46
Dirgelwch Duw – Cwrs grawys 2019 Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, Grŵp Cynghori ynghylch Diwinyddiaeth Cenhadu Mae ein Cwrs Grawys ar gyfer 2019 yn turio’n ddyfnach i ddirgelwch Duw, gan geisio ailddarganfod yr hyn sydd wrth wraidd ein greddf i geisio Duw. Byddwn yn dilyn Iesu drwy ddarlleniadau’r Grawys, gan ganiatáu iddo ein denu, mewn cariad a rhyfeddod, i ddirgelwch bwriadau achubol Duw. Mae wyth uned o adnoddau, un ar gyfer pob wythnos yn y Grawys, dwy uned ychwanegol ar gyfer Dydd Mercher y Lludw a Sul y Blodau, ac uned amgen ar gyfer Sul y Mamau. Dydd Mercher Y Lludw - Dirgelwch Bywyd a Marwolaeth Darlleniadau Joel 2.1-2, 12-17 neu Isaiah 58.1-12 Salm 51.1-17 2 Corinthiaid 5.20b-6:10 Mathew 6.1-6, 16-21 Man cychwyn - Wedi’n gwneud ar ddelw Duw (Genesis 1.26) Cofia mai llwch wyt ti, ac i’r llwch y dychweli... Gall Dydd Mercher y Lludw fod yn ddiwrnod digon prudd, pan wahoddir Cristnogion i dderbyn arwydd y groes gan ddefnyddio llwch dail palmwydd a losgwyd mewn paratoad ar gyfer taith y Grawys. Gofynnir i ni feddwl am ddirgelwch bod yn fyw ac am y daith a ddilynwn o’r adeg y down i’r byd fel plant newydd-anedig hyd at yr adeg y byddwn yn ei adael. Os meddyliwch am hanes maith a dyfodol y ddaear fel llinell hir a dewis pwynt ar hap ar y llinell amser honno, mae’n hynod debygol na fyddwch yn fyw ar y pwynt hwnnw. Nid ydym yn byw yng nghyfnod y dinosoriaid; ni fyddwn yn byw yn y drydedd neu’r bedwaredd ganrif ar hugain fel mae arwyr Star Trek. Heddiw rydym ninnau’n byw. Er gwell neu er gwaeth, dyma ein hoes ni. Byddwn yn meddwl pa mor rhyfeddol yw hi bod ein bywydau gennym, yn fodau dynol wedi’u creu ar ddelw Duw, ac ynghylch yr hyn mae Duw am i ni ei wneud â’r amser sydd gennym. Mae pob bywyd dynol y tu hwnt o werthfawr, ac yn llawn o drysor, ystyr a phwrpas. A rhywle ar y llinell amser honno, mae gwreichionen fach sydd yn goleuo popeth. Chi yw’r wreichionen honno.

Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Dirgelwch Duw – Cwrs grawys 2019Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, Grŵp Cynghori ynghylch Diwinyddiaeth Cenhadu

Mae ein Cwrs Grawys ar gyfer 2019 yn turio’n ddyfnach i ddirgelwch Duw, gan geisio ailddarganfod yr hyn sydd wrth wraidd ein greddf i geisio Duw. Byddwn yn dilyn Iesu drwy ddarlleniadau’r Grawys, gan ganiatáu iddo ein denu, mewn cariad a rhyfeddod, i ddirgelwch bwriadau achubol Duw.

Mae wyth uned o adnoddau, un ar gyfer pob wythnos yn y Grawys, dwy uned ychwanegol ar gyfer Dydd Mercher y Lludw a Sul y Blodau, ac uned amgen ar gyfer Sul y Mamau.

Dydd Mercher Y Lludw - Dirgelwch Bywyd a Marwolaeth

Darlleniadau

Joel 2.1-2, 12-17 neu Isaiah 58.1-12 Salm 51.1-17 2 Corinthiaid 5.20b-6:10 Mathew 6.1-6, 16-21

Man cychwyn - Wedi’n gwneud ar ddelw Duw (Genesis 1.26)

Cofia mai llwch wyt ti, ac i’r llwch y dychweli...

Gall Dydd Mercher y Lludw fod yn ddiwrnod digon prudd, pan wahoddir Cristnogion i dderbyn arwydd y groes gan ddefnyddio llwch dail palmwydd a losgwyd mewn paratoad ar gyfer taith y Grawys. Gofynnir i ni feddwl am ddirgelwch bod yn fyw ac am y daith a ddilynwn o’r adeg y down i’r byd fel plant newydd-anedig hyd at yr adeg y byddwn yn ei adael.

Os meddyliwch am hanes maith a dyfodol y ddaear fel llinell hir a dewis pwynt ar hap ar y llinell amser honno, mae’n hynod debygol na fyddwch yn fyw ar y pwynt hwnnw. Nid ydym yn byw yng nghyfnod y dinosoriaid; ni fyddwn yn byw yn y drydedd neu’r bedwaredd ganrif ar hugain fel mae arwyr Star Trek. Heddiw rydym ninnau’n byw. Er gwell neu er gwaeth, dyma ein hoes ni. Byddwn yn meddwl pa mor rhyfeddol yw hi bod ein bywydau gennym, yn fodau dynol wedi’u creu ar ddelw Duw, ac ynghylch yr hyn mae Duw am i ni ei wneud â’r amser sydd gennym. Mae pob bywyd dynol y tu hwnt o werthfawr, ac yn llawn o drysor, ystyr a phwrpas. A rhywle ar y llinell amser honno, mae gwreichionen fach sydd yn goleuo popeth. Chi yw’r wreichionen honno.

Rhywbeth i’w drafod - Y Gorffennol, y Dyfodol a Heddiw

Sut brofiad ydych chi’n meddwl fyddai ymweld â Jerwsalem yn amser Iesu? Sut brofiad ydych chi’n meddwl fydd bywyd i bobl ymhen can mlynedd? Beth mae Dydd Mercher y Lludw a dechrau’r Grawys yn ei olygu i chi heddiw? Beth ydych chi’n meddwl yw ystyr bod ‘wedi eich gwneud ar ddelw Duw’?

Rhywbeth i feddwl am dano - ‘Rhyfedd ac ofnadwy y’m gwnaed’ (Salm 139.14)

Un

‘Pan anwyd Joe, rwy’n cofio mai’r peth cyntaf a feddyliais oedd “Fedra i ddim credu bod Mark a finnau wedi’n bendithio â’r bywyd newydd prydferth hwn”...

Roedd yn anhygoel, ei fod yn anadlu ac yn crio am y tro cyntaf oll...

Page 2: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Cymaint o bethau cyntaf, gan ddechrau â’r cri cyntaf hwnnw, y clwt budur cyntaf hwnnw! ...Roeddwn jest yn teimlo mor ddiolchgar....

Roeddwn i am ddiolch i bawb, i’r fydwraig, i Mark, fy rhieni, fy ffrindiau. Roeddwn i am ddweud diolch drosodd a throsodd am y bywyd newydd drudfawr hwn’.

Dau

‘Pan oedden ni’n gwybod bod salwch Pat yn derfynol, y cwbwl y gallwn feddwl amdano oedd, - dyna ei phen-blwydd olaf, ei Nadolig olaf, ei thro olaf yn yr ardd. Pan fuodd hi farw, roeddwn yn gafael yn ei llaw. Dyna’r peth diwethaf wnes i drosti pan oedd hi’n dal yn fyw. Meddyliais, “ble mae hi wedi mynd?” Mae’n ddirgelwch.’

Tri

...mae’r eiliad pan ddaw Duw i hawlio ei eiddo ei hun, pan mae pechod a methiant yn llithro i ffwrdd ac y cawn gip ar wir brydferthwch yr enaid, bob amser yn foment o ryfeddod llwyr.

Y Chwaer Catherine Wyborne, iBenedictines

Cwestiynau

Pam ydych chi’n meddwl bod pobl yn aml yn cael eu trechu gan emosiynau dyfnion ar adegau genedigaeth a marwolaeth?

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth fam newydd ynghylch pam oedd hi eisiau dweud diolch? Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth y gŵr oedd yn galaru am ei wraig mewn ymateb i’w

gwestiwn, ‘ble mae hi wedi mynd? Ym mha ffyrdd ydych chi’n gweld gwasanaethau bedydd ac angladd yn adlewyrchu dirgelwch

bywyd a marwolaeth?

Darn o’r ysgrythur i fyfyrio arno – Bywyd a Marwolaeth

Canwch utgorn yn Seion, bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd. Cryned holl drigolion y wlad am fod dydd yr Arglwydd yn dyfod; y mae yn agos— dydd o dywyllwch ac o gaddug, dydd o gymylau ac o ddüwch. Joel 2.1-2

Mae awdur Llyfr Joel yn sôn am bla enfawr o locustiaid sy’n duo’r nen ac am sychder ofnadwy. Y canlyniad yw newyn ac angau i’r bobl wrth i’r grawn a’r gwinwydd gael eu difetha. Mae’r awdur yn synio am y locustiaid fel byddin Duw ac am y trychineb hwn fel delwedd o Ddydd yr Arglwydd. Bydd Duw yn barnu pobl bechadurus a’r canlyniad yw marwolaeth a dinistr. Ond, yn rhyfeddol, mae Duw hefyd yn addo gwin, grawn ac olew o’r newydd ac adferiad y bobl. Os bydd y bobl yn credu ac yn troi at Dduw, bydd Duw yn eu hachub rhag marwolaeth i fywyd newydd.

Cwestiynau

Sut ydych chi’n meddwl oedd y bobl yn teimlo pan ddinistriwyd ffrwyth eu holl lafur caled gan y locustiaid gan eu gadael heb ddim i’w fwyta?

Sut mae awdur Llyfr Joel yn ymdrin â dirgelwch bywyd a marwolaeth?

Rhywbeth i’w wneud – Bywyd a Marwolaeth heddiw

Gwyliwch y darn fideo hwn o Planet Earth 2 y BBC (3 munud 44): https://www.youtube.com/watch?v=6bx5JUGVahk

Mae plâu o locustiaid yn parhau i ddigwydd yn ein byd ni heddiw. Sut ddylem ymateb i bobl y mae trychinebau naturiol yn bygwth eu bywydau?

Pa adnoddau sydd gennym heddiw i gynorthwyo pobl i fwynhau bywyd da ac i’w gwarchod rhag marwolaeth?

Page 3: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Pa UN peth allen ni ymrwymo i’w newid yn ystod y Grawys i gynorthwyo pobl y mae eu bywydau’n llai na’r hyn mae Duw yn ei ddymuno ar eu cyfer ac i gynorthwyo’r rhai sydd mewn perygl o farw?

Rhywbeth i’w weddïo

Dduw y Byw a’r Meirw,diolchwn i ti am rodd ein bywydau,am bob bywyd newydd, am bawb a ddaw ar ein hôl.

Diolchwn i ti am bawb a aeth o’n blaenau,ar fywyd y rhai yr ydym yn adeiladu ein bywydau ninnau,a’r rhai a gerddodd y llwybrau lle cerddwn ninnau heddiw.

Diolchwn i ti mai rhyfeddol ac ofnadwy y’n gwnaed,am y doniau a’r cyfleoedd a roddaist i ni,ac am dy gariad i’n cynnal drwy’r adegau da a’r adegau gwael.

Bydded i ni bob amser drysori bywydau pobl eraill.Cynorthwya ni i gofio’r rhai sy’n wynebu perygl a marwolaeth,ac i weithio i sicrhau cyflawnder bywyd i bawb.

Amen

Ar gyfer myfyrio gweddigar:

Jesus, remember me, when you come into your kingdom (Taizé)https://www.youtube.com/watch?v=RGB2E0NzO2A (3 munud 20)

Dirgelwch Duw - Daeth Duw yn un ohonom ni

Un o ddirgelion rhyfeddol y ffydd Gristnogol, fel y noda’r credoau, yw bod Iesu, sydd ‘o’r un hanfod â’r Tad’ yn dod yn fod dynol yn union fel pob un ohonom ni. Mae’r Duw a greodd y bydysawd a’r hyn oll sydd ynddo’n dod yn gyfyngedig i amser a gofod, dros gyfnod oes ddynol. Dyma Ymgnawdoliad Iesu. Ond beth mae hyn yn ei olygu o ddifrif?

Nid yw’r Efengylau’n manylu ar bob agwedd ar fywyd dynol Iesu. Ond maent yn dweud digon wrthym i’n galluogi i fod yn sicr bod Iesu’n fod dynol drwyddo draw, nid dim ond yn cymryd arno bod yn ddynol. Mae Iesu’n tyfu yng nghroth ei fam yn union fel mae’n rhaid i bob un ohonom ninnau. Mae yntau a’i fam yn profi perygl a dychryn genedigaeth. Genir Iesu’n ddiogel, ac mae’n tyfu ac yn dysgu. Mae’n teimlo fel ninnau ac yn profi emosiynau, gan gynnwys dicter, ofn a galar. Mae’n bwyta, yn yfed, yn cysgu ac yn deffro. Mae’n gorfod penderfynu sut i ufuddhau i Dduw a derbyn ewyllys Duw ar ei gyfer. Mae’n sefydlu perthynas gadarn â’i gyfeillion ac mae ganddo ofal am eraill. Dywedir wrthym ei fod yn dioddef poen fel y gwnawn ninnau, ac yn gwaedu. A’i fod yn marw fel y bydd raid i bawb ohonom ninnau farw. Ond nid dyna ddiwedd y stori...

Mae Ymgnawdoliad Iesu’n golygu nad yw Duw’n ymddangos yn ddieithr ac yn bell oddi wrthym. Nid yw’n rhy ogoneddus ac yn rhy nefol i ni ei ddeall. Pan fyddwn yn meddwl sut mae bod yn fyw yn teimlo i ni, gyda’i holl lawenydd a’i loes, gallwn fod yn sicr bod Duw yn gwybod beth mae hynny’n ei olygu hefyd, oherwydd bod Iesu wedi byw fel y gwnawn ninnau. Mae Dirgelwch yr Ymgnawdoliad yn ein sicrhau bod Duw yn deall ein sefyllfa a’i fod, pan fyddwn yn gweddïo, yn gwybod beth yw’n anghenion. Mae eich Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch (Mathew 6.8). Ar Ddydd Mercher y Lludw, pan fyddwn yn meddwl am ein bywydau ein hunain, gallwn fod yn sicr bod Duw yn gwybod sut rydym yn teimlo. Mae Duw gyda ni.

Page 4: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Yn Through a Glass Darkly, gan Jostein Gaarder, mae plentyn sy’n marw ac angel yn cael sgwrs. Dywed yr angel fod Duw yn edrych ymlaen at ganfod popeth ynghylch bywyd y plentyn a phrofiadau ei bywyd fel bod dynol.

Plygu glin a chalon wnawn,Iesu ddaeth i wisgo’n cnawd:Duw yn eiddo i ni gawn,a Iesu i ni’n frawd.Charles Wesley

Cwestiwn

Beth mae’r llinellau o emyn Charles Wesley (uchod) yn ei olygu i chi?

Rhywle i fynd – Treiddio i’r dirgelwch

Nawr ewch gyda Iesu i’r anialwch:

...Eisteddwch mewn distawrwydd a gosodwch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw o’r neilltu.

...Canolbwyntiwch ar anadlu’n dawel. Byddwch yn ymwybodol eich bod yn fyw.

...Cofiwch y byddwch farw ryw ddiwrnod – ond nid heddiw.

...Cofiwch fod gan Dduw ddiben ar eich cyfer, chi a wnaed ar ddelw Duw.

...Dewiswch un llun neu un gair neu un ymadrodd syml o’r adnodd hwn hyd yma.

...Gan gadw’r llun, y gair neu’r ymadrodd hwnnw yn eich meddwl,

...ymestynnwch at ddirgelwch a rhyfeddod Duw.

...Caewch eich llygaid am un funud, wedyn agorwch eich llygaid eto ac eistedd mewn tawelwch am un funud arall.

...Cofiwch nodi unrhyw beth sy’n dod i’ch meddwl.

...Rhowch ddiolch fel bo’n briodol.

Terfynwch â Gweddi’r Arglwydd.

Adnoddau eraill

Dysgwch ragor ynghylch Dydd Mercher y Lludw yn:http://www.spiritualjourneys.org.uk/explore/AshWednesday2.pdf

Page 5: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Y Grawys 1 - Dirgelwch Daioni a Drygioni

Darlleniadau

Deuteronomium 26.1-11 Salm 91.1-2, 9-16 Rhufeiniaid 10:8b-13 Luc 4:1-13

Man cychwyn - Pam mae yna dda a drwg yn y byd?

Pan mae pobl yn dweud na fedrant gredu yn Nuw ac nad yw’r ffydd Gristnogol yn gwneud unrhyw synnwyr, yn aml mae hynny oherwydd na allant ddygymod â’r ffaith bod drygioni digamsyniol yn bod yn y byd. Gall bodau dynol wneud pethau mor erchyll a bydd pobl dda yn aml yn dioddef o ganlyniad i weithredoedd pobl eraill sy’n defnyddio eu grym i niweidio ac i ormesu. Pam, mewn difrif, mae Duw’n caniatáu i’r haul dywynnu ar bobl dda a phobl ddrwg fel ei gilydd? (Mathew 5.45) Pam mae’r bobl ddrwg yn elwa ar draul eraill? Pam nad yw Duw’n ymyrryd i orfodi’r byd i fod yn fwy cyfartal a theg?

Nid cwestiynau newydd mo’r rhain ond rhan o fyfyrdod pobl ar hyd yr oesoedd ynghylch pam mae’r byd fel y mae, beth yw’r cyswllt rhwng Duw â dirgelwch daioni a drygioni, a pha ran sydd i ninnau yn hyn oll.

Pan mae Iesu’n dysgu ei ddilynwyr i weddïo, mae’n cynnwys yn benodol y geiriau hyn:

A phaid â’n dwyn i brawf,ond gwared ni rhag y drwg.

Mae hyn yn sefydlu’r cysylltiad rhwng llwybr ysbrydol o ufudd-dod i ewyllys Duw, lle byddwn yn ymroi i geisio’r hyn sy’n dda, a dysgu i osgoi dewis ffyrdd drygioni, oherwydd rydym oll yn cael ein temtio a’n profi. Yn y rhan gyntaf hon o’n taith drwy’r Grawys, mae angen i ni feddwl am ein rhyddid i ddewis pa fath o lwybr y byddwn yn ei ddilyn drwy’n bywyd dynol. Pa fath o rwystrau fydd ar ein ffordd? Ar ddechrau’r Grawys, fe deithiwn gyda Iesu i ymgodymu â’r cwestiynau anodd hyn.

Rhywbeth i’w drafod – Daioni a Drygioni

Sut fyddech chi’n dechrau sgwrs â rhywun a oedd yn poeni am y drygioni sydd yn ein byd?

Lle ydych chi’n gweld pobl o grefyddau eraill, neu bobl nad ydynt yn proffesu unrhyw ffydd benodol, yn ymroi i geisio lles eraill? Lle gall crefydd wneud niwed?

Sut fyddai byd llawn o ddaioni a thrugaredd yn edrych mewn difrif?

Rhywbeth i feddwl amdano – Temtasiwn

Ysgrifennodd y diwinydd Cristnogol cynnar, Origen o Alecsandria, fyfyrdod manwl ar Weddi’r Arglwydd. Dyma mae’n ei ddweud am y deisyfiad i’n cadw rhag temtasiwn a drygioni:

‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal yn ei rwydau. Dyna’r rhwydau yr aeth y Gwaredwr i’w canol er mwyn y rhai a oedd eisoes wedi’u dal ganddynt, ac yng ngeiriau Cân y Caniadau, gan edrych drwy’r dellt, mae’n ateb y rhai sydd eisoes wedi’u dal gan y rhwydi ac wedi syrthio i demtasiwn, ac meddai wrth y rhai sydd ar ffurf priodferch iddo: Cwyd, fy anwylyd, fy mhrydferth, fy ngholomen hardd. Ac i bwysleisio’r ffaith bod pob ennyd yn ennyd temtasiwn ar y ddaear, ychwanegaf nad yw hyd yn oed y sawl sy’n myfyrio ar gyfraith Duw ddydd a nos ac sy’n dilyn y dywediad, Y mae genau dyn cyfiawn yn myfyrio ar ddoethineb, fyth yn

Page 6: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

rhydd rhag cael ei demtio. Sawl un wrth ymroi i archwilio’n Ysgrythurau dwyfol sydd, drwy gamddeall y negeseuon a gynhwysir yn y Gyfraith a’r Proffwydi, wedi ymroi i syniadau annuwiol a drygionus neu rai ffôl a gwacsaw?’

Origen, Ynghylch Gweddi, XIXhttp://www.tertullian.org/fathers/origen_on_prayer_02_text.htm

Yn nychymyg Origen, pan fyddwn yn ildio i demtasiwn i wneud drygioni, rydym wedi ein dal fel pysgodyn yn gwingo mewn rhwyd. Rydym yn gaeth ac yn brwydro yn erbyn y rhwydi, wedi colli’n rhyddid i fyw bywyd yn ei gyflawnder. Gall Iesu, fodd bynnag, ein rhyddhau o’r rhwyd. Mae Origen hefyd yn ein hatgoffa nad yw bod yn bobl grefyddol yn ein rhwystro rhag cael ein temtio a syrthio i arferion drwg. Yn wir, efallai mai ein duwioldeb ei hun fydd yn ein gwneud yn haerllug ac yn llawn balchder, gan drin yr Ysgrythurau fel ein heiddo personol, a’u defnyddio i gyfiawnhau ein safbwyntiau ein hunain yn hytrach na gwrando ar yr hyn mae Iesu’n ei ddweud wrthym drwy’r efengylau.

Cwestiynau

Pa demtasiynau y bu raid i chi eu gwrthsefyll yn ystod eich bywyd? Lle ydych chi’n gweld pobl wedi eu caethiwo gan ddrygioni heddiw? Sut ydych chi’n meddwl y gallai pobl ddefnyddio’r Ysgrythurau i niweidio eraill? Sut fyddech chi’n egluro i rywun arall sut mae Iesu’n ein rhyddhau o rwydau temtasiwn a

drygioni?

Stori

Roeddwn yn styc mewn swydd oedd yn talu’n wael a wir angen tipyn bach mwy o arian. Roedd un o ’nghydweithwyr yn defnyddio cocên yn drwm. Byddai’n ffonio ei gyflenwr a byddai rhywun yn dod â’r cyffur iddo ar ei feic. Byddwn yn cael fy anfon i nôl y pecyn o’r tu allan i’r adeilad lle roedden ni’n gweithio. Un diwrnod, dywedodd y cludydd, gallet tithau wneud tipyn o arian ychwanegol fel fi. Mae’n hawdd. Chei di byth dy ddal. Roeddwn i’n dychmygu pob mathau o bethau – dim mwy o boeni am fethu talu biliau, medru mynd â ’ngwraig allan, prynu pethau neis i’r plant, cynilo ar gyfer gwyliau. Meddyliais am y peth ac wedyn meddyliais am y bobl oedd yn prynu’r cyffuriau a’r hyn y byddwn yn dod yn rhan ohono. Felly gweddïais na fyddwn yn cael fy nhemtio. Ac er i mi gael fy nhemtio, fy nhemtio’n arw, dywedais na.

Darn o’r ysgrythur i fyfyrio arno – Amddiffyniad Duw

Ond i ti, bydd yr Arglwydd yn noddfa;gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;ni ddigwydd niwed i ti,ac ni ddaw pla yn agos i’th babell.

Oherwydd rhydd orchymyn i’w angylioni’th gadw yn dy holl ffyrdd;byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.Byddi’n troedio ar y llew a’r asb,ac yn sathru’r llew ifanc a’r sarff.

‘Am iddo lynu wrthyf, fe’i gwaredaf;fe’i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.Pan fydd yn galw arnaf, fe’i hatebaf;byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder,gwaredaf ef a’i anrhydeddu.Digonaf ef â hir ddyddiau,a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth.’

Page 7: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Salm 91. 9-16

Yn Efengyl Luc, y Temtiwr sy’n dyfynnu’r darn hwn o’r Ysgrythur i herio Iesu. Y demtasiwn a osodir o’i flaen yw profi a yw addewid Duw yn llythrennol wir. Os yw Iesu’n gosod ei hun mewn perygl, yna rhaid i Dduw ddod i’w achub neu mae’r Ysgrythur hwn yn gelwydd. Mae Iesu’n gwrthod, gan ddweud na ddylid rhoi Duw ar brawf yn y fath fodd. Ond mae Iesu eisoes wedi dweud y dylem fyw ar air Duw. Felly pam mae’n gwrthod profi Duw â’r Ysgrythur? A ydym i ddeall bod yr Ysgrythur yn ein bwydo mewn ffordd wahanol a dyfnach?

Cwestiynau

Beth, yn eich tyb chi, mae’r salm hon yn ei ddweud wrthym am gariad Duw tuag atom? Pam ydych chi’n meddwl y dywedodd Iesu na ddylid profi Duw? Pam ddim? A fu adegau pan ydych chi wedi bod yn arbennig o ymwybodol o amddiffyniad Duw? A fu adegau pan fu i chi deimlo presenoldeb drygioni?

Rhywbeth i’w wneud

Gwyliwch y fideo hwn gan y Financial Times ynghylch trachwant ac ariangarwch (2 funud 59):https://www.ft.com/video/517e1de2-9e4e-39d9-80b3-37773ee23b00

Mae’r fideo’n gorffen ag awgrym y dylai pobl dalu mwy o sylw i gyngor crefyddol. Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n cael ei demtio/themtio gan gynigion o gyfoeth a grym?

Pa UN peth allech chi ei wneud o fewn eich cymuned i gynorthwyo pobl a allai gael eu temtio i wneud penderfyniadau gwael a allai eu niweidio hwy eu hunain a phobl eraill?

Rhywbeth i’w weddïo

Dduw cariadus, ffynhonnell pob daioni,cynorthwya ni i ddilyn dy Fab, Iesu Grist, ein Harglwydd,a chydag ef, ddeall a gwrthsefyll temtasiwn.Cynorthwya ni i osod eraill o flaen ein hunain,i wrthsefyll deniadau grym a hawddfyd,ac i geisio dy ewyllys a gwrando arni uwchlaw popeth.Amen

Ar gyfer myfyrio gweddigar:

Yr wyf yn sicr y caf weld daioni’r Arglwydd yn nhir y rhai byw.

Dirgelwch Duw – Mae Duw yn caniatáu

i ni ddewis

Un o’r pethau rhyfeddaf am Dduw yw bod Duw’n rhoi i ni ewyllys rydd i benderfynu drosom ein hunain sut i fyw a hyd yn oed i wrthod cariad Duw. Eto, fe roddir cyngor i ni hefyd ynghylch sut i ddewis yn ddoeth ac yn dda. Daeth Duw yn fod dynol yn Iesu, yn union fel ninnau. Yn hanes temtio Iesu cyn iddo gychwyn ar ei weinidogaeth gyhoeddus, gwelwn mewn ffordd ddramatig y dewisiadau mae’n rhaid i ni oll eu gwneud mewn bywyd. Waeth beth fo’n hamgylchiadau, mae gennym y gallu i wneud rhai dewisiadau – p’run ai i ddarganfod yr hyn mae Duw yn ei ddymuno ar ein cyfer a chanfod ein galwedigaeth oddi wrth Dduw, ynteu i droi ein cefnau a llunio ein llwybrau ein hunain drwy fywyd.

Mae’r rhyddid hwn i ddewis o blaid Duw a darganfod ewyllys Duw yn ein byd cymhleth yn ganolog i ddarganfod gwerth, ystyr a diben bywyd. Heb y rhyddid hwnnw, ni fyddem yn darganfod unrhyw beth ynghylch pwy ydym o ddifrif, nac yn canfod beth sy’n ein bodloni neu’n teimlo’n wirioneddol iawn. Ond mae peryglon yn dod gyda’r fath ryddid. Rydym yn rhydd i wneud dewisiadau amgen, i ddilyn llwybrau eraill, i geisio grym a rheolaeth dros eraill ac i anwybyddu galwad Duw arnom. Dywed yr efengylau

Page 8: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

wrthym fod Iesu hefyd wedi ystyried y dewisiadau hynny. Dywedir wrthym am y temtasiynau enfawr a deniadol hynny o rym a gogoniant yn y byd. Gŵyr Iesu fod y pethau hynny’n bosibl iddo. Wedi ei lethu gan hunanymwadiad, gall Iesu weld y llwybr hwnnw, yr hawddfyd hwnnw. Ond mae’n gwrthod yr holl ddewisiadau hynny, nid dim ond ar ei gyfer ef ei hun, ond oherwydd ei fod am wybod beth yw gweledigaeth Duw ar gyfer y byd, a chyflawni cenhadaeth Duw a chyfiawnder Duw. Mae ymateb Iesu i’r temtasiynau a osodir ger ei fron yn dangos y ffordd i ninnau. Os ydym wir am wybod pam fod drygioni’n bodoli yn y byd, yna rhaid i ni edrych yn ddwfn oddi mewn i ni ein hunain. Bodau dynol sy’n tra arglwyddiaethau ar y ddaear. Mae ein dewisiadau ninnau’n effeithio ar dynged ein holl gymdogion. Mae Iesu’n dangos i ni sut i wneud dewisiadau sy’n anrhydeddu ewyllys Duw ar ein cyfer. Mae’n dangos i ni sut i ddefnyddio’r ewyllys rydd a roes Duw i ni i greu’r dyfodol gorau posibl i ni, drwy ymwrthod â’r hyn sy’n hawdd a throi i ffwrdd o’r llwybrau sy’n arwain at ddrygioni a dinistr ar ein cyfer ni ein hunain ac eraill – dinistr hyd yn oed i’n byd.

Ac mae hyn yn ein cynorthwyo ni i weld mai un o’r pethau mwyaf rhyfeddol ynghylch Duw yw bod Duw yn ystyried y greadigaeth yn dda ac yn parhau i’n galw, i’n caru ac i’n bendithio er gwaethaf y perygl y byddwn yn troi ein cefnau, yn cerdded i ffwrdd ac yn difetha’r byd mae Duw wedi’i wneud.

Cwestiwn

Sut mae Iesu’n ein cynorthwyo i ddeall sut i geisio ewyllys Duw ar ein cyfer?

Deugain niwrnod, deugain nosdreuliaist yn yr anial dir;deugain niwrnod, deugain nos,ond heb ildio dim o’r gwir.

George Hunt Smyttan

Page 9: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Treiddio I’r Dirgelwch – Cael ein profi

...Eisteddwch mewn distawrwydd a gosodwch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw o’r neilltu.

...Canolbwyntiwch ar anadlu’n dawel.

...Ystyriwch yr holl bethau sy’n tynnu eich sylw:

...yr holl bethau rydych yn poeni amdanynt;

...popeth sydd yn eich temtio i fyw bywyd hawdd, dymuniadau, dyheadau.

...Meddyliwch mor benderfynol oedd Iesu i fod yn ufudd i’w Dad.

...Dewiswch un llun neu un gair neu un ymadrodd syml o’r adnodd hwn hyd yma.

...Gan gadw’r llun, y gair neu’r ymadrodd hwnnw yn eich meddwl,

...ymestynnwch at ddirgelwch a rhyfeddod Duw

...sy’n rhoi nerth i chi wynebu temtasiwn a’i oresgyn.

...Caewch eich llygaid am un funud, wedyn agorwch eich llygaid eto ac eistedd mewn tawelwch am un funud arall.

...Cofiwch nodi unrhyw beth sy’n dod i’ch meddwl.

...Rhowch ddiolch fel bo’n briodol.

Terfynwch â Gweddi’r Arglwydd.

Adnoddau eraill

http://www.youthworkresource.com/youth-work/ready-to-use-session-plans/lords-prayer-series-6-temptation-evil/

Page 10: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Y Grawys - Dirgelwch Gogoniant Duw

Darlleniadau

Genesis 15.1-12, 17-18 Salm 27 Philipiaid 3.17-4:1 Luc 13.31-35 or Luc 9.28-36, (37-43a)

Man cychwyn - Duw’n dal ein sylw

A ydych erioed wedi gwylio storm o fellt a tharanau’n agosáu? Yn erbyn duwch y cymylau, efallai y gwelwch ar amrantiad fellten fawr neu olau gwyn yn fflachio’n sydyn cyn diflannu. Os byddwch wedi edrych yn syth ar y golau, efallai y bydd y llewyrch llachar yn gadael ei ôl ar eich golwg. Gall hynny fod yn brofiad pwerus a syfrdanol – pan welwn rym ac egni natur ar waith.

Gall fod yn anodd egluro profiad trosgynnol, ac yn achos llawer o bobl sydd wedi cael profiadau grymus o Dduw, profiadau a newidiodd eu bywydau, ni fydd ganddynt y geiriau i’w disgrifio. Mewn celf glasurol, mae lluniau o Dduw a Iesu a golygfeydd o’r Beibl yn aml yn cynnwys eurgylchoedd disglair neu belydrau fel golau’r haul o gwmpas y ffigurau. Mae arlunwyr eraill wedi defnyddio aur ac arian i ddarlunio’r syniad o ogoniant Duw a’r profiad o edrych ar rywbeth sy’n nefol yn hytrach na daearol. Yn yr un modd, yn y darlleniad heddiw ynghylch Gweddnewidiad Iesu, gwêl Pedr Iesu’n disgleirio mewn dillad claerwyn llachar.

‘Mae’r byd wedi’i danio â mawredd Duw.Fe naid ei fflamau, fel pelydrau’n crynu o rimyn aur’

Gerard Manley Hopkins,God’s Grandeur

Rhywbeth i’w drafod - Cip ar weithgarwch Duw

Pryd a lle mae Duw wedi llwyddo i ddal eich sylw? Wrth edrych yn ôl, lle ydych chi’n gweld Duw yn gweithio yn eich bywyd? Beth yw eich profiad ysbrydol mwyaf cofiadwy? Pryd ydych chi’n gweld Duw yn tywynnu o fywydau pobl eraill?

Rhywbeth i feddwl amdano - Duw o’n cwmpas ac o’n mewn

Stori 1

Pan oeddwn yn dair ar ddeg oed, cefais freuddwyd ryfedd iawn. Dechreuodd fel breuddwyd ddigon diddim a chyffredin ynghylch bod mewn car gyda fy nhad yn mynd yn ôl i’n tŷ ni. Pan stopiodd y car, aeth fy nhad i mewn i’r tŷ ac es i’w ddilyn. Ond ni fedrwn agor y giât. Yna, roedd ein gardd fel petai wedi’i llenwi â golau haul gwyn iawn ac roedd rhywun yno. Ni fedrwn weld pwy yn iawn oherwydd yr holl oleuni yn yr ardd. Dywedodd yr un oedd yno, ‘Does dim angen i ti ddilyn dy dad’. Meddwn innau, ‘Pam?’ ac atebodd, ‘Achos rwyf angen i ti wneud rhywbeth i mi’. Yna daeth fy nhad allan a dweud wrthyf am ddod mewn, a diflannodd yr holl oleuni. Teimlwn yn drist iawn, yn meddwl lle’r aeth y goleuni a beth oeddwn i i fod i’w wneud ar gyfer y sawl a siaradodd â mi.

Page 11: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Stori 2

Fe gefais fy ngalw’n Shekinah gan fy rhieni, enw sy’n golygu ‘gogoniant Duw’. Rwyf wrth fy modd â’m henw. Mae gwreiddiau fy enw’n awgrymu adar sy’n hoffi eistedd yn glyd mewn nyth, fel iâr gyda’i holl gywion oddi tani. Felly mae fel petai Duw yn eistedd yn ein plith pan rydym yn cyd-weddïo neu’n ymgynnull ynghyd i addoli. Mae fel yr eiliad yna pan rydych yn gwybod yn iawn bod Duw gyda chi. Mae fel tân sanctaidd neu oleuni sanctaidd, pan ydych yn tanio’r canhwyllau ar gyfer gwasanaeth ac mae llewyrch presenoldeb Duw yno ar amrantiad. Mae fel pan ydych yn mynd i mewn i eglwys dywyll ac mae canhwyllau ynghyn neu lusern yn y seintwar ac rydych yn gwybod bod Duw yn y lle hwnnw. Rwyf wrth fy modd yn sôn wrth bobl am fy enw. Maen nhw bob amser yn gofyn cwestiynau ac rwy’n dweud wrthyn nhw am ymweld ag eglwys a gweld y Shekinah drostynt eu hunain!

Cwestiynau

Sut ydych chi’n meddwl y byddai’r breuddwydiwr wedi dehongli’r freuddwyd? Sut mae eich eglwys chi yn cyhoeddi gogoniant Duw a sut allech chi gyflwyno hynny i

ymwelwyr?

Darn o’r ysgrythur i fyfyrio arno – Arwydd cyfrin gan Dduw

Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno.

Wedi i’r haul fachlud, ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud rhwng y darnau hynny [o’r aberth].

Genesis 15.12;17

Yn yr olygfa ryfedd ac arswydus hon, mae Abraham yn syrthio i drymgwsg, cwsg mor drwm â chwsg Adda adeg creu Efa. Roedd Duw wedi addo wrtho y byddai ei ddisgynyddion mor niferus â sêr y nefoedd, ond ar ôl y weledigaeth gosmig allanol honno mae Abraham bellach ar ei ben ei hun gyda Duw yn y tywyllwch mewnol rhyfeddol hwn. Yma hefyd, mae’n dod i gyffyrddiad â Duw. Mae Duw’n parhau â’r addewid dwys, â’r cyfamod, ynghylch dyfodol Abraham a dyfodol ei ddisgynyddion. Mae’r olygfa’n diweddu â rhywbeth rhyfeddach fyth: ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud o gwmpas yr aberthau yn y tywyllwch.

Cwestiynau

A ydych chi erioed wedi synhwyro presenoldeb Duw yn allanol ym mhrydferthwch natur neu’n fewnol mewn breuddwyd? Os ydych, sut ddigwyddodd hynny a pha effaith gafodd y profiad ar eich bywyd?

Beth yw ystyr y goleuadau tanllyd i chi? Lle ydych chi’n meddwl ydyn ni’n gweld Duw ar waith heddiw?

Sut ydyn ni’n gwybod bod Duw’n driw i’r addewidion a wna?

Rhywbeth i’w wneud

Gwyliwch y darn hwn o fideo (4 munud, 26):https://m.youtube.com/watch?v=iYOXyZ9-qYw

Cwestiynau

Dywed y fideo fod eglwysi wedi’u hadeiladu i nodi’r fan lle digwyddodd y Gweddnewidiad. Sut allai eich eglwys chi fod yn arwydd o ogoniant Duw i eraill?

Pa UN peth allech chi ei wneud yn y gymuned i gynorthwyo pobl i weld ‘teyrnas, nerth a gogoniant’ Duw?

Page 12: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Rhywbeth i’w weddïo

Arglwydd Dduw,

Rwy ti’n ymddangos i ni mewn mannau annisgwyl:mewn coedwigoedd ac ar gopaon mynyddoedd,ar strydoedd y ddinas ac mewn goleuadau neon.Rwyt yn ein cyfarfod ym mywydau eraill,yn y rhai a garwn, yn y rhai digariad ar y stryd.Fe’th welwn yn llewyrchu drwy’r cyffredin.Clywn dy lef ddistaw, fain.Teimlwn dy bresenoldeb yn ein calonnau.Adwaenwn dy ogoniant yn ein haddoliad,wrth rannu’r bara a’r gwin,wrth gyd-greu cerddoriaeth,yn ein cymdeithas â’n gilydd.Cynorthwya ni i fynegi dy ogoniant yn ein geiriau ac yn ein tystiofel y gall pawb dy ddarganfod drostynt eu hunain.

Amen

Ar gyfer myfyrio gweddigar:

A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.

Ioan 1.14

Dirgelwch Duw - Duw yn datguddio gogoniant Duw

Daw ein Brenin mewn gogoniant ac urddas.Cyneuwn ein llusernau ac awn allan i’w gyfarfod.

Bydded i ni ganfod ein llawenydd ynddo ef,gan iddo yntau ymlawenhau ynom ninnau.Bydd yn wir yn ein llawenhau â’i oleuni rhyfeddol.Bydded i ni ogoneddu mawredd y Mab a rhown ddiolchi’r Tad hollalluog,yr hwn, gan dywallt ei gariad drosom, a anfonodd y Mab atom, i’n llenwi â gobaith iachawdwriaeth.Pan fydd yn datguddio ei hun, bydd y saint sydd yn eiddisgwyl mewn llesgedd a thristwchyn mynd allan i’w gyfarfod â’u llusernau ynghyn.

O Emyn i’r GoleuniSant Effrem y Syriad

Rhai o rannau mwyaf rhyfedd y Beibl yw’r darnau sy’n disgrifio’n rymus gyfarfyddiad pobl â Duw yn uniongyrchol neu ag angylion fel negeswyr Duw. Yn Llyfr Exodus, mae Moses yn gofyn am gael gweld cyflawn ogoniant Duw, ond mae Duw yn dweud na all neb gyfarfod Duw ei hun yn gyflawn a pharhau i fyw. Yn lle hynny, mae Duw’n rhoi cip i Moses ar y gogoniant ond yn ei warchod rhag cael ei lethu gan y Presenoldeb (33.17-23). Yn ddiweddarach, daw Moses i lawr o’r mynydd wedi’i weddnewid gan y cyfarfyddiad, a’i groen yn gloywi (34.29-30). Gelwir y fath gyfarfyddiadau yn Lladin yn mysterium tremendum et fascinans, sy’n golygu profiad o’r dwyfol sydd ar yr un pryd yn ddychrynllyd ac yn hudol, yn ennyn parchedig ofn. Pan mae’r proffwyd Eseciel yn cyfarfod Duw, mae’n cael ei lethu a’i syfrdanu’n

Page 13: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

llwyr gan y weledigaeth ryfeddol (Eseciel 1). Gwrandewch ar eiriau trawiadol Eseia 6.1-5, ac effaith syfrdanol llais yr angylion, â’u hadenydd yn curo, y mwg yn chwyrlio a’r pileri’n crynu. Yn gyffelyb, mae’r bugeiliaid yn hanes geni Iesu yn rhyfeddu ac yn arswydo o weld ysblander yr angylion (Luc 2.8-14).

Felly mae cyfarfyddiadau â Duw yn ein newid am byth, ac mewn ffyrdd y gall eraill eu gweld – os byddwn yn caniatáu iddynt weld. Mae Pedr yn pendroni ynghylch beth ddylai yntau ei wneud mewn ymateb i’r weledigaeth o ogoniant. Ond mae’r Ysgrythur yn rhoi’r ateb i ni – daw’r weledigaeth o ogoniant Duw mewn profiadau bythgofiadwy gyda newyddion ar gyfer bodau dynol ynghylch pwy yw Duw a beth mae Duw yn ei wneud yn y byd: y Deg Gorchymyn, y Newyddion Da am eni Iesu, y gwirionedd am Iesu fel Annwyl Fab Duw.

Ac yn ddiweddarach bydd y disgyblion yn canfod dau fod goruwchnaturiol llachar yn eistedd mewn bedd gwag.... ond mae hynny ar gyfer diwedd ein taith.

Darllenwch The Chapel gan R S Thomashttps://allpoetry.com/The-Chapel

Cwestiwn

Lle ydych chi’n meddwl mae pobl yn cyfarfod angylion Duw heddiw?

Rhywle i fynd - Treiddio i’r dirgelwch

Nawr ewch gyda Phedr i Fynydd Tabor:

...Eisteddwch mewn distawrwydd a gosodwch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw o’r neilltu.

...Canolbwyntiwch ar anadlu’n dawel.

...Meddyliwch am Bedr yn dringo’r mynydd gyda Iago a Ioan.

...Dychmygwch y datguddiad o ogoniant Duw ar gopa’r mynydd,

...datguddio ei gyfaill a’i athro fel Mab Duw, yr Anwylyd.

...Dewiswch un llun neu un gair neu un ymadrodd syml o’r adnodd hwn hyd yma.

...Gan gadw’r llun, y gair neu’r ymadrodd hwnnw yn eich meddwl,

...ymestynnwch at ddirgelwch a rhyfeddod Iesu wedi’i weddnewid.

...Caewch eich llygaid am un funud, wedyn agorwch eich llygaid eto ac eistedd mewn tawelwch am un funud arall.

...Cofiwch nodi unrhyw beth sy’n dod i’ch meddwl.

...Rhowch ddiolch fel bo’n briodol.

Terfynwch â Gweddi’r Arglwydd.

Adnoddau eraill:

Dysgwch ragor am y Gweddnewidiad yn:http://www.tertullian.org/fathers/cyril_on_luke_05_sermons_47_56.htm#SERMON%20LI

Sant Cyril o Alecsandria, Pregeth LI

Page 14: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal
Page 15: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Y Grawys 3 - Dirgelwch Pechod, Dioddefaint a Gobaith

Darlleniadau

Eseia 55.1-9 Salm 63.1-9 1 Corinthiaid 10.1-13 Luc 13. 1-9

Man cychwyn - Dirgelwch pechod

Am Anufudd-dod Cyntaf Dyn, a FfrwythY Goeden Waharddedig, ddaeth â blasAngau i suro’r Byd, a grym ein gwae,Wrth golli Eden...

Dyna agoriad cerdd enwog John Milton, Coll Gwynfa. Ei bwnc yw’r dirgelwch hynod hwnnw, sef y berthynas doredig rhwng bodau dynol a Duw’r creawdwr cariadus.

Fe ddechreuwn ddysgu am bechod yn llyfr Genesis, lle adroddir am yr anufudd-dod cyntaf yng Ngardd Eden. Mae Duw yn cynnig i’r bodau dynol cyntaf, Adda ac Efa, bopeth maent yn ei ddymuno o’r ardd, heblaw ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg. Ond mae Adda ac Efa’n troi’n fyddar i lais Duw ac yn hytrach yn gwrando ar lais temtasiwn, gan osod eu dymuniadau eu hunain o flaen dymuniad Duw ar eu cyfer. Unwaith y maent yn cymryd y ffrwyth o’r goeden, torrir y berthynas o ymddiriedaeth a chariad rhyngddynt â Duw, maent yn gwybod eu bod wedi ymwahanu oddi wrth Dduw ac ni allant mwyach fyw fel o’r blaen yn y byd hardd a fwriadodd Duw ar eu cyfer.

Felly mae’r stori hon yn gofyn i ni: a ydym yn ein hadnabod ein hunain yma? Os ydym yn meddwl am ein cyflwr fel bodau dynol, gallwn uniaethu ag Adda ac Efa ar ôl y ‘Cwymp’; creaduriaid ydym sydd yn hawdd yn dilyn ein dymuniadau ein hunain ac yn anwybyddu ein cydwybod: ‘Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw’r gwirionedd ynom’ (1 Ioan 1:8).

Ond weithiau rydym yn anwybyddu’r ffordd mae’r hanes yn parhau yn Llyfr Genesis. Y dirgelwch rhyfeddol yw bod Duw yn mynd gydag Adda ac Efa ac yn eu tywys hwy a’u disgynyddion drwy eu trafferthion ac ar eu taith drwy hanes. Nid yw Duw byth yn eu gadael. Ac mae hynny’n obaith enfawr. Yn y darlleniadau heddiw, clywn ganu mawl a dathlu gobaith yng nghanol anhrefn a dioddefaint y byd. A lle byddwn yn canfod y gobaith hwnnw yn y pen draw? Dyna fydd raid i ni ei ddarganfod wrth i ni barhau ar ein taith drwy’r Grawys gyda Iesu.

Rhywbeth i’w drafod - Pechod, dioddefaint a gobaith

Ydych chi’n cytuno â’r ffordd hon o egluro pechod? Ym mha ffordd arall allen ni feddwl am hanes Gardd Eden? Ym mha ffyrdd allai hanes Gardd Eden fod wedi cael ei gamddefnyddio neu ei gamddeall?

Sut fyddech chi’n siarad â rhywun sy’n dweud na fyddai Duw da yn caniatáu i’r byd fod yn y cyflwr mae ynddo heddiw?

Mae llawer o bobl heddiw’n meddwl mai ond gair am gamymddwyn yw ‘pechod’. Sut fyddech chi’n egluro wrthynt beth yw ystyr pechod yn y cyd-destun Cristnogol? Pam mae pechod yn ‘farwol’?

Pa fath o ddoniau ydych chi’n meddwl mae Duw yn eu rhoi i ni er mwyn gwneud gwahaniaeth I loes y byd?

Page 16: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Rhywbeth i feddwl amdano - Y ffyrdd rydym yn niweidio ein hunain ac eraill

Stori

Y tro cyntaf ges i fy stopio gan yr heddlu a chael fy nirwyo am yfed a gyrru, roeddwn yn teimlo i mi gael cam. Doeddwn i ddim ryw lawer uwch na’r terfyn, meddwn wrthyf fy hun. Roeddwn yn teimlo’n iawn. Mae llawer o bobl eraill yn gwneud pethau gwaeth. Felly fe ddechreuais yfed a gyrru ychydig mwy, jest i brofi i mi fy hun ’mod i’n iawn o ddifri a’i bod yn annheg mod i wedi cael fy stopio. Roeddwn yn peri loes i ’ngwraig, nad oedd am ddod i mewn i’r car gyda fi os oeddwn wedi bod yn yfed, a gwyddwn na ddylwn beri loes iddi, ond doedd dim ots gen i, roeddwn yn dal angen ‘profi’ mod i’n oce ac mewn rheolaeth.

Un noson, ar ôl bod yn y dafarn, roeddwn yn gyrru yn ôl adref pan glywais glec. Fe stopiais a dod allan o’r car. Roeddwn wedi taro beiciwr. Pan ddes allan, sylweddolais mai un o ’nghymdogion o’r ochr arall i’r stryd oedd y beiciwr. Fe’i codais, rhoi ei feic drylliedig yn y car a’i helpu i mewn i’r sedd flaen. Roeddwn yn crynu o ddychryn, ond roedd y rhan fwyaf o hynny drosof fi fy hun, nid dros yntau. Dywedodd ei fod yn iawn a’i fod jest am fynd adref. Roeddwn mor falch nad oedd am alw’r heddlu neu fynd i’r ysbyty.

Dywedais wrth fy ngwraig ac roedd yn cywilyddio wrtha i a dywedodd y gallai fy ymddygiad fod wedi lladd fy nghymydog. Drannoeth, es i weld fy nghymydog ac roeddwn yn arswydo o weld y cleisiau ar ei freichiau a’i goesau. Roeddwn yn teimlo’n ofnadwy am i mi achosi iddo ddioddef cymaint, ond amdanaf fy hun yr oeddwn yn poeni fwyaf o hyd. Addewais brynu beic newydd iddo. Edrychodd arnaf a dweud, ‘Roeddet ti wedi bod yn yfed’. ‘Oeddwn’ dywedais. ‘Felly addawa i mi na wnei di hynny byth eto.’ Addewais, ond o’m mewn roeddwn yn meddwl y byddwn, mae’n debyg, yn ei wneud eto. Ac fe wnes. Ac rwy’n dal i wneud.

Cwestiynau

Beth ydych chi’n meddwl mae’r stori hon yn ei ddweud am y ffordd rydym yn pechu? Beth allai wneud i’r dyn hwn newid? Sut ydych chi’n meddwl mae gwraig a chymydog y dyn hwn yn teimlo amdano’n parhau i

ymddwyn yn yr un ffordd? Pa gymorth sydd ei angen arno? Pa arwyddion o obaith sydd yna yn y stori hon?

Darn o’r ysgrythur i fyfyrio arno - Y ffigysbren diffrwyth

Adroddodd y ddameg hon: ‘Yr oedd gan rywun ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan. Daeth i chwilio am ffrwyth arno, ac ni chafodd ddim. Ac meddai wrth y gwinllannwr, “Ers tair blynedd bellach yr wyf wedi bod yn dod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, a heb gael dim. Am hynny tor ef i lawr; pam y caiff dynnu maeth o’r pridd?” Ond atebodd ef, “Meistr, gad iddo eleni eto, imi balu o’i gwmpas a’i wrteithio. Ac os daw â ffrwyth y flwyddyn nesaf, popeth yn iawn; onid e, cei ei dorri i lawr.”’

Luc 13.6-9

Un ffordd o ddehongli’r ddameg ryfedd hon yw bod Iesu’n awgrymu bod Duw yn chwilio am ein ffyniant ysbrydol o fewn y greadigaeth ond yn cael ei siomi. Fel y garddwr, mae Iesu’n cynnig i ni ffordd iachawdwriaeth. Os byddwn yn gwrando ar Iesu byddwn yn canfod y ffordd i ddwyn y ffrwyth y mae Duw’n ei ddymuno gennym. Ond os na wnawn, byddwn wedi gwastraffu popeth mae Duw wedi ei fuddsoddi ynom.

Cwestiynau

Mae Iesu’n cynnig neges gignoeth: edifarhau neu ddarfod! Pam ydych chi’n meddwl bod ei neges mor blaen?

Beth ydych chi’n meddwl y dylai’r ‘ffrwyth’ fod?

Page 17: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Rhywbeth i’w wneud

Gwyliwch y darn fideo hwn am obaith (1 munud 30 eiliad):https://www.youtube.com/watch?v=FMsZMvhS_p0

Cwestiynau

Lle yn yr Efengylau ydych chi’n clywed Iesu’n dweud wrthym am gynllun Duw ar gyfer bodau dynol?

Pa UN peth ymarferol allai eich eglwys chi ei wneud i ddod â gobaith a llawenydd i’ch cymuned?

Rhywbeth i’w weddïo

Dduw, ein tywysydd a’n bugail,

rydym yn crwydro oddi wrthyt fel defaid colledig.Weithiau ni fedrwn gofiolle rydym i fod i fynd.Mae’r llwybr yn mynd yn aneglur, rydym yn troi i ffwrddo’r mannau a wnaethost ar ein cyferi’n cadw’n ddiogel, i’n cyfeirio at y ffordd gywir.

Weithiau rydym yn syrthio i’r ffos ac anafu ein hunain.Weithiau rydym yn arwain eraill ar gyfeiliorn.Weithiau y cyfan a wnawn yw dioddef.

Eto mae gennym obaith.Gwyddom y byddi’n dod ac yn ein canfod.Byddi’n maddau i ni ein crwydradau.Byddi’n maddau ein pechodau.

Amen

Ar gyfer myfyrio gweddigar:

Arglwydd Iesu Grist, Fab Duw, maddau i mi, bechadur (Gweddi Iesu)

Maddau ein pechodau ac adnewydda ni drwy dy ras, fel y byddwn yn parhau i dyfu fel aelodau Crist, yn yr hwn yn unig y mae ein hiachawdwriaeth. Amen.

Treiddio i’r dirgelwch - Carodd Duw y byd gymaint

Mae Emrys Sant, wrth fyfyrio ar ddirgelwch pechod, dioddefaint a gobaith, yn meddwl am hanes Noa a’r Arch i egluro sut mae Duw yn maddau pechod dynol:

Anfonodd Duw, a oedd yn ewyllysio adfer yr hyn a oedd ar goll, y dilyw a gorchymyn Noa gyfiawn i fynd i mewn i’r arch. Wrth i’r dyfroedd dreio, anfonodd Noa yn gyntaf gigfran, ond ni ddychwelodd. Yna anfonodd golomen, a dywedir i honno ddychwelyd gyda brigyn olewydd. Fe welwch y dŵr, fe welwch y pren [pren yr arch], fe welwch y golomen, ac a ydych yn ansicr ynghylch y dirgelwch?

Y dŵr, felly, yw’r hyn y trochir y cnawd ynddo, fel y golchir ymaith pob pechod cnawdol. Cleddir bob drygioni dan y dŵr. Y pren yw hwwnnw yr hoeliwyd yr Arglwydd Iesu arno pan fu iddo ddioddef trosom. Y golomen yw’r ffurf y disgynnodd yr Ysbryd Glân arni, fel yr ydych wedi’i ddarllen yn y Testament Newydd, yr Ysbryd sy’n ennyn ynoch heddwch i’r enaid a thangnefedd i’r meddwl. Mae’r gigfran yn cynrychioli pechod, sydd yn hedfan allan ac nad yw’n dychwelyd, os, ynoch chithau, hefyd, y pery cyfiawnder ar y tu mewn a’r tu allan. (Ar y Dirgelion).

Page 18: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Yn y darlun trawiadol hwn, mae Emrys Sant yn meddwl am bechod dynol fel y gigfran sy’n cael ei rhyddhau o’r arch ac nad yw’n dod yn ôl. Mae’r byd yn llawn o ddrygioni dynol sy’n galw am waredigaeth. Felly mae’r stori’n sôn am Dduw’n gweithredu’n uniongyrchol i alluogi bodau dynol i newid y byd a chael eu hachub. Nid Duw sy’n achub Noa – mae’n rhaid i Noa wrando ar Dduw a throi at Dduw i gael ei achub.

I Emrys Sant, mae dyfroedd bedydd yn cyhoeddi mai pobl Dduw ydym ac mai Iesu ar bren y Groes yw ein hiachawdwriaeth, ein harch ddiogel. Fel mae cigfran ein holl bechod yn hedfan i ffwrdd, byth i ddychwelyd, mae colomen tangnefedd yn dod atom gyda’i sbrigyn olewydd, ac mae’r Ysbryd yn cyfarwyddo ein bywydau. Felly mae hanes Noa yn cyfleu gobaith ac addewid rhyfeddol ac yn llawn o gariad Duw.

Diben y daith drwy’r Grawys yw dod wyneb yn wyneb â dirgelwch y Groes a deall sut mae’r Groes yn berthnasol i ninnau mewn byd sy’n parhau wedi’i ddifrodi gan bechod a dioddefaint heddiw.

Cwestiynau

Lle ydych chi’n gweld straeon gobaith yn y byd heddiw? Sut ydych chi’n ymateb i fyfyrdod Emrys Sant ar hanes Noa?

Rhywle i fynd - Treiddio i’r Dirgelwch

Nawr byddwch yn un o’r bobl sy’n gwrando ar Iesu’n siarad am y ffigysbren diffrwyth:

...Eisteddwch mewn distawrwydd a gosodwch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw o’r neilltu.

...Canolbwyntiwch ar anadlu’n dawel.

...Meddyliwch am y ffigysbren yn tyfu yn y pridd, a’i ganghennau’n wag o ffrwyth.

...Meddyliwch am y garddwr, sydd â ffydd yn y goeden, ac yn ei meithrin a’i charu

...gan ei dyfrhau a’i bwydo mewn gobaith.

...Beth fydd perchennog y winllan yn ei ganfod pan ddaw drachefn i chwilio am ffrwyth?

...Dewiswch un llun neu un gair neu un ymadrodd syml o’r adnodd hwn hyd yma.

...Gan gadw’r llun, y gair neu’r ymadrodd hwnnw yn eich meddwl,

...ymestynnwch at ddirgelwch Duw’n gofalu am bob un ohonom, yn gobeithio drosom,

...yn maddau ein pechodau pan na fyddwn yn dwyn ffrwyth, ac yn llawenhau pan fyddwn yn newid, yn tyfu ac yn blodeuo.

...Caewch eich llygaid am un funud, wedyn agorwch eich llygaid eto ac eistedd mewn tawelwch am un funud arall.

...Cofiwch nodi unrhyw beth sy’n dod i’ch meddwl.

...Rhowch ddiolch fel bo’n briodol.

Terfynwch â Gweddi’r Arglwydd.

Adnoddau eraill:

Darllenwch ragor o waith Emrys Sant ynhttp://www.newadvent.org/fathers/3405.htm

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch Gweddi Iesu ynhttps://www.orthodoxprayer.org/Jesus%20Prayer.html

Page 19: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Y Grawys 4 - Dirgelwch Perthynas a Chymod

Darlleniadau

Josua 5:9-12 Salm 32 2 Corinthiaid 5:16-21 Luc 15:1-3, 11b-32

Man cychwyn - Y bobl eraill yn ein bywydau

Defnyddir therapi a elwir yn ‘Gerflunio Dynol’ yn aml â theuluoedd fel ffordd o ddelweddu’r berthynas rhwng pobl, ond gellir hefyd ei ddefnyddio fel dull o fyfyrio diwinyddol i gynorthwyo pobl i weld cymhlethdod ein cysylltiadau personol ac ysbrydol a’r ffordd maent yn cydblethu. Mae’n gweithio drwy ystyried senario – sefyllfa o fywyd go iawn, megis mynd i’r ysbyty, neu stori o’r Beibl - ac yna meddwl am yr holl bobl a allai fod yn rhan o’r fath senario, hyd yn oed o bell. Mewn senario ynghylch ysbyty, gallai hynny olygu’r claf, teulu’r claf, nyrsys, meddygon, therapyddion, pobl eraill ar y ward, darparwyr te, gyrwyr tacsi, caplan yr ysbyty, offeiriad y plwyf a’r holl deulu eglwysig sy’n gweddïo dros y sawl sydd yn yr ysbyty. Mae llawer o bobl â rhywbeth i’w wneud â’r claf ac â’i gilydd.

Bydd aelodau’r grŵp yn dewis pa gymeriadau maent am fod yn y senario ac yn penderfynu lle i sefyll, eistedd neu benlinio mewn perthynas â’i gilydd. Unwaith y bydd pob un yn ei safle, gwahoddir pob unigolyn i edrych o gwmpas ar gyd-blethiad y cysylltiadau. Nid oes raid i neb ddweud dim – nid chwarae rôl mohono.

Ailadroddir yr ymarfer sawl gwaith wrth i’r senario ddatblygu – pwy arall ydych chi angen bod yn agos atyn nhw, neu ymhellach oddi wrthynt? Pwy sy’n tra arglwyddiaethu ar yr olygfa, gan rwystro eraill rhag gweld? Pwy sydd wedi’u gadael allan? A dynnir rhywun i ganol y cerflun? Yn raddol mae pobl yn newid lle a phob tro arhosir i weld pwy sydd ar y tu mewn a phwy sydd ar y tu allan. Ar ôl gwneud yr ymarfer sawl gwaith, bydd y grŵp yn ‘rhewi’ ac yn cymryd sylw o batrwm terfynol y cysylltiadau. Wedyn gwahoddir y rhai a gymerodd ran i ystyried lle roeddent a ph’run ai a oeddent am symud ai peidio.

Amlygir pob mathau o ystyriaethau ynghylch grym, colled, gwahanu, rhannu teyrngarwch, cynnwys ac allgau, ffydd, gofal, perygl, unigrwydd ac yn y blaen. Gall pethau annisgwyl ddod i’r amlwg hefyd, yn enwedig o safbwynt pobl y mae’r senario’n effeithio arnynt. Mae’n aml yn gwneud i bobl sylweddoli pa mor gymhleth yw ein perthynas ag eraill a’r ffordd rydym yn ymwneud â phobl o’n cwmpas o ddydd i ddydd. Beth sy’n cynnal perthynas a beth sy’n ei chwalu? Fel ffurf ar fyfyrdod diwinyddol, mae agwedd arall ar ffurf derfynol y cerflun, pan ddechreuwn ofyn: lle mae Duw?

Rhywbeth i siarad amdano - Gwahanol fathau o berthynas

Cwestiynau

Yn y senario ysbyty y cyfeirir ati uchod, faint o wahanol fathau o berthynas allwch chi feddwl amdanynt?

Pa fathau eraill o berthynas sydd gennym y tu hwnt i’r rhai gyda phobl eraill? Beth am ein perthynas â gwrthrychau, tai, anifeiliaid anwes, cyfoeth?

Sut ydych chi’n meddwl mae ein perthynas â’n cymdogion, ein teuluoedd ac eraill yn effeithio ar ein perthynas â Duw? Sut fyddech chi’n siarad am hynny â rhywun nad oedd yn Gristion?

Rhywbeth i feddwl amdano - Calonnau toredig

Straeon 1

Gwahanodd fy rhieni pan oeddwn yn faban a wnes i erioed weld fy nhad. Pan fyddwn yn holi fy mam, byddai jest yn ypsetio felly wnes i ddim gofyn unrhyw gwestiynau, ond roeddwn i’n meddwl drwy’r adeg pwy oedd fy nhad. Pan es i’r ysgol a’m ffrindiau’n gofyn lle oedd fy nhad, dechreuais greu straeon

Page 20: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

amdano. Roedd yn anturiaethwr a oedd yn darganfod nadroedd newydd yn y jyngl; roedd yn actor enwog; roedd yn artist rhyfel; roedd yn ysbïwr. Roeddwn yn cael llawer o syniadau o ffilmiau a’r teledu. Doedd fy ffrindiau ddim yn fy nghredu felly dechreuais ysgrifennu llythyrau a chardiau i mi fy hun – oddi wrth fy nhad i fod. Roedden nhw’n gyffrous ac yn llawn cariad. Yn raddol, rhoddais y gorau i ddweud y straeon, ond cedwais y llythyrau. Byddwn yn gorffen bob tro gyda ‘edrych ymlaen at dy weld yn fuan. Cariad, dad’. Wnes i erioed gael y cyfle i’w gyfarfod, ond byddwn yn darllen y llythyrau fel rhyw fath o weddi ei fod yn iawn, bod ganddo deulu ac y byddwn ryw ddydd yn ei gyfarfod.

Straeon 2

Pan oeddwn yn 16, syrthiais mewn cariad â bachgen yn yr ysgol. Ond roedd fy rhieni am i mi gadw i ffwrdd oddi wrth fechgyn gan eu bod am i mi briodi rhywun roedden nhw’n meddwl oedd yn addas o’n teulu estynedig pan fyddwn yn hŷn. Ond does gynnoch chi mo’r help pwy dach chi’n ei garu, nac oes? Po fwyaf roedden nhw’n poeni am fy nghadw i ffwrdd oddi wrth fechgyn, po fwyaf roeddwn i am ei weld a threulio amser gydag o. Felly dywedais gelwyddau wrth fy nheulu, oedd wir yn brifo, ac mi es lawer ymhellach â’r bachgen nag oeddwn wir yn dymuno, oherwydd fy mod yn meddwl y gallen ni gael ein gwahanu am byth unrhyw adeg. Yn y diwedd, mi gawson ni ein dal a’n gwahanu, ac roedd y peth yn ofid mawr i fy nheulu. Bues i’n crio am wythnosau. Roedden nhw’n dweud nad cariad go iawn oedd rhyngom a phan fyddwn yn hŷn y byddwn yn sylweddoli mai eu ffordd nhw oedd y ffordd orau i mi. Rwy’n caru fy rhieni ac yn eu parchu. Ond mae’n dal i frifo. Gymaint dwi’n dymuno y gallai pethau fod wedi diweddu’n wahanol. Rwy’n dal yn ei garu, er eu bod nhw’n dweud na allwn fod yn ei garu ac na wnes erioed.

Cwestiynau

Beth ydych chi’n meddwl mae’r ddwy stori hyn yn ei ddweud wrthym am gariad? Mae’r ddwy stori am bobl sydd wedi’u gwahanu oddi wrth y rhai maent yn eu caru. Pa mor

gyffredin yw hynny yn ein cymdeithas ni? Beth fyddai angen digwydd i bobl gymodi neu gael cymorth i fod gyda’i gilydd? Sut beth fyddai cymodi i’r bobl hyn?

Darn o’r ysgrythur i fyfyrio arno - Cymodi

Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a’i gusanu. Ac meddai ei fab wrtho, ‘Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw’n fab iti.’ Ond meddai ei dad wrth ei weision, ‘Brysiwch! Dewch â gwisg allan, yr orau, a’i gosod amdano.

Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau am ei draed. Dewch â’r llo sydd wedi ei besgi, a lladdwch ef. Gadewch inni wledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn, fy mab, wedi marw, a daeth yn fyw eto; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.’ Yna dechreusant wledda yn llawen.Luc 15.20-24

Cwestiynau

Beth ydych chi’n meddwl mae’r stori hon yn ei ddweud wrthym am natur Duw? Sut ydych chi’n meddwl yr oedd y rhai a oedd yn gwrando ar Iesu’n ymateb i’r cariad a’r cymodi

sydd yn y stori hon?

Rhywbeth i’w wneud - Edrych ar berthynas mewn ffordd wahanol

Gwyliwch y darn fideo hwn ynghylch Cerflunio mewn Therapi Teuluol (2 munud, 23):https://www.youtube.com/watch?v=nYkxxPbnMg8

Cwestiynau

Sut ydych chi’n meddwl y byddai stori’r Mab Afradlon yn edrych fel ymarfer cerflunio dynol?

Page 21: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Pa UN peth arall allech chi ei wneud yn eich cymuned i greu gwell perthynas rhwng gwahanol grwpiau o bobl? Sut allai eich eglwys chi fod yn ffocws ar gyfer cymodi?

Rhywbeth i’w weddïo

Dduw cariadus,

rydym yn dy adnabod fel Tad, Mab ac Ysbryd Glân,yn nirgelwch perthynas ryfeddol,yn Creu, yn Achub, yn Cynnal,gan gymodi’r byd â thi dy huna chreu o’r newydd.

Amen

Ar gyfer myfyrio gweddigar

Daw gweddi â dau gariad ynghyd, Duw a’r enaid, mewn ystafell gul lle byddant yn siarad llawer am gariad.

(Cwmwl yr Anwybod)

Dirgelwch Duw - Dyhead Duw amdanom ni a Chymodi

Yn yr Ysgrythurau Hebreaidd (yr Hen Destament), rydym weithiau’n clywed bod Duw yn llwyr y tu hwnt i ddeall a phrofiad bodau dynol. ‘Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,’ medd yr Arglwydd. ‘Fel y mae’r nefoedd yn uwch na’r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi.’ (Eseia 55.8-9)

Mae hynny’n awgrymu na ellir adnabod Duw byth, ei fod mor bell y tu hwnt i reswm a dychymyg dynol fel na ellir treiddio i ddirgelwch Duw. Ni allwn ond ymateb â pharchedig ofn, rhyfeddod a thawelwch. Beth fyddai gennym i’w ddweud wrth Dduw, a meddyliau a gweithredoedd Duw mor bell y tu hwnt i ni?

Pan mae Job yn myfyrio ynghylch bodolaeth ddynol, mae Duw yn ei syfrdanu â rhyfeddod y greadigaeth, sydd gymaint mwy a chymaint mwy rhyfeddol na hyd oes ddynol: ‘Ble’r oeddit ti pan osodais i sylfaen i’r ddaear?’ (Job 38.4) Ni allwn wybod ‘ond ymylon ei ffyrdd’ (Job 26.14). Ni allwn ond crafu mymryn ar wyneb dirgelwch y Duwdod. Mae llawer o ddiwinyddion a Christnogion sy’n dilyn y traddodiad cyfriniol, megis Sant Ioan y Groes ac awdur Cwmwl yr Anwybod, wedi cofleidio’r traddodiad ‘apoffatig’ hwn, gan fyfyrio ar ddirgelwch Duw, sydd bob amser uwchlaw gwybodaeth ddynol a thrwy’r hwn mae rhagor yn cael ei ddatguddio drwy’r adeg.

Mewn mannau eraill yn yr Ysgrythurau Hebreaidd, fodd bynnag, gwelwn ffyrdd gwahanol o ddisgrifio Duw. Weithiau darlunnir Duw fel brenin neu farnwr neu ryfelwr, ond mewn mannau eraill dychmygir Duw yn feithrinwr, yn fugail neu’n arddwr, neu’n rhiant, neu’n ddynes yn geni plentyn (Eseia 42.14), neu’n dad: ‘Dywedais, “Sut y gosodaf di ymhlith y plant, i roi i ti dir dymunol, ac etifeddiaeth orau’r cenhedloedd?” A dywedais, “Fe’m gelwi, ‘Fy Nhad’, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl”.’ (Jeremeia 3.19)

Ond un o’r pethau mwyaf rhyfeddol a wnaeth Iesu yn ystod ei fywyd a’i weinidogaeth oedd dweud wrth ei gyfeillion y gallent ymgysylltu â dirgelwch Duw, drwy fynd y tu hwnt i drosiadau a chyffelybiaethau i berthynas uniongyrchol ac agos â Duw. Ai dyma a sylweddolodd Iesu pan arhosodd ar ôl yn y Deml, yn nhŷ ei Dad?

Yng Ngweddi’r Arglwydd, mae Iesu’n dysgu ei ddisgyblion a’i ddilynwyr i alw Duw yn ‘Abba’ (dad) ac yn dysgu am Dduw nid dim ond fel trosiad ond yn nhermau perthynas fyw. Mae galw Duw yn Abba yn mynegi ymddiried, anrhydedd, parch - a hyder yn y berthynas.

Page 22: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Drwy Iesu rydym yn darganfod bod Duw’n hiraethu amdanom, yn chwilio amdanom, yn ymlawenhau ynom ac yn dod â ni adref. Bod allan o’r berthynas honno yw’r unigrwydd a’r anghyfannedd-dra eithaf, fel y gwelwn yn hanes y dyn cyfoethog a Lasarus, yn amddifadedd y Mab Afradlon ac yng nghri drallodus Iesu ei hun ar y Groes.

A thrwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad mae Iesu’n sicrhau na fyddwn byth yn colli ein perthynas â Duw – os ydym yn ymroi i’r berthynas honno. Gallwn bob amser fynd adref i’r fan lle mae Duw yn disgwyl amdanom. Felly gall Paul ddweud, ‘Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grëwyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.’ (Rhufeiniad 8.38-39)

Cwestiynau

Os adroddwch Gredo Nicea yn araf ac yn ofalus, gan feddwl am bob adran, beth ydych chi’n ei ddysgu am Dduw fel Trindod a Duw mewn perthynas â bodau dynol?

Sut ydych chi’n meddwl mae pobl yn amlygu cariad Duw i eraill drwy eu perthynas â’i gilydd?

Treiddio i’r dirgelwch - Mae Duw yn disgwyl amdanom

Dychmygwch fywyd y Mab Afradlon:

...Eisteddwch mewn distawrwydd a gosodwch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw o’r neilltu.

...Canolbwyntiwch ar anadlu’n dawel.

...Dychmygwch fywyd gwych o gyfoeth a phleser

...popeth y gallech ei ddymuno...

...dychmygwch y cyfan yn diflannu, gan eich gadael yn wag.

...At bwy allwch chi droi? Pwy fydd yn maddau i chi?

...Pwy sy’n disgwyl i chi ddod adref?

...Dewiswch un llun neu un gair neu un ymadrodd syml o’r adnodd hwn hyd yma.

...Gan gadw’r llun, y gair neu’r ymadrodd hwnnw yn eich meddwl,

...ymestynnwch at ddirgelwch a rhyfeddod Duw.

...Caewch eich llygaid am un funud, wedyn agorwch eich llygaid eto ac eistedd mewn tawelwch am un funud arall.

...Cofiwch nodi unrhyw beth sy’n dod i’ch meddwl.

...Rhowch ddiolch fel bo’n briodol.

Terfynwch â Gweddi’r Arglwydd.

Adnoddau eraill:

Credo Nicea, wedi’i ddarllen yn weddigar gan wahanol leisiau:https://www.youtube.com/watch?v=86zf1i1qBDc

Page 23: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Y Grawys 4 - Dirgelwch Bod yn Rhiant a Mabwysiadu (Sul y Fam)

Darlleniadau

Exodus 2.1-10 neu Samuel 1.20-18 Salm 34.11-20 neu Salm 127.1-4 2 Corinthiaid 1.3-7 or Colosiaid 3.12-17 Luc 2.33-35 or Ioan 19.25-27

Man cychwyn - Pam mae Sul y Fam yn anodd

Mewn llawer o’n heglwysi, caiff plant eu gwahodd i roi blodau neu gardiau i’w mamau ar Sul y Fam. Mae’n ffordd braf o ddathlu’r teulu a bywyd teuluol ar ganol y Grawys.

Ond beth os nad oes gennych chi fam? Beth os yw eich mam wedi marw? Beth os yw eich perthynas â’ch mam yn un anodd neu’n gamdriniol? Beth os mai eich tad neu eich taid a’ch nain sy’n edrych ar eich ôl? Sut ydych chithau’n teimlo pan rydych yn yr eglwys a’r holl lawenydd a’r dathlu yna’n digwydd o’ch cwmpas?

A beth os ydych wedi cael eich mabwysiadu? Beth os nad yw eich mam fiolegol yn byw gyda chi oherwydd i chi gael eich geni drwy ffrwythloni mewn llestr neu fenthyg croth? Sut allai hynny gymhlethu pethau ar Sul y Fam? A beth yw cyswllt hyn i gyd â’r Teulu Sanctaidd a’r syniad o’r Eglwys fel Mam?

Mae creu teulu newydd o bobl wedi’u cymodi â’i gilydd dan Dduw yn un o syniadau allweddol y Testament Newydd. Mae Iesu ei hun yn gofyn, ‘Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?’ (Mathew 12.48) pan mae ei deulu ei hun yn ceisio dod o hyd iddo â’i gael i adael gyda hwy. Yn hytrach, dywed Iesu mai aelodau ei deulu yw’r holl rai sy’n cyflawni ewyllys y Tad. Felly mae Paul yn dweud, ‘O wirfodd ei ewyllys fe’n rhagordeiniodd i gael ein mabwysiadu yn blant iddo’i hun trwy Iesu Grist’ (Effesiaid 1.5). Mae Iesu’n ein dysgu i weddïo gan ddefnyddio’r geiriau ‘Ein Tad...’ Ymddengys bod teulu, ffydd ac ewyllys Duw ar ein cyfer yn cydblethu â’i gilydd.

Felly ar y Sul hwn yn y Grawys, wrth i ni barhau i deithio gyda Iesu, fe edrychwn yn fanylach ar ddirgelwch bod yn rhiant yn ei holl agweddau, ar Dduw fel rhiant ac ar fabwysiadu fel ffordd o drafod dirgelwch iachawdwriaeth: ‘ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau’n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed.’ (Rhufeiniaid 8.23)

Rhywbeth i siarad amdano - Tadau a Mamau

Cwestiynau

Mae ‘Anrhydedda dy Dad a’th Fam’ yn un o’r Gorchmynion. Sut fyddech chi’n dechrau sgwrs â rhywun na all ganfod dim i’w anrhydeddu yn ei r(h)ieni?

Sut fyddech chi’n siarad â rhywun am y syniad o fabwysiad yn y Llythyr at y Rhufeiniaid? Mae rhai pobl yn cadw draw o’r eglwys ar Sul y Fam am fod y profiad mor boenus. Sut allai

eglwysi ymaddasu ar gyfer pobl sy’n gweld Sul y Fam yn anodd? Sut fyddai ‘Sul y Tad’ yn teimlo?

Rhywbeth i feddwl amdano - Cariadus, anghariadus ac amhosibl eu caru

Stori 1

Pan fu hi farw roedd fel petai cadwyn o gwmpas fy fferau wedi’i dryllio. Roeddwn yn rhydd. Mi wnes i ddychryn fy hun pan es i’r parlwr angladdau i weld ei chorff, achos fedrwn i wneud dim byd ond chwerthin – ymateb cathartig i flynyddoedd o fygu dicter a gofid am y rhiant na fu’n rhiant i mi erioed

Page 24: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

mewn gwirionedd. Wrth ddisgrifio ei phlentyndod soniodd Jeanette Winterson am ei mam drwy fabwysiad fel bwystfil ‘ond fy mwystfil i oedd hi’. Allwn ni byth ymwahanu’n llwyr oddi wrth ein rhieni.

Fel rhiant fy hun erbyn hyn, rwy’n ei chael yn amhosibl deall pam y byddai unrhyw riant yn trin plentyn yn y ffordd yna. Ond fel tad i blentyn wedi’i fabwysiadu, y bu i’w fam fiolegol ei drin yntau mewn modd echrydus, mae gennyf berthynas â fo sy’n teimlo’n rhyfedd a rhyfeddol o iachusol. Yn wir, mae’r syniad o Dduw fel ‘Tad’ (rhywbeth na allwn ei ddeall yn iawn hyd yma) wedi dod yn ddilys mewn ffordd newydd i mi.

Stori 2

Roedd gan un o’r plant yn eu harddegau wnes i eu meithrin anghenion gofal cymhleth iawn. Roedd wedi bod i mewn ac allan o ofal preswyl am amser maith iawn. Roedd heriau newydd yn codi bob dydd. Gallai hyd yn oed pethau fel mynd i’r archfarchnad droi’n rhywbeth o ffilm arswyd pe byddai’n yspsetio ac yn cael y gwyllt. Roedd yn dal a chryf ac roedd raid i mi ddefnyddio pob tamaid o’m hegni i’w dawelu a’i gysuro a sicrhau bod y plant eraill yn iawn. Byddai pobl yn ysgwyd eu pennau wrth edrych ar y llaeth a’r llysiau ar chwâl ar lawr y siop ac yn dweud, ‘ddylai hwn ddim cael ei adael allan’ ac ‘allech chi byth garu plentyn fel’na’. Ond roedden nhw’n anghywir. Roedden ni’n ei garu fwy fyth oherwydd na allai ein caru yn ôl. Wnaethon ni erioed ei guddio o olwg pobl na’i adael ar ôl am mai hynny fyddai’r peth hawdd. Ac er na fyddwn byth yn cael cerdyn Dydd y Mamau oddi wrtho, roedd y tangnefedd a deimlwn pan fyddai’n ymdawelu ac yn dod yn ôl atom yn well nag unrhyw eiriau.

Cwestiynau

Sut ydych chi’n teimlo am y ddwy stori hyn? Sut ydych chi’n meddwl mae’r straeon hyn yn ein helpu i amgyffred dirgelwch cariad rhieni a

chariad Duw tuag atom?

Darn o’r ysgrythur i fyfyrio arno - Iesu yn creu teulu newydd o’r Groes

Yn ymyl croes Iesu yr oedd ei fam ef yn sefyll gyda’i chwaer, Mair gwraig Clopas, a Mair Magdalen. Pan welodd Iesu ei fam, felly, a’r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, ‘Wraig, dyma dy fab di.’ Yna dywedodd wrth y disgybl, ‘Dyma dy fam di.’ Ac o’r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i’w gartref.

Ioan 19.25-27

Ac yntau ar fin marw, mae Iesu’n sicrhau y bydd ei ddisgybl yn gofalu am ei fam. Maent i fod yn fam a mab i’w gilydd.

Cwestiynau

Beth ydych chi’n meddwl mae hyn yn ei ddweud wrthym am gariad Duw tuag atom? Pam ydych chi’n meddwl y dywedodd Iesu eu bod i fod fel mam a mab? Pam na allai ond

dweud, ‘Gofala am fy mam?’ Yn ystod eich bywyd, pwy ddaeth yn aelodau ‘mabwysiedig’ o’ch teulu – cyfeillion, cymdogion,

anifeiliaid anwes, cydweithwyr? Mae pobl weithiau’n dweud pethau fel ‘roedd o fel ail dad i mi’, neu ‘hi oedd y fam na ches i

erioed’. Beth ydych chi’n meddwl yw ystyr hynny? A beth mae’n ei ddweud wrthym am fod yn rhiant?

Rhywbeth i’w wneud

Gwyliwch y darn fideo hwn o Home for Good, neu gwrandewch ar hanesion Nathan a Ruby yn fideo AdoptionPlus (1 munud 13 eiliad ac 1 munud 35 eiliad):

Page 25: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

https://vimeo.com/235313835http://adoptionplus.co.uk/thinking-about-adopting

Cwestiwn

Beth ydych chi’n ei ddysgu o’r straeon hyn a sut mae’r straeon yn gwneud i chi deimlo?

Rhywbeth i’w weddïo

Dduw cariadus,ti yw rhiant yr holl greadigaeth.Bu dy Ysbryd yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd,anadlaist dy anadl bywiol i mewn i’r ddynoliaeth.Rwyt yn ein gwarchod fel mae iâr yn casglu ei chywion,rwyt yn dyheu amdanom fel tad yn disgwyl ei blentyn adref.Rydym yn anniddig ac ar goll hebot ti.

Drwy dy Fab, Iesu Grist, a fu farw drosom,gwyddom mai dy deulu di ydym.Ti, sydd am fabwysiadu pawb sy’n dy geisio,sy’n ein gwneud yn etifeddion dy iachawdwriaeth. Amen

Ar gyfer myfyrio gweddigar:

Pan lefwn, ‘Abba! Dad!’ mae’r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni ein bod yn blant i Dduw.

Dirgelwch Duw - Duw’n ein mabwysiadu ni

O bregeth y Pab Ffransis yn Offeren ei Urddo 19 Mawrth 2013:

Sut mae Joseff yn ymddwyn fel gwarchodwr? Yn ddoeth, yn wylaidd ac yn ddistaw, ond gydag ymroddiad llwyr ac yn gwbl ffyddlon, hyd yn oed pan mae’n anodd iddo ddeall....Sut mae Joseff yn ymateb i’w alwad i fod yn warchodwr i Fair, Iesu a’r Eglwys? Drwy wrando’n astud ar Dduw, gan wylio am arwyddion presenoldeb Duw a bod yn barod i gofleidio cynlluniau Duw ac nid dim ond ei gynlluniau ei hun.... Mae Joseff yn ‘warchodwr’ oherwydd ei fod yn gallu clywed llais Duw a chael ei dywys gan ei ewyllys; ac oherwydd hynny mae ei sensitifrwydd gymaint yn fwy tuag at y rhai a ymddiriedwyd i’w ofal. Gall edrych ar bethau’n realistig, mae’n ymwybodol o’i amgylchiadau, gall wneud penderfyniadau gwirioneddol ddoeth. Ynddo yntau, gyfeillion annwyl, fe ddysgwn sut i ymateb i alwad Duw, yn ddibetrus ac yn ewyllysgar...

Wrth feddwl am y Teulu Sanctaidd, rhoir y sylw pennaf fel arfer i Fair, fel mam Iesu, ac i’w phlentyn sydd i ni’n Waredwr. Ond beth am Joseff? Pan feichiogodd Mair, bu’n meddwl yn hir a chaled am ei throi ymaith, ond bu’n ufudd i Dduw drwy ei phriodi a ‘mabwysiadu’ Iesu fel ei fab ei hun. Mae’r Pab Ffransis yn gofyn i ni ystyried eto beth oedd y gost o wneud hynny a pha nodweddion yn Joseff a’i galluogodd i benderfynu felly ac ymrwymo i fod yn rhiant i Iesu. Ni chlywn lawer am Joseff yn yr efengylau. Mae yno yn y cefndir yn dysgu ei grefft i Iesu, ac yn cyflawni ewyllys Duw drwy fagu Iesu i fod yn dduwiol ac yn ufudd i ewyllys Duw, yn union fel roedd yntau. Ai cofio esiampl Joseff mae Iesu yn ei frwydro mewnol yng Ngethsemane? Felly pan feddyliwn yn ddyfnach am ddirgelwch Duw, am Dduw fel rhiant ac am fabwysiadu ar Sul y Fam, beth arall mae hynny’n ei olygu ar gyfer ein gwaith yn y byd?

Meddai’r Pab Ffransis ymhellach:

Mae’r alwad i fod yn ‘warchodwr’ ... yn golygu parchu pob un o greaduriaid Duw a pharchu’r amgylchedd rydym yn trigo ynddo. Mae’n golygu gwarchod pobl, dangos gofal cariadus dros bob un unigolyn, yn enwedig plant, yr henoed, y rhai sydd mewn angen – y bobl sy’n aml yn dod yn olaf i’n

Page 26: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

meddyliau. Mae’n golygu gofalu am ein gilydd yn ein teuluoedd: yn gyntaf, bydd gwŷr a gwragedd yn gwarchod ei gilydd, ac yna, fel rhieni, byddant yn gofalu am eu plant, a bydd y plant hwythau, mewn amser, yn gwarchod eu rhieni. Mae’n golygu meithrin cyfeillgarwch didwyll lle byddwn yn gwarchod ein gilydd mewn ymddiriedaeth, parch a charedigrwydd.

Cwestiynau

Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth esiampl Sant Joseff ar Sul y Fam? Pa UN peth allen ni ei newid yn ein heglwys ni i ddangos mwy o’r cariad hwn i’r byd?

Treiddio i’r dirgelwch - Mair a Ioan

Nawr byddwch gyda Mair wrth iddi fynd i dŷ Ioan...

...Eisteddwch mewn distawrwydd a gosodwch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw o’r neilltu.

...Canolbwyntiwch ar anadlu’n dawel.

...Dyma eich teulu chi bellach. Fe’ch cerir, er gwaethaf eich galar.

...Rydych oll mewn perygl ac mae arnoch ofn. Ni wyddoch beth fydd yn digwydd nesaf.

...Daeth proffwydoliaeth Simeon yn wir. Mae’ch calon wedi’i thorri

...ac eto ...mae gennych obaith.

...Dewiswch un llun neu un gair neu un ymadrodd syml o’r adnodd hwn hyd yma.

...Gan gadw’r llun, y gair neu’r ymadrodd hwnnw yn eich meddwl,

...ymestynnwch at ddirgelwch a rhyfeddod Duw

...sy’n rhoi i chi nerth i wynebu perygl ac ofn, i dderbyn mabwysiad a chariad.

...Caewch eich llygaid am un funud, wedyn agorwch eich llygaid eto ac eistedd mewn tawelwch am un funud arall.

...Cofiwch nodi unrhyw beth sy’n dod i’ch meddwl.

...Rhowch ddiolch fel bo’n briodol.

Terfynwch â Gweddi’r Arglwydd.

Adnoddau eraill:

Adnoddau Sul y Mamau Undeb y Mamau sy’n cynnwys litwrgïau sy’n cydnabod bod Sul y Fam yn adeg anodd i rai pobl.https://www.mothersunion.org/mothering-sunday-resources

Page 27: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Y Grawys 5 - Dirgelwch Cariad ac Aberth

Darlleniadau

Eseia 43.16-21 Salm 126 Philipiaid 3.4b-14 Ioan 12.1-8

Man cychwyn - Marw er mwyn i ni gael byw

Un o’r adnodau mwyaf adnabyddus yn yr efengylau yw datganiad Ioan yn Ioan 3.16: ‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’ Dyma amlygiad eithaf cariad Duw tuag atom, sef bod Duw yn anfon hanfod Duw ei hun atom yn Iesu, fel y gallwn brofi perthynas o ddifrif ag ef, gan fod Iesu’n fod dynol fel ninnau. Yn y Testament Newydd rydym yn dysgu mwy am ddirgelwch Duw drwy Iesu wrth iddo, drwy ei eiriau a’i weithredoedd, ddatguddio mwy am yr hyn yw Duw a’r hyn mae Duw’n ei ddymuno ar ein cyfer. Ond mae cariad Duw’n ymestyn yn llawer pellach na hynny. Nid yn unig mae’n golygu dysgu sut i fyw a sut i ddeall y byd, mae hefyd yn golygu newid ein hagweddau i fod yn bobl sy’n cydweithio â Duw i adeiladu Teyrnas Dduw, pobl a fydd gyda Duw y tu hwnt i’n hoes ddaearol. Mae’n rhaid i ni ddysgu marw i’n hunain a’n dymuniadau hunanol. Mae’n rhaid i ni ddysgu aberthu. Er mwyn i ni allu cyflawni’r alwedigaeth honno, rhaid chwalu rhwystrau trallod, anrhefn a phechod. Ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Ond fe all Iesu, ac fe wna. Caiff bywyd Iesu, bywyd Duw yn y byd, ei aberthu o wirfodd ar y groes. A gwyddom y fath ddirgelwch rhyfeddol yw gweld Cristnogion a phobl eraill a ysgogwyd gan eu ffydd, ym mhob amser a lle, yn aberthu eu bywydau dros eraill.

Rhywbeth i siarad amdano - Dros bwy fyddech chi’n marw?

Mae llawer o ganeuon serch poblogaidd yn cynnwys addewidion megis, ‘Swn i’n marw drosot ti’. Pwy ydych chi’n ei garu/charu ddigon i farw drosto/drosti?

Sut ydych chi’n meddwl y gallai eich eglwys wir ddangos cariad at eraill ac aberthu drostynt? Sut fyddech chi’n dechrau sgwrs â rhywun am ‘Carodd Duw y byd gymaint...?’ Sut allwn ni amlygu cariad ac aberth Iesu yn ein bywydau ein hunain?

Rhywbeth i feddwl amdano - Cariad ac Aberth

Stori 1

Roedd Jack a Phyllis Potter wedi bod yn briod am fwy na 70 mlynedd ac roedd y ddau ohonynt dros 90 mlwydd oed. Ond roedd Phyllis mewn cartref gofal ac yn dioddef o ddementia. Roedd Jack, fodd bynnag, wedi cadw dyddiadur o’r eiliad y cyfarfu â Phyllis mewn dawns ddegawdau pell yn ôl a byddai’n ymweld â hi bob dydd i ddarllen iddi o hanes eu priodas, i gadw’r atgofion hynny’n fyw ac i’w hatgoffa o’i gariad tuag ati.http://femalemag.com.my/relationships-sex/real-life-notebook-couple-celebrates-70th-anniversary/

Story 2

Roedd dwy chwaer yn eu harddegau’n mynd i weld ffilm roeddent wedi bod yn dyheu am ei gweld ers misoedd. Ond gofynnodd ei mam iddynt fynd i weld eu nain yn yr ysbyty gan na allai hithau fynd. Cwynodd Alia ond dywedodd y byddai’n mynd, ond wnaeth hi ddim. Roedd Binita’n grwgnach wrth ei mam ac yn cwyno ei bod wedi bod eisiau gweld y ffilm ers hydoedd. Ond wrth gychwyn am y sinema gyda’i chwaer, dechreuodd feddwl am ei nain a newidiodd ei meddwl a mynd i’r ysbyty wedi’r cyfan.(Cymharer Matthew 21.28-31)

Cwestiynau

Beth ydych chi’n meddwl yw’r peth mwyaf cariadus y gallwch chi ei wneud dros rywun arall?

Page 28: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Lle ydych chi’n gweld pobl yn aberthu eu dymuniadau eu hunain er mwyn cariad? Lle ydych chi’n gweld teyrngarwch ac aberth yn y ddwy stori hyn?

Darn o’r ysgrythur i fyfyrio arno - Afradlonedd a chariad

A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a’u sychu â’i gwallt. A llanwyd y tŷ gan bersawr yr ennaint.Ioan 12.3

Ydych chi erioed wedi torri potel o bersawr neu ddŵr sent, neu efallai wedi digwydd mynd i mewn i ystafell ymolchi pan mae person ifanc wedi bod yn paratoi i fynd i barti? Gall persawr cryf fynd â’ch anadl. Gallwch arogli’r persawr moethus am ddyddiau. Yn yr olygfa hon, i ganol yr awyrgylch croesawgar a’r bwyta ac yfed yn y tŷ ym Methania daw gweithred syfrdanol Mair yn aberthu persawr drudfawr gan ei ddefnyddio i eneinio traed Iesu fel pe ar gyfer ei gladdu.

Pan wyddom fod y rhai rydym yn eu caru ar fin ein gadael, neu’n dod at ddiwedd eu hoes, mae’n gwneud i ni ailwerthuso’n holl flaenoriaethau. Beth yw’r peth olaf y gallwn ei wneud i ddangos ein cariad? Heb os, pethau fel arian ddylai fod y lleiaf o’n problemau neu bryderon. Ac eto, mor aml rydym yn aros nes bydd yr unigolyn wedi marw ac yna’n gwario’n helaeth ar yr angladd – y blodau, yr arch a’r lluniaeth i ddilyn.

Nid yw Mair am aros, er mawr ofid i Jwdas. Mae’n arllwys y persawr i ddangos ei chariad tuag at Iesu. Ac mae Iesu’n arllwys ei fywyd er ein mwyn ninnau. Amlyga Duw ei gariad drudfawr tuag atom.

Cwestiynau

Roedd Jwdas yn ddig. Beth ydych chi’n meddwl oedd Martha a Lasarus yn ei feddwl am weithredoedd Mair?

Beth ydych chi’n meddwl oedd arwyddocâd cost y persawr a gweithred Mair yn eneinio Iesu? Sut allwn ni ddangos mwy o’n cariad tuag at y rhai sy’n bwysig i ni? Os ydym yn dweud ein bod yn caru Duw, pam nad ydym yn aberthu mwy o’r hyn sydd gennym i

ddangos y cariad hwnnw?

Rhywbeth i’w wneud

Gwyliwch y darn fideo hwn am nyrsys (2 funud 18 eiliad):https://www.youtube.com/watch?v=URlKV0ewrhM

Cwestiynau

Beth ydym yn ei ddysgu am gariad ac aberth oddi wrth y proffesiynau gofal? Pa UN peth a allech ei newid i ddangos mwy o gariad ac aberth yn eich eglwys? Sut allwn ni ddangos gwerthfawrogiad a chefnogi pobl sy’n aberthu eu hunain i ofalu am eraill?

Rhywbeth i’w weddïo

Dduw cariadus

Yn rhy aml, deuwn at y bedd yn rhy hwyr,gyda’n perlysiau, ein rhoddion olaf, symbolau ein cariad,yr holl bethau na wnaethom eu dweud, yr addewidion,y pethau roeddem yn mynd i’w gwneud, rywbryd.

Yn rhy aml, deuwn at y bedd yn rhy hwyr,gyda’n perlysiau, ein rhoddion olaf, symbolau ein cariad,yr holl bethau na wnaethom eu dweud, yr addewidion,y pethau roeddem yn mynd i’w gwneud, rywbryd.

Page 29: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Amen

Ar gyfer myfyrio gweddigar:

A phwy wyf fi fel, er fy mwyn, y gwisgai fy nghariad gnawd fy ngwendid a marw?

Dirgelwch Duw - Carodd Duw y byd gymaint

Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy’n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw. Y sawl nad yw’n caru, nid yw’n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw. Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i’r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef. Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni’n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau. Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd. Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.1 Ioan 4.7-12

Mae’r darn hwn o’r Ysgrythur yn ein hatgoffa bod teithio drwy’r Grawys gyda Iesu yn fwy na dim ond dod at ein gilydd i fwynhau cymdeithas ac i astudio. Mae treiddio i ddirgelwch cariad Duw yn golygu wynebu gwirionedd syfrdanol – os dywedwn ein bod yn credu yn Nuw ac yn Iesu yna mae’n rhaid i ni gredu o ddifrif bod Duw yn ein caru ni ddigon i anfon Iesu i farw drosom. Yn fwy na hynny, mae’n rhaid i ni ddangos y cariad hwnnw ein hunain. Os na wnawn, ni allwn gyhoeddi dirgelwch cariad Duw ei hun tuag atom i bobl eraill.

A ydyn ni, fel Cristnogion, wir yn caru ein gilydd? Mae hynny’n her enfawr, nid lleiaf oherwydd bod yna lawer o Gristnogion ffyddlon sydd wedi cael ei brifo gan eu heglwys, eu cymdogion Cristnogol a’u cyfeillion. Ac nid yw hon yn broblem newydd: mae Paul yn ei lythyrau yn deisyf sawl gwaith ar y bobl yn yr eglwysi i dreulio mwy o amser yn tystiolaethu drwy gariad Cristnogol yn hytrach nac yn dadlau, yn cweryla ac yn camymddwyn.

Eto mae’r byd mewn dirfawr angen am glywed negeseuon am gariad Duw. Ac os yw’r daith drwy’r Grawys i ddirgelwch Duw i olygu unrhyw beth, hynny fydd ein bod yn diweddu’r daith gydag argyhoeddiad cryfach ac eglurach o’r hyn yw Duw a’r hyn mae Duw wedi’i wneud drosom. Ac mae hynny’n golygu amlygu hynny i eraill yn ein cynulleidfaoedd a’n grwpiau. Mae’n aml yn anoddach nag y byddech yn ei dybio: mae cymaint o bethau a all lastwreiddio ein cariad, gan ei wneud yn amodol neu’n annigonol. Beth fyddai’n ein hysgogi i ddangos cariad at y bobl rydym fel arfer yn eu hosgoi, i dderbyn y bobl sy’n lleiaf tebyg i ni, i arllwys cariad Duw’n afradlon dros bobl a fyddai’n syfrdanu ac yn rhyfeddu eu bod yn ei dderbyn?

Cwestiwn

Pa UN peth allech chi ei wneud, fel eglwys, i syfrdanu eich cymuned â chariad Duw?

Treiddio i’r dirgelwch - Bydd Mab Duw yn marw

Nawr byddwch gyda Mair wrth iddi ddod â’r jar o bersawr at Iesu...

Page 30: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

...Eisteddwch mewn distawrwydd a gosodwch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw o’r neilltu.

...Canolbwyntiwch ar anadlu’n dawel.

...Rydych yn edrych ar Iesu...

...Rydych yn gweld bod Duw wedi caru’r byd cymaint fel ei fod wedi anfon ei Fab i farw drosoch chi a thros bawb.

...Rydych chi’n rhan o’r stori honno.

...Rydych yn torri’r sêl ar y jar drudfawr. Mae Jwdas yn ebychu.

... Rydych yn arllwys y persawr. Mae Iesu’n edrych arnoch ac yn gwybod beth rydych yn ei wneud.

... Mae’r persawr yn llenwi’r ystafell. Rydych yn gwybod y bydd Iesu’n rhoi ei fywyd drosoch.

... Dyma sut rydych yn ei eneinio ar gyfer ei gladdu.

...Dewiswch un llun neu un gair neu un ymadrodd syml o’r adnodd hwn hyd yma.

...Gan gadw’r llun, y gair neu’r ymadrodd hwnnw yn eich meddwl,

...ymestynnwch at ddirgelwch a rhyfeddod Duw

...sydd yn ei hanfod yn llifeiriant cariad.

...Caewch eich llygaid am un funud, wedyn agorwch eich llygaid eto ac eistedd mewn tawelwch am un funud arall.

...Cofiwch nodi unrhyw beth sy’n dod i’ch meddwl.

Rhowch ddiolch fel bo’n briodol.

Terfynwch â Gweddi’r Arglwydd.

Adnoddau eraill:

Arferion Claddu ym Mhalesteina yn y Ganrif Gyntafhttps://www.bibleodyssey.org/en/people/related-articles/burial-practices-in-first-century-palestine

Page 31: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Sul y Blodau - Dirgelwch Llawenydd a Iachawdwriaeth

Darlleniadau

Eseia 50.4-9a Salm 31.9-16 Philipiaid 2.5-11 Luc 22.14-23.56 neu Luc 23.1-49

Man cychwyn - Hosanna!

Pan ddaeth Iesu i mewn i Jerwsalem ar Sul y Blodau, roedd y tyrfaoedd yn heidio tuag ato mewn llawenydd. Mwy na thebyg eu bod yn gobeithio bod y Meseia wedi dod, rhyddhäwr Duw, yr un a fyddai’n eu rhyddhau oddi wrth hualau Rhufain. Roeddent yn llawn gobaith a chyffro, ac yn edrych yn eu hysgrythurau a’u hanes am gadarnhad mai hwn, yma, heddiw, fyddai’r un a ddeuai â rhyddid, ymreolaeth a gwell bywyd i bawb. Y Meseia fyddai ffynhonnell eu hiachawdwriaeth. Does dim syndod iddynt waeddi ‘Hosanna! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd!’

Rydym oll yn deall cyffro’r math hwnnw o obaith personol. Mae papurau newydd yn hoffi cynnwys lluniau o bobl sy’n gwenu o glust i glust wrth iddynt agor y siampaen – ar ôl ennill y Loteri neu ennill Strictly. Neu fe all eu llawenydd ddod o agosatrwydd a pherthynas: pobl sydd newydd briodi, neu gael baban, neu ganfod brawd neu chwaer heb wybod bod ganddynt frawd neu chwaer. Weithiau gall llawenydd ddilyn torcalon, llawenydd sy’n hyfrytach fyth o ddod o chwyldroi sefyllfa wael. Ond weithiau, mae’r ewfforia’n troi’n ddifaterwch neu hyd yn oed yn drallod. Weithiau, nid yw llawenydd yn parhau.

Ond ni fyddai’r bobl a oedd yn gwaeddi Hosanna wedi gallu dychmygu’r fath o lawenydd a fyddai’n eu disgwyl ar ddiwedd y stori. Oherwydd mae’n stori sy’n troi o fonllefau o lawenydd i floeddio casineb a siom: ‘Croeshoelia ef!’ Ac yma rydym yn cyrraedd dirgelwch eithaf ffydd: mae Llawenydd a Iachawdwriaeth gwir ryfeddol ar gyfer pawb yn disgwyl ar ddiwedd gofid a dioddefaint digwyddiadau’r Wythnos Fawr. Ni all neb ond Duw greu’r fath lawenydd diddiwedd ac amhosibl ei ddistrywio allan o fethiant, angau, colled a gwacter ysbrydol erchyll.

Rhywbeth i’w drafod - A ydym yn ddigon llawen?

Beth sy’n dod i’ch meddwl pan ydych yn dwyn i gof ddigwyddiad llawen yn eich bywyd? Sut mae eich eglwys yn dathlu ac yn amlygu llawenydd? Sut fyddech chi’n dechrau sgwrs â rhywun ynghylch y llawenydd sydd i’w ganfod yn y bywyd

Cristnogol a’r ffydd Gristnogol? Pam nad ydym yn fwy llawen ac yn fwy diolchgar am yr iachawdwriaeth a sicrhaodd Duw i ni

yn Iesu Grist?

Rhywbeth i feddwl amdano - Llawenydd a thangnefedd uwchlaw ein deall

Stori

Dioddefodd Jonathan Bryan, mab y Parchedig Christopher Bryan a Chantal Bryan, niwed difrifol i’w ymennydd yn dilyn damwain car pan oedd yng nghroth ei fam. Yng ngolwg y byd mae’n dioddef o anabledd difrifol ac ni all siarad. Fodd bynnag, dysgodd i gyfathrebu drwy ddefnyddio ei lygaid ac mae wedi ysgrifennu llyfr â’r teitl Eye Can Write.

Bu Jonathan yn agos at farw sawl gwaith, ond mae’n adrodd stori ryfedd a thrawiadol ynghylch argyfwng a brofodd. Wrth i angau agosáu, gwelodd ei hun mewn gardd braf gyda phlant eraill a Iesu. Gan na allai gyfathrebu bryd hynny, ni allai ddweud wrth ei rieni na neb arall am y profiad. Unwaith y gallai ysgrifennu, rhannodd nad oedd arno ofn marw a’i fod yn edrych ymlaen at y llawenydd, y

Page 32: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

tangnefedd a’r rhyddhad roedd wedi eu profi. Ers hynny, nid yw Jonathan yn ofni marwolaeth ac er ei fod yn disgwyl mai byr fydd ei oes mae’n edrych ymlaen at ei fywyd gyda Iesu ei Waredwr.

Gallwch ddysgu rhagor am Jonathan yn:https://eyecantalk.net/

Yn yr hanes am weledigaeth mewn breuddwyd o’r Canol Oesoedd a elwir Y Perl, mae’r breuddwydiwr yn ailddarganfod ei ferch a fu farw mewn gardd brydferth yn llawn goleuni, ond ni all ymuno â hi. Mae’n rhaid iddo ddychwelyd a byw gweddill ei oes. Ond mae’r nefoedd yn ei ddisgwyl.

Cwestiynau

Beth ydych chi’n meddwl y gall rhywun fel Jonathan ei ddysgu i ni am lawenydd? Sut ydych chi’n ymateb i weledigaeth Jonathan o’r ardd brydferth?

Darn o’r ysgrythur i fyfyrio arno - Ymddiried yn iachawdwriaeth Duw

Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd, oherwydd y mae’n gyfyng arnaf...

Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, Arglwydd,ac yn dweud, ‘Ti yw fy Nuw.’Y mae fy amserau yn dy law di;gwared fi rhag fy ngelynion a’m herlidwyr.

Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was;achub fi yn dy ffyddlondeb.

Salm 31. 9; 14-16

Cwestiynau

A ydym yn ymddiried yn Nuw ddigon i roi ein hunain yn llwyr yn nwylo Duw? Sut fydd eich eglwys yn paratoi i ystyried unwaith eto ddigwyddiadau’r Wythnos Fawr a

dirgelwch y Pasg? Pryd mae Duw wedi ateb eich gweddïau pan oeddech yn ofidus neu’n bryderus?

Rhywbeth i’w wneud

Gwyliwch y darn fideo hwn ar ‘Lawenydd Dynol’ gan Fran O’Hanlon, neu Ajimal (3 munud 58 eiliad):https://www.youtube.com/watch?v=uQQIxVztErA

Gellir gweld y geiriau yma:https://ajimal.bandcamp.com/track/this-human-joy

Cwestiynau

Beth mae’r geiriau/fideo yn ei wneud i chi feddwl am lawenydd? Pa UN peth allai eich eglwys ei wneud i ddod â mwy o lawenydd i’ch cymuned?

Rhywbeth i’w weddïo

Dduw cariadus ein Hiachawdwriaeth oherwydd, pan oeddem yn disgwyl hynny leiaf,pan feddyliem fod y stori ar benac nad oedd dim ar ôl ond methiant a dagrau,anfonaist ti dy Fab, Iesu,i farw ar groes a dod â ni adref.

Page 33: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Cynorthwya ni i ddangos ein llawenydd i’r bydfel y gallwn dystiolaethu i’th Gariadgan ymhyfrydu yn ein Hiachawdwriaeth.

Amen

Ar gyfer myfyrio gweddigar:

Arglwydd, credaf yng nghadernid dy gariad...

Holl weithredoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a dyrchefwch ef yn dragywydd. (Benedicite)

Myfyrdod ar gyfer Sul y Blodau:https://www.youtube.com/watch?v=xTXiqoGnbKU

Dirgelwch Duw - Duw yn ein hachub

...yn sydyn, llanwodd y Drindod fy nghalon yn gyflawn o lawenydd. Ac felly y deallais y byddai yn y nefoedd heb ddiwedd i bawb a ddaw yno. Oherwydd y Drindod yw Duw: Duw yw’r Drindod; y Drindod yw ein Gwneuthurwr a’n Ceidwad, y Drindod yw ein cariad tragwyddol a’n llawenydd a’n dedwyddwch tragwyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. A dangoswyd hynny i mi yn y [Dangosiad] Cyntaf ac ym mhopeth: oherwydd lle bynnag yr ymddengys Iesu, mae’r Drindod fendigaid yno, fel petawn yn ei gweld.

A dywedais: Benedicite Domine! Hynny a ddywedais i wisgo fy ngeiriau â pharch, â llais cadarn; a chwbl syfrdan oeddwn mewn rhyfeddod a syndod y byddai Yntau, mor hybarch ac ofnadwy, mor gartrefol gyda chreadures o bechadur yn trigo yn y cnawd truenus.’

Y Fam Iwlian o Norwich, Datguddiadau Cariad Dwyfol, pennod 4.

Mae’r Fam Iwlian yn disgrifio’r modd y caiff ei llenwi â llawenydd pan dreiddia i Ddirgelwch Duw. Gwêl fod Duw yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân a bod cyflawnder y Duwdod yn Iesu. Mae’n cael profiad o arswyd a harddwch Duw. Mae’n rhyfeddu y byddai Duw yn hidio cymaint amdani fel bod Duw wedi ei gwneud yn bosibl i ni gael ein hachub i fywyd tragwyddol.

Mae hynny’n dod â’n taith drwy’r Grawys yn ôl i’w chychwyn. Dechreuasom drwy gydnabod ein bod yn gwybod ein bod yn cael ein geni ac y byddwn yn marw: llwch ydym. Ond diwedd y stori, drwy ras Duw, yw bywyd nid marwolaeth. Dyna lle’r ydym yn mynd, gyda Iesu, i ddirgelwch angau i ddarganfod y bywyd tragwyddol sy’n ein disgwyl, lle bydd Duw yn sychu pob deigryn o’n llygaid.

Page 34: Churches Together in Britain and Ireland - Dirgelwch Duw ... · Web view‘Pan fo dyn yn ildio ar ennyd ei demtio, deallaf mai dyna pryd y bydd yn camu i demtasiwn ac yn cael ei ddal

Treiddio i’r dirgelwch - Pwy yw’r Iesu hwn?

Nawr sefwch yn y dorf wrth i Iesu ddod i mewn i Jerwsalem

...Eisteddwch mewn distawrwydd a gosodwch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw o’r neilltu.

...Canolbwyntiwch ar anadlu’n dawel.

...Mae yna gymaint o sŵn, mae pawb wedi cyffroi.

...Ai hwn yw’r Meseia? Mae pawb eisiau credu hynny.

...Maen nhw’n gweiddi, Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd!

...Cymaint o lawenydd, ond cymaint mwy i ddod...

...Dewiswch un llun neu un gair neu un ymadrodd syml o’r adnodd hwn hyd yma.

...Gan gadw’r llun, y gair neu’r ymadrodd hwnnw yn eich meddwl

...ymestynnwch at ddirgelwch a rhyfeddod Duw

...a gweld ac adnabod Iesu’n eglurach...

...Caewch eich llygaid am un funud, wedyn agorwch eich llygaid eto ac eistedd mewn tawelwch am un funud arall.

...Cofiwch nodi unrhyw beth sy’n dod i’ch meddwl.

...Rhowch ddiolch fel bo’n briodol.

Terfynwch â Gweddi’r Arglwydd.

Adnoddau eraill

Litwrgïau a gweddïau ar gyfer Sul y Blodau o Gymuned Iona:https://www.ionabooks.com/e-liturgies-prayers/palm-sunday.html

Teithio i’r Wythnos Fawr

Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r daith hon drwy’r Grawys i Ddirgelwch Duw. Rydym bellach yn teithio i mewn i’r Wythnos Fawr gyda Iesu. Awn ymlaen i Ddirgelwch Taith y Pasg.

Daw’r dyfyniadau Ysgrythurol o’r Beibl Cymraeg Newydd, Argraffiad Diwygiedig, Hawlfraint © 2004 gan Gymdeithas y Beibl. Defnyddiwyd gyda chaniatâd Cymdeithas y Beibl. Cedwir pob hawl ledled y byd.

www.ctbi.org.uk/lent

Twitter: #MysteryOfGod