Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o
weithredu ar sail systemau cyfan
15 Rhagfyr 2009
www.wao.gov.uk
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 1
Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar
sail systemau cyfan
Rwyf wedi llunio'r adroddiad hwn i'w gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan
Ddeddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006.
Cynhwysai tîm astudio Swyddfa Archwilio Cymru a'm cynorthwyodd i lunio'r adroddiad
hwn Tracey Davies, Lucy Evans, Martin Gibson, Delyth Lewis, Gill Lewis,
Stephen Lisle, Ann Mansell, Elaine Matthews, Carol Moseley, Rob Powell,
Joy Rees, Gabrielle Smith, Chris Thompson a Mandy Townsend.
Jeremy Colman
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gwbl annibynnol ar y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad.
Ef sy’n archwilio ac yn ardystio cyfrifon y Llywodraeth y Cynulliad a’r cyrff cyhoeddus a noddir ganddo
ac sy’n gysylltiedig ag ef, yn cynnwys cyrff y GIG yng Nghymru. Mae ganddo hefyd y pŵer statudol i
gyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol ar ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
y defnydd a wna’r sefydliadau hynny o’u hadnoddau wrth gyflawni eu swyddogaethau, a sut y gallent
wella’r defnydd hwnnw.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn penodi archwilwyr i gyrff llywodraeth leol yng Nghymru, yn cynnal
ac yn hyrwyddo astudiaethau gwerth am arian yn y sector llywodraeth leol ac yn cynnal arolygiadau i
sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion gwerth gorau o dan Raglen Cymru ar gyfer Gwella. Fodd bynnag, er
mwyn amddiffyn sefyllfa gyfansoddiadol llywodraeth leol, nid yw’n cyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad
Cenedlaethol sy’n ymwneud yn benodol â gwaith llywodraeth leol ei hun heblaw am pan fo angen
gwneud yn ôl statud.
Yr Archwilydd Cyffredinol a’i staff gyda'i gilydd yw Swyddfa Archwilio Cymru. Am ragor o wybodaeth am
Swyddfa Archwilio Cymru, ysgrifennwch at yr Archwilydd Cyffredinol yn y cyfeiriad uchod, ffôn
02920 320500, e-bost: [email protected], neu gweler y wefan http://www.wao.gov.uk
© Archwilydd Cyffredinol Cymru 2009.
Cewch ailddefnyddio'r cyhoeddiad hwn (heb gynnwys y logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw
fformat neu gyfrwng. Rhaid i chi ei ailddefnyddio’n gywir ac nid mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid
cydnabod y deunydd fel hawlfraint Archwilydd Cyffredinol Cymru a rhaid rhoi teitl y cyhoeddiad hwn.
Lle nodwyd deunydd hawlfraint unrhyw drydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr
hawlfraint dan sylw cyn ei ailddefnyddio.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 2
Adroddiad a gyflwynwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 15 Rhagfyr 2009
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 3
Crynodeb 5
Argymhellion 12
1 Er gwaethaf nifer o gryfderau, nid yw'r system gofal heb
ei drefnu yn gweithredu mewn ffordd gydlynol yn aml 19
Mae'r system gofal heb ei drefnu yn diwallu ystod eang o anghenion ac mae'n
darparu rhyw fath o help bob awr o'r dydd a'r nos 19
Gall patrwm darniog gwasanaethau yn y system gofal heb ei drefnu esgor
ar aneffeithlonrwydd yn ogystal ag ansicrwydd ac oedi i ddefnyddwyr
gwasanaethau 21
2 Ceir momentwm cynyddol i newid ond mae partneriaid
yn dal i wynebu nifer o heriau byrdymor a thymor hwy
yn y system gofal heb ei drefnu 52
Mae'r ffaith bod partneriaid bellach yn rhoi mwy o flaenoriaeth i wella gofal
heb ei drefnu wedi helpu i wneud cynnydd tuag at fynd i'r afael â'r problemau
llai cymhleth yn y system 52
Mae partneriaid yn dal i wynebu nifer o heriau byrdymor a thymor hwy yn y
system gofal heb ei drefnu, yn enwedig wrth ddatblygu atebion cynaliadwy
i'r heriau hyn 59
Atodiadau 72
Atodiad 1 - Methodoleg 72
Atodiad 2 - Canfyddiadau allweddol o astudiaethau perthnasol eraill
Swyddfa Archwilio Cymru 75
Atodiad 3 - Canfyddiadau manwl ynghylch gwasanaethau gofal heb ei drefnu
y tu allan i oriau 80
Atodiad 4 - Dadansoddiad manwl o berfformiad yr ymddiriedolaeth ambiwlans 95
Atodiad 5 - Dadansoddiad manwl o fynediad i adrannau a staff adrannau
achosion brys 99
4 Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
Cynnwys
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 4
5Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
Crynodeb
1 Mae gofal heb ei drefnu yn derm a ddefnyddir
i ddisgrifio unrhyw ofal iechyd neu ofal
cymdeithasol heb ei gynllunio ond mae'n
derm nad yw'n cael ei ddefnyddio na'i ddeall
yn gyson ymhob rhan o wasanaethau
cyhoeddus. Gall gofal heb ei drefnu gael ei
ddarparu ar ffurf help, triniaeth neu gyngor a
roddir ar frys neu ar fyrder. Dengys Ffigur 1 y
prif ffyrdd o ddarparu gofal heb ei drefnu.
2 Mae gofal wedi'i drefnu yn derm a ddefnyddir i
ddisgrifio unrhyw ofal iechyd neu ofal
cymdeithasol a gynlluniwyd ac nad yw ar
fyrder. Mae'r ffordd y caiff gofal heb ei drefnu
ei ddarparu yn cael effaith uniongyrchol ar
ofal wedi'i drefnu fel y gwna'r gwrthwyneb, nid
lleiaf am fod y rhan fwyaf o'r gwasanaethau a
ddangosir yn Ffigur 1 yn darparu elfennau o
ofal wedi'i drefnu a gofal heb ei drefnu. Felly,
mae'n amhosibl mynd ati i gynllunio gofal heb
ei drefnu mewn ffordd effeithiol heb ystyried
gofal wedi'i drefnu yn llawn.
Mynd i Uned
Gweld
Ymweliad gan yrDeintydd
Awdurdod lleol
Llinell ffôn
Awdurdod lleol
Llinell ffônD
deintyddol L
linel
l ffô
n
Med
dyg
Teul
u
Llin
ell ff
ôn
Ysby
ty
Myn
d i u
ne
d
Ymwe
liad g
an
Achosion Brys
GIC neu 999
Ymateb
Ambiwlans
aral
l mew
n y
sbyty
Llinell ffôn Iechyd Meddwl
Llinell ffôn
Fferyllol Ll
ine
ll
ffô
n G
C
Ymwelia
d gan
Weithiwr Ie
chyd M
ed
dwl
Ymweliad gan
Wasanaeth Gwirfoddol
Mynd i
Fferyllfa
Mynd i
Feddygfa
Mynd i G
yfleus
ter
Iechyd
Meddw
l
Myn
d i
Gyf
leus
ter G
C
Ym
wel
iad
gan
W
asan
aeth
au G
C Ym
weliad gan
Nyrs Ardal
Fedd
yg Te
ulu
GIC - Galw Iechyd CymruGC - Gofal Canolraddol
Ffigur 1 - Mae gofal heb ei drefnu yn derm cyffredinol sy'n cynnwys gwaith llawer o wasanaethau
a sefydliadau
Ffynhonnell: Swyddfa Archwilio Cymru
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 5
6
3 Yn 2006 a 2008, cynhaliodd Swyddfa
Archwilio Cymru ddau adolygiad o'r
gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, ac ym
mis Mawrth 2009 rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i Bwyllgor Archwilio'r Cynulliad
Cenedlaethol1 2 3. Er i ni nodi sawl gwendid yn
y gwasanaeth ambiwlans, gwelsom hefyd fod
y gwasanaeth yn wynebu rhai problemau nad
oeddent o dan ei reolaeth yn gyfan gwbl a
wnaeth ddeillio o broblemau yn y system
gofal heb ei drefnu ehangach.
4 Ym mis Chwefror 2008, cyhoeddodd
Llywodraeth Cynulliad Cymru (Llywodraeth y
Cynulliad) ei strategaeth ar wella'r system, sef
Cyflenwi Gwasanaethau Gofal Brys
(strategaeth DECS). Mae strategaeth DECS
yn cydnabod bod problemau yn y system
gofal heb ei drefnu bresennol gan gynnwys
rhwystredigaeth a dryswch y bobl sy'n
defnyddio'r system, problemau wrth y
rhyngwynebau rhwng gwahanol wasanaethau
a'r galw cynyddol am wasanaethau unigol
megis adrannau achosion brys ysbytai, Galw
Iechyd Cymru a'r gwasanaeth ambiwlans.
5 Mae gweledigaeth genedlaethol yn awr yn
dod i’r amlwg drwy Raglen Gyflenwi Strategol
y Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol
sy’n cynnwys gofal wedi’i drefnu a gofal heb
ei drefnu. Mae’r weledigaeth yn ceisio
cyflawni newid sylfaenol o bwyslais o’r system
iechyd bresennol a gofal gymdeithasol sy’n
gwthio pobl i fewn i ysbytai ac wedyn yn eu
gwthio allan eto, i system ‘dynnu’ gan gyflawni
llif cyson drwy’r system drwy dynnu pobl tuag
at y lleoliad gofal mwyaf priodol, fel arfer yn y
gymuned. Mae cynlluniau ar gyfer y broses o
gyflwyno’r model arfaerthedig yn y strategaeth
gwasanaeth sylfaenol a chymunedol yn eu
dyddiau cynnar, ond mae’r diagnosis a nodir
yn y strategaeth yn gyson gyda’r canlyniadau
ar gyfer ein gwaith ar ofal heb ei drefnu.
6 Penderfynwyd bwrw golwg ar y system gofal
heb ei drefnu gyfan o safbwynt y dinesydd.
Fel rhan o hyn, rydym wedi mynd ati i edrych
ar agweddau penodol ar y system gofal heb
ei drefnu mewn modiwlau ar wahân ond sy'n
rhyng-gysylltiedig. Gyda'i gilydd, darparodd y
modiwlau hyn dystiolaeth gynhwysfawr o
weithrediad y system gyfan. Gellir cael rhagor
o fanylion am y modiwlau hyn yn Atodiad 1 a
2. Yr adroddiad hwn yw'r olaf yn ein cyfres o
adroddiadau ac mae'n cwmpasu ein gwaith ar
y modiwl o ran y system gofal heb ei drefnu
gyfan a'n modiwl ar wasanaethau y tu allan i
oriau. Mae Atodiad 3 yn cynnwys
canfyddiadau manwl o'r modiwl ar
wasanaethau y tu allan i oriau.
7 Ystyriwyd a wnaed digon o gynnydd mewn
perthynas â chynllunio a darparu gofal heb ei
drefnu o safbwynt y dinesydd. Daethom i'r
casgliad fod gwasanaethau gofal heb ei
drefnu yn llwyddo i helpu nifer fawr o bobl ag
anghenion gwahanol iawn ond er gwaethaf
momentwm cynyddol, mae partneriaid yn dal i
wynebu nifer o heriau byrdymor a thymor hwy
er mwyn mynd i'r afael â diffyg cydlyniad y
broses o weithredu'r system gofal heb ei
drefnu. Ar adeg pan fo pwysau difrifol ar arian
cyhoeddus, mae angen i gyrff y sector
cyhoeddus bellach feddwl mewn ffyrdd cwbl
newydd ynghylch sut y gallant adeiladu ar
gryfderau'r system er mwyn darparu gwell
gofal heb ei drefnu mewn ffyrdd sy'n gwneud
gwell defnydd o'u hadnoddau cyfunol.
Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
1 Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru, Rhagfyr 2006.2 Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adolygiad dilynol - Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru, Mehefin 2008.3 Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru - y wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Mawrth 2009.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 6
7Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
Er gwaethaf nifer o gryfderau,
nid yw'r system gofal heb ei
drefnu yn gweithredu mewn
ffordd gydlynol yn aml
Mae'r system gofal heb ei drefnu yn diwallu
ystod eang o anghenion ac mae'n darparu rhyw
fath o help bob awr o'r dydd a'r nos
8 Mae gan y system gofal heb ei drefnu yng
Nghymru rai cryfderau mawr. Yn ôl ein
hamcangyfrifon, daethpwyd i gysylltiad â
gwasanaethau gofal heb ei drefnu yng
Nghymru 2.2 filiwn o weithiau yn 2008-094.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael y gofal sydd
ei angen arnynt, pan fo'i angen arnynt, yn aml
ar adeg pan eu bod yn agored iawn i niwed
neu yn ymdrin ag achos brys neu argyfwng.
Un o gryfderau eraill y system yw'r ystod
eang o wasanaethau a all ddarparu gofal heb
ei drefnu, er gwelwyd hefyd y gall yr
amrywiaeth hwn ddrysu pobl. At ei gilydd,
mae gan y staff sy'n gweithio yn y
gwasanaethau amrywiol sgiliau helaeth, sy'n
golygu y gall y system gefnogi pobl ag
anghenion a gofynion amrywiol iawn. Un o
gryfderau eraill y system yw bod rhyw fath o
help, boed yn dawelwch meddwl, asesiad neu
driniaeth, ar gael bob awr o'r dydd a'r nos.
9 Un o ganfyddiadau pwysig ein gwaith yw bod
gan bobl feddwl mawr o rai gwasanaethau
gofal heb ei drefnu a'u bod, ar y cyfan, yn
gwerthfawrogi'r gweithwyr proffesiynol sy'n
gweithio yn y system. Dengys arolygon
defnyddwyr lefelau uchel o foddhad ag
adrannau achosion brys ysbytai,
meddygfeydd a gwasanaethau ambiwlans5.
Dengys gwaith ymchwil academaidd yng
Nghymru fod llawer o bobl yn parchu'r
gweithwyr proffesiynol sy'n darparu gofal heb
ei drefnu yn fawr6.
Gall patrwm darniog gwasanaethau yn y system
gofal heb ei drefnu esgor ar aneffeithlonrwydd
yn ogystal ag ansicrwydd ac oedi i ddefnyddwyr
gwasanaethau
10 Er gwaethaf cryfderau'r system gofal heb ei
drefnu, ceir nifer o broblemau o ran y ffordd y
mae gwasanaethau yn cydweithio. Gall y
problemau hyn a'r patrwm darniog cysylltiedig
gael effaith andwyol ar y bobl sy'n defnyddio
gwasanaethau gofal heb ei drefnu a gall
hefyd arwain at y defnydd aneffeithlon o
adnoddau. Gwelwyd problemau wrth y
rhyngwynebau rhwng gwasanaethau, mewn
sefydliadau, mewn sectorau megis iechyd a
gofal cymdeithasol, a rhwng grwpiau
proffesiynol. Ceir problemau hefyd am fod y
gwahaniaeth rhwng gofal wedi'i drefnu a gofal
heb ei drefnu ychydig yn artiffisial o safbwynt
y dinesydd.
11 O ganlyniad i gymhlethdod y system, gall pobl
fod yn ansicr o ran sut i gael help a ble i'w
gael, sydd yn aml yn arwain at bobl yn ffonio
999 neu’n mynd i adran achosion brys ysbyty
yn niffyg unrhyw beth arall. Mae rhywfaint o'r
ansicrwydd hwn yn deillio o'r ystod eang o
bwyntiau mynediad gwahanol yn y system.
Er enghraifft, gall unigolyn sy'n cael mân anaf
naill ai fynd i adran achosion brys neu uned
mân anafiadau, mynd i weld ei feddyg teulu,
ffonio Galw Iechyd Cymru neu ofalu amdano'i
hun. Mae pobl yn wynebu mwy o ansicrwydd
oherwydd yr amrywiaeth o wasanaethau sydd
ar gael ar adegau gwahanol o'r dydd a’r nos,
4 Mae'r ffigur hwn yn cynnwys pobl a gafodd driniaeth, gofal neu gyngor ar fyrder neu mewn ffordd nas cynlluniwyd gan y gwasanaethau canlynol; y gwasanaeth ambiwlans,
adrannau achosion brys mewn ysbytai, unedau mân anafiadau, Galw Iechyd Cymru a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau. O ganlyniad i ddiffyg data cadarn, nid yw'r
amcangyfrif hwn yn cynnwys y nifer fawr o bobl a gaiff apwyntiad meddyg teulu ar fyrder yn ystod oriau gwaith arferol, na'r bobl sy'n derbyn gofal heb ei drefnu gan wasanaethau
awdurdodau lleol. Mae gwaith ymchwil Cynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y cyfeirir ato yn nhroednodyn 6, yn amcangyfrif
i feddygon teulu ymdrin â thua 2.65 miliwn o ymweliadau gofal heb ei drefnu yn 2007.
5 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Canfyddiadau Arolwg Byw yng Nghymru 2007 o Farn Dinasyddion am Wasanaethau Cyhoeddus, Rhan 6 - Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a Rhan 7 - Gwasanaethau Ambiwlans.
6 Cynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Understanding How the Public Chooses to Use Unscheduled Care Services, Mehefin 2008.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 7
8
ac ar benwythnosau, mewn gwahanol rannau
o Gymru. Gall yr amrywiaeth o wasanaethau
hefyd ddrysu'r gweithwyr proffesiynol sy'n
gweithio yn y system.
12 Gall pobl brofi oedi ar wahanol adegau wrth
iddynt dderbyn gofal heb ei drefnu. Gall yr
oedi hwn gael ei achosi gan y ffaith bod
gwasanaeth penodol yn araf i ymateb neu
gan broblemau wrth y rhyngwyneb rhwng
gwasanaethau. Mae'r adran achosion brys yn
dagfa yn aml lle y gall pobl wynebu oedi ond
dim ond rhywfaint o'r oedi hwn sy'n deillio o'r
broses o reoli'r adran ei hun. Yn aml iawn,
ceir oedi mewn adrannau achosion brys
oherwydd y problemau mewn rhannau eraill
o'r ysbyty neu wrth y rhyngwyneb rhwng yr
ysbyty a gwasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol cymunedol. Mae deall natur yr
oedi, a sefydlu mesurau sy'n ymdrin ag achos
hynny, yn allweddol i wella llif y system.
13 Mae gan y model gofal heb ei drefnu
presennol yng Nghymru rai bylchau mawr
sy'n atal y system rhag gweithredu mewn
ffordd gydlynol. Yn gyntaf, mae cryn le i wella
datblygiad llwybrau gofal a'r defnydd a wneir
ohonynt. Caiff llwybrau gofal eu cynllunio
ymlaen llaw mewn ffordd sy'n anelu at helpu
cleifion sydd â symptomau neu gyflyrau
penodol i lifo'n fwy effeithlon drwy'r system
iechyd a gofal cymdeithasol. Gall llwybrau
gofal helpu i leihau nifer yr achosion o
drosglwyddo cleifion a chyflymu'r broses o
ddarparu'r gofal sydd ei angen ar bobl. Fodd
bynnag, nodwyd gwendidau mewn perthynas
â llawer o'r llwybrau gofal presennol yng
Nghymru. Mae lle i gyfathrebu mewn ffordd
fwy effeithiol er mwyn mynd i'r afael â'r ffaith
mai prin yw'r ymwybyddiaeth a'r
ddealltwriaeth o rai llwybrau gofal ymhlith
gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a
llywodraeth leol, sy'n atal llwybrau gofal rhag
cael eu defnyddio weithiau. Caiff datblygiad
llwybrau gofal a'r defnydd a wneir ohonynt eu
cyfyngu ymhellach gan ddiffyg dealltwriaeth
gadarn o'r galw, y broses wael o rannu
gwybodaeth rhwng gwasanaethau a diffyg
proses frysbennu ac asesu gyffredin yng
Nghymru.
14 Bwlch sylweddol arall a geir yn y model gofal
heb ei drefnu presennol yw'r ffaith nad oes
digon o wasanaethau cymunedol priodol ac
effeithiol ar hyn o bryd i fodloni'r galw a
gweithredu fel dewisiadau amgen
gwirioneddol i ofal acíwt. Mae'r gwasanaethau
cymunedol hyn yn chwarae rhan hanfodol yn
y gwaith o ddarparu gofal yn agos at gartrefi
pobl, gan reoli anghenion gofal heb ei drefnu
lefel isel cyn iddynt waethygu. Gall
wasanaethau sy’n seiliedig ar gymunedau atal
defnydd diangen o wasanaethau acíwt. Prin
fu'r cynnydd a wnaed i ddeall y galw ac yna
datblygu gwasanaethau priodol i fodloni'r galw
hwnnw yn y gymuned yn hytrach na
defnyddio gwasanaethau gofal acíwt. Mae
hyn yn golygu mewn rhai ardaloedd, ar
adegau penodol o'r dydd a’r nos, mai prin
yw'r opsiynau gwirioneddol i bobl ag
anghenion iechyd corfforol, iechyd meddwl
neu ofal cymdeithasol, heblaw am geisio help
gan wasanaethau acíwt megis adrannau
achosion brys a gwasanaethau ambiwlans.
15 Y trydydd bwlch sylweddol yn y model yw'r
diffyg cynnydd a wnaed o ran datblygu staff â
rolau arbenigol, estynedig. Os caiff y
penderfyniad i ddatblygu'r fath arbenigedd ei
wneud ar sail gwir ddealltwriaeth o'r galw, gall
y rolau hyn fod o fudd mawr i gleifion a'r
system. Gall y fath staff chwarae rhan bwysig
mewn perthynas â gweithio'n annibynnol a
gwneud penderfyniadau diffiniol i fynd i'r afael
ag anghenion gofal pobl heb fod yn rhaid
iddynt ddefnyddio unrhyw wasanaeth gofal
Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 8
9Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
heb ei drefnu arall. Gall y rolau hyn hefyd fod
yn effeithiol o ran lleihau'r galw am
wasanaethau gofal heb ei drefnu eraill,
yn aml drwy weld a thrin cleifion yn
agosach i'w cartrefi.
16 Er y gall y term 'gofal heb ei drefnu' awgrymu
ei fod yn anrhagweladwy ac felly broblemau i
ragamcanu'r galw, mae'r galw cyffredinol am
ofal heb ei drefnu yn rhagweladwy ar y cyfan.
Un o wendidau sylfaenol y system gofal heb
ei drefnu bresennol yw'r ffaith nad oes
dealltwriaeth gydlynol o'r galw. Mae'r gwaith a
wnaed i ddeall y galw wedi canolbwyntio ar
wasanaethau unigol yn hytrach nag ar lefel
poblogaeth neu system ac mae hefyd wedi
canolbwyntio ar lefelau gweithgarwch
sylfaenol yn hytrach na cheisio deall mwy am
y galw cyffredinol.
17 Ynghyd â'r ddealltwriaeth wael o'r galw, prin
iawn yw'r ddealltwriaeth o gostau yn y system
gofal heb ei drefnu. Amcangyfrifwn ei bod yn
costio £256 miliwn y flwyddyn o leiaf i
ddarparu gofal heb ei drefnu yng Nghymru7.
Er gwaethaf y costau sylweddol hyn, prin fu'r
cynnydd a wnaed i fodelu goblygiadau cost a
llif y newidiadau posibl i fodelau gwasanaeth
yn y system gyfan. Mae'r mater hwn yn
arbennig o ddifrifol yn yr hinsawdd
economaidd bresennol a disgwyliedig. Mae
Llywodraeth y Cynulliad wrthi’n datblygu
fframwaith gwasanaeth a gwelliannau
hirdymor ar gyfer y GIG a fydd yn
canolbwyntio’n fawr ar ryddhau’r fath
effeithlonrwydd posibl.
18 Caiff rhai gwasanaethau gofal heb ei drefnu
eu rhoi o dan bwysau, yn rhannol am fod rhai
pobl y gellid bod wedi diwallu eu hanghenion
yn fwy priodol drwy ddefnyddio gwasanaeth
amgen yn defnyddio'r gwasanaeth, gan
arwain at bwysau mawr ar rai gwasanaethau
yn ogystal â chostau cyfle sylweddol. Gallai
gwaith ataliol mwy effeithiol, yn enwedig drwy
fferyllwyr cymunedol, teleofal a rheoli cyflyrau
cronig, leihau rhywfaint o'r galw y gellir ei
osgoi a wynebir gan wasanaethau gofal heb
ei drefnu ar hyn o bryd. Mae cryn dipyn o le
hefyd i wella'r broses o reoli'r galw ar
adrannau achosion brys a'r ymddiriedolaeth
ambiwlans drwy atal achosion diangen o
gludo cleifion mewn ambiwlans a helpu pobl i
gael gafael ar wasanaethau amgen i
adrannau achosion brys pan allai fod yn fwy
priodol diwallu eu hanghenion rywle arall.
19 Er bod y ffaith bod rhyw fath o help ar gael
bob awr o'r dydd a'r nos yn un o gryfderau'r
system bresennol, gwelwyd hefyd fod natur
ddarniog y system ar ei gwaethaf y tu allan i
oriau sy’n llawer hwy nag yn ystod oriau
arferol. Mae llawer o wasanaethau ar gau y tu
allan i oriau gwaith arferol. Mae'r hyn a
ddarperir gan y rhan fwyaf o wasanaethau
sydd ar gael y tu allan i oriau gwaith arferol
yn llai cynhwysfawr o gymharu ag oriau
gwaith arferol, tra bod rhai gwasanaethau ond
yn darparu gofal i'w cwsmeriaid presennol.
Mae natur gyfyngedig gwasanaethau y tu
allan i oriau, problemau o ran llifau
gwybodaeth rhwng gwahanol wasanaethau
gofal heb ei drefnu y tu allan i oriau a'r ffaith
bod yr hyn a ddarperir ganddynt yn llai
cynhwysfawr yn aml yn golygu, er bod
gwasanaethau y tu allan i oriau yn ceisio
sicrhau bod pobl yn ddiogel drwy fynd i'r afael
â'u hanghenion mwyaf dybryd, ni chaiff eu
hanghenion ehangach yn aml eu hystyried tan
y diwrnod gwaith nesaf.
7 Amcangyfrif o'r costau lleiaf posibl yw hwn oherwydd nid ydym wedi gallu defnyddio gwybodaeth am gostau gan rannau sylweddol o'r system oherwydd ansawdd gwael y data
neu'r ffaith na chesglir data o gwbl. Eglurir y cyfrifiad llawn ym mharagraff 1.67.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 9
10
Ceir momentwm cynyddol i
newid ond mae partneriaid yn
dal i wynebu nifer o heriau
byrdymor a thymor hwy yn y
system gofal heb ei drefnu
Mae'r ffaith bod partneriaid bellach yn rhoi mwy
o flaenoriaeth i wella gofal heb ei drefnu wedi
helpu i wneud cynnydd tuag at fynd i'r afael â'r
problemau llai cymhleth yn y system
20 Yn ystod 2008, penderfynodd Llywodraeth y
Cynulliad ei gwneud yn ofynnol i bob
cymuned iechyd a gofal cymdeithasol, ar lefel
byrddau iechyd newydd, gyflwyno cynllun
cyflenwi lleol yn nodi eu cynigion i wella gofal
heb ei drefnu dros y ddwy flynedd nesaf.
Roedd hefyd yn ofynnol i bob cymuned
gyflwyno cynllun gweithredu yn nodi'r camau
i'w cymryd ar unwaith er mwyn gwneud
gwelliannau erbyn mis Ebrill 2009.
21 Mae'r ffocws cynyddol hwnnw ar ofal heb ei
drefnu wedi dechrau esgor ar welliannau, er
mai ymwneud â'r problemau llai cymhleth yn
y system y maent. Mae pobl wedi wynebu llai
o oedi mewn adrannau achosion brys yn
ystod y broses o drosglwyddo cleifion rhwng
criwiau ambiwlans a staff ysbyty. Hefyd bu
rhywfaint o gynnydd cymysg o ran cydleoli
gwasanaethau gofal heb ei drefnu fel eu bod
bellach yn gweithio ar yr un safle neu'n
rhannu canolfannau cyswllt ffôn. Er nad yw'r
cydleoli sydd wedi digwydd wedi cynnwys
integreiddio'r broses o ddarparu
gwasanaethau yn wirioneddol, gallai hynny
symleiddio pwyntiau mynediad pobl at ofal
heb ei drefnu, ei gwneud yn haws i bobl fynd
o un gwasanaeth i'r llall a gwneud y ffordd y
caiff gwasanaethau eu darparu yn effeithlon.
22 Daeth ein hadroddiad ar Galw Iechyd Cymru
i'r casgliad fod y sefydliad yn dechrau cael
mwy o effaith ar gefnogi pobl i ofalu amdanynt
eu hunain ond y gallai ychwanegu mwy o
werth drwy gynnig gwell eglurder o ran y
ffordd y mae'n cydweddu â'r system gofal heb
ei drefnu ehangach yn strategol8. Daethom i'r
casgliad hwn am fod Galw Iechyd Cymru yn
darparu gwasanaethau gwerthfawr i'r cyhoedd
am gost gymharol resymol, wedi'u hategu gan
brosesau cadarn; ac mae gan Galw Iechyd
Cymru'r potensial i ychwanegu mwy o werth
at y system gofal heb ei drefnu ond mae
angen cyfeiriad strategol cliriach arno.
Mae partneriaid yn dal i wynebu nifer o heriau
byrdymor a thymor hwy yn y system gofal
heb ei drefnu
23 Caiff yr egwyddorion cyffredinol a nodir yn
strategaeth DECS eu cefnogi'n eang ond mae
llawer o randdeiliaid wedi beirniadu'r
strategaeth am nad yw'n ddigon rhagnodol
neu benodol. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn
gorfod mynd ati i sicrhau cydbwysedd gofalus
rhwng gormod o ragnodi canolog, sy'n peri'r
risg o orfanylu'r system a lleihau gallu
partneriaid lleol i ddod o hyd i atebion lleol i
anghenion penodol, a'r angen i ddatblygu
dulliau cenedlaethol o ymdrin â materion
allweddol a allai gynnwys cynllunio'r gweithlu,
addysg gyhoeddus, pwyntiau mynediad
unigol, datblygu gwasanaethau gofal heb ei
drefnu cymunedol, datblygu llwybrau gofal a
systemau gwybodaeth cydgysylltiedig.
24 Mae lle i'r byrddau iechyd newydd a'u
partneriaid astudio darpariaeth gofal heb ei
drefnu a'r galw amdano, a dylunio model lleol
o wasanaethau ar sail eu dadansoddiad.
Mae gwaith cynllunio diweddar wedi
canolbwyntio'n bennaf ar wasanaethau
ysbytai heb ystyried yn llawn rôl
Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
8 Archwilydd Cyffredinol Cymru, Galw Iechyd Cymru Medi 2009.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 10
11Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
gwasanaethau llywodraeth leol, yn enwedig
gofal cymdeithasol, yn ogystal â gofal iechyd
cymunedol a sylfaenol.
25 Drwy gydol ein gwaith maes dywedwyd
wrthym droeon fod yr amser wedi dod i
gymryd camau pendant ar unwaith er mwyn
gwella gofal heb ei drefnu. Bydd gwneud
newid yn y system gofal heb ei drefnu gyfan
yn gofyn am gymryd camau amlasiantaethol
cymhleth lle na all yr un sefydliad ar ei ben ei
hun wneud y newid sydd ei angen. Er bod
fforymau gofal heb ei drefnu amlasiantaethol
bellach ar waith ledled Cymru, mewn rhai
ardaloedd nid yw gwasanaethau
cymdeithasol, gofal sylfaenol na'r gwasanaeth
ambiwlans wedi cyfrannu digon at y broses o
ddylunio'r system gofal heb ei drefnu.
26 Un o ganfyddiadau pwysig ein gwaith yw bod
diffyg dealltwriaeth gyffredinol o'r rôl y gall
llywodraeth leol ei chwarae i ddarparu gofal
heb ei drefnu. Mae iechyd a llywodraeth leol
yn dibynnu ar ei gilydd o ran darparu gofal
heb ei drefnu ac mae'r rhan a chwaraeir gan
lywodraeth leol yn llawer ehangach na dim
ond drwy wasanaethau cymdeithasol.
Gall darparu tai ar frys, canolfannau cyswllt
llywodraeth leol a gwasanaethau ataliol
megis gosod cymhorthion ac addasiadau
yn y cartref oll gael effaith ar y system gofal
heb ei drefnu.
27 Bydd prosesau arwain a llywodraethu
effeithiol ar y cyd yn hollbwysig er mwyn
gwneud newid. Nodwyd gennym fod diffyg
eglurder ynghylch pwy sy'n atebol am newid
a'r materion cyfreithiol, llywodraethu clinigol,
gwleidyddol, ariannol a rheoli cymhleth sy'n
gysylltiedig â chydweithredu oll yn effeithio ar
wneud newid. Rhydd sefydlu'r byrddau iechyd
newydd gyfle sylweddol i wella'r broses o
weithio mewn partneriaeth. Rhydd lleihau
nifer y sefydliadau sy'n gyfrifol am gynllunio a
darparu gwasanaethau iechyd gyfleoedd i
wella'r broses o integreiddio, cydweithredu a
chydlynu darpariaeth gwasanaethau. Y prif
risgiau sydd ynghlwm wrth yr ad-drefnu yw y
gallai'r sefydliadau newydd a mwy o faint golli
gafael yn y materion lleol sy'n wynebu eu
cymunedau, tra gallai rhai o'r cydberthnasau
cadarnhaol presennol rhwng partneriaid gael
eu colli. Mae cyfle hefyd i fyrddau
gwasanaethau lleol ddarparu'r
arweinyddiaeth, ymrwymiad a momentwm
angenrheidiol i ategu newidiadau radical yn y
broses o ddarparu gwasanaethau gofal heb ei
drefnu gan bartneriaid gwasanaethau
cyhoeddus. Gan gydnabod ei oblygiadau
trawsbynciol i ddinasyddion, rydym wedi rhoi
nodyn briffio penodol i fyrddau gwasanaethau
lleol ar ofal heb ei drefnu.
28 Bydd gwneud newid hefyd yn gofyn am
gefnogaeth y clinigwyr, rheolwyr a gweithwyr
proffesiynol eraill sy'n gweithio mewn
gwasanaethau gofal heb ei drefnu. Bydd
angen i'r staff hyn weithio mewn ffyrdd
gwahanol a bydd angen darparu
arweinyddiaeth glinigol a rheoli sy'n effeithiol
yn fwy cyson nag a welwyd yn ystod ein
gwaith maes er mwyn ennill cefnogaeth.
29 O ystyried y pwysau ar y system, bydd newid
y system gofal heb ei drefnu yn gofyn am i'r
bobl sy'n ei defnyddio chwarae rhan
weithredol. Gan adeiladu ar asesiad cadarn
o'r galw a'i arwain yn genedlaethol gan
Lywodraeth y Cynulliad, mae angen i gyrff y
sector cyhoeddus helpu'r cyhoedd i wneud
gwell dewisiadau ynghylch gwasanaethau
gofal heb ei drefnu.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 11
12
Mae cryn le i wella'r ffordd y mae'r system yn
dysgu ac yn gwella
30 Ar hyn o bryd mae'r ffordd y caiff perfformiad
y system gofal heb ei drefnu ei fesur yn
canolbwyntio ar berfformiad gwasanaethau
unigol yn hytrach na chanolbwyntio ar y llwybr
gofal cyfan yn y system. Er bod y ffocws
presennol ar ba mor gyflym y gellir cael
gafael ar rannau penodol o'r system yn
adlewyrchu materion sy'n pryderu'r cyhoedd,
nid yw'r mesurau perfformiad yn cael eu
cydbwyso yn absenoldeb dangosyddion o
ran ansawdd neu ganlyniadau gofal heb
ei drefnu.
31 Mae'r cysylltiadau gwael rhwng systemau
gwybodaeth gwahanol wasanaethau yn ei
gwneud yn anodd iawn olrhain taith unigolyn
drwy'r system ac asesu a oedd ei ganlyniad
yn y pen draw yn gadarnhaol. Mae
Llywodraeth y Cynulliad yn arwain gwaith i
gyflwyno mesurau perfformiad newydd ar
gyfer gofal heb ei drefnu ac mae wedi
datblygu cyfres ragarweiniol o ddangosyddion
sy'n canolbwyntio llawer mwy ar systemau a
materion rhyngwynebu yn hytrach na
pherfformiad gwasanaethau unigol.
32 Gall rhannu ac addasu arfer da leihau
dyblygu a chost tra'n gwella effeithiolrwydd
gwasanaethau. Rydym wedi cyflwyno amryw
astudiaethau achos o arfer da neu ddiddorol
ond cafwyd bod cryn le i wella'r broses o
rannu a gwerthuso arfer da sy'n berthnasol i
ofal heb ei drefnu.
Argymhellion
Dylai'r argymhellion hyn gael eu hystyried ochr yn
ochr â'r argymhellion a wnaed gennym yn ein
hadroddiadau blaenorol ar y gwasanaeth
ambiwlans, y broses o drosglwyddo cleifion a Galw
Iechyd Cymru. Rhydd Atodiad 2 fanylion yr
adroddiadau blaenorol hyn. Rydym wedi llunio ein
hargymhellion ar sail y tri maes o gynllunio a
darparu gofal heb ei drefnu sy'n galw am weithredu
yn y ffordd fwyaf cyflym a phendant:
a cynnwys y cyhoedd a chael gafael ar
wasanaethau gofal heb ei drefnu;
b gwaith cynllunio strategol lleol a chenedlaethol;
c darparu gwasanaethau gofal heb ei drefnu ar
lawr gwlad.
Cynnwys y cyhoedd a chael gafael ar
wasanaethau gofal heb ei drefnu
1 Mae'r system gofal heb ei drefnu yn gymhleth
a gall pobl fod yn ansicr o ran sut i gael help
a ble i'w gael. Gellir cael help mewn sawl
ffordd ac mae'r pwyntiau mynediad at y
system yn newid ar adegau gwahanol o'r
dydd ac mewn ardaloedd daearyddol
gwahanol. Gall y materion hyn hefyd ei
gwneud yn anodd i weithwyr iechyd a gofal
cymdeithasol proffesiynol wybod pa
wasanaethau sydd ar gael ac ar ba adegau
o'r dydd, gan felly achosi problemau wrth
atgyfeirio cleifion. Gall dylunio gwasanaethau
ar sail y galw a chynnwys y cyhoedd yn
effeithiol helpu'r cyhoedd i wneud dewisiadau
gwell ynghylch sut i gael gafael ar
wasanaethau gofal heb ei drefnu. Cynhelir
ymgyrch gyfathrebu beilot yng Ngogledd
Cymru ar hyn o bryd sy'n seiliedig ar
enghraifft o arfer da o Loegr. Er mwyn
cynnwys y cyhoedd yn fwy a'i gwneud yn
haws i gael gafael ar wasanaethau gofal
heb ei drefnu, argymhellwn y dylid gwneud
y canlynol:
Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 12
13Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
a Dylai Llywodraeth y Cynulliad
ddatblygu strategaeth gyfathrebu
genedlaethol i wella dealltwriaeth y
cyhoedd o sut y gall gael gafael ar
wasanaethau gofal heb ei drefnu yn y
ffordd fwyaf priodol. Dylai’r strategaeth
hon ganolbwyntio ar negeseuon lefel
uchel sydd yr un mor gymwys ledled
Cymru waeth beth fo’r modelau
gwasanaethau gofal heb ei drefnu lleol
ac o dan ba amgylchiadau y dylid
defnyddio’r gwasanaethau hyn.
b Ar sail eu dadansoddiad o'r galw am
wasanaethau gofal heb ei drefnu a
chyfluniad presennol gwasanaethau,
dylai'r byrddau iechyd newydd geisio
darparu pwyntiau mynediad at ofal heb
ei drefnu sy'n adlewyrchu natur y galw
yn well. Fel rhan o unrhyw broses o
resymoli pwyntiau mynediad at y
system yn y dyfodol, dylai byrddau
iechyd ystyried y canlynol:
i a ddylai fod modd cysylltu ag un
pwynt mynediad dros y ffôn bob awr
o'r dydd a'r nos;
ii a allent sefydlu canolfan ar gyfer pob
atgyfeiriad at wasanaethau gofal heb
ei drefnu ac achosion o drosglwyddo
cleifion rhwng rhannau o'r
gwasanaeth gofal heb ei drefnu, gan
ddefnyddio'r dechnoleg briodol i
drosglwyddo galwadau a data
cleifion yn uniongyrchol i
wasanaethau gofal heb ei drefnu
eraill;
iii a ddylai'r gwasanaethau gwahanol
ddefnyddio system frysbennu neu
asesu gyffredin, gytûn a threfniadau
llywodraethu clinigol cytûn;
iv a ddylid cynnal cyfeiriadur o
wasanaethau a gaiff ei ddiweddaru'n
rheolaidd er mwyn rhoi manylion am
sut i gysylltu â gwasanaethau eraill i
ddefnyddwyr gwasanaethau.
2 Mae'r gofal ar fyrder a ddarperir gan feddygon
teulu a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes
gofal sylfaenol yn rhan hollbwysig o'r system
gofal heb ei drefnu yng Nghymru, boed hynny
yn ystod oriau arferol neu'r tu allan i oriau.
Fodd bynnag, nododd ein hadolygiad fod
darlun cymysg yn bodoli o ran cael
apwyntiadau gofal sylfaenol ar fyrder ac
ymweliadau cartref. Er yr ymddengys fod pobl
yn fodlon ar wasanaethau meddygon teulu ar
y cyfan, mae tystiolaeth y gall rhai pobl mewn
rhai ardaloedd ei chael yn anodd cael y
gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gan ofal
sylfaenol. Dylai'r byrddau iechyd newydd
achub ar y cyfleoedd yn eu cylch gwaith
gofal sylfaenol a gofal eilaidd er mwyn
gwella’r broses o integreiddio gofal heb ei
drefnu, drwy er enghraifft:
a cynnal dadansoddiad lleol i dynnu sylw
at yr ardaloedd lle nad yw pobl yn gallu
cael apwyntiadau gofal sylfaenol ar
fyrder yn gyson;
b gweithio gyda meddygfeydd i sicrhau
bod eu horiau gwaith yn unol â'r rhai a
nodwyd yn y contract ar gyfer
Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol;
c gan ddefnyddio canlyniadau eu
dadansoddiad lleol, gweithio gyda
meddygfeydd i ystyried diwygio eu
trefniadau o ran cael gafael ar
wasanaethau a'u horiau agor er mwyn
diwallu anghenion eu cleifion
cofrestredig yn well;
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 13
14
d adolygu darpariaeth gwasanaethau
gofal sylfaenol y tu allan i oriau yn ardal
y bwrdd iechyd, gan gynnwys ystyried
natur ymatebol y dulliau presennol o
gael ymweliadau cartref ar fyrder a
ddefnyddir gan bobl.
3 Mae cryn le i wella datblygiad llwybrau gofal
a'r defnydd a wneir ohonynt oherwydd ni
chaiff y gofal cywir ei ddarparu bob amser ar
yr adeg gywir ac yn y man cywir. Mae
llwybrau gofal yn amrywio'n sylweddol rhwng
gwahanol ardaloedd ac ar adegau gwahanol
o'r dydd. Un ffactor pwysig sy'n atal
datblygiad llwybrau gofal newydd a'r defnydd
mwy effeithiol o lwybrau gofal presennol yng
Nghymru yw'r ffaith bod diffyg llywodraethu
clinigol a rennir yn y system gofal heb ei
drefnu. Mae hyn yn golygu bod staff sy'n
gweithio yn y gwasanaethau gofal heb ei
drefnu amrywiol yn glynu wrth weithdrefnau
risg a llywodraethu gwahanol. Er mwyn
gwella llwybrau gofal, argymhellwn y dylid
gwneud y canlynol:
a Drwy'r fforymau gofal heb ei drefnu,
dylai'r byrddau iechyd newydd archwilio
eu llwybrau gofal presennol er mwyn
meithrin gwell dealltwriaeth o gryfderau
a gwendidau eu trefniadau presennol.
Dylai'r archwiliadau ganolbwyntio ar y
cyflyrau mwyaf cyffredin a brofir gan
bobl leol a dylent ystyried nid yn unig y
canlyniadau gofal pobl ond hefyd
ymwybyddiaeth o'r llwybrau gofal
ymhlith y cyhoedd ac, yn hanfodol,
weithwyr proffesiynol yn y system gofal
heb ei drefnu.
b Dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud
trefniadau i rannu'r gwersi sy'n deillio
o'r archwiliadau hyn yn genedlaethol er
mwyn ategu'r broses o rannu arfer da.
c Gan fanteisio ar eu cylch gwaith
ehangach, dylai'r byrddau iechyd
newydd gydweithio i ddatblygu dull
strategol o dreialu llwybrau gofal
newydd ledled Cymru. Dylai'r llwybrau
gofal hyn dargedu'r sefyllfaoedd
cyffredin lle y darperir gofal heb ei
drefnu a dylid cynnwys gwerthusiad
cenedlaethol, dysgu a rennir a
chyflwyno llwybrau gofal newydd yn
gyflym fel rhan o'r broses.
4 Ni rennir gwybodaeth am gleifion yn dda
rhwng gwasanaethau gofal heb ei drefnu.
Mae hyn yn golygu pan fydd unigolyn yn
gweld mwy nag un gwasanaeth wrth dderbyn
gofal y caiff sawl asesiad ac mae'n rhaid iddo
ateb yr un cwestiynau fwy nag unwaith. Am
nad yw gwasanaethau yn rhannu gwybodaeth
am gleifion yn dda, mae'n hynod anodd, ac yn
amhosibl mewn sawl achos, i ddadansoddi
taith unigolyn drwy'r system gofal heb ei
drefnu. Felly, prin y caiff llwybrau gofal pobl
drwy'r system eu dadansoddi ynghyd â'r
ffordd y mae'r llwybrau gofal hyn yn effeithio
ar y canlyniad yn y pen draw. Argymhellwn y
dylid gwneud y canlynol:
a Dylai Llywodraeth y Cynulliad
gynorthwyo sefydliadau iechyd a
llywodraeth leol i ddatblygu systemau
gwybodaeth cydgysylltiedig ar gyfer
darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Dylai’r trafodaethau ynghylch
cydgysylltu systemau gwybodaeth
gynnwys meddygon teulu a’u
cynrychiolwyr fel prif ddeiliaid
gwybodaeth am gleifion.
b Yn y byrdymor, dylai sefydliadau lleol
ddatblygu a defnyddio dogfennau
trafodion clinigol sy'n darparu manylion
am daith claf drwy'r system gofal heb ei
drefnu. Os caiff dogfennau trafodion
Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 14
15Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
clinigol eu defnyddio eisoes, dylai
fforymau gofal heb ei drefnu wneud
gwaith archwilio lleol er mwyn
dadansoddi cryfderau a gwendidau'r
trefniadau presennol. Dylai'r fforymau
gydweithio ar lefel genedlaethol i rannu
negeseuon yr archwiliadau hyn.
c Yn amodol ar werthusiad ffafriol, dylai'r
Cofnod Iechyd Unigol gael ei gyflwyno
ledled Cymru ac mewn amrywiaeth
llawn o leoliadau gofal heb ei drefnu.
Astudio'r system gofal heb ei drefnu yn lleol ac
yn genedlaethol
5 Mae angen cyflwyno modelau newydd sbon
er mwyn darparu gofal heb ei drefnu ar adeg
pan fo cyfyngiadau sylweddol o ran
adnoddau. Dylai'r modelau hyn gael eu
datblygu ar sail dadansoddiad cynhwysfawr
o'r ffordd y mae'r system yn gweithredu a'r
galw am wasanaethau ymhob cymuned
iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r elfennau
o'r gweledigaethau lleol a ddatblygwyd yn
canolbwyntio gormod ar wasanaethau ysbytai
heb roi ystyriaeth lawn i rôl awdurdodau lleol
yn ogystal â gwasanaethau iechyd cymunedol
a sylfaenol a all leihau'r galw ar y
gwasanaethau gofal heb ei drefnu mwy acíwt.
Rhwystrir gwaith cynllunio strategol gan
wybodaeth wael am natur amrywiol y galw am
wasanaethau a chostau yn y system gyfan.
Dylai'r byrddau iechyd newydd gymryd y
llyw o ran astudio ac ailddylunio
gwasanaethau gofal heb ei drefnu. Gan
adeiladu ar gynlluniau cyflenwi lleol tymor
byrrach sydd eisoes ar waith ac ystyried
newidiadau yn y system ehangach, dylai'r
byrddau iechyd:
a Ystyried cynnwys byrddau
gwasanaethau lleol yn y mater
trawsbynciol o ddatblygu system gofal
heb ei drefnu gydlynol; er engraifft,
drwy ddarparu, dylai'r byrddau
gwasanaethau lleol ofyn am
adroddiadau rheolaidd ar gynnydd o ran
datblygiad y system gofal heb ei drefnu
o leiaf.
b Nodi'n glir y bylchau presennol o ran
integreiddio rhwng y gwasanaethau
amrywiol a'r ffordd y maent yn bwriadu
mynd ati i integreiddio'n fwy a darparu
gofal di-dor o safbwynt y dinesydd.
c Gweithio gyda'u partneriaid i gytuno ar
gyfres o ganlyniadau dymunol y dylai
systemau gofal heb ei drefnu eu
cyflawni i'r boblogaeth a wasanaethir
ganddynt.
d Heb ganolbwyntio ar dargedau
cenedlaethol gorfodol, ystyried pa
fesurau a fyddai'n dynodi i'r
canlyniadau dymunol hyn gael eu
cyflawni'n llwyddiannus. Dylai'r
mesurau hyn arwain at newid y system,
cael sêl bendith gweithwyr proffesiynol
arweiniol, a chael eu defnyddio i
alluogi'r system i ddysgu wrth i fodelau
newydd o ofal heb ei drefnu gael eu
treialu a'u cyflwyno.
e Fel blaenoriaeth, llywio eu cynlluniau
drwy astudio'r galw a pherfformiad y
system gofal heb ei drefnu. Dylai'r data
ystyried y canlynol o leiaf:
i graddau a natur gweithgarwch yn y
gwasanaethau presennol;
ii graddau a natur y galw am ofal heb
ei drefnu yng ngwasanaethau gofal
heb ei drefnu'r sector iechyd a
llywodraeth leol, gan ystyried y
sefyllfaoedd y'u darperir ynddynt ac
achosion sylfaenol y galw;
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 15
16
iii dangosyddion ar gyfer ansawdd
gofal heb ei drefnu gan gynnwys
canlyniadau'r bobl sy'n defnyddio
gwasanaethau;
iv cael gafael ar wasanaethau, llif y
system a natur unrhyw oedi neu
achos diangen o drosglwyddo claf
neu'r defnydd o wasanaethau
penodol;
v costau gwasanaethau gofal heb ei
drefnu drwy'r system gyfan waeth
beth fo'r ffiniau sefydliadol.
f Gweithio'n effeithiol gyda
gwasanaethau awdurdodau lleol a
gwasanaethau yn y sector gwirfoddol er
mwyn cynyddu'r gefnogaeth amserol a
roddir i bobl i sicrhau nad yw bylchau
mewn pwyntiau mynediad at
wasanaethau cymunedol na phrinder
dewisiadau amgen i wasanaethau
ysbytai yn arwain at achosion diangen o
dderbyn cleifion i'r ysbyty.
6 Cytunir yn gyffredinol â'r egwyddorion a geir
yn strategaeth DECS ond fe'i beirniedir hefyd
am nad yw'n rhagnodol nac yn ddigon
penodol mewn perthynas â materion penodol
y mae’n fwyaf priodol eu pennu ar lefel
genedlaethol. Er ei bod yn gywir i osgoi
gorfanylu'r system gofal heb ei drefnu,
dylai Llywodraeth y Cynulliad
gynorthwyo'r byrddau iechyd newydd i
wella eu dull strategol o ymdrin â gofal
heb ei drefnu drwy:
a Yn dilyn y gwerthusiad o'r Strategaeth
beilot ar gyfer Gwasanaethau Sylfaenol
a Chymunedol a datblygiad cynllun
gweithredu, ystyried unrhyw
newidiadau a allai fod yn angenrheidiol
yn nhempled y cynllun cyflenwi lleol er
mwyn helpu byrddau iechyd a’u
partneriaid i ddatblygu eu strategaethau
gofal heb ei drefnu tymor canolig i
hirdymor eu hunain. Ar gyfer y rownd
nesaf o gynlluniau cyflawni lleol yn
2011, y prif ffactor a ddylai lywio'r
cynlluniau hyn yw'r angen i'r byrddau
iechyd newydd a'u partneriaid (yn
enwedig gofal sylfaenol, iechyd
meddwl, gofal cymdeithasol,
gwasanaethau ambiwlans a'r cyhoedd)
feithrin dealltwriaeth lawer mwy cadarn
o'r galw, a ddefnyddir i ddatblygu eu
cynlluniau a mesurau perfformiad lleol.
b Lle y bo'n briodol, cydgysylltu
datblygiadau lleol mewn perthynas â
darpariaeth gofal heb ei drefnu ar lefel
genedlaethol, gan ystyried er enghraifft:
i Materion yn ymwneud â'r gweithlu er
mwyn sicrhau bod pobl yn cael y
gofal cywir gan y gweithiwr
proffesiynol cywir. Yn arbennig, dylai
Llywodraeth y Cynulliad hwyluso
trafodaethau rhwng y byrddau
iechyd, yr ymddiriedolaeth
ambiwlans, a chyrff sy’n cynrychioli
gweithwyr gofal heb ei drefnu
proffesiynol, er mwyn datblygu
fframwaith clir sy'n fodd i ehangu
cwmpas arfer gweithwyr proffesiynol
ym maes gofal heb ei drefnu. Dylai'r
fframwaith hwn ategu'r gwaith
cenedlaethol o ddatblygu'r
proffesiwn parafeddygol ond darparu
cryn dipyn o hyblygrwydd lleol i
ategu atebion wedi'u teilwra i
fodloni'r galw lleol.
ii Yr angen i ddatblygu fframwaith i
gynorthwyo cyrff lleol i weithio tuag
at weithredu bob awr o’r dydd a’r nos
lle y bo’n briodol er mwyn ateb y
galw, gyda mwy o barhad, cysondeb
Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 16
17Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
a chydlyniad rhwng gofal a ddarperir
yn ystod oriau arferol a gofal a
ddarperir y tu allan i oriau.
iii Dylai Llywodraeth y Cynulliad
sefydlu dulliau o gynyddu
hyblygrwydd gweithluoedd iechyd a
llywodraeth leol, a'u haliniad, a ategir
gan gyfres o safonau cenedlaethol a
chynlluniau hyfforddi a datblygu
priodol.
iv Wrth ymateb i argymhellion ein
hadroddiad ar wahân, egluro rôl
bosibl Galw Iechyd Cymru yn y
dyfodol, ar lefel Cymru gyfan, yn y
system gofal heb ei drefnu ehangach
ac annog ei hintegreiddio'n well
mewn gwaith cynllunio
gwasanaethau lleol er mwyn gwella
llif cleifion drwy'r system.
Darparu gwasanaethau gofal heb ei drefnu ar
lawr gwlad
7 Mae problemau staffio mewn gwasanaethau
gofal heb ei drefnu yn cyfrannu at broblemau
yn y system. Ceir diffyg adnoddau mewn rhai
rhannau o'r system, gan gynnwys prinder staff
meddygol mewn adrannau achosion brys a all
arwain at beidio â gwneud penderfyniadau
clinigol ar lefel uwch yn ddigon cyflym mewn
rhai adrannau. Ffactor arall sy'n peri oedi wrth
wneud penderfyniadau ar lefel uwch yw'r
diffyg cynnydd a wnaed i ddatblygu rolau staff
arbenigol, estynedig. Gan weithio gyda
phartneriaid awdurdodau lleol, dylai'r
byrddau iechyd newydd gynnal adolygiad
sylfaenol o'u gweithlu gofal heb ei drefnu
er mwyn sicrhau bod cydbwysedd
rhesymol rhwng y cyflenwad a'r galw yn y
gwasanaethau a'r sectorau amrywiol. Yn
arbennig dylent:
a adolygu gweithgarwch a lefelau staffio
yn eu prif arbenigeddau acíwt ac
adrannau achosion brys gan
ddefnyddio'r adnoddau archwilio a
ddarperir yn fuan gan y Coleg
Meddygaeth Frys ddiwygiedig yn y
canllaw staffio;
b ystyried maint y gweithlu gofal
sylfaenol a'r defnydd a wneir ohono yn
y system i ategu gofal heb ei drefnu, er
enghraifft lleoli meddygon teulu mewn
adrannau achosion brys neu yn agos
atynt;
c sicrhau bod argaeledd a phatrymau
gwaith ymarferwyr nyrsio brys yn
bodloni'r galw yn ddigonol;
d ystyried cynyddu lefelau staff nyrsio lle
mae'r pwysau ar adrannau achosion
brys yn aml yn arwain at ymarferwyr
nyrsio yn gorfod cyflawni rolau nyrsio
craidd;
e cyflwyno gweithwyr proffesiynol
arweiniol ar gyfer gofal heb ei drefnu i
weithredu fel arweinydd mewn enw a
phwynt cyswllt o ran ymgysylltu â'r
gweithwyr proffesiynol yn eu maes. Mae
hyn yn angenrheidiol oherwydd ni fydd
modd newid heb gefnogaeth y
gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn
y system. Rhaid i weithwyr proffesiynol
arweiniol gwmpasu'r system gyfan gan
gynnwys yr holl broffesiynau sy'n
angenrheidiol i ddarparu gofal heb ei
drefnu mewn ffyrdd newydd.
8 Mae'r ffordd y caiff perfformiad y system gofal
heb ei drefnu ei fesur yn canolbwyntio'n
bennaf ar gael gafael ar wasanaethau unigol
yn hytrach na phrofiad cyfan yr unigolyn sy'n
derbyn gofal heb ei drefnu. Mae'r targedau
perfformiad presennol yn mesur rhannau
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 17
18
pwysig o'r daith ond nid ydynt yn adlewyrchu'r
daith gyfan, nac ychwaith yn adlewyrchu'r
canlyniad cyffredinol mewn unrhyw ffordd.
Gall rheoli perfformiad gan ddefnyddio
targedau sy'n canolbwyntio ar gael gafael ar
wasanaethau fod yn rhwystr i newid y system,
er gwaethaf y ffaith bod cael gafael ar ofal
heb ei drefnu yn bwysig. Argymhellwn y
dylai Llywodraeth y Cynulliad:
a Sicrhau bod y mesurau a ddatblygir
ganddi ar hyn o bryd yn ymgorffori
safbwynt system ehangach a sicrhau
eu bod:
i yn seiliedig ar archwiliad
cynhwysfawr o'r galw am
wasanaethau gofal heb ei drefnu;
ii yn cydbwyso mynediad, ansawdd a
chanlyniadau gan gydnabod yn
arbennig yr angen i osgoi rheoli
gwasanaethau clinigol gan gyfeirio at
yr amser y mae achos o ddarparu
gofal yn ei gymryd heb gyfeirio at ei
ansawdd na'r canlyniad i'r dinesydd;
iii yn cynnwys mesurau o berfformiad
gwasanaethau iechyd a mesurau sy'n
berthnasol i wasanaethau eraill yn y
sector cyhoeddus, yn enwedig y rhai
a ddarperir neu a gomisiynir gan
awdurdodau lleol.
b Sicrhau bod ei fframwaith rheoli
perfformiad yn ddigon hyblyg i ystyried,
ochr yn ochr â dangosyddion
cenedlaethol, ddulliau allweddol
sefydliadau lleol eu hunain o fesur
gwelliannau tymor hwy yn y system.
Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 18
19Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
Rhan 1 - Er gwaethaf nifer o gryfderau, nid yw'r system gofal
heb ei drefnu yn gweithredu mewn ffordd gydlynol yn aml
1.1 Mae'r adran hon o'r adroddiad yn nodi
cryfderau presennol y system gofal heb ei
drefnu yng Nghymru cyn trafod rhai o'r
problemau sy'n atal y system rhag gweithredu
mewn ffordd gydlynol.
Mae'r system gofal heb ei drefnu
yn diwallu ystod eang o
anghenion ac mae'n darparu
rhyw fath o help bob awr o'r
dydd a'r nos
1.2 Mae gan y system gofal heb ei drefnu yng
Nghymru rai cryfderau mawr ond efallai fod y
cryfderau hyn yn cael eu cymryd yn ganiataol
weithiau. Er gwaethaf y gwendidau yn y
system a nodir gan yr adroddiad hwn, rydym
yn cydnabod yn y rhan helaeth o sefyllfaoedd
brys, fod gwasanaethau gofal heb ei drefnu
yn llwyddo i ddarparu'r gofal sydd ei angen ar
bobl, pan fo'i angen arnynt.
1.3 Dengys Ffigur 1 y nifer fawr o wasanaethau
sy'n ymwneud â darparu gofal heb ei drefnu.
Mae'r ffaith bod cynifer o wasanaethau yn
gallu darparu gofal heb ei drefnu yn golygu
bod llawer o bobl yn cael dewis o ran y ffordd
y byddent yn hoffi i'w hanghenion gael eu
diwallu, er i ni nodi bod yr ystod eang hon o
wasanaethau yn gallu drysu pobl. Gan fod y
staff sy'n gweithio yn y gwasanaethau gofal
heb ei drefnu amrywiol yn meddu ar
arbenigeddau a sgiliau amrywiol, mae'r
system yn ddigon hyblyg i allu gofalu am bobl
ag ystod enfawr o anghenion, gofynion a
disgwyliadau gwahanol.
1.4 Un o gryfderau eraill y system yw ei bod yn
gallu diwallu anghenion nifer fawr o bobl.
Er nad oes gennym ddata ar gyfanswm nifer y
bobl a dderbyniodd ofal heb ei drefnu yng
Nghymru, rydym wedi amcangyfrif, yn ystod
2008-09, i bobl ddod i gysylltiad â'r
gwasanaethau canlynol bron i 2.2 filiwn o
weithiau: y gwasanaeth ambiwlans, adrannau
achosion brys mewn ysbytai, unedau mân
anafiadau, Galw Iechyd Cymru a
gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i
oriau9. Nid yw'r data hwn yn cynnwys rhannau
sylweddol eraill o'r system megis y gofal heb
ei drefnu a ddarperir gan lywodraeth leol ac
apwyntiadau gofal sylfaenol ar fyrder yn ystod
oriau gwaith arferol. Dywed strategaeth DECS
fod rhwng 2.3 miliwn a 2.4 miliwn o bobl yn
cysylltu â'u meddygfa bob blwyddyn ac er y
bydd llawer o'r achosion hyn wedi bod ar
fyrder, ni chaiff y wybodaeth hon ei chofnodi
mewn ffordd gadarn.
1.5 Un o gryfderau allweddol y system gofal heb
ei drefnu yw bod rhyw fath o help, boed yn
dawelwch meddwl, asesiad neu driniaeth, ar
gael bob awr o'r dydd a'r nos. Mae adrannau
achosion brys ysbytai a'r gwasanaeth
ambiwlans ymhlith yr enghreifftiau o
wasanaethau gofal heb ei drefnu sydd ar
waith bob awr o'r dydd a'r nos, drwy gydol yr
wythnos. Gall y gefnogaeth barhaus hon
dawelu meddyliau pobl a bod yn rhwyd
ddiogelwch i bobl na allant efallai gael help o
rywle arall.
9 Yn 2008-09 bu 977,555 o achosion o dderbyn cleifion i adrannau achosion brys mewn ysbytai ac unedau mân anafiadau. Mae'r data o'n harolwg o brif weithredwyr BILlau yn
awgrymu y gwnaed tua 514,000 o alwadau gan bobl a siaradodd â gwasanaethau amrywiol meddygon teulu y tu allan i oriau yng Nghymru yn 2008-09. Yn 2008-09, atebodd
Galw Iechyd Cymru 314,687 o alwadau. Yn 2008-09, ymatebodd yr ymddiriedolaeth ambiwlans i 315,057 o alwadau brys a 52,128 o alwadau ar fyrder gan feddygon teulu.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 19
20 Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
1.6 Ar y cyfan, caiff adrannau achosion brys
ysbytai a'r gwasanaeth ambiwlans eu
gwerthfawrogi'n fawr gan y cyhoedd. Yn
2007, dangosodd Arolwg Byw yng Nghymru
Llywodraeth y Cynulliad fod boddhad
cyffredinol ag adrannau damweiniau ac
achosion brys yn 83 y cant a bod boddhad
cyffredinol â'r gwasanaeth ambiwlans yn 93 y
cant10. Daeth adroddiad trosolwg ar y
cydadolygiadau o wasanaethau cymdeithasol
a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru
ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru i'r casgliad, er bod
gwasanaethau cyswllt y tu allan i oriau wedi
gwella ychydig rhwng 1998 a 2008, roedd
llawer llai o oedolion (57 y cant) yn fodlon ar
yr ymateb y tu allan i oriau a gafwyd gan
wasanaethau cymdeithasol na'r ymateb yn
ystod oriau gwaith arferol (85 y cant)11.
Dangosodd yr Arolwg o Gleifion Meddygon
Teulu yng Nghymru fod 88 y cant o gleifion yn
fodlon ar y gofal a gawsant yn eu meddygfa12.
1.7 Nododd astudiaeth a gomisiynwyd gan
Lywodraeth y Cynulliad yn 2008 i ystyried y
ffordd y mae'r cyhoedd yn dewis defnyddio
gwasanaethau gofal heb ei drefnu mai un o'r
agweddau mwyaf trawiadol ar ddisgrifiadau'r
bobl a gafodd eu cyfweld o ofal iechyd heb ei
drefnu oedd pa mor gadarnhaol yr oedd y
rhan fwyaf ohonynt o ran y profiad'13. Roedd a
wnelo cryn dipyn o'r sylwadau cadarnhaol â'r
gweithwyr proffesiynol a oedd yn gweithio yn
y system gofal heb ei drefnu. Dengys Blwch A
rai o'r safbwyntiau cadarnhaol a wnaed gan
bobl am ofal heb ei drefnu yng Nghymru.
10 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Canfyddiadau Arolwg Byw yng Nghymru 2007 o Farn Dinasyddion am Wasanaethau Cyhoeddus, Rhan 6 - Gwasanaethau Damweiniau ac
Achosion Brys a Rhan 7 - Gwasanaethau Ambiwlans.
11 Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, Adolygu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru 1998-2008, Dysgu Gwersi o'r Siwrnai,
Mehefin 2009.
12 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Arolwg Cleifion Meddygon Teulu Cymru, SDR 100/2009, 30 Mehefin 2009.
13 Cynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Understanding How the Public Chooses to Use Unscheduled Care Services, Mehefin 2008.
14 Cynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Understanding How the Public Chooses to Use Unscheduled Care Services, Mehefin 2008.
Blwch A - Enghreifftiau o rai safbwyntiau
cadarnhaol am ofal heb ei drefnu yng
Nghymru
a Rwy'n credu ei bod hi'n wych bod rhywun ar gael ar ben
arall y ffôn (Galw Iechyd Cymru) a'ch bod yn gallu
dweud wrthynt fod rhywbeth o'i le a chael eu barn am yr
hyn y dylech fod yn ei wneud oherwydd gallai eich
greddf fod yn dweud wrthych fod angen iddynt fynd i'r
ysbyty ond mae'n beth da cael rhywun wrth gefn.
b Cyngor da, gwasanaeth ambiwlans prydlon, gofal da yn
yr adran damweiniau ac achosion brys ac ar y wardiau.
c Dim ond pethau da sydd gennyf i'w dweud am yr adran
damweiniau ac achosion brys.
d Mae gennych gwsmer bodlon yma. Yn fy marn i cefais
wasanaeth rhagorol a rhaid canmol y staff i'r entrychion.
Rwy'n ffodus iawn i fyw o fewn 10 munud i adran
damweiniau ac achosion brys ac rwyf wedi ei defnyddio
ychydig o weithiau o'r blaen, gan dderbyn gwasanaeth
amserol ac effeithlon bob amser a wnaeth argraff dda
arnaf.
e Ar y cyfan teimlaf fod gennym wasanaeth iechyd
ardderchog sy'n cynnig yr holl gefnogaeth atodol, efallai
fod angen i fwy o bobl gael gwybod am y gweddill, hy,
mai nid adran damweiniau ac achosion brys neu feddyg
teulu yw'r unig opsiwn.
f Y peth gorau am fy ngofal i oedd pa mor gyflym y cefais
ymateb, o ran dychwelyd fy ngalwad gan Galw Iechyd
Cymru a pha mor gyflym y llwyddais i gysylltu â'r
gwasanaeth y tu allan i oriau a'r gallu i gael apwyntiad.
g Roedd y gwasanaeth ambiwlans yn rhagorol - roedd yn
ofalus ac yn ystyriol. Ni allaf ei ganmol ddigon.
h Cefais fy nhrin mor gyflym ac effeithlonrwydd oedd y
rhan orau ac roeddwn yn teimlo'n falch iawn o'n
gwasanaeth iechyd.
i Wel mae fy meddyg teulu yn ffrind hefyd ac rwyf wedi
bod yn un o'i gleifion ers cynifer o flynyddoedd. Nid oes
rhaid iddo edrych ar fy nodiadau o gwbl oherwydd mae'n
fy adnabod mor dda.
Ffynhonnell: Ymatebion i gais am safbwyntiau ar wefan SwyddfaArchwilio Cymru a safbwyntiau a gasglwyd fel rhan o waith ymchwilacademaidd AWARD14
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 20
21Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
Gall patrwm darniog
gwasanaethau yn y system
gofal heb ei drefnu esgor ar
aneffeithlonrwydd yn ogystal
ag ansicrwydd ac oedi i
ddefnyddwyr gwasanaethau
1.8 Er gwaethaf y lefelau boddhad uchel ar gyfer
rhai gwasanaethau gofal heb ei drefnu,
gwelwyd ystod eang o broblemau yn
ymwneud â diffyg cydlyniad cyffredinol yn y
ffordd y mae gwasanaethau gwahanol yn
cydweithio ar hyn o bryd. Mae'r diffyg
cydlyniad hwn yn arwain at ansicrwydd ac
oedi i bobl y mae angen gofal arnynt ynghyd
â'r defnydd aneffeithlon o adnoddau.
Gall y cyhoedd a'r gweithwyr proffesiynol sy'n
gweithio yn y sector iechyd a llywodraeth leol
fod yn ansicr ynghylch sut y dylent
ddefnyddio'r system
1.9 Mae'r ystod eang o wasanaethau gofal heb ei
drefnu a ddangosir yn Ffigur 1 (gweler
tudalen 5) yn rhoi dewis i bobl o ran ble y
cânt help. Yn achos llawer o'r gwasanaethau
hyn, gall defnyddwyr hefyd gysylltu â hwy
dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar ffurf
electronig dros y rhyngrwyd neu drwy e-bost.
Ond gall yr amrywiaeth o opsiynau fod yn
ddryslyd i rai pobl, fel y dangosir gan y
safbwyntiau ym Mlwch B.
1.10 Daeth gwaith ymchwil academaidd a
gynhaliwyd yng Nghymru yn dwyn y teitl
Understanding How the Public Chooses toUse Unscheduled Care Services i'r casgliadnad oedd gan lawer o ymatebwyr ddarlun
cyflawn o'r amrywiaeth o wasanaethau gofal
heb ei drefnu a oedd ar gael. Roedd
ymwybyddiaeth o wasanaethau yn amrywio
ac roedd ar ei huchaf yn gyson ar gyfer
gwasanaethau damweiniau ac achosion brys,
tra bod ymwybyddiaeth o wasanaethau y tu
allan i oriau fferyllfeydd ac unedau mân
anafiadau yn is16. Dywedodd yr adroddiad
hefyd fod ffiniau gofal heb ei drefnu yn
aneglur o ran yr amrywiaeth o wasanaethau a
gynhwyswyd ac o ran sut y caiff y llinell ei
thynnu rhwng gofal heb ei drefnu a gofal
wedi'i drefnu.
1.11 Mewn ymateb i'n harolwg, cytunodd prif
weithredwyr ymddiriedolaethau'r GIG y gall
ansicrwydd y cyhoedd ynghylch ble i gael
help yn ystod oriau arferol fod yn rhwystr sy'n
atal pobl rhag cael gofal cyflym ac effeithiol
heb ei drefnu. Fodd bynnag, nid oedd prif
weithredwyr byrddau iechyd lleol (BILlau),
Blwch B - Mae rhai defnyddwyr
gwasanaethau yn teimlo bod y system gofal
heb ei drefnu yn ddryslyd
a Mae'n ddryslyd dros ben ac mae'n edrych fel petai rhai
gwasanaethau yn dyblygu rhai eraill gan wastraffu
amser ac arian cyhoeddus.
b Nid oes neb yn rhoi ateb dros y ffôn. Rydych yn cael
eich hatgyfeirio'n ôl i'ch meddyg teulu bob amser. Mae'n
haws mynd i eistedd yn yr adran damweiniau ac
achosion brys.
c Nid ydynt yn hysbysebu'r mannau y gallwch eu ffonio
gyntaf, mae'n ymddangos fel petai diffyg cydbwysedd yn
y cyfryngau.
d Braf o beth fyddai cael 'un pwynt cyswllt' a allai hidlo fy
ymholiad i'r adran berthnasol yn hytrach na fy mod i'n
gorfod ceisio gwneud y penderfyniad hwnnw gan wybod
nad yw'r system yn gweithio fel y dylai mewn theori. Os
oes y fath unigolyn yna bydd yn gwybod beth nad yw'n
gweithio a sut i unioni pethau.
Ffynhonnell: Ymatebion i gais am safbwyntiau ar wefan SwyddfaArchwilio Cymru a safbwyntiau a gasglwyd fel rhan o waith ymchwilacademaidd AWARD15
15 Cynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Understanding How the Public Chooses to Use Unscheduled Care Services, Mehefin 2008.
16 Cynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Understanding How the Public Chooses to Use Unscheduled Care Services, Mehefin 2008.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 21
22 Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol na
meddygon teulu yn cytuno. Ar y cyfan roedd
yr ymatebwyr o'r farn bod mwy o ansicrwydd
ymhlith y cyhoedd ynghylch cael gafael ar
wasanaethau y tu allan i oriau nag yn ystod
oriau arferol.
1.12 Gan ychwanegu at gymhlethdod y system,
mae llawer o'r ffyrdd y gall pobl gael help yn
amrywio yn dibynnu ar yr amser o'r dydd
neu'r ardal ddaearyddol. Er enghraifft, mae
llawer o wasanaethau ar gau y tu allan i oriau
ac felly nid oes modd cysylltu â hwy, tra bod
rhai gwasanaethau eraill ond yn darparu
gwasanaethau i'w cleientiaid presennol y tu
allan i oriau. Gall yr amrywiaeth o
wasanaethau sydd ar gael ac felly'r pwyntiau
mynediad at y system amrywio rhwng
lleoliadau daearyddol, hyd yn oed o fewn
ardaloedd awdurdodau lleol.
1.13 Gall yr amrywiaeth o wasanaethau yn y
system ddrysu'r gweithwyr proffesiynol sy'n
gweithio yn y sector iechyd a llywodraeth leol.
Gall yr ansicrwydd hwn beri i'r gweithwyr
proffesiynol hyn atgyfeirio unigolyn i
wasanaeth penodol pan allai fod wedi bod yn
fwy priodol ei atgyfeirio i wasanaeth
gwahanol. Gall cyfeiriaduron o wasanaethau
helpu i wella dealltwriaeth o'r gwasanaethau
sydd ar gael, yn enwedig gwasanaethau’r
sector gwirfoddol. Dogfennau yw'r rhain sy'n
rhoi manylion am y gwasanaethau sydd ar
gael, oriau gwaith y gwasanaethau a'r meini
prawf a ddefnyddir gan wasanaethau i
benderfynu a all pobl ddefnyddio eu
gwasanaethau. Dangosodd yr adolygiad a
gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Genedlaethol
Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd
(AGAAGI) o asesiadau sylfaenol DECS fod
datblygu cyfeiriaduron o wasanaethau yn faes
nad oedd yn cael ei ddatblygu'n gyson yng
Nghymru. Mae ein gwaith maes hefyd yn
awgrymu bod y cyfeiriaduron sy'n bodoli yn
mynd yn hen yn gyflym am mai prin y cânt eu
diweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r
gwasanaethau sydd ar gael yn lleol. Fodd
bynnag, rhydd ein hadroddiad ar Galw Iechyd
Cymru fanylion prosiect peilot yn Sir
Gaerfyrddin lle mae Galw Iechyd Cymru yn
hyrwyddo'r defnydd o un cyfeiriadur a
gwasanaeth cyfeirio ar gyfer gwasanaethau
iechyd, llywodraeth leol a gwirfoddol17.
Gall pobl wynebu oedi wrth dderbyn gofal ac
mae'r oedi hwn yn aml yn effeithio ar
wasanaethau gofal heb ei drefnu
Er bod boddhad cyffredinol a gwelliant o ran derbyn
gofal sylfaenol, gall oedi wrth dderbyn gofal
sylfaenol arwain at rai cleifion yn defnyddio
gwasanaethau mwy acíwt
1.14 Gall natur ddarniog y system gofal heb ei
drefnu gyfrannu at achosion o oedi ar
adegau gwahanol wrth i bobl dderbyn gofal.
Gall y fath oedi gael ei brofi pan fydd unigolyn
yn gofyn am gymorth gyntaf, gall fod oedi
wrth ddarparu gofal neu gall fod oedi pan
gaiff unigolyn ei drosglwyddo i ofal
gwasanaeth arall.
1.15 Mae gofal sylfaenol yn chwarae rhan
hollbwysig o ran derbyn gofal heb ei drefnu,
gan ymdrin â’r rhan fwyaf o gysylltiadau
cychwynnol. Pan fydd gofal sylfaenol yn araf i
ymateb i geisiadau am ofal heb ei drefnu, gall
hyn arwain at bobl yn defnyddio
gwasanaethau mwy acíwt. Caiff 97 y cant o
feddygfeydd yng Nghymru daliadau
ychwanegol am sicrhau bod claf yn gweld
aelod priodol o'r tîm gofal sylfaenol o fewn 24
awr i gais am apwyntiad, sy’n safon llymach
na’r 48 awr sy’n gymwys yn Lloegr a’r Alban.
Yn gyffredinol, mae pobl yn fodlon ar y broses
o gael apwyntiadau gofal sylfaenol ar fyrder.
Nododd yr Arolwg o Gleifion Meddygon Teulu
yng Nghymru fod 83 y cant o'r ymatebwyr a
oedd wedi ceisio gweld meddyg yn weddol
17 Archwilydd Cyffredinol Cymru, Galw Iechyd Cymru Medi 2009, tudalen 45.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 22
23Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
gyflym wedi llwyddo i weld meddyg teulu neu
weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall ar yr
un diwrnod neu drannoeth18. Fodd bynnag, yn
ystod ein gwaith maes gwnaethom nodi rhai
pryderon gan y cyhoedd a gweithwyr
proffesiynol yn y sector iechyd a llywodraeth
leol ynghylch cael apwyntiadau gofal
sylfaenol. Un pryder penodol oedd ei bod
weithiau yn gofyn am ddyfalbarhad y
defnyddiwr gwasanaeth er mwyn cael
apwyntiad meddyg teulu ar fyrder. Dengys
Blwch C rai enghreifftiau o safbwyntiau
cadarnhaol a negyddol y cyhoedd ynghylch
derbyn gofal sylfaenol.
1.16 Awgrymodd ymarfer siopa dirgel a gynhaliwyd
gan Gyngor Iechyd Cymuned Gwent yn 2008
fod rhai pobl yn ei chael yn anodd cael
apwyntiadau gofal sylfaenol am fod
meddygfeydd ar gau am gyfnod estynedig
dros ginio a rhai prynhawniau. Hefyd
awgrymodd canlyniadau lleol yr Arolwg o
Gleifion Meddygon Teulu yng Nghymru fod
rhai problemau yng Ngwent. Ymhob ardal
awdurdod unedol namyn chwech, roedd mwy
nag 80 y cant o'r ymatebwyr i'r arolwg yn
gallu gweld meddyg teulu neu weithiwr gofal
iechyd proffesiynol ar yr un diwrnod neu
drannoeth19. Mae pedair o'r chwe ardal
awdurdod unedol hyn yng Ngwent20.
1.17 Hefyd awgrymodd canfyddiadau
Understanding How the Public Chooses toUse Unscheduled Care Services fod rhaiproblemau o ran derbyn gofal sylfaenol.
Dywedodd yr adroddiad fod argaeledd
apwyntiadau ar yr un diwrnod yn amrywio'n
fawr rhwng meddygfeydd ac y gall rhai
cleifion deimlo eu bod yn cael eu gadael allan
gan y trefniadau ar gyfer apwyntiadau.
Blwch C - Enghreifftiau o safbwyntiau
cadarnhaol a negyddol ynghylch derbyn
gofal sylfaenol
Safbwyntiau cadarnhaol
a (Dewisais weld fy meddyg teulu) am ei bod yn hawdd
cael apwyntiad.
b (Dewisais fynd i'm meddygfa) am ei bod yn lleol ac yn
gyfleus.
c (Mae fy meddygfa) yn lleol. Mae fy nghofnodion yno ac
maent yn fy adnabod. Gallaf bob amser weld nyrs os
nad oes angen i mi weld meddyg teulu. Ardderchog.
Safbwyntiau negyddol
a Pan ffoniais fy meddygfa i ofyn am apwyntiad ar fyrder
dywedwyd nad oedd rhai ar gael. Yna gofynnais am
gael siarad â meddyg. Y cyngor a gefais oedd ffonio'n ôl
wedyn. Ar ôl ffonio naw gwaith mewn diwrnod, ar yr
adegau y dywedwyd wrthyf, yn y diwedd gofynnais a
fyddai'r meddyg yn gallu fy ffonio i. Dywedwyd nad oedd
yn ffonio cleifion.
b Y peth gwaethaf (am fy ngofal) yw'r system fiwrocrataidd
a weithredir gan fy meddygfa wrth geisio gwneud
apwyntiad gyda'r meddyg rwyf am ei weld.
c (Mae gan fy meddygfa) system ddiderfyn ar gyfer cael
apwyntiad y diwrnod hwnnw.
d Rhaid i chi sefyll mewn ciw hyd yn oed cyn i'r drysau
agor er mwyn gweld meddyg y diwrnod hwnnw.
e Mae'r amser aros a geir ar hyn o bryd ar gyfer
apwyntiad meddyg teulu mewn llawer o feddygfeydd yng
Nghymru yn annerbyniol. Mae gan ein meddygfa fawr
restr aros sydd dros bythefnos am apwyntiadau gyda
meddyg a nyrs.
Ffynhonnell: Ymatebion i gais am safbwyntiau ar wefan SwyddfaArchwilio Cymru a safbwyntiau a gasglwyd fel rhan o waith ymchwilacademaidd AWARD21
18 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Arolwg Cleifion Meddygon Teulu Cymru, SDR 100/2009, 30 Mehefin 2009.19 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Arolwg Cleifion Meddygon Teulu Cymru, SDR 100/2009, 30 Mehefin 2009.20 Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Casnewydd, Sir Fynwy a Thor-faen.
21 Cynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Understanding How the Public Chooses to Use Unscheduled Care Services, Mehefin 2008.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 23
24 Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
1.18 Dengys system fonitro chwarterol Llywodraeth
y Cynulliad ar gyfer y Fframwaith Gweithredu
Blynyddol y bu problemau mewn rhai
ardaloedd awdurdod unedol penodol o ran
meddygfeydd nad ydynt yn bodloni gofynion
cytundebol22 ar gyfer oriau agor23.
Dengys yr adroddiad monitro ar gyfer y
chwarter yn gorffen Mehefin 2009 fod gan
bum ardal awdurdod unedol feddygfeydd nad
oeddent yn bodloni'r gofynion hyn, a bod tair
o'r ardaloedd hyn yng Ngwent24. Nid oedd
data ar gael ar gyfer tair ardal arall.
1.19 Cododd ein cyfweliadau gwaith maes a'r
ymatebion gan y cyhoedd ar ein gwefan rai
pryderon ynghylch yr anawsterau a'r oedi a
brofwyd wrth gael ymweliad cartref ar fyrder
gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd
proffesiynol arall. Mae'r safbwyntiau a
ddarperir ym Mlwch D yn awgrymu bod
rhywfaint o alw am well darpariaeth o ran
ymweliadau cartref. Fodd bynnag, mae'n
rhaid i ofal sylfaenol sicrhau cydbwysedd
anodd rhwng bodloni'r fath alw a
blaenoriaethu ymweliadau cartref ar sail
angen clinigol. Rhydd Astudiaeth Achos A
fanylion menter yn St Helens, Glannau Mersi,
sydd wedi llwyddo i wella argaeledd
ymweliadau cartref meddygon teulu ac wedi
arwain at well gofal cleifion yn ogystal ag
arbedion ariannol. Rhydd Astudiaeth Achos B
fanylion Tîm Gofal Integredig Penarth sydd
wedi llwyddo i leihau nifer y cleifion a
dderbynnir i'r ysbyty drwy ddarparu ymyriadau
gofal sylfaenol prydlon a chynnar ar gyfer
cleifion mewn cartrefi nyrsio a gofal.
Ceir arwyddion bod amseroedd ymateb
ambiwlansys yn gwella ledled Cymru ond dengys yr
amrywiad rhwng ardaloedd awdurdodau lleol fod
gormod o bobl yn parhau i wynebu oedi
1.20 Pan fydd pobl yn ffonio 999 i ofyn am
ambiwlans, mae hyn fel arfer yn golygu bod
achos brys gwirioneddol. Mae amseroldeb
yr ymateb ambiwlans felly yn hanfodol i
achub bywydau a rhoi'r siawns gorau o
wella'n llwyr i gleifion.
1.21 Ceir dadansoddiad llawn o amseroedd
ymateb ambiwlansys yn Atodiad 4.
Dangosodd ein gwaith blaenorol ar yr
ymddiriedolaeth ambiwlans fod perfformiad
wedi gwaethygu cryn dipyn mewn perthynas
ag amrywiaeth o fesurau ers mis Mehefin
2008. Dengys y data diweddaraf fod
perfformiad amseroedd ymateb Cymru gyfan
o ran galwadau lle mae bywyd yn y fantol
wedi gwella ers mis Rhagfyr 2008 a chafodd
y targed cenedlaethol ar gyfer ymateb i 65 y
cant o'r galwadau hyn o fewn wyth munud ei
gyflawni bob mis rhwng mis Mawrth 2008 a
Blwch D - Enghreifftiau o safbwyntiau
negyddol ynghylch cael ymweliadau cartref
gan feddygon teulu neu weithwyr gofal
iechyd proffesiynol eraill
a Ar yr adegau prin hynny mae'n teimlo fel y dylai meddyg
ddod i'r tŷ i helpu gyda rhywbeth. Fodd bynnag, y
teimlad yw bod y dyddiau hynny wedi hen ddarfod ac
nid oes gobaith cael meddyg i ddod i'r tŷ bellach.
b Gwrthododd y meddyg teulu fy ngweld er gwaethaf y
ffaith fy mod mewn poen, dywedodd wrthyf am gymryd
paracetamol a ffonio'n ôl am 9am fore trannoeth neu
aros tan ddydd Llun i weld fy meddyg teulu.
c Dylai mwy o feddygon teulu fod ar gael ar gyfer
ymweliadau cartref. Dylai meddygon teulu fod ar gael ar
gyfer apwyntiadau ac ni ddylai meddygfa galw heibio fod
mor llawn, neu dylai fod mwy o feddygon teulu ar gael i
fodloni'r galw.
Ffynhonnell: Ymatebion i gais am safbwyntiau ar wefan SwyddfaArchwilio Cymru25
22 Dywed canllawiau Llywodraeth y Cynulliad ar y Contract GMC fod meddygfeydd, o dan y Contract hwn, yn cael adnoddau i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol
rhwng yr oriau craidd 8am i 6.30pm. Noda ‘Delivering Investment in General Practice’ (Ionawr 2004) fod yn rhaid i oriau agor arferol meddygfeydd fod yn ddigonol i ddiwallu
angen rhesymol.
23 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adroddiad Monitro Fframwaith Gweithredu Blynyddol 2009-2010 GIG Cymru, Awst 2009.
24 Cymuned Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd a Thor-faen.
25 Cynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Understanding How the Public Chooses to Use Unscheduled Care Services, Mehefin 2008.
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 24
25Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
Astudiaeth Achos A - Cynllun Ymweliadau Acíwt ar Lannau Mersi
Mae a wnelo'r Cynllun Ymweliadau Acíwt â meddyg teulu lleol sy'n cael ei gyflogi'n benodol i gynnal ymweliadau cartref yn
ystod oriau gwaith arferol. Dangosodd y data fod meddygon teulu St Helen's yn atgyfeirio niferoedd cymharol uchel o bobl i'r
ysbyty. Un rheswm posibl dros hyn oedd bod meddygon teulu yn yr ardal, yr oedd llawer ohonynt yn rhedeg meddygfeydd ar
eu pen eu hunain, yn methu ag ymateb yn gyflym i geisiadau am ymweliadau cartref. Roedd yr oedi wrth ymateb yn aml yn
golygu y byddai cyflwr pobl yn gwaethygu a byddai hyn yn aml yn arwain at bobl yn penderfynu defnyddio gwasanaethau gofal
heb ei drefnu mewn ffordd amgen, gan yn aml alw am ambiwlans i'w cludo i'r adran achosion brys.
Cafodd y cynllun ei sefydlu gan United League Commissioning, consortiwm comisiynu sy'n gweithredu o feddygfeydd sydd
bellach yn cwmpasu 23 o feddygfeydd a thua 100,000 o gleifion. Penderfynodd y consortiwm ysgogi'r cynllun gan ddefnyddio ei
lwfans rheoli ac ymhen wyth wythnos roedd y cynllun ar waith.
Mae'r cynllun yn cyflogi meddyg crwydrol ar sail sesiynol. Mae'r meddyg hwn yn locwm proffesiynol lleol ac felly mae ganddo
wybodaeth fanwl am wasanaethau lleol a llwybrau gofal.
Mae cleifion yn ffonio eu meddygfa eu hunain os ydynt am gael ymweliad cartref. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall eu
meddygfa weld eu nodiadau ac felly mae yn y sefyllfa orau i gynnal asesiad o anghenion y claf dros y ffôn. Yn ôl y cynllun,
pwynt cyswllt cyntaf deallus yw hwn; mae'n sicrhau bod pob meddygfa yn parhau i fod yn atebol am ei phenderfyniadau.
Penderfynodd y consortiwm y byddai wedi bod yn rhy gymhleth i ddatblygu adnodd ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol i'w
ddefnyddio gan feddygfeydd a chytuno arno ac y byddai wedi bod yn rhwystr sylweddol i weithredu'r cynllun.
Os bydd y feddygfa o'r farn bod angen cynnal ymweliad cartref, mae'n anfon cais at staff dydd y cwmni cydweithredol y tu allan
i oriau meddygon teulu sy'n gyfrifol am gydlynu galwadau i'r meddyg teulu crwydrol.
Ar gyfartaledd, mae'r meddyg teulu crwydrol yn treulio 20 munud gyda phob claf, o gymharu ag wyth munud pan gynhelir yr
ymweliad cartref gan feddyg teulu'r claf ei hun. Mae'r meddyg teulu crwydrol hefyd yn cynnal 76 y cant o ymweliadau o fewn
awr o gymharu â llai na 10 y cant os caiff yr ymweliad ei gynnal gan feddyg teulu'r claf ei hun. Felly, mae'r gwasanaeth yn
osgoi unrhyw oedi lle y gall cyflwr claf waethygu, ac mae'r amser y gall y gwasanaeth ei neilltuo i bob claf yn tawelu meddwl
pob claf a'i atal rhag pryderu.
Os nad oes angen i'r meddyg teulu ymweld â chlaf, mae'n ymweld â rhestr o gartrefi preswyl er mwyn gwneud gwaith ataliol
rhagweithiol.
Ar ddiwedd pob sesiwn bydd y meddyg teulu crwydrol yn llenwi ffurflen safonol ac yn ei hanfon i feddygfa pob claf er mwyn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi am y triniaethau a gafwyd a'r camau a gymerwyd.
Roedd canfyddiad yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol bod ymweliadau yn ystod y dydd yn rhan o waith craidd GMC yr oedd
meddygon teulu yn cael eu talu amdano eisoes, yn broblem fawr i'r cynllun. Dadleuodd y consortiwm nad oedd meddygon teulu
lleol yn gwrthod cynnal ymweliadau cartref ond bod yr oedi o ran cynnal y fath ymweliadau fel rhan o'r model traddodiadol yn
fwy tebygol o arwain at dderbyn cleifion i'r ysbyty.
Mae'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol bellach yn rhedeg dau gynllun ar y cyd; un yn St Helen's ac un yn Wigan. Mae pob
cynllun yn costio tua £1,500 yr wythnos, sy'n cynnwys sesiynau meddygon, trafnidiaeth a gwaith gweinyddol.
Awgrymodd gwerthusiad mewnol o'r cam peilot chwe mis fod un y cant o ymweliadau'r cynllun wedi arwain at dderbyn cleifion
i'r ysbyty o gymharu â phump y cant pan gynhaliwyd ymweliadau gan feddyg teulu'r claf ei hun. Mae'r consortiwm yn
amcangyfrif fod tua £1 miliwn yn cael ei arbed bob blwyddyn drwy osgoi derbyn cleifion i'r ysbyty.
Am nad oes angen i feddygon teulu lleol gynnal cynifer o ymweliadau cartref mwyach, un o fanteision cysylltiedig y cynllun yw
bod pob ymweliad gan y meddyg teulu crwydrol yn rhyddhau tua 30 munud o amser meddyg teulu lleol. O ganlyniad, mae
meddygon teulu lleol wedi gallu cynyddu nifer yr apwyntiadau y gallant eu darparu.
Cred y consortiwm mai meddyg teulu a ddylai gynnal yr ymweliadau cartref yn hytrach na matron neu nyrs gymunedol. Y
rheswm dros hyn yw bod gan feddygon teulu gyfraddau ymgynghori cyflymach, eu bod yn fwy hyderus ac yn fwy profiadol yn
gyffredinol o ran gweithio gyda gwybodaeth sylfaenol am glaf yn unig ac am fod cleifion yn dawelach eu meddwl os cânt eu
gweld gan feddyg.
Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cael ei weithredu rhwng 9am a 6.30pm yn ystod yr wythnos ac mae'n cyflogi dau feddyg teulu
crwydrol fel bod gan y gwasanaeth y gallu a'r adnoddau i ddiwallu anghenion pan fo'r galw ar ei fwyaf.
Ni fu unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol yn glinigol na chwynion ffurfiol am y cynllun sydd bellach yn cwmpasu tua 100,000 o
bobl mewn 23 o feddygfeydd.
Ffynhonnell: Gwaith maes Swyddfa Archwilio Cymru
UnscheduledCare726A2009_Welsh_V18:Layout 1 08/12/2009 11:22 Page 25
26 Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan
Astudiaeth Achos B - Tîm Gofal Integredig Penarth
Mae gan Benarth, ym Mro Morgannwg, boblogaeth sy'n heneiddio lle mae un o bob deg claf sydd wedi'i gofrestru gyda'r pedair
meddygfa yn 75 oed neu'n hŷn. Mae gan Benarth hefyd nifer fawr o welyau mewn cartrefi nyrsio a chartrefi preswyl. Nododd
gwaith dadansoddi yn 2007 fod meddygon teulu yn cynnal 28 o ymweliadau cartref yr wythnos ar gyfartaledd, gyda mwy na
hanner yr ymweliadau hyn â chartrefi nyrsio a chartrefi preswyl. Hefyd, cafodd 35 o breswylwyr Penarth ar gyfartaledd eu
derbyn i'r ysbyty ar frys bob wythnos o ganlyniad i gyflyrau cronig neu am eu bod wedi syrthio.
Datblygodd Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg a'r pedair meddygfa ym Mhenarth gynnig i gyflwyno tîm clinigol a rennir yn
cynnwys ffisegydd cymunedol a dwy nyrs gofrestredig. Mae’r tîm hefyd bellach yn cael ei gefnogi gan ffisegydd gofal yr
henoed, cofrestrydd arbenigol ac ymgynghorydd rhan-amser. Sefydlwyd y tîm i weithio gyda'r meddygfeydd, y cartrefi nyrsio, y
cartrefi preswyl, ysbytai a'r awdurdod lleol i nodi cleifion a fyddai'n cael budd o asesiad manwl a chefnogaeth gwasanaethau
sy'n gysylltiedig â gofal sylfaenol. Mae'r tîm, a adwaenwyd fel y Tîm Pwysau Gaeaf i ddechrau, bellach yn dwyn y teitl Tîm
Gofal Integredig Penarth (PICT). Mae staff y tîm yn cael eu his-gontractio gan Nester Primecare ar hyn o bryd ac yn 2008-09
£131,000 oedd cyfanswm y costau uniongyrchol, gyda chostau parhaus yn cael eu talu gan y meddygfeydd.
Mae PICT yn gweithredu pum diwrnod yr wythnos, ac eithrio gwyliau banc. Mae'r ffisegydd cymunedol yn gweithio tridiau'r
wythnos, sef dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener, tra bod y ddwy nyrs gofrestredig yn gweithio tridiau'r un, gyda'r ddwy yn
gweithio ar ddydd Mercher. Mae PICT yn gweithredu o un o'r meddygfeydd ym Mhenarth gydag un meddyg teulu arweiniol yn
gyfrifol am reoli gwaith y tîm. Cafodd y ffordd y mae'r tîm yn gweithredu, gan gynnwys ei gyfrifoldebau clinigol, penderfyniadau
clinigol, system cadw cofnodion a'r ffordd y mae'n cysylltu meddygfeydd, ei datblygu gan y meddygfeydd a chytunwyd arni
ganddynt. Mae'r tîm yn cynnal clinigau rheolaidd mewn cartrefi nyrsio a chartrefi preswyl ac mae'n derbyn atgyfeiriadau gan
feddygfeydd, gwasanaethau cymdeithasol ac ysbytai os yw'r cleifion yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf canlynol:
a yn gaeth i'w cartrefi ag anghenion gofal cymhleth sy'n gofyn am asesiad Lefel 1 a 2 er mwyn helpu i reoli cyflyrau cronig;
b yn byw mewn cartref preswyl ac ag anghenion cymhleth sy'n gofyn am asesiad Lefel 1 a 2;
c yn gaeth i'w cartrefi neu mewn cartref preswyl ag anghenion llai cymhleth, megis heintiau'r frest neu fân anhwylderau;
d yn byw mewn cartref nyrsio ag anghenion meddygol.
Mae PICT yn anelu at:
a wella iechyd a lles pobl hŷn fregus;
b gwella'r broses o reoli cyflyrau cronig ymhlith pobl hŷn fregus;
c cydgysylltu a darparu gwasanaethau amlddisgyblaethol mewn lleoliad gofal sylfaenol;
d cefnogi staff mewn cartrefi nyrsio a chartrefi preswyl i reoli anghenion iechyd preswylwyr yn fwy effeithiol;
e lleihau nifer yr achosion nas cynlluniwyd o ddod i gysylltiad â gwasanaethau gofal iechyd, er enghraifft gwasanaethau
meddygon teulu y tu allan i oriau a gwasanaethau ambiwlans;
f lleihau nifer yr achosion nas cynlluniwyd o dderbyn cleifion i'r ysbyty.
Yn 2007 pennwyd llinell sylfaen er mwyn asesu gwelliannau meintiol ac ansoddol ar gyfer cleifion a meddygfeydd, gan
gynnwys lleihau nifer yr achosion nas cynlluniwyd o dderbyn cleifion i'r ysbyty ac o ddod i gysylltiad â gwasanaethau y tu allan i
oriau, yn ogystal â gwella'r broses o gydgysylltu gwasanaethau cymunedol. Ers cynnal y dadansoddiad sylfaenol yn 2007, mae
nifer yr achosion nas cynlluniwyd o dderbyn cleifion i'r ysbyty ac o ddod i gysylltiad â gwasanaethau go