10
Bydd pob disgybl: Yn deall bod microbau’n gallu ein gwneud yn sâl weithiau Yn gwybod bod atal haint, lle’n bosibl, yn well na gwellhad Yn deall i beidio â lledaenu eu microbau niweidiol i eraill Yn gwybod sut, pryd a pham i olchi eu dwylo DEILLIANNAU CYSYLLTIADAU CWRICWLWM DYSGU CENEDLAETHOL Cyfnod Allweddol 3 Amrediad: 7 Cyfathrebu: C1, C2 Sgiliau: P2, D2, D3, D4 ABCh Iechyd a lles emosiynol: 1a), 1e) Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol Amcan o Amser Addysgu 50 munud Nod yr adran hon yw addysgu disgyblion sut y gall hylendid dwylo gwael arwain at ledaenu microbau a chlefyd. Yn 2.1 Hylendid Dwylo, mae disgyblion yn cynnal arbrawf i arsylwi ar sut gall microbau ledaenu o un person i’r llall drwy ysgwyd llaw yn unig. Bydd yn rhaid iddynt hefyd benderfynu pa ddull yw’r un gorau ar gyfer golchi dwylo. Escherichia coli HYLENDID DWYLO

HYLENDID DWYLO - e-BugWAL)/WAL Senior Pack/Senior...allan o’r ffoliglau gwallt, ond un math o ficrob yw’r rhain fel arfer. Gallwch weld y gwahaniaeth rhwng microbau diniwed a niweidiol

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Bydd pob disgybl:

    Yn deall bod microbau’n gallu ein gwneud yn sâl weithiau

    Yn gwybod bod atal haint, lle’n bosibl, yn well na gwellhad

    Yn deall i beidio â lledaenu eu microbau niweidiol i eraill

    Yn gwybod sut, pryd a pham i olchi eu dwylo

    DEILLIANNAU

    CYSYLLTIADAU CWRICWLWM

    DYSGU

    CENEDLAETHOL

    Cyfnod Allweddol 3

    Amrediad: 7 Cyfathrebu: C1, C2 Sgiliau: P2, D2, D3, D4

    ABCh Iechyd a lles emosiynol: 1a), 1e) Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol Amcan o Amser Addysgu

    50 munud

    Nod yr adran hon yw addysgu disgyblion sut y gall hylendid dwylo gwael arwain at ledaenu microbau a chlefyd.

    Yn 2.1 Hylendid Dwylo, mae disgyblion yn cynnal arbrawf i arsylwi ar sut gall microbau ledaenu o un person i’r llall drwy ysgwyd llaw yn unig. Bydd yn rhaid iddynt hefyd benderfynu pa ddull yw’r un gorau ar gyfer golchi dwylo.

    Escherichia coli

    HYLENDID DWYLO

  • 1. Copiwch GD 1, GD 2, TD 1 a TD 2 i bob disgybl. 2. Gofalwch fod cyfleusterau golchi dwylo ar gael (sebon, dŵr

    cynnes, rhywbeth i sychu dwylo). 3. Paratowch 2/3 dysgl Petri o agar maethol i bob disgybl.

    Paratoi Ymlaen Llaw

    Gellir defnyddio tafelli o fara gwyn yn hytrach na dysglau Petri o agar maethol. Dylai disgyblion roi print llaw ar y bara a’i roi mewn bag storio bwyd gyda diferyn neu ddau o ddŵr. Cadwch y bagiau ar i fyny mewn lle tywyll fel y byddech yn ei wneud gyda’r dysglau Petri. NODER: Nid yw’r dull hwn mor gywir â defnyddio’r dull dysgl Petri a bydd cytrefi ffyngaidd yn tyfu yn hytrach na chytrefi bacterol. Efallai y bydd angen addasu taflenni gwaith disgyblion.

    Awgrymiadau Amgen

    Mae ysgolion yn hafan i ficrobau niweidiol sy’n lledaenu’n gyflym o un person i’r llall drwy gyffwrdd. Golchi ein dwylo yw’r ffordd orau o atal lledaeniad microbau niweidiol ac atal pobl rhag bod yn sâl.

    Mae ein dwylo’n cynhyrchu olew yn naturiol sy’n cadw’n croen yn llaith ac yn eu hatal rhag mynd yn rhy sych. Mae’r olew hwn yn lle perffaith i ficrobau dyfu a lluosogi a hefyd yn helpu i ficrobau ‘lynu’ i’n croen. Hefyd, mae’n dwylo wedi’u gorchuddio â’n bacteria da – sef Staffylococws diniwed. Mae golchi ein dwylo’n rheolaidd yn helpu i gael gwared ar y microbau eraill a gesglir o’n hamgylchedd (e.e. cartref, ysgol, gardd, anifeiliaid, anifeiliaid anwes). Gall rhai o’r microbau hyn ein gwneud yn sâl wrth eu bwyta.

    Mae golchi dwylo mewn dŵr ar ei ben ei hun neu mewn dŵr oer yn cael gwared ar fudreddi a baw gweladwy, ond mae angen sebon i ymddatod yr olew ar arwyneb ein dwylo sy’n dal microbau.

    Dylid golchi dwylo:

    - Cyn, yn ystod ac ar ôl paratoi bwyd, yn enwedig cig amrwd

    - Ar ôl defnyddio’r ystafell molchi - Ar ôl cyffwrdd anifeiliaid neu wastraff anifeiliaid - Ar ôl pesychu, tisian neu chwythu eich trwyn - Os ydych chi’n sâl neu wedi bod yng nghwmni pobl sâl

    Gwybodaeth Gefndir

    2.1 Lledaeniad Haint Hylendid Dwylo

    Geiriau Allweddol Sebon gwrthfacterol Cytref Cyffwrdd – ymledol Hylendid Haint Heintus Trosglwyddo

    Deunyddiau Angenrhediol I bob disgybl Copi o TD 1 Copi o GD 2 3 dysgl Petri o agar

    maethol I bob grŵp Copi o TD 1 Copi o TD 2 Lliain/ sychwr dwylo/

    llieiniau papur Beiro barhaol Sebon Dŵr cynnes

    Adnoddau sydd ar gael ar y We

    Ffilm arddangos

    TD 1 a TD 2

    Lluniau o ganlyniadau

    Gweithgarwch Amgen

    Iechyd a Diogelwch Mae’n bwysig bod y

    dysglau Petri yn aros ar gau wrth archwilio’r microbau

    Gofalwch fod pob disgybl yn golchi ei ddwylo ar ôl cymryd rhan yn y gweithgaredd

  • 1. Dechreuwch y wers drwy ofyn i’r dosbarth ‘os oes miliynau o ficrobau sy’n achosi clefydau yn y byd sy’n byw ym mhobman, pam nad ydyn ni’n sâl drwy’r amser?’ Rhowch TD 1 (Y Gadwyn Haint) a TD 2 (Torri’r Gadwyn) i’r disgyblion. Defnyddiwch y cyflwyniad MS PowerPoint www.e-bug.eu i helpu i egluro hyn.

    2. Pwysleisiwch fod llawer o wahanol ffyrdd y gall microbau gael eu trosglwyddo i bobl. Gofynnwch i’r disgyblion a allant feddwl am unrhyw ffyrdd. Mae enghreifftiau’n cynnwys: drwy’r bwyd rydym ni’n ei fwyta, y dŵr rydym ni’n ei yfed ac ymolchi ynddo, y pethau rydym ni’n eu cyffwrdd ac wrth disian.

    3. Gofynnwch i’r disgyblion: Faint ohonoch chi sydd wedi golchi’ch dwylo heddiw? Gofynnwch pam eu bod wedi golchi eu dwylo (i gael gwared ar unrhyw ficrobau a oedd ar eu dwylo), a beth fyddai’n digwydd pe na baent yn golchi’r microbau oddi arnynt (efallai y byddent yn sâl).

    4. Dywedwch wrth y disgyblion ein bod yn defnyddio’n dwylo drwy’r adeg, a’u bod yn codi miliynau o ficrobau bob dydd. Er bod y mwyafrif o’r rhain yn ddiniwed, gallai rhai fod yn niweidiol.

    5. Eglurwch wrth y dosbarth ein bod yn lledaenu’n microbau i’n ffrindiau ac eraill drwy gyffwrdd, a dyma pam ein bod yn golchi ein dwylo.

    6. Eglurwch wrth y disgyblion eu bod am wneud gweithgaredd i ddangos y ffordd orau o olchi eu dwylo i gael gwared ar unrhyw ficrobau niweidiol a allai fod ar eu dwylo.

    NODYN 1 Os nad oes gennych ddigon o amser i gynnal y gweithgaredd llawn, gellir gweld y canlyniadau ar y wefan, www.e-bug.eu.

    Adran A

    1. Rhowch gopi o GD 1 i bob disgybl yn y dosbarth a dysgl Petri o agar maethol. Gofynnwch i bob disgybl rannu’r ddysgl yn ei hanner drwy dynnu llinell ar waelod y ddysgl Petri. Labelwch un ochr yn lân a’r ochr arall yn fudr. NODYN 2 ni ddylai disgyblion labelu’r clawr.

    NODYN 3 Mae’n rhaid bod yn ofalus a pheidio â chymysgu ochr fudr ac ochr lân y plât gan y bydd hyn yn arwain at ganlyniadau dryslyd. Gallai defnyddio 2 blât, un ar gyfer dwylo glân ac un ar gyfer dwylo budr, helpu i ddatrys y broblem hon.

    2. Dylai pob disgybl roi print llaw ar yr ochr sydd â’r label ‘Budr’. Yna, dylai disgyblion olchi eu dwylo yn drylwyr a gosod print llaw ar yr ochr sydd â’r label ‘glân’.

    3. Rhowch y ddysgl Petri mewn lle tywyll cynnes am 48 awr ac archwiliwch y platiau yn ystod y wers nesaf. Dylai disgyblion gofnodi eu canlyniadau ar GD 1.

    Ar ochr fudr y plât dylai disgyblion sylwi ar amryw o wahanol gytrefi bacterol a ffwngaidd; mae pob math gwahanol o gytref yn cynrychioli gwahanol elfen facterol neu ffwngaidd – rhywfaint o fflora corff naturiol a rhywfaint o halogiad o fannau y maent wedi’u cyffwrdd. Dylai disgyblion archwilio’r rhain yn ofalus a disgrifio eu morffoleg a sawl organeb o bob math y maent yn eu gweld.

    Ar ochr lân y plât dylai disgyblion sylwi ar ostyngiad amlwg yn nifer y gwahanol fathau o gytrefi a welir. Mae hyn oherwydd bod golchi dwylo wedi cael gwared ar lawer o’r organebau y mae disgyblion wedi’u ‘codi’ drwy eu cyffwrdd. Yr organebau sy’n dal i dyfu ar y plât yw fflora naturiol y corff. Gallai niferoedd y cytrefi hyn fod yn uwch nag ar ochr fudr y plât. Mae hyn oherwydd y gall golchi dynnu’r microbau diniwed allan o’r ffoliglau gwallt, ond un math o ficrob yw’r rhain fel arfer. Gallwch weld y gwahaniaeth rhwng microbau diniwed a niweidiol gan fod sawl math gwahanol o rywogaethau microb niweidiol fel arfer.

    2.1 Lledaeniad Haint Hylendid Dwylo

    Cyflwyniad

    Prif Weithgaredd

    http://www.e-bug.eu/

  • Adran B

    4. Rhannwch y dosbarth yn 4 grŵp cyfartal o ddisgyblion (a, b, c, d).

    5. Gofynnwch i bob grŵp ddewis arweinydd NAD yw’n mynd i olchi ei ddwylo. Dylai pawb arall yn y grŵp olchi eu dwylo mor drylwyr â phosib gyda sebon (os oes sebon ar gael) a dŵr. Dylai disgyblion geisio sychu eu dwylo naill ai gyda sychwr dwylo aer neu ddarn glân o liain papur. Dylai’r disgybl NAD yw’n golchi ei ddwylo gyffwrdd cymaint o eitemau â phosib yn yr ystafell ddosbarth er mwyn dal llawer o ficrobau, gan gynnwys handlenni drws, tapiau, esgidiau ac ati.

    6. Gofynnwch i’r disgyblion sefyll mewn 4 rhes tu ôl i’w gilydd a dosbarthwch y grwpiau fel a ganlyn

    a. Dim golchi dwylo Grŵp rheoli b. Golchi dwylo mewn dŵr cynnes yn gyflym iawn Rhoi dwylo mewn dŵr a’u rhwbio’n

    gyflym

    c. Golchi dwylo’n drylwyr mewn dŵr cynnes d. Golchi dwylo’n drylwyr â sebon mewn dŵr cynnes

    7. Rhowch 2 blât agar maethol a chopi o GD 2 i bob disgybl yn y dosbarth.

    8. Dylai pob disgybl roi print llaw ar un o’u platiau agar a’i labelu’n briodol.

    9. Dylai’r disgybl sy’n arwain (disgybl 1) olchi ei ddwylo yn ôl y grŵp y maent yn perthyn iddo. Dylai disgybl 1 droi ac ysgwyd llaw disgybl 2 gan ofalu bod cymaint o gysylltiad llaw â phosib. Dylai disgybl 2 yn ei dro ysgwyd llaw disgybl 3 ac yn y blaen tan iddynt gyrraedd pen y rhes.

    10. Dylai pob disgybl wneud print llaw yn eu hail blât agar maethol a’i labelu’n briodol.

    11. Rhowch y platiau agar maethol mewn man sych cynnes am 48 awr. Gofynnwch i’r disgyblion edrych ar eu canlyniadau a’u nodi yn GD 2.

    Prif Weithgaredd

    Gofynnwch i’r disgyblion ymchwilio i fanteision ac anfanteision sebon gwrthfacterol. Gallai fod yn syniad da rhannu’r dosbarth i grwpiau o 4 a gofyn i bob grŵp ymchwilio i’r pwnc a chynnal trafodaeth ddosbarth. Fel arall, gallant ysgrifennu traethawd byr yn amlinellu’r ddadl o blaid ac yn erbyn a dod i’w casgliad eu hunain ar sail y dystiolaeth.

    Gweithgaredd Estyn

    1. Trafodwch y canlyniadau gyda’r disgyblion. Pa ganlyniadau a achosodd y syndod mwyaf iddynt? Eglurwch y gall microbau lynnu wrth yr olew naturiol ar ein croen. Mae golchi gyda dŵr yn unig yn llifo dros yr olew hwn ac nid yw’n ei olchi i ffwrdd. Mae sebon yn ymddatod yr olew hwn er mwyn i’r dŵr allu golchi’r microbau i ffwrdd.

    2. Trafodwch o ble y gall y microbau ar eu dwylo fod wedi dod. Pwysleisiwch nad yw’r holl ficrobau ar eu dwylo yn rhai drwg; efallai y bydd rhai microbau corff arferol yno hefyd a dyma pam y gall microbau da gynyddu ar ôl golchi dwylo.

    Sesiwn Lawn

    2.1 Lledaeniad Haint Hylendid Dwylo

  • 1. Gellir cynnal y gweithgaredd hwn mewn grwpiau o 2-4 disgybl neu fel trafodaeth ddosbarth.

    2. Gofynnwch i’r disgyblion os ydynt wedi cael poen bol erioed. Gyda chymorth TD 1 a TD 2, gofynnwch i’r disgyblion ddychmygu lledaeniad gastroenteritis (haint stumog) yn eu hysgol o un disgybl heintiedig.

    3. Gofynnwch i’r dosbarth ystyried sefyllfaoedd bob dydd yn yr ysgol (mynd i’r toiled heb olchi dwylo neu eu golchi heb sebon, bwyta yn ffreutur yr ysgol, benthyg beiro neu bethau eraill gan ffrindiau, ysgwyd llaw, defnyddio cyfrifiadur….).

    4. Gofynnwch i’r grwpiau/dosbarth nodi ffyrdd y gallai haint ledaenu a pha mor gyflym y gallai ledaenu yn eu dosbarth neu yn yr ysgol.

    5. Dylai’r disgyblion feddwl a thrafod yr anawsterau sy’n eu hwynebu o ran hylendid dwylo yn yr ysgol ac awgrymu sut mae defnyddio’r cyfleusterau hylendid cyfredol yn well.

    Gweithgaredd

    2.1 Lledaeniad Haint Hylendid Dwylo

    Pobl mewn perygl o haint

    Ffynhonnell haint

    Ffordd i mewn i ficrobau

    Ffordd allan i ficrobau

    Lledaeniad haint

  • 2.1 Lledaeniad Haint Hylendid Dwylo

    Canlyniadau Tynnwch lun a disgrifiwch yr hyn a welsoch yn y ddysgl Petri

    Rhan fudr Cytref 1 cytrefi hufen crwn mawr gyda chanol gwyn Cytref 2 cytrefi melyn bach Cytref 3 cytrefi hufen bach iawn o siâp afreolaidd Cytref 4 cytrefi hirgrwn crwn hufen bach Cytref 5 cytrefi gwyn crwn bach

    Rhan lân Cytref 1 cytrefi gwyn crwn bach Cytref 2 cytrefi hirgrwn crwn hufen bach

    Arsylwadau

    1. Pa ochr o’r ddysgl Petri oedd yn cynnwys y nifer fwyaf o ficrobau?

    Rhan lân

    2. Pa ochr o’r ddysgl Petri oedd yn cynnwys y nifer fwyaf o wahanol gytrefi microbau?

    Rhan fudr

    3. Sawl gwahanol fath o gytrefi oedd ar y: Rhan lân 2 Rhan fudr 5

    Casgliadau

    1. Efallai y bydd rhai pobl yn gweld mwy o ficrobau ar ochr lân y ddysgl Petri na’r ochr fudr. Pam?

    Efallai bod mwy o ficrobau ar yr ochr lân na’r ochr fudr ond os yw disgyblion wedi golchi eu dwylo’n iawn dylai fod llai o wahanol fathau o ficrobau. Mae’n debyg bod y cynnydd yn y nifer o ficrobau oherwydd microbau o’r dŵr neu’r lliain papur a ddefnyddiwyd i sychu eu dwylo.

    2. Pa gytrefi fyddech chi’n ystyried yn ficrobau cyfeillgar a pham hynny?

    Y microbau ar yr ochr lân gan mai nhw mae’n debyg yw’r microbau naturiol sydd i’w gweld ar ein dwylo.

    Casgliad

    1. Pa ddull o olchi dwylo wnaeth gael gwared ar y nifer fwyaf o ficrobau? Golchi dwylo gyda sebon a dŵr cynnes.

    2. Pam fyddai sebon yn helpu i gael gwared ar fwy o ficrobau na golchi gyda dŵr yn unig? Mae sebon yn helpu i ymddatod yr olew naturiol ar eich crown y mae microbau’n gallu glynu wrtho.

    3. Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio sebon gwrthfacterol wrth olchi’ch dwylo? Manteision: lladd unrhyw ficrobau diangen Anfanteision: hefyd yn lladd microbau croen naturiol

    4. Pa dystiolaeth sydd gennych y gellir trosglwyddo microbau gyda’ch dwylo? Mae’r math o ficrobau ar y plât cyntaf wedi’u lledaenu i blatiau eraill ac mae’r niferoedd yn gostwng yn raddol.

    5. Pa rannau o’ch llaw sy’n cynnwys y nifer fwyaf o ficrobau a pham hynny? O dan ewinedd y bysedd, ar y bodiau a rhwng y bysedd gan fod rhain yn lleoedd y mae pobl yn anghofio eu golchi neu ddim yn eu golchi’n dda iawn.

    6. Rhestrwch 5 adeg y mae’n bwysig golchi’ch dwylo a. Cyn coginio b. Ar ôl cyffwrdd anifeiliaid anwes c. Ar ôl defnyddio’r toiled

    d. Cyn bwyta e. Ar ôl tisian arnynt

  • Pobl sydd mewn perygl o gael haint

    Rydym i gyd mewn perygl o gael haint. Mae pobl risg uchel yn cynnwys:

    Pobl sydd eisoes ar feddyginiaeth

    Plant ifanc iawn

    Yr henoed

    Ffynhonnell Haint

    Rhywun neu rywbeth sy’n cario’r mcirobau niwieidiol sy’n achosi’r haint. Mae llawer ffynhonnell wahanol o haint, yn cynnwys:

    Pobl sydd eisoes wediu heintio

    Anifeiliaid anwes neu anifeiliaid

    Arwynebau budr (e.e. handlenni drws, bysellfyrddau, toiledau)

    Ffordd i mewn i ficrobau

    Mae microbau niweidiol angen ffordd i mewn i’r corff cyn y gallant achosi haint. Gall hyn fod drwy:

    Y bwyd rydym yn ei fwyta

    Anadlu erosolau i mewn

    Briwiau neu ddoluriau agored

    Pethau a roddwn yn ein cegau

    Y Gadwyn Haint

    Ffordd allan i ficorbau

    Mae microbau niweidiol angen ffordd i deithio o berson neu ffynhonnell heintiedig cyn iddynt allu lledaenu i rywun arall. Mae llwybrau’n cynnwys

    Tisian a phesychu

    Hylif corff

    Lledaeniad Haint

    Mae microbau niweidiol angen ffordd i gael eu trosglwyddo o un person i’r llall. Gall hyn fod drwy

    Gyffwrdd

    Trosglwyddo rhywiol

    HYLENDID DWYLO

  • Pobl sydd mewn perygl o haint

    Pawb

    Cymerwch frechiadau priodol Pobl risg uchel

    Dylech osgoi pobl sy’n heintus

    Byddwch yn ofalus iawn o ran galnweithdra

    Byddwch yn ofalus iawn wrth goginio a pharatoi bwyd

    Ffynhonnell Haint Cadwch bobl heintiedigi ar wahân i

    bobl eraill

    Byddwch yn ofalus gyda bwyd amrwd

    Golchwch anifeiliaid anwes yn rheolaidd

    Gwaredwch gewynnau a dillad budr yn briodol

    Torri’r Gadwyn Haint

    Ffordd allan i ficrobau

    Rhwystrwch unrhyw

    Besychu a thisian

    Ysgarthion

    Chwyd

    Hylif corff rhag mynd ar arwynebau a dwylo

    Lleadeniad Haint

    Golchwch eich dwylo’n drylwyr a

    rheolaidd

    Gorchuddiwch friwiau a doluriau agored

    Cymerwch ragofalon priodol yn ystod gweithgarwch rhywiol

    Ffordd i mewn i ficrobau

    Gorchuddiwch friwiau a doluriau agored gyda rhwymyn sy’n dal dŵr

    Coginiwch fwyd yn drylwyr

    Gofalwch eich bod yn yfed dŵr glân yn unig

    HYLENDID DWYLO

  • Canlyniadau Tynnwch lun a disgrifiwch yr hyn a welsoch yn y ddysgl Petri

    Rhan Fudr

    Cytref 1 _________________________

    Cytref 2 _________________________

    Cytref 3 _________________________

    Cytref 4 _________________________

    Cytref 5 _________________________

    Rhan lân

    Cytref 1 _________________________

    Cytref 2 _________________________

    Cytref 3 _________________________

    Cytref 4 _________________________

    Cytref 5 _________________________

    Casgliadau

    1. Efallai y bydd rhai pobl yn gweld mwy o ficrobau ar ochr lân y ddysgl Petri na’r ochr fudr. Pam?

    ___________________________________________

    ___________________________________________

    ___________________________________________

    ___________________________________________

    ___________________________________________

    ___________________________________________

    2. Pa gytrefi fyddech chi’n ystyried yn ficrobau cyfeillgar a pham hynny?

    ___________________________________________

    ___________________________________________

    ___________________________________________

    ___________________________________________

    Arsylwadau

    1. Pa ochr o’r ddysgl Petri oedd yn cynnwys y nifer fwyaf o ficrobau? ______________________

    2. Pa ochr o’r ddysgl Petri oedd yn cynnwys y nifer fwyaf o wahanol gytrefi microbau? ______________________

    3. Sawl gwahanol fath o gytrefioedd ar y:

    Rhan lân ____________

    Rhan fudr ____________

    GLÂN BUDR

    HYLENDID DWYLO

  • Gweithdrefn 1. Cynhaliwch yr arbrawf yn unol â chyfarwyddiadau’r athro. 2. Yn y tabl isod, nodwch sawl math gwahanol o gytrefi a welsoch chi ar eich dysgl Petri a lluniwch graff o’ch

    canlyniadau.

    Canlyniadau

    Ar ôl golchi (neu beidio â golchi) ac ysgwyd llaw

    Disgybl 1 Disgybl 2 Disgybl 3 Disgybl 4 Disgybl 5 Disgybl 6

    Dim golchi (rheoli)

    Golchi’n gyflym

    Golchi’n drylwyr

    Golchi’n drylwyr gyda sebon

    Casgliad

    1. Pa ddull o olchi dwylo wnaeth gael gwared ar y nifer fwyaf o ficrobau? ______________________________________________________________________

    2. Pam fyddai sebon yn helpu i gael gwared ar fwy o ficrobau na golchi gyda dŵr yn unig? ____________________________________________________________________________________________________________________________________________________________

    3. Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio sebon gwrthfacterol wrth olchi’ch dwylo? Manteision: ________________________________________________________

    ________________________________________________________

    Anfanteision: ________________________________________________________

    ________________________________________________________

    4. Pa dystiolaeth sydd gennych y gellir trosglwyddo microbau gyda’ch dwylo? ____________________________________________________________________________________________________________________________________________________________

    5. Pa rannau o’ch llaw sy’n cynnwys y nifer fwyaf o ficrobau a pham hynny? ____________________________________________________________________________________________________________________________________________________________

    6. Rhestrwch 5 adeg y mae’n bwysig golchi’ch dwylo

    a. ________________________ b. ________________________

    c. ________________________ d. ________________________

    e. ________________________

    HYLENDID DWYLO