22

[PPT]PowerPoint Presentationresource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/tcg... · Web viewTitle PowerPoint Presentation Author CBAC Last modified by WJEC Created Date 5/6/2014 6:14:58

  • Upload
    vandat

  • View
    215

  • Download
    2

Embed Size (px)

Citation preview

Llun o berson gan arlunydd neu awdur yw portread.

Defnyddio pensil neu baent mae arlunydd i greu darlun o berson. Mae awdur yn defnyddio geiriau i greu ei ddisgrifiad o berson. Mae’n disgrifio golwg a personiaeth ac yn dweud tipyn o hanes y person.

Golwg

Personoliaeth

Hanes

Gweithredoedd

Ysgrifennu Portread

• Bydd rhaid i chi syllu ar wahanol bobl.

• Bydd rhaid i chi sylwi ar beth mae pobl yn ei wisgo.

• Bydd rhaid i chi sylwi ar beth mae pobl yn ei ddweud a'r ffordd maen nhw'n siarad.

• Bydd rhaid i chi sylwi ar y ffordd mae pobl yn ymddwyn ac weithiau'n teimlo.

• Os byddwch yn sylwi ar y pethau bach - y pethau sy'n gwneud un person yn wahanol i bawb arall yn y byd – bydd eich portread yn un gwych!

Er mwyn llwyddo i ysgrifennu

portread bydd rhaid i chi

ymddwyn fel ditectif!

Creu darlun o gymeriad

Er mwyn cael darlun llawn o berson bydd rhaid i chi:

•ddisgrifio golwg,

•disgrifio personoliaeth,

•disgrifio gweithredoedd,

•disgrifio hanes

Golwg

Personoliaeth

Hanes

Gweithredoedd

Mae pawb yn wahanol! Rydym yn edrych yn wahanol i’n gilydd ac mae ein cymeriad yn wahanol hefyd.

Dynes dal, denau oedd Nain Tyddyn Gwyn. Roedd ganddi lygaid mawr crwn fel dwy soser, trwyn bach smwt ac anferth o geg lydan a edrychai’n union fel ceg clown. Roedd ei chroen wedi crebachu fel petai hi wedi bod yn y bath am ddwy flynedd.Roedd Nain Bryn Melyn, ar y llaw arall, yn bwten fach grwn gyda gwallt gwyn, cyrliog. Gwisgai sbectol fach hanner lleuad ar flaen ei thrwyn a mwclis mawr lliwgar am ei gwddf bob amser. Roedd ganddi fochau coch fel dwy bêl griced oedd yn neidio i fyny at ei llygaid pan fyddai’n chwerthin.

Darllenwch y disgrifiadau eto a thynnwch luniau ohonyn nhw!

Cofiwch ddisgrifio’r person o’r corun i’r sawdl neu o’r sawdl i’r corun.

Dyma enghraifft: Geneth efo gwallt brown, cyrliog, coesau main a thrwyn smwt oedd Sara. Roedd ganddi fochau coch a thraed anferth.

Mae'r enghraifft hon yn well!

Geneth efo gwallt brown, cyrliog, trwyn smwt a bochau coch oedd Sara. Roedd ganddi goesau main a thraed anferth.

Enghraifft

Gwallt du, pigog sydd gan Arwel - gwallt sy'n wahanol i wallt pawb arall yn y dosbarth! Mae ganddo wyneb crwn a dwy glust eithaf mawr fel rhai Gwilym, ei dad-cu! Mae ganddo lygaid glas a brychni haul yn gorchuddio ei wyneb. Mae ei ddannedd yn gam a’i wên yn ddireidus.!

Wyneb main a chul sydd gan Morgan ac arno fop o wallt coch! Pan mae o'n codi yn y bore mae ei wallt yn debyg i bigau draenog! Mae ei ddillad bob amser yn flêr a dydy o ddim yn poeni rhyw lawer am ffasiwn. Mae ei lygaid bach glas yn disgleirio fel dwy farblen a’i wefusau fel twll botwm o dan ei drwyn hir. Mae’n gwgu bob amser!

Er mwyn creu darlun llawn o'r person, mae defnyddio ansoddeiriau'n bwysig.

Edrychwch ar y disgrifiad ac uwcholeuwch yr ansoddeiriau.

•Beth ydy eich barn chi am y dewis o ansoddeiriau? •Ydy’r ansoddeiriau’n addas?

Trafodwch gyda phartner.Wyneb main a chul sydd gan Morgan ac arno fop o wallt coch! Pan mae o'n codi yn y bore mae ei wallt yn debyg i bigau draenog! Mae ei ddillad bob amser yn flêr a dydy o ddim yn poeni rhyw lawer am ffasiwn. Mae ei lygaid bach glas yn disgleirio fel dwy farblen a’i wefusau fel twll botwm o dan ei drwyn hir. Mae’n gwgu bob amser!

Ni ddylem orddefnyddio ansoddeiriau neu bydd y disgrifiad yn un diflas!

Disgrifio’r Corff

Does dim angen disgrifio pob un manylyn bach am y person neu'r cymeriad rydych yn ei ddisgrifio. Canolbwyntiwch ar beth sy'n mynd i wneud y disgrifiad yn un byw ac yn wahanol i unrhyw berson arall.

Disgrifio gwisg

Mae'n bwysig hefyd disgrifio'r hyn mae'r cymeriad yn ei wisgo. Mae hyn yn dweud rhywbeth wrthon ni am y cymeriadau.

Darllenwch y disgrifiad hwn o Now Dafydd:

Gwisgai drowsus byr, patrymog a hen grys chwys tyllog. Roedd ei wallt cyrliog yn un nyth blêr o dan ei gap gwlân.Mae yma ddarlun clir o’r hyn mae o’n ei wisgo a'r ffordd mae o'n edrych.

Tynnwch lun cymeriad sydd ychydig yn wahanol! Rhowch enw iddo/iddi. Labelwch y llun gan ddefnyddio ansoddeiriau diddorol. Dangoswch eich llun a'ch dewis o ansoddeiriau diddorol i weddill y dosbarth!

Mae personoliaeth pawb yn wahanol! Dyma ddisgrifiad o Emyr o'r stori Anna Ffenna Ffostus:

Bachgen bach tawel, breuddwydiol iawn oedd Emyr. Nid oedd yn hoffi rhuthro o gwmpas. Doedd o ddim yn hoffi chwaraeon swnllyd. Fyddai arno byth eisiau chwarae pêl-droed na chwarae cuddio. Yn wir, prin y byddai'n chwarae gyda'r plant eraill o gwbl. Yn yr ysgol, safai Emyr yn aml â'i gefn ar y wal yn gwylio'r plant yn chwarae. Weithiau fe deimlai'n unig iawn. Fe syllai ac fe syllai ar y plant, ond ni fyddai'n mynd atyn nhw chwaith. Bellach roedd y plant wedi blino gofyn iddo ymuno â nhw yn y chwarae.

Anna Ffenna Ffostus gan Emily Huws, Cynllun y Porth

Bachgen bach tawel, breuddwydiol iawn oedd Emyr. Nid oedd yn hoffi rhuthro o gwmpas. Doedd o ddim yn hoffi chwaraeon swnllyd. Fyddai arno byth eisiau chwarae pêl-droed na chwarae cuddio. Yn wir, prin y byddai'n chwarae gyda'r plant eraill o gwbl. Yn yr ysgol, safai Emyr yn aml â'i gefn ar y wal yn gwylio'r plant yn chwarae. Weithiau fe deimlai'n unig iawn. Fe syllai ac fe syllai ar y plant, ond ni fyddai'n mynd atyn nhw chwaith. Bellach roedd y plant wedi blino gofyn iddo ymuno â nhw yn y chwarae.

Anna Ffenna Ffostus gan Emily Huws, Cynllun y Porth

Trafodwch gymeriad Emyr.

Darllenwch y testun hwn. "Gwych bechgyn!" bloeddiodd Mr Ifans yr athro chwaraeon, a llamu ar y cae efo'i goesau hirion."Absolutely brilliant!"Doedden nhw ddim yn gwybod eto beth oedd wedi hitio nhw!Wedi dysgu Cymraeg oedd Mr Ifans, tua'r un pryd â phan newidiodd ei enw o Evans i Ifans. Roedd o mor frwdfrydig am bob dim bob amser, ac edrychai'n debyg i ebol efo'i osgo heglog a'i wallt hir.

Pac o Straeon Rygbi 2 - Alun Wyn Bevan - Gwasg Gomer

Manylion diddorol

Mae'n bwysig manylu ar beth mae'r cymeriad yn ei wneud o ddydd i ddydd. Efallai bod rhai ohonoch chi'n gafael yn eich gên pan rydych yn pendroni dros rhyw broblem.Efallai bod ambell un ohonoch chi'n crychu eich talcen pan rydych yn edrych yn flin ar rywun arall.Efallai bod ambell un ohonoch yn cnoi eich ewinedd pan rydych chi'n teimlo'n nerfus.

Idiomau

Darllenwch y disgrifiad hwn.

Roedd Gwion yn eistedd y tu allan i ystafell y prifathro. Roedd golwg euog iawn arno. Gwyddai y byddai’r prifathro yn gandryll a dechreuodd ymarfer ei esgusodion. Darllenwch y disgrifiad hwn eto. Beth sy'n wahanol ynddo y tro hwn?

Roedd Gwion yn eistedd â’i galon yn ei wddf y tu allan i ystafell y prifathro. Roedd golwg bryderus iawn arno. Gwyddai y byddai’r prifathro yn gandryll a dechreuodd ymarfer ei esgusodion. Roedd hi ar ben arno.

Mae'r idiomau yn datblygu'r disgrifiad ymhellach. Mae'n gwneud y disgrifiad yn llawer iawn mwy diddorol i'w ddarllen.

Ysgrifennwch frawddegau yn cynnwys yr idiomau hyn. Darllenwch nhw i weddill y dosbarth.

Darllenwch y disgrifiad hwn o hanes y cymeriad Emyr:

Gwesty mawr oedd ei gartref - gwesty ar fin y ffordd. Dros y ffordd roedd y traeth. Doedd yno ddim ond y gwesty ac ychydig o fythynnod, rhyw lond dwrn o garafanau a siop fechan. Yn yr haf byddai pobl yn heidio yno. Fe fyddai'n rhaid i Emyr gysgu mewn ystafell fechan ym mhen ucha'r tŷ gan fod pob ystafell arall yn llawn o ymwelwyr a phobl oedd yn gweithio yn y gwesty...Drwy gydol y gaeaf byddai'r gwesty'n wag. Bron na fedrai Emyr glywed pin yn disgyn yno. Lle bu symud a siarad, chwarae a chwerthin, yn awr doedd dim ond tawelwch. Dawnsiai'r llwch yn llafnau melyn yn yr haul gwantan yn yr ystafelloedd mawrion.Anna Ffenna Ffostus gan Emily Huws, Cynllun y Porth

Portread mewn stori

Pan rydyn ni'n ysgrifennu portread mewn stori, portread byr iawn ydy o a rhaid sicrhau bod y cymeriadau yn datblygu wrth i'r stori fynd yn ei blaen.

Cameo ydy'r gair rydyn ni'n ei ddefnyddio am y portread byr yma o gymeriad neu gymeriadau mewn stori.

Mae disgrifio beth mae'r cymeriadau'n ei wneud yn bwysig ac yn dweud llawer iawn amdanynt.

Chwiliwch am enghreifftiau mewn llyfrau stori.