59
Cymhwysedd Digidol TGCh Arweinlyfr i gyrsiau HCA CAAGCC 1 Cyfres Arweinlyfrau Sgiliau CAAGCC: Cymhwysedd Digidol/TGCh

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio i Staff Ysgol yn ...gtpbangor.weebly.com/uploads/5/4/3/6/54365287/34912... · Web viewYn dilyn adroddiad dadansoddi Awdit CD/TGCh peilot

  • Upload
    others

  • View
    7

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Cyfres Arweinlyfrau Sgiliau CAAGCC: Cymhwysedd Digidol/TGCh

Cymhwysedd Digidol TGCh

Arweinlyfr i gyrsiau HCA

CAAGCC

Ein gweledigaeth:

Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i ddod yn athrawon rhagorol a chreadigol, fydd yn ysbrydoli a galluogi dysgwr i gyflawni eu potensial.

Cynnwys

Rhagarweiniad

3

Rhan 1: Trefniadau darparu ac asesu CD/TGCh y Ganolfan

4

Nod y ddarpariaeth

Dulliau darparu a chyflwyno CD/TGCh:

Asesu sgiliau CD/TGCh yr hyfforddeion

5

Pwyntiau asesu allweddol am sgiliau CD/TGCh - tracio cynnydd ac atebolrwydd

8

Cyfleusterau a pholisïau TGCh y Ganolfan

10

Rhan 2: Yr Arweinlyfr CD/TGCh ar Brofiad Ysgol

14

Rhagarweiniad

10 egwyddor arweiniol i sicrhau cynllunio effeithiol ar gyfer pob sgil

15

Canllawiau ac ystyriaethau wrth lenwi adrannau o dempled cynllunio gwersi

16

Gwersi enghreifftiol traws-gyfnodol o gynllunio effeithiol ar gyfer sgiliau cymwyseddau digidol

19

Cyfnod Sylfaen - Datblygu mathemateg a data a meddwl cyfrifiannol

20

Cyfnod Allweddol 2 - Mathemateg a thaenlenni

23

Cyfnod Allweddol 3 - Cerddoriaeth - Cyfansoddi gan ddefnyddio technoleg cerddoriaeth

26

Cyfnod Allweddol 3 - Dylunio a thechnoleg ac Archwilio, datblygu a chyfleu syniadau dylunio mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys anodi, lluniau a CAD

30

Llenyddiaeth gyffredinol, dogfennau a gwefannau ymarferol

34

Cydnabyddiaethau

36

Atodiad 1: Awdit Cymhwysedd Digidol/ TGCh

CYFLWYNIAD

Nod y gyfres arweinlyfrau sgiliau yw sicrhau bod darpariaeth a threfniadau'r Ganolfan yn gyson mewn perthynas â'r holl sgiliau allweddol. Cynlluniwyd yr arweinlyfr Sgiliau Cymhwysedd Digidol/TGCh i'w ddefnyddio gan hyfforddeion, tiwtoriaid a mentoriaid er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a dealltwriaeth yn cael eu rhannu ar draws y ganolfan (yn y brifysgol ac yn yr ysgolion) ac yn y cyrsiau HCA gyda golwg ar sgiliau CD/TGCh. Y pedwar cwrs yn y ganolfan yw:

BA (SAC) Prifysgol Bangor

BSc (SAC) Prifysgol Bangor

TAR (Cynradd) Prifysgol Bangor

TAR (Uwchradd) Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth

Mae’r arweinlyfr wedi’i rannu’n ddwy adran:

1. Trefniadau darparu ac asesu CD/TGCh

2. Cymwyseddau digidol ar lawr y dosbarth

Bydd trefniadau darparu ac asesu CD/TGCh y Ganolfan

1. yn rhoi trosolwg cyffredinol o'r ddarpariaeth CD/TGCh mewn sesiynau ar draws cyrsiau yn y coleg;

2. datblygu ac asesu sgiliau TGCh personol yr hyfforddeion a'u gallu i roi CD/TGCH ar waith ar lawr y dosbarth;

3. rhoi gwybodaeth gyffredinol am gyfleusterau TGCh a pholisïau dinasyddiaeth ddigidol yn y brifysgol.

Bydd yr Arweinlyfr Sgiliau CD/TGCh ar Brofiad Ysgol yn:

· darparu egwyddorion a negeseuon allweddol i hyfforddeion ac yn arwain dialog tiwtoriaid a mentoriaid i sicrhau bod hyfforddeion yn derbyn gwybodaeth gyson ynglŷn â chynllunio effeithiol i gwrdd ag anghenion dysgwyr o ran ennill a defnyddio sgiliau;

· darparu dull a chyfarwyddiadau cyffredinol ynglŷn â sut i lenwi adrannau perthnasol o'r templed cynllunio gwersi yng nghyd-destun datblygu sgiliau disgyblion;

· cynnwys enghreifftiau o gynlluniau gwers sgiliau trawsgwricwlaidd ar draws yr holl gyfnodau i ddangos cynllunio effeithiol a fydd yn rhoi man cychwyn i drafodaeth

· yn ystod sesiynau briffio sgiliau profiad ysgol

· yn ystod diwrnodau hyfforddi mentoriaid a thiwtoriaid

· ac fel ffocws posibl mewn cyfarfodydd â thiwtoriaid ac mewn cyfarfodydd mentora wythnosol

· darparu gwybodaeth am ofynion y Portffolio Profiad Ysgol;

· darparu llenyddiaeth, dogfennau a gwefannau defnyddiol i roi syniadau a gweithgareddau ymarferol i hyrwyddo datblygiad sgiliau CD/TGCh y dysgwyr yn effeithiol.

RHAN 1: TREFNIADAU DARPARU AC ASESU CD/TGCH

NOD Y DDARPARIAETH

Mae'n ofynnol i holl hyfforddeion allu defnyddio Cymwyseddau Digidol/TGCh yn effeithiol wrth addysgu ac ar lefel broffesiynol a phersonol. Y nod ym mhob un o ddisgrifiadau modiwlau'r cyrsiau yw cynyddu a datblygu hyder hyfforddeion fel ymarferwyr gyda sgiliau digidol i

· gwrdd â safonau cyrsiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon a'u bod yn ymwybodol o'r blaenoriaethau cenedlaethol ynglŷn â Chymwyseddau Digidol a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf ar ddatblygu Cymhwysedd Digidol/TGCh (S2.1) ac yn eu deall.

· datblygu eu sgiliau TGCh personol i gyfoethogi eu sgiliau addysgu ar lawr y dosbarth a chefnogi eu swyddogaeth broffesiynol ehangach (S2.5)

· ennill gwybodaeth a dealltwriaeth am sut i ddefnyddio CD/TGCh yn effeithiol yn unol â gofynion y meysydd pwnc maent wedi eu dewis (hyfforddeion uwchradd) neu ym mhob un o feysydd astudio y Cyfnod Sylfaen a phynciau'r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2 (hyfforddeion cynradd) fel bod dysgwyr yn gallu defnyddio'r sgiliau digidol hyn yn effeithiol ar draws y cwricwlwm cyfan

· deall pwysigrwydd dinasyddiaeth bersonol (hunaniaeth, delwedd ac enw da); hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth ac e-ddiogelwch a sut i ymdrin â'r materion hyn gyda dysgwyr.

Nod polisi CD/TGCh y Ganolfan a'r defnydd ohono yw cyflwyno a chreu cyfleoedd i ymgorffori'r defnydd o Gymhwysedd Digidol/TGCh. Bydd y cymwyseddau digidol mewn modiwlau yn canolbwyntio ar bedagogeg, datblygu sgiliau dyfnach, eu trosglwyddo, eu deall yn ogystal â defnyddio'r cymwyseddau hyn.

DULLIAU DARPARU A CHYFLWYNO CD/TGCH:

Defnyddir cyfuniad o’r dulliau cyflwyno CD/TGCh uchod ym mhob un o'r cyrsiau:

· cyflwyniadau cyffredinol am gymhwysedd digidol gan diwtor/mentor neu swyddogion arloesi CD/TGCh mewn:

· Cyflwyniad i'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (drafft Mehefin 2016) a sgiliau TGCh, a nodir yn y Fframwaith Sgiliau i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru, Codi Safonau mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, deunydd cyfarwyddyd.

Hwb a Hwb+;

· Cyflwyniad ar e-ddiogelwch;

· Arfer gorau a gweithgareddau i gefnogi mabwysiadu cynllunio CD/TGCh mewn pynciau ac ar draws y cwricwlwm

· gweithdai penodol ar gynllunio sgiliau CD/TGCh mewn sesiynau profiad ysgol (cynradd) astudiaethau proffesiynol (uwchradd);

· darlithoedd/gweithdai ar gyfer elfennau penodol o CD/TGCh ac agweddau o fewn sesiynau pwnc/cyfnod ym mhob un o ddisgrifiadau modiwlau'r cyrsiau;

· hunan-astudio (cynradd) neu amser digyswllt (uwchradd) sydd hefyd yn cynnwys yr angen i dargedu hyfforddeion i gwblhau tasgau/cyrsiau uwchsgilio ar-lein yn dilyn canlyniadau gwerthuso Awdit CD/TGCh y Ganolfan.

ASESU SGILIAU CD/TGCH YR HYFFORDDEION

Bydd athrawon dan hyfforddiant yn dechrau'r cwrs gyda gwahanol sgiliau a phrofiadau ac fel canolfan rydym yn gobeithio y bydd yr hyfforddeion mwy profiadol yn helpu a chynorthwyo'r rhai sydd â llai o brofiad. Ar y cwrs cynradd, bydd hyfforddeion a ddynodir gan diwtoriaid yn gweithredu fel Arweinwyr Digidol i gefnogi eu cyd hyfforddeion yn ystod darlithoedd/gweithdai neu wythnosau adfyfyrio.

Bydd Tiwtoriaid Personol ym mhob cwrs yn gofyn i'w hyfforddeion fonitro eu cynnydd trwy gwblhau:

· Awdit Personol TGCh/CD y Cwrs

Mae'r Awdit Personol TGCh/CD ar gyfer hunanwerthusiad hyfforddeion ac mae'n nodi pa lwybrau i ganolbwyntio arnynt er mwyn datblygu eu sgiliau TGCh/CD, gwybodaeth a dealltwriaeth ar ddyddiadau penodol.

· Awdit TGCh/CD y Ganolfan

Mae AwditTGCh/CD y Ganolfan hanner ffordd drwy'r cwrs yn casglu gwybodaeth am sgiliau generig, pwnc, amgylchedd dysgu rhithiol, sefydlu a gosod caledwedd a diogelwch a diogeled pob un o'r hyfforddeion.

· Portffolio Ffeil Profiad Ysgol

Un wers drawsgwricwlaidd /pynciol gyda thystiolaeth glir o gynllunio ar gyfer datblygu sgiliau TGCh y dysgwyr ac allbrint o'r offer Awdit sgiliau ar-lein a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Arloesi fel y gall unigolion hunanasesu eu hyder o ran gallu cyflwyno'r Fframwaith CD. (Bydd ar gael trwy wefan Dysgu Cymru ddiwedd mis Medi)

· Aseiniadau a gofynion cyrsiau unigol

Caiff gwybodaeth a dealltwriaeth hyfforddeion am CD/TGCh eu hadlewyrchu yn eu haseiniadau ysgrifenedig a gofynion Profiad Ysgol

CD/TGCh O FEWN ASEINIADAU CYRSIAU A GOFYNION ERAILL SYDD ANGEN EU HWYLUSO A'U CEFNOGI GAN UWCH FENTORIAID A MENTORIAID YN YSTOD PROFIAD YSGOL

BA (SAC)

Blwyddyn 3: Aseiniad Astudiaethau Proffesiynol: Gwerthuso tystiolaeth o werth ac effaith defnyddio TGC yn effeithiol.

Blwyddyn 3: Cyfarfod Proffesiynol ar Brofiad Ysgol - Ffocws ar CD/TGCh

Wythnosau adfyfyrio: Arweinwyr Digidol; Defnyddio blogio, wikis a rhaglenni/adnoddau TGCh/CD a'r cyfryngau i gyflwyno a gwella tasgau thema i grwpiau

TAR (cynradd)

Aseiniad gwaith cwrs 1: Sut mae TGCh yn effeithio ar godi safonau yn y pynciau craidd.

Modiwl project ymchwil: Gall hyfforddeion wneud ymchwil gweithredol yn yr ysgol ar CD/TGCh.

Profiad Ysgol 3: Cyfarfod Proffesiynol ar Brofiad Ysgol - Ffocws ar CD/TGCh

TAR (uwchradd)

Aseiniad A: Gall hyfforddeion gyfeirio at ddefnyddio CD/TGCh i wella dysgu disgyblion yn y pynciau.

Yr Astudiaeth Agored: Gall hyfforddeion wneud ymchwil gweithredol yn yr ysgol ar CD/TGCh.

Adroddiad Adfyfyriol 3: Beth yw Cymhwysedd Digidol?

Sut mae athrawon yn ymdrin â CD?

Sut gallaf i weithredu'r Fframwaith CD?

BSc

Uwch Fentoriaid/Mentoriaid: Cyfarfod Proffesiynol ar Brofiad Ysgol - Ffocws ar CD/TGCh

UWCH FENTORIAID/MENTORIAID: Cyflwyniad ac ymgyfarwyddo â gallu meddalwedd a chaledwedd Dylunio a Thechnoleg yr ysgol, y gofynion a sut i'w defnyddio.

UWCH FENTORIAID/MENTORIAID: Cyflwyniad i'r arferion sefydledig ac integreiddio'r fframwaith CD mewn dysgu a gweithgareddau yn yr ysgol.

· Hunan-astudio/cyrsiau ar-lein CD/TGCh a llwybrau cefnogi

Mae’n bwysig bod hyfforddeion yn defnyddio eu hamser digyswllt a/neu gyfnodau hunan-astudio TGCh sydd wedi eu hamserlennu yn y cyrsiau cynradd i ddatblygu eu sgiliau CD/TGCh yn raddol yn ystod eu cwrs, yn ystod y cyfnodau yn y brifysgol ac yn yr ysgolion hefyd. Dylid defnyddio'r cyfnodau hyn i gwblhau cyrsiau cefnogi ar-lein gofynnol y ganolfan yn ogystal â llwybrau cefnogi i hyfforddeion a dargedir. Yn dilyn adroddiad dadansoddi Awdit CD/TGCh peilot yr adran yn ystod 2016, mae cyrsiau cefnogi ar-lein wedi cael eu sefydlu ar gyfer y garfan bresennol yn 2016-17.

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau'r cyrsiau ar-lein canlynol:

E-wybodaeth i Athrawon:

Mae'r cwrs ardystiedig ar-lein yn cwmpasu categorïau o risg, pam bod e-ddiogelwch yn bwysig a diffiniadau o arfer dda o ran e-ddiogelwch yn yr ysgolion. Rydym yn sicrhau bod y cynnwys yn gyfredol ac ar ddiwedd yr hyfforddiant, gall pob hyfforddai argraffu eu tystysgrif cwblhau.

Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol i athrawon

Mae'n gwrs hyfforddi ar-lein, a bydd hyfforddeion yn cael eu helpu i ddeall sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol heb ddwyn anfri ar yr ysgol na nhw eu hunain, er mwyn gwybod sut i osgoi gwneud yr ysgol yn agored i atebolrwydd cyfreithiol, sicrhau bod defnyddio rhwydweithio cymdeithasol yn adlewyrchu arferion 'rhyngrwyd diogelach', gallu lleihau unrhyw risg sy'n gysylltiedig â defnydd personol o gyfryngau cymdeithasol a chynnal safon ymddygiad a chod ymarfer staff wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio i Staff Ysgol yn cynnwys Athrawon dan Hyfforddiant

Mae hwn yn fodiwl hyfforddiant ardystiedig ar-lein yn seiliedig ar gefnogi'r strategaeth gwrthderfysgaeth mewn ysgolion er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu tynnu i mewn i ymddygiad eithafol yn arbennig wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Datblygwyd y cwrs ardystiedig datblygiad proffesiynol parhaus hwn ar gyfer cefnogaeth e-ddiogelwch gan Tim Pinto sydd wedi gweithio'n helaeth gydag ysgolion a sefydliadau addysgol, yn eu cefnogi gydag e-ddiogelwch a datblygu canllawiau arweiniad a pholisïau. Mae'n aelod o'r Bwrdd Ymgynghori Addysgol ar gyfer CEOP (Canolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein)

Rydym hefyd yn cynghori'r holl hyfforddeion i ymgyfarwyddo â'r ymwybyddiaeth e-ddiogelwch ar-lein i ddysgwyr, priodol i'w cyfnod, yn ystod profiad ysgol 1

Byddwch yn E-graff (Get E-smart!) - Ymwybyddiaeth e-ddiogelwch i ddisgyblion cyfnod allweddol 3 a 4

Mae technoleg yn datblygu'n gyflym, yn gyffrous ac yn newid y ffordd rydym yn byw; gan roi mynediad ar unwaith i wybodaeth, pobl, cerddoriaeth, gemau a ffilmiau. Gallwn hyd yn oed wneud hyn i gyd pryd bynnag rydym eisiau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau.

Yr hyn sy'n dda am dechnoleg yw y gall pawb ei gyrraedd yn rhwydd. Ond mae hyn yn golygu bod rhaid i ni hefyd sylweddoli nad yw pawb neu phopeth ddim fel y maent yn ymddangos.

Bydd y modiwl hyfforddi ar-lein newydd sbon hwn yn dysgu disgyblion beth i edrych amdano, wrth iddynt fwynhau gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddaw gyda thechnoleg.

Datblygwyd y cwrs hyfforddi Get E-smart! gan yr awdur addysgol, Steve Martin, ac mae wedi ei lunio ar gyfer disgyblion yng nghyfnodau allweddol 3 a 4.

Byddwch yn E-ofalus (Go Careful-E!) - Ymwybyddiaeth e-ddiogelwch i ddisgyblion cyfnod allweddol 1 a 2 Mae cyfrifiaduron a ffonau symudol yn ein helpu i gael hyd i wybodaeth, chwarae gemau, gwylio fideos a sgwrsio gyda phobl. Ond mae angen i blant cynyddol ifancach wybod sut i fod yn ddiogel oherwydd gall fod rhai pobl sy'n ceisio eu twyllo, wneud iddynt ofidio neu hyd yn oed ceisio eu niweidio.

Bydd y cwrs hwn yn dysgu disgyblion ifancach wybod beth i edrych amdano wrth fwynhau defnyddio eu cyfrifiadur, tabled neu ffôn.

Ysgrifennwyd Go Careful-E! gan yr awdur addysgol Steve Martin ac mae wedi ei lunio ar gyfer disgyblion yng nghyfnodau allweddol 1 a 2. Awgrymir i'r cwrs hwn gael ei wneud dan oruchwyliaeth oedolyn (gyda rhiant, mewn trafodaeth yn y dosbarth, neu amser cylch er enghraifft) i annog trafodaeth agored am y materion a godir yn yr hyfforddiant.

Hyfforddeion a dargedir (neu hyfforddeion heb eu targedu fel cwrs gloywi) i gwblhau cwrs ar-lein y Ganolfan ar daenlenni a chronfeydd data.

MESUR CYNNYDD HYFFORDDEION MEWN CD/TGCH - TRACIO CYNNYDD AC ATEBOLRWYDD:

1. Awdit CD/TGCh y cwrs

Mae'r Awdit hwn yn creu maes i'w drafod gyda thiwtor personol yr hyfforddai ac yn bwydo i mewn i'r cynlluniau gweithredu yn y Cofnod Datblygiad Proffesiynol (uwchradd) / Ffeil Cynnydd Personol (cynradd) a Phroffil Dechrau Gyrfa. Dylid cwblhau yr Awdit hwn a'i ddiweddaru ar gyfer pob cwrs fel y nodir yn y 'Cwrs CD/TGCh a gofynion asesu'r ganolfan a'r calendr' (gweler isod)

2. Awdit CD/TGCh y Ganolfan

Mae hwn yn darparu dadansoddiad o'r cyrsiau a'r ganolfan gyfan a phwyntiau gweithredu ynglŷn â sgiliau CD/TGCh yr hyfforddeion fel y nodir uchod. Bydd y pwyntiau gweithredu

· yn sicrhau gwelliant parhaus a systematig i ddarparu a chyflwyno CD/TGCh yn y Ganolfan

· Nodi cefnogaeth i uwchsgilio hyfforddeion a dargedir ar bob cwrs neu hyfforddeion eraill sydd eisiau gwella eu sgiliau

Ar ôl cwblhau Awdit Peilot CD/TGCh y ganolfan yn ystod 2016, rhaid i hyfforddeion a dargedir o'r garfan bresennol o hyfforddeion gwblhau cwrs ar-lein y Ganolfan ar ddata a thaenlenni a chronfeydd data a/neu lwybr cefnogi arall a ddynodir. Caiff y cwrs taenlenni a chronfeydd data hwn ei gynnig hefyd fel cwrs gloywi i bob hyfforddai i ddiweddaru eu sgiliau taenlenni a chronfa data personol.

3. Cyrsiau hunan-astudio/ar-lein CD/TGCh a llwybrau cefnogi

Cyn yr wythnos gyntaf o ddysgu ar Brofiad Ysgol 1 rhaid i'r cyrsiau ar-lein canlynol ar e-ddiogelwch gael eu cwblhau:

· E-ddiogelwch i Athrawon

· Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol i athrawon

Rydym yn annog hyfforddeion yn gryf i ymgyfarwyddo â'r ymwybyddiaeth e-ddiogelwch ar-lein i ddysgwyr sy'n briodol i'w cyfnod yn ystod Profiad Ysgol 1 naill ai

· Get E-smart! - Ymwybyddiaeth e-ddiogelwch i ddisgyblion cyfnod allweddol 3 a 4 neu

· Go Careful-E! - Ymwybyddiaeth e-ddiogelwch i ddisgyblion cyfnod allweddol 1 a 2

Rhaid i'r cyrsiau ar-lein canlynol gael eu cwblhau yn ystod amser di-gyswllt/hunan-astudio yn y brifysgol ym mis Ionawr 2017

· Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio i Staff Ysgol yn cynnwys Athrawon dan Hyfforddiant

Rhaid i dystysgrifau a thystiolaeth o gwblhau'r cwrs uchod gael eu cynnwys yn y Cofnod Datblygiad Proffesiynol (uwchradd) neu'r Ffeil Cofnod Cynnydd Personol(cynradd)

4. Portffolio Ffeil Profiad Ysgol

· Un wers drawsgwricwlaidd gyda thystiolaeth glir o gynllunio ar gyfer datblygu sgiliau TGCh y dysgwyr.

· Allbrint o'r cyfleuster Awdit sgiliau ar-lein a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Arloesi i unigolion hunan-asesu eu hyder o ran gallu cyflwyno'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. (Ar gael trwy wefan Dysgu Cymru, Hydref 2016).http://dysgu.llyw.cymru )

PWYNTIAU ASESU ALLWEDDOL AM SGILIAU CD/TGCH - TRACIO CYNNYDD AC ATEBOLRWYDD

TAR Cynradd ac uwchradd

Gweithgaredd asesu

Pryd

Asesydd

Cofnod

Awdit Cwrs

Dechrau PY1

Dechrau PY2

Diwedd PY2

Hyfforddai i ymateb a thrafod gyda'r Tiwtor Personol

Camau gweithredu i'w cofnodi gyda'r Awdit yn y Ffeil Cynnydd Personol (TAR Cynradd) ac yn y Portffolio Datblygiad Proffesiynol (TAR uwchradd)

Awdit diwedd PY2 i fod yn rhan o'r Proffil Dechrau Gyrfa.

Awdit CD y Ganolfan Gyfan

Ionawr

Hyfforddai i'w lenwi ar-lein

Arweinydd TGCh - Aled Williams i ddadansoddi a threfnu llwybrau cefnogi yn ôl yr angen.

Pwynt data i Ddata Canolog y Ganolfan

Adroddiad dadansoddi CD y ganolfan gyfan i'w gyfathrebu i'r holl gyfarwyddwyr cyrsiau a thiwtoriaid yn y Bwrdd Adolygu Rhaglenni Cyrsiau

Tiwtoriaid Personol i roi gwybod i hyfforddeion a dargedir pa lwybrau cefnogi/cyrsiau hunan-astudio pellach sydd i'w cwblhau

Cyrsiau Cefnogi Gorfodol:

Rhagfyr

Rhagfyr

Mawrth

Cyrsiau ardystiedig

Tystysgrif cwblhau yn y:

Ffeil Cynnydd Personol (cynradd)

Portffolio Datblygiad Proffesiynol (uwchradd) ac yn rhan o'r Proffil Dechrau Gyrfa

Tiwtoriaid i ddilysu.

E-ddiogelwch i Athrawon:

-Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol i athrawon

Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio

Dewisol: Naill ai

Ymgyfarwyddo gyda

Get E-smart! - Ymwybyddiaeth e-ddiogelwch i ddisgyblion cyfnod allweddol 3 a 4 neu

Go Careful-E! - Ymwybyddiaeth e-ddiogelwch i ddisgyblion cyfnod allweddol 1 a 2

Cyrsiau cefnogi yn dilyn Awdit TGCh y Ganolfan

e.e. taenlenni a chronfeydd data

Ionawr ymlaen

Hyfforddeion yn dangos sut maent wedi cael mynediad i/wedi cwblhau cyrsiau i wella

Cynradd: Ffeil Cynnydd Personol

Uwchradd: Portffolio Datblygiad Proffesiynol ac yn rhan o'r Proffil Dechrau Gyrfa

Tiwtoriaid i ddilysu.

Portffolio Cynlluniau Gwersi Profiad Ysgol

Cynllun gwers X1

Offer Awdit Sgiliau CD/TGCh

Bydd ar gael trwy wefan Dysgu Cymru, Hydref 2016. http://dysgu.llyw.cymru

Diwedd PY 1

Diwedd PY2

Hyfforddai

Tiwtor cyswllt PY

Rhan o'r Proffil Dechrau Gyrfa

BA (SAC) a BSc

Gweithgaredd asesu

Pryd

Asesydd

Cofnod

Awdit Cwrs

Dechrau PY1

Dechrau PY2

Diwedd PY2

Hyfforddai i ymateb a thrafod gyda'r Tiwtor Personol

Camau gweithredu i'w cofnodi gyda'r Awdit yn y Ffeil Cynnydd Personol.

Awdit diwedd PY3 i fod yn rhan o'r Proffil Dechrau Gyrfa.

Awdit CD y Ganolfan Gyfan

Ionawr

Hyfforddai i'w lenwi ar-lein

Arweinydd TGCh - Aled Williams i ddadansoddi a threfnu llwybrau cefnogi yn ôl yr angen.

Pwynt data i ddata canolog y Ganolfan

Adroddiad dadansoddi CD y ganolfan gyfan i'w gyfathrebu i'r holl gyfarwyddwyr cyrsiau a thiwtoriaid yn y Bwrdd Adolygu Rhaglenni Cyrsiau.

Tiwtoriaid Personol i roi gwybod i hyfforddeion a dargedir am lwybrau cefnogi/cyrsiau hunan-astudio pellach i'w cwblhau

Cyrsiau Cefnogi Gorfodol:

Cyn PY Blwyddyn 1:

E-ddiogelwch i Athrawon

Go Careful-E! - Ymwybyddiaeth e-ddiogelwch i ddisgyblion cyfnod allweddol 1 a 2

Cyn PY Blwyddyn 2: Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol i athrawon

Blwyddyn 3: Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio

Cyrsiau ardystiedig

Tystysgrif cwblhau yn y:

Ffeil Cynnydd Personol (cynradd)

Tiwtoriaid i ddilysu.

E-ddiogelwch i Athrawon:

-Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol i athrawon

Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio

Dewisol: Naill ai

Ymgyfarwyddo gyda

Get E-smart! - Ymwybyddiaeth e-ddiogelwch i ddisgyblion cyfnod allweddol 3 a 4 neu

Go Careful-E! - Ymwybyddiaeth e-ddiogelwch i ddisgyblion cyfnod allweddol 1 a 2

Cyrsiau cefnogi yn dilyn Awdit TGCh y Ganolfan

e.e. taenlenni a chronfeydd data

Ionawr ymlaen

Hyfforddeion yn dangos sut maent wedi cael mynediad i/wedi cwblhau cyrsiau i wella

Ffeil Cynnydd Personol

ac yn rhan o'r Proffil Dechrau Gyrfa

Portffolio Cynlluniau Gwersi Profiad Ysgol

Cynllun gwers X1

Offer Awdit Sgiliau CD/TGCh

Bydd ar gael trwy wefan Dysgu Cymru, Hydref 2016. http://dysgu.llyw.cymru

Diwedd PY 1

Diwedd PY2

Diwedd PY3

Hyfforddai

Tiwtor cyswllt PY

Rhan o'r Proffil Dechrau Gyrfa

CYFLEUSTERAU A PHOLISÏAU TGCh

Mae'r Ganolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio technoleg i wella ansawdd ac effeithiolrwydd dysgu ac addysgu.

Cyfleusterau TGCh cyffredinol ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor

Prifysgol Bangor:

Mae sawl labordy cyfrifiaduron mynediad agored ar gael i fyfyrwyr ym Mangor.

Ar Safle’r Normal mae ystafell gyda chyfrifiaduron yn Ystafell 16 yn Llyfrgell Safle'r Normal.

Caiff pob un o'r ystafelloedd hyn eu harchebu weithiau at ddibenion dysgu. Hefyd mae cyfrifiaduron a gweithfannau wedi'u cysylltu â gweinydd sy'n rhedeg meddalwedd addysgol arbenigol generig yn Ystafell 16 ar Safle'r Normal (e.e. Purplemash; meddalwedd Notebook Smartboard Technologies ar gyfer y bwrdd gwyn rhyngweithiol).

Defnyddir byrddau gwyn rhyngweithiol (Smartboard neu Promethean Boards) yn y rhan fwyaf o ddarlithfeydd. Dylid gofyn i ddarlithwyr a ydynt ar gael.

Mae cyfleusterau argraffu laser ar gael yn y labordai cyfrifiaduron sy'n gweithio ar system gredyd. Gellir prynu credydau argraffu o'r ddesg yn y llyfrgell ac ar-lein. Mae prif labordy cyfrifiaduron y brifysgol yn Ffordd Deiniol ac mae dwy ystafell gyfrifiaduron ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.

Amrywiaeth o adnoddau TGCh ac offer arbenigol a defnyddir meddalwedd pynciau ym mhob un o'r cyrsiau.

Wi-fi

Mae mannau Wi-Fi ar gael ar draws gampws y Brifysgol yn ogystal â Champws Safle'r Normal yn darparu mynediad am ddim i'r rhwydwaith i bob myfyriwr sydd â gliniadur diwifr eu hunain a chyfrif defnyddiwr prifysgol dilys. Mae nifer cynyddol o ddarlithfeydd ar Safle'r Normal yn darparu gwasanaeth Wi-Fi hefyd.

Prifysgol Aberystwyth

Mae sawl labordy cyfrifiaduron mynediad agored ar draws Campws Penglais ar gael i fyfyrwyr yn Aberystwyth. Caiff pob un o'r ystafelloedd hyn eu harchebu weithiau at ddibenion dysgu.

Hefyd mae cyfrifiaduron a gweithfannau yn Llyfrgell Hugh Owen.

Defnyddir byrddau gwyn rhyngweithiol (Smartboard neu Promethean Boards) ym mhob darlithfa yn P5.

Mae cyfleusterau argraffu laser ar gael yn llyfrgell Hugh Owen sy'n gweithio ar system gredyd. Gellir prynu credydau argraffu o'r ddesg yn y llyfrgell ac ar-lein.

Amrywiaeth o adnoddau TGCh ac offer arbenigol a defnyddir meddalwedd pynciau ym mhob un o'r cyrsiau, yn cynnwys set ddysgu llawn o dabledi Galaxy Samsung i diwtoriaid i'w defnyddio gyda'u grwpiau.

Wi-fi

Mae Wi-Fi ar gael ar draws gampws y Brifysgol (Eduroam) yn darparu mynediad am ddim i'r rhwydwaith i bob myfyriwr sydd â gliniadur di-wifr eu hunain, padiau a ffonau a chyfrif defnyddiwr prifysgol dilys.

Canolfan Dysgu â Chymorth Technoleg

Mae'r Grŵp E-ddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r Tîm Technoleg Dysgu ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig ystod eang o gefnogaeth i ddefnyddio technoleg a dylunio dysgu, yn cynnwys canllawiau sut i’w defnyddio, sesiynau hyfforddi, taflenni cymorth a thiwtorialau fideo ac ymgynghori un i un i hyfforddeion/myfyrwyr.

Ar gyfer yr holl ymholiadau am e-ddysgu Prifysgol Aberystwyth y cyfeiriad e-bost yw:[email protected].

Ar gyfer ymholiadau am e-ddysgu Prifysgol Bangor y cyfeiriad e-bost yw: [email protected]

Defnyddio'r amgylchedd dysgu rhithiol (VLE) sef Blackboard

Defnyddir y we yn gynyddol ym mhob cwrs ar gyfer dysgu a gweinyddu, pan fydd yr hyfforddeion yn y Brifysgol ac yn eu lleoliadau yn yr ysgolion. Mae'r hyfforddeion a'r mentoriaid yn gallu mynd at yr adnoddau hyn gan ddefnyddio’r rhan fwyaf o we-borwyr. Mae’r Brifysgol yn defnyddio meddalwedd o’r enw Blackboard i gynhyrchu a rheoli’r gwe-dudalennau.

Mynediad i Blackboard

Blackboard yw'r prif lwyfan a ddefnyddir ar draws y ganolfan i gefnogi dysgu ac addysgu. Mae'n rhithamgylchedd (VLE) sy'n darparu mynediad at ddeunyddiau cyrsiau, cyhoeddiadau ac offer rhyngweithredol fel byrddau trafod, blogiau, wikis a phodlediadau.

Bydd angen i hyfforddeion ddefnyddio Blackboard yn rheolaidd drwy gydol y cwrs. Fel hyfforddeion efallai bydd angen i chi addasu eich trefn ddyddiol neu wythnosol i gynnwys amser i fewngofnodi a gwirio eich negeseuon a gweld gwybodaeth yn rheolaidd. Dylech ddefnyddio'r system yn rheolaidd trwy ymateb i negeseuon a thrwy ddechrau trafodaethau fel y bo'n briodol, er mwyn cadw mewn cysylltiad ag eraill. Bydd y trafodaethau hyn yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o faterion addysgol ac ymwybyddiaeth ehangach o bolisïau ac arferion ar draws nifer o ysgolion gwahanol.

Cyn belled â bod mynediad i’r Rhyngrwyd, gellwch fynd at Blackboard drwy borwr rhyngrwyd, fel Firefox neu Internet Explorer, naill ai o gyfrifiadur yn y brifysgol, yn yr ysgol neu o’ch cyfrifiadur eich hun gartref.

Pan fyddwch ar Brofiad Ysgol bydd angen i chi ddynodi cyfrifiadur yn yr ysgol y gallwch ei ddefndydio i fynd at Blackboard trwy borwyr rhyngrwyd. Gwiriwch gyda'ch Uwch Fentor pan fydd ar gael i chi ei ddefnyddio; efallai na fydd ar gael i chi dim ond tu allan i oriau ysgol.

OS BYDDWCH ANGEN HELP PELLACH NEU OS OES GENNYCH YMHOLIADAU TG ERAILL

CEFNOGAETH E-DDYSGU, CYNGOR A CHYMORTH TG Y GANOLFAN

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Gellir mynd at ‘AberLearn Blackboard’ drwy http://blackboard.aber.ac.uk

Gellir mynd at 'BangorLearn Blackboard’ drwy http://blackboard.bangor.ac.uk

Cymorth - Ar gyfer ymholiadau am AberLearn Blackboard, anfonwch e-bost at [email protected].

Mae tudalennau cymorth Bangor Blackboard yn http://www.bangor.ac.uk/blackboard

Prifysgol Aberystwyth - Gwasanaethau i Fyfyrwyr

www.aber.ac.uk

Desg gymorth ym Mangor: [email protected]; Ffôn: 01248 38 8111

Cymorth a Chyngor Wi-Fi https://www.aber.ac.uk/en/student/help-advice/

Wi-Fi - Mae gwybodaeth am wasanaeth diwifr y brifysgol ar gael yn: http://www.bangor.ac.uk/itservices/wireless/

Prifysgol Aberystwyth - Gwasanaethau i Fyfyrwyr

https://www.aber.ac.uk/ên/is/students/

Arweiniad Myfyrwyr i Wasanaethau TG

https://www.bangor.ac.uk/itservices/new_users/newstudent.php.en

Polisïau a Chytundebau

Pan fyddwch yn mewngofnodi i rwydwaith Prifysgol Aberystwyth neu Brifysgol Bangor naill ar y campws neu drwy ddefnyddio ResNet neu Wireless rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r setiau canlynol o ddogfennau mewn perthynas â defnydd derbyniol o'r cyfleusterau a ddarperir. Dylai'r holl hyfforddeion ymgyfarwyddo â'r:

DOGFENNAU POLISÏAU A CHYTUNDEBAU

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Polisi Diogelwch Gwybodaeth: http://www.aber.ac.uk/en/infocompliance/policies/security/

'Rheolau'r tŷ' ar Gyfryngau Cymdeithasol: https://www.aber.ac.uk/ên/social-media/onlinesafety/

Defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol (wedi'u cynnwys yn llawlyfrau'r cwrs)

Polisi defnydd derbyniol (mae PDF ar gael i'w lawrlwytho

Rheoliadau i ddefnyddio Adnoddau TG

Defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol (wedi'u cynnwys yn llawlyfrau'r cwrs.)

Datganiad Diogelu Data: https://www.aber.ac.uk/en/development/data-protection/

Polisi Diogelu Data

Cyfres Arweinlyfrau Sgiliau CAAGCC:

Arweinlyfr Cymhwysedd Digidol/TGCh ar Brofiad Ysgol

Ein gweledigaeth:

Addysgu, cefnogi ac ysgogi myfyrwyr i ddod yn athrawon rhagorol a chreadigol, fydd yn ysbrydoli ac yn grymuso'r holl ddysgwyr i gyrraedd eu potensial dysgu

RHAN 2: YR ARWEINLYFR CYMHWYSEDD DIGIDOL/TGCH AR BROFIAD YSGOL

Diben yr Arweinlyfr Cymhwysedd Digidol/TGCh ar Brofiad Ysgol yw darparu cefnogaeth i hyfforddeion gynllunio'n effeithiol er mwyn datblygu sgiliau’r disgyblion. Mae'r canllawiau hyn hefyd wedi'u cynllunio fel y gall mentoriaid a thiwtoriaid eu defnyddio i sicrhau cysondeb a dealltwriaeth wrth roi cymorth i hyfforddeion ar sut i ymgorffori'r sgiliau o fewn eu cynlluniau gwersi. Dylid eu defnyddio ar y cyd â'r Llawlyfr Cynllunio Gwersi.

Bydd yr Arweinlyfr Cymhwysedd Digidol/TGCh ar Brofiad Ysgol yn:

· darparu egwyddorion a negeseuon allweddol i hyfforddeion ac yn arwain y ddeialog y mae ei hangen gan diwtoriaid a mentoriaid i sicrhau bod hyfforddeion yn derbyn gwybodaeth gyson ynglŷn â chynllunio effeithiol i ddiwallu anghenion dysgwyr wrth ennill a defnyddio sgiliau;

· darparu dull a chyfarwyddiadau cyffredinol ynglŷn â sut i lenwi adrannau perthnasol o'r templed cynllun gwers yng nghyd-destun datblygu sgiliau disgyblion;

· cynnwys enghreifftiau o gynlluniau gwers ar sgiliau trawsgwricwlaidd ar draws yr holl gyfnodau i ddangos cynllunio effeithiol a fydd yn rhoi man cychwyn ar gyfer trafod

· yn ystod sesiynau briffio sgiliau profiad ysgol

· yn ystod diwrnodau hyfforddi mentoriaid a thiwtoriaid

· ac fel rhywbeth i ganolbwyntio arno mewn cyfarfodydd wythnosol rhwng y mentor a'r tiwtor

· rhoi llenyddiaeth ddefnyddiol, dogfennau a gwefannau i ddarparu syniadau a gweithgareddau ymarferol i hyrwyddo sgiliau Cymhwysedd Digidol/TGCh y dysgwyr yn effeithiol.

Arweinlyfr Cymhwysedd Digidol/TGCh ar Brofiad Ysgol.

10 EGWYDDOR ARWEINIOL I SICRHAU CYNLLUNIO EFFEITHIOL AR GYFER POB SGIL

1. Ymgyfarwyddwch â chynlluniau gwaith yr ysgol i ddeall sut y mae mentoriaid wedi ymgorffori'r sgiliau i lywio'r cynlluniau gwersi dyddiol.

2. Ymgyfarwyddwch â gwybodaeth asesu berthnasol am sgiliau'r dysgwyr fel bod gennych ddarlun cyffredinol o gyflawniad a chyrhaeddiad blaenorol y dysgwyr.

3. Cyfeiriwch yn ddethol ac yn bwrpasol at yr agweddau llythrennedd, yr elfennau rhifedd ac at sgiliau. Ni ddylai'r profiad fod yn ychwanegiad ar gyfer y dysgwr. Peidiwch â chynnwys mwy na thair neu bedair sgìl.

4. Nid oes angen cynnwys deilliant dysgu ar wahân ar gyfer sgiliau oni bai bod hynny'n ganolog i graidd y wers.

5. Mae mwy o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau penodol mewn rhai pynciau neu gyd-destunau nag mewn eraill.

6. Dylid cynnwys y sgiliau yn y meini prawf llwyddiant. Nodwch y camau sydd eu hangen i ddatblygu'r ddealltwriaeth a'r sgìl er mwyn cyflawni'r deilliant dysgu. Defnyddiwch god lliw yn y meini prawf llwyddiant i ddangos y sgìl.

7. Cynlluniwch weithgareddau dysgu priodol sy'n cwrdd ag anghenion y disgyblion o ran ennill a defnyddio'r sgiliau a nodwyd o fewn y wers.

8. Nodwch dasgau, strategaethau neu gwestiynau Asesu ar gyfer Dysgu i ddarparu tystiolaeth glir o ddealltwriaeth neu ddefnydd dysgwyr (unigolion a/neu grwpiau) o'r sgil.

9. Sicrhewch fod yr adborth sy'n cael ei roi i ddysgwyr yn cael ei ddarparu mewn ffyrdd sydd â chyswllt clir â'r sgiliau a nodwch y camau dysgu nesaf i'r dysgwyr mewn deialog â'r disgyblion ac yn ystod gwerthusiadau.

10. Traciwch y sgìl sy'n cael ei thargedu naill ai drwy ddefnyddio codau lliw neu drwy gynnwys y codio dysgwr-gyfeillgar y fframwaith drwy gydol cynllun y wers. Diben hyn yw sicrhau meddylfryd cydlynol wrth gynllunio, darparu a datblygu sgiliau'r dysgwyr gydol y wers.

11.

CANLLAWIAU AC YSTYRIAETHAU WRTH LENWI ADRANNAU O DEMPLED CYNLLUN GWERS YNG NGHYD-DESTUN DATBLYGU SGILIAU'R DISGYBLION

· TARGEDAU SGILIAU ADDYSGU'R HYFFORDDAI: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Ymgyfarwyddwch â'r fframweithiau a'r llwybrau dilyniant.

· Ystyriwch sut mae'r athro dosbarth yn manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau yn eu gwersi a'u cynllunio trawsgwricwlaidd fel y gallwch chwithau fanteisio ac ennyn diddordeb pan fydd cyfleoedd tebyg yn codi.

· Gwnewch yn siŵr bod dysgwyr yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i gyflawni tasgau - peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gwblhau tasg benodol.

· Paratowch adnoddau sy'n gymorth i addysgu'r sgìl.

· Sicrhewch fod eich addysgu yn gwneud defnydd o gyfleoedd digymell addas er mwyn datblygu sgiliau dysgwyr.

· Dylech gynnwys strategaethau ar sut i wella adborth er mwyn mynd i'r afael â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd a Chymhwysedd Digidol.

· Cyn y wers, paratowch set o gwestiynau agored sy'n gysylltiedig â'r disgwyliadau dysgu a'r meini prawf llwyddiant. Ceisiwch ddod o hyd i gyfleoedd i'w gofyn drwy gydol y wers.

TARGEDAU DYSGU'R DYSGWYR: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Dylid cynnwys targedau'n ymwneud ag unrhyw sgìl y mae angen ei chadarnhau neu ei datblygu gan unigolion neu grwpiau ar gyfer y wers nesaf - mae'n rhaid i chi gyfeirio at werthusiadau wedi eu dyddio h.y. y gwerthusiadau lle rydych yn adnabod yr angen i gau'r bwlch o ran dysgu sgiliau.

· Cyfeiriwch at unrhyw sgìl y mae angen ei throsglwyddo i gyd-destun neu bwnc newydd o fewn y cynllun gwers.

· Cyfeiriwch at gyfleoedd o fewn y wers i adolygu ac i atgyfnerthu sgiliau gydag unigolion neu grwpiau.

DATBLYGU SGILIAU: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Darparwch sgiliau penodol wedi'u targedu o'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r Fframwaith Digidol ('agweddau' ar gyfer llythrennedd; 'elfennau' ar gyfer rhifedd neu gymwyseddau digidol). Dim mwy na 3.

· Rhaid i'r holl sgiliau a ddewisir fod yn briodol ar gyfer y grŵp blwyddyn sy'n cael ei ddysgu ac yn berthnasol i'r wers.

· Dylid annog a darparu cyfleoedd perthnasol i ddysgwyr bennu meini prawf llwyddiant ar gyfer defnyddio sgiliau rhifedd, llythrennedd a sgiliau digidol.

·

AMCANION DYSGU: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Does dim angen cynnwys deilliant dysgu ar wahân ar gyfer sgiliau oni bai ei fod yn ganolog i'r wers. [Fel arfer, bydd yr amcan(ion) dysgu yn cynnwys sgiliau a fydd wedi eu hamlinellu neu sydd yn bresennol o fewn camau'r meini prawf llwyddiant.]

·

2

Meini prawf llwyddiant: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo DF fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Dylai'r sgìl(iau) a nodwyd fod yn bresennol o fewn y meini prawf llwyddiant.

·

ASESU AR GYFER DYSGU Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Cysylltwch strategaethau asesu ar gyfer dysgu penodol (gweler y Llawlyfr Cynllunio Gwersi) gyda'r sgìl Llythrennedd/Rhifedd a/neu'r sgìl Ddigidol sy'n cael ei thargedu.

· Nodwch gwestiynau a fydd yn sicrhau cynnydd a datblygiad mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol.

· Defnyddiwch gysyniadau a therminoleg o'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wrth ofyn cwestiynau.

· Penderfynwch ar dasgau hunan asesu/ asesu cyfoedion i gefnogi'r dysgwr i ddeall 'lle maent arni' a 'beth sydd ei angen arnynt' a 'lle mae arnynt eisiau bod' i gefnogi hyfforddeion wrth fynd i'r afael â sgìl/set o sgiliau.

IECHYD A DIOGELWCH: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Rhestrwch faterion iechyd a diogelwch yn enwedig wrth ddefnyddio offer digidol, chwilio ar y we ac wrth ddefnyddio offer arbenigol arall wrth hyrwyddo llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol y tu mewn ac yn yr awyr agored.

· Nodwch yr holl faterion dinasyddiaeth ddigidol y mae angen mynd i'r afael â nhw a nodi sut mae gwneud hynny.

ADNODDAU: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Rhestrwch yr adnoddau sy'n fodd i hwyluso neu gefnogi'r sgìl e.e. banciau geiriau; matiau iaith a rhifedd, fframiau ysgrifennu trawsgwricwlaidd, fideos esboniadol, arweinwyr sgiliau neu arweinwyr digidol.

· Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl offer/meddalwedd/dyfeisiau/adnoddau angenrheidiol i gefnogi dealltwriaeth a defnydd dysgwyr o sgìl unigol neu set o sgiliau penodol.

GEIRIAU ALLWEDDOL/TERMINOLEG: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Rhestrwch yr holl eiriau a'r termau allweddol sy'n berthnasol i'r sgìl.

· Gwnewch yn siŵr bod datblygu sgiliau disgyblion yn digwydd yn Gymraeg neu Saesneg neu yn y ddwy iaith lle bo hynny'n briodol. Bydd mentoriaid yn rhoi cyngor pan fyddant wedi nodi cyd-destunau dysgu/pynciau i hyrwyddo'r geiriau allweddol yn ddwyieithog.

· Er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth ac i fod o gymorth wrth ryngweithio â'r dysgwyr, yn y dosbarth, defnyddiwch dâp ticio ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol, matiau desg neu bosteri i arddangos termau ac iaith sy'n gysylltiedig â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd a Chymhwysedd Digidol, gan gadw at yr hyn a geir yn fersiwn disgybl-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.

DATBLYGU SGILIAU: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Dylid cynnwys strategaethau sgiliau meddwl i hyrwyddo dealltwriaeth o sgiliau. (Gweler yr arweinlyfr sgiliau meddwl critigol a datrys problemau.)

· Modelwch 'meddwl yn uchel', ac arddangos geirfa meddwl - 'Rydw i'n meddwl ...', 'oherwydd...; neu 'Beth pe tai...?' wrth herio sgiliau'r dysgwyr.

·

SWYDDOGAETH STAFF CEFNOGI Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Os yw'n briodol, eglurwch ble a sut y dylai'r staff cefnogi hyrwyddo'r sgiliau a pha dasgau a gweithgareddau y dylent eu harsylwi er mwyn casglu tystiolaeth ynglŷn â pha mor dda y mae'r grwpiau/unigolion yn deall ac yn defnyddio'r sgiliau.

· Nodwch bod angen cofnodi'r gwaith o gasglu tystiolaeth er mwyn bwydo hynny i'ch gwerthusiadau (gwaith ysgrifenedig, tystiolaeth fideo, ac atebion y dysgwyr).

· Rhybuddiwch staff cymorth am gamsyniadau posibl ynglŷn â sgiliau a sut i'w goresgyn.

STRWYTHUR Y WERS a GWEITHGAREDDAU.

· Defnyddiwch god lliw neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd i dracio gweithgareddau penodol, tasgau asesu, cwestiynau dosbarth cyfan sy'n targedu'r sgiliau a nodwyd ar gyfer y wers.

·

CWESTIYNU DOSBARTH CYFAN /ASESU AR GYFER DYSGU YN BARHAUS Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

· Cyn y wers, paratowch set o gwestiynau agored sy'n gysylltiedig â'r disgwyliadau dysgu a'r meini prawf llwyddiant. Ceisiwch ddod o hyd i gyfleoedd i'w gofyn drwy gydol y wers drwy gyfrwng strategaethau asesu ar gyfer dysgu.

· Defnyddiwch ddelweddwr/recordiad fideo/adlewyrchu gwaith a wnaed ar dabled i'r Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol fel techneg i 'fodelu' ar amrantiad ac i hwyluso asesu ffurfiannol sydyn a gofynnwch i grŵp o ddysgwyr esbonio'r sgiliau a ddefnyddir mewn gweithgaredd

· Defnyddiwch ddulliau 'sbotoleuo' i oedi'r sgìl ac i siarad am y peth.

· Nodwch gynnydd o fewn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd/Fframwaith Cymhwysedd Digidol; cymharwch berfformiad cyfredol gyda gwaith blaenorol, e.e. 'Mi fedra i weld dy fod ti wedi canolbwyntio ar wella ... oherwydd rŵan rwyt ti'n dangos ... Beth am i ti drio ...?'

· Rhowch adborth amserol, digymell pan fo'r dysgu digwydd, yn hytrach nag ar ôl y digwyddiad.

· Gwnewch gysylltiadau rhwng llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol a phynciau eraill. Anogwch y dysgwyr i wneud cysylltiadau - dylid adnabod sut y gellir cymhwyso'r dysgu mewn ystod o sefyllfaoedd.

·

GWERTHUSO GWERSI: Dylid defnyddio cod lliw/amlygu/neu ddefnyddio system codio fersiwn dysgwr-gyfeillgar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd neu ddefnyddio system rhifo fersiwn EXCEL y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i dracio'r sgiliau.

Gwerthuso Dysgu;

· Myfyriwch am y deilliant dysgu ac am y meini prawf sy'n berthnasol i'r sgìl Llythrennedd a Rhifedd neu Gymhwysedd Digidol a nodwyd ar gyfer y wers.

· Cyfeiriwch at y dystiolaeth a gasglwyd wrth gymhwyso strategaethau asesu ar gyfer dysgu i adnabod sgìl arbennig y mae angen i unigolion, grwpiau neu ddosbarth cyfan ei hatgyfnerthu neu ei datblygu ymhellach.

· Defnyddiwch iaith Llythrennedd a Rhifedd a Chymhwysedd Digidol a'r datganiad dilyniant wrth fyfyrio ar ddysgu.

· Myfyriwch ar yr hyder y mae dysgwyr yn ei ddangos wrth ddefnyddio eu sgiliau a pha mor dda y gallant gymhwyso'r sgiliau a enillwyd heb gymorth dros gyfnod estynedig neu mewn cyfres o weithgareddau ar draws y cwricwlwm neu gyd-destunau pwnc gwahanol.

Targedau'r dysgwyr:

· Nodwch pa ddysgwyr sydd angen ail-ymweld, atgyfnerthu neu gymhwyso'r sgìl i bwnc/cyd-destun arall.

· Nodwch arweinydd/dewin sgìl/digidol i gefnogi dysgwyr eraill a rhowch wybod iddo am y disgwyliadau.

· Dylech gynnwys y dysgwyr/unigolion wrth nodi'r sgiliau a enillwyd trwy ddefnyddio ysgolion sgiliau dysgu.

· Anogwch y dysgwyr i osod targedau iddynt eu hunain, gan ddefnyddio datganiadau disgwyliad fersiwn dysgwr-gyfeillgar y fframwaith llythrennedd a rhifedd, a nodi'r camau y mae angen iddynt eu cymryd i gyflawni'r targedau hyn.

ENGHREIFFTIAU TRAWS-GYFNOD ALLWEDDOL O GYNLLUNIO EFFEITHIOL AR GYFER SGILIAU CYMHWYSEDD DIGIDOL/TGCH

Y gofynion ar gyfer y portffolio profiad ysgol

Yn dilyn Profiad Ysgol 1 a 2 mae'n ofynnol bod hyfforddeion yn cynnwys y canlynol yn eu Portffolio Profiad Ysgol:

· un wers drawsgwricwlaidd/gwers pwnc gyda thystiolaeth glir o gynllunio ar gyfer rhifedd,

· Mae hefyd yn ofynnol cynnwys cynlluniau gwersi eraill o fewn y Portffolio Profiad Ysgol, a ddylai, lle bo'n briodol, ddangos tystiolaeth o gymhwyso rhifedd yn effeithiol o fewn y cynllun gwers.

Enghreifftiau o Gynlluniau Gwersi

Yn y tudalennau nesaf manylir ar gynlluniau gwersi Cymhwysedd Digidol/TGCh mewn pedwar cyd-destun gwahanol:

· Y Cyfnod Sylfaen - Datblygu mathemateg a data a meddwl cyfrifiannol

· Cyfnod Allweddol 2 - Mathemateg a thaenlenni.

· Cyfnod Allweddol 3 - Cerddoriaeth - Cyfansoddi yn defnyddio technoleg cerddoriaeth.

· Cyfnod Allweddol 3 - Dylunio a Thechnoleg ac Archwilio, datblygu a chyfleu syniadau dylunio mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys anodiadau, lluniadau a Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur.

BLWYDDYN 1 Y CYFNOD SYLFAEN Datblygu mathemateg + sgiliau Cymhwysedd Digidol

PROFORMA CYNLLUNIO

Enw XXXX

DosbarthBlwyddyn 1

Dyddiad 26 Tachwedd

Pwnc/Cyd-destun: Datblygiad Mathemategol - Bee-Bot (rhaglennu a chynllunio cyfarwyddiadau)

TARGEDAU SGILIAU DYSGU’R HYFFORDDAI

Defnyddio rhagor o gymhorthion addysgu gweledol (S 3.1.3) Rwyf wedi paratoi amrywiaeth o adnoddau gweledol mawr a lliwgar i gynorthwyo plant

Ysbrydoli'r dysgwyr (S 1.3) Rwyf yn cysylltu'r dasg â'r thema gyffredinol ac yn darparu cyfleoedd i'r plant i gymryd rhan mewn profiadau gwahanol i gyfoethogi ac ymestyn eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth.

Atgoffa’r disgyblion am dasgau estynedig a nifer y plant ym mhob ardal.

TARGEDAU DYSGU’R DYSGWYR

Sicrhau bod P a L yn eistedd ger Miss Roberts i gael cymorth dysgu ychwanegol - cyflwyniad a sesiwn dosbarth cyfan.

Gwneud cysylltiadau â thasgau blaenorol ar y Bee-Bot (tasg tân gwyllt)

Datblygu sgiliau

Datblygiad Mathemategol

Datblygu rhesymu rhifiadol

Nodi camau i gwblhau'r dasg neu gyrraedd datrysiad (CS2)

Defnyddio Sgiliau Mesur

Gwneud tro cyfan a hanner tro (1.M9a)

Fframwaith Llythrennedd

Llefaredd - Gwrando (1.OL1)

Gwrando ar eraill, gan roi sylw cynyddol gan ymateb yn briodol fel arfer e.e. dilyn cyfarwyddiadau

Fframwaith Cymwyseddau Digidol (Drafft)

Data a Meddwl Cyfrifiannol

Datrys Problemau a Modelu

Creu a chofnodi cyfarwyddiadau ysgrifenedig y gall eraill eu deall a’u dilyn

Amcanion dysgu

Gallu _

1. rhaglennu cyfres o gyfarwyddiadau i raglennu Bee-Bot

2. rhaglennu Bee-Bot i symud ymlaen ac yn ôl.

3. adnabod a deall tro cyfan a hanner tro (Llewod a Chrocodeiliaid)

4. gwrando a dilyn cyfarwyddiadau.

Meini Prawf Llwyddiant

1. Gallaf gynllunio cyfres o gyfarwyddiadau i symud y Bee-Bot

2. Gallaf raglennu Bee-Bot i symud ymlaen ac yn ôl (pob grŵp)

3. Grŵp y Llewod

Gallaf droi'r Bee-Bot mewn tro cyfan a hanner tro Gallaf droi’r Bee Bot Grŵp y Crocodeiliaid

Gallaf droi'r Bee-Bot mewn hanner tro a chwarter tro

4. Gallaf wrando ar eraill a gwneud yr hyn y maent yn ei ofyn

Asesu ar gyfer dysgu

Pwyntiau i'w hystyried

Beth yw'r camau i gwblhau'r dasg? Ydy'r plant yn gallu dangos dyfalbarhad a rhoi cynnig ar gwblhau'r tasgau a gwella?

Ydy'r plant yn gallu adnabod hanner tro a thro cyfan? A ydynt yn gallu cyfarwyddo ar lafar a defnyddio symbolau? Fel pwynt addysgu gallai fod yn well, i ddechrau, i gadw at droi mewn cylchdro clocwedd.

All y plant raglennu'r Bee-Bot? A ydynt yn cofio clirio'r cof? A allant symud ymlaen/yn ôl ac ymgorffori eu troadau? Ydyn nhw'n gallu ysgrifennu set o gyfarwyddiadau neu a ydynt yn gwirio pob cyfarwyddyd fesul un?

STRWYTHUR GWERS A CHYNLLUN GWEITHGAREDDAU MANWL

DATBLYGU SGILIAU Sgiliau Meddwl, ABCh, ADCDF

Sgiliau Meddwl (Cynllunio) - Cynllunio, gyda chymorth, y broses/dull gweithredu i'w defnyddio

(Datblygu) - Disgrifio camgymeriadau a chanlyniadau annisgwyl

Amser

Gweithgareddau’r wers

Cwetiynnu Dosbarth Cyfan/Asesu ar gyfer Dysgu yn barhaus

Cyflwyniad

10 -15 munud

Dosbarth cyfan ar y carped yn eistedd mewn cylch.

Noder – mae gan y plant rywfaint o wybodaeth flaenorol o weithio gyda Bee-Bots

Tasgau Grŵp (15 munud)

Dosbarth Cyfan

(5 munud)

(Mae’r wers yn rhan o'r cynlluniau thematig sy’n seiliedig ar Barty’s Scarf - Sally Chambers)

Atgoffa’r plant am stori Barty a sut yr helpodd ddafad a oedd wedi syrthio dros ochr y clogwyn. Dewis un plentyn i fod yn ddafad ac i wisgo'r mwgwd dafad. Symud y plentyn (dafad) i ganol yr ystafell ddosbarth a defnyddio sgarff fel mwgwd fel bod y ‘ddafad’ yn ddall. Yna rhoi dalennau mawr o bapur siwgr du ar y llawr i gynrychioli'r clogwyni. Mae angen i'r dosbarth roi cyfarwyddiadau i’r 'ddafad' i’w chael i symud o gwmpas y dosbarth heb gamu ar y papur neu byddant yn syrthio dros ochr y clogwyn! Dewis un plentyn i fod yn Barty sy'n rhoi’r cyfarwyddiadau gan ddefnyddio termau megis ymlaen, yn ôl, troi a gwneud hanner tro gan wneud yn siŵr nad ydy’r ddafad yn syrthio. Ailadrodd y broses trwy ddewis plant eraill i wisgo'r mwgwd dafad a phlentyn arall i fod yn Barty. Unwaith y bydd y plant yn gyfarwydd â'r dasg ac yn gallu defnyddio'r eirfa, egluro ein bod yn defnyddio dilyniant o gyfarwyddiadau er mwyn symud y ‘ddafad’ oddi wrth y perygl. Rhoi sylw eto i’r geiriau allweddol gan ofyn i blant unigol sefyll ar eu traed a dangos – h.y. 2 gam ymlaen, 3 cham yn ôl, un tro cyfan ac un hanner tro. Os oes angen rhagor o ymarfer - gadael i'r plant weithio mewn parau yn chwarae rôl yn senario'r ddafad a Barty.

Ail-ymgynnull fel dosbarth ac esbonio y bydd ein gwers heddiw yn ymwneud â rhaglennu gan ddefnyddio set o gyfarwyddiadau.

Cyflwyno’r Bee-Bot. Gofyn i’r plant a ydyn nhw’n gallu cofio sut i’w raglennu?

Rhoi bwrdd gwyn a phin ysgrifennu i bob plentyn a gofyn iddyn nhw ddangos symbolau’r gorchmynion y gallant eu cofio ar gyfer y Bee-Bot. Rhannu'r rhain gyda'u partner ac yna gofyn i'r disgyblion ddangos yr hyn maen nhw wedi ei nodi ar y bwrdd gwyn i’r dosbarth cyfan a thrafod y gorchmynion sydd ganddyn nhw/nad ydyn nhw wedi cofio amdanynt. (Defnyddiwch symbolau llun mawr yn ôl yr angen). Cysylltu’r lluniau â’r mynegiadau h.y. ↑ ymlaen ac ati.

Rhannwch yr Amcanion Dysgu a llunio a thrafod Meini Prawf Llwyddiant gyda'r dosbarth.

Caiff her y Bee-Bot ei chwblhau fel tasg grŵp ffocws gyda phlant eraill yn cwblhau gweithgareddau annibynnol mewn gwahanol feysydd darpariaeth, gan gylchdroi’r gweithgareddau yn ôl yr angen. Gallai rhai plant barhau i chwarae rôl yn senario Barty a’r ddafad, gallai eraill ddefnyddio ap y Bee-Bot. (Gweler y gweithgareddau ar y daflen Darpariaeth)

Grŵp ffocws tasg y Bee-Bot - eistedd gyda'r plant mewn cylch a dangos grid y Bee-Bot iddyn nhw. Fedran nhw adnabod y clogwyni, y tŷ fferm, y ffens, yr ystafell ddosbarth ...? Dweud wrth y plant ein bod yn mynd i raglennu'r Bee-Bot (Barty) i symud o gwmpas y bwrdd o un lleoliad i'r llall. Trafod gwahanol lwybrau a mannau cychwyn ar y grid.

Rhoi Bee-Bot i bob pâr a gofyn iddyn nhw gynllunio taith fer o un lleoliad i'r llall. Gadael i un plentyn symud y Bee-Bot tra bod y plentyn arall yn ysgrifennu'r cyfarwyddiadau gan ddefnyddio symbolau megis ↑↑ h.y. 2 ymlaen ar eu bwrdd gwyn. Bydd y disgyblion yn cymryd eu tro i ysgrifennu neu i deipio’r cyfarwyddiadau ar y Bee-Bot. Unwaith y bydd y plant wedi magu hyder gofyn iddyn nhw wneud teithiau mwy cymhleth, efallai drwy osod tegan dafad ar y grid a gofyn Barty ei hachub.

(Bydd grŵp y Teigrod a grŵp y Pandas yn gweithio'n bennaf ar ddefnyddio'r cyfarwyddiadau ymlaen ac yn ôl, bydd grŵp y Llewod yn defnyddio hanner tro a bydd grŵp y Crocodeiliaid yn defnyddio tro cyfan, hanner tro a chwarter tro)

Trafodaeth Dosbarth Cyfan (ar ôl cwblhau'r dasg)

Siarad am lwyddiant y plant, yr heriau ac unrhyw beth annisgwyl (Sgìl Meddwl - Datblygu). Adolygu Meini Prawf Llwyddiant. Oedd y plant yn cofio defnyddio'r botwm i glirio’r cof bob amser? Beth oedd yn digwydd pan nad oeddent? A allai pawb raglennu'r Bee-Bot i symud ymlaen a throi? Gofyn i blentyn ddarllen cyfarwyddiadau oddi ar eu bwrdd gwyn tra bo plentyn arall yn rhaglennu’r Bee-Bot, wnaeth Barty fynd i'r lleoliad cywir? (Sgìl Meddwl - Cynllunio) Sut y gellid gwella’r cyfarwyddiadau? Defnyddio 2 seren a dymuniad i roi sylwadau ar eu tasgau. Beth ydym ni wedi ei ddysgu heddiw? Rydym wedi dysgu sut i raglennu a chynllunio cyfres o gyfarwyddiadau.

Holi'r plant yn y cyflwyniad. A all pawb/y rhan fwyaf ddefnyddio'r termau ymlaen/yn ôl? Ydyn nhw’n deall y term hanner tro/tro cyfan?

Ar y cam hwn, gall fod yn well annog y plant i droi mewn cylchdro clocwedd.

Sut mae'r plant yn defnyddio'r termau ymlaen/yn ôl? Fedran nhw ychwanegu tro? Beth y gellid ei wella wrth symud y Bee-Bot? - pwyso symbol clirio, ychwanegu symbol i ddweud i ba gyfeiriad roedd y Bee-Bot yn wynebu ar y dechrau. All y plant siarad am gyfeiriad - hanner tro, tro cyfan? Ydyn nhw'n gallu defnyddio geiriau cyfeirio Cymraeg pan ofynnir iddyn nhw? Ydy’r plant yn gallu symud y Bee-Bot ar hyd y grid? Ydyn nhw’n gallu rhaglennu cyfres o gyfarwyddiadau neu a ydyn nhw’n rhaglennu cyfarwyddiadau fesul un?

Defnyddio techneg dwy seren a dymuniad i gynnig sylwadau ar y dasg – h.y. awgrymiadau i wella'r cyfarwyddiadau. Fedrwch chi egluro beth oedd yn hawdd ac yn anodd am lunio’r cyfarwyddiadau?

Trafod y camau nesaf – Grŵp y Teigrod a grŵp y Pandas i atgyfnerthu symud ymlaen ac yn ôl ac ychwanegu hanner tro, grŵp y Llewod i barhau i ddefnyddio hanner tro a mynd ymlaen i ddefnyddio chwarter tro, grŵp y Crocoldeiliaid i ysgrifennu cyfarwyddiadau i symud Barty o gwmpas y grid gan ddefnyddio gwahanol fannau cychwyn a gorffen.

CYMRAEG pob dydd

Cyflwyno iaith sylfaenol ar gyfer chwarae’r gêm wrth gyflwyno’r dasg:

Dewch i chwarae gêm!

Pwy sydd eisiau bod yn Barty/ddafad?

Tro …ydi bod yn Barty rwan.

Dyna dda! Trio eto! Wedi syrthio!

GEIRIAU ALLWEDDOL/TERMINOLEG

(Dwyieithog)

Forwards, backwards, turn, half turn, full turn, go, right, left

Ymlaen, ôl, mynd, hanner tro, tro cyfan, dde, chwith

ADNODDAU

3/4 Bee Bots (un i bob pâr)

Mwgwd dafad

Tegan dafad

Sgarff

Dalenni mawr o bapur du

Lluniau A4 o symbolau’r Bee-Bot

Byrddau gwyn a phinnau ysgrifennu

Grid Bee-Bot yn seiliedig ar stori Barty’s Scarf

IECHYD A DIOGELWCH

Clirio digon o le yn yr ystafell ddosbarth fel bod y plant yn gallu symud o gwmpas yn ddi-rwystr wrth wneud y dasg gyflwyno.

SWYDDOGAETH STAFF CEFNOGI

Cyflwyniad/Dosbarth Llawn eistedd gyda’r plant symleiddio cwestiynau, geirfa yn ôl yr angen.

Tasg grŵp - goruchwylio tasgau annibynnol a gweithgareddau cyfoethogi.

Ydych chi wedi ystyried y rhain yn eich cynllun?

Amcanion Dysgu/Meini Prawf Llwyddiant

Llythrennedd

Rhifedd

Cymhwysedd Digidol

Gwahaniaethu

Gwaith Cartref

Cymraeg Pob Dydd

Cwricwlwm Cymreig

Ein gweledigaeth:

Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol, a fydd yn ysbrydoli ac yn grymuso pob dysgwr i gyrraedd eu potensial

GWERTHUSO GWERS

Amcanion dysgu (o dudalen 1)

Amcanion dysgu

Gallu _

1. rhaglennu cyfres o gyfarwyddiadau i raglennu Bee-Bot

2. rhaglennu Bee-Bot i symud ymlaen ac yn ôl.

3. adnabod a deall tro cyfan a hanner tro

4. gwrando a dilyn cyfarwyddiadau.

Gwerthuso Dysgu (yn erbyn Amcanion Dysgu)

· Gall mwyafrif y disgyblion gynllunio cyfres o gyfarwyddiadau i symud y Bee-Bot. Maent yn fwy hyderus wrth gynllunio teithiau byr y maen nhw eu hunain wedi eu hawgrymu yn hytrach na theithiau mwy cymhleth y mae rhywun arall wedi eu hawgrymu.

· Gall y rhan fwyaf o'r disgyblion raglennu’r Bee-Bot i symud ymlaen ac yn ôl, mae ar un neu ddau o blant yn grŵp y teigrod angen rhagor o ymarfer wrth symud yn ôl, ond maent yn fwy hyderus wrth symud ymlaen. Gall pawb yn grŵp y Pandas, grŵp y Llewod a grŵp y Crocodeiliaid symud y Bee-Bot ymlaen ac yn ôl.

· Mae llawer yn grŵp y Llewod a phawb yn grŵp y crocodeiliaid yn hyderus wrth ddefnyddio'r symbol a’r cyfarwyddyd ar gyfer hanner tro. Cafodd y symbolau a’r troadau hyn eu defnyddio’n gywir yn eu cyfresi o gyfarwyddiadau.

· Dim ond rhai geisiodd ddefnyddio'r term tro cyfan a bydd yn rhaid cynllunio teithiau posibl sy'n enghreifftio’r symudiad hwn. Roedd y disgyblion yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r term o fewn sefyllfa fwy ymarferol h.y. symud Barty i achub y ddafad.

· Defnyddiodd tua hanner grŵp y crocodeilod y term chwarter tro yn llwyddiannus.

· Ymatebodd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn dda i'r cyflwyniad o'r dasg ac roeddent yn gallu gwrando a rhoi cyfarwyddiadau yn dibynnu ar eu swyddogaeth.

Targedau’r dysgwyr (i’w cario drosodd i’r wers nesaf)

Trafod y camau nesaf – Grŵp y Teigrod a grŵp y Pandas i atgyfnerthu symud ymlaen ac yn ôl ac ychwanegu hanner tro, grŵp y Llewod i barhau i ddefnyddio hanner tro a mynd ymlaen i ddefnyddio chwarter tro, grŵp y Crocodeiliaid i ysgrifennu gorchmynion/cyfarwyddiadau i symud Barty o gwmpas y grid gan ddefnyddio gwahanol fannau cychwyn a gorffen.

Grŵp y Teigrod – Mae D ac L yn cael trafferth deall y symbol ar gyfer symud yn ôl. Adolygu’r dasg a chwestiynu o fewn y grŵp.

Grŵp y Pandas – Roedd A yn absennol pan wnaed y dasg felly sicrhau ei fod yn cael cymorth drwy i fi fynd dros hyn yn gyflym â fo fel y gall ddal i fyny. Adolygu’r dasg a chwestiynu o fewn y grŵp.

Grŵp y Llewod - Cyflwyno chwarter tro, fel tasg ymarferol, yna yn dangos ar y Bee-Bot. Trafod sut y gallem gofnodi o fewn ein cyfarwyddiadau.

Grŵp y Crocodeilod - Adolygu'r gwahanol symudiadau a sut i’w cofnodi. Roedd J a K yn gallu ysgrifennu cyfres o gyfarwyddiadau yn eithaf hyderus cyn eu rhaglennu ar y Bee-Bot, ond roedd aelodau eraill y grŵp yn fwy petrusgar ac eisiau sicrwydd bod eu cyfarwyddiadau’n gywir ac roeddent yn dueddol o ysgrifennu cyfarwyddiadau fesul un. Annog pob aelod o'r grŵp i ysgrifennu 2/3 gorchymyn / cyfarwyddyd (meddwl -paru- rhannu) cyn rhaglennu ar y Bee-Bot.

PRO FORMA CYNLLUNIO

Enw

Blwyddyn y dosbarth 5/6

Dyddiad

Pwnc/Cyd-destun Mathemateg

TARGEDAU SGILIAU ADDYSGU’R HYFFORDDAI

· Datblygu mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith ymarferol mewn Mathemateg

· Datblygu sgiliau cymhwysedd Digidol mewn Mathemateg

TARGEDAU DYSGU’R DYSGWYR

· Datblygu annibyniaeth a dycnwch

· Defnyddio TGCh fel offeryn i gofnodi a dadansoddi yn ogystal ag i gynrychioli.

Datblygu Sgiliau

Mathemateg

Cynrychioli data gan ddefnyddio: rhestrau, siartiau cyfrif, tablau, diagramau a byrddau amledd, siartiau bar, siartiau data wedi’u grwpio, graffiau llinell a graffiau trosi

a) canfod a dadansoddi gwybodaeth o ystod gynyddol o ddiagramau, amserlenni a graffiau (yn cynnwys siartiau cylch)

b) defnyddio cymedr, canolrif, modd ac ystod i ddisgrifio set o ddata

Cymhwysedd Digidol 4.2a

Creu taenlenni â chymhlethdodau cynyddol a phrofi hypothesis e.e. creu taenlenni gyda fformiwlâu syml (+ - * /, swm, mwyafrif, lleiafrif, cyfartaledd).

Her

‘Beth pe bai’ - rhagfynegi canlyniad newid eitemau data sengl, cyflawni’r newidiadau a chofnodi’r gwir ganlyniad.

Siarad

Gall dysgwyr wneud y canlynol:

· Mynegi materion a syniadau yn eglur, yn defnyddio geirfa arbenigol ac enghreifftiau

Deilliannau dysgu

Gallu cynllunio, perfformio a gwerthuso arbrawf tebygolrwydd.

Datblygu fy sgiliau o gofnodi a chynrychioli fy nghanfyddiadau.

Her

Rhagfynegi ar sail senarios damcaniaethol.

Meini prawf llwyddiant

RHAID

Rwyf wedi cyflawni fy arbrawf.Rwyf wedi cofnodi fy nghanfyddiadau

DYLID

Rwyf wedi cynllunio a chyflawni fy arbrawf.

Defnyddiais daenlen i gofnodi fy nghanlyniadau.

Roeddwn yn gallu creu graff o’m canlyniadau.

GELLID

Gallaf lunio gwahanol ddiagramau yn dangos fy nghanfyddiadau.Gallaf ddisgrifio’r hyn mae fy arbrawf yn ei olygu i eraill

Gallaf ddisgrifio fy nghanlyniadau yn defnyddio termau tebygolrwydd.

Gallaf ddisgrifio fy rhagfynegiad i eraill.

HER

Roeddwn yn gallu rhagfynegi canlyniad fy namcaniaeth yn defnyddio tebygolrwydd.

*Diagram-Iaith-Nodiant*

Asesu ar gyfer dysgu

“Cwestiynu ”- cwestiynu effeithiol penagored o’r cychwyn i amlygu gwybodaeth flaenorol a chysylltu â gwersi blaenorol

Ydy’r dysgwyr yn deall y dasg a’r camau sy’n ofynnol i lwyddo?

A oes angen taflen ar rai i helpu gyda chynllunio’r arbrawf?

Rhennwch y triongl hunanasesu a chyflwyno’r termau Cymraeg yn ogystal.

Dangos y canfyddiadau (ppt) ac adolygiad cyfoed o waith ei gilydd gyda sylwadau ac adborth effeithiol, adeiladol wedi’i dywys gennyf i.

SA2 Mathemateg a Sgiliau Cymhwysedd Digidol

STRWYTHUR Y WERS A CHYNLLUN MANWL O WEITHGAREDDAU

DATBLYGU SGILIAU Sgiliau Meddwl, ABCH, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Amser

Gweithgareddau’r wers

Sesiwn lawn barhaus/ Asesu ar gyfer Dysgu

5-10

11-40

41-60

Wrth i’r dysgwyr ddod i’r ystafell mae yna glip Fformiwla 1 yn chwarae ar y bwrdd. Mae yna hambyrddau gyda chyfarpar ar y desgiau.

Rwy’n cyflwyno’r arbrawf “Gêm Tebygolrwydd” -

Defnyddiwch hyn gyda’r grŵp ffocws sydd angen mwy o sgaffaldio https://youtu.be/kDei-wNP63U

NEU – Mae gennyf nifer penodol o geir Corgi ac rwy’n eu labelu (1-12), ac yna’n eu rhoi ar fy nhrac rasio A4 (sydd eisoes wedi’i osod) ac yn taflu dau ddis. Mae’r car yn cael ei symud un lle os yw swm y ddau ddis yn cyfateb i’w rif.

Rwy’n modelu gwneud cofnod o’r canlyniadau wrth i bob car basio’r llinell derfyn. Rwyf hefyd yn modelu ymadroddion gêm, rhifau/lliwiau Cymraeg.

Yna anogir dysgwyr i greu eu trac eu hunain a rhoi rhifau ar eu ceir (Caniateir iddynt ddefnyddio labeli rhif a dis neu droellwyr lliw a labeli lliw).

Yna byddwn yn trafod dull yr arbrawf https://youtu.be/e3Tyssj2c-g (Cynllunio_Cyfarpar_Arbrawf_Cofnodi_Gwerthuso).

Byddwn yn llunio a thrafod y meini prawf llwyddiant (triongl) a bydd y dysgwyr yn dechrau arni.

Wrth i mi gerdded o gwmpas rwy’n trafod y gwaith cynllunio gyda’r dysgwyr ac yn eu tywys i herio eu gallu. Twf - meddylfryd ac agwedd (gallu cymysg) lle mae methiant yn gadarnhaol; ac anogir dysgwyr i werthuso a newid eu gwaith drwy siarad â’u partner dysgu.

Mae’r disgyblion yn cynnal yr arbrawf ac yn ei gofnodi mewn taenlen (Purple Mash neu Excel neu Numbers) Mae’r dysgwyr yn cofnodi trefn y ceir wrth iddynt fynd heibio’r llinell derfyn.

Caiff y sgìl hwn ei ddatblygu a’i rannu gyda grwpiau mewn sesiynau llawn byr.

Byddant yn gweithio ar gyflwyno eu canlyniadau mewn siartiau a graffiau/diagramau ac yna’n argraffu eu tabl a siart ar gyfer y cyflwyniad.

Anogir y dysgwyr i rannu eu canfyddiadau ac esbonio eu siart/diagram wrth i’w cyfoedion eu llongyfarch a chynnig sylwadau. Eu hatgoffa i gyd i ddefnyddio’r derminoleg Gymraeg.

Yna byddwn yn defnyddio ychydig o enghreifftiau i fodelu nodiant tebygolrwydd i bawb yn y dosbarth.

Byddwn yn adolygu cynnydd yn erbyn meini prawf llwyddiant gan gofnodi eu cynnydd ar y triongl meini prawf llwyddiant yn eu llyfr.

Eu llongyfarch.

Gweithgaredd cychwynnol

Gwybodaeth flaenorol am debygolrwydd a chysylltiadau â gemau.

Canfod a ydynt i gyd yn hapus drwy gwestiynu ac egluro.

Gwirio dealltwriaeth y dysgwyr a’u defnydd o rifau/lliwiau Cymraeg yn ystod y gêm tebygolrwydd.

Gweithgaredd

Rhannu’r meini prawf llwyddiant a rhedeg drwyddynt.

Arddull ddyneiddiol wrth fynegi’r rhyddid cynhenid sydd yn y dasg.

Dull adeileddol wrth drafod sut mae un peth yn arwain at beth arall a “Meddylfryd Twf” RHOWCH GYNNIG ARNI!

Sesiwn lawn

Ataliwch y wers a chael y dysgwyr i rannu eu canlyniadau ac i drafod eu harbrawf, pwysleisio y gellir datblygu’r wers hon a gofyn am awgrymiadau gan gyfoedion a “Beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol tro nesaf?” “Sut/Beth wnaethon ni ddysgu heddiw?” – sesiwn metawybyddiaeth cyn gorffen.

CYMRAEG Pob Dydd

Cyflwyno Asesu ar gyfer Dysgu/ieithwedd meddylfryd twf:

Tria! Rydw i’n gallu…Ga i helpu? Beth am..?

Triongl hunanasesu:

Rhaid imi..

Ddylwn i…

Galla i…

Defnyddiwch ymadroddion Cymraeg wrth gyflwyno’r ‘gêm tebygolrwydd’ e.e. Tafla ddau ddis! Pa rif ydy’r car melyn? Beth ydy’r cyfanswm? Ailadroddwch rifolion/neu liwiau Cymraeg yn ystod y gêm.

GEIRIAU ALLWEDDOL/TERMINOLEG

(Dwyieithog)

Tebygolrwydd/Probability

Taenlen/Spreadsheet

Chwilio/Search

ADNODDAU

iPads/Gliniaduron/Cyfrifiaduron Desg

IECHYD A DIOGELWCH

Ddim yn berthnasol

SWYDDOGAETH STAFF CEFNOGI

Cefnogi agweddau meddwl a thechnegol defnyddio TGCh o ran meddylfryd twf.

GWERTHUSO GWERS

Amcanion dysgu (o dudalen 1)

Gallu cynllunio a pherfformio arbrawf.

Cofnodi canlyniadau a chynrychioli’r canfyddiadau yn graffig.

Her

Gwneud rhagfynegiadau’n seiliedig ar senarios damcaniaethol.

Gwerthuso Dysgu (yn erbyn Amcanion Dysgu)

· Gall y mwyafrif o ddisgyblion gynllunio arbrawf syml gyda 12 car. Mae’r rhan fwyaf fodd bynnag yn dewis dyblygu’r arbrawf a gyflwynir yn y clip gan fod hwn wedi’i fodelu’n dda a bod y canlyniadau’n cynnig canfyddiadau mwy eglur i’w gwerthuso.

· Gwnaeth lleiafrif o unigolion arbrofi ymhellach gan ddefnyddio gwahanol geir a throellwyr â gwahanol ochrau a gododd gyfleoedd am drafodaeth gyfoethog pan oeddynt yn cyflwyno eu canfyddiadau. Rhoddodd y dysgwyr hyn y cyfle i mi ddefnyddio eu data ac roeddem yn gallu llunio’r nodiant tebygolrwydd ar y diwedd.

· Roedd yr holl ddisgyblion yn hoffi’r triongl meini prawf llwyddiant gan fynegi ei fod yn rhoi cyfle i bawb lwyddo a hefyd yn rhoi’r cyfle iddynt herio eu hunain hefyd. (Egwyddorion meddylfryd twf.) Defnyddiodd lleiafrif o’r dysgwyr y fersiynau Cymraeg o’r dechreuadau brawddegau Asesu ar gyfer Dysgu cyn gorffen eu gwerthuso.

· Gall y rhan fwyaf o ddisgyblion lunio taenlen syml i gyflwyno’r canlyniadau ac felly fformadu colofnau a rhesi yn ogystal â mewnbynnu canlyniadau; roedd nifer bach angen cymorth gyda fformadu penynnau a chanoli’r testun yn y colofnau.

· Roedd yr holl grwpiau’n gallu defnyddio’r term “probability” yn gywir yn ogystal â defnyddio’r term Cymraeg “tebygolrwydd”

Ymatebodd yr holl ddisgyblion yn dda i’r rhagarweiniad i’r dasg ac roedd y mwyafrif yn gallu arbrofi’n annibynnol a datblygu eu sgiliau trwy ddefnyddio Excel.

Targedau’r Dysgwyr (parhawyd i’r wers nesaf)

Cynnydd

Parhau i ddefnyddio’r triongl meini prawf llwyddiant i alluogi dysgwyr i lwyddo gan fod hyn yn rhoi’r hunangred i ddysgwyr bod cynnydd bob amser yn bosib iddynt; bydd hyn yn cynyddu eu hunanhyder.

GRŴP RHAID-DYLID –

· Herio eu hunain i symud o’r adran RHAID i’r adran DYLID ym mhob sesiwn

· Parhau i ddatblygu eu sgiliau taenlen a meistroli’r sgìl o greu colofnau a rhesi gyda’r fformadu gofynnol.

· Defnyddio’r termau Cymraeg ar gyfer y triongl asesu mewn cyd-destunau eraill.

DYLID-GELLID –

· Estyn eu her bersonol drwy o leiaf roi cynnig ar yr her ym mhob gwers a chydweithio gyda’u partner dysgu.

· Parhau i feistroli eu sgiliau taenlen a symud ymlaen at ddefnyddio cronfa ddata (Purplemash-pinpoint) yn y gwersi dilynol.

Ein gweledigaeth:

Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol, a fydd yn ysbrydoli a grymuso pob dysgwr i gyrraedd eu potensial dysgu

PRO FORMA CYNLLUNIO

CA3 Cerddoriaeth a sgiliau Cymhwysedd Digidol

Hyfforddai:

Dosbarth: Blwyddyn 7

Dyddiad:

Pwnc/Cyd-destun: Cyfansoddi trac cyfeiliant

TARGEDAU SGILIAU ADDYSGU’R HYFFORDDAI:

· Cwestiynu sy’n annog y dysgwyr i FEDDWL, HERIO a rhoi RHESYMAU DILYS dros eu hatebion. S3.2.2, S3.3.3

· Gwella adnoddau gwahaniaethol (cyfarwyddiadau/lluniau cam wrth gam). S3.3.4

· Amseru’r wers. S3.3.7

TARGEDAU DYSGU’R DYSGWYR:

Yn dechrau 10.04.16

• Canolbwyntio ar ddefnyddio Cwanteiddiad yn dilyn recordio pob trac (16 ac 8).• Dethol yr Ansawdd priodol ar gyfer pob trac (e.e. drwm a bas).• Canolbwyntio’n unig ar y meini prawf llwyddiant wrth werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyfoedion.

Datblygu sgiliau CC, CD/TGCh, FfLlRh

A2. Gwahaniaethu elfennau cerddorol

C3. Datblygu a mireinio syniadau cerddorol, a gwerthuso eu gwaith er mwyn gwella

C5. Cyfansoddi gan ddefnyddio technoleg gerddoriaeth

NC. Defnyddio Logic i greu, datblygu a gwireddu syniadau cerddorol

CD3.2. Creu trac cyfeiliant cerddorolCD3.3. Gwerthuso a mireinio

CD4.1. Datrys problemau a mireinio

FfLlRh: Llafaredd a Rhifedd:

7.OS4 Ymateb yn adeiladol ac yn fanwl i gwestiynau a sylwadau’r gwrandawyr (trafod syniadau, gemau, asesiad cyfoedion, gosod meini prawf a thargedau llwyddiant etc.)

CA3.1 Trosglwyddo sgiliau mathemategol ar draws y cwricwlwm mewn amrywiaeth o gyd-destunau a sefyllfaoedd pob dydd

CA3.8 Dewis, treialu a gwerthuso amrywiaeth o ddulliau posib a rhannu problemau cymhleth yn gyfres o dasgau

Amcanion dysgu

Ar ddiwedd y wers dylai’r dysgwyr allu:

AD1 – Recordio traciau ar feddalwedd Logic (Drwm a Bas). CD3.2AD2 – Cyfansoddi trac cefndir i Rap ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. CD3.2AD3 – Gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyfoedion (Dysgwyr Mwy Abl a Thalentog i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr eraill a chydweithio ar sut i wella eu gwaith eu hunain a gwaith eraill yn erbyn y meini prawf llwyddiant).

CD3.3

MEINI PRAWF LLWYDDIANT

Bydd dysgwyr yn gallu:

MPLl1 – Recordio drymiau a bas fesul trac gan ddefnyddio Cwanteiddiad. SA3.1 CD3.2MPLl2 - Cyfansoddi cyfeiliant 8/16 bar (drwm a bas) ar gyfer Rap ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. CD3.2SC3 – Nodi cryfderau a gosod targedau at y dyfodol.

(MATh – adfyfyrio’n feirniadol ar fy ngwaith fy hun a chynnig cefnogaeth i un o’m cyfoedion gyda’m gwaith os gofynnir i mi wneud hynny CA3.8). 7.OS4 CD3.3

ASESU AR GYFER DYSGU

AagD1 - Holi’r dosbarth, grwpiau ac unigolion drwy gydol y wers, annog dysgwyr i ofyn cwestiynau a chyfrannu syniadau.AagD2 - Arsylwi’n Uniongyrchol ar waith disgyblion; gwrando ar ‘waith ar ei hanner’, gwerthuso gwaith a chynnig adborth yn uniongyrchol.AagD3 - Gosod meini prawf asesu (modelu a sgaffaldio), hunanasesu ac asesu gan gyfoedion.

Ydych chi wedi ystyried y canlynol yn eich cynlluniau?

AD/MPLl

Llythrennedd

Rhifedd

Cymhwysedd Digidol

Gwahaniaethiad

Gwaith Cartref

Cymraeg Pob Dydd

Cwricwlwm Cymreig

DATBLYGU SGILIAU

Sgiliau Meddwl, ABCH, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang Sgiliau Meddwl - Datrys problemau, trafod syniadau, pennu’r meini prawf llwyddiant, adfyfyrio, gwella addysgu a pherfformiad ei hun, hunanasesu/asesu cyfoedion, gosod targedau.ABCh - Meithrin hunan-barch, parch at eraill (gweithio gydag eraill).Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang - Bydd disgyblion yn datblygu sgiliau a nodweddion a ellir eu trosglwyddo trwy gydweithio a chyfathrebu.

CC – Rap ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

(Iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth).

Amser

Strwythur y wers a chynllun gweithgareddau manwl

Sesiwn lawn barhaus / Asesu ar gyfer Dysgu

4 munud

4 munud

2 funud

5 munud

15 munud

3 munud

12 munud

5 munud

7 munud

3 munud

A: Cyfarfod a chyfarch. Cofrestru - Dewch i mewn. Hen Wlad Fy Nhadau yn chwarae yn y cefndir a chyfarwyddiadau ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol. Cyflwyniad (AD), cyfeirio at y wers flaenorol a’r gwaith cartref (taflen gyfarwyddiadau - Sut i recordio trac ar Logic?). CD4.1 AagD1AaD: Gêm tapio a chlapio (Rapio sillafau - mesur o 4). 7.OS4

D: Canu Hen Wlad Fy Nhadau (HWB). Soprano/Alto (Gwahaniaethiad). Canolbwyntio ar yr elfennau - amrywio’r perfformiad (f/p, adagio/allegro, bras/main).AaD: C? (Cyfeirio at lefelau’r CC). Arwain ac amrywio’r elfennau yn y perfformiad.

A: C? Atgyfnerthu’r AD: Sut i recordio traciau ar Logic? (Dewiswch ddysgwr i arddangos/esbonio) MPLl1 & AD1D: C? Meddwl, Paru a Rhannu eu hatebion gyda’r dosbarth.

D: Gwrando ar enghreifftiau o draciau cyfeiliant Rap! (Modelu). Parau o ffrindiau. Amlygu arferion da yn yr enghreifftiau, dadansoddi (drwm a bas) ac ysgrifennu’r MPLl/Cwanteiddio ar y daflen gyfansoddi. Pennu’r MPLl a chyfiawnhau’r atebion.7.OS4 AagD

A: C? Pam? Ydych chi’n cytuno? Allwch chi ychwanegu unrhyw beth arall? (Cyflawni Lefel 7+) AagD1

D: Prif dasg unigol/parau (taflenni wedi’u gwahaniaethu). Lluniwch gyflwyniad a phennill - rhyddid i symud ymlaen i lunio corws (Gwahaniaethiad). Disgrifiwch yr elfennau / sut y maent yn newid ym mhob adran o’r rap (MPLl3). Defnyddiwch DC/ terminoleg gerddorol (MATh - termau Eidalaidd - anogwch bawb. CA3.1 MPLl & 2, AD1 & 2 CD3.2A: C? Arsylwi ac adborth llafar/ amlygu’r gwahanol adrannau / cwanteiddio / ansawdd. (Gwahaniaethu) / cwestiynu i helpu cynnydd y dysgwyr: C? AD3 AagD2D: Parhau i gyfansoddi a cheisio rapio.A: Arsylwi/atgoffa’r dysgwyr o’r MPLl ac adolygu atebion y dysgwyr (adborth uniongyrchol/unigol). AagD2

D: Hunan-asesu ac asesu cyfoedion - Nodwch yr hyn sy’n dda a’r hyn sydd angen ei wella? Gan gysylltu targedau â MPLl mewn trafodaeth grŵp/yn ysgrifenedig. MPLl3 7.OS4 CD3.3A a D: ADBORTH - Ymatebion i atebion cyfoedion - rhannu/awgrymu a chyngor/targedau. AD3 7.OS4 AagD CD3.3

Sesiwn Lawn:D: Perfformio’r rap (mewn parau).A: C? Holi’r dysgwyr sut maent wedi dysgu (cwestiynau sydyn). Mae’r broses hon yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr fireinio eu gwaith eu hunain. AagD1D: Ystyried eu cyraeddiadau a’r gwersi a ddysgwyd, a’r sgiliau a ddatblygwyd. Gosod targedau ar gyfer y wers nesaf a thrafod sut y maent eisiau cyflawni’r targedau. MPLl3 7.OS4 Cymraeg Pob Dydd - I wella... CD3.3

D: Crynhowch y camau ar gyfer recordio trac cyfeiliant - yn cynnwys cwanteiddio. CA3.8 CD4.1

A: Cyfeiriwch at y wers nesaf -• Cwblhewch y targed a gwella’r targedau/mireiniwch eich gwaith (Asesiad Crynodol)• Cyfansoddwch gyfalaw.

Arsylwi dysgwyr i asesu gwybodaeth flaenorol a’u llwyddiant yn cwblhau eu gwaith cartref.

Arsylwi sut maent yn canu’r anthem (rhuglder).

Beth sy’n gwneud perfformiad da?Canolbwyntiwch ar yr ynganiad Cymraeg wrth ganu a rhowch ganmoliaeth gan ddefnyddio’r geiriau ac ymadroddion ‘ch’ gyferbyn.

Cwestiynu ac adborth.

Arsylwi (dysgwyr MATh - cwestiynau metaymwybyddol): Sut fyddech chi’n cytuno neu’n anghytuno â hyn? Oes unrhyw un eisiau ychwanegu rhywbeth yn yr ystafell ddosbarth?

Arsylwi, trafod a chwestiynu. Cwestiynau agored (Pam?) a chadarnhewch y MPLl/AD.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y rhagarweiniad a’r pennill?

Adborth cydweithredol.Cwestiynu ac adborth.

Adolygu a gwerthuso dealltwriaeth. Cwestiynau AagD:

· Ym mha ffordd ydych chi’n credu y mae angen i chi wella?

· Pa broses aethoch chi drwyddi i greu’r darn hwn?

· Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb?

· Os mai chi oedd yr athro, pa sylwadau fyddech chi’n eu gwneud am y darn hwn?

· Gyda beth ydych chi o bosib angen mwy o gymorth?

CYMRAEG pob dydd:

Canolbwyntio ar ynganu enwau allweddol yn yr anthem genedlaethol: beirdd a

chantorion; enwogion, rhyfelwyr,

gwladgarwyr.

Defnyddio geiriau o ganmoliaeth i gymeradwyo ac i fodelu ynganiad clir y llythyren ‘ch’:

Ardderchog! Gwych! Gwerth chweil!

Canwch yr anthem! Gweiddwch!

Sibrydwch yr anthem!

GEIRIAU/TERMINOLEG ALLWEDDOL (Dwyieithog) Cwanteiddio/Quantize, Cyfeiliant/Accompaniment, Gwead/Texture, Cyflymder/Tempo, Traw/Pitch, Parhad/Duration, Adeiledd/Structure, Ansawdd/Timbre, Pennill a Chytgan/Verse&Chorus ac Arddull/Style.

ADNODDAU

Logic, Cyfrifiaduron, Meicroffon, Taflenni gwahaniaethol ac Enghreifftiau o gyfansoddi (modelu/sgaffoldio).

IECHYD A DIOGELWCH

Y disgyblion i sefyll tu allan a mynd i mewn i’r ystafell ddosbarth mewn ffordd drefnus. Bagiau o dan y bwrdd.

SWYDDOGAETH STAFF CEFNOGI

Cefnogi Disgybl A gyda thasg darllen a thrafod. Cyfarfod cyn y wers (15 munud) i drafod gweithgareddau ac adnoddau/taflenni gwaith. Darparu cynllun gwers/cyfarwyddiadau.

#

Ein gweledigaeth:

Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol, a fydd yn ysbrydoli ac yn grymuso pob dysgwr i gyrraedd eu potensial dysgu

Ydych chi wedi ystyried y canlynol yn eich cynlluniau?

AD/MPLl

Llythrennedd

Rhifedd

Cymhwysedd Digidol

Gwahaniaethiad

Gwaith Cartref

Cymraeg Pob Dydd

Cwricwlwm Cymreig

GWERTHUSO’R WERS

Deilliannau dysgu (o dudalen 1)

DD1 – Recordio traciau ar feddalwedd Logic (Drwm a Bas). DD2 – Cyfansoddi trac cefndirol ar gyfer Rap ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. DD3 – Gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyfoedion (dysgwyr MAT i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr eraill a chydweithio ar sut i wella eu gwaith eu hunain a gwaith eraill gan weithio gyda’r meini prawf llwyddiant).

Gwerthuso Dysgu (yn erbyn Deilliannau dysgu)

DD1Mae’r traciau’n dangos bod y dysgwyr i gyd wedi llwyddo i recordio traciau (Drwm a Bas) ar feddalwedd Logic. Roedd y dysgwyr MAT yn dangos hyder wrth newid yr ansawdd a chynnig cefnogaeth i’r dysgwyr eraill. Bydd rhaid imi labelu’r nodau (traw addas i’r drymiau – cymorth gweledol) i helpu’r dysgwyr ALN. Profwyd heddiw bod y dysgwyr yn perfformio’n well o ganlyniad i greu eu taflen gyfarwyddiadau eu hunain (gwaith cartref).DD2Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr wedi creu cyfeiliant 8 bar yn annibynnol ac mae’r dysgwyr MAT wedi llwyddo i greu 16 bat (Drwm a Bas). Mae cyfansoddiadau’r mwyafrif o ddysgwyr yn dangos amrywiaeth effeithiol mewn traw a rhythm. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn dangos tystiolaeth o gynnydd oherwydd eu bod wedi gwrando / dadansoddi enghreifftiau a modelu athro a dysgwr yn ystod y wers (Vygotsky). Byddaf yn parhau i ymgorffori modelu a sgaffaldwaith i fy ngwersi.DD3Roedd y trafodaethau’n dangos bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gallu nodi meysydd i wella a gosod targedau. Roedd y dysgwyr MAT yn gallu cyfiawnhau eu hatebion gan gyfeirio at y Meini Prawf Llwyddiant oherwydd yr atgyfnerthu parhaus, a rhoddwyd cyfle i’r dysgwyr benderfynu ar eu meini prawf llwyddiant eu hunain. Byddaf yn parhau i ddefnyddio’r strategaeth fodelu o hyn ymlaen. Roedd rhai dysgwyr yn cael trafferth canolbwyntio’n llwyr ar y meini prawf llwyddiant (Disgybl A) ac nid oeddent yn cyfiawnhau eu hateb gan ddefnyddio’r derminoleg gywir (i ddisgrifio’r newidiadau yn elfennau cerddorol Gweadedd a Strwythur – gwahaniaethu rhwng pennill a chytgan).

Targedau dysgwyr (wedi eu cario i’r wers nesaf)

DD1 – Creu cyfalaw yn y gytgan drwy ddewis ansawdd gyda thraw uchel (er mwyn atgyfnerthu eu dealltwriaeth o ansawdd, traw a strwythur).

DD2 – Creu Rhagarweiniad, Pennill a Chytgan er mwyn gallu nodi a disgrifio pob adran o fewn y strwythur (gan ddefnyddio’r derminoleg gywir).

DD3 – Canolbwyntio’n llwyr ar y meini prawf llwyddiant wrth werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill.

1

PRO FORMA CYNLLUNIO

CA3 SGILIAU CD MEWN GWERS D&T

Enw

Dosbarth

Dyddiad

Pwnc/Cyd-destun lluniadau a datblygiad CAD

TARGEDAU SGILIAU ADDYSGU’R HYFFORDDAI

Datblygu technegau addysgu effeithiol er mwyn addysgu CAD (meddalwedd ar gyfer y cyfrifiadur)

TARGEDAU DYSGU’R DYSGWYR

Datblygu dealltwriaeth o feddalwedd newydd CAD ar gyfer cyfathreb

Datblygu sgiliau

NC - Sgiliau

DYLUNIO

3. Bod yn greadigol ac arloesol wrth feddwl a llunio syniadau ar gyfer eu cynnyrch.

6. Archwilio, datblygu a chyfathrebu syniadau dylunio mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys anodi, brasluniau a CAS.

7. Modelu a mireinio eu syniadau dylunio mewn ffurf 3-D lle bo’n briodol

Deilliannau dysgu

Bydd dysgwyr yn gallu:

1.Defnyddio Solid Works i greu a datblygu ffurfiau 3D gan bennaf ddefnyddio

· ‘Extruded Boss/Base’

· Revolved Boss/Base

· Toriad Allwthio

2.Diffinio brasluniau’n llawn

3.Gweithredu cyfyngiadau syml fel llinellau o’r un hyd a llinellau paralel

4.Cofnodi newidiadau a chynhyrchu tystiolaeth o ddatblygiad y ffurf

Meini prawf llwyddiant

· Gallaf ddefnyddio, deall ac egluro’r nodweddion canlynol o fewn SolidWorks

· ‘Extruded Boss/Base’

· Revolved Boss/Base

· Toriad Allwthi

· Deallaf beth a olygir gan ‘Diffinio’n llawn’ a brasluniau.

· Gallaf ddiffinio’r braslun rwy’n gweithio arno yn llawn

· Gallaf newid dimensiynau llinellau ac onglau

· Gallaf weithredu cyfyngiadau syml yn fy mraslun megis

· Nodi y dylai llinellau fod yr un faint

· Nodi y dylai llinellau fod yn baralel i’w gilydd

· Cofnodi prif ddatblygiadau’r syniad yn ddigidol gan ddefnyddio’r nodwedd ‘PrintScreen’, pastio a ‘chropio’ o fewn dogfen arall

· Gallaf arbed fy ffeil Solidworks yn gywir, a rhoi enw rhesymegol iddi

· Gallaf arbed y dystiolaeth yn gywir a rhoi enw rhesymegol iddi

Asesu ar gyfer dysgu

Bydd dysgwyr yn dangos dealltwriaeth o’r prosesau a ddefnyddir i greu gwaith ar Solidwork.

Bydd cwestiynau yn profi a yw dysgwyr yn deall y prosesau maent wedi eu defnyddio.

· ‘Extruded Boss/Base’

· Revolved Boss/Base

· Toriad Allwthio

STRWYTHUR Y WERS A CHYNLLUN MANWL O WEITHGAREDDAU

DATBLYGU SGILIAU Sgiliau meddwl, PSE, ESDGC

MEDDWL

Tanio sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth blaenorol

Creu a datblygu syniadau

Gwerthfawrogi camgymeriadau a chanlyniadau annisgwyl

Meddwl yn rhesymegol a cheisio gweld patrymau

Monitro cynnydd

Adolygu canlyniadau

Amser

Gweithgareddau’r wers

Sesiwn lawn barhaus / Asesu ar gyfer dysgu

5 munud

10 munud

30 munud

5 munud

5 munud

5 munud

I DDECHRAU

Dysgwyr i feddwl am fanteision ac anfanteision cynhyrchu gwaith CAD. Dim dwylo i fyny i greu rhestr ar gyfer y dosbarth. Dylai sylwadau gael eu cyfiawnhau.

Cerdyn procio ar gael i ysgogi trafodaeth. Dylai sylwadau gynnwys.

MANTEISION

Arbed gwahanol fersiynau o syniad

Gallu rhannu ffeil o gwmpas y byd yn syth

Gallu gweld cynnyrch mewn 3D

Gallu rhoi gorffeniadau a lliwiau gwahanol

Gallu anfon yn hawdd i beiriannau CAM

ANFANTEISION

Angen dysgu sut i ddefnyddio’r feddalwedd

Gallu cymryd llawer o amser

Amhosibl ‘teimlo’ y cynnyrch

GWEITHGAREDD 1

Gweithgaredd dan arweiniad athro yn dangos nodweddion y feddalwedd y bydd y dysgwyr yn ei defnyddio yn ystod y gwersi nesaf. Defnyddio geiriau/ymadroddion Cymraeg wrth ddangos. Gwirio dealltwriaeth.

Yn ystod y cyflwyniad, dysgwyr i gofnodi beth yw’r nodweddion hyn ar ffurf pwyntiau bwled.

Trafod nodweddion gyda phartner, yna adrodd yn ôl ar y nodweddion i’r athro er mwyn creu Meini Prawf Llwyddiant ar gyfer gwaith y dysgwyr. Athro i gofnodi a’u gadael mewn lle amlwg.

GWEITHGAREDD 2

Dysgwyr i ddefnyddio Solidworks i greu siâp ciwboid syml gyda thyllau. Taflenni canllaw ar gael.

Dysgwyr i ddefnyddio Solidworks i greu syniad ar gyfer teclyn i gadw desg yn daclus (‘desk tidy’).

GWEITHGAREDD 3

Athro i ddangos ‘Sut i gofnodi tystiolaeth o newidiadau’ drwy argraffu sgrin, pastio a chropio delwedd mewn meddalwedd arall o ddewis y dysgwr. Defnyddir anodi i egluro a chyfiawnhau newidiadau. Defnyddio geiriau/ymadroddion Cymraeg wrth ddangos. Gwirio dealltwriaeth

Ffeiliau o siapiau sydd wedi eu dechrau’n barod ar gael i ddysgwyr eu haddasu.

SESIWN LAWN

Arwain dysgwyr i weithio mewn parau i werthuso’r gwaith a wnaed yn ystod y wers yn erbyn y Meini Prawf Llwyddiant. Nodwch ddysgwyr i gyfiawnhau sut maent wedi bod yn llwyddiannus.

Drwy weithgaredd 1-3 ar adegau penodol yn ystod y wers bydd dysgwyr yn egluro i’w gilydd y broses maent wedi bod yn ei defnyddio i gynhyrchu rhannau o’u gwaith. Dysgwr neu ddau i egluro i weddill y dosbarth

Dylai sylwadau gynnwys atebion i

· Pryd fyddai Extrude Boss/Base yn cael eu defnyddio?

· Pryd fyddai Revolved Boss/Base yn cael eu defnyddio?

· Pryd a sut fyddech chi’n defnyddio Toriad Allwthio

· Eglurwch ystyr ‘wedi ei ddiffinio’n llawn’ a phryd fyddech chi’n ei ddefnyddio?

· Pa wahaniaeth mae’r printiad sgrin diwethaf yn ei ddangos, a pham y’i gwnaed.

CYMRAEG bob dydd

Adolygwch eiriau/ymadroddion gorchmynnol yn Gymraeg i fonitro dealltwriaeth dysgwyr yn ystod gweithgareddau 1 a 2 dan arweiniad athro.

Dyma sut i…argraffu’r sgrin/torri a gludo …

Yn fan hyn mae…

Hwn sydd yn…

Gwaith y botwm yma ydi…

Yn gyntaf, yn ail, yn drydydd…

GEIRIAU ALLWEDDOL/TERMINOLEG

(Dwyieithog)

Extruded - Allwthio

Revolve/d - Cylchdroi

Record – Cofnodi

Evidence – Tystiolaeth

Advantages – Manteision

Disadvantages – Anfanteision

Annotation - Anodi

ADNODDAU

Cyfrifiadur gyda Solidworks

Taflenni arweiniol ar gyfer eu defnyddio yn y wers

Enghraifft o ‘Sut i gofnodi tystiolaeth o newidiadau’.

IECHYD A DIOGELWCH

Gweler Asesiad Risg y Labordy Cyfrifiaduron

SWYDDOGAETH STAFF CEFNOGI

Mae’r aelod staff cefnogi wedi ei f/briffio ymlaen llaw ac yn gallu defnyddio’r nodweddion a nodwyd o fewn Solidworks.

Staff cefnogi i fynd o gwmpas gyda 6 dysgwr y nodwyd eu bod angen cymorth.

Ein gweledigaeth:

Addysgu, cefnogi ac ysgogi myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol a fydd yn ysbrydoli a grymuso pob dysgwr i gyflawni ei botensial dysgu

GWERTHUSO GWERS

Deilliannau dysgu (o dudalen 1)

Bydd dysgwyr yn gallu:

1.Defnyddio Solid Works i greu a datblygu ffurfiau 3D gan ddefnyddio, yn bennaf:

· ‘Extruded Boss/Base’

· Revolved Boss/Base

· Toriad Allwthio

2.Diffinio brasluniau yn llawn

3.Gweithredu cyfyngiadau syml megis llinellau yr un hyd a llinellau paralel

4.Cofnodi newidiadau a chynhyrchu tystiolaeth o ddatblygiad ffurf

Gwerthuso Dysgu (yn erbyn Deilliannau Dysgu)

1. Roedd yr holl ddysgwyr yn gallu deall egwyddorion sylfaenol defnyddio Solidworks i greu brasluniau 3D. Roedd y rhan fwyaf yn gallu defnyddio’r nodweddion ‘Extruded Boss/Base’, a ‘Toriad allwthio’. Roedd rhai’n gallu defnyddio’r Revolved Boss/Base’, ond roedd yr amser a gymerwyd i rai dysgwyr ddeall y wybodaeth yn hirach nag yr oeddwn i wedi ei ddisgwyl. O ganlyniad, dangoswyd ‘Revolved Boss/Base’ ar sail un i un gydag adnoddau cefnogi ar gyfer y rhai oedd yn abl. Rwy’n dysgu llawer iawn fy hunan wrth ddod i ddeall sut i addysgu CAD.

2. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gallu ‘diffinio’ eu brasluniau ‘yn llawn’. Y dysgwyr nad oeddent yn llwyddiannus oedd y rhai a oedd eisiau cael eu hatgoffa o’r meini prawf llwyddiant ar y wal. A oes technegau eraill y gallwn eu defnyddio i ddatblygu annibyniaeth unigol ar gyfer asesu gwaith unigol yn erbyn y meini prawf llwyddiant?

3. Roedd pob un yn gallu gweithredu cyfyngiadau syml dan gyfarwyddyd, ond dim ond tua’u hanner oedd yn gallu eu gweithredu yn annibynnol.

4. Roedd pob un yn gallu cofnodi tystiolaeth o newidiadau yn y gwaith dylunio drwy ddefnyddio’r botwm ‘Printscreen’ ac anodi. Bydd angen gwaith pellach ar gynnwys yr anodi a ddefnyddiwyd gan y rhan fwyaf o ddisgyblion. Roedd y sylwadau’n ddisgrifiadol heb dystiolaeth o resymu a chyfiawnhau gwirioneddol. Bydd angen dylunio a threialu gweithgareddau pe