Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
www.hccmpw.org.uk
Dewis tarw AI
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 1
Hybu Cig Cymru / Meat Promotion WalesTy Rheidol, Parc Merlin, Aberystwyth SY23 3FF
Ffôn: 01970 625050 Ffacs: 01970 615148 Ebost: [email protected]
www.hccmpw.org.uk
Tachwedd 2011
Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 – 2013 sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cynhyrchiad hwn, na’i drosglwyddo ar unrhyw ffurf mewn unrhyw fodd, heb ganiatâdysgrifenedig y cwmni ymlaen llaw. Er y cymerwyd pob gofal rhesymol wrth ei baratoi, ni roddir unrhyw sicrwydd am ei
gywirdeb, ac ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled na niwed a achosir gan ddibynnu ar unrhyw ddatganiadyn y cyhoeddiad hwn nac ar unrhyw hepgoriad ohono
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 2
Dewis tarw AI 1
Dewis tarw AI 2
Y manteision o ddefnyddio semenu artiffisial 2
Dewis ar gyfer nodweddion mamol 4
Pa EBVau nodweddion mamol sydd ar gael? 4
Diffiniad o’r EBVau nodweddion mamol cyfredol 5
Mynegeion Mamol 6
Sut i ddefnyddio EBVau Nodweddion Mamol 7
Dewis ar gyfer EBVau Twf a Charcas 8
Mynegeion Hyrddod Terfynol 9
Canllawiau ynglyn â dewis EBVau tarw 10
Deall graffau canraddol EBVau 11
Cynnwys
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 3
2 Dewis tarw AI
Tarw Semenu Artiffisial (AI) elitAm mai 24 buwch ar gyfartaledd sydd mewn buches gig eidion yng Nghymru – sef nifer
digon bach ar gyfer un tarw – bydd yr ainifail fel arfer yn cael ei ddewis ar sail cynhyrchu cig
ynghyd â Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) ar gyfer nodweddion gwryw terfynol. Er y gall
anifeiliaid amnewid gael eu cadw o’r tarw hwn, mae’n bosibl na fydd ganddyn nhw’r
nodweddion mamol gorau nac yn rhoi cyfle i gyflwyno bywiogrwydd croesryw. Wrth
ddefnyddio semenu artiffisial, mae modd defnyddio dewis ehangach o deirw i gyd-fynd â’ch
amcanion dewis ac sy’n addas i’ch buches o ran gwella twf, cyhyredd neu rinwedd famol.
Y manteision o ddefnyddio semenu artiffisial• Gallu i gyflwyno teirw â rhinweddau genetig uchel am lai o bris
• Gall dewis nodweddion penodol (e.e. pwysau a thyfiant) ar gyfer tarw terfynol gael gwell pris wrth werthu
• Modd defnyddio teirw â rhinweddau hysbys ac EBVau cywir iawn
• Ffrwythlondeb y tarw wedi’i warantu
• Clefydau yn llai tebygol
• Cyfle i fanteisio ar fywiogrwydd croesryw wrth groesfridio
• Modd dewis nodweddion fel rhwyddineb lloia mamol
• Dim angen ystyried hurio tarw i’w ddefnyddio ar ferched y tarw cyfredol
• Gall y tarw cyfredol aros yn hirach gyda’r fuches
• Gallu gwneud y defnydd gorau o’r strategaeth fridio
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 4
Dewis tarw AI 3
Yn benodol, mae cynhyrchu anifeiliaid amnewid o fuches y fferm trwy ddefnyddio semenu
artiffisial yn dod yn ddewis mwy poblogaidd o hyd ac yn cynnig y manteision a ganlyn:
• Lleihau’r risg o glefydau’n cael eu cyflwyno gan anifeiliaid amnewid wedi’u prynu
• Bywiogrwydd croesryw yn cael mwy o effaith ar ffrwythlondeb, cynnyrch llaeth a hirhoedledd
• Modd dewis tarw sy’n rhagori o ran geneteg famol
• Modd dewis tarw sy’n dda o ran rhwyddineb lloia mamol
• Modd defnyddio EBVau/brid i addasu maint corfforol y buchod llawn-dwf
• Modd elwa ar wybodaeth o gofnodion bridio’r mamau wrth ddewis llinachau heffrod/mamau
ar gyfer bridio
• Cyfle i ddefnyddio semen pennu rhyw benywaidd
- lloia mwy hwylus (lloi ysgafnach adeg eu geni)
- gallu i fagu heffrod i loia’n 24 mis oed
- hanner cymaint o genhedlu i gynhyrchu anifeiliaid amnewid.
- Gwell dewis o heffrod, yn hytrach na gorfod dibynnu ar hyn sydd ar gael
Mae rhagor o wybodaeth ynglyn â defnyddio semen pennu rhyw mewn buches sugno ar gael yn
nhaflen ffeithiau HCC, “Bridio heffrod amnewid o heffrod wrth ddefnyddio semen pennu rhyw”.
Ar gael ar y wefan www.hccmpw.org.uk.
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 5
4 Dewis tarw AI
Dewis ar gyfer nodweddion mamolMae nodweddion mamol yn nodweddion sy’n
cael eu cyfleu gan anifeiliaid benyw yn unig ond
sy’n cael eu cario gan eneteg y tarw. Mae
enghreifftiau’n cynnwys cynhyrchu llaeth a
nodweddion sy’n berthynol i ffrwythlondeb
anifeiliaid benyw megis eu hoedran adeg y lloia
cyntaf a’r ysbaid lloia.
Trwy ddefnyddio EBVau nodweddion mamol,
mae modd adnabod teirw y bydd eu lloi benyw
• Yn lloia’n llwyddiannus yn ddwy flwydd oed
• Yn lloia’n haws
• Ag ysbeidiau lloia byrrach
• Yn dod â gwell hirhoedledd i’r fuches
• Yn drymach adeg eu diddyfnu am fod cynnyrch
llaeth y buchod yn well
Pa EBVau nodweddion mamol syddar gael?Yr un fath â nodweddion twf a charcas, mae’r
union ddiffiniad o EBVau nodweddion mamol yn
amrywio gan ddibynnu ar frid y tarw a’r sefydliad
a ddefnyddir gan gymdeithas y brid i gynhyrchu
EBVau. Ar hyn o bryd mae dau sefydliad yn
cynhyrchu EBVau ar gyfer bridiau cig eidion yn y
DG - Signet o’r DG a BreedPlan o Awstralia.
Mae’r ddau’n defnyddio’r un methodolegau trwy
system BLUP (Rhagfynegiad Diduedd Llinol
Gorau), ond yn cynhyrchu EBVau sy’n diffinio
nodweddion ychydig yn wahanol. Mae’r tabl a
ganlyn yn rhestru’r EBVau mamol sy’n cael eu
cynhyrchu ar hyn o bryd gan y naill system a’r llall.
Signet (DG) BreedPlan (Awstralia)
Rhwyddineb Lloia ✔(Rhwyddineb y Lloia Mamol)
✔Rhwyddineb Lloia’r Merched
Llaeth 200 niwrnod ✔ ✔
Oed adeg y lloia cyntaf ✔
Maint y Sgrotwm ✔ ✔
Ffrwythlondeb ✔(Ysbaid Lloia)
✔(Dyddiau nes lloia)
Maint ✔(Pwysau Buwch Lawn-dwf)
Hirhoedledd ✔
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 6
Dewis tarw AI 5
Rhwyddineb Lloia Mamol (Signet) neu Rhwyddineb Lloia’r Merched(BreedPlan)
Yn adnabod anifeiliaid benyw a fydd oherwydd eu nodweddioneu hunain (e.e. y ceudod pelfig) yn lloia’n rhwydd. Ni ddylidcymysgu hyn â Rhwyddineb Lloia Uniongyrchol sy’n rhagfynegiffactorau lloi (e.e. eu maint)
Mesuriad %
Dehongliad Gwerthoedd positif yn golygu mwy o loia digymorths
Llaeth 200 Niwrnod Yn dangos pa mor dda y bydd heffrod yn perfformio pan fyddannhw’n dod yn famau, e.e. cynnyrch llaeth posibl y fuwch
Mesuriad Pwysau’r llo (kg) yn 200 niwrnod oed
DehongliadMae gwerthoedd positif yn adnabod anifeiliaid sy’n magu lloisy’n drymach adeg eu diddyfnu
Oedran adeg y Lloia Cyntaf(Signet yn unig)
Yn adnabod heffrod sy’n fwy tebygol o loia’n iau os cânt gyfle igyplu
Mesuriad Y gyfran sy’n lloia’n gynt os cânt y cyfle (e.e. 0.1 = 10%)
DehongliadMae gwerthoedd negyddol yn golygu y gall heffrod fynd yngyflo yn iau os cânt gyfle
Maint y Sgrotwm Yn dangos ffrwythlondeb anifeiliaid gwryw mewn perthynas agansawdd a maint y semen. Hefyd, mae yna ychydig o gysylltiadâ glasoed mewn epil benywaidd
Mesuriad cm
DehongliadMae gwerthoedd positif yn dangos gwell ffrwythlondeb mewnanifeiliaid gwryw a glasoed cynharach mewn anifeiliaid benyw
Ffrwythlondeb Buchod/Heffrod Ysbaid Lloia (Signet) Dyddiau nes Lloia (BreedPlan)
Mae’r naill EBV a'r llall yn mesur gallu’r fuwch i ddod yn gyflo’ngyflym unwaith eto ar ôl lloia
Mesuriad Diwrnodau
DehongliadMae gwerthoedd negyddol yn dangos heffrod/buchod yn dodyn gyflo’n gynt unwaith eto (h.y. maen nhw’n fwy ffrwythlon)
Pwysau Buwch Lawn-dwf Amcangyfrif o’r gwahaniaeth genetig ym maint/pwysau byw yfuwch yn 5 mlwydd oed
Mesuriad Pwysau’r fuwch (kg) adeg diddyfnu’r llo (200 niwrnod oed)
DehongliadMae gwerthoedd positif yn dynodi buchod sy’n drymach adegdiddyfnu eu lloi
Hirhoedledd (Signet yn unig) Yn rhagfynegi hyd oes bridio anifail yn y fuches
Mesuriad Pareddau
Dehongliad Mae gwerthoedd positif yn dangos oed bridio hirach
Diffiniad o’r EBVau nodweddion mamol cyfredol
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 7
6 Dewis tarw AI
Mynegeion MamolMae Signet a BreedPlan yn cynhyrchu mynegeion ar
gyfer nodweddion mamol. Mae mynegai yn cyfuno
EBVau ar gyfer nifer o nodweddion wedi’u pwysoli
yn ôl eu pwysigrwydd economaidd i werth sengl fel
bod modd dewis ar gyfer amcan bridio penodol.
Gwerth Mamol (Signet yn unig)Mynegai sy'n rhagfynegi’r gwerth economaidd
cyffredinol o ran gallu genetig anifail i gynhyrchu
anifeiliaid benyw ar gyfer magu.
Mae gwerthoedd positif yn dangos buchod mwy
cynhyrchiol, ffrwythlon a hirhoedlog.
Bydd tarw â Gwerth Mamol o 12, er enghraifft, yn
werth £6 yn fwy y fuwch sy’n cyplu na tharw â
gwerth o 0. Fydd hanner hyn yn cael eu
sylweddoli trwy ei epil
Gwerth Cynhyrchedd Mamol (Signet)Mynegai Hunan Amnewid (BreedPlan)Er bod ychydig o wahaniaeth rhwng mynegeion y
ddau sefydliad a rhwng pob brid oddi mewn i bob
sefydliad, mae’r naill fynegai a’r llall yn debyg o ran y
ffordd maen nhw’n gwerthuso gallu anifail i gynhyrchu
anifeiliaid benyw ar gyfer magu ynghyd â charcasau o
ansawdd uchel gan yr epil gwryw. Mae gan
nodweddion mamol a therfynol yr un pwyslais, e.e.
Cyfrifir y Mynegai hwn o Werth Mamol, Gwerth Cig
Eidion a Gwerth Lloia, ynghyd ag ystyried Gwerth
Cynnal a Chadw (y costau sy’n gysylltiedig â
bwydo buchod llawn-dwf yn y fuches).
Bydd tarw â Gwerth Mamol o 10, er enghraifft, yn
werth £5 yn fwy y fuwch sy’n cyplu na tharw â
gwerth o 0. Fydd hanner hyn yn cael eu
sylweddoli trwy ei epil.
Hirhoedledd (bl)
Oed Lloia Cyntaf (dydd)
Ysbaid Lloia (dydd)
Rhwyddineb Lloia Mamol (%)
Pwysau Llaeth 200 Diwr (kg)
Gwerth
Mamol (£)
Gwerth Mamol
Gwerth Cynnal a Chadw
Gwerth Cig Eidion
Gwerth Lloia
GwerthCynhyrchedd (£)
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 8
Dewis tarw AI 7
Dylid pwysleisio ei bod yn debygol taw
nodweddion gwryw terfynol fydd amlycaf yn y
mynegai a gynhyrchir pan fo prinder gwybodaeth
am nodweddion mamol.
Sut i ddefnyddio EBVau NodweddionMamolMae EBVau nodweddion mamol yn ddefnyddiol
ond pan fo merched tarw neu fuwch yn mynd i
gael eu defnyddio’n anifeiliaid amnewid ar gyfer
bridio. Os yw’r holl epil yn mynd i gael eu lladd, yna
gallwch anwybyddu EBVau nodweddion mamol a
dewis anifeiliaid ar sail eu EBVau twf a charcasau.
Os yw merched y tarw’n mynd i gael eu
defnyddio’n anifeiliaid amnewid, y man cychwyn
gorau yw sgrinio nifer o deirw ar sail eu Gwerth
Cynhyrchedd Mamol (Signet) neu Fynegai Hunan
Amnewid (BreedPlan). Mae’r naill fynegai a’r llall yn
ystyried perfformiad epil gwryw’r tarw fel anifeiliaid
i’w lladd yn ogystal â pherfformiad ei ferched fel
anifeiliaid amnewid. Dull arall o dan gynllun Signet
fyddai dewis teirw ar sail eu Mynegai Gwerth
Mamol sy’n gwerthuso teirw yn gyfan gwbl o ran
perfformiad eu merched fel anifeiliaid magu.
Wedyn, ar ôl cynhyrchu rhestr o bryniadau posibl,
mae modd asesu teirw unigol ar sail eu Gwerth Cig
Eidion neu EBVau gwryw terfynol eraill.
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 9
8 Dewis tarw AI
EBV Beth mae’r EBV yn eiddangos?
Chwiliwch am...
Pwysau geni (kg) Potensial genetig ar gyfer pwysau lloadeg geni
EBVau negyddol uchel osydych chi eisiau’r pwysau genigorau posibl
Rhwyddineb Lloia (%) (Signet) Rhwyddineb LloiaUniongyrchol (%) (BreedPlan)
Rhwyddineb lloia epil tarwEBVau positif uchel os ydychchi eisiau llai o loia â chymorth
Cyfnod Cyfebru (dyddiau) Potensial genetig ar gyfer cyfnodcyfebru
EBVau negyddol uchel os ydychchi eisiau cyfnodau cyfebru byr
Pwysau 200 Niwrnod (kg) Potensial genetig ar gyfer twf oenedigaeth i 200 niwrnod oed
EBVau positif uchel os ydychchi eisiau cyfraddau twf uchelhyd at ddiddyfnu
Pwysau 400 Niwrnod (kg) Potensial genetig ar gyfer twf oenedigaeth i 400 niwrnod oed
EBVau positif uchel os ydych chieisiau anifeiliaid blwydd trymach
Pwysau 600 Niwrnod (kg)(BreedPlan)
Potensial genetig ar gyfer twf oenedigaeth i 600 niwrnod oed
EBVau positif uchel os ydychchi eisiau cyfraddau twf uchelhyd at orffen pesgi
Trwch Cyhyrau (mm) SignetArwynebedd y Cyhyr Llygad(sq.cm) BreedPlan
Potensial genetig ar gyfer cyhyredda photensial i gynhyrchu mwy o gigcoch
EBVau positif uchel os ydychchi eisiau lloi â chydffurfiad da
Pwysau Carcas (kg)BreedPlan
Potensial genetig ar gyfer pwysaucarcas yn 650 niwrnod oed
EBVau positif uchel os ydychchi eisiau carcasau trymach
Cynhyrchedd Cig EidionManwerth (%) BreedPlan
Potensial genetig ar gyfer cyfanswmcynhyrchedd cig (oddi ar yr asgwrn)fel % o garcas 300kg wedi ei drin
EBVau positif uchel ar gyfermwy o gig
Trwch Braster (mm) Signet Braster asennau (mm)BreedPlan
Potensial genetig ar gyfer carcasauâ mwy o gig coch (braster isgroenol)
EBVau negyddol uchel osydych chi eisiau cynhyrchucarcasau â mwy o gig coch neuam gael lloi trymach heb gaeleich cosbi am fraster
Braster Mewngyhyrol (%)BreedPlan
Potensial genetig ar gyfer brastermewngyhyrol
EBVau positif uchel os ydych chieisiau cael mwy o frithder yn y cig
Dewis ar gyfer EBVau Twf a CharcasMae gwneud archwiliad manwl o allu tarw i gynhyrchu epil â nodweddion twf a chyhyredd uwchraddol
yn bwysig nid yn unig er mwyn cynhyrchu anifeiliaid wedi’u pesgi ond hefyd am fod modd targedu
gwelliannau mewn unrhyw system gynhyrchu – o loi wedi'u diddyfnu i wartheg stôr. Mae angen rhoi
sylw i ffactorau fel rhwyddineb lloia, pwysau geni a chyfnod cyfebru er mwyn sicrhau bod y llo’n cael ei
eni’n fyw a gwireddu’r canlyniadau chwenychol. Mae’r EBVau a ganlyn ar gael i’ch helpu i ddiwallu eich
amcanion dewis.
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 10
Dewis tarw AI 9
Mynegeion Hyrddod TerfynolMae Signet a BreedPlan yn cynhyrchu mynegeion
sy’n cyfuno’r EBVau priodol ar gyfer twf a
chyhyredd yn un ffigur ar sail eu gwerth
economaidd cymharol yn y farchnad. Gyda
Signet, y mynegai hwn yw’r Gwerth Cig Eidion
sy’n dosbarthu anifeiliaid ar sail teilyngdod
disgwyliedig carcasau eu hepil. Mae’n ystyried y
gwelliannau ariannol o ran pwysau, braster a
chydffurfiad y carcas ac mae’n cael ei gyflwyno fel
gwerth ariannol (£ y pen). Yr un fath ag EBVau,
rhaid haneru Gwerth Cig Eidion tarw er mwyn
amcangyfrif gwerth ei loi.
Bydd tarw â Gwerth Cig Eidion o +30 yn
cynhyrchu epil â charcasau sy’n werth £15 yn
fwy ar gyfartaledd na charcasau epil tarw â
Gwerth Cig Eidion o 0.
Wrth ddewis ar gyfer Gwerth Cig Eidion, mae’n
bwysig cadw llygad ar y Gwerth Lloia sy’n ceisio
gwella’r enillion ariannol o gynhyrchu cig eidion
trwy leihau’r costau sy’n gysylltiedig â chyfnodau
cyfebru hirach a lloia anodd.
Mae costau sy’n gysylltiedig â chyfnodau cyfebru
hirach yn cynnwys y costau sy’n gysylltiedig â lloia
anodd a’r costau uniongyrchol o orfod bwydo a
chadw buwch gyflo dan do am ysbeidiau lloia
hirach ac estynedig. Mae’r costau sy’n gysylltiedig
â lloia anodd yn cynnwys y posibilrwydd o fuwch
neu lo yn marw, costau milfeddygol, llai o
ffrwythlondeb a mwy o waith i’r sawl sy’n gofalu
am yr anifeiliaid.
Y mynegai cyfatebol ar gyfer BreedPlan yw’r
Mynegai Terfynol sy’n mesur gallu’r tarw i
gynhyrchu bustych a heffrod dethol wedi’u pesgi.
Mynegai
GWERTHLLOIA
EBVau Cyfrannol
EBV Cyfnod CyfebruEBV Rhwyddineb Lloia
Mynegai
GWERTHCIG
EIDION
EBVau Cyfrannol
EBV Pwysau GeniEBV Pwysau 200 NiwrnodEBV Pwysau 400 NiwrnodEBV Trwch Cyhyrau EBV Trwch Braster
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 11
10 Dewis tarw AI
Canllawiau ynglyn â dewis EBVau tarwByddwch cystal â chyfeirio at y siart llif isod wrth ddewis eich blaenoriaethau bridio ar gyfer eich
buches chi mewn perthynas â’r dewis o EBVau ar gyfer eich tarw.
Beth ydych chi’n dymuno ei gynhyrchu?
Rhwyddineb lloia*
Heffrod amnewid ar gyfer magu Gwartheg cig eidion
Lloia rhwydd Rhwyddineb lloia
Mamol (S)Merched (B)
Godro’n dda Llaeth 200 niwrnod
FfrwythlonYsbaid Lloia (S)
Dyddiau tan lloia (B)
Yn dda ar gyfer cig eidion
Twf EBVau Twf
CydffurfiadEBVau Cyhyredd
Para’n hirach Hirhoedledd (S)
Lloia’n iau Oed lloia cyntaf (S)Maint Sgrotwm (B)
MaintPwysau buwch lawn-dwf (B)
Lloi wedi’u diddyfnu Gwartheg stôr
TrymachTwf 200 niwrnod (S)
Pwysau 200 niwrnod (B)
Gwell cydffurfiad Trwch cyhyrau (S)Y cyhyr llygad (B)
Trymach Twf 400 niwrnod (S)
Pwysau 400 niwrnod (B)
Gwartheg wedi’u pesgi
TrymachTwf 400 niwrnod (S)Pwysau carcas (B)
Gwell cydffurfiad Trwch cyhyrau (S)Y cyhyr llygad (B)
Pesgi’n gyflymach Trwch braster (S)
Braster asennau (B)
Allwedd(S) Signet(B) Breedplan
* Dylau hwn fod yn blaenoriaeth I wneud yn siwr fod lloi byw yncael eu eni a bod y fuwch yn adhawlio yn gyflym ar ol lloia.
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 12
Dewis tarw AI 11
Deall graffau canraddol EBVauMae’r siartiau bar lliw yn ffordd gyflym a hawdd o gymharu’r anifail ag anifeiliaid eraill o’r un brid. Y
canolbwynt fertigol ar y graff yw cyfartaledd y brid ar gyfer pob nodwedd a gofnodwyd. Mae bariau lliw sy’n
ymddangos ar y dde i’r canolbwynt yn fanteisiol, ond rhaid bod yn ofalus wrth ymdrin â’r rhai ar y chwith.
Canraddau EBV enghreifftiol ar gyfer tarw â nodweddion gwryw terfynol da
Gyda’r tarw hwn mae lloia’n rhwydd iawn - mae’r bar Rhwyddineb Lloia Uniongyrchol melyn i'r dde i
gyfartaledd y brid yn dangos ei fod yn 5% uchaf y brid ar gyfer y nodwedd hon. Mae hyn yn
adlewyrchu’r cyfnod cyfebru byr ar gyfer y tarw hwn, ynghyd â’r ffaith fod ei loi’n ysgafnach adeg eu
geni. Mae ei epil yn tyfu’n gyflym. Dangosir y pwysau 200 niwrnod, 400 niwrnod a 600 niwrnod gan y
barau gwyrdd, a gwelir fod pob un yn 5% uchaf y brid. Mae’r nodweddion carcas yn rhagorol. Mae’r
tarw’n hyrwyddo Cynnyrch Cig Manwerth yn y 5% uchaf ynghyd â chyhyredd uwchraddol. Yr unig
farau sydd ar ochr negyddol y graff yw’r rhai ar gyfer Trwch Braster a Braster Mewngyhyrol sy’n dangos
y bydd y tarw hwn yn cynhyrchu carcasau â llai o fraster ond gall y bydd yr epil yn cymryd yn hirach i
osod gorchudd derbyniol o fraster ar gyfer lladd.
Cyhyr Llygaid - Llai
Trwch Braster - Cochach
Cynnyrch Manwerth - Is
Brasder Mewngyhyrol - Is
Haws
Haws
Byrrach
Ysgafnach
Trymach
Trymach
Trymach
TrymachUwch
MwyMwy
Tewach
Uwch
Uwch
Uwch
Uwch
100 90 80 70 60 50 40 30 20 10 0
Rhwydd. Lloia Union. - Anos
Rhwydd. Lloia Merched - Anos
Cyfnod Cyfebru - Hirach
Pwysau Geni - Trymach
Pwysau 200 Diwr - Ysgafnach
Pwysau 400 Diwr - Ysgafnach
Pwysau 600 Diwr - Ysgafnach
Llaeth - Is
Pwysau carcas - Ysgafnach
Maint Sgrotwm - Llai
Mynegai Terfynol (Punt)
Mynegai Hunan Amnewid (Punt) - Is
Y 50fed Canradd yw EBVau Cyfartalog y Brid ar gyfer lloi a aned yn 2009
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 13
Canraddau EBV enghreifftiol tarw sy’n addas ar gyfer bridio heffrod amnewid
Ymddengys y bydd epil y tarw hwn yn cael eu geni’n rhwydd ac y bydd ei ferched yn manteisio hefyd
ar rwyddineb lloia; dangosir hyn gan y ddau far melyn cyntaf sy’n ymestyn yn bell i’r tir positif. Mae’r
cyfnod cyfebru ar gyfer y tarw yn fyrrach na chyfartaledd y brid ac mae ei loi’n llai o faint adeg eu geni,
sy’n golygu bod lloia’n haws. Mae ei eneteg ar gyfer llaeth sy’n cael ei throsglwyddo i’w ferched yn
dangos EBV yn 15% uchaf y brid. Mae hyn, ynghyd ag EBV rhwyddineb lloia uwchraddol y merched,
yn golygu y byddai’r tarw hwn yn addas ar gyfer bridio heffrod amnewid. Ar yr un pryd, nid oes amharu
ar nodweddion twf a chyhyredd gydag EBVau sy’n gysylltiedig ag anifail cig eidion wedi’i besgi yn
enwedig; mae Pwysau Carcas a Chynnyrch Cig Manwerth yn yr 1% uchaf ar gyfer y brid. Byddai gan
epil y tarw hwn garcasau â chyfradd uchel iawn o gig coch a chydffurfiad da.
12 Dewis tarw AI
Rhwydd. Lloia Union. - Anos
Rhwydd. Lloia Merched - Anos
Cyfnod Cyfebru - Hirach
Pwysau Geni - Trymach
Pwysau 200 Diwr - Trymach
Pwysau 400 Diwr - Ysgafnach
Pwysau 600 Diwr - Ysgafnach
Llaeth - Is
Pwysau carcas - YsgafnachTrwch Braster - Cochach
Cynnyrch Manwerth - Is
Braster Mewngyhyrol - Is
Mynegai Terfynol - Is
Mynegai Hunan Amnewid - Is
Haws
Haws
Byrrach
Ysgafnach
Trymach
Trymach
TrymachTrymach
Mwy
Teneuach
Uwch
UwchUwch
100 90 80 70 60 50 40 30 20 10 0
Maint Sgrotwm - Llai
Bigger
Trymach
Y 50fed Canradd yw EBVau Cyfartalog y Brid ar gyfer lloi a aned yn 2009
HCC Elite A1 bull 2011 CYM:Layout 1 18/11/11 12:25 Page 14