Upload
others
View
11
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
UNED 13
Patrwm craidd
MYNEGI DYLETSWYDD (Expressing duty)
Mi ddylwn i
Mi ddylet ti
Mi ddylai fo / hi / y plant / ’na
Mi ddylen ni
Mi ddylech chi
Mi ddylen nhw
(= I should / I ought to, ac ati)
[Yn y Cwrs Wlpan, mae’r patrwm yma’n codi yn Uned 41]
Hefyd yn yr uned:
ADOLYGU 1. Pryd i ddefnyddio “yn”
2. Atebion
GWRANDO: 1. Cyfweliadau: Swydd Tiwtor Cymraeg
2. Newyddion
DARLLEN: Llythyr o Dudalen Broblemau
YSGRIFENNU: Ysgrifennu ateb i’r llythyr o’r Dudalen Broblemau
253
A. PROC I’R COF
1.i Rhowch gyngor (Give advice) efo: mi ddylech chi.... neu ddylech chi ddim.... neu mi ddylet ti.... neu ddylet ti ddim....
Dw i dan straen
Sgen i ddim pres
Dw i ddim yn gwneud digon o ymarfer corff
Mae gen i ddannodd
Dw i’n anghofio pethau trwy’r amser
Mae gen i ofn uchder
Dw i’n cael prawf wythnos nesa
Dw i ddim yn siarad digon o Gymraeg
Mae fy ngardd i’n edrych yn flêr
Dw i wedi colli fy ngherdyn banc
Mae gen i broblem efo fy mhen-glin
Dw i ddim yn licio fy mos
Mae fy mhen-blwydd i yfory
Sgen i ddim amser i wneud fy ngwaith cartre
ii Newidiwch y person mewn rhai o’r brawddegau uchod (the above sentences) i Siân, ac atebwch efo Mi ddylai hi...., e.e.
Mae gan Siân broblem efo’i phen-glin > Ddylai hi ddim rhedeg marathon
iii Newidiwch y person mewn rhai o’r brawddegau uchod i Siôn, ac atebwch efo Mi ddylai fo...., e.e.
Dydy Siôn ddim yn licio ei fos > Mi ddylai fo chwilio am swydd newydd
iv Newidiwch y person mewn rhai o’r brawddegau uchod i y cymdogion, ac atebwch efo Mi ddylen nhw...., e.e.
Mae gardd y cymdogion yn flêr > Mi ddylen nhw dorri’r gwair 254
2.i Parwch y brawddegau
A. Dw i ddim yn licio’r tŷ newydd
B. Mi wnes i frifo fy mhen
C. Sgynnon ni ddim trydan
CH. Mae gen i ben mawr
D. Mae gen i ddannodd
DD. Mae gen i boen bol
E. Dw i ddim yn medru gwneud syms
F. Wnes i ddim mwynhau’r bwyd o gwbl
FF. Dw i’n wlyb domen
G. Sgen i ddim pres ar ôl
NG. Dw i wedi dal annwyd
H. Mae fy mharot i wedi marw
1. Mi ddylet ti fod wedi cwyno
2. Mi ddylet ti fod wedi dŵad ag ymbarél
3. Mi ddylet ti fod wedi gwisgo fest
4. Mi ddylet ti fod wedi gwisgo helmed
5. Mi ddylet ti fod wedi gwrando mwy yn yr ysgol
6. Mi ddylet ti fod wedi mynd â fo at y fet
7. Mi ddylet ti fod wedi talu’r bil
8. Ddylet ti ddim bod wedi bwyta cymaint
9. Ddylet ti ddim bod wedi bwyta cymaint o dda-da
10. Ddylet ti ddim bod wedi symud
11. Ddylet ti ddim bod wedi yfed cymaint
12. Ddylet ti ddim bod wedi chwarae poker
ii. Newidiwch y personau yn yr ymarfer uchod, e.e.
Sgan Gareth ddim pres ar ôl > Ddylai fo ddim bod wedi chwarae poker
Wnaethon nhw ddim mwynhau’r bwyd o gwbl > Mi ddylen nhw fod wedi cwyno
255
3. Defnyddiwch Mi ddylwn i ... / Ddylai fo/hi ddim ... / Mi ddylen ni fod wedi ... ac ati efo’r lluniau yma:
yn gynt- sooner , earlier, faster
256
Taflen Waith 1
1. Llenwch y bylchau
Mi ______________ i wneud mwy o ymarfer corff.
Mi ______________ ti fwyta llai o siocled.
______________ ni dalu’r bil yma?
Mi ddylai pawb ______________ ar Radio Cymru bob dydd.
Ddylai pobl ddim ______________ ar linellau melyn dwbl.
Mi ddylech chi ______________ wedi gofyn am help.
Mi ______________’r staff fod wedi cloi’r drws.
______________ nhw ddim ______________ wedi cau’r ysgol.
2. Ymatebwch (Respond) efo Mi ddylai hi ... ac ati
Mae gan Siân annwyd
_____________________________________________________________________
Dydy’r staff ddim yn cael chwarae teg
_____________________________________________________________________
Dw i wedi yfed gormod
_____________________________________________________________________
Dan ni ddim yn medru siarad Ffrangeg
_____________________________________________________________________
Mae Gareth wedi cael tocyn parcio
_____________________________________________________________________
Mae siop y pentre wedi cau
_____________________________________________________________________
Wnest ti anghofio prynu tocynnau?
_____________________________________________________________________
Mae’r cwmni wedi colli llawer o bres eleni.
_____________________________________________________________________
257
B. CRYNHOI (Summary)
1. Pryd mae ’na “yn”?
Mi ddylwn i ddeud Ddylwn i ddim deud
Mi ddylech chi ofyn Ddylech chi ddim gofyn
Mi ddylen nhw fod yma Ddylen nhw ddim bod yma
Mi ddylai pobl gwyno Ddylai pobl ddim cwyno
Mae o’n gweithio Dydy o ddim yn gweithio
Roedd o’n gweithio Doedd o ddim yn gweithio
Mi wnaeth o weithio Wnaeth o ddim gweithio
Mi fydd o’n gweithio Fydd o ddim yn gweithio
Mi wneith o weithio Wneith o ddim gweithio
Mi geith o weithio Cheith o ddim gweithio
Mi fasai fo’n gweithio Fasai fo ddim yn gweithio
Tasai fo’n gweithio Tasai fo ddim yn gweithio
Mi ddylai fo weithio Ddylai fo ddim gweithio
Dan ni’n brysur Dan ni ddim yn brysur
Rôn i’n brysur Dôn i ddim yn brysur
Mi fyddan nhw’n brysur Fyddan nhw ddim yn brysur
Mi faset ti’n hapus Faset ti ddim yn hapus
Tasech chi’n hapus Tasech chi ddim yn hapus
Mi wnaethon nhw dalu Wnaethon nhw ddim talu
Mi wnân nhw dalu Wnân nhw ddim talu
Mi gawn ni barcio yma Chawn ni ddim parcio yma
Mi ddylai pawb barcio yma Ddylai neb barcio yma
258
2. Atebion Yes/No
Ddylwn i symud? Dylet / Na ddylet
Ddylen ni ddwad i’r cyfarfod? Dylech / Na ddylech
Ddylet ti ddeud wrth y bos? Dylwn / Na ddylwn
Ddylai’r bos wybod? Dylai / Na ddylai
Ddylen nhw dynnu’r adeilad i lawr? Dylen / Na ddylen
Ddylai pobl gael eu pres yn ôl? Dylen / Na ddylen
Wyt ti’n barod? Ydw / Nac ydw
Dach chi i gyd yn barod? Ydan / Nac ydan
Ydy’r bwyd yn barod? Ydy / Nac ydy
Ydy’r tatws yn barod? Ydyn / Nac ydyn
Dw i’n iawn? Wyt / Nac wyt
Dan ni’n iawn? Ydach / Nac ydach
Oes ‘na broblem? Oes / Nac oes
Sgan y bos broblem? Oes / Nac oes
Pres ydy’r broblem? Ia / Naci
Y cymdogion ydy’r broblem? Ia / Naci
Oeddet ti’n brysur? Ôn / Nac ôn
Oeddech chi i gyd yma? Oedden / Nac oedden
Oedd y bwyd yn dda? Oedd / Nac oedd
Oedd y staff yn glên? Oedden / Nac oedden
Oedd gen ti gi pan oeddet ti’n blentyn? Oedd / Nac oedd
Labrador oedd o? Ia / Naci
Oedd ‘na broblemau ar y ffordd ddoe? Oedd / Nac oedd
Y goleuadau traffig oedd y broblem? Ia / Naci
Ôn i’n edrych yn wirion? Oeddet / Nac oeddet
259
Wnest ti weld y gêm? Do / Naddo
Enillodd Cymru? Do / Naddo
Wnei di helpu? Wna i / Na wna i
Wnewch chi ddwad i’r parti? Wnawn / Na wnawn
Wneith y peiriant weithio? Wneith / Na wneith
Fyddi di yn y swyddfa yfory? Bydda / Na fydda
Fyddwch chi yn y cyfarfod? Byddwn / Na fyddwn
Fydd y cyfarfod yn hir? Bydd / Na fydd
Fydd y staff i gyd yno? Byddan / Na fyddan
Fydd ‘na banad a bisgedi? Bydd / Na fydd
Yn y neuadd fydd y cyfarfod? Ia / Naci
Ga’ i fenthyg tipyn bach o bres? Cei / Na chei
Gawn ni aros yn eich tŷ chi? Cewch / Na chewch
Geith y ci gysgu yn y gegin? Ceith / Na cheith
Geith y plant chwarae yn yr ardd? Cân / Na chân
Faset ti’n licio diod? Baswn / Na faswn
Fasech chi’n licio mynd allan i fwyta? Basen / Na fasen
Fasai Ceri’n licio dwad efo ni? Basai / Na fasai
Fasai dy rieni di’n licio dwad hefyd? Basen / Na fasen
Y Llew Coch fasai’r lle gorau? Ia / Naci
Fasai’n well gen ti’r Llew Du? Basai / Na fasai
Ddylen ni stopio rwan? Dylen / Na ddylen
Dyna’r diwedd? Ia / Naci
260
Taflen Waith 2
1. Rhowch “yn” yn y bylchau yma, os oes angen. Treiglwch y gair ar ôl y bwlch, os yn berthnasol.Fill these gaps with “yn”, if necessary. Mutate the word after the gap, if relevant.
Wnes i ddim _____ gweld y ffilm.
Doedd y peiriant ddim _____ gweithio.
Mi wnaeth y staff _____ mynd ar streic.
Mi ddylech chi _____ cael mwy o wyliau.
Mi fasai’r system _____ gweithio’n dda, tasai pawb _____ gwrando.
Wna i ddim _____ talu’r bil tan wythnos nesa.
Fydd y parsel ddim _____ cyrraedd tan ddydd Sadwrn.
Ddylai pobl ddim _____ parcio wrth yr ysgol.
Dydy’r cyfarfod ddim _____ dechrau tan hanner awr wedi naw.
Mi ddylai pawb _____ cofio’r ateb.
2. Atebwch Yes/No
Ddylwn i redeg yn y ras? _____________ / __________________
Oedd y siopau ar agor dydd Sul? _____________ / __________________
Fyddwch chi i gyd yma yfory? _____________ / __________________
Wnewch chi weithio’n hwyr heno, plîs? _____________ / __________________
Jones oedd enw’r teulu? _____________ / __________________
Ddylai’r cymdogion dorri’r goeden? _____________ / __________________
Geith y staff fynd adra’n gynnar? _____________ / __________________
Faset ti’n siomedig tasai’r tîm yn colli? _____________ / __________________
Y landlord ddylai dalu? _____________ / __________________
Dach chi i gyd yn hapus? _____________ / __________________
261
Geirfa’r uned b = benywaidd/feminineg = gwrywaidd/masculine
blêr - untidy
cymaint - so much, so many
cynt - faster, sooner, earlier
cwyno - to complain
da-da (g) - sweets
dannodd (b) - toothache
dan straen - stressed
gwlyb domen - soaking wet
ofn (g) - fear mae gen i ofn llygod
= I’m afraid of mice
prawf (g) - test
uchder (g) - heights
Geirfa’r ddeialog
bagio - to reverse
colli - to spill
crafu - to scratch
cuddio - to hide
diolch byth - thank goodness
hynny - that (abstract)
mae’n debyg - probably
rhieni yng nghyfraith - in-laws
staen (g) - stain
sylwi - to notice
tollti - to pour
262
C. DEIALOG
A. Sut aeth y penwythnos efo’r rhieni yng nghyfraith?
B. Ddim yn dda iawn.
A. O diar, be’ ddigwyddodd?
B. Tua deg munud ar ôl cyrraedd nos Wener, mi golles i win coch
dros y carped gwyn newydd.
A. O na. Be’ wnest ti?
B. Roedd fy mam a fy nhad yng nghyfraith yn paratoi swper yn y gegin ar y pryd, diolch
byth, felly mi symudes i’r soffa i guddio’r staen.
A. Ddylet ti ddim bod wedi gwneud hynny! Mi ddylet ti fod wedi tollti gwin gwyn ar y
staen yn syth.
B. O wel, rhy hwyr rŵan. Wedyn, bore Sadwrn, mi grafes i gar fy
nhad yng nghyfraith wrth fagio allan o’r dreif.
A. O diar! Be’ ddudodd o?
B. Dydy o ddim yn gwybod eto. Mi wnes i guddio’r marc efo tipyn bach o fwd o’r ardd.
A. Mm, ddylet ti ddim bod wedi gwneud hynny. Mae o’n siwr o sylwi.
B. O wel, rhy hwyr rwan. Wedyn, pnawn ddoe, mi gaethon ni banad a bara brith cyn
gadael. Dw i ddim yn licio bara brith, felly pan doedd fy mam yng nghyfraith ddim
yn edrych, mi wnes i roi’r gacen i’r ci dan y bwrdd.
A. O diar, ddylet ti ddim bod wedi gwneud hynny. Mae cyrrens
yn gwneud cŵn yn sâl.
B. O wel, rhy hwyr rŵan.
A. Pryd fyddi di’n mynd i weld dy rieni yng nghyfraith eto?
B. Byth, mae’n debyg!
263
CH. GWRANDO
1. Cyfweliadau: Swydd Tiwtor Cymraeg i Oedolion
Geirfa’r cwestiynauoedolion - adultscyfweliad (g) - interviewcynnig am - to apply forprofiad (g) - experiencecymwysterau (g) - qualificationsmaes (g) - fielddatblygu - to develop
Ms Evansher (b) - challengeffurfiol - formalcyfle (g) - chance, opportunityTGAU - GCSEcyfieithu - to translateanffurfiol - informalcymuned (b) - community
Ms Jonesagos at fy nghalon - close to my heartllefydd (g) - placesdyna i gyd - that’s allgradd (b) - degreeiaith / ieithoedd (b) - language(-s)
Dr Williamsysgol uwchradd (b) - secondary schoolwedi cael llond bol ar - to be fed up oftreulio - to spendbarddoniaeth (b) - poetry
264
A. Ms Evans
Be’ mae hi’n wneud rŵan?
_____________________________________________________________________
Ers faint mae hi’n gweithio yno?
_____________________________________________________________________
Pam mae hi isio swydd newydd?
_____________________________________________________________________
Faint o brofiad sgynni hi o ddysgu Cymraeg i oedolion?
_____________________________________________________________________
Pa gymwysterau sgynni hi yn y Gymraeg?
_____________________________________________________________________
Be’ ddylai ddigwydd ym maes Cymraeg i Oedolion?
_____________________________________________________________________
B. Ms Jones
Be’ mae hi’n wneud rŵan?
_____________________________________________________________________
Ers faint mae hi’n gweithio yno?
_____________________________________________________________________
Pam mae hi isio swydd newydd?
_____________________________________________________________________
Faint o brofiad sgynni hi o ddysgu Cymraeg i oedolion?
_____________________________________________________________________
Faint o brofiad sgynni hi o ddysgu ieithoedd?
_____________________________________________________________________
265
Pa gymwysterau sgynni hi yn y Gymraeg?
_____________________________________________________________________
Be’ ddylai ddigwydd ym maes Cymraeg i Oedolion?
_____________________________________________________________________
C. Dr Williams
Be’ mae hi’n wneud rŵan?
_____________________________________________________________________
Ers faint mae hi’n gweithio yno?
_____________________________________________________________________
Pam mae hi isio swydd newydd?
_____________________________________________________________________
Faint o brofiad sgynni hi o ddysgu Cymraeg i oedolion?
_____________________________________________________________________
Faint o brofiad sgynni hi o ddysgu Cymraeg?
_____________________________________________________________________
Pa gymwysterau sgynni hi yn y Gymraeg?
_____________________________________________________________________
Be’ ddylai ddigwydd ym maes Cymraeg i Oedolion?
_____________________________________________________________________
Pwy ddylai gael y swydd? _________________________________
Pam? _______________________________________________________________
266
2. Newyddion
Geirfa
cyfres (b) - series
cyfeiriad (g) - direction
cyngor (g) - council, advice
cynllun (g) - plan
parhau - to continue
tymheredd (g) - temperature
gwres (g) - heat
dan do - indoors
cawod (b) - shower
ola - last, final
pafin (g) - pavement
yn ôl - according to
1. Be’ ddylai pobl sy isio teithio rhwng Bangor a Chaer wneud heddiw?
_____________________________________________________________________
2. Be’ ddylai’r Cyngor ddim wneud, yn ôl y protestwyr?
_____________________________________________________________________
3. Be’ ddylai pobl wneud o achos y gwres?
a) _____________________________________________________________________
b) _____________________________________________________________________
c) _____________________________________________________________________
4. Be’ ddylai Gareth Ramsey fod wedi wneud ym munud ola’r gêm?
_____________________________________________________________________
5. Be’ ddylech chi fod wedi wneud, os oeddech chi isio tocyn i’r cyngerdd?
_____________________________________________________________________
267
D. DARLLEN AC YSGRIFENNU: Y Dudalen Broblemau
Darllenwch y llythyr yma o dudalen broblemau’r cylchgrawn S’mae, ac ysgrifennwch ateb i’r llythyr
Annwyl S’mae,
Chwe mis yn ôl, mi ddechreuodd fy ngŵr i ar swydd yn Ne-Ddwyrain Lloegr. Mae hi’n swydd
ardderchog iddo fo, ond dan ni ddim yn medru symud yno fel teulu ar hyn o bryd achos dan
ni ddim yn medru fforddio prisiau’r tai. Dan ni ddim isio symud beth bynnag, a deud y gwir,
achos mae ein plant ni mewn ysgol Gymraeg ardderchog yma. Felly, mae fy ngŵr i oddi
cartref trwy’r wythnos ac yn dwad adra bob penwythnos.
Mae hyn yn cael effaith ddrwg iawn ar ein perthynas ni. Mae o’n cyrraedd adra’n hwyr bob
nos Wener ar ôl gyrru tua dau gan milltir mewn traffig trwm. Ar ôl cyrraedd, dydy o ddim
isio siarad efo ni o gwbl, dim ond bwyta ei swper ac yna gorweddian ar y soffa o flaen y
teledu. Dros y penwythnos, dw i wir isio i ni wneud pethau efo’n gilydd fel teulu, ond mae
o’n deud fod o wedi blino gormod i wneud dim byd.
Dw i a’r plant yn edrych ymlaen cymaint at ei gael o adra bob penwythnos, ond yn y diwedd,
dan ni’n treulio pob penwythnos yn ffraeo. Dw i’n dal i garu fy ngŵr, ond dydy o ddim fel
tasai fo’n rhan o’r teulu erbyn hyn. Beth ddylen ni wneud?
Yn gywir,
A.J., Treffynnon
Geirfa
cylchgrawn (g) - magazinetudalen (b) - pagefforddio - to affordoddi cartref - away from homehyn - this (abstract)effaith (b) - effectperthynas (g) - relationshipgorweddian - to loungeefo’n gilydd - togethercymaint - so muchtreulio - to spend (time)ffraeo - to quarrelrhan (b) - partyn gywir - yours faithfully/sincerely
268
DD. GRAMADEG (Er gwybodaeth)
Mi ddylwn iI should, I ought to
Mi ddylwn i
Mi ddylet ti
Mi ddylai fo/hi
Mi ddylai'r plant
Mi ddylen ni
Mi ddylech chi
Mi ddylen nhw
a) Mi ddylwn i = I should / I ought to:
Mi ddylwn i fynd = I should go / I ought to go
I should be / I ought to be = Mi ddylwn i fod
Mi ddylen nhw fod yma = They should be here
b) “Mi” yn y positif; dim “mi” yn y cwestiwn a’r negyddol
Mi ddylai fo wybod = He ought to know
Ddylen ni dalu ? = Should we pay?
Ddylet ti ddim gofyn = You shouldn’t ask
c) Does ’na ddim “yn” ar ôl “mi ddylwn i”:
Mi ddylwn i fynd I ought to go
Mi ddylai pawb fynd Everybody ought to go
Mi ddylai’r staff fynd The staff ought to go
Ddylwn i ddim mynd I shouldn’t go
Ddylai’r staff ddim mynd The staff shouldn’t go
Ddylai pobl ddim mynd People shouldn’t go
269
ch) Mae’r gair cynta ar ôl y person/goddrych yn treiglo;The first word after the person / subject mutates:
Mi ddylai hi dalu
Mi ddylai pawb gofio
Mi ddylai’r peiriant weithio
Does ’na ddim treiglad ar ôl “ddim”:
Ddylech chi ddim gweithio
d) Mae’r atebion Yes/No yn newid efo’r person:
Ddylwn i fynd? Dylet / Na ddylet
Ddylet ti symud? Dylwn / Na ddylwn
Ddylai fo/hi weithio? Dylai / Na ddylai
Ddylen ni gychwyn? Dylen / Na ddylen )
Dylech / Na ddylech )
Ddylen nhw adael? Dylen / Na ddylen
Ddylai’r staff adael? Dylen / Na ddylen
dd) Mi ddylwn i dalu > Mi ddylwn i fod wedi talu
I should pay > I should have paid
(lit. = I should be after paying)
Mi ddylet ti fod wedi cofio You should have remembered
Mi ddylen ni fod wedi galw We should have called
Mi ddylai’r staff fod wedi helpu The staff should have helped
Ddylwn i ddim bod wedi gofyn I shouldn’t have asked
Ddylai’r tîm ddim bod wedi colli The team shouldn’t have lost
Mae “bod” yn treiglo ar ôl y person, ond dydy o ddim yn treiglo ar ôl “ddim”
270
GEIRFA UNED 13
according to yn ôladults oedolionadvice cyngor (g)afford, to fforddioapply for, to cynnig amaway from home oddi cartrefchallenge her (b)chance cyfle (g)close to my heart agos at fy nghaloncommunity cymuned (b)complain, to cwynocontinue, to parhaucouncil cyngor (g)degree gradd (b)develop, to datblygudirection cyfeiriad (g)earlier, sooner cynteffect effaith (b)experience profiad (g)faster cyntfear ofn (g)fed up of, to be wedi cael llond bol arfield maes (g)formal ffurfiolGCSE TGAUheat gwres (g)height(s) uchder (g)hide, to cuddioindoors dan doinformal anffurfiolin-laws rhieni yng nghyfraithinterview cyfweliad (g)language(-s) iaith / ieithoedd (b)last (final) olalounge, to gorweddianmagazine cylchgrawn (g)notice, to sylwi
271
opportunity cyfle (g)page tudalen (b)part rhan (b)pavement pafin (g)places llefydd (g)plan cynllun (g)poetry barddoniaeth (b)pour, to tolltiprobably mae’n debygqualifications cymwysterau (g)quarrel, to ffraeorelationship perthynas (g)reverse, to bagioscratch, to crafusecondary school ysgol uwchradd (b)series cyfres (b)shower cawod (b)so much, so many cymaintsoaking wet gwlyb domenspend, to (time) treuliospill, to collistain staen (g)stressed dan straensweets da-da (g)temperature tymheredd (g)test prawf (g)thank goodness diolch byththat (abstract) hynnythat’s all dyna i gydthis (abstract) hyntogether efo’n gilyddtoothache dannodd (b)translate, to cyfieithuuntidy blêryours faithfully/sincerely yn gywir
272