Upload
others
View
3
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Canllaw: Llais disgyblion plant y Lluoedd Arfog
Mae’r pecyn hwn wedi’i lunio i ddarparu arweiniad, cyngor ac adnoddau i leoliadau addysg ac ieuenctid i weithredu, datblygu ac ehangu’r cyfle i gynnwys barn plant Gwasanaeth mewn amrywiol destunau neu feysydd sy’n bwysig iddyn nhw. Gall y syniadau a’r adnoddau hyn gael eu haddasu a’u defnyddio o fewn unrhyw leoliad neu sefydliad addysg.
“Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi eu barn, teimladau a dymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arnynt ac i ystyried eu barn a’u cymryd o ddifrif.”
UNCRC Erthygl 12 (Parchu barn y plentyn)
Ynglŷn â llais y disgybl
Dylai llais y disgybl gynnwys ethos a dull ysgol gyfan sydd wedi’i sefydlu ar draws yr ysgol i bob disgybl.
'Ystyr cyfranogiad yw bod gennyf hawl bod yn rhan o benderfynu ar, cynllunio ac adolygu unrhyw weithredoedd a allai effeithio arnaf i. Cael llais, cael dewis.” Llywodraeth Cymru
Diben llais y disgybl yw:
1. Lleihau anghyfartaleddau y gall rhai plant/pobl ifanc eu hwynebu
2. Mynd i’r afael ag anghenion penodol grwpiau gwahanol
3. Creu profiadau a chyfleoedd newydd i blant/pobl ifanc
4. Datblygu llinellau ymholiad ac ymchwil, gan weithio ochr yn ochr gydag oedolion, cyfoedion a’r gymuned leol
5. Datblygu sgiliau y gall plant/pobl ifanc eu defnyddio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn a pharatoi ar gyfer bywyd oedolyn
6. Addysgu plant/pobl ifanc i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus
7. Cefnogi plant/pobl ifanc i fod yn unigolion iach, hyderus, yn barod i arwain bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.
Creu cysylltiadau
Hawliau Plentyn y Cenhedloedd Unedig
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymgorffori egwyddorion CCUHP mewn deddfwriaeth. Roedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r CCUHP fel sail llunio polisi i blant a phobl ifanc yn 2004. Drwy gyflwyno deddfwriaeth gyda’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae’n rhaid i bob Gweinidog yng Nghymru roi sylw dyledus i hawliau a rhwymedigaethau o fewn CCUHP yn eu gwaith beunyddiol.
Cwricwlwm Cymru
Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, sy’n nodi pedwar diben allweddol ar gyfer y cwricwlwm, i helpu pob plentyn a pherson ifanc i fod yn:
1. Ddysgwyr uchelgeisiol, medrus, sy’n barod i ddysgu drwy eu bywydau
2. Cyfranogwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
3. Dinasyddion egwyddorol a gwybodus Cymru a’r byd, yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
4. Unigolion iach, hyderus, yn barod i arwain bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.
Bwriedir i gyfraniad ystyrlon a phwrpasol cyfranogiad disgybl fod yn nodwedd gryf yn y cwricwlwm newydd.
Cynghorau ysgol
Mae’n ofynnol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru (heblaw ysgolion meithrinfeydd a gynhelir ac ysgolion babanod a gynhelir) gael cyngor ysgol. Y diben yw sicrhau bod llais disgybl yn cael ei gynrychioli’n dda wrth i ysgol ddatblygu a gweithredu polisïau newydd a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. Mae Cynghorau Ysgol yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc drafod materion sy’n ymwneud â’u hysgol, ac i gyflwyno sylwadau i’r corff llywodraethu a’r pennaeth. Gall cyngor ysgol hefyd gynnig a symud ymlaen gyda mentrau a phrosiectau ar ran eu cyfoedion ac ymwneud â chynllunio strategol a phrosesau. Mae’n rhaid i’r cyngor ysgol gael ei ethol yn ddemocrataidd a chyfarfod o leiaf chwech gwaith y flwyddyn.
Deddf Cyngor Ysgolion Cymru (2005)
Mynnu bod yn rhaid i ysgolion:
· Sefydlu cyngor ysgol os ydynt yn ysgol gynradd (ac eithrio babanod a meithrinfa), arbennig neu uwchradd
· Cynnal o leiaf chwe chyfarfod cyngor ysgol y flwyddyn. Yn ddelfrydol dylai’r rhain gael eu lledaenu’n gyfartal fel bod cyfarfod yn cael ei gynnal o leiaf bob hanner tymor.
· Gwnewch yn siŵr fod pob aelod o’r cyngor ysgol yn ddisgyblion cofrestredig o’r ysgol
· Wneud trefniadau i etholiadau ar gyfer y cyngor ysgol gael eu cynnal drwy bleidlais gyfrinachol
· Gwneud trefniadau fel bod pob grŵp blwyddyn yn cael eu cynrychioli ar y cyngor ysgol. (Nid yw hyn yn gorfod bod yn berthnasol i ysgolion arbennig)
· Sicrhau bod disgyblion mewn Safleoedd Adnoddau Anghenion Arbennig mewn ysgolion prif ffrwd yn gallu cael eu cynrychioli ar y cyngor ysgol
· Sicrhau bod unrhyw fater sy’n cael ei gyfeirio gan y cyngor ysgol i’r Pennaeth neu’r corff llywodraethu yn derbyn ymateb
· Sicrhau bod pob cyfarfod cyngor ysgol yn cael ei oruchwylio gan oedolyn.
Yn ogystal, mae’n rhaid i ysgolion uwchradd:
· Ganiatáu i enwebu dau o’u haelodau o flynyddoedd 11-13 i fod yn Llywodraethwyr Disgybl Cyswllt ar gorff llywodraethu’r ysgol. Mae’n rhaid i’r enwebiadau hyn gael eu gwneud gan y cyngor ysgol, ac mae’n rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol eu derbyn.
Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl Ifanc
Bwriad y saith safon yw hybu cyfranogiad plant a phobl ifanc i wneud penderfyniadau fydd yn effeithio arnyn nhw yn uniongyrchol:
1. Gwybodaeth
2. Eich dewis chi ydyw
3. Dim gwahaniaethu
4. Parch
5. Fe gewch chi rywbeth o wneud
6. Adborth
7. Gweithio’n well ar eich cyfer chi.
Lles cenedlaethau'r dyfodol
Mae’r Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 https://llyw.cymru/deddf-llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru-2015-canllawiau yn cyfeirio’n benodol at y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol i Blant a Phobl Ifanc. Mae’n nodi disgwyliad mabwysiadu’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol wrth weithio gyda phartneriaid, i alluogi plant a phobl ifanc gael llais. Mae hyn yn golygu bod awdurdodau lleol angen galluogi plant a phobl ifanc i gyfranogi.
EstynCyfranogiad disgyblion: canllaw arfer gorau yn archwilio pedwar nodwedd o ysgolion gyda chyfranogiad disgyblion cryf ac yn nodi’r cyfraniad y gall ei wneud i wella ysgol yn ogystal â’r budd i blant a phobl ifanc ei hunain.
“Mae llais cryf disgybl yn cynnwys budd amlwg i’r ysgolion a’r dysgwyr. Rwy’n annog pob ysgol i ddarllen yr arferion da yn yr adroddiad hwn i’w helpu i wella effaith clywed llais disgyblion.”
Prif Arolygydd, Estyn
Llais effeithiol y disgybl
Estyn Cyfranogiad Disgyblion: canllaw arfer orau yn amlinellu bod cyfranogiad disgyblion yn gadarn mewn ysgolion sydd â’r nodweddion canlynol:
· Gweledigaeth ac ethos
· Rolau a strwythurau
· Cyfleoedd i gyfrannu
· Disgyblion a staff â datblygiad proffesiynol parhaus da yn targedu anghenion llais disgyblion.
Mae dulliau o gyflawni llais disgybl effeithiol yn cynnwys:
Fel rhan o addysgu a dysgu a gweithgareddau ystafell ddosbarth dyddiol
Cysylltu i werthoedd ac ethos yr ysgol
Yn ystod addoli ar y cyd/gwasanaethau
Cynnwys plant a phobl ifanc mewn hunanwerthuso ac asesu ysgol
Defnyddio Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl Ifanc Cymru
Datblygu siarter dosbarth/ysgol
Dulliau ymgynghori fel holiaduron, arolygon, amser cylch, ystyried siart ysgol/dosbarth
Grwpiau Ffocws
blychau awgrymiadau
Grwpiau cyfranogi a chynrychioli fel y cyngor ysgol, eco-bwyllgor, ysgolion iach, mentoriaid cyfoedion, llysgenhadon myfyrwyr ac arweinwyr gwahanol feysydd yn yr ysgol fel y nodwyd
Cymryd rhan yn y corff llywodraethu a phenodiadau staff (cyfweld, disgybl yn trafod gydag ymgeiswyr gyda chefnogaeth gan aelod o staff arweiniol)
Cyfrannu at gynllunio, adolygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau, gan gynnwys y cynllun gwella ysgol
Cyfrannu at gyllidebu a phenderfyniadau ar sut mae arian yn cael ei ddyrannu a’i wario
Strwythur fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cyfrannu at wneud penderfyniadau, gan gynnwys y sawl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Gall llais effeithiol y disgybl gael effaith gadarnhaol ar blentyn neu berson ifanc drwy:
Ddatblygu eu sgiliau llythrennedd drwy drafod, rhesymu, gwneud penderfyniad, datrys problem a chyflwyno a chyfleu canfyddiadau
Datblygu eu sgiliau mewn rhifedd drwy gasglu data, casglu canlyniadau, dadansoddi ffigyrau a chyflwyno canfyddiadau
Datblygu eu sgiliau mewn gallu digidol drwy gyfranogiad mewn gweithgareddau
Dysgu sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu defnyddio ar draws y cwricwlwm
Ennill profiadau bywyd amhrisiadwy.
Ymchwil
Ysgol Ddylanwadol Roger Hart
“Cafodd yr ysgol ei chynnig fel cynllun i helpu i gyflwyno safbwynt beirniadol i bwnc oedd bryd hynny yn gyffredinol heb un ....
Ansawdd mwyaf buddoiol y model mae’n debyg yw ei ddefnyddio ar gyfer helpu grwpiau proffesiynol gwahanol a sefydliadau i ailfeddwl sut maent yn gweithio gyda phobl ifanc: gweithwyr ieuenctid, cyfarwyddwyr teledu a radio, arweinwyr sgowtiaid, gweithwyr chwarae, gweithwyr stryd, gweithwyr iechyd proffesiynol a hyd yn oed rhai athrawon ysgol. Ei symlrwydd o ffurf ac eglurder amcanion yn galluogi iddynt ddod o hyd i iaith i edrych ar eu ffyrdd presennol o weithio’n systematig, ac wrth wneud hynny, cyflwyno rhywbeth mwy cymhleth a defnyddiol i’w cyd-destun penodol.
Hart (2008), explaining the rationale for developing the model.
Syniadau ymarferol
Ysgol cyfan
· Gwasanaethau – yn ystod wythnosau thema a gysylltwyd â UNVTV - hawliau'r plentyn/gwerthoedd ysgol
· Fel rhan o ddiwrnod thema ar gyfranogiad neu hawliau’r plentyn
· Fel rhan o’r cwricwlwm, harnesio dolenni llythrennedd a rhifedd
· Pontio – prosiect ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 i’w paratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd
· Drwy Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh)
· Bwrdd arddangos/gwybodaeth – rhannu gwybodaeth am lais disgybl, sesiynau, amcanion, deilliannau, effaith a phwy i gysylltu â nhw/sut i gyfrannu.
Grwpiau
· Prosiect i’r cyngor ysgol / clwb eco neu grwpiau disgyblion eraill
· Fel clwb ar ôl ysgol neu amser cinio
· Gyda grwpiau yn cynrychioli rhannau gwahanol o’r gymuned ysgol (cyngor ysgol, arweinwyr eco, llysgenhadon myfyrwyr, plant y lluoedd arfog)
· Paratoi canllawiau a rheolau ar gyfer pob sesiwn – datblygu cyfathrebu effeithiol i gyfranogwyr
· Cyflwyno canfyddiadau’r grŵp (gweler Canfod eich llais - pecyn hyder yn y gymuned t.106)
Dechreuwyr a thorri’r rhew
· Gemau i ‘Wybod eich hawliau’
· ‘Dod o hyd i rhywun sydd’ – grid gyda datganiadau, i hybu trafodaeth
· ‘Cymysgu a chwrdd’ – mae lliwiau yn cynrychioli pynciau/testunau gwahanol i siarad amdanynt
· Gweler y Canfod eich llais - pecyn Hyder yn y Gymuned t.89 am syniadau pellach.
Pleidleisio
· ‘Hwla-hwp’ – syniad diagram Venn i ddewis rhwng tri dewis (ie/na/ansicr)
· ‘pleidlais gyfrinachol’ – pleidleisio dros y dewis a ffefrir a’i roi mewn blwch pleidleisio
· ‘Colli’ch marblis’ – marblis a jariau i bleidleisio am yr hyn a ffefrir
· Gofyn i blant a phobl ifanc ddod o hyd i ddulliau arloesol i bleidleisio yn dilyn trafodaethau
· Gweler y Canfod eich llais - pecyn Hyder yn y Gymuned t.102 am syniadau pellach.
Digidol
· Plickers – i gynnal pleidleisiau yn yr ysgol am ddim
· Survey Monkey – i blant a phobl ifanc lunio a/neu ddylunio arolygon ar-lein
· Wordwall – i greu adnoddau addysgu, creu gweithgareddau, gan gynnwys cwisiau, cyfateb a gemau geiriau.
Cwestiwn/ysgogi trafodaeth
SSCE Cymru – Prosiect Gwrando ar Blant y Lluoedd Arfog
Yn 2019/20, roedd SSCE Cymru wedi cynnal grwpiau trafodaeth mewn ysgolion yng Nghymru, i wrando ar blant y lluoedd arfog am eu profiadau o addysg yng Nghymru. Mae manylion sut y cynhaliwyd y grwpiau trafod hyn a sut y cafodd yr ymatebion eu cofnodi a’u dadansoddi i ddarparu tystiolaeth ansoddol a mesurol ar gael yn adroddiad canfyddiadau.
Roedd cwestiynau a ofynnwyd yn ystod y grwpiau trafod hyn yn cynnwys:
· Ydych chi erioed wedi symud tŷ?
· Sut oeddech chi’n teimlo am symud tŷ? Beth oeddech chi’n ei hoffi? Beth nad oeddech yn ei hoffi?
· Ydych chi wedi byw dramor erioed?
· Sut oeddech chi’n teimlo am fyw dramor?
· Ydy eich rhiant/rhieni erioed wedi eu symud neu’n byw ar wahân?
· Sut oeddech chi’n teimlo pan gafod eich rhieni eu symud neu’n byw ar wahân?
· Pa weithgareddau sydd wedi helpu pan mae eich rhieni wedi eu symud/byw ar wahân?
· Sawl ysgol ydych wedi’i mynychu?
· Ydych chi erioed wedi symud ysgol oherwydd bod eich rhieni wedi eu hadleoli?
· Sut ydych yn teimlo am newid ysgol? Beth oeddech chi’n ei hoffi? Beth nad oeddech yn ei hoffi?
· Pa weithgareddau sydd wedi eich helpu wrth symud ysgolion?
· Pwy wnaeth eich helpu wrth symud ysgol?
· Sut ydych chi’n teimlo am fyw yng Nghymru? Beth ydych chi’n ei hoffi? Beth nad ydych yn ei hoffi?
· Sut ydych yn teimlo am ddysgu Cymraeg?
Mae cwestiynau ychwanegol a allai helpu plant y lluoedd arfog yn cynnwys:
· Pa brofiadau cadarnhaol sydd gennych chi fel plant y lluoedd arfog? Pam bod gennych y profiadau hyn? Sut ydych yn cael budd o’r profiadau hyn? Pa brofiadau sy’n bwysig i’w defnyddio a pham?
· Sut allwch chi rannu manylion y profiadau cadarnhaol hyn gyda phlant eraill? Pa wybodaeth fyddech yn ei rhannu? Gyda phwy fyddech yn dymuno rhannu’r manylion a’r profiadau hyn?
· Beth yw’r heriau rydych yn eu hwynebu fel plentyn y lluoedd arfog? Pa weithgareddau sydd wedi eich helpu i oresgyn yr heriau hyn? Pwy sy’n eich helpu i oresgyn yr heriau hyn? Sut fyddech chi’n troi’r profiadau negyddol hyn i rai cadarnhaol?
· Beth fyddai’n gallu cael ei wella i’ch helpu i oresgyn yr heriau hyn? Yn yr ysgol? Adref?
· Sut allwch chi rannu manylion y profiadau cadarnhaol hyn gyda phlant eraill? Pa wybodaeth fyddech yn ei rhannu? Gyda phwy fyddech yn dymuno rhannu’r manylion a’r profiadau hyn?
· Beth sy'n bwysig i chi? Beth fydden nhw’n dymuno siarad amdanyn nhw? Beth hoffech ei newid neu ei ddatblygu? Sut allwn ni wneud hyn drwy’r grwpiau hyn?
· At bwy fyddech chi’n mynd am gyngor a chefnogaeth? Sut allwn ni rannu hyn gydag eraill?
Adnoddau a chanllawiau
Barnardo’s
Canfod eich llais - Hyder yn y gymuned
Pecyn i gefnogi a datblygu llais disgyblion mewn ysgolion. Cefnogi plant a phobl ifanc i gynnal ymchwil a phrosiect gweithredu yn eu hysgol i wneud newidiadau ar bethau o fewn eu hysgol neu gymuned leol sydd o bwys iddyn nhw.
Leapfrog
Leapfrog pecynnau ac adnoddau yn darparu ffyrdd effeithiol i wneud mwy gyda llai o amser, trawsnewid gweithgareddau a gweithdai i’w gwneud yn well a gellir eu defnyddio gan unrhyw un i wneud mwy o ymgynghori creadigol ac ymgysylltu.
Cyfeirnodau defnyddiol
· Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm ac Asesu yng Nghymru (2015)
· ESTYN 'Llais Disgybl yn Datblygu'r Cwricwlwm (2018)
· ESTYN: Datblygu Dysgu Drwy Gyfranogiad Disgybl (2014)
· Hart Roger - Cyfranogiad Plant (1992)
· Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2018)
· Cyngor Dinas Casnewydd 'Cynllun Lles 2018'
· Rheoliadau Cyngor Ysgol 2005
· School Council regulations 2005
· Fframwaith Cymhwysedd Digidol: Cwricwlwm Cymru (2008)
· Royal Caledonian Education Royal Caledonian Education Trust – Pupil participation information
· Royal Caledonian Education Trust – Top tips from Armed Forces pupils
· Royal Caledonian Education Trust – Teen Talks
· Cwricwlwm Cymru.
SSCE Cymru Pecyn Gwaith 11. CANLLAW: Llais plant y lluoedd
www.SSCECymru.co.uk