45
“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio Sefydliadau

or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio

Sefydliadau

Chwefror 2021

Page 2: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille, ynghyd â fformatau sain a Hawdd eu Deall, ac ar ffurf Iaith Arwyddion Prydain, a bydd yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw am Gymraeg neu Saesneg ar gais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu polisi cyfle cyfartal.

Beth i'w wneud os na allwch dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol

Os na allwch dderbyn arian loteri am unrhyw reswm, e-bostiwch ni pan fyddwch wedi cael eich rhif cyfeirnod ar gyfer eich prosiect yn egluro pam. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn ceisio ariannu eich prosiect drwy ffynonellau eraill.

2

Page 3: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Cynnwys

Cyn i chi ddechrau arni 4

Adrannau'r cais 6

1. Croeso 6

2. Eich Sefydliad 6

3. Gwybodaeth Cydraddoldeb am eich Sefydliad 7

4. Cysylltu â Chi 8

5. Crynodeb o'r Prosiect 9

6. Cynnig y Prosiect 11

7. Targedau'r Prosiect 17

8. Lleoliad y Prosiect 18

9. Gwybodaeth Cydraddoldeb am eich Prosiect 19

10. Datganiad 19

11. Atodiadau 20

12. Ar ôl cyflwyno eich ffurflen gais 31

Cysylltu â Ni 35

3

Page 4: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Cyn i chi ddechrau arni

Dylai'r cais gael ei gyflwyno gan y prif sefydliad, fel cynrychiolydd cydweithredwyr a phartneriaid. Os bydd y cais yn llwyddiannus, y prif sefydliad fydd yn gyfrifol am y grant, gan gynnwys bodloni unrhyw amodau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag ef, darparu adroddiadau interim ac anfon adroddiad cwblhau atom pan fydd y prosiect wedi'i orffen. Bydd unrhyw ohebiaeth a anfonir gennym am y grant yn cael ei hanfon i'r prif sefydliad, a disgwyliwn i'r wybodaeth hon gael ei rhannu â holl bartneriaid y prosiect.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ein dogfen ganllaw Cysylltu + Ffynnu cyn i chi ddechrau llenwi eich ffurflen gais.

Gallwch gael gafael ar y canllawiau drwy ddilyn y ddolen hon: https://arts.wales/cy/cysylltu-ffynnu

Oes gennych chi bopeth sydd ei angen i gwblhau eich ffurflen gais?

Manylion cyswllt a gwybodaeth eich sefydliad (oni bai eich bod wedi gwneud cais blaenorol gan ddefnyddio ein system ar-lein)

Gwybodaeth cydraddoldeb am eich sefydliad a'ch prosiect

Cynnig ysgrifenedig eich prosiect, gan gynnwys dyddiadau dechrau a gorffen a manylion eich cydweithredwyr a phartneriaid. Nodwch fod angen dyddiad gorffen er mwyn prosesu eich cais, ond os byddwch yn llwyddiannus byddwn yn hapus i drafod

4

Page 5: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

newid y dyddiad, os oes angen, unwaith y bydd y prosiect ar waith pan fydd gennych well syniad o sut y bydd eich prosiect yn datblygu dros amser. Rhoddir rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd ei hangen yn adran 5, Crynodeb o'r Prosiect, ac adran 6, Cynigion Prosiect

Cyllideb eich prosiect (rhaid ei chyflwyno ar ein templed wedi'i lawrlwytho sydd ar gael yn ein ffurflen gais). Mae angen i ni gael rhyw syniad o'r hyn rydych yn anelu ato ond gallwn ddiwygio llinellau'r gyllideb wrth i'ch prosiect fynd rhagddo

5

Page 6: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Adrannau'r cais

1. CroesoBydd y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth gyffredinol bwysig i chi am eich ffurflen gais.

Bydd y tudalen yn 'mynd i gysgu' ar ôl 15 munud felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei chadw wrth i chi ei chwblhau, a pheidiwch â'i gadael ar agor mewn tab ar wahân yn eich porwr heb ei chadw'n gyntaf. Cewch fynd at eich ffurflen tra bo’r cynllun ar agor. Caiff unrhyw waith sydd heb ei gadw ei golli ac ni fydd modd ei adfer.

Hefyd dim ond hyd y dyddiad cau y bydd eich ffurflen yn 'fyw'. Ar ôl hynny caiff ei dileu. Os na fyddwch yn cyflwyno eich cais ond eich bod am gadw'r testun rydych wedi ei ychwanegu, cadwch ef rywle arall, megis mewn dogfen word neu fel google doc. Os bydd eich ffurflen gais wedi 'dod i ben', bydd angen i chi gysylltu â ni am ffurflen newydd.

2. Eich Sefydliad

Yn yr adran hon rydym yn gofyn i chi fel y prif sefydliad ddarparu peth gwybodaeth sylfaenol am eich sefydliad.

Mae'r cwestiynau hyn yn cynnwys enw a chyfeiriad y sefydliad, cyfeiriad y wefan ac, os yw'n gymwys, rif Tŷ'r Cwmnïau, rhif y Comisiwn Elusennau a'r rhif TAW.

Gofynnwn i chi ddisgrifio prif weithgareddau eich sefydliad (yr hyn a wnewch, ble mae'n digwydd fel arfer a'r math o

6

Page 7: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

bobl a gaiff fudd ohono). Bydd hefyd angen i chi ddewis y math o sefydliad a'r sector sy'n gweddu orau i'ch sefydliad a sut mae wedi'i sefydlu, a byddwn yn gofyn i chi am eich staff er mwyn deall maint eich sefydliad.

3. Gwybodaeth Cydraddoldeb am eich Sefydliad

Rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau yn yr adran hon. Byddwn yn defnyddio'r data a roddir gan ein holl ymgeiswyr am grant i'n helpu i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd ystod eang o bobl a sefydliadau. Rhaid i ni hefyd nodi pwy y mae ein cyllid yn ei gyrraedd fesul pob nodwedd warchodedig a gwmpesir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'n Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol, er mwyn cydymffurfio â'r dyletswyddau penodol a nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Ni fydd yr atebion a roddir gennych ar y ffurflen hon yn effeithio ar unrhyw benderfyniad am eich cais am grant a dim ond at ddibenion monitro y byddwn yn eu defnyddio.

4. Cysylltu â Chi

Byddwn yn gofyn i chi am eich dewis iaith gyswllt. Dewiswch o'r gwymplen ar y ffurflen. Nodwch y bydd yr holl ohebiaeth am y grant hwn, gan gynnwys y llythyr penderfynu, yn yr iaith a ddewisir gennych.

Gofynnwn am dair set o fanylion cyswllt:

eich Cadeirydd neu unigolyn cyfatebol

y Prif Gyswllt

7

Page 8: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Os mai'r un unigolyn yw eich Cadeirydd a'ch Prif Gyswllt, rhowch fanylion cyswllt unigolyn arall o'ch sefydliad.

Nodwch na all cyfeiriadau e-bost pob cyswllt fod yr un peth, megis cyfeiriad cyffredinol y cwmni.

Y Prif Gyswllt yw'r unigolyn y byddwn yn cysylltu ag ef ynghylch pob agwedd ar eich cais. Rhaid bod ganddo awdurdod eich sefydliad i lofnodi a chymeradwyo dogfennau ac ateb unrhyw ymholiadau a all fod gennym.

Byddwn yn cysylltu â'ch Prif Gyswllt a'ch Cadeirydd (neu unigolyn cyfatebol) am ein penderfyniad ar eich cais, felly cadwch hyn mewn cof wrth ddewis eich iaith.

Bydd eich Prif Gyswllt yn gyfrifol am anfon y wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnom er mwyn ymdrin ag unrhyw amodau penodol a roddir ar y grant, yn ogystal ag unrhyw adroddiadau interim wrth i'r prosiect fynd rhagddo. Bydd hefyd yn gyfrifol am anfon adroddiad cwblhau atom pan fydd y prosiect wedi ei orffen.

Trydydd partïon

Rhaid mai eich sefydliad sy'n gyfrifol am bob cais, ac nid trydydd parti. Hyd yn oed os byddwch wedi cael help i ddatblygu eich cais, rhaid i'r manylion cyswllt a roddir gennych fod ar gyfer unigolion o'ch sefydliad sydd â'r awdurdod priodol i wneud penderfyniadau a llofnodi dogfennau (fel contractau a chytundebau ariannu) ar ran eich sefydliad a'ch partneriaid.

8

Page 9: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Cofiwch na allwn gyfrannu at unrhyw gostau yr aed iddynt am gyngor a help wrth gwblhau eich cais.

5. Crynodeb o'r Prosiect

Yn eich cais bydd angen i chi ddangos sut mae eich prosiect yn adlewyrchu un neu ragor o'n blaenoriaethau corfforaethol yn ogystal ag uchelgeisiau a meini prawf asesu'r gronfa. Bydd hyn yn rhan ganolog o'n hasesiad. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau.

Yn yr adran hon bydd hefyd angen i ni gael manylion sylfaenol am y prosiect gennych, megis:

Teitl eich prosiect

Dyddiad dechrau a gorffen

Nodwch fod angen dyddiad gorffen er mwyn prosesu eich cais, ond os byddwch yn llwyddiannus byddwn yn hapus i drafod diwygio'r dyddiad, os oes angen, unwaith y bydd y prosiect ar waith.

Nodyn Pwysig:

Dylai dyddiad dechrau eich prosiect gyfateb i'r adeg pan rydych yn disgwyl mynd i gostau. Ni all y dyddiad dechrau fod cyn y dyddiad y cewch ein llythyr penderfynu a fydd tua 12 wythnos ar ôl y dyddiad cau.

Cofiwch na allwn ariannu gweithgarwch sydd eisoes wedi digwydd, nac unrhyw gostau a dalwyd gennych neu rydych wedi cytuno i'w talu (drwy lofnodi contract neu wneud

9

Page 10: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

archeb er enghraifft), cyn i ni benderfynu ar eich cais a chyn i chi dderbyn ein cynnig grant.

Mae angen i chi sicrhau bod o leiaf 12 wythnos waith rhwng y dyddiad cau a dyddiad dechrau eich prosiect.

Bydd hefyd angen i chi nodi:

cyfanswm cost y prosiect

faint o arian rydych yn gwneud cais amdano

unrhyw gostau mynediad personol

Gallwn helpu i dalu costau cymorth mynediad personol i chi, neu i unrhyw un sy'n uniongyrchol gysylltiedig â llywio eich prosiect yn greadigol, wrth ei gyflawni. Rhoddir rhagor o wybodaeth am hyn ar dudalen 29 o dan Gostau Mynediad. Pan fydd cyllideb eich prosiect wedi'i chwblhau, nodwch y cyfanswm ar gyfer costau mynediad yn y blwch hwn.

6. Cynnig y Prosiect

Dyma eich cyfle i ddweud wrthym am eich prosiect, gyda phwy y byddwch yn gweithio a beth yw eich amcanion a rennir. Yn eich cais bydd angen i chi ddangos sut mae eich prosiect yn adlewyrchu un neu ragor o'n blaenoriaethau corfforaethol a sut mae'n cyflawni ein huchelgeisiau a meini prawf asesu'r gronfa hon (gweler y nodiadau canllaw). Bydd hyn yn rhan ganolog o'n hasesiad. Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn yn ein canllawiau.

Mae'r adran hon yn cynnwys naw cwestiwn am gynnig eich prosiect. Mae'r awgrymiadau isod a'r ffurflen gais yn rhoi

10

Page 11: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

enghreifftiau o'r math o bethau y gallech fod am eu nodi am eich prosiect

1 Rhowch grynodeb o'r prosiect

Ceir uchafswm o 90 o eiriau ar gyfer y blwch hwn ac, os byddwch yn llwyddiannus, gallwn ddefnyddio'r testun hwn mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd a gaiff ei lunio gennym.

2 Dywedwch wrthym am y gydfenter, eich partneriaid a'ch amcanion a rennir [hyd at 500 o eiriau]

Soniwch am bartneriaid y prosiect, eu hanes blaenorol a'u rolau.

Beth sydd wedi eich dwyn ynghyd i weithio ar y prosiect hwn?

Sut y bydd y prosiect yn dwyn ynghyd bartneriaid nad ydynt wedi cydweithio o'r blaen?

Pa gyfleoedd â thâl a gaiff eu creu i unigolion llawrydd a sut y byddwch yn sicrhau bod y rhain yn cael eu hysbysebu mewn ffordd agored a theg, y tu hwnt i'ch rhwydweithiau presennol?

Nodwch: Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn am gadarnhad bod eich partneriaid yn cymryd rhan

11

Page 12: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

3 Syniadau creadigol ac uchelgais [hyd at 500 o eiriau]

Dyma'ch cyfle i ddweud wrthym am yr hyn rydych am ei wneud a'r canlyniadau rydych yn gobeithio amdanynt.

Pa leisiau newydd a gaiff eu clywed drwy eich prosiect?

Beth rydych am ei gyflawni yn y prosiect hwn nad ydych wedi gallu ei wneud o'r blaen?

Pa heriau allweddol rydych yn eu disgwyl a sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r rhain er mwyn gwireddu eich syniad creadigol?

Pa waddol rydych yn gobeithio ei gyflawni y tu hwnt i'r cyfnod cyllido cychwynnol?

4 Nodwch â phwy rydych am ymgysylltu yn eich prosiect? [hyd at 500 o eiriau]

Rydym am i'n cyllid gyrraedd pob cymuned ledled Cymru mewn ffordd ehangach a dyfnach. Pan siaradwn am gymunedau, nid dim ond mewn ystyr ddaearyddol y gwnawn hynny. Nodwch sut y bydd eich prosiect yn ein helpu i gyflawni hyn.

Sut y bydd pobl yn dod i wybod am eich prosiect?

Sut y byddwch yn cyrraedd pobl y tu hwnt i'ch rhwydwaith a'ch cynulleidfa arferol?

12

Page 13: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Sut y gallai eich prosiect helpu, ysbrydoli neu fentora artistiaid sy'n dod i'r amlwg neu'r rhai sy'n ystyried gyrfa yn y celfyddydau?

Sut rydych yn gobeithio y bydd y prosiect hwn o fudd i'r rhai dan sylw?

Rydym am i'r sefydliadau a ariannwn ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth maent yn ei wneud a sicrhau bod ein harian yn cyrraedd ardaloedd difreintiedig hysbys. Byddwn yn disgwyl i chi ddangos sut rydych wedi ystyried y materion hyn yn y rhan hon o'ch cynnig.

Mae ein gwefan yn cynnwys dogfennau canllaw defnyddiol i'ch helpu i gynllunio yn hyn o beth, megis ein Harweiniad Cydraddoldeb, Lle Cyfartal , Datblygu cynulleidfaoedd B/byddar, pobl sydd wedi colli eu clyw a phobl sy'n drwm eu clyw yng Nghymru, pecynnau cymorth Datblygu cynulleidfaoedd â nam ar eu golwg, a'n Saith Egwyddor Cynhwysol ar gyfer Sefydliadau Celfyddydol a Diwylliannol.

Os yw'ch cynnig yn cynnwys gwaith cynhyrchu neu awyr agored sy'n benodol i safle, nodwch sut mae'r lleoliad yn addas ac yn hygyrch.

Os yw'ch prosiect yn cynnwys gweithgarwch cyfranogol, gallai'r canllawiau canlynol gan Artworks Cymru fod o fudd: https://artworks.cymru/cy/egwyddorion-ansawdd

13

Page 14: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Os yw'ch cynnig yn cynnwys hyfforddiant, rhaglen fentora, neu brofi syniad creadigol newydd, dylech ystyried buddiannau hirdymor posibl eich prosiect.

5 a 6 Dywedwch wrthym am iaith neu ieithoedd eich prosiect [hyd at 150 o eiriau ar gyfer C6]

Dewiswch yr iaith neu'r ieithoedd y byddwch yn ei/eu defnyddio i gyflawni eich prosiect. Efallai y bydd eich prosiect yn cael ei gyflawni mewn un iaith yn gyfan gwbl neu efallai y bydd yn cynnwys un neu fwy o ieithoedd. Amcangyfrifwch y ganran ar gyfer pob iaith a chofiwch fod yn rhaid i'ch cyfanswm adio i fyny i 100%.

Mae Cymru yn wlad ddwyieithog a disgwyliwn i bobl allu ymgysylltu â'r celfyddydau yn eu dewis iaith, boed hynny fel cynulleidfa, cyfranogwr neu artist.

Wrth asesu ceisiadau grant, rhaid i ni fesur effaith y prosiect ar y Gymraeg er mwyn cyrraedd Safon 90 ein Hysbysiad Cydymffurfio cyhoeddedig gan Gomisiynydd y Gymraeg. Defnyddiwn y wybodaeth hon i gefnogi ein penderfyniad gan gyfeirio at ein blaenoriaethau Cymraeg a hefyd i roi data i swyddfa'r Comisiynydd, fel sy'n ofynnol. Rydym wedi cyhoeddi Pecyn Cymorth ar Ddwyieithrwydd i gynnig arweiniad pellach.

7 Nodwch sut y byddwch yn rheoli eich prosiect [hyd at 500 o eiriau]

Rydym am ariannu prosiectau a reolir yn dda sydd ag amcanion clir a rennir ond a all ymateb i amgylchiadau

14

Page 15: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

ac anghenion newidiol. Yn yr adran hon, gallwch ddweud wrthym er enghraifft:

Eich llinellau amser disgwyliedig ar gyfer prif gam(au) y prosiect, gan gynnwys cerrig milltir dysgu allweddol a fydd yn dylanwadu ar y ffordd yr ymdrinnir â phob cam

Sut y caiff y gydfenter ei rheoli er mwyn sicrhau bod gan bawb lais a'u bod yn cael cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau

Y prif feysydd o ran risg sy'n ymwneud â datblygu syniadau a chyflawni'r prosiect wedyn a sut y byddwch yn eu lleihau neu'n eu hosgoi

Sut y byddwch yn casglu ac yn ymgorffori adborth drwy gydol y prosiect

Sut y byddwch yn monitro ac yn gwerthuso llwyddiant eich prosiect ac yn ymgorffori'r gwersi wrth i'r prosiect fynd rhagddo

Sut y byddwch yn rhannu'r hyn a ddysgir yn ehangach

8 Hyrwyddo'r "Contract Diwylliannol" [500 o eiriau]

Dywedwch wrthym am yr hyn y bydd eich prosiect yn ei wneud i hyrwyddo cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Gallai hyn

15

Page 16: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

olygu dweud wrthym am eich ymrwymiad i'r canlynol yn y dyfodol:

Gwaith Teg – sicrhau y telir cyfraddau cyflog priodol a chynyddu'r cyfleoedd i gynnwys a chefnogi gweithwyr llawrydd

Amrywiaeth – gweithio i gynnwys mwy o bobl Ddu, pobl groenliw eraill, pobl F/fyddar ac anabl a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg, yn y sefydliad cyfan ac yn y gwaith rydych yn ei wneud

Cefnogi mentrau sy'n cynnwys iechyd a'r celfyddydau, gan gynnwys presgripsiynu cymdeithasol

Cynaliadwyedd amgylcheddol – lleihau effaith amgylcheddol eich gweithgareddau

9 Cyflog teg [100 o eiriau]

Cadarnhewch ie neu na ac unrhyw resymeg arall dros hyn.

7. Targedau'r Prosiect

Sylweddolwn y gall y rhain newid wrth i'ch cynnig ymateb i'ch rhanddeiliaid ond mae'n rhoi man cychwyn i ni ei werthuso.

16

Page 17: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Math o gelfyddyd

Rydym yn casglu ac yn monitro gwybodaeth am faint o arian a ddyrennir i bob math o gelfyddyd. Yn yr adran hon, dadansoddwch eich gweithgarwch sy'n gysylltiedig â phob math o gelfyddyd.

Efallai fod eich prosiect yn un math o gelfyddyd yn unig neu gall gynnwys peth dawns, drama a cherddoriaeth er enghraifft. Amcangyfrifwch y ganran ar gyfer pob math o gelfyddyd. Rhaid i'r cyfanswm adio i fyny i 100%.

Mathau o Weithgarwch

Mae'r adran hon yn rhestru sawl gweithgaredd a allai fod yn berthnasol i'ch prosiect. Dim ond y rhai sy'n gymwys i'ch prosiect y dylech eu ticio. Amcangyfrifwch y ganran ar gyfer pob math o weithgarwch. Rhaid i'r cyfanswm adio i fyny i 100%.

Targedau Arfaethedig

Yn yr adran hon gofynnwn i chi ddarparu gwybodaeth am eich targedau arfaethedig ar gyfer nifer y perfformiadau, gweithdai, arddangosfeydd, digwyddiadau a niferoedd.

Rhoddir gwybodaeth am sut i gyfrifo eich targedau yn y ffurflen gais.

8. Lleoliad y Prosiect

Lleoliad y Prosiect

Nodwch ble y bydd eich prosiect yn cael ei gynnal.

17

Page 18: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Mae gwybodaeth cod post yn bwysig i ni oherwydd mae'n ein helpu i weld pa rannau o Gymru y mae ein cyllid yn eu cyrraedd. Os mai prosiect digidol ydyw'n bennaf, nodwch leoliad y sefydliadau a'r artistiaid hynny sydd ynghlwm wrth y prosiect.

Yr Ardal Awdurdod Lleol a Wasanaethir

Nodwch pa gyfran o'r gweithgarwch sy'n digwydd yn yr ardaloedd Awdurdod Lleol a enwir. Efallai y bydd eich prosiect yn digwydd mewn un Awdurdod Lleol yn unig, neu efallai y bydd yn cwmpasu pum Awdurdod Lleol. Amcangyfrifwch y ganran ar gyfer pob ardal. Rhaid i'r cyfanswm adio i fyny i 100%.

Os bydd cyfran o'ch gwaith yn digwydd y tu allan i Gymru, nodwch hyn yn yr opsiwn Y Tu Allan i Gymru neu Y Tu Allan i'r DU.

9. Gwybodaeth Cydraddoldeb am eich Prosiect

Yn yr adran hon hoffem wybod a ydych yn targedu grwpiau penodol ar gyfer eich gweithgarwch.

Mae angen i ni gasglu a monitro gwybodaeth am bwy sy'n elwa ar ein cyllid. Mae hyn yn ein helpu i adrodd ar ein cynnydd wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y celfyddydau a thargedu cyllid ble mae ei angen fwyaf.

Rhoddir rhagor o fanylion am y wybodaeth rydym am ei chasglu yn y ffurflen gais. Rydym yn gofyn a yw eich gweithgareddau ar gyfer pobl o grŵp oedran penodol, pobl anabl, pobl o hil, crefydd neu gred benodol, p'un a yw'r

18

Page 19: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

gweithgaredd ar gyfer dynion yn unig, menywod yn unig, neu'n canolbwyntio ar gyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth neu ailbennu rhywedd.

10. Datganiad

Darllenwch y datganiad yn ofalus.

Yn y rhan hon o'r ffurflen gais, rydym yn gofyn i chi ddarllen peth gwybodaeth bwysig am ein cyfrifoldebau o ran y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth.

Mae'n bwysig eich bod yn deall sut y bydd y wybodaeth a roddir gennych yn cael ei defnyddio a'i chadw gennym. Mae angen i chi wybod beth i'w wneud os credwch fod unrhyw wybodaeth sydd gennych yn fasnachol sensitif neu'n gyfrinachol.

Yna gofynnwn i chi gadarnhau sawl gosodiad fel rhan o'r datganiad. Drwy dicio'r blwch rydych yn llofnodi'r ffurflen gais yn electronig ar ran eich sefydliad a'r bartneriaeth.

11. AtodiadauDim ond un atodiad bydd yn rhaid ichi ei uwchlwytho:

Cyllideb eich Prosiect

19

Page 20: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Atodiad:

Cyllideb y Prosiect

Rhaid i chi lanlwytho cyllideb y prosiect i adran atodiadau eich cais. Rhaid i'r gyllideb fod ar y templed a roddir yn y ffurflen gais.

Bydd eich prosiect yn cynnwys gwariant (costau cyflawni'r prosiect) ac incwm o amrywiaeth o ffynonellau megis cais am grant Cyngor Celfyddydau Cymru, eich adnoddau eich hun, partneriaid y prosiect, neu gyllid arall megis ymddiriedolaethau a sefydliadau a chymorth mewn nwyddau. Rhaid i'r gwariant a'r incwm fantoli'r gyllideb.

Uchod ceir enghraifft o gyfanswm cost prosiect ar gyfer cynnig. Mae'r bandiau incwm isod o wahanol ffynonellau yn dangos y mantolir y gyllideb. Gall y canrannau amrywio ond cofiwch fod angen o leiaf 10% o arian cyfatebol ar gyfer pob prosiect. Gall hyn gynnwys cymorth mewn nwyddau.

Nodwch, unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, na fyddwch yn gallu diwygio'r gyllideb felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys holl gostau'r prosiect.

20

£625£625£5,000

Cyfanswm Cost y Prosiect - £6,250

Grant CCC - 80% Cyllid Partneriaeth - 10%

Mewn Nwyddau-10%

Page 21: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Tudalennau'r gyllideb

Dyma'r tudalennau y bydd angen i chi eu cwblhau.

Crynodeb – nodwch enw'r prif sefydliad a theitl y prosiect. Bydd gweddill y celloedd yn diweddaru'n awtomatig wrth i chi gwblhau'r adrannau ar gyfer costau gwariant, incwm a mynediad (os yw'n gymwys).

Gwariant – ar y dudalen hon byddwch yn nodi'r costau y byddwch yn mynd iddynt i gyflawni eich prosiect.

Incwm – mae'r dudalen hon yn dweud wrthym am yr arian a gewch mewn perthynas â'ch prosiect

Costau mynediad – costau cymorth mynediad personol i chi neu unrhyw un sy'n uniongyrchol gysylltiedig â datblygu a chyflawni eich prosiect yn greadigol. Gallwn hefyd ariannu costau gofal plant lle bo angen i alluogi gweithwyr llawrydd unigol i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu neu gyflawni'r prosiect. Dylai costau gwneud y prosiect yn fwy hygyrch i gynulleidfaoedd gael eu cynnwys yn y brif gyllideb.

Costau na allwn eu cefnogi

Nodir y rhain yn y prif ganllawiau

Gwariant

Dangoswch yn eich cyllideb sut rydych wedi gweithio allan a chyrraedd y ffigurau rydych wedi'u cynnwys yn eich cyllideb.

Mae gan y dudalen hon naw adran, sef:

21

Page 22: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Ffioedd Artistiaid

Rydym am sicrhau eich bod chi'n talu chi'ch hun ac aelodau eich tîm yn briodol. Gall ffioedd gwmpasu hyd at 100% o wariant eich prosiect. Dylid nodi'r rôl o fewn y prosiect a'r gyfradd a delir. Dangoswch sut mae cyfanswm y ffigur wedi'i gyfrifo, er enghraifft:

Cyfarwyddwr, x diwrnod, £x y dydd

Actor, x diwrnod, £x y dydd

Arweinydd gweithdai, x diwrnod, £x y dydd

Cyfeiriwch at ein canllawiau am ragor o wybodaeth am ffioedd.

Rhaid i unrhyw staff sy'n rhan o'r prosiect (gan gynnwys artistiaid ac ymarferwyr creadigol) y telir mwy na £5,000 iddynt gael eu recriwtio drwy broses ddethol agored, oni fydd rheswm artistig penodol pwysig dros wneud fel arall. Os felly, rhaid egluro hyn yn eich cais.

Costau gweithgarwch artistig

Gall yr adran hon gynnwys costau megis costau deunyddiau a llogi mannau ymarfer, costau teithio a chyfarpar.

Gallwch ddefnyddio'r costau hyn y filltir ar gyfer eich cyllideb:

22

Page 23: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

eich car eich hun am y 5,000 milltir gyntaf yn y flwyddyn dreth: 45c y filltir, am bob milltir ychwanegol dros 5,000 milltir: 25c y filltir

eich beic modur eich hun: 24c y filltir

eich beic eich hun: 20c y filltir

Costau i gyrraedd eich cynulleidfa/ cyfranogwyr

Costau i farchnata a hyrwyddo eich gwaith, er mwyn eich helpu i gyrraedd eich cynulleidfa/ cyfranogwyr targed, er enghraifft: marchnata llawrydd, cymorth y wasg a chysylltiadau cyhoeddus, cyfieithu, costau dylunio ac argraffu, y cyfryngau cymdeithasol a chostau postio.

Costau i wneud eich gweithgarwch yn fwy hygyrch

Disgwyliwn i chi wneud eich gweithgarwch yn hygyrch i bobl anabl. Yn yr adran hon gallwch gynnwys costau megis: perfformiadau â disgrifiadau sain, perfformiadau a ddehonglir ag Iaith Arwyddion Prydain, perfformiadau ag isdeitlau/capsiynau, arddangosfeydd cyffwrdd/trin yn uniongyrchol, cynlluniau oriel Braille a/neu deithiau â disgrifiadau sain, teithiau cyffwrdd, arwyddion/byrddau dehongli cyffyrddadwy. Am ragor o arweiniad ar wneud eich prosiect yn hygyrch darllenwch y ddogfen hon

Monitro a gwerthuso

Dylai costau monitro eich prosiect ar bob cam allweddol gael eu nodi yma, ynghyd ag unrhyw gostau gwerthuso.

23

Page 24: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Er enghraifft, costau arolygon neu holiaduron, geirdaon, ffurflenni adborth neu ymatebion fideo. Nodir ffioedd ymchwilwyr a gwerthuswyr allanol yma hefyd,

Pryniannau cyfarpar cyfalaf

Gallwch ddefnyddio hyd at £5,000 o'ch grant tuag at elfen gyfalaf o'ch prosiect, megis prynu darn o gyfarpar. Yng nghyllideb eich prosiect bydd angen i chi nodi sut y byddwch yn defnyddio'r cyfarpar hwn yn ystod eich prosiect ac ar ei ôl. Efallai y byddwn yn gofyn am ddyfynbrisiau ar gyfer eitemau £500 neu fwy os bydd eich cais yn llwyddiannus.

Costau gweinyddol a gorbenion sy'n benodol i'r prosiect

Gallwn ystyried costau gweinyddol a gorbenion sy'n benodol i'r prosiect, hyd at uchafswm o 20% o gyfanswm y costau cymwys. Dim ond os na chânt eu talu gan gyllid arall a'u bod yn amlwg yn ychwanegol y byddwn yn ystyried ariannu'r costau hyn. Rhaid i chi ddangos yr eir i'r costau am gyfnod penodol yn unig a'u bod yn uniongyrchol gysylltiedig â'ch prosiect.

Gallai gorbenion sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'ch prosiect gynnwys costau postio ac yswiriant er enghraifft. Os nad ydych yn aelod o Bortffolio Celfyddydau Cymru gallwch wneud cais am gyfraniad rhesymol tuag at eich costau rhentu swyddfa parhaus er mwyn eich galluogi i gyflawni eich prosiect. Rhaid i'r ffigur rydych yn ei ddefnyddio fod yn uniongyrchol gysylltiedig â'r amser a dreulir ar y

24

Page 25: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

gweithgarwch rydych yn gofyn i ni ei ariannu, felly dangoswch sut rydych wedi gweithio hyn allan.

Rhaid i unrhyw staff sy'n rhan o'r prosiect (gan gynnwys artistiaid ac ymarferwyr creadigol) y telir mwy na £5,000 iddynt gael eu recriwtio drwy broses ddethol agored, oni fydd rheswm artistig penodol pwysig dros wneud fel arall. Os felly, rhaid egluro hyn yn eich cais.

Gwariant arall

Costau gwefan

Gwnawn ystyried ariannu hyd at £1,000 tuag at gostau datblygu a chynnal gwefan, os caiff ei defnyddio'n bennaf i farchnata a hyrwyddo eich prosiect.

TAW

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, ni ddylai eich ffigurau gwariant gynnwys TAW y gallwch ei hawlio'n ôl (a elwir yn TAW adferadwy yn aml). Dylai unrhyw TAW rydych yn disgwyl mynd iddi ond na allwch ei hawlio'n ôl (TAW anadferadwy) gael ei chynnwys fel categori ar wahân o wariant a dylech egluro sut rydych wedi cyfrifo'r ffigur hwn.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, dylai eich costau gynnwys TAW.

Cymorth mewn nwyddau

Os oes gennych unrhyw gymorth mewn nwyddau, dylech ei gynnwys ar y daflen Incwm.

25

Page 26: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Bydd y swm yn ymddangos yn awtomatig ar y daflen Gwariant, felly ni fydd angen i chi lenwi na newid unrhyw beth.

Arian wrth gefn

Mae'n syniad da neilltuo rhywfaint o'ch cyllideb i gwmpasu unrhyw gostau annisgwyl. Gallwch gynnwys hyd at 5% o gyfanswm cost eich prosiect fel arian wrth gefn.

Incwm

Dangoswch yn eich cyllideb sut rydych wedi gweithio allan a chyrraedd y ffigurau rydych wedi'u cynnwys yn eich cyllideb.

Mae pum adran yn yr adran Incwm:

cais am grant Cyngor Celfyddydau Cymru

Nodwch faint o arian rydych yn gwneud cais amdano.

Ar gyfer y gronfa hon, gallwch ofyn am rhwng £500 a £150,000. Ni all uchafswm cost gymwys y prosiect fod uwchlaw 90%.

Eich arian eich hun

Yma gallwch nodi faint o'ch arian eich hun a/neu eich partneriaid rydych yn ei gyfrannu tuag at y prosiect. Nodwch fod yn rhaid cynnal hyn ar y cam cwblhau. Ni ellir ei leihau.

Incwm a enillir

Rhestrwch unrhyw incwm rydych yn disgwyl ei ennill o'ch prosiect (er enghraifft, o werthu tocynnau, gwerthiannau

26

Page 27: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

digidol, gwerthu gwaith ar-lein, ffioedd gweithdai, gwerthu gwaith neu gyhoeddiadau). Dylech fod yn realistig am yr incwm rydych yn debygol o'i ennill ar gyfer eich gweithgarwch.

Rhowch ddadansoddiad clir ar gyfer pob cofnod er mwyn dangos sut rydych wedi cyfrifo eich ffigurau.

Er enghraifft:

nifer y perfformiadau X niferoedd cynulleidfa ym mhob perfformiad X pris tocyn = £X

Nodwch, os codir TAW ar werthu tocynnau neu'r pris mynediad, ni ddylech ei chynnwys yn eich incwm a enillir.

Cyllid arall

Mae sicrhau cyllid arall ar gyfer eich prosiect yn cadarnhau bod cefnogaeth ehangach i'ch prosiect. Byddwch yn realistig ynghylch faint o gyllid arall rydych yn gobeithio ei wireddu.

Yn yr adran hon gallwch nodi unrhyw gyllid arall, gan gynnwys oddi wrth bwy, y swm ac a yw wedi'i gadarnhau ai peidio. Mae arian wedi'i gadarnhau yn golygu bod yr arian eisoes wedi'i gynnig i chi. Deallwn y gallwch fod yn gwneud cais am gyllid oddi wrth sefydliadau eraill hefyd, felly peidiwch â dweud bod incwm wedi'i gadarnhau os ydych wedi gwneud cais am grant arall a'ch bod yn aros am benderfyniad. Os na wnaed penderfyniad, gallwch gynnwys gwybodaeth am ba bryd rydych yn disgwyl clywed am eich cais.

27

Page 28: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Mae Rhyddhadau Treth y Diwydiant Creadigol yn grŵp o ryddhadau treth a hawlir yn ôl-weithredol. Ni allant ffurfio rhan o gyllideb eich prosiect i ni.

Cymorth mewn nwyddau

Mae cymorth mewn nwyddau yn golygu cyfraniad nad yw'n arian parod at eich prosiect, megis deunyddiau neu wasanaethau a roddir am ddim. Gall hyn gyfrannu at lwyddiant eich prosiect a dangos cefnogaeth i'ch gwaith.

Gallwch gynnwys cymorth mewn nwyddau yn eich cyllideb. Ymhlith yr enghreifftiau o gymorth mewn nwyddau mae lle gweithdy neu ymarfer a gynigir, amser gwirfoddolwyr neu fenthyg cyfarpar.

Ni fyddwn fel arfer yn cefnogi ceisiadau sy'n defnyddio amser artistiaid neu weithwyr creadigol a roddir am ddim, oni allwch ddangos bod hyn am reswm priodol

Nodwch nad oes unrhyw gyfyngiad ar faint o gymorth mewn nwyddau a all gael ei gynnwys; fodd bynnag ni all fod o ddisgowntiau cyflenwyr.

Tudalen grynhoi

Bydd eich tudalen grynhoi yn crynhoi cyfanswm eich gwariant, cyfanswm eich incwm a dylai'r balans fod yn £0.

Bydd wedyn yn dangos faint o gyllid rydych yn gofyn amdano gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r lefel ganrannol. Rhaid i hyn fod o fewn eich terfynau cyllido.

Os yw'n gymwys, bydd unrhyw gyllid ar gyfer ceisiadau costau mynediad ychwanegol hefyd i'w weld.

28

Page 29: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Bydd cyfanswm cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys y cais am grant ar gyfer prosiect ac unrhyw gostau mynediad ychwanegol. Dyma'r ffigur i'w gynnwys yn y ffurflen gais o dan Swm y Gwneir Cais amdano.

Costau mynediad

Gallwn helpu i dalu costau cymorth mynediad i chi, neu i unrhyw un sy'n uniongyrchol gysylltiedig â datblygu a chyflawni eich prosiect. Gall y rhain gynnwys costau dehongli, gweithwyr cymorth, cyfarpar neu feddalwedd arbenigol.

Yn eich cyllideb rhowch ddadansoddiad o'r costau mynediad, er enghraifft: Gweithiwr cymorth: £ y dydd, X diwrnod

Mae'r cyfanswm hwn ar wahân i'r swm rydych yn gwneud cais amdano i gyflawni'r prosiect. Caiff y cyfanswm hwn ei ychwanegu at gyfanswm y cais am grant.

Atodiadau eraill

Yr unig atodiad gorfodol gyda’ch cynnig yw:

Cyllideb eich Prosiect

Byddwn yn seilio ein hasesiad ar eich ffurflen gais a chyllideb eich prosiect. Peidiwch â chynnwys unrhyw atodiadau eraill oherwydd ni chânt eu hystyried. Os bydd angen i ni gael rhagor o wybodaeth gennych er mwyn gwneud dyfarniad, byddwn yn gofyn amdani. Bydd hyn yn cynnwys cadarnhad gan eich partneriaid a enwir eu bod yn cymryd rhan.

29

Page 30: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Nodwch na allwn dderbyn unrhyw atodiadau eraill unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais.

12. Ar ôl cyflwyno eich ffurflen gais

Beth sy'n digwydd i'ch cais? Gwirio eich cais

Byddwn yn cadarnhau bod eich cais wedi ein cyrraedd drwy anfon cydnabyddiaeth atoch drwy e-bost. Byddwn yn edrych dros eich cais ac yn ei roi i swyddog. Dim ond ceisiadau cyflawn y gallwn eu hasesu. Mae hyn yn golygu cynnwys yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdni mewn digon o fanylder i'n galluogi i gynnal asesiad priodol.

Os na allwn asesu eich cais, byddwn yn nodi'r prif resymau dros hyn.

Asesu a phenderfynu

Bydd swyddogion asesu yn ystyried eich cais yn ofalus a'r wybodaeth ategol rydych wedi'i rhoi. Ni fyddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol unwaith y bydd yr asesiad wedi dechrau, felly mae'n bwysig eich bod yn ateb pob cwestiwn gorau y gellwch, a bod eich gwybodaeth ategol yn ddigon manwl ac yn gywir.

Caiff eich cais ei ystyried ar y cyd ag eraill mewn cyfarfod gwneud penderfyniadau a gadeirir gan uwch-aelod o staff.

Sut rydym yn gwneud penderfyniad

Gwyddom y bydd cryn alw am ein harian a bod ceisiadau da na allwn eu derbyn am nad oes digon o arian ar gael. Byddwn yn defnyddio ein blaenoriaethau strategol, meini

30

Page 31: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

prawf asesu, gwybodaeth am eich sefydliad a'ch gweithgareddau blaenorol, a'n barn broffesiynol i wneud y penderfyniadau anodd hyn. Byddwn bob amser yn ceisio cefnogi'r ceisiadau sydd wedi dangos orau y byddant o ansawdd uchel ac yn cyflawni ein blaenoriaethau strategol.

Os yw'ch cais yn llwyddiannus

Cewch gynnig grant ffurfiol drwy e-bost sy'n cadarnhau lefel y grant ac unrhyw amodau ychwanegol (er enghraifft cadarnhad ysgrifenedig o gyllid partneriaeth). Byddwn hefyd yn anfon dolenni i’n hamodau grant safonol, ein gofynion achredu a brandio a gwybodaeth am eich taliadau.

Talu

Fel arfer telir grantiau hyd at £5,000 mewn un taliad pan fydd unrhyw amodau o ran y taliad wedi'u bodloni.

Fel arfer telir grantiau o £5,001 neu fwy mewn sawl taliad. Rhyddheir taliadau pan fydd unrhyw amodau o ran y taliadau wedi'u bodloni. Nodir eich taliadau a'ch amodau yn eich llythyr cynnig.

Ar gyfer pob grant bydd angen i ni dderbyn a phrosesu eich ffurflen derbyn grant a lofnodir yn electronig (neu a lofnodir ac a anfonir drwy'r post os ydym wedi cytuno i wneud hyn) cyn y gallwn ryddhau unrhyw daliad.

Yn ystod ac ar ôl eich prosiect

Mae'n bwysig ein bod yn gwybod sut mae'ch prosiect yn datblygu. Cydnabyddwn y bydd ceisiadau llwyddiannus i Cysylltu a Ffynnu yn ddatblygol eu natur a bydd Cyngor

31

Page 32: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Celfyddydau Cymru yn eich helpu ac yn eich cefnogi drwy'r broses hon. Os bydd angen gwneud newidiadau i'ch cynllun mewn ymateb i'ch cydfenter a phartneriaeth newydd, megis bod pethau yn datblygu'n gyflymach na'r disgwyl neu fod angen addasu'r gyllideb, gallwn weithio gyda chi ar hyn. Os bydd newidiadau sylweddol i'ch prosiect neu ei ddyddiad gorffen wrth ei gyflawni neu os bydd y Prif Gyswllt yn newid, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu i drafod hyn. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am adroddiad ar gynnydd sy'n nodi cyllid eich prosiect a'r gweithgarwch cysylltiedig hyd at bwynt penodol. Gallwn drefnu bod ein swyddogion neu weithwyr cyswllt yn bresennol mewn gweithgareddau a digwyddiadau fel y gallwn fod yn hyderus am ansawdd y gwaith rydych yn ei wneud.

Ar ddiwedd eich prosiect byddwn yn gofyn i chi am adroddiad cwblhau. Bydd angen i chi nodi eich ffigurau incwm a gwariant gwirioneddol, gan gynnwys manylion eich holl gyllid partneriaeth, manylion gweithgareddau a chanlyniadau allweddol, yn ogystal â gwerthusiad o effaith eich prosiect, gan ddangos sut y gwnaeth gyflawni ei amcanion. Gall yr adroddiad gael ei gwblhau ar-lein.

Os na fyddwch yn cyflawni eich prosiect fel y'i disgrifiwyd, efallai y bydd angen i ni adhawlio peth o'ch grant, os nad y cyfan.

Os nad yw eich cais yn llwyddiannus

Os nad yw eich cais yn llwyddiannus byddwn yn anfon e-bost atoch sy'n egluro'r prif resymau dros ein penderfyniad.

32

Page 33: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Byddwch yn gallu trafod hyn gydag aelod o staff os dymunwch wneud hynny.

33

Page 34: or  · Web view“Cysylltu a Ffynnu” Nodiadau Cymorth Ymgeisio. Sefydliadau. Chwefror 2021. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth mewn print bras a braille,

Cysylltu â Ni

Rydym wedi ceisio gwneud y broses gwneud cais a'r canllawiau mor syml a chlir â phosibl, ond os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y broses neu os bydd angen rhagor o gyngor arnoch, cofiwch gysylltu.

Os bydd gennych ymholiad technegol, cysylltwch â'n Swyddogion Grantiau a Gwybodaeth drwy e-bostio [email protected] neu ffoniwch 03301 242733 a dewis opsiwn 1, yna opsiwn 1.

Os hoffech drafod eich prosiect yn fanylach, cysylltwch â'n Swyddogion Datblygu drwy e-bostio [email protected] neu ffoniwch 03301 242733 a dewis opsiwn 1, yna opsiwn 4.

03301 242733

5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau

9.00am - 4.30pm ar ddydd Gwener

https://celf.cymru/cy/amdanom-ni/cysylltwch-ni

Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales

@ Celf_Cymru