22
Crynodeb o gyflwyniad hyfforddi Datblygu’r Gweithlu i Ofalwyr gan Ofal Cymdeithasol Oedolion Wrecsam Rheoli eich straen Rheoli eich straen

Rheoli eich straen

  • Upload
    ismail

  • View
    95

  • Download
    4

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Rheoli eich straen. Crynodeb o gyflwyniad hyfforddi Datblygu’r G weithlu i Ofalwyr gan O fal Cymdeithasol Oedolion Wrecsam. Amcanion y cyflwyniad yma. Dysgu mwy am natur straen a sut i’w reoli a’i atal - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: Rheoli eich straen

Crynodeb o gyflwyniad hyfforddi Datblygu’r Gweithlu i Ofalwyr gan Ofal Cymdeithasol Oedolion Wrecsam

Rheoli eich straenRheoli eich straen

Page 2: Rheoli eich straen

Amcanion y cyflwyniad yma

Dysgu mwy am natur straen a sut i’w reoli a’i atal

Gallu defnyddio’r wybodaeth yma i adnabod straen ynoch chi’ch hun a datblygu strategaethau i’w reoli a’i rwystro

Page 3: Rheoli eich straen

Diffinio straen

Straen yw pan fydd pwysau’n mynd yn

fwy na’r hyn y mae person yn ei ystyried yn faint y gall ymdopi ag o.

Page 4: Rheoli eich straen

Costau straen

Mewn unigolion, mae tystiolaeth i ddangos bod straen yn gallu cyfrannu at amrywiaeth o gyflyrau ac afiechydon megis pwysedd gwaed uchel, trawiad ar y galon/strôc, briw’r stumog, diabetes, angina, canser, arthritis rhiwmatoid, anhwylderau seicolegol

Page 5: Rheoli eich straen

5 cam straen S.Palmer a W. Dryden 1995

Cydnabyddir yn awr bod 5 cam yn yr ‘ymateb i straen’

1. Mae pwysau, ac fel arfer mae’r unigolyn yn ystyried bod hwn yn dod o’r tu allan

2. Mae’r person yn credu nad yw’n gallu ymdopi ac felly mae’n teimlo dan fygythiad

3. Mae newidiadau seicoffisiolegol yn digwydd yn y corff (yr ymateb ‘ymladd neu ffoi’ i straen)

4. Mae’r cam yma’n dibynnu ar ganlyniadau ymateb yr unigolyn i’r uchod a sut maen nhw’n eu beirniadu eu hunain yn y broses yma

5. Adborth, drwy’r meddwl i’r corff – mae hyn yn dibynnu ar gam 4 uchod, mae llwyddiant yn dod â chydbwysedd yn ôl i’r corff, mae methiant yn cynyddu’r pwysau ac mae’r straen yn parhau’n hirach

Page 6: Rheoli eich straen

Cam 3 yn fwy manwl – yr ymateb ‘Ymladd neu Ffoi’ – cyfeirir ato fel BASIC ID yn Saesneg (GES I GRhyB yw’r llythrennau Cymraeg)

• Gweithredu ee. yn osgoi, yn gadael tasgau tan fory• Emosiynol – teimladau emosiynol e.e. pryderus• Synhwyraidd – teimlad nerfus yn y bol, y geg yn

sych• Imaginol – lluniau yn eich pen o’r hyn a allai

ddigwydd• Gwybyddol–eich canfyddiadau eich hunan/sut

rydych yn eich labelu eich hun• Rhyngbersonol – gweithredoedd gyda phobl eraill• Bywydegol – symptomau corfforol e.e. y croen, y

bledren, coluddion, y gwaed - yn amharu ar y system imiwnedd

Page 7: Rheoli eich straen

Rhai o effeithiau straen ar eich corff

Gwythiennau yn culhau, heblaw’r rheiny at y galon, y coesau a’r breichiau, sydd angen yr ocsigen a’r siwgr sy’n cael eu cludo gan y gwaed er mwyn ffoi neu ymladd (e.e. mae wynebau pobl yn mynd yn llwyd gydag ofn am fod y gwaed wedi draenio o’u wynebau)

Mae’r cyhyrau yn y coluddion yn arafu am nad yw’r rhain yn hanfodol i ffoi neu ymladd (e.e. mae pobl yn teimlo crynu yn eu boliau pan fyddent yn ofnus)

Mae mwy o weithgarwch meddyliol yn yr ymennydd felly mae pobl yn teimlo’n fwy effro yn sydyn iawn i weithio eu ffordd allan o sefyllfa beryglus

Gall y gwaed geulo’n well, felly os bydd anaf (fel y maent yn ei ofni) fydden nhw ddim yn gwaedu i farwolaeth.

Mae gan y gwaed hefyd lefelau uchel o fraster a siwgr, i gael eu cludo i’r cyhyrau yn y galon, y breichiau a’r coesau er mwyn darparu’r ynni i allu symud yn gyflym.

Dydy’r chwarennau salifa ddim yn bwysig i ffoi neu ymladd felly mae llai o lif salifa (e.e. mae pobl yn dweud bod eu cegau’n sych gydag ofn)

Mae’r galon yn curo’n gyflymach ac yn galetach i gael y gwaed i’r coesau a’r breichiau’n gyflymach (e.e. Mae pob yn dweud bod eu calonnau’n curo fel gordd am fod ganddynt gymaint o ofn)

Page 8: Rheoli eich straen

Hormonau – y negesyddion cemegol

Mae rhestr hir o hormonau, a chan bob un eu heffeithiau penodol eu hunain ar y corff.

Dim ond yn weddol ddiweddar yr ydym wedi dechrau deall yr hormonau yn yr ymateb i straen. Mae rhywfaint o’r ddealltwriaeth yma wedi dod drwy fesur lefelau hormonau yn y llif gwaed, yn enwedig gwaed pobl mewn sefyllfaoedd arbennig.

Ymysg yr hormonau sy’n cael effaith bwysig ar straen mae adrenalin, noradrenalin a cortisol.

Page 9: Rheoli eich straen

Effeithiau Hormonau

Dyma rai effeithiau:-

Adrenalin:- yn ysgogi cyfradd curiad y galon, yn ymagor gwthiennau a pibellau aer

Noradrenalin:- yn cynyddu’r cyflenwad ocsigen i’r ymennydd, gan wella’r gallu i dalu sylw ac ymateb, yn sbarduno rhyddhau siwgr i’r llif gwaed

Cortisol:- yn cynyddu’r lefelau siwgr yn y gwaed, yn cau’r system atgynhyrchu, yn gwrthweithio inswlin

Page 10: Rheoli eich straen

Emosiynau a lefelau cyfatebol o hormonau yn ymddangos yn y llif gwaed

Dicter noradrenalin cynnydd mawradrenalin cynnydd bachcortisol dim newid

Ofn adrenalin cynnydd mawrcortisol cynnyddnoradrenalin cynnydd bach

Iselder, cortisol cynnydd mawr

Colli adrenalin dim newid

rheolaeth noradrenalin dim newid

Page 11: Rheoli eich straen

Emosiynau a lefelau cyfatebol o hormonau yn ymddangos yn y llif gwaed

Tawelwch adrenalin gostyngiad

Wedi ymlacio noradrenalin gostyngiad

Gorfoledd noradrenalin gostyngiad

Diogelwch adrenalin gostyngiad

Cariad cortisol gostyngiad

Page 12: Rheoli eich straen

Pwysedd a Straen

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod gwahaniaeth ffisiolegol rhwng pwysedd a straen.

Mae gan berson sy’n dioddef straen lefelau uwch o hormonau amrywiol megis adrenalin, noradrenalin a chortisol yn eu llif gwaed na pherson sy’n teimlo wedi’i herio yn unig.

Gallwn weld o’r tudalennau blaenorol beth fydd rhai o effeithiau ffisiolegol hyn. Mae’r ymateb i straen yn hanfodol os yw’r corff angen ffoi neu ymladd, ond os yw’n gorfod aros lle mae a chymryd y pwysau ac mae hyn y digwydd dro ar ôl tro, mae’r effeithiau dros amser yn gallu bod yn negyddol a niweidiol.

Page 13: Rheoli eich straen

Canlyniadau ffisegol Straen tymor hir

Yn gynharach rydym wedi nodi mai un canlyniad i brofi’r ymateb ‘ffoi neu ymladd’ i straen yw bod y cyflenwad gwaed i’r coluddion a gwaith y cyhyrau yn y coluddion yn arafu, am nad yw gwaith y coluddion yn bwysig o dan yr amgylchiadau yma. Os bydd rhywun yn teimlio’n bryderus, yn flin neu’n ofnus yn rheolaidd a dro ar ôl tro, yna mae’n amharu ar waith cywir y coluddion dro ar ôl tro. Canlyniad hyn yn aml iawn yw briw stumog, rhwymedd tymor hir a Syndrom Coluddyn Llidus. Yn eu tro, mae’r rhain i gyd yn effeithio ar allu’r corff i dreulio bwyd yn gywir a chymryd maetholion ohono, a bydd hyn yn effeithio ar nifer o alluoedd eraill y corff.

Bydd brasterau a ryddheir i’r llif gwaed i helpu’r cyhyrau i ymladd neu ffoi yn llifo’n gyflym o amgylch y system os na chânt eu defnyddio am fod y person yn gorfod aros ac ymdopi â rhywbeth yn lle ffoi. Yna bydd brasterau sydd heb gael eu defnyddio’n glynu at waliau’r rhydwelïau, gan achosi risg o bwysedd gwaed uchel a strôc yn y pen draw.

Page 14: Rheoli eich straen

Llai o imiwneddCanlyniad arall bod o dan straen yn barhaus yw’r effaith ar y system

imiwnedd. Mae hyn wedi’i gysylltu ag effeithiau hormonau mewn ffyrdd cymhleth ac mae gwaith ymchwil yn parhau i’r effaith yma. Mae lymffocytau neu gelloedd gwyn y gwaed yn y llif gwaed yn brwydro clefydau a thrwy fesur eu lefelau gallwn gael un arwydd o iechyd system imiwnedd rhywun. Mae imiwnedd is yn golygu bod y person yn cael heintiau’n amlach, a’r rheiny’n amrywio o ddoluriau ar y gwefusau (firws herpes) ac annwyd, i rai mwy difrifol megis ffliw, ME a chanser. Dyma esiamplau o’r gwaith ymchwil:-

Roedd partneriaid i gleifion gyda dementia oedd yn gwneud y gwaith o ofalu amdanynt yn dangos ymateb is yn y lymffocytau gwaed; llai o reolaeth imiwnedd yn y cellau dros feirysau herpes cudd – nid oherwydd cyffuriau, alcohol, arferion cysgu neu faethiad. (Kiecolt et al 1991)

Gwŷr merched gyda chanser y fron oedd yn derfynol wael – ymatebion llai yn y lymffocytau fis ar ôl y marwolaeth – yn dychwelyd i’r lefel gychwynnol yn ystod y cyfnod dilynol o 4 i 14 mis (Schleifer et al, 1983)

Page 15: Rheoli eich straen

Ymarfer

• Meddyliwch am amser pan oeddech o dan straen. Sut oeddech chi’n teimlo? Pa symptomau gawsoch chi? Wnaethoch chi fwynhau’r profiad?

• Nawr meddyliwch am amser pan oeddech yn wynebu her ond doedd yr her ddim yn ormod i chi. Sut oeddech chi’n teimlo? Pa symptomau gawsoch chi? Wnaethoch chi fwynhau’r profiad?

Page 16: Rheoli eich straen

Newid eich ffordd o feddwl i orchfygu straen

Mae Cary Cooper a Stephen Palmer, ymysg eraill, yn cynnig ein bod yn gallu newid y ffordd yr ydym yn ymateb i bwysedd drwy reoli’r ffordd y meddyliwn amdano ac felly gallwn fod mewn rheolaeth, p’un a ydyw’n bwysedd neu’n fygythiad go iawn (gan achosi’r ymateb straen). Maent yn awgrymu ein bod yn:

• Adnabod y camgymeriadau yn y ffordd y meddyliwn sy’n achosi straen

• Defnyddio sgiliau meddwl i ddatrys y broblem

Page 17: Rheoli eich straen

Ymarfer – eich meddyliau pan fyddwch dan straen

Meddyliwch am amser pan oeddech dan straen

Dewch â’r digwyddiad yn ôl i’ch cof. Pa syniadau neu feddyliau oedd yn mynd drwy eich meddwl ar y pryd?

A oedd y meddyliau hyn yn helpu neu’n gwneud pethau’n waeth?

Page 18: Rheoli eich straen

Credoau sy’n achosi Straen (SIB) neu gamgymeriadau meddwl sy’n achosi straen

Mae rhai o’r credoau sydd gennym yn gallu ein trechu ac amharu ar ein tasgau, ac yna gallent greu neu waethygu sefyllfa sy’n llawn straen yn barod.

Os yw rhywun yn dal yn dynn i gredoau sy’n achosi straen, pan fydd digwyddiad yn codi nad yw cystal â disgwyliadau’r person yma, mae hyn yn gwneud iddynt deimlo mwy o bwysedd ynglŷn â’r sefyllfa a gallai achosi straen.

Page 19: Rheoli eich straen

Esiamplau o Gredoau sy’n Achosi Straen

Dylai pethau fynd yn esmwyth

Ni ddylwn i deimlo diflastod

Dylwn ddod ymlaen yn dda gyda fy nheulu

Dydy pethau byth yn gweithio allan yn dda i mi

Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, rhaid bod y bobl sy’n gyfrifol yn ‘wirion’, ‘anobeithiol’, ‘hurt’

Os bydd pethau’n mynd yn ddrwg, ‘alla i ddim goddef hynny’

Sylwch mor eithafol yw’r brawddegau yma a pha mor aml mae’r geiriau ‘dylwn/dylai/rhaid’ yn codi.

Page 20: Rheoli eich straen

Cwestiynau heriol sy’n helpu i weithio yn erbyn cred sy’n achosi straen (SIB)

Lle mae’r gred wedi’i hysgrifennu?Ydy hi’n realistig?A fyddai fy ffrindiau’n cytuno?Ydy pawb yn rhannu fy agwedd? Os nad, pam ddim?Ydw i’n disgwyl i mi fy hun neu bobl eraill fod yn berffaith yn

lle bod yn fodau dynol sy’n siŵr o fethu weithiau?A fydd pethau’n teimlo mor ddrwg â hyn mewn mis neu 2 neu

6?Ydw i’n chwyddo pwysigrwydd y broblem yma?Ydw i’n poeni am y ffordd y dylai pethau fod, yn lle delio gyda

phethau fel y maent?Ydw i’n cymryd pethau’n rhy bersonol?Os na allaf i ddioddef hyn, ydw i am syrthio’n ddarnau mewn

gwirionedd?

Page 21: Rheoli eich straen

Newid eich ymddygiad i drechu straen

• Cefnogaeth gymdeithasol – mae gwaith ymchwil yn dangos mor bwysig yw hi er budd ein hiechyd meddwl a’n cryfder bod gennym rwydwaith o ffrindiau a theulu y gallwn ymlacio â nhw, troi atynt, siarad â nhw, cymryd hoe i fwynhau eu cwmni. Dim ots a yw’r rhwydwaith yn fawr neu’n fach, dim ond ei fod yn teimlo’n gywir i chi.

• Pendantrwydd –byddwch yn bendant yn eich ymddygiad, yn hytrach na bod yn ymosodol neu’n oddefol. Dylech wybod eich hawliau a datblygu ac arfer amrywiaeth o sgiliau pendantrwydd.

• Rheoli amser – mae angen i chi ymarfer rheoli eich amser yn dda er mwyn osgoi eich gadael eich hun heb amser a rhoi pwysau arnoch eich hun. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud ag arfer y pendantrwydd y soniwyd amdano uchod.

Page 22: Rheoli eich straen

Gwella eich iechyd i drechu straen – ffyrdd o fod yn gyfrifol am wneud hyn i drechu’r bygythiadau y

soniwyd amdanynt yn barod • Ymarfer corff - os oes unrhyw beth egnïol iawn,

gofynnwch i’ch meddyg teulu- ei rannu’n sesiynau y gallwch ymdopi â

nhw - ceisiwch ei wneud yn arfer yr ydych yn ei fwynhau

• Maethiad - ceisiwch fwyta diet iach a chytbwys - ystyriwch newid eich dull o fyw (e.e. peidio cael byrbrydau)

- cymerwch ordewdra o ddifrif

• Ymlacio - technegau amrywiol yn cynnwys ioga, tylino, myfyrio, delweddau