24
RHEOLWR ADNODDAU DYNOL Cyflog: £29,065 - £36,636 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad) Pecyn buddion hael Swydd barhaol, 35 awr yr wythnos. Lleoliad: Caerdydd neu Bangor, a bydd angen teithio’n rheolaidd ledled Cymru. Mae cyfle gwych ar gael i weithiwr proffesiynol ym meysydd adnoddau dynol a dysgu a datblygu i ymuno â sefydliad sy’n gwasanaethu Cymru gyfan sydd wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd ysbrydolgar sy’n newid bywyd i oedolion sy’n rhan o boblogaeth Cymru. Mae Addysg Oedolion Cymru yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwydd dinasyddiaeth weithgar a datblygu sgiliau, a chynnig addysg o’r radd flaenaf, gan gydweithredu â’i bartneriaid i wneud hynny. Rydym ni’n dymuno penodi cyffredinolwr medrus iawn ym meysydd adnoddau dynol a dysgu a datblygu i gynnig arbenigedd rhagorol ynghylch adnoddau dynol, i’n cynorthwyo ni yn ystod cam nesaf ein taith sy’n ymwneud â datblygu gallu, denu a chadw pobl ddawnus a datblygu diwylliant o berfformiad rhagorol sy’n sicrhau’r safonau uchaf o ran gofalu am gwsmeriaid a rhagoriaeth ym mhob agwedd o’n gwaith. Mae hon yn swydd ymarferol a phrysur, a bydd deiliad yn ymwneud ag aelodau timau, arweinwyr, rheolwyr a rhanddeiliaid ar bob lefel, ond mae hefyd yn cynnig cyfle i lunio a datblygu cynlluniau strategol. Bydd gennych chi gymwysterau CIPD (Lefel 5 o leiaf), bydd gennych chi brofiad llwyddiannus o weithio fel cyffredinolwr mewn amgylchedd undebol, ond byddwch chi hefyd yn cynnig agwedd fasnachol gref, profiad o weithredu arferion gorau presennol ym maes adnoddau dynol, ac yn gallu gweithio’n gyflym. Byddwch yn arwain tîm bychan a byddwch yn rhan o Dîm Rheoli’r Coleg, a byddwch chi hefyd yn rhoi adroddiadau rheolaidd i bwyllgorau llywodraethu. Byddwch yn cyfrannu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ac yn cydweithio’n agos â rheolwyr i ddeall, herio, mesur a datblygu gallu eu timau.

  · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

RHEOLWR ADNODDAU DYNOL

Cyflog: £29,065 - £36,636 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)Pecyn buddion haelSwydd barhaol, 35 awr yr wythnos.Lleoliad: Caerdydd neu Bangor, a bydd angen teithio’n rheolaidd ledled Cymru.

Mae cyfle gwych ar gael i weithiwr proffesiynol ym meysydd adnoddau dynol a dysgu a datblygu i ymuno â sefydliad sy’n gwasanaethu Cymru gyfan sydd wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd ysbrydolgar sy’n newid bywyd i oedolion sy’n rhan o boblogaeth Cymru. Mae Addysg Oedolion Cymru yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwydd dinasyddiaeth weithgar a datblygu sgiliau, a chynnig addysg o’r radd flaenaf, gan gydweithredu â’i bartneriaid i wneud hynny.

Rydym ni’n dymuno penodi cyffredinolwr medrus iawn ym meysydd adnoddau dynol a dysgu a datblygu i gynnig arbenigedd rhagorol ynghylch adnoddau dynol, i’n cynorthwyo ni yn ystod cam nesaf ein taith sy’n ymwneud â datblygu gallu, denu a chadw pobl ddawnus a datblygu diwylliant o berfformiad rhagorol sy’n sicrhau’r safonau uchaf o ran gofalu am gwsmeriaid a rhagoriaeth ym mhob agwedd o’n gwaith. Mae hon yn swydd ymarferol a phrysur, a bydd deiliad yn ymwneud ag aelodau timau, arweinwyr, rheolwyr a rhanddeiliaid ar bob lefel, ond mae hefyd yn cynnig cyfle i lunio a datblygu cynlluniau strategol.

Bydd gennych chi gymwysterau CIPD (Lefel 5 o leiaf), bydd gennych chi brofiad llwyddiannus o weithio fel cyffredinolwr mewn amgylchedd undebol, ond byddwch chi hefyd yn cynnig agwedd fasnachol gref, profiad o weithredu arferion gorau presennol ym maes adnoddau dynol, ac yn gallu gweithio’n gyflym. Byddwch yn arwain tîm bychan a byddwch yn rhan o Dîm Rheoli’r Coleg, a byddwch chi hefyd yn rhoi adroddiadau rheolaidd i bwyllgorau llywodraethu. Byddwch yn cyfrannu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ac yn cydweithio’n agos â rheolwyr i ddeall, herio, mesur a datblygu gallu eu timau.

Byddwch yn hynod o drefnus ac yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau, a byddwch yn gallu gweithio’n annibynnol, gan ddatblygu a rheoli nifer o ffrydiau gwaith, yn cynnwys recriwtio, dysgu a datblygu, cynhwysiant a llesiant, yn ogystal â rheoli gwaith achos adnoddau dynol a sicrhau bod systemau a phrosesau cadarn yn eu lle i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio, e.e. diogelu, diogelu data ac ati.

Yn ddelfrydol, byddwch yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Fel arall, mae agwedd gadarnhaol at ddysgu a hyrwyddo’r Gymraeg yn hanfodol.

Cynigir buddion deniadol i’r ymgeisydd priodol, yn cynnwys:

Hyd at £36,000 yn dibynnu ar brofiad 30 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a diwrnodau yn ôl disgresiwn

Page 2:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

Wythnos waith 35 awr â threfniadau gweithio hyblyg Lleoliad swydd yng Nghaerdydd neu Fangor, â lle parcio ar y safle Teithio rheolaidd ledled Cymru Cynllun pensiwn gyrfa cyfartalog hael

Ynglŷn ag Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

Ers ei sefydlu yn 2015, mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi gosod ei hun yn gadarn fel y Coleg Cymunedol Cenedlaethol, yn gwasanaethu oedolion Cymru gyda chyfleoedd aadysgol sydd yn ysbrydoli, ac ar yr un pryd yn newid bywydau. Rydym yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o ansawdd gorau, trwy ddull cydweithredol, ac yn gweithio ledled Cymru.

Yn adeiladu ar ein partneriaethau cryfion, mae ein gweledigaeth yn ein lleoli ar y rheng flaen ar gyfer y twf yn addysg gydol oes, yn blaenoriaethu cyfleoedd i rheini sydd anoddaf eu cyrraedd, yn galluogi pobol trwy drosglwyddo sgiliau iddynt ac yn darparu mynediad cyfartal i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ein gweledigaeth yw cynyddu effaith gymdeithasol, economaidd a phersonol addysg cymunedol oedolion yng Nghymru a'n cenhadaeth yw creu cyfleoedd dysgu ysbrydoledig i oedolion mewn cymunedau a gweithleoedd ledled Cymru. Ein nod yw grymuso pobl i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth i wireddu eu llawn botensial.

Sut i ymgeisio:A fyddech cystal ag ymgeisio gan ddefnyddio’r pecyn cais isod a dychwelyd eich cais gorffenedig at

[email protected] Dyddiad cau y swydd ydi 5yh ar Dydd Mercher 31ain ‘Orffennaf 2019

Cynhalwyd cyfweliadau ar 20fed Awst

Page 3:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

PROFFIL RôL

Teitl swydd: Rheolwr AD

Lleoliad gwaith: Caerdydd neu Bangor

Adrodd i: Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr ac Adnoddau

Diben y swydd: Gan weithio fel aelod o Dîm Rheoli’r Coleg, mae Rheolwr Adnoddau Dynol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth adnoddau dynol cynhwysfawr, effeithiol ac effeithlon ym mhob rhan o’r sefydliad. Gan weithredu fel cynghorydd dibynadwy ynghylch pob mater yn ymwneud ag adnoddau dynol, a’r brif ddolen gyswllt rhwng adnoddau dynol, rheolwyr a chyflogeion, dadansoddi materion sefydliadol a phersonel a gweithredu atebion adnoddau dynol i wella’r gallu i ychwanegu at berfformiad pobl a’r sefydliad.

Hyd y gytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos

Graddfa cyflog: MG4 to UPS1 (£29,065 - £36,636 y flwyddyn)

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

1. Datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol â staff ar bob lefel, gan gynnig cyngor c arweiniad ynghylch yr holl faterion a pholisiau adnoddau dynol a staffio, i gefnogi dealltwriaeth a sicrhau bod cyfathrebu effeithiol ac arferion adnoddau dynol da yn digwydd yn holl feysydd y sefydliad.

2. Datblygu, cynnal a rhoi’r holl bolisïau AD ar waith yn unol â gofynion cyfreithiol ac arfer rheoli da, gan sicrhau fod holl faterion AD yn cael sylw o fewn yr amserlenni a nodwyd yng ngweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales.

3. Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu’r strategaeth adnoddau dynol, cynlluniau gweithredol, a phrosiectau a mentrau adnoddau dynol.

4. Cefnogi’r gwaith o ddatblygu sianelau cyfathrebu ac adborth cryf gyda'r holl staff a thrwy amrywiaeth o ddulliau i gefnogi ymgysylltiad gweithwyr

5. Goruchwylio’r gwaith o reoli recriwtio a dethol staff ar gyfer pob swydd, gan sicrhau bod proses ymgeisio a dethol sy’n gyson ac yn seiliedig ar werthoedd yn cynorthwyo’r sefydliad i wneud penderfyniadau yn effeithiol.

6. Cydlynu datblygiad, gweithredu, monitro a gwerthuso y cynllun hyfforddiant flynyddol a’r cyllid mewn partneriaeth gyda rheolwyr.

7. Bod yn aelod o Dîm Rheoli Coleg y sefydliad, gan gyfrannu at yr holl weithgareddau cynllunio gweithredol ar draws y coleg a hyrwyddo amgylchedd cadarnhaol.

8. Cyflawni swyddogaeth Rheoli llinell uniongyrchol i’r Swyddog AD a'r Cynorthwy-ydd AD, gan gyflawni'r holl ddyletswyddau rheoli fel sy’n ofynnol.

9. Trefnu, datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi perthnasol i reolwyr a staff i gefnogi datblygiad gwybodaeth, sgiliau a hyder mewn arferion rheoli pobl effeithiol a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol.

Page 4:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

10. Datblygu a goruchwylio proses sefydlu'r sefydliad ar gyfer staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu.

11. Goruchwylio’r gwaith o gynnal a datblygu’r gronfa ddata adnoddau dynol yn gywir ac yn effeithiol, i gynorthwyo ag argaeledd Gwybodaeth Rheoli effeithiol i gynorthwyo â pherfformiad a dealltwriaeth y sefydliad a’r penderfyniadau a wneir ganddo.

12. Goruchwylio gwaith cywir o weinyddu adroddiad cyflogres misol a dogfennaeth gytundebol.

13. Cynorthwyo'r Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr ac AD i ddatblygu telerau ac amodau cyflogaeth.

14. Mynychu a chymryd rhan yng nghyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Negodi a'r Pwyllgor Adnoddau, gan ddarparu adroddiadau i'r Pwyllgorau fel sy’n ofynnol.

15. Rheoli materion yn ymwneud â chysylltiadau gweithwyr megis disgyblu, cwyno a gallu, gan roi cyngor ac arweiniad yn ôl y gofyn.

16. Cymryd rhan weithredol yn y broses gwerthuso swyddi.

17. Dangos ymrwymiad i ddatblygiad phersonol A proffesiynol parhaus

18. Arwain mentrau i sicrhau rhagoriaeth mewn prosesau busnes adnoddau dynol a chyfranogi mewn timau gwella prosesau sy’n cwmpasu sawl swyddogaeth a hwyluso eu gwaith.

19. Sicrhau fod prosesau ac ymarferion AD yn cydymffurio â’r Ddeddf Diogelu Data a sicrhau bod holl bryderon diogelu data yn cael eu hadrodd at Reolwr Diogelu Data'r sefydliad

20. Cyfrannu at gyfarfodydd staff, mentrau a datblygiadau sefydliadol

21. Cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gadw ar ben newidiadau a gwneud unrhyw addasiadau sydd eu hangen i systemau gweinyddol

22. Sicrhau bod pob agwedd o gyfarwyddiadau ariannol ac archebion sefydlog y sefydliad yn cael eu dilyn

23. Sicrhau y defnyddir arferion gwaith diogel a phriodol a bod deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn cael ei fabwysiadu

24. Cefnogi ac arddel cyfle cyfartal yn y gweithle

25. Gweithio mewn ffordd sy’n sensitif i’r Gymraeg ac sy’n cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 a’n dyletswyddau wrth weithredu Safonau'r Gymraeg

26. Bod yn barod i deithio ledled Cymru a gweithio’n hyblyg yn ôl gofynion y swydd os yw hynny’n briodol

a) Fel un o delerau eich swydd efallai y bydd angen i chi ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill y bydd yn ofynnol, yn rhesymol, i chi eu gwneud, yn unol â gradd eich swydd.

b) Dyma ddisgrifiad o’r swydd fel y mae ar hyn o bryd. Mae’n arfer gan Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales i archwilio proffiliau rôl gweithwyr o bryd i’w gilydd, a’u diweddaru i sicrhau eu bod yn berthnasol i’r swydd fel y mae’n cael ei berfformio, neu i ymgorffori unrhyw newidiadau sy’n cael eu hargymell.

c) Nid bwriad y disgrifiad swydd hwn yw sefydlu diffiniad cyflawn o’r swydd, ond, yn hytrach, mae’n rhoi amlinelliad o’r dyletswyddau.

Page 5:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

MANYLEB PERSON

MEINI PRAWF HANFODOL DYMUNOL

ADDYSG, HYFFORDDIANT A CYMWYSTERAU

Gradd neu gymhwyster gyfwerth

CIPD cymwysiedig lleiafswm lefel 5

Lefel 7 neu MSc mewn Rheoli AD

PROFIAD Lleifaswm o 3 mlynedd o brofiad gweithio fel AD Cyffredinol o fewn amgylchedd undebol

Profiad gryf o waith recriwtio, hyfforddi a datblygu, disgyblu a chwynion

Gwybodaeth manwl o gyfraith cyflogaeth ac aferion gorau AD

Profiad o ddelio â gwybodaeth a materion AD cymhleth a sensitif

Gallu amlwg i feithrin perthynas cynhyrchiol ar bob lefel o'r sefydliad.

Profiad o weithio yn y sector AB

Profiad o ad-drefnu a rheoli newid

SGILIAU, GWYBODAETH, AGWEDD

Sgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati.

Sgiliau cyflwyno da

Sgiliau cyfathrebu ysgifenedig a llaraf rhagorol

Y gallu i ddylanwadu ar eraill, a sgiliau hyfforddi, mentora a thrafod

Sgiliau cynllunio a threfnu ardderchog a’r gallu I weithio I derfynnau tynn.

Sgiliau datrys problemau cryf

Sylw gwych i fanylion

Y gallu i gadw’n ddigyffro a

Page 6:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

gwrthrychol dan bwysau

Yn hunan-gymhelliant ac yn gallu gweithio heb lawer o oruwchwyliaeth

PATRWM GWEITHIO 35 awr yr wythnos gyda hyblygrwydd gylawni gofynnion y rol. 9.00 tan 5.00 gyda’r posibilrwydd o weithio’n hyblyg

ANGHENION ERAILLL Teithio rheolaidd ar draws Cymru

Agwedd gadarnhaol at ddysgu’r Gymraeg

Y gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg rhugl

FFURFLEN GAIS

Y Swydd yr Ymgeisir amdani: Rheolwr Cyfeirnod y cais (at ddefnydd y

Page 7:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

ADswyddfa’n unig)

Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyflogaeth ar gael ar dudalen ‘Swyddi’ y wefan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn: https://www.adultlearning.wales/cym/amdanom/swyddi . Bydd ceisiadau aflwyddiannus yn cael eu cadw am chew mis.

Sicrhewch eich bod yn llenwi holl rannau’r ffurflen hon.

Datganiad Personol

Nodwch yr hyn sy'n eich gwneud chi'n addas ar gyfer y swydd, gan gyfeirio at fanyleb y person wrth ysgrifennu eich datganiad personol.

Ewch ymlaen ar dudalen ar wahân os oes angen.

Page 8:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol

Enw’r Corff Graddfa’r Aelodaeth Dyddiad Derbyn:

Page 9:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

Hyfforddiant a Datblygiad Personol

Nodwch unrhyw weithgareddau datblygiad personol a hyfforddiant rydych wedi ymgymryd â nhw sydd, yn eich barn chi, yn berthnasol i'ch cais.

Hyfforddiant / Datblygiad Personol Dyddiad

HANES CYFLOGAETH

Page 10:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

Rhowch fanylion eich cyflogaeth hyd yma, gan gynnwys gwaith gwirfoddol, yn nhrefn amser gan ddechrau â’ch swydd bresennol neu eich swydd ddiweddaraf.

Ewch ymlaen ar dudalen ar wahân os oes angen

Dyddiadau Cyflogwr

Amlinelliad bras o'ch

Dyletswyddau a'ch Cyfrifoldebau

Rheswm dros adael

O: I:

Page 11:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

CYMWYSTERAU

Nodwch unrhyw gymwysterau addysgu ac academaidd perthnasol.

Cymwysterau Academaidd Dyddiadau eu Hennill

Cymwysterau AddysguDyddiadau eu Hennill

Sgiliau Sylfaenol/cymhwyster ESOL (rhowch fanylion)

Yn Siarad Cymraeg Ydw/Na

Yn Ysgrifennu Cymraeg Ydw/Na

Rhywfaint o Gymraeg Oes/Na

Ieithoedd Eraill

Nodwch eich dewis iaith ar gyfer cyfathrebu pellach

Cymraeg Saesneg

Nodwch eich dull gorau o gyfathrebu os bydd eich cais yn llwyddiannus

E-bost Llythyr

Page 12:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

Ydych chi’n gallu darparu tystiolaeth sy’n dangos eich bod yn gymwys i weithio yn y DU?

Ydw/Na

(i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol)

Oes ganddoch drwydded Yrru llawn?

Oes / Na

Oes ganddoch fynediad i gerbyd? Oes / Na

Nodwch ymhle y clywsoch chi am y swydd hon gan nodi’r cyhoeddiad/gwefan

PERTHNASOEDD PERSONOL AGOS

Diffinnir perthnasoedd personol agos fel a ganlyn: perthnasoedd rhamantus/rhywiol; perthnasoedd teuluol; perthnasoedd busnes/ariannol/masnachol; a cyfeillgarwch agos.

Mae rhain yn cynnwys:

Priod/partner Cyplau sy’n canlyn Rhieni/rhieni yng nghyfraith/llysrieni Plant/llysblant Brodyr/chwiorydd Neiniau/teidiau ac wyrion/wyresau Modrybedd, ewythrod a chefndryd Cyfeillgarwch agos

Oes gennych chi berthynas bersonol agos gydag aelod presennol o staff Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales?

Oes/Na

Os oes, disgrifiwch natur y berthynas hon:

Page 13:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

CANOLWYR

Rhowch enwau, cyfeiriadau (gan gynnwys cod post) a rhifau ffôn dau ganolwr yn llawn. Dylai un o'r rhain fod eich cyflogwr diweddaraf lle bo modd. Gofynnir am eirdaon ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.Arwyddwch isod i roi eich caniatad i gysylltu a’ch canolwyr os bydd eich cais yn llwyddiannus.

CANOLWR 1

Enw'r sefydliad:

Cyfeiriad y sefydliad: Enw’r Canolwr:

Teitl y Swydd neu eich Perthynas ag ef/hi:

Cyfeiriad E-bost/rhif ffôn:

CANOLWR 2

Enw'r sefydliad:

Cyfeiriad y sefydliad: Enw’r Canolwr:

Teitl y Swydd neu eich Perthynas ag ef/hi:

Cyfeiriad E-bost/rhif ffôn:

Rwy’n rhoi fy nghaniatad i gysylltu a’r canolwyr uchod er mwyn cael geirdaon, pe bai fy nghais yn llwyddiannus.

Llofnod: ________________________________________________

Page 14:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

SYLWCH – Os cewch eich apwyntio gan Addysg Oedolion Cymru bydd angen i chi ddarparu copïau gwreiddiol o dystysgrifau cymwysterau a phrawf eich bod yn gymwys i weithio yn y DU.

Dychwelwch os gwelwch yn dda i: [email protected]

neu at J. Jones yn y cyfeiriad isod:-Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales, Swyddfa Bangor, Bryn Menai, Ffordd Caergybi,

Bangor, Gwynedd, LL57 2JAFfôn: 01248 363940

Mae Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales yn gyflogwr cyfle cyfartal

Page 15:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

FFURFLEN MONITRO CYFLE CYFARTAL

Nodwch y bydd y ffurflen hon yn cael ei datgysylltu o'ch cais ac ni fydd yn cael ei hystyried yn ystod y broses recriwtio.

Y Swydd yr Ymgeisir amdani: Rheolwr AD

Cyfeirnod y Cais (at ddefnydd y swyddfa’n unig)

ADRAN 1

MANYLION PERSONOL

Teitl: Enw cyntaf: Cyfenw:

Cyfeiriad, gan gynnwys y cod post:

Rhif ffôn yn ystod y dydd

Rhif Ffôn Symudol:

*Cyfeiriad E-bost:

Page 16:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

*Nodwch y byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost fel y prif ddull o gysylltu â chi lle bynnag y bo modd. Felly gwnewch yn siŵr bod hwn yn gywir os gwelwch yn dda.

MONITRO CYFLE CYFARTAL

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn neilltuo ychydig o amser i roi'r wybodaeth isod i ni sy’n ymwneud â chyfle cyfartal. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon er mwyn monitro a gwerthuso dosbarthiad amrywiaeth ar draws Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth.

Nodwch y categorïau sydd, yn eich barn chi, yn eich disgrifio chi orau.

Rhyw: Gwryw Benyw Di-Deuaidd Gwell gennyf beidio dweud

Os byddai well gennych term arall, nodwch hynny yma:

Beth yw eich dyddiad geni?

Beth yw eich crefydd neu gred?

Dim crefydd neu gred

Anffyddiwr Bwdhaidd

Cristnogol Hindŵaidd Sikh

Mwslimaidd Iddewig Gwell gennyf beidio dweud

Page 17:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

Os oes gennych grefydd neu gred nad ydy ar y rhestr yma, nodwch yma:

Ydydch chi’n briod neu mewn partneriaeth sifl?

Priod Partneriaeth Sifl Gwell gennyf beidio dweud

Hil a Chenedligrwydd

Gwyn Cymraeg Gwyn Saesneg Gwyn albanaidd Gwyn Gogledd Wyddelig

Gwyn Gwyddelig Gwyn Prydeinig Gwyn Sipsiwn neu Deithiwr Gwyddelig Unrhyw gefndir Gwyn aral, nodwch hynny yma:

Asiaidd/Asiaidd Prydeinig

Indiaidd Pacistanaidd

Bangladeshaidd

Tseiniaidd

Cefndir Asiaidd arall, nodwch hynny yma:

Du/Affricanaidd/ Caribïaidd /Du Prydeinig

Affricanaidd Caribî

Unrhyw gefndir arall Du/Affricanaidd/ Caribïaidd, nodwch hynny yma:

Cymysg/Grwp Aml-ethnig Gwyn a Du Caribïaidd Gwyn a Du Affricanaidd Gwyn ac Asiaidd Asiaidd a Du Caribïaidd Asianaidd a Du Affricanaidd Unrhyw gefndir cymysg arall, nodwch hynny yma:

Page 18:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

Grwp ethnig arall Arabaidd Unrhyw grwp ethnig arall, nodwch hynny yma:

Gwell gennyf beidio dweud

Beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol?

Heterorywiol Menyw hoyw/lesbaid Dyn hoyw Deurywiol

Gwell gennyf beidio dweud

Os byddai well gennych ddefnyddio term eich hyn, nodwch hynny yma:

Ydych yn ystyried fod gennych anabledd o dan Deddf Cydraddoldeb 2010?

Oes Na Gwell gennyf beidio dweud

Os oes gennych anabledd, beth yw natur eich anabledd? Nodwch hynny yma:

** Nodwch os gwelwch yn dda y ceisir y wybodaeth hwn at ddibenion monitro. Os ydych angen addasiadau i’ch swydd oherwydd eich anabledd, siaradwch gyda’ch rheolwr llinell **

Bydd ymgeiswyr ag anabledd sy’n cael cyfweliad yn cael cyfle i drafod sut y gallwn ddarparu ar gyfer eu hanghenion yn ystod y broses recriwtio ac os ydynt yn cael eu cyflogi gan Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

A oes gennych gyfrifoldebau gofalu? Os oes, ticiwch bob un sy’n berthnasol

Dim

Prif ofalwr plenty/plant (o dan 18)

Prif ofalwr plenty anabl/plant anabl

Prif ofalwr oedolyn anabl (18 a throsodd)

Page 19:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati

Prif ofalwr person hyn

Ail ofalwr (mae person arall yn cyflawni’r brif rôl gofalu)

Gwell gennyf beidio dweud

Page 20:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati
Page 21:   · Web viewSgiliau TG medrus yn holl rhaglenni meddalwedd MS Office sy'n cynnwys defnyddio h.y. Word, Excel, Power Point, Outlook a cronfeydd data ac ati