12
Tuduriaid! Adnodd i Athrawon

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid!Adnodd i Athrawon

Page 2: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 2

Mae Lladd Cefndryd a Chyfnitherod yn weithgaredd rhyngweithiol ar gyfer dosbarth o blant a’u hathrawon a chynorthwywyr dosbarth. Nid yw’n ‘berfformiad’ i’w wylio – mae’n antur gyffrous a hwyliog i gymryd rhan ynddi.

Golyga hyn y bydd yr holl oedolion yn y lle a ddefnyddir hefyd yn rhan o’r broses ac ni fydd digon o le i bobl arsylwi nac ar gyfer cynulleidfa. Yn dilyn y digwyddiad bydd digon o gyfle i’r cyfranogwyr rannu eu hantur â phlant eraill, staff a rhieni.

Nid oes angen i’r staff na’r plant feddu ar unrhyw sgiliau arbennig neu brofiad o ddrama, cerddoriaeth neu ganu. Croesawir hynny ond nid ydynt yn angenrheidiol o gwbl. Ni allwn orbwysleisio na fydd unrhyw berfformiad yn digwydd o flaen cynulleidfa allanol, gan osgoi unrhyw embaras.

I roi cymorth i sicrhau y bydd y prosiect hwn mor ddiddorol a phroffesiynol â phosibl er mwyn cydio yn nychymyg y plant, a allwch chi sicrhau y bydd y plant a’u hathro/athrawes a’r cynorthwywyr yn cael llonyddwch yn ystod cyfnod y prosiect.

Byddai hyn yn golygu dim gwasanaeth boreol os gwelwch yn dda i’r dosbarth hwnnw ar y dyddiad priodol a sicrhau na fydd staff neu blant yn absennol oherwydd gwersi neu swyddogaethau arbennig. Mae’n bwysig hefyd na fydd ymwelwyr yn dod i’r ysgol ar y dyddiau hynny neu staff yn cerdded i mewn ac allan o’r mannau a ddefnyddir gennym.

Mae’r dulliau a ddefnyddir yn seiliedig ar waith dau arloeswr drama a chwarae rhan, sef Dorothy Heathcote MBE a Dr Sue Jennings, yn ogystal â methodoleg Cwmni Theatr Alive and Kicking yn Leeds. aliveandkickingtheatrecompany.co.uk

Lladd Cefndryd a ChyfnitherodANTUR HANESYDDOL A CHERDDOROL CYFRANOGOL AR GYFER BLYNYDDOEDD 5/6 YSGOLION CYNRADD

Llun © National Portrait Gallery, Llundain

Page 3: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 3

Nid oes gwaith paratoi ar wahân i’r hyn a amlinellir isod.

Brenhinoedd a Breninesau TuduraiddA wnewch chi wirio bod y dosbarth yn cael trosolwg syml yngly n â phwy oedd y Brenhinoedd a’r Breninesau Tuduraidd a beth ddigwyddodd iddynt? Os bydd gennych ddigon o amser gwiriwch hefyd y gwahaniaethau crefyddol sylfaenol a’r dadleuon yngly n â phwy ddylai deyrnasu. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar Elisabeth I a Mari Brenhines yr Alban.

Christopher (Kit) Marlowe a William ShakespeareMae pawb wedi clywed am William Shakespeare. Bydd pawb sydd wedi cyrraedd Blwyddyn 5 wedi clywed ei enw gan wybod mai dramodydd enwog ydoedd. Efallai y bydd y plant yn gwybod ychydig o’i hanes neu am un neu ddwy o’i ddramâu hyd yn oed.

Ond mae’n debyg na fyddant yn gwybod fawr ddim am Christopher Marlowe. A allech chi sicrhau bod y dosbarth ag ychydig o wybodaeth amdano, gan efallai grybwyll Dr Faustus a’r syniadaeth yngly n â gwysio a chodi’r meirw – mae’n gyffrous iawn wedi’r cwbl. A chofiwch ddweud wrthynt sut y bu Christopher Marlowe farw, yn ddyn ifanc 29 oed gyda chyllell yn ei lygad – a’r gred mai ysbïwr oedd o!

Henry Percy Yr Iarll DdewinMae llawer iawn o bobl wedi clywed am Doctor Dee, yn enwedig gan fod opera a ysgrifennwyd gan Damian Albarn o Blur a Gorrillaz ac, wrth gwrs, ceir llawer o straeon amdano yn The Terrifying Tudors gan Terry Deary. Ond roedd consuriwr arall Tuduraidd, ffrind i Kit Marlowe, o’r enw Henry Percy, Iarll Northumberland, gyda’i enw mwy cyfarwydd, Yr Iarll Ddewin. Y cwbl sydd angen i’r dosbarth wybod yw ei fod wedi bodoli a rhyw syniad yngly n â diddordeb brwd yr Elisabethiaid, a’r frenhines Elisabeth ei hun, mewn hud. Dylent wybod hefyd sut y treuliodd Henry Percy weddill ei fywyd dan amheuaeth ei fod yn Gatholig ac, yn dilyn Brad y Powdwr Gwn, iddo gael ei garcharu yn y Tw r lle treuliodd 17 mlynedd o’i fywyd a chael ei ryddhau ychydig iawn cyn ei farwolaeth.

Cynllwyn BabingtonAdroddwch stori Cynllwyn Babington wrth y plant ac egluro’r cefndir iddo. Ceir crynodeb o anghydfod Elisabeth I a Mari Brenhines yr Alban yn y ddogfen hon, yn ogystal ag amlinelliad o Gynllwyn Babington a chanllaw ar gyfer lle i chwilio ar y we am ddeunydd addas.

Cynllunio a GwerthusiadauCynhelir cyfarfod gyda’r athrawon sydd ynghlwm â’r prosiect mor agos â phosibl i ddiwrnod cyntaf y prosiect. Mae’n bwysig bod yr athro/athrawes y dosbarth a’r cynorthwywyr perthnasol yn rhan o’r cyfarfod hwn. Byddwn yn gwerthuso’r prosiect gyda’r athrawon wedi iddo gael ei gwblhau.

Paratoi

Page 4: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4

Diwrnod 1Dosbarth a lle agored glân megis neuadd yr ysgol. Gan fod cerddoriaeth a drama yn greiddiol i’r gwaith dylid osgoi neuaddau chwaraeon sy’n achosi atsain.

Byddwn yn cychwyn yn y bore gyda’r plant yn eu dosbarth a symud i neuadd wedi rhyw 50 munud. Bydd y plant yn dychwelyd i’w dosbarth ar ôl cinio ac yna ymhen peth amser yn mynd i’r neuadd unwaith eto.

Diwrnod 2Byddwn yn ymweld â phlasty am hanner diwrnod.

Rhwng Diwrnod 1 a 2Rhoddir tasgau i’r dosbarth ac i’r athro/athrawes a’r cynorthwywyr ar ddiwedd Diwrnod 1, i’w cwblhau cyn Diwrnod 2. Rhoddir manylion yngly n â hyn yn y cyfarfod cyn cychwyn y prosiect. Bydd y tasgau’n cymryd rhyw ddwy awr i’w cwblhau felly gofynnwn i’r athro/athrawes ymlaen llaw i sicrhau bod digon o amser i wneud hyn.

Lle ar gyfer y cwmniHoffem gael ystafell newid i’w defnyddio fel ein prif ystafell, yn agos i’r neuadd.

Gwasanaeth boreolNodwyd uchod y gofynnwn i chi sicrhau na chynhelir y gwasanaeth ar fore ein hymweliad, neu nad yw o leiaf yn cael ei gynnal yn y neuadd neu’r fan lle byddwn yn gweithio ac nad yw’r rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn rhan o’r gwasanaeth.

Amser egwylOherwydd natur hyblyg y gwaith, gofynnwn i’r amseroedd egwyl fod yn hyblyg ar gyfer y dosbarth dan sylw. Ni fyddant yn cymryd egwyl ar yr adegau egwyl arferol mewn ysgol.

Asesiad risgGofynnir i’r plant a’r staff gymryd rhan yn yr un modd ag unrhyw wers ymarferol, drama ryngweithiol, gwers symud neu ymarfer corff ac mae’r risgiau yn unol â risgiau’r gweithgareddau hynny.

Y cwmniAr gyfer Lladd Cefndryd a Chyfnitherod: cynhyrchir y prosiect gan Åsa Malmsten, a fydd yn rhoi cymorth hefyd gyda’r gwaith hwyluso a chyfarwyddir y gwaith gan Rhian Hutchings. Yr hwyluswyr yw awdur a chyfansoddwr y stori hefyd ynghyd â’r gerddoriaeth: Martin Riley a Helen Woods. Ar y diwrnod cyntaf byddant yn cael cwmni Dyfed Wyn Evans a Dan Perkin ac ar yr ail ddiwrnod gan Anitra Blaxhall, Amanda Baldwin, Chris Hodges – soddgrwth, Sarah Thornett – ffidil a Gillian Taylor – obo. Cynllunnir y set gan Charlotte Neville.

Y Lle sydd ei angen

Page 5: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 5

Y neuadd neu fan arallMae’r prosiect yn cychwyn yn y dosbarth cyn gynted â phosibl yn dilyn cofrestru ond gofynnwn i’r neuadd fod yn rhydd ar yr adeg hon er mwyn medru adeiladu’r set. Mae’r set yn un syml ac ni fydd angen defnyddio unrhyw lwyfan.

Y dosbarthWrth i hyn ddigwydd fe ddaw’r cerddor i mewn i’r dosbarth a gosod offeryn allweddellau. Mae’r plant yn aros wrth eu desgiau a pharatoir lle o flaen y dosbarth.

Pan fydd popeth yn barod, daw Helen a Martin i mewn a threulio ychydig o amser gyda’r plant a’r staff. Yn ystod y cyfnod hwn ceir cyflwyniad ac adrodd stori a drama a chanu. Bydd y cyfan yn eithaf swnllyd.

Wedi rhyw 50 munud bydd Helen a Martin a’r cerddor yn symud i’r neuadd. Bydd y dosbarth yn aros yn y dosbarth am ddeg munud ac yna’n eu dilyn i’r neuadd. Dyma’r adeg gorau i’r plant ddefnyddio’r toiled gan y bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal heb egwyl.

Y neuaddPan fydd y plant yn barod daw’r athro /athrawes â’r plant i’r neuadd.

Bydd yr hwyluswyr yn awr yn parhau â’r gweithgaredd, gyda’r athro/athrawes a’r cynorthwywyr dosbarth yn cefnogi’r plant ac yn cymryd rhan.

Bydd y gweithgaredd yn parhau hyd at rai munudau cyn amser cinio pan fydd y plant yn dychwelyd i’r dosbarth gyda’u hathro/athrawes. Ni allwn fod yn bendant ond rhagwelwn y treulir rhyw 20 munud yn y dosbarth.

Byddwn yn cofio ystyried yr amser fydd ei angen i osod byrddau cinio ac ati yn y neuadd. Tra bydd y plant gyda’u hathro/athrawes yn y dosbarth byddwn yn cadw ein set syml a’i symud o’r neilltu i wneud lle ar gyfer y byrddau cinio yn ôl yr angen. Bydd y set yn ffitio’n daclus yng nghornel neu ochr y neuadd neu ar lwyfan neu mewn cwpwrdd.

Yn y dosbarth cyn cinioYmddwyn fel Tuduriaid dros ginioBydd hon yn sesiwn a arweinir gan yr athro/athrawes. Anogir y dosbarth i lynu wrth y thema Tuduraidd dros ginio drwy ymddwyn fel boneddigion a boneddigesau. Darperir adnodd ar gyfer yr athro/athrawes.

Cinio Bydd y dosbarth yn rhoi cynnig ar ychydig o ymddygiad Tuduraidd wrth y bwrdd bwyd.

PrynhawnY neuadd neu le arall.Bydd y prosiect yn ailddechrau yn y dosbarth cyn gynted â phosibl ar ôl cinio. Yn y cyfamser, yn y neuadd, unwaith y bydd y byrddau cinio ac ati wedi eu clirio fe ailadeiladir y set gan ein staff.

Y DosbarthTra bydd hyn yn digwydd fe ddaw’r cerddor unwaith eto i’r dosbarth a gosod ei offeryn allweddellau. Fel y bore, bydd y plant yn aros wrth eu desgiau a bydd lle yn cael ei glirio o flaen y dosbarth.

Pan fydd pawb yn barod fe ddaw Helen a Martin i mewn a threulio ychydig o amser gyda’r plant a’r staff. Yn ystod y cyfnod hwn bydd cyfle i drafod gweithgareddau’r bore ac unwaith eto ceir adrodd stori a drama a chanu a cherddoriaeth a bydd cryn dipyn o sw n.

Unwaith eto, ymhen rhyw 50 munud bydd Helen a Martin a’r cerddor yn symud i’r neuadd. Bydd y dosbarth yn disgwyl rhyw ddeg munud ac yna’n eu dilyn i lawr i’r neuadd. Dyma’r cyfle i ddefnyddio’r toiled gan y bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal heb egwyl.

Diwrnod 1 Yn yr ysgol

Page 6: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 6

NeuaddPan fydd y dosbarth yn barod bydd yr athro/athrawes yn tywys y plant i’r neuadd.

Bydd yr hwyluswyr yn awr yn parhau â’r gweithgaredd gyda’r athro/athrawes a’r cynorthwywyr dosbarth yn cefnogi’r plant ac yn cymryd rhan.

Bydd y gweithgaredd yn parhau bron iawn at ddiwedd oriau’r ysgol. Yn y diwedd bydd yr hwyluswyr yn gadael y neuadd a bydd yr athro/athrawes yn tywys y plant yn ôl i’r dosbarth.

Byddant wedi cael tasg i’w chwblhau ar gyfer y sesiwn nesaf a gallant gychwyn arni’n syth.

Y tasgau rhwng y sesiynauBydd y tasgau’n cymryd o leiaf dwy awr i’w cwblhau a rhaid neilltuo amser ar eu cyfer wrth baratoi am yr ymweliad.

O.N. Nid fydd angen paratoi ymlaen llaw ar gyfer cynnwys y tasgau hyn.

Sesiwn hanner diwrnod fydd hon, un ai bore neu brynhawn, mewn plasty yn unol â’r hyn a drefnwyd gyda’r ysgol.

Gofynnwn i chi bwysleisio wrth y cwmni sy’n darparu trafnidiaeth y pwysigrwydd o fod yn brydlon.

Trefnir popeth gan y WNO a staff yr adeilad.

Asesiad risg Fel y diwrnod cyntaf, gofynnir i’r plant a’r staff gymryd rhan yn yr un modd ag unrhyw wers ymarferol, drama ryngweithiol, gwers symud neu ymarfer corff ac mae’r risgiau yn unol â risgiau’r gweithgareddau hynny.

Diwedd diwrnod 2Ar ddiwedd Diwrnod 2 rhoddir tasg arall i’r dosbarth. Gwirfoddol yw hyn a bydd yn cynnwys peth dyfeisgarwch, adrodd stori ac ysgrifennu.

Diwrnod 2

Diwrnod 1 Yn yr Ysgol parhad

Page 7: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 7

Yn ystod y prosiect rydym yn ymdrin â:

Canu a cherddoriaethOperaAdrodd storiChwarae rhanDatrys problemauYmchwilio a meithrin cymeriadCelf weledol a pherfformioYsgrifennu creadigol acargyhoeddiadolDatgodio

HanesDisgwyliwn i’r dosbarth fod wedi dysgu rhywfaint yngly n â’r anghydfod gwleidyddol a chrefyddol rhwng Elisabeth I a Mari Brenhines yr Alban a’r problemau a wynebodd y Brenhinoedd a’r Breninesau Tuduraidd. Byddant wedi canu cân a gyfansoddwyd gan Harri VIII, ymweld â marchnad Tuduraidd, cynghori Elisabeth I a Mari Brenhines yr Alban, ac yn greadigol ac yn ddychmygol wedi byw trwy gyfnod o hanes.

OperaBydd y dosbarth wedi cyfarfod cerddorion a chantorion opera a chydweithio â nhw ac wedi cael peth dealltwriaeth yngly n â sut mae ariâu yn gweithio mewn operâu. Byddant wedi cymryd rhan mewn rhannau o ddwy opera Tuduraidd sef Maria Stuarda ac Anna Bolena.

LlythrenneddByddant wedi cael blas ar Saesneg y cyfnod Elisabethaidd a chyfarfod dau ddramodydd Tuduraidd. Mae nifer o gyfleoedd yn ymwneud â cherddoriaeth greadigol, drama ac ysgrifennu o fewn y prosiect a chyfle i ddatblygu hynny ymhellach wedyn.

Addysg Bersonol a Chymdeithasol / DinasyddiaethBydd y dosbarth wedi astudio sawl agwedd ar anghydfod a datrysiad teuluol.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi a’ch plant.

Canlyniadau

Page 8: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 8

Mae Elisabeth Tudur, Brenhines Lloegr a Mari, Brenhines yr Alban, yn gyfnitherod. Dwy frenhines, yn byw yn yr un wlad a’r ddwy ohonynt yn gresynu hynny.

Mae Elisabeth yn Lloegr gan mai hi yw’r Frenhines. Mae Mari yma gan ei bod hi mewn anghydfod â’i deiliaid Protestannaidd yn yr Alban na roddodd fawr o groeso iddi o’r diwrnod cyntaf gan mai gwraig Gatholig a addysgwyd yn Ffrainc oedd hi. Cythruddwyd y deiliaid yn fwyfwy pan briododd Mari rywun yr oeddynt yn ei amharchu’n llwyr, (cefnder cusan) sef meddwyn â thymer ddrwg o’r enw Darnley.

Yna, yn ôl y gred, trefnodd Mari iddo gael ei lofruddio er mwyn iddi gael priodi Bothwell, a oedd yr un mor ddilewyrch â Darnley, felly cafodd ei charcharu gan uchelwyr yr Alban a’i gorfodi i ddyrchafu ei mab ifanc, Iago, yn Frenin yr Alban. Yna, yn 1567 llwyddodd i ddianc gan redeg i ffwrdd a dewis Lloegr fel lloches. Nid oedd yn syniad da.

A dyma pam: Mae’r Frenhines Elisabeth yn rheoli popeth – ac mae gofyn iddi fod felly. Mae hi’n Frenhines Brotestannaidd yn agos iawn at gyfandir cyfan o Gatholigion mewn cyfnod o ryfela crefyddol gwaedlyd. Mae eithafwyr ar y naill ochr yn barod i ymladd, lladd a bod yn ferthyron i’w credoau.

Mae’r Pab wedi cyhoeddi nad Elisabeth yw teyrn teilwng Lloegr gan nad yw’r Catholigion yn cydnabod ysgariad ei thad, Harri VIII a Catrin o Aragon ac yn sgil hynny roedd ei briodas â mam Elisabeth, Anne Boleyn yn anghyfreithlon ac felly mae Elisabeth yn ferch anghyfreithlon hefyd heb hawl i deyrnasu. Mari, Brenhines yr Alban yw’r etifedd agosaf i’r goron! Yn ôl y Pab, nid peth pechadurus fyddai i ladd Elisabeth, yn wir byddai’n beth cyfiawn efallai!

Yn sgil hyn gallai rhai o Gatholigion Elisabeth ystyried ei bod hi’n amser codi gwrthryfel a choroni Mari, yn enwedig os ceir cefnogaeth gan luoedd Sbaen a Ffrainc.

Roedd Phillip II wedi bod yn briod â hanner chwaer Elisabeth, cyn frenhines Lloegr – a adnabuwyd yn aml yn Mari Waedlyd gan ei bod hi’n Gatholig a gredai mewn llosgi Protestaniaid a thorri eu pennau i ffwrdd. Felly gallai Phillip fod yn awyddus i ymosod ar Loegr.

Ac felly hefyd Brenin Ffrainc, Harri III, sef gw r Catholig, a fu’n rhannol gyfrifol, ynghyd ag ewythr Mari, Dug Guise, am y gyflafan waedlyd o Brotestaniaid Huguenot Ffrainc ym Mharis yn 1572.

Mae’r pryderon hyn am ymosodiad a gwrthryfel yn ei gwneud hi’n anodd i Elisabeth benderfynu beth i’w wneud yngly n â Mari. Byddai’n amhosib ei gyrru’n ôl i’r Alban i wynebu ei gelynion a chael ei lladd efallai – mae hi’n gyfnither ac yn frenhines wedi’r cwbl!

Ac ni fyddai Elisabeth yn dymuno iddi fynd dramor a chael cymorth a chefnogaeth ac efallai dychwelyd gyda lluoedd Ffrainc a Sbaen. Ac ni allai ei gadael i grwydro o amgylch y wlad yn denu cefnogwyr Catholig. Felly mae Elisabeth yn penderfynu rhoi ei chyfnither dan glo mewn amryw o gestyll a phlastai yn eu tro a chael rhywun i gadw golwg arni am 19 o flynyddoedd. A thrwy gydol y cyfnod hwnnw, ni thorrodd Elisabeth yr un gair â hi!

Nid yw Mari Brenhines yr Alban wedi gwneud pethau’n hawdd iddi hi ei hun mewn gwirionedd. Mae hi’n llawer mwy angerddol a byrbwyll na’i chyfnither – wedi ei difetha meddai rhai. Mae pawb sy’n fodlon gwrando arni wedi clywed ei bod hi’n credu mai hi ddylai fod yn Frenhines ar Loegr, ac yn ystod y 19 mlynedd a aeth heibio bu sawl cynllwyn i geisio gwireddu hynny, ond pob un wedi ei atal gan gynghorwyr Elisabeth.

Elisabeth Tudur a Mari Stiwart Brenhines yr Alban

1568 YW’R FLWYDDYN AC MAE ELISABETH I YN FRENHINES

Page 9: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 9

Un o’r cynghorwyr agosaf i Elisabeth yw ei Hysgrifennydd Gwladol, Syr Francis Walsingham, ysbïwr o fri gyda rhwydwaith o asiantwyr cyfrinachol ledled Prydain ac Ewrop. Mae’n defnyddio pobl ifanc, ysgolheigion a myfyrwyr yn aml i ymdreiddio i mewn i grwpiau o Gatholigion yma ym Mhrydain a thramor ac mae ganddo ddatgodwyr arbenigol fel Thomas Phelippes, sy’n arbenigwyr wrth ddatgodio llythyr a chreu dogfennau ffug, a chrefftwyr medrus fel Arthur Gregory sy’n medru agor llythyrau sydd wedi’u selio a chau’r sêl eto heb i neb wybod.

Mae Walsingham yn defnyddio Agent Provocateurs, sef asiantwyr sydd nid yn unig yn ysbïo ar gynllwynwyr ond hefyd yn eu hannog i lofruddio drwy drefniant. Wrth gwrs, mae Walsingham yn ymwybodol o bopeth sy’n digwydd a phan fydd ei gynllun wedi cynnwys digon o bobl mae’n gallu eu harestio. Unwaith y byddant wedi eu harestio gall y cynllwynwyr gael eu harteithio er mwyn ildio cyfaddefiadau – o gofio bydd unrhyw un sy’n cael ei arteithio’n debygol o gyfaddef unrhyw beth.

Prif arteithiwr Walsingham yw gw r o’r enw Topcliffe sy’n arbenigo yn y defnydd o’r rac a bawd-droell ac unrhyw ddull arall adnabyddus o ddwyn perswâd yng nghyfnod Elisabeth. Yn olaf mae bradychwyr a gondemniwyd yn cael eu dienyddio, drwy dorri eu pennau i ffwrdd os ydynt yn ddigon ffodus – neu fel arall drwy grogi, tynnu perfedd a chwarteru, a ddywedwn ni ddim byd rhagor am hynny.

Yn ystod y 19 mlynedd y bu Mari dan glo, bu nifer o gynllwynion tebyg, y rhan helaeth ohonynt yn cael eu treiddio neu eu dylanwadu gan ysbïwyr Walsingham ac Agent Provocateurs. Y gwrthryfel gogleddol (Northern Uprising) oedd y pwysicaf o’r rhain, ynghyd â Chynllwyn Ridolffi a Chynllwyn Throckmorton.

Gyrrwyd pob un o’r rhain gan fwriad i ladd Elisabeth a rhoi’r goron i Mari. ‘Rheolwyd’ pob un i raddau gan Walsingham a fyddai wedi ei gyflyru efallai i gael gwared ar bob un o’r cynllwynion Catholig hyn fesul un gan

ei atgofion o Gyflafan Paris lle gwyliodd Brotestaniaid Huguenots yn cael eu llofruddio gan dorf wyllt o Gatholigion a’u hannog gan Ddug Guise.

Yn sicr roedd yn driw i’w waith: roedd hyd yn oed yn talu ei ysbiwyr o’i boced ei hun! Erbyn 1586 roedd cymaint o gynllwynion yn ymwneud â hi neu yn ei thargedu hi nes iddo benderfynu y byddai’n well cael gwared ar Mari a’i lladd, ond sut?

Nid yw Elisabeth yn dymuno lladd ei chyfnither a brenhines. Petai rhywun a ddewiswyd gan Dduw i fod yn frenhines yn cael ei dienyddio lle fyddai hynny’n gadael Elisabeth ei hun? Mae Walsingham yn gwybod bod yn rhaid iddo ddwyn perswâd ar Elisabeth. Rhaid iddo wneud yn siw r nad oes dewis arall. Rhaid iddo ddarganfod ac amlygu cynllwyn i ymosod ar Loegr a lladd Elisabeth a thystiolaeth bod Mari’n rhan o’r cyfan – ei bod hi’n dymuno gweld Elisabeth yn cael ei lladd.

Yn gyntaf serch hynny, rhaid cael cyfreithiau sy’n sicrhau bod unrhyw un sydd ynghlwm, hyd yn oed brenhines, a hyd yn oed os mai annog eraill i wrthryfela maent yn ei wneud yn unig, yn medru cael eu dienyddio. A dyna lle mae cyfraith bond o ‘Gysylltiad’ yn briodol, lle mae llyswyr Elisabeth yn tyngu llw y byddant yn dal ac yn lladd unrhyw un sy’n cynllwynio mewn unrhyw ffordd yn erbyn y Frenhines, ac yna Deddf Mechnïo Person y Frenhines sy’n caniatáu dwyn achos yn erbyn unrhyw un sy’n hawlio ei fod yn etifedd i’r goron a allai fod yn rhan o gynllwyn o’r fath. Wel, mae hi’n amlwg beth yw bwriad Walsingham.

Yr unig beth sydd ei angen yn awr yw ei dal, ond mae Mari’n bod yn ofalus. Rhaid i Walsingham ei themtio a chadw llygad barcud arni felly mae’n newid ei harestiad ty fel ei bod dan ofal un o’i ffrindiau, Syr Amias Paulet yn Chartley, sef Plasty gyda ffos. Nawr yr unig beth sydd angen iddo ei wneud yw canfod cynllwyn i’w rhwydo. Mae’r cyfan yn barod felly ar gyfer yr hyn a ddaw’n adnabyddus fel Cynllwyn Babington a dienyddiad Mari Brenhines yr Alban drwy dorri ei phen i ffwrdd.

Page 10: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 10

Mae Mari dan glo dan ofal Syr Amias Paulet. Mae Walsingham yn rhoi cyfarwyddyd i Paulet i agor, darllen a danfon unrhyw lythyrau heb eu selio y caiff hi, ac i atal unrhyw ffordd posibl o gael gohebiaeth gyfrinachol ati.

Mewn ymdrech lwyddiannus i’w dal, mae Walsingham yn trefnu ac yn caniatáu un eithriad: modd i lythyrau Mari ei chyrraedd yn ddirgel i mewn ac allan o Chartley mewn casgen gwrw. Mae Mari’n cael ei thwyllo i feddwl bod y llythyrau hyn yn ddiogel, ond mewn gwirionedd maent yn cael eu darllen gan asiantwyr Walsingham.

Ym mis Ionawr, mae Anthony Babington, gydag anogaeth Robin Poley, un o Agent Provocateurs Walsingham, yn ysgrifennu at Mari yn sôn am gynllwyn i’w rhyddhau hi ac i ladd Elisabeth. Yn naturiol mae ymateb Mari yn un gobeithiol ac yn caniatáu cynlluniau Babington ond mae rhan o hyn yn cael ei ysgrifennu’n ffug gan Phillipes, asiant Walsingham.

Mae Walsingham yn dal Babington a’i gyd-gynllwynwyr; dienyddir 14 ohonynt ym mis Medi 1586. Ym mis Hydref mae Mari yn sefyll ei phrawf dan Ddeddf Mechnïo Person y Frenhines o flaen 36 o gomisiynwyr, gan gynnwys Walsingham.

Wrth gyflwyno’r dystiolaeth yn ei herbyn mae Mari’n torri i lawr ac yn pwyntio a chyhuddo Walsingham drwy ddweud ‘gwaith i fy ninistrio i yw hyn i gyd gan Monsieur de Walsingham’ ac mae yntau’n ateb ‘mae Duw yn dyst fy mod, fel unigolyn preifat, heb wneud dim o’i le fel dyn gonest, ac fel Ysgrifennydd Gwladol, unrhyw beth nad yw’n groes i fy nyletswydd.’

Mae Mari yn cael ei chanfod yn euog ac ysgrifennir gwarant ar gyfer ei dienyddio, ond mae Elisabeth yn gyndyn o’i arwyddo, er y pwysau gan Walsingham. Mae Walsingham yn ysgrifennu at Paulet yn ei annog i ganfod ‘rhyw ffordd o fyrhau bywyd’ Mari er mwyn ysgafnhau byrdwn Elisabeth. Mae Paulet yn ateb yn filain ‘Duw a’m helpo os llwyddaf i ddinistrio fy nghydwybod, neu faeddu cof pobl amdanaf, i dywallt gwaed heb gyfraith na gwarant.’

Mae Walsingham yn gwneud trefniadau ar gyfer dienyddiad Mari; mae Elisabeth yn arwyddo’r warant ar 1 Chwefror 1587, a’i throsglwyddo i William Davison a benodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol Ieuaf tuag at ddiwedd mis Medi 1586.

Mae Davison yn trosglwyddo’r warant i Cecil, ac mae cyfrin gyngor a alwyd gan Cecil heb i Elizabeth wybod yn cytuno i weithredu’r ddedfryd cyn gynted ag y bo modd gwneud hynny. O fewn wythnos dienyddwyd Mair drwy dorri ei phen i ffwrdd.

Wrth glywed am y dienyddiad, mae Elisabeth yn mynnu na chymeradwyodd hi’r weithred ac nid oedd yn fwriad iddi gael Davison yn rhan o’r warant. Mae Davison yn cael ei arestio a’i garcharu yn Nhw r Llundain.

Nid yw Walsingham yn rhannu pryderon Elisabeth ac roedd yn absennol o’r llys, adref yn sâl, yn ystod yr wythnosau cyn ac ar ôl y dienyddio. Ymhen amser, ym mis Hydref 1588, mae Davison yn cael ei ryddhau ar orchymyn Cecil a Walsingham.

Cynllwyn Babington

Page 11: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 11

Os yw’r dosbarth yn dymuno cadw’r thema Elisabethaidd i fynd drwy amser cinio, yna efallai y dymunant ystyried y rheolau canlynol wrth y bwrdd bwyd.

1 Gwnewch yn siw r fod eich dwylo a’ch ewinedd yn lân. Gwiriwch hynny cyn bwyta. Cewch gario cleddyf ond peidiwch â’i ddefnyddio i fwyta.

2 Dylid defnyddio napcyn neu hancesi poced ond cewch ddefnyddio lliain bwrdd yn hytrach. Os nad oes gennych yr un o’r rhain mae’n rhaid eich bod chi’n dlawd iawn! Ym mhob achos cadwch y bwrdd mor lân â phosibl.

3 Cadwch eich cyllell yn lân ac yn finiog. Nid yw defnyddio fforc yn cael ei ganmol. Torrwch eich cig yn ddarnau mân a pheidiwch â’i dorri’n flêr i mewn i ddarnau hyll. Torrwch eich bara gyda’ch cyllell a pheidiwch â’i rwygo’n ddarnau mawr. Cewch roi darnau o fara yn eich cawl.

4 Siaradwch yn gwrtais â gweision a morynion. Adroddwch storïau difyr a ffraeth. Cyfansoddwch benillion digri a’u hadrodd i eraill o amgylch y bwrdd.

5 Adroddwch hanesion a newyddion wrth eich ffrindiau. Dywedwch bethau caredig am y Brenin neu’r Frenhines yn unig neu gallai eich llaw gael ei thorri i ffwrdd! Cewch ddweud unrhyw beth am Frenin Ffrainc neu Sbaen – nhw yw’r gelyn!

6 Peidiwch â gadael eich llwy yn y llestr wedi i chi orffen. Peidiwch â gorlenwi’r llwy ac yn sicr peidiwch â cholli bwyd ar y bwrdd. Peidiwch â slochian. Gwagiwch a sychwch eich ceg cyn yfed.

7 Mwynhewch yr alarch os oes peth ar y bwrdd ond os dewch chi ar draws gwreiddyn gwyn reit od – patata, sef rhywbeth y llwyddodd Syr Raleigh neu un o’i ffrindiau ei gipio oddi wrth môr-ladron Sbaeneg ar eu ffordd adref o’r Byd Newydd – byddwch yn ofalus! Mae’n perthyn i’r codwarth angheuol a gall fod yn wenwynig!

8 Peidiwch â stwffio bwyd i mewn i’ch ceg, pigo’ch dannedd, gwneud synau anghynnes, crafu eich hun, chwythu ar eich bwyd, poeri i mewn i’r ddysgl olchi nac ar draws y bwrdd, poeri bwyd ar eich plât, siarad â’ch ceg yn llawn na syrthio i gysgu wrth y bwrdd.

9 Peidiwch â rhoi eich penelinoedd ar y bwrdd. O gofio mai bord ar goesau yw’r bwrdd, gallech achosi damwain anffodus.

10 Peidiwch â thaflu eich esgyrn ar y llawr! Os bydd bwyd yn syrthio i’r llawr, casglwch y bwyd ond peidiwch â’i fwyta. Peidiwch â rhoi mwythau i gathod neu gw n wrth y bwrdd.

11 Peidiwch â llyfu eich dwylo.

Cinio ac ymddwyn fel pobl Elisabethaidd wrth y bwrdd bwyd

Page 12: Tuduriaid! Adnodd i Athrawon - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2014/110214/wno/WNO... · 2014. 5. 23. · Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 4 Diwrnod

Tuduriaid! Adnodd i Athrawon Opera Cenedlaethol Cymru 12

Crefydd yng nghyfnod y Tuduriaidprimaryhomeworkhelp.co.uk/tudors/religion.htm

Ysbiwyr Tuduraiddbbc.co.uk/history/british/tudors/spying_01.shtml

Christopher Marloweprimaryfacts.com/502/christopher-marlowe-facts/

Cynllwyn Babingtonluminarium.org/encyclopedia/babington.htm

Henry Percywho-is-shakespeare.wikispaces.com/Henry+Percy,+Earl+of+Northumberland

supremacyandsurvival.blogspot.co.uk/2011/04/wizard-earl-born-on-april-27-1564.html

Elisabeth I a Mari Brenhines yr Albanhistorylearningsite.co.uk/mary_queen_of_scots.htm

historyonthenet.com/Tudors/elizabeth_mary_queen_of_scots.htm

onthetudortrail.com/Blog/2012/02/08/the-execution-of-mary-queen-of-scots/

Gwefannau defnyddiol