4
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost. Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected] Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: y John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888 E-bost: [email protected] tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 7, 2017 Y TYsT Golygydd Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel, Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected] Golygydd Alun Lenny Porth Angel, 26 Teras Picton Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039 E-bost: [email protected] Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â chynnwys y Pedair Tudalen. Golygyddion Cape Town a Chynulleidfaoliaeth - parhad gollwng ni’n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario’r baich o fod yn gaeth byth eto.’ Yn wir, dyma bwnc sylfaenol i’r Cristion ei astudio ym mhob oes. Ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd cawsom ddarlith arbennig iawn gan Dr Coenie Burger ar ddysgeidiaeth y Diwygwyr Protestannaidd am ryddid y Cristion. Llwyddodd Dr Burger i ddangos pa mor bwysig oedd ‘rhyddid’ i Martin Luther, John Calfin a’r Protestaniaid cynnar. Pwysleisia Luther fod y Cristion yn rhydd oddi wrth y gosb mae’n ei haeddu o ganlyniad i’w anufudd-dod i’r Gyfraith trwy waith Iesu ar groes Calfaria. Mae’r Cristion yn awr yn rhydd i addoli Duw a gwasanaethu eraill. Yn wir, dywedodd Luther yn ei draethawd ar ‘Rhyddid y Cristion’ (1520) fod y ‘Cristion yn gwbl rydd oddi wrth bawb heb fod yn ddarostyngedig i neb; er hynny, mae’r Cristion yn was ufudd i bawb, ac yn ddarostyngedig i bawb’. Yn ogystal, siaradodd Dr Burger am egwyddor bwysig y Diwygiad Protestannaidd sy’n ganolog i’r traddodiad cynulleidfaol sef offeiriadaeth yr holl saint. Roedd sylwadau Dr Burger yn arbennig o amserol o feddwl fod Martin Luther wedi hoelio ei 95 thesis ar ddrws eglwys Castell Wittenberg bum can mlynedd yn ôl i’r flwyddyn hon. Un o uchafbwyntiau’r gynhadledd oedd darlith Dr John W. de Gruchy ei hun ar neges yr Arglwydd Iesu at y saith eglwys yn llyfr Datguddiad (Dat. 2–3). Yn ei anerchiad, dywedodd Dr Gruchy fod yn rhaid i ni fel cynulleidfaolwyr ymatal rhag dau berygl penodol. Yn ei dyb ef, y perygl cyntaf ydyw ein bod ni fel annibynwyr yn gwrthod cydweithio ag eglwysi eraill dros achos efengyl yr Arglwydd Iesu. Yr ail berygl, ydy ein bod ni’n peidio â chymryd yr eglwysi lleol o ddifrif gan edrych yn unig ar sefyllfa’r eglwys fyd-eang. Pwysleisiodd Dr Gruchy fod yn rhaid i ni gymryd yr eglwys leol a’r eglwys fyd-eang ill dau o ddifrif. Yn wir, dyma a wna’r Apostol Ioan yn ei Ddatguddiad. Table Mountain a Robben Island Er ein bod wedi treulio llawer o amser yn cynadledda yn brysur, cawsom hefyd amser i edrych ar fannau pwysig Cape Town gan gynnwys Table Mountain a Robben Island. Oherwydd gwyntoedd cryfion y môr, roedd yn rhy beryglus i ni deithio i fyny i gopa’r mynydd yn y cerbyd cebl. Er hynny, cawsom gyfle i ddringo i fan uchel ar ymyl Table Mountain. Roedd yr olygfa yn gwbl ysblennydd. O fy mlaen roedd dinas fawr Cape Town wedi ei hamsugno i’r gwagle hwnnw sydd rwng y môr glas tymhestlog a’r mynydd hirsgwar sy’n amgylchynu’r ddinas. Yn y pellter, roedd llongau mawrion du yn llusgo eu llwyth i wledydd pell. Yr oedd morgrug o geir yn clogio’r strydoedd llydan wrth ddisgwyl i’r goleuadau traffig droi’n wyrdd. Dyma’r math o olygfa sy’n cipio eich gwynt wrth i chi feddwl am ffordd addas i ddisgrifio’r hyn a welwch. Dyma olygfa sy’n eich atgoffa fod Duw grymus wedi creu’r byd hwn. Profiad dirdynnol arall oedd ymweld a charchar Robben Island sydd ychydig filltiroedd i ffwrdd o arfordir De Affrica. Wedi cyrraedd yr ynys fechan wedi taith dri chwarter awr ar y cwch, cawsom fynd i mewn i’r carchar concrit. Cefais fy atgoffa yno pa mor ddrygionus mae dynoliaeth yn gallu bod ar ei gwaethaf. Roedd mor erchyll clywed sut roedd pobl yn derbyn cosbau gwahanol yn dibynnu ar liw eu croen. Er hynny, yr hyn wnaeth fy nharo fwyaf oedd pa mor ddiweddar oedd hyn wedi digwydd. Dim ond yn 1991 y cafodd Robben Island ei gau fel carchar i ‘droseddwyr’ gwleidyddol. Cawsom hefyd weld cell fechan Mandela a’i ardd werdd lle bu’n cuddio copïau o’i lyfr Long Walk to Freedom (1994). Er bod Mandela wedi treulio deunaw mlynedd yn y carchar hwn a naw mlynedd mewn carchardai eraill, dyfalbarhaodd ei freuddwyd am degwch cymdeithasol i Dde Affrica. Erbyn heddiw mae breuddwyd Mandela yn fyw. Arwr yw Mandela a gwag yw celloedd Robben Island. Geraint a’r Cymry Roedd hefyd yn fraint aruthrol cael cefnogi Geraint Tudur, fy ewythr, wrth iddo gadeirio’r gynhadledd fel Llywydd Annibynwyr y Byd. Roedd Geraint yn dilyn ôl troed ei dad, R. Tudur Jones, a fu’n llywydd ar y gynhadledd yn y gorffennol. Hefyd, roedd deg o Gymry eraill wedi dod i’r gynhadledd ac roedd yn braf iawn clywed y Gymraeg yn Ne Affrica. Mae’n rhyfeddol meddwl fod cenedl mor fechan â Chymru wedi cael dylanwad mor enfawr ar gynulleidfaoliaeth fyd-eang. Mae’r dylanwad hwn yn parhau. Ar ddiwedd y gynhadledd, trosglwyddwyd llywyddiaeth yr ICF i’r Parchg Ddr Bruce Theron a fydd yn cadeirio’r gynhadledd nesaf yn America mewn tair blynedd. Diau y bydd yr Annibynwyr Cymraeg yn cael dylanwad pwysig ar y gynhadledd hon hefyd. Gwilym Tudur Golygfa o Cape Town a Table Mountain o’r cwch i Robben Island Dr Coenie Burger yn annerch y gynhadledd Y Parchg Ddr Geraint Tudur, Cyn-lywydd Annibynwyr y Byd Carchar Robben Island, Cape Town Dr John W. de Gruchy

Ffôn: Y Tyst aluntudur @btinternet.com Cape Town a ......2017/07/09  · E-bost: u nde ba i yw r.og dalen 8 Y Pedair YTu dTaleYn sGyTde nwadol Medi 7, 2017 Golygydd Y Parchg Iwan

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:

    Y Parchg Ddr Alun Tudur

    39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,

    Caerdydd, CF23 9BS

    Ffôn: 02920 490582

    E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:

    Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc

    Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJ

    Ffôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 7, 2017Y TYsT

    Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn Jones

    Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,

    LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138

    E-bost: [email protected]

    Golygydd

    Alun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras Picton

    Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 /

    0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

    Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

    chynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    Cape Town a Chynulleidfaoliaeth - parhadgollwng ni’n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr

    eich bod yn aros felly, a gwrthod cario’r

    baich o fod yn gaeth byth eto.’ Yn wir, dyma

    bwnc sylfaenol i’r Cristion ei astudio ym

    mhob oes.

    Ar ddiwrnod

    cyntaf y gynhadledd

    cawsom ddarlith

    arbennig iawn gan Dr

    Coenie Burger ar

    ddysgeidiaeth y

    Diwygwyr

    Protestannaidd am

    ryddid y Cristion.

    Llwyddodd Dr Burger

    i ddangos pa mor

    bwysig oedd ‘rhyddid’ i Martin Luther, John

    Calfin a’r Protestaniaid cynnar. Pwysleisia

    Luther fod y Cristion yn rhydd oddi wrth y

    gosb mae’n ei haeddu o ganlyniad i’w

    anufudd-dod i’r Gyfraith trwy waith Iesu ar

    groes Calfaria. Mae’r Cristion yn awr yn

    rhydd i addoli Duw a gwasanaethu eraill. Yn

    wir, dywedodd Luther yn ei draethawd ar

    ‘Rhyddid y Cristion’ (1520) fod y ‘Cristion

    yn gwbl rydd oddi wrth bawb heb fod yn

    ddarostyngedig i neb; er hynny, mae’r

    Cristion yn was ufudd i bawb, ac yn

    ddarostyngedig i bawb’. Yn ogystal,

    siaradodd Dr Burger am egwyddor bwysig y

    Diwygiad Protestannaidd sy’n ganolog i’r

    traddodiad cynulleidfaol sef offeiriadaeth yr

    holl saint. Roedd sylwadau Dr Burger yn

    arbennig o amserol o feddwl fod Martin

    Luther wedi hoelio ei 95 thesis ar ddrws

    eglwys Castell Wittenberg bum can mlynedd

    yn ôl i’r flwyddyn hon.

    Un o

    uchafbwyntiau’r

    gynhadledd oedd darlith

    Dr John W. de Gruchy

    ei hun ar neges yr

    Arglwydd Iesu at y

    saith eglwys yn llyfr

    Datguddiad (Dat. 2–3).

    Yn ei anerchiad,

    dywedodd Dr Gruchy

    fod yn rhaid i ni fel cynulleidfaolwyr ymatal

    rhag dau berygl penodol. Yn ei dyb ef, y

    perygl cyntaf ydyw ein bod ni fel annibynwyr

    yn gwrthod cydweithio ag eglwysi eraill dros

    achos efengyl yr Arglwydd Iesu. Yr ail

    berygl, ydy ein bod ni’n peidio â chymryd yr

    eglwysi lleol o ddifrif gan edrych yn unig ar

    sefyllfa’r eglwys fyd-eang. Pwysleisiodd Dr

    Gruchy fod yn rhaid i ni gymryd yr eglwys

    leol a’r eglwys fyd-eang ill dau o ddifrif. Yn

    wir, dyma a wna’r Apostol Ioan yn ei

    Ddatguddiad.

    Table Mountain a Robben Island

    Er ein bod wedi treulio llawer o amser yn

    cynadledda yn brysur, cawsom hefyd amser i

    edrych ar fannau pwysig Cape Town gan

    gynnwys Table Mountain a Robben Island.

    Oherwydd gwyntoedd cryfion y môr, roedd

    yn rhy beryglus i ni deithio i fyny i gopa’r

    mynydd yn y cerbyd cebl. Er hynny, cawsom

    gyfle i ddringo i fan uchel ar ymyl Table

    Mountain. Roedd yr olygfa yn gwbl

    ysblennydd. O fy mlaen roedd dinas fawr

    Cape Town wedi ei hamsugno i’r gwagle

    hwnnw sydd rwng y môr glas tymhestlog a’r

    mynydd hirsgwar sy’n amgylchynu’r ddinas.

    Yn y pellter, roedd llongau mawrion du yn

    llusgo eu llwyth i wledydd pell. Yr oedd

    morgrug o geir yn clogio’r strydoedd llydan

    wrth ddisgwyl i’r goleuadau traffig droi’n

    wyrdd. Dyma’r math o olygfa sy’n cipio eich

    gwynt wrth i chi feddwl am ffordd addas i

    ddisgrifio’r hyn a welwch. Dyma olygfa sy’n

    eich atgoffa fod Duw grymus wedi creu’r byd

    hwn.

    Profiad dirdynnol arall oedd ymweld a

    charchar Robben Island sydd ychydig

    filltiroedd i ffwrdd o arfordir De Affrica.

    Wedi cyrraedd yr ynys fechan wedi taith dri

    chwarter awr ar y cwch, cawsom fynd i

    mewn i’r carchar concrit. Cefais fy atgoffa

    yno pa mor ddrygionus mae dynoliaeth yn

    gallu bod ar ei gwaethaf. Roedd mor erchyll

    clywed sut roedd pobl yn derbyn cosbau

    gwahanol yn dibynnu ar liw eu croen. Er

    hynny, yr hyn wnaeth fy nharo fwyaf oedd pa

    mor ddiweddar oedd hyn wedi digwydd.

    Dim ond yn 1991 y cafodd Robben Island ei

    gau fel carchar i ‘droseddwyr’ gwleidyddol.

    Cawsom hefyd weld cell fechan Mandela a’i

    ardd werdd lle bu’n cuddio copïau o’i lyfr

    Long Walk to Freedom (1994). Er bod

    Mandela wedi treulio deunaw mlynedd yn y

    carchar hwn a naw mlynedd mewn

    carchardai eraill, dyfalbarhaodd ei

    freuddwyd am degwch cymdeithasol i Dde

    Affrica. Erbyn heddiw mae breuddwyd

    Mandela yn fyw. Arwr yw Mandela a gwag

    yw celloedd Robben Island.

    Geraint a’r Cymry

    Roedd hefyd yn fraint

    aruthrol cael cefnogi

    Geraint Tudur, fy ewythr,

    wrth iddo gadeirio’r

    gynhadledd fel Llywydd

    Annibynwyr y Byd.

    Roedd Geraint yn dilyn

    ôl troed ei dad, R. Tudur

    Jones, a fu’n llywydd ar

    y gynhadledd yn y

    gorffennol. Hefyd, roedd

    deg o Gymry eraill wedi

    dod i’r gynhadledd ac

    roedd yn braf iawn clywed y Gymraeg yn

    Ne Affrica. Mae’n rhyfeddol meddwl fod

    cenedl mor fechan â Chymru wedi cael

    dylanwad mor enfawr ar gynulleidfaoliaeth

    fyd-eang. Mae’r dylanwad hwn yn parhau.

    Ar ddiwedd y gynhadledd, trosglwyddwyd

    llywyddiaeth yr ICF i’r Parchg Ddr Bruce

    Theron a fydd yn cadeirio’r gynhadledd

    nesaf yn America mewn tair blynedd. Diau

    y bydd yr Annibynwyr Cymraeg yn cael

    dylanwad pwysig ar y gynhadledd hon

    hefyd. Gwilym Tudur

    Golygfa o Cape Town a Table Mountain o’r cwch i Robben Island

    Dr Coenie Burger

    yn annerch y

    gynhadledd

    Y Parchg Ddr

    Geraint Tudur,

    Cyn-lywydd

    Annibynwyr y

    Byd

    Carchar Robben Island, Cape Town

    Dr John W.

    de Gruchy

  • Y TYsTPaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg

    sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 36 Medi 7, 2017 50c.

    TAITH Y PERERINIONPererindod Bethania, TymblUchaf i Gapel Hermon, Treorciac Eglwys Unedig Llanfair ymMhen-rhys

    Dydd Sul, 16 Gorffennaf ac er bod y tywydd

    yn ddiflas a niwlog, daeth llond bws o

    aelodau Eglwys Annibynnol Bethania,

    Tymbl Uchaf at ei gilydd i fynd ar ein

    Pererindod flynyddol.

    Treorci

    Eleni aethom dros y Rhigos i Gwm

    Rhondda ac i Gapel Hermon, Treorci a

    chael oedfa yno dan ofal ein Gweinidog, y

    Parchg Gareth Morgan Jones ynghyd ag

    aelodau’r eglwys. Diolch iddo am drefnu’r

    daith ac am ei fewnbwn gwybodus am yr

    ardal. Cawsom groeso cynnes yn Hermon

    gan un o’i diaconiaid, Cennard Davies,

    awdur, hanesydd a gweithiwr brwd dros yr

    iaith Gymraeg. Cyflwynodd hanes diddorol

    Hermon i ni a’r cyfnod pan oedd yr organ

    yn organ bwmp (cyn iddi gael ei

    thrydaneiddio) a fe wrth y fegin. Ar ôl y

    gwasanaeth, ymgasglwyd yn y Festri i gael

    ein brechdanau ac aelodau Hermon yn

    garedig iawn yn gweini te a chofi a

    danteithion melys. Cafwyd cyfle i

    gymdeithasu a chael rhagor o hanes Treorci

    cyn i ni droedio ’nôl at y bws a chael ein

    cludo o amgylch y dref gyda Cennard yn

    dywysydd gwybodus diddorol iawn.

    Pen-rhys

    Ar ôl ymadael a Threorci, siwrnai hwylus

    i’n lleoliad nesaf, Eglwys Unedig Llanfair

    ym Mhen-rhys sy’n dathlu 25 mlynedd o

    wasanaeth i’r ardal. Pentref bychan a leolir

    1,100 troedfedd i fyny ar fryn rhwng y

    Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach yw Pen-

    rhys. Mae’n bentref difreintiedig sy’n elwa

    llawer ar y gwasanaethau mae’r Eglwys yn

    eu darparu. Mae’n ganolfan i’r gymuned ac

    yn cynnig cymorth i’r holl bentrefwyr.

    Ynghyd â gwasanaethau Cristnogol ar

    ddyddiau Sul, Llun, Mercher a Gwener,

    mae caffi, siop ddillad, golchdy, clwb

    gwaith cartre a chwaraeon yn cael eu

    cynnal – popeth sydd ei angen i

    gymdeithasu.

    Cymwynaswyr

    Cawsom groeso

    cynnes gan

    Sharon Rees a

    chael cyfle i

    gwrdd â rhai o’r

    trigolion a

    chlywed ei

    storïau. Mae

    Sharon wedi bod

    ynghlwm ag

    Eglwys Llanfair

    ers y cychwyn ac

    mae’n aelod

    ffyddlon yng

    Nghapel yr

    Alltwen, un o gapeli’r Parchedig Gareth

    Morgan Jones. Mae pâr o India a

    Madagascar a’u teulu ifanc yn genhadon

    yno ac yn weithgar iawn – fel mae’r olwyn

    yn troi; dwy ganrif yn ôl, Cymry oedd yn

    cenhadu i’w gwledydd hwy.

    Cynhaliwyd gwasanaeth yn yr Eglwys a

    phawb yn cymryd rhan gan gynnwys y

    plant a ganodd gân i ni. Cyflwynodd y

    Parchedig Gareth Morgan Jones siec

    sylweddol oddi wrth Fethania i Sharon er

    mwyn cefnogi’r gwaith. Yn ystod y te a

    chacennau ar ôl y gwasanaeth cafwyd cyfle

    i gymdeithasu a gweld y lle yn ei

    gyfanrwydd

    Melys moes mwy

    Erbyn y prynhawn, gwellodd y tywydd a

    chawsom gyfle i fwynhau golygfeydd yr

    ardal. Doedd dim pawb yn ysu am ein

    swper yn Glancynon Arms,

    Hirwaun, am ein bod wedi cael

    cymaint o fwyd yn Hermon a

    Phen-rhys, ond rhoddwyd cynnig

    da arni a phawb wedi mwynhau’r

    wledd a osodwyd o’n blaenau.

    Roedd wedi naw o’r gloch yr

    hwyr erbyn i ni gyrraedd ’nôl ym

    Methania, a phawb wedi blino’n

    lân ond wedi cael diwrnod

    bendithiol. Bethan Owen Evans

    (Ysgrifennydd)

    DathluTrichanmlwyddiantEglwys Rhydybont,

    Llanybydder.Mae’r flwyddyn 2017 yn un arbennig

    i Eglwys Rhydybont oherwydd

    sefydlwyd yr Eglwys yn 1717.

    Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ar

    ddydd Sadwrn yr 22 Gorffennaf am

    ddau o’r gloch y prynhawn o dan

    lywyddiaeth ein gweinidog y Parchg

    D. Huw Roberts.

    Dewiswyd yr emynau yn ofalus am eu

    cynnwys a’u priodoldeb i’r achlysur

    gan Mrs Elonwy Davies a rhannwyd y

    gwaith o chwarae’r organ rhwng Mrs

    Davies a Mrs Elma Jones.

    Cyflwynwyd yr emynau gan Mrs Bety

    Jones, Mr Merfyn Thomas a Mrs

    Irene Davies. Gweddïodd Mrs

    Noelene Davies ac amlinellodd Mr J.

    Stanley Evans hanes yr Eglwys.

    Cafwyd anerchiadau pwrpasol a

    diddorol gan y cyn-weinidogion sef y

    Parchedigion Aled D. Jones a Meirion

    Sewell. Cyflwynodd Mr Peter Harris,

    Arweinydd Capel lsaac a Llywydd

    Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a

    Brycheiniog, longyfarchion i’r Eglwys

    ar ran Capel Isaac a’r Cyfundeb.

    Cafwyd pregeth fer i gloi’r

    gwasanaeth gan ein gweinidog.

    Wedi’r gwasanaeth gwahoddwyd

    y gynulleidfa i de ysgafn yn festri

    Aberduar a ble yr oedd llyfr ar werth

    yn olrhain hanes yr Eglwys dros y

    dair canrif wedi ei ysgrifennu gan J.

    Stanley Evans.

    J. S. Evans

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 7, 2017Y TYsT

    Lleisiau Grymus o LeipzigPumed ran adroddiad o Gyngor

    Cyffredinol Cymundeb Byd-eang yr

    Eglwysi Diwygiedig gan Noel Davies

    Cawsom fewnbwn diwinyddol a Beiblaidd

    heriol a bywiog o sawl cyfeiriad yn y

    Cyngor cyffredinol yn Leipzig ond yr

    uchafbwyntiau i mi oedd darlith gan un o

    gewri diwinyddol yr ugeinfed ganrif a dwy

    astudiaeth Feiblaidd, un o Fecsico ac un o

    Balestina.

    Cyfiawnder a Moltmann

    Ychydig a feddyliais pan

    ddarllenais lyfr cyntaf

    Jürgen Moltmann,

    Theology of Hope, yn y

    coleg yn 1967 y byddwn

    yn gwrando arno’n rhoi

    anerchiad grymus dros

    50 mlynedd yn

    ddiweddarach ac yntau’n

    91 oed! Yn Leipzig

    rhoddodd bwyslais arbennig ar un o

    themâu canolog y

    Cyngor, cyfiawnder

    (righteousness,

    justice). Yn ôl

    Moltmann, ‘Mae

    cyfiawnder wastad yn

    dod yn rhy hwyr, ond

    y mae’n rhaid iddo

    ddod… Nid barnu

    rhwng daioni a

    drygioni yn unig a

    wna cyfiawnder Duw. Y mae’n gyfiawnder

    creadigol sy’n gweithredu cyfiawnder. I

    ddioddefwyr anghyfiawnder y mae’n dod â

    chyfiawnder iddynt. I wneuthurwyr

    drygioni y mae’n adfer cyfiawnder ac yn

    gwneud pethau’n iawn

    eto.’

    Ar ddiwedd ei

    anerchiad, soniodd am

    gyfarwyddyd a roddir i

    beilot awyren pan

    mae’n cael hyfforddiant

    am y defnydd o’r holl

    offer electronig a

    chyfrifiadurol sydd

    mewn awyren heddiw:

    ‘Always think ahead of the aircraft!’

    (Rhaid iti geisio dychmygu, y tu hwnt i’r

    dechnoleg, beth fydd yn digwydd i’r

    awyren.) Rhaid inni ymestyn ein

    dychymyg a’i ddefnyddio i ddychmygu

    Teyrnas Dduw a bywyd a’i brydferthwch.

    Nid oes angen inni fod yn broffwydi i

    wneud hyn. Dychmygwn y dyfodol.

    Mynnwn gael ein meddiannu gan Ysbryd

    creadigol Duw. Cofiwn: ‘Roedd yr haul

    wedi codi.’ (Marc 16.2) (Roedd Iesu’n fyw

    a’r byd newydd wedi gwawrio.)

    Tamez a Phebe

    Yn ei hastudiaeth

    Feiblaidd rhoddodd

    Elsa Tamez o

    Fecsico gyfle inni

    wrando ar lais

    Phebe, y mae Paul

    yn sôn amdani ym

    mhennod olaf

    Rhufeiniaid. Yn ôl Paul, ‘Dim ond pethau

    da sydd gen i i’w dweud am Phebe, ein

    chwaer sy’n gwasanaethu (diaconia yw’r

    gair gwreiddiol) yn eglwys Cenchrea.’ Yn

    ôl Tamez, ‘Geilw Paul yma am

    drawsffurfiad parhaol a dwfn o

    gymunedau. Rhaid i Gristnogion fod yn

    esiampl. Rhaid i ni wybod fod modd inni

    fod yn wahanol i’r rhai a lywodraethir gan

    eiddigedd, cystadlu a blys personol. Y mae

    anghyfiawnder yn erbyn gwragedd mewn

    gwledydd ar draws y byd yn gyfystyr â

    hunanladdiad neu lofruddiaeth … Y mae

    Duw yn cadw’n dawel er mwyn i ferched a

    dynion lefaru, protestio ac ymdrechu. Mae

    Duw’n cadw’n dawel er mwyn i bobl fod

    yn bobl … Mae Duw’n disgwyl am y

    waedd o brotest.’ Dychmygodd Tamez

    Phebe’n dweud, ‘Mae fy nghaethferch yn

    fy ngalw i’n chwaer, a byddaf fi’n ei galw

    hithau’n chwaer hefyd. Dyma ddechrau’r

    byd newydd: troi gwerthoedd â’u pen i

    waered.’

    Raheb a Phalesteina

    Mae Mitri Raheb yn weinidog a diwinydd

    ym Methlehem ac yn llais radical a heriol

    dros y Palesteiniaid.

    Mewn astudiaeth ar

    Luc 4, 16–20, sef,

    pregeth Iesu yn

    synagog Nasareth,

    cawsom ein

    hatgoffa y ‘ganwyd

    Iesu dan

    feddiannaeth

    Rhufain, treuliodd

    ei holl fywyd dan yr

    ymerodraeth, ac fe’i lladdwyd ar y groes

    dan yr ymerodraeth. Sut y gallwn ddeall

    Iesu hanes heb ddeall sut mae

    meddiannaeth o’r fath yn effeithio ar bob

    agwedd ar fywyd?’

    Mynnodd Mitri Raheb na ellir deall

    pregeth Iesu oni bai ein bod yn deall mai

    Palestina a than feddiannaeth Rhufain oedd

    y cyd-destun. ‘Nid neges ysbrydol oedd

    hon yn gyntaf ond neges wleidyddol. Nid

    eneidiau oedd y grŵp targed ond “y bobl

    dlawd”. Mab Mair sydd yma ac y mae’n

    rhannu â’i fam ddiwinyddiaeth y

    Magnificat … Ni chyflawnodd Iesu ei

    amcanion o dan iau’r Ymerodraeth

    Rufeinig, fwy nag y cyflawnwyd amcanion

    Eseia 61 (a ddyfynnir gan Iesu) o dan iau

    Babilon.’

    Heddiw

    ‘Actau’r Apostolion yw parhad y

    weinidogaeth hon. “Pryd fyddi di’n adfer y

    deyrnas i Israel?” “Fe ddaw’r Ysbryd Glân

    arnoch chwi …” (Actau 1.6–7). Y mae

    diwedd Actau yn benagored. Rhaid cadw’n

    traed ar y ddaear a’n dwylo’n barod i

    waith. Heddiw! Roedd cwestiwn y

    disgyblion ynglŷn â rhyddhad gwleidyddol.

    Roedd ateb Iesu yn trosglwyddo

    cenhadaeth y Deyrnas i’n dwylo ni.

    ‘Nid yw ffydd adnewyddol y Diwygiad

    Protestannaidd,’ meddai Mitri Raheb, ‘yn

    fater o ddychymyg yn unig ond yn fater o

    obaith, o weledigaeth ar waith heddiw.

    Gobaith yw byw yn y byd real a buddsoddi

    mewn ffordd wahanol HEDDIW. Felly,

    mae’n rhaid inni gyfieithu’r Diwygiad i

    heddiw a’i ddeall fel trawsffurfiad, wyneb

    yn wyneb â grymoedd ymerodraeth.’

    Yn y tri chyfraniad hyn dyma’n

    hatgoffa fel teulu Diwygiedig byd-eang ac

    fel Annibynwyr yng Nghymru y gall y

    Beibl ein herio o hyd ac y gall

    diwinyddiaeth ein hysgogi a’n harfogi.

    Peidiwn fyth â bychanu’r naill na’r llall yn

    ein prifiant Cristnogol heddiw. Y mae’r

    ddau yn greiddiol i’n tystiolaeth Gristnogol

    gyfoes.

    I’w barhau

  • Medi 7, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT

    Cape Town a ChynulleidfaoliaethRhwng 4 a 12 Gorffennaf cefais i’r fraint

    aruthrol o fynychu cynhadledd

    Cymdeithas Annibynwyr y Byd neu’r

    ICF (International Congregational

    Fellowship) ym Mhrifysgol Stellenbosch,

    De Affrica. Nid cynulleidfaoliaeth ydy’r

    peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl pan

    sonnir am Dde Affrica. Yn wir, De

    Affrica ydyw gwlad Nelson Rolihlahla

    Mandela, Desmond Tutu a’r iaith

    Afrikaans. Serch hynny, mae

    cynulleidfaoliaeth yn fudiad pwysig yn

    hanes y genedl hon. Yn wir, y mae

    sylfeini’r eglwysi cynulleidfaol i’w

    canfod yng ngwaith y London Missionary

    Society (LMS). Yn 1799 anfonodd yr

    LMS Dr Theodorus van der Kemp i’r

    penrhyn fel cennad i rannu’r newyddion

    da am Iesu Grist. Wedi hynny, yn 1801,

    sefydlodd ef yr eglwys annibynnol gyntaf

    yn Cape Town. Er bod amryw o enwadau

    Cristnogol wedi cefnogi’r system erchyll

    hwnnw o arwahanu a elwir yn apartheid,

    daeth gwrthwynebiad i’r system gan

    annibynwyr nodweddiadol o’r enw John

    W. de Gruchy. Ymgyrchodd ef yn erbyn

    y drefn apartheid ac ysgrifennodd y llyfr

    pwysig hwnnw Reconciliation: Restoring

    Justice (2002) sy’n dadlau fod

    Cristnogaeth yn allweddol ar gyfer

    sicrhau cyfiawnder a chymod yn Ne

    Affrica a’r byd. Erbyn heddiw mae gan

    yr United Congregational Church of

    Southern Africa 500,000 o aelodau mewn

    450 o eglwysi. Mae’r eglwysi

    cynulleidfaol felly yn dystion pwysig i’r

    newyddion da am yr Arglwydd Iesu yn

    Ne Affrica. Braint oedd cael treulio amser

    yn eu cwmni yn Stellenbosch.

    Y Gynhadledd: Rhyddid, Luther aDatguddiad Ioan

    Thema fawr y gynhadledd hon oedd

    ‘rhyddid’ y Cristion. Dyma thema

    arwyddocaol iawn o feddwl pa mor

    bwysig ydyw rhyddid i Dde Affrica.

    Mae’r darlun o Nelson Mandela yn cael

    ei ryddhau o’r carchar yn 1990 gydag

    Winnie wrth ei ochr a’i fraich wedi ei

    godi mewn buddugoliaeth bellach wedi

    dod yn symbol rhyngwladol o ryddid.

    Bwriad y thema hon oedd ystyried sut

    mae’r Cristion wedi cael ei ryddhau trwy

    waith achubol yr Arglwydd Iesu Grist.

    Yn wir, mae Galatiaid 5:1 yn dweud:

    ‘Dŷn ni’n rhydd! Mae’r Meseia wedi’n

    parhad ar y dudalen gefn

    Y Glec Fawr, y Cread a Duw Lansiwyd cyfrol eithriadol o bwysig i ni

    fel Cristnogion ym Mhabell y Coleg

    Cymraeg yn

    Eisteddfod

    Genedlaethol

    Môn sef,

    Cristnogaeth a

    Gwyddoniaeth.

    Dau Gristion

    gyda chefndir

    gwyddonol sydd

    wedi mynd ati i

    lunio’r gwaith

    hwn sef Dr Noel

    Davies, Abertawe

    a Dr Hefin Jones,

    Caerdydd. Mae’r

    gyfrol hon yn

    mynd ati i drafod

    dau bwnc sydd yn

    aml yn cael eu gwahanu yn llwyr gan y

    gymdeithas wrth iddynt dybio nad oes

    unrhyw dir cyffredin rhyngddynt, sef

    Cristnogaeth a Gwyddoniaeth. Rwy’n sicr

    y bydd rhai o benodau’r llyfr hwn at eich

    dant os oes gennych ddiddordeb yn y

    drafodaeth gyfoes hon sydd ar brydiau yn

    troi’n wenfflam. Dyma benawdau rhai o’r

    penodau, ‘Gwyddoniaeth a

    Diwinyddiaeth: Rhai Seiliau

    Athronyddol’; ‘Y Glec Fawr, y Cread a

    Duw’; ‘Darwin, DNA a Duw’;

    ‘Biotechnoleg a Datblygiadau Meddygol’.

    Efallai fod eich ffydd yn cael ei herio gan

    ddatblygiadau gwyddonol a’r hyn a

    ddywed rhai gwyddonwyr

    blaenllaw anghrediniol. Byddai’n

    werth i chi ddarllen y Llyfr hwn

    Cadeiriwyd y lansiad gan y

    Parchg Ddr R. Alun Evans, cyn

    Lywydd Undeb yr Annibynwyr,

    yn wir roedd chwech o gyn-

    lywyddion yr Undeb yn bresennol

    yn y digwyddiad. Dywedodd Noel

    a Hefin air am eu cydweithio wrth

    baratoi’r gwaith ac

    fe gyfrannodd y

    Parchg Dr Denzil

    Morgan gan nodi

    pa mor bwysig

    oedd y cyfraniad

    hwn. Dywedodd

    Hefin,

    ‘Ymgais yw’r llyfr i

    ysgogi trafodaeth. Nid

    yw’n fwriad gan yr un

    ohonom (rwy’n credu y

    medraf siarad ar ran Noel)

    i droi unrhyw Gristion yn

    anffyddiwr o wyddonydd,

    nac unrhyw wyddonydd yn

    Gristion efengylaidd. Ein bwriad, hyd y

    gwelaf i, yw sbarduno trafodaeth fel bod y

    berthynas rhwng Cristnogaeth a

    gwyddoniaeth yn derbyn y chwarae teg

    dyladwy. Hynny yn y gobaith y gall y

    ddwy garfan, os carfannau ydynt mewn

    gwirionedd, ddod i ddeall ei gilydd yn

    well … a phwy a ŵyr, efallai ddod i

    sylweddoli, nad dau begwn cwbl ar wahân

    sydd gennym ond dau lwybr yn ceisio, yn

    ymdrechu, yn eu ffyrdd eu hunan, i ateb

    yr un cwestiwn.’

    Diolch o galon i Noel Davies a Hefin

    Jones am eu gwaith mawr. Cyhoeddir y

    gyfrol gan Wasg Prifysgol Cymru ac y

    mae ar werth mewn siopau llyfrau am

    £16.99.