16
Planhigion tir âr yng Nghymru cyngor ar reolaeth

Planhigion tir âr yng Nghymru cyngor ar reolaeth · 2015. 1. 27. · troellig yr ŷd, briwlys y tir âr,trwyn-y-llo lleiaf a chorlaethlys. Ymhlith y blodau âr Cymreig a phrin mae’r

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Planhigion tir âr yng Nghymru cyngor ar reolaeth

  • 2 Planhigion tir ar yng Nghymru

  • 3cyngor ar reolaeth

    Planhigion tir âr yng Nghymru cyngor ar reolaeth

    RhagymadroddMae amrywiaeth nodweddiadol a chyfoethog o blanhigion tir âr yn tyfu yng Nghymru. Datblygodd y gymysgedd hon dan hinsawdd dyner, laith ac mae’n bwysig yn rhyngwladol. O’r holl dir amaethyddol yng Nghymru dim ond 11% sy’n dir âr erbyn hyn. Collwyd 106,400 hectar ers 1970. Mae caeau o gwmpas yr arfordir yn arbennig o bwysig ar gyfer planhigion tir âr ond mae peryg mawr i’r rhain gael eu troi yn laswelltir parhaol, sef cynefi n sydd wedi cynyddu yn aruthrol - o 44% nôl yn 1970 i 60% heddiw. Mewn caeau bychain diarffordd mae melyn yr ŷd a phabis yn dal i greu sioeau ysblennydd,yn gymysg â phlanhigion llai amlwg fel troellig yr ŷd, briwlys y tir âr,trwyn-y-llo lleiaf a chorlaethlys. Ymhlith y blodau âr Cymreig a phrin mae’r gludlys amryliw, blodyn-ymenyn yr ŷd, nodwydd y bugail, gwylaeth-yr-oen llydanffrwyth a glas yr ŷd.

    Mae’r nodiadau cyngor hyn yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i ffermwyr a rheolwyr tir ar draws Cymru os ydynt am geisio annog planhigion tir âr, a thrwy hyn greu cyfl eoedd ardderchog i fathau eraill o fywyd gwyllt ar eu ffermydd.

  • Planhigion tir ar yng Nghymru 4

  • 5cyngor ar reolaeth

    Profiad ffermwyr 1Mr Waters, Salisbury Farm, Caldicot, Gwent

    Mae’r fferm hon oddeutu 180 erw o faint ac wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’r priddoedd lôm yn draenio’n rhwydd ac yn gorwedd ar galchfaen. Mae Mr Waters yn cadw da sugno sy’n pori tua 150 erw o laswelltir. Mae gweddill y tir fferm yn dir âr. Mae’r tir âr hwn yn cynnwys tua 15 erw o farlys gwanwyn, 15 erw o faip a 2 erw o orchudd adar gwyllt.

    Gadewir ymylon braenar, na fydd yn cael eu cynaeafu, o gwmpas un cae âr bob blwyddyn. Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cael eu rheoli dan gynllun Tir Gofal. Nid oes chwynladdwyr targed-eang yn cael eu defnyddio ar y caeau grawn eraill. Caiff sofl ei adael yn y caeau

    dros y gaeaf. Mae’r ymylon braenar wedi bod yn llwyddiannus iawn; mae amrywiaeth dda o blanhigion wedi tyfu ynddynt ac er na welwyd planhigion prin iawn mae llysiau Llywelyn a briwlys y tir âr wedi ymddangos. Mae’n wir bod chwyn fel ysgallen y maes wedi ymddangos ond gwerthfawrogir rhain fel gorchudd i adar hela, adar gwyllt a thrychfilod. Os bydd lawer o ysgall yn crynhoi cânt eu rheoli yn y flwyddyn ganlynol.

    Mae Mr Waters wedi bod yn hapus gyda’r profiad o reoli ymylon caeau âr dan gynllun Tir Gofal. Mae wedi canfod bod y gofynion rheolaeth yn hawdd ac ni chafodd unrhyw broblemau difrifol. Cafodd ei blesio gyda’r cynnydd mewn bywyd gwyllt ar ei fferm, yn cynnwys y blodau gwyllt sydd wedi ymddangos yn y caeau âr.

    Os caiff tir ei reoli mewn ffordd briodol gall planhigion tir âr, yn enwedig y mathau mwy prin, ail-ymddangos hyd yn oed mewn mannau lle nad ydynt wedi cael eu gweld ers blynyddoedd maith. Ond mae rhai safleoedd, wrth gwrs, yn well na’i gilydd ; y tiroedd gorau yn aml yw’r rhai ar lethrau heulog sy’n wynebu’r de, lle mae ’na hanes hir o aredig.

  • 6 Planhigion tir ar yng Nghymru

    Effeithiau ar fathau eraill o fywyd gwylltMae planhigion tir âr yn cynnig bwyd a lloches i amrywiaeth dda o fywyd gwyllt ac mae nifer o’r rhywogaethau eraill hyn hefyd wedi prinhau. Yn ystod y gwanwyn a’r haf mae blodau’n cynnig ffynhonnell dda o neithdar a phaill i wenyn bwm, glöynnod byw a thrychfilod eraill. Mae gwenyn bwm yn ymweld â blodau marddanadl, trilliw’r tir âr a melyn yr ŷd, ymhlith planhigion eraill, er mwyn bwydo ar y paill sy’n elfen hanfodol o’u deiet. Mae hadau gaeaf planhigion fel y mwstard du, troed-yr-ŵydd gwyn a gweunwellt unflwydd yn cynnig bwyd i wahanol fathau o adar sy’n defnyddio tir fferm a hefyd i famaliaid bychain a thrychfilod. Yn eu tro bydd hyn o fantais i’r ysglyfaethwyr sy’n bwydo ar y creaduriaid hyn

    Profiad ffermwyr 2Mr Lort Phillips, Lawrenny Farm, Sir Benfroe

    Lleolir Lawrenny Farm ger tref Penfro yn ne-orllewin Cymru. Mae’r priddoedd yn amrywiol ond yn gyffredinol maen nhw’n draenio’n rhwydd ac yn gorwedd ar galchfaen, tywodfeini a siâl. Mae arwynebedd y fferm oddeutu 400ha ac mae tua 100ha o hwn yn cael ei drin bob blwyddyn er mwyn tyfu cnydau âr, yn bennaf barlys, rhygwenith a cheirch. Cedwir gwartheg bîff a llaeth ynghyd â defaid yn y gaeaf. Mae’r fferm gyfan yn cael ei rheoli mewn ffordd organaidd.

    Mae gan un cae ar y fferm gyfoeth arbennig o flodau gwyllt, yn cynnwys glas yr ŷd, gwylaeth-yr-oen meinffrwyth, trwyn-y-llo lleiaf, corlaethlys a melyn yr ŷd. Hwn yw un o’r caeau gorau ar gyfer planhigion tir âr drwy Brydain gyfan ac un o’r ychydig gaeau lle mae glas yr ŷd yn cael ei weld yn rheolaidd.

    Gan fod y fferm yn cael ei rheoli’n organaidd nid yw Mr Lort Phillips yn defnyddio unrhyw chwynladdwyr ac felly nid oes un o’r caeau’n cael ei chwistrellu. Mae’n rheoli sawl cae yn unol ag opsiwn Cnwd Grawn heb ei Chwistrellu, fel rhan o gynllun Tir Gofal (mae hyn hefyd yn golygu nad oes gwrtaith yn cael ei ddefnyddio ar y caeau) ac mae hefyd yn trin ac yn hau ymylon braenar. Mae’r opsiwn Cnwd heb ei Chwistrellu yn ffitio’n dda gyda’r system ffermio.

    Y problemau pennaf, o ran chwyn, yw marchwellt, rhuddygl gwyllt a mwstard gwyllt. Ar y fferm organaidd hon nid yw chwynladdwyr yn cael eu caniatáu ac mae Mr Lort Phillips yn cadw’r problemau chwyn dan reolaeth drwy aredig ddwywaith cyn drilio a thrwy chwynnu yn ystod y gwanwyn cyn i’r cnwd egino. Ni chafwyd unrhyw broblemau eraill wrth reoli dan y cynllun Tir Gofal ar Lawrenny Farm.

  • 7cyngor ar reolaeth

    Rhesymau am y dirywiad:: Defnydd eang o blaladdwyr Mwy o ddefnydd ar wrteithiau gyda lefel

    uchel o nitrogen Newid o gnydau gwanwyn i rai’r hydref Plannu glaswelltir bras ar dalarau caeau Newid o dir âr i laswelltir parhaol Dwys-blannu mathau o gnydau sy’n

    gynhyrchiol iawn Datblygiad mathau o gnydau sy’n tyfu’n gynt

    ac yn caniatáu cynaeafu cynharach Technegau gwell i lanhau hadau grawnfwyd

    Planhigion tir âr yng Nghymru

    119 rhywogaeth111-115 rhywogaeth106-110 rhywogaeth101-105 rhywogaeth95-100 rhywogaeth89 rhywogaeth

    is-sir Nifer rhywogaethau

    Sir Forgannwg (2) 119Sir Aberteifi (7) 114Sir Gaernarfon (10) 113Sir Benfro (6) 111Sir Ddinbych (11) 110Sir Fynwy (1) 109Sir Gaerfyrddin (5) 108Sir y Ffl int (12) 106Sir Fôn (13) 104Sir Drefaldwyn (8) 99Sir Frycheiniog (3) 96Sir Faesyfed (4) 95Sir Feirionnydd (9) 89

    Cyfoeth is-siroedd Cymru, o ran planhigion tir âr

    Planhigion tir âr yng Nghymru

    111-115 rhywogaeth106-110 rhywogaeth101-105 rhywogaeth

    rhywogaeth

    Cyfoeth is-siroedd Cymru, o ran planhigion tir âr

    13

    1012

    11

    9

    8

    7 4

    356

    21

    (Byfi eld a Wilson 2005)

  • 8 Planhigion tir ar yng Nghymru

    Enghreifftiau o blanhigion tir âr sy’n tyfu yng NghymruGludlys amryliw - Small-flowered catchflySilene gallicaArferai’r planhigyn bychan hwn, sy’n perthyn i’r gludlys arfor mwy cyffredin, dyfu ar hyd a lled Cymru. Erbyn hyn mae ond yn tyfu ar ambell fferm o gwmpas yr arfordir, yn enwedig yn Sir Benfro a Cheredigion, lle mae fel arfer yn tyfu gyda rhywogaethau anghyffredin eraill fel melyn yr ŷd a thrwyn-y-llo lleiaf. Gan amlaf mae’n tyfu ar ymylon caeau âr sy’n wynebu’r de ac yn llygad yr haul, a lle mae’r pridd yn dywodlyd ac yn draenio’n rhwydd. Nid yw’n cystadlu’n llwyddiannus gyda chnydau modern sy’n cael eu gwrteithio’n drwm ac mae’r mwyafrif o chwynladdwyr targed-eang yn ei ddinistrio. Mae’r hadau yn para am amser hir ac er bod y mwyafrif o blanhigion yn cael eu canfod mewn cnydau sy’n cael eu hau yn y gwanwyn mae’n gallu egino yn y gwanwyn a’r hydref.

    Glas yr ŷd - CornflowerCentaurea cyanusErbyn hyn mae’r blodau mawr glas, sy’n tyfu ar goesynnau tal, yn fwy cyfarwydd fel planhigion gardd, ond arferai’r rhywogaeth hon fod yn gyffredin mewn cnydau âr ar hyd a lled Prydain. Yng Nghymru mae ond yn tyfu bellach mewn dyrnaid o gaeau – yn bennaf ar briddoedd tywodlyd, asidaidd. Fel arfer mae’n tyfu gyda phlanhigion prin eraill fel melyn yr ŷd, trwyn-y-llo lleiaf a gwylaeth-yr-oen meinffrwyth. Os gall eginblanhigion sefydlu yn ystod yr hydref gall gystadlu gyda chnwd sy’n cael ei wrteithio, er ei fod yn tyfu’n llawer gwell pan na fydd gwrtaith nitrogen wedi cael ei ddefnyddio. Gall y mwyafrif o chwynladdwyr targed-eang ei ddinistrio. Mae’n eginio’n bennaf yn yr hydref ac felly mae i’w ganfod yn bennaf mewn cnydau sy’n cael eu hau yn yr hydref.

    Y Benboeth amryliw - Large-flowered hemp-nettleGaleopsis speciosaMae gan y planhigyn hwn, sy’n aelod o deulu’r farddanhadlen flodau melyn a phorffor. Yn wahanol i nifer o blanhigion tir âr mae’n fwy cyffredin yng ngogledd Prydain ac mae’r cofnodion Cymreig mwyaf diweddar yn dod o Geredigion. Mae’n tyfu’n fwyaf nodweddiadol ar briddoeddd clai asidaidd, yn aml gyda phlanhigion anghyffredin eraill fel troellig yr ŷd a briwlys y tir âr. Ni all gystadlu â chnydau modern sy’n cael eu gwrteithio’n drwm ac fel rheol mae i’w ganfod mewn cnydau gwraidd, fel tatws, lle mae strwythur agored i’r llystyfiant. Mae’r mwyafrif o chwynladdwyr targed-eang yn ei ddinistrio’n hawdd. Mae’n debyg ei fod yn egino’n bennaf yn y gwanwyn ac mae i’w weld fel rheol mewn cnydau a blannwyd yn y gwanwyn.

    Trwyn-y-llo lleiaf - Weasel’s snoutMisopates orontiumBlodau coch-borffor sydd gan blanhigion trwyn-y-llo lleiaf. Roedd unwaith yn gyffredin ond nawr mae’n tyfu’n bennaf ger yr arfordir ac mae’n fwyaf niferus yn Sir Benfro a Cheredigion. Fel rheol mae’n tyfu ar ymylon caeau sy’n wynebu’r de ac yn llygad yr haul, a lle mae’r priddoedd yn asidaidd ac yn draenio’n dda. Mae’n aml yn tyfu gyda rhywogaethau anghyffredin eraill fel melyn yr ŷd, troellig yr ŷd a briwlys y tir âr. Mae’n tyfu’n isel ar y ddaear ac nid yw’n gallu tyfu o dan gysgod trwm y math o gnydau modern sy’n cael eu hau’n drwch ac yn cael eu gwrteithio. Mae’r mwyafrif o chwynladdwyr yn wenwynig i drwyn-y-llo lleiaf. Mae’r hadau bychain, sy’n para am amser hir yn y pridd, yn egino yn y gwanwyn yn bennaf ond gall eginblanhigion sydd wedi egino yn yr hydref dyfu’n blanhigion mawr hefyd.

    8

  • 9cyngor ar reolaeth

    Melyn yr ŷd - Corn marigoldChrysanthemum segetumUnwaith roedd hi’n gyffredin i weld caeau llawn o liw aur blodau melyn yr ŷd ar hyd a lled Cymru. Mae’r planhigyn hardd hwn, sydd â blodau tebyg i lygad y dydd, yn tyfu fel rheol mewn priddoedd tywodlyd, asidaidd sy’n draenio’n dda ac mae’n bosib ei weld o hyd mewn caeau o gwmpas yr arfordir, yn aml gyda rhywogaethau eraill anghyffredin fel trwyn-y-llo lleiaf a throellig yr ŷd. Os gall eginblanhigion sefydlu ar yr un adeg â’r cnwd gall fod yn rywogaeth weddol gref. Nid oedd llawer o’r chwynladdwyr cynnar yn cael fawr o effaith ar y planhigyn hwn ond gall y cemegolion mwy diweddar ei ddinistrio yn enwedig pan gaiff y chwynladdwyr hyn eu defnyddio gyda deunydd gwlychu (‘wetting agent’ ) sy’n eu helpu nhw i dorri drwy’r gorchudd cwyr ar y dail. Mae’r hadau’n egino’n bennaf yn y gwanwyn ac mae’n debyg bod y lleihad yn yr arwynebedd o gnydau grawn a heuir yn y gwanwyn wedi cyfrannu at ei ddirywiad. Credir bod yr hadau yn gallu byw am gyfnod hir yn y pridd.

    Briwlys y tir âr - Field woundwortStachys arvensisEr bod hwn yn prinhau, mae’n bosib ei weld mewn llawer o gaeau yn enwedig ger yr arfordir. Mae i‘w weld amlaf ar briddoedd tywodlyd ond gellir ei weld hefyd ar glai ac ar briddoedd mwy calchaidd. Mae’n aml yn tyfu gyda rhywogaethau anghyffredin eraill, ond nid bob amser. Mae’n tyfu’n isel ar y ddaear ac ni all gystadlu gyda mathau cyfoes o gnydau sy’n cael eu gwrteithio’n drwm. Mae’r mwyafrif o chwynladdwyr targed-eang yn ei ddinistrio. Mae hadau‘n egino yn y gwanwyn yn bennaf ac mae’n tyfu’n bennaf mewn cnydau gwanwyn. Credir bod yr hadau yn byw am gyfnod hir.

    Camri’r cŵn - Stinking mayweedAnthemis cotulaEr bod y rhywogaeth hon yn dal i fod yn weddol eang ei dosbarthiad yn ne Lloegr mae nawr yn anghyffredin iawn yng Nghymru lle mae i’w gweld yn bennaf yn y de-ddwyrain. Yn debyg i’r amranwen ddi-sawr a’r amranwen bêr, sy’n fwy cyffredin, mae gan y planhigyn hwn glystyrau o flodau mawr tebyg i lygad y dydd ond mae rhaniadau’r dail yn llawer lletach a mymryn yn flewog. Mae arogl cryf, tebyg i‘r camri, ar y dail ond nid yw mor felys. Mae’n blanhigyn tal a gall oroesi mewn cnwd grawn modern sy’n cael ei wrteithio ond mae nifer o’r chwynladdwyr cynnar yn ei ddifa. Gall yr hadau oroesi am gyfnod hir ac maen nhw’n gallu egino yn y gwanwyn ac yn yr hydref ond mae’r planhigion i’w gweld yn amlach mewn cnydau a heuwyd yn y gwanwyn.

    Troellig yr ŷd - Corn spurreySpergula arvensisRoedd troellig yr ŷd unwaith yn doreithiog drwy Gymru ac er ei fod yn dal yn eang ei ddosbarthiad mae’n llawer llai cyffredin erbyn hyn. Mae’n tyfu’n bennaf ar briddoedd asidaidd sy’n draenio’n rhwydd ond gall dyfu hefyd ar bridd clai asidaidd sydd â draeniad salach. Ni all gystadlu’n llwyddiannus â chnydau modern a gall y mwyafrif o chwynladdwyr targed-eang ei ddifa. Er mai yn y gwanwyn y bydd yr hadau’n egino yn bennaf, gall niferoedd bychain egino yn yr hydref hefyd ac mae’r planhigion yn fwyaf niferus mewn cnydau a heuwyd yn y gwanwyn. Mae’r hadau yn byw am gyfnod hir.

    9

  • 10 Planhigion tir ar yng Nghymru

    Rheoli tir er mwyn annog planhigion tir âr

    Y prif angehenion ar gyfer rheolaeth lwyddiannus yw :

    Dim chwynladdwyr – gall y mwyafrif o blanhigion tir âr gael eu dinistrio’n hawdd gan chwynladdwyr sy’n targedu amrywiaeth fawr o blanhigion (h.y. y rhai ‘broad spectrum’).

    Dim gwrtaith nitrogen – ni all y mwyafrif o blanhigion tir âr gystadlu gyda mathau modern o gnydau sy’n cael eu gwrteithio’n drwm.

    Cnydau agored – ni all y mwyafrif o blanhigion tir âr gystadlu gyda chnydau sydd wedi cael eu plannu’n ddwys. Yn ddelfrydol, ymylon caeau sy’n cael eu gadael yn llonydd, a heb fod wedi cael eu plannu ar ôl eu haredig, sy’n creu’r cyflyrau gorau posib ar gyfer planhigion tir âr.

    Math o gnwd ac amseriad y cnydau – gall unrhyw gnwd nad yw’n cael ei blannu’n rhy ddwys fod yn addas – mae grawnfwyd yn well na chnydau gwraidd, er enghraifft. Yn ddelfrydol dylid aredig y tir un ai rhwng dechrau Hydref a diwedd Tachwedd, neu yn y gwanwyn rhwng canol Mawrth a diwedd Erbill. Gellir aredig yr ymylon a fydd yn cael eu gadael yn fraenar ar yr un pryd â gweddill y cae.

    Cynaeafu a rheoli’r sofl – dylid cynaefau unrhyw gnwd sy’n bresennol ar yr un pryd â gweddill y cae (ag eithrio cnwd gorchudd bywyd gwyllt a ddylai gael ei adael dros y gaeaf). Dylid gadael y sofl mor hir â phosib cyn i’r tir gael ei drin ar gyfer y cnwd nesaf (yn ddelfrydol drwy’r gaeaf) oherwydd gall rhai rhywogaethau flodeuo’n hwyr yn yr hydref.

    Mae sawl opsiwn ar gael, dan y cynllun Glastir, i annog planhigion tir âr. Rhoddir 5 seren fan hyn ar gyfer y rhai gorau.

    Mae’n well gan lawer o blanhigion tir âr – fel y gludlys amryliw, trwyn-y-llo lleiaf a melyn yr ŷd - dyfu mewn priddoedd ysgafn sy’n draenio’n rhwydd. Ond mae ambell un arall, fel nodwydd y bugail a blodyn-ymenyn yr ŷd, yn ffafrio priddoedd mwy cleiog. Mae rhywogaethau mwy cyffredin fel troellig yr ŷd a briwlys y tir âr yn tyfu mewn mathau gwahanol o bridd ond mae’r rhain i gyd hefyd wedi prinhau yn ddifrifol yn ystod blynyddoedd diweddar.

    Y nod bob amser yw annog planhigion i ail-ymddangos o hadau sydd wedi cael eu claddu yn y pridd – nid oes angen plannu cymysgedd ddrud o hadau blodau gwyllt. Yn hytrach na hyn, dylid ceisio cynnig cyflyrau addas a rhoi cyfle i blanhigion ail-egino’n naturiol o’r gronfa hadau sy’n gorwedd yn y pridd. Mae hon yn ffordd llawer mwy cost effeithiol i helpu planhigion tir âr. Ar y cyfan, y tir âr hyd ymylon caeau sy’n cynnwys y gronfa hadau mwyaf cyfoethog oherwydd mae hadau cnydau fel rheol yn cael eu hau yn llai dwys o gwmpas ymylon caeau ac mae dulliau trin gyda chwynladdwyr a gwrtaith yn aml yn osgoi y mannau hyn. Y rhimyn 6m o gwmpas ymylon allanol cae yw’r lle gorau i gyflwyno rheolaeth ar gyfer planhigion tir âr - a thrwy ganolbwyntio’r ymdrech yn y fan hon gall gweddill y cae barhau i gael ei drin yn gonfensiynol er mwyn tyfu cnwd.

  • 11cyngor ar reolaeth

    llain warchod 2m i draws-gydymffurfio

    Talar gadwraeth 6-24m gyda grawn, ond heb wrtaith, i’w chynaeafu neu ei

    gadael yn sefyll dros y gaeaf

    cnwd âr dan reolaeth gonfensiynol

    llain warchod 2m i draws-gydymffurfio

    ymyl cae 3-6m o led, wedi ei aredig ond heb gnwd

    cnwd âr dan reolaeth gonfensiynol

    Opsiwn 27 Glastir: Ymylon braenar mewn caeau âr

    Opsiwn 34B Glastir: Talar grawn heb ei wrteithio a’i chwistrellu

    Un o’r ffyrdd gorau i annog tyfiant planhigon tir âr ar ffermdir yw drwy greu ardaloedd sydd wedi eu haredig, ond sydd heb eu phlannu gyda chnydau, o gwmpas ymlyon caeau âr. Mae unrhyw led o dir rhwng 2-8m yn ddelfrydol, yn dibynnu ar led y dril hadu. Ymysg amcanion eraill yr opsiwn rheolaeth hwn mae lleihau erydiad pridd ac effeithiau llygredd o ffynonellau gwasgaredig a chemegau amaethyddol ar hyd terfynau caeau, afonydd, nentydd a ffosydd.

    Mae’r opsiwn hwn yn debyg i opsiwn 27 ond mae cnwd grawn yn cael ei blannu ar y dalar.

    l Yn ystod y gwanwyn bob blwyddyn ewch ati i aredig llain o dir o gwmpas ymyl cae er mwyn creu trwch o bridd cadarn, mân (cyn Mai 15fed ar gaeau grawn, hadau llin a rêp had olew, Mai 31ain ar gyfer caeau india corn a Gorffennaf 1af ar gyfer cnydau gwraidd). Peidiwch â thorri’r cnwd cyn Awst 1af.

    l Peidiwch chwalu gwrtaith ar y llain.

    l Peidiwch chwalu chwynladdwyr, ag eithrio

    l Mae talar rawn, 3-6m o led, yn cael ei chreu ar hyd ymyl cnwd grawn erbyn 15fed Mai ac yn cael ei gadael heb ei chynaeafu hyd nes Mawrth 1af.

    l Ni elllir pori na gwrteithio’r dalar mewn unrhyw fodd ac nid yw chwaith yn cael

    pan fydd rhaid trin chwyn hysbysadwy a rhywogaethau estron ymledol. Os oes rhaid trin o gwbl dylid gwneud hynny unwaith y bydd y rhywogaethau blwydd wedi gorfffen ffurfio hadau ( os yn ystod Medi efallai bydd angen rhan-ddirymiad neu ‘derogation’).

    l Gellir cylchdroi ymylon caeau âr o gwmpas y fferm er mwyn atal chwyn difaol rhag ennill tir (mae rheolaeth ar gylchdro yn cael ei ganiatáu dan gynllun Glastir ar gyfer yr opsiwn hwn).

    ei thrin gyda chwynladdwr heblaw pan fydd angen rheoli chwyn hysbysadwy neu rywogaethau estron ymledol.

    l Gellir cylchdroi talarau grawn o gwmpas y fferm er mwyn atal chwyn difaol rhag ennill tir.

  • 12 Planhigion tir ar yng Nghymru

    llain warchod 2m i draws-gydymffurfio

    Dim gwrtaith ar y cae. Cynaeafir neu gadewir i sefyll dros y gaeaf

    12

    Opsiwn 30 Glastir : Cnydau heb eu chwistrellu o godlysiau neu o rawn a heuwyd yn y gwanwyn ac Opsiwn 31: : Cnydau heb eu chwistrellu o rawn a heuwyd yn y gwanwyn lle cedwir y sofl dros y gaeaf.

    l Trowch y tir er mwyn hau cnwd âr yn y gwanwyn, a gwnewch hyn mewn ffordd sy’n caniatáu i hadau planhigion âr gael eu tynnu at wyneb y pridd ac egino. Mae drilio uniongyrchol neu aredig cyfyng (‘minimum tillage’) yn atal llawer o blanhigion âr rhag egino oherwydd nid oes cymaint o hadau yn cael eu dwyn at yr wyneb a’u cymysgu gyda’r pridd-wyneb gyda’r dulliau hyn (rhaid sefydlu’r cnwd erbyn Mai 15fed ac mae’r opsiwn hwn ond ar gael ar dir sydd wedi cael ei drin yn y gorffennol).

    l Peidiwch chwalu chwynladdwyr, ag eithrio triniaeth-sbotyn i reoli chwyn hysbysadwy neu chwyn ymledol fel marchysgallen, ysgallen y maes, tafolen grech, dail tafol, llysiau’r gingroen, cwlwm Siapan a’r ffromlys chwarennog.

    l Chwalwch lai o wrtaith ar y tir cyn ei drin a hefyd wrth i’r cnwd dyfu oherwydd bydd hyn yn caniatáu i blanhigion tir âr anghyffredin dyfu ochr yn ochr â’r prif gnwd. Gall gwrtaith annog tyfiant chwyn annymunol (rhaid peidio chwalu slyri rhwng adeg cynaeafu a Mawrth 1af).

    l Gadewch y cynaeafu mor hwyr â phosib er mwyn rhoi cyfle i’r planhigion tir âr gwblhau eu cylchdro bwyd a ffurfio hadau. Yn gyffredinol bydd llawer o blanhigion tir âr wedi gorffen ffurfio hadau erbyn canol Awst os cafodd y tir ei drin ym Mawrth ac os yw’r cyflyrau tyfu wedi bod yn ffafriol. Bydd planhigion sy’n tyfu’n agos at y ddaear, ac a fydd wedi cael eu harbed, felly, rhag effaith y combein neu’r peiriant cynaeafu, yn parhau i flodeuo a ffurfio hadau ar ôl adeg cynaeafu (ni ellir cyneafau cyn Awst 1saf neu hyd at 14 wythnos ar ôl plannu).

    l Casglwch y gwellt yn fyrnau a’u symud o’r caeau fel y gall planhigion tir âr barhau i dyfu heb iddyn nhw gael eu tagu.

    l Gellir pori sofl gaeaf yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth er mwyn gwared gormodedd llystyfiant ( y lefel uchaf o stoc a ganiateir yw 0.4 uned da byw yr hectar a rhaid cadw dyddiadur stocio).

    l Gellir cylchdroi’r caeau nad ydynt yn cael eu chwistrellu o fan i fan o gwmpas y fferm er mwyn atal chwyn difaol rhag ennill tir (caniateir hyn o dan yr opsiwn hwn).

    Pan na fydd caeau yn cael eu chwistrellu â chwynladdwyr mae modd i amrywiaeth dda o blanhigion tir âr dyfu’n llwyddiannus.

    Talar heb ei chwistrellu

  • 13cyngor ar reolaeth

    llain warchod 2m i draws-gydymffurfi o

    Cnwd gwraidd heb ei chwistrellu sy’n cael ei gynaeafu ddiwedd yr haf neu’n cael ei bori dros y gaeaf

    Ymyl cae 2-3m wedi ei aredig, ond heb gnwd, yn

    annog blodau gwyllt a chynnig baddon llwch a

    bwyd i adar fferms

    cnwd gorchudd adar gêm neu gnwd cymysg i adar gwyllt yn cael ei reoli heb wrtaith

    Ymyl cae 2-3m wedi ei aredig, ond heb gnwd, yn

    annog blodau gwyllt a chynnig baddon llwch a

    bwyd i adar fferm

    Opsiwn 33 Glastir: Sefydlu cnwd gorchudd bywyd gwyllt ar laswelltir sydd wedi ei wella ac ar dir âr

    Mae hwn yn cynnwys rheolaeth sy’n debyg i’r hyn a geir dan opsiynau 30, 31 & 32 heblaw am y ffaith fod cnwd nad yw’n cael ei gynaeafu yn cael ei blannu er budd adar tir fferm, mamaliaid bychain a thrychfi lod.

    Mae’r rheolaeth hon yn debyg i opsiwn 30/31. l Yn gyffredinol mae cnydau gwraidd yn cael

    eu plannu’n ddiweddarach na chnydau grawn, hadau llin a rêp had olew ond dylid eu plannu cyn Gorffennaf 1af ; mae aredig yn fwy ffafriol i blanhigion tir âr na drilio uniongyrchol.

    l Dim ond ar chwyn difaol neu ymledol y dylid defnyddio chwynladdwyr, a hynny ar ffurf triniaeth-sbotyn yn unig.

    l Rhaid trin a hau y gwely hadau cyn Mai 15fed Mae’n rhaid i’r gymysgedd gynnwys 80% grawn ynghyd â chymysgedd o fwstard, rêp neu hadau llin yn unig.

    l Peidiwch â phlannu cymysgedd ddrud o hadau adar, hadau blodau neithdar neu fathau eraill o hadau i greu gorchudd bywyd

    l Er bod yr opsiwn rheolaeth hwn yn cynnwys aredig hwyrach, nid yw’r cnwd yn cael ei gynaeafu yn draddodiadol ac fel arfer mae’r gwreiddiau’n cael eu defnyddio fel cnwd porthi sy’n cael ei bori o ganol Hydref ymlaen, ac felly nid yw’n cyfyngu cylch bywyd planhigion tir âr (ni chaniateir pori cyn Hydref 15fed a rhaid cadw dyddiadur stocio).

    l Gellir cylchdroi’r dull rheolaeth hwn fel ei fod yn ffi tio gyda rheolaeth y fferm.

    gwyllt oherwydd nid yw’r planhigion hyn fel rheol yn rhai brodorol ac mae’n fwy cost-effeithiol i annog planhigion gwyllt i dyfu o’r gronfa hadau sy’n bresennol yn y pridd.

    l Drwy ddrilio’r hadau’n denau, heb ddefnyddio gwrtaith, bydd hadau planhigion tir âr yn cael eu hannog

    Opsiwn 32 Glastir: Plannu cnydau gwraidd na fyddant yn cael eu chwistrellu ar dir sydd wedi ei wella, gan ganiatáu drilio uniongyrchol ac Opsiwn 32B Glastir : Plannu cnydau gwraidd na fyddant yn cael eu chwistrellu ar dir sydd wedi ei wella

  • 14 Planhigion tir ar yng Nghymru

    Problemau chwynUn broblem sy’n codi wrth geisio rheoli ar gyfer planhigion tir âr yw sut i reoli chwyn cystadleuol. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn blanhigion lluosflwydd – fel marchwellt, ysgallen y maes a llaethysgallen y tir âr, ond ymysg mathau eraill o chwyn annymunol mae pawrwellt hysb, cynffonwellt du a llaethysgall unflwydd. Yn aml iawn bydd gwrtaith llawn nitrogen yn annog tyfiant y mathau hyn o chwyn. Bydd yr un math o wrtaith hefyd yn cael effaith ddinistriol ar nifer o blanhigion tir âr a byddant yn prinhau a diflannu unwaith y bydd y cemegolion wedi cael eu chwalu ar y tir.

    Gellir osgoi rhai o’r problemau hyn drwy ddewis safleoedd lle tybir bod ond ychydig o’r chwyn annymunol hyn yn bresennol. Gellir rheoli chwyn lluosflwydd drwy daenu

    chwynladdwyr systemig targed-eang bob rhyw 3-5 mlynedd, yn yr hydref, wedi i’r planhigion blwydd fwrw eu hadau.

    Drwy hau cnydau am yn yn ail yn y gwanwyn a’r hydref gellir lleihau problemau chwyn ac mae’n bosib bod aredig ymyl y cae yn hytrach nag aredig-cyfyng (‘minimum cyltivation’) hefyd yn helpu rheoli chwyn lluosflwydd.

    MonitroMae’n bwysig asesu’r caeau hynny lle mae rheolaeth yn digwydd i helpu’r planhigion tir âr. Bydd hyn yn fodd i chi weld a yw planhigion tir âr addas wedi tyfu ac a oes unrhyw rywogaethau prin wedi ymddangos. Bydd hefyd yn helpu penderfynu a ddylid ymgymryd ag unrhyw waith i reoli chwyn annymunol.

    Gall ysgallen y maes fod yn broblem ar hyd ymylon a reolir yn yr un mannau am flynyddoedd – mae cylchdroi’r rheolaeth cadwraeth o gwmpas y fferm yn help i atal chwyn lluosflwydd rhag mynd yn rhemp.

    i egino o’r gronfa hadau sydd eisoes yn bresennol yn y pridd a bydd hyn yn cynhyrchu rhagor o fwyd i fywyd gwyllt.

    l Dylai’r llain fod yn 4m o led, fan lleiaf, ond mae ardal o 1ha yn ddelfrydol er mwyn cadw hadau dros y gaeaf ar gyfer adar tir fferm a mamaliaid bychain.

    l Ni ellir gwrteithio’r cnwd na phlannu oddi tanodd iddo (e.e. gyda glaswellt neu feillion) – bwriad hyn yw sicrhau bod y llystyfiant yn

    agored a’i bod yn hawdd i adar a mamaliaid tir fferm symud drwy’r cnwd gorchudd.

    l Er mwyn cadw’r pennau blodau llawn hadau dros y gaeaf ni ddylai unrhyw bori ddigwydd dros y gaeaf.

    l Gellir cylchdroi’r dull rheolaeth hwn er mwyn ffitio gyda rheolaeth y fferm.

  • 15cyngor ar reolaeth

    Darllen Pellachl Arable Plants – a field guide,

    Wilson, P and King, M (2003). English Nature and Wildguides.

    l Arable bryophytes – a field guide to the mosses, liverworts and hornworts of cultivated land in Britain and Ireland, Porley, R (2008). Natural England and Wildguides.

    l The farm wildlife handbook, Winspear R (ed) (2007). RSPB, Sandy.

    l Important Arable Plant Areas, Byfield, A and Wilson, P (2005). Plantlife, Salisbury.

    Os am gyngor a gwybodaeth bellachLlywodraeth Cymru – Gwybodaeth Amaeth a Chynllun Glastir: www.wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/farming/glastirhome/

    Plantlife Cymru: www.plantlife.org.uk/wales

    RSPB: www.rspb.org.uk

    CydnabyddiaethFfotograffau Clawr, tudalennau 4,6,12 ©Cath Shellswell/Plantlife Glas yr ŷd, tudalen 3+8, ©liam Rooney Gludlys amryliw, tudalen 8 ©Andrew Gagg /plantlife Briwlys y tir âr, tudalen 9 ©Bob Gibbons Camri’r cŵn, tudalen 9 ©JP Martin / plantlife Top tudalen 14 ©Ian Cunliffe Gwaelod tudalen 14 ©Lorne Gill / SNH

    Darluniau ar dudalennau 11,12 & 13 gan Andrew Evans.

    Cynhyrchwyd y map ar dudalen 7 gan Beth Newman yn Plantlife.

    Cynllun gan evansbleep.co.uk

  • Plantlife CymruCodi llais dros blanhigion gwyllt Cymru

    Plantlife yw’r elusen sy’n codi llais dros blanhigion gwyllt y genedl. Rydym yn gweithio’n galed i warchod planhigion gwyllt yn eu cynefinoedd ac i helpu creu gwell dealltwriaeth o’r rhan allweddol y mae planhigion yn ei chwarae ym mywydau pob un ohonom. Mae planhigion gwyllt yn hanfodol i fywyd – maen nhw’n glanhau’r awyr a’r dŵr, yn rhoi bwyd a lloches i’n trychfilod, i’n hadar a’n hanifeiliaid ac maen nhw’n arf pwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

    Mae Plantlife yn gwneud gwaith cadwraeth ymarferol ar draws y DU, yn rheoli gwarchodfeydd natur, yn dylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth, yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod â phobl i gysylltiad yn lleol gyda phlanhigion gwyllt ac yn gweithio gydag eraill i hybu cadwraeth planhigion gwyllt er lles pawb.

    Noddwr: EMB Tywysog Cymru.Plantlife Cymru Uned 14, Llys Castan Ffordd Y Parc, Parc Menai Bangor Gwynedd LL57 4FD

    Ffôn: 01248 670691Ebost: [email protected]

    www.plantlife.org.ukISBN: 978-1-907141-62-1 © Chwefror 2012

    Mae Plantlife International –elusen cadwraeth planhigion gwyllt (Plantlife International – the wild plant conservation charity) yn gwmni elusennol cyfyngedig drwy warant.

    Rif elsusen cofrestredig yn yr Alban SC038951, yng Nghymru a Lloegr 1059559 Rhif cwmni cofrestredig 3166339. Cofrestrwyd yn Lloegr a Chymru Swyddfa Cofrestredig Plantlife International – the wild plant conservation charity 14 Rollestone Street, Salisbury,Wiltshire, SP1 1DX Ffôn: + 44 (0) 1722 342730

    Dymuna Plantlife gydnabod cyfraniad Cyngor Cefn Gwlad Cymru at y prosiect hwn a ariennir ar y cyd