8
Gorffennaf 23-25 July Lleoliadau o amgylch Caernarfon Penwythnos llawn dop o lenyddiaeth, cerddoriaeth, celf a ffilm. A jam-packed weekend of literature, music, art and film. Rhys Ifans Meic Stevens Carol Ann Duffy & Gillian Clarke Jim Perrin Niall Griffiths Bedwyr Williams Rachel TrEzise MEiC Povey Jon GOWer TUdur OweN Gwyn Thomas Gai Toms Dewi Prysor Pod Cate LE BON Race Horses MR HUW Gwyneth Glyn & Dafydd Emyr Geraint Løvgreen SiâN JAMEs DafyDd James DJ NiA MedI Siân MElangelL dafYDd Catherine Aran & Idris Morris Jones ... a mwy! ... and more! & Prosiect Caersaint Marchnad y Cymry Sesiwn Werin HaciAIth MIni Stomp Celf GwyL AraLl aRt COfiland PicnIC ar y MAEs ˆ GwyLarAlL.Com Facebook: “Gwyl Arall” Twitter: @GwylArall

Rhaglen Gwyl Arall Programme

Embed Size (px)

DESCRIPTION

2010 festival

Citation preview

Page 1: Rhaglen Gwyl Arall Programme

Gorffennaf 23-25 JulyLleoliadau o amgylch Caernarfon

Penwythnos llawn dop o lenyddiaeth, cerddoriaeth, celf a ffilm.

A jam-packed weekend of literature, music, art and film.

Rhys Ifans Meic StevensCarol Ann Duffy & Gillian ClarkeJim Perrin Niall Griffiths Bedwyr WilliamsRachel TrEzise MEiC Povey Jon GOWer TUdur OweN

Gwyn Thomas Gai Toms Dewi Prysor Pod Cate LE BON Race Horses MR HUWGwyneth Glyn & Dafydd Emyr Geraint Løvgreen

SiâN JAMEs DafyDd James DJ NiA MedI Siân MElangelL dafYDdCatherine Aran & Idris Morris Jones ... a mwy ! ... and more !& Prosiect Caersaint Marchnad y Cymry Sesiwn Werin

HaciAIth MIni Stomp Celf GwyL AraLl aRt COfiland PicnIC ar y MAEsˆ

GwyLarAlL.ComFacebook: “Gwyl Arall” Twitter: @GwylArall

Page 2: Rhaglen Gwyl Arall Programme

1. Celf Gŵyl Arall Art6pm. Am ddim/free.Ymunwch efo ni am wydraid o siampaen ysgaw i ddathlu dechrau’r ŵyl gydag agoriad yr arddangosfa gelf. Bydd yr arddangosfa ar agor yn ystod y dydd am weddill yr ŵyl a chewch gyfle i brynu gwaith yr artistiaid dethol. Artistiaid: Elfyn Lewis, Luned Rhys Parri, Morgan Griffith, Mari Gwent a llawer mwy.Join us for a glass of elderflower champagne to celebrate the start of the festival with the opening of the art exhibition. The exhibition will be open during the day throughout the festival and you will have the opportunity to buy the selected artists’ work. Artists: Elfyn Lewis, Luned Rhys Parri, Morgan Griffith, Mari Gwent and many more.

2. Noson 4a6 (C)

8pm. Neuadd y Farchnad. £5Mae Noson 4a6 yn ei hôl gyda rhai o’i hoff gyfranwyr. Mi fydd Tudur Owen yn cyflwyno’r swynol Cate Le Bon; Gwion Hallam yn holi Meic Povey am ei hunangofiant Nesa Peth i Ddim; Geraint Løvgreen yn perfformio rhai o ganeuon coll Iwan Llwyd; a Dewi Prysor yn ein diddanu gyda’i ffraethineb dihafal ei hun. Palas Print, Antena

3. Race Horses & Johnny Horizontal9pm ymlaen. Morgan Lloyd. Am ddim/free.Band dyfeisgar, llawn dychymyg yw Race Horses, sy’n plethu ynghyd harmonïau cymhleth a synau offerynnau pres trwm a synths. Mae’r albwm Goodbye Falkenburg allan rŵan – ‘a beserk and brilliant record’ yn ôl y Sunday Times.Race Horses are an experimental, inventive and infectious band, boasting multi-part harmonies, honking brass and swirling synths. Their album Goodbye Falkenburg is out now, and has been described by the Sunday Times as ‘a 13-track joyride… ‘a beserk and brilliant record’.

4. Gai Toms9pm ymlaen. Anglesey. Am ddim/free.Perfformiad gan y canwr a’r cyfansoddwr o Danygrisiau. Mae ganddo lond trol o ganeuon – o faledi tyner i stomps tafarnllyd hapus, gyda blas Americana, gwerin, roc a reggae arnynt.A performance from the singer-songwriter from Tanygrisiau whose songs range from intimate acoustic ballads to pub stomps, all injected with a mix of musical styles such as Americana, folk, and reggae.

Gwener 23 GorffennafFriday 23 July

(C) digwyddiad yn Gymraeg (S) event in English (T) translation facilities available

Page 3: Rhaglen Gwyl Arall Programme

5. Celf Gŵyl Arall Art10am-6pm. Am ddim/free.Arddangosfa Celf Gŵyl Arall yn parhau.Celf Gŵyl Arall Art continues.

6. Marchnad y Cymry10.30am-5.30pm. Clwt y Mawn/Turf Square.Stondinau gan grefftwyr lleol – gyda Peris & Corr, Buddug Humphreys a Jessie Chorley, bOtwm, sbAZmo yn eu plith - ar y safle lle bu’r Cymry yn cynnal marchnad yng nghyfnod Edward 1af. Dewch i brynu, a dewch â brechdan gyda chi i’w bwyta yn y lle picnic, ar dywyrch go iawn.Local craft stalls – work by Peris & Corr, Buddug Humphreys and Jessie Chorley, bOtwm, sbAZmo and others – on the site of the Welsh market during Edward I’s reign. There will be real turf on Turf Square once again. Come and buy, and bring a sandwich or two to enjoy at the picnic area.

7. Jac a’r Blwch Aur (C)

10am. Clwb Dre. £2 y plentyn; oedolion am ddim gyda phlentyn.Beth sydd yn y Blwch Aur gafodd Jac yn anrheg wrth ffarwelio â’i dad? Mae Cath Aran ac Idris Morris Jones yn defnyddio’u hwyl liwgar a’u hegni arferol i gyflwyno stori a ysbrydolwyd gan chwedlau’r Sipsiwn Cymreig. I blant 7-11 oed.A magical, colourful story-telling session for children aged 7-11. Cyngor Gwynedd, Academi

Wondermart£2 - gofynnwn am flaendal o £20 am y peiriant mp3.Taith glywedol ryng-weithiol o gwmpas archfarchnad leol (gyda pheiriant MP3). Cysylltwch â swyddfa docynnau Galeri am amseroedd a dyddiadau penodol: 01286 685 222. Galeri

8. Laureates for Lunch! (S)

12pm. Clwb Dre. £7, yn cynnwys danteithion/including nibbles.Dau fardd cenedlaethol mewn un ystafell! Bydd Carol Ann Duffy y Bardd Llawryfog a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, sydd wedi bod yn arwain cwrs barddoniaeth yn Nhŷ Newydd, yn darllen a sgwrsio dros frechdan neu ddwy.Two national poets in one room! Poet Laureate Carol Ann Duffy and National Poet of Wales, Gillian Clarke, fresh from leading a poetry masterclass at Tŷ Newydd writing centre, join us for conversation and readings. Palas Print, Tŷ Newydd

9. Rachel Trezise & Siân Melangell Dafydd (S)

1.30pm. Clwb Dre. £4Enillodd Rachel Trezise o’r Rhondda wobr Dylan Thomas yn 2006 a chafodd ei chynnwys ar restr Orange Futures. Bydd hi’n trafod ei nofel newydd Sixteen Shades of Crazy. Siân Melangell Dafydd speaks to the South Wales author - Dylan Thomas Prize winner and Orange Futures list nominee – about her new novel Sixteen Shades of Crazy, subtitled ‘Went out, got pissed. Same shit, different day.’ Palas Print, Academi

Sadwrn 24 GorffennafSaturday 24 July

Page 4: Rhaglen Gwyl Arall Programme

10. Caersaint - y gêm2pm. Palas Print. £3Gêm arbennig yn seiliedig ar nofel hwyliog a chrafog Angharad Price, Caersaint, yn difyrru ac yn herio pwy bynnag sydd ddigon dewr i’w chwarae.A special game based on a Welsh-language novel by Angharad Price, Caersaint. Are you brave enough to play? Cwmni Da, Cyfle

11. Niall Griffiths & Jon Gower (S)

3pm. Clwb Dre. £4Bydd Niall yn trafod ei gyfrol ddiweddaraf, Ronnie’s Dream, un o gyfres o lyfrau gomisiyn-wyd gan y cyhoeddwr Seren i gyflwyno straeon y Mabinogion i gynulleidfa newydd.Niall talks about his latest book, Ronnie’s Dream, one of a series based on the Mabinogion stories commissioned by Seren. Palas Print, Academi

12. Lansiad Taliesin (C)

5pm. Clwb Dre. £4Cyfle ecsglwsif i gael y cip cyntaf ar rifyn yr haf o’r cylchgrawn llenyddol Taliesin yng nghwmni’r golygyddion Angharad Elen a Siân Melangell Dafydd. Bydd Jon Gower yn holi Aled Jones-Williams, Gwilym Morus a Dewi Prysor am gysyniad yr ‘enaid’ a bydd rhagflas o ymateb Angharad Price ac Aneirin Karadog i ysgrifau TH Parry-Williams. Y cwbwl i gyfeiliant cerddorol Gwilym Morus.A sneak peek inside the new edition of Taliesin, the Academi’s Welsh language literary magazine, in the company of Jon Gower, Aled Jones-Williams, Dewi Prysor and Gwilym Morus. Academi

13. Stephen John Owen & Ann Catrin (T)

6pm. Neuadd y Farchnad. £4Magwyd Stephen yn un o naw o blant ar stad Maes Barcer yng Nghaernarfon, a dysgodd ei hun i beintio trwy astudio llyfrau Van Gogh a Klimt. Mae Ann Catrin yn gweithio fel gof yng Nglynllifon ac yn un o enwau mawr y byd celf yng Nghymru. Bydd Gwyn Jones, cyfarwyddwr Oriel Plas Glyn-y-Weddw, yn holi’r ddau.Stephen is a successful artist who was brought up in Caernarfon and taught himself to paint with the help of Van Gogh and Klimt art books. Ann Catrin is a renowned blacksmith who has won several commissions throughout Wales and has a workshop at Glynllifon. They will be talking to Gwyn Jones, director of Oriel Plas Glyn-y-Weddw.

14. Sesiwn Hacio’r Iaith Bach (C)

3-5pm. Gwesty’r Castell. Am ddim/free.Cyfle i bobl sy’n ymwneud â phrojectau gwe a thechnoleg yn y Gymraeg i rannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd mewn awyrgylch braf. Wi-fi ar gael.

15. Cofiland4-6pm. Porth Mawr. Am ddim/free.Cyfle unigryw i weld ffilmiau o fewn hen waliau’r castell. Byddwn yn cyflwyno Cofiland - cyfres o ffilmiau byrion am Gaernarfon gan gyfarwyddwyr lleol a hefyd yn dangos cymysgedd o hen archif am y dref.A once in a blue moon opportunity to watch films within the old castle walls. We will introduce Cofiland - a series of short films based on Caernarfon by local film makers - and showing some archive footage of the town. CADW, Cwmni Da

Sadwrn 24 GorffennafSaturday 24 July

Page 5: Rhaglen Gwyl Arall Programme

Casa Wendy a Tudur Owen7.30pm. Galeri. £10Bwyd ag iddo naws Mecsicanaidd sydd ar y fwydlen heno – chili a tapas i boethi’r tafod a digon o dynnu coes i aros pryd. Bydd cyfle i flasu bwyd sy’n cael ei goginio yn y fan a’r lle gan bencampwraig Casa Dudley 2008, Wendy Thomas a hynny yng nghwmni’r digrifwr Tudur Owen.

16. Nia Medi yn holi/talks to Howard Marks & Rhys Ifans (T)

8pm. Neuadd y Farchnad.Dim tocynnau ar ôl/sold out.DJ Nia Medi sy’n cyflwyno’r awdur a’r cyn-smyglwr cyffuriau Howard Marks yn sgwrsio efo’r actor Rhys Ifans, wnaeth bortreadu Howard yn ddiweddar yn y ffilm Mr Nice.DJ Nia Medi presents writer and former drug smuggler Howard Marks in conversation with friend and actor Rhys Ifans, who recently portrayed him in the film Mr Nice. Palas Print, Antena

17. Meic Stevens & Mr Huw10pm. Anglesey. Am ddim/free.Dewch i ddymuno ‘Nos Du, Nos Da’ yng nghwmni cerddor amlycaf y byd canu cyfoes Cymraeg. Mae Meic wedi cyfansoddi a pherfformio ers y 1960au, ac yn medru troi ei law at werin, roc neu blŵs. Mae nifer o’i ganeuon bellach yn rhan o gof cenedl.Meic Stevens hails from Solfach in Pembrokeshire, and has played a major part in the development of popular Welsh music since the 1960s. He is often referred to as ‘the Welsh Dylan.’ Stevens’ songs have a faintly psychedelic flavour, his guitar techniques are exceptional and he has a special gift for composing music and lyrics.

Mae hi’n anodd diffinio miwsig Mr Huw; mae’n feistr ar chwarae â synau a delweddau, ac mae ambell gân yn dduach na’r disgwyl. Bydd yn defnyddio curiadau electronig syml a hypnotig, ond daw ei athrylith i’r fei trwy gyfrwng ei eiriau a’i storïau.Mr Huw challenges genre and boundaries; he combines and arranges his music effectively and does so with great imagination and skilled musical expression. He presents bare electronic beats, sometimes hypnotic, but it is Mr Huw’s lyrical and imagery skills that make him a genius.

Sadwrn 24 GorffennafSaturday 24 July

Page 6: Rhaglen Gwyl Arall Programme

Celf Gŵyl Arall Art10am-6pm. Am ddim/free.Arddangosfa Celf Gŵyl Arall yn parhau.Celf Gŵyl Arall Art continues.

18. Jim Perrin a Siân Melangell Dafydd (S)

12pm. Neuadd y Farchnad. £4Bydd Siân Melangell Dafydd yn sgwrsio gyda Jim Perrin, un o awduron taith a natur amlyca’ Prydain, am ei gyfrol ddiweddaraf West – sy’n adrodd hanes ei fywyd yng nghyd-destun marwolaeth ei wraig a’i fab, a’r teithiau anhygoel y buon nhw arnynt fel teulu.Jim Perrin is one of Britain’s most highly regarded writers on travel, nature and the outdoors and in his youth was one of the country’s most notable rock-climbers. West tells the story of Jim Perrin’s own life against the lives and deaths of his cherished wife and son, and the landscapes through which they travelled together. Palas Print, Academi

19. Gwyn Thomas a Karen Owen (C)

1.30pm. Neuadd y Farchnad. £4Karen Owen yn sgwrsio gyda’r Athro Gwyn Thomas am ei waith, gan gynnwys ei gyfrol ddiweddaraf Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjiocled.The former National Poet of Wales talks to Karen Owen about his latest collection. Palas Print

20. Sesiwn Werin Gŵyl Arall Folk Session2-4pm. Anglesey. Am ddim/free.Dewch ag offeryn i ymuno efo’r sesiwn.Enjoy listening or bring an instrument and join in.

21. Ma Nhw Me Fi (C)

2.30-4.30pm. Neuadd y Farchnad. £5Taith gerdded o gwmpas tafarndai’r dre gyda stori ym mhob un a chyfle i dorri syched. Dan arweiniad medrus Emrys Jones. Anaddas i blant.

22. Bedwyr Williams (S)

2.45pm. Ymgynnull/meet at Bar Doc, Galeri. £5Trip ar gwch bleser y ‘Queen of the Sea’ ar hyd y Fenai a pherfformiad newydd sbon ar gyfer yr ŵyl gan yr artist Bedwyr Williams. Anaddas i blant.A boat trip on the Menai onboard the ‘Queen of The Sea’ with an exclusive performance from the artist Bedwyr Williams. Not suitable for children.

23. Elfyn Lewis a Dewi Glyn (T)

4.30pm. Neuadd y Farchnad. £4Elfyn Lewis, yr arlunydd o Borthmadog, oedd enillydd Medal Aur Eisteddfod y Bala y llynedd ynghyd â gwobr Artist y Flwyddyn fis diwethaf. Mae’n creu tirluniau trawiadol, trwy bentyrru haenau o baent dros gyfnod o amser. Bydd yn sgwrsio gyda’r ffotograffydd adnabyddus Dewi Glyn.Porthmadog-born Elfyn Lewis has recently won great acclaim for his work, winning both the Gold Medal at the National Eisteddfod in 2009 and this year’s Welsh Artist of the Year prize. He creates vivid landscapes by layering and manipulating paint. He will be discussing his work with Dewi Glyn, the well-known fine art photographer.

Sul 25 GorffennafSunday 25 July

Page 7: Rhaglen Gwyl Arall Programme

24. Dafydd James a Ffion Dafis (T)

5.30pm. Neuadd y Farchnad. £4Sgwrs efo awdur y ddrama hynod lwyddiannus Llwyth a seren a chyd-awdur y sioe gerdd gomedi My Name Is Sue a enillodd wobr Total Theatre Award for Music and Theatre yng ngŵyl Caeredin yn 2009. ‘Does gen i ddim amheuaeth mai un talp o ddyfeisgarwch dramatig ydi Dafydd James!’ – Paul Griffiths, Y Cymro.Ffion Dafis talks to playwright and co-winner of the Total Theatre Award for Music and Theatre at Edinburgh Festival 2009 Dafydd James about his work.

Marchnad y Cymry12pm-7pm. Gŵyl Gardd Goll.Mwy o stondinau gan grefftwyr lleol.More local craft stalls.

25. Meic Stevens a Branwen Niclas (C)

1.30pm. Llwyfan Arall, Gŵyl Gardd Goll.Sgwrs efo’r dewin o Solfach am ei fywyd unigryw a chyfle i glywed ambell glasur.

26. Cofiland2.30pm. Llwyfan Arall, Gŵyl Gardd Goll.Ail-ddangosiad o’r gyfres o ffilmiau byrion am Caernarfon.Another chance to see the series of short films based on Caernarfon.

27. Gwyneth Glyn a Dafydd Emyr (C)

3.30pm. Llwyfan Arall, Gŵyl Gardd Goll.Orig yng nghwmni Mr a Mrs Emyr. Bydd yr awdures-gantores a’r actor-awdur yn sgwrsio am eu taith ddiweddar i dde America ac yn perfformio ambell gerdd a chân.

28. Noson 4a6 (C)

8pm. Neuadd y Farchnad. £5Yr unigryw Arwel ‘Pod’ Roberts sy’n cyflwyno perffomiadau gan Siân James a’r band ac yn cadw trefn ar feirdd y Stomp Bach. Ymysg y rhai fydd yn ceisio cipio stôl yr ŵyl oddi ar y pencampwr presennol, Rhys Iorwerth, fydd Karen Owen, Geraint Løvgreen, Mair Tomos Ifans a Dewi Prysor. Bydd elw’r noson hon yn mynd tuag at ddatblygu talent ysgrifennu er cof am Angharad Jones. Academi

29. Yr Ods & Yr Angen9pm ymlaen. Morgan Lloyd. Am ddim/free.‘Ma nhw’n ifanc, rhywle rhwng y Super Furry Animals a’r Arctic Monkeys, ac ma ganddyn nhw ganeuon pop gwych, llawn egni,’ meddai Emily Eavis, wrth ddewis Yr Ods i chwarae yn Glastonbury. Yn ymuno â nhw mae’r Angen, enillwyr Brwydr y Bandiau C2 eleni.

30. Geraint Løvgreen a’r Enw Da10.30pm. Anglesey. Am ddim/free.Yn gorffen yr ŵyl mewn steil.

Sul 25 GorffennafSunday 25 July

Page 8: Rhaglen Gwyl Arall Programme

ClwbDre

PalasPrint

Tocynnau

Neuadd y Farchnad

Porth Mawr

Gwesty’r Castell

Morgan Lloyd

Anglesey

Clwt y MawnTurf

Square

Y Maes

STRYD FAWR

BANC CEI

STRY

D Y

CAST

ELL

STRY

D Y

JÊL

STRY

D Y

PLAS

PEN DEITSH

Y BO

NT

BRID

D

TAN

Y BON

T PENLLYN

STRYD Y LLYN

TRE’R GOF

STRY

D BA

NGO

R

BALA

CLAF

A

Parcio

Parcio

Parcio

CEI LLECHI

Castell

Doc Fictoria

Y Fenai

Galeri

Man ymgynnull trip cwch / boat trip

meeting place

CAERNARFON

Diolch / Thanks

Cyngor TrefCaernarfon

GWESTY’RCASTELL