58
CYNLLUNIO GWERSI EFFEITHIOL Cyrsiau HCA CAAGCC 1 Cyfres Arweinlyfrau CAAGCC’ Cynllunio Gwersi Effeithiol

gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

CYNLLUNIO GWERSI EFFEITHIOL

Cyrsiau HCACAAGCC

1

Cyfr

es A

rwei

nlyf

rau

CAAG

CC’ C

ynllu

nio

Gwer

si Eff

eith

iol

Ein gweledigaeth:Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol, a fydd yn ysbrydoli a grymuso pob dysgwr i gyflawni eu potensial.

Page 2: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

1. Rhagair

Cynllunio gwersi effeithiol Datblygiadau Diweddar Meddwl yn draws gwricwlaidd Cynllunio profiadau cyfoethog Gwaith Carol Dweck Gwaith John Hattie Cynllunio gwersi ar y ‘Perfforma Cynllunio’

2. Targedau Sgiliau Addysgu3. Targedau Dysgu’r Dysgwyr4. Datblygiad Sgiliau5. Amcanion Dysgu6. Meini Prawf Llwyddiant7. Asesu ar gyfer Dysgu8. Datblygiad Sgiliau – Sgiliau Meddwl, ABACH, ADCDF 9. Cymraeg pob Dydd10. Geirfa/Termau Allweddol11. Adnoddau12. Iechyd a Diogelwch13. Rôl staff cefnogi14. Amseru15. Gweithgareddau Gwersi16. Clo/AAGD17. A ydych wedi ystyried y rhain yn eich cynllun?

Atodiadau

1. Strategaethau Asesu ar Gyfer Dysgu2. Strategaethau ‘Datblygu Sgiliau Meddwl’3. Strategaethau Gwahaniaethu Effeithiol4. Agoriadau gwersi5. Clo i wersi

1. RHAGAIR

2

Cynnwys

Page 3: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Llyfryn yw hwn i’ch cynorthwyo gyda chynllunio eich gwersi ar eich Profiad Ysgol. Man cychwyn i chi yn unig ydyw, a mae disgwyl i chi gymryd rhan lawn ym mhob sesiwn hyfforddi sy’n trafod cynllunio gwersi. Yn yr atodiadau y mae llawer o syniadau i chi gynnwys yn eich cynlluniau o ran strategaethau a gweithgareddau. Bydd eich mentor a’ch tiwtor ar gael i chi hefyd i roi cymorth proffesiynol.

Cyn cychwyn cynllunio gwersi:

•dylid fod yn glir am yr hyn y disgwylir i’r dysgwyr gyflawni a dysgu yn ystod y wers.

•dylid bod yn gyfarwydd gyda holl ddogfennaeth y Cyfnod Allweddol

•dylid medru dnabod cyrhaeddiad pob unigolyn a bod yn barod i fod yn hyblyg, ac addasu cynlluniau fel bo angen.

CYNLLUNIO GWERSI EFFEITHIOL

Bydd cynllunio pwrpasol yn gwneud addysgwr effeithiol. Mae cynllunio gwersi yn broses hollbwysig, sy’n eich galluogi i ddatblygu yn addysgwr effeithiol, ac yn sicrhau eich bod wedi ystyried anghenion yr holl ddysgwyr.

Bydd yr ysgol yn rhannu eu cynlluniau gwaith gyda chi, a rhain fydd sail eich gwersi. Weithiau bydd rhain yn gynlluniau manwl, ond efallai bydd rhaid i chi eich hun eu datblygu. Bydd rhai cynlluniau gwaith hefyd yn rhannu gwybodaeth am safonau’r dysgwyr ac unrhyw ddysgwyr ADY- gwnewch ddefnydd o’r wybodaeth yma wrth gynllunio.

Dylech sicrhau eich bod yn holi’r mentor am y dysgwyr, a beth yr ydych i fod i addysgu yn ystod eich Profiad Ysgol.

Beth ydi gwers effeithiol?

Dylai cynllun gwers ganolbwyntio ar yr hyn y mae’r dysgwyr yn ddysgu ac nid ar yr hyn y byddent yn ei wneud. Dyma rai nodweddion o wersi effeithiol

• Ysgogi ac ysbrydoli pob dysgwr

• Cwestiynu effeithiol drwy’r wers

• Canolbwyntio ar gynnydd y dysgwyr

• Datblygu dysgwyr annibynnol

• Gwahaniaethu ar gyfer gwahanol ddysgwyr

• Amcanion Dysgu wedi eu rhannu ac yn ganolbwynt i’r wers

• Meini Prawf Llwyddiant penodol a chysylltiedig ȃ’r Amcanion Dysgu

• Y wers yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau penodol

• Asesu ar gyfer Dysgu

• Adborth effeithiol ar gyfer gwelliant

3

Page 4: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

• Her bwrpasol ar gyfer pob dysgwr

• Elfennau o addysgu traws gwricwlaidd e.e Llythrennedd, Rhifedd, Cymhwysedd Digidol

• Disgwyliadau uchel

• Adeiladu ar ddysgu blaenorol

• Rheolaeth a threfniadaeth gadarn

DATBLYGIADAU DIWEDDAR

Cyhoeddwyd yr adroddiad pwysig hwn yn Chwefror 2015, gan osod 68 o argymhellion i ddiwygio addysg yng Nghymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o’r argymhellion, a bydd y newidiadau yn cymryd lle dros y bum mlynedd nesaf. Dyma’r cyswllt i’r ddogfen gyfan

https://hwbplus.wales.gov.uk/schools/6714052/Documents/Donaldson%20Report.pdf

Crynodeb o’r Adroddiad

Bydd 4 diben i’r Cwricwlwm yng Nghymru fydd yn cynorthwyo pob dysgwr i ddatblygu’n

ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

4

Page 5: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau

gwerthfawr o gymdeithas.

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r canlynol:

6 maes dysgu: celfyddydau mynegiannol; iechyd a llȇs; dyniaethau; ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg

Dysgu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm

Llythrennedd

“Mae cymhwysedd mewn llythrennedd, gan gynnwys cymhwysedd yn yr iaith lafar, cystrawen a sillafu, yn hanfodol ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm, yn bennaf oherwydd y lle hanfodol sydd i iaith wrth feddwl. Er mwyn meistroli’r sgiliau hyn, yr hyn sy’n hanfodol, yn hytrach na drilio ac ailadrodd am gyfnodau hir yn ystod y diwrnod ysgol, yw meithrin dealltwriaeth dda o’u cydrannau hanfodol gyda chymorth addysgu a dysgu sy’n briodol i ddatblygiad plant a phobl ifanc a chynnig cyd-destunau cyfoethog lle y gellir eu cryfhau, eu hymestyn a’u cymhwyso. Os na cheir hyn, fel y nododd un cyfrannwr, ‘There is a real danger that we are teaching the mechanics of writing but giving the children nothing to write about’. Mae angen i blant a phobl ifanc gael pob cyfle hefyd i egluro eu meddwl, ystyried a thrafod syniadau a defnyddio sgiliau iaith ar lefel briodol. Mae cydran llythrennedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch dull cyffredin o gryfhau sgiliau o’r fath ar wahanol gamau datblygiadol”

Donaldson, 2015, tudalen 40

Rhifedd

‘’Yn yr un modd, mae rhifedd, gan gynnwys sgiliau rhifyddeg a thrin data, yn cael ei ddefnyddio’n eang ar draws y cwricwlwm, ac mae cymhwysedd mewn rhifedd yn hanfodol ar gyfer byw a gweithio’n annibynnol. Mae angen i blant a phobl ifanc gael cyfleoedd rheolaidd i feithrin mwy o ddealltwriaeth o rif ac, yn yr un modd â llythrennedd, i gryfhau a defnyddio eu sgiliau rhifedd mewn gwahanol gyd-destunau. Mae’n bwysig bod yr holl athrawon a staff eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn deall beth yw’r ffordd orau o gryfhau’r sgiliau hyn ac yn manteisio ar gyfleoedd i atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd mewn ffordd briodol. Mae cydran rhifedd y FfLlRh yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch dull cyffredin o gryfhau sgiliau o’r fath ar wahanol gamau datblygiadol.’’

Donaldson, 2015, tudalen 40 a 41

Cymhwysedd Digidol (Gwefan Llywodraeth Cymru)

Gwybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru:

5

Page 6: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Yr elfen gyntaf o’r cwricwlwm newydd i gael ei datblygu yw’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Bydd hwn ar gael i lleoliadau ac ysgolion addysg ym mis Medi 2016 ar-lein ac i’w lawrlwytho. Bydd y fframwaith yn cyflwyno ac yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fyw mewn byd sy’n fwyfwy digidol ac ar-lein. Bydd y sgiliau’n amrywio o gyfathrebu a chydweithio i ddatrys problemau a delio â seibrfwlio. Fel llythrennedd a rhifedd, bydd yn gymwys ar draws pob pwnc, gan ddatblygu sgiliau a hyder disgyblion a’u paratoi ar gyfer newidiadau ym maes technoleg yn y dyfodol. Mae pedair elfen i’r fframwaith, ac mae pob elfen cyn bwysiced â’i gilydd. Mae gan bob elfen nifer o rannau sy’n mynd i fwy o fanylder, fel a ganlyn:

Dinasyddiaeth – gan gynnwys ‘Hunaniaeth, delwedd ac enw da, ‘Iechyd a lles’, ‘Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth’, and ‘Ymddygiad ar-lein a seibrfwlio’

Rhyngweithio a chydweithio – gan gynnwys ‘Cyfathrebu’, ‘Cydweithio’, a ‘Storio a rhannu’

Cynhyrchu – gan gynnwys ‘Cynllunio, canfod a chwilio’, ‘Creu’, a ‘Gwerthuso a gwella’

Data a meddwl cyfrifiadurol – gan gynnwys ‘Modelu a datrys problemau’, a ‘Llythrennedd gwybodaeth a data’.

O fis Medi 2016, bydd ysgolion a lleoliadau addysg yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r fframwaith, cytuno ar eu gweledigaeth strategol ar gyfer cymhwysedd digidol trawsgwricwlaidd ac ystyried sut i wireddu hyn yn ymarferol.’’ Llywodraeth Cymru, 2015

Cyfeiriwch at Arweinlyfrau ar Lythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol am ragor o arweiniad.

MEDDWL YN DRAWS GWRICWLAIDD

Wrth gynllunio gwersi effeithiol dylem ystyried rhoi profiadau cyfoethog i ddysgwyr a datblygu sgiliau penodol drwy addysgu traws gwricwlaidd

Dyma ddyfyniad o Adrdoddiad Yr Athro Donaldson

“Er enghraifft, gellid seilio astudiaeth o afon leol ar Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Fodd bynnag, mae hyn yn cynnig cyfleoedd o bob math mewn meysydd eraill. Gellid ei gysylltu â Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau mynegiannol drwy wrando ar ddarn o gerddoriaeth fel Vltava gan Smetana a chyfansoddi cerddoriaeth neu greu dehongliadau gweledol neu berfformiadau dawns neu ddrama i gyfleu taith yr afon rhwng ei tharddle a’r môr. Bydd cyfleoedd i ddefnyddio iaith ffeithiol a chreadigol yn bwrpasol i greu llyfrynnau neu farddoniaeth ac i gymhwyso sgiliau mathemategol a gwyddonol i arsylwi ac ymchwilio i ffenomenau naturiol a mesur dyfnder a chyflymder. Bydd yn galluogi plant a phobl ifanc i wella eu hiechyd a lles drwy fwynhau awyr iach a cherdded yn ddiogel yn y bryniau i chwilio am darddle nant leol a defnyddio sgiliau darllen mapiau i ddilyn y cyfan neu ran o’i thaith.”

Donaldson, 2015, tudalen 88

Sgiliau Ehangach – cyfarwyddyd yr Athro Donaldson

Ynghŷd ȃ’r sgiliau penodol o fewn y meysydd dysgu diwydiedig, y mae’r Athro Donaldson yn pwysleisio fod angen i ddysgwyr ddatblygu sgiliau ehangach sef –

6

Page 7: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

meddwl yn feirniadol a datrys problemau – mabwysiadu prosesau beirniadol a rhesymegol i ddadansoddi a deall sefyllfaoedd a llunio ymatebion a datrysiadau

cynllunio a threfnu – sicrhau atebion a gweithredu syniadau a monitro ac ystyried y canlyniadau

creadigrwydd ac arloesedd – meddwl am syniadau, bod yn agored a magu hyder i archwilio syniadau a mynegi barn

effeithiolrwydd personol – ystyried eich hun a deall eich hun ac eraill, ymddwyn mewn modd effeithiol a phriodol; bod yn ddysgwr effeithiol.

CYNLLUNIO PROFIADAU CYFOETHOG

Drwy ystyried argymhellion yr Athro Donaldson dylem felly gynllunio tasgau diddorol, perthnasol ar gyfer dysgwyr, a chyfleoedd ysgogol i ddatblygu sgiliau penodol ac ehangach

Tasgau Cyfoethog yw tasgau a gweithgareddau fydd yn

Cynnig opsiynau sut i ddysgu i bob dysgwyr Dechrau o lun mawr a/neu gwestiynau mawr Cynnig cyfleoedd i feddwl yn annibynnol a chyfleoedd trafod pwerus Datrys problemau Ehangu eu profiad a’u defnydd o sgiliau Hybu creadigrwydd Datblygu hyder dysgwyr a’u sgiliau meddwl Cyfleoedd i ddefnyddio sgiliau yn draws gwricwlaidd

GWAITH CAROL DWECK

Seilir gwaith Carol Dweck ar y syniad o fod mewn meddylfryd o dyfiant. Mae’r egwyddorion yn hanfodol i ddatblygu dysgwyr fydd yn mwynhau eu addysg ac yn benderfynol o lwyddo, a chyflawni eu potensial. Mae meddylfryd o dyfiant yn:

cymell unigolion i lwyddo dechneg feddwl ellir ei dysgu meithrin meddylfryd o dyfiant yn y dosbarth drwy y math o adborth ydym yn ei

gynnig iddynt, a phwysleisio posibliadau a photensial modelu’r meddylfryd gallwn ddysgu eraill

Datblygu Meddylfryd Twf (Growth Mindset)

YN LLE …… MEDDYLIWCH FEL HYN

7

Page 8: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Dydw i ddim yn gallu gwneud hyn Mi dria i hyn mewn ffordd wahanolMi wnaiff y tro Ai hwn yw fy ngwaith gorau?Fedra i ddim gwella hwn Sut alla i wella?Dwi wedi gwneud camgymeriad Mae camgymeriadau yn fy helpu i ddysguMae fy ffrind yn llwyddo Gallaf ddysgu ganddoFyddai byth yn glyfar Mi weithia i’n galed i wellaDwi’n rhoi’r ffidil yn y to Mi dria i ffordd arall i lwyddoDydw i ddim yn hoffi gwaith caled Rwyf eisiau herio fy hun

GWAITH JOHN HATTIE

“My role, as teacher, is to evaluate the effect I have on my students.”

― John A.C. Hattie, Visible Learning for Teachers: Maximizing Impact on Learning

Dyma yw hanfod gwaith John Hattie, ble mae pob addysgwr yn myfyrio ar effaith ei addysgu ar y dysgwyr. Disgrifia wyth meddylfryd y dylai athrawon eu ystyried yn eu gwaith yn y dosbarth, wrth gynllunio, addysgu a myfyrio ar eu gwersi.

Meddylfryd 1 – Tasg sylfaenol athrawon yw gwerthuso eu haddysgu ar ddysgu a chyflawniad y dysgwyr

Meddylfryd 2 – Mae llwyddiant neu fethiant dysgwyr yn ymwneud ȃ’r hyn y mae’r addysgwr wedi ei wneud.

Meddylfryd 3 – Dylai athrawon siarad a meddwl mwy am y dysgu na’r addysgu

Meddylfryd 4 – Dylai athrawon feddwl am asesu fel adborth ar eu heffaith

Meddylfryd 5 – Deialog sydd i fod yn ganolog mewn dosbarth, nid monolog

Meddylfryd 6 – Dylai athrawon fwynhau her

Meddylfryd 7 – Dylai athrawon gredu mai eu rôl yw datblygu perthynas gadarnhaol

Meddylfryd 8 – Dylai athrawon rannu ieithwedd addysgu a dysgu gyda’r dysgwyr a’r rhieni iddynt ddeall beth yw dysgu. Drwy hyn gallant adnabod beth yw’r camau nesaf yn y llwybr dysgu.

Dylech gynllunio eich gwersi ar y ffurflen bwrpasol – Atodiad 1. ‘Profforma Cynllunio’. Mae’r Llyfryn hwn yn rhoi arweiniad ar sut i fynd ati i gynllunio gwersi effeithiol yn dilyn y profforma Cynllunio hwn (Atodiad 1)

Mae gweddill y Llawlyfr hwn yn rhoi cyfarwyddiadau ac awgrymiadau ar sut i fynd ati i nodi eich cynlluniau gwersi ar y profforma, gan ddilyn y blychau ar y ffurflen.

2. TARGEDAU SGILIAU ADDYSGU

8

Page 9: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Mae’r rhain yn cael eu cymryd o arsylwad diwethaf gan y mentor/uwch fentor/tiwtor neu chi fel hyfforddai. Maent yn cael eu nodi ar ddiwedd eich arsylwad wythnosol. Dylid cadw rhain mewn golwg pan fyddwch yn cynllunio gan nodi sut ydych am weithio tuag at y targedau.

Nodwch yma pa sgiliau addysgu y byddwch yn canolbwyntio arnynt yn y wers hon. Dylech gynnwys sgiliau a thechnegau addysgu penodol yr ydych yn gweithio arnynt ac yn ceisio’u datblygu (yn berthnasol i’r Safonau) e.e ‘sicrhau bod fy nghyflwyniad yn fywiog a diddorol S1.3’, ‘trefnu gweithgareddau ymarferol yn effeithiol’ S3.3.3,’gwella amseru’r wers’ S3.3.7, ‘gwella fy nhechneg o gwestiynu’ S3.2.1, ‘gwahaniaethu’r gwaith yn fwy effeithiol’ S 3.3.4, ‘datblygu fy ngallu i ddadansoddi gwaith dysgwyr a gwneud sylwadau defnyddiol ar gyfer gwelliant’ S3.2.2.

(SAC Safonau S.3.3.5) annog y plant i fy ateb yn Gymraeg

(SAC Safonau S.3.3.1) cofio trafod y MPLl ar ddechrau a diwedd y wers.

(SAC Safonau S.3.2.1) sicrhau fod pawb yn llenwi taflen asesu ar gyfer dysgu ar ddiwedd pob gwers.

3. TARGEDAU DYSGU’R DYSGWYR

Dylech nodi yma dargedau dysgu’r dysgwyr yn deillio o’ch asesiadau o gyraeddiadau’r dysgwyr yn y gwersi perthnasol blaenorol.

Grŵp melyn i weithio’n annibynnol i greu graff bloc yn gywir

Dysgwr 1, 2 a 3 i sillafu y geiriau ar y rhestr yn gywir wrth ysgrifennu stori

Dysgwyr Blwyddyn 3 i allu penderfynu ar griteria penodol i ddosbarthu’r gwrthrychau

4. DATBLYGIAD SGILIAU

Dylid nodi y prif sgil fydd yn cael eu dysgu yn y wers – dim ond un neu ddwy sgil ymhob adran. Dylid hefyd sicrhau eu bod yn gysylltiedig gyda phrif ffocws y wers, y deillianau dysgu disgwyliedig a’r meini prawf llwyddiant.

Y dogfennau i’w defnyddio

Sgiliau o’r Rhaglenni Astudio 2015Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd 2013Fersiynau cyfeillgar i ddysgwyr o’r Fframwaith Llythrennedd a RhifeddFframwaith y Cyfnod Sylfaen 2015Fframwaith Cymhwysedd Digidol 2016Sgiliau o’r dogfennau pynciol y Cwricwlwm Cenedlaethol 2008

Rhaglenni Astudio CA2 2015 – Cymraeg, Saesneg a Mathemategwww.dysgu.cymru.gov.uk . Ffrawaith Llythrennedd a Rhifedd - http://learning.gov.wales/resources/browse-all/nlnf/? lang=cy

9

Page 10: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Fersiynau cyfeillgar i ddysgwyr o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (ar gael ar safwe Hwb - http://hwb.wales.gov.uk/)

Fframwaith y Cyfnod Sylfaen 2015 - http://learning.gov.wales/resources/browse-all/foundation-phase-framework/?lang=cyFframwaith Cynhwysedd Digidol (Mehefin 15fed, 2016)Dogfennau pynciol Cwricwlwm Cenedlaethol 2008 http://learning.gov.wales/search-results/?lang=cy

5. AMCANION DYSGU

Mae amcanion dysgu a meini prawf llwyddiant yn rhoi Sylfaen i Asesu ar gyfer Dysgu / (Clarke, 2005; 2009; 2014; Hattie, 2011; William, 2011)Unwaith mae’r Amcanion Dysgu yn eglur, mae gweddill y wers yn dilyn yn llawer rhwyddach (Clarke, 2013)

Yr amcanion yw’r pwynt dechreuol wrth fynd ati i gynllunio gwersi, er nad oes angen rhannu yr amcanion ar ddechrau’r wers bob amser. Gellid cynnal agoriad ysgogol a chymell y dysgwyr i ystyried beth yw’r amcanion eu hunain.

Wrth gynllunio’r amcanion dylid ystyried

Beth fydd y dysgwyr yn ei ddysgu yn ystod y wers? Sut mae rhannu hyn gyda’r dysgwyr mewn iaith dysgwr-gyfeillgar?

Mi fydd yr amcanion dysgu yn sail i’r wers gyfan. Gellir cyfeirio’n ôl ato/atynt i ddarganfod beth mae’r dysgwyr yn wybod amdano yn barod a sut a beth y maent yn ei ddysgu yn ystod y wers.

Mae amcanion dysgu clir, sy’n ddealladwy i bob dysgwr, yn rhoi cyfle iddynt allu asesu eu dysgu eu hunain.

Dylai amcanion dysgu gyfeirio’n benodol at sgil/sgiliau neu wybodaeth. Ni ddylid nodi cyd-destun yma. (Fe nodir y cyd-destun ar ddechrau’r ‘Profforma Cynllunio’). Drwy nodi Amcan/Amcanion Dysgu clir, fe ellir wedyn lunio Meini Prawf Llwyddiant fydd yn rhestr wirio ar gyfer y dysgwyr yn nodi sut allent lwyddo yn y wers. Wedi llunio Amcan/amcanion dysgu clir mae’n ein harwain at y sgil benodol fyddwn yn ddatblygu yn ystod y wers.

e.e

10

Page 11: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Profforma Cynllunio

Enw –

Alaw Jones

Dosbarth –

Blwyddyn 3 a 4

Dyddiad –

Tachwedd 23ain, 2016

Cyd-destun

Ysgrifennu cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud brechdan

e.e Amcan Dysgu effeithiol – Ysgrifennu cyfarwyddiadau (dim cyd-destun)

Wrth beidio â chynnwys y cyd-destun bydd y dysgwyr yn canolbwyntio yn llwyr ar y sgil benodol fydd yn cael ei datblygu yn y wers. Gallant hefyd ystyried y gellir ymarfer y sgil yma mewn sefyllfaedd a chyd-destunau gwahanol.

Sicrhewch fod yr amcan yn disgrifio'r dysgu ac nid y dasg.

Engreifftiau o Amcanion Dysgu clir i ddysgwyr. Rydym yn dysgu -

Sut i ysgrifennu cyfarwyddiadauAdnabod odrifau ac eilrifauEfelychu arddull Van GoghAdnabod a disgrifio nodweddion dynol a naturiolSut i gyfansoddi Rondo

Am fwy o wybodaeth darllenwch ‘Outstanding Formative Assessment Shirley Clarke’ – Pennod 6. Cyhoeddwr:

6. MEINI PRAWF LLWYDDIANT

Meini Prawf Llwyddiant sy’n ateb y cwestiwn o sut allwn lwyddo i gyrraedd yr amcan ddysgu. Dylai athrawon ofyn y cwestiwn Beth fydd angen ei wneud i gyflawni hyn?Mae’n arfer dda i gynnwys y dysgwyr yn y drafodaeth hon gan eu cymell i ddadansoddi yr hyn fydd rhaid ei wneud i gyflawni’r Amcan ddysgu. Er hyn mae angen i’r athro wybod beth ydynt yn sylfaenol yn gyntaf.

Dylid arddangos y meini prawf llwyddiant a’u creu mewn ieithwedd disgybl-gyfeillgar er mwyn i’r dysgwyr gael cyfeirio atynt yn ystod y wers.

Enghreifftiau Amcanion /a Meini Prawf Llwyddiant

11

Page 12: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Cyd-Destun

Ysgrifennu cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud brechdan

Amcan Ddysgu

Rydym yn dysgu sut i ysgrifennu cyfarwyddiadau

Meini Prawf Llwyddiant

Rhestru beth sydd angenDefnyddio berfau gorchmynnolDefnyddio pwyntiau bwledGeirfa drefnol

Effaith ar y dysgwr

Yr wyf wedi dysgu sut i ysgrifennu cyfarwyddiadau clir. Gallaf ysgrifennu cyfarwyddiadau ar sut i wneud brechdan, gwneud awyren o bapur, adeiladu tỹ bach twt neu unrhyw beth arall

Dyma rai enghreifftiau o feini prawf llwyddiant effeithiol

PWRPAS MEINI PRAWF LLWYDDIANTCreu map meddwl Teitl yng nghanol y dudalen

Brigau o wahanol liwiauLluniau a labelau

Llunio llinell amser Defnyddio pren mesur i lunio llinellRhifau fesul 10 o 1900 i 2000Gosod digwyddiadau yn y drefn gywir

Creu ‘collage’ Gweithio o’r cynllunGorchuddio’r holl bapurDefnyddio gwahanol weadauGofalu ei fod yn lliwgar i ddal sylw

Adnabod a deall nodweddion ffisegol a dynol o ardal fynyddig

Defnyddio nifer o ffynonellu i gywain gwybodaethNodi nodweddion ffisegolNodi nodweddion dynolTrefnu’r wybodaeth yn effeithiol

7. ASESU AR GYFER DYSGU

(Seiliedig ar waith Shirley Clarke, John Hattie, Carol Dweck a William a Black)

Yma dylid nodi strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu fydd yn cael eu defnyddio yn ystod y wers e.e cyd osod Meini Prawf Llwyddiant, defnydd o engreifftiau o arfer dda, cyfeirio yn ôl at ddeillianau dysgu disgwyliedig, crynhoi’r dysgu ar ganol y wers, myfyrio ar y dysgu ar ddiwedd y wers, asesu gwaith eu hunain, asesu cyfoedion.

Beth yw Asesu ar gyfer Dysgu?

12

Page 13: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Mae Asesu ar gyfer Dysgu, neu Asesu Ffurfiannol yn hanfodol ar gyfer Dysgu ac Addysgu effeithiol. Mae’n cyfrannu at ddysgu drwy adnabod y camau nesaf i ddatblygu ymhellach. Seilir hynny ar drafodaethau ar yr hyn sy’n cael ei ddysgu, y meini prawf llwyddiant, myfyrio ar y dysgu ac adborth ar y dysgu.

Mae ymchwil yn dangos fod defnyddio strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu yn y dosbarth yn

codi safonau dysgwyr hybu dysgwyr annibynnol yn ffordd o gadw cofnod o’r dysgu yn erbyn Meini Prawf Llwyddiant datblygu gallu dysgwyr i adnabod eu cryfderau a beth sydd angen ei ddatblygu agor trafodaethau myfyriol ar y dysgu a chynnydd

Dylai Asesu ar gyfer Dysgu fod yn

Sensitif ac yn adeiladol yn hybu brwdfrydedd at ddysgu yn cydnabod pob cyrhaeddiad addysgol yn canolbwyntio ar sut mae disgyblion yn dysgu yn helpu disgyblion ddeall sut i wella yn rhoi lle i hunan-asesu ac asesu cyfoedion Yn hyrwyddo dealltwriaeth o amcanion a meini prawf llwyddiant Yn ran o gynllunio’r ysgol ac yn ganolog yn y dosbarth

Gweler atodiad ‘Asesu ar gyfer Dysgu’ am fwy o wybodaeth ar weithgareddau a strategaethau.

8. DATBLGIAD SGILIAU (Sgiliau Meddwl, ABCH, ADCDF)

Yn y blwch hwn nodir sgiliau meddwl, sgiliau o’r Fframwaith ‘Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd Eang.

Sgiliau o’r ddogfennaeth – Fframwaith Sgiliau 2007, ABCH, ACDEF

Fframwaith Sgiliau 3-19 oed - http://learning.gov.wales/resources/browse-all/skills-development/?lang=cyCwricwlwm Cymreig - http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/130424-developing-the-curriculum-cymreig-en.pdfAddysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd Eang - http://www.14-Addysg 19nw.org.uk/pluginfile.php/28093/mod_resource/content/1/ADCDF_Cyd_ddealltwriaeth_ar_gyfer_ysgolion.pdf

9. CYMRAEG POB DYDD

13

Page 14: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Yn ôl y ddogfen ‘Diffinio Ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg’ (LLCC, 2007) diffinnir iaith yr ysgol mewn ‘Ysgol Gynradd/Uwchradd cyfrwng Saesneg yn bennaf’ fel a ganlyn:

“Saesneg yw iaith yr ysgol o ddydd i ddydd, ond defnyddir rhywfaint o Gymraeg hefyd i gyfathrebu â’r disgyblion, gan anelu at wella eu gallu i ddefnyddio Cymraeg pob dydd o ddydd i ddydd” (LLCC, 2007:9,14)

Diffinnir iaith yr ysgol mewn ‘Ysgol Uwchradd cyfrwng Saesneg yn bennaf’ fel a ganlyn:

I wireddu’r diffiniadau uchod mae’n hanfodol bod y Gymraeg yn ymdreiddio’n naturiol i ethos ieithyddol yr ysgol, a hynny tu fewn a thu allan i’r gwersi. Defnyddir y term Cymraeg Pob Dydd/Cymraeg Achlysurol i gyfeirio at y modd y dylid defnyddio’r Gymraeg fel ei bod yn rhan naturiol o weithgarwch dosbarth e.e.

wrth weinyddu arferion dyddiol fel galw’r gofrestr (e.e. Ydi … yma heddiw? Ble mae ...heddiw?)

wrth gyfarch a ffarwelio (e.e. Bore da! Sut wyt ti heddiw? Hwyl fawr!) wrth reoli dosbarth trwy roi cyfarwyddiadau cyffredin (e.e. Pawb yn dawel!

Eisteddwch!) wrth roi a derbyn cyfarwyddiadau cyffredin yn ystod camau gwers

(e.e. Gweithiwch mewn parau, Gwaith cartref) wrth ymateb a chanmol (e.e. Bendigedig! I’r dim!) wrth arddangos gwaith disgyblion (e.e. arwyddion a labeli dwyieithog, penawdau

dwyieithiog mewn arddangosfa)Dylid ceisio hybu athrawon a dysgwyr i ddefnyddio Cymraeg Pob Dydd yn ystod gwersi ac wrth gymhwyso’r patrymau iaith tu allan i’r dosbarth ac mewn gweithgareddau allgyrsiol.

Cynllun Gwers

Gweler isod y darn ar y proforma cynllun gwers sy’n berthnasol o ran CBD a Chymraeg.

1. CYMRAEG POB DYDD: Cyfarchion, gorchmynion, cyfarwyddiadau, canmoliaeth . . .

2. GEIRFA/TERMAU ALLWEDDOL: Termau allweddol penodol, geirfa, patrymau brawddegol perthnasol i’r wers

1. Yma, mae angen nodi geirfa, brawddegau a.y.y.b. er mwyn datblygu CPD/

Achlysurol y dysgwyr. Mae angen amrywio’r eirfa a’r brawddegau yn wythnosol (o leiaf) ac mae’n hynod bwysig nad ydych chi’n ‘torri a gludo’ yr adran yma o wers i wers, ac o wythnos i wythnos. Mae angen i chi ddangos cynnydd yn y dysgwyr o ran CPD/Achlysurol wrth gynllunio eich gwersi.

2. Yma mae angen nodi rhwng 5 – 10 gair allweddol sy’n ymwneud â’r pwnc/testun dan sylw yn y wers.

14

Page 15: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

O safbwynt datblygu Cymraeg Bob Dydd a Chymraeg dysgwyr yr iaith, mae’n hynod bwysig eich bod yn nodi yn yr adran ‘Strwythur y Wers’ ble rydych chi’n trafod/cyfeirio at yr eirfa Gymraeg rydych chi’n ei chyflwyno.Wrth werthuso eich gwersi, mae’n ofynnol eich bod yn trafod y cynnydd mae eich dysgwyr yn ei wneud o ran CPD a Chymraeg, ar ddechrau’r profiad, tua’r canol ac yna ar y diwedd.

10. GEIRFA/TERMAU ALLWEDDOL

Yma dylid cynnwys iaith allweddol i alluogi dysgwyr drafod y maes dan sylw yn effeithiol. Gellir nodi termau pynciol, patrymau brawddegau, geirfa newydd yma. Er enghraifft -

Gwers Wyddoniaeth ar y ‘Cylch Dŵr’ anweddu, cyddwyso, solid, hylif, nwy,

Gwers Gerddoriaeth ar werthuso darn o gerddoriaeth

traw, parhad, cyflymder, ansawdd, gwead, dynameg, adeiledd a distawrwydd

Gwers Hanes ar gronoleg llinell amser, degawd, canrifGwers Fathemateg ar lunio gwahanol graffiau

graff bloc, siart gylch, siart rhicbren, llinell lorwedd a fertigol

Gwers Ddaearyddiaeth ar sgiliau darllen map

allwedd, graddfa, cyfesurynnau, cyfeiriad, symbolau

11. ADNODDAU

Wrth gynllunio dylid ystyried a nodi’r adnoddau a fyddwch angen. Bydd hyn yn eich galluogi i ddarparu popeth a fydd ei angen ar gyfer y wers cyn dechrau addysgu.

12. IECHYD A DIOGELWCH

Yma dylid nodi unryw faterion yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch e.e mewn gwersi Addysg Gorfforol, coginio mewn Dylunio a Thechnoleg, gwersi ymarferol gwyddoniaeth, diogelwch ar y wế, gwaith maes a.y.y.b.

Dylid dilyn polisi’r ysgol ar ‘Iechyd a Diogelwch’ a darllen unrhyw Asesiadau Risg perthnasol.

Dyfyniad gan HSE

Mae iechyd a diogelwch mewn ysgol yn ymwneud â dilyn ymagwedd synhwyrol a chymesur i sicrhau bod yr eiddo yn darparu lle iach a diogel i bawb sy’n eu defnyddio, yn cynnwys gweithlu, ymwelwyr a disgyblion yr ysgol.

Oherwydd nad oes angen asesiadau risg ysgrifenedig ar gyfer pob gweithgaredd dosbarth, mae’r rhestr wirio hon yn cael ei darparu i’w defnyddio yn ôl yr angen. Nid yw’n ofynnol, ond fe’i bwriadwyd fel offeryn defnyddiol. Gall ysgolion ddewis dulliau eraill o gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a sicrhau bod staff a phlant yn ddiogel.

15

Page 16: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Dylid sefydlu mesurau ledled yr ysgol i ddelio â’r risgiau gwirioneddol, fel nad oes angen i athrawon a staff cefnogaeth gynhyrchu asesiadau ysgrifenedig ar gyfer ystafell ddosbarth arferol – oni bai bod gweithgareddau newydd yn arwain at risgiau atodol.

13. RȎL STAFF CEFNOGI

Mae gan lawer o ysgolion dȋm o staff cefnogi neu gymorthyddion addysgu mewn dosbarthiadau, gydag amrywiaeth o rolau a chyfrifoldebau. Yn aml byddent yn cefnogi grwpiau o ddisgyblion neu yn cefnogi dysgwyr unigol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae eu dyletswyddau hefyd yn cynnwys rhoi cymorth gyda chynllunio gweithgareddau, darparu adnoddau, ayb.

Mae pob cymhorthydd addysgu’n gweithio dan arweiniad penodol yr athro/athrawes ac felly y mae’n bwysig cynllunio ar eu cyfer a rhannu yr Amcanion Dysgu a’r Meini Prawf Llwyddiant gyda hwy. Dylid hefyd roi cyfarwyddiadau iddynt ar elfennau pwysig y wers e.e cwestiynau effeithiol, geirfa a thermau allweddol a sut y maent i gefnogi’r dysgwyr dan eu gofal. Dylai pob cymhorthydd addysgol ddatblygu dysgwyr i fod annibynnol.

Engreifftiau ar gyfer yr adran

MJ i gynnal trafodaeth gyda grŵp Cadnant cyn mynd ati i gasglu geirfa. Rhoi cefnogaeth wrth fynd ati i ysgrifennu disgrifiad o’r afon.GH i gynnal gweithgaredd ymarferol o ddosbarthu gwrthrychau gyda disgybl 1 (ADY). Cofnodi’r weithgaredd drwy luniau camera.LW i adolygu MPLl y wers Rifedd ddiwethaf gan ymarfer ac atgyfnerthu bondiau rhif at 20.

14. AMSERU

I gynllunio gwersi effeithiol dylid ystyried amseru’n ofalus. Rhaid gofalu nad yw agoriad y wers yn rhy hir, a hefyd fod yn rhaid dod â’r prif weithgaredd i ben, i roi digon o gyfle ar gyfer clo effeithiol a chyfle i’r dysgwyr fyfyrio ar eu dysgu.

Mae’r gwersi gorau yn symud ar gyflymder addas a phwrpasol, gan roi cyfle i ddysgwyr fyfyrio ar eu dysgu. Dylid ystyried cael y dysgwyr yn weithredol cyn gynted a bo modd. Profiadau ysgogol a’r dysgwyr yn dysgu, yn gweithio ac yn cynhyrchu ddylai fod yn ganolbwynt i bob cynllun gwers.

Dylid cynllunio agoriad, prif weithgareddau a chlo yn ofalus, gan feddwl am gwestiynau heriol i asesu’r dysgu ar ddiwedd y wers ac wrth wirio’r dysgu’n barhaus.

15. GWEITHGAREDDAU GWERSI

Agoriadau Gwersi

16

Page 17: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Dylai rhan gyntaf y wers fod yn ysgogol i ddal sylw pob dysgwr, wedi eu cyflwyno mewn awyrgylch ddysgu ddiogel a hwyliog.

Gellir canolbwyntio ar

cymryd y cyfle i drafod dysgu newydd cadarnhau gwybodaeth a/neu ddealltwriaeth ail ymweld ȃ sgiliau cysylltu’r dysgu gyda dysgu blaenorol ymarfer geirfa/termau allweddol gwirio cysyniadau neu gamsyniadau

Dylai agoriadau effeithiol

gynnwys pob dysgwr, wedi ei chynllunio yn ofalus bod yn gyflwyniad i’w fwynhau gael ffocws pwrpasol dechrau ffocysu eu meddwl ar yr hyn sy’n dilyn. fod yn weithgaredd sy’n cynnig her

Gweler Atodiad 7 am esiamplau o agoriadau gwersi effeithiol

Prif weithgareddau

Yma dyld disgrifio prif weithgareddau’r wers yn gryno. Rhaid ystyried gwahaniaethu pwrpasol (gweler Atodiad 6) a chadw pob dysgwr yn weithredol drwy’r wers.Dylai gwers effeithio gael ei chynllunio a’i addysgu gyda’r canlynol mewn golwg.

Dylid sicrhau

gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o’r pwnc dan sylw ymwybyddiaeth gadarn o gyrrhaeddiad y dysgwyr fod unrhyw gyfarwyddiadau yn glir i bob dysgwr cyfleoedd i fodelu cwestiynu effeithiol her bwrpasol i bob dysgwr amrywiaeth o weithgareddau cyfleoedd i drafod y dysgu yn ystod y wers rhannu arfer dda i gynorthwyo’r dysgwyr cyfeirio at yr amcan dysgu a’r meini prawf llwyddiant

16. CLO/Asesu ar gyfer dysgu

Mae clo effeithiol i wers yn –

crynhoi’r dysgu hyd yma yn cyfeirio’n ôl at yr Amcanion Dysgu

17

Page 18: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

yn cyfeirio’n ôl at y Meini Prawf Llwyddiant atgyfnerthu’r dysgu rhoi arweiniad ar gyfer y camau nesaf rhoi cyfle i’r dysgwyr fyfyrio ar eu dysgu eu hunain ystyried cynnydd a chamau nesaf

Dylid rhoi yr amser dyledus i gloi pob gwers yn effeithiol, a cheisio sicrhau fod pob dysgwr yn cael cyfle i grynhoi ei ddysgu a hefyd yn myfyrio ar y wers a’r hyn a ddysgwyd. Rhaid felly cynllunio clo’r wers yn ofalus gan ystyried cwetiynau agored fydd yn datblygu sgiliau myfyrio a sgiliau meddwl y dysgwyr.

Gweler Atodiad 8 am syniadau i gloi gwersi

17. A YDYCH WEDI YSTYRIED Y RHAIN YN EICH CYNLLUN?

TEITL SYLWADAUAD/MPLL Gweler yr unedau uchod a hefyd ‘Atodiad 4

‘Asesu ar gyfer Dysgu’LLYTHRENNEDD Ystyr llythrennedd yw defnyddio sgiliau

iaith mewn gweithgareddau bob dydd yn yr ysgol, yn y cartref, yn y gwaith ac yn y gymuned. Mae llythrennedd yn disgrifio cyfres o sgiliau, gan gynnwys siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu mae eu hangen i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Mae’n golygu defnyddio sgiliau llythrennedd a gwybod sut i ddefnyddio Cymraeg a Saesneg.

RHIFEDD Mae rhifedd yn golygu defnyddio sgiliau mathemategol mewn gweithgareddau bob dydd - yn yr ysgol, yn y cartref, yn y gwaith ac yn y gymuned. Mae rhifedd yn disgrifio’r gyfres o sgiliau y mae eu hangen i fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn mewn amryw o sefyllfaoedd.

CYMHWYSEDD DIGIDOL Cymhwysedd digidol yw’r set o wybodaeth, sgiliau ac agweddau i alluogi defnydd hyderus, creadigol a hollbwysig o dechnolegau a systemau. Mae’n galluogi person i fod yn ddinesydd digidol hyderus, i ryngweithio a chydweithio’n ddigidol, i gynhyrchu gwaith yn ddigidol ac i fagu hyder mewn perthynas â thrin data a meddwl cyfrifiadurol (datrys problemau).

GWAHANIAETHU I bob dysgwyr allu dysgu’n effeithiol rhaid ystyried gwahaniaethu o fewn y dosbarth. Gweler atodiad ar wahaniaethu. Rhaid cofio ei bod yn hollbwysig i osod gwaith fydd yn herio pob lefel o ddysgwr, yn cynnwys

18

Page 19: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

dysgwyr ADY a’r MAT.(Gweler Atodiad 6)

GWAITH CARTREF Dan arweiniad y mentor/polisi’r ysgol yn unig y dylid gosod gwaith cartref i’r dysgwyr. Dylid rhoi cyfarwyddiadau clir a gofalu bod pob dysgwr yn eu deall. Dylai gwaith cartref fod yn bwrpasol ac unai yn adeiladu ar y dysgu blaenorol, atgyfnerthu sgiliau neu yn ddarpariaeth ar gyfer dysgu’r dyfodol.

CYMRAEG Gweler y rhan ar ‘Gymraeg pob dydd’CWRICWLWM CYMREIG Mae Cwricwlwm Cymreig yn helpu

disgyblion i ddeall a dathlu ansawdd penodol byw a dysgu yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, i nodi eu hymdeimlad hwy eu hunain o Gymreictod ac i wir deimlo eu bod yn perthyn i’w cymuned leol a’u gwlad. Mae hefyd yn helpu’r disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o Gymru gydwladol sy’n edrych allan i’r byd, gan hybu dinasyddiaeth fydeang a diddordeb mewn datblygu cynaliadwy. Ond hyd a lled yr ymrwymiad i Gwricwlwm Cymreig sy’n pennu llwyddiant y cwricwlwm hwnnw. Dylai’r ymrwymiad hwnnw godi o sylweddoli y gall y profiad Cymreig, yn ei holl agweddau, fod yn gyfle gwerthfawr i estyn profiad addysgol pob disgybl yng Nghymru.(Dogfen Datblygu’r Cwricwlwm Cymreig)

ATODIAD 1 – STRATEGAETHAU ASESU AR GYFER DYSGU

19

Page 20: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

1. Cwestiynu effeithiol

Pam fod cwestiynu effeithiol yn greiddiol i addysgu a dysgu?

I symud y dysgu yn ei flaen I ddal sylw pob dysgwr I ddatblygu sgiliau llafaredd dysgwyr I hybu cyfraniad llafar gan pob dysgwr I asesu/arfarnu beth sydd wedi ei ddysgu Asesu gwybodaeth a dealltwriaeth Hybu meddwl creadigol Hybu meddwl dychmygol Hybu meddwl critigol Holi am safbwyntiau dysgwyr a rhesymau drostynt Cyfle i rannu syniadau/gwybodaeth a safbwyntiau I ymchwilio i gysyniadau a cham gysyniadau I ddatblygu uwch sgiliau meddwl y dysgwyr

Strategaethau

1. Amser i feddwl – Dylid rhoi amser i bob dysgwr feddwl am y cwestiwn a osodwyd, cyn i’r athro fynnu ateb. Gellir defnyddio amserydd rhyngweithiol, digidol neu amserydd arall. Mae rhoi amser i ddysgwyr feddwl yn rhoi cyfle i’r rhai llai hyderus gael cynnig ymateb. Mae hefyd yn strategaeth sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr feddwl yn ddyfnach am y cwestiwn.

2. Amser Allan – Wedi gosod cwestiwn, rhoi amser i ddysgwyr feddwl a thrafod gyda phartner cyn cynnig ateb

20

Page 21: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

3. Dim dwylo fyny – Mae’r strategaeth hon yn annog i bawb feddwl am ateb i’r cwestiwn. Gellir wedyn ddewis dysgwr i ymateb ar hap neu drwy ddefnydd o strategaeth ‘dewis o het’, ‘ffyn lolipop’ ac ati.

4. Ffonio Ffrind. Mae hyn yn ffordd o hybu hunan hyder dysgwyr sydd ddim yn barod i gynnig ateb eu hunain. Wedi derbyn cymorth gan ffrind gall y dysgwr gynnig ateb ei hun. Mae’r strategaeth hon yn rhoi pwysau ar bawb i wrando’n astud yn y dosbarth.

5. Rhagolwg – Arddangos cwestiynau ar ddechrau gwers, ac felly yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddeall beth fydd yn ofynnol ar y diwedd. Mae ail ymweld ȃ’r cwestiynau yn ran hanfodol o glo’r wers.

6. Modelu’r 6 cwestiwn. Yr athro yn modelu’r 6 cwestiwn – Pwy? Beth? Lle? Pryd? Pam? Sut? i gasglu gwybodaeth am destun/pwnc. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r dysgwyr ddatblygu sgiliau o ymholi a dealltwriaeth a rhesymu. Mae hefyd yn gyflwyniad iddynt ddatblygu sgiliau cwestiynu eu hunain.

7. Cwestiynau Agored Nid yw dysgwyr yn cael ateb mewn llai na 15 gair. Mae hyn yn datblygu eu sgiliau ieithyddol ac yn rhoi pwysau arnynt i roi ymateb estynedig.

8. Cwestiynau Caeedig – Rhoi cwestiynau sydyn, ateb un gair i wirio gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol. Nid yw rhain yn gwestiynau sydd yn datlygu sgiliau rhesymu na sgiliau ieithyddol.

Wrth gynllunio cwestiynau dylid meddwl am:

gynhyrchu cyfres o gwestiynau yn dechrau yn syml drwy adalw gwybodaeth, dilyn gyda cwestiynau i ddatblygu uwch sgiliau meddwl (gweler Taxonomy Bloom

isod), herio atebion gyda chwestiynnau pellach, parchu pob ymateb a phob safbwynt, llunio cwestiynau i ddysgwyr herio eu hunain a myfyrio ar eu dysgu, creu a chynnal awyrgylch agored i ennyn hunan hyder pob dysgwr i ymateb yn y

dosbarth.

2. Cwestiynau Mawr

Mae defnydd o gwestiynau mawr yn hybu’r dysgwyr i feddwl ar ddechrau, canol, diwedd gwers. Maent hefyd yn hybu chwilfrydedd a diddordeb.

Enghreifftiau: Thema Dŵr

Beth yw dŵr?Pam mae dŵr mor bwysig?Sut allwn deithio dros ddŵr?Sut mae dŵr yn cael ei gynrychioli mewn celf a cherddoriaeth?Beth sy’n byw mewn dŵr?Sut ydym yn defnyddio dŵr?

Engreifftiau pynciol

21

Page 22: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

1. Beth yw nodweddion cerdd effeithiol?2. Yr ateb yw 356. Beth yw’r cwestiwn?3. Beth yw’r darganfyddiad pwysicaf yn y byd?4. Beth yw enfys?5. Sut allwn ddatrys problem gor boblogaeth?6. Beth yw’r bydysawd?7. Sut mae’r tymhorau yn ein effeithio?8. Sut fywyd oedd yma yn y gorffennol?9. Pwy yw’r person pwysicaf erioed?10. Ydi’r byd yn le da ynte drwg?

3. Bownsio cwestiynau

Techneg yw hon i bawb ymroi i drafodaeth a dyfnhau dealltwriaeth a datblygu sgiliau rhesymu. Wedi cael ymateb i’r cwestiwn cyntaf, mae’r athro yn gofyn ymateb gan eraill e.e

Beth wyt yn feddwl o ateb Dafydd?Fedri di ychwanegu at yr ateb?Beth yw’r ateb gorau a pham?Allwch chi grynhoi yr holl atebion?

4. Amlenni cwestiynau

Rhoi amlenni gyda chwestiynau ar yr amlenni a’u dosbarthu i bob unigolyn/pȃr/grŵp. (Rhain yn ymwneud ȃ’r amcanion dysgu). Rhoi amser penodol iddynt ymateb drwy gofnodi ar unryw ffurf ar bapur. Gosod rhain yn yr amlen a’i yrru ymlaen i’r grŵp nesaf. Ar ddiwedd y cyfnod unigolion i grynhoi yr ymatebion i bob cwestiwn

5. Blwch cwestiynau

Creu blwch cwestiynau pwrpasol i’r dosbarth, fel y gall y dysgwyr ofyn cwestiynau unrhyw bryd. Cynnal sesiwn i ymdrin ȃ’r cwestiynau ar ddechrau neu ddiwedd sesiwn.

6. Rhannu Amcanion Dysgu a Meini Prawf Llwyddiant

Dylai meini prawf llwyddiant fod yn seiliedig ar y dasg dan sylw, ac nid yn feini prawf llwyddiant generig.

Wedi cynllunio rhain rhaid eu rhannu gyda’r dysgwyr iddynt ddeall beth yw amcan y wers, a sut i fynd ati i lwyddo (Meini Prawf Llwyddiant). Felly rhaid iddynt fod mewn ieithwedd ddisgybl gyfeillgar (gweler y Fframwaith Lythrennedd a Rhifedd Ddisgybl Gyfeillgar)

7. Dysgwyr yn creu meini prawf llwyddiant

Gellir gwneud hyn drwy nifer o ffyrdd e.e

22

Page 23: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Arddangos enghreifftiau – effeithiol ac aneffeithiol Arddangos sgil neu dechneg Dadansoddi e.e testun Dangos enghraifft heb ei gwblhau a gofyn iddynt ei orffen Gofyn am adalw meini prawf llwyddiant blaenorol

8. Modelu arfer dda

Wrth gyd gynllunio Meini Prawf Llwyddiant, gellir ffocysu meddwl y dysgwyr drwy drafod a dadansoddi enghraifft o waith da/llwyddianus. Gall y dysgwyr wedyn gynnig meini prawf llwyddiant eu hunain. Hefyd gellir cymharu un enghraifft da ac un gwael i’r perwyl hwn.

9. Dysgwyr yn creu cwestiynau

Drwy fodelu cwestiynu effeithiol a gwahanol fathau o gwestiynau gellir ddatblygu sgiliau cwestiynu y dysgwyr. Gellir arddangos dechrau cwestiynau gwahanol, a dysgu egwyddorion cwestiynau caeedig ac agored. Mae’n strategaeth i’w defnyddio i roi lle i gyfraniad y dysgwyr yn eu dysgu eu hunain, ac i ymchwilio i elfennau sydd efallai ddim yn y cynllun gwreiddiol.

10. Asesu dealltwriaeth yn sydyn

Mae nifer o ffyrdd i wneud hyn

Defnydd o fodiau i fyny/lawr Goleuadau traffig Defnydd o fyrddau gwyn rhyngweithiol Defnydd o seren gyda sylwadau fel – deall yn iawn, ychydig yn ddryslyd, angen

cefnogaeth, rhy hawdd, rhy anodd

11. Crynhoi’r Dysgu

Annog y dysgwyr i grynhoi eu dysgu yn ystod neu ar ddiwedd gwers. Gellid cofnodi yn unigol neu yn dorfol mewn colofnau dan benawdau fel

Heddiw ‘rwyf wedi dysgu …..Yn awr yr wyf yn deall ….Fe ddysgais orau drwy …..Rwyf yn meddwl ….Rwyf angen gwybod ……Mi fyddwn yn hoffi …….

12. Parau Parablu

Gellir defnyddio’r strategaeth hon ar ddechrau, canol neu ar ddiwedd gwers. Rhoddir amser penodol i barau drafod cwestiwn neu syniadau cyn ei gyflwyno. Mae’n gyfle i

23

Page 24: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

ddysgwyr gasglu eu meddwl a hefyd datblygu syniadau neu atebion ar y cyd. Gellir dewis partneriaid mewn amryw ffyrdd – ar hap, ffyn lolipop, dewis y dysgwyr. Arfer dda yw newid y partneriaid ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd.

13 Pit stops

Cynnal trafodaethau ar ganol y wers i atgyfnerthu’r dysgu. Gellir atgoffa’r dysgwyr o’r hyn sydd yn ofynnol, trafod beth sy’n anodd/hawdd, egluro prosesau a rhannu a datblygu syniadau.

14 Hunan Asesu

‘Independent learners have the ability to seek out and gain new skills, new knowledge and new understandings. They are able to engage in self reflection and to identify the next steps in their learning. Teachers should equip learners with the desire and the capacity to take

charge of their own learning through developing the skills of self assessment’

(Assessment Reform group 2002)

Cyn i ddysgwyr allu hunan asesu y mae’n rhaid iddynt adnabod amcan dysgu/meini prawf llwyddiant y wers neu’r dasg, adnabod lle maent arni ar gontiniwm a hefyd gallu cynnig camau nesaf i’w dysgu er mwyn datblygu ymhellach.Cyfeirir yn ôl at yr amcan dysgu a’r meini prawf llwyddiant wrth hunan asesu.

15 Asesu Cyfoedion

Gellir yma roi’r dysgwyr mewn parau a chyflwyno gwaith un ai i drafod gyda phartner neu i roi sylwadau ysgrifenedig. I symleiddio’r broses gellir arwain drwy roi cwestiynau penodol i’r ‘aseswr’ wedi eu seilio ar y meini prawf llwyddiant. Gellir hefyd ddefnyddio strategaethau symlach fel dwy seren a dymuniad

16 Cau’r Bwlch

Dylai pob dysgwr, wedi derbyn asesiad, arfarniad neu sylwadau ar ei waith gael cyfle i ymateb ac i weithio ar y sylwadau/targedau neu gamau nesaf a nodir. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer datblygiad.

17 Rhoi Adborth llafar

Dylai athro roi adborth llafar drwy’r wers, gan ofalu bod eu sylwadau yn adeiladol ac o gymorth i’r dysgwyr symud ymlaen yn eu dysgu. Yr egwyddorion i roi adborth llafar effeithiol yw:

rhoi sylwadau penodol ar gyfer y dasg rhoi adborth buan rhoi awgrymiadau ar sut i wella ymhellach cynnwys y dysgwr yn y trafodaethau adborth

Gall dysgwyr hỹn gofnodi sylwadau llafar yn ysgrifenedig os oes angen i gyfeirio’n ôl atynt.

24

Page 25: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

18 Rhoi adborth ysgrifenedig

Mae’n rhaid i adborth ysgrifenedig gael ei roi yn amserol, ac eto dylai’r dysgwyr gael amser i ddarllen, deall ac ymateb i’r sylwadau neu gamau pellach. Gellir eto gynnwys y dysgwr yn y broses. Dyma rai syniadau.

YN LLE YR ATHRO Y DYSGWRCywiro pob gwall Dewis rhai gwallau, eu

uwcholeuo a gofyn ‘Beth sydd o’i le yma?’

Yn ymateb i’r sylwadau ar ei ben ei hun neu gyda phartner trafod

Ysgrifennu sylwadau swmpus yng nghorff y gwaith a brawddeg ar y diwedd

Yn ysgrifennu sylwadau penodol yng nghorff y gwaith

Y dysgwr yn cynnal trosolwg ac y nodi dwy seren a dymuniad

Ysgrifennu yr un sylwadau neu gywiriadau i lawer o’r dysgwyr

Cynnal sesiwn dorfol, gan roi cyfle i drafod esiamplau, nodi gwallau a’u cywiro neu wella’r gwaith

Y dysgwyr yn dychwelyd at eu gwaith a hunan gywiro y nodweddion a drafodwyd

Ysgrifennu ‘da iawn chdi’ ar agweddau o’r gwaith

Rhoi dau dic ar y rhannau i’w canmol.

Y dysgwr yn rhoi rhesymau dros y ddau dic ac yn ysgrifennu sylwadau

Yn ysgrifennu sylwadau swmpus

Yn nodi un cryfder ac un maes i’w wella

Yn cael cyfle i weithio ar y maes a nodwyd.

19 Myfyrio

Mae rhoi amser i ddysgwyr fyfyrio ar ddiwedd gwers yn hanfodol, ac fel y nodwyd dylai cynlluniau gwers roi digon o amser ar gyfer hyn. Dylid cyfeirio’n ôl at yr amcan ddysgu a’r meini prawf llwyddiant. Wedi crynhoi yn sydyn beth a gynhyrchwyd yn ystod y wers, dylid canolbwyntio ar beth a ddysgwyd a sut y cwblhawyd y dasg. Dylid modelu iaith fyfyriol ac annog y dysgwyr i ymateb i gwestiynau fel

Beth wyt ti wedi ddysgu? Beth wyt ti’n gofio? Beth oedd yn anodd/hawdd? Wyt ti’n cytuno? Oes rhywbeth angen ei newid? Sut wyt yn gwybod? Sut wnes di ddysgu? Eglura beth a sut a ddysgaist Wyt ti eisiau gofyn cwestiwn? Pam wyt ti’n meddwl …?

Gellir cofnodi’r gwaith myfyrio ar byramid myfyrio

20 Myfyrio dosbarth cyfan

Dyma syniad ar gyfer seswn dorfol i fyfyrio ar y dysgu

25

Page 26: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

• Arddangos hwn yn y dosbarth• Gall dysgwyr ateb yn unigol/mewn pȃr neu grŵp• Gellir ei ddefnyddio i asesu ac i gynllunio camau nesaf

26

Page 27: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

ATODIAD 2 – DATBLYGU SGILIAU MEDDWL

I ddatblygu sgiliau meddwl dysgwyr dylid amrywio strategaethau ar draws y cwricwlwm drwy weithgareddau bywiog megis

Dewis a dethol Dadansoddi Gosod mewn trefn Cwestiynau Mawr /Thunks http://www.thunks.co.uk/ Creu cwestiynau Edrych am ystyr Edrych ac egluro Achos ac Effaith O blaid ac yn Erbyn Creu posibliadau Mynegi barn a rhesymu Meddwl yn greadigol Meddwl yn feirniadol

1. Geirfa Meddwl/Wal meddwl

Er mwyn datblygu ddysgwyr yn feddylwyr effeithiol rhaid i ni fodelu ac arddangos defnydd o eirfa meddwl. Mae’r eirfa y byddent angen i drafod a datblygu syniadau fel a ganlyn. Gellir hefyd defnyddio ‘Datblygu meddwl ar draws y Cwricwlwm’ yn y Fframwaith Sgiliau 3-19 oed.

Awgrymu Gwerthuso Didoli Dosbarthu TrafodPenderfynu Dychmygu Trefnu Cyfiawnhau TebygiaethauGwahaniaethau Dod i gasgliad Cynhyrchu Dewis/dethol GrwpioO blaid Yn erbyn Cysylltu Amcangyfrif DyfaluDatrys Dadansoddi Monitro Cwestiynu Gwella

27

Page 28: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Mynegi barn Metawybyddiaeth

Achos ac effaith Rhesymu Dibynadwedd

Amser meddwl Tuedd Patrwm Ystyried AdolyguMyfyrio Tybio Perthynas Pwyso/mesur ModeluMeini prawf llwyddiant

Proses feddwl Proses gwneud Creu Archwilio

2. Map Meddwl

Gall ddysgwyr gofnodi eu syniadau drwy greu map meddwl. Gweler llyfr Tony Buzan – ‘Mind Maps for Kids’. Mae’n ffordd gryno o gofnodi a threfnu syniadau. Maent yn gymorth i gofio, cofnodi syniadau newydd a threfnu’r meddwl. Mae’r dysgwyr yn creu llun neu ysgrifennu teitl yng nghanol y dudalen, ac yna yn gosod brigau gwahanol liwiau ohono, ar gyfer pob prif syniad. Yna gellir arlunio a gosod geirfa allweddol ar gyfer pob un ohonynt.

3. Mapio storiau/hanesion / Graff ffortiwn

Gofynnir i’r dysgwyr greu delwedd o stori neu hanes drwy fapiau stori neu graff ffortiwnMae’r strategaeth o gymorth i ddysgwyr gofio prif ddigwyddiadau stori a geirfa allweddol.

Gellir modelu hyn mewn sefyllfa grŵp neu yn dorfol, gan greu delwedd ar bapur mawr. Gellir annog y dysgwyr i ymuno drwy roi geiriau cychwynol iddynt e.e Un tro ‘roedd, yna, ar y diwedd. Gall y dysgwyr wedyn lenwi’r bylchau gyda lluniau o’r stori. Ffordd arall i ddysgwyr hỹn yw delweddu elfennau’r stori – cymeriadau, lleoliad, digwyddiadau (mewn trefn).

28

Page 29: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Gellir hefyd gofnodi stori ar graff ffortiwn, gyda amser – dechrau, canol, diwedd ar y linell lorwedd a theimladau ar y linell fertigol – trist, iawn, hapus. Yna gellir plotio teimladau a digwyddiadau’r stori a thrafod pam a phryd oedd y cymeriad yn drist, hapus. Fel datblygiad gellir plotio dau gymeriad a thrafod tebygiaethau a gwahaniaethau a beth achosodd y teimladau hynny.

4. Pa un yw’r eithriad?

Strategaeth yw hon i ddysgwyr resymu a chyfiawnhau eu ymatebion. Gellir cymharu tri gwrthrych, llun, brawddeg, term, ac yna gofyn i’r dysgwyr am yr hyn sydd yr un fath, pa ddau sy’n perthyn a pha un yw’r eithriad. Dyma engreifftiau pynciol

Llythrennedd Cymeriadau, CerddiRhifedd Rhifau, Siapiau, PatrymauHanes Cymeriadau, cyfnodau, Daearyddiaeth Ffotograffau o leoliadauGwyddoniaeth Planhigion, CreaduriaidDylunio aThechnoleg Teclynnau, DyfeisiadauCerddoriaeth Offerynnau, CaneuonCelf Lluniau un Artist, Artistiaid gwahanolAddysg Grefyddol Cymeriadau, Delweddau

5. Dosbarthu / Deiagramau Venn

Ffordd gryno i ddosbarthu gwrthrychau gan eu gosod yn y deigram Venn – gweler isod

I ddatblygu dysgwyr ymhellach gellir eu herio i ddefnyddio tri cylch yn y deiagram.

29

Page 30: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

6 Datrys problemau

Jabberwocky‘’Problem-solving is the ability to identify and solve problems by applying appropriate skills systematically.’’

Proses yw datrys problemau, sy’n cynnwys tri cham penodol Cywain gwybodaeth Prosesu gwybodaeth newydd Gwneud penderfyniadau

Dylai datrys problemau fod yn draws gwricwlaidd, ac yn gyfle i ddysgwyr gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain. Drwy ddatrys problemau gellir cynnig cyfleoedd cyfoethog i ddysgwyr drafod posibliadau, gan ddefnyddio eu sgiliau mewn cyd destunau bywyd go iawn, a hefyd i ddatblygu uwch sgiliau meddwl. (gweler Taxonomy Bloom isod).

Gellir cyflwyno proses waith ar gyfer datrys problemau i ddygwyr

Deall y broblem drwy ei arall eirio Trafod unryw anawsterau Cynnig posibiliadau Cofnodi mewn gwahanol ffurfiau Penderfynu ar un datrysiad Gwerthuso’r canlyniadau

30

Page 31: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

7. Addysgu Uwch Sgiliau Meddwl

Fel athrawon yr ydym yn tueddu i ofyn cwestiynau sy’n delio gyda’r sgiliau meddwl hawsaf. I ddatblygu yr uwch sgiliau meddwl gellir defnyddio Taxonomy Bloom i gynllunio ein cwestiynu i sicrhau ein bod yn rhoi’r her briodol i bob dysgwr.

Seilir y taxonomy ar chwe sgil feddwl, cofio, deall, cymhwyso, dadansoddi, gwerthuso a chreu. Isod gwelir tabl ar gyfer y math o gwestiynau ellir eu cynllunio i ddatblygu y sgiliau hyn.

COFIOAll y dysgwyr gofio gwybodaeth a ffeithiau?

Disgrifio AdalwEnwi Lleoli Adnabod Darganfod Rhestru Nodi

Pwy…? Ble…? Pryd…?Beth yw enw…?Pa fath o…?

DEALLAll y dysgwyr egluro syniadau a chysyniadau?

Dosbarthu CymharuRhoi esiampl EgluroArall eirio Crynhoi Rhesymu Blaenoriaethu

Pam…?Esboniwch beth sy’n digwydd…?Beth yw’r…..pwysicaf?

CYMHWYSO:All y dysgwyr ddefnyddio’r wybodaeth mewn sefyllfa gyfarwydd arall?

Defnyddio CymhwysoArddangos Addasu

Beth fydd yn digwydd nesaf? Pam?Beth fyddai’r peth gorau ar gyfer…?Fedrwch chi ddefnyddio’r wybodaeth i ddatrys y broblem?Fedrwch chi arddangos y wybodaeth mewn ffurf arall?

DADANSODDI All y dysgwyr edrych ar y wybodaeth a’I rannu rannau llai i ymchwilio i berthnasedd a phatrymau?

Priodoli CymharuMewnoli TrefnuAmlinellu SrwythuroDadadeiladu Darganfod

Pa batrymau welwch chi?Pam ….Beth maen nhw’n ei gredu…?Beth yw pwrpas…?Beth oedd effaith…?A yw….yn berthnasol i…?

31

UWCH SGILIAU MEDDWL

Page 32: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Pa mor debyg yw…?GWERTHUSO: All y dysgwyr gyfiawnhau penderfyniad neu gamau gweithredu?

Gwirio HypothesisingProfi MonitroCritigio Arbrofi

Beth gaiff yr effaith fwyaf?A ddylid…?Pa strategaeth oedd orau?Pa mor llwyddiannus oedd…?Beth yw eich argymhellion i..?

CREUAll y dysgwyr gynhyrchu cynnyrch newydd, datblygu syniadau newydd a’u gweithredu?

Cynllunio GwneudCynhyrchu DyfeisioDatblygu

Cynhyrchwch … i …Dyfeisiwch ffordd i …..Datblygwch ddatrysiad iBeh fyddai’n digwydd os …?Faint o ffyrdd allwch feddwl amdanynt i ….?Allwch greu ffordd newydd o ….?

ATODIAD 3 – STRATEGAETHAU GWAHANIAETHU EFFEITHIOL

Er mwyn rhoi’r her briodol i bob dysgwr rhaid ystyried gwahaniaethu addas ar gyfer y dysgwyr. Seilir gwahaniaethu priodol ac effeithiol ar adnabyddiaeth gref o bob dysgwr. Gellir cynllunio ar gyfer hyn mewn amrywiol ffyrdd.

Mae manteision dysgu i bob dysgwr drwy gynllunio gwahaniaethu’n bwrpasol– nid yn unig y rhai llai abl, ond hefyd gwahanol fathau o ddysgwyr, a hefyd y rhai mwyaf abl. Gall gwahaniaethu effeithiol roi’r her briodol i bob dysgwr gyrraedd ei botensial, a chreu awyrgylch addas i bob dysgwr lwyddo.

Strategaethau Gwahaniaethu

1. Amcanion Dysgu a Meini Prawf Llwyddiant

Gellir cynllunio Amcanion dysgu neu feini prawf llwyddiant ar gyfer grwpiau gwahanol o ddysgwyr.

32

Page 33: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

2. Tasgau

Gellir amrywio’r tasgau yn ôl gwybodaeth flaenorol neu ddiddordebau’r dysgwyr. Gellir defnyddio tasgau pen agored, heriau, cwisiau a gemau ar gyfer dysgwyr sy’n cwblhau ac yn deall tasgau’n gynnar. Dylai’r tasgau ychwanegol hyn, neu’r ‘gweithgareddau wrth gefn’, alluogi dysgwyr i gymhwyso’r hyn maent wedi’i ddysgu i gyd-destunau newydd yn hytrach na’u hystyried yn ‘fwy o’r un peth’. 

Gellir hefyd gwahaniaethu o ran sut mae’r dysgwyr yn cofnodi eu gwaith e.e ysgrifennu stori drwy – dri paragraff, cartŵn, map meddwl.

3. Cwestiynu

O gyfeirio’n ôl at Taxonomy Bloom gellir amrywio ein cwestiynu i gael her briodol i bob dysgwr. Gyda’r mwyaf abl gellir canolbwyntio ar yr uwch sgiliau meddwl sef, dadansoddi, gwerthuso a chreu.

Ysgogi trafodaeth gyda rhywbeth gweledol e.e llun hanesyddol, graff o ddata, deiagram cylch dŵr. Gofyn am wybodaeth – rhannu rhwng pawb.

4. Gwahaniaethu o Asesiad

Ar ddiwedd gwers (neu ar ganol gwers) gellir gofyn i’r dysgwyr nodi mewn unryw ffurf beth y maent wedi’i ddysgu. O rhain gellir asesu cyrrhaeddiad y dysgwyr yn sydyn, a chynllunio y gwersi nesaf ar eu sail.

5. Deilliannau

Gellir gwahaniaethu drwy ddisgwyliadau o ddeilliannau a ddisgwylir erbyn diwedd y wers. Felly er y gallai pob dysgwr yn y dosbarth ddilyn yr un weithgaredd, er enghraifft, ysgrifennu neges e-bost, tynnu llun gwrthrych neu wrando ar ddarn o gerddoriaeth, nid yw’r athro’n disgwyl yr un canlyniadau.

6. Adnoddau

Mae adnoddau ar gael ar sawl ffurf a maint, gan amrywio o dechnoleg benodol sydd wedi’i llunio ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i’r rhai sy’n cael eu paratoi gan yr athrawon eu hunain, megis gwrthrychau neu sbardunau gweledol.

Enghraifft - Creu amlenni cymorth i bob grŵp, gan gynnwys gwahanol fathau neu faint o ffynonellau cymorth i bob grŵp.

33

Page 34: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

7. Amser

Mae modd bod yn hyblyg gydag amser drwy osod targedau sydd wedi’u hamseru ar gyfer dysgwyr gwahanol, neu, ar rai adegau, drwy ddyrannu mwy o amser ar gyfer rhoi cefnogaeth athro i grwpiau penodol.

8. Grwpio / cynhaliaeth eraill

Mae grwpio ar sail gallu, diddordebau, tasgau neu gyfeillgarwch wedi bod yn cael ei weithredu mewn ysgolion cynradd ers cryn amser. Mae’r rhai sy’n cefnogi gwaith grŵp yn dweud bod dysgwyr yn elwa’n addysgol drwy ddatblygu sgiliau cymdeithasol a meddwl yn feirniadol ac yn greadigol a chynyddu cymhelliad ac annibyniaeth. Er hyn mae hi’n bwysig amrywio y drefniadaeth gan ddefnyddio strategaethau gweithio fel unigolion, parau a grwpiau.

34

Page 35: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

ATODIAD 4 – STRATEGAETHAU AR GYFER AGORIADAU I WERSI

Mae’n rhaid i agoriadau gwersi fod yn un neu gyfuniad o’r canlynol:

• ysgogol ac yn ysbrydoli • cymryd y cyfle i drafod dysgu newydd• cadarnhau gwybodaeth a/neu ddealltwriaeth• ail ymweld ȃ sgiliau• gysylltiedig ȃ’r dysgu gyda dysgu blaenorol• ymarfer geirfa/termau allweddol• gwirio cysyniadau neu gamsyniadau

1. Dangoswch …!

Mae hon yn weithgaredd dda i sicrhau fod pob dysgwr yn gwrando’n astud ac yn weithredol yn y sesiwn agoriadol. Gall yr athro weld ymateb pawb ar fyrddau gwyn bychain.

Gellir defnyddio’r strategaeth i adalw gwybodaeth o ddysgu blaenorol neu i arfarnu beth mae’r dysgwyr yn ei wybod am destun newydd. Gellir wedyn grwpio’r dysgwyr ar sail y wybodaeth.

2. Delweddu

Ar ddechrau’r wers gofyn i grwpiau o ddysgwyr ddelweddu beth a ddysgwyd yn y wers ddiwethaf. Gellir gwneud hyn drwy ffurfiau gwahanol e.e arlunio, map meddwl, siart wybodaeth neu ddeiagram a gofyn i bob grŵp gyflwyno eu ddelwedd ar y diwedd. Gallent hefyd ychwanegu at y ddelwedd yn ystod y wers ac ychwanegu gwybodaeth newydd.

3. Ysgogiad gweledol

Gellir ennyn sylw a diddordeb y dysgwyr drwy ddechrau gyda ysgogiad gweledol e.e gwrthrych, arddangosfa neu lun. Gall ysgogiad o’r fath annog y dysgwyr i feddwl, cynnig sylwadau a hefyd i feddwl am gwestiynau eu hunain ar dopic. Byddai hynny wedyn yn sail i drafodaeth bellach cyn dechrau ar brif weithgareddau’r wers.Gellir ail ymweld ȃ’r ysgogiad, y sylwadau a’r cwestiynau ar ddiwedd y wers.

4. Gridiau GED

(3 colofn – Beth wyf yn wybod yn barod, yr hyn wyf eisiau ei wybod, Sut allaf ei ddysgu neu beth ydw i wedi ddysgu?)

Mae defnyddio grid o’r math yma, yn galluogi’r athro i seilio’r wers ar yr hyn y mae’r dysgwyr yn wybod yn barod. Ac yna drwy ofyn i’r dysgwyr am gwestiynau y mae’r dysgwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain. Gellir gweithio ar y gridiau cychwynol mewn parau neu grwpiau, gan gofio ail ymweld a’u cwblhau ar ddiwedd gwers/cyfres o wersi.

35

Page 36: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

5. Pa ‘un yw’r eithriad?

Gellir gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd, gan arddangos 3 gair/term/gwrthrych/llun. Drwy’r weithgaredd gellir hybu sgiliau rhesymu, gwahaniaethu, gweld perthynas a chysylltiadau a sgiliau llafaredd. Mae’n bosib cynllunio gweithgareddau Pa un yw’r eithriad ar gyfer pob maes cwricwlaidd e.e astudio 3 cymeriad o stori, 3 term gwyddonol, 3 rhif neu siap, 3 gwrthrych hanesyddol, 3 llun mewn celf, 3 dyfais neu ddefnydd mewn Dylunio a Thechnoleg. Rhaid i’r grwpiau neu barau ddisgrifio’r 3 elfen, ac yna cyfiawnhau pa un yw’ eithriad. Gellir ymestyn y weithgaredd i ddysgwyr greu casgliadau eu hunain.

6. Diffiniadau

Yr athro neu’r dysgwyr yn darparu cardiau o dermau allweddol ar thema arbennig e.e Defnyddiau a cherdyn yn dangos y diffiniad. Gellir eu defnyddio mewn sesiwn dorfol, neu drwy roi’r cardiau wyneb i lawr a chwarae ‘ffendio’r diffiniad’. Gellir hefyd amrywio’r weithgaredd drwy fod y dysgwyr yn ffendio eu partner, ac yna’n ffendio pȃr arall sy’n perthyn iddynt.

7. Trefnu

Mae gweithgareddau trefnu yn helpu i ddysgwyr gofio a chreu patrymau a storiau neu brosesau. Gallent gael eu defnyddio i adalw gwybodaeth ac atgyfnerthu dysgu blaenorol. Mae’r athro yn darparu cardiau gyda lluniau neu destun arnynt

Gellir trefnu’r weithgaredd mewn amryw o ffyrdd: sesiwn dorfol, gyda grwpiau yn gosod eu hunain yn y drefn gywir ac egluro; sesiwn grŵp ac egluro i weddill y dosbarth.

Eto gellir cynllunio gweithgareddau yma ar draws y cwricwlwm. Rhai enghreifftiau –

Dylunio a Thechnoleg – gosod proses waith mewn trefnHanes – gosod digwyddiadau hanesyddol mewn trefnLlythrennedd – gosod digwyddiadau stori/hanes mewn trefnGwyddoniaeth – gosod y cylch dŵr mewn trefn

8. Cwestiynau mawr / Thunks

Dechrau’r wers gyda cwestiwn mawr/thunks ar dopig sydd dan sylw. Defnyddio strategaeth fel parau i greu cyflwyniad llafar neu weledol ar y cwestiwn mawr. Gellir ail ymweld ȃ’r cwestiwn ar ddiwedd y wers.

9. Dyma’r ateb, beth yw’r cwestiwn?

Gellir defnyddio’r strategaeth yma fel agoriad a/neu fel rhan o’r clo. Gellir gosod her o greu 3,5 cwestiwn ar yr un ateb i’r dysgwyr mwyaf abl. Gallent hefyd greu atebion eu hunain ar gyfer dysgwyr eraill

Dyma rai enghreifftiau traws gwricwlaidd

36

Page 37: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

Wiliam y Concwerwr – Pwy ennillodd Brwydr Hastings? Caerdydd – Lle mae prifddinas Cymru? Ymhle mae Senedd Cymru?Rhoi rhif fel ateb– Beth yw 31+29? Sawl gradd yw un ongl mewn triongl hafalochrog?

10. Dowch ȃ 5 ffaith i mi !

Y dysgwyr i gael amser penodol i gynnal ymchwiliad dechreuol i bwnc neu dopic a rhannu hynny mewn cyflwyniad llafar byr cyn dechrau ar y prif weithgareddau.

Gellir casglu rhain ar grid GED dosbarth gan nodi pob ffaith ar post its.

37

Page 38: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

ATODIAD 5 - CLO I WERSI

Mae’n bwysig rhoi’r amser dyledus i’r sesiynau clo i ddysgwyr gael cyfle i fyfyrio ar eu datblygiad a’r hyn ȃ ddysgwyd. Yn ystod y sesiwn glo gellir:

Canolbwyntio ar yr hyn a ddysgwyd Crynhoi y pwyntiau pwysicaf Atgyfnerthu gwybodaeth, sgiliau canolog Cywiro unryw gamsyniadau Cysylltu’r dysgu gyda gwersi/meysydd/sefyllfaoedd eraill Trafod sut y maent wedi dysgu Nodi camau nesaf Dathlu datblygiad a chynnydd

1. Am funud !

Grwpiau o ddysgwyr i gynllunio cyflwyniad ar unryw ffurf e.e powerpoint, cyflwyniad llafar neu ddelwedd ar bwnc a’i gyflwyno i weddill y dosbarth. Mae cyfle wedyn i weddill y dosbarth asesu eu cyfoedion, gan orffen gyda dwy seren a dymuniad.

2. Tair ffaith

Pawb i nodi yr hyn y maent wedi ddysgu yn ystod y wers. Ffendio partner ac ychwanegu at y rhestr cyn eu rhannu. Wedyn llunio un cwestiwn ar gyfer dysgu pellach. Sesiwn drafod yn seiliedig ar waith y grwpiau.

3. Rhannu gwaith llwyddianus

Sesiwn dorfol i astudio un darn o waith effeithiol. Gellir cyfeirio’n ôl at ddeilliannau disgwyliedig y wers a’r meini prawf llwyddiant, a’r dysgwyr wedyn i gymharu’r enghraifft gyda’u gwaith eu hunain. Gallent drafod hyn gyda chyfoedion.

4. Yn ôl i‘r dechrau

Ar ddechrau’r wers arddangos cwestiynau rydych yn ddisgwyl i’r dysgwyr ateb ar y diwedd. Sesiwn drafod dorfol ar y rhain ar y diwedd i grynhoi’r dysgu. Gellir hefyd gyfeirio’n ôl at gwestiynau a gynhyrchwyd gan y dysgwyr ar ddechrau’r wers neu at y cwestiwn mawr dechreuol.

5. Anagramau

Am y cyntaf i ddatrys yr anagramau o dermau/geirfa allweddol ar y wers dan sylw.

6. Crynhoi

Mewn parau y dysgwyr i greu map meddwl o’r wers a beth a ddysgwyd gyda brigau o ffeithiau, cwestiynau, sgiliau, camau nesaf a mwynhad.

38

Page 39: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

7. Stopio’r cloc

Dysgwyr unigol/parau/grwpiau i gynnal cyflwyniad llafar ar yr hyn ddysgwyd am funud cyfan. Gweddill y dosbarth i gael cyfle i’w cwestiynu ar ddiwedd y munud.

8. Ychwanegu at y grid GED

Sesiwn dorfol i ail ymweld ȃ’r grid GED cychwynol. Cymryd amser yn ystod y sesiwn glo i lenwi’r drydedd golofn ar yr hyn a ddysgwyd neu ar sut y dysgwyd.

9. Jigso

Gofyn i’r dosbarth mewn grwpiau i ddarparu delwedd neu gyflwyniad ysgrifenedig o unrhyw ffurf ar un elfen oedd yn rhan o’r wers. Pob grŵp i ddod â’u gwaith i greu arddangosfa/llyfr o waith y dosbarth. Cyd weithio ar sylwadau i gyd fynd.

10. Hunan Asesu

Gall unigolion neu barau gofnodi eu hunan asesiad eu hunain wedi seilio ar

Heddiw ‘rwyf wedi dysgu …..Yn awr yr wyf yn deall ….Fe ddysgais orau drwy …..Rwyf yn meddwl ….Rwyf angen gwybod ……Mi fyddwn yn hoffi …….

11. Myfyrio ar y dysgu

Defnyddio geirfa meddwl i grynhoi beth y maent wedi ddysgu a sut y gwnaethpwyd hynny. Ateb cwestiynau penodol e.e Beth oedd yn newydd/anodd/hawdd? Beth oedd y broses weithio? Beth oedd y canlyniad? Gweler Atodiad ‘Asesu ar gyfer Dysgu’

39

Page 40: gtpbangor.weebly.comgtpbangor.weebly.com/.../llyfryn_cynllunio_gwersi_effei… · Web viewEin gweledigaeth: Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol,

LLYFRYDDIAETH DDEFNYDDIOL

Donaldson, G. 2015. Successful Futures. Cardiff: Welsh Government.

Clarke, Shirley. 2014. Outstanding Formative Assessment. London: Hodder Education.

Dweck, C. 2012. Mindset. London: Robinson.

Ricci, M.C. 2013 Mindsets in the Classroom. Waco: Prufrock Press Inc.

Buzan, T.2003. Mind Maps for kids. London: Harper Thorsons

Ginnis, P. 2002. The Teacher’s Toolkit. Banc y Felin:Crown House Publishing Ltd

Hattie, J. 2012. Visible Learning for Teachers. Abingdon: Routledge

Llywodraeth Cymru. 2010. Sut i ddatblygu Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Ar gael:learning.gov.wales/docs/.../130429how-to-develop-thinking-cy.pdf Cyrchwyd 26ain Awst 2016.

Coe, R., Aloisi, C., Higgins, S. and Elliot Major, L. What makes good teaching? A review of the underpinning research. Ar gael:http://www.suttontrust.com/wp-content/uploads/2014/10/What-Makes-Great-Teaching-REPORT.pdf Cyrchwyd 26ain Awst 2016

Mae’r llyfryn yma wedi ei gynhyrchu gyda chymorth hyfforddeion cwrs BA SAC Prifysgol Bangor, tiwtoriaid, athrawon a mentoriaid ac mae’r egwyddorion a geir yma wedi eu seilio ar syniadaeth awduron eraill sydd i’w cael yn y llyfryddiaeth, erthyglau ymchwil a dogfennaeth Llywodraeth Cymru.

40