44
Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Gorffennaf 2004

Healthcare Commission Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent · 2004. 7. 21. · Rheoli risg 18 Archwiliad clinigol 21 Effeithiolrwydd clinigol 23 Staffio a rheoli staff 26 ... iechyd

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol

    Healthcare Commission

    Finsbury Tower103-105 Bunhill RowLlundain EC1Y 8TG

    Ffôn 020 7448 9200Ffacs 020 7448 9222Ffôn testun 020 7448 9292

    www.healthcarecommission.org.uk

    www.tso.co.uk

    Ymddiriedolaeth G

    IG G

    ofal Iechyd Gw

    ent

    Gorffennaf 2004

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent

    Gorffennaf 2004

  • Cyhoeddwyd gan Y Llyfrfa (TSO) ac ar gael gan:

    Ar-lein: www.tso.co.uk/bookshop

    Post, Ffôn, Ffacs ac E-bostTSO, Blwch Post 29, Norwich, NR3 1GNArchebion dros y ffôn/Ymholiadau cyffredinol: 0870 600 5522Archebion dros y ffacs: 0870 600 5533E-bost : [email protected]ôn testun 0870 240 3701

    Siopau’r TSO123 Kingsway, Llundain,WC2B 6PQ020 7242 6393 Ffacs 020 7242 639468-69 Bull Street, Birmingham B4 6AD0121 236 9696 Ffacs 0121 236 96999-21 Princess Street, Manceinion M60 8AS0161 834 7201 Ffacs 0161 833 063416 Arthur Street, Belfast BT1 4GD028 9023 8451 Ffacs 028 9023 540118-19 Stryd Fawr, Caerdydd CF10 1PT029 2039 5548 Ffacs 029 2038 434771 Lothian Road, Caeredin EH3 9AZ0870 606 5566 Ffacs 0870 606 5588

    Gwerthwyr Achrededig TSO(gweler y Tudalennau Melyn)

    a thrwy lyfrwerthwyr da

  • Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal IechydGwent

    Gorffennaf 2004

  • © Y Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd 2004

    Gellir atgynhyrchu eitemau’n rhad ac am ddim mewnunrhyw ffurf neu gyfrwng cyn belled nad yw hynny ar gyfereu gwerthu’n fasnachol. Mae’r cynnwys yn amodol ar fod ydeunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael eiddefnyddio mewn modd dirmygus neu mewn cyd-destuncamarweiniol.

    Dylid cydnabod y deunydd fel© Y Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd 2004 anodi teitl y ddogfen y cyfeirir ati.

    Dylid cyfeirio ceisiadau i atgynhyrchu yn ysgrifenedig at

    Y Prif WeithredwrY Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd103-105 Bunhill RowLlundain EC1Y 8TG

    Mae cofnod catalog CIP o’r llyfr hwn ar gael o’r LlyfrgellBrydeinig.

    Cyflwynwyd cais am gofnod catalog CIP Llyfrgell yGyngres.

    Cyhoeddwyd gyntaf 2004

    ISBN 0 11 703436 3

    Argraffwyd yn y Deyrnas Unedig gan Lyfrfa Ei Mawrhydi

    7/04 19585 969914

  • Mae’r Comisiwn Gofal Iechyd yn bodoli i hyrwyddo gwelliant yn ansawdd gofal iechyd yGIG a gofal iechyd annibynnol ar draws Cymru a Lloegr. Mae’n gorff newydd addechreuodd weithio ar 1 Ebrill 2004. Enw llawn y Comisiwn Gofal Iechyd yw’rComisiwn ar gyfer Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd.

    Crëwyd y Comisiwn Gofal Iechyd o dan y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IechydCymunedol a Safonau) 2003. Mae gan y corff amrediad o swyddogaethau newydd acmae’n cymryd rhai cyfrifoldebau oddi ar gomisiynau eraill. Mae:

    ● yn cymryd lle gwaith y Comisiwn Gwella Iechyd (CHI) a ddaeth i ben ar 31 Mawrth2004

    ● yn cymryd swyddogaethau gofal iechyd preifat a gwirfoddol y Comisiwn SafonauGofal Cenedlaethol a ddaeth i ben hefyd ar 31 Mawrth 2004

    ● yn mabwysiadu’r elfennau o waith y Comisiwn Archwilio sy’n ymwneud ageffeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac economi o ran gofal iechyd.

    Wrth gymryd drosodd swyddogaethau CHI, mae gan y Comisiwn Gofal Iechyd bellachgyfrifoldeb am y rhaglen o adolygiadau llywodraeth glinigol a ddechreuwyd gan CHI.

    Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud ag adolygiad llywodraeth glinigol, y gwnaedrhywfaint ohono gan CHI cyn 1 Ebrill 2004. Er mwyn rhoi rhywfaint o gysondeb i’rdarllenwyr, defnyddiwn yr ymadrodd Comisiwn Gofal Iechyd yn hytrach na CHI drwy’rddogfen.

    Mae’n bwysig nodi mai’r Comisiwn Gofal Iechyd sydd â chyfrifoldeb llawn am yradroddiad hwn a’r gweithgareddau sy’n llifo ohono fel sicrhau bod cynllun gweithreduyn cael ei gyhoeddi gan yr ymddiriedolaeth y bydd y Comisiwn yn sicrhau fydd ar gaeldrwy ei wefan.

    Y Comisiwn Gofal Iechyd

  • Rhagarweiniad 6

    Beth yw casgliadau’r Comisiwn Gofal Iechyd am Ymddiriedolaeth GIG GofalIechyd Gwent? 9

    Beth sydd angen i’r Ymddiriedolaeth ei wneud i wella ei llywodraeth glinigol? 11

    Profiad defnyddwyr y gwasanaeth 12

    Cyfranogiad defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a’r cyhoedd 15

    Rheoli risg 18

    Archwiliad clinigol 21

    Effeithiolrwydd clinigol 23

    Staffio a rheoli staff 26

    Addysg a hyfforddiant a datblygiad personol a phroffesiynol parhaus 29

    Defnyddio gwybodaeth 31

    Adnoddau strategol 35

    Gwybodaeth bellach 37

    Cydnabyddiaethau 39

    Cynnwys

  • Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent (yr ymddiriedolaeth) yn 1999 acmae’n gwasanaethu poblogaeth drefol a gwledig gymysg o dros 600,000 o bobl sy’ncynnwys 19% o boblogaeth Cymru. Mae’r ymddiriedolaeth yn ymestyn drosarwynebedd o 1500 milltir sgwâr yn ymestyn o ddyffryn Rhymni i ddyffryn Gwy. BannauBrycheiniog yw’r ffin ogleddol. Mae’n darparu gwasanaethau i’r pum bwrdd iechydlleol, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy a ddisodloddAwdurdod Iechyd Gwent yn 2003. Y brif ddinas yn yr ardal yw Casnewydd.

    Mae trigolion yr ardal yn rhai Prydeinig gwyn yn bennaf ar wahân i Gasnewydd sydd âphoblogaeth o leiafrif ethnig o 4.8%. Mae’r boblogaeth yn ifanc; mae 44.2% o dan 35 o’igymharu â 43.6% ar gyfer Cymru. Mae lefelau amddifadedd o fewn yr ardal ynamrywio. Blaenau Gwent yw’r ail ardal fwyaf defreintiedig yng Nghymru a Sir Fynwyyw’r lleiaf defreintiedig. Adlewyrchir y gwahaniaethu hyn mewn cyfraddau diweithdra achanfyddiadau ynghylch iechyd gwael.

    Mae’r ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaethau llym, cymunedol, iechyd meddwl acanableddau dysgu ac mae’n brif gyflogwr o fewn yr ardal ac yn cyflogi 12,500 o staff.Trefnir gwasanaethau ac fe’u rheolir drwy saith o adrannau clinigol y caiff rhai ohonynteu hymrannu ymhellach i gyfarwyddiaethau. Mae isadrannau’r bwrdeistref o fewn yradran gymunedol yn cyd-fynd â ffiniau’r awdurdodau lleol.

    Fel rhan o’r arolwg hwn edrychodd y Comisiwn Gofal Iechyd yn agos ar wasanaethauiechyd meddwl i oedolion ac oedolion hŷn, gwasanaethau anableddau dysgu i oedoliona gwasanaethau cymunedol. Adolygwyd gwasanaethau ysbytai llym yn 2001.

    Mae’r adroddiad hwn gan y Comisiwn Gofal Iechyd yn rhoi asesiad annibynnol olywodraeth glinigol yn yr ymddiriedolaeth.

    Llywodraeth glinigol yw’r system o gamau a gweithdrefnau o fabwysiadwyd gan y GIG isicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn yr ansawdd gofal uchaf posibl, gansicrhau safonau uchel, diogelwch a gwelliant mewn gwasanaethau i gleifion.

    6 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

    Rhagarweiniad

  • Beth yw pwrpas yr adolygiad?Mae adolygiadau llywodraeth glinigol y Comisiwn Gofal Iechyd yn mynd ati i ateb trichwestiwn:

    1 Sut brofiad yw bod yn ddefnyddiwr gwasanaeth yma?

    2 Pa mor dda yw’r ymddiriedolaeth/systemau ar gyfer diogelu a gwella ansawdd ygofal?

    3 Pa adnoddau sydd o fewn y corff i wella profiad defnyddiwr y gwasanaeth?

    Beth yr ymdrinnir ag ef mewn adolygiad gan y Comisiwn Gofal Iechyd?Mae adolygiad y Comisiwn Gofal Iechyd yn asesu saith maes o lywodraeth glinigol. Ymeysydd hynny yw

    1 cyfranogiad defnyddiwr y gwasanaeth

    2 rheoli risg

    3 archwiliad clinigol

    4 effeithiolrwydd clinigol

    5 staffio a rheoli staff

    6 addysg a hyfforddiant

    7 defnyddio gwybodaeth

    Mae adolygiad y Comisiwn Gofal Iechyd hefyd yn disgrifio dau faes pellach:

    1 profiad y defnyddiwr gwasanaeth

    2 gallu strategol yr ymddiriedolaeth i ddatblygu a gweithredu llywodraeth glinigol.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 7

  • 8 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

    Eglurhad o asesiadau’r Comisiwn Gofal IechydAr sail y dystiolaeth a gasglwyd, mae adolygwyr y Comisiwn GofalIechyd yn asesu pob cydran o lywodraeth glinigol yn erbyn graddfa gydaphedwar pwynt iddi:

    i Ychydig neu ddim cynnydd ar lefel strategol a chynllunio neu arlefel weithredol.

    ii a) Cynnydd a datblygiad gwerth chweil ar lefel strategol achynllunio ond nid ar lefel weithredol, NEU

    b) cynnydd a datblygiad gwerth chweil ar lefel weithredol ond nidar lefel strategol a chynllunio, NEU

    c) cynnydd a datblygiad gwerth chweil ar lefel strategol achynllunio a gweithredol, ond nid ar draws y corff cyfan.

    iii Gafael strategol dda a gweithredu sylweddol. Unioni’rgweithgaredd a’r datblygiad ar draws lefelau strategol achynllunio a lefel weithredol yr ymddiriedolaeth/YGS (PCT)

    iv Rhagoriaeth – gweithgaredd a datblygiad wedi ei gydlynu ardraws y corff a chyda chyrff sy’n gweithredu fel partneriaid yn yreconomi iechyd lleol sy’n ymddangos i arwain at welliannau.Eglurder o’r cam nesaf o ddatblygiad lywodraeth glinigol.

  • Beth oedd yr argraff gyffredinol ynghylch yr ymddiriedolaeth?Mae’r ymddiriedolaeth yn gorff cymhleth sy’n ymestyn dros ardal ddaearyddol fawr.Mae ganddi boblogaeth wledig a threfol fawr o 600,000 sydd ag anghenion amrywioliawn. O ganlyniad bu i’r ymddiriedolaeth ddirprwyo’r holl reolaeth weithredol i saithadran i ryddhau bwrdd yr ymddiriedolaeth i ganolbwyntio ar faterion strategol apholisi. Ond mae’r ymddiriedolaeth yn dibynnu’n drwm ar gael rheolwyr adrannol iadrodd am broblemau a’u trosglwyddo i fyny’r gadwyn ac mae mewn perygl o beidio âbod yn gwbl ymwybodol o faterion gweithredol.

    Mae’r ymddiriedolaeth yn gorff cyfeillgar cefnogol gyda rheolwyr uwch hygyrch, hawddsiarad â hwy, a gweithlu hynod ymrwymedig. Ond mae angen datblygu cyfathrebu ardraws yr ymddiriedolaeth ac ymysg timau ymhellach. Er enghraifft, teimla rhaigrwpiau staff nad yw gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol a mynegodd rhai bryderoherwydd bod newidiadau yn digwydd yn aml i’r strwythur rheoli. Gwneir gwaith gydachyrff iechyd a chymunedol lleol eraill, ond mae’r ymddiriedolaeth yn cydnabod yrangen i ddatblygu hyn ymhellach.

    Mae cleifion yn bositif ynghylch y gofal a dderbyniant er bod defnyddwyr y gwasanaethiechyd meddwl yn bryderus ynghylch y diffyg ymyrraeth mewn argyfyngau agwasanaethau penodol allan o oriau cyffredin. Mae oedi gyda throsglwyddo cleifion oofal ysbyty i gartrefi nyrsio neu breswyl yn cael effaith fawr ar wasanaethau. Maeargaeledd gofal nyrsio a phreswyl wedi lleihau ac mae cleifion yn treulio mwy o amsermewn ysbytai yn ddiangen.

    Mae gan yr ymddiriedolaeth systemau i fonitro a chadw risg i gleifion i isafswm. Ondmae’n rhaid iddi sicrhau bod amgylchedd diogel yn cael ei gynnal mewn unedau argyfer mân anafiadau.

    Beth yw casgliadau’r Comisiwn Gofal Iechyd yn seiliedig ar ei adolygiad oYmddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent?Llywodraeth glinigol yw’r system o gamau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y GIG isicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn yr ansawdd gofal uchaf posibl. Mae ganyr ymddiriedolaeth strwythur helaeth o bwyllgorau i gefnogi llywodraeth glinigol, ondmae’n ddryslyd ac yn anodd ei ddeall. Mae newidiadau cyson i’r corff a’r drefn reoliwedi amharu ar ddatblygiad llywodraeth glinigol. Er bod cynnydd wedi ei wneud, mae’radrannau yn gweithredu ar wahân, ac o ganlyniad, nid yw gwybodaeth ac arfer da yncael eu rhannu’n effeithiol ar draws yr ymddiriedolaeth a gall gwaith gael ei ddyblygu.Hyd yn oed o fewn adrannau ceir rhywfaint o ddiffyg integreiddio ymhlith y gwahanolwasanaethau.

    Pa feysydd o arfer nodedig a nodwyd?Mae’r tîm ymateb cyflym, y gwasanaeth nyrsio allan o oriau cyffredin a’r tîm ail-alluogiyn gweithio i gwtogi ar dderbyniadau i ysbyty a hyrwyddo rhyddhau cleifion yn gynnardrwy ddarparu gofal llym ac adferol yn y cartref, gan gynnwys cyffuriaumewnwythiennol. Gall y tîm ymateb cyflym ddefnyddio gwelyau mewn ysbyty o danbrotocol a gytunwyd.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 9

    Beth yw casgliadau CHI am y gwasanaethau iechydmeddwl yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro?

  • Mae staff y gwasanaethau llyfrgell yn cefnogi datblygu effeithiolrwydd clinigol ynbroactif. Effeithiolrwydd clinigol yw sicrhau bod yr agweddau a’r triniaethau y mae’rymddiriedolaeth yn eu defnyddio yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, felymchwil, llenyddiaeth neu ganllawiau cenedlaethol. Mae llyfrgellydd yn aelod o grŵpeffeithiolrwydd clinigol adrannol ac yn darparu hyfforddiant i staff ynghylch gwerthusohanfodol a chwilio’r data-bas, yn ogystal â rhannu gwybodaeth o ddiddordeb.

    Mae cyflwyno model o ymarfer ar gyfer gofal y cefn, sy’n cynnwys cyfranogiadarbenigwyr yn y gwaith o drosglwyddo cleifion, wedi cwtogi ar atgyfeiriadau at iechydgalwedigaethol ar gyfer problemau cefn.

    Mae argaeledd hyfforddiant ar-lein wedi sicrhau mynediad at hyfforddiant gorfodol ofewn y maes gwaith. Ymdrinnir â phum modiwl gan gynnwys atal tân, symud a thrinnwyddau, dyfeisiadau meddygol, ychwanegolion mewnwythiennol a hyfforddiant argyfer yr uned arddangos weledol. Mae defnyddio gliniaduron diwyfr yn hwyluso hynmewn meysydd lle mae argaeledd cyfrifiaduron yn gyfyngedig.

    Mae Cychwyn Cadarn yn darparu gwybodaeth amlieithog ac mewn iaith arwyddion argasét fideo i’r aelodau hynny o’r boblogaeth sydd eu hangen. Corff lleol yw hwn sy’nedrych ar ôl plant bach a’u rhieni sy’n byw mewn ardaloedd defreintiedig.

    10 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Disgwylia’r Comisiwn Gofal Iechyd i’r ymddiriedolaeth adolygu holl agweddau’radroddiad hwn. Tynnwyd sylw yma at feysydd lle mae gweithredu yn arbennig o bwysigneu lle mae angen brys amdano.

    ● Mae angen i’r ymddiriedolaeth egluro strwythurau rheoli a chryfhau’r system odrefniadau adrodd ar gyfer ei saith adran. Dylai hyn sicrhau mwy o ymwybyddiaethymysg y bwrdd am ddarpariaeth y gwasanaeth ac ansawdd y gofal.

    ● Mae angen gweithredu i ddatblygu gweithio drwy bartneriaeth gyda chyrff iechyd achymunedol eraill ym mhob agwedd o lywodraeth glinigol.

    ● Mae angen datblygiad pellach i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cymrydrhan yn y gwaith o gynllunio, datblygu, monitro a gwerthuso gwasanaethau.

    ● Mae angen gweithredu i wella cyfathrebu drwy bob rhan o’r ymddiriedolaeth, gansicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu i wella ac ychwanegu at y gofal i’rcleifion, yn arbennig ymysg yr adrannau.

    ● Mae angen i’r ymddiriedolaeth sicrhau y cofnodir ac y defnyddir gwybodaeth ynddigonol ac yn briodol ar draws yr ymddiriedolaeth, o fewn adrannau ac o fewntimau clinigol i fod yn sail ar gyfer cynllunio’r gwasanaeth a gwella’r gofal i gleifion.

    ● Mae angen gweithredu i sicrhau amgylchedd diogel i gleifion a staff, yn arbennig ofewn unedau mân anafiadau.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 11

    Beth yw’r meysydd gweithredu allweddol y mae angen i’rymddiriedolaeth ymdrin â hwy i wella ei systemaullywodraeth glinigol?

  • Yn yr adran hon adroddwn ynghylch yr hyn y bu inni sylwi arno a beth a ddywedodddefnyddwyr y gwasanaeth wrthym am eu profiadau drwy arolygon neu yn uniongyrcholwrth y Comisiwn Gofal Iechyd. Edrychwn hefyd ar yr hyn y gall ffigurau’rymddiriedolaeth ei ddweud wrth ddefnyddwyr y gwasanaeth am fynediad atwasanaethau, sut y maent yn cyfranogi at eu gofal eu hunain a chanlyniadau eu gofal.

    Gall llawer o bethau effeithio ar brofiad defnyddwyr gwasanaeth ynghylch eugwasanaeth GIG lleol. Gall y rhain gynnwys canlyniad eu triniaeth, p’run ai a gafodd euperthnasau neu eu gofalwyr eu trin gyda pharch, yr wybodaeth a roddwyd iddynt am eugofal a’r dewisiadau a gawsant o ran y gofal y bu iddynt ei dderbyn.

    A yw defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu trin gydag urddas a pharch?Trinnir cleifion gan y staff mewn dull parchus a gofalgar. Mae’r staff yn ceisio sicrhaueu preifatrwydd a’u hurddas ond mae cyfyngiadau mewn rhai meysydd, fel ystafelloeddmawr i un rhyw yn unig a chyfleusterau cyfyngedig ar gyfer ymolchi i un rhyw yn unig.Mae wardiau un rhyw yn unig ar gael. Mae cleifion yn teimlo eu bod yn cael eu tringydag urddas.

    A all defnyddwyr gwasanaeth gyrchu at y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen?Mae gwasgariad daearyddol yr ymddiriedolaeth a’r anawsterau teithio sy’n deillio ohynny yn gwneud mynediad yn anodd. Lleolir gwelyau i gleifion mewnol o fewn 20 oysbytai cymunedol ac nid yw cleifion bob amser yn cael eu derbyn yn eu hardal leol.

    Mae’r rhestrau aros yn bryder i’r cyfranddeiliaid, yn arbennig ar gyfer gwasanaethautherapi. Cafwyd problemau gyda system apwyntiadau’r ymddiriedolaeth ac mae systemarchebu rannol newydd o dan ystyriaeth. Mae anawsterau recriwtio mewn rhaiarbenigeddau wedi cynyddu’r amserau aros. Mae cleifion sy’n disgwyl am wasanaethtrin traed yn gorfod aros yn hir am apwyntiad arferol dechreuol, ac mae’r hwyaf yn 30mis.

    Mae defnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl yn bryderus ynghylch diffyg ymyrraethmewn argyfyngau a gwasanaethau penodol ar gyfer allan o oriau cyffredin a bu iddyntddweud wrth y Comisiwn Gofal Iechyd am amserau aros cymharol hir cyn cael eugweld gan y gwasanaeth.

    Mae’r gwasanaethau anabledd dysgu yn cael problemau gyda chyrchu at wasanaethauseicoleg a therapi lleferydd ac iaith. Mae rhai unedau yn cael therapi galwedigaetholcyfyngedig ac ymyrraeth cyfyngedig o ran ffisiotherapi.

    Pa mor dda yw’r safonau glendid a’r cyfleusterau?Mae safonau’r cyfleusterau yn amrywiol ac mae rhaglen o ail-ddarparu ar y gweill.Mae rhai yn parhau yn sefydliadol iawn, yn arbennig lle ceir rhaglen gau hir. Ceircyfleusterau eraill mewn tai wedi eu trosi gyda mynediad cyfyngedig a chyfleusteraugwael ar gyfer claf anabl ac mae rhai wedi eu hadeiladu at y pwrpas.

    Mae’r arwyddion i’r safle yn glir ac yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae lle parcio ar gael erbod y goleuadau yn amrywiol. Mae’r staff yn ymwybodol iawn o ddiogeled a chaiffblociau o wardiau unigol eu cloi yn y nos.

    12 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

    Sut brofiad yw bod yn ddefnyddiwr gwasanaeth ynymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent?

  • Mae’r adeiladau yn lân, yn daclus ac yn cael eu cynnal yn gymharol dda. Nid oes gan yrholl fynedfeydd bwyntiau clir i dderbyn ymholiadau gan aelodau’r cyhoedd. Er bod gansafleoedd ardaloedd tawel ar gael nid yw’r rhain yn cael eu nodi fel ardaloedd ar gyferpobl sydd â chredoau gwahanol.

    Defnyddir nifer o systemau arlwyo gwahanol. Mae barn y cleifion am y bwyd ynamrywio. Darperir bwyd priodol i gleifion o leiafrifoedd ethnig.

    Beth mae’r ffigurau yn ei ddangos am y canlyniadau yn yr ymddiriedolaeth?Y gymhareb marwolaeth safonol ar gyfer Gwent yw 104.9 ar gyfer rhai o dan 75 oed.Mae hyn yn uwch nag ar gyfer Cymru sydd yn 100. Mae nifer y blynyddoedd o fywyd agollir i glefyd y galon yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru, ond yn is ar gyfermarwolaethau o ganlyniad i ddamweiniau traffig a hunanladdiadau. Mae ffiguraumarwolaeth yn dilyn derbyniad a thriniaeth gan y gwasanaethau seiciatreg henoed ynsylweddol is na’r cyfartaledd Cymreig.

    Ceir amrywiadau mewn iechyd ar draws y pum bwrdeistref. Yn Ebrill 2001 roedd ganfwrdeistrefi Casnewydd a Sir Fynwy ganran uwch na’r cyfartaledd Cymreig cyffredinol obobl yn disgrifio eu hiechyd fel iechyd da. O blith y gweddill, Blaenau Gwent sydd â’rffigur iechyd da isaf a grybwyllwyd sef 59.3% o’i gymharu â 65.1% ar gyfer Cymru adyma’r ail isaf yng Nghymru.

    Roedd mesurau yn ymwneud â ffordd o fyw ar gyfer 1990 i 1996 yn cynnwys lefelauymarfer, alcohol sy’n cael ei yfed, ysmygu, faint o ffrwythau a llysiau a fwyteir agordewdra. Mae gan bob ardal ganran is o drigolion sy’n ymarfer yn rheolaidd na’rcyfartaledd ar gyfer Cymru. Nid yw trigolion Blaenau Gwent yn perfformio cystal ar yrholl fesurau hyn.

    Beth a wnaeth y Comisiwn Gofal Iechyd ei ddarganfod am sut mae gofal yn cael eidrefnu o fewn yr ymddiriedolaeth?Mae’r ymddiriedolaeth yn darparu llawer o wasanaethau ac yn cynnwys deg ysbytycymunedol sy’n cynnig unedau mân anafiadau. Mae nyrs ymataliad ymgynghorol yndarparu clinigau arbenigol mewn nifer o leoedd. Mae nyrsys ardal yn gwneud asesiadar gyfer y gwasanaeth hwn ac yn cyfeirio at ymgynghorwyr clinigol. Mae’rymddiriedolaeth a’r gwasanaethau cymdeithasol wedi datblygu gweithwyr gofal iechyda chymdeithasol ar y cyd ar gyfer pobl y mae arnynt angen pecyn cymhleth o ofal.Datblygwyd gwasanaeth cwnsela gofal sylfaenol ar draws y bwrdeistrefi.

    Mae’r gwasanaeth allan o oriau arferol a arweinir gan nyrsys, y tîm ymateb cyflym a’rgwasanaeth ail-alluogi yn atal derbyniad i ysbyty ac yn hyrwyddo rhyddhau cleifion oysbytai yn gynnar. Darpara’r tîm ymateb cyflym 72 awr o ofal llym i gleifion gangynnwys cyffuriau mewnwythiennol ac mae’n cysylltu’n agos â’r tîm ail-alluogi a’rgwasanaethau cymdeithasol. Gweithredir system atgyfeirio agored. Gall y tîm ymatebcyflym dderbyn cleifion i welyau ysbyty o dan brotocol a gytunwyd. Mae’r tîm ail-alluogiaml-ddisgyblaethol yn canoli ar y cleient ac yn gweithio gyda’r cleifion i sicrhau nodaua gytunwyd.

    Mae oedi trosglwyddo gofal yn broblem fawr ac ar gyfartaledd dyma’r ffigyrau uchafyng Nghymru. Mae argaeledd gofal nyrsio a phreswyl wedi lleihau.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 13

  • Mae gwasanaeth rhyddhau Age Concern yn darparu gofal dilynol i bobl hŷn. Ychydig oatgyfeiriadau a dderbynnir oddi wrth y gwasanaethau iechyd meddwl neu ar gyferdefnyddwyr gwasanaeth o leiafrifoedd ethnig.

    Ceir anghysonderau yn y gwasanaethau iechyd meddwl a chaiff apwyntiadau eu dileuyn aml a theimla defnyddwyr y gwasanaeth fod y dewis o driniaeth yn brin. Ond ystyrirgrwpiau eiriolaeth yn gadarnhaol.

    Mae cyfleusterau i gleifion mewnol wedi amrywio’r ddarpariaeth o therapi ond dyweddefnyddwyr y gwasanaeth fod diffyg gweithgareddau ar y wardiau. Mae cyfranogiad clafmewn gofal yn amrywio. Teimla cleifion sy’n derbyn gwasanaeth nyrs ardal eu bod yncael llawer o wybodaeth. Mae’r gwasanaethau anabledd dysgu yn gweithio’n agos gydachleientau, gofalwyr ac eiriolwyr. Ond mae defnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl ynllai bodlon gyda lefel eu cyfranogiad. Nododd defnyddwyr y gwasanaeth fod diffyggwybodaeth, yn arbennig am y cyffuriau a ragnodir ar eu cyfer.

    Mae agwedd y rhaglen gofal yn cael ei gweithredu yn araf. Yn gyffredinol nid ywdefnyddwyr y gwasanaeth yn ymwybodol fod ganddynt weithwyr allweddol nachynlluniau gofal. Nid yw gofalwyr yn gwybod am eu hawl i asesiad o anghenion. Maeasesiad unedig yn symud yn ei flaen yn araf ac nid yw eto wedi ei gyflwyno mewngwasanaethau i oedolion hŷn.

    Gofelir am rai cleifion mewn safleoedd amhriodol. Derbyniwyd plant i wardiau oedolionoherwydd diffyg llety addas yn Ne Cymru. I ymdopi â hyn datblygodd yrymddiriedolaeth drefniadau ffurfiol ac mae’n sicrhau bod staff y wardiau oedolion wedieu hyfforddi yn briodol.

    Yn dilyn rhai cwynion, adolygwyd trefniadau rhyddhau a phenodwyd nyrs gyswllt argyfer rhyddhau cleifion ar gyfer y gwasanaethau cymunedol. Teimla defnyddwyr ygwasanaeth iechyd meddwl nad oes ganddynt ran yn y penderfyniadau a wneirynghylch rhyddhau cleifion. Nid yw pecynnau gofal bob amser yn cael eu cyflwyno acmae hyn weithiau yn arwain at ail dderbyn cleifion.

    Pa agweddau ar brofiad y claf a defnyddiwr y gwasanaeth y dylai’r ymddiriedolaeth euhystyried?● Dylai’r ymddiriedolaeth adolygu trefniadau ar gyfer cefnogaeth allan o oriau ar

    gyfer defnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl.

    ● Dylai’r ymddiriedolaeth gyda phartneriaid, sicrhau y datblygir ac y cyflwynir ybroses asesu unedig ar draws pob maes.

    ● Mae angen gweithredu i sicrhau cyfranogiad actif y claf ym mhob agwedd o ofal.

    14 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Mae’r adran hon yn disgrifio sut y gall defnyddwyr y gwasanaeth fod â llais yn eutriniaeth eu hunain a sut y galla’n nhw a’r defnyddiwr a’r cyrff gofalwyr fod â llais yn ymodd y darperir gwasanaethau.

    Beth yw prif asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd?Ceir rhywfaint o arfer da o fewn yr ymddiriedolaeth ond ychydig o rannu syniadau ardraws yr adrannau. Mae angen pwyslais a chyfeiriad pellach ar lefel strategol i sicrhaucynnydd cyson.

    Asesiad = ii (c)

    Beth yw’r darganfyddiadau allweddol?Y cyfarwyddwr nyrsio yw’r arweinydd ar lefel bwrdd ac mae pob adran hefyd wedi nodipersonél arweiniol. Mae pwyllgor cyfranogiad claf a’r cyhoedd ar draws yrymddiriedolaeth, panel claf, grwpiau cydraddoldeb ac amrywiaeth a chwynion ynbodoli. Teimla aelodau’r panel fod yr ymddiriedolaeth yn ceisio sicrhau cyfranogiadeffeithiol gan ddefnyddwyr y gwasanaeth ond mae’r cynnydd a wneir yn araf. Teimlarhai fod defnyddio jargon yn golygu nad yw’r panel yn gynhwysol. Cynhelir trafodaethaumewn pwyllgorau ansawdd a llywodraeth glinigol a chyfarfodydd grŵp llywodraethglinigol a thynnir sylw at faterion o bwys ar lefel bwrdd yr ymddiriedolaeth.

    Mae byrddau llywodraeth glinigol adrannol yn trafod cyfranogiad y cleifion ac ynadrodd am gynnydd. Mae rhai cyfarwyddiaethau yn datblygu paneli defnyddwyrgwasanaeth ond maent yn dal yn y camau cynnar. Mae gwasanaethau iechyd meddwlac anableddau dysgu plant a rhai yn eu harddegau yn ymwneud â defnyddwyrgwasanaeth wrth benodi staff. Ar wahân i hyn, mae cyfranogiad y cleifion yn eifabandod ac yn brin o strwythur.

    Mae adolygiadau perfformiad chwarterol yn archwilio’r gweithgaredd adrannol. Nid ywdefnyddwyr y gwasanaeth yn cymryd rhan yn y broses hon. Rhennir arfer da drwygyfrwng yr adroddiad blynyddol, ond nid oes unrhyw broses glir ar gyfer rhannudatblygiadau yn rheolaidd ar draws yr adrannau.

    Mae strategaeth yr ymddiriedolaeth wedi ei chwblhau ond nid yw rhai meysydd ynymwybodol o’i bodolaeth. Nodwyd ardaloedd y rhoddwyd blaenoriaeth iddynt o fewnstrategaethau adrannol a chyfarwyddiaethau a rhoddir manylion amdanynt yngnghynllun sylfaen yr ymddiriedolaeth ynghylch cyfranogiad y cleifion.

    Mae’r ymddiriedolaeth yn darparu cefnogaeth ariannol i banel y cleifion, arolygon ycleifion a darparu gwybodaeth. Mae adrannau yn cyllido cynlluniau lleol o’u cyllidebaufel hyfforddi defnyddwyr gwasanaeth mewn hunanreolaeth.

    Mae cyfranogiad gan ddefnyddwyr y gwasanaeth yn digwydd mewn gwaith gydagasiantaethau eraill a chyrff gwirfoddol. Mae’r Cyngor Iechyd Cymunedol yn mynychucyfarfodydd y bwrdd. Mae sylwadau defnyddwyr y gwasanaeth fel cwtogi niferoedd arrowndiau’r ward wedi arwain at newidiadau i’r gwasanaeth. Mae ymgynghoriad

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 15

    Beth yw asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd ynghylchsystemau’r ymddiriedolaeth ar gyfer defnyddwyr ygwasanaeth, gofalwyr a chyfranogiad y cyhoedd?

  • cyhoeddus wedi digwydd cyn gwneud newidiadau i’r gwasanaeth fel ad-drefnu’rgwasanaethau iechyd meddwl. Mae’r ymddiriedolaeth yn nodi’r angen i wella gweithiodrwy bartneriaeth o fewn y gymuned iechyd.

    Ceir taflenni gwybodaeth i gleifion mewn amrywiaeth o ieithoedd. Maecyfarwyddiaduron gwasanaeth ar gael mewn print ac ar y rhyngrwyd. Mae gwasanaethgwybodaeth i gleifion yn gosod safonau ynghylch taflenni. Mae panel claf yn darllentaflenni ac yn sicrhau eu bod yn ddealladwy. Cynhyrcha Cychwyn Cadarn fideosgwybodaeth mewn saith iaith ac mewn iaith arwyddion. Nid yw’r holl gleifion a’rgofalwyr yn teimlo eu bod yn cael digon o wybodaeth.

    Mae’r staff yn ymwybodol o’r angen i gael caniatâd priodol oddi wrth y cleifion.Defnyddia gwasanaethau ddulliau amgen i sicrhau caniatâd oddi wrth yr holl gleientaufel deunydd print bras, tapiau sain a storïau cymdeithasol. Amrywia barn defnyddwyr ygwasanaeth ynghylch a roddir dewis iddynt am y driniaeth.

    Mae polisi adfywhau’r ymddiriedolaeth yn cyflwyno gofynion ond nid ydynt yn ceisiorhoi gorchmynion adfywhau. Mae ffurflen yn cofnodi trafodaethau a gynhelir yn ystodllunio penderfyniadau gyda chleifion a gofalwyr.

    Mae’r ymddiriedolaeth wedi ceisio recriwtio cynrychiolwyr du a rhai o leiafrifoeddethnig i banel y cleifion ond bu hyn yn aflwyddiannus. Mae timau clinigol yn cyrchu atgyfieithwyr, llinell iaith ac arwyddwyr ar gyfer y byddar. Mae rhai staff yn siaradCymraeg ac mae yma gynllun Iaith Gymraeg. Er bod gan yr ymddiriedolaeth gynlluncydraddoldeb hiliol nid yw’n ymgymryd â monitro ethnig yn rheolaidd.

    Mae’r gwasanaeth caplaniaeth yn gweinyddu i anghenion ysbrydol ac yn cysylltu agarweinwyr lleol crefyddau eraill. Mae Iman yn gweinyddu i gleifion a staff Mwslemaidd.

    Mae cleientau gydag anableddau dysgu yn ymwneud â chynllunio a gwerthuso gofal.Nid yw’r holl gleifion o fewn yr ymddiriedolaeth yn teimlo eu bod yn rhan o hyn. Gallnifer o gynlluniau gofal fod yn cael eu defnyddio ar gyfer unrhyw un claf. Maegwasanaethau eiriolaeth ar gael o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddaudysgu i oedolion, gyda llawer ohonynt yn cael eu cyllido gan fyrddau iechyd lleol. Maegan rai ardaloedd fforymau gofalwyr.

    Ceir gweithdrefnau cwynion ac mae grwpiau cwynion adrannol ac ar gyferymddiriedolaeth yn monitro cwynion. Mae gwelliannau i’r gwasanaeth fel cyflwynogwasanaeth ymyrraeth gynnar Caerffili ar gyfer claf sydd newydd gael diagnosis osgitsoffrenia wedi deillio o gwynion. Mae blychau awgrymiadau ar gael drwy bob rhano’r ymddiriedolaeth ond nid ydynt yn cael eu defnyddio yn helaeth. Gwneir arolygondefnyddwyr mewn llawer o wasanaethau ac mae rhai timau yn bwriadu datblyguholiaduron i gleifion wrth iddynt gael eu rhyddhau o ofal. Nid yw’r cleifion i gyd ynteimlo’n fodlon fod y modd y trinnir cwynion yn effeithiol.

    Mae hyfforddiant ar gael mewn anabledd, anghyfartaledd a chwynion ond ni wyddys ynunion faint o bobl sy’n manteisio arnynt. Mae un bwrdeistref wedi comisiynuhyfforddiant i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ynghylch ffyrdd o gymryd rhan. Maeis-bwyllgor o’r bwrdd yn edrych ar hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth.

    16 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Pa feysydd yn ymwneud â chyfranogiad y cleifion y dylai’r ymddiriedolaeth euhystyried?● Dylai’r ymddiriedolaeth ddatblygu cysylltiad defnyddwyr y gwasanaeth â chynllunio,

    datblygu a gwerthuso ymhellach.

    ● Mae angen sicrhau bod adrannau yn rhannu gwybodaeth a syniadau i hyrwyddoarfer da.

    ● Mae angen gweithredu i egluro a chodi ymwybyddiaeth am strategaeth yrymddiriedolaeth ar gyfer cyfranogiad y defnyddwyr.

    ● Dylai’r ymddiriedolaeth adolygu, monitro a gwerthuso’r hyfforddiant a ddarperir istaff.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 17

  • Mae’r adran hon yn disgrifio systemau’r ymddiriedolaeth i ddeall, monitro a chadw’rrisgiau i gleifion a staff i isafswm a dysgu oddi wrth gamgymeriadau.

    Beth yw prif asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd?Mae’r ymddiriedolaeth wedi gwneud cynnydd ond mae angen gwaith pellach i sicrhaubod dysgu ac arfer da yn cael eu rhannu ar draws gwahanol adrannau. Mae angenmwy o eglurder ynghylch sut mae’r ymddiriedolaeth a phwyllgorau adrannol yn cyd-gysylltu.

    Asesiad = ii (c)

    Beth yw’r darganfyddiadau allweddol?Mae strwythurau yn cynnal rheoli risg. Y cyfarwyddwr meddygol yw’r arweinydd arlefel y bwrdd ac mae gan y cyfarwyddwr personél gyfrifoldeb rheolaethol am reoli risg.Ceir rheolydd risg ar gyfer yr ymddiriedolaeth a rhai sy’n arwain yn adrannol. Caiffgweithgaredd yn ymwneud â rheoli risg ei gyllido o gyllidebau’r ymddiriedolaeth a’radrannau.

    Mae’r grŵp rheoli risg ar draws yr ymddiriedolaeth i gyd yn monitro gweithgaredd risgac yn adrodd am faterion i fwrdd yr ymddiriedolaeth. Trafodir materion hefyd yn ypwyllgor ansawdd a llywodraeth glinigol. Mae’n aneglur sut mae’r pwyllgorau hyn yncysylltu. Mae llawer o bwyllgorau a fforymau eraill ar lefel ymddiriedolaeth acadrannau. Nid oes unrhyw broses glir i ddangos bod yr wybodaeth yn cael ei rhannu yneffeithiol ar draws adrannau.

    Mae grwpiau rheoli risg ac iechyd a diogelwch adrannol yn ystyried adroddiadau amddigwyddiadau a damweiniau. Maent yn rhaeadru rhybuddion a gwybodaeth amberyglon ac yn adrodd i’r bwrdd llywodraeth glinigol adrannol.

    Mae strategaeth yr ymddiriedolaeth o dan arolygiad. Mae gan adrannau strategaethau,polisïau a phroffiliau risg lleol er bod rhai yn fwy cynhwysfawr nag eraill. Caiff y rhaineu diweddaru yn rheolaidd ac maent yn bwydo i broffil blynyddol yr ymddiriedolaeth.

    Mae asesiadau risg aml-ddisgyblaethol yn sail ar gyfer datblygu gwasanaeth. Bu iraglen o ddileu ddilyn asesiad risg o bwyntiau clymu er bod rhai yn dal yn bresennol arwardiau iechyd meddwl i oedolion. Nododd yr ymddiriedolaeth fod asesu risg pwyntiauclymu yn cael ei wneud ar gyfer claf unigol yn hytrach na’r amgylchedd. Cymerwydcamau eraill i gwtogi ar risg fel gosod ffilm warchodol ar ffenestri. Gwnaed archwiliadclinigol yn dilyn asesiad risg o faterion fel cadw cofnodion ac atal cwympiadau.

    Mae offer meddygol sydd ar fenthyg yn cael ei lanhau a’i ddiheintio. Defnyddircerbydau ar wahân i ddosbarthu a chasglu offer i osgoi haint.

    Mae rhai unedau mân ddamweiniau yn cael eu staffio o’r ward. Mae lefelau staffio yn ynos fel arfer yn cynnwys un aelod staff cymwys sy’n rhoi gofal i’r claf. Mewn rhaiysbytai mae’r uned ar lawr gwahanol i’r ward ac nid oes unrhyw ffordd o gyfathrebu âstaff eraill. Mae gan un ardal fotwm panig.

    18 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

    Beth yw asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd ynghylchsystemau’r ymddiriedolaeth ar gyfer rheoli risg?

  • Mae un ffurflen adrodd am ddigwyddiadau yn cefnogi’r polisi digwyddiadaucynhwysfawr. Er bod risg glinigol a heb fod yn glinigol yn cael eu gwahanu mae’r ddauyn cael eu hadrodd yn y pwyllgor risg. Mae cardiau wedi eu lamineiddio yn egluro paddigwyddiadau y mae’n rhaid eu hadrodd. Caiff digwyddiadau eu cofnodi ar y systemgwybodaeth am reoli risg.

    Mae rhai staff yn derbyn adborth yn dilyn adrodd am ddigwyddiadau a gwneirnewidiadau i’r gwasanaeth. Ond mae adborth gan y staff yn anghyson ac nid yw rhai yngwybod am ddadansoddi tueddiadau. Mae gan staff anableddau dysgu hyfforddiantcadarnhaol yn ymwneud â rheoli ymddygiad ac mae techneg ymyrraeth ffisegol diogelaml-ddisgyblaethol yn cael ei datblygu.

    Darperir cefnogaeth i nyrsys cyswllt rheoli haint gan dîm rheoli haint. Caiff haint sy’ngysylltiedig â gofal iechyd ei ddadansoddi a darperir adroddiadau chwarterol i’radrannau. Mae nyrsys hyfywdra meinwe yn cynnal asesiad risg ac archwiliad sy’nymwneud â phwysau.

    Mae polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant yn eu lle. Ceir meddyg a nyrs a enwir abydwraig a enwir sydd newydd ei phenodi. Mae arbenigwyr o nyrsys clinigol yngweithio gyda’r nyrs a enwir. Priodolir ymwelwyr iechyd cyswllt i ysbytai llym ondmae’r amser a ganiateir ar gyfer y rôl hon yn cyfyngu ar y gwasanaeth a ddarperir. Nidoes unrhyw wybodaeth benodol gan yr ymddiriedolaeth am blant y mae pryderon yn eucylch, ond nad ydynt ar y gofrestr amddiffyn plant. Ond mae ffurflenni achos pryder ybydwragedd bellach yn cael eu rhannu gydag ymwelwyr iechyd. Nid oes unrhywarchwiliad rheolaidd ar gofnodion.

    Mae gan y fforwm amddiffyn plant aelodaeth fawr ond mae’r niferoedd sy’n mynychuyn anghyson. Mae cynlluniau i sefydlu fforwm plant yn arwain at adolygiad o’r olaf.Mae bwrdd yr ymddiriedolaeth yn derbyn adroddiadau am adolygiadau achos difrifol.Darperir hyfforddiant gan yr ymddiriedolaeth ynghylch amddiffyn plant ond nid yw’rholl ymwelwyr iechyd wedi mynychu hyfforddiant pwyllgor amddiffyn plant yr ardal. Nidyw niferoedd yr ymwelwyr iechyd sy’n derbyn hyfforddiant wedi ei archwilio. Darparwydhyfforddiant i’r timau iechyd meddwl oedolion plant a rhai yn eu harddegau.

    Mae diwylliant agored a chyfiawn a pholisi mynegi pryderon. Mae staff yn ymwybodolo’r polisi ar gyfer gweithwyr ar eu pennau eu hunain. Mae llawer yn defnyddio larymaupersonol a ffoniau symudol.

    Mae rhywfaint o gyfranogiad gan ddefnyddwyr y gwasanaeth mewn rheoli risg gangynnwys asesu perygl hunanladdiad a datblygu protocol a chyfranogiad defnyddwyr aceiriolwyr yn y grŵp rheoli risg iechyd meddwl.

    Mae gan y timau iechyd meddwl cymunedol asesiadau risg ar y cyd rhwng y staffiechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Rhannwyd polisïau gyda byrddau iechyd lleol.Mae cynrychiolwyr yr adran gymunedol yn mynychu grwpiau rheoli risg y byrddauiechyd lleol ac yn cymryd rhan yn y polisi ar gyfer oedolion bregus ar draws Gwentgyfan.

    Mae rhywfaint o hyfforddiant yn digwydd rhwng iechyd meddwl a’r gwasanaethaucymdeithasol. Mae gan y timau clinigol staff sy’n darparu hyfforddiant mewn cynnalbywyd sylfaenol. Mae hyfforddiant mewn adrodd am ddigwyddiadau, rheoli risg a rheolihaint ar gael ond nid yw yn cael ei alw’n orfodol. Dywedodd llawer o’r staff eu bod ynderbyn hyfforddiant ond roedd rhai wedi cael anawsterau gyda mynediad. Ni allniferoedd y staff sy’n ymgymryd â hyfforddiant gael eu nodi’n briodol.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 19

  • Pa feysydd yn ymwneud â rheoli risg y dylai’r ymddiriedolaeth eu hystyried?● Dylai’r ymddiriedolaeth egluro’r trefniadau a chyfrifoldebau’r pwyllgor, yn arbennig

    trefniadau ar gyfer adrodd i fwrdd yr ymddiriedolaeth.

    ● Dylai’r ymddiriedolaeth sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol ardraws adrannau.

    ● Mae angen arolygu trefniadau ar gyfer unedau mân ddamweiniau i sicrhaudiogelwch claf a staff.

    ● Mae angen datblygu systemau cyson ar gyfer rhoi adborth i staff a dadansodditueddiadau.

    ● Mae angen gweithredu i sicrhau y cofnodir y rhai sy’n derbyn hyfforddiant sy’ngysylltiedig â rheoli risg yn gywir.

    20 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Mae’r adran hon yn disgrifio sut mae’r ymddiriedolaeth yn sicrhau gwerthusiad, mesura gwelliant parhaus gan swyddogion proffesiynol yn ymwneud ag iechyd o’u gwaith a’rsafonau y maent yn eu cyflawni.

    Beth yw prif asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd?Mae strwythurau a systemau yn eu lle ond mae angen datblygu integreiddio ar drawsadrannau ymhellach fel ag y mae angen hynny ar gyfer cynllunio a monitro adosbarthu gwybodaeth ar draws yr ymddiriedolaeth i gyd.

    Asesiad = ii (b)

    Beth yw’r darganfyddiadau allweddol?Mae strwythurau ac adnoddau yn bodoli. Yr arweinydd ar lefel bwrdd yw’r cyfarwyddwrmeddygol a gefnogir gan arweinwyr archwiliad adrannol. Ceir tîm archwiliad clinigolcanolog er bod gan y gwasanaethau iechyd meddwl eu hadran eu hunain.

    Mae grŵp safonau clinigol ac archwilio yn monitro gweithgaredd ac yn dosbarthu arferda drwy gyfarfodydd addysgol chwarterol, ond mae’r rhan fwyaf o’r gweithgaredd yndigwydd ar lefel adrannol.

    Mae gan adrannau bwyllgorau archwilio a phwyllgorau gwella ansawdd sy’n cyfarfodyn rheolaidd. Caiff argymhellion archwilio eu hanfon ymlaen i bwyllgorau archwilioadrannol ac anfonir adroddiadau archwilio, o fewn yr adran iechyd meddwl, at ypwyllgor gwella ansawdd. Ceir llwybr ffurfiol i rannu gwybodaeth gyda’r pwyllgoransawdd a llywodraeth glinigol ond nid yw hwn yn cael ei ddefnyddio’n gyson. Byddai’rymddiriedolaeth yn elwa o esbonio’r sianeli cyfathrebu ar gyfer archwilio clinigol isicrhau bod canlyniadau ac arfer da yn cael eu dosbarthu. Yn yr un modd tra dylaipenaethiaid staff adrannol arwyddo argymhellion archwiliad, nid yw hyn bob amser yndigwydd. Nid yw’r holl staff yn ymwybodol o’r gofyniad hwn.

    Mae strategaeth yr ymddiriedolaeth yn nodi gofynion ar gyfer adrannau achyfarwyddiaethau a’r angen am gyfranogiad aml-ddisgyblaethol. Nodirblaenoriaethau archwilio gan fyrddau llywodraeth glinigol adrannol a blaenoriaethaucenedlaethol a rhanbarthol. Ond nid yw’r staff adrannol yn ymwybodol o unrhywgynllun archwilio strategol.

    Mae gweithio drwy bartneriaeth yn gyfyngedig heb unrhyw archwiliadau ar y cyd rhwnggwasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl. Nid oes unrhyw gynrychiolaeth o blithdefnyddwyr gwasanaeth yr ymddiriedolaeth ar gyfer archwilio. Ond o fewn iechydmeddwl ac anableddau dysgu mae eiriolwr dros ddefnyddwyr y gwasanaeth ynmynychu’r prif grŵp archwilio gyda chynrychiolaeth o blith ddefnyddwyr y gwasanaethar rai grwpiau bwrdeistrefol.

    Gwneir archwiliadau ond nid ydynt yn gyffredinol yn rhai aml-ddisgyblaethol. Maearchwilio wedi bod yn araf i ddatblygu mewn rhai grwpiau. Mae enghreifftiau oarchwilio yn cynnwys cleifion sy’n cwympo a rhagnodi o fewn iechyd meddwl, y llwybrderbyn o fewn anabledd dysgu a rheoli briwiau a monitro siwgr yn y gwaed o fewnysbytai cymunedol. Mae staff yr ymddiriedolaeth yn cymryd rhan mewn archwiliadaucenedlaethol fel yr ymchwiliad cyfrinachol cenedlaethol i hunanladdiadau a dynladdiadau.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 21

    Beth yw asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd o systemau’rymddiriedolaeth ar gyfer archwiliad clinigol?

  • Mae’n ymddangos fod prosesau adrannol ar gyfer adrodd a dosbarthu darganfyddiadauarchwiliad yn fwy datblygedig mewn iechyd meddwl ac anabledd dysgu nac yn yr adrangymunedol. Cyflwynir adroddiad archwilio blynyddol i fwrdd yr ymddiriedolaeth sy’nnodi’r arolygon a wnaed, y canlyniadau a’r gweithredu wedi hynny. Mae angen datblygurhannu gwybodaeth ar draws adrannau ymhellach.

    Mae gwelliannau yn y gwasanaeth yn dilyn archwilio yn cynnwys golchi dwylo, gofalysbrydol i’r rhai sy’n marw a chwtogi ar gwympiadau ymysg cleifion sy’n oedolion hŷnyn y gwasanaeth iechyd meddwl.

    Mae adrannau archwilio adrannol a chlinigol yr ymddiriedolaeth yn darparuhyfforddiant ond ychydig o staff sydd wedi gwneud hwn. Mae staff meddygol wedidarparu rhywfaint o hyfforddiant ar gyfer nyrsys anabledd dysgu a darperir sioeauteithiol yn ymwneud ag archwilio ar gyfer timau iechyd meddwl cymunedol. Darparwydhyfforddiant cyfyngedig ar gyfer swyddogion proffesiynol yn gysylltiedig ag iechyd.

    Pa feysydd yn ymwneud ag archwiliad clinigol y dylai’r ymddiriedolaeth eu hystyried?● Dylai’r ymddiriedolaeth egluro a chryfhau archwiliad clinigol i wella, monitra,

    adrodd a dosbarthu, yn arbennig ar draws yr adrannau.

    ● Dylid datblygu cyfranogiad gan ddefnyddwyr y gwasanaeth ym mhob agwedd ararchwiliad clinigol.

    ● Mae angen gweithredu i sicrhau bod yr archwiliad yn aml ddisgyblaethol ac yn amlasiantaethol.

    22 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Mae’r adran hon yn ymwneud â’r modd y mae’r ymddiriedolaeth yn sicrhau y seilir yragweddau a’r triniaethau mae’n eu defnyddio ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, erenghraifft o ymchwil, llenyddiaeth neu ganllawiau cenedlaethol neu leol.

    Beth yw prif asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd?Er bod cynnydd gwerth chweil wedi ei wneud, mae angen gwaith pellach i sicrhau bodgan yr ymddiriedolaeth systemau cynhwysfawr i ddarparu gofal iechyd effeithiol ynglinigol.

    Asesiad = ii (b)

    Beth yw’r darganfyddiadau allweddol?Mae gan yr ymddiriedolaeth systemau a strwythurau i gefnogi effeithiolrwydd clinigol.Yr arweinydd ar lefel bwrdd yw’r cyfarwyddwr meddygol. Mae cyfarwyddwr meddygolcysylltiedig yn arwain ynghylch ymchwil a datblygiad ac yn gweithio ar y cyd âchyfarwyddwr nyrsio cysylltiedig.

    Mae pwyllgorau yn cynnwys y grŵp safonau clinigol ac archwilio, y fforwm clinigol agrŵp gweithredu’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Glinigol (NICE) gydachynrychiolaeth adrannol. Mae tri o bwyllgorau eraill yn cefnogi ymchwil a datblygiad.

    Mae arweinwyr adrannol a staff cyswllt yn derbyn ac yn dosbarthu dogfennaeth.Penderfynir ar flaenoriaethau mewn pwyllgorau effeithiolrwydd clinigol adrannol.Mae’r cyfranogiad adrannol mewn pwyllgorau ymchwil yn amrywiol.

    Adroddir materion yn ymwneud ag effeithiolrwydd clinigol i grŵp llywodraeth glinigolyr ymddiriedolaeth ond ceir adrodd cyfyngedig i’r pwyllgor ansawdd a llywodraethglinigol neu i fwrdd yr ymddiriedolaeth.

    Mae strategaeth ymchwil a datblygiad yn cael ei chreu ar hyn o bryd. Nid oes unrhywstrategaeth benodol ar gyfer effeithiolrwydd clinigol a chynhwysir cyfeiriad strategol ofewn y cynllun datblygu llywodraeth glinigol. Mae’n aneglur i ba raddau y mae’rcynllun hwn yn dylanwadu ar flaenoriaethau adrannol.

    Ceir rhywfaint o weithio drwy bartneriaeth mewn gwaith yn ymwneud â datblygu llwybra phrotocol gofal. Mae enghreifftiau yn cynnwys llwybr gofal lliniarol aml asiantaethol.Ond mae gwaith a rennir yn ei fabandod ac mae angen ei ddatblygu ymhellach. Maecyfranogiad y cyhoedd yn digwydd dim ond yn y cam lle mae’r canllawiau yn cael eulansio. Cafwyd cyfranogiad diweddar gan gleifion mewn prosiectau ymchwil.

    Mae’r ymddiriedolaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bolisïau a gweithdrefnau fod ynseiliedig ar dystiolaeth a’u cadarnhau gan y fforwm clinigol. Mae byrddau llywodraethglinigol yn cytuno ar bolisïau adrannol ac maent i gyd yn cael eu cynnwys ar ymewnrwyd. Mae pwyllgorau cyffuriau a therapiwtig adrannol yn gwneud argymhellion ibwyllgor yr ymddiriedolaeth. Mae prosiectau ymchwil erbyn hyn yn rhai amlddisgyblaethol.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 23

    Beth yw asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd ynghylchsystemau’r ymddiriedolaeth ar gyfer effeithiolrwyddclinigol?

  • Datblygir achosion busnes ar gyfer canllawiau NICE i sicrhau cyllid priodol. Gall ygwahanol adrannau gyfathrebu’n hawdd gyda bwrdd yr ymddiriedolaeth er nad ydyntbob amser yn derbyn gwybodaeth yn ôl. Mae enghreifftiau o ganllawiau cenedlaetholac ymchwil sy’n cael eu gweithredu yn cynnwys y rhai hynny ar gyfer anhwylderaubwyta, therapi ymddygiadol gwybyddol ac ymyrraeth seice cymdeithasol ar gyfersalwch meddwl difrifol. Datblygwyd grŵp therapi ymddygiadol gwybyddol aml-ddisgyblaethol mewn gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion hŷn yn dilyngwerthusiad lleol o effeithiolrwydd yr ymyrraeth hwn.

    Er bod llwybrau gofal ar gyfer strôc a thorri’r forddwyd nid yw’r cyntaf wedi ei gyflwynoi’r gymuned. Mae’n bosibl nad oes modd cadw at yr olaf bob tro oherwydd pwysau arwelyau.

    Caiff cydymffurfio â chanllawiau NICE ei fonitro drwy systemau arolygu perfformiadariannol a chwarterol. Caiff gwariant ar gyffuriau a argymhellir ei archwilio’n agos felag y gwneir gyda’r defnydd o wrthfiotigau. Mae rhestr o gyffuriau cyffredin agymeradwyir yn lleol yn cael ei defnyddio rhwng gofal llym a gofal sylfaenol. Cedwircofnodion am ragnodi ac effeithiolrwydd cyffuriau gwrth-orffwylltra ar ffeiliau achos ycleifion ac ar y data-bas.

    Mae cefnogaeth y llyfrgell yn helaeth. Mae llyfrgellydd yn mynychu’r grŵpeffeithiolrwydd clinigol iechyd meddwl ac wedi ei hyfforddi mewn sgiliau gwerthusocritigol ac yn bwriadu rhaeadru’r hyfforddiant hwn i staff ynghyd â hyfforddiantarchwilio’r data-bas. Mae’r llyfrgellydd yn gwneud ymchwiliadau yn y llenyddiaeth, ynnodi eitemau o ddiddordeb ac yn dosbarthu’r rhain i’r staff. Mae timau clinigol unigolyn datblygu clybiau cylchgronau.

    Er bod ymrwymiad gan reolwyr uwch i effeithiolrwydd clinigol, nid oes gan rai staffamser a warchodir ac mae adnoddau cyfyngedig ar gael. Mae rhai meysydd clinigol yndisgwyl am gysylltiad â’r rhyngrwyd. Nid oes unrhyw gyllideb benodol ac eithrio argyfer fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol a chanllawiau NICE. Mae cyllid ymchwilar gael ar gyfer prosiectau penodol.

    Dosberthir gwybodaeth drwy’r ymddiriedolaeth a chylchlythyrau adrannol, y mewnrwydac e-bost ac agwedd rhaeadru canllawiau NICE. Trafodir arfer sy’n seiliedig ardystiolaeth mewn cyfarfodydd tîm, ond ychydig iawn o drafodaeth ffurfiol a geir ymysgy timau ynghylch canllawiau NICE. Mae grwpiau diddordebau arbennig yn cynorthwyohefyd i raeadru gwybodaeth, ond mae angen gwaith pellach i rannu arfer da ar drawsyr adrannau a’r timau.

    Mae cyrsiau hyfforddi ffurfiol ar gael ar gyfer ymchwil ond nid yw’r rhan fwyaf o’r staffeto wedi derbyn hyfforddiant penodol yn gysylltiedig ag effeithiolrwydd clinigol.Darperir y rhan fwyaf o’r hyfforddiant drwy gyrsiau proffesiynol ychwanegol. Maemynediad i wasanaethau’r llyfrgell a’r cylchgronau yn dda.

    24 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Pa feysydd sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd clinigol y dylai’r ymddiriedolaeth euhystyried?● Dylai’r ymddiriedolaeth egluro’r cyfeiriad strategol a sicrhau bod hyn yn cael ei

    adlewyrchu mewn blaenoriaethau adrannol.

    ● Mae angen gweithredu i sicrhau y darperir adroddiadau i alluogi bwrdd yrymddiriedolaeth i benderfynu ar gynnydd.

    ● Dylai’r ymddiriedolaeth ddatblygu cyfranogiad gan bartneriaid a defnyddwyr ygwasanaeth mewn effeithiolrwydd clinigol.

    ● Mae angen gwaith pellach i sicrhau y rhennir arfer da yn effeithiol rhwng timau acadrannau.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 25

  • Mae’r adran hon yn ymwneud â recriwtio, rheoli a datblygu staff. Mae hefyd yn cynnwyshyrwyddo amodau gwaith da a dulliau effeithiol o weithio.

    Beth yw prif asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd?Mae systemau a phrosesau yn bodoli ar gyfer rheoli staff yn effeithiol ond mae angendatblygu ymhellach ar gyfathrebu mewn rhai meysydd, yn ogystal â defnyddiohyfforddiant dechreuol, gwerthuso ac arolygaeth glinigol.

    Asesiad = iii

    Beth yw’r darganfyddiadau allweddol?Yr arweinydd ar y bwrdd yw’r cyfarwyddwr personél ac fe’i cefnogir gan gyfarwyddwyrcynorthwyol a phersonél adrannol, rheolwyr datblygu’r gweithlu a rheolwyr hyfforddi adatblygu. Mae nifer o bwyllgorau o dan arolwg. Sefydlwyd bwrdd moderneiddio’rgweithlu a fydd yn is grŵp o’r grŵp dyfodol clinigol.

    Ceir cynllun cydraddoldeb hiliol ac mae’r pwyllgor cydraddoldeb ac amrywiaeth ynadrodd i’r bwrdd. Mae is grŵp du a lleiafrifoedd ethnig yn bwydo i’r pwyllgor. Darperirhyfforddiant yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer bwrdd yrymddiriedolaeth a’r staff. Mae angen datblygu ymhellach ar y cynllun cydraddoldebhiliol a’r strategaeth amrywiaeth er mwyn cydymffurfio’n llawn â Deddf CysylltiadauHiliol (Diwygiad) 2000. Ceir strategaeth adnoddau dynol (AD) ac mae’r ymddiriedolaethyn ymgynghori ynghylch ei strategaeth amrywiaeth.

    Daw tua 5% o staff yr ymddiriedolaeth o leiafrif ethnig. Gwnaed arolwg staff a chaiffgwybodaeth am genedligrwydd y staff ei chofnodi ar ddata-bas a’i chysylltu âchyflogaeth.

    Caiff materion yn ymwneud ag adnoddau dynol eu monitro drwy arolygon perfformiadadrannol. Trafodir materion staffio yn rheolaidd mewn cyfarfodydd bwrdd achyfarfodydd gweithredol. Mynycha cynrychiolwyr bwrdd yr ymddiriedolaethgyfarfodydd adolygu perfformiad adrannol bob chwarter.

    Gwneir y gwaith o gynllunio’r gweithlu gyda rheolwyr gwasanaeth a chlinigwyr. Caiffcanlyniadau eu bwydo’n ôl i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gweithia’r ymddiriedolaethgyda chyrff sy’n gweithredu fel partneriaid i ddatblygu rolau penodol fel yn y tîmymateb cyflym a Cychwyn Cadarn.

    Gellir cael polisïau gweithdrefnau ar y mewnrwyd. Ceir polisi ar gyfer gweithwyr sy’ngweithio ar eu pennau eu hunain ac mae gan rai staff larymau personol a ffoniausymudol. Mynegodd rhai o’r staff bryder am eu diogelwch personol yn arbennig yn ynos. Mae trefniadau gwaith hyblyg yn bodoli.

    Mae prosesau sefydlu’r ymddiriedolaeth a rhai adrannol ar waith ac er bod y rhanfwyaf o’r staff yn derbyn hyfforddiant sefydlu ceir amrywiadau. Gwneir gwerthusiadblynyddol ond mae rhai staff yn dweud nad oes digon o werthuso yn digwydd. Darperirhyfforddiant mewn gwerthuso ond mae’r nifer sy’n manteisio arno yn isel.

    26 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

    Beth yw asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd ynghylchsystemau’r ymddiriedolaeth ar gyfer staffio a rheoli staff?

  • Mae arolygaeth glinigol yn amrywiol er bod hyfforddiant ar gael. Bu’r staff ychydig ynamharod i gyfranogi mewn arolygaeth glinigol ac nid oes unrhyw amser a warchodir.Mae rhai yn gwneud gwaith o arolygu grwpiau. Mae ymgynghorwyr yn cael cyfarfodyddgyda grŵp o gymheiriaid gyda ffocws addysgol yn hytrach nag arolygu. Ond maeymgynghorwyr yn cael arolygaeth anffurfiol oddi wrth gydweithwyr. Mae cynlluniaumentora ar waith. Mae aelod staff wedi datblygu fideo yn ymwneud ag arolygaeth sy’ncael ei ddefnyddio i gefnogi’r polisi ar draws yr ymddiriedolaeth.

    Mae’r adran personél yn gwirio manylion cofrestru a chofnodion troseddol wrth benodistaff. Mae rheolwyr llinell yn gwirio manylion cofrestru parhaus. Mae swyddogionproffesiynol sy’n gysylltiedig ag iechyd wedi archwilio’r broses hon. Gwneir gwiriadauar gyfer staff dros dro a nodir safonau a chânt eu harchwilio pan ddefnyddirasiantaethau.

    Mae trefniadau ar waith i drin perfformiad gwael a chefnogir mynegi pryderon ganbolisi urddas yn y gwaith yr ymddiriedolaeth.

    Mae’r ymddiriedolaeth wedi gweithredu i oresgyn problemau yn ymwneud â recriwtio achadw staff er bod rhai ymgynghorwyr locwm yn dal i gael eu defnyddio mewn iechydmeddwl. Bu’n rhaid i rai gwasanaethau therapi adolygu gwasanaeth a ddarperiroherwydd galw gormodol. Mae recriwtio o dramor wedi cynyddu niferoedd y staff acmae’r ymddiriedolaeth yn ceisio ffurfio trefniadau dwyochrog gydag Awstralia ar gyferswyddogion proffesiynol sy’n gysylltiedig ag iechyd.

    Mae’r ymddiriedolaeth yn rheoli oriau staff yn ôl y gyfarwyddeb amser gwaithEwropeaidd ac yn tynnu allan y cymal sy’n rhoi dewis tynnu allan ohoni, sy’n golygubod y defnydd o oramser yn cael ei gwtogi.

    Mae llawer o weithio aml asiantaethol yn digwydd rhwng timau. Caiff gweithwyrcymdeithasol eu hintegreiddio’n dda i’r timau iechyd meddwl cymunedol er bod staffyn nodi y gall diwylliannau gwahanol weithiau amharu ar gynnydd i ddatblygudogfennaeth sy’n cael ei rhannu a lleoli aelodau’r tîm gyda’i gilydd.

    Er bod cyfarfodydd tîm y gyfarwyddiaeth yn digwydd yn rheolaidd, mae rhai grwpiaustaff yn teimlo bod cyfathrebu wedi dioddef ers i gyfarfodydd penodol ar gyfer grwpiauar draws yr ymddiriedolaeth ddirwyn i ben. Cyfathrebir ar draws y corff drwy gyfrwng ymewnrwyd, cylchlythyrau’r ymddiriedolaeth a chylchlythyrau adrannol a gwybodaethsy’n cael eu rhaeadru drwy arweinwyr timau. Mae rhai timau yn ystyried bod rhaeadrugwybodaeth yn aneffeithiol.

    Mae’r ysbryd o fewn yr ymddiriedolaeth yn dda ac mae staff yn disgrifio’rymddiriedolaeth fel un gyfeillgar, gefnogol ac arloesol. Mae’r gweithlu yn sefydlog acyn mwynhau gweithio i’r ymddiriedolaeth. Darperir gwasanaethau iechydgalwedigaethol. Oherwydd bod 40% o’r atgyfeiriadau yn gysylltiedig â phwysau darperirgwasanaethau cwnsela. Mae caplaniaid yn gweld cefnogi staff fel rhan o’u rôl. Ondmae rhai o’r staff yn ansicr sut i gyrchu at gefnogaeth o’r tu allan i’w timau eu hunain.Derbynnir adborth o arolygon y staff a chyfweliadau wrth i staff ymadael. Derbyniodd yrymddiriedolaeth wobr arian am Safonau Corfforaethol ar gyfer Iechyd yn y Gwaith yn2003.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 27

  • Mae’r rheolydd risg ac iechyd yn y gweithle corfforaethol yn ymdrin â meysydd fel poencefn a diogelwch personol. Mae gan dimau bersonél iechyd a diogelwch cymwys wedieu dynodi. Mae nifer yr atgyfeiriadau at iechyd galwedigaethol ar gyfer problemau’rcefn wedi gostwng ers cyflwyno model yr Iseldiroedd o arfer da ar gyfer gofal y cefn.Nodwyd arbenigwyr ar drosglwyddiadau lleol ar y wardiau. Derbyniant hyfforddiantpenodol ac maent yn rhaeadru hyn i staff y ward. Maent yn monitro cynnydd ac effaithar y ward.

    Pa feysydd o fewn staffio a rheoli staff y dylai’r ymddiriedolaeth eu hystyried?● Dylid cymryd camau i wella darpariaeth a mynediad at hyfforddiant sefydlu,

    gwerthuso ac arolygaeth glinigol.

    ● Dylai’r ymddiriedolaeth ddatblygu systemau cyfathrebu ymhellach i sicrhau bodstaff yn teimlo bod ganddynt wybodaeth ddigonol.

    28 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Mae’r adran hon yn ymdrin â’r gefnogaeth sydd ar gael i alluogi staff i fod yn fedrus iwneud eu gwaith, tra’n datblygu eu sgiliau a’r graddau y mae staff yn cael gwybod amy datblygiadau diweddaraf yn eu maes.

    Beth yw prif asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd?Er gwaethaf strategaeth gynhwysfawr a chynllun gweithredu, mae angen cysylltiadauagosach rhwng cynlluniau adrannol a strategol a gwell monitro a gwerthuso arhyfforddiant.

    Asesiad = ii (c)

    Beth yw’r darganfyddiadau allweddol?Yr arweinydd ar lefel yr ymddiriedolaeth yw’r cyfarwyddwr personél cysylltiedig acmae’n atebol i’r cyfarwyddwyr personél a nyrsio. Mae cyfarwyddwr meddygolcysylltiedig yn arwain addysg feddygol. Mae gan adrannau arweinwyr ar gyfer addysg ahyfforddiant yn ogystal â hyfforddwyr.

    Mae strwythurau yn dal i ddatblygu. Mae is-bwyllgor hyfforddi a datblygu yn cynnwyscynrychiolaeth o blith yr arweinwyr adrannol sy’n ymwneud â hyfforddiant a datblygu.Mae’r is-bwyllgor yn adrodd i’r grŵp llywodraeth glinigol sy’n adrodd ymlaen i’rpwyllgor ansawdd a llywodraeth glinigol. Mae pwyllgor iechyd meddwl adrannol ynadrodd i fwrdd llywodraeth glinigol. Cyflwynwyd cynrychiolaeth gorfforaethol arbwyllgorau adrannol.

    Ceir strategaeth addysg a datblygu gynhwysfawr sydd wedi ei chysylltu â’r agendallywodraeth glinigol. Ond nid yw camau gweithredu o strategaeth yr adran iechydmeddwl wedi eu cysylltu’n glir â’r strategaeth gorfforaethol. Yn yr un modd, ychydig ogyfeiriad sydd yn y strategaeth adrannol gymunedol at y Cynllun Corfforaethol.

    Mae prosesau cynllunio’r gweithlu wedi eu symleiddio. Gwnaed dadansoddiad o’ranghenion hyfforddiant. Datblygir cynllun hyfforddiant yr ymddiriedolaeth o gynlluniauadrannol a chânt eu monitro drwy’r broses o arolygu perfformiad.

    Defnyddir y mewnrwyd ar gyfer hyfforddiant ar-lein. Ar hyn o bryd ymdrinnir â phumpo fodiwlau gan gynnwys tân a thrin nwyddau â llaw. Mae’r ymddiriedolaeth yn arbrofigyda defnyddio glaniaduron di-wifr i hwyluso hyfforddiant gorfodol. Er na ellir disodlihyfforddiant ymarferol yn llwyr mae’n ddefnyddiol o ran darparu hyfforddiant ar drawssafleoedd sy’n wasgaredig yn ddaearyddol. Mynegodd rhai o’r staff bryder ynghylch euprinder o brofiad ymarferol o ran driliau tân.

    Ceir rhaglen ddatblygu ar gyfer y penaethiaid staff. Cysylltir hyfforddiant i staffmeddygol â’r cynllun datblygiad personol. Nodir anghenion hyfforddi drwy werthusiadstaff ond nid yw’r staff i gyd wedi eu gwerthuso. Mewn meysydd lle nad yw cynllunio adatblygiad personol yn broses reolaidd, nid yw mynediad at hyfforddiant yn systematig.

    Rhennir y cynllun hyfforddiant blynyddol gyda darparwyr addysgol lleol fel PrifysgolMorgannwg. Ceir swyddi ar y cyd rhwng yr ymddiriedolaeth a’r brifysgol a llawer oenghreifftiau o gynlluniau hyfforddi gyda chyrff sy’n gweithredu fel partneriaid.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 29

    Beth yw asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd ynghylchsystemau’r ymddiriedolaeth ar gyfer addysg, hyfforddianta datblygiad personol a phroffesiynol parhaus?

  • Mae gan yr ymddiriedolaeth bolisi ffurfiol ar gyfer cael absenoldeb i astudio. Maellawlyfr hyfforddiant ar gael. Dibynna rhyddhau staff ar gyfer hyfforddiant yn fawr arlefelau staffio. Mae adnoddau ar gael ond mae rhai timau staff yn nodi cyfyngiadauariannol sy’n cyfyngu ar gyfleoedd addysgol.

    Gwneir hyfforddiant gorfodol ac mae’n rhan o raglen sefydlu. Mae adnabod a darparuhyfforddiant gorfodol yn amrywio ar draws bwrdeistrefi ac ardaloedd clinigol. Mae lefely monitro ar staff sy’n cyrchu at hyfforddiant gorfodol yn amrywio.

    Mae cynlluniau hyfforddi yn y gweithle yn cynnwys cymwysterau galwedigaetholcenedlaethol ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd. Gwneir hyfforddiant drwy raeadru acheir rhaglenni datblygu nyrsys.

    Mae gan staff fynediad da at gyrsiau i ennill cymwysterau pellach ac at ddatblygiadproffesiynol parhaus. Mae rhai rheolwyr yn gefnogol iawn ond ceir amrywiadau o ranfaint o gefnogaeth a roddir. Nid yw rhywfaint o’r hyfforddiant yn cael ei werthuso a’ifonitro’n dda o ran ei effeithiolrwydd.

    Caiff hyfforddiant sydd wedi ei gwblhau ei gofnodi weithiau ar ddata-bas yrymddiriedolaeth ond ceir pryderon am gywirdeb yr wybodaeth hon. Ni all yrymddiriedolaeth fod yn sicr ynghylch pa gyfran o’r staff sydd wedi cyrchu athyfforddiant. Mae adrannau yn annog staff i gadw portffolio o’u datblygiad.

    Mae camau gweithredu mewn ymateb i adroddiadau allanol wedi arwain at wellamynediad at hyfforddiant ynghylch defnyddio dyfeisiadau meddygol a symud a thrinnwyddau drwy ddysgu ar-lein.

    Pa feysydd o ran addysg a hyfforddiant y dylai’r ymddiriedolaeth eu hystyried?● Mae angen gweithredu i sicrhau bod strategaethau a chynlluniau adrannol yn

    cysylltu â strategaeth yr ymddiriedolaeth.

    ● Dylai’r ymddiriedolaeth sicrhau bod cynlluniau datblygu personol yn cael eudatblygu ar draws yr holl feysydd a’u bod yn cael eu bwydo i broses dadansoddianghenion hyfforddiant.

    ● Mae gweithredu yn angenrheidiol i sicrhau y darperir hyfforddiant a bod faint sy’nmanteisio arno yn cael ei gofnodi a’i fonitro’n ddigonol.

    30 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Mae’r adran hon yn disgrifio’r systemau sydd gan yr ymddiriedolaeth i gasglu adehongli gwybodaeth glinigol a’i ddefnyddio i fonitro, cynllunio a gwella ansawdd ygofal i gleifion.

    Beth yw prif asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd?Tra bo’r ymddiriedolaeth yn ceisio sicrhau bod mynediad at wybodaeth yn sail ar gyfercynllunio, llunio penderfyniadau a gofal i gleifion, mae anawsterau yn parhau mewnrhai meysydd. Ceir amrywiadau adrannol ac ymysg grwpiau staff ynghylch sut ydefnyddir gwybodaeth.

    Asesiad = ii (c)

    Beth yw’r darganfyddiadau allweddol?Cadeirir pwyllgor gweithredol gwybodaeth yr ymddiriedolaeth gan y prif weithredwr acmae’n atebol i fwrdd yr ymddiriedolaeth. Mae’r aelodau yn cynnwys pedwar pennaethstaff adrannol a’r cyfarwyddwyr nyrsio a meddygol.

    Y cyfarwyddwr cyllid yw arweinydd y bwrdd ynghylch rheoli gwybodaeth a thechnolega’r pennaeth gwybodaeth yw arweinydd yr ymddiriedolaeth. Mae’r cyfarwyddwrmeddygol yn gyfrifol am lywodraethu gwybodaeth.

    Mae’r strategaeth rheoli gwybodaeth a thechnoleg yn cael eu hadolygu yn dilyncyhoeddi Informing Health Care, strategaeth genedlaethol Gymreig. Mae’nintegreiddio’r strategaeth cofnodion ac yn defnyddio meddalwedd gorsafoedd gwaithclinigol i integreiddio systemau annibynnol. Mae’r datblygiad hwn yn caniatáu i ysbytaicymunedol gyrchu at ganlyniadau archwiliadau, data am reoli gwelyau a chleifionallanol sy’n mynychu ysbyty. Mae mynediad at feddygon teulu yn cael ei gyflwyno felarbrawf.

    Mae’r adroddiad blynyddol ynghylch llywodraeth glinigol yn darparu sail ar gyfer nodigwybodaeth gefnogol a datblygu strategaeth leol. Gweithredwyd strategaeth adrannoliechyd meddwl ym mis Ionawr.

    Mae gan yr adran iechyd meddwl ac anableddau dysgu ei reolydd systemaugwybodaeth ei hun sy’n adrodd i’r bwrdd llywodraeth glinigol adrannol. Gall timauclinigol ofyn am wybodaeth neu gyrchu at adroddiadau yn lleol. Mae timau bwrdeistrefiyn derbyn pecynnau gwybodaeth yn fisol i gynorthwyo i adolygu perfformiad.

    Mae gwybodaeth am adolygu perfformiad chwarterol adrannol yn cynnwys materion ynymwneud â llywodraeth glinigol. Ond mae adroddiadau ffurfiol i fwrdd yrymddiriedolaeth yn deillio o’r adolygiadau hyn yn nodi materion eithriadol yn unig.Mae’r system arolygu perfformiad yn esblygu ac nid yw’r modd y datblygir trefniadau astrwythurau adrodd o fewn adrannau yn glir.

    Mae gwybodaeth a ddarperir i adrannau yn amrywio’n fawr. Ceir enghreifftiau oadroddiadau o ganlyniadau gofal clinigol ond mae hwn yn faes sydd angen datblygiadpellach. Mae’r ymddiriedolaeth yn cyflwyno teclyn adrodd a gwerthuso perfformiadGwent; system sy’n seiliedig ar y we sy’n gysylltiedig â’r mewnrwyd.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 31

    Beth yw asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd o systemau’rymddiriedolaeth ar gyfer defnyddio’r wybodaeth

  • Mae dwy system gweinyddu cleifion yn cael eu defnyddio o fewn yr ymddiriedolaeth, unyn benodol ar gyfer y gwasanaethau iechyd meddwl. Ni all rhai staff nad ydynt ynymwneud ag iechyd meddwl gyrchu at y system hon ac nid yw systemau eraill wedi euhintegreiddio. Nid yw data ffisiotherapi creiddiol bob amser yn nodi cleifion iechydmeddwl, sy’n gwneud ystadegau yn anghywir. Mae nifer o ddata-basau yn cael eudefnyddio, hyd yn oed o fewn grwpiau proffesiynol. Cofnodir ystadegau yn ymwneud âdiet â llaw.

    Gellir cael nifer o wahanol setiau o gofnodion meddygol ar gyfer un claf. Cyflwynwydnodiadau achos unedig ar gyfer claf newydd ers 2000, ond nid yw cofnodion iechydmeddwl yn cael eu cynnwys. Nododd staff yr angen am fewnbynnu data yn fwyeffeithiol i atal cofnodion anghywir neu anghyson.

    Mae datblygu data cymunedol yn symud ymlaen yn araf gyda staff yn pryderu ynghylchdiffyg cynnydd. Nid yw’r clinigwyr yn gwybod yn rheolaidd pa ymyrraeth eraill o raniechyd a gofal cymdeithasol y mae cleientiaid yn eu derbyn. Nid oes unrhyw gynlluniaui ddatblygu systemau gwybodaeth ar y cyd rhwng gofal cymunedol a gofal sylfaenol.

    Ceir gweithio drwy bartneriaeth ond nid oes cyfranogiad gan ddefnyddwyr ygwasanaeth. Defnyddia’r ymddiriedolaeth brotocol rhannu gwybodaeth Gwent, ondmae hyn yn achosi problemau oherwydd y defnyddir gwahanol systemau. Mae timauclinigol yn nodi bod problemau yn parhau gyda rhannu gwybodaeth oherwydd diffygdealltwriaeth gan asiantaethau eraill. Mae gan y tîm ail alluogi gofnodion am gleifionsy’n cael eu rhannu ac mae wedi arbrofi gyda system electronig gyda’r gwasanaethaucymdeithasol gan ddefnyddio cyfrifiaduron llaw.

    Mae systemau gwahanol yn ei gwneud yn anodd i gyflwyno agwedd unedig at asesu acnid yw’n bodoli o gwbl ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion hŷn. Hyd ynoed o fewn meysydd eraill nid yw asesiad unedig o dan arweiniad yr awdurdod lleolwedi ei gyflwyno’n llawn. Caiff asesiadau eu dyblygu gan asiantaethau eraill.

    Ni all gweithwyr cymdeithasol o fewn timau iechyd meddwl cymunedol gyrchu at ysystem gwybodaeth adrannol ond maent yn cyfrannu at adolygiadau perfformiadadrannol. Mae bwrdeistref Caerffili wedi rhoi cysylltiadau a rennir ar gyfrifiadur agwneir cynnydd gydag agwedd aml asiantaethol y rhaglen gofal. Mae angengweithredu’r rhan hon o’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer iechydmeddwl i oedolion, a gyflwynwyd yn 2002, erbyn Rhagfyr 2004.

    Er y dosberthir cyfrifiaduron drwy’r rhan fwyaf o’r safleoedd, mae mynediad yn dal ynanodd yn arbennig i staff sy’n seiliedig o fewn y gymuned a all fod yn rhannu uncyfrifiadur. Gall staff newydd orfod aros yn hir am gyfeiriadau e-bost. Oherwydd bod yrymddiriedolaeth yn dibynnu’n drwm ar y mewnrwyd am gyfathrebu gall hyn fod ynbroblem. Ond mae staff yn disgrifio’r rhyngrwyd fel teclyn da iawn.

    Y cyfarwyddwr meddygol yw gwarcheidwad Caldicott. Mae staff yn ymwybodol iawn ofaterion yn ymwneud â chyfrinachedd. Nid yw gwybodaeth y gellir ei adnabod amgleifion yn gwbl hygyrch i ymwelwyr. Cymerir camau i sicrhau diogeled gwybodaeth.

    Mae gwasanaethau wedi defnyddio gwybodaeth glinigol i newid arferion, er enghraifft,rhagnodi cyffuriau. Gall y tîm nyrsio allan o oriau cyffredin gyrchu at gyngor meddygolam ofal lleddfol drwy gyfrwng cysylltiadau telegyfathrebu.

    32 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Mae rhai staff adrannol yn rheoli ansawdd data ac mae rheolydd ansawdd data ar gaeli sicrhau gwelliant mewn ansawdd data. Ceir anawsterau, fel codio anghywir a dyblygucofnodion. Mae systemau yn eu lle i ddosbarthu gwybodaeth ond nid yw euheffeithiolrwydd wedi ei werthuso.

    Darperir hyfforddiant TG sylfaenol i’r staff. Caiff y rhai hynny sy’n defnyddio systemauymarfer cyffredinol eu hyfforddi gan bractisys unigol. Gall staff gyrchu at hyfforddiantyn ymwneud â’r drwydded yrru gyfrifiadurol Ewropeaidd.

    Mae dadansoddwyr clinigol yn cefnogi’r adrannau. Mae rhai adrannau yn cael clercodarchwilio ar gyfer mewnbynnu data a chyfleuster desg gymorth ar gyfer defnyddwyrsystemau.

    Mae’r ymddiriedolaeth yn defnyddio meincnodi a gwybodaeth Llywodraeth CynulliadCymru i asesu ei pherfformiad cymharol.

    Pa feysydd o ran defnyddio gwybodaeth y dylai’r ymddiriedolaeth eu hystyried?● Mae angen gweithredu i sicrhau integreiddio agosach ar systemau gwybodaeth a

    chofnodion.

    ● Mae angen egluro materion sy’n ymwneud â rhannu gwybodaeth.

    ● Dylai’r ymddiriedolaeth sicrhau bod adroddiadau i’r bwrdd yn darparu gwybodaethddigonol i’w gwneud yn bosibl i fonitro’r gwasanaeth yn foddhaol.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 33

  • Mae’r adran hon yn disgrifio’r gallu o fewn yr ymddiriedolaeth i fonitro a gwellaansawdd y gofal i gleifion.

    Beth yw prif asesiad y Comisiwn Gofal Iechyd?Mae’r ymddiriedolaeth yn gorff cymhleth sy’n darparu gwasanaethau i ardaloedd gydademograffig ac anghenion iechyd sy’n wahanol. Mae arweinyddiaeth yn nwylo nifer ounigolion ac fe’i hystyrir yn agored ac yn hygyrch. Mae ad-drefnu cyson wedi caeleffaith ar ddatblygu llywodraeth glinigol ac wedi arwain at rywfaint o ddryswch ymysgstaff a chyfran ddeiliaid. Mae angen gwell integreiddio ar lywodraeth glinigol ar drawsadrannau ac mae angen datblygu mwy ar weithio drwy bartneriaeth.

    Beth yw’r darganfyddiadau allweddol?Mae’r cyfarwyddwyr meddygol a nyrsio yn arweinwyr y bwrdd ar gyfer llywodraethglinigol ac mae gan gyfarwyddwyr gweithredol eraill gyfrifoldebau penodol.

    Ystyrir bod arweinyddiaeth yr ymddiriedolaeth yn agored a hygyrch. Nodir rhaicyfarwyddwyr clinigol adrannol fel rhai sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol iddatblygiad y gwasanaeth. Ond nododd rhai o’r staff ddiffyg arweiniad ar lefelrheolaeth ganol ac ynghylch llywodraeth glinigol. Mae rhai adrannau yn nodi diffygeglurder ynghylch cyfeiriad strategol a hefyd bod angen datblygu cysylltiadau rhwng yradrannau a’r ymddiriedolaeth ymhellach.

    Cyflwynodd yr ymddiriedolaeth strwythur rheoli newydd yn 2002. Mae saith o adrannauclinigol, pob un ohonynt gyda phennaeth staff clinigol, rheolydd cyffredinol a nyrsadrannol arweiniol, yn adrodd yn uniongyrchol i’r prif weithredwr. Mae’r penaethiaidstaff a’r rheolwyr cyffredinol yn aelodau o’r weithrediaeth a’r grŵp rheoli uwch. Mae’rstrwythur hwn sydd wedi ei ddatganoli yn golygu bod angen systemau adrodd cadarn ifwrdd yr ymddiriedolaeth i sicrhau bod yr holl wasanaethau yn cael eu monitro ynbriodol. Mae fforymau eraill, fel y bwrdd moderneiddio, y grŵp dyfodol clinigol achyfarfod y nyrsys adrannol yn trafod datblygiadau yn y gwasanaeth. Mae’r rhan fwyafo adrannau wedi eu hisrannu yn gyfarwyddiaethau, mae gan rai adrannau reolaethfwrdeistrefol sy’n cyd-fynd â’r byrddau iechyd lleol a’r awdurdodau lleol.

    Mynegodd rhai o’r staff bryder ynghylch y newid strwythurol aml sy’n digwydd, maehynny wedi digwydd bedwar gwaith yn y ddwy flynedd diwethaf ar gyfer yr adrangymunedol a chaiff hyn effaith ar gynnydd llywodraeth glinigol. Mae newidiadaupellach yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl i blant a rhai yn eu harddegau agwasanaethau anableddau dysgu i rai yn eu harddegau a fydd yn symud i’r adran planta theuluoedd fel yr argymhellwyd mewn canllawiau ynghylch amddiffyn plant.

    Mae maint a chymhlethdod yr ymddiriedolaeth yn golygu yr ymdrinnir â’r holl fateriongweithredol ar lefel adrannol, tra bo’r cyfarwyddwr gweithredol a bwrdd yrymddiriedolaeth yn ymdrin â materion strategol a pholisi. Nid yw’n ymddangos fod ystrwythur hwn wedi ei gyfleu yn effeithiol i asiantaethau eraill. Nid yw cyrff o’r tu allana rhai staff bob amser yn ymwybodol pwy sydd â’r awdurdod am wneudpenderfyniadau.

    34 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

    Faint o allu strategol sydd gan yr ymddiriedolaeth isicrhau gwelliant?

  • Mae’r pwyllgor ansawdd a llywodraeth glinigol yn goruchwylio’r trefniadau llywodraethglinigol. Mae gan grŵp llywodraeth glinigol gynrychiolaeth adrannol. Penodwydhwyluswyr adrannol. Caiff agenda llywodraeth glinigol ei datganoli ond nid i lefel y tîmym mhob maes eto. Nododd staff yr angen i gymryd perchnogaeth ar yr agendallywodraeth glinigol a sicrhau integreiddio ar draws yr ymddiriedolaeth ond mae rhaiyn gweld hyn yn gymhleth a’r strwythur yn ddryslyd.

    Mae’r ymddiriedolaeth yn unigryw yng Nghymru oherwydd mae ganddi bump o fyrddauiechyd lleol yn y brif ardal a wasanaetha. Mae’r rhain yn gyrff newydd a ffurfiwyd yn2003 yn dilyn diddymu Awdurdod Iechyd Gwent. Caiff yr ymddiriedolaeth anhawster iddarparu gwasanaethau i fodloni’r holl fyrddau iechyd lleol.

    Effeithir ar allu’r ymddiriedolaeth i ail-ddatblygu gwasanaethau gan hanes,daearyddiaeth a disgwyliadau gwleidyddol a chyhoeddus. Mae’r cynnydd a wneir ynamrywiol ac yn araf. Caiff strategaethau gwasanaeth clinigol dros dymor hir eudatblygu drwy’r grŵp dyfodol clinigol. Teimla rhai gwasanaethau eu bod yn caelblaenoriaeth isel a’u bod yn brin o fuddsoddiad o’u cymharu â’r sector llym.

    Mae gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn cael eu hadolygu. Ceiranghyfartaledd mewn darpariaeth ar draws y bwrdeistrefi ond bydd datblygu’r timauiechyd meddwl cymunedol a darparu gwelyau i gleifion mewnol unwaith eto yn datryshyn. Nid oes unrhyw wasanaeth ar gyfer ymyrryd mewn argyfwng, mae’r unigddarpariaeth drwy staff meddygol ar alwad yr ysbytai. Mae angen datblygu agwedd yrhaglen gofal ymhellach yn Nhorfaen a Blaenau Gwent i gyrraedd y targed gweithredu.Ar ôl colli ffocws a dadsefydlogi ar y dechrau, mae’r gwasanaeth camddefnyddiosylweddau wedi ei ad-drefnu ac mae gofal a rennir yn cael ei ddatblygu gydadarparwyr eraill. Teimla rhai staff fod diffyg gweledigaeth ac nid ydynt yn ymwybodol ostrategaeth ar gyfer dyfodol y gwasanaeth iechyd meddwl.

    Cafodd cau Ysbyty Llanfrechfa Grange ac ail-ddyrannu rhai o’r cleifion sydd ar ôl i daicymunedol ei ohirio. Cafodd y strategaeth anabledd dysgu ei hadolygu a nododdrheolwyr yr angen am gydweithio agosach gyda chyrff partneriaid i symud ymlaen yneffeithiol.

    Nid yw gweithio effeithiol gyda’r sector llym a’r gwasanaethau cymdeithasol yn dilyncreu’r adran gymunedol wedi datblygu eto ac nid yw’r strategaeth gofal canolradd ynsymud ymlaen fel y bwriadwyd. Ond nid yw’r strwythur rheoli sy’n seiliedig ar ybwrdeistref wedi bod mewn bodolaeth am ddim ond 6 mis. Mae trosglwyddo gofal sy’ncael ei oedi yn cael effaith ddifrifol ar ysbytai cymunedol.

    Ceir rhywfaint o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill yn arbenniggwasanaethau cymdeithasol. Mae enghreifftiau yn cynnwys datblygu gweithwyr iechyda gofal cymdeithasol, nyrsio allan o oriau cyffredin a chysylltiadau â’r systemcyfiawnder troseddol a chynlluniau gwaith cysgodol. Gweithiodd bwrdd yrymddiriedolaeth yn galed i sicrhau cyfranogiad gan gyfran ddeiliaid mawr, ond ceirgwahaniaeth barn am effeithiolrwydd gweithio drwy bartneriaeth. Teimla rhai pobl erbod gweithio integredig yn cael ei drafod, mai ychydig sy’n digwydd. Hyd yn oed o fewnyr ymddiriedolaeth tybir bod amharodrwydd i weithio ar draws yr adrannau neu’rcyfarwyddiaethau.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 35

  • Mae rhywfaint o gyfranogiad cyhoeddus yn y gwaith o gynllunio’r gwasanaeth. Erenghraifft roedd ail gyflwyno uned mamolaeth Caerffili fel gwasanaeth a arweinir ganfydwragedd yn golygu llawer o gyfathrebu â’r gymuned leol. Mynycha’r cyngor iechydcymunedol gyfarfodydd bwrdd yr ymddiriedolaeth a chyflwynwyd panel defnyddwyrgwasanaeth. Ond nid yw cyfranogiad y defnyddwyr wedi ei ddatblygu’n ddigonol.

    Yn ariannol mae’r ymddiriedolaeth yn perfformio’n dda er bod gan y gymuned iechydyn gyffredinol ddiffyg ariannol cronnus. Gosoda cyfarfod adolygu blynyddol rhwng yradrannau a’r bwrdd dargedau adolygu gwasanaeth, gan gynnwys targedaucenedlaethol a llywodraeth glinigol. Caiff y rhain eu monitro gan adrannau chwarterola darperir adroddiadau ar gyfer aelodau bwrdd yr ymddiriedolaeth gan y prifweithredwr. Bwriada’r ymddiriedolaeth ymestyn hyn drwy ail gyflwyno presenoldebcyfarwyddwr anweithredol mewn cyfarfodydd adrannol.

    36 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Cynhaliwyd adolygiad llywodraeth glinigol y Comisiwn Gofal Iechyd rhwng Chwefror aGorffennaf 2004.

    Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r prif ddarganfyddiadau a’r meysydd ar gyfergweithredu sy’n deillio o’r adolygiad. Mae’r ymddiriedolaeth wedi cael crynodeb manwlo’r dystiolaeth y seiliwyd y darganfyddiadau hyn arnynt.

    Bydd yr ymddiriedolaeth yn cynhyrchu cynllun gweithredu a fydd ar gael oddi wrth:

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd GwentLlanfrechfa GrangeCwmbranTorfaenNP44 4YN

    neu o wefan y Comisiwn Gofal Iechyd. Bydd y modd y gweithredir y cynllun gweithredugan yr ymddiriedolaeth yn cael ei fonitro.

    Tîm Adolygu’r Comisiwn Gofal Iechyd

    Ivan BurchessSeicolegydd Clinigol Ymgynghorol, TGS/PCT Dinas Wolverhampton

    Alison BusseyCyfarwyddwr Nyrsio, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Meddwl Buckingham

    Rosemary Davies (adolygydd sy’n ddefnyddiwr y gwasanaeth)Hwylusydd Gwirfoddol a Gweithiwr Prosiect, MIND Bryste

    Dr Robert HallArweinydd Iechyd Meddwl/TG, PEC ac Aelod o’r Bwrdd, TGS/PCT Canol Suffolk

    Keith HollowayCyfarwyddwr Cynorthwyol, Moderneiddio, TGS/PCT Oldham

    Parch Richard LowndesArweinydd Tîm y Gaplaniaeth, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Southampton

    Jane ThwaitesCyfarwyddwr Cysylltiol – Nyrsio Cymunedol, TGS/PCT Guildford a Waverley

    Richard VenningPrif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai King’s Lynne a Wisbech

    Rheolydd adolygu’r Comisiwn Gofal Iechyd oedd Gwen Duncan

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 37

    Gwybodaeth bellach

  • Gellir cael manylion pellach am waith y Comisiwn Gofal Iechyd oddi wrth:

    Healthcare CommissionFinsbury Tower103-105 Bunhill RowLlundain, EC1Y 8TG

    020 7448 9200

    www.healthcarecommission.org.uk

    38 Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004

  • Hoffai’r Comisiwn Gofal Iechyd ddiolch i staff ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent,cleifion ac aelodau’r cyhoedd a roddodd eu hamser i siarad â’r tîm adolygu ac addarparodd yr wybodaeth. O fewn yr ymddiriedolaeth, hoffai’r Comisiwn Gofal Iechydddiolch yn arbennig i’r canlynol:

    Martin Turner, Prif Weithredwr

    Dr Stephen Hunter, Cyfarwyddwr Meddygol

    Christine Baxter, Cyfarwyddwr Nyrsio

    Paul Sussex, Nyrs Arweiniol (cydlynydd yr ymddiriedolaeth)

    Anita Davies, Rheolydd Cefnogi Llywodraeth Glinigol (cydlynydd cynorthwyol yrymddiriedolaeth)

    Hoffai’r Comisiwn Gofal Iechyd ei gwneud yn eglur fod cynnwys yr adroddiad a’ucasgliadau yn gyfrifoldeb i’r Comisiwn Gofal Iechyd yn unig.

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol Gorffennaf 2004 39

    Cydnabyddiaethau:

  • Adroddiad adolygiad ar lywodraeth glinigol

    Healthcare Commission

    Finsbury Tower103-105 Bunhill RowLlundain EC1Y 8TG

    Ffôn 020 7448 9200Ffacs 020 7448 9222Ffôn testun 020 7448 9292

    www.healthcarecommission.org.uk

    www.tso.co.uk

    Ymddiriedolaeth G

    IG G

    ofal Iechyd Gw

    ent

    Gorffennaf 2004

    Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent

    Gorffennaf 2004