1 Y Cylchgrawn Daearyddol
AmgylcheddRhewlifol
gan Angharad harris
Tra bod 12% o arwyneb y ddaear yn cael ei ystyried yn ‘rhewlifol’ – dan rew yn barhaol – mae canran llawer iawn uwch wedi gweld rhew parhaol ar ffurf llenni iâ neu
rewlifau dyffryn yn y gorffennol. Mae ambell ardal yn parhau ar ffin fregus rhwng y ddau amgylchedd.
Mae olion rhewlifiant yn amlwg ar draws Cymru – o gopa’r Wyddfa gyda’i gribau a’i gymoedd trawiadol i lawr i’r traethau a’r sarnau ar hyd arfordir Ceredigion. Boed yr ardal yn ôlrewlifol, neu yn rhewlifol, mae’r amgylchedd yn cynnig cyfleoedd i bobl. Ond mae’r amgylchedd hefyd yn cyfyngu ar weithgaredd pobl.
Ym Mhrydain mae’r mwyafrif o ardaloedd sy’n dangos olion rhewlifol, sef yr ucheldiroedd yn bennaf, yn Barciau Cenedlaethol (PC). Rhoddwyd y label PC ar y rhain er mwyn l gwarchod a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol l cynnig cyfleoedd i hamddena a mynediad i gefn gwlad.
Mae amcanion Parciau Cenedlaethol, a’r ffaith bod cymaint o ucheldir ôlrewlifol yn y Deyrnas Unedig wedi eu dynodi fel PC, yn arwydd bodl angen eu gwarchod rhag difrodl bywyd gwyllt arbennig yn yr ardaloedd yma l pobl wedi eu denu i’r amgylcheddau yma ers canrifoedd maith gan y cyfleoedd maent yn eu cynnig – ni fyddai yna dreftadaeth ddiwylliannol i’w gwarchod fel arall.
Gallwch ddilyn ôl-troed Darwin, a’i athro daearegol Adam Sedgwick, yng Nghwm Idwal ar lwybr sydd wedi ei gynnal i safon uchel i ddysgu am rewlifiant yn Eryri, neu gallwch gerdded
llwybrau amlwg i gopa Pen y Fan ac astudio sut y ffurfiwyd y cymoedd i’r de a’r gogledd o Fannau Brycheiniog gan rew, a’r cyfleoedd a ddeilliodd o erydiad rhewlifol yn gwbl glir yn y fan honno.
Ond mae yna un Parc Cenedlaethol yn y DU sy’n profi tywydd mynydd eithafol, yn cynnwys gaeafau hir o eira neu dywydd gwlyb.
Roedd yr ardal yma, hyd at 2009, gyda darnau parhaol o eira ar lawr, sef ardal Parc Cenedlaethol y Cairngorms (Ùghdarras Pàirc Nàiseanta a’ Mhonaidh Ruaidh) yn yr Alban. Y mynyddoedd hyn, sy’n dangos arwyddion rhewlifiant amlwg, yw’r ardal fwyaf â nodwedion ‘arctig’ yn y DU. Mae ar y ffin hinsoddol rhwng un sydd â darnau bychain o eira parhaol ac un sydd heb eira. Dyma ardal sgïo fwyaf y DU ac un o ddwy ardal (Glencoe yw’r llall) ble mae timau o bobl wedi ymroddi i geisio lleihau’r peryglon a nifer y marwolaethau o eirlithrad – SAIS (SportScotland Avalanche Information Service).
Ardaloedd ôlrewlifol Ardaloedd rhewlifol
Eryri Alpau
Bannau Brycheiniog Himalaya
Ardal y Llynnoedd Andes
Cairngorms Rockies
Loch Lomond
2 Y Cylchgrawn Daearyddol
Amgylchedd Rhewlifol
Pam fod yr amgylchedd yma yn bwysig?Mae’r cyfleoedd sydd wedi deillio o’r amgylchedd yn bwysig i’r economi heddiw. Mae canran uwch yn gweithio mewn amaethyddiaeth, hela a physgota (5.7%) yn y Parc nag sy’n gweithio yn yr Alban ar gyfartaledd (2.1%), tra bod y nifer sy’n gweithio mewn gwestai a bwytai yn sylweddol uwch (19.4% o’i gymharu â 5.7% i’r Alban gyfan).
coedwigaeth a rheolaeth tirWrth i’r rhew adael y dyffrynnoedd eang a’r ucheldir noeth, datblygodd ecosystem montane ar yr ucheldiroedd. Sefydlodd coed bedw, helyg a merywen (juniper) yno ac yna daeth
pinwydden yr Alban (Scots Pine) gan greu’r goedwig Galedonaidd yn y dyffrynnoedd. Bu cryn ymelwa ar y goedwig Galedonaidd ac allforiwyd coed ohoni ers yr 17eg ganrif. Y ffordd gyflymaf o gael coed allan oedd trwy eu harnofio i lawr yr afon Spey. Dim ond 20% o’r goedwig wreiddiol sydd ar ôl heddiw. Er bod adfywiad naturiol yn digwydd i’r coed o had, oherwydd gorbori, ni ddatblygodd yn goedwig, felly daeth y cyflenwad o goed yn brin. Er mwyn sicrhau parhad i’r dyfodol, dechreuwyd plannu coed pîn yn yr ardal. Rhwng 1947 ac 1988 cynyddodd ardal y goedwig yma 90% gan drawsfeddiannu ardaloedd o orgors (blanket mire/bog). Oherwydd bod tir yn cael ei ddraenio trwy ffosydd, newidiodd mwy fyth o’r orgors yn laswelltir gwael. Ble mae pori yn digwydd yn ddwys, nid yw’r goedwig naturiol yn cael cyfle i adnewyddu.
Parc cenedlaethol y cairngorms
Rhai ffeithiauArwynebedd: 3,800 km2 (mae ymgynghoriad ar y gweill i weld os bydd yn cynyddu mewn maint gan gwmpasu’r ardal i lawr am Blair Athol) Poblogaeth: 61,000 (Eryri: 1324 km2, poblogaeth: 25,482)10% o’r tir dros 800m; 68% o’r tir dros 400m 80% o’r economi yn ddibynnol ar dwristiaeth25% o dirwedd y Parc yn cael ei warchod dan safonau cadwriaethol Ewrop Gwynt cryfaf a recordiwyd: 173 mya Tymheredd isaf a recordiwyd: -27.2°C Dyodiad blynyddol: 2000 mmArdal yn cynnwys gweddillion coedwig bîn ‘Caledonia’ – olion y Tundra yn y DUMae’r wiwer goch yn fwy niferus yma na’r wiwer lwyd
3 Y Cylchgrawn Daearyddol
Amgylchedd Rhewlifol
Strategaeth Rheoli’r goedwigMae Strategaeth Coedwigaeth yr Alban, ynghyd â Strategaeth Bioamrywiaeth yr Alban yn annog plannu coed cynhenid, er lles yr amgylchedd a’r economi lleol. Mae hyn yn cael ei wneud trwy gydweithio â’r stadau mawrion. Caiff ei wneud yn haws gan fod ardaloedd eang o dir wedi eu trawsfeddiannu gan gymdeithasau ac ymddiriedolaethau yn ddiweddar. Mae PAWS (Planted Ancient Woodland Sites) – sef ardaloedd ble bu unwaith goedwigoedd hynafol – bellach yn cael eu adfer hefyd fel rhan o strategaethau’r Alban. Yn raddol mae coed pîn y planhigfeydd yn cael eu clirio, a choed cynhenid yn cael eu hadu yno. Fodd bynnag, mae’r gwaith yn sensitif. Gormod o goed a bydd y diwydiant hela ceirw a grugieir yn dioddef, a bydd incwm rhai o’r stadau mawrion yn lleihau. Mae’n rhaid dibynnu ar y stadau yma i wneud peth o’r gwaith cadwraeth amgylcheddol ac felly mae’n rhaid trefnu lle i ailblannu yn ofalus iawn. Yng nghoedwigoedd Glenmore, mae’r Scottish Forest Alliance wedi gweithio ar gynyddu nifer y grugieir du yn yr ardal trwy wneud y ffensys carw yn amlycach. Cyfrifwyd 28 o grugieir du yno o fewn 6 mlynedd o gychwyn y gwaith, dwywaith cymaint ag oedd yno cyn hynny.
Amgylchedd montane Uwchlaw 600m mae tirwedd arctig fwyaf y DU. Mae’r tir yn uchel, agored, gydag eira dan draed yn aml ac mae’r pridd yn wael. Mae’r amgylchedd bregus yma dan bwysau oherwydd gorbori a sathru gan bobl.
Nid effeithiau pori gan ddefaid sydd yma yn bennaf, ond pori gan geirw. Mae lefelau llystyfiant yn isel ble mae’r pori yn ddwys, ac mae llwyddiant adnewyddu coedwigoedd cynhenid yn isel. Mae rhai pobl yn teimlo y byddai cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r ardal yn golygu y byddai’r ceirw yn symud yn amlach ac yn pori yn llai dwys. Fodd bynnag, symud y broblem i ardal arall mae hyn yn debygol o’i wneud. Mae pori gan ddefaid yn ddwys mewn ambell fan ble mae’r tir yn fwy ffrwythlon. Byddai bugeilio’r defaid yn lleihau’r broblem, ond yn cynyddu costau i’r tirfeddianwyr. Mae’r gorbori hefyd yn cael effaith ar adar sy’n nythu ar lawr, gyda hyd at 10% o gywion yr hutan (dotterel) yn cael eu lladd gan sathru.
Mae sathru gan bobl o amgylch copa Cairn Gorm a Ben Macdui hefyd yn achosi’r amgylchedd montane yma i ddirywio, ac mae llwybrau amlwg yn dechrau amlygu eu hunain oherwydd erydiad. Er bod rhai llwybrau yn cael eu hadnewyddu yng Nghymru, nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto os oes angen llwybrau mor bendant ar yr ucheldiroedd agored yma. Mae’r ffaith bod llwybrau beicio wedi eu gosod yn yr iseldir i gynyddu nifer yr ymwelwyr haf hefyd yn cael effaith yma, gyda beiciau yn cael eu gweld ar yr ucheldiroedd. Mae’r ‘Rangers’ yn ceisio cael defnyddwyr i
ymddwyn mewn modd cyfrifol ar y mynyddoedd ac yn addysgu defnyddwyr, tra bod rhai sydd yn cyflenwi gweithgareddau awyr agored yn cael eu hannog i fynd am ‘Frand’ y Parc a’r ymroddiad amgylcheddol sy’n cyd-fynd â hwnnw. Mae tirfeddianwyr yr Alban, fel yng Nghymru, wedi darganfod y beic cwad, ac mae hwn yn creithio’r tir, yn enwedig pan mae’r tywydd yn wlyb, ac mae llygredd cyffredinol gan bobl i’w weld yn broblem ym mhobman.
Mae llygredd o fath anghyffredin yn cael effaith yma fodd bynnag.
Copa Cairn Gorm ym mis Chwefror
Clytwaith tirwedd dyffryn Glenmore
4 Y Cylchgrawn Daearyddol
Poo ProjectYn ystod y gaeaf pan mae’r ddaear wedi rhewi, neu pan fydd gorchudd o eira ar lawr, mae gwastraff dynol yn creu problem yn yr ucheldiroedd. Gyda phobl allan trwy’r dydd, ac yn gynyddol dros nos, gan fod creu ogofâu eira yn boblogaidd, mae’r broblem ‘poo’, ar gynnydd. Byddai’r rhai sydd yn gwersylla’n wyllt fel arfer yn ei gladdu yn y ddaear, ond nid yw hyn yn bosibl yn yr amgylchedd ‘arctig’ yma. Er bod pobl yn ei gladdu ar y pryd, wrth i’r eira ddadmer, mae’r gwastraff yn dod i’r wyneb, yn drewi, yn sail afiechydon, yn newid natur y pridd ac felly’r planhigion sydd yno ac yn llygru afonydd. Ers 2007, rhoddir potiau a bagiau allan am ddim i’r rhai sydd am ddefnyddio’r ardal dros nos. Wedi dychwelyd, mae man penodol wrth droed y mynydd sydd yn delio â’r gwastraff mewn modd addas … ac wedi eu golchi a’u diheintio, mae’n bosibl ailddefnyddio’r potiau. Hyd yma mae’r mynyddwyr cydwybodol yn ddigon parod i gydweithio.
Mae strategaeth Mynediad Awyr Agored Parc Cenedlaethol y Cairngorms yn strategaeth bum mlynedd i geisio lleihau a datrys unrhyw broblemau. Nid yw wedi cyrraedd terfyn ei oes eto, ac felly amser a ddengys os bydd yn llwyddiant. Fodd bynnag mae sail gynaliadwy iddo – rhwydwaith o lwybrau wedi eu cysylltu gyda thrafniadiaeth gyhoeddus yn deillio o’r gymuned leol, fel y bydd plant yn gallu beicio i’r ysgol, ac ymwelwyr yn gallu teithio heb geir. Mae rhwydwaith llwybrau craidd sydd yn cael eu datblygu yn llwyddo yn barod i gael pobl i ffwrdd o’u ceir, ac ymhellach o’u ceir mewn ardaloedd fel Loch Morlin, tra hefyd yn cynnig cyfleoedd i’r anabl a beicwyr.
effaith ymwelwyrMae 80% o economi lleol y Cairngorms yn deillio o dwristiaeth, ac mae hyn i gyd oherwydd bod yr ardal unwaith yn un rewlifol. Mae’r dyffrynoedd a’r mynyddoedd, gyda’u gaeafau oer, gwlyb neu dan eira, a’u hafau cynnes – yn denu ymwelwyr trwy’r flwyddyn. Mae hyn yn ei dro yn cynnig cyflogaeth i bobl leol ac yn eu cadw yn yr ardal a thrwy hyn yn cynnal a gwarchod yr amgylchedd fel y bydd yn parhau i gynnig cyflogaeth yn y dyfodol – cydbwysedd bregus iawn mewn hinsawdd fynyddig newidiol.
Mae dros 1000 o gwmnïau twristiaeth yn bodoli yn yr ardal, ac mae 5,200 o swyddi yn ddibynnol ar dwristiaeth. Yn 2006 gwariwyd £179 miliwn gan ymwelwyr i’r ardal. Mae gwahaniaeth yn bodoli rhwng twristiaeth yng Ngogledd Orllewin PC y Cairngorms – ardal Aviemore – a dwyrain y Parc Cenedlaethol – ardal Deeside. Caeodd rheilffordd y dwyrain yn yr 1960au, felly mae’n rhaid teithio i mewn dros ffordd uchaf y DU – Glenshee – os yn teithio o’r de.
l Mae’r priffyrdd a’r rheilffyrdd yn dilyn llwybrau dyffrynnoedd rhewlifol yr ardal, gyda’r A9 yn rhedeg i’r gorllewin a’r A93 tua’r dwyrain. Mae’r ardal yn hawdd i’w chyrraedd felly o ardaloedd poblog lleol – Inverness yn y gogledd, Aberdeen i’r dwyrain a Chaeredin a Glasgow i’r de, a gan ymwelwyr tramor. Er hyn, mae rhan helaeth o ardal canol y PC yn gwbl ddigyffrwdd gan ffyrdd. Mae 44% o’r rhai sy’n dod i’r ardal am wyliau byr yn dod o’r Alban. Dim ond 15% o’r ymwelwyr sy’n dramorwyr.
l Ar gyfer sgïo neu fynydda, gall pobl o’r DU ymweld heb orfod dangos pasport na chyfnewid arian am Ewros – ac mae’n rhatach dal trên yma nac ydyw i hedfan i Ewrop. Amcangyfrifir bod £100 y dydd yn cael ei wario gan bob sgïwr i’r ardal (data visit Scotland).
l Gallwch ddal trên hyd at uchder o 1097m a sgïo lawr, neu mwynhau’r golygfeydd o Fwyty’r Ptarmigan, nepell uwchlaw gorsaf y rheilffordd halio (funicular), heb yr ymdrech o gerdded i’r copa. Mae’r rheilffordd yn teithio bron iawn trwy’r flwyddyn ac ond ar gau yn ystod tywydd eithafol.
Mae’r holl ymwelwyr angen lleoedd i aros a lleoedd i wario eu harian ymhellach. Mae pentref fel Aviemore yn llawn gwestai, bwytai a siopau i ddenu’r ymwelwyr trwy’r flwyddyn i wario eu harian. Rhaid cael isadeiledd da i gynnal hyn, a systemau yn eu lle i ddelio â gwastraff yr ymwelwyr. Ond mae’r ymwelwyr yma yn gallu cael cryn effaith ar yr amgylchedd maent yn dod i’w weld.
Ers 2003 mae Strategaeth Twrisitaeth Gynaliadwy Parc Cenedlaethol y Cairngorms wedi ymrwymo i 9 nod:1 Rheoli’r amgylchedd er mwyn sicrhau safon amgylcheddol
uchel i ardal y Parc2 Gweithio gyadg eraill – fel bod pawb sydd ynghlwm â
thwristiaeth yn deall y strategaeth ac yn ymrwymo iddo3 Marchnata a chodi ymwybyddiaeth o’r ardal ar gyfer
twristiaeth trwy’r flwyddyn
Amgylchedd Rhewlifol
Loch Morlin
5 Y Cylchgrawn Daearyddol
4 Sicrhau bod cyfleoedd i bawb gael gwybod am nodweddion arbennig yr ardal, a bod yr hyn sydd i’w gynnig yn cael ei hyrwyddo
5 Gwella ansawdd yr ymweliad, a’r croeso i bawb6 Cynnig cyfleoedd i bobl gael gwerthfawrogi a mwynhau’r
ardal arbennig7 Cryfhau dichonoldeb (viability) y diwydiant ymwelwyr8 Rheoli ymwelwyr gan geisio ymledu eu heffaith ar draws y
Parc Cenedlaethol9 Ymrwymo’r cymunedau wrth gynllunio a datblygu twristiaeth
yn yr ardal.
I gyd-fynd â hyn, mae gan y Cairngorms ei ‘frand’ ei hun. Logo unigryw gwalch y pysgod a’i bysgodyn, gydag enw’r ardal yn glir arno, ond logo sydd yn wahanol i un Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Rhoddir y ‘brand’ i fusnesau sydd yn cynnig ansawdd a rheolaeth amgylcheddol gadarnhaol. Rhaid i fusnesau wneud cais i ddefnyddio’r brand a chaiff ei ddynodi gan grwp rheoli sydd yn cynnwys aelodau o’r Parc Cenedlaethol, aelodau o siambr fusnes y Cairngorms a Chymdeithas Cynghorau Cymuned yr ardal.
Er mwyn defnyddio’r brand mae’n rhaid i’r busnesaul fod yn aelodau o ‘visit Scotland’l fod â, neu anelu at gael gwobr efydd cynllun Twristiaeth
Werdd l os yn cynnig bwyd, rhaid i’r bwyd fod yn lleol ac o ansawdd dal os yn cynnig gweithgareddau awyr agored, rhaid i 70% o’r
gweithgareddau ddigwydd o fewn y Parc, rhaid eu bod wedi arwyddo cod ymddygiad ‘Cairngorms outdoor’ a chyflwyno polisi amgylcheddol iddynt.
Mae modd i fusnesau gael cwrs am ddim hefyd er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth a gynigir i ymwelwyr, a thrwy hyn geisio sicrhau y byddan nhw’n dychwelyd.
Ifanc iawn yw’r Parc Cenedlaethol, a’r brand hyd yma, ac er bod camau bras wedi eu gwneud ers ei sefydlu i greu brand unigryw, mae nifer yr ymwelwyr sydd wedi eu denu i’r ardal yn gallu creu problemau. Trwy ymrwymo i’r cynllun twristiaeth gynaliadwy a thrwy gael y cymunedau yn rhan annatod o weithdrefn y Parc Cenedlaethol, gobeithir taclo problemau ail garterfi. Trwy gael twristiaeth trwy’r flwyddyn, a gwaith cadwriaethol yn yr ardal gobeithir y bydd lleihad yn nifer y bobl ifanc sy’n gadael yr ardal i chwilio am swyddi a thai fforddiadwy.
gwarchodaeth a pheryglon naturiol – ‘The long walk in’ Hyd at yr 1960au, roedd ardal Mynydd Cairn Gorm yn cael ei warchod gan natur – nid oedd ffordd yn arwain ato, ac felly roedd y daith gerdded hir i’w gyrraedd, cyn dechrau ei ddringo yn cadw niferoedd yr ymwelwyr i lawr. Ers adeiladu’r ffordd i’w waleod yn yr 1960au, ac yna’r trên halio (funicular) bron i’w gopa, mae nifer y defnyddwyr ac felly’r pwysau ar yr amgylchedd wedi cynyddu.
Ptarmigan – adeilad mynydd y cairn gormCewch fynediad i’r mynydd yn y gaeaf trwy’r adeilad, a dyna ffordd mae’r holl sgïwyr yn cyrraedd y mynydd. Yn yr haf, caiff eich ymweliad ei gyfyngu i’r ardal gyfagos yn unig. Mae hyn i atal erydiad o’r copa a’r amgylchedd montane bregus sydd yn amgylchedd pwysig i’r Ptarmigan ei hun. Dim ond trwy rym dwy droed y cewch fentro ar y copa fel arall yn yr haf.
Peryglon naturMae tirlithriadau yn yr haf, yn bennaf oherwydd dwr ffo a gorbori, ac eirlithradau yn y gaeaf yn gallu creu problemau teithio. Heb gysylltiadau, ni all cynnyrch yr ardal adael, ac ni all ymwelwyr gyrraedd. Hyd yn oed os oes trwch o eira wedi disgyn, nid yw o ddefnydd economaidd os na all pobl ei gyrraedd i’w fwynhau.Mae eirlithradau yn arwain at farwolaethau ar y mynyddoedd yn flynyddol. Caiff y rhai sy’n mentro allan ar ddyddiau mynydda alpinaidd declyn trawsatebwr eirlithrad (avalanche transponder)
Amgylchedd Rhewlifol
Creithiau ar y tirlun – edrych lawr am waelod y Cairn Gorm Adeilad y Ptarmigan a llethrau sgïo Cairn Gorm
6 Y Cylchgrawn Daearyddol
Amgylchedd Rhewlifol
sy’n anfon signal o’ch lleoliad os cewch eich dal mewn llif eira. Cynigir darlithoedd hefyd i’r rhai sy’n frwdfrydig i ddysgu sut i adnabod ardaloedd all gael eu heffeithio gan eirlithrad. Pan gaiff pobl eu hanafu neu eu lladd gan eirlithrad y tebygolrwydd yw mai pobl sydd wedi cychwyn y llif yn y lle cyntaf. Mae’r broblem yn digwydd pan fydd trwch o eira newydd yn disgyn ar hen eira sydd wedi rhewi, neu pan fydd eira o wahanol fath wedi disgyn ar ben ei gilydd mewn haenau e.e. eira sych fel powdr ar ben eira gwlyb. Mae ongl y llethr hefyd yn bwysig. Gall yr ardal ddioddef o eirlithrad arwyneb, ble mae’r haen uchaf o eira yn llithro lawr y llethr, neu gellir gweld eirlithrad dwfn o eira a rhew, pan mae’r llethr i gyd yn syrthio gan amlygu craig oddi tano fel arfer.
Newid hinsawddYn 2009, gwnaeth y darn eira parhaol ger Lochaber yn An Garbh Choire ddadmer. Roedd wedi bodoli ers cyn cof, a gydag ardaloedd eraill o rew parhaol yn cysgodi’r planhigion oddi tano rhag eithafon y tywydd. Pan fyddai’r eira olaf yn dadmer yn flynyddol, roedd yr ardaloedd yma fel ardaloedd ynysig o liw gyda phlanhigion alpinaidd fel mwsoglau amrywiol, saxifrage a llus (blaeberry yn yr Alban) yn ffynnu. Mae’r eira parhaol hefyd yn bwysig i grugiar yr Alban (ptarmigan) sydd â chuddliw (camouflage) gwyn yn y gaeaf, er mai brown ydyw yn yr haf, bras yr eira (snow bunting), hutan (dotterel) a’r ysgyfarnog mynydd. Heb eira, ni fydd cuddliw’r rhain yn gweithio, byddent yn amlycach i lwynogod ac eryrod, a bydd eu perthynas â’u cynefin ar ben a’r bioamrywiaeth yn dioddef. Os bydd yr ardal yn cynhesu, bydd gwybed bach (midges) yn dod yn fwy o broblem – hyd yma dim ond cyrion deheuol yr ardal sy’n cael eu heffeithio yn ddrwg. Bydd y ceirw yn symud i bori’n uwch ar yr ucheldir os bydd y gwybed bach yn eu poeni yn ormodol, a bydd hyn yn rhoi pwysau pori ar blanhigion bregus yr ucheldir. Bydd drogod, na gafodd eu
lladd yn y tywydd oer, yn creu problemau i dda sy’n pori’r tir ac o ganlyniad yn peri problem i bobl.
Nid y rhywogaethau fydd yr unig rai i orfod newid eu ffyrdd yn gyflym – bydd angen i’r busnesau twristiaeth newid hefyd – dim sgïo yn y gaeaf ac felly arallgyfeirio fydd ei angen yma. Ydy’r ardal yn gallu delio gyda mwy o ymwelwyr haf? Mae natur eu gweithgareddau yn fwy ymwthiol ar yr amgylchedd ac yn gadael ei ôl yn hirach. Gobaith y Parc Cenedlaethol a’u strategaethau yw y byddent yn gallu gwarchod yr hyn sydd yma a diogelu’r ardal i’r cymunedau lleol trwy ymledu cyfnod y diwydiant ymwelwyr, a chreu amgylchedd llai bregus i ddelio â nhw i’r dyfodol.
llyfryddiaethThe Nature of the Cairngorms, gol. Philip Shaw a Des Thompson (SNH, 2006).The Natural Heritage of the Cairngorm Massif; Working together for its Future; Scottish ExecutiveThe Forests of the Cairngorms; Cairngorms National Park; Forest and Woodland Frameworke © CNPA 2008. Enjoying the Cairngorms; Cairngorms National Park Outdoor Access Strategy 2007-2012 Cyhoeddwyd gan Cairngorms National Park Authority
gwefannau defnyddiolhttp://www.snh.org.uk/ Scottish Natural Heritage – gan gynnwys y Cairngorms Learning Zonewww.visitaviemore.comwww.cairngormmountain.co.ukwww.sais.gov.ukwww.scotland.gov.uk
Ardaloedd sgïo Mynydd Cairn Gorm
CORONATION WALL
SLIOS A ' CHRÙNAIDHCOIRE CAS
AN COIRE CAS
COIRE NA CISTE
HEAD WALLA’ CHUITHE CHROM
(CROOKED SNOW WREATH)
£
SHEILINGMID STATION
DAY LODGE & FUNICULARBASE STATION
AN LOIDSE
PTARMIGANSTATION
STÈISEAN ANTARMACHAIN
SSHIRE
£
1
2
4
5
6
9
10
12
3
8
11
WHITE LADY
A’ BHAINTIGH
EARNA BHÀN
M1 RACE PISTE
CEÀRN RÈISE M1
TRAVERSEAN TRASTAN
ZIG ZAGSGEARRADH IS BUAIN
ZIG ZAGSGEARRADH IS BUAIN
GUNB
ARRE
L
CLAI
S A'
GHUN
NA
LADY LUCKFORTAN NA CAILLICH
EAST WALL OF LADY
SLIOS SEAR NA BAINTIGHEARNA BÀINE
M2
CISTE FA
IRWAY
RAON NA CISTE
SSC HUTBOTHAN SSC
BURN
SIDE
TAOB
H AN
UILL
T
THE SLOT
AN SLOCHD
EAST WALL
AN SLIOS SEAR
NO 1 GU
LLY
CLAIS 1
NO 2 GU
LLY
CLAIS 2
WES
T WAL
L
AN S
LIOS
S IAR
RYVO
AN
RUIG
H A
' BH
OTH
AIN
BYNACK
BAIDHNEAG
DAY LODGE PISTE
CEÀRN-SGITHIDH AN LOIDSE
OVER Y
ONDER
THALL AN SIN
FIACAILL TRAVERSETRASTAN NA FIACLA
FIAC
AILL
RID
GE
FIA
CAIL
L A'
CH
OIRE
CHAI
S
SIDE SLOPE
LEACANN NA F IACLA
FIACAILL PISTE
CEÀRN-SGITHIDH NA FIACLA
HOME ROAD
AN RATHAD DHACHAIGH
105
COIRE
CAS
AN COIR
E CAS
CAR PARKSPARCADH
TO COIRE NA CISTE OVER FLOW CAR PARKSGU PÀIRCEAN A BHARRACHD COIRE NA CISTE
UNMARKED UNPISTEDCEÀRN-SGITHIDH NEO-CHOMHARRAICHTE
M1 CROSSOVERCEANGAL M1
PTARMIGAN BOWLCUACH AN TAR MACHAIN
UNMARKED UNPISTEDCEÀRN-SGITHIDH NEO-CHOMHARRAICHTE
UNMARKED UNPISTEDCEÀRN-SGITHIDH NEO-CHOMHARRAICHTE
CISTE
GULL
Y
CLAIS N
A CISTE
AONACH BOWLCUACH AN AONAICH
UNMARKED UNPISTEDCEÀRN-SGITHIDH NEO-CHOMHARRAICHTE
LOWER SLOPESSLIGHEAN ÌOSAL
4084 ft/
PROTECTED EUROPEAN SITESCEÀRNAN EORPACH DÌONAICHTE
TOILETSTAIGHEAN-BEAGA
TELEPHONESFÒNAICHEAN
CAFE BARCAFAIDH-BÀR
BUS STOPSTAD BUS
FIRST AIDCIAD-CHOBHAIR
TRAIN DOWNTRÈANA SÌOS
PTARMIGAN RESTAURANTTAIGH-BÌDH AN TARMACHAIN
SHOPBÙTH
VIEWING TERRACEBARRAID SEALLAIDH
SNOWSPORTS SCHOOLSGOIL SPÒRS-SNEACHDA
HIRE CENTREIONAD MÀIL
TICKETSTIOGAIDEAN
CAIRNGORM RANGER SERVICEFREICEADAN A'CHÙIRN GHUIRM
£
SS
HIRE
KEY TO FACILITIESCLÀR GHOIREASAN
40844 ft//AN CÀRN GORM
BLACK RUN (VERY DIFFICULT)SLIGHE DHUBH (ADHARTACH)
RED RUN (DIFFICULT)SLIGHE DHEARG (DOIRBH)
BLUE RUN (INTERMEDIATE)SLIGHE GHORM (MEADHANACH)
GREEN RUN (EASIER)SLIGHE UAINE (FURASTA)
FUNICULAR RAILWAYAN CÀBLACH
SKI TOWSTOBHAICHEAN-SGITHIDH
SKI PATROL BOUNDARYCRÌOCH CEÀRNN FREICEADAIN
UPLIFT NOT IN USEINNEALAN DÌOMHAIN
KEY TO RUN DIFFICULTYSLIGHEAN ÌREAN-DUILGHEADAIS
FUNICULAR RAILWAYAN CÀBLACH
CAR PARK T-BART-BÀR NA PÀIRC CARAICHEAN
FIACAILL RIDGE POMAPOMA NA F IACLA
SHEILING PLATTER POMAT-BÀR NA H-AIRIGH
COIRE CAS T-BART-BÀR A ' CHAIS
M1 POMAPOMA M1
COIRE NA CISTE T-BART-BÀR NA CISTE
POLAR EXPRESS POMAPOMA A’ PHOLAR EXPRESS
PTARMIGAN T-BART-BÀR AN TARMACHAIN
WEST WALL POMAPOMA AN T-SL IOSA SHIAR
DAY LODGE POMAPOMA AN LOIDSE
LIFTS AND TOWSUIDHEAMACHD TOGAIL
TERRAIN PARKPÀIRC TÌRE
SNOWSPORTS XSPÒRS-SNEACHDA X
KIDZ ZONECEÀRN CLOINNE
SLEDGE PARKPÀIRC SLAODAIN
1
2
3
4
5
6
8
9
10
11
12
www.cairngormmountain.org
PISTE MAPCLÀR SHLIGHEAN-SGITHIDH