GCSE Computer Science Guide for TEachersAddysgu o 2017
Nid yw’r cymhwyster hwn a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru ar gael
i ganolfannau Lloegr.
2
Cynnwys
Nodau'r Canllawiau Addysgu 4
Gwybodaeth i athrawon sy'n newid o Fanyleb CBAC TGAU Cyfrifiadureg
2012 5
Uned 1 8
1. Caledwedd 8
5. Meddalwedd System 26
6. Egwyddorion Rhaglennu 27
7. Peirianneg Meddalwedd 28
8. Llunio Rhaglenni 29
10. Effeithiau moesegol, cyfreithiol ac amgylcheddol technoleg
ddigidol ar y gymdeithas ehangach
34
3. Ieithoedd rhaglennu 40
5. Diogelwch a dilysu 43
Uned 3 44
3
Cyflwyniad
Caiff ei ddyfarnu am y tro cyntaf yn ystod haf 2019, gan ddefnyddio
graddau A*-G.
Mae ein manyleb TGAU Cyfrifiadureg yn cynnwys tair uned. Fe'i
cynlluniwyd i alluogi dysgwyr i gymhwyso eu gwybodaeth am
ddamcaniaeth cyfrifiadureg a'i chysylltu'n ddi-dor â rhaglennu a
meddwl cyfrifiannol.
Mae'r fanyleb yn adeiladu ar yr enw da y mae CBAC wedi'i sefydlu
gyda'i gymhwyster TGAU presennol mewn Cyfrifiadureg o ran asesiadau
clir a dibynadwy wedi'u hategu gan ganllawiau a threfniadau
gweinyddol hygyrch a syml. Mae gennym hanes da o lwyddo i gynnal
asesiadau sy'n darparu ar gyfer ystod eang o allu ac sy'n llwyddo i
ysgogi llawer o ddysgwyr i astudio ymhellach yn y pwnc.
Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:
• Cyfleoedd ar gyfer dulliau addysgu hyblyg • Cwestiynau wedi'u
geirio mewn modd syml • Hygyrchedd deunyddiau • Amrywiaeth o fathau
o gwestiynau • Cyfleoedd ar gyfer ysgrifennu estynedig • Cyfleoedd
i gysylltu cysyniadau damcaniaethol ac ymarferol • Deunyddiau
adnoddau ac arholiadau o safon uchel
Amlinellir y set gyflawn o ofynion yn y fanyleb sydd ar gael ar
wefan CBAC.
Yn ogystal â'r Canllawiau hyn, darperir cymorth fel a ganlyn:
• Deunyddiau asesu enghreifftiol • Digwyddiadau DPP wyneb yn wyneb
• Adroddiadau'r arholwyr ar bob papur cwestiynau • Mynediad rhad ac
am ddim at gyn-bapurau cwestiynau a chynlluniau marcio drwy'r
wefan
ddiogel • Y gallu i gysylltu'n uniongyrchol â'r Swyddog Pwnc •
Adnoddau ar-lein rhad ac am ddim • Dadansoddi Canlyniadau
Arholiadau • Adolygu Arholiadau Ar-lein
4
Nodau'r Canllawiau Addysgu
Prif nodau'r Canllawiau Addysgu yw cynnig cefnogaeth i athrawon i
gyflwyno manyleb newydd CBAC TGAU mewn Cyfrifiadureg a chynnig
arweiniad ar ofynion y cymhwyster a'r broses asesu.
Ni fwriedir i'r Canllawiau fod yn gyfeirbwynt cynhwysfawr, ond yn
hytrach bwriedir iddynt helpu athrawon i ddatblygu cyrsiau ysgogol
a chyffrous sydd wedi'u teilwra i anghenion a sgiliau'r myfyrwyr yn
eu sefydliadau penodol eu hunain.
Mae'r Canllawiau yn cynnig cymorth i athrawon gyda chefnogaeth yr
Uwch Arholwyr sy'n tynnu sylw at rannau o'u hunedau gan ehangu ar y
wybodaeth yn y fanyleb.
5
Gwybodaeth i athrawon sy'n newid o Fanyleb CBAC TGAU Cyfrifiadureg
2012
Mae'r adran hon yn nodi manylion y testunau sydd wedi newid ers
Manyleb CBAC TGAU Cyfrifiadureg 2012. Mae'r newidiadau hyn yn
perthyn i'r tri chategori canlynol:
1. Testunau sydd wedi cael eu tynnu 2. Testunau sy'n cynnwys mwy o
fanylder 3. Testunau newydd
Nid yw categorïau 1 a 2 uchod yn annibynnol ar ei gilydd, oherwydd
gall testun sydd wedi cael ei dynnu fod wedi'i ddisodli gan destun
gwahanol sy'n cwmpasu cynnwys a oedd wedi'i ddiffinio o dan bennawd
gwahanol, ond sydd wedi cael ei atgyfnerthu. Er enghraifft, mae IP
a TCP (fel protocolau ar wahân) a phentyrrau protocol wedi cael eu
tynnu ond mae TCP/IP a'r model 5 haen wedi cael eu cynnwys yn eu
lle.
1. Testunau sydd wedi cael eu tynnu
• Storio yn y cwmwl • Natur data • Pam mae angen trawsnewid data i
fformat deuaidd • Sut mae’r cyfrifiadur yn gwybod a yw’n darllen
cyfarwyddiadau neu ddata • Llyfrgelloedd • Trefniadaeth disgiau •
Rhaglenni (prosesu geiriau/taenlen/cyflwyno/cronfa ddata/lluniadu)
• IP a TCP (fel protocolau ar wahân), pentyrrau protocol • Y
galedwedd sydd ei hangen i gysylltu â’r rhyngrwyd • Safonau ffeil
cyffredin sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd • Afreidrwydd data •
Cyfeiriadau MAC • Pam mae HTML yn bwysig fel safon ar gyfer creu
tudalennau gwe • Sut mae peiriannau chwilio yn gweithio • Dehongli
algorithmau syml a chynnal rhediad ffug (dry-run) (wedi'i ddisodli
gan
ddadansoddiad manylach) • Yr angen am fanwl gywirdeb yn yr
algorithm a’r data • Cwblhau a phrofi algorithmau (wedi'i ddisodli
gan ddadansoddiad manylach) • Cyfieithwr (wedi'i ddisodli gan
ddadansoddiad manylach o grynoyddion, cysodyddion,
dehonglydd) • Strategaethau i osgoi gwallau a all godi mewn cod
rhaglennu • Ieithoedd parth-benodol bach • Llunio ac ysgrifennu
datrysiadau i broblemau a roddir fel: ysgrifennu ap, gêm neu erfyn
i
gyflawni tasg (wedi'i ddisodli gan adran lawer manylach ar
ddatblygu meddalwedd) • Dadfygio rhaglenni (gweler y cyfeiriad
uchod at adran fanylach ar ddatblygu
meddalwedd) • Esbonio sut mae rhaglen yn llwyddo i gyflawni'r hyn a
fwriadwyd (gweler y cyfeiriad
uchod at adran fanylach ar ddatblygu meddalwedd) • Defnyddio
strategaethau ar gyfer goresgyn a chanfod problemau a achosir
gan
gamgymeriadau yn y rhaglen wreiddiol.
6
2. Testunau sy'n cynnwys mwy o fanylder
• Mae saernïaeth Von Neumann wedi'i nodi'n benodol
• Mae'r gwahaniaeth rhwng mathau RISC a CISC o broseswyr wedi'i
ddiffinio'n
benodol
• Mae dadgodio bellach yn cael ei drafod yn benodol yn yr adran ar
y cylchred cywain-
gweithredu
• Mae manteision ac anfanteision gwahanol dopolegau rhwydwaith
wedi'u nodi
• Mae cyfathrebu gwifredig a di-wifr yn cael ei drafod yn
benodol
• Mae protocolau yn fwy penodol (Ethernet, Wi-Fi, HTTPS a
phrotocolau e-bost (e.e.
POP3/IMAP/SMTP)
• Mae cynnwys pecynnau TCP/IP yn cael ei drafod yn benodol
• Mae storio graffeg a sain yn ddigidol yn cael ei drafod yn
benodol
• Mae cyfiawnhau strwythurau data yn cael ei drafod yn
benodol
• Mae'r angen i ddylunio, dehongli a thrin strwythurau data bellach
yn cael ei drafod yn
benodol
• Mae swyddogaeth y system weithredu yn cael ei thrafod yn benodol
o ran ei
swyddogaethau e.e. adnoddau a rhyngwyneb
• Mae meddalwedd wasanaethu bellach yn elfen ar wahân
• Mae lluniadau rhaglennu nawr yn cael eu trafod yn benodol, gan
gynnwys cyfrifon,
gwalchwerthoedd, dilyniant, detholiad, iteriad
• Mae'r adran ar algorithmau wedi'i symleiddio i ‘dilyn, addasu ac
ysgrifennu’
• Mae mathau data, cysonion a newidynnau yn cael eu trafod yn
benodol yn yr adran
ar algorithmau
• Mae cwmpas newidynnau wedi'i gynnwys yn benodol yn yr adran ar
algorithmau
• Mae dynodwyr hunanddogfennol ac anodiadau yn cael eu trafod yn
benodol yn yr
adran ar algorithmau
• Mae gweithrediadau mathemategol wedi'u cynnwys yn benodol yn yr
adran ar
algorithmau
• Mae deall pwrpas ieithoedd lefel uchel a lefel isel bellach
wedi'i gynnwys yn benodol,
yn ogystal â nodi ble y gellid eu defnyddio
• Nodir IDE bellach a'i swyddogaeth o ran datblygu/dadfygio
rhaglenni
• Mae'r gridiau marcio ar gyfer yr asesiad di-arholiad yn fanylach
o lawer
• Caiff seiberddiogelwch ei drafod yn benodol a'i rannu'n adrannau
ar fathau o
faleiswedd, mathau o ymosodiadau, dulliau o nodi gwendidau.
7
• Systemau wedi'u mewnblannu
• Switsio cylchedau
• Cyfrifo cost llwybro
Canllawiau Addysgu
Bwriedir i'r adran ganlynol roi canllawiau i athrawon ar y fanyleb.
Ei nod yw ysgogi syniadau ar gyfer addysgu a meysydd pwnc posibl y
gellir eu harchwilio er mwyn ehangu ar gynnwys y fanyleb. Nid yw'n
rhestr gynhwysfawr ac ni fwriedir iddi gymryd lle addysgu da yn yr
ystafell ddosbarth.
Dylai athrawon ddefnyddio'r deunydd ehangu hwn ar y cyd â nodiadau
dosbarth, ymarferion a gwerslyfrau neu adnoddau tebyg.
Rhoddir syniadau ar gyfer gwersi, lle bo hynny'n briodol, ar
ddiwedd yr adrannau. Y gobaith yw y bydd y rhain yn eich helpu i
gyflwyno'r pwnc, ond nid yw'n ofynnol i chi ddefnyddio'r syniadau
hyn. Os bydd gennych unrhyw syniadau y gellid eu hychwanegu at y
Canllawiau hyn yn eich barn chi, anfonwch nhw i
[email protected]
gan roi 'Syniad ar gyfer gwers TGAU Cyfrifiadureg' fel testun i'ch
neges.
Saernïaeth Disgrifio nodweddion saernïaeth uned brosesu ganolog
(CPU), gan gynnwys saernïaeth Von Neumann.
Uned rifyddeg-resymeg, uned reoli (cloc), bws rheoli/data/cyfeiriad
o fewn saernïaeth Von Neumann.
Gwybod am fodolaeth saernïaeth Harvard.
Nodi ac esbonio swyddogaeth cydrannau'r CPU yn y cylchred
cywain-dadgodio-gweithredu.
Gwybod bod yn rhaid cywain cyfarwyddiadau o'r cof, eu dadgodio o
fewn y CPU ac yna eu gweithredu.
Cofrestri:
• Rhifydd Rhaglen (Program Counter (PC)) – rhifydd sy'n cadw cofnod
o gyfeiriad cof y cyfarwyddyd sydd i'w weithredu nesaf.
• Cofrestr Cofgyfeiriad (Memory Address Register (MAR)) – y
cyfeiriad yn y prif gof sy'n cael ei ddarllen neu ei ysgrifennu ar
y pryd.
• Cofrestr Cyfarwyddyd Presennol (Current Instruction Register
(CIR)) – man dros dro i ddal y cyfarwyddyd sydd newydd gael ei
gywain o'r cof.
Cydrannau:
• Uned Reoli (Control Unit (CU)) / Cloc – mae'n dadgodio'r
cyfarwyddyd rhaglen yn y CIR, gan ddethol adnoddau peiriant a
gweithrediad rhifyddol penodol, ac yn cydgysylltu'r broses o
weithredu'r adnoddau hynny.
• Uned Rifyddeg-Resymeg (Arithmetic- logic unit (URR)) – mae'n
cyflawni gweithrediadau mathemategol a rhesymegol.
9
Esbonio sut mae maint y storfa dros dro, cyflymder y cloc a nifer y
creiddiau yn effeithio ar berfformiad.
Maint y storfa dros dro
• Mae mwy o storfa dros dro yn gwella perfformiad oherwydd ei fod
yn gallu rhoi cyfarwyddiadau a data i’r CPU yn llawer cyflymach nag
unrhyw gof system arall, fel RAM.
• Bydd mwy o storfa dros dro yn caniatáu i fwy o gyfarwyddiadau a
ddefnyddir dro ar ôl tro gan CPU gael eu storio, ac felly'n
cynyddu'r gyfradd taro; gan wella perfformiad o ganlyniad i
hynny.
Cyflymder y cloc
• Po gyflymaf yw cyflymder y cloc, y cyflymaf y bydd y cyfrifiadur
yn gallu rhoi’r cylchred cywain-datgodio- gweithredu ar waith, ac
felly, y mwyaf o gyfarwyddiadau y bydd yn gallu eu prosesu.
• Po gyflymaf yw'r cloc, y mwyaf o ber sydd ei angen fel arfer sy'n
creu mwy o ofynion ar gyfer gwasgaru gwres a gall roi mwy o straen
ar oes y batri.
• Gall yr effaith ar dymheredd fod yn niweidiol.
Nifer y creiddiau
• Mewn CPU un craidd, mae pob cyfarwyddyd yn cael ei brosesu un ar
ôl y llall, ond mewn CPU dau graidd, gall dau gyfarwyddyd gael eu
prosesu ar yr un pryd. Mewn egwyddor, dylai CPU dau graidd olygu
bod y cyfrifiadur yn gallu prosesu cyfarwyddiadau ddwywaith mor
gyflym â CPU un craidd.
• Efallai yr effeithir ar berfformiad os yw un craidd yn aros am
ganlyniad un arall ac felly na all gyflawni rhagor o
gyfarwyddiadau, gan arwain at berfformiad nad yw'n well na
pherfformiad prosesydd un craidd.
• Fodd bynnag, mae mwy nag un craidd yn cynyddu cost y
prosesydd.
10
Esbonio'r gwahaniaeth rhwng mathau RISC a CISC o broseswyr.
Mae gan RISC lai o gyfarwyddiadau na CISC i gyflawni tasgau
cymhleth; Rhaid i CPU RISC gyfuno gweithrediadau syml felly gall
RISC fod yn fwy effeithlon am gyflawni tasgau symlach.
Er mwyn ymdrin â chyfarwyddiadau cymhleth, mae CPU CISC yn
gorfforol fwy er mwyn iddynt gynnwys cylchedwaith mwy
cymhleth.
Mae CPU RISC wedi'u dylunio i ddefnyddio llai o ber a chynhyrchu
llai o wres, sy'n golygu bod modd eu defnyddio mewn ffonau clyfar
sydd heb systemau oeri arbennig (fel ffaniau).
Mae CPU RISC yn tueddu i fod yn rhatach i'w masgynhyrchu.
Mae CPU RISC yn rhedeg ar gyflymderau cloc is na CPU CISC. Gallant
gyflawni tasgau symlach yn gyflymach na CISC, ond ni chânt eu
defnyddio i ddilyn cyfarwyddiadau cymhleth ar y cyfan.
Mewnbwn / allbwn
Deall a pherthnasu'r defnydd o ddyfeisiau mewnbwn mewn cyd-destunau
penodol.
Er enghraifft:
• Wrth deipio dogfennau, bysellfwrdd yw'r ddyfais sy'n cael ei
ffafrio.
• Ar gyfer rhywun ag anabledd, fel parlys, gellir defnyddio tiwb
sipian/chwythu.
• Mewn amgylchedd swnllyd, ni fyddai mewnbwn llais yn
ddefnyddiol.
Storio cynradd
Esbonio nodweddion gweithredol Cof Hapgyrch (RAM), Cof Darllen yn
Unig (ROM), cof fflach a storfa dros dro.
Deall bod pob cof yn storio gwybodaeth fel didau a beitiau.
Mae RAM yn fath hedegog o gof, sy'n storio rhaglenni a data sy'n
cael eu defnyddio ar y pryd.
Mae ROM yn fath anhedegog o gof, sy'n storio rhaglenni a data nad
ydynt yn newid.
Gall cof fflach fod yn gof NIAC. Mae cof fflach yn cael ei
ddefnyddio i storio data’n barhaol. Mae hyn yn golygu na fydd y
data’n cael eu colli wrth ddiffodd y per. Fodd bynnag, gellir newid
y data sydd wedi’u storio mewn cof fflach.
Mae storfa dros dro yn hedegog a gellir ei ddefnyddio i storio dros
dro unrhyw gyfarwyddiadau a data y mae angen cael gafael arnynt yn
gyson. Mae’n cynnwys nifer fach o leoliadau storio y mae’r CPU yn
gallu cael mynediad cyflym iawn iddynt; mae’n gyflymach na
RAM.
Deall a gallu rhoi enghreifftiau o ffyrdd o ddefnyddio'r mathau hyn
o gof mewn gwahanol gyd-destunau.
11
Storio magnetig – disg/tâp
Storio optegol – CD/DVD/Blu-ray
Esbonio nodweddion gweithredol dyfeisiau storio eilaidd cyfoes o
ran addasrwydd, gwydnwch, cludadwyedd a chyflymder.
Perthnasu mathau o storio eilaidd i sefyllfa neu ddefnydd.
Mae addasrwydd yn ymwneud ag addasrwydd cyffredinol i dasg a gall
fod yn seiliedig ar unrhyw rai o'r isod:
Gall gwydnwch ymwneud â'r gallu i wrthsefyll niwed neu
hirhoedledd.
Mae cludadwyedd yn ymwneud â symudadwyedd a maint.
Mae cyflymder yn ymwneud ag amser cyrchu.
Er enghraifft:
Storio magnetig:
• Cyfrwng: gyriannau disg caled • Addasrwydd: Gyriant wrth gefn ar
gyfer system
gyfrifiadurol yn y cartref • Cynhwysedd: 500 MB – 4 TB • Gwydnwch:
• Cludadwy: Ydy • Cyflymder cyrchu:
Storio optegol:
GB (Blu-ray) • Gwydnwch: • Cludadwy: Ydy • Cyflymder cyrchu:
Cyflwr solet:
• Cyfrwng: Gyriannau cof fflach • Addasrwydd: Symud ffeiliau eithaf
bach o’r
gwaith i’r cartref • Cynhwysedd: 2 GB – 64 GB • Gwydnwch: •
Cludadwy: Ydy • Cyflymder cyrchu:
12
Gofynion storio
Disgrifio'r berthynas rhwng unedau storio data, gan gynnwys did,
darn (nybble), beit, cilobeit a lluosyddion rhagddodi
ychwanegol.
Did fel 1 neu 0
Darn fel bloc o 4 did (a'i ddefnyddioldeb wrth drosi rhwng
hecsadegol a deuaidd) e.e. 11012 → C
Beit fel 8 did 101101102
Deall bod lluosyddion rhagddodi yn gweithio o ddidau fel
cynyddiadau o 23.
Symbol Gwerth
Disgrifio cynhwysedd data a chyfrifo gofynion cynhwysedd
data.
Deall cynhwysedd data o ran faint o ddata (a fesurir mewn beitiau)
sy'n gallu cael eu storio gan gyfrwng penodol.
Cydrannau caledwedd eraill
Disgrifiwch nodweddion a swyddogaeth caledwedd ychwanegol, gan
gynnwys GPU, cardiau sain a mamfyrddau.
Deall bod angen caledwedd ychwanegol ar gyfrifiaduron er mwyn
cyflawni tasgau.
Er enghraifft, mae'r GPU yn gylched electronig arbenigol sydd
wedi'i gynllunio i drin a newid cof yn gyflym. Mae GPU yn trin
graffeg gyfrifiadurol yn effeithlon ac yn prosesu delweddau.
Systemau wedi'u mewnblannu
Disgrifio'r defnydd o systemau wedi'u mewnblannu a rhoi
enghreifftiau ohonynt.
Deall bod systemau wedi'u mewnblannu yn bodoli mewn llawer o
ddyfeisiau yn y cartref a'r tu allan i'r cartref ac mai
cyfrifiaduron bach, un-pwrpas yw'r rhain. Mae systemau wedi'u
mewnblannu yn tueddu i gael eu storio ar ROM ac maent yn barhaol
(ac eithrio mewn rhai achosion lle caiff cadarnwedd ei dal ar gof
Fflach ac mae modd ei newid).
Gallai'r enghreifftiau gynnwys peiriannau golchi (y system wedi'i
mewnblannu sy'n cynnwys y rhaglenni golchi), systemau agor drysau
garej o bell a synwyryddion injan.
13
Syniadau ar gyfer gwersi:
Defnyddiwch hen gyfrifiadur personol (PC) – Cynhelir hyn dros nifer
o wersi Saernïaeth: Weithiau mae'n gallu bod yn anodd amgyffred
graddfa'r CPU a'r cydrannau mewnol. Os gallwch gael gafael ar PC
nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd (mae'n rhaid i'r rhan
fwyaf o ysgolion gadw'r rhain nes eu bod wedi'u cofrestru fel
cyfarpar wedi'i waredu), gall fod yn ddiddorol ei ddatgymalu. Y
pwyntiau allweddol i'w dangos yma yw mai system fach wedi'i
hintegreiddio yw'r CPU a bod RAM ar wahân. (Tynnwch y ffan a'r
suddfan gwres i ffwrdd, crafwch y past thermol i ffwrdd a thynnwch
y CPU allan – wedyn dangoswch mai'r CPU yw'r sglodyn bychan yng
nghanol y cydosodiad.
Trafodwch fod y sglodyn bychan hwn yn cynnwys y CU, yr ALU a'r
cofrestri. Atgyfnerthwch y ffaith bod y sglodyn yn cynnwys ei gof
ei hun (cofrestri a storfa) ond bod y RAM ar wahân i'r sglodyn a
bod hwn yn storio rhaglenni wrth iddynt redeg. Mae hwn yn gyfle i
esbonio cysyniadau'r CU, ALU a'r cofrestri/RAM.
Didau a Beitiau: Gallwch esbonio bod RAM yn dal data wedi'u storio
fel didau a beitiau. Esboniwch y cysyniad o ddidau fel 1 a 0
(ymlaen ac wedi diffodd) gan mai dyma'r cyfan y gall cyfrifiadur ei
'ddeall', yn y bôn. Esboniwch y gall gwahanol gyfuniadau o 1 a 0
gynrychioli ystod ddiddiwedd o ddata a bod data'n cael eu storio
fel beitiau, cilobeitiau, megabeitiau ac ati. Storio eilaidd: Ceir
cyfleoedd yma i drafod gyriannau storio eilaidd wrth ddatgymalu'r
PC ac i weld sut mae'r rhain yn cysylltu â'r mamfwrdd. Trafodwch
addasrwydd gwahanol fathau o storio eilaidd o ran cynhwysedd,
cludadwyedd, gwydnwch a chyflymder mynediad.
Gallai fod yn syniad cynnal 'ras storio' er mwyn trafod cyflymder.
Cymharwch amser trosglwyddo ffeil fawr (>2GB) ar yriant disg
galed (HDD) magnetig yn erbyn gyriant optegol yn erbyn chof fflach.
Gellir edrych ar briodweddau'r dyfeisiau storio yma er mwyn
ystyried cynwyseddau (e.e. bydd gan yr HDD, fwy na thebyg, ystod
storio GB neu TB uchel ond dim ond 4.7GB fyddai gan DVD, a byddai
cof fflach yn amrywio ond fel arfer rhywle rhwng y ddau).
CISC a RISC: Wrth drafod y CPU, nodwch fod gwahanol fathau o CPU,
gan gynnwys RISC a CISC. Mae PC bob amser yn defnyddio saernïaeth
CISC, ac mae ffonau symudol yn tueddu i ddefnyddio saernïaeth RISC.
Esboniwch y gwahaniaeth rhwng setiau cyfarwyddiadau RISC a
CISC.
Cyflymder y cloc: Efallai y byddwch hefyd am drafod cyflymderau
cloc a'r ffaith ei bod yn bosibl gorglocio. Mae hyn yn gyfle i chi
esbonio cyflymder y cloc a materion sy'n ymwneud â gorglocio
(cyfeiriwch yn ôl at y suddfan gwres a'r ffan rydych eisoes wedi'u
tynnu oddi ar y CPU). Nifer y creiddiau: Gofynnwch i bum myfyriwr
wirfoddoli i'ch helpu i ddangos manteision prosesu paralel.
Esboniwch i'r dosbarth y gall pedwar o bobl (prosesydd pedwar
craidd) gyflawni tasg fel trefnu pecyn o gardiau (o'r Âs i'r Brenin
→ Clybiau, Diemyntau, Calonnau a Rhawiau) yn gyflymach o lawer nag
un unigolyn (prosesydd un craidd).
Rhowch un pecyn i'r myfyriwr sy'n cynrychioli prosesydd un craidd a
rhowch chwarter y pecyn arall i bob myfyriwr yn y grp o bedwar sy'n
cynrychioli prosesydd pedwar craidd.
Rhaid i'r ddau grp drefnu'r pecyn mor gyflym â phosibl
Esboniwch i'r dosbarth y gall problemau mawr gael eu rhannu’n
broblemau llai, sydd wedyn yn cael eu datrys yn gydamserol ac yn
gyflymach.
Cydrannau caledwedd ychwanegol: Gellir dangos y cerdyn graffeg, y
cerdyn sain (a all fod wedi'i integreiddio) a chydrannau eraill yn
ystod yr ymarfer hwn.
14
Systemau wedi'u Mewnblannu: Dangoswch y BIOS ar y mamfwrdd ac
esboniwch ei fod yn enghraifft o ROM a'i fod yn storio dilyniannau
cychwynnol syml. Wedyn, esboniwch y gall ROM fel hwn ddal unrhyw
raglen. Perthnaswch hyn i ROM mewn peiriannau golchi ac ati.
Esboniwch nad ROMs yw'r rhain bob amser, ac mai cof NIAC ydynt
weithiau, a all gynnwys cadarnwedd y mae modd ei diweddaru (e.e.
uned rheoli injan car) drwy ei 'fflachio'.
15
Gweithre dyddion rhesyme gol
Defnyddio gweithredyddion rhesymegol AC, NEU, NID a NEUA,
cyfuniadau o'r rhain, a'u cymhwyso mewn gwirlenni priodol i ddatrys
problemau.
Deall egwyddorion sylfaenol y 4 gweithredydd rhesymegol, er
enghraifft:
1 AC 0 = 0
1 NEU 0 = 1
1 NEUA 0 = 1
(1 AC 0) NEU (1 AC 1) = 1
NID (1 NEUA 0) = 0
Rhesym eg Boole
Defnyddio'r unfathiannau a'r rheolau Boole canlynol:
Ffurf AC Ffurf NEU
Deddf Gymudol A. B = B . A A + B = B + A
Deddf Gysylltiol
(A' = 0. B) . C = A . (B . C) (A + B) + C = A + (B + C)
Deddf Ddosbarthol
(A+B)+ C = (A+C).(B+C) (A + B) . C = (A . C) + (B . C)
Deddf Unfathiant A . 1 = A A + 0 = A
Deddf Sero ac Un A . 0 = 0 A + 1 = 1
Deddf Wrthdro A . A' = 0 A + A' = 1
Deddf Idempotent A . A = A A + A = A
Deddf Amsugniad A(A+B) = A
A + A. B = A A + A' B = A+B
Deddf Cyflenwad Dwbl
Gweithrediadau rhesymegol - Cadwyni gweithrediadau: Yn gyntaf,
nodwch y gwahaniaeth rhwng AC a NEU o ran pryd o fwyd
Mae 'Hoffet ti frechdan AC afal?' yn wahanol i 'Hoffet ti frechdan
NEU afal?'
Ar ôl i chi sefydlu bod AC a NEU yn wahanol, esboniwch y
canlynol:
1 AC 0 = 0, 0 AC 1 = 0, 1 AC 1 = 1, 0 AC 0 = 0 (esboniwch fod yn
rhaid i'r ddau fod yn 1 er mwyn i'r canlyniad fod yn 1)
1 NEU 0 = 1, 0 NEU 1 = 1, 1 NEU 1 = 1, 0 NEU 0 = 0 (esboniwch mai 1
fydd y canlyniad os oes un 1 neu fwy)
Nesaf, esboniwch fod NEUA yn weithrediad gwahanol sy'n golygu 'un
neu'r llall ond byth y ddau' lle mae:
1 NEUA 0 = 1, 0 NEUA 1 = 1, 1 NEUA 1 = 0, 0 NEUA 0 = 0 (esboniwch
mai dim ond un 1 fydd yn rhoi'r canlyniad 1)
Yn olaf, esboniwch fod NID yn 'gwrthdroi' canlyniad
NID 1 = 0, NID 0 = 1 Nawr rhowch gynnig ar gadwyn gweithrediadau
gyda'r dosbarth. Rhowch ddilyniant o weithrediadau rhesymegol i'r
dosbarth ar lafar/ar y bwrdd gwyn/mewn cyflwyniad. Er enghraifft,
dechreuwch gyda'r gadwyn hon, ond peidiwch â rhoi atebion
A–D:
1 NEU 0 = AtebA (1)
AtebA AC 0 = AtebB (0)
AtebB NEUA 0 = AtebC (1)
NID AtebC = AtebD (0)
Yn olaf, rhowch her iddynt i orffen (bydd hyn yn defnyddio BODMAS,
felly efallai y bydd angen i chi ei addysgu iddynt os nad ydynt
wedi ei ddysgu mewn gwersi mathemateg eto).
NID (AtebD NEUA 1) = AtebE (1)
Nawr gallwch holi'r myfyrwyr am y canlyniad sydd ganddynt (dylai'r
gadwyn hon arwain at y canlyniad terfynol 1), a gweithiwch drwy'r
broblem. Bydd rhai wedi cael y canlyniad anghywir, ond bydd
gweithio drwy'r broblem yn helpu eu dealltwriaeth. Gwnewch hyn eto
gyda rhagor o gadwyni yn y dosbarth, neu fel tasgau dysgu
annibynnol.
Gwirlenni fydd y cam nesaf pan fydd y myfyrwyr yn gyfarwydd â
gweithrediadau syml. Esboniwch mai fersiwn llaw fer o'r gwaith y
maent eisoes wedi'i wneud yw gwirlenni.
17
Rhwydweithiau Esbonio nodweddion rhwydweithiau a phwysigrwydd
mathau gwahanol o rwydweithiau, gan gynnwys LAN a WAN.
Esbonio'r gwahaniaeth rhwng rhwydweithiau ardal eang (Wide Area
Networks (WAN)) a rhwydweithiau ardal leol (Local Area Networks
(LAN)) o ran dosbarthiad, sef bod rhwydweithiau ardal leol wedi'u
lleoli ar un safle a bod rhwydweithiau ardal eang wedi'u lleoli ar
fwy nag un safle.
Defnyddir caledwedd arbenigol i lunio rhwydweithiau, er
enghraifft:
Switshis
• Mae switsh yn dadansoddi pob pecyn o ddata a'i anfon i'r
cyfrifiadur roedd wedi'i fwriadu ar ei gyfer.
Bothau
• Mae both yn copïo'r holl becynnau o ddata i'r holl ddyfeisiau ar
y rhwydwaith.
Llwybryddion
• Mae llwybrydd yn storio cyfeiriadau cyfrifiaduron ar y rhwydwaith
ac yn trosglwyddo data rhwng dyfeisiau.
Pyrth
• Mae porth yn cysylltu dau rwydwaith sy'n defnyddio protocolau
sylfaen gwahanol, e.e. cysylltu LAN â WAN.
Pont
• Mae pont yn cysylltu dau rwydwaith sy'n defnyddio'r un protocolau
sylfaen, e.e. cysylltu LAN â LAN.
Ymhlith y mathau eraill o rwydweithiau mae Rhwydweithiau Ardal
Bersonol (Personal Area Networks (PAN)) (ardal fach iawn),
Rhwydweithiau Ardal Fetropolitan (Metropolitan Area Networks (MAN))
(o fewn rhanbarth metropolitan) a Rhith-rwydweithiau Preifat
(Virtual Private Networks (VPN)) (sy'n galluogi pobl i fewngofnodi
i rwydwaith o bell a chael mynediad at ei adnoddau, sef
gweithrediad WAN).
18
Deall ffurfweddiad y canlynol a disgrifio eu pwysigrwydd:
Cylch – lle mae pob nod yn cysylltu â dau nod arall yn union, gan
ddarparu un llwybr ar gyfer signalau drwy bob nod. Mae'r
cyflymderau trosglwyddo yn uchel ond gallant fethu os bydd un nod
yn methu.
Bws - lle caiff nodau eu cysylltu'n uniongyrchol â chebl llinol
cyffredin (neu fws). Mae'n rhad ac yn gyflym i'w osod ond gall fod
yn araf pan fydd llawer o drafnidiaeth (oherwydd gwrthdrawiadau) a
bydd toriad yn y prif fws yn torri'r rhwydwaith.
Seren – lle bydd o leiaf un switsh, both neu gyfrifiadur canolog yn
gweithredu fel sianel ganolog i drosglwyddo negeseuon. Mae'n
ddibynadwy iawn ac mae cyflymderau trosglwyddo data uchel yn bosibl
(llai o wrthdrawiadau) ac mae'n hawdd nodi diffygion. Mae'n gallu
bod yn ddrud i'w osod am fod switshis a cheblau yn ddrud. Os bydd y
prif switsh yn methu, bydd y rhwydwaith yn methu a gall tagfeydd
ddigwydd os bydd gormod o ddata'n mynd drwy'r switsh canolog.
Rhwyd – pob nod yn trosglwyddo data ar gyfer y rhwydwaith. Mae pob
nod rhwyd yn cydweithio i ddosbarthu data yn y rhwydwaith. Mae hyn
yn ddibynadwy iawn a gall rhwydwaith 'atgyweirio ei hun' drwy
ailffurfweddu ei hun o amgylch llwybrau sydd wedi torri. Mae
rhwydwaith yn gymhleth, yn ddrud ac yn anodd i'w osod. Gall rhan
fawr o'r rhwydwaith fod yn ddi-angen.
Esbonio pwysigrwydd cysylltedd, yn wifredig ac yn ddiwifr.
Mae cysylltedd yn bwysig ar gyfer trosglwyddo data. Heb gysylltedd,
ni fyddai modd cyfnewid data yn hawdd rhwng cyfrifiaduron heb
ddefnyddio storfeydd y gellir eu tynnu.
Mae cysylltiadau gwifredig yn defnyddio protocol cysylltiad
gwifredig, e.e. ceblau Cat6 yn defnyddio Ethernet.
Nid yw cysylltiadau diwifr yn defnyddio ceblau ond mae angen i'r
peiriant sy'n trosglwyddo a'r peiriant sy'n derbyn fod â chardiau
addasydd rhwydwaith ac, fel arfer, mae angen cyfarpar llwybro
diwifr ychwanegol (nid ar gyfer P2P).
Ar y cyfan, mae cysylltiadau diwifr yn arafach na chysylltiadau
gwifredig o ran cyfradd didau, ond un fantais sy'n gallu gwrthbwyso
hyn yw eu bod yn cynnig mwy o ryddid.
19
Esbonio a nodi manteision ac anfanteision switsio cylchedau a
switsio pecynnau.
Deall bod switsio cylchedau yn safon gyffredinol dderbyniol nes i
switsio pecynnau ei ddisodli.
Er mwyn switsio cylchedau, mae angen creu cyfres o gysylltiadau er
mwyn ffurfio un llwybr ac mae angen i'r holl ddata deithio ar hyd
yr un llwybr. Mae'r broses hon yn agored i ryng-gipiadau a
methiant, oherwydd os bydd unrhyw un o'r cysylltiadau yn methu,
bydd y llwybr cyfan yn methu.
Mae switsio pecynnau yn wahanol oherwydd caiff y data eu rhannu'n
becynnau sydd i gyd yn teithio ar hyd llwybrau gwahanol. Caiff y
data eu hailgydosod ar ôl iddynt gyrraedd y cyrchfan. Mae switsio
pecynnau yn llai agored i ryng- gipiadau ac mae'n fwy cadarn
oherwydd os bydd llwybr yn methu, gall y pecyn ddefnyddio llwybr
amgen.
Esbonio pwysigrwydd amrywiaeth o brotocolau rhwydwaith cyfoes a'u
defnydd, gan gynnwys Ethernet, Wi-fi, TCP/IP, HTTP, HTTPS, FTP a
phrotocolau e-bost.
Mae protocolau rhwydwaith yn hollbwysig er mwyn galluogi
cyfrifiaduron ar rwydweithiau i gyfathrebu. Heb brotocolau
cyffredin a rennir, ni fyddai cyfrifiaduron yn gallu
cyfathrebu.
Mae llawer o fathau o brotocolau:
Ethernet – protocol gwifredig (cysylltiad cebl).
Wi-Fi – di-wifr, er enghraifft y ddwy safon gyffredin, Bluetooth ac
801.11.
TCP/IP – protocol rheoli trosglwyddo/protocol rhyngrwyd
(transmission control protocol/internet protocol) – sef protocol
neu iaith gyfathrebu sylfaenol y Rhyngrwyd.
HTTP – protocol trosglwyddo hyperdestun (hypertext transfer
protocol) – sy'n galluogi tudalennau gwe i gael eu rhannu rhwng
gwahanol gyfrifiaduron a phorwyr gwe.
HTTPS – fersiwn ddiogel o HTTP – sy'n gweithio ar y cyd â phrotocol
arall, sef Haen Socedi Diogel (SSL: Secure Sockets Layer) i
drosglwyddo data yn ddiogel.
POP3 – protocol swyddfa bost 3 (post office protocol 3) – sef
protocol ar gyfer derbyn negeseuon e-bost, lle caiff negeseuon
e-bost eu derbyn a'u storio gan weinydd e-bost, a'u llwytho i lawr
gan y cleient pan fydd yn barod i wneud hynny.
SMTP – protocol trosglwyddo post syml (simple mail transfer
protocol) – mae gweinyddion post yn defnyddio SMTP i anfon a derbyn
negeseuon post. Dim ond ar gyfer anfon negeseuon i weinydd post y
bydd rhaglenni post yn defnyddio SMTP fel arfer.
IMAP – protocol mynediad negeseuon rhyngrwyd (internet message
access protocol) – sy'n trosglwyddo negeseuon e- bost rhwng
systemau cyfrifiadurol dros y rhyngrwyd. Fodd bynnag, yn lle POP
fel ffordd o dderbyn a storio negeseuon e-bost y caiff protocol
IMAP ei ddefnyddio ar y cyfan.
20
Disgrifio cynnwys nodweddiadol paced TCP/IP.
Cynnwys nodweddiadol paced TCP/IP yw:
• Cyfeiriad y ffynhonnell • Cyfeiriad y gyrchfan • Gwybodaeth sy’n
galluogi’r data i gael eu
hailgydosod ar eu ffurf wreiddiol • Gwybodaeth dracio arall • Y
data eu hunain • Prawfswm sy’n gwirio nad yw’r data wedi cael
eu llygru
Esbonio pwysigrwydd haenau a model 5-haen TCP/IP.
Nid un protocol yw TCP/IP, sy'n sail i'r Rhyngrwyd, ond cyfres
gyfan o brotocolau cysylltiedig.
Dyma 5 haen y model TCP/IP:
• Haen y Rhaglen • Haen Gludo • Haen y Rhwydwaith • Haen y Cyswllt
Cata • Haen Gorfforol
5 Haen y Rhaglen
Haen y Rhaglen yw'r grp o raglenni y mae angen cyfathrebiadau
rhwydwaith arnynt
Gwesteiwr A
gysylltiadau
4 Haen Gludo (TCP/UDP)
Yr haen Gludo sy'n sefydlu'r cysylltiad rhwng rhaglenni ar wahanol
westeiwyr.
Sefydlu cysylltiadau â gwesteiwr pell
3 Haen y Rhwydwaith (IP)
Haen y Rhwydwaith sy'n gyfrifol am greu'r fframiau sy'n symud ar
draws y rhwydwaith.
Trosglwyddo pecynnau â rhith-gyfeiriadau (IP)
2 Haen y Cyswllt Data (MAC)
Haen y Cyswllt Data sy'n gyfrifol am greu'r fframiau sy'n symud ar
draws y rhwydwaith.
Trosglwyddo fframiau â chyfeiriadau corfforol
(MAC)
1 Haen Gorfforol
Yr Haen Gorfforol yw'r trosdderbynnydd sy'n anfon y signalau ar y
rhwydwaith.
Trosglwyddo a derbyn data
Disgrifio dulliau llwybro traffig ar rwydwaith a chyfrifo'r costau
llwybro.
Deall y bydd rhwydweithiau, yn ystod y broses lwybro, yn chwilio am
y llwybr byrraf a'r nodau cyflymaf er mwyn trosglwyddo data. Gyda'i
gilydd, caiff y llwybr rhwng nodau a chyflymder y nodau eu hasesu
gan y ddyfais sy'n trosglwyddo data.
Bydd cyfrifiaduron yn chwilio am y llwybr â'r gost isaf (y llwybr
byrraf a'r nodau cyflymaf) ac yn trosglwyddo data drwy'r llwybr
cost isaf hwn.
Rhyngrwyd Esbonio sut mae gweinyddion System Enw Parth (DNS: Domain
Name System) a chyfeiriadau Protocol y Rhyngrwyd (IP: Internet
Protocol) yn gweithio.
Deall sut y caiff gweinyddion DNS eu defnyddio i ddatrys
cyfeiriadau gwe yn gyfeiriadau IP.
Deall bod cyfeiriadau IP yn anodd i'w cofio o gymharu â
chyfeiriadau gwe ac mai dyma pam mae DNS yn hollbwysig er mwyn
gwneud cyfeiriadau gwe yn hawdd i'w defnyddio.
22
Cynrychioliad rhifau Defnyddio a throsi rhwng systemau rhifo
degaidd, deuaidd (hyd at 16 did) a hecsadegol.
Trosi fel a ganlyn:
Degaidd i ddeuaidd
Degaidd i hecsadegol
Deuaidd i ddegaidd
Deuaidd i hecsadegol
Hecsadegol i ddegaidd
Hecsadegol i ddeuaidd
Mae trosi uniongyrchol neu drosi gan ddefnyddio sylfaen ganolradd
yn dderbyniol
Esbonio'r defnydd o nodiant hecsadegol fel llaw fer ar gyfer rhifau
deuaidd.
Deall bod rhif deuaidd yn llawer haws i'w ddefnyddio ar ffurf
nodiant hecsadegol, sy'n fyrrach.
e.e. 1101101010111102 = 6D5E16
Syfliad i'r chwith
byddai syfliad un lle i'r chwith yn rhoi
0110002 = 2410
byddai syfliad dau le i'r chwith yn rhoi
1100002 = 48 10
Syfliad i'r dde
byddai syfliad un lle i'r chwith yn rhoi
0001102 = 610
byddai syfliad dau le i'r chwith yn rhoi
0000112 = 310
23
Defnyddio'r dull adio/rhannu/gweddill i adio rhifau deuaidd.
Esbonio cysyniad gorlif. Deall, os bydd proses adio neu syfliad yn
arwain at rif sy'n rhy fawr i'r lle sydd ar gael, fod gorlif wedi
digwydd.
Er enghraifft, pe baem yn ceisio storio canlyniad y broses o adio'r
ddau rif 8 did canlynol mewn cofrestr 8 did.
11011011
11111011 +
111010110
Mae'r ateb yn rhy fawr i'w roi yn y gofrestr (mae'n 9 did o hyd).
Pan fydd hyn yn digwydd, dywedir bod gorlif wedi digwydd.
Cynrychioliad graffeg a sain
Deall bod modd storio graffeg rastr a fector ar gyfrifiadur.
Deall mai strwythurau data matrics sy'n cynrychioli grid o bicseli
yw graffeg rastr, ac nad oes modd cynyddu maint y strwythurau hyn
heb golli ansawdd. Mae'r strwythurau'n tueddu i fod yn fawr o ran y
cof sydd ei angen i'w storio.
Mae delwedd ddidfap yn fath o ddelwedd rastr ac mae'n cynnwys
llawer o rannau bychan, o'r enw picseli, sy'n aml yn amryliw. Mae'n
bosibl golygu pob picsel unigol.
Mae graffeg fector yn defnyddio gwrthrychau geometrig gysefin fel
pwyntiau, llinellau, cromliniau a siapiau neu bolygonau sy'n
seiliedig ar fynegiadau mathemategol i gynrychioli delweddau. Mae
modd cynyddu maint graffeg fector heb golli ansawdd. Mae'n llai na
graffeg didfap o ran y cof sydd ei angen i'w storio.
Esbonio storio a samplu sain yn ddigidol.
Caiff sain ei storio fel cynrychioliad digidol. Caiff y
cynrychioliad digidol ei gyflawni drwy samplu (prosesau
signalau).
Mae'r gyfradd samplu a'r amledd samplu yn gallu effeithio ar
ansawdd y sampl. Po uchaf yw'r gyfradd samplu a'r amledd samplu, y
mwyaf fydd y sampl a gynhyrchir.
24
Disgrifio'r defnydd o fetadata mewn ffeiliau.
Deall y mathau o fetadata sy'n cael eu storio gyda ffeiliau a rhoi
enghreifftiau ohonynt, e.e. lleoliad, dyddiad ac ati mewn delwedd,
neu mewn ffeil sain, y ffeil neu'r artist, y dyddiad recordio,
teitl y gân ac ati mewn ffeil sain.
Storio nodau Disgrifio sut y caiff nodau eu storio fel rhif
deuaidd.
Deall y caiff nodau eu cynrychioli gan rifau deuaidd
e.e yn ASCII
(Nid oes angen cofio'r rhif sy'n cynrychioli nod).
Disgrifio setiau nodau safonedig, gan gynnwys Unicode ac American
Standard Code for Information Interchange (ASCII).
Deall bod setiau nodau safonedig yn galluogi cyfnewid data rhwng
rhaglenni gwahanol.
Deall bod ASCII ac Unicode yn ddwy safon o'r fath.
Gall Unicode gynrychioli mwy o nodau nag ASCII, ond mae'n defnyddio
mwy o gof.
Mathau data Disgrifio'r cysyniad mathau data, gan gynnwys cyfanrif,
Boole, real, nod a llinyn.
Cyfanrif (rhif cyfan) 7, 0, 15, -5
Boole (cywir/anghywir)
Real (rhif gyda ffracsiwn neu heb ffracsiwn) 7.2, 8.9, -6.8,
12.0
Nod (un nod) a, @, #, 8, Q
Llinyn (un nod neu fwy) Helo, abc, b, Y
Strwythurau data Disgrifio, dylunio, dehongli a thrin strwythurau
data gan gynnwys cofnodion, araeau un dimensiwn a dau
ddimensiwn.
Mae disgrifio yn ymwneud â gallu disgrifio a nodi strwythur data
(er enghraifft, lluniadu cynrychioliad o arae un dimensiwn neu arae
dau ddimensiwn).
Mae dylunio yn ymwneud â gallu dylunio arae neu gofnod a fyddai'n
addas ar gyfer diben penodol (e.e. dylunio arae sy'n addas ar gyfer
storio data ar werthiannau dros gyfnod o amser).
Mae dehongli yn ymwneud â gallu defnyddio strwythur data i ddewis
data neu drosi cynrychioliad graffigol o arae yn ffurf wedi'i
rhaglennu, neu'r ffordd arall.
Mae trin yn ymwneud ag ychwanegu, dileu a golygu data o fewn arae
neu gofnod.
Dewis, nodi a chyfiawnhau strwythurau data priodol ar
Mae hyn yn ymwneud â dewis y strwythur data cywir ar gyfer sefyllfa
benodol (e.e.
25
gyfer sefyllfaoedd penodol. dylunio arae sy'n addas ar gyfer storio
data ar werthiannau dros gyfnod o amser) neu nodi'r strwythur data
mwyaf priodol o ddetholiad o strwythurau data ac, yn y naill achos
a'r llall, gallu cyfiawnhau pam mae'r math data yn addas.
Dylunio ffeiliau Dylunio ffeiliau a chofnodion sy'n briodol ar
gyfer rhaglen benodol.
Fel uchod, ond mewn perthynas â ffeiliau a chofnodion.
Dilysu a gwirio data Esbonio a defnyddio technegau priodol er mwyn
dilysu a gwirio data.
Dilysu:
Gwiriad amrediad, gwiriad math, gwiriad fformat, gwiriad
presenoldeb, tabl am- edrych, gwirio digid.
Dilysu:
Bysellu dwbl, prawfddarllen.
Dylunio algorithmau a rheolweithiau rhaglennu sy'n dilysu ac yn
gwirio data.
Algorithmau sy'n gysylltiedig â'r rhestr uchod.
Esbonio bonion
'Yn ôl i'r hanfodion' – Bydd llawer o fyfyrwyr wedi anghofio eu bod
wedi dysgu cyfrif gan ddefnyddio bôn 10, a byddant yn derbyn mai
'felly y mae hi'.
Gallwch ddechrau gyda'r llinell:
'Mae 10 math o bobl yn y byd – y rhai sy'n deall rhifau deuaidd a'r
rhai nad ydynt yn eu deall' – gadewch y geiriau hyn ar y
sgrin/bwrdd gwyn yn ystod y wers. Dywedwch wrth y myfyrwyr fod hyn
yn ffaith, a'r gobaith yw y bydd hyn wedi ennyn eu chwilfrydedd,
neu y byddant yn dweud nad yw'n gwneud synnwyr.
Atgoffwch y myfyrwyr eu bod, pan oeddent yn yr ysgol gynradd, wedi
ysgrifennu 'Cannoedd, Degau ac Unedau' uwchben rhifau cyn eu
defnyddio mewn problemau mathemateg. Esboniwch fod defnyddio'r
system hon, a 10 rhif (0-9) wedi rhoi'r blociau adeiladu iddynt
allu llunio unrhyw rif.
Nawr, gofynnwch iddynt beth petai dim ond dau rif oedd ganddynt,
sef 1 a 0. A allent gynrychioli unrhyw rif? Gofynnwch am y rhif
mwyaf y gallent ei gynrychioli gan ddefnyddio dau ddigid yn unig.
Byddant yn dweud '11' (oni bai eu bod eisoes yn deall rhifau
deuaidd).
Esboniwch fod rhifau deuaidd yn seiliedig ar system bôn wahanol. Yn
hytrach na cholofnau ar gyfer miloedd, cannoedd, degau ac unedau,
mae'r colofnau wedi'u rhannu fel a ganlyn: ...128, 64, 32, 16, 8,
4, 2, 1. Gyda'r system hon, gellir cynrychioli unrhyw rif.
Esboniwch fod y system ddeuaidd yn cynhyrchu rhifau hir iawn sy'n
anodd i'w trin ac, er y gellir defnyddio rhifau degaidd fel llaw
fer, fod bôn 16 (hecsadegol) yn system well i'w defnyddio.
Esboniwch fod angen 0-9 arnom, a rhai digidau ychwanegol, sef A-F,
a bod y colofnau yn y drefn ...256, 16, 1
Cyfeiriwch yn ôl at y geiriau, 'Mae 10 math o bobl yn y byd – y
rhai sy'n deall rhifau deuaidd a'r rhai nad ydynt yn eu
deall'
26
Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon
Rheoli adnoddau Disgrifio pwrpas a swyddogaeth y system weithredu
wrth reoli adnoddau, gan gynnwys perifferolion, prosesau, cof a
storfa gynorthwyol.
Mae'r system weithredu yn rheoli adnoddau, er enghraifft:
• Rheoli perifferolion fel dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu
• Rheoli argraffu gan ddefnyddio sbwlio • Rheoli storfa gynorthwyol
• Cywasgu ffeiliau • Dad-ddarnio disg • Rheoli cof (RAM) • Rheoli
prosesau • Rheoli diogelwch
Darparu rhyngwyneb
Disgrifio pwrpas a nodweddion y system weithredu wrth ddarparu
rhyngwyneb defnyddiwr.
Mae'r system weithredu yn darparu rhyngwyneb drwy wneud y
canlynol:
• Darparu rhyngwyneb defnyddiwr graffigol (ffenestri, eiconau,
dewislenni, pwyntyddion)
• Darparu rhyngwyneb llinell orchymyn • Galluogi defnyddwyr i
gopïo/dileu/symud/trefnu/chwilio ffeil neu ffolderi
• Galluogi defnyddwyr i gael mwy nag un ffenestr ar agor
• Rhoi negeseuon gwallau/cymorth i’r defnyddiwr.
• Galluogi addasu’r rhyngwyneb, e.e. newid cefndir/cynllun y bwrdd
gwaith
• Galluogi'r defnyddiwr i symud rhwng tasgau
(rhaglenni/ffenestri)
Meddalwedd wasanaethu
Esbonio pwrpas a nodweddion amrediad o feddalwedd wasanaethu, er
enghraifft:
• Sganio am firysau • Mur gwarchod • Dad-ddarnio • Cywasgu •
Monitro'r system • Rheoli tasgau • Sganio a thrwsio disgiau • Copi
wrth gefn o'r system
27
Lefelau iaith gyfrifiadurol
Disgrifio nodweddion a phwrpas ieithoedd lefel uchel a lefel
isel.
Nid yw ieithoedd rhaglennu lefel isel yn debyg i ieithoedd
naturiol, fel Cymraeg neu Saesneg. Maent wedi'u ffurfio'n llwyr o
batrymau didol (cyfarwyddiadau neu ddata) sy’n gallu cael eu
gweithredu’n uniongyrchol gan y CPU.
Iaith raglennu sy’n caniatáu i god gael ei ysgrifennu yw iaith
lefel uchel, ac mae'n debyg i iaith ddynol fel Cymraeg neu Saesneg.
Mae’n well gan rai rhaglenwyr ddefnyddio ieithoedd rhaglennu lefel
uchel am eu bod yn haws i'w deall, eu dysgu a’u rhaglennu gan fod y
gorchmynion yn debycach i'r Saesneg a bod dynodwyr yn gallu bod yn
hir ac yn ystyrlon. Mae ieithoedd rhaglennu lefel uchel hefyd yn
caniatáu defnyddio gorchmynion pwerus sy’n cyflawni tasgau eithaf
cymhleth fel MsgBox yn Visual Basic neu’r cymal SORT yn
COBOL.
Nodi a disgrifio sefyllfaoedd sy'n galw am ddefnyddio iaith lefel
uchel neu lefel isel.
Mae ieithoedd lefel isel yn ddefnyddiol pan fydd y cyflymder
gweithredu yn allweddol neu wrth ysgrifennu meddalwedd sy'n
rhyngweithio'n uniongyrchol â'r galedwedd, e.e. gyriannau
dyfeisiau.
Caiff ieithoedd lefel uchel eu defnyddio pan nad yw’r cyflymder
gweithredu yn allweddol, e.e. mewn rhaglenni cynhyrchedd cyffredin,
fel prosesydd geiriau.
28
Offer meddalwedd Esbonio swyddogaeth offer Amgylchedd Datblygu
Integredig (IDE) wrth ddatblygu a dadfygio rhaglenni.
Deall sut mae IDE yn helpu wrth ddatblygu a dadfygio rhaglenni, gan
gynnwys:
• Golygydd • Crynhoydd • Dehonglydd • Cysylltwr • Llwythwr •
Dadfygiwr • Olrhain • Torbwynt • Gwyliwr newidyn • Arolygwr cof •
Diagnosteg gwallau
29
Crynoyddion, dehonglwyr a chydosodyddion
Disgrifio pwrpas crynoyddion, dehonglwyr a chydosodyddion, a rhoi
enghreifftiau o'u defnydd.
Rhaglen sy’n trawsnewid yr iaith raglennu gydosod lefel isel yn god
peiriant yw cydosodydd.
Rhaglen sy'n trawsnewid cod yn god peiriant un llinell ar y tro ac
yna'n ei weithredu yw dehonglydd.
Rhaglen sy'n trawsnewid rhaglenni lefel uchel yn god peiriant i'w
weithredu yn ddiweddarach yw crynhoydd (caiff y rhaglen gyfan ei
thrawsnewid, nid un llinell ar y tro fel yn achos
dehonglydd).
Esbonio'r prif gamau sy'n gysylltiedig â'r broses grynhoi:
dadansoddiad geiriadurol, llunio tabl symbolau, dadansoddiad
cystrawen, dadansoddiad semantig, cynhyrchu cod ac
optimeiddiaeth.
Dadansoddiad geiriadurol:
• Mae sylwadau a bylchau diangen yn cael eu dileu.
• Caiff ‘tocynnau’ (tokens) eu rhoi yn lle geiriau allweddol,
cysonion a dynodwyr.
Llunio tabl symbolau:
• Caiff tabl symbolau ei greu sy’n dal cyfeiriadau newidynnau,
labeli ac is- reolweithiau.
Dadansoddiad cystrawen:
• Mae tocynnau’n cael eu harchwilio i weld a ydyn nhw’n cyd-fynd
â’r sillafu a’r gramadeg disgwyliedig, gan ddefnyddio diffiniadau
iaith safonol. Caiff hyn ei wneud trwy ddosrannu pob tocyn i
benderfynu a yw’n defnyddio’r gystrawen gywir ar gyfer yr iaith
raglennu
• Os caiff gwallau cystrawen eu darganfod, caiff negesau gwall eu
cynhyrchu.
Dadansoddiad semantig:
• Caiff newidynnau eu harchwilio i sicrhau eu bod wedi cael eu
datgan a’u defnyddio’n iawn.
• Caiff newidynnau eu harchwilio i sicrhau eu bod o’r math data
cywir, e.e. nad yw gwerthoedd real yn cael eu neilltuo i
gyfanrifau.
30
• Caiff gweithrediadau eu harchwilio i sicrhau eu bod yn
gyfreithlon am y math o newidyn sy’n cael ei ddefnyddio, e.e.
fyddech chi ddim yn ceisio storio canlyniad gweithrediad rhannu fel
cyfanrif.
Cynhyrchu cod:
Optimeiddio cod:
• Gall optimeiddio cod gael ei ddefnyddio i’w wneud yn fwy
effeithlon/yn gyflymach/yn llai dwys o ran adnoddau.
Disgrifio a rhoi enghreifftiau o wallau rhaglennu.
Gwallau rhaglennu fel:
31
9. Diogelwch a rheoli data
Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon
Diogelwch data Disgrifio'r peryglon a all godi wrth ddefnyddio
cyfrifiaduron i storio data personol.
Ymwybyddiaeth o'r risgiau i ddata sy'n cael eu dal ar gyfrifiaduron
personol. Risgiau hacio, colli i firysau, methiannau technegol,
rhyng-gipio, dwyn corfforol a dwyn data o gydrannau wedi'u
gwaredu.
Disgrifio dulliau sy'n diogelu data gan gynnwys lefelau mynediad,
cyfrineiriau addas ar gyfer mynediad a thechnegau amgryptio.
Dulliau fel:
• Llunio cyfrinair (cyfrineiriau 'cryf' a 'gwan') • Technegau
amgryptio (e.e. amgryptio NEUA.)
Rheoli data Esbonio'r angen am ffeiliau wrth gefn a chenedlaethau o
ffeiliau.
Deall bod copïau wrth gefn yn diogelu data ar ôl colli data
cynradd. Mae cenedlaethau o ffeiliau, e.e. y drefn nain-mam-merch,
yn fodd i adfer data i fersiwn flaenorol ar ôl colled data
gatastroffig.
Esbonio'r angen i archifo ffeiliau.
Archifo yw’r broses o storio data nad ydyn nhw bellach yn cael eu
defnyddio’n gyfredol neu’n aml. Maen nhw’n cael eu cadw am resymau
diogelwch, cyfreithiol neu hanesyddol.
Cywasgu Esbonio sut y defnyddir algorithmau cywasgu data colledus a
digolled.
Deall bod cywasgu yn lleihau maint ffeil o ran cof.
Mae cywasgu colledus yn arwain at golli ansawdd data ar ôl cywasgu.
Nid yw cywasgu digolled yn arwain at golli unrhyw ansawdd data ar
ôl cywasgu.
Cyfrifo cymarebau cywasgu.
Cyfrifo cymarebau cywasgu yn seiliedig ar faint ffeil cyn ac ar ôl
cywasgu (e.e. bydd gan ffeil 10MB sydd wedi'i chywasgu i ffeil 2MB
gymhareb gywasgu o 5:1).
Gan ddefnyddio cymarebau, cyfrifo maint ffeiliau ar ôl
cywasgu.
Gan ddefnyddio data (e.e. maint cyfrwng storio'r gyrchfan),
cyfrifo'r gymhareb gywasgu sydd ei hangen i storio data.
32
Cydnabod pwysigrwydd diogelwch rhwydweithiau a disgrifio'r peryglon
a all godi wrth ddefnyddio rhwydweithiau.
Gwybodaeth am ddiogelwch rhwydweithiau, gan gynnwys:
• Meddalwedd wrthfirws • Muriau gwarchod • Dilysiad dau ffactor •
Lefelau mynediad • Cyfrineiriau
Disgrifio'r peryglon a all godi wrth ddefnyddio rhwydweithiau, er
enghraifft:
• Risgiau hacio • Risgiau firysau • Methiannau technegol •
Rhyng-gipio.
Esbonio pwrpas a chynnwys nodweddiadol polisi defnydd derbyniol a
pholisi adfer ar ôl trychineb.
Cynnwys a phwrpas polisïau defnydd derbyniol a pholisïau adfer ar
ôl trychineb enghreifftiol.
Seiberddiogelwch Disgrifio'r nodweddion ac esbonio'r dulliau o
ddiogelu rhag maleiswedd, gan gynnwys firysau, mwydod a chofnodwyr
trawiadau bysellau.
Maleiswedd
• Mae maleiswedd, sy'n golygu meddalwedd faleisus, yn derm sbectrwm
eang a ddefnyddir i ddisgrifio meddalwedd a ddefnyddir i amharu ar
weithrediad cyfrifiadur.
Firysau
• Rhaglen gyfrifiadurol sy’n gallu ei chopïo ei hun ar raglenni
eraill, yn aml gyda’r bwriad o ddifrodi data yn faleisus, yw firws.
Caiff firws ei drosglwyddo drwy gael ei gario gan raglen arall a
elwir yn 'fector'.
Mwydyn
• Mae'n debyg i firws ond yn rhaglen annibynnol sy'n dyblygu ei hun
er mwyn lledaenu i gyfrifiaduron eraill. Nid oes angen fector
arni.
Cofnodwyr trawiadau bysellau
• Rhaglenni cudd yw'r rhain sy'n cofnodi mewnbwn bysellfwrdd (neu
ddyfais fewnbynnu arall) ac yn trosglwyddo'r data hyn i drydydd
parti neu'n dal y data iddynt gael eu casglu.
Gellir gwarchod drwy'r canlynol:
• muriau gwarchod • rhaglenni gwrthfirws • diweddaru meddalwedd
sydd wedi mynd yn hen • offer diogelwch
33
• personél.
Disgrifio'r ffurfiau gwahanol ar ymosodiad yn seiliedig ar wendidau
technegol a/neu ymddygiad defnyddwyr.
Gwendid technegol:
• Heintiad gan unrhyw rai o'r rhaglenni uchod. • Chwistrellu SQL •
Ymosodiad DoS. • Ymosodiad sy'n seiliedig ar gyfrineiriau. •
Ffug-gyfeiriadau IP.
Ymddygiad defnyddiwr
Llunio ôl troed
• Archwilio adnoddau ar y Rhyngrwyd er mwyn dod o hyd i wybodaeth
am systemau, gan geisio darganfod yr hyn y gall ymosodwr posibl
hefyd ei ddarganfod heb yn wybod i sefydliad (gellir cael gwared ar
bethau a all ddenu ymosodwyr drwy ddefnyddio'r dull hwn).
Profi treiddiad
• Ceisio treiddio i haenau diogelwch system er mwyn dangos risgiau
diogelwch.
Esbonio ffyrdd gwahanol o ddiogelu systemau meddalwedd wrth
ddylunio, creu, profi a defnyddio.
Deall y gall systemau meddalwedd fod yn anniogel ac y gall dilyn
arferion penodol yn ystod prosesau dylunio, creu a phrofi liniaru'r
peryglon hyn. Yr enw cyffredin ar hyn yw ‘diogel o fwriad’. Caiff
arferion maleisus eu cymryd yn ganiataol a thybir y bydd data
annilys yn cael eu rhoi i mewn i'r system neu y bydd pobl yn ceisio
ei hacio, ac felly caiff y materion hyn eu hystyried wrth greu
system newydd. Ymhlith yr enghreifftiau cyffredin mae:
• Gorlifo o'r byffer • Gormod o ganiatâd • Cyfyngiadau sgriptio •
Derbyn paramedr heb ddilysu
Disgrifio swyddogaeth cwcis y rhyngrwyd.
Cwci yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio darn bach o god a roddir i
borwr Gwe gan weinydd Gwe.
Prif bwrpas cwci yw nodi defnyddwyr a pharatoi tudalennau gwe
wedi'u teilwra neu gadw gwybodaeth am fewngofnodi i wefannau.
Gellir ystyried cwcis yn broblem diogelwch am eu bod yn cynnwys
gwybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio neu ei gwerthu ac mae
cwcis olrhain yn gallu cynnwys gwybodaeth am y gwefannau y mae
defnyddwyr wedi ymweld â nhw.
34
Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon
Moesegol Disgrifio effeithiau moesegol technoleg ddigidol, gan
gynnwys materion yn ymwneud â phreifatrwydd a
seiberddiogelwch.
Y rhaniad digidol.
Goblygiadau preifatrwydd data preifat. Hacio het ddu/het wen/het
lwyd.
Pwysigrwydd cynyddol seiberddiogelwch yn sgil amlder cynyddol
ymosodiadau.
Esbonio pwysigrwydd cydymffurfio â safonau proffesiynol, gan
gynnwys codau ymddygiad moesegol ffurfiol ac anffurfiol.
Byddai cod ffurfiol yn cynnwys polisi defnydd derbyniol neu bolisi
mynediad rhyngrwyd. Mae unrhyw bolisi sy'n cael ei ysgrifennu'n
ffurfiol ac mae pobl yn ymrwymo iddo yn cael ei ystyried yn god
ffurfiol.
Mae cod anffurfiol yn cynnwys disgwyliadau, arferion, gonestrwydd
personol.
Deddfwriaeth Esbonio sut mae deddfwriaeth gyfredol berthnasol yn
effeithio ar ddiogelwch, preifatrwydd, diogelu data a rhyddid
gwybodaeth.
Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn cynnwys:
Deddf Diogelu Data.
Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron.
'Technotrash'/E-wastraff
Llinellau cydosod byd-eang.
Mwy o gloddio am elfennau prin yn y ddaear.
Llawer iawn o egni yn cael ei ddefnyddio gan ffermydd gweinyddion
(gweinyddion ac, yn fwy sylweddol, oeri).
35
Datrys problemau Defnyddio dull systematig o ddatrys problemau gan
gynnwys defnyddio dadelfennu a haniaethu.
Dadelfennu yw’r broses o rannu problem gymhleth yn ddarnau
cydrannol llai.
Haniaethu yw'r broses o gael gwared ar fanylion diangen a
symleiddio.
Yn gyffredinol, mae haniaethu yn rhagflaenu dadelfennu.
Defnyddio haniaethu yn effeithiol i fodelu agweddau dethol ar y byd
allanol mewn algorithm neu raglen.
Defnyddio haniaethu er mwyn tynnu manylion diangen o sefyllfa byd
go iawn a modelu'r canlyniad wedi'i symleiddio mewn algorithm neu
raglen.
Defnyddio haniaethu yn effeithiol i strwythuro rhaglenni yn briodol
yn rhannau modiwlaidd gyda rhyngwynebau clir, wedi'u dogfennu'n
dda.
Defnyddio haniaethu i lunio rhaglen sydd wedi'i strwythuro'n dda
(mor syml a chain â phosibl). Dylai rhaglenni modiwlaidd gael eu
llunio o is- reolweithiau hunangynhaliol. Dylai rhyngwynebau fod yn
glir ac yn ddiamwys, a lle y cânt eu dogfennu, dylai dogfennaeth
fod mor ddiamwys â phosibl.
36
Algorithmau Defnyddio dulliau cyffredin o ddiffinio algorithmau,
gan gynnwys ffug-god a siartiau llif.
Gweler Atodiad C o'r fanyleb am fanylion y confensiynau ffug-god
a'r confensiynau siartiau llif a ddefnyddir.
Lluniadau rhaglennu
Nodi, esbonio a defnyddio is- reolweithiau mewn algorithmau a
rhaglenni.
Nodi is-reolweithiau mewn algorithmau ac esbonio eu
swyddogaeth.
Deall mai dilyniant o gyfarwyddiadau sy'n cyflawni tasg benodol yw
is-reolweithiau.
Defnyddio is-reolweithiau i ddatrys problemau penodol.
Nodi, esbonio a defnyddio dilyniant, detholiad ac iteriad mewn
algorithmau a rhaglenni.
Nodi dilyniant, detholiad ac iteriad mewn algorithmau ac esbonio eu
swyddogaeth.
Dilyniant: gweithred, neu ddigwyddiad, yn arwain at y weithred
nesaf mewn trefn benodedig.
Detholiad: Mewn detholiad, gofynnir cwestiwn ac, yn dibynnu ar yr
ateb, bydd y rhaglen yn cyflawni un o ddwy weithred.
Iteriad: Y broses o fynd drwy gyfres o gyfarwyddiadau unwaith yw
iteriad. Mae'r rhan fwyaf o raglenni yn cynnwys dolenni o
gyfarwyddiadau a weithredir dro ar ôl tro. Bydd y cyfrifiadur yn
gweithredu'r ddolen dro ar ôl tro, gan iteru drwy'r ddolen.
Nodi, esbonio a defnyddio cyfrifon a gwalchwerthoedd mewn
algorithmau a rhaglenni.
Rhaid i iteriadau o fewn dolen gael eu terfynu yn y pen draw.
Gellir defnyddio cyfrifon a gwalchwerthoedd i derfynu dolenni
iteriad.
Mae cyfrifon yn cyfrif sawl gwaith mae proses wedi cael ei
chyflawni.
Gwerthoedd nad ydynt yn perthyn i'r ystod neu'r math o ddata
'arferol' a brosesir gan y rhaglen yw gwalchwerthoedd.
Yn y ddau achos, gellir terfynu dolen os bydd cyfrif yn cyrraedd
gwerth a bennir ymlaen llaw neu os bydd y ddolen yn dod ar draws
gwalchwerth.
37
Nodi ac esbonio'r canlynol mewn rhaglen benodol:
• uwchddosbarth • dosbarth • gwrthrych • priodwedd • dull •
sylw
Dilyn a gwneud newidiadau i algorithmau a rhaglenni sy'n datrys
problemau gan ddefnyddio:
dilyniant, detholiad ac iteriad
mewnbynnu, prosesu ac allbynnu.
Dilyn llif algorithmau, a chynnal rhediadau ffug, gan wneud
newidiadau i'r algorithmau a fydd yn effeithio ar allbwn neu'n
trwsio algorithm sydd 'wedi torri'.
Y mathau posibl o algorithmau yw dilyniant, detholiad ac iteriad, a
gallant gynnwys mewnbynnu, prosesu ac allbynnu gwerthoedd.
Ysgrifennu algorithmau a rhaglenni sy'n datrys problemau gan
ddefnyddio:
dilyniant, detholiad ac iteriad
mewnbynnu, prosesu ac allbynnu.
Ysgrifennu algorithmau i ddatrys problemau penodol.
Y mathau posibl o algorithmau yw dilyniant, detholiad ac iteriad, a
gallant gynnwys mewnbynnu, prosesu ac allbynnu gwerthoedd.
Newidynnau Nodi, esbonio a defnyddio newidynnau lleol ac eang mewn
algorithmau a rhaglenni.
Nodi newidynnau eang a lleol mewn algorithmau a gallu defnyddio'r
rhain yn briodol.
Deall mai dim ond yn ystod oes is- reolwaith y mae newidynnau lleol
yn bodoli ac mai dim ond i'r is-reolwaith y maent wedi'u datgan
ynddi y bydd y data yn y newidynnau hynny ar gael.
Deall bod newidynnau eang yn bodoli drwy raglen gyfan a bod y data
yn y newidynnau hynny ar gael i bob rheolwaith o fewn y rhaglen
gyfan.
Dynodwyr Esbonio pam mae defnyddio dynodwyr hunanddogfennu ac
anodiadau yn bwysig mewn rhaglenni.
Rhoi enghreifftiau o ddynodwyr au hunanddogfennu ac
Deall y dylai rhaglenni fod wedi'u henwi'n synhwyrol lle bynnag y
bo modd er mwyn i drydydd parti ddeall eu pwrpas, e.e. dylai
newidyn sy'n cynnwys enw cyntaf gael ei ddiffinio fel
enwcyntaf
38
anodiadau.
Trin llinynnau Nodi, esbonio a defnyddio rheolweithiau ar gyfer
trin llinynnau mewn algorithmau a rhaglenni.
Pasio llinynnau
Nodi, esbonio a chymhwyso gweithrediadau mathemategol sy'n
gysylltiedig â chyfrifiadura mewn algorithmau a rhaglenni.
Gweler Atodiad C o'r fanyleb am fanylion y gweithrediadau
mathemategol sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura a ddefnyddir.
Defnyddio'r rhain o fewn algorithmau a rhaglenni i brosesu
data.
Gweithrediadau rhesymegol
Nodi, defnyddio ac esbonio gweithredyddion rhesymegol AC, NEU, NID
a NEUA mewn algorithmau a rhaglenni.
Gweler Atodiad C o'r fanyleb am fanylion y gweithrediadau
rhesymegol a ddefnyddir. Defnyddio'r rhain o fewn algorithmau a
rhaglenni i brosesu data.
Trefnu Disgrifio nodweddion algorithmau trefniad cyfunol a
threfniad bwrlwm.
Trefniad cyfunol fel algorithm "rhannu a gorchfygu" lle mae'r
canlynol yn digwydd:
Caiff rhestr heb drefn ei rhannu'n n o is- restri, gyda phob un yn
cynnwys 1 elfen.
Caiff yr is-restri eu cyfuno dro ar ôl tro i ffurfio is-restri
newydd sydd wedi'u trefnu, nes bod ond 1 is-restr wedi'i threfnu yn
weddill.
Trefniad bwrlwm fel algorithm trefnu syml lle mae'r canlynol yn
digwydd:
Mae'r algorithm yn mynd drwy'r rhestr sydd i'w threfnu dro ar ôl
tro.
Mae'r algorithm yn cymharu pob pâr o eitemau cyfagos ac yn eu
cyfnewid os nad ydynt yn y drefn gywir.
Caiff y broses o fynd drwy'r rhestr ei hailadrodd nes nad oes angen
cyfnewid unrhyw eitemau
39
Chwilio Esbonio a defnyddio algorithmau chwilio llinol a
deuaidd.
Defnyddio chwiliadau llinol a deall mai proses chwilio syml yw hon
lle caiff rhestr ei chwilio nes bod y gwerth gofynnol yn cael ei
ddarganfod.
Defnyddio algorithmau chwilio deuaidd a deall chwilio deuaidd fel
algorithm "rhannu a gorchfygu" lle mae'r canlynol yn digwydd:
Mae'r gwerth canol mewn rhestr yn cael ei archwilio er mwyn gweld a
yw'n cyfateb i'r gwerth chwilio.
Os yw'r gwerth canol yn fwy na'r gwerth chwilio, bydd hanner uchaf
y rhestr yn cael ei anwybyddu. Os yw'n llai na'r gwerth chwilio,
bydd yr hanner isaf yn cael ei anwybyddu.
Caiff y broses ei hailadrodd dro ar ôl tro, gyda'r rhestr yn haneru
bob tro nes bod y gwerth chwilio wedi cael ei ddarganfod.
Profi a gwerthuso Esbonio sut mae algorithm neu raglen yn gweithio
a gwerthuso pa mor addas i'r pwrpas ydyw wrth fodloni
gofynion.
Esbonio sut mae algorithm yn prosesu data er mwyn cael
canlyniad.
Cymharu algorithmau gwahanol (e.e. a yw datganiad OS nythol yn
hirach na dolen nythol, ac os felly pa un a raglennwyd yn fwy
effeithlon?).
Gwerthuso effeithlonrwydd algorithm neu raglen gan ddefnyddio
rhesymu rhesymegol a phrawf-ddata.
Cynnal rhediadau ffug ar algorithmau gan ddefnyddio prawf-ddata ac
esbonio'r allbynnau.
Syniadau ar gyfer gwersi:
Chwilio Deuaidd yn erbyn Chwilio Llinol – Gofynnwch i ddau grp o
fyfyrwyr ddyfalu'r rhif rydych yn meddwl amdano (rhwng 1 a 1000).
Dylai un grp ddefnyddio'r fethodoleg chwilio deuaidd, a dylai'r
llall ddefnyddio'r fethodoleg chwilio llinol. Pwy yw'r cyntaf i
ddyfalu eich rhif? (I wneud hyn yn fwy hwyliog, gwnewch hyn nifer o
weithiau gyda gwahanol rifau, wedyn dewiswch y rhif 1 er mwyn profi
nad yw chwilio deuaidd yn gyflymach bob amser).
40
Ieithoedd tagio Dylunio, ysgrifennu, profi a mireinio tudalennau
HTML gan ddefnyddio'r tagiau canlynol:
• HTML <html> • Pen <head> • Teitl <title> •
Corff <body> • Penawdau <h1> - <h6> • Paragraff
<p> • Italig <i> • Trwm <b> • Alinio i'r canol
<center> • Angori <a href=”URL”> • Rhestr heb drefn
<ul> • Eitem Rhestr <li> • Dyfyniad Bloc
<blockquote> • Llinell Lorweddol <hr> • Delwedd
<img>
a'u caefeydd cyfatebol.
Deall bod tagiau'n cael effeithiau gwahanol ar destun a gallu nodi
tagiau sy'n cael yr effeithiau hyn.
Defnyddio'r tagiau i farcio dogfen yn unol â gofynion
penodol.
41
Dylunio, ysgrifennu, profi a mireinio rhaglenni Java o fewn
amgylchedd Greenfoot, gan ddefnyddio'r sgiliau canlynol:
• Creu dosbarthiadau newydd ac ymestyn y rhai sydd eisoes yn
bodoli
• Creu gwrthrychau newydd a golygu'r rhai sydd eisoes yn
bodoli
• Creu bydoedd newydd a golygu'r rhai sydd eisoes yn bodoli
• Ysgrifennu a chyflawni dulliau
• Newid dulliau sydd eisoes yn bodoli
• Creu priodweddau newydd a golygu'r rhai sydd eisoes yn bodoli
(gan gynnwys rhai cyhoeddus, preifat, statig ac ati)
• Ychwanegu a thynnu gwrthrychau o fydoedd
• Defnyddio actorion • Symud gwrthrychau o
amgylch byd • Mewnbwn bysellfwrdd • Ychwanegu a chwarae
seiniau • Gweithredu a defnyddio dull
pasio paramedrau (yn ôl gwerth a chyfeiriad)
• Cyrraedd un gwrthrych o un arall
• Gweithredu dull canfod gwrthdrawiad gwrthrych
• Gweithredu generadur haprifau
Er enghraifft, gellid gofyn i ymgeiswyr wneud y canlynol:
• Creu byd Greenfoot newydd • Llenwi byd penodol ag un
gwrthrych
neu fwy • Golygu'r gwrthrychau er mwyn
iddynt droi a symud a hap • Golygu cod y rhaglen er mwyn
gwneud i'r gwrthrychau symud i gyfeiriad y bysellau saeth pan gânt
eu pwyso
• Golygu'r gwrthrychau er mwyn canfod gwrthdrawiadau rhwng
gwrthrychau a thynnu'r gwrthrychau hyn allan o'r byd
• Ychwanegu sain a fydd yn chwarae pan fydd gwrthrych yn gofyn iddo
wneud
• Ychwanegu gwrthrych sy'n gallu derbyn negeseuon gan wrthrychau
eraill
• Golygu gwrthrychau fel eu bod yn gallu newid y ddelwedd/gwerth
sydd i'w gweld ar y byd Greenfoot
• Cadw bydoedd gorffenedig o dan yr enwau ffeiliau a roddir.
Iaith gydosod Dylunio, ysgrifennu, profi a mireinio rhaglenni
cydosod syml gan ddefnyddio'r cofrifau canlynol:
• Mewnbwn INP • Allbwn OUT • Storio STA
Er enghraifft, gellid gofyn i ymgeiswyr ddylunio, ysgrifennu, profi
a mireinio rhaglenni cydosod syml sy'n gwneud y canlynol:
• llwytho cofrestr R â chynnwys cyfeiriad X
• llwytho cofrestr S â chynnwys
42
4. Strwythurau data a mathau data
Testun Ymhelaethiad Canllawiau i Athrawon
Gweithredu strwythurau data
Defnyddio araeau un dimensiwn a dau ddimensiwn, ffeiliau a
chofnodion.
Defnyddio, fel sy'n briodol, araeau un dimensiwn mewn algorithmau a
rhaglenni er mwyn mewnbynnu, storio, prosesu ac allbynnu
data.
Defnyddio, fel sy'n briodol, araeau dau ddimensiwn mewn algorithmau
a rhaglenni er mwyn mewnbynnu, storio, prosesu ac allbynnu
data.
Defnyddio, fel sy'n briodol, gofnodion mewn algorithmau a rhaglenni
er mwyn mewnbynnu, storio, prosesu ac allbynnu data.
Gweithredu mathau data
Defnyddio amrywiaeth o fathau data, gan gynnwys cyfanrif, Boole,
real, nod a llinyn.
Defnyddio, fel sy'n briodol, fathau data i ddal data mewn
newidynnau/araeau/cofnodion mewn algorithmau a rhaglenni.
Cyfanrif (rhif cyfan) 7, 0, 15, -5
Boole (Cywir/Anghywir)
Real (rhif gyda ffracsiwn neu heb ffracsiwn) 7.2, 8.9, -6.8,
12.0
Nod (un nod) a, @, #, 8, Q
Llinyn (un nod neu fwy) Helo, abc, b, Y (Gellir ymestyn hyn yn
ymarferol i gynnwys mathau data gwahanol mewn rhaglenni (e.e.
sengl, dwbl, nod, dyddiad, degolyn ac ati)
43
Newidynnau a chysonion
Pennu, nodi ac esbonio'r defnydd o gysonion a newidynnau mewn
algorithmau a rhaglenni.
Pennu, nodi a defnyddio cysonion mewn rhaglenni ac algorithmau i
storio data nad ydynt yn newid.
Pennu, nodi a defnyddio cysonion mewn rhaglenni ac algorithmau i
storio data sy'n gallu newid.
Deall ble mae cysonion a newidynnau yn briodol a'u defnyddio'n
briodol.
Disgrifio cwmpas a hyd oes newidynnau mewn algorithmau a
rhaglenni.
Mae cwmpas newidyn yn golygu gwelededd/hygyrchedd newidyn.
Mewn geiriau eraill, pa rannau o'ch rhaglen sy'n gallu gweld neu
ddefnyddio'r newidyn.
Gall fod yn eang neu'n lleol.
Hyd oes newidyn. Hyd oes newidyn yw hyd y lleoliad lle mae'r
newidyn yn bodoli.
Hyd oes newidynnau Eang.
Bydd newidynnau Eang yn dechrau bodoli pan fydd y rhaglen yn
dechrau.
Bydd newidynnau Eang yn peidio â bodoli pan fydd y rhaglen yn
cau.
Hyd oes newidynnau Lleol.
Bydd newidyn lleol yn dechrau bodoli pan fydd y newidyn yn cael ei
ddiffinio o fewn is-reolwaith.
Bydd newidyn lleol yn peidio â bodoli ar ddiwedd y cwmpas y mae'r
newidyn wedi'u ddiffinio ynddo (pan fydd yr is-reolwaith yn dod i
ben).
5. Diogelwch a dilysu
Technegau diogelwch
Defnyddio technegau diogelwch priodol, gan gynnwys dilysu a
gwirio.
Defnyddio technegau sy'n dilysu data (gallai hyn gynnwys unrhyw rai
o'r ystod o wiriadau dilysu a drafodwyd) mewn algorithmau.
Defnyddio technegau sy'n dilysu gwybodaeth a roddir mewn
algorithm.
44
Dyddiad cyflwyno
Caiff y gwaith ei gyflwyno mewn pryd i gyrraedd y safonwr yn unol
â'r amserlen arholiadau a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn ardystio
academaidd. Rhaid mai'r dasg yw'r un a bennwyd gan CBAC ar gyfer y
flwyddyn academaidd honno.
Dull cyflwyno
Rhaid i'r holl farciau gael eu cyflwyno i System Mewnbynnu Marciau
Asesiad Mewnol (IAMIS) CBAC. Bydd y system hon yn nodi'r sampl
ofynnol yn awtomatig. Rhaid cyflwyno gwaith mewn fformat
electronig. Ar hyn o bryd, bydd hyn yn golygu copïo'r sampl i
system ar-lein fesul ymgeisydd a fydd yn dosbarthu'r gwaith i'r
safonwr priodol. Dylid trefnu'r gwaith fel y disgrifir ar dudalen
20 o'r fanyleb.
Goblygiadau ymarferol rheolau asesiad di-arholiad
Amodau/Adnoddau
Rhaid cynnal asesiad di-arholiad o dan yr amodau a ragnodir. Hynny
yw, rhaid i gyfrifon a ddefnyddir ar gyfer yr asesiad di-arholiad
gael eu cloi rhwng sesiynau asesiad di-arholiad, a rhaid sicrhau
nad oes gan y cyfrifon hyn fynediad at y rhyngrwyd nac e-bost. Ni
ellir dod ag unrhyw waith i mewn o'r tu allan i amgylchedd
rheoledig yr asesiad di- arholiad. Mae ymgeiswyr yn rhydd i wneud
gwaith ymchwil y tu allan i'r amodau rheoledig, ond dylid
defnyddio'r ymchwil hon i feithrin eu sgiliau a'u gwybodaeth. Ni
ddylid dod ag unrhyw waith wedi'i deipio, diagramau na chod i mewn
i'r arholiad. Mae'r rheol hon yn debyg i reolau arholiadau yn yr
ystyr bod ymgeiswyr yn rhydd i adolygu er mwyn gwella eu gwybodaeth
a'u sgiliau y tu allan i arholiadau, ond ni chânt ddod ag unrhyw
waith corfforol i mewn i arholiad. Rhaid i ganolfannau gadw cofnod
o'r amser a dreulir gan ymgeiswyr ar yr asesiad di- arholiad ac ni
chaniateir i ymgeiswyr dreulio mwy nag 20 awr arno. Mae
canolfannau'n rhydd i ddewis eu dull o wneud hyn, ond rhaid bod
tystiolaeth o hyn. Gall CBAC ofyn am y dystiolaeth hon ar unrhyw
adeg.
Tasgau rhyddhau ac ymarfer
Mae canolfannau yn rhydd i ddefnyddio tasgau eraill i sicrhau bod
ymgeiswyr yn gwella eu sgiliau i baratoi ar gyfer y dasg. Gallai
hyn fod ar ffurf deunydd enghreifftiol neu gyn- bapurau.
45
Mae canolfannau'n rhydd i osod 'tasgau ymarfer' cyn dechrau'r
asesiad di-arholiad er mwyn hwyluso'r broses o feithrin sgiliau.
Fodd bynnag, ni chaniateir i'r tasgau hyn gael eu cymryd yn
uniongyrchol o'r dasg a ryddheir.
Cyfrif geiriau
Mae'r uchafswm geiriau o 2000 yn gysylltiedig â'r adroddiad a
ddarperir gyda'r datrysiad wedi'i raglennu. Nid yw'r uchafswm
geiriau hwn yn cynnwys cod y rhaglen na'r anodiad.
Trefniadau amser
Yr amser a ganiateir ar gyfer yr asesiad di-arholiad yw 20 awr. Yn
amlwg, mae'n amhosibl i ymgeiswyr weithio am 20 awr mewn un sesiwn
ac felly caiff yr amser hwn ei drefnu yn ôl disgresiwn y ganolfan.
Mae'r dulliau isod yn ddilys; fodd bynnag, gall canolfannau ddewis
dulliau gwahanol. 1. Cyflawni'r dasg o fewn cyfnod o wythnos Byddai
hyn yn golygu bod yr ymgeiswyr yn gweithio dros gyfnod o wythnos
(er enghraifft, 2 sesiwn 2 awr o hyd fesul diwrnod) ac yn cwblhau'r
dasg gyfan o fewn yr amser hwn. Manteision y dull hwn
• Caiff y dasg ei chwblhau mewn cyfnod byr o amser a gall hyn fod
yn fwy ymarferol o ran dilyniant
• Llai agored i effaith absenoldeb dysgwyr • Bydd yr 'ymdrwytho
llwyr' a gyflawnir gan y dull hwn yn arwain at waith parhaus
sydd
â ffocws pendant • Gall myfyrwyr wneud ymchwil fel gwaith cartref
bob nos a bydd y gwaith yn fyw yn eu
cof pan fyddant yn dechrau ar dasgau'r diwrnod canlynol • Mae'n
hawdd cadw cofnod o'r amser a dreulir.
Anfanteision y dull hwn
• Mae'n ddibynnol iawn ar sicrhau bod yr holl sgiliau sydd eu
hangen ar gyfer y dasg wedi cael eu haddysgu cyn dechrau'r dasg, ac
mae'n ddibynnol ar allu'r myfyrwyr i gofio nifer fawr o
gysyniadau
• Mae angen ad-drefnu'r cwricwlwm • Mae'n ddifaddeuant os bydd
ymgeiswyr yn mynd yn sownd ar faes unigol, oherwydd
ni fyddant yn gallu ymchwilio a dychwelyd at y dasg nes iddynt gael
eu rhyddhau o'r amodau rheoledig
• Mae'n anhyblyg os bydd ymgeisydd unigol yn absennol yn ystod
wythnos y dasg
2. Rhannu'r gwaith dros nifer o sesiynau. Byddai'r dull hwn yn
golygu neilltuo amser o fewn y cwricwlwm i'r ymgeiswyr a byddai'r
holl waith yn cael ei gyflawni yn ystod y sesiynau hyn. (Er
enghraifft, sesiynau 2 awr o hyd yn cael eu cynnal bob wythnos dros
gyfnod o 10 wythnos).
46
Manteision y dull hwn
• Caiff y dasg ei chwblhau mewn cyfnod penodedig o amser a gall hyn
fod yn fwy ymarferol o ran cadw cofnod o amser
• Gellir addysgu sgiliau ar gyfer adrannau gwahanol mewn gwersi ar
wahân rhwng y sesiynau prawf
• Gall ymgeiswyr wneud ymchwil fel gwaith cartref yn y cyfnod rhwng
tasgau.
Anfanteision y dull hwn
• Mae angen ad-drefnu'r cwricwlwm • Bydd ymgeiswyr sy'n colli
diwrnodau pan gynhelir y sesiynau prawf yn colli cyfnodau
sylweddol o amser a bydd angen aildrefnu sesiynau ar eu cyfer • Ni
fydd ymgeiswyr sy'n colli sesiynau addysgu rhwng y sesiynau asesiad
di-arholiad
yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol.
3. Cynnal y dasg mewn sesiynau gwersi arferol Byddai hyn yn golygu
addysgu sgiliau sy'n berthnasol i'r dasg ac yna newid i amodau
asesiad di-arholiad pan fydd yr ymgeiswyr wedi cael eu haddysgu. Er
enghraifft, addysgu cysyniadau dadansoddi am 30 munud, yna newid i
amodau rheoledig am y 30 munud nesaf ar ôl i'r cysyniadau sy'n
ofynnol er mwyn mynd i'r afael â'r dasg gael eu haddysgu i'r
ymgeiswyr. Ni chaniateir i'r tasgau yn y gwersi gael eu cymryd yn
uniongyrchol o'r dasg a ryddheir, a dim ond y sgiliau gofynnol y
dylid eu haddysgu cyn dechrau'r asesiad di- arholiad. Manteision y
dull hwn
• Nid oes angen ad-drefnu'r cwricwlwm • Gellir addysgu sgiliau ar
gyfer adrannau unigol mewn gwersi ar wahân rhwng y
sesiynau prawf. • Gall ymgeiswyr wneud ymchwil fel gwaith cartref
yn y cyfnod rhwng tasgau.
Anfanteision y dull hwn
• Mae'n anodd cadw cofnod o'r amser a dreulir, oherwydd rhaid i'r
amser y mae'r ymgeiswyr yn ei dreulio ar yr asesiad di-arholiad
gael ei gofnodi mewn munudau (gan mai rhan o wers yw'r amser y bydd
yr ymgeiswyr yn ei dreulio ar y dasg (e.e. 30 munud)
• Gall y fethodoleg olygu bod ymgeiswyr yn dibynnu ar gof tymor
byr, a fydd yn effeithio ar eu dealltwriaeth
• Bydd cyflwyno'r gwaith fesul darn yn effeithio ar allu'r
ymgeiswyr i weld y darlun ehangach o ran datblygiad y project, a
all arwain at waith cynllunio, gweithredu a gwerthuso gwannach a
digyswllt.
47
Gridiau marcio asesiad di-arholiad
Tasg Benodol Y dasg ar gyfer Uned 3 fydd senario a osodir gan CBAC
a fydd ar ffurf project fydd ar gael i'w gyflwyno yn y flwyddyn a
nodir yn unig. Gosodir senario wahanol ar gyfer pob blwyddyn
academaidd. Dylai'r holl waith a wneir ar gyfer y dasg hon gael ei
gyflawni o dan oruchwyliaeth athro, heb unrhyw fynediad at y
Rhyngrwyd nac e-bost. Yr amser a ganiateir ar gyfer y dasg hon yw
20 awr, a dylai'r holl amser a dreulir ar y dasg gael ei fonitro
a'i gofnodi gan y ganolfan fel y nodir yn y fanyleb.
Bydd y senario yn rhoi disgrifiad i ymgeiswyr o angen cleient am
ddatrysiad cyfrifiadurol newydd i broblem benodol. Yn ogystal â
rhaglen gyfrifiadurol weithredol, bydd angen i ymgeiswyr lunio
adroddiad prosesu geiriau gyda therfyn awgrymedig o 2000 o eiriau.
Ymdrinnir â'r meysydd i'w cynnwys yn yr adroddiad yn fanwl yng
nghynnwys yr elfen hon ac maent wedi'u crynhoi isod:
Adran 1 – Cwmpas y broblem
• Dadansoddi'r senario benodol o ran mewnbynnu, prosesu ac allbynnu
• Amcanion, gan gynnwys meini prawf i fesur llwyddiant y system
arfaethedig.
Adran 2 – Dylunio Disgrifiadau o'r canlynol:
• Y cyfleusterau mewnbwn ac allbwn sy'n ofynnol i lunio rhyngwyneb
defnyddiwr • Y strwythurau data a fydd yn ofynnol • Dogfennu'r
rheolweithiau canlynol gan ddefnyddio confensiwn safonol (ffug-god
neu
siart llif): o rheolweithiau dilysu o trin a phrosesu data o
dilysu
Adran 3 – Datblygu meddalwedd
Adran 4 – Strategaeth brofi
• Disgrifiad o'r strategaeth brofi • Disgrifiad o bwrpas yr uned,
integreiddiad a phrofion gweithredol • Cynllun profi a
phrawf-ddata
Adran 5 – Profi
• Tystiolaeth o weithredu'r cynllun profi a'r canlyniadau profi
gyda sylwebaeth
Adran 6 – Datblygiad pellach
• Trafod canlyniadau'r profion • Disgrifiad o nodweddion
llwyddiannus y datrysiad a nodi meysydd i'w datblygu
ymhellach • Awgrymiadau ar gyfer estyniadau i'r datrysiad
48
Y Log Mireinio Mae'r log mireinio yn rhan annatod o'r project a
dylid ei gwblhau yn ystod pob sesiwn. Pwrpas y log yw galluogi'r
ymgeiswyr i ddangos eu bod yn gweithio mewn dull rhesymegol a
systematig.
Disgwylir i ymgeiswyr gofnodi unrhyw broblemau sy'n codi ac esbonio
sut yr ymdriniwyd â nhw.
Darperir y log mireinio fel dogfen electronig a rhaid cyflwyno'r
log gyda'r rhaglen gyfrifiadurol a'r adroddiad.
Mae tudalen enghreifftiol o'r log i'w gweld ar dudalen 27 o'r
fanyleb.
Dylai'r gridiau marcio gael eu defnyddio ynghyd â'r cyngor a roddir
ar dudalen 28 o'r fanyleb. Mae gridiau marcio'r asesiad di-arholiad
yn y fanyleb wedi'u llunio ar ffurf tabl hierarchaidd fertigol,
ond, yn ymarferol, mae'r gridiau hyn yn haws i'w defnyddio mewn
fformat llorweddol, gan ei bod yn haws cymharu'r deilliannau yn y
gridiau yn y fformat hwn. Isod, mae'r gridiau wedi cael eu
trosglwyddo i fformat o'r fath er mwyn eu gwneud yn haws i'w
defnyddio.
49
Band 0 0 marc
Band 1 1 – 2 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Cynnal dadansoddiad
arwynebol o'r senario benodol sydd ond yn rhannol wedi nodi'r
mewnbwn, y prosesau a'r allbwn sy'n ofynnol i lunio datrysiad
gweithredol
• Cyflwyno amcanion ar gyfer y datrysiad o ran y tasgau i'w
cyflawni. Nid yw'r holl amcanion yn fesuradwy nac yn briodol i'r
datrysiad
Band 2 3 – 4 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Cynnal dadansoddiad
o'r senario benodol, gan nodi'r canlynol:
o y data sylfaenol sy'n ofynnol i greu datrysiad gweithredol
o y gofynion prosesu sylfaenol i lunio datrysiad gweithredol
o yr allbynnau sylfaenol o'r datrysiad
• Pennu amcanion, y mae lleiafrif ohonynt yn fesuradwy, sy'n
disgrifio'r prif dasgau sy'n ofynnol er mwyn creu datrysiad
gweithredol
Band 3 5 – 6 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Cwblhau dadansoddiad
o'r senario benodol, heb unrhyw hepgoriadau sylweddol, gan nodi'r
rhan fwyaf o'r canlynol:
o y data sy'n ofynnol i greu datrysiad gweithredol
o yr holl waith prosesu i'w gyflawni gan y datrysiad
o yr holl allbynnau gofynnol o'r datrysiad
• Cyflwyno amcanion, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn fesuradwy, sy'n
diffinio'r tasgau i'w cyflawni gan y datrysiad arfaethedig
Band 4 7 – 8 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Cwblhau dadansoddiad
trylwyr o'r senario benodol gan nodi'r canlynol:
o yr holl ddata sy'n ofynnol i greu datrysiad effeithiol
o yr holl waith prosesu i'w gyflawni gan y datrysiad
o yr holl allbynnau gofynnol o'r datrysiad
• Llunio cyfres fanwl o amcanion, sy'n fesuradwy, sy'n diffinio'n
glir y tasgau sy'n ofynnol i greu datrysiad effeithiol a chwbl
weithredol
50
Band 0 0 marc
Band 1 1 – 3 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Defnyddio'r amcanion ar
gyfer y datrysiad fel sail ar gyfer dyluniad amlinellol ar gyfer
datrysiad rhannol
• Llunio dyluniadau amlinellol ar gyfer y cyfleusterau mewnbwn ac
allbwn a nodwyd a ddarparwyd gan y rhyngwyneb defnyddiwr
• Amlinellu'r ffeiliau allweddol a/neu'r strwythurau data sy'n
ofynnol i lunio datrysiad rhannol
• Rhoi ystyriaeth i ddilysiad posibl y data mewnbwn, nad yw'n gywir
nac yn briodol efallai
• Amlinellu'n rhannol reolweithiau prosesu sydd efallai'n defnyddio
confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif. Efallai nad yw'r
disgrifiadau'n fanwl nac yn gywir.
Band 2 4 – 6 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Defnyddio'r amcanion ar
gyfer y datrysiad fel sail ar gyfer y dyluniad a fydd yn cynhyrchu
datrysiad a fydd yn cyflawni'r rhan fwyaf o'r nodweddion sy'n
ofynnol
• Nodi'r cyfleusterau mewnbwn ac allbwn sylfaenol i'w darparu gan y
rhyngwyneb defnyddiwr
• Nodi'r strwythurau data sy'n ofynnol i lunio datrysiad sy'n
rhannol weithredol ond sy'n cyflawni gofynion sylfaenol y senario
benodol
• Nodi sawl mewnbwn y bydd angen eu dilysu
• Amlinellu'r angen am brosesau dilysu
• Disgrifio'r rheolweithiau prosesu sylfaenol ar gyfer y datrysiad
fel algorithmau gan ddefnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu
siartiau llif. Gall rhai rheolweithiau fod yn anghywir neu'n
anghyflawn.
Band 3 7 – 9 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Defnyddio'r amcanion ar
gyfer y datrysiad i lywio dyluniad a fydd yn cynhyrchu'r
cyfleusterau sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod y datrysiad yn
weithredol
• Nodi a disgrifio'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau mewnbwn ac allbwn
i'w darparu gan y rhyngwyneb defnyddiwr ac wedi ystyried anghenion
y defnyddiwr
• Disgrifio'r rhan fwyaf o'r strwythurau data sy'n ofynnol gan
ddefnyddio terminoleg briodol
• Nodi'r rhan fwyaf o'r mewnbynnau y bydd angen eu dilysu ac
amlinellu cynigion ar gyfer gweithredu rheolweithiau dilysu
• Ystyried yr angen am reolweithiau dilysu
• Disgrifio'r rhan fwyaf o'r rheolweithiau prosesu ar gyfer y
datrysiad fel algorithmau gan ddefnyddio confensiwn safonol fel
ffug- god neu siartiau llif
Band 4 10 – 12 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Llunio dyluniad cynhwysfawr
a fyddai'n caniatáu i drydydd parti cymwys greu datrysiad sy'n
cwmpasu pob amcan penodedig
• Nodi'n llawn a disgrifio'n fanwl y cyfleusterau mewnbwn ac allbwn
i'w darparu gan y rhyngwyneb defnyddiwr a fydd yn addas i'r
pwrpas
• Disgrifio'r holl strwythurau data sy'n ofynnol i greu datrysiad
effeithiol, gan ddefnyddio terminoleg dechnegol gywir
• Disgrifio'n llawn y rheolweithiau dilysu sy'n ofynnol i sicrhau
mai dim ond data priodol y gellir eu nodi yn y datrysiad
• Ystyried yn llawn yr angen am ddilysiad
• Disgrifio'r holl reolweithiau prosesu ar gyfer datrysiad
effeithiol fel algorithmau gan ddefnyddio confensiwn safonol fel
ffug-god neu siartiau llif
51
Band 0 0 marc
Band 1 1 marc
y rhan fwyaf o sesiynau • Disgrifio problemau a gododd
ond efallai na ddefnyddiwyd terminoleg dechnegol
• Amlinellu newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol
• Nodi un gweithgaredd neu fwy ar gyfer y sesiwn nesaf
Band 2 2 – 3 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Dangos dull strwythuredig o
ddatblygu'r datrysiad • Cynnal gweithgareddau mewn
trefn briodol • Disgrifio'r cynnydd a wnaed ym
mhob sesiwn • Darparu disgrifiad o unrhyw
broblemau a gododd gyda defnydd boddhaol o derminoleg
dechnegol
• Disgrifio unrhyw newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol
• Llunio camau gweithredu synhwyrol ar gyfer sesiynau dilynol
Band 3 4 – 5 marc
Mae'r ymgeisydd wedi: • Dangos dull strwythuredig o
ddatblygu'r datrysiad • Cynnal gweithgareddau mewn
trefn briodol • Gwerthuso'n effeithiol y cynnydd
a wnaed ym mhob sesiwn • Darparu disgrifiad llawn o
unrhyw broblemau sy'n codi gyda defnydd da o derminoleg
dechnegol
• Cyfiawnhau unrhyw newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol gan
ddangos dealltwriaeth hyddysg o'r angen am newid
• Llunio camau gweithredu rhesymegol a blaenoriaethol ar gyfer
sesiynau dilynol
52
Band 0 0 marc
Band 1 1 – 3 marc
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn cyflawni
gofynion y senario benodol yn rhannol
• Â rhyngwyneb defnyddiwr rhannol weithredol
Band 2 4 – 6 marc
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn cyflawni
gofynion sylfaenol y senario benodol
• Yn cynnwys rhyngwyneb defnyddiwr sylfaenol nad yw o bosibl yn
addas i'r pwrpas
• Yn cynnwys nifer sylfaenol o elfennau rhaglennu
strwythuredig
Band 3 7 – 9 marc
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn cyflawni'r
rhan
fwyaf o ofynion y senario benodol
• Yn darparu tystiolaeth o ryngwyneb defnyddiwr gweithredol
• Yn cynnwys rhai o elfennau rhaglennu strwythuredig
• Yn defnyddio rheolweithiau dilysu
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn gywir ac yn
cyflawni'r rhan fwyaf o ofynion y senario benodol
• Yn ddefnyddiadwy gyda rhyngwyneb defnyddiwr sy'n weithredol ac yn
hawdd i'w ddefnyddio ar y cyfan
• Yn strwythuredig a modiwlaidd ei natur
• Yn ddiogel gyda rheolweithiau dilysu
• Yn gludadwy a chadarn ar y cyfan
Band 5 13 – 15 marc
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd: • Yn gywir ac yn
cyflawni holl ofynion y senario benodol
• Yn ddefnyddiadwy gyda rhyngwyneb defnyddiwr sy'n sythweledol ac
yn addas i'r gynulleidfa a'r diben
• Yn strwythuredig iawn ac yn fodiwlaidd ei natur
• Yn effeithlon o ran y defnydd o adnoddau
• Yn ddiogel gyda rheolweithiau dilysu effeithiol
• Yn gludadwy, dibynadwy a chadarn
53
Band 0 0 marc
Band 1 1 – 4 marc
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad rhannol i un o ofynion y
senario benodol o leiaf. Mae'r ymgeisydd wedi: • Gwneud defnydd
o
ddynodwyr ystyrlon
• Defnyddio mewnoli
Band 2 5 – 8 marc
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sy'n cwmpasu gofynion sylfaenol
y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi: • Ysgrifennu cod
sy'n cynnwys rhywfaint o waith hunanddogfennol
• Defnyddio mewnoli priodol
• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon
• Anodi'r cod mewn ffordd sylfaenol
Band 3 9 – 12 marc
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad gweithredol sy'n cwmpasu'r rhan
fwyaf o ofynion y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi: •
Ysgrifennu cod sy'n
hunanddogfennol • Defnyddio dull
• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon a defnydd priodol o
gysonion
• Gwneud defnydd o newidynnau lleol a lleihau'r defnydd o
newidynnau eang yn gyffredinol
• Llunio rheolweithiau dilysu
Band 4 13 – 16 marc
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad gweithredol sy'n cwmpasu holl
ofynion y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi: • Ysgrifennu cod
sy'n
hunanddogfennol ac yn fodiwlaidd ei natur
• Defnyddio dull rhaglennu cyson gan gynnwys mewnoli
• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon a defnydd priodol o
gysonion
• Gwneud defnydd o newidynnau lleol a lleihau'r defnydd o
newidynnau eang
• Llunio rheolweithiau dilysu a chreu rheolweithiau ar gyfer trin
eithriadau
• Anodi'r cod yn effeithiol lle y bo'n briodol
Band 5 17 – 20 marc
Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad llwyddiannus sy'n cwmpasu holl
ofynion y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi: • Ysgrifennu cod
sy'n
hunanddogfennol, wedi'i strwythuro'n dda ac yn fodiwlaidd ei
natur
• Defnyddio dull rhaglennu cyson drwy gydol y gwaith, gan gynnwys
mewnoli a'r defnydd o ofod gwyn o amgylch gweithredyddion a geiriau
allweddol
• Gwneud defnydd llawn o ddynodwyr ystyrlon a defnydd priodol o
gysonion
• Creu is-reolweithiau gyda rhyngwynebau