Upload
others
View
5
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Pan fydd rhywun yn marw
Cymorth ymarferol ac emosiynol ar amser anodd
* Mae galwadau am ddim o ffonau tŷ a ffonau symudol. Mae’n bosibl y bydd eich galwad yn cael ei recordio at ddibenion hyfforddi a monitro.
3
CyflwyniadRydym i gyd yn debyg o brofi profedigaeth ar ryw bwynt yn ein bywydau.
Mae’r llyfryn hwn yn cynnig trosolwg o’r materion ymarferol ac emosiynol y gallech chi eu hwynebu pan fydd rhywun sy’n agos atoch chi’n marw. Mae wedi’i rannu yn adrannau, er mwyn i chi allu dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi’n rhwydd.
Os nad ydych chi’n teimlo’n barod i ddarllen y llyfryn hwn eto, efallai y penderfynwch ddychwelyd ato rywbryd arall. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau i rywun edrych arno gyda chi, fel bod gennych gefnogaeth – fe allech chi ofyn i nyrs, cwnselydd profedigaeth, aelod o’r teulu neu ffrind.
Os hoffech chi siarad â rhywun, ffoniwch Llinell Gymorth Marie Curie ar 0800 090 2309* ewch i mariecurie.org.uk/support
4
Cynnwys
Adran 1: Camau cyntaf Rhestr wirio: yr ychydig ddyddiau cyntaf 10
Pan ddigwydd y farwolaeth 11Eich ymateb cychwynnol 11Arferion neu ddewisiadau adeg y farwolaeth 11Gofal ar ôl marwolaeth 12Dychwelyd meddyginiaethau 12
Gwirio ac ardystio’r farwolaeth 13Os bydd rhywun yn marw adref 13Os bydd rhywun yn marw mewn hosbis neu ysbyty 16Os bydd rhywun yn marw dramor 16Os oes angen post-mortem 16Beth sy’n digwydd ar ôl i’r farwolaeth gael ei gwirio a’i hardystio? 17
Cofrestru’r farwolaeth 18Ble i gofrestru’r farwolaeth 18Pwy all gofrestru’r farwolaeth? 19Beth fydd ei angen arnoch chi 19Ffurflenni y byddwch chi’n eu derbyn gan y cofrestrydd 20 Cael copïau o’r dystysgrif marwolaeth 21
Gwirio a oes Ewyllys 22Os nad oes Ewyllys 23Os oes problemau gyda’r Ewyllys neu’r trefniadau 24
Cynllunio’r angladd 24Dechrau arni 24Dweud wrth ffrindiau a theulu 25Dewis trefnydd angladdau 26Os nad ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau 27Defnyddio trefnydd angladdau 28
Pan fydd rhywun yn marw
5
Dewis arch 29Claddu 31Amlosgi 33Y seremoni 35Cynnwys pobl fregus 40Talu am yr angladd 42 Costau angladd 43
Adran 2: Materion cyfreithiol ac ariannol
Dweud wrth sefydliadau am farwolaeth 48Ysgutorion 48Adrannau llywodraeth 49Ailgyfeirio post 51
Os ydych chi’n delio ag ystad person 52Eich rôl fel ysgutor neu weinyddwr 52Geiriau y gallech chi eu clywed 55Dechrau arni 56Cymorth proffesiynol 57Delio â budd-daliadau, pensiynau neu yswiriant 57Delio â materion treth 59Derbyn a gwneud newidiadau i etifeddiaeth 60
Hawliau a budd-daliadau 61Hawliau eiddo 61Eich hawl i fudd-daliadau a chymorth arall 63Trefnu amser o’r gwaith (absenoldeb tosturiol) 64
Cynnwys
6
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
Ymdopi â galar 68Galaru yn eich ffordd eich hun 68Symptomau corfforol galar 72 Gofalu am eich hun 73
Derbyn cefnogaeth 74Cefnogaeth gan ffrindiau a theulu 74Gwybodaeth ac arweiniad ysgrifenedig 75 Cymunedau ar-lein 75 Llinellau cymorth ffôn 76 Cwnsela profedigaeth a seicotherapi 76 Cefnogaeth grŵp 77 Dychwelyd i’r gwaith 78 Cymryd rhan yn y gymuned leol 79 Pobl hŷn sy’n teimlo’n unig 80
Cefnogi pobl eraill 81Dweud wrth eraill am farwolaeth rhywun 81 Cefnogi ffrind neu aelod o’r teulu sy’n galaru 82
Adran 4: Cefnogi plant
Sut y gallai galar effeithio ar blant 89Sut y mae plant yn deall ac yn ymateb i farwolaeth 90Newidiadau mewn ymddygiad 92Trafod marwolaeth 93Pobl a all helpu 95
Helpu plant i ddweud ffarwel 96Yr angladd 96Cadw atgofion yn fyw 98Camau nesaf 99Dychwelyd i’r ysgol 100
Pan fydd rhywun yn marw
7
Cwestiynau y gallai plant eu gofyn 101Cwestiynau am farwolaeth 101Cwestiynau am yr hyn sy’n digwydd ar ôl marwolaeth 102Cwestiynau am angladdau 103Cwestiynau am y person sydd wedi marw 105Cwestiynau am sut y bydd y farwolaeth yn effeithio arnyn nhw 106Cwestiynau am bwy fydd yn gofalu amdanyn nhw 107Cwestiynau am y dyfodol 108
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
Llyfrau i oedolion 110
Llyfrau ar gyfer plant ac amdanynt 111
Sut y gall Marie Curie helpu 112
Sefydliadau defnyddiol 114Cymorth mewn profedigaeth 114Cefnogaeth i blant a’r rhai yn eu harddegau 118Cynllunio angladd 119Cyngor ar wasanaethau crefyddol a secwlar 120Cymorth cyfreithiol, budd-daliadau ac ariannol 122
Gwybodaeth bellach 126
8
Pan fydd rhywun yn marw
iSto
ck
9
Adran 1: Camau cyntaf
Adran 1: Camau cyntaf
Pan ddigwydd y farwolaeth 11
Gwirio ac ardystio’r farwolaeth 13
Cofrestru’r farwolaeth 18
Gwirio a oes Ewyllys 22
Cynllunio’r angladd 24
10
Pan fydd rhywun yn marw
Rhestr wirio: yr ychydig ddyddiau cyntafMae llawer i’w ystyried pan fydd rhywun yn marw. Dyma rai pethau ymarferol sydd fel arfer angen digwydd yn yr ychydig ddyddiau cyntaf. Fe’u hesbonnir yn fanylach ar y tudalennau a ganlyn. Nid ydynt bob amser yn digwydd yn yr un drefn.
• Rhaid i rywun sy’n bresennol ddweud wrth nyrs neu feddyg teulu’r person.
• Mae angen i weithiwr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig wirio’r farwolaeth, i gadarnhau bod y person wedi marw (a elwir yn ‘wiriad ffurfiol o farwolaeth’).
• Dylai bawb barchu unrhyw ddymuniadau a oedd gan y person am sut y dylid gofalu am eu corff.
• Dylai ffrindiau a theulu ffonio’r trefnydd angladdau, os ydynt yn defnyddio un. Fel arfer bydd y trefnydd angladdau yn dod ac yn casglu’r corff.
• Rhaid i feddyg ardystio’r farwolaeth trwy lenwi ‘tystysgrif feddygol o achos marwolaeth’ (mae hon yn wahanol i dystysgrif marwolaeth).
• Rhaid i ffrindiau a theulu fynd â’r dystysgrif feddygol o achos marwolaeth i’r cofrestrydd lleol i gofrestru’r farwolaeth. Yna bydd y cofrestrydd yn rhoddi’r ‘dystysgrif marwolaeth’ a ‘thystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi’. Rhaid rhoi’r rhain i’r trefnydd angladdau.
• Edrychwch am Ewyllys i weld pwy yw’r ysgutorion a enwyd (y bobl a fydd yn rhoi trefn ar faterion y person) ac a yw’r person wedi gadael cyfarwyddiadau ar gyfer eu hangladd.
Gallai hyn fod yn llawer i’w drefnu ar adeg a allai fod yn amser anodd iawn yn emosiynol. Nid oes angen i chi wneud popeth eich hun – gofynnwch am gefnogaeth gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, teulu a ffrindiau. Os ydych chi angen cefnogaeth neu wybodaeth, cysylltwch â Llinell Gymorth Marie Curie ar 0800 090 2309*.
11
Pan ddigwydd y farwolaethNid yw bob amser yn glir pa bryd y mae union foment y farwolaeth yn digwydd. Pan fydd person yn marw, efallai sylwch chi eu bod yn stopio anadlu, mae eu hwyneb yn ymlacio’n sydyn ac mae’n bosibl y byddan nhw’n edrych yn heddychlon.
Eich ymateb cychwynnol Mae’n amhosibl rhagweld sut y byddwch chi’n ymateb i farwolaeth rhywun sy’n annwyl i chi, hyd yn oed pan fyddwch chi’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd.
Efallai byddwch chi’n teimlo mewn sioc neu byddwch chi’n teimlo’n ddideimlad. Mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo anghrediniaeth ac nad yw’r hyn sydd wedi digwydd yn real. Mae’n bosibl y byddwch chi’n parhau – neu’n ceisio parhau – fel pe bai dim wedi digwydd. Yn yr ychydig funudau ac oriau cyntaf, mae’n bosibl y profwch chi lawer o wahanol deimladau ac emosiynau ar ôl i berson farw, ac mae hynny’n normal. Nid oes ffordd gywir nac anghywir o deimlo nac ymateb.
Os ydych chi ar eich pen eich hun adeg hyn, fe allech chi ofyn i deulu a ffrindiau, neu arweinydd ysbrydol neu grefyddol, i ddod i’ch cefnogi chi.
Darllenwch fwy am alar a sut y gallech chi deimlo ar dudalen 68.
Arferion neu ddewisiadau adeg y farwolaethOs oes gweithiwr proffesiynol gofal iechyd yn bresennol, bydd yn gwirio cynllun gofal y person i weld a oes unrhyw arferion crefyddol, neu arferion a dewisiadau eraill, sydd angen cadw atynt. Gallwch ddweud wrthynt a oes unrhyw beth y dylent neu na ddylent ei wneud. Byddant yn parchu eich dymuniadau a rhai'r person sydd wedi marw, hyd y gellir.
Adran 1: Camau cyntaf
12
Gofal ar ôl marwolaethGallai gofal ar ôl marwolaeth gynnwys golchi corff y person, eu gwisgo mewn dillad glân a rhoi trefn ar eu gwallt neu wisgo’u wig. Weithiau gelwir hyn yn ‘y defodau olaf’ neu ‘baratoi’r corff’, er bod hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.
Os yw Nyrs Marie Curie neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn bresennol, gallwch ofyn iddynt eich helpu chi gyda hyn, neu ofyn iddynt wneud hyn drosoch. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau bod yn bresennol wrth iddynt wneud hyn neu efallai byddai’n well gennych beidio â bod yn yr ystafell. Nid oes penderfyniad cywir nac anghywir – gwnewch yr hyn yr ydych chi’n gyfforddus yn ei wneud.
Os byddwch chi ar eich pen eich hun pan fydd y person yn marw, efallai y byddai’n gysur i chi wneud y tasgau hyn. Ar y llaw arall, efallai y byddwch chi’n gweld hyn yn drallodus, neu byddai’n well gennych adael i eraill ei wneud. Eto, gwnewch yr hyn yr ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn ei wneud.
Am resymau crefyddol neu bersonol, mae’n bosibl na fyddwch chi eisiau i weithiwr gofal iechyd proffesiynol baratoi’r corff. Dylai hyn fod yn y cynllun gofal ond rhowch wybod iddynt beth yw’ch dymuniadau.
Gadewch unrhyw gyfarpar (megis gyrrwr chwistrell) yn eu lle – bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eu tynnu ar ôl i’r farwolaeth gael ei gwirio.
Dychwelyd meddyginiaethauOs oes gan y person feddyginiaethau dros ben, mae’n bwysig cael gwared ar y rhain yn ddiogel. Ni ddylid eu cadw, na’u taflu yn y bin na’u fflysio i lawr y tŷ bach. Fel arfer dylid dychwelyd meddyginiaeth i fferyllfa. Dylid rhoi nodwyddau mewn cynhwysydd diogel – gofynnwch i weithiwr gofal iechyd proffesiynol beth i’w wneud â nhw. Gallai cael gwared ar y feddyginiaeth beri gofid i chi. Peidiwch â gwneud unrhyw beth nad ydych chi’n barod i’w wneud, ac os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, gofynnwch i’r nyrs am gymorth.
Pan fydd rhywun yn marw
13
Gwirio ac ardystio’r farwolaeth
Os bydd rhywun yn marw adref
Gwirio’r farwolaethGall meddyg, nyrs neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig arall wirio’r farwolaeth. Maen nhw’n gwneud hynny trwy gynnal rhai gwiriadau i wneud yn siŵr bod y person wedi marw. Gwell peidio â symud y corff o’r cartref cyn i’r gwiriadau hyn gael eu cynnal.
Os oes gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eisoes gyda chi, mae’n bosibl y byddant yn gallu gwirio’r farwolaeth. Os na, bydd angen i chi ffonio meddygfa’r meddyg teulu. Byddan nhw’n gwneud trefniadau i rywun ymweld â chi.
Os bydd y person yn marw gyda’r hwyr, dros nos, ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, ffoniwch y meddyg teulu a byddwch chi’n cael rhif i ffonio am feddyg.
Os yw Nyrs Marie Curie neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn bresennol adeg y farwolaeth, byddant yn gwirio cynllun gofal y person i weld a oes angen ffonio meddyg teulu neu a oes trefniadau eraill wedi’u gwneud.
Mae rhai Nyrsys Marie Curie wedi’u hyfforddi i wirio marwolaeth yng nghartref person. Os nad ydynt yn gallu gwneud hyn, gallant eich helpu chi i gysylltu â’r meddyg teulu neu nyrs ardal.
Cael tystysgrif feddygolBydd angen i feddyg ardystio’r farwolaeth. Fel arfer bydd meddyg teulu sydd wedi gweld y person yn ddiweddar yn gwneud hyn. Byddant yn llenwi tystysgrif feddygol o achos y farwolaeth os oedd y farwolaeth yn ddisgwyliedig a’u bod yn siŵr bod y farwolaeth o achosion naturiol.
Adran 1: Camau cyntaf
14
Pan fydd rhywun yn marw
Byddant hefyd yn rhoi hysbysiad i hysbysydd i chi, a fydd ynghlwm wrth y dystysgrif feddygol o achos y farwolaeth. Bydd yn dweud wrthych chi sut i gofrestru’r farwolaeth.
Weithiau bydd meddyg teulu yn gwirio ac yn ardystio’r farwolaeth ar yr un pryd. Os nad yw’r person sy’n gwirio’r farwolaeth yn gallu ei hardystio hefyd, bydd angen i chi gael tystysgrif feddygol o achos y farwolaeth gan y meddyg teulu y diwrnod wedyn. Os yw’r corff gyda’r trefnydd angladdau, byddant yn gweld y corff yno.
Efallai y bydd yn rhaid i’r meddyg teulu adrodd y farwolaeth wrth y crwner. Fel arfer digwydd hyn os oedd y farwolaeth yn sydyn neu’n annisgwyl, os nad oedd y meddyg teulu wedi gweld y person yn ystod eu salwch diwethaf, neu os gallai’r farwolaeth fod yn gysylltiedig â’u gwaith. Ceisiwch beidio â phoeni os yw’r farwolaeth yn cael ei hadrodd wrth y crwner. Efallai y bydd y crwner yn penderfynu bod achos y farwolaeth yn glir ac nad oes angen unrhyw ymchwiliad pellach. Neu efallai y byddant yn ymchwilio i pam a phryd digwyddodd y farwolaeth, o bosibl trwy gynnal post-mortem (gweler tudalen 16). Os oes gennych bryderon, cysylltwch â swyddfa’r crwner i weld beth fydd yn digwydd nesaf.
Y dystysgrif feddygol o achos y farwolaeth yw’r ddogfen y dylid mynd â hi i'r swyddfa gofrestru yn y cyngor lleol lle digwyddodd y farwolaeth (gweler tudalen 18). Mae’r rhan fwyaf o swyddfeydd cofrestru yn gofyn i chi drefnu apwyntiad o flaen llaw, felly gwell yw cysylltu â nhw yn gyntaf.
15
Ail ardystiad ar gyfer amlosgiYng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, os ydych chi’n bwriadu cael amlosgiad, bydd ail feddyg (nid meddyg y person fu farw) yn llenwi tystysgrif feddygol amlosgi. Mae’n bosibl y byddant yn eich ffonio chi i ofyn cwestiynau am y farwolaeth. Byddwch yn ymwybodol y gallai hyn beri gofid i chi – mae’n normal gweld y pethau hyn yn anodd.
Yn yr Alban, ni fydd angen ail feddyg i ardystio amlosgiad. Gallwch ddarllen mwy am y broses ardystio marwolaeth yn yr Alban yn gov.scot
Os ydych chi angen cefnogaeth y meddyg teuluOs ydych chi neu’ch teulu angen cefnogaeth gan y meddyg teulu yn ystod y cyfnod hwn, gallwch ofyn iddynt am help, hyd yn oed os nad nhw yw’ch meddyg teulu eich hun. Serch hynny, mae’n bosibl na fyddant bob amser yn gallu darparu cefnogaeth ar unwaith.
Cefnogaeth gan y nyrs Os oes gennych Nyrs Marie Curie neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn y tŷ pan fydd y person yn marw, dywedwch wrthynt os ydych eisiau iddynt aros. Os oes yn rhaid iddynt adael, gallant geisio trefnu i rywun arall fod gyda chi. Os byddai’n well gennych iddynt adael, dywedwch hynny.
Adran 1: Camau cyntaf
16
Os bydd rhywun yn marw mewn hosbis neu ysbytyMae gan hosbisau ac ysbytai eu trefniadau eu hunain ar gyfer gwirio ac ardystio marwolaeth. Byddant yn cyhoeddi tystysgrif feddygol o achos y farwolaeth ac yn rhoi gwybodaeth i chi am gofrestru’r farwolaeth.
Bydd aelod o staff yn cynnig cyngor i chi ar gysylltu â threfnydd angladdau, er mae’n bosibl na fyddant yn gallu argymell cwmni penodol. Gallwch ofyn iddynt hefyd beth i’w wneud nesaf os nad ydych chi’n bwriadu defnyddio trefnydd angladdau.
Os bydd rhywun yn marw dramorBydd proses wahanol i’w dilyn os bydd rhywun wedi marw dramor. Mae rhagor o wybodaeth ar GOV.UK neu gan Gyngor ar Bopeth (gweler tudalen 123).
Os oes angen post-mortemOs yw’r farwolaeth yn cael ei hadrodd wrth y crwner, mae’n bosibl y byddant yn penderfynu bod angen post-mortem. Mae hwn yn archwiliad o gorff i geisio canfod achos y farwolaeth.
Bydd post-mortem yn cael ei gynnal gan batholegydd sy’n gweithio i swyddfa’r crwner (yn yr Alban fe’i gelwir yn brocuradur ffisgal). Mae patholegydd yn feddyg sy’n helpu i ganfod achos y farwolaeth.
Unwaith y mae’r patholegydd wedi adnabod achos y farwolaeth, bydd y crwner yn anfon ffurflen at y cofrestrydd yn datgan achos y farwolaeth. Byddant hefyd yn anfon tystysgrif amlosgi os bydd y corff yn cael ei amlosgi.
Pan fydd rhywun yn marw
17
Beth sy’n digwydd ar ôl i’r farwolaeth gael ei gwirio a’i hardystio?Ar ôl i’r farwolaeth gael ei hardystio, mae’r cam nesaf yn dibynnu a ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau neu’n delio â’r trefniadau eich hun. Dylech wirio a oedd gan y person gynllun angladd ariannol (claddedigaeth neu amlosgiad y maen nhw eisoes wedi talu amdano). Mae gan yr Awdurdod Cynllunio Angladdau wasanaeth i helpu i olrhain cynlluniau os ydych chi’n meddwl y gallai fod gan y person gynllun ond na allwch ddod o hyd iddo (gweler tudalen 119).
Os ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau, gallwch gysylltu â nhw unwaith yr ydych chi’n barod. Am gyngor ar sut i ddewis trefnydd angladdau, gweler tudalen 26. Nid oes angen i chi frysio. Yn gyffredinol bydd y trefnydd angladdau yn dod o fewn awr i chi gysylltu â nhw.
Gallwch ofyn i’r trefnydd angladdau ddod ychydig yn hwyrach os ydych chi eisiau ychydig yn fwy o amser i eistedd gyda’r corff, aros i deulu neu ffrindiau gyrraedd, neu’n syml, cael amser i’ch hun.
Bydd rhai pobl yn ei chael hi’n anodd iawn gweld corff y person yn cael ei symud neu wylio’r paratoadau o flaen llaw. Fe allech chi ofyn i’r trefnydd angladdau beth fydd hyn yn ei olygu, gan y byddai’n well gan rai pobl adael yr ystafell.
Ar ôl i chi gysylltu â nhw, fel arfer bydd y trefnydd angladdau yn mynd â’r corff i ffwrdd yn weddol gyflym. Ond gan amlaf nid oes yn rhaid iddynt. Os ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau ac eisiau cadw’r corff adref am ychydig oriau, trafodwch hyn gyda nhw a byddant yn eich cynghori chi.
Gweler tudalen 24 am ragor o wybodaeth am gynllunio angladd.
Adran 1: Camau cyntaf
18
Cofrestru’r farwolaethRhaid cofrestru’r holl farwolaethau gyda’r cofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau. Rhaid gwneud hyn o fewn:• pum diwrnod yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon • wyth diwrnod yn yr Alban.
Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc. Fe allai fod yn wahanol os yw’r cofrestrydd yn cytuno i ymestyn y cyfnod, neu os yw’r farwolaeth wedi’i chyfeirio at y crwner.
Os yw’r farwolaeth wedi’i chyfeirio at y crwner, bydd angen i chi aros iddynt roi caniatâd i chi cyn y gallwch gofrestru’r farwolaeth. Nid oes cost am gofrestru marwolaeth ond bydd angen i chi dalu i gael copïau o’r dystysgrif farwolaeth.
Ble i gofrestru’r farwolaethPan fyddwch chi’n derbyn tystysgrif feddygol o achos y farwolaeth, gofynnwch am gyfeiriad y swyddfa gofrestru leol. Gallwch ddod o hyd i’ch swyddfa gofrestru leol ar-lein hefyd.
Yng Nghymru a Lloegr, mae’n well defnyddio’r swyddfa gofrestru sydd agosaf at y man lle bu farw’r person. Gallwch geisio defnyddio swyddfa gofrestru mewn ardal arall, ond gallai’r gwaith papur gymryd rhai dyddiau ac fe allai hyn oedi trefniadau’r angladd.
Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, gellir cofrestru’r farwolaeth yn swyddfa gofrestru unrhyw ardal neu gyngor.
Dim ond trwy apwyntiad y bydd llawer o swyddfeydd cofrestru yn gweld rhywun, felly mae’n well ffonio o flaen llaw i drefnu amser. Fel arfer fe gymer hi tua hanner awr i gofrestru marwolaeth.
Pan fydd rhywun yn marw
19
Pwy all gofrestru’r farwolaeth?Os na all aelod o’r teulu gofrestru’r farwolaeth, gall un o’r bobl a ganlyn ei chofrestru:• rhywun a oedd yn bresennol yn y farwolaeth• ysgutor y person neu gynrychiolydd cyfreithiol arall• perchennog neu breswylydd y rhan o’r adeilad lle digwyddodd y
farwolaeth os oeddynt yn ymwybodol o’r farwolaeth• y person sy’n trefnu’r angladd, ond nid y trefnydd angladdau.
Yng Ngogledd Iwerddon, gall yr isod gofrestru’r farwolaeth hefyd:• llywodraethwr, metron neu brif swyddog adeilad cyhoeddus lle
digwyddodd y farwolaeth• y person ddaeth o hyd i’r corff, neu sy’n cymryd gofal ohono.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth am bwy all gofrestru’r farwolaeth, gallwch ffonio’r swyddfa gofrestru.
Beth fydd ei angen arnoch chiRhaid i chi fynd â’r dystysgrif feddygol o achos y farwolaeth gyda chi i gofrestru’r farwolaeth. Bydd y meddyg teulu neu feddyg yr ysbyty yn rhoi hon i chi. Dylech ddod â ffurf adnabod (e.e. trwydded yrru) fel prawf o bwy ydych chi.
Dylech hefyd geisio dod â’r isod ar gyfer y person:• tystysgrif geni a phriodas neu bartneriaeth sifil • cerdyn meddygol y GIG• prawf o’u cyfeiriad, megis bil cyfleustodau• dogfennau yn ymwneud â derbyn pensiwn neu lwfansau llywodraeth• trwydded yrru• pasbort.
Adran 1: Camau cyntaf
20
Peidiwch â phoeni os na allwch ddod o hyd i bob un o’r rhain – byddwch chi’n dal yn gallu cofrestru’r farwolaeth hebddynt. Bydd y cofrestrydd eisiau gwybod:• enw llawn y person (adeg eu marwolaeth)• enwau eraill a ddefnyddiodd y person (e.e. enw genedigol neu
briodasol)• eu dyddiad a’u man geni, gan gynnwys y dref a’r sir os cawsant eu
geni yn y DU, neu dim ond y wlad os cawsant eu geni dramor• eu cyfeiriad diwethaf• eu galwedigaeth neu alwedigaeth ddiwethaf os oeddynt wedi
ymddeol• enw llawn eu gŵr, gwraig neu bartner sifil, os ydynt wedi marw• manylion unrhyw bensiwn y wladwriaeth neu fudd-dal arall y
wladwriaeth yr oeddynt yn eu derbyn.
Ffurflenni y byddwch chi’n eu derbyn gan y cofrestryddCymru a Lloegr Bydd y cofrestrydd yn rhoi dwy ddogfen i chi:• Tystysgrif ar gyfer Claddu ac Amlosgi. Gelwir hon yn aml yn
dystysgrif neu ffurflen werdd. Mae’n rhoi caniatâd i’r corff gael ei gladdu neu i gais am amlosgi gael ei wneud, a dylech ei rhoi i’r trefnydd angladdau.
• Tystysgrif Cofrestru Marwolaeth (ffurflen BD8). Gelwir hon hefyd yn dystysgrif marwolaeth. Byddwch chi angen hon er mwyn delio â materion y person os oedd yn derbyn pensiwn neu fudd-daliadau.
Yr AlbanBydd y cofrestrydd yn rhoi’r isod i chi:• Tystysgrif Cofrestru Marwolaeth (ffurflen 14) er mwyn cynnal yr
angladd.• Cofrestriad neu Hysbysiad o Farwolaeth (ffurflen 334/SI), y
byddwch chi ei hangen i ddelio â materion y person os oeddynt yn derbyn pensiwn neu fudd-daliadau.
Pan fydd rhywun yn marw
21
Gogledd IwerddonBydd y cofrestrydd yn rhoi’r isod i chi:• Ffurflen GRO41, sy’n rhoi caniatâd i chi gynnal yr angladd. • Tystysgrif Cofrestru Marwolaeth (ffurflen 36/BD8), y byddwch chi
ei hangen i ddelio â materion y person os oeddynt yn derbyn pensiwn neu fudd-daliadau.
Efallai y byddwch chi hefyd yn derbyn rhif ffôn a/neu gyfeirnod unigryw i’w ddefnyddio ar-lein ar gyfer gwasanaeth a elwir yn Dywedwch Wrthym Unwaith (yng Nghymru, yr Alban a’r rhan fwyaf o Loegr). Bydd y gwasanaeth hwn yn anfon manylion y person sydd wedi marw ymlaen at yr holl adrannau llywodraeth ganolog a lleol. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd y Gwasanaeth Profedigaeth yn anfon manylion ymlaen at unrhyw adran a dalodd fudd-daliadau i’r person a fu farw. Gweler tudalennau 48 i 51 am gymorth gyda dweud wrth sefydliadau am farwolaeth.
Os oes angen claddu’n gyflymMae angen i rai claddedigaethau ddigwydd o fewn 24 awr i’r farwolaeth. Er enghraifft, am resymau crefyddol neu ddiwylliannol. Gallwch gael cyngor gan y cofrestrydd lleol neu’r trefnydd angladdau am hyn.
Cael copïau o’r dystysgrif marwolaeth Ni allwch gynnal yr angladd na threfnu’r amlosgiad hyd nes y byddwch chi wedi derbyn y dystysgrif marwolaeth. Mae cofrestru’r farwolaeth am ddim, ond mae’n rhaid i chi dalu am y tystysgrifau marwolaeth. Fel arfer byddwch chi angen un copi ardystiedig (nid llungopi) ar gyfer pob cwmni yswiriant, banc neu gwmni pensiwn y byddwch chi’n ymdrin â nhw. Mae’n bosibl y bydd angen i chi roi copïau hefyd i’r ysgutor neu’r gweinyddwr sy’n delio ag eiddo’r person sydd wedi marw. Dylai ysgutor yr Ewyllys a’r cofrestrydd allu eich helpu chi i gyfrifo sawl copi fydd ei angen arnoch chi.
Adran 1: Camau cyntaf
22
Cost cael tystysgrif marwolaeth Mae cost copi ardystiedig yn amrywio ar draws y DU ond fel arfer mae rhwng £8 a £12. Ceisiwch gael digon o gopïau pan fyddwch chi’n cofrestru’r farwolaeth yn gyntaf oherwydd bydd prynu mwy yn hwyrach yn ddrutach weithiau.
Os gwelwch chi eich bod chi angen rhagor o gopïau, mae’r rhain ar gael o’r swyddfa gofrestru leol neu’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (Cymru a Lloegr), Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Gogledd Iwerddon, neu Gofnodion Cenedlaethol yr Alban.
Gwirio a oes Ewyllys Un o’r pethau cyntaf i’w gwneud yn dilyn marwolaeth yw gwirio a oes gan y person sydd wedi marw Ewyllys. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’n bosibl eu bod wedi gadael cyfarwyddiadau am drefniadau eu hangladd.
Gall hi fod yn anodd delio ag Ewyllys, yn enwedig pan fyddwch chi’n galaru am aelod o’r teulu neu ffrind. Os ydych chi angen cefnogaeth, mae’n bosibl bod help ar gael gan gyfreithiwr neu Gyngor ar Bopeth (gweler tudalen 123).
Prif ddiben yr Ewyllys yw:• penodi un neu’n fwy o bobl (a elwir yn ysgutorion) i ymgymryd
â chyfarwyddiadau’r Ewyllys a thasgau eraill sydd ynghlwm wrth weinyddu ystad y person
• amlinellu cyfarwyddiadau ynglŷn â throsglwyddo ystad y person sydd wedi marw (unrhyw eiddo, arian neu feddiannau).
Gan amlaf, dylai’r Ewyllys fod yn hawdd dod o hyd iddi, ond weithiau nid yw pethau mor syml. Os ydych chi’n gwybod pwy yw’r ysgutor yn barod, mae’n bosibl y byddant yn gwybod lle i ddod o hyd i’r Ewyllys. Er enghraifft, fe allai fod gyda gwaith papur ariannol y person sydd wedi marw, neu efallai ei bod wedi’i storio gyda chyfreithiwr neu fanc.
Pan fydd rhywun yn marw
23
Bydd gan yr ysgutor gyfrifoldeb dros weinyddu’r ystad ac yn aml bydd yn chwarae rôl allweddol wrth drefnu’r angladd. Os oedd gan y person a fu farw gyfrif banc, dywedwch wrth y banc eu bod wedi marw. Fel arfer bydd y banc yn caniatáu i’r ysgutor dalu treuliau’r angladd ar unwaith o’r cyfrif, cyhyd â bod gan y cyfrif ddigon o arian ynddo a bod yr ysgutor yn gallu dangos copi o’r dystysgrif marwolaeth (gweler tudalen 21) ac anfoneb wreiddiol yr angladd.
Os nad oes EwyllysMae marw heb wneud neu adael Ewyllys ddilys yn cael ei alw yn marw yn ddiewyllys. Bydd yn dal angen rhoi trefn ar yr ystad a’r person fydd yn ymgymryd â’r dasg hon yw’r gweinyddwr. Fel arfer y perthynas agosaf fydd hyn.
Os nad oes Ewyllys, bydd ystad y person yn cael ei ddosbarthu yn unol â rheolau diewyllysedd a draethir yn y gyfraith. Mae’r rheolau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wahanol i’r rheini yng Nghymru a Lloegr. Ond yn y pedair gwlad, mae’n blaenoriaethu unrhyw briod neu bartner sifil a phlant (gan gynnwys plant wedi’u mabwysiadu’n gyfreithiol).
Nid yw cyfreithiau diewyllysedd yn trosglwyddo unrhyw beth i bartner di-briod, llysblant, ffrindiau, elusennau na sefydliadau eraill.
Serch hynny, os oeddech chi’n ddibynnol yn ariannol ar y person a fu farw, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu hawlio cyfran o’u hystad (gallai hyn gynnwys y cartref). Gallai hyn fod yn berthnasol hefyd os oeddech chi’n gyd-ddibynnol ar eich gilydd – er enghraifft, yn rhannu biliau’r cartref. Ond byddwch chi angen cael cyngor gan gyfreithiwr am hyn (Gweler tudalennau 123-124).
Gweler tudalennau 123-124 am fanylion cyswllt eich cymdeithas gyfreithiol leol, a fydd yn gallu’ch helpu chi i ddod o hyd i gyfreithiwr.
Adran 1: Camau cyntaf
24
Os oes problemau gyda’r Ewyllys neu’r trefniadauOs bydd person yn gadael Ewyllys ond nad yw’r cyfarwyddiadau o’i mewn yn ymdrin â’r ystad gyfan, yna bydd cyfreithiau diewyllysedd yn berthnasol i’r rhan nad oedd wedi’i chynnwys. Gelwir y sefyllfa hon yn ddiewyllysedd rhannol.
Gall diewyllysedd rhannol fod yn gymwys hefyd os yw’r Ewyllys yn penodi ysgutorion sydd eisoes wedi marw neu nad ydynt yn dymuno ymgymryd â’r rôl. Yn yr achos hwn bydd gweinyddwr yn gorfod cymryd yr awenau.
Mae rhagor o wybodaeth am reolau diewyllysedd yn GOV.UK neu nidirect.gov.uk (Gogledd Iwerddon). Mae gennym wybodaeth bellach am greu Ewyllys hefyd yn mariecurie.org.uk/support neu gallwch ffonio Llinell Gymorth Marie Curie ar 0800 090 2309*.
Cynllunio’r angladdGall trefnu angladd fod yn anodd gan eich bod chi hefyd yn ceisio ymdopi â theimladau o golled a galar. Mae’r adran hon yn cynnig gwybodaeth gynhwysfawr am gynllunio angladd ac mae’n esbonio’r broses, er mwyn ceisio lleihau’r straen sydd arnoch.
Am gymorth gyda’ch teimladau ar yr amser anodd hwn, gweler tudalen 67.
Dechrau arniGall gofyn ychydig gwestiynau i’ch hun cyn i chi ddechrau eich helpu chi i gynllunio gyda hyder a thawelwch meddwl.• A wnaeth y person a fu farw ddweud wrthych chi beth yr oeddynt ei
eisiau neu adael cyfarwyddiadau yn yr Ewyllys? • A oedd y person eisiau cael eu claddu neu eu hamlosgi? A oedd y
person eisiau eu llwch mewn wrn neu wedi’u gwasgaru?
Pan fydd rhywun yn marw
25
• Pa fath o arch oedd y person ei heisiau? A oeddynt eisiau angladd ecogyfeillgar?
• Sut fyddwch chi’n talu am yr angladd? A oedd y person a fu farw wedi gwneud eu trefniadau eu hunan? A oes cynllun angladd wedi’i dalu yn barod neu yswiriant angladd?
• A oes gan aelodau’r teulu neu ffrindiau unrhyw ddymuniadau arbennig? Ydy rhywun eisiau gwneud darlleniad, chwarae cerddoriaeth benodol, neu gludo’r arch?
Os nad oes cyfarwyddiadau ffurfiol, bydd yr ysgutor a enwir yn yr Ewyllys neu’r person sy’n trefnu ac yn talu am yr angladd yn gwneud y penderfyniadau. Rhaid iddynt benderfynu hefyd os yw unrhyw ddymuniadau a fynegwyd gan y person a fu farw yn ymarferol, yn fforddiadwy ac yn dderbyniol i’r teulu a’r ffrindiau. Mae Ewyllys yn rhwymo mewn cyfraith ac eithrio cyfarwyddiadau’r angladd, felly mae’n iawn i beidio â dilyn dymuniadau penodol yr Ewyllys os nad ydynt yn bosibl neu’n ymarferol.
Dweud wrth ffrindiau a theuluGallwch chi ffonio, ysgrifennu neu anfon e-bost at deulu a ffrindiau ynglŷn â’r angladd. Gallwch hefyd osod cyhoeddiad am y farwolaeth mewn papur newydd. Os ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau, gallant wneud hyn ar eich rhan chi. Mae hon yn ffordd dda o gyrraedd pobl nad oeddynt mewn cysylltiad rheolaidd â’r person sydd wedi marw. Gallwch hefyd greu tudalen cyfryngau cymdeithasol er cof am y person a’i rhannu gyda phobl roeddynt yn eu hadnabod.
Pan fyddwch chi’n dweud wrth bobl am yr angladd:• dylech gynnwys dyddiad, amser a lleoliad yr angladd neu’r
digwyddiad coffáu• soniwch am unrhyw ddymuniadau am flodau neu roddion tuag at
elusen• er diogelwch, osgowch gynnwys gyfeiriad personol mewn
negeseuon cyhoeddus a threfnwch i rywun aros yn y tŷ yn ystod yr angladd os bydd cartref y person yn wag.
Adran 1: Camau cyntaf
26
Os oes oedolion bregus neu blant wedi’u heffeithio gan farwolaeth y person, ystyriwch sut y byddwch yn eu cynnwys nhw (gweler tudalen 40).
Mae rhagor o wybodaeth am ddweud wrth ffrindiau ac aelodau’r teulu am farwolaeth ar dudalen 81, ac am ddweud wrth sefydliadau ar dudalen 48.
Dewis trefnydd angladdauOs byddwch chi’n penderfynu defnyddio trefnydd angladdau, fe allai fod yn ddefnyddiol ystyried yr isod:• Edrychwch am aelod o gymdeithas broffesiynol megis Cymdeithas
Genedlaethol Trefnwyr Angladdau neu Gymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau Annibynnol a Pherthynol (gweler tudalen 119).
• Gofynnwch am argymhelliad gan ffrindiau, neu arweinydd ffydd lleol.• Os ydych chi eisiau angladd ecogyfeillgar neu gladdedigaeth mewn
coetir, cysylltwch â Chymdeithas Trefnwyr Angladdau Gwyrdd neu’r Ganolfan Marwolaeth Naturiol (gweler tudalen 119).
Cyn i chi fwrw ymlaenCysylltwch â nifer o drefnwyr angladdau yn eich ardal i gymharu prisiau a’r opsiynau sydd ar gael.
Pan fyddant yn rhoi dyfynbris i chi, dylai’r trefnydd angladdau wahanu eu ffioedd oddi wrth rhai trydydd partïon (mynwentydd, amlosgfeydd, eglwysi neu feddygon) er mwyn i chi allu cymharu costau. Gallant roi amcanbris ysgrifenedig i chi hefyd.
Gallwch ofyn am restr brisiau neu ddadansoddiad o’r gost i’ch helpu chi i benderfynu pa eitemau a gwasanaethau i’w dewis. Mae dadansoddiad llawn o gostau angladd ar gael ar dudalen 43.
Pan fydd rhywun yn marw
27
Dyma rai pethau i’w hystyried:• Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau dyddiad penodol, felly bydd angen
i chi wirio a yw ar gael.• Os ydych chi’n bwriadu trefnu rhan o’r angladd eich hun, gwiriwch
fod y trefnydd angladdau yn hapus â hyn. Bydd rhai yn gweld cyfrifoldebau penodol fel rhan o’u gwasanaeth tra bydd eraill yn fwy hyblyg.
• Nid yw bob amser yn rhatach gwneud pethau eich hun, felly gwiriwch y prisiau cyn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldebau.
• Hyd yn oed os byddwch chi’n gwneud eich trefniadau eich hun, bydd rhai trefnwyr angladdau yn gallu darparu rhai gwasanaethau am dâl. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddant yn gallu delio â dogfennau, cyflenwi arch syml, neu logi hers neu gerbyd arall. Mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu defnyddio’u corffdy hefyd.
Os nad ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdauNid oes yn rhaid i chi ddefnyddio trefnydd angladdau os nad ydych chi eisiau. Gallwch gysylltu â’ch adran mynwentydd ac amlosgi leol i gael gwybodaeth am drefnu angladd eich hun.
Gallai hyn fod yn angladd draddodiadol, neu’n un amgen megis claddedigaeth naturiol mewn coetir. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r adran mynwentydd ac amlosgi yn eich cyngor lleol neu’r Ganolfan Marwolaeth Naturiol (gweler tudalen 119).
Adran 1: Camau cyntaf
28
Defnyddio trefnydd angladdauOs hoffech chi ddefnyddio trefnydd angladdau, fe allai hyn wneud eich bywyd ychydig yn haws, ond fel arfer mae’n ddrutach. Mae nifer o wahanol opsiynau, gan gynnwys:• Mae’r trefnydd angladdau yn gwneud yr holl drefniadau gyda’ch
cyfarwyddyd chi er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr angladd yr ydych chi a’r teulu ei eisiau (o fewn cyfyngiadau’r gyfraith a’r hyn y gallwch chi ei fforddio).
• Bydd y trefnydd angladdau yn gwneud y rhan fwyaf o’r trefniadau, ond chi fydd yn dewis y caneuon, y gerddoriaeth, yr emynau neu’r darlleniadau.
• Chi fydd yn trefnu’r angladd, ond y trefnydd angladdau fydd yn trefnu rhai eitemau neu wasanaethau megis yr arch neu’r hers.
Gweler tudalen 119 am restr o sefydliadau defnyddiol.
Talu am angladd Peidiwch â theimlo embaras wrth ofyn am opsiwn symlach neu ratach, a pheidiwch â theimlo dan bwysau i wneud dewisiadau na allwch eu fforddio. Mae llawer o bobl yn trefnu angladdau ac yna’n ei chael hi’n anodd talu amdanynt.
Cwestiynau i’w gofyn i drefnydd angladdauDyma rai cwestiynau y gallech chi fod eisiau eu gofyn i’r trefnydd angladdau:• Pa wasanaethau ydych chi’n eu darparu?• A allwn ni ddewis o’ch rhestr o wasanaethau a dim ond talu am y rhai
yr ydym yn eu dewis?• Beth y mae’ch costau yn eu cynnwys?• A oes unrhyw eitemau yn eich dyfynbris yn opsiynol neu a oes
dewisiadau amgen?• Pa bryd y mae angen i ni dalu’r bil?• A oes angen i ni dalu blaendal?
Pan fydd rhywun yn marw
29
• A ydych chi’n gyfforddus yn cyflwyno’r dewisiadau yr ydym wedi’u trafod?
• A allwn ni brynu arch neu ei chyfwerth o ffynhonnell arall?• A allwn ni ddarparu ein trafnidiaeth ein hun?• A all ffrindiau neu aelodau’r teulu gludo’r arch?
EmbalmioEmbalmio yw’r broses o drin y corff ar ôl marwolaeth i’w atal rhag darfod. Mae’n bosibl y bydd yn cael ei alw yn ‘driniaeth hylan’ hefyd. Mae rhai trefnwyr angladdau yn cynnig y gwasanaeth hwn ac efallai y byddant yn ei awgrymu, yn enwedig os oes bwlch o nifer o wythnosau rhwng y farwolaeth a’r angladd, a bod ffrindiau ac aelodau’r teulu eisiau gweld y corff. Nid yw rhai mannau claddu gwyrdd yn caniatáu i gyrff sydd wedi’u hembalmio gael eu claddu yno. Efallai y byddwch chi eisiau trafod y materion hyn gyda’ch trefnydd angladdau.
Dewis archMae amrywiaeth eang o eirch ar gael o amryw leoedd. Gofynnwch a yw’r arch yn addas i’r man claddu neu amlosgi cyn ei phrynu. Gall costau amrywio’n eang felly gwiriwch y rhestr brisiau hefyd.
Bydd llawer o bobl yn defnyddio arch bren draddodiadol. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau:• prynu un gan drefnydd angladdau• archebu un gan saer• prynu un ar-lein • adeiladu un eich hun (os oes gennych y sgiliau gwaith coed
angenrheidiol).
Eirch amgenOs byddai’n well gennych arch amgen, mae ystod eang o eirch i ddewis o’u plith. Gallwch addurno’r rhain eich hun hefyd. Mae’n bosibl hefyd defnyddio amdo syml, megis cynfas gladdu, er dim ond rhai o’r rhain sy’n addas ar gyfer amlosgi.
Adran 1: Camau cyntaf
30
Gall rhai eirch amgen gostio cymaint, neu hyd yn oed mwy nag arch draddodiadol felly gwiriwch y pris cyn prynu un. Fe allan nhw fod wedi’u gwneud o:• wlân• helyg, bambŵ, cyrs a ffibrau naturiol eraill wedi’u plethu• cardbord, sy’n gryf ac yn fwy deniadol nag y byddech chi’n dychmygu.
Gallwch wisgo, addurno neu beintio’r eirch hyn. Os yw rhywun yn mynd i gael ei amlosgi, gwiriwch gyda’r amlosgfa am gyfyngiadau posibl. Mae’n bosibl na fydd rhai mathau o baent yn cael eu caniatáu oherwydd rheolau llygredd.
Dewis amgen yw rhentu arch allanol o bren (a elwir weithiau yn orchudd arch) ar gyfer y gwasanaeth, a phrynu arch fewnol o gardbord. Ar ôl y gwasanaeth, dim ond yr arch fewnol sy’n cael ei defnyddio ar gyfer claddu neu amlosgi.
Pan fydd rhywun yn marw
Ecoffi
ns®
31
CladduBydd y cofrestrydd yn rhoi ‘Tystysgrif Claddu neu Amlosgi’ i chi (a elwir weithiau yn ‘ffurflen werdd’) i chi roi i’r trefnydd angladdau (gweler tudalen 20 am ragor o fanylion). Yna gall y trefnydd angladdau wneud trefniadau ar gyfer y gladdedigaeth ar sail eich dymuniadau.
Os nad ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau, rhowch y ffurflen werdd i’r rheolwr yn y man lle bydd y person yn cael ei gladdu.
Dyma rai awgrymiadau am drefnu claddedigaeth. Gall trefnydd angladdau, os ydych chi’n defnyddio un, roi gwybodaeth i chi hefyd am y gwahanol opsiynau yn eich ardal.• Os oedd y person a fu farw eisiau cael eu claddu mewn mynwent
eglwys, gall offeiriad y plwyf drefnu hyn. Nid yw rhai ar agor mwyach ar gyfer claddu oherwydd diffyg lle.
• Er mwyn trefnu claddedigaeth mewn mynwent a redir gan y cyngor, rydych chi angen plot bedd. Gall rheolwr y fynwent eich cynghori chi (gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar wefan y cyngor). Gallai’r gost amrywio gan ddibynnu ar p’un a oedd y person yn byw yn yr ardal. Mae’n bosibl bod y person sydd wedi marw wedi prynu plot bedd mewn mynwent o flaen llaw, os felly gwiriwch am Weithred Caniatáu neu Hawl Unigryw i Gladdu ymhlith eu gwaith papur.
• Mae’r rhan fwyaf o fynwentydd yn agored i unrhyw enwad. Mae hyn yn golygu y gallwch chi gynnal gwasanaethau o bron bob math ar eu tir.
• Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau defnyddio man claddu naturiol. Mae’r rhain yn cynnwys safleoedd claddu mewn coetir, gwarchodfeydd natur a safleoedd claddu mewn dolydd.
• Gallwch hefyd gladdu eich ffrind neu aelod o’r teulu ar eu tir eu hunain. Mae rhai rheolau ond nid cymaint ag y byddech chi’n disgwyl. Os ydych chi eisiau cael gwybod am hyn, cysylltwch â’r Ganolfan Marwolaeth Naturiol (gweler tudalen 119).
Adran 1: Camau cyntaf
32
Nodi’r llecynMae’n bosibl y byddwch chi eisiau nodi’r llecyn lle mae’ch ffrind neu aelod o’r teulu wedi’u claddu gyda phlac, carreg fedd, coeden neu fath arall o gofeb. Gall rheolwr y fynwent neu’r man claddu roi gwybodaeth i chi am yr hyn a ganiateir a beth yw’r costau.
Os yw’r bedd ar dir preifat (megis coetir preifat neu dir fferm), gwiriwch ei ddiogelwch hirdymor. Mae hyn er mwyn sicrhau nad oes cynlluniau i ddefnyddio’r tir ar gyfer rhywbeth arall a allai aflonyddu’r bedd.
Pan fydd rhywun yn marw
Blue
bell
Gla
de -
Gre
enA
cres
Woo
dlan
d Bu
rials
– R
ainf
ord
Roedd hi’n edrych yn syfrdanol o hardd, wedi’i rhoi i orwedd gyda blodau. Roedd yn edrych fel pe bai’r canser wedi gadael ei chorff. Roedd hi’n edrych yn dda iawn a dyna fydd fy atgof parhaus o Mandy.Vincent, aelod o’r teulu
33
AmlosgiOs yw’r person sydd wedi marw yn cael eu hamlosgi, bydd angen ychydig o waith papur cyn bwrw ymlaen. Gall y trefnydd angladdau a rheolwr yr amlosgfa eich cynghori chi os nad ydych chi’n siŵr pa ffurflenni y mae eu hangen arnoch chi. Mae’r weithdrefn fwy neu lai yr un fath yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ymhlith y ffurflenni a ddefnyddir amlaf y mae:• Cais i amlosgi corff y person sydd wedi marw. Bydd y trefnydd
angladdau yn eich helpu chi i lenwi’r ffurflen hon, neu gallwch ofyn yn yr amlosgfa. Fel arfer bydd gan yr amlosgfa hefyd ei ffurflen ei hun yn gofyn am gyfarwyddiadau ar gyfer y llwch.
• Ffurflenni meddygon. Mae’r meddyg yn llofnodi’r dystysgrif marwolaeth am ddim. Ond pan fydd person yn cael eu hamlosgi, mae’n rhaid i’r meddyg a ardystiodd y farwolaeth, a meddyg arall nad oedd yn gysylltiedig â gofalu am y person a fu farw, lenwi ffurflen. Rhaid i chi dalu am y ffurflenni hyn. Os ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau, bydd y gost yn rhan o’u halldaliadau (y rhain yw’r taliadau y byddan nhw’n eu gwneud i eraill ar eich rhan).
• Tystysgrif y crwner/procuradur ffisgal (Yr Alban). Os oes archwiliad post-mortem wedi’i gynnal bydd hon yn disodli’r ffurflen werdd gan y cofrestrydd.
• Awdurdodi amlosgi’r ymadawedig gan ganolwr meddygol. Meddyg yr amlosgfa sy’n darparu’r ffurflen hon, sy’n caniatáu i’r amlosgiad fynd rhagddo.
Adran 1: Camau cyntaf
34
Gweithdrefnau a chyfyngiadau• Gwiriwch y terfyn amser gyda’r amlosgfa os ydych chi’n trefnu’r
angladd. Os ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau, byddan nhw’n gwneud hyn. Mae’n debyg y bydd yr amlosgfa angen y ffurflenni o leiaf 24 awr cyn y gwasanaeth. Yna bydd staff yr amlosgfa yn adolygu’r ffurflenni ac yn awdurdodi’r amlosgiad.
• Mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch ei roi yn arch rhywun sy’n cael ei amlosgi. Gallai eitemau gwaharddedig gynnwys gwydr, metel ac eitemau sy’n cynnwys plastig neu PVC. Fel arfer mae dillad wedi’u gwneud o ffibrau artiffisial ac esgidiau â gwadnau rwber yn iawn. Gall y trefnydd angladdau neu staff yr amlosgfa eich cynghori chi.
• Os oedd gan y person a fu farw reoliadur y galon neu fath arall o fewnblaniad bydd yn rhaid ei dynnu cyn yr amlosgiad. Gall y trefnydd angladdau neu staff yr amlosgfa eich cynghori chi. Mae rhai mewnblaniadau angen eu dadactifadu cyn eu tynnu, felly mae’n bosibl y byddwch chi angen cymorth meddygol gyda hyn.
Beth i’w wneud gyda’r llwchBydd yr amlosgfa yn gofyn i chi beth yr ydych chi eisiau ei wneud gyda’r llwch. Mae’n bosibl bod y person sydd wedi marw wedi dweud wrthych chi beth maen nhw eisiau i chi ei wneud â’r llwch. Os nad ydynt, a’ch bod chi’n ansicr beth i’w wneud, mae’n bosibl y gallai’r amlosgfa neu’r trefnydd angladdau eu storio i chi am gyfnod penodol wrth i chi benderfynu beth i’w wneud. Ymhlith yr opsiynau y mae:• Eu gwasgaru yng Ngardd Goffa’r amlosgfa.
Os nad oes cyfarwyddiadau eraill ar gyfer y llwch dyma fydd yn digwydd fel arfer, er bod yr amlosgfa angen caniatâd gan y teulu cyn gwneud hynny.
• Eu gwasgaru mewn lle ystyrlon – er enghraifft, gardd, y môr, neu rywle yr oeddech chi wedi ymweld ag ef gyda’ch gilydd (gwiriwch a ydych chi angen caniatâd).
• Trefnu i’r llwch gael eu cadw mewn beddrod neu eu claddu mewn mynwent neu blot teuluol mewn mynwent.
• Eu cadw nhw adref mewn blwch neu wrn.
Pan fydd rhywun yn marw
35
Y seremoniGallech chi ddechrau trwy ystyried beth fyddai dymuniadau’r person, a gofyn i deulu a ffrindiau:• A wnaeth y person a fu farw drafod pa fath o seremoni y byddent yn
ei hoffi neu adael arweiniad ysgrifenedig?• A oedd ganddynt hoff ganeuon, cerddi, emynau neu ddarlleniadau y
gallech chi eu cynnwys?• A oedd y person a fu farw o ddiwylliant neu grefydd benodol? Os
felly, a oes unrhyw ofynion arbennig y mae angen i chi eu hystyried?
Os nad yw’n glir beth oedd dymuniadau’r person, efallai y byddai gan deulu, ffrindiau, arweinwyr ffydd neu drefnwyr angladdau syniadau. Efallai y gwelwch chi awgrymiadau mewn llyfrau ac ar wefannau hefyd.
Mathau a nifer y seremonïau Gall seremonïau gynnig cyfle i fyfyrio a dweud ffarwel. Gallwch gael gwasanaeth angladd a seremoni lle byddwch chi’n gwasgaru’r llwch, a chael gwasanaeth coffa yn ddiweddarach. Neu gallwch gael un gwasanaeth yn unig, neu dim gwasanaeth o gwbl. Dim ond y chi sy’n gwybod beth sy’n addas i chi ac i’r person a fu farw.
Dyma rai opsiynau:• Cynnal y gladdedigaeth neu’r amlosgiad cyn gynted â phosibl – mae
rhai crefyddau yn gofyn am hyn.• Cynnal yr angladd ychydig wythnosau ar ôl marwolaeth y person ac,
os ydynt yn cael eu hamlosgi, gwasgaru’r llwch yn breifat. • Cadw’r gladdedigaeth neu’r amlosgiad yn ddigwyddiad preifat a
threfnu gwasanaeth coffa neu ddigwyddiad arall ar gyfer ystod ehangach o bobl yn ddiweddarach.
• Os cafodd y person ei gladdu, cynnal seremoni pan fydd y garreg fedd wedi’i chodi.
• Creu atgof o’r person mewn rhyw ffordd arall, er enghraifft, plannu coeden neu gysegru mainc parc iddynt. Gwiriwch a ydych chi angen caniatâd gan y cyngor neu’r tirfeddiannwr.
Adran 1: Camau cyntaf
36
Dewis y lleoliadDyma rai gwahanol opsiynau i’w hystyried ar gyfer cynnal gwasanaeth:• yn yr amlosgfa neu wrth y bedd • mewn man addoli megis eglwys, mosg neu deml • mewn man lle'r oedd y person yn mwynhau treulio amser, megis yn
eu cartref, gardd neu ganolfan gymunedol leol.
Mae’r rhan fwyaf o amlosgfeydd a mynwentydd yn cynnwys cael defnyddio’u capel neu ystafell weddi yn eu costau, (os oes un ar gael – nid oes gan bob amlosgfa ystafell weddi). Bydd yr ystafell yn addas i bob crefydd ac i bobl heb gred grefyddol.
Gallwch drafod hyn â staff amlosgfa a mynwent ymlaen llaw (neu ofyn i’r trefnydd angladdau wneud hynny), i sicrhau bod y lleoliad yn briodol ar y diwrnod, yn enwedig os oes gennych geisiadau arbennig.
Hersiau a thrafnidiaethGallwch drafod â’r trefnydd angladdau pa fath o hers (y cerbyd ar gyfer cludo’r arch) yr hoffech chi a ph’un a hoffech chi gerbydau i gludo ffrindiau a theulu. Os ydych chi’n trefnu’r angladd eich hun, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu rhentu hers neu gerbyd addas arall gan drefnydd angladdau i gludo’r arch i’r angladd.
Nid oes yn rhaid i chi ddefnyddio hers – mae lorïau, tractorau a cherbydau eraill wedi’u defnyddio yn y gorffennol.
Pan fydd rhywun yn marw
37
Rhoddion er cofBydd rhai pobl yn gofyn am rodd i elusen er cof am aelod o’u teulu neu ffrind. Mae’n un ffordd o gofio amdanynt a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn enw’r person a fu farw. Bydd rhai pobl yn gofyn am roddion yn hytrach nag anfon blodau. Gallwch drefnu’r casgliad eich hun neu ofyn i’ch trefnydd angladdau eich helpu i drefnu un.
Mae rhai pobl yn hoffi rhoi rhoddion bach i bobl sy’n mynychu’r angladd, megis pecynnau o hadau i’w plannu er cof am y person.
CerddoriaethYn aml mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o wasanaeth neu seremoni angladd. Gallwch gael pobl yn canu emynau neu chwarae recordiad:• pan fydd ffrindiau a theulu yn cyrraedd• wrth i’r arch adael yr eglwys (gyda chladdedigaeth) neu wrth i lenni’r
amlosgfa gau • pan fydd pobl yn gadael y seremoni• rhwng darlleniadau neu areithiau.
Mae’n bosibl y bydd gennych eich syniadau eich hun neu fe all y trefnydd angladdau neu arweinydd ffydd eich cynghori chi. Am awgrymiadau eraill gofynnwch i deulu neu ffrindiau, yn enwedig os oedd cerddoriaeth yn arbennig o bwysig i’r person. Gofynnwch i deulu neu ffrindiau am awgrymiadau eraill.
Mae’n bosibl y gallai’r amlosgfa neu leoliad arall lawrlwytho’r holl gerddoriaeth y dymunwch chi ei chwarae neu mae’n bosibl y byddan nhw’n gofyn i chi ddod â CDs gyda cherddoriaeth arnynt. Os ydynt yn lawrlwytho cerddoriaeth, byddai’n syniad gwrando arni o flaen llaw, i wirio bod ganddynt fersiwn gywir o’r gân.
Nid oes angen trwydded perfformio cyhoeddus ar gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae mewn angladd.
Adran 1: Camau cyntaf
38
DarlleniadauFel y gerddoriaeth, mae’r darlleniadau mewn angladd yn gyfle i adlewyrchu diddordebau neu gymeriad y person a helpu pobl i’w cofio. Os na allwch chi feddwl am unrhyw ddyfyniadau penodol o lyfr neu gerddi y gallent fod wedi’u hoffi, fe allech chi ofyn i rywun ysgrifennu rhywbeth personol ar eu cyfer.
Mae darlleniadau angladd poblogaidd ar gael ar-lein hefyd. Rhowch gynnig ar wefannau Natural Endings (naturalendings.co.uk) neu Lasting Post (lastingpost.com) am syniadau. Mae’r Co-operative Funeralcare wedi cynhyrchu canllaw fideo ar sut i ysgrifennu araith angladdol, y gallwch ei wylio ar eu gwefan (co-operativefuneralcare.co.uk).
Cyffyrddiadau arbennig eraillMae sawl peth y gallwch ei wneud i sicrhau bod yr angladd yn adlewyrchu personoliaeth y person sydd wedi marw. Mae’r rhain yn cynnwys: • gofyn i deulu a ffrindiau gludo’r arch (os ydyn nhw a’r trefnydd
angladdau yn cytuno)• gofyn i bobl wisgo hoff liwiau’r person fu farw• arddangos rhai lluniau mawr o’r person yn y seremoni • gosod hoff eitem y person sydd wedi marw ar ben yr arch (e.e. hoff
het, clwb golff, llyfr neu ffilm)• gofyn i westeion ysgrifennu atgof o’r person ar gerdyn ac yna gosod y
rheini ar hysbysfwrdd.
Gwasanaethau crefyddol neu secwlarOs ydych chi’n ansicr beth sy’n briodol neu’n cael ei ganiatáu ar ôl gwirio dymuniadau olaf y person a gofyn i deulu a ffrindiau, gwiriwch gyda'r arweinydd ffydd, y gweinydd neu’r person sy’n arwain y seremoni.
Pan fydd rhywun yn marw
39
Pwy fydd yn arwain y seremoni?Os ydych chi’n cael seremoni grefyddol, fel arfer yr arweinydd ffydd fydd yn arwain y seremoni. Os nad yw’n seremoni grefyddol, mae’n bosibl y bydd y trefnydd angladdau (os ydych chi’n defnyddio un) yn awgrymu ‘gweinydd’ secwlar neu sifil (rhywun sy’n perfformio’r gwasanaeth).
Er mwyn dewis eich gweinydd eich hun, cysylltwch â’r Institute of Civil Funerals, Humanists UK neu Humanist Society Scotland, neu Humani yng Ngogledd Iwerddon (gweler tudalen 120).
Gallwch chi fod yn weinydd eich hun hefyd. Mae gan y Ganolfan Marwolaeth Naturiol wybodaeth am hyn. Gweler tudalen 119 am fanylion cyswllt.
Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau i’r gweinydd neu’r arweinydd ffydd gynnal y gwasanaeth cyfan. Ond os ydych chi eisiau, gallwch chi ac aelodau eraill y teulu a ffrindiau gymryd rhan hefyd. Er enghraifft, fe allech chi ofyn i’r arweinydd ffydd neu’r gweinydd ddechrau a gorffen y gwasanaeth neu ddweud gweddi. Gallwch chi a ffrindiau ac aelodau eraill y teulu roi darlleniadau neu ddweud ychydig eiriau am y person.
Adran 1: Camau cyntaf
iSto
ck
40
Cynnwys pobl fregusEfallai y byddwch chi eisiau ystyried sut i gynnwys pobl a allai weld y diwrnod yn arbennig o anodd neu ddryslyd.
Cynnwys plantYn yr un modd ag oedolion, mae plant yn hoffi gwybod beth sy’n digwydd ac eisiau teimlo’u bod yn cael eu cynnwys. Dyma rai cynghorion ar sut i’w cynnwys:• Esboniwch fod angladd yn gyfle i ddweud ffarwel a chofio’r person.• Dywedwch beth sy’n debyg o ddigwydd a phwy fydd gyda nhw ar y
diwrnod.• Gofynnwch a fyddent yn hoffi creu rhywbeth megis cerdyn
neu dynnu llun, neu ddewis blodau i’w rhoi ar ben yr arch. • Rhowch ddigon o amser iddynt ddewis a ydynt eisiau dod a cheisiwch
beidio â theimlo’n drist os nad ydynt eisiau dod. • Trefnwch i gael person cyfarwydd gyda nhw yn ystod y seremoni rhag
ofn y bydd y profiad yn ormod iddynt ac y byddant eisiau gadael yr angladd.
Mae gennym ragor o wybodaeth am gefnogi plant ar dudalen 87.
Cynnwys rhywun gyda dementia, anhawster dysgu neu broblemau iechyd meddwlGall marwolaeth aelod o’r teulu neu ffrind fod yn arbennig o anodd i rywun gyda dementia, anableddau dysgu neu broblem iechyd meddwl. Mae’n bosibl y byddant yn prosesu’r brofedigaeth yn wahanol iawn neu’n ei chael hi’n anodd deall bod rhywun sy’n annwyl iddynt wedi marw.
DementiaGallai fod yn bwysig i rywun gyda dementia ddod i’r angladd, yn enwedig os yw’r person sydd wedi marw yn rhywun agos, megis partner neu frawd neu chwaer.
Pan fydd rhywun yn marw
41
Os oes gan rywun dementia, mae’n bosibl y byddant yn anghofio eich bod chi wedi dweud wrthynt am y farwolaeth a byddant yn cael eu synnu, yn cynhyrfu neu’n ofnus. Gallai hyn olygu hefyd bod angen i chi ailadrodd eich hun.
Fe allech chi ofyn a all gofalwr neu aelod cyfarwydd o’r teulu eistedd gyda nhw yn ystod y gwasanaeth ac esbonio’r hyn sy’n digwydd.
Weithiau gall canu emynau cyfarwydd neu glywed hoff ganeuon fod yn gysur. Efallai y byddai cael llun o’r person sydd wedi marw ar flaen y drefn gwasanaeth yn eu helpu i ganolbwyntio ar beth yw diben y gwasanaeth.
Anableddau dysgu Bydd sut y mae person gydag anabledd dysgu yn ymateb yn dibynnu ar eu gallu i ddeall a phrosesu pethau, eu perthynas â’r person sydd wedi marw a phwy ydynt fel unigolyn. Ceisiwch ddefnyddio geiriau syml ac osgowch fwytheiriau megis maen nhw wedi ‘mynd i le gwell’ neu wedi ‘mynd i gysgu’, gan y gallai hyn fod yn ddryslyd. Mae gan Mencap (gweler tudalen 116) adnoddau i helpu pobl gydag anabledd dysgu i ddelio â galar a cholled.
Mae’n bosibl yr hoffai’r person gymryd rhan yn y penderfyniadau megis dewis blodau, caneuon neu luniau o’r person a fu farw. Gallwch hefyd esbonio beth fydd yn digwydd yn yr angladd a phwy fydd gyda nhw.
Problemau iechyd meddwl Gall problemau iechyd meddwl fod yn amrywiol ac yn gymhleth. Gallai’r ffordd y bydd person yn ymdopi â newyddion am farwolaeth rhywun annwyl iddynt ddibynnu ar y berthynas rhyngddynt a natur y broblem iechyd meddwl. Y chi neu rywun arall sy’n agos at y person fydd yn gwybod pa un yw’r ffordd orau o siarad â nhw am y peth. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau gofyn i weithiwr proffesiynol sy’n rhan o ofal y person pa un yw’r ffordd orau o’u cynnwys yn y trafodion.
Gallai mynychu’r angladd neu ddefod arall eu helpu i brosesu eu galar. Ond os nad yw’n briodol, mae’n bosibl y bydd gwahanol
Adran 1: Camau cyntaf
42
Pan fydd rhywun yn marw
opsiynau. Efallai y byddai’n well ganddynt fynychu rhai pethau megis gwasanaeth coffa neu wasgaru’r llwch, ond nid yr amlosgiad. Neu efallai y byddai’n well ganddynt ysgrifennu ychydig eiriau y gellid eu darllen yn eu habsenoldeb. Os nad ydynt wedi gallu mynychu, gallai cael y drefn gwasanaeth a’r lluniau wedyn fod o gymorth i wneud iddynt deimlo’n rhan o’r broses.
Talu am yr angladd
Ceisiwch beidio â theimlo dan bwysau i dalu am angladd na allwch chi ei fforddio. Mae’n bwysig peidio â threfnu angladd y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd talu amdano yn ddiweddarach.
Mae’n bosibl bod gan y person a fu farw gynllun angladd rhagdaledig, yswiriant neu arian arall wedi’i osod o’r neilltu. Gallwch wirio beth sy’n rhan o unrhyw gynllun. Nid yw rhai cynlluniau yn cynnwys eitemau penodol megis blodau, arlwyo ar gyfer y te (y derbyniad ar ôl y gwasanaeth) neu garreg goffa ar y bedd.
Fel arfer bydd costau angladd yn dod allan o ystad y person a rhaid eu talu ar ôl rhoi trefn ar rai dyledion a chymynroddion (rhoddion) eraill. Os nad oes digon o arian i dalu’r costau, rhaid i drefnydd yr angladd dalu’r gwahaniaeth. Os bydd hynny’n broblem, gweler tudalen 45.
Oni bai bod ystad y person yn weddol fach, ni allwch gael mynediad at yr arian nes bydd profiant (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon) neu gadarnhad o’r ystad (Yr Alban) yn cael ei ganiatáu. Gall hyn gymryd sawl mis.
Bydd y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu mawr, serch hynny, yn rhyddhau arian o gyfrifon y person i dalu’r bil angladd ar ôl gweld copi ardystiedig o’r dystysgrif marwolaeth (gweler tudalen 21).
43
Bydd gan rai banciau a chymdeithasau adeiladu staff profedigaeth arbennig a all eich cefnogi chi gyda hyn. Mae rhai trefnwyr angladdau yn gofyn am flaendal i dalu am gostau trydydd partïon sy’n daladwy cyn yr angladd (alldaliadau). Fel arfer bydd y bil terfynol yn cael ei anfon yn fuan ar ôl yr angladd. Costau angladdMae costau angladd yn y DU wedi cynyddu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly mae’n werth cael syniad o’r hyn sy’n ddisgwyliedig.
Yn gyffredinol, mae claddedigaethau yn ddrutach nag amlosgi, er ni fydd angen i chi drefnu a thalu am garreg fedd yn syth. Fel arfer byddwch chi’n aros o leiaf chwe mis ar ôl y gladdedigaeth er mwyn caniatáu amser i’r ddaear setlo.
Cyfanswm y costau Mae costau angladd yn amrywio gan ddibynnu ar ble’r ydych chi’n byw yn y DU. Amcan yw’r symiau a roddir isod, costau cyfartalog ar draws y DU. Maen nhw wedi’u seilio ar adroddiad 2018 gan SunLife ( cwmni yswiriant a chynllunio angladdau) a gallai’r union gostau amrywio.
Amlosgiad syml £3,600Claddedigaeth syml £4,800Ffarwel £2,100 (gweler 44 am fanylion)
Adran 1: Camau cyntaf
44
Pan fydd rhywun yn marw
Dadansoddiad o rai costau amlosgi a chladdu
Ffioedd trefnydd angladdau £2,600Ffioedd meddyg £164 (dim ffi yn yr Alban)Ffioedd arweinydd ffydd neu weinydd £160Ffioedd claddu £2,200Ffioedd amlosgi £850Carreg fedd £900
Bydd ffioedd trefnydd angladdau yn aml yn cynnwys arch, hers, casglu a gofalu am yr ymadawedig, ac arweiniad proffesiynol.
Ymhlith y costau ffarwel y mae:• gwasanaeth coffa• arlwyo ar gyfer y te (y derbyniad ar ôl yr angladd)• llogi lleoliad ar gyfer y te• blodau• taflenni trefn gwasanaeth• hysbysiad o farwolaeth neu ysgrif goffa• hysbysiad yn cyhoeddi amser a lleoliad yr angladd• limwsinau neu gerbydau.
Yr eitem ddrutaf fel arfer yw’r gwasanaeth coffa. Gan ddibynnu ar y lleoliad a ph’un a ydych chi’n defnyddio cwmni arlwyo, mae’n debyg mae’r eitem ddrutaf nesaf fydd y te.
45
Os nad oes digon o arianOs nad yw’n bosibl talu am yr angladd o ystad yr ymadawedig, fel arfer disgwylir i deulu a ffrindiau dalu amdano.
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol (gweler tudalen 124) beth gyngor defnyddiol ar ffyrdd o ostwng costau angladd.
Ymhlith y pethau eraill i’w hystyried:• Efallai y bydd y trefnydd angladdau yn cytuno i dderbyn taliad trwy
randaliadau.• Mae rhai elusennau a fydd yn helpu gyda chostau angladdau,
megis Friends of the Elderly (gweler tudalen 115).
Cymorth ariannol gan y llywodraethOs ydych chi’n trefnu angladd a’ch bod chi ar fudd-daliadau, mae’n bosibl y byddwch chi â’r hawl i hawlio Taliad Costau Angladd gan y llywodraeth tuag at gostau’r angladd. Rhaid i chi ymgeisio o fewn chwe mis i’r angladd.
I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn bartner i’r person a fu farw, neu’n aelod agos o’r teulu neu’n ffrind. Mae’n bosibl na fyddwch chi’n gymwys am Daliad Costau Angladd os oes gan y person a fu farw aelod agos o’r teulu, megis brawd neu chwaer neu riant, sy’n gweithio.
Bydd eich Taliad Costau Angladd yn cael ei dynnu o unrhyw arian y gallech chi ei dderbyn yn ddiweddarach o ystad y person sydd wedi marw.
Mae’n talu am y pethau sylfaenol megis ffioedd y claddu neu’r amlosgi a rhai’r meddygon ac mae’n rhoi swm o arian i chi tuag at gostau eraill (megis yr arch a ffioedd y trefnydd angladdau).
Adran 1: Camau cyntaf
46
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gallwch chi hawlio trwy ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth ar 0800 731 0469. Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch y Gwasanaeth Profedigaeth ar 0800 085 2463.
Mae Taliadau Costau Angladd yn wahanol i Daliadau Cymorth Profedigaeth (gweler tudalen 63), y gellir eu defnyddio hefyd i helpu gyda chostau angladd.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu am yr angladd neu’ch unig ffynhonnell arian yw Taliad Costau Angladd, dywedwch wrth eich trefnydd angladdau cyn i chi ymrwymo i wneud unrhyw drefniadau. Gallant eich cynghori chi ar beth i’w wneud.
Yn yr Alban, bydd Taliadau Costau Angladd yn cael eu disodli gan Gymorth Costau Angladd yn yr haf 2019. Bydd hyn yn newid pwy all ymgeisio a sut i ymgeisio. Ewch i gov.scot am ragor o wybodaeth.
Beth sy’n digwydd os bydd rhywun yn marw heb unrhyw arian na theulu? Os bydd rhywun yn marw heb ddigon o arian i dalu am angladd a heb unrhyw un i gymryd cyfrifoldeb drosto, rhaid i’r awdurdod lleol gladdu neu amlosgi’r ymadawedig. Fe’i gelwir yn ‘angladd iechyd cyhoeddus’ ac mae’n cynnwys arch a threfnydd angladdau i gludo’r person i’r amlosgfa neu’r fynwent.
Mae rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau a chymorth ariannol ar ein gwefan yn mariecurie.org.uk/support neu gallwch ffonio ein Llinell Gymorth ar 0800 090 2309*.
Pan fydd rhywun yn marw
47
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth cyfreithiol ac ariannol
Dweud wrth sefydliadau am farwolaeth 48
Os ydych chi’n delio ag ystad person 52
Hawliau a budd-daliadau 61
Adran 2: Materion cyfreithiol ac ariannol
48
Dweud wrth sefydliadau am farwolaethGall helpu i lunio rhestr o’r bobl a’r sefydliadau y gallai fod angen i chi ddweud wrthynt am farwolaeth y person. Dyma ychydig enghreifftiau:• cyflogwyr a chydweithwyr• adrannau llywodraeth • meddyg teulu’r person• banc, cwmnïau cerdyn credyd a morgais – i gau cyfrifon neu newid y
manylion• cwmnïau yswiriant• cwmnïau cyfleustodau, megis nwy, dŵr, trydan a ffôn• y landlord, os oes un i gael• Y Post Brenhinol• cwmnïau teledu neu ryngrwyd • eglwys, clybiau, undebau llafur neu unrhyw sefydliad arall yr oedd y
person a fu farw yn perthyn iddo• cyfrifydd a chyfreithiwr y person, ac unrhyw ysgutorion sydd wedi’u
penodi yn yr Ewyllys (gweler isod).
Gallai hyn ymddangos yn llethol i ddechrau. Mae’n bosibl ei fod yn rhywbeth y gall aelod arall o’r teulu neu ffrind eich helpu chi i wneud.
Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau cau cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y person neu edrych ar opsiynau i’w cadw, ond eu gwneud yn anweithredol.
YsgutorionMae dweud wrth bobl neu sefydliadau bod rhywun wedi marw yn wahanol i allu delio â’r ystad a’r profiant. Mae delio â’r ystad yn cael ei wneud gan yr ysgutorion, sy’n gyfrifol am roi trefn ar yr hyn yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno a’u dyled (gweler tudalen 52).
Pan fydd rhywun yn marw
49
Adrannau llywodraeth
Gwasanaeth Dywedwch Wrthym UnwaithMae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth a gynigir gan y rhan fwyaf, ond nid pob un, o gynghorau lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’n caniatáu i chi adrodd marwolaeth wrth y rhan fwyaf o sefydliadau llywodraeth ar un tro. Gall y cofrestrydd ddweud wrthych chi os yw ar gael yn eich ardal.
Ymhlith y sefydliadau y bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn cysylltu â nhw y mae:• Cynghorau Lleol - Swyddfa budd-daliadau tai a thai’r cyngor - Swyddfa budd-daliadau a thaliadau treth gyngor - Llyfrgelloedd - Bathodyn Glas - Gofal cymdeithasol i oedolion• Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi• Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau• Adran Gwaith a Phensiynau - Canolfan Byd Gwaith• Y Weinyddiaeth Amddiffyn - Cynllun Pensiynau Rhyfel• Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).
Os yw’ch swyddfa gofrestru leol yn cynnig y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, fel arfer dywedir hyn wrthych chi wrth gofrestru’r farwolaeth. Gofynnwch iddynt os nad yw’n cael ei grybwyll. Byddant yn rhoi cyfeirnod unigryw i chi a fydd yn caniatáu i chi gael mynediad at y gwasanaeth ar-lein. Fel arall, gallwch gysylltu â nhw ar y ffôn neu’n bersonol. Ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 085 7308 i ddefnyddio’r gwasanaeth ffôn.
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth gyfreithiol ac ariannol
50
Bydd angen i chi gofrestru’r farwolaeth cyn defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, oni bai bod cwest. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y bydd y crwner yn rhoi tystysgrif marwolaeth dros dro i chi. Serch hynny, ni fydd pob cyngor lleol yn caniatáu hyn.
Gallwch weld pa swyddfeydd cofrestru lleol sy’n cynnig y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gan ddefnyddio’r offeryn chwilio GOV.UK.
Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael yng Ngogledd Iwerddon, ond mae’r Gwasanaeth Profedigaeth (gweler tudalen 122) yn fan cyswllt sengl ar gyfer y Social Security Agency, a fydd yn arbed ychydig amser.
Fel arfer gallwch gwblhau’r broses Dywedwch Wrthym Unwaith unrhyw bryd o fewn 28 diwrnod i gofrestru yn gyntaf. Mae’r raddfa amser hon yn gymwys p’un a ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, yn bersonol neu dros y ffôn.
Beth fydd ei angen arnoch chi wrth ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym UnwaithYnghyd â’ch cyfeirnod unigryw, byddwch chi angen y wybodaeth a ganlyn wrth law am y person sydd wedi marw:• Rhif Yswiriant Gwladol • dyddiad a man geni• dyddiad y briodas neu bartneriaeth sifil• rhif trwydded yrru a rhif cofrestru cerbyd.
Byddwch chi hefyd angen:• manylion unrhyw fudd-daliadau yr oeddynt yn eu derbyn, gan
gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a phensiwn y lluoedd arfog• manylion unrhyw wasanaethau cyngor lleol yr oeddynt yn eu derbyn
e.e. Bathodyn Glas• enw a chyfeiriad y perthynas agosaf• enw a chyfeiriad gŵr, gwraig neu bartner sifil sy’n fyw
Pan fydd rhywun yn marw
51
• enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y person neu’r cwmni sy’n delio â’r ystad – yr ysgutor neu’r gweinyddwr.
Os na allwch chi ddod o hyd i’r holl ddogfennau, gallwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ond ni fydd yr holl sefydliadau yn cael eu hysbysu. Bydd yn rhaid i chi gysylltu â nhw yn unigol pan ddewch o hyd i’r wybodaeth.
Ailgyfeirio postAm ffi, gallwch ofyn i’r Swyddfa Bost ailgyfeirio post y person a fu farw. Gofynnwch yn Swyddfa’r Post am ffurflen o’r enw ‘Ailgyfeirio post mewn amgylchiadau arbennig’. Byddwch chi angen tystysgrif marwolaeth neu ddogfen Atwrneiaeth a phrawf o’ch hunaniaeth eich hun.
Gallwch hefyd roi stop ar bost sothach rhag cael ei anfon at y person sydd wedi marw trwy gofrestru’r farwolaeth am ddim gyda’r Gofrestr Profedigaeth (gweler tudalen 114). Serch hynny, mae’n bosibl na fydd hyn yn rhoi stop ar yr holl bost sothach.
Am ragor o wybodaeth am roi trefn ar fudd-daliadau, pensiwn, yswiriant neu faterion treth rhywun, gweler tudalen 57. Os nad chi yw’r ysgutor eich hun, mae’n syniad da siarad â’r ysgutor am bwy mae angen i chi gysylltu â nhw.
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth gyfreithiol ac ariannol
52
Os ydych chi’n delio ag ystad y person
Eich rôl fel ysgutor neu weinyddwrEich rôl fel ysgutor neu weinyddwr yw ymgeisio am brofiant (a elwir yn gadarnhad yn yr Alban). Os gadawodd y person Ewyllys, byddwch chi’n derbyn ‘grant profiant’. Os na wnaethant, byddwch chi’n derbyn ‘llythyrau gweinyddu’. Dyma’r dogfennau swyddogol sy’n caniatáu i chi fel ysgutor ddosbarthu ystad y person.
Mae’n bosibl bod y person sydd wedi marw wedi’ch penodi chi fel yr unig ysgutor neu weinyddwr, neu mae’n bosibl y byddant wedi penodi nifer o bobl.
Os na allwch chi fod yn ysgutor, neu os nad ydych chi’n dymuno bod yn un, gallwch chi ymgeisio am ‘ymwrthodiad’ (i’w ildio) neu i rywun weithredu fel cynrychiolydd i chi. Mae gwybodaeth am hyn yn GOV.UK (gweler tudalen 123) neu gallwch ofyn i gyfrifydd roi trefn arno ar eich cyfer chi.
Fel ysgutor, gallwch roi trefn ar y cyfan eich hun neu gallwch drosglwyddo peth neu’r cyfan ohono i gyfreithiwr. Yr ystad sy’n talu ffioedd y cyfreithiwr. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau defnyddio cyfreithiwr os yw’r ystad yn fawr iawn, os yw’n gymhleth gydag asedau yn cael eu dal dramor neu mewn ymddiriedolaeth, neu os yw’r ystad wedi methdalu (methdalwr).
Yn aml nid yw’n gymhleth bod yn ysgutor ond fe all fod yn drwm o ran amser. Gallwch hawlio treuliau o’r ystad megis costau postio a galwadau ffôn. Ni allwch godi tâl am eich amser, oni bai bod yr Ewyllys yn caniatáu hyn.
Pan fydd rhywun yn marw
53
I ymgeisio am brofiant neu lythyr gweinyddu mae angen i chi amcangyfrif gwerth yr ystad:• Dewch o hyd i bopeth yr oedd y person a fu farw yn berchen arno (a
elwir yn asedau). Gallai hyn gynnwys arian mewn cyfrifon banc, cynilion a buddsoddiadau, taliadau o yswiriant bywyd, eiddo, ceir, gemwaith, eitemau gwerthfawr eraill, dodrefn ac eiddo personol. Gallai hefyd gynnwys dyledion sy’n ddyledus i’r person fu farw – er enghraifft, treth wedi’i gordalu. Unwaith yr ydych chi wedi dod o hyd i holl asedau’r person, mae angen i chi hefyd ddiogelu eu gwerth. Mae hyn yn cynnwys hysbysu unrhyw gwmni yswiriant am farwolaeth y person i sicrhau bod sicrwydd gan yr asedau o hyd.
• Dewch o hyd i bob dyled a oedd gan y person a fu farw (rhwymedigaethau). Bydd hyn yn cynnwys unrhyw forgais, benthyciadau personol, balansau cerdyn credyd, biliau cartref heb eu talu a threth incwm heb ei thalu.
Yna gallwch greu ffeil gyfrifon ar gyfer yr ystad. Rhestrwch yr holl asedau a didynnu’r holl rwymedigaethau a threuliau angladd rhesymol i gyfrifo cyfanswm gwerth yr ystad.
Rydych chi angen yr amcangyfrif hwn i gyfrifo a oes angen talu treth etifeddiant. Daw’r rhan fwyaf o ystadau o dan y trothwy, ond mae’n rhaid i chi dalu’r dreth hon cyn y gellir caniatáu profiant. I ddarllen mwy am hyn a dod o hyd i’r trothwy cyfredol ar gyfer y dreth etifeddiant, ewch i GOV.UK (gweler tudalen 123).
Hyd yn oed os nad oes treth etifeddiant i’w thalu, rhaid i chi adrodd yr ystad wrth CThEM beth bynnag. Gallwch wneud hyn ar-lein yn GOV.UK.
Gallwch lenwi ffurflen dreth etifeddiant a thalu unrhyw dreth etifeddiant sy’n ddyledus. Gellir talu’r dreth sy’n ddyledus ar eiddo mewn rhandaliadau.
Yna gallwch chi ymgeisio am brofiant. Gallwch ymgeisio ar-lein yn GOV.UK, neu trwy’r post.
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth cyfreithiol ac ariannol
54
Unwaith y mae profiant neu lythyrau gweinyddu wedi’u caniatáu, mae hawl gennych chi i dalu dyledion yr ystad – fel arfer telir y rhain o’r ystad. Dylech hefyd ddod o hyd i’r holl bobl, elusennau a sefydliadau eraill a fydd yn etifeddu rhannau o’r ystad (a elwir yn fuddiolwyr) a dosbarthu eu hetifeddiaethau iddynt.
Yr AlbanOs bu farw’r person yn yr Alban, mae’r weithdrefn ar gyfer derbyn cadarnhad (profiant) yn cynnwys cyfrifo gwerth yr ystad fel uchod. Mae sawl gwahanol lwybr i dderbyn cadarnhad gan ddibynnu ar p’un a yw’r ystad yn fach neu’n fawr. Mae’r trothwy ar gyfer yr hyn sy’n cyfrif fel bach neu fawr, a nodiadau cyfarwyddyd ar lenwi ffurflenni ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban (gweler tudalen 125).
Pan fydd rhywun yn marw
Layt
on T
hom
pson
/Mar
ie C
urie
55
Geiriau y gallech chi eu clywedEwyllys Mae hon yn ddogfen sy’n rhwymo mewn cyfraith ac sy’n esbonio’r hyn yr oedd y person a fu farw eisiau gwneud â’u hasedau a’u meddiannau. Dylai hefyd gynnwys manylion pwy ddylai roi trefn ar eu materion ar ôl marwolaeth. Gelwir y bobl hyn yn ysgutorion.
Profiant Y caniatâd cyfreithiol a ganiateir gan y Gofrestrfa Profiant i ddelio ag ystad rhywun ar ôl iddynt farw. ‘Derbyn profiant’ yw’r broses o gasglu papurau rhywun ynghyd a gwneud cais am brofiant. Gwneir hyn fel arfer gan gyfreithiwr ac/neu’r ysgutorion (neu weinyddwyr, os nad oes Ewyllys).
Etifeddiaeth Pan fydd rhywun yn derbyn arian, eiddo neu feddiant personol arall y person sydd wedi marw. Gelwir y person sy’n etifeddu yn fuddiolwr. Mae’n bosibl y byddant yn etifeddu rhywbeth oherwydd eu bod yn cael eu crybwyll yn yr Ewyllys (yn yr achos hwn fe’i gelwir yn gymynrodd hefyd). Os nad yw’r person sydd wedi marw wedi gwneud Ewyllys gallai’r buddiolwr etifeddu rhywbeth os mai nhw yw’r perthynas agosaf nesaf.
DiewyllyseddPan fydd rhywun yn marw heb wneud Ewyllys dilys - fe’i gelwir hefyd yn ‘marw’n ddiewyllys’. Bydd yn dal angen rhoi trefn ar yr ystad a’r person fydd yn ymgymryd â’r dasg hon yw’r gweinyddwr. Fel arfer y perthynas agosaf fydd hyn.
Ymadawedig (yr) Dyma sut y gallai’r person sydd wedi marw gael eu disgrifio mewn dogfennau swyddogol.
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth cyfreithiol ac ariannol
56
Dechrau arniDyma rai awgrymiadau i wneud eich gwaith yn haws:• Darllenwch y canllaw ar-lein Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw:
fesul cam ar wefan GOV.UK (gweler tudalen 123), sy’n amlinellu beth i’w wneud a ble i gael help. Mae hefyd yn rhestru pwy sydd angen cael gwybod am y farwolaeth. Mae rhai gwahaniaethau rhanbarthol, ac mae’r wybodaeth honno yn y canllaw.
• Pan fyddwch chi’n mynd i’r swyddfa gofrestru i gofrestru’r farwolaeth, archebwch gopïau lluosog o’r dystysgrif marwolaeth (gall y staff eich cynghori chi ar sawl un y bydd eu hangen arnoch chi). Bydd angen i chi ddweud wrth nifer o sefydliadau am y farwolaeth. Bydd y rhan fwyaf angen gweld tystysgrif marwolaeth wreiddiol. Mae’n cyflymu’r broses os gallwch chi anfon nifer o dystysgrifau ar yr un pryd. Gellir darparu copïau lluosog yn ddiweddarach, ond mae’n rhatach eu harchebu wrth gofrestru’r farwolaeth yn gyntaf.
• Os oedd gan y person a fu farw gyfrif banc a bod digon o arian yn y cyfrif, bydd y banc fel arfer yn caniatáu talu costau angladd a threth etifeddiant ohono. Siaradwch â’r banc am hyn a sut i drefnu hyn.
• Gallwch hefyd agor cyfrif banc ysgutor. Gallwch roi arian o ystad y person (e.e. o werthu eu heiddo) yn y cyfrif hwn i’w ddosbarthu i’r buddiolwyr.
Rydych chi angen cael hawl gyfreithiol i ddelio ag eiddo rhywun cyn y gallwch chi ddosbarthu’r arian i’r buddiolwyr (pobl sy’n etifeddu). Fe’i gelwir yn derbyn ‘grant profiant’. Os na adawodd y person Ewyllys, byddwch chi’n derbyn ‘llythyrau gweinyddu’. Byddwch chi’n ymgeisio yn yr un ffordd ar gyfer y ddau.
Pan fydd rhywun yn marw
57
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth cyfreithiol ac ariannol
Os oedd y person a fu farw yn byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch ymgeisio ar-lein yn GOV.UK (gweler tudalen 123). Os oeddynt yn byw yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi lenwi ffurflen gais am apwyntiad ar gyfer cyfweliad profiant. Mae’r ffurflen hon ar gael ar wefan nidirect (gweler tudalen 124). Os oedd y person yn byw yn yr Alban, byddwch chi angen gwneud cais am ‘gadarnhad’ yn hytrach na phrofiant. Rydych chi’n gwneud cais i Lys y Siryf am hyn. Mae gan wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban (gweler tudalen 125) ganllaw fesul cam.
Cymorth proffesiynolHyd yn oed os ydych chi wedi penderfynu cymryd rôl yr ysgutor neu weinyddwr heb gyfreithiwr, mae’n bosibl y byddwch chi eisiau cyngor ar agwedd penodol o roi trefn ar yr ystad. Gweler tudalennau 122-125 am restr o sefydliadau a all eich helpu chi i ddod o hyd i gyfreithiwr a rhoi cyngor i chi.
Os bydd pethau’n mynd yn rhy gymhleth, gallwch chi newid eich meddwl bob amser a llogi cyfreithiwr i gymryd yr awenau. Telir ffioedd y cyfreithiwr o’r ystad. Gallwch ofyn i’r cyfreithiwr am amcangyfrif o’i gostau.
Delio â budd-daliadau, pensiynau neu yswiriantOs oedd y person a fu farw yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau eraill, rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Gymunedau.
Os yw ar gael yn eich ardal, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith (gweler tudalen 125) i wneud hyn.
58
Yn siroedd Lloegr, lle nad yw Dywedwch Wrthym Unwaith ar gael, cysylltwch â Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 731 0469.
Yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Profedigaeth ar 0800 085 2463 (gweler tudalen 122).
Bydd y gwasanaethau profedigaeth hyn yn talu unrhyw bensiwn neu fudd-daliadau sy’n ddyledus, yn rhoi stop ar daliadau’r dyfodol ac yn cynghori a oes unrhyw aelodau o’r teulu sy’n fyw o hyd yn gymwys am fudd-daliadau eu hunain.
Os oedd gan y person a fu farw bensiwn gwaith neu bensiwn personol, bydd angen i chi gysylltu â phob darparwr pensiwn. Mae hyn er mwyn:• i unrhyw swm sy’n ddyledus gael ei dalu i unrhyw fuddiolwr a
enwebwyd gan y person a fu farw neu eu hystad• rhoi stop ar unrhyw daliadau pensiwn yn y dyfodol • gwneud trefniadau i dalu unrhyw gyfandaliad
neu bensiynau goroeswyr.
Os ydych chi’n cael trafferth wrth olrhain y cynlluniau pensiwn hyn, mae’n bosibl y bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn yn gallu helpu – ffoniwch 0800 731 0193. Gall roi manylion cyswllt ar gyfer cynllun pensiwn ond ni all ddweud wrthych chi os oedd gan y person bensiwn. Byddwch chi angen enw’r cyflogwr neu’r darparwr pensiwn.
Os oedd gan y person a fu farw bolisïau yswiriant bywyd, cysylltwch â’r cwmni yswiriant am arweiniad ar sut i hawlio.
Am wybodaeth fanwl am bensiynau ac yswiriant gweler gwefan Marie Curie yn mariecurie.org.uk/support
Pan fydd rhywun yn marw
59
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth cyfreithiol ac ariannol
Delio â materion trethMae’n bosibl bod y person wedi marw hanner ffordd trwy flwyddyn dreth (sy’n rhedeg rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol). Mae’n bosibl bod angen iddynt dalu peth Treth Incwm neu fod ad-daliad yn ddyledus iddynt.
Pan fyddwch chi’n cofrestru’r farwolaeth, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith (gweler tudalen 49), a fydd yn hysbysu CThEM bod y person wedi marw. Yna bydd CThEM yn cysylltu â chi (neu’ch cyfreithiwr, os ydych chi’n defnyddio un) i ddweud wrthych chi beth i’w wneud. Os nad yw Dywedwch Wrthym Unwaith ar gael yn eich ardal chi yn Lloegr, ffoniwch Linell Brofedigaeth CThEM ar 0300 200 3300. Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch y Gwasanaeth Profedigaeth ar 0800 085 2463.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth yn nodi manylion incwm y person a fu farw ac yn hawlio unrhyw ostyngiad yn y dreth. Gall CThEM eich cynghori chi. Mae canllaw i dreth fesul cam ar gael hefyd ar y Gwasanaeth Cynghori Ariannol (gweler tudalen 124).
Pan fydd y cais profiant yn cychwyn (gwerthusiad profiant), gwneir amcangyfrif o faint yw gwerth yr eiddo sy’n perthyn i’r person sydd wedi marw. Os bydd yr eiddo yn gwerthu am fwy na’r amcangyfrif, fe allai fod angen talu Treth ar Enillion Cyfalaf (treth ar y cynnydd yng ngwerth yr eiddo).
60
Derbyn a gwneud newidiadau i etifeddiaethMae’n bosibl bod arian, eiddo, buddsoddiadau neu bethau eraill wedi’u gadael i chi gan y person a fu farw. Telir y Dreth Etifeddiant cyn i chi dderbyn yr arian hwn neu eitemau eraill.
Rhaid i’r ysgutor neu’r gweinyddwr dalu unrhyw ddyledion cyn y gallant drosglwyddo arian ac eitemau i bobl sydd yn eu hetifeddu. Os oes ased (e.e. eiddo) wedi’i adael i chi yn yr Ewyllys, ond nad oes digon o arian yn yr ystad i dalu dyledion y person, mae’n bosibl y bydd angen gwerthu’r eitem y dylech chi fod yn ei hetifeddu. Mynnwch gyngor gan gyfreithiwr ar hyn (gweler tudalennau 123-124).
Gwneud newidiadau Weithiau, pan fydd arian wedi’i adael i chi, mae’n bosibl y bydd yr ysgutor neu’r gweinyddwr yn gofyn a hoffech chi dderbyn peth asedau yn lle hynny. Fe allai fod yn emwaith, neu’n hen bethau, gan ddibynnu ar yr hyn sydd yn yr ystad. Nid oes yn rhaid i chi gytuno i hyn.
Nid oes yn rhaid i chi dderbyn etifeddiaeth o gwbl os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Os byddwch chi yn ei gwrthod, bydd yr ysgutor neu weinyddwr yn penderfynu pwy fydd yn ei derbyn yn lle hynny.
Mae’n bosibl newid Ewyllys person ar ôl iddynt farw cyhyd â bod unrhyw un sy’n etifeddu ac a fyddai’n waeth ei sefyllfa oherwydd y newidiadau yn cytuno i hynny. Er mwyn gwneud hyn, rydych chi angen gweithred amrywio. Gall hyn fod yn gymhleth, felly mae’n well derbyn cyngor gan gyfreithiwr (gweler tudalennau 123-124). Rhaid gwneud yr amrywiad o fewn dwy flynedd i’r farwolaeth.
Pan fydd rhywun yn marw
61
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth cyfreithiol ac ariannol
Hawliau a budd-daliadau
Hawliau eiddoOs oeddech chi’n byw gyda’r person sydd wedi marw, efallai y byddwch chi’n pryderu a allwch chi barhau i fyw yn yr un cartref.
Os oeddech chi’n rhannu cartref gyda nhw, mae eich hawl i aros yn dibynnu ar sut yr oeddech chi’n berchen neu’n rhentu’r cartref a beth oedd eich perthynas.
Gwahanol ffyrdd o fod yn berchen ar eiddo Pan fyddwch chi’n berchen ar eiddo, mae wedi’i gofrestru gyda Chofrestrfa Dir EM neu Gofrestrfa Dir yr Alban. Os oes dau neu’n fwy o bobl yn cyd-berchen arno , maen nhw wedi’u cofrestru naill ai fel tenantiaid ar y cyd (‘common owners’ yn yr Alban) neu gyd-denantiaid (‘common owners with a survivorship destination’ yn yr Alban).
Gall pobl sy’n berchen ar eiddo fel tenantiaid ar y cyd fod yn berchen ar wahanol gyfrannau yn yr eiddo. Gallant drosglwyddo eu cyfran i rywun arall. Nid yw’n mynd yn awtomatig i’r perchennog arall pan fyddant yn marw.
Mae gan gyd-denantiaid hawliau cyfartal i’r eiddo a bydd yr eiddo yn mynd i’r perchennog arall yn awtomatig pan fydd un yn marw.
Mae’r rhan fwyaf o gyplau priod a phartneriaid sifil yn dewis bod yn berchen ar eu cartrefi fel cyd-denantiaid. Os ydych chi’n gyd-denant, gallwch lenwi ffurflen DJP, sydd ar gael ar wefan GOV.UK (gweler tudalen 123), i dynnu enw’r ymadawedig o’r gofrestr.
62
Pan fydd rhywun yn marw
Os nad ydych chi’n gyd-denant, ni fyddwch chi’n etifeddu’r eiddo oni bai bod y person arall yn gadael eu cyfran o’r tŷ i chi yn eu Hewyllys. Mae’n bosibl y bydd peth Treth Etifeddiant i’w thalu, gan ddibynnu ar werth yr eiddo.
Gall hawliau eiddo fod yn gymhleth. Os oedd eich cartref yn perthyn i’r person a fu farw, mae’n bosibl y byddwch chi eisiau siarad â chyfreithiwr, elusen dai neu Gyngor ar Bopeth (gweler tudalen 123).
Os ydych chi’n rhentu Os oeddech chi’n cyd-rentu gan landlord preifat neu gyngor lleol, cymdeithas dai neu gorfforaeth dai gyda’r person sydd wedi marw, mae gennych yr hawl i barhau i rentu’r eiddo. Byddwch chi’n dod yn unig denant.
Os mai’r person sydd wedi marw yn unig oedd y tenant (os oeddech chi’n byw yno ond nad oedd eich enw ar y cytundeb rhent), gall y rheolau fod yn gymhleth ac mae’n amrywio yn ôl ble’r ydych chi’n byw. Gall yr elusen Shelter eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd tai (gweler tudalen 125).
Os ydych chi’n poeni y gallech chi golli’ch cartref, neu nad ydych chi’n ei etifeddu yn awtomatig, cysylltwch â chyfreithiwr, canolfan cyngor ar dai neu Gyngor ar Bopeth. Gweler tudalen 123 am fanylion cyswllt.
Mae gennym ragor o wybodaeth am hawliau eiddo ar ein gwefan yn mariecurie.org.uk/support
63
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth cyfreithiol ac ariannol
Eich hawl i fudd-daliadau a chymorth arall
Budd-daliadau profedigaethMae’n bosibl y byddwch chi’n gymwys am fudd-daliadau ar ôl i rywun farw. Mae’r rhain yn cynnwys:• Taliad Cymorth Profedigaeth• Budd-dal Plant os oes plentyn neu riant wedi marw• Taliadau neu Gymorth Costau Angladd (gweler tudalen 45)• Lwfans Gwarcheidwad (os ydych chi’n magu plentyn y mae eu
rhieni wedi marw)• Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw • Lwfans Rhiant Gweddw.
Mae gan GOV.UK wybodaeth am y rhain, gan gynnwys a ydych chi’n gymwys, a sut i wneud cais (gweler tudalen 123). Os defnyddioch chi’r Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith wrth gofrestru’r farwolaeth (gweler tudalen 49), byddant yn gwirio a ydych chi’n gymwys am fudd-daliadau. Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth ar 0345 606 0265, neu os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon ffoniwch 0800 085 2463.
Y Dreth Gyngor, pensiynau ac yswiriantOs ydych chi bellach yn byw ar eich pen eich hun, dywedwch wrth eich cyngor lleol. Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, fe allech chi fod yn gymwys am 25% oddi ar eich bil y Dreth Gyngor. Yng Ngogledd Iwerddon, fe allech chi fod yn gymwys am 20% oddi ar eich trethi os ydych chi’n 70 oed neu fwy ac yn byw ar eich pen eich hun.
Os oedd eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth pan fuont farw, fe allech chi fod yn gallu defnyddio’u cyfraniadau Yswiriant Gwladol i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i ddysgu mwy. Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Chanolfan Bensiwn Gogledd Iwerddon.
64
Pan fydd rhywun yn marw
Os oedd gan y person a fu farw bensiwn preifat neu alwedigaethol, dywedwch wrth y darparwr pensiwn. Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i beth arian.
Os oedd gan y person a fu farw yswiriant bywyd, cysylltwch â’r darparwr i weld beth sydd angen ei wneud nesaf.
Mae gennym ragor o wybodaeth am bensiynau a hawliau eiddo ar ein gwefan yn mariecurie.org.uk/support
Trefnu amser o’r gwaith (absenoldeb tosturiol)Mae absenoldeb tosturiol yn amser o’r gwaith am dâl neu ddi-dâl ar gyfer pobl o dan amgylchiadau anodd, megis pan fyddwch chi mewn profedigaeth. Mae gan lawer o gwmnïau bolisi ar gyfer absenoldeb tosturiol, felly gwiriwch eich cytundeb cyflogaeth neu lawlyfr staff. Bydd hyn yn dweud wrthych chi a oes swm penodol o amser yn cael ei ganiatáu, a ph’un a yw unrhyw amser o’r gwaith yn saib am dâl neu ddi-dâl.
Yn gyfreithiol fe ganiateir amser o’r gwaith ‘ar gyfer argyfwng sy’n ymwneud â dibynnydd’, a all gynnwys trefnu a mynychu angladd plentyn neu rywun arall a oedd yn ddibynnol arnoch chi. Gallai person dibynnol fod yn rhywun sydd wedi dibynnu arnoch chi am eu gofal. Nid oes gennych hawl i gyfnod penodol o amser – mae hynny’n benderfyniad i’ch cyflogwr. Mae’n bosibl nad oedd y person a fu farw yn ddibynnydd. Ond anaml bydd cyflogwyr yn gwrthod absenoldeb tosturiol os yw rhywun agos atoch chi wedi marw, felly siaradwch â nhw cyn gynted â phosibl. Bydd faint o amser y byddwch chi’n ei gael yn amrywio. Mae’n bosibl y bydd eich cyflogwr yn ei seilio ar faint o amser y mae pobl eraill yn y sefydliad wedi’i gael o dan amgylchiadau tebyg. Fe allai ddibynnu hefyd ar bwy fu farw – er enghraifft, mae’n bosibl y bydd cyflogwr yn rhoi mwy o amser i chi o’r gwaith ar gyfer partner neu blentyn nag ar gyfer nain neu daid.
65
Adran 2: Gwybodaeth a chymorth cyfreithiol ac ariannol
Mae rhai swyddi, megis gweithredu peiriannu trwm, yn gofyn am lawer o ffocws a chanolbwyntio. Os allech chi neu bobl eraill fod yn anniogel yn y gwaith oherwydd eich bod chi’n galaru neu â’ch meddwl ar bethau eraill, dylech siarad â’ch rheolwr llinell.
Os nad ydych chi’n cael amser o’r gwaith neu rydych yn cael eich trin yn annheg Nid oes yn rhaid i gyflogwyr roi absenoldeb tosturiol i chi, ond anaml y bydd yn cael ei wrthod. Os na fyddan nhw’n caniatáu absenoldeb tosturiol, gallwch ddefnyddio’ch dyraniad gwyliau neu ofyn am gymryd absenoldeb di-dâl.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi a’i fod yn effeithio ar eich iechyd, siaradwch â meddyg teulu. Nid yw profedigaeth yn cyfrif fel salwch. Ond os ydych chi’n dioddef o iselder neu orbryder oherwydd eich colled, fe allai hyn gyfrif fel salwch ac mae’n bosibl y bydd gennych hawl i dâl salwch statudol neu alwedigaethol.
Os byddwch chi’n cael absenoldeb tosturiol ond yn colli allan ar ddyrchafiad, hyfforddiant neu fudd-daliadau eraill o ganlyniad, gallwch gwyno. Os ydych chi angen cefnogaeth yn y gwaith a’ch bod yn aelod o undeb lafur, gallwch gysylltu â nhw. Neu gallwch gael cyngor trwy Acas neu Gyngor ar Bopeth (gweler tudalen 123).
Materion hirdymor Mae’n bosibl y bydd eich cyflogwr yn caniatáu sawl mis o absenoldeb tosturiol neu fwy i chi, os ydych chi ei angen. Gallai hyn fod yn ddi-dâl.
Os ydych chi ar absenoldeb tosturiol hirdymor ac nad ydych chi’n teimlo’ch bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith, gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu. Mae’n bosibl y cewch lythyr meddyg yn dweud nad ydych chi’n ffit i weithio oherwydd y brofedigaeth, a allai eich helpu chi i gyflwyno achos i’ch cyflogwr dros aros o’r gwaith yn hwy.
Mae gennym ragor o wybodaeth am alar a derbyn cefnogaeth ar dudalen 67.
66
Pan fydd rhywun yn marw
Newidiadau i’ch sefyllfaO ganlyniad i farwolaeth eich ffrind neu aelod o deulu, mae’n bosibl y bydd gennych gyfrifoldebau gofalu newydd. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch chi’n helpu rhiant sydd bellach yn byw ar eu pen eu hun. Neu efallai y byddwch chi’n gofalu am blentyn ar eich pen eich hun os yw’ch partner wedi marw. Gallwch drafod opsiynau gweithio hyblyg hirdymor gyda’ch cyflogwr. Cyhyd â’ch bod chi wedi gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, mae gennych hawl gyfreithiol i wneud cais am weithio hyblyg, er nad oes yn rhaid i’ch cyflogwr gytuno i hyn.
Yn anad dim, ceisiwch gyfathrebu yn rheolaidd drwy’r amser gyda’ch cyflogwr a rhowch wybod iddynt sut yr ydych chi’n teimlo. Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn gefnogol ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu.
Mae gan rai cyflogwyr mawr raglenni cynorthwyo gweithwyr, sy’n cynnig llinellau cymorth a chwnsela. Gallwch wirio gyda’ch cyflogwr i weld pa gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol fel arfer, sy’n golygu na fydd eich cyflogwyr yn derbyn unrhyw wybodaeth am yr hyn y byddwch chi’n ei ddweud wrth y cwnselydd neu gynghorydd y llinell gymorth.
Amser o’r ysgol i blant a’r rhai yn eu harddegauNid oes unrhyw bolisïau penodol i ddweud faint o amser o’r ysgol neu’r coleg y gall plant a’r rhai yn eu harddegau ei gymryd. Mae’n dibynnu ar yr unigolyn, y teulu a pholisi’r ysgol. Cysylltwch â’r ysgol cyn gynted ag y gallwch chi. Mae gan lawer o ysgolion bolisïau profedigaeth a gallwch siarad â nhw am sut y gallan nhw gefnogi’r plentyn neu’r person ifanc.
Gweler tudalen 87 am wybodaeth am gefnogi plant.
Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth ar faterion ariannol, cyfreithiol neu ymarferol pan fydd rhywun yn marw, ewch i mariecurie.org.uk/support
67
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chiAdran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chiAdran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
Ymdopi â galar 68
Derbyn cefnogaeth 74
Cefnogi pobl eraill 81
68
Ymdopi â galarMae profiadau pawb o alar yn unigol. Beth bynnag yr ydych chi’n ei deimlo, ceisiwch gofio bod hynny’n normal a bod pobl a all eich cefnogi chi os ydych chi ei angen.
Galaru yn eich ffordd eich hunMae galar yn ymateb naturiol i golli rhywun sy’n annwyl i chi. Nid oes ffordd gywir nac anghywir o alaru. Y peth pwysig yw gwneud yr hyn sy’n iawn i chi.
Gall galaru fod yn boenus ac nid oes modd ei drwsio na gwneud iddo ddiflannu. Ond bydd y galar a’r poen yn lleihau ac fe ddaw amser pan allwch chi addasu ac ymdopi heb y person sydd wedi marw.
Sut y gallech chi fod yn teimloNid dim ond un teimlad yw galar, ond emosiynau niferus sy’n dilyn ymlaen o un i’r llall. Efallai y gwelwch chi fod eich hwyliau yn newid yn gyflym, neu eich bod chi’n teimlo’n wahanol mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae pobl mewn profedigaeth weithiau yn dweud eu bod yn teimlo ‘i fyny ac i lawr’.
Pan fydd rhywun yn marw
Kier
an D
odds
/Mar
ie C
urie
69
Mae’n bosibl eich bod chi’n teimlo: • mewn sioc neu’n ddideimlad• yn drist• yn bryderus neu wedi cynhyrfu• yn flinedig iawn• wedi cael rhyddhad• yn euog• yn ddig• yn dawel• yn ddibwrpas• yn chwerw.
Mae’n bosibl y byddwch chi hefyd yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio neu wneud tasgau a fyddai’n hawdd fel arfer.
Nid oes ffordd gywir nac anghywir o deimlo nac amserlen ar gyfer galaru. Mae pawb yn wahanol.
Mae’n gyffredin i bobl newid rhwng teimlo’n iawn un funud ac yn drist y funud nesaf. Efallai y gwelwch chi fod y teimladau hyn yn dod fel tonnau neu fyrstiau – gall hyn fod yn anwadal a gwneud i chi deimlo’n bryderus, â chywilydd neu’n ofnus.
Bydd pobl yn gofyn weithiau am ba mor hir y byddan nhw’n galaru. Nid oes ateb da i hyn gan y bydd yn wahanol ar gyfer pob person. Efallai y bydd gennych wahanol deimladau sy’n mynd a dod dros fisoedd neu flynyddoedd. Yn raddol, mae pobl yn gweld nad yw eu teimladau o alar yna drwy’r amser ac nad ydynt mor anodd i ymdopi â nhw. Ar brydiau, mae’n bosibl y bydd y teimladau hyn yn parhau yn gryfach – er enghraifft, ar ddyddiadau pwysig, pen-blwyddi neu mewn mannau penodol.
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
70
Mi fydd rhai pobl yn gweld nad yw eu teimladau o alar yn lleihau, ac yn ei chael hi’n anodd dod i ben â gweithgareddau o ddydd i ddydd. Er enghraifft, efallai y byddant yn ei chael hi’n anodd mynd i’r gwaith, gofalu am blant neu gymdeithasu gyda ffrindiau. Os ydych chi’n profi hyn neu nad ydych chi’n gallu ymdopi, siaradwch â’ch meddyg teulu. Gallwch chi hefyd ffonio’r Samariaid ar 116 123.
Os hoffech chi siarad â rhywun am eich teimladau, cysylltwch â’r Ganolfan Cyngor ar Brofedigaeth, Cruse Bereavement Care neu Cruse Bereavement Care Scotland. Mae gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain gyfeiriadur hefyd o gwnselwyr ar draws y DU. Mae manylion cyswllt ar gyfer y rhain a sefydliadau defnyddiol eraill i’w cael ar dudalennau 114-117. Gallwch hefyd ffonio Llinell Gymorth Marie Curie am gefnogaeth emosiynol ar 0800 090 2309*.
Cymuned Marie CurieMae’n bosibl y byddwch chi eisiau rhannu profiadau a dod o hyd i gefnogaeth trwy siarad â phobl mewn sefyllfa debyg. Ewch i community.mariecurie.org.uk – mae’n ddiogel, yn hawdd ei defnyddio ac ar gael 24 awr y dydd.
Pan fydd rhywun yn marw
Roedd yr ychydig Nadoligau cyntaf heb fy ngŵr yn anodd. Rydym yn mynd allan ar gyfer y Nadolig yn awr fel ei fod yn wahanol, ac mae hynny’n gwneud pethau’n haws.Jennie, aelod o’r teulu
71
Nid yw pawb yn profi galar yn yr un fforddNid yw pobl bob amser yn galaru yn yr un ffordd – ni fydd pawb yn crio neu’n teimlo’n drist. Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo mewn sioc neu’n ddideimlad, yn enwedig yn ystod yr ychydig ddyddiau neu wythnosau cyntaf.
I eraill, mae marwolaeth ffrind agos neu aelod o’r teulu yn rhyddhad. Er enghraifft, os oedd gennych berthynas gymhleth â’r person neu os oeddynt mewn poen neu’n dioddef. Os mai dyna’r ffordd yr ydych chi’n teimlo, mae hynny’n iawn.
Os ydych chi’n teimlo’n drist, ond mae aelod agos o’r teulu yn ymddangos heb eu heffeithio, fe allai fod yn hawdd meddwl ‘nad ydynt yn poeni’. Ond mae galar yn wahanol i bawb, ac mae pobl yn ei brosesu mewn gwahanol ffyrdd. Meddwl am eich anwylydPan fydd rhywun yn marw fe all ymddangos bod rhan o’ch bywyd wedi dod i ben. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau dod o hyd i ffyrdd o drysori’ch perthynas gyda’r person. Gallai edrych ar luniau neu ysgrifennu’ch atgofion eich helpu chi. Gallai fod yn gysur trafod eich anwylyd gyda phobl eraill a oedd yn eu hadnabod yn dda.
Mae’n bosibl y byddwch chi’n profi hiraeth. Mae’n bosibl y byddwch chi’n breuddwydio amdanynt, neu’n meddwl eich bod yn clywed eu llais neu’n eu gweld yn y pellter. Mae hyn yn brofiad gweddol gyffredinol ar ôl i rywun farw. Fe allai fod o gymorth bod yn garedig i’ch hun a rhoi amser i’ch hun. Weithiau gall pobl boeni y byddant yn anghofio sut yr oedd eu hanwylyd yn edrych neu sŵn eu llais. Ond mae ffyrdd o gadw atgofion ohonynt yn fyw.
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
Rydych chi’n meddwl eich bod chi’n barod ond yna daw’r diwedd yn gyflym iawn. Mae’n rhyddhad mawr nad yw’r person yn dioddef mwyach ond mae’ch ochr hunanol eisiau iddynt aros gyda chi am byth. Natalie, aelod o’r teulu
72
Symptomau corfforol galarMae’n gyffredin i alar gynhyrchu symptomau corfforol. Gall hyn fod yn frawychus os nad ydych chi’n siŵr beth sy’n achosi’r symptomau.
Dyma rai o’r pethau y gallech chi eu profi:• teimlad gwag yn eich stumog• teimlad tynn yn eich brest neu wddf• gorsensitifrwydd i sŵn• anhawster wrth anadlu• teimlo’n flinedig ac yn wan• diffyg egni• ceg sych• colli’r awydd am fwyd neu gynnydd yn yr awydd am fwyd • ei chael hi’n anodd mynd i gysgu neu ofn mynd i gysgu• doluriau a phoenau.
Mae rhai pobl yn poeni bod y symptomau hyn yn arwydd eu bod yn ddifrifol wael. Mae’n syniad da siarad â’ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, yn enwedig os ydych chi’n teimlo’n bryderus am eich iechyd. Byddai dweud wrthynt eich bod chi’n credu ei fod yn gysylltiedig â’ch galar yn eu helpu i ddeall yr hyn yr ydych chi’n ei brofi a dod o hyd i’r ffordd orau i’ch cefnogi chi.
Pan fydd rhywun yn marw
73
Gofalu am eich hunMae’n bosibl bod marwolaeth eich ffrind neu aelod o’ch teulu yn annisgwyl, neu fe allai fod yn rhywbeth a oedd wedi’i ragweld gryn amser yn ôl. Naill ffordd neu’r llall, fe all fod yn sioc ac fe all gymryd amser i chi addasu.
Ar ôl yr angladd, pan fydd bywydau pawb arall yn ymddangos yn dychwelyd i’r arferol, mae’n bosibl y byddwch chi’n pendroni sut y byddwch chi’n ymdopi.
Nid oes un datrysiad sengl. Dyma rai ffyrdd o ofalu am eich hun a allai fod yn ddefnyddiol.
Bwyta a chysgu Hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo fel gwneud, ceisiwch fwyta mor iach ag y gallwch chi. Bydd hyn yn rhoi’r egni i chi wneud pethau. Mae llawer o wybodaeth am fwyta’n iach ar wefan y GIG (gweler tudalen 116).
Gall straen emosiynol megis galar wneud i chi deimlo’n flinedig. Os ydych chi’n cael trafferth cysgu gallwch ymweld â’ch meddyg teulu, ond gallwch hefyd roi cynnig ar bethau megis ymarfer corff yn ystod y dydd, osgoi caffin ac alcohol, a mynd i’r gwely'r un amser bob nos.
Mae’n bosibl y byddwch chi’n cael eich cadw’n effro yn y nos yn meddwl am eich anwylyd. Gallai fod yn ddefnyddiol siarad am eich meddyliau a’ch teimladau. Os oes gennych deulu agos a ffrindiau, gallwch geisio siarad â nhw, neu fe allech chi roi cynnig ar fforwm ar-lein megis Cymuned Marie Curie. Gallwch hefyd ffonio Llinell Gymorth Marie Curie ar 0800 090 2309*.
Crio os ydych chi eisiauGall crio fod yn un o’r ffyrdd y mae’r corff yn gostwng straen ac yn lleddfu ei hun. Mae’n ymateb normal i farwolaeth rhywun. Does dim gwahaniaeth os yw hynny’n ddyddiau, misoedd neu flynyddoedd ar ôl y farwolaeth. Os ydych chi’n teimlo fel crio, ceisiwch beidio â chwestiynu’r peth.
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
74
Cael cefnogaethNid oes yn rhaid i chi wynebu profedigaeth ar eich pen eich hun. Mae sawl ffordd o gael cefnogaeth, p’un a yw’n well gennych siarad â rhywun yn bersonol neu ymuno â chymuned ar-lein. Os hoffech chi siarad â rhywun am eich teimladau, cysylltwch â Llinell Gymorth Marie Curie ar 0800 090 2309*.
Cefnogaeth gan ffrindiau a theuluOs ydych chi mewn profedigaeth, mae’n bosibl y bydd pobl eraill yn poeni am sut i ymddwyn o’ch amgylch chi ac fe allent gadw draw. Efallai y byddant yn penderfynu gadael i chi gysylltu â nhw pan fyddwch chi’n barod.
Os ydych chi’n teimlo fel cael cwmni, fe allech chi ffonio am sgwrs neu awgrymu cwrdd am goffi. Er y gallai ymddangos yn ymdrech estyn allan at bobl, fe allech chi deimlo’n well ar ôl ychydig o gwmni. Efallai y gallech chi awgrymu cwrdd yn eich tŷ am bryd o fwyd. Fe allech chi ei wneud yn achlysur hamddenol a gofyn i bawb ddod ag ychydig fwyd fel nad oes yn rhaid i chi wneud gormod ar amser pan allai’ch egni a’ch cymhelliad fod yn isel.
Pan fydd rhywun yn marw
Ar ôl i ni golli Mam, cynigiodd yr hosbis gymorth mewn profedigaeth i ni. Roedd gennym weithiwr cymdeithasol a oedd mewn cysylltiad â ni am rai misoedd. Fe wnaethon nhw hefyd drefnu gwasanaeth coffa iddi yn yr hosbis.Katy, aelod o’r teulu
75
Os oes pethau nad ydych chi eisiau eu trafod gyda theulu a ffrindiau, neu os nad oes gennych rywun addas i siarad â nhw, gallwch gysylltu ag un o’r elusennau sy’n cefnogi pobl mewn profedigaeth (gweler tudalen 114). Fe allech chi hefyd gysylltu â’ch cynghorydd ysbrydol neu arweinydd crefyddol lleol.
Gwybodaeth ac arweiniad ysgrifenedigMae nifer o sefydliadau ac elusennau gyda gwybodaeth am brofedigaeth ar-lein ac mewn print. Mae’n bosibl y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen am y teimladau yr ydych chi’n eu profi a sut i gael cymorth.
Mae manylion cyswllt y sefydliadau hyn ar dudalen 114. Mae rhestr o lyfrau am alar a phrofedigaeth ar dudalen 110.
Cymunedau ar-lein Os hoffech chi sgwrsio ag eraill mewn sefyllfa debyg, mae nifer o gymunedau neu fforymau ar-lein lle gallwch chi drafod yr hyn yr ydych chi’n ei brofi mewn amgylchedd cyfrinachol a diogel. Mae gan lawer o elusennau, gan gynnwys Marie Curie, Sue Ryder, a BereavementUK y rhain. Maen nhw am ddim ac yn eithaf hawdd eu defnyddio. Mae’n bosibl y bydd angen i chi greu enw defnyddiwr a chyfrinair i ymuno.
Os nad ydych chi’n gyfforddus yn cyfrannu at drafodaethau yn syth, gallai darllen yr hyn y mae pobl eraill wedi’i ysgrifennu fod yn ddefnyddiol.
Cymuned Marie CurieRhannwch brofiadau a dewch o hyd i gefnogaeth trwy siarad â phobl sydd mewn sefyllfa debyg. Ewch i community.mariecurie.org.uk – mae’n ddiogel, yn hawdd ei defnyddio ac ar gael 24 awr y dydd.
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
76
Llinellau cymorth ffônOs hoffech chi siarad â rhywun ond nad ydych chi’n gallu neu nad ydych chi eisiau gadael y tŷ, mae nifer o linellau cymorth ffôn y gallwch chi eu ffonio. Fel arfer codir tâl galwadau lleol am y rhain, er bod llawer ohonynt am ddim. Yn eu plith y mae:• Marie Curie 0800 090 2309*• Y Samariaid 116 123 • Cruse Bereavement Care 0808 808 1677• Cruse Bereavement Care Scotland 0845 600 2227• SupportLine 01708 765 200• Lifeline (Gogledd Iwerddon) 0808 808 8000
Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Gymorth Marie Curie trwy we-sgwrsio neu ar e-bost yn mariecurie.org.uk/support
Cwnsela a seicotherapi profedigaethEr bod rhai pobl yn fwy cyfforddus yn siarad â ffrindiau a theulu am eu colled, bydd rhai yn elwa o sgwrsio gyda chwnselydd proffesiynol neu seicotherapydd. Efallai y byddwch chi angen cymorth os yw’ch emosiynau mor ddwys fel eich bod chi’n teimlo na allwch chi barhau, neu na allwch chi ymdopi â’ch bywyd o ddydd i ddydd.
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod angen cwnsela galar proffesiynol, siaradwch â’ch meddyg teulu. Mae’n bosibl y byddant yn gallu’ch cyfeirio chi am gwnsela. Mae’n bosibl y byddant hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau cwnsela lleol a grwpiau cymorth.
Mae’r elusen Cruse Bereavement Care yn cynnig sesiynau cymorth mewn profedigaeth gyda gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi. Gallwch ddod o hyd i’ch cangen leol trwy eu gwefan (gweler tudalen 114).
Pan fydd rhywun yn marw
77
Mae gan lawer o hosbisau, gan gynnwys Marie Curie, wasanaethau cymorth mewn profedigaeth i deuluoedd. Fel arfer mae ar gael i deulu agos a ffrindiau pobl sydd wedi derbyn gofal yn yr hosbis. Bydd faint o gymorth y gall hosbis ei roi yn dibynnu ar eu hadnoddau.Os ydych chi’n gyflogedig, mae’n bosibl y byddwch chi eisiau gwirio a oes gan eich sefydliad raglen cynorthwyo gweithwyr. Mae’r rhain yn aml yn caniatáu i weithwyr dderbyn nifer benodol o sesiynau cwnsela am ddim. Gofynnwch i’ch rheolwr neu’r adran adnoddau dynol am wybodaeth.
Gallwch hefyd ddod o hyd i gwnselydd yn breifat a thalu am sesiynau. I ddod o hyd i seicotherapyddion a chwnselwyr cofrestredig yn eich ardal, edrychwch ar gyfeiriadur ar-lein Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (gweler tudalen 114). Bydd y costau’n amrywio. Mae gan lawer o therapyddion eu gwefannau eu hunain yn esbonio sut y maen nhw’n gweithio a beth i’w ddisgwyl.
Cefnogaeth grŵpMae rhai pobl yn gweld bod cwrdd â phobl eraill mewn profedigaeth yn eu helpu i ddod i delerau â’u teimladau eu hunain.
Bydd llawer o elusennau (megis Cruse Bereavement Care), hosbisau ac arweinwyr ffydd yn gallu’ch helpu chi i ddod o hyd i grŵp cymorth mewn profedigaeth os nad ydynt yn cynnal un eu hunain. Fe allech chi hefyd edrych ar-lein am grŵp yn eich ardal leol.
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
Ar ôl i Graham farw mi es i weld y cwnselwyr profedigaeth yn yr hosbis. Roedd y wraig a welais i’n hyfryd. Fe wnaeth hi wrando arnaf ac ni wnaeth hi fy meirniadu i na fy nghymharu â rhywun arall. Roedd yn ymwneud â fi yn unig a sut yr oeddwn i’n teimlo.Marilyn, aelod o’r teulu
78
Dychwelyd i’r gwaith Efallai y gwelwch fod trefn gwaith yn ffordd dda o dynnu’ch sylw ar ôl i rywun farw. Gall cydweithwyr cefnogol a swydd i ganolbwyntio arni fod o gymorth. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio ar waith ac angen mwy o amser i addasu i fywyd heb eu haelod o’r teulu neu ffrind. Os gallwch chi, ceisiwch fynd ar eich cyflymdra eich hun a pheidiwch â dychwelyd oni bai eich bod chi’n teimlo’n barod i wneud hynny.
Os oes gan eich gwaith raglen cymorth i weithwyr sy’n cynnig cwnsela neu linell gymorth, mae’n werth nodi y gallwch chi barhau i ddefnyddio hon tra byddwch chi i ffwrdd o’r gwaith.
Mae faint o absenoldeb tosturiol y byddwch chi’n ei dderbyn o’r gwaith yn amrywio (gweler tudalen 64). Os yw’ch absenoldeb tosturiol o’r gwaith yn dod i ben ond nad ydych chi’n barod i ddychwelyd i’r gwaith eto, siaradwch â’ch rheolwr. Nid salwch yw profedigaeth , ond mae’n bosibl bod gennych broblemau eraill megis iselder o ganlyniad i hynny, ac mae’n bosibl y byddwch chi angen mwy o amser o’r gwaith cyn y byddwch chi’n ffit i weithio.
Fel arfer bydd eich cyflogwr yn gofyn am nodyn ffitrwydd (Datganiad o Ffitrwydd i Weithio) os ydych chi i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am fwy na saith niwrnod. Rhaid i chi weld eich meddyg teulu i gael un o’r rhain. Ar ôl trafod eich pryderon, byddant naill ai’n dweud:• nad ydych chi’n ffit i weithio• eich bod chi’n ffit i weithio ond gan ystyried cyngor penodol (y
byddant yn ei nodi)• eich bod yn ffit i weithio.
Os byddant yn penderfynu eich bod yn ffit i weithio, gallant gynnwys manylion y math o waith y gallech chi ei wneud. Er enghraifft, fe allent awgrymu:• dychwelyd i’r gwaith yn raddol fel eich bod chi’n gwneud llai o oriau
yn y lle cyntaf• dyletswyddau ysgafnach am yr ychydig wythnosau cyntaf• derbyn cymorth gyda rhai tasgau.
Pan fydd rhywun yn marw
79
Gallai siarad â’r cyflogwr am sut yr ydych chi’n teimlo eich helpu hefyd i liniaru ychydig ar y pryder yr ydych chi’n ei deimlo am ddychwelyd i’r gwaith. Efallai y gwelwch chi eu bod yn ddigon parod i chi wneud pethau ar eich cyflymdra eich hun, am yr ychydig wythnosau neu fisoedd cyntaf.
Am ragor o wybodaeth am absenoldeb tosturiol gweler tudalen 64.
Cymryd rhan yn y gymuned leolEfallai y gwelwch chi fod gennych chi fwy o amser rhydd ar ôl i’ch anwylyd farw, ac mae’n bosibl y byddwch chi eisiau cwrdd â phobl newydd yn eich ardal. Mae llawer o grwpiau cymunedol o amgylch y DU lle gallwch chi gwrdd â phobl gyda diddordebau tebyg – naill ai am sgwrs, neu ar gyfer gweithgareddau sy’n amrywio o ddarllen i ddringo creigiau. Mae Meetup (meetup.com) yn wefan lle gallwch chi chwilio am grwpiau yn ôl diddordeb neu leoliad. Gallwch chi hyd yn oed ddechrau eich grŵp eich hun – mae am ddim.
GwirfoddoliOs oes gennych chi amser, fe allech chi wirfoddoli. Mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd. Mae buddion corfforol ac emosiynol niferus o wneud hynny. Mae amrywiaeth o safleoedd gwirfoddoli gyda llawer o gyfleoedd yn agos atoch chi. Ceisiwch beidio â phoeni am y pwysau neu ofynion rôl gwirfoddoli. Yn aml, gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag yr hoffech chi.
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
Ers i fy ngŵr farw, rwyf wedi cadw fy hun yn brysur – rwy’n llywodraethwr ysgol, rwy’n mentora plant, ac rwy’n casglu fy wyrion o’r ysgol cwpwl o weithiau'r wythnos.Jennie, aelod o’r teulu
80
• Mae gan Do-it (do-it.org.uk) gronfa ddata y gellir ei chwilio o gyfleoedd gwirfoddoli.
• Os ydych chi wrth eich bodd â chathod neu gŵn, fe allech chi gysylltu â’r Cinnamon Trust (cinnamon.org.uk) i weld a oes person hŷn neu anhwylus gerllaw sydd angen rhywun i gerdded eu ci neu ofalu am eu cath.
• Yn Marie Curie, mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli niferus ac efallai y bydd un sy’n addas ar eich cyfer chi.
• Os oes gennych hoff elusen, gallwch edrych ar eu gwefan i weld a ydynt angen gwirfoddolwyr.
Pobl hŷn sy’n teimlo’n unigOs yw anwylyd wedi marw a’ch bod chi bellach ar eich pen eich hun, mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo’n unig. Os ydych chi’n aelod o sefydliad lleol megis eglwys ac yr hoffech chi i rywun ymweld â chi, mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu trefnu hynny.
Mae’r Silver Line yn llinell gymorth am ddim sy’n agored 24 awr y dydd i bobl hŷn. Mae’n cynnig gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor. Mae hefyd yn cysylltu galwyr â grwpiau lleol yn eu hardal. Ffoniwch 0800 470 80 90.
Mae sefydliadau gwirfoddol sy’n cynnig gwasanaeth ymgyfeillio.• Mae Independent Age yn cynnig galwadau ffôn neu ymweliadau
rheolaidd. Ffoniwch 0800 319 6789.
• Mae Contact the Elderly yn cynnal partïon te prynhawn ar ddyddiau Sul yng nghartrefi gwirfoddolwyr.
• Cynigia Age UK wasanaethau ymgyfeillio a nifer o wasanaethau eraill. Gallwch ddod o hyd i rif ffôn eich cangen leol ar wefan Age UK (gweler tudalen 122).
Os nad ydych chi’n gallu symud rhyw lawer oherwydd anabledd, fe allech chi gysylltu â Scope (gweler tudalen 117). Mae ganddo ystod o wasanaethau i’ch helpu chi i gynnal eich annibyniaeth.
Pan fydd rhywun yn marw
81
Cefnogi pobl eraill
Dweud wrth eraill am farwolaeth rhywunMae’n bosibl y bydd angen i chi ddweud wrth bobl eraill am farwolaeth ffrind neu aelod o’r teulu. Gallai rhai pobl weld agweddau o hyn yn anodd.Gallai’r wybodaeth a ganlyn fod o gymorth.• Mae’n bosibl bod eich anwylyd wedi bod yn ddifrifol wael yn hir,
neu mae’n bosibl eu bod wedi marw yn weddol sydyn. Os daw’r farwolaeth fel sioc i’r person yr ydych chi’n siarad â nhw, efallai y bydd hi’n anodd iddynt ddirnad y peth.
• Mae’r ffordd y bydd y newyddion drwg yn cael eu torri yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n well torri’n newyddion wyneb yn wyneb os gallwch chi. Weithiau nid yw'n bosibl ac efallai y bydd yn rhaid ichi ffonio pobl gyda’r newyddion.
• Efallai y byddai’n help i chi baratoi eich hun trwy feddwl beth yr ydych chi’n mynd i’w ddweud, yn enwedig wrth siarad â rhywun sydd ag anabledd dysgu neu ddementia, neu nad yw’n rhannu’r un famiaith â chi.
• Os byddwch chi’n ffonio person hŷn neu fregus, mae’n bosibl y byddwch chi eisiau eu ffonio nhw pan fydd rhywun arall gyda nhw, fel na fyddant ar eu pennau eu hunain ar ôl hynny.
• Rhowch ddigon o amser i’ch hun gyda’r person neu wrth wneud yr alwad. Sicrhewch, lle fo’n bosibl, eich bod chi mewn lleoliad diogel a chyfrinachol ac na fydd unrhyw beth yn torri ar eich traws. Diffoddwch ffonau, radios a setiau teledu.
• Siaradwch yn araf ac yn dyner, gan ddefnyddio iaith syml, blaen a pheidiwch â sôn am faterion amherthnasol a all achosi dryswch.
• Yn aml pan fydd pobl yn clywed newyddion drwg, dim ond ychydig iawn y byddan nhw’n gallu’i ddirnad ar y tro. Fe allai fod yn syniad da gwirio eu bod yn deall yr hyn sydd wedi digwydd a’u hannog i fynegi eu teimladau. Os, ynghyd â dweud wrthynt am y farwolaeth, eich bod chi hefyd eisiau trafod pethau ymarferol megis trefniadau’r angladd, efallai y byddai’n well gadael hynny ar gyfer sgwrs ar wahân.
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
82
• Mae’n bosibl y bydd y person eisiau lle corfforol er mwyn ystyried yr hyn yr ydych chi wedi’i ddweud. Gadewch iddyn nhw benderfynu a ydynt eisiau cael eu cyffwrdd neu’u dal.
• Os bydd rhywun yn mynd yn drallodus iawn, ac nad ydych chi’n gallu aros gyda nhw, mae’n bosibl y bydd angen i chi ofyn pwy allwch chi gysylltu â nhw ar eu rhan. Gallai hyn fod yn gymydog neu ffrind, neu aelod o’r teulu sy’n byw gerllaw ac a all aros gyda nhw.
• Mae’n bosibl y bydd gennych restr hir o bobl i’w ffonio, ac fe all fod yn flinedig iawn. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau cyfyngu’ch hun i hyn a hyn y diwrnod neu rannu’r galwadau ag aelod agos arall o’r teulu neu ffrind.
Siarad â phlant Gall hi fod yn anodd dweud wrth blentyn bod person y maen nhw’n eu caru wedi marw. Mae’n well i oedolyn y mae’r plentyn yn ymddiried ynddynt ac yn eu hadnabod yn dda dorri’r newyddion drwg i’r plentyn.
Gweler adran 87 am ragor o wybodaeth am gefnogi plant.
Cefnogi ffrind neu aelod o’r teulu sy’n galaruGall hi fod yn anodd trafod marwolaeth. Fe allech gael eich temtio i osgoi ffrind neu aelod o’r teulu pan fydd rhywun yn agos atynt wedi marw. Mae’n bosibl y byddwch chi’n pryderu am ddweud y peth anghywir a gwneud pethau’n waeth, neu’n ansicr beth i’w ddweud o gwbl. Ond gall cefnogaeth teulu a ffrindiau helpu’r person i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u caru.
Mae gan Dying Matters ganllaw defnyddiol ar gefnogi pobl sy’n galaru o’r enw Being There. Gellir ei lawrlwytho o dyingmatters.org
Pan fydd rhywun yn marw
83
Cysylltu â pherson sydd newydd golli rhywun• Os na allwch chi fynd i weld eich ffrind neu aelod o’r teulu sy’n galaru,
fe allech chi eu ffonio nhw, ysgrifennu llythyr neu e-bost, neu anfon neges destun i roi gwybod iddynt eich bod chi’n meddwl amdanynt.
• Cofiwch nad ydych chi’n gwybod sut y maen nhw’n teimlo. Ceisiwch osgoi dweud pethau fel ‘Dw i’n gwybod yn union sut wyt ti’n teimlo’.
• Wrth siarad â nhw, gadewch iddyn nhw arwain. Mae’n bosibl y byddant eisiau siarad â chi’n fanwl am yr hyn a ddigwyddodd a sut y maen nhw’n teimlo, neu mae’n bosibl na fyddan nhw.
• Os ydych chi’n gwneud addewidion, cadwch atynt. Mae’n bosibl y bydd eich ffrind neu aelod o’r teulu’n teimlo’n fregus ac angen gwybod bod pobl eraill yno i’w cefnogi.
• Os oeddech chi’n adnabod y person a fu farw, fe allech chi ddweud pethau caredig amdanynt a’r hyn yr oedden nhw’n ei olygu i chi. Gallai hyn olygu llawer i’ch ffrind neu aelod o’r teulu sy’n galaru.
• Gallai gweithredoedd ystyriol megis gwahodd eich ffrind neu aelod o’r teulu draw am goffi neu anfon neges destun i ddweud eich bod chi’n meddwl amdanynt fod yn gefnogol iawn.
Gwrandewch yn hytrach na siaradGall rhoi amser i’ch ffrind neu aelod o’r teulu mewn profedigaeth siarad am y person a fu farw eu helpu i ymdopi â’u galar. Os byddant yn siarad am y person, peidiwch â newid y pwnc. Gwrandewch ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud heb dorri ar draws. Neu mae’n bosibl na fyddant eisiau siarad â chi o gwbl. Weithiau gallai eich cael chi yn yr un ystafell ac yn eistedd yn dawel gyda’ch gilydd fod yn gysur yn ei hun.
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
84
Gadewch iddynt fynegi eu hemosiynauCeisiwch greu awyrgylch lle mae’r ffrind neu aelod o’r teulu yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu mynegi’r hyn y maen nhw’n ei deimlo. Gall eu hemosiynau amrywio o dristwch i emosiynau mwy annisgwyl megis dicter. Parchwch sut y maen nhw’n teimlo. Os ydynt yn dweud eu bod yn teimlo rhyddhad bod y person wedi marw, peidiwch â mynnu bod yn rhaid eu bod yn teimlo’n drist.
Yn aml bydd rhai pobl mewn profedigaeth yn newid o deimlo galar i fwrw ymlaen â’u bywydau. Efallai y gwelwch chi fod eich ffrind neu aelod o’r teulu yn gwneud hyn. Mae’n bosibl y byddant yn ofidus ac eisiau siarad am eu hanwylyd, ac wedyn eisiau newid y pwnc a siarad am rywbeth cwbl arferol, fel beth sy’n digwydd yn y gwaith neu rysáit newydd.
Cofiwch gadw unrhyw beth maen nhw’n ei rannu â chi yn gyfrinachol oni bai bod gennych eu caniatâd i’w rannu yn ehangach.
Byddwch yn benodolMae cynigion ymarferol o gymorth yn aml yn fwy defnyddiol na rhai cyffredinol. Er enghraifft, fe allech chi gynnig coginio swper, ateb y ffôn neu wneud eu siopa. Bydd rhywun nad ydynt yn gyrru yn gwerthfawrogi cael lifft i apwyntiadau pwysig. Byddwch yn onest am y ffaith eich bod chi eisiau eu helpu ond nad ydych chi’n siŵr sut. Gofynnwch iddynt beth sydd ei angen arnynt. Os bydd pobl yn dod draw i’r tŷ ar ôl yr angladd, mae’n bosibl y byddant yn gwerthfawrogi eich help wrth baratoi popeth.
Pan fydd rhywun yn marw
85
Adran 3: Ymdopi â galar a chefnogi’r bobl o’ch amgylch chi
Byddwch yn amyneddgarYn ystod yr ychydig ddyddiau ac wythnosau ar ôl y farwolaeth, mae’n debyg y bydd gan y person lawer o bethau ymarferol i’w gwneud. Dyma pryd y bydd y rhan fwyaf o deulu a ffrindiau yn cynnig cefnogaeth hefyd. Serch hynny, nid oes cyfyngiad amser ar alaru ac mae’n bosibl y bydd eich ffrind neu aelod o’r teulu angen crio neu drafod eu colled am fisoedd a blynyddoedd lawer ar ôl hynny. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau gwneud nodyn o unrhyw ddyddiadau arbennig neu ben-blwyddi sy’n debyg o fod yn arbennig o anodd a chysylltu â nhw.
Fe allai fod yn anodd i berson sy’n galaru ofyn am help pan fyddant eisoes yn teimlo’n fregus. Rhowch wybod eich bod chi yno ar eu cyfer a byddwch yn sensitif i unrhyw newidiadau yn eu hwyliau. Y realiti yw bod pobl mewn profedigaeth yn profi llawer o wahanol emosiynau a all ei gwneud hi’n anodd bod o’u cwmpas weithiau. Ceisiwch beidio â chymryd unrhyw ddicter yn bersonol a rhowch le iddynt.
Awgrymwch weithgareddMae’n bosibl y bydd cyfnodau penodol a fydd yn arbennig o anodd i’ch ffrind neu aelod o’r teulu mewn profedigaeth. Mae’n bosibl eu bod yn brysur yn y gwaith yn ystod yr wythnos ac yn gweld y penwythnosau’n unig.
Efallai y gallech chi gynnig gwylio ffilm gyda’ch gilydd neu fynd am dro. Os ydynt yn dymuno hynny, fe allech chi wneud pethau sydd yn eu hatgoffa o’r person a fu farw. Gallai hynny fod trwy ymweld â lle arbennig neu edrych trwy hen luniau gyda’ch gilydd. Bydd cael peth cwmni yn gefnogol ac o gysur.
86
Pan fydd rhywun yn marw
iSot
ck
87
Adran 4: Cefnogi plant
Sut y gallai galar effeithio ar blant 89
Helpu plant i ddweud ffarwel 96
Cwestiynau y gallai plant eu gofyn 101
Adran 4: Cefnogi plant
88
Yn aml mae oedolion eisiau diogelu plant trwy beidio â dweud wrthynt beth sy’n digwydd. Mae’n bosibl eu bod nhw’n cael trafferth ymdopi â’u teimladau eu hunain ac yn ei chael hi’n anodd cynnig cefnogaeth i blant. Ond mae plant yn debyg o sylwi bod rhywbeth o’i le ac yn teimlo’n bryderus neu’n ddryslyd. Mae’n bosibl y byddai’n well ganddynt wybod beth sy’n digwydd, hyd yn oed os yw’n drist, yn hytrach nag ymdopi â pheidio â gwybod.
Mae Winston’s Wish ac elusennau eraill yn cynnig cymorth arbenigol ar gefnogi plentyn mewn profedigaeth (gweler tudalen 118).
Pan fydd rhywun yn marw
Dim ond tair oed oedd ein hwyres pan fu farw fy ngŵr. Roedd e’n helpu i ofalu amdani ac roeddynt yn agos iawn. Mae hi’n hŷn yn awr ond weithiau bydd hi’n drist iawn wrth gofio amdano.”Jennie, aelod o’r teulu
iSto
ck
89
Sut y gallai galar effeithio ar blantMae plant, yn fwy nag oedolion, yn newid yn gyflym rhwng galaru a bwrw ymlaen â’u bywydau arferol. Mae’n bosibl y byddant yn drist un funud ac yn gofyn am gael chwarae pêl-droed neu gael hufen iâ'r funud nesaf. Weithiau mae’n digwydd mor gyflym nes i hyn gael ei alw yn ‘neidio i’r pwll’ – y pwll yw eu teimladau o alar, ac maen nhw i mewn ac allan o’r pwll yn gyflym.
Pan fyddwch chi’n dweud wrthynt fod y person wedi marw, efallai na fyddant yn ymateb ryw lawer. Byddwch chi efallai’n pendroni a ydynt wedi deall. Mae’n bosibl y cymer hi beth amser i brosesu’r newydd ac efallai na fydd ganddynt y geiriau i fynegi eu teimladau. Gallwch chi ddweud wrthynt eich bod chi’n gwybod ei fod yn newyddion mawr a’ch bod chi’n barod i siarad pa bryd bynnag maen nhw eisiau.
Bydd dealltwriaeth y plentyn yn dibynnu ar sawl peth gan gynnwys eu hoed, cam datblygu, cefndir teuluol, personoliaeth a phrofiad blaenorol. Nid yw plant yn datblygu yn yr un ffodd, maen nhw i gyd yn unigolion. Gallai dau blentyn o’r un teulu o’r un oed ymateb yn wahanol iawn i farwolaeth. Chi sy’n adnabod y plentyn unigol orau ac yn gallu addasu i’r hyn sy’n addas ar eu cyfer. Dylech gael eich arwain gan yr hyn y maen nhw eisiau ei wybod a pheidiwch â bod ofn dweud wrthynt nad ydych chi’n gwybod yr ateb i rywbeth.
Mae’n bosibl y byddant yn dychwelyd at yr un pwnc ac yn gofyn yr un cwestiwn sawl gwaith. Neu mae’n bosibl y byddant yn ceisio peidio â thrafod y person os ydynt yn meddwl y byddai hynny’n eich gwneud chi’n drist. Gallwch dawelu eu meddyliau trwy ddweud ei bod hi’n iawn siarad ac yn llawer gwell na chadw eu pryderon i’w hunain.
Yn aml mae gan blant ifanc ‘ffordd o feddwl hudol’, sef credu bod eu meddyliau eu hunain yn gallu dylanwadu ar ddigwyddiadau. Mae’n bosibl y byddant eisiau i ffrind neu aelod o’r teulu ddychwelyd ac yn ei chael hi’n anodd meddwl na fydd hynny’n digwydd.
Adran 4: Cefnogi plant
90
Sut y mae plant yn deall ac yn ymateb i farwolaeth
Oed a dealltwriaeth o farwolaeth Ymatebion cyffredin
Iau na chwe mis
• Dim dealltwriaeth o farwolaeth, ond byddant yn sylwi os yw eu prif ofalwr (e.e. mam neu dad) yn absennol.
• Anawsterau bwydo a chysgu, crio, poeni.
Chwe mis i ddwy oed
• Dim dealltwriaeth o farwolaeth, ond byddant yn drist os yw eu prif ofalwr yn absennol.
• Yn ddwy oed, mae plant yn dechrau sylwi ar absenoldeb pobl eraill, megis taid neu nain cyfarwydd.
• Crio uchel, dim modd cysuro.
• Dig am newidiadau i’w trefn ddyddiol.
• Problemau cysgu a phoen bol.
• Camau yn ôl o ran ymddygiad, e.e. sugno bawd, gofyn am ddymi neu botel, gwlychu’r gwely.
• Chwilio am y person a gofyn lle y mae’r person.
2-5 oed
• Mae’n bosibl y byddant yn siarad am farwolaeth ond nid ydynt yn deall ac yn meddwl bod modd ei childroi. Gallent ofyn cwestiynau megis ‘Os yw nain yn y ddaear, sut y mae hi’n anadlu?’
• Credu mewn ‘ffordd o feddwl hudol’ a gallent feddwl eu bod yn uniongyrchol gyfrifol am y farwolaeth.
• Gofyn yr un cwestiynau droeon.
• Angen sicrwydd nad ydych chi’n mynd i farw hefyd ac nad eu bai nhw yw’r farwolaeth.
• Gweld hi’n anodd bod ar wahân i chi ac ymddwyn yn amhriodol am eu hoed.
Pan fydd rhywun yn marw
91
Adran 4: Cefnogi plant
5-10 oed
• Yn saith oed, mae’r rhan fwyaf o blant yn deall bod marwolaeth yn barhaol ac yn anochel. Gallai rhai gymryd yn hwy na hyn.
• Gan eu bod yn ymwybodol o farwolaeth, efallai y byddant yn poeni eich bod chi ac eraill yn mynd i farw hefyd.
• Efallai y byddant wedi’u swyno gan yr hyn sy’n digwydd pan fydd rhywun yn marw.
• Gallant ddangos tosturi wrth rywun sydd mewn profedigaeth.
• Mae’n bosibl y byddant yn poeni am yr effaith arnoch chi os ydynt yn drist ac yn ceisio cuddio eu teimladau.
• Mynd i’w cragen, tristwch, unigedd.
• Mynd yn ddig yn amlach, anhawster canolbwyntio yn yr ysgol.
• Pryderus a cheisio bod yn blentyn perffaith.
• Camau yn ôl o ran ymddygiad.
• Ceisio bod yn ddewr a chymryd rheolaeth ar bethau.
92
Newidiadau mewn ymddygiadEfallai na fydd gan blant eiriau i esbonio sut y maen nhw’n teimlo, ond gallwch wylio am newidiadau yn eu hymddygiad, a allai fod eu ffordd nhw o fynegi teimladau na allant eu trafod. Gallai’r rhain gynnwys:• Gwrthod gadael i chi fynd. Gall gwrthod cael eu gadael a dal gafael
ynoch chi fod yn arwydd bod y plentyn angen sicrwydd nad ydych chi’n mynd i farw a’u gadael nhw hefyd.
• Pellter. Gall rhai plant godi rhwystr gydag aelodau eraill y teulu oherwydd eu bod yn pryderu y byddant yn cael eu brifo eto. Mae’n bosibl y byddant eisiau treulio mwy o amser o’r cartref, gyda ffrindiau neu yn yr ysgol.
• Ymddygiad ymosodol. Gallai hyn fod yn ffordd eich plentyn o fynegi diymadferthedd yn wyneb colled.
• Camau yn ôl o ran ymddygiad. Gall ymddwyn yn iau na’u hoed fod yn arwydd o ansicrwydd. Gallai plant ifanc ddechrau gwlychu neu faeddu eu hunain, neu fod eisiau potel neu ddymi yr oeddynt wedi hen anghofio amdanynt.
• Diffyg canolbwyntio. Efallai y bydd eich plentyn yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn yr ysgol a byddant ar ei hôl hi gyda’u gwaith.
• Problemau cysgu. Gallai plant ei chael hi’n anodd cysgu ac ofni’r tywyllwch.
• Ymdrechu’n rhy galed. Cred plant ifanc y gall eu hymddygiad ddylanwadu ar ddigwyddiadau. Mae’n bosibl y byddant yn meddwl os ydynt yn ymddwyn yn dda iawn ac yn gwneud pethau fel bwyta brocoli neu glirio cawell y bochdew y daw eu mam yn ôl yn fyw.
Mae’r rhain i gyd yn ymatebion naturiol ac fe fyddant yn siŵr o fynd heibio. Serch hynny, os oes gennych unrhyw bryderon, mae pobl allan yna y gallwch chi siarad â nhw – gweler tudalen 118 am restr o sefydliadau defnyddiol.
Pan fydd rhywun yn marw
93
Trafod marwolaethGall siarad â phlentyn am farwolaeth wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn well ac yn fwy diogel. Mae’n bosibl y bydd ganddynt ofnau neu gwestiynau y maen nhw’n poeni ynglŷn â sôn amdanynt.
Gall hi fod yn anodd siarad â phlentyn am rywun yn agos atynt yn marw. Efallai y byddwch chi’n pryderu y byddwch chi’n codi ofn arnynt neu’n dweud y peth anghywir. Ond mae’n bwysig bod yn agored ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt mor onest ag y gallwch chi. Weithiau mae’r hyn y mae plant yn ei ddychmygu yn llawer gwaeth na’r realiti.
Dyma rai awgrymiadau a allai eich helpu chi i drafod marwolaeth:• Pan fydd plentyn yn gofyn cwestiwn, fe allech chi ddechrau trwy
ofyn, ‘Beth wyt ti’n feddwl?’ Yna gallwch adeiladu eich ateb ar eu dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi digwydd.
• Ceisiwch osgoi dweud wrth eich plentyn am beidio â phoeni neu am beidio â bod yn drist. Mae’n normal iddynt ddod yn agos at bobl. Ac, yn debyg i chi, mae’n bosibl y byddan nhw’n ei chael hi’n anodd rheoli eu teimladau.
• Peidiwch â thrio cuddio’ch poen, chwaith – mae’n iawn crio o flaen eich plentyn. Fe all helpu i roi gwybod iddynt pam eich bod chi’n crio. Os yw’n ymddangos bod eich plentyn yn poeni eich bod chi’n crio, efallai y byddai o help esbonio bod crio fel moddion – mae’n ffordd o ryddhau’ch corff o’r straen a gwneud i chi deimlo’n well.
• Cofiwch roi digon o sicrwydd i’ch plentyn. Rhowch wybod iddynt eich bod chi’n eu caru a bod pobl ar ôl a fydd yno ar eu cyfer nhw. Gall cwtsh wneud byd o wahaniaeth a gwneud iddynt deimlo fod rhywun yn poeni amdanynt. Mae’n syniad da cadw at drefn reolaidd hefyd, os gallwch chi.
Adran 4: Cefnogi plant
94
Mae gan Child Bereavement UK (gweler tudalen 118) ddalen wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer esbonio marwolaeth i blentyn. Dyma rai pethau eraill a allai fod o gymorth.
Byddwch yn onestMae angen i blant wybod beth ddigwyddodd i’r person a fu farw. Ceisiwch esbonio mewn iaith glir a syml sy’n addas i’w hoed a’u lefel brofiad. Fe allech chi hefyd drio rhoi gwybodaeth iddynt mewn symiau bach ar y tro, yn enwedig i blant ifanc, gan y gall hyn eu helpu i ddeall. Unwaith yr ydych chi wedi esbonio bod rhywun wedi marw, gall y manylion ddilyn.
Defnyddiwch iaith symlMae’n gliriach dweud bod rhywun wedi marw na defnyddio mwytheiriau. Osgowch esboniadau fel bod y person wedi ‘mynd i gysgu’ neu ‘mynd i ffwrdd’. Gallai hyn wneud i’ch plentyn deimlo’n ofnus i fynd i gysgu neu boeni pan fyddwch chi’n gadael y tŷ na fyddwch chi’n dod yn ôl.
Anogwch gwestiynauByddwch yn barod i blentyn fod yn chwilfrydig ac i ofyn yr un cwestiwn dro ar ôl tro. Gall hyn fod yn anodd ond cofiwch ei fod yn rhan o’u hangen am sicrwydd ac yn eu helpu i brosesu’r wybodaeth.
Rhowch sicrwydd iddyntMae’n gyffredin i blant deimlo bod y person wedi marw o ganlyniad i rywbeth y gallant fod wedi’i ddweud neu ei wneud. Esboniwch yn syml sut a pham nad eu bai nhw yw hyn.
Pan fydd rhywun yn marw
95
Gofynnwch iddynt adrodd eu storiEr mwyn gwarchod plant, weithiau bydd oedolion yn ceisio osgoi siarad am y person sydd wedi marw. Ond efallai y bydd y plentyn eisiau siarad am y person. Maen nhw angen dweud eu stori. Roedd ganddynt berthynas â’r person a fu farw ac roedd honno’n bwysig iddynt.
Gall gwrando arnynt eich helpu chi i ddeall beth maen nhw’n ei wybod am yr hyn sydd wedi digwydd. Gallwch chi hefyd gywiro unrhyw beth nad yw’n hollol gywir. Bydd gwrando yn eich helpu chi hefyd i ddeall sut y mae’r plentyn yn teimlo. Osgowch ddweud wrthynt sut yr ydych chi’n meddwl y dylent fod yn ei deimlo.
Pobl a all helpuPan fyddwch chi’n helpu plentyn mewn profedigaeth, cymerwch bethau un dydd ar y tro. Os byddwch chi unrhyw bryd yn teimlo na allwch chi ymdopi, cofiwch nad oes yn rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Gall ffrindiau, teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, athrawon yn ysgol eich plentyn ac eraill helpu. Mae gwasanaethau profedigaeth arbenigol i blant y gallwch chi eu defnyddio – gweler tudalen 118 am fanylion cyswllt.
Mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu derbyn cymorth trwy hosbis leol, gan gynnwys Hosbisau Marie Curie – mae gan rai gwnselwyr i blant a phobl ifanc. Fel arfer dim ond os oedd y person a fu farw yn gyfarwydd i’r hosbis y bydd y rhain ar gael, ond fe all amrywio. I ddysgu mwy, cysylltwch â’ch hosbis leol.
Adran 4: Cefnogi plant
96
Pan fydd rhywun yn marw
Get
ty Im
ages
/Sto
ckph
oto
Helpu plant i ddweud ffarwel I oedolion, mae defodau – unrhyw beth o angladd traddodiadol i wasgaru llwch mewn man arbennig – yn rhan bwysig o ddweud ffarwel i anwylyd. Gallai plant mewn profedigaeth hefyd elwa o’r cyfle i gofio anwyliaid yn y ffordd hon. Gall eu helpu i fynegi eu galar a’i rannu ag eraill.
Yr angladdFe allai ymddangos yn anodd cael plentyn o’ch cwmpas chi pan fydd angen i chi ymdopi â’ch teimladau eich hunan o golled. Ond fe all helpu plant i fynegi eu tristwch os ydynt gyda theulu a ffrindiau.
97
Gwnewch yr hyn sy’n teimlo’n iawn i chi ac iddyn nhw.• Paratowch nhw. Gallwch ddweud wrth blentyn beth sy’n mynd
i ddigwydd yn yr angladd fel bod ganddynt ryw syniad o’r hyn i ddisgwyl. Bydd hyn yn cynnwys esbonio am y person marw a’u corff. Ceisiwch ddod o hyd i’ch geiriau eich hunain ar gyfer hyn sy’n cyd-fynd â’ch credoau.
• Rhowch ddewis iddynt. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau gwarchod eich plentyn trwy eu cadw draw o’r angladd. Ond yn ddiweddarach mewn bywyd mae plant yn aml yn mynegi siom na roddwyd cyfle iddynt ddewis mynychu ai peidio.
• Rhowch gyfle iddynt gyfrannu at y seremoni. Fe allent ddewis cerddoriaeth a blodau, neu roi llun ar ben yr arch.
• Cynhaliwch seremoni amgen. Os nad yw’ch plentyn eisiau mynd, a oes rhywbeth y gallwch chi wneud gyda’ch gilydd yn y cartref i ddathlu cofio am y person? Gallai hyn fod trwy blannu coeden, neu osod addurn gardd er cof amdanynt.
• Rhowch gefnogaeth. Gofynnwch i rywun fel hoff fodryb neu ewythr eistedd gyda nhw a all adael y gwasanaeth gyda nhw os bydd pethau’n ormod iddynt. Mae hyn yn tynnu’r pwysau oddi arnoch chi os ydych chi hefyd yn trefnu’r angladd.
• Helpwch nhw i ddeall. Efallai y byddwch chi eisiau helpu eich plentyn i wahanu’r person yr oeddynt yn ei adnabod oddi wrth y corff sy’n cael ei gladdu neu’i amlosgi. Gan ddibynnu ar oed y plentyn fe allech chi ddweud wrthynt nad yw corff pwy bynnag sydd wedi marw yn gweithio mwyach. Ni all symud, bwyta, siarad na meddwl mwyach. Nid oes modd ei wella ac ni fydd yn gwneud y pethau yr arferai ei wneud – ond ni fydd yn teimlo dolur, oerfel na phoen mwyach, chwaith. Darllenwch fwy am y cwestiynau y mae plant yn eu gofyn ar dudalen 101.
Am gyngor pellach ar drafod angladdau gyda phlant, mae gan Child Bereavement UK ac Winston’s Wish wybodaeth ddefnyddiol. (Gweler tudalen 118).
Adran 4: Cefnogi plant
98
A ddylent weld y corff?Ar gyfer rhai teuluoedd, mae edrych ar gorff anwylyd yn rhan bwysig o ddod i delerau â’u marwolaeth. Gall plant hefyd weld bod hyn yn eu helpu i ddweud ffarwel neu gael sicrwydd nad yw’r person yn dioddef mwyach. Caniatewch iddynt ddewis a ydynt eisiau gwneud hyn, a’u paratoi ar gyfer yr hyn i’w ddisgwyl. Os nad yw’ch plentyn eisiau gweld y corff, parchwch eu dymuniadau a’u helpu i ddod o hyd i’w ffyrdd eu hunain o ddweud ffarwel.
Cadw atgofion yn fywMae sawl ffordd o helpu plant i ddathlu bywyd eu hanwylyd. Gallai’r awgrymiadau hyn helpu:• Gadewch iddynt gadw rhywbeth a oedd yn perthyn i’r person a fu
farw, megis eitem o ddillad.• Crëwch flwch trysor lle all eich plentyn gadw’r holl eitemau arbennig
sydd yn eu hatgoffa o’r person. • Gofynnwch i bob aelod o’r teulu, gan gynnwys y plentyn, ddewis gem
neu fotwm sy’n cynrychioli atgof hapus o’r person. Crëwch collage o’r botymau neu’r gemau.
• Os yw’r plentyn yn ei chael hi’n anodd mynd i’r ysgol, crëwch hances gyda’ch olion bysedd neu olion llaw arni, ac fe allech chi hyd yn oed chwistrellu eich persawr arni. Gall hyn eu helpu i deimlo bod eu gofalwr yn agos atynt a gwneud iddynt deimlo’n ddiogel.
• Rhannwch straeon hapus am y person sydd wedi marw a siaradwch amdanynt.
• Edrychwch drwy hen luniau neu fideos.• Crëwch lyfr lloffion gyda’ch gilydd am y person sydd wedi marw. • Dechreuwch siwrnal o atgofion y gall unrhyw un ychwanegu ato
unrhyw bryd. Mae’n bosibl y gallai hyn helpu’r plant sydd wedi colli rhywun yn ifanc i gofio’r person sydd wedi marw wrth iddynt dyfu.
• Gallech gynnwys y plentyn wrth ddewis lluniau ar gyfer tudalen goffa cyfryngau cymdeithasol.
Pan fydd rhywun yn marw
99
Camau nesafFe allai teimladau o alar effeithio ar blentyn yn wahanol dros amser ac fe allai plentyn alaru mewn ffordd gylchol yn hytrach na’r cyfan ar unwaith. Gallai hyn olygu, er bod galar plentyn yn ymddangos yn fyrrach nac un oedolyn, fe allai bara’n hwy mewn gwirionedd. Gallai pobl sy’n profi profedigaeth fel plant ailymweld â’u galar ar gerrig milltir arwyddocaol megis dechrau ysgol newydd, mynd i’r brifysgol, dechrau swydd, priodi neu gael plant eu hunain.
Mae angen iddynt wybod ei bod hi’n iawn symud ymlaen gyda’u bywyd pan fyddant yn barod i wneud hynny ac na ddylent deimlo’n euog am hynny. Rhowch wybod iddynt bod pawb yn dod i delerau â marwolaeth yn eu ffordd eu hunain, ar eu cyflymdra eu hunain. Bydd rhai dyddiau yn anos nag eraill ond yn y pen draw byddant yn iawn.
Adran 4: Cefnogi plant
Rwyf wedi dechrau creu straeon llyfr comig i blant ar gyfer fy mhlant fy hun yn y dyfodol, ynglŷn â fy Nhad a’r gwersi y dysgodd ef imi, a’r anturiaethau y cawsom ni. Anna, aelod o’r teulu
100
Dychwelyd i’r ysgolMae’n bosibl y bydd rhai plant eisiau dychwelyd i’r ysgol ar unwaith ar ôl marwolaeth anwylyd, tra bydd eraill eisiau amser i ffwrdd. Siaradwch â’ch plentyn i ofyn beth maen nhw eisiau’i wneud.
Er enghraifft, efallai y byddant yn gallu ymdopi ag ysgol os byddant yn mynd am lai o oriau'r dydd am ychydig. Mae’n bosibl y byddant hefyd yn gwrthod mynd i’r ysgol o gwbl oherwydd byddant yn poeni na fyddwch chi yno pan fyddant yn dychwelyd adref. Serch hynny, gan fod sefydlogrwydd yn bwysig, gallai gormod o amser i ffwrdd gael yr effaith gyferbyniol.
• Dywedwch wrth yr ysgol eich bod chi wedi profi profedigaeth. Mae’n bosibl y gallant gynnig cenfogaeth. Efallai y bydd eich plentyn yn ei chael hi’n ddefnyddiol siarad ag athro am sut y maen nhw’n teimlo.
• Dywedwch wrth yr ysgol yr hyn sydd wedi digwydd a gofyn iddynt roi gwybod i chi sut y mae’r plentyn yn ymdopi.
• Gofynnwch i’r plentyn beth maen nhw eisiau i chi ddweud wrth yr ysgol. Bydd hyn yn gwneud iddynt deimlo’n rhan o’r penderfyniad. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda phlant hŷn.
• Sicrhewch eu bod yn gwybod beth yr ydych chi wedi’i ddweud ac wrth bwy, a gwiriwch fod eu hathro wedi derbyn eich neges.
Pan fydd rhywun yn marw
iSot
ck
101
Cwestiynau y gallai plant eu gofynYn aml mae gan blant lawer o gwestiynau ac isod y mae rhai y gallent eu gofyn ac awgrymiadau ar yr hyn y gallech chi ei ddweud yn ateb iddynt.
Os oes gennych gredoau crefyddol neu ysbrydol penodol, bydd angen i chi addasu rhai o’r atebion isod fel a ganlyn. Bydd angen i chi eu haddasu hefyd yn ôl oed, cam datblygiad a phersonoliaeth y plentyn. Gall dealltwriaeth plentyn o farwolaeth amrywio hefyd. Cyn i chi ateb, gallwch ofyn i’r plentyn beth maen nhw’n ei feddwl. Mae hynny’n caniatáu i chi wirio beth yw eu dealltwriaeth. Mae oedolion hefyd yn ei chael hi’n anodd deall marwolaeth ac efallai na fyddwch chi’n gallu ateb yr holl gwestiynau. Os nad ydych chi’n gwybod yr ateb, mae’n iawn dweud hynny.
Os ydych chi’n gweld y sgyrsiau hyn yn anodd, gofynnwch am gymorth gan weithiwr iechyd proffesiynol neu ofal cymdeithasol, neu arweinydd ysbrydol neu grefyddol.
Cwestiynau am farwolaeth
Beth yw marwolaeth?Digwydd marwolaeth pan fydd corff rhywun yn rhoi’r gorau i weithio. Ni allant anadlu, bwyta nac yfed mwyach. Bydd eu corff yn mynd yn oer ac yn aros yn llonydd.
Pam y mae pobl yn marw?Mae’n bosibl y bydd corff rhywun wedi’i ddifrodi gan ddamwain ddrwg neu efallai bod ganddynt salwch neu glefyd difrifol nad oedd meddygon yn gallu’i wella.
Pa bryd y mae pobl yn marw?Mae llawer o bobl yn marw oherwydd eu bod yn hen neu fod eu corff wedi rhoi’r gorau i weithio. Ond nid yw pawb sy’n marw yn hen.
A yw marwolaeth am byth?Ydy. Pan fydd rhywun yn marw nid oes dim a all ddod â nhw yn ôl yn fyw.
Adran 4: Cefnogi plant
102
Pan fydd rhywun yn marw
Cwestiynau am yr hyn sy’n digwydd ar ôl marwolaethBydd sut y byddwch chi’n ateb y mathau hyn o gwestiynau yn dibynnu ar eich credoau ysbrydol. Mae’n iawn peidio â gwybod yr holl atebion, ond ceisiwch fod mor onest ag y gallwch chi ac wynebu unrhyw faterion anodd y mae’ch plentyn eisiau eu codi.
Beth sy’n digwydd ar ôl marwolaeth?Nid oes unrhyw un yn gwybod yn bendant beth sy’n digwydd ar ôl i rywun farw. Mae gan wahanol bobl syniadau a chredoau gwahanol er bod llawer yn rhannu rhai o’r un rhai.
A oes gan bobl enaid? Beth yw enaid?Ynghyd â chorff corfforol, mae rhai pobl yn credu bod gennym enaid neu ysbryd, sef y rhan arbennig sy’n gwneud ni’n pwy ydym ni. Maen nhw’n credu bod yr enaid yno bob amser, hyd yn oed pan fydd ein corff yn farw.
Beth yw Nefoedd/Jannah/Paradwys?Cred rhai pobl bod enaid neu ysbryd person yn mynd i’r Nefoedd neu rywle tebyg. Yn y Nefoedd mae eu corff yn rhydd o boen ac nid ydynt yn sâl mwyach. Cred pobl eraill unwaith yr ydych chi’n marw nad oes unrhyw beth mwy.
Os yw’r (person a fu farw) yn y Nefoedd/Jannah/Paradwys, pam eu bod yn cael eu claddu?Mae eu corff, sef y rhan gorfforol nad yw’n gweithio mwyach yn cael ei gladdu. Cred rhai pobl bod eu henaid yn y Nefoedd.
A all (y person a fu farw) fy ngweld i o’r Nefoedd/Jannah/Paradwys?Mae rhai pobl yn credu bod y person sydd wedi marw yn gallu’u gweld nhw ac yn gofalu amdanynt.
103
A allaf i ffonio’r Nefoedd/Jannah/Paradwys? Pam na allaf i godi ysgol hir iawn i’r Nefoedd?Nid yw’r nefoedd fel llefydd ar y ddaear – does dim modd ffonio yno na mynd yno.
Pam na allant ddod yn ôl o’r Nefoedd/Jannah/Paradwys?Nid yw mynd i’r Nefoedd fel mynd i lan y môr neu dŷ rhywun arall. Unwaith yr ydych chi yno, nid oes modd dod yn ôl.
Pam wnaeth Duw/Allah/Jehovah adael i’r person farw?Mae hwn yn gwestiwn na all lawer o oedolion ei ateb ychwaith. Mae pobl sy’n credu yn Nuw yn credu bod popeth yn digwydd am reswm. Mae hyn yn golygu bod cynllun mwy i bopeth sy’n digwydd ac mai dim ond Duw sy’n gwybod amdano. Gall hyn fod yn anodd i bobl ei ddeall, yn enwedig pan fydd mor boenus. Mae pobl eraill yn ei gael yn gysur.
Cwestiynau am angladdauOs yw’ch plentyn yn mynd i’r angladd siaradwch â nhw o flaen llaw, yn enwedig os nad ydynt wedi bod i angladd o’r blaen. Bydd hyn yn rhoi syniad iddynt o’r hyn i’w ddisgwyl. Byddwch yn ymwybodol o sut yr ydych chi’n esbonio amlosgiad wrth blant oherwydd fe allent weld y syniad o dân yn frawychus.
Am ragor o awgrymiadau, gweler gwybodaeth Child Bereavement UK ynglŷn ag esbonio angladdau, claddedigaethau ac amlosgiad wrth blant, sydd i’w gweld ar eu gwefan.
Beth yw angladd?Mae angladdau yn seremonïau arbennig sy’n rhoi cyfle i deulu a ffrindiau y person a fu farw ddod ynghyd a chofio amdanynt, dweud ffarwel a dathlu eu bywyd. Fe all fod mewn adeilad crefyddol neu mewn lle o’r enw amlosgfa.
Adran 4: Cefnogi plant
104
Pan fydd rhywun yn marw
Beth sy’n digwydd yn yr angladd?Fel arfer bydd corff y person a fu farw yn cael ei roi mewn blwch arbennig o’r enw arch. Yn aml mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae ac fel arfer bydd pobl yn siarad am y person sydd wedi marw. Mae’n bosibl y bydd corff y person a fu farw yn cael ei gladdu yn y ddaear. Weithiau yn lle cael eu claddu bydd pobl yn cael eu hamlosgi. Mae hon yn broses lle y mae’r corff yn cael ei droi yn llwch meddal.
Beth y mae pobl yn ei wisgo i angladdau?Weithiau bydd pobl yn gwisgo dillad du neu dywyll i fynd i angladd. Serch hynny nid yw rhai pobl yn hoffi gwneud hyn. Ac weithiau bydd y person a fu farw wedi dweud nad oeddynt eisiau i bobl wisgo dillad tywyll. O fewn gwahanol ddiwylliannau, gellir gwisgo gwahanol liwiau. Er enghraifft, bydd Hindŵiaid yn gwisgo gwyn i angladdau.
Pam y mae pobl yn gwisgo’n smart?Mae pobl yn gwisgo’n smart fel arwydd o barch i’r person sydd wedi marw.
Pa mor hir y mae’r angladd yn para?Nid oes amser penodol. Mae’n dibynnu ar faint o emynau neu ganeuon sydd a faint o bobl sy’n siarad.
A fydd pobl yn crio yn yr angladd?Mae llawer o bobl yn crio mewn angladdau oherwydd eu bod yn teimlo’n drist. Serch hynny, mae momentau hapusach pan fydd pobl yn cofio’r person a fu farw a phethau yr oeddynt yn eu gwneud gyda’i gilydd.
A allaf i fynd i’r angladd? (Os ydych chi’n hapus iddynt fynd) Wrth gwrs y galli di fynd i’r angladd ond nid oes yn rhaid iti. Fyddet ti’n hoffi imi ddweud wrthot ti beth fydd yn digwydd cyn iti benderfynu?
105
Beth sy’n digwydd ar ôl yr angladd?Weithiau mae pobl yn hoffi rhoi blodau ar yr arch ac yn cyfrannu arian i elusen fel ffordd o gofio’r person a fu farw. Ar ôl hyn, mae pobl yn aml yn mynd i dŷ rhywun am de. Maen nhw’n bwyta ac yn yfed gyda’i gilydd, ac yn siarad am y person a fu farw fel ffordd o ddathlu eu bywyd.
Beth yw amlosgiad?Fel arfer ar ddiwedd angladd, bydd llenni yn cael eu tynnu o amgylch yr arch ac ni fyddwn yn ei gweld wedyn. Ar ôl i bawb fynd bydd yr arch, gyda’r corff ynddi, yn cael ei rhoi mewn ffwrn boeth, arbennig a’i throi yn llwch. Fyddwn ni ddim yn gweld y rhan hon. Yna mae’r llwch fel arfer yn cael eu rhoi mewn pot arbennig sy’n cael ei alw yn wrn. Digwydd hyn mewn man o’r enw amlosgfa. Bydd rhai pobl yn gwasgaru’r llwch yn rhywle sy’n arbennig i’r person a fu farw Neu gellir eu claddu yn y ddaear. A fydd yn brifo?Fydd y person a fu farw ddim yn gwybod eu bod mewn arch na’u bod yn cael eu claddu ac os ydynt yn cael eu hamlosgi ni fydd yn brifo. Y rheswm am hynny yw ar ôl eu marwolaeth ni fydd eu corff yn gallu teimlo, clywed na gweld.
Cwestiynau am y person a fu farwGall peidio â gwybod beth ddigwyddodd wneud y farwolaeth yn fwy gofidus ac ofnus. Nid oes atebion penodol i’r cwestiynau hyn. Serch hynny, ceisiwch roi cymaint o fanylion ag yr ydych chi’n meddwl y gall eich plentyn ymdopi â nhw yn unol â’u hoed a’u lefel ddealltwriaeth. Peidiwch byth â thanbrisio eu gallu i ddeall. Dylech gael eich arwain ganddynt a’i gwneud hi’n hawdd iddynt ofyn beth bynnag y mae angen iddynt ei ofyn.
Adran 4: Cefnogi plant
106
Mae’n bosibl y bydd plant yn gofyn pethau fel:• Beth yn union ddigwyddodd pan fu farw fy mam?• A wnes di ei gweld hi’n marw?• A oedd hi mewn poen? A wnaeth e frifo?• Beth ddywedodd y meddyg?
Cwestiynau am sut y bydd y farwolaeth yn effeithio arnyn nhwEfallai bydd eich plentyn yn ofni eu bod yn mynd i’ch colli chi hefyd. Gallai gwybod pam y mae rhywun wedi marw helpu i gael gwared ar yr ofn hwn. Mae’n bosibl y byddant hefyd yn meddwl pe bai nhw ddim wedi bod yn ddrwg neu wedi gwneud cymaint o sŵn, wedi helpu mwy neu wedi caru’r person yn fwy, ni fyddent wedi marw. Mae’n bosibl eu bod wedi teimlo’n ddig wrth y person a fu farw ac wedi dymuno nad oeddynt yno neu nad oeddynt yn cymryd cymaint o’u hamser.
Mae’n bwysig iddynt wybod nad oes unrhyw beth y gallent fod wedi’i wneud i atal y person rhag marw. Fe all fod o gymorth canolbwyntio ar drafod atgofion da a phrofiadau hapus.
A fyddaf i’n marw?Un diwrnod. Rydym ni i gyd yn marw, fel arfer pan fyddwn ni’n hen. Ni fyddi di’n marw dim ond achos dy fod ti’n adnabod rhywun sydd wedi marw.
A allaf i ddal canser?/A fyddaf i’n cael trawiad ar y galon?/A allaf i farw o’r un peth y bu farw’r person ohono?Ni alli di ddal canser na thrawiad ar y galon. (Os yw’n berthnasol) Mae rhai clefydau yn enetig, sy’n golygu y gallai aelod o’r teulu fod yn fwy tebygol o’i gael, ond nid yw hyn fel arfer yn wir.
Pan fydd rhywun yn marw
107
Ai fy mai i oedd hyn?Nid dy fai di yw’r farwolaeth. Nid yw bod yn ddrwg yn gwneud i rywun farw. Ac nid yw bod yn garedig ac yn gariadus wrth rywun yn gallu stopio rhywun rhag marw chwaith – ac nid yw dymuniadau a meddyliau chwaith. Mae pawb yn dweud ac yn gwneud pethau y maen nhw’n difaru yn ddiweddarach.
Cwestiynau am bwy fydd yn gofalu amdanyntEto, nid oes atebion penodol. Pan fydd rhiant neu aelod agos arall o’r teulu yn marw bydd newidiadau mawr. Mae’n well bod yn onest am y rhain. Efallai na fydd eich plentyn yn hoffi’r hyn y maen nhw’n glywed ond mae delio â realiti yn well na delio â ffantasi.
Mae’n well gan y rhan fwyaf o blant gael rhywbeth pendant i ddelio ag ef yn hytrach na gorfod dyfalu a phoeni beth fydd yn digwydd iddynt. Mae’n bosibl y bydd y newyddion yn well na’r disgwyl.
Os yw’ch plentyn yn ofni mynd i’r ysgol, cysylltwch ag athro’r plentyn. Gallant edrych ar yr hyn a allai helpu, er enghraifft gadael i’r plentyn eich ffonio chi yn ystod y dydd.
(Os mai rhiant sydd wedi marw) A fydd fy mam/nhad yn marw hefyd?Pan fydd rhiant yn marw, mae plant yn aml yn pryderu y bydd y rhiant neu ofalwr arall yn marw hefyd – yn enwedig os yw’r person arall yn mynd yn sâl. Mae’n bosibl y bydd plant ifanc yn credu bod gan bob salwch yr un canlyniad a byddant angen sicrwydd nad yw’r rhan fwyaf o afiechydon yn arwain at farwolaeth.
A fydd angen i ni symud/newid ysgol/a fydd gennym ddigon o arian?Efallai y bydd eich plentyn yn poeni sut y bydd y teulu yn ymdopi yn ariannol neu a fydd angen iddynt symud tŷ neu ysgol.
Adran 4: Cefnogi plant
108
Cwestiynau am y dyfodolMae’n bwysig nad yw’ch plentyn yn teimlo’u bod yn bradychu’r person sydd wedi marw trwy fwrw ymlaen a’u bywyd. Fe allai fod yn ddefnyddiol dod o hyd i ffordd arbennig o nodi dyddiad y farwolaeth, efallai unwaith y mis i ddechrau ac yna bob blwyddyn. Efallai y byddai eich plentyn yn hoffi gwneud cerdyn neu gasglu blodyn i fynd ag ef i’r fan lle mae’r person wedi’i roi i orffwys.
A fydd fy nheimladau trist yn diflannu?Nid yw teimladau trist yn para am byth. Os yw rhywbeth yn dy atgoffa o’r person a fu farw, efallai y byddi di’n teimlo’n drist eto am ychydig.
A fyddaf i’n teimlo’n hapus eto?Mae pobl yn teimlo’n hapus eto, ond ni fyddant byth yn anghofio’r person a fu farw. Mae’n iawn i ti chwerthin a chael hwyl.
A fyddaf i’n anghofio mam/dad/y person a fu farw?Fyddi di byth yn anghofio’r person a fu farw. Wrth i amser fynd rhagddo rwyt ti’n debyg o ddechrau teimlo’n llai trist nac yr wyt ti’n awr a byddi’n dod o hyd i ffordd o roi lle newydd i’r person a fu farw yn dy fywyd ac yn dy atgofion.
Cwestiynau eraill y gallai plant eu gofyn.Weithiau bydd y cwestiynau a ganlyn yn cael eu gofyn hefyd. Efallai yr hoffech chi ystyried y rhain a chwestiynau eraill rhag ofn y bydd plant yn eu crybwyll.• A fyddwn ni’n dal i fynd ar wyliau?• A fyddaf i’n dal i gael arian poced?• Pwy fydd yn fy helpu i gyda fy ngwaith cartref?• A allaf i fynd i’r fynwent?• A allaf i wneud cerdyn arbennig i fynd i’r fynwent?• A fyddwn ni gyda’n gilydd pan fyddaf i’n marw?
Pan fydd rhywun yn marw
109
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
Llyfrau i oedolion 110
Llyfrau ar gyfer plant ac amdanynt 111
Sut y gall Marie Curie helpu 112
Sefydliadau defnyddiol 114
Gwybodaeth bellach 126
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
110
Llyfrau i oedolionThe grief book (2012) gan Debbie Moore a Carolyn Cowperthwaite (CreateSpace Independent Publishing Platform)Llyfr gwaith wedi’i anelu at eich helpu chi trwy eich proses alaru eich hun. Wedi’i ysgrifennu gan nyrs gyda dros 20 mlynedd o brofiad wrth helpu teuluoedd a ffrindiau mewn profedigaeth, mae’n llawn ymarferion i’ch helpu chi i ddeall a dod i delerau â’ch galar.
A grief observed (2013) gan C.S. Lewis (Faber and Faber)Mae hwn yn hanes personol iawn sydd wedi’i ysgrifennu’n syml o golled yr awdur yn dilyn marwolaeth ei wraig. Efallai y bydd y llyfr hwn yn arbennig o ddefnyddiol os oes gennych gredoau ysbrydol.
Bereavement (4ydd argraffiad): studies of grief in adult life (2010) gan Collin Murray Parkes (Penguin)Ysgrifennwyd y llyfr hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol ynghyd â phobl sydd wedi colli ffrind neu aelod o’r teulu yn ddiweddar. Mae’n cydnabod nad oes un ffordd sengl o alaru ac mae’n cynnwys llawer o hanesion personol o brofiadau pobl mewn profedigaeth o'u galar.
‘You’ll get over it’: the rage of bereavement (2010) gan Virginia Ironside (Penguin)Hanes uniongyrchol o alar a’r emosiynau anodd niferus a ddaw yn sgil hynny. Mae’r awdur hefyd yn teimlo’n ddig am ymdrechion lletchwith a diwerth i ddelio â galar gan deulu a ffrindiau – ac felly’n esbonio’r teitl.
Am ragor o lyfrau ar alar, ewch i mariecurie.org.uk/books-adults neu ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 0800 090 2309*.
Pan fydd rhywun yn marw
111
Llyfrau ar gyfer plant ac amdanyntMuddle, Puddles and Sunshine: Your Activity Book to Help When Someone Has Died (Early Years) (2001) gan Diana Crossley a Kate Sheppard (Hawthorn Press, UK)Yn cynnig cefnogaeth ymarferol a sensitif i blant mewn profedigaeth, mae’r llyfr hwn yn awgrymu cyfres ddefnyddiol o weithgareddau a phrofiadau yng nghwmni cymeriadau cyfeillgar Bee a Bear.
What does dead mean?: a book for young children to help explain death and dying (2012) gan Caroline Jay a Jenni Thomas (Jessica Kingsley Publishers)Mae’r llyfr hwn yn tywys plant trwy gwestiynau y maen nhw’n aml yn eu gofyn am farwolaeth a marw. Mae’n addas i blant pedair oed a hŷn ac mae’n llyfr perffaith i rieni a gofalwyr ei ddarllen gyda’u plant.
Overcoming loss: activities and stories to help transform children’s grief and loss (2008) gan Julia Sorensen (Jessica Kingsley Publishers)Mae’r llyfr hwn yn llawn gweithgareddau creadigol a gemau i helpu plant i ddeall a dod i delerau â gwahanol emosiynau gan gynnwys cywilydd, dicter a chenfigen.
A child’s grief: supporting a child when someone in their family has died (2009) gan Di Stubbs, Julie Stokes, Katrina Alilovic (Winston’s Wish)Mae’r llyfr hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion a allai effeithio ar blentyn pan fydd person sy’n agos atynt yn marw, a hynny ar unwaith ac yn y tymor hwy. Mae’n cynnwys awgrymiadau a syniadau ymarferol am weithgareddau hefyd.
Am ragor o lyfrau ar gyfer plant ac amdanynt, ewch i mariecurie.org.uk/books-children neu ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 0800 090 2309*.
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
112
Sut y gall Marie Curie helpuRydym yn helpu pawb sydd wedi cael eu heffeithio gan salwch terfynol i gael y wybodaeth a’r cymorth y mae eu hangen arnynt, gan gynnwys pobl sydd wedi bod mewn profedigaeth.
Llinell Gymorth Marie Curie 0800 090 2309*Am gefnogaeth emosiynol gyfrinachol a gwybodaeth ymarferol am bob agwedd ar salwch terfynol. Ar agor 8am i 6pm Dydd Llun i Ddydd Gwener a 11am i 5pm Dydd Sadwrn. Mae’n bosibl y bydd eich galwad yn cael ei recordio at ddibenion hyfforddi a monitro.
Sgwrsio Ar-lein Marie CurieGallwch siarad â’n staff hyfforddedig a chael gwybodaeth a chymorth trwy ein gwasanaeth sgwrsio ar-lein. mariecurie.org.uk/support
Cymuned Marie CurieRhannwch brofiadau a dewch o hyd i gefnogaeth trwy siarad â phobl sydd mewn sefyllfa debyg. community.mariecurie.org.uk
Gwybodaeth Marie CurieMae gennym amrywiaeth o wybodaeth am ddim ar gael i’w gweld ar-lein neu fel llyfrynnau print. mariecurie.org.uk/support
Hosbisau Marie Curie Mae ein hosbisau yn cynnig sicrwydd gofal a chefnogaeth arbenigol, mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar, i bobl sy’n byw gyda salwch terfynol a’u hanwyliaid – p’un a fyddwch chi’n aros yn yr hosbis, neu’n dod i mewn am y diwrnod. Mae ein hosbisau hefyd yn cefnogi pobl sydd mewn profedigaeth, ac mae rhai yn cynnig cefnogaeth i blant.mariecurie.org.uk/hospices
Pan fydd rhywun yn marw
113
Gwasanaethau Nyrsio Marie CurieMae Nyrsys a Chynorthwywyr Gofal Iechyd Marie Curie yn gweithio yng nghartrefi pobl ar draws y DU, gan gynnig gofal ymarferol a chefnogaeth emosiynol hanfodol. Os ydych chi’n byw gyda salwch terfynol, fe allant eich helpu chi i gael eich amgylchynu gan y bobl sydd fwyaf annwyl i chi drwy’r amser, yn y man lle’r ydych chi’n fwyaf cyfforddus. mariecurie.org.uk/nurses
Gwirfoddolwyr Cynorthwyo Marie CurieGwyddom y gall y pethau bychain wneud gwahaniaeth mawr pan fyddwch chi’n byw gyda salwch terfynol. Dyma pryd y gall ein Gwirfoddolwyr Cynorthwyo hyfforddedig gynnig help llaw. Gallant ymweld â chi yn rheolaidd i gael sgwrs dros baned, i’ch helpu i fynd i apwyntiad neu fod yn glust i wrando. mariecurie.org.uk/helper
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
114
Sefydliadau defnyddiol
Cymorth mewn profedigaeth
Canolfan Cynghori ar Brofedigaeth 0800 634 9494bereavementadvice.orgMae’n cynnig llinell gymorth am ddim i bobl sydd mewn profedigaeth ac i weithwyr proffesiynol. Mae ganddi wybodaeth ar ei gwefan hefyd am faterion ymarferol ac ymdopi â galar.
Bereavement Register020 7089 64030800 082 1230 (gwasanaeth cofrestru llinell ffôn wedi’i hawtomeiddio)thebereavementregister.org.uk Trwy gofrestru gyda’r gwasanaeth am ddim hwn, mae enwau a chyfeiriadau’r person sydd wedi marw yn cael eu tynnu o restrau post, gan roi stop ar y rhan fwyaf o bost hysbysebu o fewn chwe wythnos.
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain01455 883300bacp.co.uk/therapistsCyfeiriadur o therapyddion cymwys sy’n gweithio ar draws y DU.
Cruse Bereavement Care (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) 0808 808 1677cruse.org.ukMae’n cynnig cymorth mewn profedigaeth, naill ai wyneb yn wyneb neu ar y ffôn, gan wirfoddolwyr hyfforddedig yn y DU.
Cruse Bereavement Care Scotland 0845 600 2227crusescotland.org.uk Mae’n cynnig cymorth mewn profedigaeth, naill ai wyneb yn wyneb neu ar y ffôn, gan wirfoddolwyr hyfforddedig yn yr Alban.
Pan fydd rhywun yn marw
115
Dying Matters08000 21 44 66dyingmatters.orgDewch o hyd i wybodaeth i’ch helpu chi i gefnogi’r rheini sydd mewn profedigaeth, ac lawrlwythwch y daflen Being there.
Friends of the Elderly020 7730 8263fote.org.uk Mae’n cynnig gwasanaeth ymgyfeillio ffôn neu wyneb yn wyneb i bobl sy’n unig yn gymdeithasol neu nad ydynt yn medru symud.
GriefSharegriefshare.orgGrwpiau cymorth yng Ngogledd Iwerddon wedi’u harwain gan bobl gyda phrofiad personol o brofedigaeth.
Lifeline Northern Ireland0808 808 8000Ffôn testun: 18001 0808 808 8000lifelinehelpline.infoLifeline yw’r gwasanaeth llinell gymorth ymateb mewn argyfwng yng Ngogledd Iwerddon i bobl sy’n profi trallod neu anobaith. Am ddim o linellau tir y DU neu ffonau symudol.
Macmillan Cancer Support0808 808 00 00macmillan.org.uk Mae’n cynnig cymorth ymarferol, meddygol ac ariannol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser.
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
116
Meetupmeetup.comGwefan am ddim lle gallwch chi ddod o hyd i grwpiau lleol o bobl gyda diddordebau tebyg am sgwrs a chefnogaeth.
Mencap0808 808 1111mencap.org.ukCefnogaeth i bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn y DU, gan gynnwys cymorth mewn profedigaeth.
Gwefan GIGnhs.uk/livewell/bereavementGwybodaeth i deulu a ffrindiau mewn profedigaeth, a chyfleuster chwilio am gymorth mewn profedigaeth yn lleol.
Y Samariaid116 123samaritans.org Mae’n cynnig cefnogaeth emosiynol gyfrinachol 24 awr y dydd, i bobl sy’n profi teimladau o drallod neu anobaith. Ar gael ar y ffôn, e-bost neu lythyr.
Scope0808 800 3333scope.org.uk Gwybodaeth ymarferol a chefnogaeth emosiynol i unrhyw un gydag anabledd dysgu neu amhariad corfforol.
Pan fydd rhywun yn marw
117
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
SupportLine01708 765 200supportline.org.uk Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol ac am ddim i blant, oedolion ifanc ac oedolion ar y ffôn, e-bost a’r post.
Switchboard0300 330 0630switchboard.lgbt Llinell gymorth a gwasanaeth gwybodaeth a chymorth i lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol a thrawsryweddol, ac unrhyw un sy’n ystyried materion yn ymwneud â’u rhywioldeb a rhyw.
WAY (Widowed and Young)widowedandyoung.org.ukWAY yw’r unig elusen genedlaethol yn y DU i ddynion a menywod sy’n 50 oed neu’n iau pan fydd eu partner yn marw. Mae’n grŵp cefnogi rhwng cyfoedion a redir gan rwydwaith o wirfoddolwyr sydd wedi profi profedigaeth yn ifanc. Mae’n cynnal gweithgareddau a grwpiau cymorth i bobl sy’n ymdopi â galar.
118
Pan fydd rhywun yn marw
Cefnogaeth i blant a’r rhai yn eu harddegau
Child Bereavement UK 0800 02 888 40childbereavementuk.org Mae’n cefnogi teuluoedd pan fydd baban neu blentyn o unrhyw oed wedi marw neu’n marw, neu pan fydd plentyn yn wynebu profedigaeth.
Childhood Bereavement Network020 7843 6309childhoodbereavementnetwork.org.ukMae’n anelu at wella ansawdd ac ystod y cymorth mewn profedigaeth i blant, pobl ifanc, eu teuluoedd a gofalwyr eraill. Mae’n cynnig gwybodaeth am wasanaethau cymorth. Hope Again0808 808 1677hopeagain.org.uk Gwefan wedi’i chynllunio i bobl ifanc gan bobl ifanc sydd wedi profi profedigaeth. Mae’n rhan o Cruse Bereavement Care.
Winston’s Wish08088 020 021winstonswish.org Elusen profedigaeth i blant sy’n cynnig arweiniad a chymorth ymarferol arbenigol i blant mewn profedigaeth, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
119
Cynllunio angladd
Cymdeithas Trefnwyr Angladdau Gwyrdd0330 221 1018greenfd.org.uk Sefydliad a all helpu i ddod o hyd i drefnydd angladdau yn eich ardal gydag opsiynau angladdau ecogyfeillgar.
Awdurdod Cynllunio Angladdau0845 6019619 funeralplanningauthority.co.ukOlrhain cynllun angladd trwy eu darparwyr cynllun angladd cofrestredig.
Cymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau0121 711 1343nafd.org.uk Dewch o hyd i drefnydd angladdau cofrestredig yn agos atoch chi neu mynnwch gyngor am drefnu angladd.
Cymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau Annibynnol a Chysylltiedig0345 230 6777saif.org.uk Dewch o hyd i drefnydd angladdau annibynnol yn y DU.
Canolfan Marwolaeth Naturiol01962 712 690naturaldeath.org.uk Os ydych chi’n edrych am gymorth, cefnogaeth, cyngor neu arweiniad i gynllunio angladd, naill ai i’ch hun neu i rywun sy’n agos atoch chi, gall y Ganolfan Marwolaeth helpu. Mae’r wefan yn cynnwys rhestr o safleoedd claddu gwyrdd a chyngor ar gladdedigaethau coedwig.
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
Pan fydd rhywun yn marw
Cyngor ar wasanaethau crefyddol neu secwlar
Y Gymdeithas Fwdhaidd020 7834 5858thebuddhistsociety.org Mae’r traddodiad Bwdhaidd yn amrywiol ac nid oes un gwasanaeth angladd neu ddefod sy’n gyffredin i bob Bwdhydd. Mae’n bosibl y bydd y Gymdeithas Fwdhaidd yn gallu cynghori neu awgrymu cysylltiadau lleol sy’n gallu helpu gyda gwasanaethau angladd Bwdhaidd.
Sefydliad Angladdau Sifil (IoCF)01480 861411iocf.org.uk Gall IoCF esbonio beth sydd ynghlwm wrth drefnu angladd sifil, sut i ddod o hyd i weinydd, hanes y ffurf hon o seremoni a sut y gall gweithwyr angladd proffesiynol weithio gydag aelodau IoCF.
Humanihumanistni.orgDewch o hyd i weinydd sy’n ddyneiddiwr yng Ngogledd Iwerddon.
Humanists UK020 7324 3060humanism.org.uk Gall Humanists UK helpu os ydych chi eisiau seremoni angladd nad yw’n grefyddol. Dewch o hyd i weinydd yn eich ardal.
120
Humanist Society Scotland0300 302 0682humanism.scotDewch o hyd i weinydd angladd sy’n ddyneiddiwr yn eich ardal os ydych chi’n byw yn yr Alban.
Cyngor Mwslimiaid Prydain0845 26 26 786mcb.org.uk Cysylltwch â’r Cyngor am gyngor ar seremonïau a defodau angladdau Mwslim.
OneSpirit Interfaith Foundationinterfaithfoundation.orgSefydliad cenedlaethol a all ddarparu cynrychiolwyr i helpu i gynllunio seremonïau wedi’u teilwra, gydag elfen ysbrydol neu hebddi.
United Synagogue020 8343 6283 theus.org.uk/burial Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer cynllunio seremoni angladd Iddewig.
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
121
Pan fydd rhywun yn marw
Cymorth cyfreithiol, budd-daliadau ac ariannol
Age UK0800 678 1602ageuk.org.ukMae gan Age UK rwydwaith o ganghennau lleol sy’n anelu at helpu pobl hŷn i wneud y mwyaf o’u bywydau. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am ba gymorth ariannol a chyfreithiol a allai fod ar gael. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys canghennau lleol.
Bereavement Service (Gogledd Iwerddon)0800 085 2463nidirect.gov.uk/contacts/bereavement-serviceOs ydych chi angen adrodd marwolaeth rhywun sy’n derbyn budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon, gallwch wneud hynny trwy gysylltu â rhif rhadffôn y gwasanaeth.
British Gas Energy Trust01733 421021britishgasenergytrust.org.uk Elusen gofrestredig sy’n helpu unigolion a theuluoedd mewn tlodi, sy’n dioddef neu mewn trallod arall sy’n ei chael hi’n anodd talu eu dyledion nwy a/neu drydan. Gellir defnyddio’r grantiau hefyd i dalu am dreuliau angladd.
122
Cyngor ar Bopeth 03444 111 4440800 028 1881 (Gogledd Iwerddon)0808 800 9060 (Yr Alban)03444 77 20 20 (Cymru)citizensadvice.org.ukMae Cyngor ar Bopeth yn cynnwys mynediad at wybodaeth am eich hawliau, gan gynnwys budd-daliadau, tai a chyflogaeth, ac am ddyled a materion defnyddwyr a chyfreithiol. Chwiliwch y safle am eich canolfan agosaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)Saesneg: 0800 731 0469 (Ffôn testun: 0800 731 0464)Cymraeg: 0800 731 0453 (Ffôn testun: 0800 731 0456)Ffoniwch y llinell gymorth i weld a oes unrhyw fudd-daliadau profedigaeth yn ddyledus a rhowch wybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau am y farwolaeth. Ni fydd angen i chi wneud hyn os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
GOV.UK GOV.UKCyfeiriadur helaeth o fudd-daliadau a gwasanaethau llywodraeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gan gynnwys budd-daliadau a phensiynau profedigaeth. Gallai rhai gwahaniaethau lleol fod yn gymwys felly gofynnwch i’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol beth sydd ar gael wrth eich ymyl chi.
gov.scot Gwefan Llywodraeth yr Alban. Dewch o hyd i wybodaeth am yr hyn i’w wneud ar ôl marwolaeth a manylion cyswllt lleol. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddeddfwriaeth leol ynghylch tystysgrifau meddygol newydd.
Cymdeithas y Cyfreithwyr (Cymru a Lloegr) 020 7242 1222lawsociety.org.ukDewch o hyd i gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
123
Pan fydd rhywun yn marw
Law Society of Scotland 0131 226 7411Ffôn testun: 0131 476 8359lawscot.org.ukDewch o hyd i gyfreithiwr yn yr Alban.
Law Society of Northern Ireland 028 9023 1614lawsoc-ni.orgDewch o hyd i gyfreithiwr yng Ngogledd Iwerddon.
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol0800 138 7777moneyadviceservice.org.ukCyngor ariannol am ddim a diduedd a sefydlwyd gan y Llywodraeth. Mae’n cynnwys offer a chynllunwyr cyllidebu, cyngor ar ddyledion a chanllawiau ar dalu am angladdau a gofal.
nidirect nidirect.gov.uk Mae porth Llywodraeth Gogledd Iwerddon yn cynnwys gwybodaeth ar-lein am bob agwedd ar arian, treth a budd-daliadau. Gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflenni cais a’r canllawiau o’r fan hon.
Northern Ireland Housing ExecutiveCyffredinol: 03448 920 900Budd-daliadau: 03448 920 902Atgyweiriadau: 03448 920 901nihe.gov.uk Mae’r Housing Executive yn cynnig cymorth a chyngor ar addasu’ch cartref a budd-daliadau tai yng Ngogledd Iwerddon.
124
Gwasanaeth Olrhain PensiwnFfôn: 0800 731 0193Ffôn testun: 0800 731 0176gov.uk/find-pension-contact-detailsDewch o hyd i bensiwn coll trwy gysylltu â’r gwasanaeth, ar-lein neu ar y ffôn.
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban0131 444 3300 scotcourts.gov.ukMae’n cynnig gwybodaeth am gael ‘cadarnhad’ yn yr Alban – y caniatâd cyfreithiol i ddelio ag ystad rhywun.
Shelter shelter.org.ukCyngor ar fudd-daliadau tai a chyfraith tai yn Lloegr.
Dywedwch Wrthym Unwaithgov.uk/tell-us-onceGwasanaeth am ddim sy’n caniatáu i chi adrodd marwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau Llywodraeth ar un tro. Pan fyddwch chi’n cofrestru’r farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn rhoi gwybod i chi os yw’r gwasanaeth ar gael yn eich ardal ac yn rhoi rhif ffôn i chi. Gallant hefyd roi cyfeirnod unigryw i chi os byddai’n well gennych chi ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ar-lein.
Turn2usturn2us.org.ukMae Turn2us yn wasanaeth am ddim sy’n helpu pobl mewn angen ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau, grantiau elusennol a chymorth ariannol arall.
Adran 5: Cyfeiriadur a gwybodaeth bellach
125
Pan fydd rhywun yn marw
A oedd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi?Os oes gennych chi unrhyw adborth am y wybodaeth yn y llyfryn hwn, anfonwch e-bost atom [email protected] neu ffoniwch Llinell Gymorth Marie Curie ar 0800 090 2309*.
Gwybodaeth bellach Cynhyrchwyd y llyfryn hwn gan dîm Gwybodaeth a Chymorth Marie Curie. Mae wedi’i adolygu gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a gan bobl sydd wedi’u heffeithio gan salwch terfynol.
Os hoffech chi restr o’r ffynonellau a ddefnyddiwyd i greu’r wybodaeth hon, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch Linell Gymorth Marie Curie ar 0800 090 2309*.
HysbysiadDarperir y wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn er budd a defnydd personol pobl gyda salwch terfynol, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Darperir y wybodaeth hon fel arweiniad cyffredinol at ddibenion gwybodaeth yn unig. Ni ddylid ei hystyried yn gyngor meddygol neu glinigol, na’i defnyddio yn lle cyngor personol neu benodol gan ymarferwr meddygol cymwys. Yng nghyswllt materion cyfreithiol, ariannol neu eraill yr ymdrinnir â nhw yn y wybodaeth hon, dylech chi hefyd ystyried cyngor proffesiynol penodol am eich amgylchiadau personol.
Er ein bod ni’n ceisio sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir, nid ydym yn derbyn unrhyw rwymedigaeth sy’n deillio o’i defnyddio. Cyfeiriwch at ein gwefan i weld ein telerau ac amodau llawn.
126
© Marie Curie. Mawrth 2019. Rhifyn 2. Adolygiad arfaethedig nesaf 2022. Elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (207994) a’r Alban (SC038731). Diogelir pob hawl. A025_March19
Marie Curie – pwy ydym ni’n eu helpuRydym yma i bobl sy’n byw gydag unrhyw salwch terfynol, a’u teuluoedd. Rydym yn cynnig gofal arbenigol, arweiniad a chefnogaeth i’w helpu i gael y gorau o’r amser sydd ganddynt ar ôl.
Llinell Gymorth Marie Curie0800 090 2309*
Gofynnwch gwestiynau a dewch o hyd i gefnogaeth. Ar agor 8am i 6pm Dydd Llun i Ddydd Gwener ac 11am i 5pm Dydd Sadwrn. mariecurie.org.uk/support
Gallwch hefyd ymweld â community.mariecurie.org.uk i rannu profiadau a dod o hyd i gefnogaeth trwy siarad â phobl mewn sefyllfa debyg.
*Mae galwadau am ddim o linellau ffôn a ffonau symudol.
Gallai’ch galwad gael ei recordio at ddibenion hyfforddi a monitro.