dull o deithio a ddewisir.

• Faint o danwydd ffosil sydd yn y tanwydd a ddefnyddir.

• Effeithlonrwydd tanwydd y cerbydau.

2.4.11 Mae Pennod 4 o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn canolbwyntio ar gyfres

o flaenoriaethau strategol sy’n sail i gyflawni deilliannau pum mlynedd gyntaf y strategaeth 2008-2013. Mae’r blaenoriaethau hyn yn adlewyrchu polisïau Cymru’n Un a bydd yn sail gweithredu i Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i bartneriaid. Mae Atodiad A yn nodi nifer o Gamau Allweddol sydd wedi eu pennu.

2.5 Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru 2.5.1 Bydd Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru yn fecanwaith gweithredu ar

gyfer ymyriadau trafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad a amlinellir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd yn mynd allan i ymgynghoriad ddiwedd 2008, ac yn cael ei gyhoeddi’n derfynol yn 2009. Bydd pum pennod yng Nghynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru yn adlewyrchu pum blaenoriaeth strategol Strategaeth Drafnidiaeth Cymru:

• Lleihau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr a ffactorau eraill sy’n effeithio ar yr amgylchedd.

• Gwella trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau gwell integreiddiad rhwng gwhanol ddulliau teithio.

• Gwella cysylltiadau a mynediad rhwng aneddiadau a safleoedd allweddol ym mhob rhan o Gymru a gwella cysylltiadau strategol Cymru gyfan.

• Gwella cysylltiadau rhyngwladol.

• Gwella diogelwch eiddo a diogelwch personol.

2.6 Cymru’n Un: Cysylltu’r Genedl - Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru

2.6.1 Lansiwyd Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru ym mis Mai 2008 ac mae’n sefydlu amcanion a pholisïau lefel uchel ar gyfer cludo nwyddau. Y mae hefyd yn nodi cyfres o gamau a fydd yn arwain at eu cyflawni. Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn nodi’r deilliannau hirdymor ar gyfer trafnidiaeth Cymru ac mae Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru yn gosod yr

Page 24: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 14

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

amcanion a’r dewisiadau mewn perthynas â chludo nwyddau. Bydd amcanion Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru yn cael eu cyflawni trwy Lywodraeth y Cynulliad, y Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol, y diwydiant cludo nwyddau a chyrff eraill.

Mae Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru yn nodi tair prif egwyddor sef:

• Lleihau cymaint ag y gellir ar y defnydd o’r system drafnidiaeth

• Hybu dulliau teithio mwy cynaliadwy ac iach

• Gwneud y defnydd gorau posibl o’r seilwaith presennol

2.6.2 Y tair egwyddor hon yw sail y strategaeth ac maent yn adlewyrchu’r galw am gludo nwyddau, yn ogystal â swyddogaeth pob dull trafnidiaeth ac ymyriadau posibl. Mae synergedd agos rhwng egwyddorion Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae Ffigur 2.2 yn dangos hierarchaeth y tair egwyddor hon.

Ffigur 2.2: Hierarchaeth mewn Cludo Nwyddau (Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru)

Polisi Rhanbarthol

2.7 Strategaeth Drafnidiaeth Integredig Partneriaeth Canolbarth Cymru

2.7.1 Mae Partneriaeth Canolbarth Cymru yn cynnwys 17 o gyrff o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Yn 1999 cyhoeddoedd Strategaeth Drafnidiaeth Integredig i ddarparu gwybodaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unedol a Chynlluniau Trafnidiaeth Lleol yr ardal. Cafodd y strategaeth ei diweddaru yn 2003 i ddarparu gwybodaeth ar gyfer cynhyrchu Cynlluniau Datblygu Lleol a’r Cynllun Trafnidaeth Rhanbarthol.

Page 25: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 15

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2.7.2 Prif nodau strategaeth 2003 oedd:

• Cefnogi datblygu cynaliadwy trwy:

- sicrhau y darperir seilwaith trafnidiaeth i gefnogi dyfodol hirdymor economi a bywyd y cymunedau.

- sicrhau bod dyfodol cadarn i’r rhwydweithiau trafnidiaeth yn faterol ac yn gyllidol.

- ceisio lleihau effeithiau trafnidiaeth ar yr amgylchedd.

• Sicrhau dull teg a chynhwysol o ddarparu trafnidiaeth trwy:

- Roi blaenoriaeth gydradd i holl ddefnyddwyr y system drafnidiaeth o safbwynt rhannu adnoddau’r rhwydwaith trafnidiaeth.

- Cyfrannu at gymdeithas decach a mwy cynhwysol trwy sicrhau na chyfyngir yn ormodol ar symudedd pobl oherwydd lleoliad, oriau gweithredu gwasanaethau, oedran, salwch, anabledd na chost.

2.7.3 Roedd polisïau 2003 yn cynnwys tri math o fesur – polisïau cynhaliol; safonau ar gyfer rheoli a gweilla’r rhwydweithiau trafnidiaeth a chludiant; a blaenoriaethau buddsoddi. Mae Tabl 2.1 yn rhestru’r blaenoriaethau buddsoddi a nodwyd gan Bartneriaeth Canolbarth Cymru o dan dair prif thema sef Rheoli’r Rhwydwaith (MN), Dylanwadu ar y Galw (ID) ac Ehangu Dewis (WC).

Tabl 2.1: Partneriaeth Canolbarth Cymru – Blaenoriaethau Buddsoddi 2003

• Ceisio sicrhau bod yr Hierarchaeth Ranbarthol yn cael ei chydnabod mewn polisïau cenedlaethol ac ym mholisïau rhanbarthau cyfagos a bod pwysigrwydd llwybrau Craidd a Rhanbarthol yn cael sylw dyledus fel rhan o’r rhwydwaith cefnffyrdd (MN1)

• Ceisio sicrhau gwelliannau mewn gwybodaeth ynglŷn â theithio a rheoli llwybrau er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o’r llwybrau mwyaf priodol (MN2)

• Ceisio datblygu strategaeth wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o strategaeth drafnidiaeth gyhoeddus ranbarthol ehangach (WC10)

• Bod yn rhagweithiol wrth annog defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i leihau teithio a hybu cynlluniau arloesol sy’n defnyddio TGCh (ID4)

• Ceisio rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y coridorau rhanbarthol dynodedig, gan eu bod yn hanfodol i weithredu economaidd yn y rhanbarth (WC2)

• Gweithredu’r strategaethau ar gyfer Rheilffyrdd y Cambrian, Rheilffordd Calon Cymru a Rheilffordd Dyffryn Conwy (WC3)

• Gwneud archwiliad ac arolwg o gyfleusterau a hygyrchedd gorsafoedd rheilffordd (WC4)

• Ceisio datblygu Strategaeth Cludo Nwyddau gytbwys fydd yn hybu gwell cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd (WC5)

• Hybu Mentrau Bysiau o Ansawdd gyda’r nod o roi dewis hyfyw ac atyniadol i’r cyhoedd o safbwynt defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir

Page 26: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 16

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

preifat (WC7)

• Cadw a datblygu cwmpas ac amlder gwasanaethau bysiau teithio hirbell a chefnogi gwelliannau i seilwaith cludo teithwyr a hyrwyddo gwasanaethau (WC9)

• Ceisio datblygu cerdded a beicio fel dulliau teithio i’r gwaith, addysg a hamdden (WC 16 & 17).

2.7.4 Tra bod Partneriaeth Canolbarth Cymru wedi dod i ben ym mis Mawrth 2008, roedd corff newydd o’r enw Fforwm Economaidd Canolbarth Cymru yn cael ei sefydlu ac mae TraCC yn bwriadu parhau i sicrhau eu bod yn cydweithio’n agos gyda hwy. Mae TraCC hefyd yn ystyried y cyfle a’r manteision o sefydlu Fforwm Trafnidiaeth ar gyfer Canolbarth Cymru.

2.8 Strategaeth Drafnidiaeth Gyhoeddus Ranbarthol Canolbarth Cymru

2.8.1 Cyhoeddodd TraCC Strategaeth Drafnidiaeth Gyhoeddus Ranbarthol Canolbarth Cymru yn 2003. Roedd y Strategaeth yn darparu fframwaith strategol ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus y rhanbarth. Datblygwyd y Strategaeth Drafnidiaeth Gyhoeddus Ranbarthol o nifer o ffynonellau, sef Strategaeth Drafnidiaeth Integredig Canolbarth Cymru, strategaethau bysiau pob un o’r awdurdodau lleol, canllawiau polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru a gwybodaeth weithredol swyddogion y tri awdurdod lleol. Roedd y strategaeth yn cwmpasu bysiau, rheilffyrdd, trafnidiaeth gymunedol, tacsis, gwasanaethau awyr, integreiddiad a hysbysrwydd. Roedd prif elfennau’r strategaeth yn cynnwys:

• Darparu cysylltiadau bws rhwng aneddiadau allweddol y rhanbarth ac o ardaloedd gwledig oddi amgylch.

• Darparu rhwydwaith o wasanaethau lleol sy’n berthnasol i natur ddaearyddol a demograffig yr ardal ac sy’n cynnig cyfleoedd teithio priodol.

• Darparu fflyd o fysiau o ansawdd.

• Darparu gwasanaethau o ansawdd uchel gyda phwyslais cynyddol ar wasanaethau headway rheolaidd, cerbydau hygyrch i bawb a thrafnidiaeth yn y gymuned.

• Trwy ddosbarthu tocynnau a strategaeth hysbysrwydd amlhaen.

• Gwell diogelwch a chyfforddusrwydd trwy ddatblygu seilwaith o safleoedd cyfnewid ac arosfannau bysiau.

• Gwneud y defnydd gorau o’r rhwydwaith rheilffordd presennol.

• Cydgysylltu gyda darparwyr trafnidiaeth eraill a chydweithio gyda defnyddwyr trafnidiaeth (byrddau iechyd, cludiant ysgol, cwmnïau twristiaeth) a chwmnïau bysiau.

Page 27: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 17

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2.9 Polisi Trafnidiaeth Lleol 2.9.1 Cyhoeddodd y tair sir sy’n rhan o gonsortiwm TraCC, Ceredigion,

Gwynedd a Phowys, eu Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol ym mis Awst 2000. Roedd y Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol yn cwmpasu cyfnod o bum mlynedd ac yn nodi’r dulliau o sicrhau trafnidiaeth integredig yn lleol. Roedd y Canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 1999 yn diffinio’r ‘amcanion trosfwaol’ fel:

• Amddiffyn a gwella’r amgylchedd adeiledig a naturiol.

• Cyfrannu at economi effeithiol a chefnogi twf economaidd cynaliadwy mewn lleoliadau priodol.

• Gwella diogelwch i bob teithiwr.

• Hybu mynediad i gyfleusterau pob dydd i bawb, yn arbennig pobl heb geir.

• Hybu integreiddiad trafnidiaeth o fewn a rhwng pob dull o drafnidiaeth, ac o fewn cynllunio defnydd tir, er mwyn cefnogi dewis trafnidiaeth mwy cynaliadwy, gan arwain at system drafnidiaeth well a mwy effeithlon.

2.9.2 Roedd y tri Chynllun Trafnidiaeth Lleol yn dilyn trefn eithaf tebyg sef:

• Dadansoddi’r sefyllfa bresennol.

• Y problemau a’r cyfleoedd yn codi o hynny.

• Amcanion penodol yr awdurdod.

• Cynllun gweithredu i gyflawni’r amcanion hynny (gan gynnwys mentrau cydweithredol gydag awdurdodau eraill neu ddarparwyr cludiant cyhoeddus).

• Y ffynonellau cyllido y gellid eu defnyddio.

• Y targedau ar gyfer mesur cynnydd.

2.9.3 Ers cyflwyno’r Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol mae pob awdurdod wedi cynhyrchu Adroddiad Cynnydd Blynyddol ynglŷn â’u Cynllun Trafnidiaeth Lleol a’i gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru (hyd at 2005). Roedd y dogfennau’n amlinellu cyflawniadau allweddol, cynnydd a wnaethpwyd gyda chynlluniau eraill, diweddaru polisïau ac ystadegau trafnidiaeth a chludiant ac yn adolygu rhaglenni cyllido y dyfodol.

2.9.4 Mae gwaith a wnaethpwyd i baratoi, monitro ac adolygu’r Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol yn flynyddol wedi gosod sail gadarn ar gyfer datblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan y bu’r tri awdurdod sy’n perthyn i TraCC yn cydweithredu’n agos erioed. Mae nifer o bolisïau mudo cydgysylltiedig, gan fod cymaint o’r rhwydweithiau ffyrdd a chludiant cyhoeddus yn bwysig yn rhanbarthol yn hytrach nag yn lleol yn unig.

Page 28: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 18

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2.10 Llythyrau Penderfyniad y Grant Trafnidiaeth 2008/2009 2.10.1 Derbyniodd tri awdurdod lleol TraCC ychydig o dan £25 miliwn o Grant

Trafnidiaeth ar gyfer 2008/09 o dan Adran 87 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Serch hynny, mae’r £14.2 miliwn a ddyrannwyd i Wynedd ar gyfer yr A497, A499, Menter Agoriad Gwyrdd Eryri, Cyfnewidfa Gorsaf Drenau Bangor a’r pedair Llwybr Diogel i Gymunedau tu allan i ardal TraCC. Aflwyddiannus oedd y cais am gyllid ar gyfer Cynllun Pont Briwet Penrhyndeudraeth, sydd yn ardal TraCC. Roedd y Llythyr Penderfynu (12 Mawrth 2008) yn dweud y byddai’n rhaid rhoi blaenoriaeth i Gynllun Pont Briwet yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol y mae TraCC yn ei baratoi.

2.10.2 Mae Tabl 2.2 yn rhestru’r prosiectau yn ardal TraCC a gafodd gefnogaeth Grant Trafnidiaeth 2008/09.

Tabl 2.2: Grant Trafnidiaeth 2008/2009

Grant Trafnidiaeth

(miliwn)

Ffordd Gyswllt Ceredigion Cam 1 £ 10.0

Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

• Cefn Llan

• Craig yr Wylfa

• Llwybr Cymunedol Ffordun

• Ponrhydfendigaid (dim costau prynu tir)

• Rhiwgoch

• Teithio Tawe Uchaf (Cyfnod 1)

£ 0.736

Cyfanswm £ 10.736

2.11 Cynlluniau Datblygu Lleol 2.11.1 Yn ychwanegol at hyn mae polisïau mudo yn cael eu cynnwys yng

Nghynlluniau Datblygu Unedol y tri awdurdod a’r ddau Barc Cenedlaethol a byddant yn cael eu datblygu yn y Cynlluniau Datblygu Lleol sydd ar y gweill. Lluniwyd y polisïau sydd yn y Cynlluniau Datblygu Unedol er mwyn ategu prif nodau ac amcanion Polisïau Trafnidiaeth Lleol y Cyngor ac y mae ganddynt nifer o themâu tebyg. Mae Tabl 2.3 yn crynhoi prif bolisïau mudo Cynlluniau Datblygu Unedol y pum awdurdod. Er y gall y geiriad a’r cyfiawnhad newid ychydig, mae’r egwyddorion yn debyg.

Page 29: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 19

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Tabl 2.3 Crynodeb o Bolisïau Trafnidiaeth y Cynlluniau Datblygu Unedol

Polisi Powys Ceredigion Gwynedd Cynllun

Lleol Eryri

Cynllun Lleol Parc

Cenedlaethol Bannau

Brycheiniog

Datblygu Trafnidiaeth Integredig SP6 T1.1 - - R7

Datblygu Mynediad - T2.1 CH26 TR7 R5,R6

Cynlluniau Gwella Priffyrdd T1 T3.1 CH23, CH24 TR1 R2

Safonau Dylunio Priffyrdd a Mynediad

- T4.1 - TR2 R4

Rheoli Traffig T2 T4.2 CH31 TR3, TR4, TR5, TR6

R3,R8

Taliadau Gohiriedig Parcio - T4.3 - - -

Asesiadau Trafnidiaeth T3 T1.1 CH26 - -

Cynlluniau Teithio T3 T1.1, T2.1 CH26 - -

Hierarchaeth Defnyddwyr Trafnidiaeth

T4 - - - -

Darpariaeth Parcio T5 T2.2, T4.4 T4.5, T4.6

CH33, CH34 TR11,

TR12 R9, R10

Cerdded a Beicio T6 T2.4, T2.5, T2.6, T2.7,

T2.8

CH20,CH21,

CH27,CH29

TR9, TR15

R12

Mentrau Trafnidiaeth Gymunedol T7 - - - -

Darparu Bysiau T8 - CH30 - -

Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat T9 - - - -

Cyfleusterau Rheilffyrdd a’u Gweithredu

T10 T3.4 CH22 - -

Cyfnewidfeydd Rheilffordd a Rheilffordd Cludo Nwyddau NwyddauInterchanges

T11 - - TR13 -

Cyfnewidfeydd/ Cyfleusterau Trafnidiaeth Gyhoeddus

T12 T2.3 - - R11

Datblygu Gwasanethau Awyr T13 T3.6 CH25 - -

Mynediad i Bawb - - CH28 - -

Llwybrau Gwledig - - CH32 - -

Page 30: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 20

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2.12 Strategaethau Cymunedol 2.12.1 Roedd Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau

lleol yng Nghymru a Lloegr i hybu lles economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol eu cymunedau. Un o ofynion y ddeddf oedd paratoi cynllun hirdymor a elwid yn Strategaeth Gymunedol. Cyhoeddodd y tri awdurdod lleol sy’n rhan o gonsortiwm TraCC, sef Ceredigion, Gwynedd a Phowys, eu Strategaethau Cymunedol cyntaf yn 2004.

2.12.2 Er bod yr awdurdodau lleol wedi achub y blaen i baratoi a gweithredu’r strategaethau, mae’r strategaethau wedi cael eu cynhyrchu mewn partneriaeth agos gyda nifer o gyrff o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, cymunedol, gwirfoddol a phreifat. Mae pob Strategaeth Gymunedol yn dilyn yr un patrwm gan ddiffinio nifer o themâu a gweithredoedd allweddol, er mwyn cyflawni gweledigaeth y strategaeth. Dangosir hynny yn Nhabl 2.4.

Tabl 2.4: Crynodeb o Weledigaeth a Themâu’r Strategaeth Gymunedol

Gweledigaeth Themâu

Cyngor Sir Ceredigion

“Yn 2020 bydd Ceredigion yn gymuned hyderus, iach, gofalgar, dwyieithog sy’n cael ei chefnogi gan economi leol gadarn gan ddefnyddio sgiliau ei phobl, gwneud defnydd doeth o adnoddau ei hamgylchedd rhagorol a darparu cyfleoedd i bawb gyflawni eu llawn botensial”

• Iechyd, gofal cymdeithasol a lles

• Llwyddiant economaidd

• Amgylchedd o Ansawdd Uchel

• Dysgu i Fyw

• Cymunedau cryfach

Cyngor Gwynedd

“Gweithio gyda’n gilydd i wella ansawdd bywyd i bawb yng Ngwynedd - cynnal a chefnogi cymunedau cynaliadwy, llewyrchus a bywiog”

• Hybu dysgu gydol oes

• Gwella iechyd, lles a gofal

• Hybu economi lewyrchus

• Gwella ac amddiffyn yr amgylchedd

• Hyrwyddo cymunedau diogel a bywiog

• Cynnal cymunedau cynhwysol, dwyieithog a deinamig

Cyngor Sir Powys

“Mae Powys yn lle yr ydym yn falch ohono. Er mwyn sicrhau ei fod yn aros felly mae’n rhaid i bob un ohonom ymdrechu i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd, a gofalu ein bod yn gallu cadw’n ddiogel ac iach. Rhaid i ni sicrhau bod pobl Powys yn cael y cyfleoedd y maent eu hangen i fyw eu bywydau’n llawn ac i wneud y gorau o’u potensial. Dylai pawb sy’n byw ym Mhowys deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bob un ohonom, yn awr ac am genedlaethau i ddod”

• Iechyd, gofal cymdeithasol a lles

• Dysgu gydol oes

• Datblygu economaidd

• Amgylchedd

• Diogelwch cymunedol

Page 31: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 21

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

2.13 Fframwaith y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol 2.13.1 Mae’r dogfennau polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol uchod ynghyd â’r

Canllawiau ar Gynlluniau Trafniaeth Rhanbarthol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (Fersiwn 3, Mawrth 2007) wedi darparu’r fframwaith ar gyfer paratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i Astudiaeth Trafnidiaeth Eddington (gan sylweddoli nad yw’n cynnwys ardaloedd gweinyddiaeth ddatganoledig, megis Cymru), Adolygiad Stern ar Newid yn yr Hinsawdd, Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru, Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol y tri chonsortiwm arall sy’n cael eu datblygu a Strategaeth Gofodol Rhanbarthol a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gorllewin Canolbarth Lloegr.

2.13.2 Gan hynny, mae yna fframwaith polisi pwysig a arweiniodd at ddatblygiad Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC, er bod rhaid ystyried materion rhanbarthol, lleol a thrawsffiniol hefyd wrth gwrs.

Page 32: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 22

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

3 Dadansoddiad o Broblemau a Chyfleoedd

3.1 Cyflwyniad 3.1.1 Mae’r adran hon yn crynhoi’r problemau a’r cyfleoedd a wynebir gan

ranbarth TraCC ac a fydd angen sylw yn strategaethau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Dadansoddwyd y dystiolaeth o safbwynt:

• Problemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol rhanbarth TraCC.

• Materion mudo o fewn rhanbarth TraCC.

• Materion gweithredu a chyllido.

Ceir crynodeb o’r problemau a’r cyfleoedd yn y prif adroddiad, ond mae’r dystiolaeth lawn am broblemau a chyfleoedd yn cael eu cyflwyno yn Atodiad B. Mae’r crynodeb o broblemau a chyfleoedd a roddir yn yr adran hon yn croesgyfeirio at rif y paragraff perthnasol yn Atodiad B.

3.1.2 At ddibenion casglu a dadansoddi data ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, mae isardaloedd y rhanbarth wedi cael eu diffinio trwy ddefnyddio ffiniau wardiau’r rhanbarth. Yn fras, mae’r rhain yn adlewyrchu clystyrau yn Astudiaeth Aneddiadau Canolbarth Cymru. Diben yr isardaloedd yw creu uned i ddadansoddi data ar gyfer y modelu Accession, adnabod ardaloedd o hygyrchedd gwael a helpu i ddatblygu’r ymyriadau ac i gynhyrchu opsiynau. Gwelir yr unarddeg isardal yn Ffigur 3.1.

Page 33: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 23

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Ffigur 3.1: Isardaloedd Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC

3.2 Crynodeb o Broblemau 3.2.1 Bydd y problemau a amlygir gan y dadansoddiad yn helpu i ddatblygu’r

blaenoriaethau, amcanion ac ymyriadau, ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ac yn cynhyrchu’r opsiynau bydd ynddo. Mae crynodeb ohonynt yn ymddangos isod a cheir dadansoddiad manwl o’r problemau yn Atodiad B.

Cymdeithasol

• Mae’r patrwm o aneddiadau gwasgaredig sy’n nodweddiadol o ranbarth TraCC yn effeithio ar hygyrchedd a mynediad i wasanaethau allweddol.

Page 34: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 24

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Gan hynny mae mwy o ddibyniaeth ar geir preifat yn yr ardaloedd hynny (Atodiad B- B1-3).

• Mae poblogaeth sy’n heneiddio, ynghyd ag allfudiad pobl ifanc allan o ranbarth Canolbarth Cymru a mewnfudiad oedolion oed gwaith yn creu problemau economaidd gymdeithasol a gall effeithio ar lefelau traffig yn y rhanbarth. Byddai hyn oherwydd bod cyfran uwch o’r boblogaeth yn teithio ymhellach i weithio ac i weld ffrindiau a theuluoedd ac er mwyn defnyddio gwasanaethau (Atodiad B- B4).

• Yn gyffredinol, mae lefel uchel o berchenogaeth ceir yn rhanbarth TraCC, ond mewn rhai ardaloedd mae lefelau isel o berchenogaeth ceir, yn arbennig yn aneddiadau mawr Y Trallwng ac Aberystwyth (Atodiad B- B8-10).

• Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Modelu Accession y rhanbarth, a’r Asesiad o Anghenion a gyhoeddwyd gan Bartneriaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yr awdurdodau sy’n perthyn i TraCC yn dangos bod lefelau mynediad i swyddi a gwasanaethau yn wael iawn (Atodiad B- B12-16).

• Mae cyfraddau y nifer a gafodd eu hanafu a’u lladd ar y rhwydwaith ffyrdd yn uwch nag ydynt ar gyfer Cymru gyfan. Un broblem fawr yw nifer uchel y damweiniau beic modur difrifol a marwol ym Mhowys. Mae cyfradddau y nifer a gafodd eu hanafu a’u lladd ar y ffyrdd wedi parhau i godi ym Mhowys a Cheredigion yn groes i’r tueddiad cenedlaethol o ostyngiad yng nghyfradd damweiniau (Atodiad B- 31-32).

Economaidd

• Mae cyflogaeth yn bennaf mewn busnesau bach gyda niferoedd sylweddol yn y diwydiannau amaethyddol, coedwigaeth a thwristiaeth. Mae’r math yma o fusnesau yn tueddu i fod ar wasgar ac yn anodd eu cyrraedd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. O ganlyniad mae cyfran uwch o deithiau i’r gwaith yn cael eu gwneud mewn car ac mae pellter teithio i’r gwaith yn fwy ar gyfartaledd nac mewn rhannau eraill o Gymru (Atodiad B- B24).

• Mae cyfartaledd incwm trigolion rhanbarth TraCC yn isel. Mae hyn yn golygu bod y trigolion, oherwydd bod rhaid cael car ac oherwydd pellter teithio uwch, yn gorfod gwario cyfran uwch o’u hincwm ar berchenogaeth car a thrafnidiaeth (Atodiad B- B24-28).

• Mae yna ardaloedd lle mae cyfyngiad ar fynediad sylfaenol i’r Band Eang a darpariaeth TGCh arall, a bydd y galw am led band uwch yn codi gan effeithio ar leoliad busnesau a gallu pobl i weithio yn eu cartrefi (Atodiad B- B32-35).

• Mae cyfran uchel o deithiau twristiaeth yn cael eu gwneud mewn ceir preifat (Atodiad B- B 36-37).

• Mae diffyg integreiddio rhwng gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ag anghenion twristiaid, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn gwasanaethu anghenion lleol i raddau helaeth (Atodiad B- B 36-37).

Page 35: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 25

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Mae bron y cyfan o nwyddau sy’n cael eu cludo yn ôl ac ymlaen drwy Ganolbarth Cymru yn mynd ar hyd y ffyrdd, ac mae’r llwybrau o’r dwyrain i’r gorllewin o bwys strategol mawr (Atodiad B- B41-43).

• Mae cludo nwyddau ar y ffyrdd yn cael mwy o effaith ar y rhwydwaith ffyrdd ac ar y cymunedau y mae’r lorïau yn teithio drwyddynt, gan fod llawer o’r rhwydwaith yn is-safonol, gyda chyfleoedd cyfyngedig i oddiweddyd ac osgoi llawer o ganol trefi a phentrefi (Atodiad B- B51-43).

• Mae prinder adnoddau ar gyfer cynnal a gwella ffyrdd yn y gorffennol yn golygu bod yn rhaid gosod y prif ffyrdd mewn trefn flaenoriaeth. Mae’r diwydiannau amaethyddol a choedwigaeth yn benodol, yn ddibynnol iawn ar y rhwydwaith ffyrdd bach, fel y mae trigolion lleol (Atodiad B- B40-43).

Amgylcheddol

• Mae gollyngiadau carbon yn isel yn gyffredinol, ond yn gymharol uchel o ran maint y boblogaeth oherwydd dibyniaeth drom ar geir a maint hirach y siwrneiau (Atodiad B- 48).

• Yn rhanbarth TraCC, mae cyfartaledd oedran ceir yn uchel a maint eu hinjan yn tueddu i fod yn fwy, felly mae gollyngiadau yn debygol o fod cymaint â hynny’n uwch (Atodiad B- B11).

• Mae cyfran fawr o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a chynefinoedd eraill mewn cyflwr anffafriol. Mae nifer o gynefinoedd yn cael eu darnio oherwydd datblygu seilwaith, gan gynnwys ffyrdd. Mae dŵr sy’n rhedeg oddi ar y ffyrdd hefyd yn llygru cynefinoedd. Mae cyflwr gwael cynefinoedd yn effeithio ar nifer o rywogaethau (Atodiad B- B54).

• Mae asideiddio priddoedd a chyrff dŵr yn bryder parhaus. Mae’r broblem yn deillio’n rhannol o ollwng llygryddion sy’n cynnwys nitrogen ac/neu swlffwr i’r aer ac mae hyn yn gyffredin yn yr uwchdiroedd (Atodiad B- B54).

• Mae perygl gwirioneddol o lifogydd ar hyd rhannau o arfordir Canolbarth Cymru, yn ogystal ag ar hyd aberoedd a gorlifdiroedd afonydd, yn bennaf oherwydd newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn yn effeithio ar y seilwaith trafnidiaeth presennol a’r seilwaith at y dyfodol (Atodiad B- B54).

• Mae sŵn yn amharu ar rai ardaloedd cyfyngedig ar hyd rhai ffyrdd, ac mae hyn yn effeithio ar y cymunedau sy’n byw gerllaw’r ffyrdd hynny (Atodiad B- B54).

• Mae datblygu’r seilwaith trafnidiaeth yn effeithio’n sylweddol ar y dirwedd, ac mae cefn gwlad yn parhau i fod dan fygythiad oherwydd datblygiadau o’r fath (Atodiad B- B54).

• Mae asedau treftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan drafnidiaeth a gan ddatblygu’r seilwaith trafnidiaeth (Atodiad B- B54).

Page 36: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 26

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Mudo

• Nid yw buddsoddiad diweddar yn y rhwydwaith cefnffyrdd wedi darparu’r hyn y byddai’r rhanbarth yn ei ystyried yn safon ddigonol i wella dibynadwyedd, effeithlonrwydd a diogelwch ar gyfer y math o drafnidiaeth sy’n ei ddefnyddio (Atodiad B- B55-56).

• Er bod maint y traffig yn isel o gymharu ag ardaloedd eraill mwy trefol yng Nghymru, mae aliniad a lled y ffyrdd yn cyfyngu ar gapasiti y rhwydwaith ffyrdd. Rhwng hynny a phrinder cyfleoedd i oddiweddyd, mae’r amser a gymer i deithio yn hir ac yn annibynadwy (Atodiad B- B55-56).

• Perfformiad gwael y rhwydwaith rheilffyrdd o safbwynt canran y trenau sy’n cyrraedd ar amser ar Reilffordd y Cambrian (Atodiad B- B69).

• Mae croesfannau heb eu goruchwylio ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn creu pryder o ran diogelwch ac yn effeithio ar ddibynadwyedd siwrneiau rheilffordd (Atodiad B- B70).

• Mae diffyg cyfleusterau mewn gorsafoedd trenau gan gynnwys parcio, mynediad i’r anabl a chyfnewidfeydd gyda gwasanaethau bysiau, a llwybrau cerdded a beicio (Atodiad B- B70).

• Mae’n anodd cydgysylltu nifer fawr o gwmnïau bysiau annibynnol bychan a chwmnïau cenedlaethol eraill sydd heb ganolfan yn y rhanbarth (Atodiad B- B76-79).

• Mae aliniad gwael y priffyrdd yn golygu ansawdd isel i’r daith ar fysiau olwynion, hir (Atodiad B- B76-79).

• Mae trafnidiaeth gymunedol, sy’n rhan bwysig o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn dibynnu ar gynhaliaeth refeniw er mwyn cynnal hyd yn oed lefel sylfaenol o wasanaeth (Atodiad B- B76-79).

• Canfyddiad gwael sydd gan y cyhoedd o drafnidiaeth gyhoeddus (Atodiad B- B76-79).

• Mae diffyg cyfleusterau neilltuol ar gyfer beicwyr gan gynnwys darpariaeth sylfaenol o raciau beic, loceri a chawodydd yn annog pobl yn erbyn beicio i’r gwaith ac at ddibenion hamdden a chymdethasol (Atodiad B- B89-90).

• Mae trigolion a busnesau ardal TraCC yn gorfod dibynnu ar gyfleusterau tu allan i’r ardal os ydynt am ddefnyddio porthladdoedd a meysydd awyr. (Atodiad B- B89-90).

Cyllid a Gweithredu

• Mae natur wledig a thrwch y boblogaeth isel rhanbarth TraCC yn golygu bod y buddsoddiad blaenorol ar drafnidiaeth yn y rhanbarth wedi bod yn isel yn y gorffennol. Mae angen cydnabod difrifoldeb y problemau sy’n wynebu’r rhanbarth TraCC – yn arbennig anghygyrchedd ac absenoldeb rhwydwaith trafnidiaeth sy’n darparu lefel sylfaenol o wasanaeth hyd yn oed.

Page 37: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 27

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Nid oes gan awdurdodau TraCC adnoddau digonol i ddatblygu mentrau teithio cynaliadwy.

• Mae problemau mewn cynnal gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol o safbwynt sicrhau cyllid i’w cynnal a’u datblygu.

• Mae’r rhwydwaith ffyrdd helaeth o dros 11,000 km yn golygu bod cynnal a chadw a chynnal y ffyrdd yn y gaeaf yn gosod straen sylweddol ar adnoddau’r awdurdod priffyrdd.

• Systemau cyfredol Llywodraeth Cynulliad Cymru o ddyfarnu grantiau cyfalaf a dyfarnu arian heb ei neilltuo i awdurdodau lleol wedi cyfyngu ar y lefelau cyllid sydd ar gael ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth.

• Mae disgwyliadau cynyddol y bydd Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC yn gweithredu nifer o atebion i broblemau trafnidiaeth a hygyrchedd yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r disgwyliadau hynny wedi codi o Gynllun Gofodol Cymru yn bennaf ac o waith cysylltiedig ag adfywio economaidd. Mae pryderon yn TraCC ynglŷn â lefelau’r cyllid fydd ar gael (o wahanol ffynonellau cyhoeddus a phreifat) ar gyfer gweithredu prosiectau trafnidiaeth integredig trwy’r broses Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae pryder hefyd ynglŷn ag adnoddau a gallu’r Consortiwm yn ei rôl helaethach o gynllunio a darparu trafnidiaeth ranbarthol.

• Yn aml nid yw blaenoriaethau Canolbarth Cymru mewn perthynas â gwelliannau i’r seilwaith trawsffiniol yn cyfateb i flaenoriaethau rhanbarthau mwy poblog cyfagos.

• Yn y gorffennol prin y bu lefel cyfraniadau datblygwyr tuag at ddarparu seilwaith trafnidiaeth ar draws y rhanbarth.

• Mae diffyg eglurder yn parhau o safbwynt mecanweithiau cyllido’r dyfodol (cyfalaf a refeniw) i gyllido’r Rhaglen Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ymddangos mai prin yw’r cyfleoedd i sicrhau arian mawr o Ewrop ac nid yw’r Arolwg Cyllidol sydd dan arweiniad Llywodraeth y Cynulliad Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru CLlLC) wedi dod i unrhyw gasgliadau cyn y bydd Rhaglen Pum Mlynedd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn dechrau yn 2010/2011. Yn y pen draw mae’r ansicrwydd hwn yn fygythiad i weithredu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC yn effeithiol.

3.2.2 Crynodeb o Gyfleoedd

• Mae data’r cyfrifiad yn dangos bod nifer o bobl yng Nghanolbarth Cymru yn gweithio yn y cartref, ac mae hynny’n ffordd o fyw y dylid ei hannog er mwyn lleihau teithio.

• Mae darparu band eang er mwyn hwyluso gweithio yn y cartref ac er mwyn datblygu busnesau bychan yn bwysig yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n rhaid i’r ardal gadw i fyny gyda’r datblygiadau band eang mewn rhannau eraill er mwyn sicrhau nad yw’r rhanbarth dan unrhyw anfantais.

Page 38: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 28

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Mae llawer o enghreifftiau o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus a theithio cynaliadwy i dwristiaid y gellid hefyd eu datblygu ymhellach.

• Mae datblygu astudiaeth o aneddiadau yn y rhanbarth wedi arwain at ddiffinio ac egluro swyddogaethau nifer o aneddiadau ac wedi helpu i ddatblygu blaenoriaethau trafnidiaeth, seilwaith a gwasanaethau.

• Mae potensial i ddatblygu swyddogaeth y rheilffyrdd o ran cludo nwyddau gan felly lleihau pwysau symud nwyddau trwm ar y rhwydwaith ffyrdd yn arbennig o safbwynt cludo coed a llechi.

• Yn gyffredinol nid yw’r rhanbarth yn wynebu problemau ansawdd aer sydd angen sylw, ac eithrio osôn, nad yw’n cael ei achosi’n lleol.

• Gellid gostwng gollyngiadau carbon trwy leihau’r angen i deithio, a chynyddu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, gwella effeithlonrwydd tanwydd cerbydau a dod o hyd i danwydd amgen.

• Mae poblogaeth y rhanbarth yn gymharol iach a ffit o gymharu â gweddill Cymru – mae cymeriad y dirwedd a mynediad i gefn gwlad yn cynnig cyfleoedd i gyrraedd lefelau da o iechyd a ffitrwydd.

• Mae cyfle i uwchraddio’r rhwydwaith ffyrdd, gan gynnwys cefnffyrdd, i safon sylfaenol, gan wella dibynadwyedd, effeithlonrwydd a diogelwch ffyrdd yng Nghanolbarth Cymru.

• Mae cyfleoedd i ddatblygu ffyrdd lliniaru/ffyrdd osgoi lleol fel bod canol trefi yn cael budd cyffredinol ym meysydd mudo a’r amgylchedd.

• Gallai cynnydd sylweddol mewn cyllid ar gyfer cynnal y rhwydwaith ffyrdd ofalu bod yr adnodd pwysig hwn ar gael i’r dyfodol. Heb hynny, mae perygl y bydd yn dirwyio’n ddifrifol.

• Mae’r buddsoddi cyfredol yn seilwaith Prif Reilffordd y Cambrian yn creu cyfle i gefnogi gwasanaeth bob awr ac o bosibl i agor neu ailagor gorsafoedd er mwyn gwella posibiliau’r rheilffordd. Felly mae’n bwysig sicrhau y cymerir mantais ar y gwelliannau i’r seilwaith, er mwyn sicrhau gwasanaeth amlach a chyfleoedd i gludo nwyddau o’r ffyrdd i’r rheilffordd er mwyn cefnogi dosbarthu cynaliadwy fel dull o ddelio â newid yn yr hinsawdd.

• Mae cyfle i gynnal gwasanaethau amlach ar hyd Rheilffordd Calon Cymru gan ddenu mwy o gwsmeriaid.

• Mae potensial i greu rheilffordd newydd yn rhedeg o’r De i’r Gogledd o fewn Cymru yn unig. Byddai hynny’n gwella hygyrchedd o fewn Cymru ac yn lleihau’r effaith y mae teithio yn ei gael ar yr amgylchedd. Byddai angen astudiaeth lawn i ymchwilio i lwybrau posibl ac i weld pa mor hyfyw fyddai gwasanaeth o’r fath yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol Cymru, trwy wella’r rheilffyrdd presennol (megis Rheilffordd y Cambrian a Rheilffordd Calon Cymru) ac agor rhannau newydd lle bo angen. Er mai dyhead hirdymor yw hyn, mae angen cynllunio ar unwaith.

• Mae cyfle i adeiladu ar lwyddiant rhwydwaith bws rhanbarthol TrawsCambria, gan gynnwys datblygu gwasanaethau cyswllt.

Page 39: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 29

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Byddai datblygu’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ymhellach yn creu cyfle i hybu mwy o feicio fel gweithgaredd hamdden yn y rhanbarth.

• Byddai cwblhau llwybr arfordirol gyda dolennau mynediad a chysylltiadau gydag arfordir rhanbarth TraCC yn gam pwysig ymlaen i dwristiaeth a hamdden.

• Mae nifer o feysydd awyr bach yng Nghanolbarth Cymru sydd â’r potensial i ddatblygu ystod o wasanaethau gwahanol.

3.3 Modelu Accession 3.3.1 Mae ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl y bydd y Consortiwm yn

ymgymryd â gwaith cynllunio hygyrchedd’. Mae TraCC wedi cynnal asesiad

hygyrchedd strategol o’r rhanbarth cyfan gan ddefnyddio’r meddalwedd modelu, AccessionTM. Diben modelu Accession yw casglu data er mwyn datblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, a fydd yn ‘hwyluso’r broses o wneud gwell penderfyniadau mewn perthynas â thrafnidiaeth a darparu gwasanaethau, er mwyn diwallu anghenion cymunedau sydd wedi eu hallgau’n gymdeithasol yn well.’

Methodoleg

3.3.2 Mae Accession yn mesur hygyrchedd rhwng tarddleoedd lle mae pobl yn byw a chyrchfannau y mae pobl eisiau teithio iddynt. Mae’r gwaith hygyrchedd yn rhoi ciplun o hygyrchedd cyrchfannau diffinedig mewn car ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gall y rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn Accession gynnwys gwasanaethau bws a rheilffyrdd ond nid yw’n cynnwys trafnidiaeth gymunedol. Mae trafnidiaeth gymunedol wedi cael ei gadael allan gan y byddai’n rhaid rhoi pob gwasanaeth i mewn yn unigol, a byddai hynny’n dasg enfawr.

3.3.3 Er mwyn gweithredu yn yr un ffordd drwy Gymru gyfan mae Llywodraeth y Cynulliad wedi darparu un set gyffredin o ddata mewnbwn, gweithdrefnau a deilliannau dymunol i’r pedwar consortiwm. Mae Tabl 3.1 yn dangos pa wasanaethau cyhoeddus y mae Llywodraeth y Cynulliad yn awgrymu y dylai’r consortiwm eu dadansoddi.

Page 40: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 30

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Tabl 3.1: Cyrchfannau- Gwasanaethau Cyhoeddus Hanfodol

Cyrchfan Is feini prawf

Addysg Addysg bellach

Canolfannau pwysig Cyflogaeth

Lleoliadau cynrychioladol

Dim ond ysbytai ag unedau

Damwain/Argyfwng Pob ysbyty Iechyd

Meddygfeydd teulu

Canolfannau lleol (swyddfeydd post)

Archfarchnadoedd (Arwynebedd manwerthu >

280 sq. m) Manwerthu bwyd

Canolfannau pwysig

Atyniadau allweddol i ymwelwyr Twristiaeth a Hamdden

Canolfannau pwysig

3.3.4 Mae Accession yn cyfrifo amseroedd siwrneiau rhwng tarddleoedd a chyrchfannau diffinedig. Mae’r canlyniadau’n cael eu cyflwyno fel mapiau cyfuchlinol neu gyfrifiadau hygyrchedd rhwydwaith. Mae’r cyfrifiadau hygyrchedd rhwydwaith yn defnyddio data’r cyfrifiad, sy’n dangos lle mae pobl yn byw ac yn cyfrifo faint o amser y mae’n ei gymryd i wahanol grwpiau o’r boblogaeth a gwahanol grwpiau economaidd gymdeithasol deithio. Mae’r cyfrifiadau hygyrchedd rhwydwaith yn cyfrifo pa ganran o’r boblogaeth o bob grŵp economaidd gymdeithasol sydd o fewn trothwy penodol o amser teithio, er enghraifft 30 munud o’r tarddle i’r gyrchfan. Awgrymodd Llywodraeth y Cynulliad y dylid dadansoddi gwahanol gyfuniadau o grwpiau economaidd gymdeithasol ar gyfer gwahanol gyrchfannau. Y data economaidd gymdeithasol y mae Llywodraeth y Cynulliad yn awgrymu y dylai’r Consortiwm ei ddefnyddio yw:

• Gwahanol ystod oedran

• Pobl sy’n hawlio lwfans ceisio am waith a chymhorthdal incwm

• Pobl sydd â salwch cyfyngus hirdymor

• Pob teulu

• Teuluoedd heb gar

3.3.5 Yr unig beth y mae Accession yn ei gynnig yw ciplun o hygyrchedd ar gyfer siwrneiau a wneir gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Awgrymodd Llywodraeth y Cynulliad ystod o gyfnodau amser y dylid eu defnyddio i fodelu amseroedd siwrneiau i bob cyrchfan. Dangosir yr amseroedd hynny yn Nhabl 3.2.

Page 41: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 31

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Cymerwyd bod dydd Mawrth yn ddiwrnod ‘niwtral’ ac awgrymwyd y diwrnod hwnnw fel yr amser priodol i gyfrifo’r rhan fwyaf o’r cyrchfannau.

Tabl 3.2- Fframiau Amser Modelu Trafnidiaeth Gyhoeddus

Cyfnod Amser Cyrchfan

I Gyrchfannau O Gyrchfannau

Addysg Bellach ac Uwch Dydd Mawrth 07:00-09:00 -

Safleoedd Cyflogaeth Dydd Mawrth 07:00-09:00 Dydd Mawrth 16:00-18:00

Pob Ysbyty Dydd Mawrth 10:00-12:00 -

Ysbytai gydag Uned

Damweiniau ac achosion brys

Dydd Mawrth 10:00-12:00 -

Meddygfeydd Teulu Dydd Mawrth 10:00-12:00 -

Swyddfeydd Post Dydd Mawrth 10:00-12:00 -

Archfarchnadoedd Dydd Mawrth 10:00-12:00 -

Atyniadau Allweddol i

Ymwelwyr

Dydd Mawrth 07:00-09:00 -

Lleoliadau Hamdden

Allweddol

Dydd Sadwrn 20:00-22:00 -

3.3.6 Defnyddiwyd y model Accession i gyfrifo amser siwrneiau ar gyfer y cyfan o ranbarth TraCC. Ond oherwydd yr anawsterau o fodelu ardal ddaearyddol mor fawr a phwysigrwydd sicrhau canlyniadau ystyrlon, holltwyd rhanbarth TraCC yn unarddeg isadran. Diffiniwyd yr isadrannau trwy ddiffinio wardiau’r rhanbarth ac mae’r rhain yn adlewyrchu’n fras y clystyrau sydd yn Astudiaeth Aneddiadau Canolbarth Cymru. Diben yr isadrannau yw adnabod ardaloedd o hygyrchedd gwael a helpu i ddatblygu ymyriadau ac opsiynau. Gwelir yr unarddeg isadran yn Ffigur 3.1. Ceir disgrifiad llawn o Fodelu Accession yn Atodiad B, ac mae deilliannau’r modelu ar gael yn Atodiad C.

3.3.7 Mae TraCC yn ymwybodol bod cyfran sylweddol o’r boblogaeth yn defnyddio gwasanaethau, megis ysbytai yn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos yn Lloegr a phenderfynwyd cynnwys gwasanaethau a rhwydweithiau trafnidiaeth trawsffiniol yn y model Accession.

3.3.8 Mae Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i’r consortiwm fynd ymhellach na’r canllwiau cychwynnol gan wneud gwaith ychwanegol sydd o ‘bwys arbennig i’w rhanbarth’. Yn ychwanegol at ddefnyddio’r model Accession

ar gyfer yr isardaloedd a chynnwys y data ar gyfer awdurdodau lleol cyfagos yn Lloegr, mae TraCC wedi defnyddio Accession i ymchwilio i hygyrchedd gwasanaethau llyfrgell, llyfrgelloedd sefydlog a symudol, drwy’r rhanbarth. Y mae hefyd yn bwriadu ymchwilio i’r effaith y bydd cau’r swyddfeydd post yn ei gael ar hygyrchedd gwasanaethau swyddfa post.

Page 42: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 32

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

3.4 Ystyriaethau Cyllido a Gweithredu

Natur Wledig

3.4.1 Mae natur wledig rhanbarth TraCC, ac yn arbennig natur wasgaredig a nifer isel y boblogaeth o gymharu â rhanbarthau eraill yng Nghymru, yn golygu na fu’r un buddsoddiad mewn trafnidiaeth yn y gorffennol. Er mwyn i gynlluniau trafnidiaeth gael sgôr uchel yn nhermau cost budd, mae’n rhaid iddynt fod o fudd i nifer fawr o bobl. Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ceisio sicrhau gwell dealltwriaeth o broblemau ac anghenion trafnidiaeth yn rhanbarth TraCC, yng nhyd-destun trafnidiaeth. Yn arbennig y mae’n ceisio cydnabod difrifoldeb problemau hygyrchedd i drigolion y rhanbarth a’r angen am rwydwaith trafnidiaeth sy’n darparu lefel ddigonol o wasanaeth i gynnal yr economi a’r gymdeithas. Heb gael y gydnabyddiaeth honno, ni all Canolbarth Cymru wneud ei gyfraniad llawn at “droi Cymru’n genedl a chymdeithas hyderus, llewyrchus ac iach, sy’n deg i bawb”4.

Cysylltiadau Trawsffiniol

3.4.2 Mae rhanbarth TraCC yn unigryw yn y ffaith ei fod yn ffinio ag ardaloedd tri chonsortiwm arall Cymru a’i fod yn rhannu’r ffin hiraf gyda Lleogr. Y mae hefyd yn cynnwys rhannau o ddau Barc Cenedlaethol (Eryri a Bannau Brycheiniog). Mae llawer o boblogaeth y rhanbarth yn cysylltu gyda chanolfannau tu allan i’r rhanbarth ei hun i gael ystod eang o wasanaethau (iechyd, addysg, manwerthu, cyflogaeth). Mae’r canolfannau hynny’n cynnwys Bangor, Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin, Llandudno, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam yng Nghymru a Chaer, Henffordd a’r Amwythig yn Lloegr; ac mae Birmingham a Manceinion sydd ymhellach i ffwrdd hefyd yn bwysig. Mae hyn yn codi cwestiynau o gydgysylltu trafnidiaeth, darparu gwasanethau’n effeithiol a chysylltiadau strategol.

3.4.3 Ar ben hynny, er y gall TraCC hybu pwysigrwydd llwybrau o Ganolbarth Cymru i’w ffiniau, yn aml iawn nid yw datlbygu’r llwybr yn flaenoriaeth uchel i’r rhanbarth cyfagos. Er enghraifft nid yw Gorllewin Canolbarth Lloegr yn rhoi’r un flaenoriaeth â TraCC i’r llwybr o Henffordd i Ffin Cymru. Yn yr un modd, nid yw cysylltu de Ceredigion gyda’r A40 a choridor yr M4 mor bwysig i SWWITCH ag ydyw i TraCC. Yn amlwg mae rôl bwysig i Lywodraeth Cynulliad Cymru ymyrryd mewn enghreifftiau fel hyn er mwyn hybu buddiannau cymdeithasol ac economaidd Canolbarth Cymru.

Adnoddau

3.4.4 Roedd y system flaenorol o Gynlluniau Trafnidiaeth Lleol yn dioddef oherwydd ei dibyniaeth ar gyllid grantiau cyfalaf Llywodraeth y Cynulliad.

4 One Wales: A progressive agenda for the government of Wales, 27

th June 2007

Page 43: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 33

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Roedd y cyllid yn ddibynnol ar gylchoedd ceisiadau blynyddol (er enghraifft Grant Trafnidiaeth) a chyllid refeniw awdurdodau lleol heb ei neilltuo. Roedd y ddau ffactor yma yn amharu’n ddifrifol ar y gallu i sicrhau lefelau digonol o gyfalaf refeniw ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol yng Nghanolbarth Cymru. Mae Canolbarth Cymru yn parhau i ddioddef oherwydd y lefelau isel iawn o fuddsoddi mewn trafnidiaeth beth bynnag fydd canlyniadau unrhyw arolwg o gyllid ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru yn gysylltiedig â’r broses Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

3.4.5 Yn bennaf oherwydd cyfyngiadau ariannol (yn hanesyddol ac yn gyfredol) ar awdurdodau lleol TraCC a TraCC ei hunan bu’n anodd ymgymryd â llawer o’r gwaith cychwynnol sydd ei angen i adnabod ac wedyn cyfiawnhau cynlluniau (er enghraifft trwy WeITAG) – gwaith fel astudiaethau dichonoldeb a gwaith paratoi a chasglu data gwaelodlin. Gan hynny mae TraCC wedi bod yn ceisio ‘dal i fyny’ gyda rhanbarthau eraill Cymru i ddod â chynigion datblygedig gerbron.

3.4.6 Hefyd mae lefel cyfraniad datblygwyr tuag at ddarparu’r seilwaith trafnidiaeth wedi bod yn brin iawn yn y rhanbarth. Mae hynny’n golygu bod gweithredu cynigion yn ddibynnol iawn ar adnoddau awdurdodau lleol. Mae diffyg cyfraniad datblygwyr yn codi oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys maint bychan safleoedd datblygu yn gyffredinol ac anhawster denu mewnfuddsoddi yn y gorffennol.

3.4.7 Bydd y Mesur Cynllunio sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd yn cyflwyno’r cysyniad o Ardoll Seilwaith Cymunedol ac mae’n bosibl y bydd gweithredu’r cynllun hwnnw yn cynnig gwelliannau i seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth.

3.4.8 Ar ben hynny mae cyfyngiad ar adnoddau awdurdodau lleol yn golygu bod prinder staff i ddatblygu a gweithredu cynlluniau trafnidiaeth. Mae hyn yn arbennig o amlwg ym maes cynlluniau trafnidiaeth gwyrdd, lle nad oes gan neb ond Gwynedd swyddog dynodedig. Effaith y cyfyngiadau hyn ar adnoddau yw bod y gwaith o gydgysylltu ar draws y rhanbarth wedi dioddef er mwyn i’r awdurdodau lleol allu ymateb i anghenion eu rhaglenni dydd i ddydd.

3.4.9 Fel y dywedwyd eisoes er bod y problemau a’r cyfleoedd yn cael eu crynhoi yn y bennod hon, rhoddir dadansoddiad manwl yn Atodiad B, ac mae canlyniadau Modelu Accession yn cael eu cyflwyno yn Atodiad C.

Page 44: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 34

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

4 Gweledigaeth, Blaenoriaethau ac Amcanion TraCC

4.1 Cyflwyniad

4.1.1 Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gosod sail polisi ar gyfer cynllunio trafnidiaeth dros y 30 mlynedd nesaf. Fel y nodir yn y canllawiau, mae angen i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol fod yn ‘fframwaith deinamig ar gyfer cynllunio trafnidiaeth yn hytrach na dim ond map cyfeirio sydd, ar ôl ei gwblhau, yn cael ei adael nes cael ei arolygu bum mlynedd yn ddiweddarach’. Mae’n rhaid i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol fod yn ddogfen hyblyg y gellir ei hadolygu a’i haddasu mewn ymateb i newidiadau yn y cyd-destun, ond sydd ar yr un pryd yn dangos lle yr hoffai TraCC fod yn yr hirdymor.

4.1.2 Roedd datblygu gweledigaeth, blaenoriaethau ac amcanion cynllunio trafnidiaeth TraCC yn gam allweddol yn natblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd datblygu’r gweledigaethau, y blaenoriaethau a’r amcanion yn broses ailymweld yn barhaus ag egwyddorion ac roedd yn cynnwys trafodaethau gyda Gweithgor Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, swyddogion awdurdodau lleol o nifer eang o wahanol adrannau a Bwrdd Rheoli TraCC. Prif ffocws y trafodaethau yn y cyfnod hwn oedd adnabod a dadansoddi problemau trafnidiaeth cyfredol.

4.2 Datganiad o Weledigaeth 4.2.1 Mae TraCC wedi sefydlu Datganiad o Weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn y

rhanbarth sy’n datgan ym mhle yr hoffai fod yn yr hirdymor ac sy’n ceisio sicrhau bod y blaenoriaethau a’r datblygiadau yn symud i gyfeiriad y weledigaeth honno. Cafodd y weledigaeth ar gyfer y rhanbarth ei datblygu trwy ddefnyddio strategaethau sy’n bodoli’n barod gan gynnwys Cynllun Gofodol Cymru a Strategaethau Cymunedol y tri awdurdod lleol (Ceredigion, Gwynedd a Phowys).

Cynllun Gofodol Cymru

4.2.2 Y pwynt cyfeiriol cyntaf ar gyfer datblygu’r weledigaeth oedd y weledigaeth genedlaethol a geir yng Nghynllun Gofodol Cymru, ‘Pobl, Lleoedd, Dyfodol’ (2004) sy’n datgan:

‘Byddwn yn cynnal ein cymunedau drwy fynd i’r afael â'r sialensiau sy’n codi yn sgil newid yn y boblogaeth a newid economaidd; byddwn yn tyfu mewn ffyrdd fydd yn cynyddu ein gallu cystadleuol ac ar yr un pryd yn lledaenu ffyniant i ardaloedd llai breintiedig a lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol; byddwn yn gwella ein hamgylchedd naturiol ac

Page 45: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 35

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

adeiledig er ei fwyn ei hun ac am yr hyn a gyfranna at ein lles ni; a byddwn yn cynnal ein hunaniaeth unigryw’

Mae Diweddariad 2008 o Gynllun Gofodol Cymru hefyd yn datgan:

‘Byddwn yn datblygu mynediad mewn ffyrdd fydd yn annog gweithgarwch economaidd, yn ehangu cyfleoedd am waith, yn sicrhau gwasanaethau o safon ac yn cydbwyso’r effeithiau amgylcheddol ac economaidd a chymdeithasol y mae teithio yn gallu eu hachosi’

Mae Diweddariad 2008 o Gynllun Gofodol Cymru wedi trosi’r amcanion cenedlaethol cyffredinol yn weledigaethau ar gyfer chwe ardal penodol o Gymru. Yr ardal o’r cynllun gofodol sy’n cyfateb i ranbarth TraCC yw Ardal Canolbarth Cymru. Mae’r Cynllun yn cydnabod ac yn diffinio’r cyfuniad unigryw o nodweddion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd rhanbarth TraCC. Mae’r weledigaeth ar gyfer Canolbarth Cymru yn datgan bod:

“Safon byw a gweithio uchel mewn aneddiadau llai eu maint o fewn amgylchedd gwych, gan ddarparu modelau deinamig o ddatblygu gwledig cynaliadwy, gan symud pob sector i weithgareddau sy’n cynnig gwerth ychwanegol.”

Cynghorau Lleol

4.2.3 Ar lefel lleol, mae dyfodol yr ardaloedd yn cael eu nodi yn y Strategaethau Cymunedol, sy’n gwneud datganiad cyffredinol ynglŷn â blaenoriaethau y cymunedau lleol.

Cyngor Sir Ceredigion

“Yn 2020 bydd Ceredigion yn gymuned hyderus, iach, gofalgar, dwyieithog sy’n cael ei chefnogi gan economi leol gadarn gan ddefnyddio sgiliau ei phobl, gwneud defnydd doeth o adnoddau ei hamgylchedd rhagorol a darparu cyfleoedd i bawb gyflawni eu llawn botensial”

Cyngor Gwynedd

“Gweithio gyda’n gilydd i wella ansawdd bywyd i bawb yng Ngwynedd - cynnal a chefnogi cymunedau cynaliadwy, llewyrchus a bywiog”

Cyngor Sir Powys

“Mae Powys yn lle yr ydym yn falch ohono. Er mwyn sicrhau ei fod yn aros felly mae’n rhaid i bob un ohonom ymdrechu i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd, a gofalu ein bod yn gallu cadw’n ddiogel ac iach. Rhaid i ni sicrhau bod pobl Powys yn cael y cyfleoedd y maent eu hangen i fyw eu bywydau’n llawn ac i wneud y gorau o’u potensial. Dylai pawb sy’n byw ym Mhowys deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bob un ohonom, yn awr ac am genedlaethau i ddod”

Page 46: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 36

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Gweledigaeth TraCC

4.2.4 Mae’n rhaid i’r system drafnidiaeth yn rhanbarth TraCC helpu i gyflawni Gweledigaeth Cynllun Gofodol Cymru, Gweledigaeth Ardal Canolbarth Cymru a gweledigaethau cymunedol y Cynghorau Lleol, yn ogystal ag ymateb i’r problemau a’r cyfleoedd a nodir ar gyfer trafnidiaeth yn ardal TraCC (Adran 3). Gan hynny, mae rhanddeiliaid ardal TraCC wedi cytuno ar Weledigaeth ar gyfer Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC sy’n adlewyrchu prif broblemau’r rhanbarth sy’n gysylltiedig â datblygu economaidd priodol, hygyrchedd, cynaliadwyedd bywyd cymunedol ac ansawdd uchel yr amgylchedd. Gweledigaeth TraCC yw:

‘Cynllunio ar gyfer, a darparu mewn partneriaeth, system drafnidiaeth integredig yn Rhanbarth TraCC sy’n hwyluso datblygu economaidd, yn sicrhau mynediad i bawb i wasanaethau a chyfleoedd, cynnal a gwella ansawdd bywyd cymunedol ac yn parchu’r amgylchedd’

4.3 Blaenoriaethau Rhanbarthol 4.3.1 Mae blaenoriaethau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ceisio symud

tuag at y weledigaeth o osod allan y materion a ystyrir yn flaenoriaethau gan randdeiliaid rhanbarth TraCC. Mae blaenoriaethau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi cael eu datblygu o’r rhai a restrwyd gyntaf yn Strategaeth Drafnidiaeth Integredig Partneriaeth Canolbarth Cymru (2003), yn ogystal ag yng Nghynlluniau Datblygu Unedol a Chynlluniau Trafnidiaeth Lleol yr awdurdodau lleol sy’n perthyn i TraCC, ac yn ddiweddarach, Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynllun Gofodol Cymru.

4.3.2 Pennwyd cyfres o flaenoriaethau a fydd yn sail i weithredu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae’r blaenoriaethau’n adlewyrchu gweledigaeth Rhanbarth TraCC, yn ogystal â’r problemau a’r cyfleoedd a nodwyd. Ni osodwyd y blaenoriaethau yn nhrefn pwysigrwydd, er yr ystyrir bod y ddwy flaenoriaeth gyntaf yn cwmpasu’r blaenoriaethau eraill i gyd.

Blaenoriaethau Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC yw:

1. Lleihau’r galw am deithio

2. Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd lleol a byd-eang.

3. Gwella diogelwch eiddo a diogelwch personol holl ddefnyddwyr trafnidiaeth.

4. Gwella hygyrchedd teithio i wasanaethau, swyddi a chyfleusterau ym mhob sector o gymdeithas.

5. Gwella ansawdd ac integreiddiad y system drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys swyddogaeth trafnidiaeth gymunedol.

6. Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau cynaliadwy o deithio.

Page 47: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 37

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

7. Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a thrafnidiaeth presennol.

8. Sicrhau bod materion teithio a hygyrchedd yn cael eu hintegreiddio’n briodol mewn penderfyniadau defnydd tir.

9. Gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a chydgysylltiad mudo o fewn Canolbarth Cymru a rhwng y canolbarth a rhanbarthau eraill yng Nghymru a Lloegr.

10. Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth.

4.4 Gwerthusiad WelTag 4.4.1 Mae Llywodraeth y Cynulliad ‘yn dymuno bod y Consortia yn cynnal

gwerthusiad trafnidiaeth o’u cynlluniau trwy ddefnyddio canllawiau WelTAG (Canllawiau Gwerthuso a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru)’. Mae canllawiau WelTAG yn dweud gan fod ‘amcanion y strategaeth yn eang, bod y lefel briodol o werthuso hefyd yn eang’, felly dim ond yng Ngham Cyntaf y gwerthusiad WelTag y mae angen dogfennau strategaeth. Pwrpas Cam 1 yw sgrinio a phrofi opsiynau a sicrhau bod yr opsiynau gorau yn cael eu rhoi gerbron.

4.4.2 Nod y gwerthusiad WelTag yw ‘canfod a yw’r strategaeth neu gydrannau’r strategaeth yn gallu cyfrannu at yr amcanion cyffredinol’. Mae’r gwerthusiad o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC wedi asesu ‘perfformiad tebygol y cynllun yn erbyn blaenoriaethau rhanbarthol a chyfraniadau tuag at ddeilliannau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru’, yn ogystal â gwirio sut y byddant yn ‘cyfrannu i ddatrys problemau a bodloni’r cyfyngiadau’.

4.4.3 Gwnaethpwyd y gwerthusiad trwy ddefnyddio asesiad seiliedig ar fatrics gan ddefnyddio cyfradd meintiol syml, fel a ddangosir yn Nhabl 4.1.

Tabl 4.1: Cyfradd Feintiol a ddefnyddiwyd yn yGwerthusiad WelTag

++ Dylanwad/cydberthynas gadarnhaol iawn

+ Dylanwad/cydberthynas gadarnhaol

0 Dylanwad/cydberthynas niwtral

- Dylanwad/cydberthynas negyddol

-- Dylanwad/ cydberthynas negyddol iawn

4.4.4 Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi adnabod ystod o broblemau a

chyfleoedd o dan bedwar pennawd bras: cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a mudo (Adran 3). O dan bod un o’r pedwar pennawd dynodwyd nifer o broblemau penodol. Mae’r gwerthusiad wedi asesu problemau yn y pedwar maes yma’n unig fel rhan o’r broses WelTAG (cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a mudo), oherwydd nifer fawr o broblemau unigol a nodwyd. Mae Tabl 4.2 yn dangos y gwerthusiad o flaenoriaethau rhanbarthol yn erbyn y problemau rhanbarthol.

Page 48: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 38

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

4.4.5 Y prif sylwadau sy’n codi o werthusiad WelTag yw:

• Yn gyffredinol mae blaenoriaethau a ddatblygwyd yn ffitio’n dda gyda’r problemau sydd wedi cael eu hadnabod a bydd y blaenoriaethau rhanbarthol arfaethedig yn cyfrannu i oresgyn y problemau a nodwyd drwy holl ranbarth TraCC.

• Bydd pob un o’r blaenoriaethau rhanbarthol yn cael dylanwad cadarnhaol ar y problemau a nodwyd ac ni fydd yr un o’r 10 blaenoriaeth yn cael effaith negyddol arnynt.

• Dangosodd y dadansoddiad bod blaenoriaeth 7 ‘Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a thrafnidiaeth presennol’ yn rhagfarnu o blaid gwelliannau priffyrdd. Er y nodwyd bod seilwaith y priffyrdd yn broblem allweddol drwy ranbarth TraCC, gwelwyd hefyd bod angen gwelliannau yn seilwaith dulliau trafnidiaeth eraill. Gan hynny, argymhellir newid blaenoriaeth 7 i ‘Gynnal a gwella’r seilwaith trafnidiaeth presennol (ffyrdd a rheilffyrdd)’.

• Nododd y dadansoddiad y dylai blaenoriaeth 9 ‘gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a chysylltedd mudo o fewn Canolbarth Cymru a rhwng y canolbarth a rhannau eraill o Gymru a Lloegr’, bwysleisio bod angen gwelliannau mewn gwahanol ddulliau teithio yn y rhanbarth. Gan hynny, argymhellir diwygio blaenoriaeth 10 i ‘wella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a chysylltedd mudo, trwy bob dull trafnidiaeth, o fewn Canolbarth Cymru a rhwng y canolbarth a rhanbarthau eraill o Gymru a Lloegr’.

Page 49: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 39

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Tabl 4.2: Problemau Rhanbarthol v Blaenoriaethau Rhanbarthol (Cychwynnol)

Problemau a Chyfyngiadau Posibl

Cymdeithas

ol Economaidd Amgylcheddol Mudo

Lleihau’r galw am deithio + + ++ +

Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd

lleol a byd-eang + 0 ++ 0

Gwella diogelwch eiddo a diogelwch

personol holl ddefnyddwyr trafnidiaeth + + 0 +

Gwella hygyrchedd teithio i

wasanaethau, swyddi a chyfleusterau ym

mhob sector o gymdeithas

++ ++ + 0

Gwella ansawdd ac integreiddiad y

system drafnidiaeth gyhoeddus gan

gynnwys swyddogaeth trafnidiaeth

gymunedol

++ + + 0

Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau

cynaliadwy o deithio + + ++ 0

Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a

thrafnidiaeth presennol + + 0 ++

Sicrhau bod materion teithio a

hygyrchedd yn cael eu hintegreiddio’n

briodol mewn penderfyniadau defnydd tir + + + 0

Gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a

chydgysylltiad mudo o fewn Canolbarth

Cymru a rhwng y canolbarth a

rhanbarthau eraill yng Nghymru a Lloegr

+ ++ 0 +

Blaen

oriaethau

Rhan

barthol

Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac

integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth

+ + + +

4.4.6 Gwnaethpwyd y gwerthusiad WelTag eto gan ddefnyddio’r blaenoriaethau diwygiedig a chyflwynir y canlyniadau yn Nhabl 4.3.

4.4.7 Y sylwadau allweddol sy’n codi o Werthusiad WelTag gan ddefnyddio’r blaenoriaethau diwygiedig yw:

• Bod y gwelliannau i flaenoriaeth 7 a 9 wedi gwella’r gydberthynas rhwng y blaenoriaethau hyn a’r problemau a nodwyd.

Page 50: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 40

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Bod y ddwy flaenoriaeth yn awr yn cael dylanwad cadarnhaol ar y problemau amgylcheddol oherwydd bod mwy o bwyslais ar wella hygyrchedd trwy wahanol ddulliau trafnidiaeth.

Tabl 4.3: Problemau Rhanbarthol v Blaenoriaethau Rhanbarthol (Ar ôl WelTAG)

Problemau a Chyfyngiadau Posibl

Cymdeitha

sol Economaidd Amgylcheddol Mudo

Lleihau’r galw am deithio + + ++ +

Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd

lleol a byd-eang + 0 ++ 0

Gwella diogelwch eiddo a diogelwch

personol holl ddefnyddwyr trafnidiaeth + + 0 +

Gwella hygyrchedd teithio i wasanaethau,

swyddi a chyfleusterau ym mhob sector o

gymdeithas

++ ++ + 0

Gwella ansawdd ac integreiddiad y

system drafnidiaeth gyhoeddus gan

gynnwys swyddogaeth trafnidiaeth

gymunedol

++ + + 0

Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau

cynaliadwy o deithio + + ++ 0

Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a

thrafnidiaeth presennol (ffyrdd a

rheilffyrdd)

+ + + ++

Sicrhau bod materion teithio a

hygyrchedd yn cael eu hintegreiddio’n

briodol mewn penderfyniadau defnydd tir

+ + + 0

Gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a

chydgysylltiad mudo trwy bob dull o

drafnidiaeth o fewn Canolbarth Cymru a

rhwng y canolbarth a rhanbarthau eraill

yng Nghymru a Lloegr

+ ++ + +

Blaen

oriaethau

Rhan

barthol

Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac

integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy

weithio’n effeithiol mewn partneriaeth

+ + + +

4.4.8 Mae’r blaenoriaethau rhanbarthol wedi cael eu hasesu yn erbyn deilliannau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru er mwyn sicrhau bod Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC yn cyflawni’r meini prawf a sefydlwyd gan Lywodraeth

Page 51: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 41

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Cynulliad Cymru. Mae Tabl 4.5 yn fatrcis o’r 10 blaenoriaeth ranbarthol diwygiedig sy’n cael eu sgorio yn erbyn 15 Deilliant Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae’r tabl yn dangos y 150 sgôr. Mae crynodeb o’r sgoriau yn Nhabl 4.4. Gwelir nad oedd yr un o’r sgoriau yn cael dylanwad negyddol ac roedd 20% a 33% o’r sgoriau yn dangos bod y blaenoriaethau yn cael dylanwad cadarnhaol iawn a dylanwad cadarnhaol (yn y drefn honno) ar Ddeilliannau Straegaeth Drafnidiaeth Cymru.

Tabl 4.4: Problemau Rhanbarthol v Blaenoriaethau Rhanbarthol (Cydberthynas)

Cydberthynas Sgôr Canran (%)

Dylanwad/cydberthynas gadarnhaol iawn 30 30

Dylanwad/cydberthynas gadarnhaol 50 33

Niwtral 70 47

Dylanwad/cydberthynas negyddol 0 0

Dylanwad/ cydberthynas negyddol iawn 0 0

Cyfanswm 150 100

4.4.9 Nodir y gydberthynas gryfaf rhwng blaenoriaethau rhanbarthol Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a deilliannau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn nhrefn cydgysondeb:

Blaenoriaeth 6 - Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau cynaliadwy o deithio;

Blaenoriaeth 5 - Gwella ansawdd ac integreiddiad y system drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys swyddogaeth trafnidiaeth gymunedol.

Blaenoriaeth 7 - Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a thrafnidiaeth presennol (ffyrdd a rheilffyrdd)

Blaenoriaeth 2 - Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd lleol a byd- eang

Y flaenoriaeth oedd yn sgorio isaf yn erbyn deilliannau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru oedd:

Blaenoriaeth 10- Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth

Ond mae TraCC yn ystyried y flaenoriaeth hon yn un bwysig.

Page 52: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 42

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

4.4.10 Yn gyffredinol ystyrir bod blaenoriaethau rhanbarthol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cyfateb yn dda i ddeilliannau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Page 53: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 43

Cynllun T

rafnid

iaeth R

hanbarth

ol: Drafft: T

raCC

Rhagfyr 200

8

Tab

l 4.5 Blaen

oria

ethau

Cyn

llun Trafn

idiaeth

Rhan

barth

ol v D

eilliannau

Strateg

aeth Drafn

idiaeth

Cym

ru

Deillian

nau Strateg

aeth

Drafn

idiae

th Cym

ru

Blaen

oriaeth

au Rhan

barth

ol T

raCC

Lleihau’r galw am deithio

Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd lleol a

byd-eang Gwella diogelwch eiddo a diogelwch personol

holl ddefnyddwyr trafnidiaeth

Gwella hygyrchedd teithio i wasanaethau,

swyddi a chyfleusterau ym mhob sector o

gymdeithas

Gwella ansawdd ac integreiddiad y system

drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys swyddogaeth

trafnidiaeth gymunedol

Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau

cynaliadwy o deithio

Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a

thrafnidiaeth presennol (ffyrdd a rheilffyrdd)

Sicrhau bod materion teithio a hygyrchedd yn

cael eu hintegreiddio’n briodol mewn

penderfyniadau defnydd tir

Gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a

chydgysylltiad mudo trwy bob dull o

drafnidiaeth o fewn Canolbarth Cymru a

rhwng y canolbarth a rhanbarthau eraill yng

Nghymru a Lloegr

Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac

integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth working

Deillia

nn

au

Cy

md

eith

aso

l

Gofa

l iechyd

0

0

+

++

+

+

+

+

+

+

+

Addysg a

dysgu g

ydo

l oes

0

0

+

++

+

+

+

+

+

+

+

Safle

oedd a

llweddol i

dw

ristia

id

0

0

+

++

+

+

+

+

+

+

+

Cyfle

uste

rau s

iopa a

ha

mdde

n

0

0

+

++

+

+

+

+

+

+

+

Hyb

u ffy

rdd ia

ch o

fyw

0

+

+

++

+

+

++

+

+

0

+

Deillia

nn

au

Eco

no

ma

idd

Cysyllte

dd

0

0

0

0

++

0

+

0

++

+

Mudo

effe

ithlo

n/d

ibynadw

y

0

0

+

+

++

0

+

+

++

0

Page 54: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 44

Cynllun T

rafnid

iaeth R

hanbarth

ol: Drafft: T

raCC

Rhagfyr 200

8

Tab

l 4.5 Blaen

oria

ethau

Cyn

llun Trafn

idiaeth

Rhan

barth

ol v D

eilliannau

Strateg

aeth Drafn

idiaeth

Cym

ru

Deillian

nau Strateg

aeth

Drafn

idiae

th Cym

ru

Blaen

oriaeth

au Rhan

barth

ol T

raCC

Lleihau’r galw am deithio

Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd lleol a

byd-eang Gwella diogelwch eiddo a diogelwch personol

holl ddefnyddwyr trafnidiaeth

Gwella hygyrchedd teithio i wasanaethau,

swyddi a chyfleusterau ym mhob sector o

gymdeithas

Gwella ansawdd ac integreiddiad y system

drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys swyddogaeth

trafnidiaeth gymunedol

Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau

cynaliadwy o deithio

Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a

thrafnidiaeth presennol (ffyrdd a rheilffyrdd)

Sicrhau bod materion teithio a hygyrchedd yn

cael eu hintegreiddio’n briodol mewn

penderfyniadau defnydd tir

Gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a

chydgysylltiad mudo trwy bob dull o

drafnidiaeth o fewn Canolbarth Cymru a

rhwng y canolbarth a rhanbarthau eraill yng

Nghymru a Lloegr

Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac

integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth working

Cynnal a

seda

u

trafn

idia

eth

0

0

+

0

0

0

++

0

0

0

Darp

aru

ar g

yfe

r clu

do

nw

ydda

u

0

0

0

0

0

0

+

+

++

+

Dio

ge

lwch te

ithio

+

+

+

+

0

0

0

+

0

0

0

Deillia

nn

au

Am

gylc

hed

do

l Lly

gre

dd a

er/n

wyo

n tŷ

gw

ydr

++

+

+

0

0

+

++

+

+

+

0

n a

dirg

rynia

d

++

+

+

0

0

0

++

+

0

0

0

r, pery

gl o

lifogydd,

ha

logia

d

+

++

0

0

0

++

0

0

0

0

Bio

am

ryw

iaeth

+

+

+

0

0

0

++

0

0

0

0

Agw

edda

u

am

gylc

heddol e

raill

+

++

0

0

0

++

0

0

0

0

Page 55: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 45

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

4.5 Amcanion Cynllunio Trafnidiaeth 4.5.1 Diben amcanion y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yw rhoi cnawd am y

blaenoriaethau a darparu set o feini prawf ar gyfer asesu opsiynau ac ymyriadau, ac er mwyn monitro llwyddiant Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Ar gyfer y broses WelTag, mae’r rhain yn cael eu diffinio yn yr Amcanion Cynllunio Trafnidiaeth a byddwn yn eu galw’n Amcanion Cynllunio Trafnidiaeth (yr Amcanion) trwy gydol yr adroddiad hwn. Mae’r Amcanion yn deillio o’r blaenoriaethau rhanbarthol.

4.5.2 Bu’r broses o ddatblygu’r blaenoriaethau rhanbarthol a’r Amcanion yn broses o ailymweld parhaus. Cawsant eu datblygu o ymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid rhanbarthol, proses WelTAG a’r Asesiad Amgylcheddol Strategol o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC.

4.5.3 Er mwyn cyflawni amcanion Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol bydd angen gweithredu mewn partneriaeth rhwng TraCC a’r awdurdodau lleol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, cwmnïau trafnidiaeth a rhanddeiliaid allweddol eraill (megis Byrddau Iechyd Lleol, Grwpiau Trafnidiaeth Cymunedol a Sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch).

4.5.4 Bydd yr Amcanion yn rhan annatod o broses WelTAG ar gyfer cynlluniau unigol a phecynnau o gynlluniau yn y rhanbarth TraCC.

4.5.5 Blaenoriaethau Rhanbarthol ac Amcanion Cynllunio Trafnidiaeth TraCC yw:

1. Lleihau’r galw am deithio.

• Cefnogi patrwm o aneddiadau cynaliadwy, gan ddatblygu’r lleoliadau y gellir eu gwasanaethu orau trwy deithio yn y dull mwyaf cynaliadwy a chrynhoi cyfleusterau mewn lleoliadau hygyrch.

• Lleihau’r angen am gymudo a theithio cysylltiedig â gwaith.

• Lleihau nifer y teithiau ‘un mewn cerbyd’ a hyd siwrneiau a wneir mewn car.

• Rheoli a lleihau’r angen i symud nwyddau.

2. Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd lleol a byd-eang.

• Lleihau lefel y CO2 a gollyngiadau eraill o drafnidiaeth.

• Lleihau effaith symudiad traffig ar ganol trefi ac ardaloedd preswyl.

• Lleihau’r effaith y mae gwelliannau a gwaith cynnal y seilwaith trefnidiaeth yn eu cael ar y dirwedd, bioamrywiaeth, adnoddau dŵr a threftadaeth.

3. Gwella diogelwch eiddo a diogelwch personol holl ddefnyddwyr trafnidiaeth.

Page 56: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 46

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo diogelwch y ffyrdd.

• Lleihau nifer a difrifoldeb damweiniau ac anafiadau a marwolaethau ar ffyrdd y rhanbarth.

• Sicrhau diogelwch eiddo a diogelwch personol ar y system drafnidiaeth gyhoeddus a gwella canfyddiad defnyddwyr trafnidiaeth o ddiogelwch teithio.

4. Gwella hygyrchedd teithio i wasanaethau, swyddi a chyfleusterau ym mhob sector o gymdeithas.

• Darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sy’n caniatáu gwahanol lefelau o fynediad i safleoedd cyflogaeth, canolfannau siopa, gwasanaethau a chyfleusterau, yn ogystal â chyfleusterau hamdden ac adloniant.

• Darparu lefelau gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus priodol ar gyfer a rhwng aneddiadau fel a nodir yng Nghynllun Gofodol Cymru.

• Sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol yn gwbl hygyrch i bobl sydd â phroblemau symudedd, pobl hŷn a phobl sydd â babanod â phlant ifanc.

• Darparu seilwaith newydd neu wella’r seilwaith presennol er mwyn cynnal hygyrchedd gwasanaethau, swyddi a chyfleusterau.

5. Gwella ansawdd ac integreiddad y system drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys swyddogaeth trafnidiaeth gymunedol.

• Creu rhwydwaith craidd sefydlog ac integredig o fysiau.

• Gwella a datblygu rhwydwaith rheilffyrdd rhanbarth TraCC er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r rhwydwaith rheilffyrdd ar gyfer siwrneiau lleol a rhanbarthol.

• Datblygu swyddogaeth trafnidiaeth gymunedol.

• Datblygu’r cyfleoedd i dderbyn gwybodaeth ‘amser go iawn’ a thechnoleg arall cysylltiedig â mudo.

• Darparu gwell cyfleusterau rhyngnewid gydag integreiddio rhwng gwahanol ddulliau o drafnidiaeth.

6. Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau cynaliadwy o deithio.

• Datblygu rhwydweithiau sy’n cael eu cynnal i safon uchel i hybu beicio mewnol a thrawsffiniol.

• Sicrhau bod cyfleusterau ar gyfer beicwyr yn cael eu hymgorffori mewn lleoliadau allweddol megis cyfnewidfeydd trafnidiaeth, lleoliadau cyhoeddus a chanolfannau trefol.

• Sichrau bod cyfleusterau cario beiciau yn cael eu darparu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

• Darparu llwybrau diogel a chyfleus yn y cymunedau i gerddwyr.

Page 57: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 47

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Hybu a hyrwyddo dulliau di-fodur o deithio.

7. Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a thrafnidiaeth presennol (ffyrdd a rheilffyrdd).

• Cyflawni safonau gofynnol mewn perthynas â ffyrdd cyswllt craidd, rhanbarthol a sirol o safbwynt lled, aliniad, cyfleoedd goddiweddyd a chyfleusterau ar ymyl y ffordd.

• Cynnal ac uwchraddio rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd rhanbarth TraCC.

8. Sicrhau bod materion teithio a hygyrchedd yn cael eu hintegreiddio’n briodol mewn penderfyniadau defnydd tir.

• Amddiffyn llwybrau a thiroedd hen reilffyrdd at ddibenion seilwaith trafnidiaeth eraill fel na fydd cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau a chyfleusterau newydd yn cael eu peryglu.

• Sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â darparu iechyd, addysg a gwasanethau cymorth yn rhoi ystyriaeth i leoliad a’r gallu i deithio.

• Sicrhau bod materion teithio a hygyrchedd yn cael eu hadlewyrchu ym mholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ac yn cael eu gweithredu’n effeithiol yn y broses gynllunio.

9. Gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a chydgysylltiad mudo trwy bob dull o drafnidiaeth o fewn Canolbarth Cymru a rhwng y canolbarth a rhanbarthau eraill yng Nghymru a Lloegr.

• Datblygu rheoli llwybrau er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r llwybrau mwyaf priodol

• Datblygu’r rhwydweithiau strategol (ffyrdd a rheilffyrdd) yn rhanbarth TraCC a chysylltiadau i ranbarthau eraill ac o fewn iddynt.

• Gwella effeithlonrwydd symud nwyddau.

10. Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth.

• Cydweithio gyda chyrff trafnidiaeth rhanbarthol cyfagos i sicrhau bod cysylltiadau trawsffiniol yn cael eu cynnal a’u gwella.

• Gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i gyflawni amcanion Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a blaenoriaethau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

• Gweithio’n fwy effeithiol gyda chwmnïau trafnidiaeth i sicrhau bod gwasanethau trafnidiaeth yn diwallu anghenion trafnidiaeth y rhanbarth.

Page 58: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 48

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

4.5.6 Mae Canllawiau WelTAG yn dweud y dylai ‘strategaeth osod amcanion bras, sefydlu mesurau i gyflawni’r amcanion a chynnig pecyn o ymyriadau – nodweddiadol eang – i gyflawni’r amcanion’. Mae Pennod 4 wedi amlinellu’r blaenoriaethau rhanbarthol a’r amcanion cynllunio trafnidiaeth. Bydd Pennod 5 yn amlinellu’r ymyriadau a luniwyd i gyflawni’r blaenoriaethau rhanbarthol, ynghyd â’r opsiynau y bwriedir eu cynnwys yn y rhaglen 5 mlynedd.

Page 59: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 49

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

5 Ymyriadau a Chynhyrchu Opsiynau

5.1 Ymyriadau 5.1.1 I helpu i wireddu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarhol, datblygwyd nifer o

ymyriadau o’r ymyriadau hyn y mae’r prosiectau a’r pecynnau o gynigion yn deillio. Ond, er mwyn adnabod ystod gynhwysfawr o ymyriadau ‘trafnidiaeth’ y gellid eu hystyried ac osgoi ymyriadau sy’n seiliedig ar ddulliau penodol o deithio, mae TraCC wedi nodi saith ymyriad allweddol y dylai’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol roi sylw iddynt. Mae’r ymyriadau wedi cael eu datblygu o’r blaenoriaethau rhanbarthol a’r amcanion cynllunio trafnidiaeth.

Saith ymyriad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yw:

Ymyriad 1 – Lleihau’r galw am deithio

Ymyriad 2 – Lleihau Effeithiau Amgylcheddol

Ymyriad 3 – Gwella Diogelwch Eiddo a Diogelwch Personol

Ymyriad 4 – Gwella Hygyrchedd

Ymyriad 5 – Hybu Teithio Cynaliadwy

Ymyriad 6 – Gwella Cysylltiadau Strategol

Ymyriad 7 – Dylanwadu ar Gynllunio Defnydd Tir

5.1.2 Gwnaethpwyd gwerthusiad WelTag er mwyn sicrhau bod yr ymyriadau yn cyflawni blaenoriaethau rhanbarthol Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Dangosir gwerthusiad WelTag yn Nhabl 5.1. Mae’r gwerthusiad yn dangos bod yr ymyriadau yn cysylltu’n dda gyda’r blaenoriaethau rhanbarthol.

Page 60: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 50

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC Rhagfyr 2008

Tabl 5.1: Blaenoriaethau Rhanbarthol v Ymyriadau

Ymyriadau

Lleihau’r Galwadau sydd ar y Seilwaith

Trafnidiaeth

Lleihau Effeithiau

Amgylcheddol

Gwella Diogelwch a Gwarchod-

aeth

Gwella Hygyrchedd

Hybu Teithio Cynaliadwy

Gwella Cysylltiadau

Strategol

Dylanwadu ar Gynllunio Defnydd Tir

Lleihau’r galw am deithio ++ + 0 + + + +

Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd lleol a byd-eang + ++ 0 + + + +

Gwella diogelwch eiddo a diogelwch personol holl ddefnyddwyr trafnidiaeth

+ 0 ++ 0 0 0 0

Gwella hygyrchedd teithio i wasanaethau, swyddi a chyfleusterau ym mhob sector o gymdeithas

+ + 0 ++ + ++ 0

Gwella ansawdd ac integreiddad y system drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys swyddogaeth trafnidiaeth gymunedol

++ + 0 ++ + ++ 0

Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau cynaliadwy o deithio + ++ 0 + ++ + 0

Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a thrafnidiaeth presennol (ffyrdd a rheilffyrdd)

0 0 + ++ + ++ +

Sicrhau bod materion teithio a hygyrchedd yn cael eu hintegreiddio’n briodol mewn penderfyniadau defnydd tir

0 0 0 0 0 0 ++

Gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a chydgysylltiad mudo trwy bob dull o drafnidiaeth o fewn Canolbarth Cymru a rhwng y canolbarth a rhanbarthau eraill yng Nghymru a Lloegr

+ + 0 ++ + ++ 0

Blaen

oriaethau

Rhan

barthol

Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth

+ + 0 ++ + ++ 0

Page 61: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 51

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

5.1.3 O fewn pob ymyriad mae nifer o gydrannau a all fod yn brosiectau unigol neu becynnau o gynigion y gellid eu cynnwys o dan fwy nag un ymyriad, ond sydd wedi cael eu dynodi o dan bennawd y prif ddiben. Er enghraifft, nid gwella cysylltiadau yn unig y byddai gweithred o dan ‘cysylltiadau strategol’, byddai hefyd yn debygol o wella diogelwch a hygyrchedd a phe bai’r cysylltiad strategol yn gysylltiedig â rheilffordd gallai hefyd annog trafnidiaeth gynaliadwy.

5.1.4 Cafodd yr ymyriadau eu cyflwyno a’u trafod mewn cyfarfodydd o swyddogion awdurdodau lleol (gyda nifer eang o’r adrannau yn bresennol) ac mewn cyfarfod rhanddeiliaid lle roedd cwmnïau trafnidiaeth, cyrff â diddordeb a’r sector gwirfoddol. Trwy hynny cafwyd barn gychwynnol ynglŷn â threfn blaenoriaeth yr ymyriadau. Y tair prif flaenoriaeth gan swyddogion awdurdodau lleol oedd:

• Gwella Hygyrchedd

• Gwella Cysylltiadau Strategol

• Hybu Teithio Cynaliadwy

a phrif flaenoriaethau’r rhanddeiliaid a chyrff â diddordeb oedd

• Gwella Mynediad

• Hybu Teithio Cynaliadwy

• Gwella Cysylltiadau Strategol

Mae’n werth nodi bod y rhanddeiliaid a’r swyddogion awdurdoau lleol wedi mynd am yr un tri ymyriadau fel blaenoriaeth. Defnyddiwyd yr adborth o’r ymgynghoriad i ddylanwadu ar ddatblygu’r cynllun pum mlynedd (Adran 7).

Mae’r adran ganlynol yn rhoi manylion am y mathau o brosiectau a

chynlluniau a fydd yn brif gydrannau’r gwahanol ymyriadau.

Ymyriad 1-Lleihau’r Galw am Deithio 5.1.5 Mae natur wasgaredig Canolbarth Cymru yn golygu bod angen teithio yn

gymharol bell i gael swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau. Ar ben hynny, gwneir y siwrneiau hyn mewn ceir prifat yn bennaf, sy’n adlewyrchu patrymau gwasgaredig yr aneddiadau a’r ffaith bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn brin. Mae mynediad gwael at wasanaethau a chyflogaeth yn yr ardal wledig yn golygu bod cyfraddau perchenogaeth ceir yn uwch nac mewn ardaloedd mwy trefol yng Nghymru, felly mae car yn cael ei ystyried yn hanfodol. Mae 81% o deuluoedd rhanbarth TraCC yn defnyddio un neu fwy o geir o gymharu â ffigur o 74% trwy Gymru gyfan. O safbwynt cyflogaeth, busnesau bach gwasgaredig sydd fynychaf yn y rhanbarth, gydag amaethyddiaeth, coedwigaeth a thwristiaeth yn gyflogwyr pwysig ac mae’n anodd gwasanaethu’r rhain trwy drafnidiaeth gyhoeddus.

Page 62: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 52

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

5.1.6 Yn yr un modd, ar y ffyrdd y mae’r rhan fwyaf o nwyddau yn cael eu cludo yng Nghanolbarth Cymru. Mae hyn yn cael effaith sylweddol oherwydd natur y prif rwydwaith ffyrdd a’r rhwydwaith eilaidd – cerbytffyrdd sengl, rhai rhannau wedi eu halinio’n wael, hyd is-safonol a chyfleoedd cyfyngedig i oddiweddyd. Un mater o bryder a godwyd yn aml mewn cyfarfodydd ymgynghori oedd presenoldeb lorïau cario coed, lorïau archfarchnadoedd a charafannau ar ôl-gerbydau isel ar y rhwydwaith ffyrdd.

5.1.7 Mae cyflwr is safonol y rhwydwaith yn effeithio ar amseroedd teithio, dibynadwyedd siwrneiau a diogelwch y ffyrdd. Y mae hefyd yn gallu achosi rhwystredigaeth ymhlith gyrwyr a siwrneiau anghyffyrddus i deithwyr. Hefyd mae nifer o drefi bychan, pentrefi a phentrefannau ar y brif rhwydwaith ffyrdd a’r ffyrdd eilaidd lle mae traffig lleol yn amharu ar lif traffig trwodd. Hefyd mae cymaint o draffig trwodd fel ei fod yn amharu ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol, ac ar symudiad cerddwyr, beicwyr a cherbydau lleol yn yr aneddiadau hynny. Byddai lleihau’r gofynion y mae cerbydau yn eu gwneud ar y rhwydwaith yn lliniaru’r problemau hyn.

5.1.8 Bydd lleihau’r angen i deithio yn un o’r amcanion anoddaf i TraCC eu cyflawni. Dylanwadir ar yr angen i deithio gan gynlluniau defnyddio tir a phenderfyniadau busnes, er enghraifft mewn perthynas â lleoli swyddfeydd post ac ystyriaethau o gost wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae lleihau’r angen i deithio yn dibynnu ar lawer o wahanol ffactorau sydd tu allan i gylch gorchwyl y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, ond gall y cynllun wneud cyfraniad trwy roi dewisiadau eraill yn lle siwrneiau car un teithiwr, gan gynnwys y canlynol :

• Datblygu cynlluniau Parcio a Theithio yn Aberystwyth i ddechrau.

• Datblygu cynlluniau Parcio a Rhannu mewn pentrefi.

• Datblygu, marchnata a hybu mentrau rhannu car, rhannu teithiau a chynlluniau teithio eraill.

• Annog datblygu rhagor ar gyfleusterau technoleg gwybodaeth a

chyfathrebu yng Nghanolbarth Cymru, er mwyn hybu gweithio yn y cartref a busnesau bach.

• Cefnogi mentrau trafnidiaeth gynaliadwy’r Parciau Cenedlaethol.

• Ystyried y cyfleoedd i sefydlu canolfan dosbarthu nwyddau cyfunol i

wasanaethu Canolbarth Cymru.

Ymyriad 2 – Lleihau Effeithiau Amgylcheddol

5.1.9 Fel y dywedwyd ym mharagraff agoriadol adran Canolbarth Cymru o Gynllun Gofodol Cymru (Adran 11), ‘yr ardal hon o’r Cynllun Gofodol yw perfeddwlad bywyd gwledig a chronfa gritigol Cymru o gyfalaf amgylcheddol’. Er nad yw llif traffig mor uchel ag yw mewn ardaloedd trefol

Cymru, mae’r lefelau sy’n bodoli yn achosi problemau i lawer o

Page 63: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 53

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

gymunedau. Mae traffig yn cael effaith gymharol waeth ar gymunedau oherwydd sŵn, diogelwch, ansawdd yr aer, lorïau trymion ac oherwydd ei fod yn gwahanu ardaloedd o boptu’r ffordd. Er y byddai unrhyw welliannau i’r ffyrdd yng Nghanolbarth Cymru yn debygol o effeithio ar yr amgylchedd mae’n rhaid cael cydbwysedd rhwng effaith amgylcheddol a gwelliant i ddiogelwch a’r economi a’r angen i sicrhau bod rhwydwaith strategol Canolbarth Cymru yn addas i’w bwrpas. Bydd yn rhaid i unrhyw gynllun newydd i wella’r priffyrdd fynd drwy’r asesiad effaith amgylcheddol cadarn gan weithredu mesurau lliniaru priodol, ond barn TraCC yw bod rhaid rhoi ystyriaeth i rai cynlluniau ‘sensitif’ er mwyn darparu rhwydwaith ffyrdd priodol i Ganolbarth Cymru.

5.1.10 Mae TraCC yn sylweddoli’n llwyr mor bwysig yw’r amgylchedd yng Nghanolbarth Cymru ac yn dymuno lleihau effeithiau amgylcheddol traffig. Gwneir hynny trwy:

• Gynnal asesiadau effaith amgylcheddol cadarn a sefydlu mesurau

lliniaru lle bo’n briodol.

• Sicrhau bod ffyrdd newydd neu welliannau i’r priffyrdd yn cael eu

dylunio i ansawdd uchel.

• Dynodi cynlluniau fydd ddim yn gwahanu cymunedau o boptu’r ffordd gymaint, fydd yn lleihau problemau sŵn ac yn gwella’r amgylchedd i gerddwyr.

• Helpu i ddelio â newid yn yr hinsawdd a sgil effeithiau niweidiol eraill

trafnidiaeth a theithio trwy ddarparu a hybu nifer o ddewisiadau ehangach a gwell o ddulliau teithio, mwy o gyfleoedd i gerdded, beicio, rhannu ceir, teithio cynaliadwy a dosbarthu nwyddau.

Ymyriad 3 – Gwella Diogelwch Eiddo a Diogelwch Personol

5.1.11 Mae diogelwch y ffyrdd yn fater allweddol yng Nghanolbarth Cymru gan fod y gyfradd marwolaeth yn uwch nag yng Nghymru gyfan. Mae natur y rhwydwaith ffyrdd yn tueddu i arwain at ddamweiniau mwy difrifol oherwydd goddiweddyd, rhwystredigaeth gyrwyr a nifer cynyddol o feiciau modur ‘hamdden’ pwerus a nifer uchel o gerbydau ymwelwyr a thwristiaid sy’n anghyfarwydd â’r rhwydwaith ffyrdd lleol. Mae gan y tri awdurdod Strategaethau Diogelwch ar y Ffyrdd sy’n adlewyrchu strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd i Gymru (2001), gofynion addysg diogelwch y ffyrdd Deddf Trafnidiaeth y Ffyrdd (1988) a Deddf Rheoli Traffig (2004). Y mae hefyd yn bwysig ystyried agweddau diogelwch teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Er bod yr ystadegau’n dangos nad yw teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn broblem fawr yng Nghanolbarth Cymru, mae angen rhoi sylw i ganfyddiadau pobl ynglŷn â hynny.

5.1.12 Mae gwella diogelwch pob math o deithio yn un o amcanion allweddol TraCC - gan gynnwys cerbydau preifat a thrafnidiaeth gyhoeddus. Bydd TraCC yn cyflawni’r amcan yma trwy ystyried y canlynol:

Page 64: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 54

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Parhau i geisio adnabod y mannau drwg am ddamweiniau, pan maent

yn gysylltiedig â rhwydwaith y ffyrdd, datblygu a gweithredu mesurau datrys.

• Parhau gyda’r rhaglen ‘Llwybrau Diogel mewn Cymunedau’.

• Gwneud gwelliannau i orsafoedd trenau o safbwynt goleuo, mynediad, cyfleusterau aros a gwybodaeth.

• Datblygu parthau cartref a chynlluniau eraill 20 milltir yr awr.

• Dynodi rhaglen o welliannau mewn croesfannau rheilffyrdd awtomatig.

• Cefnogi awdurdodau lleol a’r heddlu gyda mentrau hyfforddiant ac

addysg diogelwch.

• Datblygu Strategaeth Rhanbarthol Diogelwch y Ffyrdd.

Ymyriad 4 – Gwella Hygyrchedd

5.1.13 Mae trafnidiaeth yn chwarae rôl allweddol o safbwynt gallu unigolyn i fanteisio ar gyfleoedd a gwasanaethau, gan gynnwys cyflogaeth, addysg a chyfleusterau gofal iechyd. Mae hyn yn effeithio ar allu’r unigolyn i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Mae cyfyngu ar fynediad i gyfleoedd yn gallu cael effaith economaidd yn ogystal â chymdeithasol. Yn arbennig mae’r henoed, pobl ifanc (yn arbennig grŵp oed 12-17) a phobl sydd ag amhariad symudedd yn fwy tebygol o gael problemau mynediad i wasanaethau trwy drafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid ystyried yn ofalus er mwyn sicrhau nad yw’r grwpiau hyn yn cael eu hallgau o gymdeithas. Mae crynhoi (rhanbartholi) gwasanaethau mewn llai o safleoedd wedi cynyddu’r angen i deithio er mwyn cael cyflogaeth neu’r gwasanaethau mwyaf sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd a chyllidol. Mae tueddiad parhaus o ddiddymu rhai gwasanaethau cymunedol lleol, er enghraifft swyddfeydd post, banciau a siopau pentref ac o ddarparu trafnidiaeth cyhoeddus syddd ddim yn rhedeg yn aml. Gan fod un o bob pump o deuluoedd heb gar eu hunain, mae problemau mawr o safbwynt mynediad i wasanaethau. Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru – Mynediad i Wasanaethau, yng Nghanolbarth Cymru y mae 30 allan o’r 70 ardal waethaf yng Nghymru yn y cyd-destun hwn.

5.1.14 Yn y trafodaethau gyda rhanddeiliaid a chyrff â diddordeb, mae’r materion hyn ynglŷn â mynediad wedi bod yn flaenllaw yn y trafodaethau. Mae TraCC, fel cyrff eraill gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn sylweddoli bod hygyrchedd yn un o’u prif flaenoriaethau. Bydd TraCC yn ystyried ffyrdd o wella hygyrchedd trwy ddatblygu’r canlynol:

• Gwelliannau i wasanaethau bysiau rhwng aneddiadau allweddol ac o

fewn clystyrau o aneddiadau.

• Datblygu swyddogaeth trafnidiaeth gymunedol.

Page 65: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 55

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Gwelliannau i gyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus.

• Datblygu cardiau teithio SMART, gwybodaeth amser go iawn a

thocynnau integredig aml-fodd (megis Tocyn Crwydro TraCC).

• Darparu llwybrau gwell a diogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr i ganolfannau allweddol gwasanaethau a chyflogaeth.

• Ystyried y cyfleoedd i gydgysylltu ac ymestyn gwasanaethau symudol.

• Cyflawni cynlluniau lleol i wella priffyrdd er mwyn gwella hygyrchedd.

• Darparu parcio (ceir a beiciau) mewn gorsafoedd rheilffordd a

chyfnewidfeydd eraill.

Ymyriad 5 – Hybu Teithio Cynaliadwy

5.1.15 Mae adeiladu cymunedau cynaliadwy yn rhan allweddol o Gynllun Gofodol Cymru gyda datganiad clir bod ‘ein dyfodol yn dibynnu ar fywiogrwydd ein cymunedau fel llefydd deniadol i fyw a gweithio. Mae’n rhaid i ni leihau anghydraddoldebau rhwng cymunedau ac ar yr un pryd cynnal eu cymeriad a’r ffactorau sy’n eu gwneud yn wahanol’.

5.1.16 Thema allweddol arall yn y Cynllun Gofodol yw hybu economi cynaliadwy –

economi sy’n ychwanegu at ansawdd bywydau pobl, yn ogystal â’u hamgylchedd bywyd a gwaith. Bydd hybu dulliau cynaliadwy o deithio yn her fawr i TraCC. Gyda phoblogaeth isel a gwasgaredig bydd rhywfaint o deithio yn hanfodol bob amser a bydd nifer o siwrneiau y bydd yn rhaid eu gwneud mewn ceir preifat. Ond mae’n nod gan TraCC leihau maint y teithio a darparu dewisiadau eraill, yn lle ceir preifat, ar gyfer ystod mor eang o siwrneiau ag sy’n bosibl. Mae rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghanolbarth Cymru ond ar hyn o bryd ni wneir defnydd llawn ohono, yn bennaf oherwydd mai trac sengl sydd yno a bod gwasanaethau’n anaml. Ond mae llwybrau bysiau rhanbarthol newydd wedi cael eu sefydlu (TrawsCambria), mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol arloesol ar gael, ac mae menter Dewisiadau Doethach Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael ei sefydlu.

5.1.17 Mae Dewisiadau Doethach yn cynnwys ffyrdd cyffrous o hybu dulliau

effeithlon a chynaliadwy o deithio gan gynnwys:

• Rhoi gwybodaeth gwell a mwy manwl i bobl ynglŷn â dewisiadau teithio.

• Marchnata dewisiadau teithio cynaliadwy yn fwy effeithiol, er mwyn

hybu’r defnydd ohonynt.

• Gwneud gwelliannau yn y ffyrdd y trefnir gwasanaethau er mwyn

sicrhau eu bod yn apelio i grwpiau penodol o deithwyr posibl.

Page 66: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 56

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Targedu cyngor a gwasanaethau trafnidiaeth ar grwpiau penodol o’r

boblogaeth.

• Harneisio technoleg a’r cyfleusterau sy’n lleihau’r angen i deithio.

5.1.18 Mater pwysig arall o safbwynt teithio cynaliadwy yw’r ffaith bod twristiaeth yn un o brif hanfodion economi Canolbarth Cymru. Yr amgylchedd yw’r prif atyniad – Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri, Mynyddoedd Cambria, arfordir Bae Ceredigion, y rhanbarthau, trefi hanesyddol a threfi marchnad. Bydd yn rhaid i TraCC ystyried, nid yn unig teithiau twristiaid i’r ardal ond hefyd y dewisiadau sydd ganddynt ar ôl cyrraedd Cymru, o safbwynt ymweld ag atyniadau’r ardaloedd heb ddefnyddio car preifat.

5.1.19 Mae TraCC yn ymwybodol bod darparu dewisiadau teithio cynaliadwy yn her fawr yn ei Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ond mae’n sylweddoli bod nifer o fentrau y gellir eu datblygu. Bydd yr ymyriad yma yn cwmpasu’r canlynol:

• Hyrwyddo Bro Ddyfi o dan y fenter Trefi/Cymunedau Cynaliadwy.

• Datblygu y rhwydwaith beicio sy’n gwneud y defnydd gorau o’r

Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ac yn annog pobl i deithio i’r gwaith ac i’r trefi ar eu beic.

• Darparu llwybrau diogel a chyfleus i bobl gerdded i ysgolion a

chyrchfannau eraill mewn cymunedau bychan ac at ddibenion hamdden ac adloniant.

• Sicrhau bod safonau priodol ar gyfer cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr.

• Datblygu’r buddiannau sy’n deillio o fuddsoddiad Llywodraeth Cynulliad

Cymru mewn Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan.

• Gwerthuso potensial cynlluniau Parcio a Theithio ar gyfer twristiaid ac ymestyn cynlluniau arloesol y Parciau Cenedlaethol i rannau eraill o’r Canolbarth.

• Parhau i ddatblygu a hyrwyddo cynlluniau teithio ar gyfer swyddfeydd

unigol, stadau diwydiannol, parciau busnes, ardaloedd preswyl a defnydd personol.

• Hybu a datblygu ymhellach y mentrau Rhannu a Chyd-ddefnyddio Ceir

Rhanbarthol.

• Cydgysylltu Strategaeth Drafnidiaeth Gynaliadwy i Ymwelwyr.

Ymyriad 6 – Gwella Cysylltiadau Strategol

5.1.20 Mae rhanbarth TraCC yn rhannu ffiniau gyda thri chonsortiwm trafnidiaeth rhanbarthol arall Cymru, yn ogystal â ffin maith gyda Lloegr. Mae sawl rhan o Ganolbarth Cymru yn cael eu gwasanaethu gan Orllewin Canolbarth Lloegr. Mae gan Ddyffryn Hafren gysylltiadau cryf gyda choridor yr A5, M54

Page 67: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 57

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

ac mae cysylltiadau i’r gogledd a’r de hefyd. Mae’n bwysig sylweddoli nad trwy Ganolbarth Cymru yn unig y mae’r cysylltiadau rhwng de a gogledd yn rhedeg, mae symudiadau o’r de i’r gogledd ar hyd yr arfordir gorllewinol yn dod yn gynyddol bwysig, yn ogystal â chysylltiadau o Geredigion i’r M4.

5.1.21 Yn ystod yr ymgynghoriad ynglŷn â pharatoi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol cynhaliwyd trafodaethau gyda nifer o fusnesau yng Nghanolbarth Cymru sy’n dibynnu’n drwm ar drafnidiaeth. Darparwyd data gweithredol pwysig a bu’n werthfawr iawn wrth werthuso blaenoriaethau. Darparwyd gwybodaeth am symud coed (coed crwn, coed wedi eu llifo a phwlp) o safbwynt y llwybrau a ddefnyddir, y nifer a’r math o gerbydau, arferion gorau a lleoliadau coedwigoedd sydd mewn sawl achos yn cael eu gwasanaethu gan ffyrdd diddosbarth yn unig. Cafwyd gwybodaeth gan gwmni twristiaeth mawr (sy’n gweithredu’n bennaf ar hyd arfordir Bae Ceredigion) ynglŷn â’i sail cwsmeriaid. Mae 84% yn teithio o’r dwyrain, 15% o’r gogledd ac 1% o’r de.

5.1.22 Mae rhan ddwyreiniol ardal TraCC yn troi at Swydd Henffordd a Swydd Amwythig am nifer o wasanaethau, yn arbennig gofal iechyd. Yn yr ymgynghoriadau, fel a nodir ym mharagraff 5.1.4 – roedd Gwella Cysylltiadau Strategol yn un o flaenoriaethau uchaf swyddogion awdurdodau lleol, rhanddeiliaid allweddol a chyrff eraill. Mae darparu rhwydwaith o safon dderbyniol (ar y ffyrdd ac ar y rheilffyrdd) yn holl bwysig er mwyn i Ganolbarth Cymru fod yn gystadleuol yn economaidd, datblygu ei rôl twristiaeth a darparu lefel uwch o hygyrchedd i gyflogaeth a gwasanaethau. Mae Cynllun Gofodol Cymru yn dweud:

‘Mae Canolbarth Cymru yn cael ei wasanaethau gan rwydwaith o gefnffyrdd a ffyrdd gwledig o safonau amrywiol. Mae rhwydweithiau rheilffordd, trac sengl sylweddol yn rhedeg drwy’r rhanbarth, ond mae amlder y gwasanaethau a mynediad i’r gorsafoedd yn golygu bod rhannau

helaeth o’r ardal yn ddibynnol ar drafnidiaeth y ffyrdd.’

5.1.23 Mae’r datganiad uchod yn ei gwneud yn glir ei bod yn hanfodol i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol adnabod a blaenoriaethu cynlluniau a fydd yn gwella cysylltiadau strategol. Mae’r ffaith bod rhai o’r llwybrau allweddol yng Nghanolbarth Cymru yn gefnffyrdd yn golygu bod y rhaglen cefnffyrdd, yn arbennig gwella cysylltiadau o’r de i’r gogledd, yn holl bwysig er mwyn cyflawni’r amcan. Y mae hyn hefyd yn unol â’r ddogfen Cymru’n Un (Mehefin 2007) sy’n dweud ‘y byddwn yn datblygu ac yn gweithredu rhaglen ar gyfer cysylltiadau gwell rhwng gogledd a’r de, gan gynnwys teithio ar ffyrdd a rheilffyrdd’.

Bydd TraCC yn dilyn yr amcan yma trwy ystyried y canlynol:

• Darparu gwasanaeth bob awr a gwell gwasanaeth ar y Sul ar Brif

Reilffordd y Cambrian.

• Gwella lefelau gwasanaeth ar Reilffordd Arfordirol y Cambrian a

rheilffordd Calon Cymru.

Page 68: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 58

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Gwarchod tir (drwy’r system cynllunio defnydd tir) ac ymchwilio i’r

posibilrwydd o ddarparu llwybrau rheilffordd newydd yn yr hidymor ac adeiladu gorsafoedd newydd ac adleoli gorsafoedd eraill ar y llwybrau presennol.

• Gwella rhwydwaith TrawsCambria a llwybrau cysylltiol.

• Gwella cysylltiadau ffyrdd rhwng y Gogledd a’r De trwy Ganolbarth Cymru ac ar yr arfordir gorllewinol.

• Gwella cysylltiadau o’r Dwyrain i’r Gorllewin i Orllewin Canolbarth

Lloegr a choridor yr A5/M54.

• Datblygu Arferion Gorau mewn perthynas â chludo coed.

• Gwella cysylltiadau o dde Ceredigion i goridor yr A40/M4.

• Gwella’r cyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus allweddol.

• Ystyried canolfan ddosbarthu nwyddau a chyfleoedd i ddefnyddio’r rheilffordd i gludo nwyddau.

Ymyriad 7 – Dylanwadu ar Gynllunio Defnydd Tir

5.1.24 Mae Cynllun Gofodol Cymru wedi sefydlu agenda clir ar gyfer datblygiad cynaliadwy Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae’n pwysleisio’r angen i weithredu mewn ffordd holistig, a’r angen am gydweithredu a phartneriaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig o safbwynt y gydberthynas rhwng defnyddio tir a mudo. Mae TraCC yn sylweddoli’n llwyr y bydd polisïau defnydd tir yn hanfodol er mwyn gweithredu eu strategaethau ar gyfer trafnidiaeth. Bydd yn bwysig i’r prif ddarparwyr gwasanaethau ystyried hygyrchedd wrth werthuso opsiynau datblygu yn hytrach na cheisio gwella trafnidiaeth gyhoeddus a dulliau o gerdded a beicio ar ôl i’r safle gael ei ddatblygu.

5.1.25 Mae TraCC o’r farn y bydd y berthynas rhwng defnydd tir a thrafnidiaeth yn cael effaith yn fwy na dim arall, ar gyflawni ei weledigaeth hir dymor. Bydd cydgysylltu agos rhwng swyddogion TraCC a swyddogion yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am baratoi’r cynlluniau datblygu lleol. Bydd yr ymyriad yn cwmpasu’r canlynol:

• Sefydlu perthynas waith agos rhwng TraCC a’r broses Cynllun Datblygu

Lleol.

• Sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn cyfrannu at y Cynllun

Trafnidiaeth Rhanbarthol a bod amcanion y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn dylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â lleoliadau.

• Sicrhau bod polisïau ar gyfer canol trefi yn rhoi ystyriaeth i bwysigrwydd yr amgylchedd i gerddwyr, hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus, ac i ddiogelwch, strategaethau parcio ac anghenion gwasanaethu.

Page 69: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 59

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Ystyried yr angen i weithredu’n gryfach mewn perthynas â chytundebau

Adran 106 ac ystyried cyfleoedd posibl i gyflwyno Ardoll Seilwaith Cymunedol.

5.2 Cynhyrchu Opsiynau 5.2.1 Ar ôl dynodi’r blaenoriaethau rhanbarthol (adran 4.2) a gosod Amcanion

Cynllunio Trafnidiaeth (adran 4.4) mae canllawiau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn mynnu ein bod yn cynhyrchu opsiynau sy’n cymryd y blaenoriaethau a’r amcanion i ystyriaeth. Mae’r opsiynau a ystyrir yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC yn cwmpasu gwahanol gyfuniadau o gynlluniau unigol, yn cynrychioli gwahanol lefelau o fuddsoddi neu mewn rhai achosion rhaglen gyflymach o weithredu.

5.2.2 Mae’r canllawiau’n argymell dynodi o leiaf tri dewis – gwneud cyn lleied ag y bo modd, yr opsiwn dewisol a’r cynnig amgen gorau. Mae’r canllawiau’n datgan y dylai’r opsiwn dewisol fod yn seiliedig ar y weledigaeth o drafnidiaeth y dyfodol, y crêd y Consortiwm y gellir ei chyflawni dros gyfnod y cynllun hyd at 2030. Yn ôl y canllawiau: “Byddai unrhyw ddatblygiad sy’n syrthio’n brin o hynny yn argymhelliad amgen. Dylid ei seilio ar agwedd geidwadol yn gyffredinol ynglŷn â’r cyllid fydd ar gael, ond nid i’r graddau y bydd yn bosibl datblygu o gwbl, oni bai bod gan y Consortiwm agwedd besimistaidd iawn ynglŷn â’r posibiliadau at y dyfodol”

5.2.3 Ystyriwyd nifer o opsiynau gan gynnwys strategaeth ffyrdd yn seiliedig ar ddarparu ffyrdd osgoi newydd, gwella aliniad y ffyrdd a delio gyda phroblemau damweiniau mewn strategaeth trafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn canolbwyntio adnoddau ar fysiau, trenau a thrafnidiaeth gymunedol. Nid oedd yr un o’r opsiynau hyn yn ffyrdd realistig, ymarferol na dymunol o ddatrys problemau trafnidiaeth Canolbarth Cymru.

5.2.4 Mae TraCC wedi datblygu tri senario ar gyfer cyllido ei Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

• Senario 1: Newid Sylweddol (ein dewis cyntaf)

• Senario 2: Cam Ymlaen (y dewis gorau o’r gweddill)

• Senario 3: Gwneud cyn lleied ag y bo modd (y dewis olaf o’r gweddill) .

5.2.5 Yn niffyg unrhyw wybodaeth gadarn ynglŷn â lefel cyllido, y rhagdybiaeth fwyaf diogel ynglŷn â gwneud ‘cyn lleied ag y bo modd’ byddai bod y cyllid yn parhau’n gyffredinol ar yr un lefel â’r blynyddoedd diwethaf. Ond mae TraCC o’r farn y bu lefel y Grant Trafnidiaeth a dderbyniwyd dros y blynyddoedd diwethaf yn is mewn gwirionedd na’r lefel gwneud ‘cyn lleied ag y bo modd’. Er enghraifft, ac eithrio’r gwariant a oedd wedi ei ymrwymo i Ffyrdd Cyswllt Ceredigion, roedd yr arian Grant Trafnidiaeth ar gyfer 2008/09 yn Rhanbarth TraCC £736,000 yn is na chyllid menter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Felly am flwyddyn arall ni fydd yn bosibl

Page 70: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 60

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

datblygu unrhyw fentrau trafnidiaeth newydd ac mae’r rhestr o brosiectau teilwng yn parhau i fod yn ‘rhestr’ yn unig. Os yw’r dyheadau sydd yn nogfennau strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gael eu cyflawni mae angen buddsoddi mewn seilwaith ac mewn trafnidiaeth gynaliadwy.

5.2.6 Oherwydd y cyfrifoldebau newydd sy’n cael eu gosod ar awdurdodau, yr angen i ymateb i newid yn yr hinsawdd, y gwaith hanfodol sydd wedi hir-hel a’r pwysau cynyddol bu’n codi o agendau cenedlaethol a lleol (cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a lles) a’r angen i sicrhau gwell mynediad i swyddi a gwasanaethau bydd yr opsiwn gwneud cyn lleied ag y bo modd yn uwch na’r lefel gyllido ddiweddar.

5.2.7 Mae’r datganiadau yn Nogfen Cymru’n Un (Mehefin 2007), y diweddariad i’r Cynllun Gofodol (Ionawr 2008) a Strategaeth Trafnidiaeth Cymru (Mai 2008) i gyd yn pwysleisio’r angen i wella cysylltiadau rhwng Gogledd a De (ffyrdd a rheilffyrdd) ac mor bwysig yw gwella hygyrchedd er lles cymdeithasol ac economaidd.

5.2.8 Ag ystyried yr uchod, ynghyd â’r adnoddau posibl oedd yn debygol o fod ar gael am y pum mlynedd o 2010/2011, mae TraCC wedi seilio ei raglen pum mlynedd ar y Senario 1: Newid Sylweddol, a fyddai’n costio oddeutu £126.8 miliwn. Byddai’r opsiwn Cam Ymlaen (Senario 2) yn costio oddeutu £95 miliwn a dyna’r lleiafswm isaf y cred TraCC bod ei angen i ddarparu y lefel isaf o fuddoddiad angenrheidiol yn nhrafnidiaeth Canolbarth Cymru. Os yw’r polisïau a’r strategaethau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gael eu rhoi ar waith o gwbl yna mae angen symud at fformiwla cyllido newydd.

5.2.9 Mae lefelau cyllido tebygol yn un yn unig o’r meini prawf a ystyriwyd wrth ddatblygu’r rhaglen pum mlynedd. Mae’r broses werthuso wedi dynodi nifer o brosiectau a phecynnau allweddol a fydd yn cyflawni blaenoriaethau ac amcanion y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae’n bwysig nodi bod y rhaglen yn cael ei dylanwadu gan y potensial i ddefnyddio’r Grant Trafnidiaeth fel arian cyfatebol yn erbyn ffynonellau ariannol eraill, fel bod effaith y rhaglen ar faterion mudo a hygyrchedd lawn cymaint ag y gall fod.

5.3 Gwerthuso Cynlluniau 5.3.1 Er mwyn rhoi cnawd am y gwahanol ymyriadau, lluniwyd rhestr hir o

brosiectau trwy gyfeirio at adroddiadau a cheisiadau cynllunio trafnidiaeth blaenorol, dogfennau’r Cynllun Datblygu Lleol, strategaethau a chynlluniau gweithredu adfywio diweddar, yn ogystal â phrosiectau a roddwyd gerbron gan wahanol adrannau o’r awdurdodau lleol, y rhaglen cefnffyrdd, cyrff trafnidiaeth gymunedol, grwpiau pwyso a chyrff eraill â diddordeb. Hefyd nodwyd rhai cynlluniau newydd oedd yn adlewyrchu gweledigaeth, blaenoriaethau ac amcanion cynllunio trafnidiaeth y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ac a oedd yn goresgyn y problemau a nodwyd. Rhestrwyd oddeutu 350 o brosiectau a’u dosbarthu mewn 14 categori er hwylustod wrth drin data. Y categorïau oedd:

Page 71: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 61

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Ffyrdd

• Parcio

• Rheoli Traffig

• Cludo Nwyddau

• Trafnidiaeth Gyhoeddus

(Rheilffyrdd)

• Trafnidiaeth Gyhoeddus (Bysiau)

• Parcio a Theithio

• Beicio

• Cerdded

• Diogelwch

• Goleuadau Ffyrdd / Arwyddion

• Hyrwyddo / Hysbysrwydd

• Hyfforddiant

• Monitro

5.3.2 Roedd rhai prosiectau wedi cael cymeradwyaeth pwyllgor a chymeradwyaeth statudol, ac yr oedd eraill yn obeithiol iawn. Mewn cydweithrediad â swyddogion y tri awdurdod lleol, ymgymerodd TraCC â gwerthusiad cychwynnol yn seiliedig ar Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ac amcanion cynllunio trafnidiaeth y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a nodir yn Adran 4. Defnyddiwyd y gwerthusiad yma i dynnu rhestr fer o 80 prosiect, cynlluniau neu gynigion (ond nid oedd hyn yn cynnwys cynlluniau beicio/cerdded a oedd yn destun asesiad ar wahân). Wrth chwynnu’r prosiectau ystyriwyd yr ymyriadau a gafodd flaenoriaeth gan swyddogion yr awdurdodau lleol a’r rhanddeiliaid, sef gwella cysylltiadau strategol, gwella hygyrchedd ac annog teithio cynaliadwy.

5.3.3 Yn sgil hynny cafwyd gwerthusiad mwy manwl o’r 80 prosiect trwy gyfeirio at ffurflen werthuso a baratowyd gan TraCC, ar sail Adolygiad yr Adran Drafnidiaeth ar Flaenoriaethu Cynlluniau Trafnidiaeth Llai a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Roedd y taflenni gwerthuso yn cwmpasu meini prawf economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chyflawnadwyedd. Paratowyd taflen werthuso ar wahân ar gyfer cynlluniau beicio a cherdded. Cyflwynir y taflenni gwerthuso yn Atodiad D.

5.3.4 Yr oedd y pecynnau a gafodd y sgôr uchaf yn y gwerthusiad yn cynnwys:

• Gwelliannau i’r gwasanaeth rheilffyrdd

• Gwelliannau i’r gwasanaeth bysiau

• Gwelliannau mewn trafnidiaeth gymunedol

• Datblygu a hybu cynllun teithio

5.3.5 Er mwyn rhoi strwythur i’r rhaglen pum mlynedd nodwyd 16 pennawd o’r gwerthusiad a rhestrir y cynlluniau a’r pecynnau unigol o brosiectau o dan y penawdau hynny. Yr 16 pecyn a gynhwysir yn y rhaglen 5 mlynedd yw:

• Ymrwymiadau

• Gwelliannau i’r gwasanaeth bysiau

Page 72: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 62

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

• Gwelliannau mewn trafnidiaeth gymunedol

• Gwelliannau mewn hygyrchedd gwledig

• Gwelliannau mewn hygyrchedd hamdden a thwristiaeth

• Gwelliannau mewn gwasanaethau a chyfleusterau rheilffyrdd

• Cynllunau Beicio a Llwybrau Troed Lleol

• Cysylltiadau gyda Rhwydweithiau Beicio a Cherdded Rhanbarthol a

Chenedlaethol

• Cynlluniau Priffyrdd (ac eithrio Cefnffyrdd )

• Rheoli Traffig/Gostegu Traffig/Prosiectau Diogelwch

• Parcio

• Cludo Nwyddau

• Prosiectau Cysylltiedig ag Adfywio

• Cyllido

• Costau Dylunio

• Rhaglen Fonitro

5.3.6 Cyflwynwyd y pecynnau prosiect i’w gwerthuso yn erbyn 10 blaenoriaeth TraCC er mwyn sicrhau y bydd y rhaglen arfaethedig yn cyflawni gweledigaeth Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC. Ond ni chynhwyswyd cyllido, costau dylunio a phecynnau Monitro Rhaglenni yn yr asesiad, gan mai diben y pecynnau hyn yw cynorthwyo TraCC i gyflawni’r rhaglen yn effeithiol. Gwelir y gwerthusiad yn Nhabl 5.2. Mae’r gwerthusiad yn dangos y bydd y pecynnau a restrwyd yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau TraCC. Mae’r rhaglen bum mlynedd hefyd yn ymwneud â’r blaenoriaethau a nodwyd gan randdeiliaid a swyddogion yr awdurdodau lleol. Bydd gan y rhaglen bum mlynedd bwyslais cryf ar wella cysylltiadau strategol, gwella hygyrchedd a hyrwyddo teithio cynaliadwy.

5.3.7 Mewn rhai achosion enwir prosiectau posibl am ddwy neu dair blynedd yn unig o’r rhaglen pum mlynedd gan fod angen gwaith gwerthuso pellach arnynt. Mewn achosion eraill mae arian dichonoldeb wedi cael ei ddynodi er mwyn sicrhau yr ystyrir yr ateb gorau a mwyaf priodol i broblem benodol. Yn y man bydd angen cyllid ar gyfer y cynigion a godwyd o’r gwaith dichonoldeb a chaniatawyd ar gyfer hynny yn y rhaglen, ond wrth gwrs, byddai’n amodol ar ganlyniad y gwaith dichonoldeb a’r adolygiad blynyddol o’r rhaglen.

5.3.8 Mae Adran 6 yn delio ag agweddau ar drafnidiaeth sydd heb eu cynnwys yn y rhaglen Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ond sy’n amlwg yn bwysig o

Page 73: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 63

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

safbwynt cynllunio trafnidiaeth a seilwaith drwy ranbarth TraCC. Wedyn mae Adran 7 yn delio gyda rhaglen pum mlynedd TraCC gan roi manylion a chyfiawnhad dros gynnwys prosiectau a chynlluniau. Mae Adran 8 yn nodi’r strategaeth mwy hirdymor ar gyfer rhanbarth TraCC.

Page 74: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 64

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Tabl 5.2 Blaenoriaethau Rhanbarthol v Pecynnau Prosiect

Pecynnau prosiect

Gw

ellia

nn

au

i’r

G

wa

sa

na

eth

B

ysia

u

Gw

ellia

nn

au

me

wn

T

rafn

idia

eth

G

ym

un

ed

ol

Gw

ellia

nn

au

me

wn

H

yg

yrc

he

dd

G

wle

dig

Gw

ellia

nn

au

me

wn

H

yg

yrc

he

dd

H

am

dd

en

a

Th

wri

stia

eth

Gw

ellia

nn

au

yn

g

Ng

wa

sa

na

eth

a

Ch

yfle

uste

rau

R

he

ilffy

rdd

Cyn

llun

iau

Beic

io a

L

lwyb

rau

tro

ed

lle

ol

CC

ysyllt

u g

yd

a

Llw

yb

rau

B

eic

io/C

erd

de

d

Rh

an

ba

rth

ol a

C

he

ne

dla

eth

ol

Cyn

llun

iau

Pri

ffyrd

d

(dim

Ce

fnffy

rdd

)

Rh

eo

li tr

aff

ig/g

oste

gu

tr

aff

ig/ p

rosie

cta

u

dio

ge

lwch

Pa

rcio

Clu

do

Nw

yd

da

u

Pro

sie

cta

u

cysylltie

dig

ag

A

dfy

wio

Lleihau’r galw am deithio ++ ++ 0 + ++ ++ + 0 0 + 0 +

Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd lleol a byd-eang

++ ++ + + ++ ++ + 0 0 + 0 +

Gwella diogelwch eiddo a diogelwch personol holl ddefnyddwyr trafnidiaeth

+ 0 0 0 + ++ + + ++ 0 0 0

Gwella hygyrchedd teithio i wasanaethau, swyddi a chyfleusterau ym mhob sector o gymdeithas

++ ++ ++ + ++ ++ + + + + 0 +

Bla

en

ori

aeth

au

Rh

an

bart

ho

l

Gwella ansawdd ac integreiddad y system drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys swyddogaeth trafnidiaeth gymunedol

++ ++ + + ++ 0 0 0 0 + 0 0

Page 75: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 65

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008

Gw

ellia

nn

au

i’r

G

wa

sa

na

eth

B

ysia

u

Gw

ellia

nn

au

m

ew

n

Tra

fnid

iae

th

Gym

un

ed

ol

Gw

ellia

nn

au

m

ew

n

Hyg

yrc

he

dd

G

wle

dig

Gw

ellia

nn

au

m

ew

n

Hyg

yrc

he

dd

H

am

dd

en

a

Th

wri

stia

eth

Gw

ellia

nn

au

yn

g

Ng

wa

sa

na

eth

a

Ch

yfle

uste

rau

R

he

ilffy

rdd

Cyn

llun

iau

Beic

io

a L

lwyb

rau

tro

ed

lle

ol

Cysylltu

gyd

a

Rh

wydw

eith

iau

B

eic

io/C

erd

de

d

Rh

an

ba

rth

ol a

C

he

ne

dla

eth

ol

Cyn

llun

iau

P

riffyrd

d (

dim

C

efn

ffyrd

d)

Rh

eo

li tr

aff

ig/g

oste

gu

tr

aff

ig/ p

rosie

cta

u

dio

ge

lwch

Pa

rcio

Clu

do

Nw

yd

da

u

Pro

sie

cta

u

cysylltie

dig

ag

A

dfy

wio

Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau cynaliadwy o deithio

++ ++ + ++ ++ ++ + 0 + + 0 +

Cynnal a gwella’r seilwaith priffyrdd a thrafnidiaeth presennol (ffyrdd a rheilffyrdd)

0 0 0 0 ++ 0 0 ++ + 0 0 0

Sicrhau bod materion teithio a hygyrchedd yn cael eu hintegreiddio’n briodol mewn penderfyniadau defnydd tir

0 0 + 0 0 0 0 0 0 0 0 ++

Gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a chydgysylltiad mudo trwy bob dull o drafnidiaeth o fewn Canolbarth Cymru a rhwng y canolbarth a rhanbarthau eraill yng Nghymru a Lloegr

++ + + + ++ + ++ ++ 0 + + 0

Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth

+ + + + + + + + + + + +

Page 76: Provisional RTP Dec 2008 Welsh- Feb 09...Tabl 10.1 - Y Broses Tri Chyfnod Tabl 10.2 - Dangosyddion Monitro Tabl 10.3 – Amserlenni Monitro Tudalen iv Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tudalen 66

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Drafft: TraCC

Rhagfyr 2008