19
Dameg y Talentau

Dameg y Talentau

  • Upload
    eden

  • View
    57

  • Download
    8

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Dameg y Talentau. Yn aml roedd Iesu'n adrodd stori er mwyn dysgu gwers. Damhegion oedd yr enw am y storïau hyn. Un dydd roedd dyn yn mynd ar daith hir. Roedd am i'w weision ofalu am ei eiddo yn ystod ei absenoldeb, felly fe'u galwodd ynghyd. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: Dameg y Talentau

Dameg y Talentau

Page 2: Dameg y Talentau

Yn aml roedd Iesu'n adrodd stori er mwyn dysgu gwers. Damhegion oedd yr enw am y storïau hyn.

Un dydd roedd dyn yn mynd ar daith hir. Roedd am i'w weision ofalu am ei eiddo yn ystod ei absenoldeb, felly fe'u galwodd ynghyd.

Page 3: Dameg y Talentau
Page 4: Dameg y Talentau
Page 5: Dameg y Talentau

I'r gwas cyntaf rhoddodd bum talent. (Nid ceiniog oedd talent, ond pwys o arian gwerthfawr megis arian, ac roedd un talent yn werth mwy na £1,000. Felly derbyniodd y gwas hwn arian a oedd yn werth mwy na £5,000.)

Dechreuodd y dyn hwn weithio ar unwaith gan ddefnyddio ei arian nes ei ddyblu. Roedd bellach ganddo ddeg talent yn lle pump.

Page 6: Dameg y Talentau
Page 7: Dameg y Talentau

Rhoddodd y meistr ddau dalent i'r ail ddyn. Mwy na thebyg roedd yn meddwl mai dyna oedd y swm o arian y gallai'r dyn hwnnw ofalu amdano. Roedd yr ail ddyn hefyd yn llwyddiannus, a dyblodd ei arian. Dechreuodd gyda mwy na £2,000 a nawr roedd ganddo ddwywaith cymaint.

Page 8: Dameg y Talentau
Page 9: Dameg y Talentau

Nid oedd y trydydd dyn yr un mor gall a'r ddau arall, ond rhoddodd y meistr un talent iddo gan ddisgwyl iddo ofalu amdano'n dda. Roedd yntau hefyd wedi gallu cynyddu ei arian, ond palodd dwll a'i guddio yn y ddaear.

Page 10: Dameg y Talentau
Page 11: Dameg y Talentau
Page 12: Dameg y Talentau

Ar ôl amser maith, dychwelodd y meistr. (Mae rhai'n credu mai darlun o ddychweliad Iesu i'r nefoedd yw taith y meistr, ac mai barnu dynolryw yw ei ddychweliad o'r daith.) Roedd yn barod am adroddiad gan y gweision.

Page 13: Dameg y Talentau

Roedd y dyn a oedd wedi derbyn pum talent wedi dod â'i arian a dangosodd i'r meistr ei fod wedi'i ddyblu. Roedd yn hapus dangos y canlyniadau i'w meistr.

Roedd y meistr yn fodlon iawn. Meddai, "Fy ngwas da a ffyddlon! Buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig; byddaf yn rhoi llawer yn dy ofal. Dere i ymuno yn llawenydd dy feistr!"

Page 14: Dameg y Talentau
Page 15: Dameg y Talentau

Roedd y dyn a oedd wedi derbyn dau dalent yn dangos i'r meistr ei fod yntau hefyd wedi dyblu ei arian. Derbyniodd yr un geiriau canmoliaethus â'r dyn cyntaf a oedd wedi derbyn pum talent.

Page 16: Dameg y Talentau
Page 17: Dameg y Talentau

Roedd y dyn a oedd wedi derbyn un talent wedi datgloddio'r talent a'i gyflwyno gerbron y meistr. Cyhuddodd y meistr o fod yn ddyn caled i weithio iddo, gan ddweud ei fod wedi claddu'r talent trwy ofn. Fe'i dychwelodd i'r meistr gan ddweud, "Dyma i ti dy eiddo yn ôl."

Page 18: Dameg y Talentau
Page 19: Dameg y Talentau

Roedd y meistr yn grac iawn gyda fe gan ei alw'n was drwg a diog. Dywedodd y dylai'r dyn o leiaf fod wedi rhoi'r arian i fancwyr a chael peth llog.

Cymerodd y meistr ei dalent oddi wrth y dyn a'i roi i'r dyn yr oedd deg talent ganddo, a chafodd y dyn a oedd wedi derbyn un talent ei gosbi am nad oedd wedi defnyddio'r talent yn gall.