50
C YMDEITHAS E DWARD L LWYD Y Naturiaethwr Cyfres 2 Rhif 16 Gorffennaf 2005

gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2005.pdfGair gan y Golygydd Goronwy Wynne, Gwylfa, Licswm, Treffynnon, Sir Fflint, CH8 8NQ. Ffôn: 01352 780689 summer_2005_Text_Pages

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

    Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

    Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdalgan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr

    Cyfres 2 Rhif 16 Gorffennaf 2005

    cover_summer_2005 17/8/05 14:45 Page 1

  • Cymdeithas Edward LlwydSefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas GenedlaetholNaturiaethwyr Cymru. Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd ynei gyfnod “y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu droseu gwarchod. Mae’r Gymdeithas yn:

    • trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

    Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £12Teulu - £18I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ.

    www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

    Clawr blaen:

    Twyni Talacre, Sir y Fflint.Cynefin y Moresg a Chelyn y Môr

    Clawr ôl:

    Deilen Gron (Umbilicus rupestris)

    Cyffredin ar greigiau a chloddiau ar dir asidig.

    Lluniau: Goronwy Wynne.

    Lluniau’r Clawr

    cover_summer_2005 17/8/05 14:45 Page 2

  • Golygydd: Goronwy Wynne, “Gwylfa”,Licswm, Treffynnon, Sir Fflint CH8 8NQ.

    Cymdeithas Edward Llwyd 2004 – 05

    Llywydd: Dafydd Davies

    Cadeirydd: Harri Willliams

    Is-gadeirydd: Ieuan Roberts

    Trysorydd: Ifor Griffiths

    Ysgrifennydd: Gruff Roberts, ‘Drws-y-coed’,119 Ffordd y Cwm, Diserth, Sir DdinbychLL18 6HR.

    Ysgrifennydd Aelodaeth: Iwan Roberts,3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun,Sir Ddinbych LL15 1BT.

    Y NaturiaethwrCyfres 2, Rhif 16, Gorffennaf 2005.

    Cyhoeddir Y Naturiaethwr gan GymdeithasEdward Llwyd.

    Dyluniwyd gan: MicroGraphics

    Argraffwyd gan: Design2Print

    Mae hawlfraint pob erthygl yn eiddo i’r awdur.

    Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 16 Gorffennaf 2005

    Cynnwystudalen

    Gair gan y Golygydd 3Goronwy WynneMôr Wiail 4Bethan Wyn JonesLlygoden y Bengron Dŵr 8Rebecca GwynAnrhydeddu Aelodau 9Llên y Llysiau 10Twm EliasAdfer Corsydd 13Paul WilliamsCerdd 15Meic StephensY Ffawydden 16Elinor GwynAfon Sgethin 18Huw Dafydd JonesYmgyrch Pandora 24Kelvin JonesMwynwr y Gastanwydden 26Hefin JonesPlanhigion Tramor yn Eryri 27Dewi JonesGarlleg a’r Iaith Saesneg 31Osborn JonesRhwyfwr Cochddu Mawr 34Emrys EvansDod i nabod ein gilydd – Gwyn Jones 36Dai LlywelynLlun pwy? 37Llythyrau 38

    Elizabeth JonesNia Lois GriffithsMaldwyn ThomasJohn Lloyd Jones

    Wyddoch chi………? 42Adolygiadau 43

    Llyfr Adar IoloChwyn Joe PyeTaflenni FSCY Wiwer Goch

    Cywiriad 47

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 1

  • Mae hi’n hwyr y pnawnar ddiwrnod glawog ymmis Gorffennaf, aGolygydd Y Naturiaethwrwrth ei ddesg yn methu’nlân â dyfalu beth i’wddweud yn ei golofnolygyddol. Dyma droi i’rcylchgrawn safonol

    hwnnw The North Western Naturalist amysbrydoliaeth, a gweld beth oedd gan yGolygydd i’w ddweud yn 1930!

    Dyma’r enw Snowdonia yn neidio atafo’r dudalen gyntaf, a dyma ddarllen bodawydd cynyddol ymhlith nifer o gyrffcadwraethol a gwyddonol i sefydlu parciaucenedlaethol. Daeth y symbyliad o’rAmerica, ac ymhlith yr enwau a ystyrid ary cychwyn oedd Ardal y Llynnoedd acEryri. Cymerodd dros ugain mlynedd i’rbreuddwyd droi’n ffaith – sefydlwyd ParcCenedlaethol Eryri yn 1951, yn ymestyn oGonwy i Aberdyfi ac o Benrhyndeudraethi’r Bala.

    Ers blynyddoedd bellach y mae tri pharccenedlaethol yng Nghymru – Eryri, BanauBrycheiniog ac Arfordir Penfro. Maechwech yn Lloegr a dau yn yr Alban.

    Rydw i newydd ddod adre o Ganada, arôl gwyliau gyda ffrindiau yn Vancouver.Mae hi’n ddinas fawr a’r traffig yn enbyd,ond y mae wedi’i lleoli’n ddelfrydol rhwngmôr a mynydd, gyda llawer o lecynnautawel yng nghanol y bwrlwm. Mae StanleyPark yn un o’r parciau dinesig mwyaf yn ybyd, ac mae cerdded yn y goedwig frodorolyn brofiad hynod. ’Doedd dim cyfle y trohwn i grwydro ’mhell o’r ddinas – er bodmynyddoedd British Columbia’n galw –ond rhaid i mi sôn am un profiad. Mae tŷgwydr enfawr yn un o’r parciau yngnghanol Vancouver, gyda chasgliad o goeda phlanhigion trofannol. Y rheswmarbennig i ni fynd yno oedd bod un owyrion fy nghyfaill, bachgen ysgol prin ynddeuddeg oed, ar dân eisio dangos yplanhigion i mi! Ac felly bu – a ninnau ynrhyfeddu at ei wybodaeth a’i frwdfrydedd.Rydw i wedi gweld llawer casgliad oblanhigion tebyg yn fy nydd – ac wedianghofio enwau’r rhan fwyaf! – ond rydwi’n cofio’r tân yn llygaid Jesse wrth iddodywys ei ‘ffrind o Gymru’ o gwmpas y tŷgwydr. Mae’n rhaid bod ’ne rywbeth yn ybusnes byd natur ’ma wedi’r cyfan!

    3

    Gair gan y GolygyddGoronwy Wynne, Gwylfa, Licswm, Treffynnon,

    Sir Fflint, CH8 8NQ.

    Ffôn: 01352 780689

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 3

  • Ar ôl ymgynghori â’r ‘Liverpool andIrish Sea Tide Table’ dyma weld fod ynalanw mawr ganol mis Mawrth, ac wrthgwrs mae hynny’n golygu fod y môr ynmynd ymhell allan pan fo’r llanw’n isel. A phan fydd hynny’n digwydd yna mae’nwerth mynd i lawr i lan y môr i weld bewelwch chi.

    Mae yna bedair rhan i’r traeth creigiog:Llain y diferion Splash zoneGlastraeth Littoral fringeCanol y traeth Eulittoral zoneLlain isarforol Sublittoral zoneMae’r glastraeth a chanol y traeth gyda’i

    gilydd yn gwneud y llain arforol (Littoralzone), ond yn amlach na pheidio mae pawbyn cyfeirio at y rhannau fel llain y diferion,y rhan werdd, y rhan frown a’r rhan gochneu lain y môr-wiail. Y llain isarforol, yllain agosaf at y môr, ydi ble dowch chi ardraws y môr-wiail – y Laminaria enfawr,sy’n lliw aur/frown cyfoethog. (1945)

    Ar yr unfed ar ddeg o Fawrth eleniroedd y llanw mor isel ag y gallai o fod –10.2m neu 33.5 troedfedd! Felly dymaanelu trwyn y car am Foelfre fin nos. Yn ôl

    y tabl llanw, roedd y trai am tua ugainmunud wedi chwech y nos, felly dyna prydroedd yn rhaid cyrraedd yno. A wir i chi erei bod hi’n oer ac yn wyntog ac yn bwrwcawodydd o genllysg reit drwm, ches i mofy siomi. Roedd y llanw ymhell allan –ymhellach nag roeddwn i wedi ei weld erstro, a bron na fedrech chi dyngu y gallechchi gerdded ar draws hynny o fôr oedd ynarhwng y lan ac ynys Moelfre. (1935)

    Roedd hi’n rhyfeddol bod yna. Roedd ytywydd yn reit arw ac am fod y gwynt morgryf, roedd yna un neu ddwy o longaumawr yn llechu yn y bae, ond ar y lan, arddwy ochr y swnt, roedd yna heidiau owylanod a phiod y môr yn tyrru i chwilioam fwyd. Ond wedi mynd yna’n benodol iweld y gwymon mawr brown – y môr-wiailneu’r Laminaria – oeddwn i, a wir i chiroedd hi’n werth gwneud yr ymdrech i fynd.

    Mae yna sawl math o’r rhain ar arfordirCymru, ac mae yna sawl peth sy’n gyffrediniddyn nhw – maen nhw’n fawr, yn frownneu’n aur/frown, ac maen nhw’n tyfu ar ranisaf y traeth – y llain isarforol. Mae’n rhaididdyn nhw dyfu’n ddigon isel ar y traeth ermwyn iddyn nhw fedru sefyll i fyny yn y

    4

    Môr-wiail (Laminaria)Bethan Wyn Jones

    Dyma’r ail o ddwy erthygl am fywyd y traeth gan yr awdur o Ynys Môn

    Bron na fedrech chi gerdded ar draws y swnt i YnysMoelfre

    Llun cyffredinol o’r llain isarforol gyda gwylanod aphioden y môr yn bwydo ymysg y môr-wiail

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 4

  • môr pan fydd y llanw’n uchel. Oni bai eichbod chi’n plymio neu’n nofio dan wyneb ymôr welwch chi mo’r rhain yn eugogoniant. Os ydach chi’n gallu gwneudhyn, yna mi fyddwch chi’n ymwybodol eichbod chi’n nofio yng nghanol coedwig fawr.Ond os, fel fi, nad ydach chi’n gallugwneud hyn, rydach chi’n ddibynnol ar eugweld wedi eu golchi i fyny ar y lan.

    Mae gan bob un ohonyn nhw angor(3545) maen nhw’n ei fwrw i ddal euhunain wrth graig neu rywbeth tebyg arwaelod y môr. Yr ‘holdfast’, ydi’r enwSaesneg ar hwn, a phan fydd y llanw allancyn belled ag yr aiff, mi welwch chi’rgwymon mawr brown yn gorwedd ynddifywyd ar ei ochr a’r ddalen neu’rffrond wedi troi drosodd a’r coesyn sy’ndal wrth yr angor yn codi i’r awyr. Maennhw’n edrych yn union fel fforestyddmawr wedi cael eu torri i gyd. (1959) Adyna ydi’r môr-wiail mewn gwirionedd –fforestydd tanfor.

    Mae yna sawl gwanhaol fath o fôr-wiailac un o’r rhai mwyaf cyffredin ydi’rLaminaria digitata, y môr-wiail byseddog(3657) neu’r ‘oarweed’ yn Saesneg. Maegan y Laminaria digitata goes gymharol hir,ond mae’n rhannu’n ddarnau tebyg ifysedd hirion, a dyna wrth gwrs sut maeo’n cael yr enw – digitata, neu’r môr-wiailbyseddog yn Gymraeg. Mae gan hwn liwaur-frown cyfoethog iawn ac mae’ngyffredin ar draethau creigiog yngngogledd orllewin Ewrop. Yn aml iawnceir hyd i’r llygad maharen rheidden las(Helcion pellucidum) ar y coesyn a’r ffrond,ble y gall wneud cryn dipyn o ddifrod drwywanio’r coesyn. Mae hwn yn wymonlluosflwydd ac mae’r tyfiant newydd yndigwydd yn y rhan sydd rhwng y coesyn a’rffrond. Er ei fod yn tyfu gydol y flwyddynmae’r tyfiant gyflymaf yn ystod y gwanwyn.

    Mae yna un sydd â choesyn byr a ffrondsy’n gymharol hir a llyfn – gwregys y môrneu’r môr-wiail crych (3629) yn Gymraeg.Laminaria saccharina ydi’r enw gwyddonolarno fo, y ‘sea belt’ neu’r ‘sugar kelp’ ynSaesneg. Lliw melynfrown sydd gan y môr-wiail crych ac mae’n hawdd gweld sutmae’n cael yr enw Cymraeg gan fod ynafymryn o grychni yng nghanol y ffrond.Mae’r enw ‘gwregys y môr’ yn gwbl addashefyd gan y gall hwn dyfu hyd at bedairmetr o hyd ac mae’n edrych fel gwregys.Mae’r crychni a’r arwynebedd anwastadsydd ar wyneb y gwymon yma’n creuychydig o dyrfedd yn nŵr y môr, ac maehynny’n hybu cyfnewid nwyon amaethynnau rhwng y dŵr a meinwe’r

    5

    Yr angor wedi torri’n rhydd a’r môr-wiail wedi eiolchi i’r lan

    Y môr-wiail yn gorwedd yn llonydd a difywyd panfo’r môr ar drai

    Môr-wiail byseddog, Laminaria digitata

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 5

  • gwymon. Tyf yn y llain isarforol er feallwch chi hefyd ei weld ambell dro mewnpwll glan y môr os oes digon o ddyfnder i’rpwll. Mae’n cael ei enw gwyddonol L.saccharina o bowdwr gwyn sydd â blasmelys iddo fo ac sy’n ffurfio ar y ffrond osbydd wedi bod allan o ddŵr y môr amgyfnod go faith.

    Mae’n alga lluosflwydd, ac er ei fod o’ngallu tyfu drwy’r flwyddyn, mae o fel rheolyn tyfu’n gyflymach yn ystod hanner cyntafy flwyddyn. Golyga hyn y gellwch chiddilyn patrwm y tyfiant drwy dorri drwy’rcoesyn gyda llafn miniog ac edrych arnodan y microsgop. Gellwch wedyn weld ycylchoedd tyfiant o feinwe golau a thywyllbob yn ail. Y cylchoedd golau sy’n dangosy tyfiant cyflym a’r cylchoedd tywyll yndangos ble roedd y tyfiant yn arafach – ynddigon tebyg i’r hyn welwch chi argylchoedd mewn coeden sy’n dangos ytyfiant blynyddol.

    Un arall o’r rhai cyffredin yw’r môr-wiailhirgoes, (1957) Laminaria hyperborea, syddâ lliw aur-frown ac fe all dyfu hyd at 3.5metr o hyd. Dydi hwn ddim yn annhebygi’r môr-wiail byseddog ac mae’n aml yntyfu mewn llain bendant islaw'r môr-wiailbyseddog ar y traeth, ac os bydd yramodau’n ffafriol mi wnaiff dyfu’nfforestydd trwchus. Gwymon lluosflwyddyw hwn eto ac fe all fyw nes y bydd tua tairmlwydd ar ddeg ar draethau cysgodol blemae’r amodau’n ffafriol.

    Mae yna un math arall o’r gwymonbrown sy’n weddol gyffredin ar ein traeth

    ni, sef y Chorda filum. Yr enw Cymraegarno ydi llinyn y môr neu wallt y forwyn,ac mae’n edrych fel darnau hir o linyn sy’ntyfu o’i angor ar waelod y môr. Ceir hydiddo fel rheol mewn bae cysgodol ac ynamlach na pheidio bydd yr angor yn tyfuo’r gro a’r tywod. Gwymon unflwydd ywllinyn y môr sy’n tyfu’n ystod yr haf ond yndiflannu yn ystod y gaeaf.

    Am eu bod yn tyfu mor isel ar y traeth,mae’n rhaid i’r môr-wiail ddygymod â’rcerrynt a’r tonnau a gall y rhain fod ynfendith ac yn felltith. Mae’r ffaith bod ytonnau’n torri’n gyson ar y lan yn golygueu bod yn cario maeth yn nŵr y môr, ac feall y môr gael ei ddihysbyddu o faethmewn rhannau ble mae yna gnwd da o’rmôr-wiail yn tyfu. Mae symudiad cyson ytonnau hefyd yn golygu fod goleuni’n caelei rannu’n fwy gwastad dros y môr-wiail acmae hyn yn bwysig i’r gwymon. Os yw’rmôr yn llonydd am gyfnodau hir, gallgoleuni’r haul gael ei grynhoi ar ddarn o’rffrond a chreu difrod i’r gwymon.

    Mae’n talu i’r môr-wiail fod yn hyblyg.Mae’n rhaid iddyn nhw (ac unrhywwymon arall o ran hynny) roi a phlygu danymchwydd y tonnau a’r cerrynt: fuasai hiddim yn talu i fôr wiail dyfu’n gadarn fel ydderwen. Ar adegau, mae’n talu i dyfuynghanol fforestydd tanfor, gan fod hyn yngallu lleihau effeithiau ymchwydd y tonnauar wymon unigol. Mewn fforest drwchus ofôr wiail mae’r môr yn tueddu i lifo dros ygrŵp cyfan yn hytrach nag un gwymon agall hyn leihau difrod i’r môr-wiail.

    6

    Gwregys y môr, Laminaria saccharina

    Môr-wiail hirgoes, Laminaria hyperborea

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 6

  • Mae cylch bywyd y môr-wiail ynddiddorol. Y gwymon mawr a welir panfo’r llanw ar drai yw’r sboroffyt ac maehwn yn ddiploid. Bydd sborangia yn ffurfioar hyd ochr y ffrond ac yn dilyn meiosisbydd sborau (haploid) benywaidd agwrywaidd yn cael eu cynhyrchu.Rhyddheir y rhain i’r môr ac fe fyddant ynnofio yn nŵr y môr cyn setlo ararwynebedd addas a datblygu gametoffyt(gwrywaidd a benywaidd) yno. Mae’r rhainyn ffurfiau bach, aml ganghennog na ellirond eu gweld â chwyddwydr. Mae’rgametoffyt gwrywaidd yn cynhyrchuantheridia a’r rhain sy’n cynhyrchu’r had.

    Mae’r thalws benywaidd yn cynhyrchu’röogonia ac mae un wy ym mhob un. Mae’rhad yn ffrwythloni’r wy a hwn wedyn yndatblygu’n sygot (diploid) sy’n tyfu ac yndatblygu’n sboroffyt, sef y môr-wiail mawr.

    Gyda llaw, gair o gyngor os ydach chiam weld y môr-wiail, gwnewch yn siŵreich bod chi’n mynd yno i’w gweld panfydd yna lanw mawr ar leuad newydd, aphan fydd y môr allan cyn belled ag yr aiffo. A chofiwch, ewch i lawr i lan y môr panfydd y môr ar ei ffordd allan – mae’n rhyhawdd o lawer cael eich dal gan y llanw osbydd o ar ei ffordd yn ôl i mewn!

    7

    GWYL GERDDED A PHYSGOTA FFESTINIOGMEDI 3-4 2005

    Ffon:01766 831 783

    [email protected]

    www.ffestiniog.org.uk

    COFRESTRU TRWY GYSYLLTU A’RTREFNWYR CYFLE FFESTINIOG

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 7

  • Tros y misoedd diwethaf bu prosiectLlygod Pengrwn y Dŵr, Môn yn brysur yncychwyn cynllun i fonitro minc arddalgylch afon ym Môn. Defnyddia’rcynllun lwyfan neu rafft sy’n nofio arwyneb y dŵr gyda chlai ar ei wyneb ermwyn gallu adnabod olion traed ycreaduriaid sy’n ymweld â’r llwyfan.

    Datblygwyd y dechneg yma gan y ‘GameConservancy Trust’ a’r theori y tu ôl i’rsyniad yw bod y minc yn greaduriaidchwilfrydig sy’n tueddu i archwilio unrhywwrthrych diddorol o fewn eu tiriogaeth.Mae twnnel ar y llwyfan ac oddi fewn i’rtwnnel yma rhoir padell lwybro o glai.Pwrpas y twnnel yw diogelu’r clai rhag ytywydd ac ar yr un pryd rhoi lle tywyll,diddorol i’r minc fforio ynddo. Archwilir yllwyfannau bob pythefnos a gwneir cofnodo’r creaduriaid y gwelir eu holion traedyno. Mae’r dechneg yma wedi bod ynhynod lwyddiannus mewn rhannau eraill oBrydain i ddarganfod presenoldeb y mincble nad oedd cofnodion blaenorol ynbodoli. Mae hyn yn ystyriaeth eithriadol obwysig i Fôn o gofio fod pob arolwg awnaed gynt i geisio darganfod presenoldeby minc wedi methu gwneud hynny.

    Mae Môn yn ardal bwysig iawn ar gyfercadwraeth llygod pengrwn y dŵr; mae’r

    rhwydwaith eang o afonydd, nentydd affosydd sy’n llifo’n araf yn creu digonedd ogynefin addas ar gyfer y rhywogaeth.Mewn ardaloedd eraill o Brydain ble mae’rminc wedi lledaenu bu gostyngiad enbyd adifodiant llygod pengrwn y dŵr mewn rhaiardaloedd. Felly, bwriad y prosiect hwn ywceisio deall dosbarthiad y minc ar yr ynysac ar y tir mawr cyfagos.

    Cyn datblygiad y dechneg hon, yr unigffordd o ganfod presenoldeb y minc oedddrwy wneud arolwg. Dydi hyn ddim ynhawdd gan ei bod yn anodd gweld olion yminc yn arbennig os mai ychydig sydd ogwmpas. Mae modd gosod trapiau ondmae hyn yn gostus o ran adnoddau.Defnyddiwyd y ddwy dechneg yma ymMôn ond heb lwyddo i ddarganfodpresenoldeb y minc. Rydym felly’n dal iholi – ydi’r minc ar yr ynys? Ein gobaithyw, os yw’r minc yn bresennol y byddwnyn gallu darganfod eu presenoldeb mewnffordd sydd wedi ei thargedu ac yn gosteffeithiol. Roeddem yn awyddus i edrychar logisteg cychwyn cynllun o’r fath ynnhermau cost, oriau gwaith ac amser.Unwaith mae un dalgylch wedi ei fonitroam gyfnod a ninnau’n siŵr nad oes mincyno, gallwn symud y cyfarpar i’r dalgylchnesaf.

    8

    Un o’r ardaloedd monitro

    Llygoden Bengron y Dŵr

    Llygoden Bengron y Dŵr Rebecca Gwynne

    Swyddog Bioamrywiaeth, Menter Môn

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 8

  • 9

    Mae’n bur debyg y cymer gryn dipyn oewyllys boliticaidd ac ymrwymiad i ddifa'rminc yn gyfan gwbl o Brydain ond yn sicrmae cryn dipyn y gallwn ei wneud yn lleol iddiogelu ein poblogaethau o lygodpengrwn y dŵr. Mae’r dechneg hon hefydyn cael ei defnyddio yn Eryri a gogleddddwyrain Cymru fel cynllun peilot ganaelodau o Grŵp Mamaliaid Torlannolgogledd orllewin Cymru.

    Hyd yma gwelwyd nifer orywogaethau’n ymweld â’r llwyfannau gangynnwys adar a mamaliaid. Roeddem ynhynod o falch o sylwi fod olion traed ydyfrgi ar ddau o’r llwyfannau a’u baw arbedwar ohonynt. Roeddem yn falch o weldfod yna ddigonedd o dystiolaeth fod ydyfrgi o gwmpas y dalgylch yn arbennig oystyried fod eu nifer wedi gostwng ynddramatig yn y gorffennol ac i’r fathraddau nes y tybiwyd eu bod wedidiflannu’n llwyr o’r ynys ar un adeg.

    Rhyddhad mawr hefyd oedd darganfodolion llygoden bengron y dŵr ar einharchwiliad diwethaf. Roedd glaw trwm fisHydref diwethaf wedi gorlifo rhai oafonydd Môn ac roeddem yn bryderus afyddai’r rhywogaeth wedi gallu goroesi’rgaeaf. Gall tywydd garw olygu difodiantpoblogaethau mewn sefyllfaoedd bregus.Hyd yma, ni welwyd unrhyw arwydd fod

    minc yn bresennol, ond mae’n bosibl i’rminc sefydlu ei hun yn gyflym iawn ymMôn a gall gymryd amser cyn i dystiolaethddod i’r amlwg.

    Mae prosiect, sydd yn derbyn nawddgan CCGC, AAC, Cwmni Gwastraff acAmcan Un, hefyd wedi bod yn gwella achreu cynefinoedd er mwyn gwella siawnsllygod pengrwn y dŵr o oroesi ym Môn.Does dim dwywaith, po fwyaf amrywiol,cymhleth a chysylltiol yw’r cynefin, mwyafyn y byd yw’r siawns y gellir cadwpoblogaeth rymus o lygod pengrwn y dŵram gyfnod maith. Gobaith Menter Mônyw y gellir parhau gyda’r gwaith hwn yn ydyfodol ond dibynna, fel sawl prosiectarall, ar gael arian ar gyfer y gwaith.

    Y llwyfan

    Anrhydeddu aelodau o Gymdeithas Edward Llwyd

    Llongyfarchiadau i chwech o’n haelodau a dderbyniwyd i’r Orsedd yn yr EisteddfodGendlaethol eleni:

    Urdd Derwydd – gwisg wen:M. Paul Bryant-Quinn Penglais, AberystwythEleri Carrog Bontnewydd, CaernarfonDr. Dyfed Elis-Gruffydd Tegryn, Sir Benfro

    Urdd Ofydd – gwisg werdd:Dewi Jones Penygroes, ArfonHefin Jones LlanrugEluned Mai Porter Llangadfan

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 9

  • Rydym yn gyfarwydd â’r ffaith bod niferdda o blanhigion yn cynnwys yr elfen‘Mair’ yn eu henwau Cymraeg ac y gallwnfod yn weddol sicr mai at Mair, mam yrIesu, y cyfeirir. Serch hynny, efallai fodrhyw Fair arall wedi rhoi ei henw i ambellblanhigyn – er nad oes gennyf dystiolaeth ohynny chwaith. Fe fuaswn yn falch o’chbarn chi ar hynny.

    Ond tybed pam fod enw’r Fair Feiblaiddmor amlwg ym myd y blodau? Does dimprawf fod ganddi unrhyw gysylltiaduniongyrchol â’r planhigion hyn – hyd ynoed y rhai sy’n tarddu o ardal y dwyraincanol ac a welir mewn Gerddi Beiblaidd,fel yr un ger Cadeirlan Bangor. Mae’n fwytebyg gen i mai am eu harddwchdiymhongar neu am eu rhinweddaumeddyginiaethol y’u cysylltwyd â Mair.

    Rhaid cofio hefyd y byddai’n gwneudsynnwyr i gysylltu enwau planhigionmeddygol â Mair, y Seintiau neugymeriadau Beiblaidd a chrefyddol eraill,yn enwedig pan ymgeisiai’r Eglwysdanseilio grym y gwŷr hysbys neu’rgwrachod gwynion ddefnyddiai swyniongo ‘amheus’ i gryfhau effeithiau eumeddyginiaethau. Yn sicr fe fyddai gan y

    Mynachlogydd erddi i feithrin planhigionmeddygol ar gyfer iachau cyrff yn ogystalag eneidiau’r bobl a hawdd fyddaipriodoli’r bendithion ddeuai o’rplanhigion i’w cysylltiadau (mewn enw oleiaf) crefyddol.

    Dyma restr o blanhigion a gysylltir âMair. Er hwylustod tanlinellwyd yr enwausafonol, yn unol â’r hyn geir yn CyfresEnwau Creaduriaid a Phlanhigion, Cyfrol 2 –Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn,Cymdeithas Edward Llwyd (2003).

    Afal Mair [1] – Mary apple (math o afal adyfir mewn perllan)

    Archangel Fair – marddanhadlen wen –white deadnettle (Lamium album)

    Blodau pumbys Mair [Ceredigion]2 –pumnalen ymlusgol – creeping cinquefoil(Potentilla reptans) – gw. hefyd PumbysMair

    Blodau Santes Fair = Llysiau SantesFair – helyglys hardd – rosebay willow-herb(Chamaenerion angustifolium)

    Blodyn wyneb Mair – trilliw – wild pansy(Viola tricolor)

    Briallen-Fair sawrus = Briallen Fair =Dagrau Mair – cowslip (Primula veris)

    Briallen-Fair ddi-sawr – oxlip (Primulaelatior)

    Briallen-Fair Japan3 – Japanese cowslip(Primula japonica)

    Briallen-Fair Tibet 3 – Tibetan cowslip(Primula florindae)

    Briallen-Fair Sikkim 3 – Sikkim cowslip(Primula sikkimensis)

    Cannwyll Fair = Gwialen Mair –eurwialen – goldenrod (Solidago virgaurea)

    10

    Briallen Fair (Primula veris)

    Llên y Llysiau: Enwau Planhigion (1)– yn cynnwys yr elfen “Mair”

    Twm Elias, Plas Tan y Bwlch

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 10

  • Canhwyllau Mair [Môn]2 – saffrwm(Crocus spp)

    Celynnen Fair – butcher’s broom (Ruscusaculeatus)

    Celynnen-Fair ddi-ddrain3 = Celynnen-Fair ddiniwed – spineless butcher’s broom(Ruscus hypoglossum)

    Clais Mair = Claes Mair – clari gwyllt –wild clary (Salvia verbenaca)

    Clustog Fair – thrift (Armeria maritima)

    Creulif Mair – gw. Ysgawen Fair

    Crib Mair – nodwydd y bugail – shepherd’sneedle (Scandix pectin-veneris)

    Cribau Mair – gw. Ysgallen Fair

    Chwys Mair – blodyn ymenyn bondew –bulbous buttercup (Ranunculus bulbosus)

    Dagrau Mair – dagrau’r Iesu, coedenddrops (Fuchsia spp) – gw. Briallen Fairsawrus – gw. Llysiau Bron Mair

    Eirinen Fair – gooseberry (Ribes uva-crispa)

    Erfinen Fair [Ceredig., Penf.]2 = MeipenFair = Sêl Mair 4 – cwlwm y coed – blackbryony (Tamus communis)

    Esgid Fair – Lady’s slipper (Cyripediumcalceolus) – cwcwll y mynach – monkshood(Aconitum napellus)

    Gold Mair – melyn yr ŷd – corn marigold(Chrysanthemum segetum) – Llysiau Mair –gold y gors – marsh marigold (Calthapalustris) – gw. Melyn Mair

    Gwialen Mair [Arfon]2 – crib y ceiliog –Montbretia (Crocosmia x crocosmiiflora) –eurwialen – goldenrod (Solidago spp)

    Gwlyddyn Mair – pimpernel (Anagallis spp)

    Gwlyddyn-Mair y gors – bog pimpernel(Anagallis tenella)

    Gwlyddyn melyn Mair – yellow pimpernel(Lysimachia nemorum)

    Gwlydd Mair gwryw – llysiau’r cryman –scarlet pimpernel (Anagallis arvensis)

    Gwlydd Mair benyw – blue pimpernel(Anagallis arvensis subsp. foemina)

    Gwlyddyn-Mair bach3 – chaffweed(Anagallis minima)

    Gwniadur Mair = Menyg Mair – bysedd ycŵn (Digitalis purpurea)

    Helygen Fair – bog myrtle (Myrica gale)

    Joseff, Mair a Martha1 = Mair a Martha2– gw. Llysiau bronnau Mair

    Llaeth bronnau Mair – gw. Llysiaubronnau Mair, Dagrau Mair

    Llwyn mwyar Mair 3 – dewberry (Rubuscaesius)

    Llysiau Mair – glesyn y coed – commonbugle (Ajuga reptans) – gw. Gold Mair

    Llys Mair Fadlen – gw. Mintys Mair,Tansi Mair

    Llysiau bronnau Mair = Llaeth bronnauMair = Dagrau Mair = Joseff, Mair aMartha1 = Mair a Martha2 – llysiau’rysgyfaint – lungwort (Pulmonaria officinalis)

    Llysiau Santes Fair – gw. Blodau SantesFair

    Mair a Martha2 – gw. Llysiau bronnauMair

    Mantell Fair – lady’s mantle (Alchemillavulgaris) [ceir nifer o isrywogaethau, gw.2]

    Mantell-Fair y mynydd – alpine lady’smantle (Alchemilla alpina)

    Mantell-Fair ariannaidd 3 – silver lady’smantle (Alchemilla conjuncta)

    Mantell Mair [Meir.]2 – blodyn llefrith –cuckoo flower (Cardamine pratensis)

    Meddyg Mair – meddyg y bugail –ploughman’s spikenard (Inula conyzae)

    11

    Gwlyddyn Mair (Anagalis arvensis)

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 11

  • Meipen Fair [Môn, Arfon, Mald.]2 – blonegy ddaear – white bryony (Bryonia dioica) –Erfinen Fair 2, Sêl Mair 4 – cwlwm y coed –black bryony (Tamus communis)

    Melyn Mair – pot marigold (Calendulaofficinalis)

    Melyn Mair yr ŷd 3 = Melyn Mair yr âr –field marigold (Calendula arvensis)

    Menyg Mair = Gwniadur Mair – bysedd ycŵn – foxglove (Digitalis purpurea)

    Mintys Mair – mintys ysbigog – spearmint(Mentha spicata) – gw. Tansi Mair, LlysMair Fadlen

    Mwyaren Fair – gw. Llwyn mwyar Mair

    Miaren Fair = drysïen bêr fân-flodeuog –small-flowered sweet-briar (Rosa micrantha)

    Pumbys Mair [Meir.]2 = y gronnell –globeflower (Trollius europaeus) – gw. hefydBlodau pumbys Mair

    Rhedynen Fair – lady fern (Athyrium filix-femina) – rhedynen gyfrdwy – royal fern(Osmunda regalis) – [Ceredig.]2 creithig bêr –sweet cicely (Myrrhis odorata)

    Rhedynen-Fair Alpaidd – Alpine lady-fern(Athyrium distentifolium)

    Rhedynen-Fair Newman 3 – Newman’slady-fern (Athyrium flexile)

    Rhos Mair – gw. Rhosmari

    Rhosmari – rosemary (Rosmarinusofficinalis)

    Rhosmari gwyllt = Rhosmair gwyllt =Rhosus Mair – andromeda’r gors – bogrosemary (Andromeda polifolia)

    Rhosmari’r Morfa = lafant y môr – sealavender (Limonium vulgare)

    Rhosus Mair – gw. Rhosmari gwyllt

    Sêl Mair 4 – gw. Erfinen Mair, MeipenFair

    Tafolen Mair – clustered dock (Rumexconglomeratus)

    Tansi Mair = Mintys Fair = Llys MairFadlen – costmary (Tanacetum balsamita)

    Tapr Mair = pannog felen – great mullein(Verbascum thapsus)

    Ysgaw Mair [Arfon]2 – llysiau’r gymalwst –ground elder (Aegopodium podagraria)

    Ysgawen Fair = Creulif Mair – dwarfelder (Sambucus ebulis)

    Ysgallen Fair = Cribau Mair – milk thistle(Silybum marianum)

    Ysgol Fair [Dyfed]2 = Ystol Fair [Arfon]2 –y ganrhi goch – common centaury(Centaurium erythraea) – eurinllys trydwll –perforated St John’s wort (Hypericumperforatum)

    Ysnoden Fair – galingale (Cyperus longus)

    Ysnoden-Fair welw – pale galingale(Cyperus eragrostis)

    Ysnoden-Fair lwytgoch – brown galingale(Cyperus fuscus)

    Gwna hyn gyfanswm o 81 o enwauplanhigion efo’r elfen “Mair” ynddynt –ar 66 o rywogaethau. Os digwydd i chiddod ar draws mwy ohonynt gadewch i’rawdur wybod.

    Ffynonellau:Daeth y mwyafrif o’r enwau o gyfrol

    Dafydd Davies ac Arthur Jones: EnwauCymraeg ar Blanhigion (1994), ynghyd ârhai ychwanegol o: [1] Griffiths, Bruce & Jones, Dafydd Glyn:

    Geiriadur yr Academi (1995) [2] Awbery, Gwen: Blodau’r Maes a’r Ardd ar

    Lafar Gwlad (1995) [3] Cymdeithas Edward Llwyd: Cyfres Enwau

    Creaduriaid a Phlanhigion, Cyfrol 2: PlanhigionBlodeuol, Conwydd a Rhedyn (2003)

    [4] Gwasg Prifysgol Cymru:Geiriadur y Brifysgol(1950 – )

    12

    Menyg Mair (Digitalis purpurea)

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 12

  • Dim ond rhagflas sydd yma o gynllunadfer hir dymor y mae Cyngor Cefn GwladCymru wedi ei ddechrau y llynedd ar diro’u heiddo, ar odre gogleddol Cadair Idris.Gobeithiaf fedru adrodd yn achlysurol ynnhudalennau Y Naturiaethwr am y gwaitha’r datblygiadau diweddaraf yno, safle oamrywiol gynefinoedd, nad yw’r rhelyw o’rcyhoedd hyd yn hyn yn gwybod amdano.Mawr obeithiaf hefyd wahodd aelodau’rGymdeithas yno yn y dyfodol i weldcanlyniadau cadwraeth ymarferol amwynhau cyfoeth y safle dirgel hwn.

    Mae rhan uchaf y safle yn cynnwys ardalo goedwig llydanddail, sydd yn teneuogydag uchder i brysgwydd a choedgwasgaredig megis criafol a bedw, ac yna irostir sych aeddfed dros y creigiau, gydathafod-y-gors, hesg a chwys-yr-haul yndynodi ardaloedd gwlypach fan hyn a fandraw. Ni phorir yr ardal yma, ac mae’rterfyn uchaf yn ffinio ar dir yrYmddiriedolaeth Genedlaethol, sydd ynehangder gwych o rug heb ei bori.

    Nid wyf am fanylu ar yr ardal uchod,ond yn hytrach am eich tywys hyd lawr ydyffryn, lle ceir ardaloedd o lystyfiantRhos, fel y cyfeiriodd E Price Evans atyntyn 19321 – mignen tua’r gorllewin, a

    rhostir gwlyb ymhellach i’r dwyrain lle nadoes trwch o fawn, ac yma y bûm yncyfeirio ein hymdrechion diweddar.

    Prin ddeg hectar o ardal sydd yma wediei rhannu yn ddwy gan ffordd drol, ondcredaf ei bod ar un adeg yn rhan o ardalehangach o wlyptiroedd sydd bellach ynddarniog ac wedi’u gwahanu.

    Ers prynu’r tir ynghanol yr wythdegau,nid yw CCGC (y Cyngor Gwarchod Naturar y dechrau) wedi medru rhoi fawr o sylwnac adnoddau i’r safle, ac ni ddynodwyd hiyn Warchodfa Natur Genedlaethol, fel eichwaer fawr ar gopa a llethrau deheuolCadair Idris. Porwyd y safle yn ysgafn acysbeidiol yn unig, a hynny gan ddefaid,oedd wrth reswm yn swil o fentro i’r

    mannau gwlypaf, ac o’rherwydd mae glaswellt ygweunydd, Molinia caeruleawedi datblygu yn gryn feistr arbopeth arall yno. Gall cipolwgcyflym dros lidiart y safle eichtwyllo i feddwl mai anialdirtlawd o’r gweiryn yma yw’runig lystyfiant yno, ond morddiweddar a 1984, disgrifiwydrhannau o’r safle fel dolyddgwlyb cyfoethog eu blodau2.

    13

    Adfer Corsydd TanygaderPaul Williams

    Mae Paul Williams yn Uwch Reolwr Gwarchodfeydd gyda Chyngor CefnGwlad Cymru yn ucheldir Meirionnydd.

    Llun 1. Golygfa o’r corsydd o’r graig uwchben

    Llun 2. Anialwch Glaswellt y Gweunydd Molinia

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 13

  • O edrych yn fanwl, gwelir bod nifer o’rrhywogaethau a restrwyd bryd hynny yno ohyd, megis grug a grug deilgroes, llafn ybladur, tamaid y cythraul a melog y waun,ond heb os bu’r Molinia yn drech na hwydros rannau helaeth ers hynny.

    Hefyd i’w gweld yma ac acw, maeamrywiol hesg, y ddau blu’r gweunydd, acystrewlys, ffa’r gors, amrywiol figwyn, allawer mwy. Yn y gorllewin, ar y fawnogmae’r gwrlid, neu helygen Fair – Myricagale – yn doreithiog, ac yma, yn wahanol i’rcyffredin yng ngogledd Cymru3 yn cynnwysplanhigion gyda blodau gwrywaidd abenywaidd (mae’n atgynhyrchu yn llystyfolgan amlaf, a chanfuwyd bod planhigion âblodau gwrywaidd ugain gwaith yn fwycyffredin na blodau benywaidd trwy ogleddCymru); hefyd yno mae ardaloedd bychano siglen mwy cyfoethog.

    Mae hyn felly’n rhoi’r hyder inni nadyw’n rhy hwyr i wneud ymdrech deg iadfer y cynefinoedd hyn. Ond sut maegwneud hynny? A lle mae dechrau? Cawnfanylu ar ddulliau yn y dyfodol, ond y prifflaenoriaeth oedd cael rhyw drefn ar yMolinia rhemp, a hynny trwy newid y pori.Yn anffodus, nid oedd unrhyw un o’rcymdogion bellach yn pori gwartheg duonyn y cyffiniau, a phan roddwyd gyr bychanar un darn yn ystod haf 2004, cyndyn iawnoeddynt i fentro oddi wrth y darnausychion gyda’r ymylon. Roedd merlod

    mynydd ar y llaw arall yn bosibilrwyddmwy ymarferol. Maent angen llai o sylw acar y cyfan yn osgoi bwyta blodau hefyd;delfrydol felly. Dyma fynd ati i drefnucytundeb gyda pherchennog lleol yn yrardal i bori hyd at hanner dwsin o ferlod ary rhos ddwyreiniol, a threfnu i bedair oferlod y Cyngor Cefn Gwlad ddod oWarchodfa Natur Genedlaethol TywynNiwbwrch, i bori’r corsydd gorllewinol. Yny cyfamser penderfynwyd torri rhwydwaitho lwybrau trwy’r twmpathau trwchus olaswellt crin am ddau reswm: i hwyluso acannog y merlod i grwydro’r caeau cyfan; ahefyd i roi cnwd newydd o dyfiant ir ar eucyfer. Gwnaed hyn yn ddigon didrafferth,gyda ffust a chasglwr Ryteck ar gefn tractora phrofodd yn llwyddiant o’r dechrau ganwasgaru’r pori yn dda i bob cornel. Er ybyddwn yn osgoi gyrru dros yr ardal ynormodol, yn ddigon diddorol maerhychau’r tractor yn y llefydd gwlypafbellach yn gynefin ynddo’i hun, o byllaubach agored gyda gold y gors, llafnlysbach, erwain, blodyn llefrith ac yn y blaen,lle nad oeddynt yn amlwg gynt; hefydgwelwyd chwilod chwrligwgan, sglefrwyrdŵr a phenbyliaid yn manteisio yn syth ary cyfleoedd newydd.

    Bydd y pori yn fodd hefyd i reoli’rbroblem o golli cynefin dan brysgwyddbedw, helyg ac eithin fel y gwelir yn Llun 1, ond rwy’n pwysleisio’r gair rheoliyn hytrach na dileu prysgwydd gan fodyma hefyd amrywiaeth deniadol o adarmegis bras melyn yr eithin a llinosiaid ac

    14

    Llun 3. Gwrlid Myrica gale

    Llun 4. Llafn y bladur Narthecium ossifragumLlun – hawlfraint CCGC

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 14

  • 15

    Clychau’r eos, llygad Ebrill, tlws yr eira, ladi wen,march y drysi, blodyn llefrith, pwrs y bugail, gwayw’r bren,

    llin y mynydd, llafn y bladur, llysiau’r dryw, y felyn llys,carn yr ebol, llysiau’r hebog, llaeth y gaseg, botwm crys,

    briwion cerrig, toddair felen, barf hen ŵr, yr esgob gwyn,llysiau’r pannwr, mwg y ddaear, mwsg yr epa, alaw’r llyn,

    n’ad-fi’n-angof, troed y deryn, clust yr arth, y ganrhi goch,tormaen, brechlys, creulys, crinllys, milfyw, cylor, ysgall moch,

    pys y ceirw, hwb yr ychen, lili bengam, gelyn ’r og,llygad doli, sanau’r gwcw, blodau’r brain, esgidiau’r gog,

    grawn y perthi, briwydd eidral, ffrils y merched, gwell na’r aur,llysiau’r llwynog, taglys, dringol, trwyn y llo, miaren Mair,

    cacamwci, eirin Gwion, gwlydd yr ieir a llyriadswp o flodau wedi’u clymu’n dynn â chwlwm cariad.

    I Ruth fy ngwraig ar ei phen-blwyddMeic Stephens

    Mae’r awdur yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Morgannwg

    yn y blaen, ac rydym eto i arolygu gwerthy safle i bryfetach.

    Mae cymydog profiadol wedi cytuno igadw golwg rheolaidd ar les merlod yCyngor Cefn Gwlad, a chafwyd caniatâdgan un arall i gadw peiriannau ar ei dir ynystod pyliau o waith yno. Mae’rcydweithrediad yma yn hanfodol i alluogirheolaeth ymarferol o safle fel hwn.

    Cam nesaf y cynllun oedd ystyried rheolirhediad dŵr trwy’r safle a’r posibilrwydd o

    adfer yr hydroleg yno mor agos â phosibli’w gyflwr naturiol heb effeithio ar diroeddcyfagos. Mwy am hyn y tro nesaf.[1] ‘Cader Idris: A study of certain plant

    communities in south-west Merionethshire’– Journal of Ecology, Vol. 20

    [2] Gohebiaeth rhwng CGN a’r cofnodwrbotaneg sirol

    [3] Simpson, Macintosh et al 1996 ‘Past,present and future utilisation of Myrica gale’– Economic Botany, Vol. 50

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 15

  • Pa bryd y daeth y Ffawydden i Brydain?Bu cryn drafod ynghylch y cwestiwn hwnyn y gorffennol, gyda rhai yn credu mai’rRhufeiniaid oedd yn gyfrifol am ddod â’rgoeden urddasol hon i’r rhan yma o’r byd.Ond mae paill ffawydd o swydd Hampshirea golosg o safle ger Radyr yn awgrymu body goeden hon wedi bod yn rhan o’nllystyfiant ers miloedd o flynyddoedd, acwedi bod yn bresennol mewn rhai rhannauo Gymru ers Oes yr Haearn. Y ffawyddenoedd un o’r coed olaf a lwyddodd igyrraedd Prydain ar ei liwt ei hunan asefydlu fel coeden frodorol.

    Llwyddodd i ledu’n naturiol i ddeddwyrain Cymru ac yma, o gwmpas cyriony maes glo, y gwelwch rai o goedwigoeddffawydd gorau ein gwlad. Prin yw’renghreifftiau mewn rhannau eraill oGymru – yn wir doedd dim sôn am ygoeden yn y fersiynau o ddeddfau HywelDda (12fed-13eg G) a gyfeiriai at ogleddCymru gan nad oedd y goeden yn tyfuyno, er ei bod hi mor werthfawr â’rdderwen, yn ôl y deddfau, yn ne-ddwyrainCymru bryd hynny. Nododd EdwardLlwyd hefyd yn 1690 nad oedd unrhywgallestr, sialc na ffawydd yng ngogledd

    Cymru a’i fod wedi darganfod, ar 24ain oDachwedd 1696, sawl planhigyn yngyffredin yn ne Cymru nad oedd wedi eugweld yn y gogledd, fel y Fagus. Ganrif ynddiweddarach nododd Iolo Morgannwg eifod wedi darganfod ambell goeden ffawyddfel ‘curiosities’ yn y gogledd – mewnlleoedd fel Rhiwlas, Gwydyr a’r Foelas.Plannwyd y goeden yn helaeth yn y 18feda’r 19eg G – o’r tu allan i Gymru y deuaillawer o’r coed ac roedd y colledion mordrwm oherwydd y cludiant pell nes i raigael eu hysgogi i agor methrinfeydd coedlleol, fel meithrinfa 18 erw Hindes yn yFelindre, Castell Newydd Emlyn a werthaitua 400,000 o goed, gan gynnwys ffawydd,bob blwyddyn. Plannwyd 150,000 a mwy o

    16

    Gresyn am y sbwriel

    Mae angen gwell giât yma

    Y Lôn Goed

    Y Ffawydden (Fagus sylvatica)Elinor Gwynn

    Mae Elinor yn gweithio i’r Cyngor Cefn Gwlad yn Rhanbarth y Gogledd. Maeei gwaith yn ymwneud yn bennaf â chynllunio strategol a chysylltiadau allanol

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 16

  • 17

    goed ffawydd ar stadau John MauriceJones yn Ninbych a Meirionnydd rhwng1804 a 1810 – er mai chwarae bach oeddhyn o’i gymharu ag ymdrech ThomasJohnnes o’r Hafod, Ceredigion a blannodd5 miliwn o goed rhwng 1782 a 1816.Byddai ffawydd hefyd yn cael en blannu felgwigfa gysgod (‘shelter planting’) ger y môryn y 18fed G i alluogi coed eraill i dyfu.

    Yn y gogledd, un o’r lleoedd brafiaf ifynd i weld coed ffawydd yn eu gogoniantyw’r Lôn Goed, ym mro Eifionydd.Gallwch gerdded ar hyd y cyfan bron o’rrhodfa goediog hon sy’n arwain o BontFfriddlwyd wrth geg yr Afon Wen at odreMynydd Cennin, yn ardal Bryncir aChlynnog. Crëwyd y lôn, ‘FforddMaughan’ rhwng 1817 a 1833 gan JohnMaughan, dyn o Northumbria a oedd ynrheolwr stad i Syr Thomas Mostyn.Gosododd sylfaen gadarn a phlannucannoedd o goed ar hyd y lôn hon, ermwyn creu llwybr hwylus ar gyfer cariocalch a glo o’r arfordir a symud cynnyrchfferm allan o berfeddion y tir. Er maiffawydd a blannwyd yn bennaf ar hyd yLôn Goed, fe welwch hefyd goed deri,celyn ac ynn ac oddi tanynt mae tyfiant orug ac eithin mewn ambell fan yn creuymyl braf i’r lôn laswelltog lydan.

    Erbyn heddiw, fedrwch chi ddim peidiosylwi, wrth gerdded ar hyd y Lôn Goed,

    bod angen ychydig o waith cynnal yma acacw. Er enghraifft, mae bylchau mawr yn yllinell o goed aeddfed mewn mannau – ahawdd fyddai eu cau gyda rhai o’rcannoedd o goed ifanc sydd wedi sefydluyng nghanol y glaswellt a’r grug ar hydymylon y lôn. Fe sylwch wedyn ar ambelllwyn estron fel rhododendron, a phentwrneu ddau o sbwriel y dylid eu clirio. Acmae’n bosib bod yma gyfle hefyd i greunodweddion sy’n amlygu’r dreftadaethlenyddol a diwydiannol/amaethyddol sy’ngysylltiedig a’r Lôn Goed – giatiau achamfeydd hynod efallai neu ddarn ogelfyddyd awyr agored. Dyna brosiectgwych fyddai hwn i Gymdeithas EdwardLlwyd ei fabwysiadu – prosiect lleol afyddai’n cyfuno agweddau ar hanes,diwylliant a bywyd gwyllt yn un o gornelihyfrytaf Cymru! Beth amdani?!

    Dylid plannu coed newydd yn y bwlch

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 17

  • 18

    CyflwyniadMae’r coedydd hyn, sy’n ymestyn am

    ryw filltir a chwarter oddeutu glannau’rafon Sgethin, i fyny i gyferiad ymynyddoedd o Dal-y-bont, Meirionnydd,yn Safle o Ddiddordeb GwyddonolArbennig (SSSI – Site of Special ScientificInterest – Coed Cors y Gedol).

    Mae’r safle hwn yn un o’r enghreifftiaugorau o’r math o goedwig a geir ar arfordirGorllewin Cymru. Saif rhan helaethaf ygoedwig ar dir gwastad; tir o ddrifftrhewlifol a leolir uwchlaw tir amaethyddolsy’n gogwyddo tua morfa Dyffryn (saflearall o ddiddordeb gwyddonol arbennig) amôr Iwerddon. Mae’r coed hefyd yngorchuddio llethrau’r dyffryn a ffurfiwyddrwy erydiad y drifft rhewlifol gan yr afonYsgethin.

    Dyffryn yr afon Ysgethin, felly, ywDyffryn Ardudwy. Hen goel yw credu fodyr afon wedi’i henwi ar ôl gŵr o’r enwRhys Gethin a gododd Bont Sgethin yn yddeunawfed ganrif, gan fod yr enw ar gaelymhell cyn hynny. Enw yw, mae’n burdebyg, sy’n tarddu o’r hen air ysgeth, aolygai ‘darian’ neu efallai ‘arfau rhyfel’, acyn eu mysg, y waywffon, erfyn aymdebygai i ddyfroedd disglair yr afon.

    Y Tirlun – Daeareg.Mae’r creigiau yn y rhan yma o

    Feirionnydd yn perthyn yn bennaf i’rcyfnod Cambriaidd (Isaf a Chanol), gydachreigiau cyfnod Uchaf y Cambriaidd yn

    ffurfio ‘asgwrn cefn’ (tir uchel) y rhan hono’r sir. Ymwthiwyd drwy y creigiauCambriaidd hyn yng nghyfnodau daearegoldiweddarach yr Ordofigaidd a Silwraidd gany creigiau Igneaidd (Igneous Intrusions).Dyma’r mynyddoedd uchel sydd i’w gweldyn ymwthio drwy Gromen Harlech. Ceir,hefyd, gefnen o greigiau Igneaidd Echwthiol(Igneous Extrusions) yn echwthio i’r wynebrhwng creigiau Cambriaidd Harlech achreigiau diweddarach yr Ordofigaidd.Dyma’r creigiau sydd i’w gweld yn neau’rsir yn rhedeg o’r Bala i Dywyn.

    Dyn yn ymsefydlu ym MeirionnyddPan ddaeth dyn i ymsefydlu ym

    Meirionnydd yn dilyn Oes yr Ia ddiwethaf,tua 12,000 i 10,000 o flynyddoedd yn ôl,

    Dyffryn Ardudwy – Dyffryn yr afon Sgethin

    Huw Dafydd Jones

    Cyflwynwyd addasiad o’r ychydig nodiadau sy’n dilyn i aelodau CymdeithasEdward Llwyd ar daith gerdded drwy goedydd glannau afon Sgethin ynNhachwedd, 2004, ac eto, yng Ngorffennaf, 2005. Ychwanegwyd at y

    wybodaeth a gyflwynwyd am y Cen ar gyfer yr erthygl hon.

    Lluniau gan yr awdur

    Aelodau Cymdeithas Edward Llwyd yng nghoedyddllaith yr afon

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 18

  • ’roedd y tir islaw 2,000 o droedfeddi ouchder yn fforestydd i gyd. Caed coedderw yn bennaf, gyda pheth ynn, bedw,gwern, criafol a choed llydanddail eraill.Dyma gynefin yr arth a’r blaidd lle’r oeddyr arloeswyr cynnar yn dibynnu ar ycoedwigoedd am danwydd, am ddeunyddadeiladu tai a llongau, ac am fwyd, boedyn ffrwyth neu yn gig (adar, carw, neufochyn gwyllt). Os oedd conwydd yma ogwbl, pinwydden yr Alban, yr ywen a’rferywen oedd y rhai mwyaf tebygol. Fel ycynyddai’r boblogaeth cliriwyd llawer o’rcoedwigoedd a dechreuwyd trin y tir, ac fely deuai pori anifeiliaid a defnydd o’r coedyn fwy cyffredin, erbyn Oes yr Haearn, tua500 C.C. ychydig o’r fforest oedd ynweddill uwchlaw 600 o droedfeddi. Eryscoedydd y Sgethin i roi blas i ni ar yretifeddiaeth hon, o leiaf yn llysieuol.

    Y CoedyddMae’r safle’n nodedig am ei choedydd

    collddail lled-naturiol. Bu’r safle yn darparuamrywiol goedydd yn ystod y Rhyfel BydCyntaf ac wedi hynny. Ail dyfiant yw llawero’r hyn a welir. Mae yma gyfoeth oblanhigion fasciwlar, o redynnau, o fwsoglauo lysiau’r afu a chen. Ym 1996, gwnaedarolwg gan Alan Orange o Adran Llysieueg,Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar gyferCyngor Cefn Gwlad Cymru, o’r llystyfiantar hyd glannau’r afon,. Cofnodwyd ganddo76 math o’r bryoffytau (lysiau’r afu amwsoglau) a 97 math o gen.

    Y CoedDyma restr o’r coed sy’n tyfu ac sy’n

    cael eu gwarchod ar y safle:- Derw (Sessile Oak. Quercus petraea). –

    rhan ganolog y coedydd – tyfiant newydda choed ifanc.

    Bedw (Birch. Betula pubescens) – eto ynrhan ganolog y coedydd – tyfiant newydda choed ifanc.

    Ynn. (Ash. Fraxinus excelsior).Helyg. (Sallow. Salix cinerea).Mae’r ddwy goeden olaf i’w canfod eto

    yn rhannau canolog y coedydd ond nidydynt mor niferus â’r dderwen a’r fedwen.

    Ychwanegir at amrywiaeth ffurf ycoedydd gyda llawer o goed Cyll (HazelCorylus avellana) aeddfed, yn tyfu mewnrhannau i’r de a’r gogledd o’r rhan ganolog.

    Mae hefyd lawer o goed Ffawydd(Beech Fagus sylvatica) hŷn – gwelir y cnauar lawr o dan y goeden yn yr Hydref,ynghyd â choed Masarn (Sycamore Acerpseudoplatanus) a Chriafol(Rowan/Mountain ash Sorbus aucuparia).

    Gwelir hefyd, yma ac acw, dyfiantnewydd a choed ifanc y Gelynen (HollyIlex aquifolium).

    Llysiau’r Afu (Liverworts, Hepaticae)a Mwsoglau (Mosses, Musci)

    Mae llysiau’r afu a’r mwsoglau, (ybryoffytau), ynghyd â’r gwymon, ffwng,cen, rhedyn a phlanhigion meicrosgopigeraill, yn perthyn i’r rhaniad hwnnw oblanhigion a elwir yn cryptogamau.Dyma’r planhigion sydd ddim yn blodeuo.

    Planhigion bychain, syml, yw llysiau’rafu a’r mwsoglau. Yn wahanol i’rplanhigion eraill megis y rhedynnau a’rrhai sy’n blodeuo (planhigion fasciwlar),nid oes ganddynt y meinweoedd mwycymhleth hynny sy’n angenrheidiol ersymud hylifau i fyny coesau planhigion.

    Mae tua 280 math o lysiau’r afu, athros 600 math o fwsogl i’w canfod ymMhrydain. Fel ag y nodwyd uchod,cofnodwyd 76 math o’r bryoffytau(lysiau’r afu a mwsoglau) ar hyd glannau’r

    19

    Mwsoglau yn gorchuddio’r cerrig yng nghoedydd y Sgethin

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 19

  • afon. Mae hinsawdd wlyb a chynnesGorllewin Cymru, dan ddylanwadgwyntoedd yr Iwerydd a Llif y Gwlff, yncreu amodau ffafriol i’r bryoffytau. Panychwanegir yr awyrgylch laith o dan ycoed oddeutu afon Sgethin, mae’n golygufod yma le arbennig ar gyfer tyfiantbryoffitig o bob math. Mae rhai mathauprin iawn yn tyfu yma.

    Llysiau’r Afu prin iawn – Jubulahutchinsiae, Porella pinnata.

    Mwsogl prin – Schistidium agassizii. Maehwn yn y Llyfr Data Coch – angengwarchodaeth arbennig.

    Y CenTyfiant cyffredin iawn yw’r cen, o’r

    Arctig a’r Antarctig i’r trofannau. Yn yrAntarctig, mae 350 o fathau, saith ohonyntyn tyfu ar ledred 86º. Yng Nghymru, fe’uceir o gopa’r Wyddfa i lawr i’w thraethau.Rhestrwyd 1355 math o gen ym Mhrydain– 500 yn tyfu ar goed a llwyni, y gweddillar greigiau, waliau, pridd a thywod.Planhigyn deuol yw’r cen, yn cynnwysffwng ac alga. Ni all y ffyngau fodoli wrtheu hunain, ac yn arferol fe’u gwelir ynamsugno cynhaliaeth o bydredd organig.Mewn cen, alga yn cynhyrchu’r siwgr igynnal y ffwng. Mae 25 math o algae wedieu darganfod mewn partneriaeth gydaffwng. Y tri math mwyaf cyffredin o’r algaeyw Trebouxia a Trentepohlia, sy’n algaegwyrdd, a Nostoc, sy’n algae glaswyrdd.

    Mae arbrofion wedi dangos fod cen tragwahanol yn cael eu ffurfio drwy osodgwahanol algae gyda’r un math o ffwng.(Ascomycetes yw’r enw a roddir ar y math offwng mewn cen). Er fod modd i’r algaefodoli fel organebau annibynnol, ni cheir yffwng ond fel rhan o’r cen. Mae’r math offwng a’r math o algae yn penderfynu ffurfa lliw y cen. Ffurfia’r hyphae ffwngalrwydwaith agos o amgylch celloedd yralgae, gan effeithio metabolaeth yr algae.Mae’r ffwng yn achosi’r algae i gynhyrchullawer mwy o rai elfennau (alcohol,sorbitol, ribitol) nag y mae’r algae rhyddyn gynhyrchu. Ystyrir y berthynas ynbarasitiaeth dan reolaeth yn hytrach nasymbiosis. Er mwyn symleiddio’radnabyddiaeth gallwn ddosbarthu cen yndri math –

    1. Amgrystiol (encrusting-crustose) 2. Deiliog (leafy-foliose) 3. Canghennog (shrubby-fruticose)Yn anffodus nid oes enwau cyffredin ar

    y rhan fwyaf ohonynt, a rhaid defnyddio’rLladin.

    Mae’r cen amgrystiol yn tyfu yn haenenar doeau, waliau, cerrig beddi a rhisglcoed. Gallant fod o liw gwyn, llwyd neuddu, melyn, oren neu wyrdd. Dyma rai o’rmathau amgrystiol:

    Rhizocarpon geographicum – (S. ‘maplichen’) cen melyn-wyrdd ar greigiau.

    Lecanora atra – Tariannau du – (S. BlackShields) – llwyd a smotiau duon, eto argreigiau a waliau.

    Lecidea spp. – gwyn/llwyd, ar waliau acherrig.

    Cen fflat, sy’n datblygu’n lobau (dail) iymestyn dros gerrig, rhisgl coed a phridd,fel mae’r enw’n ei awgrymu, yw’r mathdeiliog. Gallant fod o liw llwyd, gwyrdd,melyn, oren neu ddu. Cen o liw llwyd neuwyrdd yw Parmelia caperata sydd i’w weldyn aml ar risgl coed, ac yn fwyaf cyffredinble mae’r awyr yn lân.. Un o liw melynyw’r Xanthoria parietina (S. yellow scales) awelir ar waliau cerrig a chreigiau, ynarbennig ar arfordir gorllewinol Cymru, acun brown/du yw’r Peltigera canina – ‘cen y

    20

    Mwsogl – Capsiwliau sporau ar ben coesau main.Awyrgylch llaith yn ddelfrydol ar gyfer atgynhyrchu.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 20

  • 21

    ci’, a welir yn aml yn tyfu ar bridd yngnghanol glaswellt.

    Mae’r cen canghennog yn tyfu felllwyni bychan, neu yn hongian fel coesauswp o rawnwin ar frigau coed. Maecoesau’r math yma ar ffurf silindr neuruban fflat.Yn y dosbarth hwn mae’rmathau, Evernia, Ramalina, Usnea aCladonia. Adnabyddir mathau o’rcladonia fel cen cwpan, gan fod thallus(deilen) yn ymddangos fel coes fechan âchwpan ar ei phen.e.e. C. chlorophaea, C.pyxidata. Cen o’r math Cladonia yw’r hyna elwir yn ‘reindeer moss’ gan y Sais,Cladonia rangiferina.

    Gall Cen atgynhyrchu mewn dwyffordd. Y ffordd mwyaf llwyddiannus ywpan fo edau’r ffwng a chelloedd algae yncael eu torri i ffwrdd, ac yn tyfu o’rnewydd gyda’i gilydd. Dyma’ratgynhyrchiad llystyfol. Mae’r cen hefydyn ffurfio sporau ffwng (a welir yn aml arwyneb y cen fel powdwr neu dyfiant o liwgwahanol i liw y cen). Os daw sporau’rffwng i gysylltiad â chelloedd algae sy’nbodoli ar eu pennau eu hunain, byddantyn ymosod arnynt a’u meddiannu. Mae’ralgae sy’n derbyn yr ymosodiad ynparhau yn fyw fel rhan o’r cen, ond os nalwyddant i ‘dderbyn’ yr ymosodiad’byddant yn marw fel y y bydd y ffwngfarw heb yr algae.

    Fel ag y nodwyd eisoes mae tyfiant cen amwsoglau yn ddibynnol ar burdeb yr awyr.Dyma’n fras dabl i ddangos sut maellygredd nwy swlffwr deuocsid (SO2) ynamharu ar y tyfiant.

    SO2

    Mwy na 170µg/m3 Dim cen yn tyfu.Ceir algae ar fonioncoed.

    120 – 150 µg/m3 Cen amgrystiol i’wweld. Y lleiaf yw’r llygredd, yr uchaf y’igwelir ar goed.

    70 µg/m3 Cen amgrystiolamrywiol. Cen deiliogi’w gweld yn isel argoed. Y math melynyn tyfu ar goncrid.

    60 µg/m3 Cen amgrystiol. Cendeiliog o bob math ynuchel ar goed.

    40 µg/m3 Cen amgrystiol aChen deiliog.

    35 µg/m3 Cen canghennog –Evernia

    Llai na 35µg/m3 Cen canghennog –Usnea – fel coedenfechan di-ddail

    Mae 97 math o gen wedi eu cofnodi arhyd glannau’r afon Ysgethin, ac 8 o’rmathau hynny yn brin iawn, yn eu plithNephroma tangeriense a restrir eto yn y LlyfrData Coch.

    MamaliaidCeir yn y coed y mamaliaid cyffredin

    hynny y gellir eu gweld ymhob cynefintebyg – y llygod (gan gynnwys Apodemussylvaticus – llygoden y coed), y gwencïod(Mustela nivalis), draenogod (Erinaceuseuropaeus), moch daear (Meles meles) acyn y blaen. Yn fwy arbennig efallai,mae’r dyfrgi (Lutra lutra) wedi cael eiweld yn ddiweddar ar hyd glannau’r afonSgethin. Mae’r carlwm (Mustela erminea)i’w weld o dro i dro ar hyd y ffridd.Mae’r coed a’u llennyrch agored yngartref i sawl math o ystlum, gan

    Cen o’r tri math ar garreg ar lannau’r Sgethin. Sylwerar y Cladonia cwpannog

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 21

  • gynnwys y noctiwl (Nyctalis noctua) a’rystlum lleiaf (Pipistrellus pipistrellus), trabod ym Mhlas Cors y Gedol ei hunglwydfan i’r ystlum trwyn pedol lleiaf(Rhinolophus hipposideros) prin.

    AdarUnwaith eto, ceir amrywiaeth eang o

    adar cyffredin yn y coed, y ffridd a’rmynydd. Yng nghoed ‘Sgethin clywch adarman di-rif, yn arbennig felly yn ygwanwyn, pan fydd y lle’n berwi – y coedyn llawn o adar megis teloriaid, y siff saff,a’r gwybedog brith ymysg eraill. Wedimynd heibio pont Fadog, ymysg y rhaimwyaf arbennig mae adar fel mwyalchen ymynydd (Turdus torquatus) sydd aphoblogaeth gref yn y dyffryn, er ei fodwedi prinhau mewn llawer ardal arall. Ynyr haf gwelir clochdar y cerrig (Saxicolatorquata) a thinwen y garn (Oenantheoenanthe) ar hyd y waliau cerrig, a chlywircorhedydd y waun (Anthus pratensis) a’rehedydd (Alauda arvensis) yn canu ymhelluwchben. Ceir yr hebog tramor (Falcoperegrinus) ger llyn Bodlyn, ac os yn hynodffodus gallwch weld y bod tinwen (Circuscyaneus) yn hela dros y tir garw yn yrucheldir. Yn amlach na pheidio foddbynnag, y bwncath (Buteo buteo) a welir yntroelli’n ddiog.

    Plasdy Gors y GedolTybid fod hen blasdy Gors y Gedol a

    ddyddir i’r flwyddyn 1576 yn oes Elisabeth1, y gwychaf yn sir Feirionnydd.Adeiladwyd y Gatws a gynlluniwyd ganInigo Jones, cynllunydd pont Llanrwst, yny flwyddyn 1630. ‘Roedd achau FychaniaidGors y Gedol yn mynd yn ôl at OsbwrnWyddel ac yr oedd cysylltiad rhyngddo ef âLlywelyn Fawr ac Owain Glyndŵr. PlasdyUchelwyr oedd, yn noddi beirdd, achanodd Phylipiaid Ardudwy lawer i’rteulu. Credir fod Siasper Tudur a HenryRichmond wedi aros yn y plasdy. WilliamVaughan 1707 – 75 oedd llywydd cyntafCymdeithas y Cymmrodorion. Ar y ffridduwchlaw’r plasdy mae olion hen bentref o’rcyfnod Romano-Brydeinig, 400 i 800 O.C.yn ogystal â chromlech (un o goetannauArthur) o gyfnod ‘hen lwythau Neolithig’,3000 o flynyddoedd C.C.

    Y Porthmyn Ymhell cyn dyddiau cowbois America,

    ’roedd cowbois Cymru yn gyrru eugwartheg o’r cymoedd gorllewinol, niddiarffordd yr adeg hynny, am gannoedd ofilltiroedd dros y mynyddoedd yr hollffordd i barthau dwyreiniol Lloegr.

    Fel y treiddiodd y dylanwadNormanaidd o’r de-ddwyrain i ganolbarthLloegr a Chymru, cynyddodd y gofyn amgig ffres. Daeth y Porthmon i ateb y gofynhwnnw, a bu’n gyrru gwartheg, defaid,moch a gwyddau yn heidiau swnllyd, ifarchnadoedd Lloegr am ganrifoedd wedihynny. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif

    22

    Llygoden y coed - Apodemus sylvaticus

    Y Boncath (Buteo buteo) yn troelli’n araf yn ngwres yr haf.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 22

  • 23

    mae adroddiadau am naw mil o warthegMôn, chwe mil o wartheg Llŷn yn cael eugyrru i Loegr, a thri deg mil yn teithio ynoo ganolbarth Cymru drwy Henffordd.

    Deuai gyrroedd bychain at ei gilyddmewn mannau arbennig, a man casglu at eigilydd felly oedd Llety Lloegr, enw sy’nwirioneddol addas o ystyried diben y lle. Buyn fanc i’r ardal ymhell cyn dyddiau’rMidland a’r HSBC, ac yn ganolfan bwysigi’r gymdeithas amaethyddol flynyddoeddmaith yn ôl, gan mai gyda dychweliad yporthmyn o’u teithiau i dalu’r ffermwyr, ydeuai newyddion am y byd mawr y tu allan.

    Lleolir Llety Lloegr ger Pont Fadog, acfe dybir bod pont yma ymhell cyn ydyddiad a welir ar y bont bresennol(1672). Yn sicr, mae’r bont wedi hwylusocroesi’r afon yn y fan yma, gan fod llawer ohen lwybrau’r bryniau yn cyrraedd y fanhon, a’r llwybrau hynny wedi bod yno erscyn cof. Erys, ger Llety Lloegr, goedPinwydd yr Alban. Arferai ffermwyr a allaigyflenwi bwyd, llety a phorfa, blannu tairpinwydden i wneud eu ffermdai’n weladwyi’r porthmyn o bellafoedd. Erys y coed hyn,fel coedydd a thyfiant llysieuol dyffryn yrafon Sgethin – dyffryn Ardudwy, ynetifeddiaeth i ni o’r gorffennol.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 23

  • 24

    Mae yna ambell i gyfnod mewn bywydsy’n aros ym meddwl rhywun am byth.Bydd hanner awr wedi un-ar-ddeg, ddyddMercher 19eg Fai 2004 yn aros hefo mi.Canodd y ffôn a llais yn dweud “Dwi wedidarganfod y nyth. Tyrd i fy nghyfarfod ymmaes parcio’r dafarn a phaid â dweud dimmwy rhag ofn fod yna rywun yn gwrando.”

    Dyma adael pob dim, neidio i’r car, codiSteve ac i ffwrdd â ni am Hafod Garegog iedrych ar goeden bîn fawr ar stad Ynysfor.Ar ben ucha’r goeden roedd nyth mawr,blêr hefo pen bach yn edrych dros yr ochrac ar frigyn gerllaw roedd ceiliog Gwalch yPysgod. Y pâr cyntaf erioed i nythu yngNghymru. Haleliwia!!!!!

    Dechreuodd fy niddordeb i yn ygweilch yn gynnar yn y nawdegau panwelodd Elfyn Lewis o Borthmadog un ynpysgota ar y cob un mis Medi. Ers hynnymaent wedi bod yn ymweld yn rheolaiddpob blwyddyn wrth deithio’n ôl a blaen oAffrica i’r Alban. Yn 2003 roedd Elfyn ynhapus fod yna ddau aderyn yn yr ardal,ac fe welwyd un yn ymddangos fis Awst.Arwydd oedd hyn naill ai o bâr ifanc neugeiliog ifanc yn arddangos am fod ganddodiriogaeth.

    Gwanwyn 2004 – ac roedd llawer ooriau wedi eu treulio’n gwylio’r cob.Ddiwedd Ebrill ac roedd yna ddau walchond beth oeddynt yn ei wneud? Treulioddrhai ohonom fwy o oriau yn ceisio dilyn yradar, ond roeddem bob tro yn eu colli ynardal Nanmor.

    Ar ôl derbyn yr alwad ffôn, y cam cyntafoedd cysylltu â’r RSPB a gwneudtrefniadau i ddiogelu’r pâr rhag ymyrraeth,a hefyd i warchod y nyth rhag ofn i’rcasglwyr wyau glywed amdano.Dechreuodd gwyliadwriaeth o’r safle drwyddefnyddio gwirfoddolwyr lleol, aelodauClwb Adar y Glaslyn, Cymdeithas EdwardLlwyd, Cymdeithas Ted Breeze,wardeiniaid y Parc Cenedlaethol, staff yCyngor Cefn Gwlad a’r RSPB. Y gobaithoedd cadw’r wybodaeth yn gyfrinachol hydnes i’r wyau ddeor. Yng nghanol misMehefin cawsom storm a symudodd ynyth, ond, ar waethaf hyn, roedd y ceiliogyn dal i gario pysgod i’r iâr a oedd yn dal ieistedd ar y nyth.

    Roeddem wedi paratoi i roi gwybod i’rwasg pan fyddai’r wyau wedi deor. Ynanffodus un dydd Mercher yn niweddMehefin fe lawiodd dros ddwy fodfeddmewn ychydig o oriau, a llithrodd y nyth

    Y ceiliog ac un o'r cywion ar frig y goeden uwchben y nyth

    Llwyddiant – y cyw yn codi i ehedeg am y tro cyntaf!

    Ymgyrch PandoraKelvin Jones

    Swyddog Atal Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt, Heddlu Gogledd Cymru.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 24

  • 25

    o’r goeden a disgynnodd y ddau gyw oeddyn y nyth dros 80 o droedfeddi i’wmarwolaeth.

    Er hynny, ar y 3ydd o Orffennafagorwyd man cyhoeddus i’r cyhoedd gerPont Croesor ym Mhrenteg. Roedd y ddauoedolyn yn ymdrechu i drwsio'r nyth ac yndal i bysgota a chario pysgod yn ôl i’r saflei fwyta. Ar y penwythnos cyntaf yma daethdros 400 o bobl i weld yr adar. Arhosoddyr adar tan ddechrau Medi, ac erbynhynny roedd dros 9000 o ymwelwyr wediymweld â’r safle i’w gweld.

    Yn ystod y gaeaf daeth Roy Dennis, yrarbenigwr ar y gweilch, i lawr o’r Alban a

    rhoi cyngor i ni ar sut i gryfhau'r nyth. FisIonawr cafodd y goeden ei chryfhau ac maesylfaen nyth newydd wedi ei gosod. Maepawb gymrodd ran yn Ymgyrch Pandora2004 yn gobeithio y bydd y gweilch yndychwelyd i Ddyffryn Glaslyn yn Ebrill2005, a’r tro yma y cânt lwyddiant.

    Ôl nodyn: Fel y gŵyr y cyfarwydd,cafwyd mwy o lwyddiant eleni, ac ar hyn obryd (Gorffennaf 2005) mae dau gyw yn ynyth.

    Gol.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 25

  • 26

    Yn 1985 y cofnodwyd, am y tro cyntaf,bresenoldeb y gwyfyn Cameraria ohridella,mwynwr y gastanwydden, ym Macedonia.Ers hynny fe’i gwelwyd yn Awstria yn1989, ac erbyn troad y mileniwm roeddwedi ymgartrefu ym mwyafrif gwledyddDwyrain a Chanolbarth Ewrop. Erbyn2001 daethpwyd ohyd i nifer fechan ooedolion ar goed ytu allan i Baris acerbyn 2003 ’roeddadroddiadau amboblogaethau uchelyng Ngwlad Belg,Ffrainc a’rIseldiroedd. Yn 2002 derbyniwyd yradroddiad cyntaf o wledydd Prydain – argoeden yn Wimbledon, De Llundain.Erbyn 2004, ’roedd y gwyfyn wedi lledutrwy dde Lloegr ac ambell adroddiad yndod o’r canolbarth, er enghraifft Stratford-Upon-Avon. Go brin na fydd yn cyrraeddCymru a’n coed Castanwydd yn ystod yblynyddoedd nesaf – efallai ei fod eisoeswedi cyrraedd!

    Yn ddibynnol ar yr hinsawdd, gellir caelhyd at bum cenhedlaeth o’r gwyfyn bobblwyddyn. Mewn hinsawdd sych achynnes ceir cenedlaethau byr a datblygiadcyflym. Gwelir yr oedolion tua mis Ebrill;byddant yn allddod yn gynnar yn y bore acyna’n hedfan i foncyffion y coed i baru.Yn ystod misoedd Mai i Awst bydd ygwyfyn benywaidd yn dodwy ei hwyau arddail y Gastanwydden; rhyw 20 – 40 wy yrun. Cymer rhyw 18-20 diwrnod i’r wyauddeor ac yna bydd y larfâu bychain yncloddio i feinwe’r ddeilen gan wneudtwnneli rhyw 1-2 mm o hyd.

    Cymer rhyw fis i’r larfâu ddatblygu trwyeu gwahanol raddau a thrwy’r amser

    byddant yn bwydo ar feinwe fewnol yddeilen gan adael yr epidermis yn ddi-nam.Dyma, wrth gwrs, pam y’u gelwir ynfwynwyr. Ffurfir chwiler rhyw bythefnoscyn eu bod wedi llawn dyfu a gorchuddirhwn gan gocŵn sidan. Os mai dyma’rgenhedlaeth olaf o’r tymor, yna gall ychwiler aeafu oddi mewn i’r cocŵn am 6-7mis gan osgoi unrhyw niwed oddi wrth yrhew a’r oerni.

    Pam y gofid? Yn Awstria a GweriniaethTsiec mae’r gwyfyn bellach wedi ymosod arbron bob coeden gastan ac mae’r twnnelisy’n rhedeg ar draws y dail nid yn unig ynanharddu coed sydd fel arfer yn wrthrychaurhyfeddod a mwynhad, ond mewn llawercoedwig mae’r niwed mor ddifrifol fel bod ycoed eu hunain yn dioddef. Wrth ymweld âPhrifysgol Jena, ynnwyrain yr Almaen yllynedd gwelais goednad oedd yr unddeilen arnynt hebddioddef ymosodiadgan y gwyfyn.

    Oes yna fodd i’wrheoli? Cael gwaredo ddail y gastanwydden yw’r ffordd fwyafeffeithiol o reoli’r pla – trwy waredu’r dailceir hefyd wared ar y chwiler sy’n gaeafuoddi mewn i’r feinwe. Mae’r tymheredd addatblyga mewn tomen gompost fawr felarfer yn ddigonol i ladd y gwyfynod; nid ywhyn yn wir am domenni llai.

    Mae angen cofnodi dyfodiad y gwyfynhwn i Gymru – gall darllenwyr YNaturiaethwr gadw’u llygaid ar agor. Ganmor ychydig y trychfilod sy’n ymosod arein coed castan, siawns na ellir adnabodmewnfudwr yn weddol hawdd.

    Lluniau: Hawlfraint Prifysgol Jena, Yr Almaen

    Y gwyfyn: Cameraria ohridella

    Difrod i ddail yGastanwydden

    Mwynwr Castanwydden y MeirchDr Hefin Jones

    Mae’r awdur yn uwch-ddarlithydd mewn ecoleg, Ysgol Biowyddoreg, Prifysgol Caerdydd, gyda diddordeb arbennig mewn trychfilod.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 26

  • Profiad digon ysgytwol fuasai inaturiaethwr cyfoes ymweld â safle felCwm Idwal yn ystod misoedd yr haf adychwelyd heb weld nemor ddim o’rplanhigion prin. Ond yn ystod y 19 ganrifbyddai profiad o’r fath yn beth digoncyffredin. Pan fyddai’r planhigion a dyfaimewn safleoedd hawdd i’w cyrraedd yndechrau blodeuo siawns go sâl fyddai ganneb i gael golwg arnynt os byddai casglwrdiegwyddor wedi cael y blaen arnynt achodi’r cyfan o’r gwraidd a mynd â hwyadref i’w sychu a’u gwasgu a’u cadw gydagweddill ei gasgliad yn ei Herbariwm.Byddai’n rhaid defnyddio rhaffau i gael aty rhai a dyfai yn uchel ar y clogwyni, abyddai’n arferiad hefyd gario ffyn hir gydachrymanau bychain ar eu blaenau er mwyndadwreiddio y rhai oedd allan o gyrraedd.

    Erbyn blynyddoedd olaf oes Victoriaroedd casglu anghymedrol o’r fath ganfotanegwyr a chasglwyr planhigion ffasiynoly cyfnod wedi gadael ei ôl ar blanhigioncynhenid Eryri, fel sawl ardal arall.Casglwyd rhai o blanhigion prinnaf y wlad,(fel y Tormaen Siobynnog (Saxifragacespitosa) yng Nghwm Idwal) bron atddifancoll, ac er bod sawl un wedi lleisio eugwrthwynebiad i hyn parhaodd y casglu hydat o leiaf ddiwedd y ganrif, os nad wedyn.

    Poenai J.E. Griffith, Bangor (1843-1933), awdur The Flora of Anglesey andCarnarvonshire, (d.d. ? 1895), am ddyfodolplanhigion fel Lili’r Wyddfa (Lloydiaserotina) a’r Gelynredynen (Polystichumlonchitis) a oedd yn prinhau’n gyflym drwygael eu casglu fesul basgedaid i’r ymwelwyr

    gan y bobl leol, heb sôn am y casglwyr a’rmeithrinwyr barus.

    O sylweddoli’r rheibio mawr aeth untywysydd lleol mor bell a chreu pysgodlyngyda mân ynysoedd arno ar lannau LlynPadarn ger Llanberis er mwyntrawsblannu rhai o blanhigion prin Eryrii’w diogelu. Y gŵr craff hwn oedd neb llaina’r potsiar planhigion enwog WilliamWilliams (1805-1861), ‘Wil Boots’ i’r boblleol, a oedd yn ail i neb fel casglwrplanhigion prin, ond yn gyndyn iawn orannu’r gyfrinach gyda neb am eu hunionleoliad. Gwelir y cofnod am ei weledigaethmewn ysgrif o waith William Williams,Tregof, Llanberis, yn rhifyn 1907 o AwelEryri, papur lleol Dyffryn Padarn a’r cylch.‘Llyn Wil Boots’, fel y’i gelwid, oedd yrymgais gyntaf i greu gwarchodfa natur ynEryri, hyd y gwn. Ni wyddys pa morllwyddiannus fu’r fenter gynnar hon gan iWil ddisgyn i’w farwolaeth ar Glogwyn yGarnedd, yr Wyddfa, ym mis Mehefin1861 tra’n casglu’r Goredynen Alpaidd

    27

    Chwynnu’r planhigion brodorol aphlannu blodau tramor yn Eryri

    Dewi Jones, Penygroes, Gwynedd

    Mae Dewi Jones yn awdurdod ar blanhigion Eryri, ac yn awdur nifer o lyfrau ar fotaneg a botanegwyr.

    Y Gelynredynen Polystichum lonchitisLlun: G.W.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 27

  • 28

    (Woodsia alpina) i ymwelwyr wrth eu tywysi gopa’r Wyddfa.

    Roedd William Williams yn cael ei gyfrifyn brif arbenigwr ei gyfnod ar safleoeddplanhigion Arctig Alpaidd Eryri, ymysggwyddonwyr dysgedig yn ogystal agymwelwyr, ac fel unrhyw gymeriad arbennigarall lledaenodd amryw o chwedlaudiddorol amdano. Nid chwedl fodd bynnagyw’r ffaith ei fod yn ystod ei yrfa wedi caelei gyhuddo o geisio trawsblannu o leiafddau o blanhigion prin mewn gwahanolsafleoedd ym mynyddoedd Eryri.

    Mae un ohonynt, sef y Derig (Dryasoctopetala) yn parhau i ffynnu arfynyddoedd y Glyder, ond nid oes sicrwyddo dranc y llall, sef y Llugwe Fawr, neu’rRhedynen Cilarne (Trichomanes speciosum),gan na welwyd hon yn unman ar yr Wyddfayn ddiweddar. Roedd yr Athro Babington,Caergrawnt, a’r botanegydd WilliamPamplin, a symudodd i fyw i Landderfel yndilyn ei ymddeoliad, yn gwblargyhoeddedig mai darganfod y Derig ynhytrach na’i phlannu ar y Glyder wnaethWilliam Williams. Rhestrodd Hugh Daviesy Derig, am ei fod wedi ei gynnwys gan J.E.Smith yn ei Flora Britannica (3 cyf.,1800-1804), yn ei Welsh Botanology (1813: t134)ond nid yw’n cadarnhau iddo ei weld ynunman. Darganfuwyd y Derig mewn saflenewydd ar fynyddoedd y Carneddau ganEvan Roberts, Capel Curig yn 1946.

    Ar ddechrau’r 20 ganrif gwelwydagwedd newydd, gadwraethol yn dechrauymddangos a oedd yn gyfrwng i wrth-droidifrod y gorffennol. Dechreuodd y syniad o

    greu gerddi alpaidd yn Alpau’r Swistir ynystod y 1880au ac erbyn troad y ganrifroedd symudiad ar droed i gael gerddi oblanhigion alpaidd ar y mynyddoedd.

    Syniad Arthur Kilpin Bulley (1861-1942), brocer cotwm o Lerpwl, oedd creugardd o blanhigion alpaidd ar yr Wyddfa.Dyn a’r craffter ganddo i wneud elw oeddBulley, a’i hoffter o flodau a’i hanogodd igyflogi helwyr planhigion i chwilio Tsieinaa’r Himalaia am blanhigion. Creodd ErddiNess yng Nghilgwri gan sefydlu meithrinfaenwog Bees. Roedd yn Sosialydd, yn ŵrbusnes hirben, ac nid oedd ball ar eiymdrechion i sicrhau planhigion newydd athanysgrifiodd yn hael i’r ymgyrchoeddcynharaf ar Everest.

    Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntafroedd Bulley yn ŵr cyfoethog iawn athyfodd ei frwdfrydedd i greu gardd oblanhigion tramorol ar un o fynyddoeddPrydain. Bu’n trafod ei syniad gydachyfarwyddwyr gerddi botaneg Glasnevin aKew gan ddatgan ei fod yn fodlon prynudarn o fynydd-dir rhywle yn Lloegr neuGymru, a’i gyflwyno i Kew fel llainragbrofol ar gyfer cynefino planhigiongwydn hardd.

    Penderfynodd Bulley ar yr Wyddfa asicrhawyd ef gan fotanegwyr profiadol felJohn Bretland Farmer (1865-1944) maillethrau’r Cwmglas, yr Wyddfa, uwchlawBwlch Llanberis fuasai’r man mwyafdelfrydol. Mae’r safle yn enwog am eihamrywiaeth o blanhigion Arctig-Alpaiddyn tyfu ar derasau o bridd bas yn gymysg âchreigiau brig calchog. Mantais arall oeddbod lein fach yr Wyddfa, oedd yngweithredu ers 1896, yn fodd hwylus igario’r planhigion i Stesion Clogwyn, drichwarter y ffordd i ben y mynydd, ganysgafnhau’r llafur o’u cario i’r cwm.

    Bryd hynny roedd Cwmglas yn rhan oStad y Faenol a dechreuodd Bulley drafodgyda’r ymddiriedolwyr, ond methu fu eiymgais i brynu, ond cynigiwyd iddobrydles ar 500 acer i’w rentu, a chytunwydar hynny. Bu trafodaeth bellach ynglŷn agamgáu’r llain 30 llath wrth 10, ondpenderfynwyd peidio, ond fe osodwyd

    Y Derig Dryas octopetalaLlun: G.W.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 28

  • arwydd ar waelod y teras ac awgrymoddBulley’r geiriad canlynol iddo:

    The Director of Kew is carrying outon this terrace an interestingexperiment. Its object is to ascertainwhether alpine plants from all parts ofthe world will grow on Snowdon. Thepublic are earnestly invited tocooperate by refraining from touchingthe plants. They will thereby make itpossible to leave the area open.Lluniodd Bulley restr o blanhigion o’i

    gasgliad toriadau ei hun a’i hanfon i Kewam gymeradwyaeth, ac roedd W. Irving,goruchwyliwr o Kew, i ddod â phlanhigionychwanegol gydag ef i Eryri, gan maimenter ar y cyd oedd hon.

    Penderfynwyd mai cyn diwedd Medi,1921 oedd yr amser gorau i symud yplanhigion cyn i lein fach yr Wyddfa gau drosdymor y gaeaf, ac ar 24 o’r mis plannwyd 88o wahanol blanhigion alpaidd a’r cyfan wedieu rhestru, eu ffotograffio a’u rhifo.

    Yn eu plith roedd Tormaen melyn ymynydd (Saxifraga aizoides), sy’n tyfu’nfrodorol yn Ardal y Llynnoedd, Soldanellaalpina ac Androsace carnea, o’r Alpau,Androsace lanuginosa, Mertensia primuloides,Primula rosea, o’r Himalaia, Astilbesimplicifolia o Japan ac Acaena buchananii oynys ddeheuol Seland Newydd. Roedd

    rhai wedi eu cyflwyno gan gasglwyr Bulley,fel Primula vialii gan George Forrest, aGentiana farreri gan Reginald Farrer. Maerhai o’r planhigion yn eithaf hawdd i’w tyfumewn gerddi fel y Campanula garganica o’rEidal, ond ni phlannwyd unrhywRododendron. Ni allai neb ragweld sut ybyddai’r planhigion newydd hyn yngwrthsefyll hinsawdd gyfnewidiol Eryri nacychwaith ba effaith a gawsai’r defaid a’rgeifr arnynt.

    Ni fu’n hir nes i’r stori gyrraeddclustiau’r wasg. Roedd rhifyn 16 Hydref1921 o The Observer yn proffwydo:

    All being well, there will, within thenext three or four years, be largesweeps of alpine flowers blossoming onSnowdon with a freedom rivallingtheir native home.Yn rhifyn 17 Hydref 1921 o’r Daily Mail

    gwelir colofn yn hysbysu’r darllenwyr bodgardd o blanhigion tramor am gael ei chreuar yr Wyddfa, gan gythruddo Bulley ynfawr, ac meddai mewn llythyr at Syr DavidPrain, cyfarwyddwr Gerddi Botaneg Kew:

    There is in today’s Daily Mail anotice about the Snowdon planting.The wretches rang me up last night. Ineed hardly say that the statement inthe last par. is wholly imagining.Beastly sensationalists !Roedd yr adroddiadau newyddiadurol

    wedi chwyddo’r stori allan o bob rheswmgan ddweud bod rhannau eang o’r Wyddfawedi ei phlannu, gan ychwanegu y byddai’rrhan fwyaf o’r mynydd yn llawn blodaualpaidd o fewn ychydig flynyddoedd.

    29

    Soldanella alpinaLlun: G.W

    Tormaen Melyn y Mynydd Saxifraga aizoidesLlun: G.W.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 29

  • 30

    Dilynodd newyddiaduron eraill yr hanesgydag awch wedi hyn.

    Fodd bynnag, nid oedd pawb yngefnogol i’r syniad, ac mewn llythyr i TheObserver yn ddiweddarach dywedwyd ybuasai rhai garddwyr yn croesawu’r plannurhagbrofol, ond roedd y rhai a garaigymeriad yr Wyddfa a’i lystyfiant brodorolyn gofidio am yr effaith ddilynol, ac onifuasai’n well rhoi mwy o sylw i’wgwarchod. Roedd Bulley wedi tynnu nythcacwn i’w ben, ac mewn cryn benbleth butrafodaeth rhyngddo a Prain ynglŷn â bethi’w wneud. Cyhoeddwyd nodyn o eglurhadyn y rhifyn nesaf o’r Kew Bulletin gyda’rgobaith o dawelu pethau. Roedd ganBulley gynlluniau ar gyfer rhagor o blannuyn uwch i fyny ar y clogwyn, ond ar yr unpryd nid oedd am ddilorni enw da Kew achreu embaras. Deallai bod cefnogaeth ycyhoedd i’r fenter yn holl bwysig, ac er bodcynlluniau wedi eu trafod ynglŷn â chreugardd gyffelyb yn yr Alban ni wireddwyd ybwriad. Erbyn 1925 ychydig iawn o’rplanhigion estronol oedd wedi goroesi yngNghwmglas ac roedd yr arwydd wedidisgyn ac yn gorwedd ar y sgri islaw.

    Roedd y diddordeb mewn gerddialpaidd yn cynyddu ym Mhrydain yn ystody blynyddoedd canlynol, a’r brydles arGwmglas yn parhau ym meddiant Bulley.Trefnodd yr Alpine Garden Society, aoedd wedi ei ail ffurfio, wythnos o wyliaui’w haelodau ar y cyd â chwmni lein fachyr Wyddfa a gwesty’r Royal Victoria,Llanberis, yn ystod mis Hydref 1932.Manteisiodd Bulley ar hyn gan gynnig cyflei’r gymdeithas gynnal arbrofion yngNghwmglas. Estynnodd wahoddiad i raio’r aelodau gael ymweld â’r cwm, ac ynystod yr ymweliad hwnnw gwasgarwydhadau o blanhigion Asiaidd yn ddistawbach ar uchder o tua 850 medr ar yllethrau yn union islaw Stesion Clogwyn aryr Wyddfa.

    Unwaith eto daeth y wasg i glywed am ystori ac roedd gan The Times erthyglflaenllaw ar y mater yn rhifyn 28 Hydref1932, ond yr ergyd a achosodd y syndodmwyaf i Bulley oedd y ffaith i gyngor y

    Gymdeithas Linneaidd, y corff hynaf amwyaf dylanwadol ar naturiaetheg drwy’rwlad, wrthwynebu’r syniad yn unfrydol.Chwalwyd breuddwydion Bulley wedyn.

    Erbyn blynyddoedd olaf yr 20 ganrifallan o holl blanhigion Bulley dim ond daily Ramonda myconi oedd wedi goroesi yngNghwmglas, ond fe wnaeth yn hollolddiymwybod iddo ei hun, gyfraniadhollbwysig i gadwraeth yn Eryri. Erbynhanner olaf yr 20 ganrif nid oedd yTormaen Siobynnog i’w weld yn eigynefin naturiol yng Nghwm Idwalmwyach, a botanegwyr y cyfnod wedi rhoii fyny’r gobaith amdano.

    Yna, yn ystod y chwedegau gwelwyd ymymryn lleiaf ohono yn tyfu ymysg yclogfeini islaw Twll Du. Er mwyn sicrhauei ddyfodol cludwyd hadau o’r safle danoruchwyliaeth y Cyngor Gwarchod Natur iErddi Botaneg Ness yng Nghilgwri, ysefydliad a greodd Bulley, er mwyn eumeithrin cyn eu plannu yn ôl yng NghwmIdwal. Bu’r adferiad yn llwyddiannus.

    Ffynonellau a darllen pellach:McLean, Brenda (1997) A Pioneering

    Plantsman: A K Bulley and the great planthunters London: The Stationery Office.

    Jones, Dewi (2002) ‘Nature-formedbotanists’: notes on some nineteenthcentury botanical guides of SnowdoniaArchives of Natural History 29 (1): 31-50.

    Ramonda myconiLlun: G.W

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 30

  • I lawer un, nionyn dan garn y diafol ywgarlleg! Credai’r Hen Roegwyr fod garllegyn tyfu dan droed chwith y diafol a dyna’utystiolaeth ei fod wedi bod yn busnesa wrthborth y nef!

    Ar hyd y canrifoedd mae pobol wedicasáu neu foli y planhigyn hwn. Profiadnas anghofiaf fyth oedd cael prawf llygaidgan feddyg oedd wedi bwyta ar y mwyaf ogarlleg amrwd i’w swper!

    Er maint ei broblemau cymdeithasol,planhigyn rhinweddol yw’r garlleg. Panoeddwn yn blentyn roedd yn hollol estrongan nas tyfir mewn gardd na chae ac roeddyn enghraifft berffaith o’r hen goel fodrhaid i bopeth llesol flasu’n ddrwg. Ergwaethaf hyn, derbynnir blas y garllegerbyn heddiw mewn pob math o fwydydd.

    Cred llawer fod garlleg yn llesol ac maellawer un yn honni ei fod yn gwella popetho glefyd y galon i glefyd siwgr. Yn wir,credai’r hen Ffaros Eifftaidd mor gryfynddo fel eu bod yn ei gynnwys yn eullwyth ar gyfer y daith i’r ‘ochr draw’!

    Serch hynny, byrdwn yr erthygl hon ywadrodd stori’r planhigyn fel gwrthfacterol(gwrthfiotig).

    Y dystiolaeth hanesyddolEi ddefnydd yn ystod y Pla Du (Yersinia

    pestis) 1347 – 1352 yw’r dystiolaethbendant gyntaf ei fod yn difa bacteria.

    Yn 1347 daeth y Pla Du i oresgynEwrop gyfan. Cychwynnodd yn y Dwyrainac o fewn pedair blynedd lledodd o Dwrci iBrydain a gweddill Ewrop. Cariwyd ef ganlygod du a throsglwyddwyd ef yn draeffeithiol o’r llygoden i ddyn gan chwain.

    Fel yr oedd y llygod yn gwanhau, ac ynmethu ymladd y chwain arnynt, roedd nifer

    y chwain, yn naturiol, yn cynyddu. Fellypan oedd y llygod yn marw, roedd rhaid i’rchwain chwilio am gartref newydd.

    Roedd dyn yr un mor dderbyniol âllygod i’r chwain felly roedd dwy ffordd i’rPla ymledu – cariwyd ef gan lygod a dynfel ei gilydd.

    Er i lawer iawn o boblogaeth Ewrop gaeleu lladd, ni fu pawb farw. Mae nifer oresymau reit siŵr. Y rhai oedd yn debygoliawn o farw oedd cymunedau clos ymynachlogydd, a’r trefi nid nepell oborthladdoedd a ffyrdd prysur. Roeddgwlad weinyddwyr fel offeiriad, plismyn ameddygon mewn gwaith hynod beryglus alladdwyd y rhan fwyaf ohonynt. Oganlyniad, bu i haen ddysgedig Lloegr gaelei diddymu.

    Yn ddiddorol iawn bu’n fodd i’r iaithSaesneg gael ei hail orseddu. Gweringwlad a siaradai Saesneg a thra-arglwyddiaethai’r Brenin a’i lys drwy’rLladin. O ganlyniad i ddifrodi’r todysgedig, roedd llafur yn brin ac ynsydyn cafodd y werin, Saesneg eu hiaith,rym i’w dwylo. Arweiniodd hyn atwrthryfel Tyler. Roedd Rhisiart II, ‘YBoy King’, yn ddigon craff i sylweddolipwysigrwydd ailafael yn yr iaith Saesnegwrth siarad a’r gwrthryfelwyr gan osgoiymladdfa waedlyd.

    Sut felly yr arbedwyd y werin rhagdifodedd? Mae sawl rheswm reit siŵr:-

    • Gwytnwch arbennig rhag y Pla• Glanweithdra• Cymunedau anghysbell• Trwythau llysieuol gwrthfiotigY pedwerydd posibilrwydd yw’r mwyaf

    diddorol o safbwynt y stori hon.

    31

    Garlleg a’r Iaith Saesneg!Osborn Jones,

    Gwernafalau, Llandwrog, Caernarfon

    Mae Osborn Jones yn gadeirydd cwmni sy’n arbenigo mewn tynnu DNA o ficrobau ar gyfer eu dadansoddi.

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 31

  • 32

    Mae dwy stori o lên gwerin Lloegr aFfrainc sy’n awgrymu fod garlleg wedichwarae rhan flaenllaw.

    Yn Llundain, lle ’roedd poblogaethfwyaf Lloegr yn byw yn un clwstwr ogwmpas y porthladd roedd problemarswydus. Ateb rhai offeiriaid oedd creumwgwd wedi ei lenwi â garlleg fel eu bodyn anadlu drwyddo. Nid oes manylionynglŷn â ffurf y garlleg ond buasai eieffeithiolrwydd yn dibynnu a oeddynt yn eifalu’n fân a’i peidio. (gw ‘y dystiolaethwyddonol’).

    Yn Ffrainc mae diod o’r enw ‘Finegr yPedwar Lleidr’ . Yn ystod y Pla Du arferidrhoi pardwn i ladron os oeddent yn fodlonbod yn ymgymerwyr y meirw. Arferai’rlladron falu garlleg amrwd i’w gwin, eiadael am rai diwrnodiau, ac yna ei yfed ynrheolaidd. Diod amrwd a drwg ei flas reitsiŵr ond rhyfeddai’r awdurdodau at eugallu i fyw o dan y fath amodau.

    Pa dystiolaeth arall sydd ar gael? Ynystod y rhyfel byd cyntaf arferid eiddefnyddio yn uniongyrchol ar glwyfaullidiog y milwyr. Yn ddiweddar iawndeuthum ar draws rysáit Americanaiddam drwyth hynod o debyg i Finegr yPedwar Lleidr.

    Dyma ei gynhwysion:-

    500ml Finegr seidr5 diferyn olew rosmari5 diferyn olew oregano5 diferyn olew lafant5 diferyn olew saets5 diferyn olew mintys poethion5 diferyn olew clof5 diferyn olew lemwn5 diferyn olew pupur du5 diferyn olew capsicum1 pen garlleg wedi ei falu’n fân3 owns sinsir wedi ei sleisio

    Sylwch ar y ganran uchel o garlleg syddyn y cynhwysion!

    Y Dystiolaeth WyddonolMae’n hysbys i fiocemegwyr fod

    cemegyn gwrthfiotig mewn garlleg sefAllicin. Yr hyn sy’n ddiddorol yw fodAllicin ar ffurf wahanol, sef Alliin mewngarlleg heb ei falu. Wrth i’r garlleg gael eifalu mae Allinase yn troi Alliin yn Allicin ahwn sy’n lladd y microbau. Diddorol fellyyw sylwi mai yn amrwd, wedi ei falu, maegarlleg fwyaf effeithiol fel meddyginiaeth.

    Alliin

    Allicin

    Ffaith ddiddorol arall am Allicin yw eifod yn foleciwl bychan ac un sydd yn hawddi’w amsugno drwy’r croen. Wrth ei fwyta’namrwd gall groesi drwy dop y geg yn syth i’rgwaed – gall hefyd groesi’n ôl o’r gwaed i’rcylla mawr gan osgoi’r stumog. Does dimsyndod felly fod hyd yn oed chwys traedbwytawyr selog o’r garlleg yn drewi!

    Ei effaith ar wahanol fathau o facteria. Gwerthir garlleg fel ‘pro-biotic’ h.y.

    honnir ei fod yn hybu bacteria da tra ar yrun pryd yn difa’r bacteria drwg. Os ywhyn yn wir mae’n blanhigyn rhyfeddoliawn.

    FourThieves

    Vinegar

    C

    H

    S C

    H

    O

    H

    O

    NH2O

    C

    H2

    C

    H2

    C

    H2

    C

    C

    H

    S C

    H2

    C

    H2

    O

    C

    H2

    C

    H2

    C

    H2

    C

    H

    Alliin Allicin

    Allinase

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 32

  • 33

    A oes tystiolaeth? Flynyddoedd yn ôl, pan oeddem yn

    helpu plant yr Aelwyd ar brosiect henfeddyginiaethau cawsom gyfle i fynd i’rYsbyty lleol lle buom yn rhoi tafelli bach ogarlleg amrwd ar ben twf o facteria arblatiau agar. Lladdwyd cylch o facteria ogwmpas y garlleg, ond yr hyn oedd yndrawiadol oedd fod rhai rhywogaethau ynfwy tebygol o gael eu lladd na’r lleill.

    Yn ddiweddar cododd pwnc y garlleg a’ieffaith ei ben eto. Y tro hwn yng nghyd-destun gwaith Yr Athro D Lloyd yngNghaerdydd. Digwyddais sôn wrtho amein harbrofion elfennol ac er syndod i mi,dywedodd fod hyn yn hollol bosib ac maidyma sail ymchwil un o’i dimau yn yradran. Er gwybodaeth, rhestraf y papuraupwysicaf a gyhoeddwyd gan wyddonwyrCaerdydd ar ddiwedd yr erthygl (1-2).

    Soniais fod y fersiwn fodernAmericanaidd o ‘Finegr y Pedwar Lleidr’ yncynnwys swm anarferol o uchel o garlleg.

    Mewn pen garlleg mae tua 40 mgm oAlliin

    Mewn 10ml o’r trwyth byddai oddeutu1mgm sef dogn digon cryf i ladd ycanlynol:- Shigella, Escherichia,Staphylococcus, Proteus, Pseudomonas,Camplylobacter, Salmonella

    Felly mae’n debyg y gellir derbyn yn osicr fod gan garlleg rinweddau hynod, ganiddo, yn ôl rhai, newid cwrs hanes drwy

    helpu i ail orseddu’r iaith Saesneg. Mae’ndebyg bod tipyn o waith i’w wneud eto ar ypwnc, felly pob lwc i Brifysgol Caerdydd acedrychwn ymlaen at glywed eu casgliadau.

    1. Harris, J C et al. Antimicrobial properties ofAllium Sativum (garlic) (2001) 57:282-286Applied Microbiol Biotechnol.

    2. Lemar, K M et al. Garlic (Allium sativum)as an anti-Candida agent: a comparison ofthe efficacy of fresh garlic and freeze-driedextracts, Journal of Applied Microbiol. 2002,93, 1-8.

    Garlleg. Allium sativum

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 33

  • 34

    Noson braf o haf hirfelyn tesog; dimchwa o wynt; y llyn yn llonydd fel mewnllun; Gorffennaf ar ei orau; lliwiau’rmachlud yn oedi’n hir ar wyneb y dŵr.

    Yn sydyn, heb unrhyw ragrybudd, pryfgweddol ei faint yn ymddangos ar wyneb yllyn. Eiliad neu ddau, fel pe i gael ei draeddano, ac yna, gyda’i chwe choes mewncytgord cyson, megis chwe rhwyfwrdisgybledig mewn cwch, – yn cymryd eihynt ar draws y llyn, gan adael ei ôl ynllydan ac eglur ar wyneb y dŵr.

    Os bydd ffawd yn garedig wrtho, osbydd hi’n barod i wenu arno am y tro, ynamae gobaith iddo gyrraedd y lan mewnrhyw ran o’r llyn. Os mai fel arall y byddhi, yna clywir sblash, a gwelir troellanpysgodyn yn ymledu’n llydan hyd nesymgolli yn llonyddwch a llyfnder y llyn – adiflaniad y pryf.

    A dyna Rwyfwr Cochddu Mawr arallwedi mynd i gynnal bywyd ac i gynyddupwysau un o frithyll barus y llyn.

    Eithr os mai llwyddo i gyrraedd glan yllyn, yn ddiogel a dianaf yn rhywle neu’igilydd fydd ei ffawd, yn ddi-oed mae’nmynd ati i chwilio am gymar er mwyngwneud ei ran ym mharhad ei hil.

    Perthyn y mae’r Rhwyfwr CochdduMawr i deulu eithaf niferus o bryfaid aelwir yn wyddonol yn Trichoptrea. YnSaesneg fe’u gelwir yn Caddis Flies neuSedge Flies. Mae mwy nag un enw arnyntyn y Gymraeg, sef Corbryfaid, Casbryfaid,Pryfaid Pric, ac weithiau Pryfaid Gwellt.Yn ardal Ffestiniog, enw’r pysgotwyr ar ypryf arbennig hwn yw Rhwyfwr CochdduMawr, fel eraill o’r un teulu.

    Yn Ynysoedd Prydain mae bron iddeucant o wahanol fathau o Gorbryfaidi’w cael, yn amrywio yn eu lliw a’u maint.

    Oherwydd ffurf a gosodiad ei adenyddhawdd iawn yw camgymryd y corbryf amwyfyn. Fel gwyfyn, creadur y gwyll a’r nosyw’r corbryf yn bennaf. Mae i’r corbryf a’rgwyfyn bedair adain, a’r gwahaniaeth

    Un o’r Pryfaid Gwellt (Caddis Flies)

    Rhwyfwr Cochddu Mawr (Phryganea grandis a P. striata)

    Emrys EvansManod, Blaenau Ffestiniog

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 34

  • rhwng y ddau yw, fod adain y gwyfyn wedieu gorchuddio â chen mân, tra bod adain ycorbryf wedi’i gorchuddio â blew mân,mân. Dull y corbryf o gau ei adenydd ywdod â’r pedair yn glos at ei gilydd uwchbenei gorff, gan beri iddynt ymddangos fel totŷ. Mae un pryf arall yn gwneud hyn, sy’nperi i rywun gredu ei fod yn aelod o’r unteulu a’r corbryfaid. Hwnnw yw Brych yGro (Sialis lutaria), a hynny oherwydd eifod yn cau ei adenydd yr un fath â’rcorbryf. Ond does dim perthynas o gwblrhyngddynt, er ymddangos mor debyg ynaill i’r llall.

    Mae dau fath o Rwyfwr CochdduMawr, sef Phrygania grandis a P. striata, ahwy yw’r mwyaf o’r corbryfaid Prydeinig,gyda hyd eu hadenydd blaen, y rhai hiraf,yn amrywio rhwng 20 a 27 mm. Mae lledei adenydd wedi eu hagor yn 50 mm (bronyn ddwy fodfedd). Yn gyffredinol, yn ymwyafrif o’r corbryfaid, y fanw yw’r fwyafo’r ddau ryw.

    Fel eraill o’r corbryfaid, mae rhaniadbywyd y Rhwyfwr Cochddu Mawr ynbedwar cyflwr pendant iawn, sef yr wy, ylarfa, y chwiler a’r pryf cyflawn.

    Wedi ei ffrwythloni gan y gwryw mae’rfanw yn aml yn rhoi ei hwyau ar rywdyfiant ar wyneb llynnoedd, pyllau acafonydd araf. Fel arfer gwelir yr wyau arffurf modrwy yn cael eu dal efo’i gilyddgan ryw sylwedd gludiog.

    Y LarfaYmhen rhyw ddeg i ugain diwrnod

    mae’r wyau’n deor ac mae’r larfa bychan addaw o bob wy yn disgyn i waelod y dŵr.Yno aiff ati ar ei union i greu lloches iddo’ihun, i warchod y corffyn meddal syddiddo; lloches a fydd hefyd yn gartref iddoam oddeutu blwyddyn o amser.

    Mae’r lloches ar ffurf peipen. Bychanyw ar y dechrau wrth gwrs gan mai bychanyw’r larfa. Eithr, fel y mae hwnnw’n tyfu,mae’n ychwanegu at ei loches. Erbyn ilarfa y Rhwyfwr Cochddu Mawr gyrraeddei lawn faint y mae’r lloches oddeutu dwyfodfedd o hyd, ac yna’n gasbryf cyflawn.

    Er mwyn diogelu ei hun rhag ei elynionmae’r larfa’n gludio darnau a thameidiau o

    ddeiliach y mae’n eu cael ar wely’r llyn neuafon ar wyneb ei loches, gan greu cuddliwsydd bron yn berffaith iddo.

    Math o gynrhonyn hir a main, golau eiliw, yw’r larfa, ond fod y pen a’r coesau oliw coch-frown, gyda’r chwe choes yn glosy tu ôl i’w ben. Felly, pan fydd yn crwydroi chwilio am fwyd ar waelod y dŵr, doesond rhaid iddo roi ei ben a’i goesau y tuallan i’w loches. Medr ei llusgo efo fo i bale bynnag y dymuna fynd. Gall wneud hyngan fod ganddo fachau ar ei gorff a’r rheiniyn cydio yn nhu fewn ei loches. Arunrhyw arwydd o berygl mae’n cilio imewn i’w loches. Deiliach ac unrhyw fânanifeiliaid a geir ar y gwaelod yw ei fwyd.

    Y Chwiler (Pupa)Ymhen oddeutu blwyddyn, a’r larfa

    wedi cyrraedd ei lawn faint, mae’n angoriei loches wrth ryw garreg neu dyfiant. Ynamae’n cau ei hun i mewn ynddi, gydadeunydd y mae’n ei dynnu o’i gorff, ondgan adael mân dyllau, fel y gall y dŵrdreiddio i mewn ac allan. Credir fod ylarfa, sy’n troi’n chwiler y tu fewn i’wloches, yn ymdonni ychydig bach yn eigyflwr diymadferth, er mwyn cael y dŵr idreiddio drwodd.

    Gall ei gyfnod fel chwiler fod ynddyddiau neu’n wythnosau, yn dibynnu aryr amgylchiadau. Wedi’i gloi yn ei loches,yn y cyflwr diymadferth a llonydd yma,mae’r larfa yn araf droi yn chwiler, sef ytrydydd cyflwr ym mywyd y RhwyfwrCochddu Mawr, – fel sy’n digwydd i eraillo deulu’r Trichoptera.

    Y Pryf CyflawnYna, yng nghyflawnder yr amser, mae’r

    chwiler yn ymryddhau o’i loches, yn codi iwyneb y dŵr, yn diosg ei groen, ac ohonomae’r pryf cyflawn yn ymddangos.

    Wedi bywyd cyfyng a chaeth ar wely llynneu afon, heb fawr o gyfle na gallu igrwydro ymhell o’r lle bu dechrau’r daithmae’r Rhwyfwr Cochddu Mawr yn awr ynmedru ledu ei adenydd mewn byd newydd.

    35

    summer_2005_Text_Pages 17/8/05 14:49 Page 35

  • 36

    Un o aelodau cynnar a theyrngarCymdeithas Edward Llwyd yw GwynJones, Bow Street (neu Penygarn fel y mynef). Ganed a maged Gwyn ar gampwsColeg Madrun yn Llŷn, lle y bu ei dad ynathro ac yn brifathro am dros chwartercanrif ac mae’r fangre honno yn gysegredigiddo fel y gŵyr y neb a fu ar ei deithiau ogw