Upload
garethmahoney
View
479
Download
4
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Cyflwyniad Dysgu Anffurfiol a gafodd ei gyflwyno i diwtoriaid yng Nghynhadledd Cymraeg i Oedolion 2009.
Citation preview
Dysgu Anffurfiol
GÔL = creu siaradwyr Cymraeg rhugl• Dydy gwersi yn unig ddim yn ddigon
• ‘Mae dysgu go iawn yn digwydd tu allan i’r dosbarth’
Cennard Davies
• “Bydd dysgu anffurfiol yn cael ei ystyried gan ddysgwyr, tiwtoriaid a darparwyr yn elfen naturiol ac annatod o’r profiad o ddysgu Cymraeg”.
Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Dysgwyr Anffurfiol 2009-12
Gweithgor Cenedlaethol Dysgu Anffurfiol
TASG
Beth yw Dysgu Anffurfiol?
•Trefnu gweithgareddau ar gyfer dysgwyr er mwyn rhoi’r cyfle iddynt siarad Cymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth
• Trefnu gweithgareddau ar y cyd gyda Chymry Cymraeg
• Helpu’r dysgwyr i “groesi’r bont” pan eu bod nhw’n cyrraedd Lefelau Uwch
• Gwireddu’r nod o alluogi dysgwyr i ddod yn siaradwyr rhugl
• Mae dysgu go iawn yn digwydd tu allan i’r dosbarth”. Cennard Davies
• “Yn y bôn, beth yw’r pwynt o ddysgu Cymraeg i’r holl oedolion yma os nad ŷn nhw’n mynd i gael cyfle i ddefnyddio’r iaith”. Steve Morris (Prifysgol Abertawe)
Beth yw Dysgu Anffurfiol?
Hanes a Chefndir• Sector gymdeithasol iawn – y norm i fynd i’r dafarn gyda’ch dosbarth ar ôl y wers yn y 70au ac 80au
• CYD a fu’n arwain ym maes DA rhwng 1984 a 2006
• Digwyddodd dau beth allweddol yn 2006, sef:
Dirwyn grant CYD gan FyIG i ben, ac felly colli’r brif ffynhonnell cyllid;
Sefydlu’r 6 chanolfan CiO, gan arwain at y potensial i brif-ffrydio DA fel rhan o faes CiO.
• Penderfynodd CYD i ddod i ben fel mudiad cenedlaethol yn 2008. Bydd rhai canghennau lleol yn parhau, yn bennaf yn y Canolbarth.
…parhad• Llawer o ymchwil yn dangos bod Dysgu Anffurfiol yr un mor bwysig os nad yn bwysicach na dysgu ffurfiol er mwyn helpu pobl i ddod yn rhugl
• Dylai fod pwyslais mawr arno – Cymru yn wahanol i wledydd eraill
• Cynrychiolwyr o’r 6 Chanolfan yn cwrdd bob tymor
• Ysgrifennu Strategaeth Genedlaethol i’w chyflwyno i ABADGOS
• Rhannu arfer da
• Trafod sut allwn ni wella Dysgu Anffurfiol yn Genedlaethol
• Cynllun ar gyfer y 3 blynedd nesaf
Y Gweithgor Dysgu Anffurfiol
‘Mae rôl y tiwtor yn allweddol i Ddysgu Anffurfiol, gan mai ef/hi yw prif ‘borth’ y dysgwyr’
Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Dysgwyr Anffurfiol 2009-12Gweithgor Cenedlaethol Dysgu Anffurfiol
Fel tiwtor, sut mae argyhoeddi dysgwyr o bwysigrwydd gweithgareddau Dysgu
Anffurfiol?
Arferion da ac argymhellion…
1. Codi bwrlwm yn y dosbarth2. Pwysleisio pwysigrwydd dysgu anffurfiol o’r
dechrau (Cynllun Dysgu unigol ayb)3. Mynychu’r digwyddiad gyda’r dysgwyr4. Cyflwyno’r dysgwyr i’ch dosbarthiadau gwahanol
i’w gilydd yn ystod y gweithgaredd5. Dosbarthu’r Rhaglen Weithgareddau yn brydlon a
mynd trwy’r cynnwys gyda’r dysgwyr yn frwdfrydig6. Rota – ymrwymo i un gweithgaredd y tymor
Y Brif Nod
Bydd dysgu anffurfiol yn cael ei ystyried gan ddysgwyr, tiwtoriaid a darparwyr yn elfen naturiol ac annatod o’r profiad o ddysgu Cymraeg. Bydd dysgu anffurfiol yn cael ei gynllunio i blethu gyda gwaith cwrs a chaiff disgwyliadau dysgwyr eu codi. Bydd hwn felly yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl, hybu cymunedau o fewn Caerdydd a’r Fro hyfyw ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.
Tasg
Wrth edrych ar y nod hwn trafodwch beth yw’r:
• Cryfderau
• Sut allen ni adeiladu ar y cryfderau hyn
• Gwendidau
• Sut allen ni ddileu’r gwendidau hyn
• 700 o ddysgwyr yn rhan o glwb Dysgwyr Caerdydd a’r Fro
• Niferoedd yn codi pob tro mewn ambell i noswaith gymdeithasol
• Y Cyrsiau Sadwrn yn llwyddiannus erbyn hyn
• Y we yn help mawr i gyrraedd yr holl ddysgwyr
• Rhaglen y Dysgwyr
• 10 pâr yn rhan o’r rhaglen fentora yn barod
• Rhan fwyaf o diwtoriaid yn hybu’r dysgwyr i fynychu’r gweithgareddau
Cryfderau
Adeiladu ar y Cryfderau• Mwy o addysgu/codi ymwybyddiaeth y dysgwyr ynglŷn â phwysigrwydd Dysgu Anffurfiol
• Addysgu/codi ymwybyddiaeth cymunedau Cymraeg
• Peilota gweithgareddau newydd
• Adeiladu ar y rhaglen fentora
• Creu rhaglen fentora arall yn y gweithle
• Hyfforddi Tiwtoriaid ar ba mor bwysig yw dysgu anffurfiol
• Llawer o ddysgwyr ddim yn deall pwysigrwydd Dysgu Anffurfiol
• Saesneg yn lingua franca
• Agweddau a diffyg hyder siaradwyr Cymraeg a Dysgwyr
• Diffyg cymorth gan rai tiwtoriaid i fynychu’r gweithgareddau ac i hybu’r dysgwyr i fynychu’r gweithgareddau
Gwendidau
• Gwneud yn siwr bod rhaglen a chanllawiau Dysgu Anffurfiol gyda phob pecyn croeso fel bod y dysgwyr yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o’r dechrau
• Creu cyfleoedd a gweithgareddau lle mae pawb yn siarad Cymraeg
• Mynd o amgylch mudiadau Cymry Cymraeg a rhoi cyflwyniad iddynt a chanllawiau ar sut i siarad â dysgwyr i geisio newid meddylfryd Cymry Cymraeg
• Hyfforddiant Dysgu Anffurfiol i diwtoriaid
• Gwneud Dysgu Anffurfiol yn fwy proffesiynol – rhan hanfodol o swydd tiwtor
Dileu’r Gwendidau
Y Cynllun Pontio
Pam ydy e’n bwysig bod siaradwyr Cymraeg yn ymweld â dosbarthiadau?
Y Cynllun Pontio
Sut mae’r Cynllun Pontio yn gweithio?
Sut mae paratoi dysgwyr ymlaen llaw?
- Paratoi cwestiynau i ofyn i ymwelwyr ymlaen llaw?
-Bwrw golwg dros y cwestiynau ymlaen llaw er mwyn cywiro gwallau-Ymarfer ymadroddion defnyddiol – “Unwaith eto os gwelwch chi’n dda”-Dweud y byddwch yn rhoi geiriau anghyfarwydd ar y bwrdd gwyn ar ôl yr ymweliad
…parhâd-Gweithgaredd dosbarth – dysgwyr yn paratoi rhestri o gwestiynau ar themâu
-Y dysgwyr i ymarfer holi ei gilydd
-Defnyddio rhai gweithgareddau o’r cyrsiau gyda siaradwyr Cymraeg e.e. gêm fwrdd
-Ar lefel Uwch – dewis pobl sydd i wneud â chymdeithas Gymraeg leol – annog y dysgwyr i ddod
Beth yw’r Rhaglen Fentora?
- Dysgwyr a Chymry Cymraeg yn cwrdd yn rheolaidd- Cymry Cymraeg yn rhoi cymorth i’r dysgwr er mwyn gwella eu Cymraeg
- Cwmni
Beth nad yw’r Rhaglen Fentora?- Dysgu
- Tiwtora
- Dosbarth Cymraeg
Pam ydy’r Rhaglen Fentora yn bwysig?
-Codi hyder y dysgwr
- Rhoi cyfle rheolaidd iddynt ymarfer
-Clywed gwahanol dafodieithau
-Croesi’r bont i’r byd Cymraeg
-Cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg
-Rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned
Pam ydy’r Rhaglen Fentora yn bwysig?
•Mynd i weld sioe Cymraeg, cwis Cymraeg gyda Chymry Cymraeg eraill
•Cwrdd mewn caffi – taflenni sgwrsio, posau, chwarae Scrabble
•Banc o adnoddau a gemau iaith ar y wefan
•Help gyda gwaith cartref
•Sialens bob mis
•Siarad dros y ffôn
Beth allwch wneud pan dych chi’n cwrdd?
-Sesiynau’r Rhaglen Fentora-Cyflwyniadau-Sesiynau torri’r iâ-Paru
-Cysylltu â Gwenllian – 029 20 879318 neu [email protected]
Sut mae’r Rhaglen Fentora yn gweithio?
Beth yw’r camau nesaf?
-Ydych chi eisiau bod yn fentor?
-Dywedwch wrth eich ffrindiau , teulu, cydweithwyr
-Rhowch wybod i Gwenllian os ydych yn nabod unrhywun sydd â diddordeb
Croesi’r Bont i’r Byd Cymraeg
Beth allech chi wneud i annog dysgwyr i gamu mewn i’r byd Cymraeg?