Upload
renewableukcymru
View
161
Download
2
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Citation preview
Mwynhau’r ManteisionGwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru
Crynodeb GweithredolMae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod gan ynni adnewyddadwy rôl bwysig mewn datblygu economaidd. Fodd bynnag, mae llawer o fanteision eraill y
mae’r diwydiant yn ei roi i gymunedau lleol ledled Cymru sydd efallai heb eu cydnabod na’u deall cystal. Bydd llawer o weithredwyr ynni adnewyddadwy yn
cyfranogi mewn llwyddiant cymunedau lleol, o ran amser a thrwy gyfraniadau
gwirfoddol i ‘achosion da’ lleol drwy amrywiaeth o wahanol gynlluniau. Fodd bynnag, nid yw nifer na ffurf cynlluniau o’r fath sydd ar waith yng Nghymru yn
wybyddus.
Bydd cronfeydd a chynlluniau budd cymunedol (a adwaenir o hyn ymlaen fel
CBC) i’w gweld yn nodweddiadol ar ffurf taliad blynyddol swm sy’n gysylltiedig
â gallu’r fferm wynt gan y datblygwr. Fe’u bwriedir fel arfer i’w defnyddio ar gyfer prosiectau lleol a fydd o fudd cymdeithasol, megis cadwraeth
amgylcheddol neu adfywiad cymdeithasol. Ar wahân i ddim ond rhoi grantiau ar gyfer defnydd lleol, mae cronfeydd budd cymunedol yn rhoi cyfle i
gymunedau lleol chwarae mwy o ran mewn diwallu eu hanghenion eu hunain
mewn modd sy’n rhoi manteision hirdymor a chynaliadwy.
Yn benodol, mae’r adroddiad hwn yn archwilio dimensiynau lleol y CBC ar y
sector ynni gwynt ar y tir - fodd bynnag, mae ynni gwynt ar y môr hefyd yn rhoi lefel uchel o gefnogaeth gymunedol, a bydd ein hargymhellion hefyd yn
berthnasol i brosiectau ynni gwynt ar y môr i raddau helaeth. Ei nod yw
dangos y ffordd gyfrifol y mae perchnogion ffermydd gwynt ar y tir yn gweithredu, a sut mae cynaliadwyedd yr ynni a gynhyrchant yn mynd law yn
llaw â chynaliadwyedd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddimensiynau lleol datblygu ynni gwynt,
ac yn fwy penodol mae’n ceisio archwilio darpariaeth budd cymunedol
ehangach sy’n cefnogi cynaliadwyedd hirdymor ar y raddfa leol yn ogystal â byd-eang. Mae’r ystod o fanteision posibl yn cynnwys buddrannau
economaidd drwy berchnogaeth cyfranddaliadau lleol, cronfeydd budd cymunedol, cyfraniad i’r seilwaith cymdeithasol, economaidd neu
amgylcheddol ar gyfer yr ardal, neu filiau ynni is ar gyfer trigolion lleol.
Ers i’r ffermydd gwynt masnachol cyntaf gael eu comisiynu yng Nghymru
aethpwyd i’r afael â mater ‘budd cymunedol’ mewn modd ad hoc. Ni fu fawr
ddim ymchwil systematig i’w nifer na’u cwmpas, nac i’r dibenion a wneir o’r manteision hyn. Ar yr un pryd cafwyd esblygiad cyflym o ran maint a ffurf y
budd cymunedol a ddarperir gan ddatblygiadau ffermydd gwynt. Mewn ymateb mae Llywodraeth Cymru yn ceisio llywio a gwella’r broses o drafod a chyflawni
budd cymunedol.
Mae llawer o brosiectau gwynt yng Nghymru eisoes yn rhoi budd cymunedol sy’n dod o dan ddiffiniad datblygu cynaliadwy, ond mae bylchau yn ein
gwybodaeth ynglŷn â’u niferoedd, eu graddfa a’u cwmpas.
Wrth i ffermydd gwynt gynyddu mewn nifer a maint, mae CBC yn dod yn fwy
cyffredin. Felly gall ymchwil pellach i’r cronfeydd presennol fod yn werthfawr o
gofio defnydd cynyddol y model hwn. Dim ond ystyried ffermydd gwynt ar y tir sy’n weithredol ar hyn o bryd a wna’r astudiaeth hon, ac nid y rhai hynny sy’n
ymwneud â phrosiectau sydd yn y system gynllunio, sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio neu sydd yn cael eu codi nawr.
Gwelodd yr astudiaeth bod ystod eang o CBC yn gweithredu yng Nghymru
sy’n cyfrannu’n gadarnhaol iawn i gymunedau lleol. Yn arbennig, dangosodd y data:
• Bod tua phedair o bob pump fferm wynt sy’n gweithredu yng Nghymru eisoes yn cyfrannu i’w cymunedau lleol mewn modd strwythuredig;
• Bod llawer o endidau gwahanol yn manteisio o gyfraniadau ffermydd gwynt;
• Mae CBC yng Nghymru wedi eu gweinyddu yn bennaf drwy ymddiriedolaeth leoledig (neu gyrff tebyg), neu gynghorau cymuned;
• Y math mwyaf cyffredin o daliad gan weithredwr fferm wynt yw symiau penodedig, yn cael eu dilyn gan swm a gyfrifir yn ôl megawatt (MW) a
osodwyd; ac
• O blith 55% o ymatebwyr ledled Cymru, daeth y symiau a dalwyd i CBC neu eu tebyg yn 2011 i gyfanswm o £623, 853.30.
Mae achos cryf, yn seiliedig ar dryloywder, agoredrwydd a’r gallu i ddysgu gan arfer da, am gofrestr megis Cofrestr Llywodraeth yr Alban ar Fudd Cymunedol
o Ynni Adnewyddadwy, fel y caiff ei weinyddu gan Ynni Cymunedol yr Alban.
Fel y cyfryw, rydym o’r farn y dylai’r argymhellion canlynol gael eu mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru:
• Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu ariannu er mwyn creu cofrestr
CBC ar gyfer ffermydd gwynt ‘byw’ neu ffermydd gwynt cymeradwyedig,
sy’n hawdd ei gyrchu’n gyhoeddus;
• Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu ariannu i hwyluso creu
cofrestr CBC ar gyfer cynigion sydd newydd eu cyflwyno;
• Dylai CBC sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y diwydiant a’r cymunedau ac y
cânt eu rheoli mewn modd ‘craff’, a dylai Llywodraeth Cymru glustnodi
ariannu i Ynni Cymunedol Cymru (neu gorff tebyg) i gefnogi cymunedau i ddatblygu’r CBC gorau ar gyfer eu hanghenion penodol;
• Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall taliadau CBC fod yn fwyaf effeithiol dros gyfnod bywyd prosiect, o gofio ffenomen gynyddol
perchnogaeth prosiectau sy’n cael eu trosglwyddo i gyfryngau megis
cronfeydd mantoli, cronfeydd ecwiti preifat, ac ati. Mae’n bwysig nodi y cafodd gwybodaeth fanwl ar gyfer yr astudiaeth hon ei darparu gan swmp
aelodaeth RenewableUK Cymru tra bod y rhai heb fod yn rhan o’r sefydliad ar lefel aelodaeth (yn arbennig sefydliadau ariannol) yn llai tebygol o
ymateb.
Mae’r astudiaeth hefyd yn cynnwys cofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, yn rhestru gwerth y cronfeydd a threfniadau
gweinyddol.
Rhestr Cynnwys Rhagair 5
Rhagymadrodd 6
Methodoleg 8
Strwythur yr Adroddiad 11
Cynnwys 12
Canfyddiadau 17
Endidau a gyflogir i weinyddu’r CBC 21
Dulliau Cyfrannu 25
Cofrestr CBC ffermydd gwynt yng Nghymru 29
Sylwadau ychwanegol 33
Casgliadau ac Argymhellion 35
Atodiad 1 39
Adroddiad a gynhyrchwyd gan Connections Cyfalaf ar gyfer RenewableUK
RhagairYn 2012 gwelwyd Cymru sy’n dair rhan; y de lle rhoddwyd cymeradwyaeth i un o ffermydd gwynt mwyaf y DU, a lle mae cwmnïau lleol yn disgwyl eu tro i gefnogi’r datblygiad a’r gwaith gosod; canolbarth Cymru sy’n drwm dan bryder lleol am y grid a thrafnidiaeth, a lle mae economïau lleol yn cloffi wrth i swyddi, sgiliau a phobl ifanc ddiflannu o drefi marchnad a chymunedau gwledig; a’r gogledd, lle mae ffermydd gwynt ar y môr yn adfywio porthladdoedd a chymunedau arfordirol.
Mae’r disgrifiad hwn yn orsymleiddiad dybryd ond y mae’n dangos rhai gwahaniaethau allweddol, a hefyd yn amlygu bod adnoddau naturiol Cymru wedi cyflwyno cyfle anferth i rai o’n cymunedau, na fanteisir arno ar hyn bryd.
Mae budd cymunedol yn bwysig, er dylem gofio ei fod yn un o nifer o resymau pam y mae'r amgylchedd, yr economi a chymdeithas yn elwa o wynt ar y tir. Mae’r adroddiad hwn yn rhan allweddol o’r jig-so cyffredinol o wybodaeth, yn amlygu'r gefnogaeth ariannol ychwanegol a roddir i gymunedau yn, ac o amgylch llawer o’n safleoedd gwynt yng Nghymru.
Amcangyfrifir yn geidwadol bod y gwerth cyfan a dalwyd i Gronfeydd Budd Cymunedol (neu gyfatebol) yn ystod 2011 yn rhagor na £620,000, swm y mae disgwyl iddo godi’n sylweddol wrth i ragor o ffermydd gwynt ddechrau cynhyrchu ac wrth i natur mynegrifol llawer o’r cronfeydd esblygu.
Fel diwydiant, fel cymdeithas sifil, ac fel gwlad mae angen i ni archwilio sut y defnyddiwn y cronfeydd hyn, ac a oes rhagor y gellir ei wneud. Mae gennym gyfle unwaith ac am byth i adfywio, i ysgogi ac i gefnogi cymunedau a busnesau yn strategol mewn rhannau o Gymru sydd hyd yn hyn wedi bod yn anodd eu cyrraedd. Gobeithiaf y gall hwn fod yn bwynt pwysig arall yn y broses barhaus sy’n rhoi’r budd mwyaf i rannau o Gymru sydd â’r angen mwyaf.
Dr David ClubbCyfarwyddwr, RenewableUK Cymru
RhagymadroddDIBEN YR ADRODDIAD
M a e ’ r d i w y d i a n t y n n i adnewyddadwy yng Nghymru yn
chwarae rhan hollbwysig yn ein heconomi ac o bos ib l e in
sicrwydd ynni. Fodd bynnag,
mae’r cyfraniad hwn yn ymestyn y tu hwnt i fudd economaidd
uniongyrchol y busnes. Mae’n aml yn cefnogi ystod eang o
brosiectau a phartneriaethau i
adeiladau cymunedau cryfach a mwy cynaliadwy.
Aeth RenewableUK Cymru ati i ddarganfod ehangder a natur cronfeydd budd
cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, y gallai gwaith pellach o bosibl gael ei wneud arno i werthuso sut y gall cronfeydd o’r fath gyfrannu at ddatblygu
lleol ac ymchwilio ffactorau sy’n cynorthwyo neu’n cyfyngu ar eu defnydd
ystyrlon.
Amcan trosfwaol yr astudiaeth oedd penderfynu ar gyfran y ffermydd gwynt
yng Nghymru sydd â chronfeydd budd cymunedol, ac yn fwy penodol:
• Darganfod ehangder a natur cronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt
yng Nghymru;
• Creu cofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, gan nodi gwerth y gronfa a’r trefniadau gweinyddol; a
• Gwneud cyfres o argymhellion polisi ynglŷn â’u gweithrediad ar lefel Cymru gyfan.
Cyfyngwyd yr astudiaeth i CBC a ddarparwyd gan ddatblygwyr ffermydd gwynt
masnachol ar y tir a gysylltwyd i’r grid, oedd yn weithredol ym mis Mehefin 2012, ac yn cael eu gweinyddu gan gymunedau neu drydydd parti a
benodwyd ar eu rhan. Mae’n amlinellu cyfraniadau blynyddol nodweddiadol yn
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
6
ôl y megawatt o allu a osodwyd, sy’n ein galluogi ni i amcangyfrif swm y
cyfraniadau ariannol a dalwyd gan y diwydiant i gymunedau lleol ledled
Cymru.
Mae’r astudiaeth hon yn caniatáu i ni hefyd i ganfod y math mwyaf cyffredin o
gorff rheoli cronfa, boed eu bod yn Gynghorau Cymuned, Ymddiriedolaethau Cymunedol, Cwmnïau Cyfyngedig trwy Warant, trydydd parti, neu Awdurdod
Lleol, gweinyddiaeth ac, yn ei dro, edrych ar ddetholiad o astudiaethau achos
sydd â rhwymedigaethau ar gyfer gweinyddu CBC.
Amlinella rhan derfynol yr adroddiad hwn y rhwymedigaethau i weithredwyr
CBC a gwneuthurwyr polisi - yn enwedig sut y gall y diwydiant gynnwys polisïau llywodraeth datganoledig yn y gwaith o greu a gweithredu cynlluniau.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
7
MethodolegO gofio’r data cyfyngedig ar fudd cymunedol ffermydd gwynt, ein bwriad oedd creu cofrestr gynhwysfawr o CBC yng Nghymru gan ddefnyddio'r fethodoleg
ganlynol. Yn gyntaf, cynhaliwyd ymchwil desg cychwynnol i benderfynu pa gyfran o ffermydd gwynt yng Nghymru sydd â CBC, a chreu cofrestr o’r
cronfeydd hyn.
Lluniwyd rhestr o’r holl ffermydd gwynt ar y tir sy’n weithredol yng Nghymru (gweithredol ym mis Mehefin 2012) a chawsom enw’r datblygiad, nifer y
tyrbinau, cynnyrch megawatt, y datblygwr a’r perchennog.
Fferm Wynt Tyrbinau MW Datblygwr Perchennog
Alltwalis 10 23 Catamount/Force 9 Statkraft
BDCR II 1 0.5 Ynni Adnewyddadwy Bro Dyfi
Blaen Bowi 3 3.9 Windjen Power Cyf Windjen Power Cyf
Fferm Braich Ddu 3 3.9 REG WINDPOWER
Bryn Titli 22 9.9 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Limited
Carno 'A' a 'B' 56 33.6 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Limited
Carno estyniad (Carno 2) 12 15.6 Amegni Amegni
Fferm Castle Pill - ail-bweru 4 3.2 InfinergyCefn Croes (yn cynnwys Pontarfynach) 39 58.5 RDC Falck Renewables
Cemmaes 18 15.3 First Windfarm Holdings Cyf First Wind Farm Holdings
Dyffryn Brodyn 11 5.5 New World Power RES
Ferndale 8 6.4 Infinergy Infinergy
Ffynnon Oer 16 32 RWE Npower Renewables RWE Npower Renewables
G24I 1 2.3 Ecotricity Ecotricity
Hafoty Ucha 1 1 0.6 Tegni Tegni
Hafoty Ucha 2 estyniad 2 1.7 Tegni Tegni
Hafoty Ucha 3 estyniad 1 0.85 Tegni
Llandinam P & L 103 30.9 Scottish Power/Eurus Energy ScottishPower/Eurus Energy
Llangwyryfon ail-bweru 11 9.35 First Windfarm Holdings Cyf First Wind Farm Holdings
Llyn Alaw 34 20.4 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Cyf
Maesgwyn 13 26 Pennant Walters
Mawla (Moel Maelogen) 3 3.9 Energiekontor Co WP Mombkg UK branch
Moel Maelogen estyniad 9 11.7 Ail Wynt Cyf
Monier Redland Plant 1 0.5 Infinite Energy
Mynydd Clogau 17 14.45 Novera Infinis
Mynydd Gorddu 19 10.2 Amgen Beaufort Wind Limited
Parc Cynog 5 3.6 Nuon Renewables Nuon Renewables
Pendine (Parc Cynog Estyniad I) 6 4.8 Nuon Renewables Nuon Renewables
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
8
Rheidol 8 2.4 E.ON UK Renewables Infinis
Rhyd-y-Groes 24 7.2 Cyd-fenter EcoGen, Seawest & Tomen E.on Renewables
Solutia UK Cyf 2 5 Wind Direct Wind Direct Cyf
Dociau Abertawe 1 0.25 EnergyTech Partneriaeth Ynni Bae Abertawe Cyf
Taf Elai 20 9 Perma Energy RWE Npower Renewables
Canolfan Ddosbarthu Tesco 2 1.6 TNEI
Tir Mostyn a Foel Goch 25 21.25 Windjen Power Cyf HG Capital
Trysglwyn 14 5.6 RWE Npower Renewables Beaufort Wind Limited
Wern Ddu (Craig Lelo) 4 9.2 Tegni Triodos Renewables
Yna nodwyd manylion cyswllt ar gyfer pob un o’r datblygwyr/gweithredwyr a
gofynnwyd am y wybodaeth sylfaenol ganlynol:
๏ Enw’r cwmni
๏ Enw’r fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir
๏ Cod(au) post y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir
๏ Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir
๏ Yn fras, oed y datblygiad(au) fferm wynt a weithredir
๏ Enw a swydd yr ymatebwr
❖ Gwerth y budd cymunedol (os o gwbl)
❖ Sut caiff y gronfa ei gweinyddu
❖ Rheolau ar gyfer defnydd y gronfa
❖ Cwestiwn agored er mwyn ysgogi sylwadau pellach ar naill ai eu trefniadau
CBC eu hunain neu CBC yn gyffredinol.
Y cwestiynau a ofynnwyd oedd:
• A yw eich cwmni yn cyfrannu i Gynllun neu Gronfa Budd Cymunedol? (os mai “Na” oedd yr ateb, ni ofynnwyd rhagor o gwestiynau)
• I ba endid yr ydych yn cyfrannu i’r Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol
(h.y. enw’r Cynllun neu Gronfa a phwy sy’n gweinyddu)?
• Beth yw strwythur rheoli'r Cynllun neu Gronfa Budd Cymunedol i ba un yr
ydych yn cyfrannu (e.e. ymddiriedolaeth gymunedol, cwmni cydweithredol, neu endid a gynhelir gan Awdurdod Lleol)?
• Beth yw swm y cyfraniad a wnewch i Gynllun neu Gronfa Budd Cymunedol
(e.e. taliad yn ôl gallu MW, neu yn ôl MW a gynhyrchir, neu mewn modd arall, er enghraifft, budd ‘mewn nwyddau’)?
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
9
• Ar gyfer pa weithgareddau y defnyddir arian y Cynllun neu Gronfa Budd
Cymunedol (e.e. prosiectau cymunedol, noddi digwyddiadau cymunedol
neu dimau chwaraeon ac ati)?
• A oes gennych unrhyw sylwadau pellach am eich ymgysylltiad â’r
Cynlluniau neu Gronfeydd Budd Cymunedol (e.e. a ydych chi’n credu eu bod yn gweithio’n dda neu a ydych yn credu bod ffyrdd eraill y gallai ariannu
o’r fath gael ei ddyrannu’n well)?
Cynlluniwyd y cwestiynau i gasglu data meintiol oedd yn caniatáu dadansoddiad categorïaidd. Cynhwyswyd y cwestiwn agored ar y diwedd i
gasglu data ansoddol, cyfoethocach. Yna adroddwyd ar y data categorïaidd meintiol fel canrannau ar gyfer cymhariaeth haws. Rhoddwyd dadansoddiad
cynnwys byr i’r data ansoddol gan gategoreiddio’r pwyntiau sylweddol fel y
gallai’r data gael ei gyflwyno’n feintiol, ynghyd a dyfyniadau o ddatganiadau cynrychioliadol.
MATERION A CHYFYNGIADAU
Roeddem yn cydnabod y gallai natur sensitif y data gyfyngu'r ymatebion, felly cysylltwyd â’r bobl a ymchwiliwyd ymlaen llaw gan eu sicrhau bod natur y data
yn cael ei werthfawrogi ac y byddai’n cael ei drin yn sensitif ac yn adeiladol.
Roedd cynnwys astudiaethau achos yn cynnig mewnwelediadau dyfnach, fel y gwnaeth casglu sylwadau'r gweithredwyr. Gallai materion yn codi o’r
astudiaethau achos hyn a’r sylwadau roi’r sail ar gyfer ymchwiliadau pellach yn y maes hwn.
Y gobaith yw y bydd hwn hefyd yn cyfrannu at feddylfryd ehangach am y modd
y gallai Cronfeydd Budd Cymunedol yng Nghymru gael eu datblygu ymhellach.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
10
Strwythur yr AdroddiadYng ngweddill yr adroddiad hwn rydym yn:
• Amlinellu’r cyd-destun ar gyfer yr astudiaeth;
• Cyflwyno ein canfyddiadau; a
• Rhoi ein casgliadau a gwneud rhai argymhellion ar gyfer y diwydiant a
gwneuthurwyr polisi.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
11
Cyd-destunGosodir yr adroddiad yn erbyn cefndir o ddarnau mawr diweddar o ddeddfwriaeth (a deddfwriaeth arfaethedig) Llywodraeth Cymru a chynnal yr
Adolygiad Bandio o ran Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.
Mae gan raglen Newid Carbon Isel Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis
Mawrth 2012, nod cyffredinol o sicrhau bod buddsoddiad yn creu swyddi, gan gynorthwyo busnesau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, a sicrhau bod
cymunedau yn elwa o ddatblygiadau ynni drwy sicrhau mai Cymru yw’r ‘gorau yn y dosbarth’. “[Byddwn yn] gweithredu er mwyn sicrhau bod cymunedau yn
elwa o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ac ymdrechu i ddangos esiampl” -
Ynni Cymru: Newid Carbon Isel (Mawrth 2012). “Mae Cymru, fel gweddill y byd, yn gweithio’n galed i wneud y symudiad hwn i ynni cynaliadwy carbon
isel. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud hyn mewn modd sy’n sensitif i anghenion ein cymunedau, yn creu swyddi cynaliadwy lleol ac yn cefnogi
economi ehangach Cymru,” John Griffiths Gweinidog dros yr Amgylchedd1.
Ym mis Gorffennaf 2011 mynegodd Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru 2012-16 ei bwriad i gyflwyno Mesur Datblygu Cynaliadwy i gryfhau
cyfeiriad ‘Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned’ a newid yr ymrwymiad hwn i fod yn ddyletswydd gyfreithiol. Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae
cynaliadwyedd yn ymwneud â diffinio'r llwybr datblygu hirdymor ar gyfer ein
cenedl. Golyga bobl iach gynhyrchiol; cymunedau byw, cynhwysol; amgylchedd amrywiol a gwydn ac economi ddatblygedig a blaengar.”2
Yn ogystal, cydnabu Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gyflwynwyd ym mis Hydref 2010, bwysigrwydd datblygu economaidd mewn
mynd i’r afael â newid hinsawdd: “Rydym am sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa
orau bosibl nid dim ond i greu swyddi newydd a chyfleoedd y gadwyn gyflenwi, ond i fanteisio ar y potensial i allforio ynni, arbenigedd, nwyddau a
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
12
1 http://wales.gov.uk/newsroom/firstminister/2012/120314energyvision/?lang=en
2 http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/sdbill/?lang=en
gwasanaethau i genhedloedd eraill sy’n awyddus i newid i economi carbon
isel.”3
Ar ddiwedd mis Gorffennaf 2012 cyhoeddwyd yr Adolygiad Bandio o ran Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gan Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd4,
sy’n gosod prif fecanwaith y Llywodraeth ar gyfer cefnogi ynni adnewyddadwy graddfa fawr ar gyfer y cyfnod 2013-17. Mae’r Rhwymedigaeth Ynni
Adnewyddadwy yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynyddu defnydd
ynni adnewyddadwy er mwyn gwneud y DU yn fwy ynni sicr, cynorthwyo i ddiogelu defnyddwyr rhag ansefydlogrwydd prisiau tanwydd ffosil, hybu
buddsoddiad mewn swyddi a busnesau newydd yn y sector ynni adnewyddadwy, yn ogystal â chadw’r DU ar y llwybr i fodloni ei amcanion
lleihau carbon ar gyfer y degawdau sydd i ddod (mae’r DU wedi ymrwymo i
gynhyrchu 15% o’n hynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020).
Ar hyn o bryd y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yw’r prif fecanwaith
ariannol drwy ba un y mae’r Llywodraeth yn rhoi cymhelliant i wneud defnydd o gynhyrchu trydan ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Rhoddir cefnogaeth
am 20 mlynedd, sy’n cydbwyso’r angen i roi sicrwydd hirdymor i fuddsoddwyr
gyda’r angen i gadw costau i ddefnyddwyr mor isel â phosibl.
Caiff lefel y gefnogaeth ar gyfer gwynt ar y tir ar gyfer cyfnod yr Adolygiad
Bandio ei leihau i Dystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy 0.9, a warantir tan fis Mawrth 2014. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi gwneud
cais am dystiolaeth, a ddechreuwyd ym mis Medi 2012 ac yn adrodd yn
gynnar yn 2013, a fydd yn ail-asesu costau’r diwydiant gwynt ar y tir. Os bydd canfyddiadau’r cais am dystiolaeth yn nodi newid sylweddol mewn costau
cynhyrchu, bydd y Llywodraeth yn dechrau adolygiad ar unwaith o lefelau Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy gwynt ar y tir, gydag
unrhyw drefniadau cefnogi newydd ar gyfer gwynt ar y tir yn gweithredu o fis
Ebrill 2014. Fel rhan o’r cais am dystiolaeth, byddant yn archwilio sut y gall cymunedau gael mwy o lais mewn, a derbyn rhagor o fudd economaidd o,
gynnal ffermydd gwynt ar y tir.
Mae’r Adolygiad Bandio wedi dechrau canolbwyntio’r ddadl ar lefelau ariannol
cyllido budd cymunedol. Er bod gwerth y taliadau yn sicr yn sylweddol
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
13
3 http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/climatechange/publications/strategy/?lang=en
4 http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/news/wms_ro_lm/wms_ro_lm.aspx
(dyfynna Regeneris, yr ymgynghorwyr ynni adnewyddadwy, bod rhai
datblygwyr yn cynnig swm sy’n gyfwerth â £5 miliwn dros fywyd cynllun
50MW5), mae diffyg eglurder cyffredinol yn parhau ynglŷn â’r diben a’r defnydd mwyaf effeithiol o’r taliadau.
Mae CBC yn ddull unigryw o ddatblygu ystod o fanteision ychwanegol i gymunedau lleol. Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dyfynnu ystod o
resymau am eu canlyniadau cadarnhaol, yn cynnwys rhannu manteision
datblygiadau gyda chymunedau sy’n eu cynnal, mynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol gan gysylltu adnoddau lleol wrth economïau lleol, a sicrhau
cefnogaeth cymunedau lleol6.
Mae protocol budd cymunedol RenewableUK ar gyfer Lloegr yn cynnig
isafswm taliad o £1,000 am bob MW o allu gosodedig, wedi ei fynegrifo i’r
Mynegai Prisiau Manwerthu (ar gyfer cynlluniau dros 5MW). Bwriad gosod yr isafswm ffigwr hwn oedd cynorthwyo i sicrhau bod datblygwyr llai ddim o dan
anfantais o gofio’r wasgfa sy’n cael ei rhoi ar gostau gwynt ar y tir a pherygl gostyngiadau pellach i lefelau Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni
Adnewyddadwy a FIT. Fodd bynnag, gall datblygwyr gynnig symiau mwy
sylweddol na’r isafswm ac mewn gwirionedd mae gwerth y budd dros y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu’n sylweddol gyda £5,000 am bob MW yn
aml yn cael ei gynnig ar gynlluniau gan ddatblygwyr a gweithredwyr sydd â diddordeb brwd mewn llwyddiant cymunedau lleol, sydd mewn sawl achos yn
gyfwerth â rhwng 6-7% o’u costau datblygu. Fel cymhariaeth mae’n werth nodi
bod John Lewis - a berchir fel enghraifft dda o Fudd Cymunedol - yn cyfrannu tua 0.25% o’i drosiant i gynlluniau o’r fath7.
Yn erbyn y cefndir hwn mae posibilrwydd bod angen rhagor o wybodaeth ar ddatblygwyr, ac yn wir cymunedau, fel y gallant edrych ar ystod o ffyrdd drwy
ba rai y gall budd cymunedol gael ei drafod, ei weinyddu a’i ddosbarthu gan
wneud yr holl bartïon yn fwy abl i ddatblygu'r fframwaith gorau posibl ar gyfer prosiectau newydd ledled Cymru, ynghyd â sylweddoliad gan wneuthurwyr
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
14
5 http://regeneris.co.uk/latest/blog/entry/money-on-the-wind-the-future-of-wind-farm-community-benefits
6 http://www.jrf.org.uk/publications/wind-energy-disadvantaged-communities
7 http://www.johnlewispartnership.co.uk/content/dam/cws/pdfs/financials/interim%20reports/john_lewis_partnership_interim_report_2012.pdf
polisi, Awdurdodau Lleol a chymunedau lleol o’r cyfyngiadau ariannol y mae
datblygwyr yn eu hwynebu o gofio cost rhoi’r cynlluniau ar waith.
Nod yr adroddiad hwn yw gwella gwybodaeth am fudd cymunedol yng Nghymru. Er bod cymunedau, fel y nodwyd uchod, yn dod yn fwy ymwybodol
o CBC a’u heffaith posibl, mae hefyd rôl bwysig i ddatblygiadau presennol lywio arfer gorau rhai'r dyfodol (yn cynnwys nodi ffactorau lleol a all, am
resymau da, beri gwahaniaethau yng ngweithrediad gwahanol CBC). Mae’r
ysbryd mwy agored hwn wedi, er enghraifft, cael ei amlygu fel cam pwysig gan Lywodraeth yr Alban8, gan arwain at gyflwyno cronfa data ar gyfer taliadau yn
yr Alban. O’r pwysigrwydd pennaf, fodd bynnag, mae'r angen am wybodaeth o ansawdd da am y modd y caiff budd cymunedol ei ddefnyddio a’i reoli a’r
effaith mae’n ei gael ar gyfer cymunedau lleol. Mae angen i ddatblygwyr,
cymunedau a rhanddeiliaid eraill ddysgu gan y dystiolaeth hon.
Mae’n bwysig deall y modd y defnyddir adnoddau Cronfeydd Budd Cymunedol
ac i ofyn cwestiynau ynglŷn ag a ellid eu dyrannu mewn modd mwy strategol. Hyd yn oed os yw llawer ohonynt yn ymateb i anghenion penodol a lleol iawn,
efallai y gellir eu gwario’n well mewn cyd-destun economaidd gymdeithasol
cyffredinol yn ôl y cymunedau a wasanaethir ganddynt (gweler y siart ar y dudalen nesaf) drwy, er enghraifft, ddefnyddio'r ariannu i ysgogi arian o
ffrydiau ariannu eraill (e.e. Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru ac ati). Efallai hefyd bod marciau cwestiwn ynghylch pa faint o ymwybyddiaeth
sydd gan rai o’r cronfeydd eu hunain o gyfleoedd o’r fath, a allai o bosibl roi
manteision mwy a mwy parhaol.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
15
8 http://www.scotland.gov.uk/Topics/Business-Industry/Energy/Energy-sources/19185/Communities
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
16
CanfyddiadauCyfanswm nifer yr ymatebion i’r astudiaeth oedd 21 allan o 37 posibl, a oedd yn cyfateb i gyfradd ymateb o 56%. O’r rhai hynny na wnaeth ymateb, mae
llawer ar ben is y raddfa o ran cyfraniadau i Gronfeydd Budd Cymunedol er bod llawer o ffermydd gwynt mwy eu maint yn cael eu gweithredu gan, neu’n
eiddo i, sefydliadau ariannol mawr (er enghraifft, cronfeydd mantoli neu
gronfeydd ecwiti preifat) sy’n gwneud casglu gwybodaeth yn anodd.
Mae’n bwysig cydnabod bod RenewableUK Cymru yn sefydliad sy’n cael ei
arwain gan yr aelodau, sy’n adeiladau consensws ymhlith rhanddeiliaid ac yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol. Fel y cyfryw mae gan y
sefydliad enw da o fewn y diwydiant sy’n rhoi lefel mynediad pellgyrhaeddol i’r
rhai hynny sy’n gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy o ddydd i ddydd. Darparwyd gwybodaeth fanwl gan y rhan fwyaf o’r aelodaeth, tra roedd y rhai
hynny heb gysylltiad â RenewableUK ar lefel aelodaeth (h.y. sefydliadau ariannol) yn llai tebyg o ymateb. Gellir gweld rhestr lawn manylion yr
ymatebwyr yn Atodiad 1.
O’r rhai a wnaeth ymateb, dengys y tabl canlynol y math o ddatblygiad sy’n cyfranogi ac a yw’n cyfrannu i CBC:
Enw’r fferm wynt
Gallu Oed y fferm wynt
Gweithredu cynllun CBC?
Alltwalis 23MW 2 flynedd Ydy
Wern Ddu 9.2MW 2 flynedd Ydy
Hafoty Ucha 3.15 MW 8 mlynedd Ydy
Vestas 575kW 9 mlynedd Ydy
Nordtank 575kW 4 blynedd Ydy
Carno II 15.6 MW 3 blynedd Ydy
Llandinam 30MW 20 mlynedd Ydy
Bryn Titli 9.9MW 18 mlynedd Ydy
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
17
Carno 33.6MW 16 mlynedd Ydy
Ffynnon Oer 33MW 6 mlynedd Ydy
Llyn Alaw 20.4MW 15 mlynedd Ydy
Maesgwyn 26MW 18 mis Ydy
Mynydd Gorddu 10.2MW 14 mlynedd Ydy
Trysglwyn 5.6MW 14 mlynedd Ydy
Taf Elai 9MW 19 mlynedd Ydy
Cefn Croes 58.5 MW 8 mlynedd Ydy
Rhyd-Y-Groes 7.2MW 20 mlynedd Na
Moel Moelogan 11.7MW 4 blynedd Ydy
Castle Pill 3.2MW 3 blynedd Na
Ferndale 6.4MW 2 flynedd Na
Dyffryn Brodyn 5.5MW 18 mlynedd Na
Fel y gallwn weld o’r tabl uchod mae’r mwyafrif llethol o’r datblygiadau
ffermydd gwynt (80%) yn cyfrannu i CBC:
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
18
20%
80%
Faint o ffermydd gwynt sy’n gweithredu Cronfa neu gynllun Budd Cymunedol?
NaYdy
“Mae ein system yn gweithio’n eithaf da oherwydd, yn dechnegol, trefniant ‘perchnogaeth’ ydyw gyda rhannu elw yn hytrach na thaliad ‘budd’ gan ddatblygwr. Fodd bynnag, pwyllgor gwirfoddol ydym ac mae’n anodd rhedeg y busnes.
Credwn y dylai fod mwy o berchnogaeth nag sydd ar hyn o bryd, ac y dylai pob datblygwr sefydlu
mecanweithiau ar gyfer rhan berchnogaeth lleol fel y gall cymunedau ddod yn fuddiolwyr uniongyrchol a gwella eu profiad o gael ffermydd gwynt gerllaw.
Rydym hefyd o’r farn y dylai cronfeydd budd gael eu targedu gan gymunedau ar fesurau gwytnwch ynni lleol a charbon isel / effeithlonrwydd ynni, ynghyd â gweithgareddau adfywio. Mae angen gwneud llawer iawn mwy o waith i feithrin ein hymwybyddiaeth ar gyfer newidiadau sylweddol i’n defnydd o ynni ac o lle y gallwn ei gael os ydym i roi ystyriaeth ddifrifol i fynd i’r afael â newid hinsawdd a gweithredu gydag argyhoeddiad.”
Michael Phillips, Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi
ASTUDIAETH ACHOS UN
Cynllun Disgownt Trydan Lleol
Mae Cynllun Disgownt Trydan Lleol (LEDS)9 yn fenter RES newydd sy’n ceisio rhoi budd uniongyrchol a gwirioneddol i bobl sy’n byw ac yn gweithio agosaf at eu ffermydd gwynt arfaethedig.
Caiff LEDS ei gynnig fel budd ychwanegol i Gronfeydd Budd Cymunedol, sydd yn ei safleoedd newydd yn darparu cyfraniad blynyddol o £2,000 y megawatt (MW) i gymunedau lleol. Cynigir bod cyfanswm taliadau LEDS am safle yn £3,000 y MW y flwyddyn. Os yw LEDS yn costio llai na £3,000 y MW y flwyddyn yna caiff y gwahaniaeth ei ychwanegu at y Gronfa Budd Cymunedol gan olygu cyfanswm budd cymunedol gwerth £5,000 y MW y flwyddyn.
O dan y fenter LEDS a gynigir bydd yr eiddo preswyl, cymunedol a busnes hynny sydd agosaf at fferm wynt LEDS arfaethedig i gyd yn derbyn isafswm disgownt o £100 y flwyddyn ar eu biliau trydan, a gaiff ei dalu’n uniongyrchol i’w cyflenwr trydan. Mae’r isafswm hwn yn cynrychioli bron i chwarter bil trydan blynyddol cyfartalog yn y DU (£453 yn 2011 ar sail y ffigurau diweddaraf i gael eu rhyddhau gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, 29 Mawrth 2012). Byddai taliadau yn dechrau unwaith y byddai’r fferm wynt yn dechrau gweithio.
Bydd yr union ardal a nifer yr adeiladau sy’n gymwys ar gyfer cynllun LEDS yn amrywio o safle i safle, gan roi ystyriaeth i ffactorau megis nifer a gallu'r tyrbinau gwynt a gynigir a’r dwysedd tai o amgylch y fferm wynt.
Cyfrifir y dalgylch ar gyfer cynllun LEDS RES drwy bellter llinell syth - y Pellter Gosodedig - o bob tyrbin gwynt (a osodir i ddechrau yn 3 cilomedr) a nodi'r holl ffiniau
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
19
9 http://www.thisissouthwales.co.uk/Windfarm-plan-brings-benefits/story-16745570-detail/story.html
daearyddol cod post (fel y’u diffinnir gan yr Arolwg Ordnans) gydag eiddo ar neu o fewn y Pellter Gosodedig hwn er mwyn creu'r Ardal Gymwys. Gall y Pellter Gosodedig gael ei gynyddu neu ei leihau i sicrhau bod yr eiddo sydd o fewn yr Ardal Gymwys derfynol yn derbyn disgownt sydd o leiaf yn £100 y flwyddyn.
LEDS ym Mryn Llywelyn
Cyflwynodd RES ei gynllun LEDS cyntaf ar ei safle arfaethedig ym Mryn Llywelyn, Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn dilyn ymgynghori cychwynnol gyda’r gymuned leol o amgylch safle Bryn Llywelyn a ddangosodd bod bron i 80% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r syniad o drydan a ddisgowntir a bron i 85% â diddordeb mewn cyfranogi mewn cynllun o’r fath. Os bydd LEDS yn llwyddiannus ym Mryn Llywelyn rhagwelir y gallai gael ei lansio mewn ffermydd gwynt RES eraill a ddatblygir yn ddiweddarach yn 2012.
Bydd LEDS ym Mryn Llywelyn yn darparu disgownt blynyddol ar gyfer biliau trydan adeiladau sy’n agos i fferm wynt arfaethedig RES, os daw’n weithredol. Mae’r cynllun yn agored i bob adeilad preswyl, masnachol a chymunedol (gan gynnwys ysgolion, eglwysi a neuaddau pentref) o fewn yr ardal sy’n gymwys sydd â mesurydd trydan. Caiff disgownt blynyddol gwerth £225 ei roi wrth fil trydan pob eiddo, wedi ei dalu’n uniongyrchol i’w cyflenwyr trydan, unwaith y bydd y fferm wynt ar waith. Yn ogystal, mae LEDS yn cynnig Cronfa Budd Cymunedol o bron i £100,000 y flwyddyn a fydd yn cefnogi grwpiau a mentrau lleol.
Mae RES wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at bob eiddo sy’n gymwys yn cynnig y cyfle iddynt gofrestru diddordeb mewn ymuno â’r cynllun disgownt. Ym Mryn Llywelyn mae’r disgownt ar gael i bob eiddo o fewn tair cilomedr a hanner i bob tyrbin gwynt arfaethedig. Bydd y disgownt ar gael i bob eiddo o fewn yr ardal sy’n gymwys, waeth beth fo barn y bobl am y fferm wynt a fwriedir. Fodd bynnag, caiff y disgownt dim ond ei weithredu os caiff y fferm wynt ei chymeradwyo a’i chodi.
Bydd y disgownt blynyddol yn gymwys unwaith y bydd y fferm wynt yn llwyr weithredol, a allai gymryd rhwng dwy a phedair blynedd o roi’r caniatâd cynllunio. Caiff ei dalu dros fywyd llawn y tyrbinau neu am gyhyd ag y bydd pobl yn byw o fewn yr ardal gymwys.
Mae sawl ffordd y gall trigolion gofrestru eu diddordeb yn LEDS ym Mryn Llywelyn a, thrwy ddefnyddio'r Cod Cyfeirnod Unigryw sydd mewn llythyr a anfonir at bob un, gallant naill ai gysylltu drwy’r post, ffon, e-bost neu ar-lein. Telir y disgownt yn ôl eiddo yn unig ac felly dim ond un person ym mhob eiddo sydd angen cofrestru.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
20
Endidau a gyflogir i weinyddu’r CBCMae trafodaethau budd cymunedol yn aml yn deillio ar daliadau ariannol blynyddol i gymunedau drwy gydol bywyd cynllun ynni adnewyddadwy. Mae
hyn yn cynnig cyfle sylweddol i gymuned gynllunio ar gyfer, a datblygu mentrau cymunedol a allai fod o fudd hirdymor, parhaol. Mae hefyd yn codi
nifer o ystyriaethau sydd angen mynd i’r afael â hwy:
• Sefydlu gweledigaeth ar gyfer y gronfa a chynnwys y gymuned gyfan mewn gwneud penderfyniadau: Sut y bydd holl sectorau’r gymuned yn cael y cyfle
i benderfynu ar y ffordd y caiff cronfeydd budd cymunedol eu defnyddio a’u rheoli? Mae angen i rai elfennau allweddol o ddibenion, trefn a gweithrediad
y gronfa fod yn dderbyniol i’r gymuned yn gyffredinol a dylid penderfynu hyn
drwy ymgynghoriad cymunedol priodol.
• Dewis endid cyfreithiol - h.y. pwy yn hollol sy’n derbyn y taliad? Ai'r Cyngor
Cymuned, Ymddiriedolaeth, Fforwm, cwmni neu grŵp llywio lleol? A ddylai fod yn endid cyfreithiol penodol, wedi ei sefydlu i dderbyn taliad a
gweithredu'r cyfrifoldeb sy’n perthyn i fod yn berchen ar gronfeydd, ac os
felly, pa fath o endid cyfreithiol ddylai fod?
• Rheoli cronfeydd budd cymunedol - h.y. beth sy’n digwydd i’r arian pan gaiff
ei dderbyn? Beth a wna’r endid hwn â’r arian? Beth yw ei amcanion? A ddylai’r amcanion fod yn gwbl elusennol eu natur? Beth yw’r goblygiadau o
ran treth? A ellir osgoi treth?
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
21
Yn gyffredinol, mae tua 34 endid yn elwa o gyfraniadau’r ymatebwyr:
O’r diagram uchod gellir gweld mai endidau megis sefydliadau ac
ymddiriedolaethau - ar y cyd â chynghorau tref a chynghorau cymuned - yw’r
cyfryngau o ddewis ar gyfer CBC. Mantais ymddiriedolaethau a sefydliadau yw y gellir eu sefydlu i fod yn sefydliadau a arweinir gan y gymuned, yn aml wedi
eu rheoli gan fwrdd o ymddiriedolwyr neu grŵp llywio ac maent yn agored o ran eu gweinyddu, a gallant ymgorffori arsylwyr o awdurdodau lleol a
gweithredwyr ffermydd gwynt. Fel arfer maent yn darparu rhyw gymaint o fudd
economaidd, amgylcheddol, addysgol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i bobl sy’n byw yn yr ardal.
Mae dau brif fodel ar gyfer Endid Cyfreithiol cysylltiedig â Chyngor Tref neu Gyngor Cymuned sydd yn cael eu hystyried yn fwyaf cyffredin ar gyfer
gweinyddu cronfeydd budd cymunedol:
• Cwmni wedi ei ymgorffori o dan y Ddeddf Cwmnïau gydag atebolrwydd cyfyngedig, lle mae’r cyfyngiad o ran atebolrwydd trwy Warant, a lle mae
Aelodau’r Cwmni bob un yn ymgymryd i dalu ar ddyddiad penodol, neu ar adeg digwyddiad penodol (fel arfer dirwyn y Cwmni i ben), swm i fyny hyd at
swm penodedig (fel arfer £1) fel gall fod ei angen i setlo unrhyw ddyledion
sydd heb eu talu gan y cwmni. Bydd Cwmnïau Gwarant o’r fath yn aml, ond nid bob tro, yn cael eu defnyddio ar gyfer dibenion elusennol.
Sefydliadau/Ymddiriedolaethau/Fforymau Cynghorau Tref/CymunedProsiectau Cymunedol Lleol (uniongyrchol) Cyfraniadau Unwaith yn unigElusennau Mentrau CymdeithasolCwmnïau Preifat Awdurdod Lleol
0
5
10
15
Endidau
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
22
• Ymddiriedolaeth Gymunedol Leol a sefydlir gan y gymuned leol i’r diben o
dderbyn, gweinyddu a dyrannu cronfeydd ar ran y gymuned drwy
ymddiriedolwyr a benodwyd gan y gymuned.
Gall dryswch godi weithiau gan y cyfeirir at y ddau fodel fel
“ymddiriedolaethau”, er mai dim ond yr ail fodel sy’n ymddiriedolaeth mewn ystyr cyfreithiol. Er bod iddo statws cyfreithiol ar wahân i Ymddiriedolaeth,
bydd cymunedau sy’n mabwysiadu'r model Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yn
aml yn enwi'r sefydliad yn “Ymddiriedolaeth Cymunedol [Lleol]” - sy’n egluro’r dryswch.
Sianelau cyfrannu nodedig eraill yw cynllun Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi (cwmni ynni cymunedol cydweithredol a gofrestrwyd o dan y Deddfau
Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus) drwy ddifidend rhannu llog a
chyfraniad yn y drefn honno (gan weithredwr y Datblygiad BDCR II); cyfraniadau a wneir yn ôl disgresiwn y gweithredwr (fel ag yn achos Hafoty
Ucha); a thrwy elusen rhoi grantiau proffesiynol (h.y. datblygiad Taf Elai sy’n gwneud cyfraniadau drwy Sefydliad Cymunedol yng Nghymru).
““Caiff cronfeydd eu cymhwyso er budd trigolion y cymunedau. Dylai’r cronfeydd anelu at hyrwyddo
ysbryd cymunedol a dod â phobl at ei gilydd; gwella ansawdd bywyd a hyrwyddo lles pobl; a meithrin cymunedau bywiog, cynaliadwy. Ni ddylai’r cronfeydd gael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddol,
crefyddol, adloniant na lletygarwch, nac ar gyfer unrhyw ddiben sy’n niweidiol i fudd gweithredwr y fferm
wynt. Rydym yn awyddus bod y cronfeydd yn cael eu defnyddio i sicrhau grantiau a chronfeydd eraill ar batrwm ariannu cyfatebol, gan ganiatáu i’r gymuned sicrhau'r budd mwyaf o gyfraniadau ffermydd gwynt.”
Monika Paplaczyk, Triodos Renewables (Wern Ddu) Cyf
ASTUDIAETH ACHOS DAU
Windfall
Mae Windfall (a elwir yn swyddogol yn Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru) yn casglu cyfran o’r refeniw a geir o gynhyrchu ynni yng Nghanolbarth Cymru ac yn ei ail ddosbarthu ymhlith cymunedau lleol. Cynigir yr arian hwn fel grantiau ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy i gymunedau ledled Canolbarth Cymru. Ategir yr incwm sylfaenol gydag incwm gan weithredwyr tirlenwi,
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
23
drwy’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi, i fanteisio i’r eithaf ar allu ariannol y cynllun. Mae Windfall yn gwmni dim er elw a sefydlwyd yn benodol i gyflawni’r nodau hyn.
Wedi ei sbarduno gan arian gan npower renewables ac ENTRUST, sicrhaodd Windfall £104,000 ar gyfer ei brosiectau cyntaf yn 2005. O ganlyniad, mae cymunedau Carno a Threfeglwys yn mwynhau manteision systemau ynni adnewyddadwy megis ynni pren a ffotofoltäig. Mae rhaglenni addysgiadol hefyd wedi bod yn rhan o’r cynllun hwn.
Gan adeiladau ar y llwyddiant hwn, mae Windfall yn bwriadu ymestyn ei waith i roi manteision i gymunedau eraill ledled Canolbarth Cymru. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn cydnabod gwerth Cronfeydd lleol gyda meini prawf budd cymunedol eang iawn, mae’n cynnig ei hun i gynhyrchwyr ynni presennol a darpar gynhyrchwyr fel y cyfrwng i ategu’r rhain, drwy ddarparu budd carbon isel o ynni adnewyddadwy drwy weithredu cymunedol.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
24
Dulliau CyfrannuRoedd pedwar dull talu clir i gyd, gyda thua 32 sianel taliadau, a oedd fel a ganlyn: (1); yn ôl y MW a osodwyd (6); taliadau penodedig (24); ac mewn
nwyddau (1):
Taliadau penodedig yw’r mathau mwyaf cyffredin o gyfraniadau, ac mae’r
symiau a ddyfynnwyd fel â ganlyn:
Fferm Wynt Lefel sylfaen taliad / i ba endid
Lefel taliad gwirioneddol (2011)
Alltwalis £75,000 y flwyddyn wedi’i fynegrifo / Cronfa
Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt
Alltwalis
£78,600
BDCR II 5-10% o’r elw / Ecodyfi Ni ddatgelwyd
Bryn Titli £2,500 / Cyngor Tref
£2,500 / Cyngor Cymuned
£3,530.38
£3,530.38
0 10 20 30
% o’r elw
Fesul MW a osodwyd
Taliadau penodedig
Mewn nwyddau
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
25
Carno 2 £2,000 am bob MW a osodwyd, y flwyddyn
wedi’i fynegrifo / Cronfa Ymddiriedolaeth
Gymunedol Carno
£2,000 am bob MW a osodwyd, y flwyddyn
wedi’i fynegrifo / Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol Leol
Llanbrynmair
£2,000 am bob MW a osodwyd, y flwyddyn
wedi’i fynegrifo / Cronfa Ynni Cymunedol
Canolbarth Cymru (Windfall)
£6,000
£6,000
£20,000
Carno 'A' a 'B' £12,000 / Cyngor Cymuned Carno
£18,156.08
Cefn Croes £1000 am bob MW, wedi’i fynegrifo /
Ymddiriedolaeth Gymunedol Cefn Croes
£72,240
Ffynnon Oer £22,000 / Fforwm Afan Uchaf
£25,978.84
Hafoty Ucha £1k am bob MW a osodwyd / Gwneir cyfraniadau yn ôl
disgresiwn y perchennog
£4,000
Llandinam P & L £5,000 / Celtpower Cyf
£20,000 / Ymddiriedolaeth Gymunedol Llandinam
£5,000
£20,000
Llyn Alaw £16,000 / Cyngor Cymuned Tref Alaw
£4,000 / Cyngor Cymuned Llannerchymedd
£4,000 / Cyngor Cymuned Mechell
£2,000 / Sefydliad Cymunedol Cymru
£23,059.10
£5,776.98
£5,776.98
£2,000
Maesgwyn £175,000 y flwyddyn / Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
£175,000
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
26
Estyniad Moel Maelogen £50k y flwyddyn x 3 blynedd / Clwb Rygbi
Nant Conwy
£50k y flwyddyn x 2 flynedd / Menter Wledig
Dyffryn Conwy
£7.5k y flwyddyn am hyd bywyd (mynegedig) / Cyngor Cymuned Bro
Garmon
£7.5k y flwyddyn am hyd bywyd (mynegedig) / Cyngor Cymuned Bro
Cernyw
£50,000
£50,000
£7,500
£7,500
Mynydd Gorddu £10,000 / Amgen £14,670.38
Taf Elai £2,500 / Sefydliad Cymunedol Cymru
£2,500
Trysglwyn £5,000 / Cyngor Cymuned Rhosybol
£7,035.18
Wern Ddu (Craig Lelo) £3,333 / Cyngor Cymuned Derwen
£3,333
£3,333
£3,333
£3,333
£3,333
Cyfanswm y symiau a ddatgelwyd a ddyfarnwyd yn 2011 oedd £623,853.30.
““Maent yn gweithio’n dda hyd rhyw bwynt. Adeiledir y mwyafrif o ffermydd gwynt mewn ardaloedd gwledig lle
mae cyflogaeth yn broblem. Mae angen i ni ddenu diwydiannau i ardaloedd gwledig fel ein bod yn gallu cadw pobl ifanc yn yr ardal. Os rhoddir arian i bobl leol i osod dyfeisiau arbed ynni, megis systemau
adennill gwres, pympiau gwres ac ati, efallai y gallem ddenu cwmni sy’n gwneud y math yma o offer i sefydlu yn
yr ardal. Gall taflu symiau mawr o arian at gymunedau gael effaith andwyol a dylid ei osgoi ar bob cyfrif. Hefyd, yr unig beth wnaiff yr arian yw disodli ariannu a ddarparwyd yn flaenorol gan y cynghorau a Llywodraeth Cymru sy’n golygu nad oes yn rhaid iddynt gyfrannu, yn enwedig pan nad yw’r diwydiant gwynt yn cael llawer o gefnogaeth ganddynt hwy!”
Huw Smallwood, Tegni Cyf
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
27
ASTUDIAETH ACHOS TRI
Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedol Fferm Wynt Cefn Croes
Ymddiriedolaeth Elusennol a ariennir gan Ynni Gwynt Cambrian a anelir at sefydliadau bach a arweinir gan y gymuned yw Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol Fferm Wynt Cefn Croes. Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau yn Ardaloedd Cynghorau Cymuned Blaenrheidol a Phontarfynach ac yna i ardal ehangach Sir Ceredigion. Rheolir y gronfa gan fwrdd o bump Ymddiriedolwr yn cynrychioli Ynni Gwynt Cambrian a Chymunedau Blaenrheidol a Phontarfynach.
Diben yr Ymddiriedolaeth yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy’n cynnwys pobl leol, drwy sefydliadau cymunedol bach sydd o fudd i’w cymuned. Rhaid i’r gweithgareddau ddarparu rhywfaint o fudd economaidd, amgylcheddol, addysgol, cymdeithasol neu ddiwylliannol ar gyfer pobl sy’n byw yn yr ardal. Bydd Ynni Gwynt Cambrian yn talu £58,500 yn ogystal â chwyddiant yn flynyddol i Gronfa’r Ymddiriedolaeth tra bydd fferm wynt Cefn Croes yn gweithredu.
Er mwyn gwneud cais am ariannu mae’n rhaid i brosiectau fynd drwy weithdrefn o wneud cais. Mae’r ddogfennaeth berthnasol i’w chael ar-lein, sy’n cynnwys copi llawn o’r canllawiau gwneud cais10; copi o’r ffurflen gais11; copi o adroddiad Diwedd Prosiect y gronfa, a ddefnyddir at ddibenion gwerthuso12. Ceir hefyd grynodeb manwl o’r cronfeydd a ddyrannwyd hyd yma er mwyn gweld y math o gynlluniau a gefnogir13.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
28
10 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/Cefn_Croes_Application_Guidelines_Jan10.pdf
11 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/Cefn_croes_Trust_Fund_Application_Jan10.pdf
12 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/assets/File/CefnCroesendofproject.pdf
13 http://ponterwyd.pumlumon.org.uk/index.php?lang=eng&page=104
Cofrestr o CBC ffermydd gwynt yng NghymruFel rhan o Gynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy (CARES) Llywodraeth yr Alban, mae Ynni Cymunedol yr Alban yn gweinyddu Cofrestr Llywodraeth yr
Alban ar Fudd Cymunedol o Ynni Adnewyddadwy. Mae hwn yn offeryn gwerthfawr i gynorthwyo cymunedau drwy’r proses budd cymunedol. Drwy
ddangos yr ystod o ffyrdd y gall budd cymunedol gael ei drafod, ei weinyddu
a’i ddyrannu, mae Llywodraeth yr Alban yn gobeithio y bydd gan gymunedau a datblygwyr adnoddau da i ddatblygu'r fframwaith gorau posibl ar gyfer
prosiectau adnewyddadwy newydd ledled yr Alban.
Mae’r Gofrestr yn manylu ar wariant y gronfa ac yn darparu syniadau a
chyngor ar gyfer cymunedau sy’n dymuno sicrhau y caiff eu cronfeydd eu
gwario’n ddoeth. Gall unrhyw un gyrchu’r gronfa ddata14 a darganfod beth sy’n digwydd ledled yr Alban, ac mae hyn yn annog tryloywder y cynlluniau a
rhannu syniadau a phrofiadau. Bydd Ynni Cymunedol yr Alban hefyd yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn gweld beth sy’n digwydd yn y maes. Mae’r
gofrestr yn wirfoddol ac yn dibynnu ar fod cymunedau a datblygwyr yn rhannu
eu profiadau a’r gwersi a ddysgwyd. Anogir darparwyr cronfeydd budd cymunedol i lenwi’r ffurflen berthnasol15.
Ar y dudalen ganlynol ceir sgrinluniau yn dangos lefel nodweddiadol y wybodaeth sydd ar gael.
Cafodd man cychwyn sylfaenol ar gyfer y math hwn o wybodaeth ynglŷn â
chofrestr o gronfeydd budd cymunedol ffermydd gwynt yng Nghymru, yn manylu ar werth y gronfa a’r trefniadau gweinyddol, ei pharatoi o’r ymatebion
i’r astudiaeth hon.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
29
14 http://www.communityenergyscotland.org.uk/register
15 http://www.communitybenefitregister.org.uk/form.aspx?formtype=1
“Cwmni lleol yw Amegni a sefydlwyd gan ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio ac sy’n byw yn y gymuned leol.
Rydym yn berchen ar ac yn gweithredu fferm wynt 15.6MW a’n nod hirdymor yw i gynnal ac i gadw'r budd o’r prosiect yn lleol - felly credwn fod perchnogaeth leol fel hyn yn fath o fudd cymunedol
yn ei hawl ei hun (ond anaml y cydnabyddir hynny!). Fel cwmni lleol gofynnir i ni’n barhaus i noddi a chyfrannu
at wahanol ddigwyddiadau cymunedol, prosiectau a chynorthwyo i ariannu sefydliadau y byddwn yn ei wneud yn gyson uwchlaw'r taliadau ffurfiol a wneir.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
30
Mae’n anffodus ac yn afresymol dim ond i dargedu budd cymunedol ar ffermydd gwynt gan nad oes fawr ddim diwydiannau eraill yn gwneud cyfraniadau i’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Fel cwmni lleol rydym serch hynny yn gweld y gymuned leol yn gefnogol iawn i’r fferm wynt ac i’n cwmni ni - mae hyn yn rhannol yn fwy na thebyg oherwydd y ffaith ein bod yn gwmni lleol ond yn fwy na hynny am eu bod hwy yn cael rhannu’r manteision gyda ni.”
Sion Thomas, Amegni
ASTUDIAETH ACHOS PEDWAR
Enghraifft o Wynt ar y Môr: Pecyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl
Mewn cydweithrediad â Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl sefydlwyd cronfa gymunedol i gynorthwyo prosiectau cymunedol lleol mewn wardiau sy’n cyffinio â’r fferm wynt. Dechreuodd y gronfa flynyddol ar lefel sylfaen o £90,000, caiff ei mynegrifo bob blwyddyn yn unol â chwyddiant a bydd ar gael dros fywyd gweithredol y fferm wynt.
Er mwyn rhoi’r budd mwyaf i gymunedau lleol, mae npower renewables RWE wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu trefniant gweinyddol ar gyfer y gronfa hon sy’n rhoi mynediad haws i gymunedau lleol at ddewisiadau ariannu ehangach drwy un ffurflen gais syml.
Yn dibynnu ar lle mae’r grwpiau cymunedol wedi eu lleoli, gallant fod yn gymwys i gyrchu arian gan Becyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl a Chronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan ddefnyddio’r un ffurflen gais mewn rhai achosion. Gyda’i gilydd mae hyn yn rhoi mynediad i grwpiau at gronfa gyfun gwerth £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi elfennau cyfalaf a refeniw prosiectau. Mae gan Grwpiau yn y Rhyl fynediad at Gronfeydd Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl a North Hoyle a weinyddir gan yr un sefydliad, Partneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych.
• Lefel sylfaen y gronfa flynyddol yw £90,000 y flwyddyn dros fywyd gweithredol y fferm wynt, a ddisgwylir i fod tua 25 mlynedd.
• Caiff y Gronfa ei mynegrifo bob blwyddyn yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu.• Caiff £75,000 y flwyddyn ei neilltuo ar gyfer y wardiau canlynol yng Nghonwy:
Pensarn, Colwyn, Eirias, Gele, Glyn, Bae Cinmel, Llanddulas, Llandrillo yn Rhos, Llysfaen, Mochdre, Pentre Mawr, Rhiw a Thowyn.
• Caiff £15,000 y flwyddyn ei neilltuo ar gyfer y Rhyl.• Caiff cronfa prosiectau cyfalaf a/neu refeniw y cynllun eu rhedeg gan elusennau,
grwpiau cymunedol a grwpiau gwirfoddol.
Gweinyddiaeth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt ar y Tir Gwastadeddau y Rhyl
Gweinyddir rhan Conwy o’r gronfa ochr yn ochr â Chronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru bresennol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y trefniadau hyn yn bodoli dros fywyd y Gronfa Cydlyniant Cymunedol. Eu nod yw cytuno ar strwythur weinyddol briodol i gymryd yr awenau ar ddiwedd cyfnod Cronfa Cydlyniant Cymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru am weddill bywyd gweithredol y fferm wynt.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
31
Gweinyddir rhan y Rhyl o’r gronfa gan Bartneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych - gweinyddwyr cyfredol y Gronfa Gymunedol sy’n bodoli’n barod mewn cydweithrediad â Fferm Wynt ar y Môr North Hoyle. Caiff penderfyniadau ynglŷn â sut y caiff yr ariannu ei dyrannu ei wneud gan Bartneriaeth Gymunedol y Rhyl, grŵp a gyfansoddwyd yn llawn sy’n cynnwys gwirfoddolwyr lleol, yn cynrychioli’r cyngor tref, y sector gwirfoddol, y gymuned fusnes leol, cymdeithasau trigolion a’r heddlu.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
32
Sylwadau ychwanegolDyma’r sylwadau ychwanegol a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth:
“Ar hyn o bryd rydym yn darparu dros £1.4 miliwn y flwyddyn o fudd cymunedol ar draws ein portffolio o brosiectau
adeiladau a gweithredol yn y DU.
Caiff ein budd cymunedol ei weinyddu gan amrywiaeth o ymddiriedolaethau, cwmnïau a diddordebau cymunedol,
mentrau adfywio cymdeithasol ac awdurdodau lleol. Ein model arfer gorau o’n portffolio lles cymunedol yw un lle
mae cymunedau wedi creu cwmni diddordeb cymunedol ardal-benodol ac yn gweinyddu’r cronfeydd yn uniongyrchol eu hunain. Mae
hyn wedi arwain at nodi a chyflawni prosiectau adfywio sylweddol er lles y Rhanbarth, nid dim ond cymunedau penodol. Mae mewnbwn gan y datblygwr ar y dechrau ac ymgysylltu rheolaidd yn hanfodol i sicrhau bod meini prawf yr ariannu yn unol â gofynion y ddau barti.
Mae trydydd parti i ddarparu ysgrifenyddiaeth a chymorth gyda gweinyddu cyffredinol ac adrodd hefyd yn hanfodol i sicrhau nid yn unig y cedwir at y meini prawf ond hefyd er mwyn cynorthwyo i wireddu prosiectau mawr a allai fod ar gael drwy ariannu cyfatebol y Budd Cymunedol gyda ffrydiau ariannu perthnasol eraill, ac ati.
Efallai y byddai grŵp wedi ei rymuso o gymunedau sy’n amgylchynu safleoedd gwynt ar y tir sy’n derbyn Budd Cymunedol angen cyfnod dechreuol rhwng un neu ddwy flynedd i fynd i’r afael â phryderon cymunedol ‘normal’ e.e. cynnal a chadw neuadd bentref ac ati, ond dangosodd ein profiad y bydd yr un cymunedau, o gael y gefnogaeth iawn, hefyd mewn byr o dro yn dechrau creu a gweithredu Prosiectau economaidd ac amgylcheddol strategol ar gyfer eu hardal ehangach.”
Daniel Ferrier, Celtpower Cyf (Scotish Power Renewables ac Eurus Energy)
“Elfennau o’r cronfeydd budd cymunedol sy’n gweithio’n dda:Hyd yn hyn gall lefelau cymharol fach o ariannu gael effaith
gadarnhaol sylweddol ar yr ardal leol agos;Ymgysylltu cynrychiolwyr lleol mewn gwneud penderfyniadau - gan rymuso pobl leol i gael rhagor o reolaeth dros eu tynged eu hunain;
Mae trefniadau ariannu at y diben wedi eu teilwra i gymunedau unigol;
Partneriaeth arloesol gyda Llywodraeth Cymru - ariannu cymunedol ffermydd gwynt wedi ei weinyddu ochr yn ochr ag ariannu
ardaloedd adfywio Llywodraeth Cymru, 2 gronfa - 1 ffurflen gais syml, gall cronfeydd gyfateb ei gilydd, gall ariannu ffermydd gwynt ariannu prosiectau refeniw sydd wedi eu heithrio o ariannu Llywodraeth Cymru.
Dewisiadau amgen ar gyfer y dyfodol:Rydym yn ymdrechu’n gyson i wella ein darpariaeth budd cymunedol ac yn hynny o beth rydym eisoes yn ymgysylltu yn nifer o’r mentrau hyn;Ystyried strwythurau yr ydym wedi eu defnyddio mewn ardaloedd eraill o’r DU yn fwy diweddar;
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
33
Ymgynghoriad cynyddol a chynharach gyda chymunedau lleol a rhanddeiliad allweddol;Ystyriaeth ofalus o ganfyddiad cyhoeddus mecanweithiau/ffocws darpariaeth newydd;Dull newydd wedi ei alinio’n well i’r lefelau uwch o ariannu sydd ar gael;Canolbwyntio ar sicrhau ariannu cyfatebol;Ystyried manteision ar gyfer ardaloedd rhanbarthol ehangach;Aliniad agosach gyda strategaeth leol, rhanbarthol a chenedlaethol;Ffocws cynyddol ar ddatblygu economaidd yn cynnwys swyddi a sgiliau;Cydweithio posibl ymhlith datblygwyr;Hwn o hyd yn gyfle gorau cymunedau lleol i ddylanwadu ar ddatblygiadau ynni gwynt – cymryd gofal i beidio eu hallgau o’r broses hon;Cofio y gall grantiau lleol bach ddal i wneud gwahaniaeth mawr a lle bo’n briodol dylid eu hystyried fel rhan o becyn cyffredinol;Gwell cydweithio o fewn y diwydiant er mwyn dangos y manteision a roddir gan ynni gwynt.”
Katy Woodington, npower renewables RWE
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
34
Casgliadau ac ArgymhellionMae prosiectau ynni adnewyddadwy eisoes yn rhoi ystod o fanteision cymunedol, yn ychwanegol at gynhyrchu ynni glân a chynaliadwy. Mae’r rhain
yn cynnwys rhagor o gyfleoedd swyddi a gwelliannau i’r amgylchedd adeiledig a naturiol. Yn ogystal, mae ystod eang o Gronfeydd Budd Cymunedol yn
gweithredu yng Nghymru sy’n cyfrannu’n eithriadol o gadarnhaol i gymunedau
lleol ar draws y wlad. Dylai cronfeydd lleol sefydledig gael eu gweld fel ffordd o ddweud ‘diolch’ wrth y cymunedau sy’n rhoi cartref i ffermydd gwynt a
chynlluniau ynni adnewyddadwy eraill.
Gallwn gasglu o’r data a gasglwyd gennym bod:
• Tua phedair o bob pump fferm wynt sy’n gweithredu yng Nghymru yn
cyfrannu i’w cymunedau lleol mewn modd strwythuredig;
• Llawer o endidau gwahanol yn elwa o gyfraniadau ffermydd gwynt (nodwyd
cyfanswm o 34 allan 20 ymateb);
• Caiff CBC yng Nghymru eu gweinyddu’n bennaf drwy ymddiriedolaethau
lleoledig (neu gyrff tebyg) neu Gynghorau Cymuned;
• Y math mwyaf cyffredin o daliad gan weithredwyr fferm wynt yw drwy symiau penodedig, yn cael ei ddilyn gan gyfrifiad fesul MW a osodwyd; ac
mai
• Cyfanswm y symiau a ddatgelwyd a ddyfarnwyd i Gronfeydd Budd
Cymunedol neu debyg yn 2011 oedd £623,853.30.
Yng ngoleuni agendâu gwleidyddol cyfredol, efallai bod yr amser wedi dod lle gallai datblygwyr ffermydd gwynt ar y tir fod am sicrhau bod budd penodol o’u
rhaglenni yn cael ei ddarparu i gymunedau mewn modd mwy uchel ei broffil a thryloyw er mwyn dangos yn fwy effeithiol y canlyniadau cadarnhaol a
gynhyrchir ganddynt.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
35
Mae’r ddogfen ‘Sicrhau manteision cymunedol o ddatblygu ynni gwynt: Pecyn
Cymorth’16 yn amlinellu nifer o ffactorau gwahanol y dylid eu hystyried wrth
gynllunio cynllun budd cymunedol:
• Pam ddylid ystyried manteision cymunedol?
• Beth yw costau, risgiau a gwobrau ynni gwynt a sut mae budd cymunedol yn ffitio i’r darlun hwn?
• Beth yw’r berthynas rhwng budd cymunedol a’r broses gynllunio?
• Beth yw’r gwahanol ffyrdd y gellir cynnig budd cymunedol drwyddynt?
• Pwy ddylai elwa a sut ddylai hyn gael ei reoli a’i weinyddu?
• Pa gytundebau ellir ac a ddylid eu rhoi ar waith i sicrhau’r budd hwn?
Mae’r cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio ar y budd a gaiff ei
gyflenwi ‘mewn cylch’. Gallai fod yn fanteisiol i weithredwyr cysylltiedig â
Chronfeydd Budd Cymunedol ail-edrych ar gyfeiriad strategol eu cynlluniau er mwyn sicrhau eu bod wedi eu halinio gyda phrif bolisi economaidd ehangach.
Er enghraifft, byddai’r astudiaeth achos LEDS a amlinellwyd yn flaenorol (Astudiaeth Achos Un; tudalen 19) o bosibl yn apelio at drigolion yn ardal ei
weithredu, ond efallai ddim yn apelio at bolisi Llywodraeth Cymru o ran
hyrwyddo effeithlonrwydd ynni. Os, fodd bynnag, y bydd y cynllun wedi ei ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yna gallai gael ei
gyplysu gyda’r cynllun Arbed17 er mwyn cydlynu buddsoddiad i berfformiad ynni cartrefi yng Nghymru.
Dylai CBC sicrhau eu bod yn addas ar gyfer diwydiant a chymunedau, a’u bod
wedi eu rheoli mewn modd ‘craff’. Un ffordd o’r fath yw archwilio'r posibilrwydd o ‘dynnu’ ariannu i mewn o wahanol ffrydiau e.e. Cronfa Gymdeithasol Ewrop,
Llywodraeth Cymru, Canolfan Byd Gwaith). Mae pecyn Budd Cymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau y Rhyl (Astudiaeth Achos Pedwar;
tudalen 31), er enghraifft, yn ymgorffori Cronfa Cydlyniant Cymunedol a
ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac mewn sawl achos drwy’r un ffurflen gais. Gyda’i gilydd mae hyn yn rhoi mynediad i grwpiau at gronfa gyfun gwerth £1
miliwn y flwyddyn i gefnogi elfennau cyfalaf a refeniw prosiectau, ac felly gwneud y mwyaf o’r gwariant drwy alluogi prosiectau mwy eu maint. Mae rôl ar
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
36
16 http://www.cse.org.uk/downloads/file/Delivering%20community%20benefits%20from%20wind%20energy%20-%20a%20tookit.pdf
17 http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/energy/efficiency/arbed/?lang=en
gyfer Llywodraeth Cymru mewn cynnig cyngor i Gronfeydd Budd Cymunedol o
ran y ffordd fwyaf effeithiol y gall eu hariannu gael ei ddefnyddio, efallai drwy
gyfrwng megis Ynni Cymunedol Cymru neu Gronfa Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru (Windfall).
Mae hefyd angen sicrhau bod Cronfeydd Budd Cymunedol wedi eu cydweddu i reidrwydd economaidd yn ogystal â pharhau â’r budd cymdeithasol lleol y
maent yn amlwg yn eu rhoi. Gallai Cronfeydd Budd Cymunedol gael eu
defnyddio ar gyfer amcanion datblygu economaidd rhanbarthol mwy strategol: er enghraifft, gallai trefniadau gwirfoddol gefnogi datblygu economaidd
rhanbarthol, creu swyddi a gwella sgiliau. Un awgrym yw creu cronfa fuddsoddi Ardal Chwilio Strategol (SSA) 25 mlynedd ar gyfer pob SSA, y
byddai iddi fodel llywodraethu rhanbarthol, strategol yn edrych ar faterion
economaidd pwysig rhanbarthol a chasglu mewnbwn gan sefydliadau megis Fforymau Economaidd Rhanbarthol. Gallai cyfryngau o'r fath gael eu sefydlu
fel cronfeydd ymddiriedolaethau gyda’r datblygwyr yn cael eu gwahodd i dalu rhan o’u Cronfeydd Budd Cymunedol i mewn iddo, a allai wedyn godi ariannu
cyfatebol (e.e. cronfeydd Ewropeaidd), neu adlenwadau gan lywodraeth.
Byddai’r cronfeydd SSA hyn yn sicrhau ffocws ar faterion datblygu economaidd rhanbarthol, ac nid dim ond ar faterion lleol mewn cymunedau
sydd yn aml yn gymharol denau o ran poblogaeth.
Dylai Llywodraeth Cymru gynorthwyo datblygwyr a chymunedau i ddewis y
cyfrwng Cronfeydd Budd Cymunedol iawn ar gyfer eu hamgylchiadau
arbennig hwy ac i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r arian i’w ddyrannu, o bosibl drwy gyflwyno ‘Cynghorwyr CBC’ i alluogi eu cyswllt i ariannu posibl
sydd yn aml yn cyd-fynd â mentrau llywodraeth.
Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ariannu cofrestrfa swyddogol agored i’r
cyhoedd (tebyg i fodel yr Alban) a fyddai’n annog rhannu'r arfer gorau,
syniadau a phrofiadau. Dylent ariannu cofrestrfa bellach a fyddai’n rhestru ceisiadau ffermydd gwynt sydd wedi eu cymeradwyo ond hyd yma heb eu
codi, a’r math o drefniadau CBC sy’n cael eu rhoi ar waith neu’n cael eu cynnig. Byddai hyn yn galluogi grwpiau lleol a rhanbarthol i gyflwyno eu
cynigion eu hunain i weithio gyda’r CBC i’r dyfodol.
Dylai’r cyfryngau a ddefnyddir i ddarparu CBC sicrhau tryloywder eu gweithgareddau. Er enghraifft, fel arfer gorau dylai’r ymddiriedolaeth neu
Gyngor Cymuned perthnasol sefydlu gwefan agored i’r bobl yn dangos hanfod
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
37
y cynllun, gan restru sut cafodd arian ei ddyrannu ac ar ba sail, ynghyd â
manylion cyswllt. Hefyd, dylid rhoi lefel resymol o arian o’r CBC o’r neilltu i
sicrhau y caiff y CBC eu hyrwyddo ar lefel leol ac y caiff cymunedau lleol wybod am eu gweithgareddau. Mae’r ddau argymhelliad hwn er lles y
diwydiant fel bod gweithgareddau da nid yn unig yn digwydd ond yn cael ei weld yn digwydd.
Mae’r ddadl ynghylch protocol budd cymunedol yn Lloegr wedi nodi isafswm
taliad o £1,000 y flwyddyn am bob MW o ynni gwynt a osodir yn ystod bywyd y fferm wynt. Yng Nghymru dylai’r argymhellion uchod wneud y ddadl hon i bob
pwrpas yn amherthnasol. Dylai ein gweledigaeth ni fod am gynlluniau a weithiwyd allan yn dda ac a gaiff eu cynnal yn dda gydag amcanion clir, sy’n
tynnu amrywiol bartneriaid i mewn i ddenu’r ariannu mwyaf posibl, ac sydd yn
dryloyw ac yn gyrchadwy i gymunedau a rhanddeiliaid. Dyma ddylai’r ffordd ymlaen fod ar gyfer y diwydiant, gan weithio’n agos gyda chymunedau ar lefel
micro a gyda Llywodraeth Cymru ar y lefel macro.
Ni ddylai rhywun danbrisio gwerth y CBC eu hunain, na’r ffermydd gwynt y
maent yn eu cynrychioli. Darparwyd tua 8,600 o swyddi gan y diwydiant gwynt
ar y tir yn 2011, gyda £548 miliwn wedi ei ychwanegu i economi y DU, yn ôl astudiaeth ar y cyd a gyhoeddwyd gan RenewableUK a’r Adran Ynni a Newid
Hinsawdd18. Canfu bod y gwir werth a ddarperir gan wynt (yn agos i £700,000 am bob MW a osodwyd yn y DU) yn fwy na £100,000 o fewn ardal yr
Awdurdod Lleol. Mae CBC yn elfen hollbwysig mewn dangos i gymunedau
lleol nid dim ond manteision amgylcheddol ynni adnewyddadwy ond hefyd y manteision economaidd lleol. Rhaid canolbwyntio ar sut y gall y cymunedau
hyn sicrhau’r budd mwyaf ac, yn enwedig, y rhan hollbwysig sydd gan y CBC yn y deinamig hwn.
Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru | RenewableUK Cymru
38
18 http://www.decc.gov.uk/assets/decc/11/meeting-energy-demand/wind/5585-economic-benefits-onshore-wind-full-pn.pdf
Atodiad 1
39
Enw’r cwmni: Triodos Renewbales (Wern Ddu) Cyf
Enw’r fferm wynt a weithredir: Fferm Wynt Wern Ddu
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
9.2MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
2 flynedd
Enw a swydd yr ymatebwr: Monika Paplaczyk, Rheolwr Buddsoddi
Enw’r cwmni: Tegni Cyf
Enw’r fferm wynt a weithredir: Hafoty Ucha (Ll21 0RL)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
3.15 MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
8 mlynedd
Enw a swydd yr ymatebwr: Huw Smallwood (Perchennog)
Enw’r cwmni: Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi
Enw’r fferm wynt a weithredir: Vestas a Nordtank (SY20 8AX)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
575kW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
9 mlynedd a 4 mlynedd yn y drefn honno
Enw a swydd yr ymatebwr: Michael Phillips, Pwyllgor Rheoli
Enw’r cwmni: Amegni
Enw’r fferm wynt a weithredir: Carno II (SY17 5JS)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
15.6 MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
3 blynedd
Enw a swydd yr ymatebwr: Sion Thomas – Perchennog / Gweithredwr
40
Enw’r cwmni: Celtpower Cyf (Scottish Power Renewables ac Eurus Energy)
Enw’r fferm wynt a weithredir: Llandinam (Cyf Grid Cenedlaethol SO 028836)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
30MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
20 mlynedd
Enw a swydd yr ymatebwr: Daniel Ferrier - Rheolwr Prosiect Cynorthwyol
Enw’r cwmni: RWE npower renewables
Enw’r fferm wynt a weithredir: Bryn Titli; Carno; Ffynnon Oer; Llyn Alaw; Mynydd Gorddu; Trysglwyn; Taf Elai
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
9.9MW; 33.6MW; 33MW; 20.4MW; 10.2MW; 5.6MW; 9MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
18 mlynedd; 16 mlynedd; 6 mlynedd; 15 mlynedd; 14 mlynedd; 14 mlynedd; 19 mlynedd
Enw a swydd yr ymatebwr: Katy Woodington, Uwch Swyddog Buddsoddi Cymunedol
Enw’r cwmni: EC&R (menter ar y cyd rhwng EC&R ac Eurus Energy)
Enw’r fferm wynt a weithredir: Rhyd-Y-Groes
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
7.2MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
20 mlynedd
Enw a swydd yr ymatebwr: Jonn Barnes, Uwch Gychwynnwr
41
Enw’r cwmni: Moelogan 2 Ccc
Enw’r fferm wynt a weithredir: Moel Moelogan (LL28 5UN)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
11.7MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
4 blynedd
Enw a swydd yr ymatebwr: Geraint Davies, Perchennog/Gweithredwr
Enw’r cwmni: Cambrian Wind Energy Limited
Enw’r fferm wynt a weithredir: Fferm Wynt Cefn Croes (SY23 3LE)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
58.5 MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
8 mlynedd
Enw a swydd yr ymatebwr: Roger Jones, Rheolwr Asedau
Enw’r cwmni: Infinergy
Enw’r fferm wynt a weithredir: Fferm wynt Castle Pill (SA73) + Fferm wynt Ferndale (CF43)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
Castle Pill (3.2MW) + Ferndale (6.4MW)
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
Castle Pill (3 blynedd) + Ferndale (2 flynedd)
Enw a swydd yr ymatebwr: Lorraine Dallmeier, Cyfarwyddwr Prosiect
42
Enw’r cwmni: RES
Enw’r fferm wynt a weithredir: Dyffryn Brodyn (SA34 0JE)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
5.5MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
18 mlynedd
Enw a swydd yr ymatebwr: Samantha Mayes, Cydlynydd Cysylltiadau Cymunedol
Enw’r cwmni: Pennant Walters Maesgwyn Cyf
Enw’r fferm wynt a weithredir: Maesgwyn (SA10)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
26MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
18 mis
Enw a swydd yr ymatebwr: Dale Hart, Cyfawyddwr
Enw’r cwmni: Statkraft
Enw’r fferm wynt a weithredir: Alltwalis (SA32 7ED)
Gallu MW y fferm wynt (ffermydd gwynt) a weithredir:
23MW
Yn fras, oed y datblygiad fferm wynt a weithredir:
2 flynedd a hanner
Enw a swydd yr ymatebwr: Rob Fellows (Cynghorydd Cysylltiadau Cymunedol)
43