16
Fe gofir 2007 am dywydd gwael yn ystod yr haf a’r problemau ddaeth yn sgil achosion o Glwy’r Traed a’r Genau yn ne Lloegr. Yn sicr ddigon bydd 2008 yn cael ei chofio fel y flwyddyn ddi-haf, ddi-haul a glaw dibaid. Bu Awst eleni yn un o’r misoedd Awst gwlypaf ers cychwyn cofnodi ystadegau. Gellid rhoi rhestr faith o sgil effeithiau yr holl dywydd gwlyb, ffermwyr heb orffen y cynhaeaf, colledion y diwydiant twristiaeth a chanslo nifer fawr o ddigwyddiadau gwledig ar draws Cymru. Roedd sioe Tal-y-bont ymysg y digwyddiadau hynny, ac am ail dro yn ei hanes methwyd a chynnal y sioe oherwydd y tywydd a chyflwr y cae. Bu’n rhaid canslo sioe 1985 fel 2008 ar y funud olaf er siom i bawb. Ers dathlu’r canmlwydiant yn 1996 mae’r sioe wedi ei chanslo’n gyfangwbl ar ddau achlysur, yn 2001 (Clwy’r Traed a’r Genau) a 2008. Bu sioeau 2002 a 2007 heb gystadleuthau’r defaid, gwartheg a geifr oherwydd y Clwy. Sefydlwyd cymdeithas y sioe gant a deuddeg o flynyddoedd yn ôl a dim ar chwarae bach y gwelwyd peidio cynnal sioe dros y blynyddoedd. Yn wir, ni chynhaliwyd y sioe yn sgil rhai o ddigwyddiadau mawr yr Siom y Sioe Cloch Eglwys Dewi Sant – tud 11 tud 3/6/7 Pobl a Phethe tud 5/7 Ysgolion tud 15 Ble yn y byd? tud 16 Chwaraeon Papur Pawb Pris: 50c Medi 2008 Rhif 341 Codi arian ar y Prom – tud 12 Parhad tudalen 9 Ifor a Margaret Mason, Llywyddion y Sioe gyda aelodau’r pwyllgor gwaith (llun Arvid Parry-Jones)

Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

Fe gofir 2007 am dywydd gwaelyn ystod yr haf a’r problemauddaeth yn sgil achosion o Glwy’rTraed a’r Genau yn ne Lloegr. Ynsicr ddigon bydd 2008 yn cael eichofio fel y flwyddyn ddi-haf,ddi-haul a glaw dibaid.

Bu Awst eleni yn un o’rmisoedd Awst gwlypaf erscychwyn cofnodi ystadegau.Gellid rhoi rhestr faith o sgileffeithiau yr holl dywydd gwlyb,ffermwyr heb orffen y cynhaeaf,colledion y diwydiant twristiaetha chanslo nifer fawr oddigwyddiadau gwledig ar drawsCymru.

Roedd sioe Tal-y-bont ymysgy digwyddiadau hynny, ac am aildro yn ei hanes methwyd achynnal y sioe oherwydd ytywydd a chyflwr y cae. Bu’nrhaid canslo sioe 1985 fel 2008ar y funud olaf er siom i bawb.Ers dathlu’r canmlwydiant yn1996 mae’r sioe wedi eichanslo’n gyfangwbl ar ddauachlysur, yn 2001 (Clwy’r Traeda’r Genau) a 2008. Bu sioeau2002 a 2007 heb gystadleuthau’rdefaid, gwartheg a geifroherwydd y Clwy.

Sefydlwyd cymdeithas y sioegant a deuddeg o flynyddoeddyn ôl a dim ar chwarae bach ygwelwyd peidio cynnal sioe drosy blynyddoedd. Yn wir, nichynhaliwyd y sioe yn sgil rhai oddigwyddiadau mawr yr

Siom y Sioe

Cloch Eglwys Dewi Sant – tud 11

tud 3/6/7

Pobl a Phethetud 5/7

Ysgoliontud 15

Ble yn y byd?tud 16

Chwaraeon

PapurPawb

Pris: 50c

Medi 2008 Rhif 341

Codi arian ar y Prom – tud 12Parhad tudalen 9

Ifor a Margaret Mason, Llywyddion y Sioe gyda aelodau’r pwyllgor gwaith (llun Arvid Parry-Jones)

Page 2: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

2

Golygydd Cyffredinol: Geraint Evans (01970) 832473Garnwen, Tal-y-bont, Ceredigion. [email protected]

Tynnu lluniau: Cysyllter â golygyddion y mis.Teipyddes: Carys Briddon

GOHEBYDDION LLEOLBont-goch: Richard Huws, Pantgwyn, Bont-goch 832566Parsel Henllys: Dilys Morgan, Alltgoch 832498Eglwysfach: Wendy Fuller, Pandy, Ffwrnais (01654) 781312Taliesin: Mai Leeding, Glannant, Taliesin 832672Tal-y-bont: Aileen Williams, Maesmeillion 832438

Kathleen Richards, Y Bryn 832201Tre’r Ddôl: Susan Lewis, Maesgwyn, Tre’r Ddôl 832429

Janet Evans, Cefngweiriog (01654) 781260Maes y Deri: Eirlys Jones, 91 Maes y Deri 832483

CYMDEITHAS PAPUR PAWBCadeirydd: Bleddyn Huws, Henllan, Tal-y-bont 832448Is-gadeirydd: Geraint Pugh, Dôl Pistyll 832433Ysgrifennydd: Megan Mai, Gwynionydd, Tal-y-bont 832384Trysorydd: Gwyn Jenkins, Maes Gwyn, Tal-y-bont 832560Aelodaeth: Aileen Williams, Maesmeillion 832438Hysbysebion: Wendy Fuller, Pandy, Ffwrnais (01654) 781312Plygu: Gwenllïan Parry Jones, Lyn HammondsDosbarthwyr: Enid Gruffudd, Susan Lewis, Gwenllian Parry-Jones,

Eurlys Jones (Tanysgrifiadau)

Papur Pawb

Cyhoeddir gan Gymdeithas Papur Pawb gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru - Bwrdd Gorllewin, a Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Dyddiadur

Golygyddion y rhifyn hwn oeddBeryl a Mair gyda Ceri’n dylunio.

[email protected] y rhifyn nesaf fydd

Catrin: 07921 397 [email protected]

a Rhian: 832344/07773 313 [email protected]

Dylai’r deunydd fod yn llaw’rgolygyddion erbyn 3 Hydref a bydd

y papur ar werth dydd Gwener 10 Hydref.

MEDI14 Bethel 10 Gweinidog

Nasareth 5 J. TudnoWilliams (C)Rehoboth 10 Bugail (C)Eglwys Dewi Sant 2.30Gosber a Chymun

15 Merched y Wawr Tal-y-bonta’r Cylch yng nghwmniDebra Griffiths

16 C.Ff.I. Tal-y-bont a’r Cylch.Cyfarfod misol. Practisgemau dan do

20 Eglwys Dewi Sant. BoreCoffi, 10.30-12 p.m. £2.00.Neuadd Goffa Tal-y-bont

21 Bethel 10 W.L. GealyNasareth 10 Huw RoderickRehoboth 5 Richard LewisEglwys Dewi Sant 11 YrOfferenEglwys St. Pedr, Elerch,2.30 Hwyrol Weddi

23 Yoga, 7.30-9 p.m., NeuaddGoffa Tal-y-bont

25 Sefydliad y Merched, Tal-y-bont. 7.15 pm Affrica – Dr Agnew.

26 Eglwys St. Pedr, Elerch,7.30 pm CwrddDiolchgarwch: C.Ff.I. Tal-y-bont a’r Cylch.Cystadlaethau ChwaraeonDan Do y Sir

28 Bethel 2 Parch MarkMorganNasareth 5 BugailRehoboth 10 RhidianGriffithsEglwys Dewi Sant 9.30MatinsC.Ff.I. Trip Saethu Clai ynLlanwrin, cyfarfod am1.00yp yn Tal-y-bont

30 C.Ff.I. Tal-y-bont a’r Cylch.Sosial Fawr gydaLlanddeiniol, Llangwyryfon aTrisant

HYDREF5 Bethel 10 Gweinidog

Nasareth 5 R.H. Lewis –Cwrdd Diolch – BethelRehoboth 10 John HughesEglwys Dewi Sant Gweler yrhysbysfwrdd

At drigolion ardal Papur Pawb.Fel rheolwr Cartref PreswylTregerddan tybed a fyddai gan raio ddarllenwyr Papur Pawbddiddordeb i gynnig eugwasanaeth yn rheolaidd gyda’rgwaith o gludo prydau’nddyddiol o Dregerddan (argyfartaledd unwaith neuddwywaith y mis).

Rydym yn gwybod fod poblyn y gymuned yn gwerthfawrogigwasanaethau prydau poeth oDregerddan yn fawr iawn, foddbynnag er mwyn cynnal ygwasanaeth yma mae’n hanfodolfod gennym wirfoddolwyr sy’nfodlon mynd a’r prydau yma i’rtrigolion dan sylw. Telir costau argyfradd o 42.9 ceiniog y filltir.

Os bydd gan unrhyw undiddordeb i fod yn wirfoddolwr‘Prydau yn y Cartref ’ cysylltwch âChartref Tregerddan ar 01970828657.Diolch yn fawr iawn.

Yn gywir,M Elaine EvansRheolwr

5 Capel Bethesda, Tynant 2Cwrdd Diolchgarwch. ClwbFfermwyr Ifanc Tal-y-bont a’rCylch. Croeso cynnes i bawb.Eglwys St. Pedr, Elerch,2.30 Cymun Bendigaid

6 Pwyllgor Sioe Tal-y-bont.Neuadd Goffa 8 p.m.

7 C.Ff.I. Tal-y-bont a’r Cylch.Noson hwylus yng ngofalElgan

12 Bethel 10 Diolchgarwch yPlant. Undebol BethelNasareth 5 Terry EdwardsRehoboth 10 Bugail (C)Eglwys Dewi Sant 2.30Gosber a Chymun Bendigaid

14 C.Ff.I. Tal-y-bont a’r Cylch.Cyfarfod Eisteddfod.Gwneud Cebystr gyda HuwHopkins

19 Bethel 2 Parch Tudor DaviesNasarethRehoboth 10 Huw RoderickEglwys Dewi Sant 11Cymun Bendigaid

21 C.Ff.I. Tal-y-bont a’r Cylch.Cyfarfod misol. YmarferionEisteddfod

23 Sefydliad y Merched, Tal-y-bont. CyfarfodBlynyddol/Swper yCynhaeaf, 7.15 p.m.

26 Bethel 10 GweinidogNasareth 10 Glyn MorganRehoboth 3.30 BugailEglwys Dewi Sant 9.30Boreol Weddi

28 C.Ff.I. Tal-y-bont a’r Cylch.Ymarferion Eisteddfod

Llythyron

Os am gynnwys manylion amweithgareddau eich mudiad neu’chsefydliad yn nyddiadur y mis, dylechanfon y manylion llawn at AileenWilliams, Maesmeillion, Tal-y-bont (01970 832438) o leiaf ddeng niwrnodcyn y rhifyn nesaf o Papur Pawb.

Gofalwr/Gofalwraig i’r Neuadd Goffa

Mae angen person i ofalu am yNeuadd Goffa

Prif ddyletswyddauParatoi’r neuadd ar gyfercyfarfodydd a chloi wedynCyflog - £2000 y Flwyddyn

Os oes diddordeb gennychcysylltwch â

Ieuan Morgan 832496

Clwb Cerdd Machynllethcyngerdd yn y Tabernacl

CANTORION SIRENIANenillwyr “Cor y Byd” ynEisteddfod Llangollen

Nos Sadwrn Tachwedd 8fedam 7-30 o’r gloch

Aelodau £20 am 4 cyngerdd(Nad yw’n aelod - pob

cyngerdd £8 wrth y drws)Ffurflenni cais drwy ffonio’r

Tabernacl ar 01654781246/781312

Cwrdd Diolchgarwch

CFfI Tal-y-bont a’r Cylch

Pnawn Sul, 5 HydrefCapel Bethesda, Tynant

2.00 yhCroeso cynnes i bawb

Cwrdd DiolchgarwchCynhelir cwrdd diochgarwchEglwys St. Pedr, Bont-goch

ar Nos Wener, 26 Medi am 7-00pm.

Pregethir gan Y Parchg H. Gwynne Lewis,

Aberaeron. Estynnir croeso cynnes i bawb.

Eglwys Dewi SantTal-y-bont

BORE COFFI Sadwrn, 20 Medi 2008

yn y Neuadd Goffa am 10.30 o’r gloch

Pris Mynediad: £2 (Oedolion); plant am ddim

Stondinau / Raffl

Croeso cynnes i bawb

Page 3: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

GenedigaethLlongyfarchiadau i Jennifer aGwynfor Davies, Erw Lon aGarej Davmor, ar ddod yn famgua thadcu am y tro cyntaf. Ganwydmerch fach sef Megan, i Ceri aIan yng Nghaerdydd ar Fedi 7fed.Dymuniadau gorau i'r teulu i gyd.Braf hefyd gweld Gwynfor yncerdded o gwmpas ar ôl eilawdriniaeth yn ddiweddar.

Genedigaeth ÃyrLlongyfarchiadau i Gwen a PeterManley, Swyn y Leri ar enedigaethwyr bach newydd, sef CarwynCharles Morgan Manley, mab iHuwel a Karen. Llongyfarchiadauhefyd i Hefin a Rita Llwyd, gynto Benlôn-las, Tal-y-bont, ar ddodyn fam-gu a thaid unwaith eto.Ganed mab (Cai Llwyd Edwards)i Siriol ac Osian ar 15 Gorffennaf,brawd bach i Hedd, Elan a Deio,a chefnder i Beca. Dymuniadaugorau i’r teuluoedd i gyd.

YmddeoliadPob dymuniad da i GwilymHuws, Pengwern, Tal-y-bont, ar eiymddeoliad ar ddiwedd Awst felDeon y Gyfadran GwyddorauCymdeithasol ym MhrifysgolAberystwyth. Gobeithio y bydd eiwaith fel Clerc CyngorCeulanamaesmawr yn ei gadwrhag llaesu dwylo’n ormodol!

Genedigaeth a MedalLlongyfarchiadau i Helena a SiônPennant, Penygro, Bont-goch, arenedigaeth eu merch, CaoimheMelangell, ar 10 Mehefin, chwaerfach i Oisín Lludd. Pobdymuniad da i’r teulu.

Mae teulu Penygro hefyd ynymfalchio yn llwyddiant Nain, sefMrs Mair Penri, Y Parc, Y Balawrth i’r Eisteddfod Genedlaetholddyfarnu medal Syr T. H. Parry-Williams iddi am ei chyfraniadarbennig i ddiwyllaint ei hardal acyn gydnabyddiaeth o’i gwasanaethym myd llefaru a drama ymhlithpobl ifainc. Fe’i hurddwyd mewnseremoni yn EisteddfodGenedlethol Caerdydd. Da ywgweld ei mab Siôn yn dilyn yn yrun traddodiad.

Priodas RuddemLlongyfarchiadau i Iolo ac Ellenap Gwynn, Garreg Wen, Tal-y-bont, ar ddathlu deugain mlyneddo fywyd priodasol ar 1 Gorffennaf– ac roedd Ellen hefyd yn dathluei phen-blwydd ar yr un dyddiad.Ymlaen yn awr at yr Aur!

CydymdeimloCydymdeimlwn â theuluYnysgreigiog a Chlap y Cripiau argolli tad, Richard Iorwerth Jenkins,Ynysgreigiog gynt. Cydymdeimlwnhefyd a’i briod, Ann a’i frawd WJJenkins, Penrhyngerwyn a’r teulu.

TânBrawychwyd trigolion pentrefBont-goch yn dilyn y tân addifrododd Tanllidiart. Bu’rgymdogaeth yn unol yn eu consyrna’u cefnogaeth i Mr David JamesThomas, ac anfonir eindymuniadau gorau iddo yn eigartref dros-dro ar gyrion Tal-y-bont. Hyderwn y bydd yn bosibliddo ddychwelyd i’w gynefin ynystod yr wythnosau nesaf. Maepawb yn Bont-goch yn gweld eieisiau, ac yn edrych ymlaen at eigroesawu yn ôl i’n plith.

GwibdaithMae gwibdaith yr HenoedLlangynfelyn yn mynd i DñScolton a’r Parc Gwledig yn SirBenfro ac yna ymlaen i Hwlfforddar Ddydd Mercher Medi’r 10fed.

Pen-blwyddi ArbennigAnfonwn ein cyfarchion cynhesafat Brian Davies, Rhos,Taliesin, addathlodd ben-blwydd arbennigddechrau’r wythnos. Gobeithiobod Ceredigion wedi argraffu’r“Bus-pass” yn barod.

Hefyd llongyfarchiadau iMargaret Jenkins, Tynygraig addathlodd ben-blwydd arbennig arAwst 18, Myfanwy James a oeddyn 70 oed ar Fedi’r 2il, i KeithEvans, Penygraig, Bontgoch addathlodd ei ben-blwydd arbennigyntau ar y 5ed o Fedi ac i RhodriRichards, Clap y Cripiau addathlodd ei ben-blwydd ynddeunaw ar Awst 28.

Gwellhad BuanAnfonwn ein cofion at RhianJenkins, Gweddynys, sydd wediderbyn llawdriniaeth yn ysbytyTelford, ac yn gwynebu rhagor odriniaeth yn y dyfodol agos.

Hefyd i Mrs Annie Watkin,Brynawel, ar ôl ei damwain ynddiweddar.

3

PriodasYn Eglwys Sant Pedr, Elerch ar Sadwrn 9fed Awst priodwyd RhodriLloyd-Williams, Moelglomen a Dr Sarah Wright, Causway Cottage,

Millom, Cumbria. Gweinyddwyd y briodas gan y ficer, Y Parchg JohnLivingstone. Teithiodd y ddau yn ôl i Foelglomen yn dilyn y

gwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus ganDeulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a

dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn Aberystwyth.

PriodasAr 30ain o Fai eleni priodwyd Vicky Ann Ellis a Jon Paul Evans yn

Zakynthos, Groeg. Maent yn byw ym Mhen Aber, Tal-y-bont.

Pobl aPhethe

Pris y PapurYn anffodus bu rhaid codipris y papur i hanner canceiniog, Mae ein costauwedi cynyddu ondgobeithiwn y byddwch yncroesawu’r papur ar einewydd wedd.

Page 4: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

4

Caryl a’i cheffylMae Caryl Williams, Penrhoswedi ennill lle yn cynrychioliGorllewin Cymru mewn‘dressage’ ymMhencampwriaethGenedlaethol y ClybiauMarchogaeth Prydeinig ac nidyw’n syndod ei bod wedi caelswydd yng NghanolfanMarchogaeth Rheidol, yngNghwm Rheidol.

Dwy Anrhydedd i GarethIoan Jones, Llanelwedd, Cadeirydd y Pwyllgor Cneifio, yn cyflwynoffon fugail i Gareth Evans, Bontgoch, Tal-y-bont, yn Sioe FrenhinolCymru, yn Llanelwedd. Rhodd oedd y ffon gan y cneifiwyr gwelleifiau,i Gareth am sylwebu ar y cystadlaethau cneifio a llaw am dri deg dwy oflynyddoedd.

Hefyd cyflwynwyd model bach o darw Du Cymreig iddo ar ran yGymdeithas Gwartheg Duon am archwilio’r teirw yn Seli’r Gymdeithasam gyfnod o 20 mlynedd.

Ci CymreigCynigiodd y Gymdeithas Cãn Cymreig saith ci bach wedi’u cofrestru idrafodwyr ifanc i’w magu, ac yna eu hyfforddi o danarweiniad/oruchwyliaeth cynghorwr sy’n brofiadol o ran hyfforddi’rbrid arbennig hwn. Dyma Gwion Evans, Tanllan yn derbyn un oddiwrth Bethan Gwanas yn y Sioe yn Llanelwedd.

Daniel ac Angharad Basnett

Rosie BaileyHefin Hopkins

Chwaraewyr disglairMae’n dda gweld cymaint o blant ardal Bont-goch yn serenu ar ymeysydd chwarae. Mae llwyddiant syfrdanol Angharad a DanielBasnett, Swn-y-gog, yn parhau ar y lawntiau golff, ac mae’r trigolionhefyd yn medru ymffrostio bod ganddynt chwaraewraig ryngwladol ynbyw yn eu plith wrth i Rosie Bailey, Troedrhiwseiri, gael ei dewis ynddiweddar i chwarae yn nhîm hoci merched Cymru dan 16 oed. Hefydgôl-geidwad y tîm buddugol yn y Cwpan Campus Cymreig yngNgorffennaf oedd Hefin Hopkins, Dyffryn, Tal-y-bont. Pobdymuniad da iddynt ar gyfer y dyfodol.

Sam yn mwynhauDros yr haf bu Sam Ebenezeryn canu yng nghorws y sioe‘My Fair Lady’ yngNghanolfan y Celfyddydau,Aberystwyth. Bu’n perfformiogyda Ieuan Rhys.

Myfyriwr y flwyddynLlongyfarchiadau i Siôn Evans, Neuaddfawr, sydd yn fyfyriwr yngNgholeg Llysfasi, am fod yn Fyfyriwr y Flwyddyn ar ei gwrs TystysgrifCenedlaethol mewn Amaethyddiaeth.

Page 5: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

5

Ysgol Gymunedol LlangynfelynAr ddechrau blwyddyn newydd yn yr ysgol, dymunwn yn dda iawn igyn-ddisgblion Blwyddyn 6 Ysgol Llangynfelyn sydd wedi dechrau ynYsgol Penglais. Gobeithio fydd, Bridget, Lisa, Kelly, Dylan a Thomasyn hapus iawn yn eu hysgol newydd.

Ffarweliwyd â Miss Ingrid Rose ar ddiwedd Tymor yr Hâf ar ôl daudymor fel athrawes yn yr ysgol. Dymunwn yn dda iddi ar ei swyddnewydd yn Ysgol Llangeitho. Diolchwn i Miss Rose am ei rhôddcaredig o’r ffens sydd o amgylch yr ardd lysiau newydd a hefyd i’w mabCynon Rose am roi’r ffens fyny i ni.

Croesawn Mr Emyr John atom fel ein Pennaeth newydd.Gobeithiwn y bydd yn hapus iawn yma yn Ysgol Llangynfelyn.

Baner Werdd Ysgol EcoMae’r ysgol wedi llwyddo igyrraedd y safon uchaf yngnghynllun yr Ysgol Eco sef yFaner Werdd. Bu’r plant,rhieni a’r athrawon yn brysuriawn yn nhymor yr hâf ynplannu blodau a llysiau. Mae’rgwaith ail-gylchu, lleihau gwastraff a monitro ein defnydd o ddãr acegni yn cario ymlaen drwy’r flwyddyn.

Gweithgareddau gyda Ysgol Tal-y-bontBu disgyblion Ysgol Llangyfelyn a Tal-y-bont yn ymuno mewngweithgareddau ioga ac adeiladu tîm am gyfres o sesiynau. Roedd ynbraf gweld disgyblion o’r ddwy ysgol yn cyd-chwarae ac yn mwynhaueu hunain.

TenisBu dau dîm o’r ysgol yn cynrychioli Ceredigion mewn cystadleuthauTenis Mini De Cymru. Aeth tîm Merched Blwyddyn 3 i Borth Talbotac aethant drwyddo i’r rownd gyn-derfynol. Aeth tîm CymysgBlwyddyn 5 i Gaerdydd i gystadlu ac roeddynt o fewn 3 pwynt ogyrraedd y rownd gyn-derfynol.

OcsiwnCynhaliwyd ocsiwn llwyddiannus iawn o dan ofal Mr Iestyn Leyshon.Codwyd dros fil o bunnoedd ar y noson. Diolch yn fawr iawn i’rGymdeithas Rhieni ac Athrawon am drefnu’r noson.

Acwathlon yr UrddDaeth Nansi Dingle yn ail yng nghystadleuaeth Acwathlon yr Urdd ynAberystwyth. Da iawn Nansi.

Trip YsgolAr ddiwrnod gwlyb iawn ar ddiwedd Mis Mehefin aeth yr ysgol gyfan iBarc y Deinosoriaid yn Nimbych y Pysgod. Yn anffodus bu’n rhaidgadael yn gynnar oherwydd y glaw. Penderfynwyd aros yn Nheifi-Mania yn Aberteifi ar y ffordd adref er mwyn i’r plant cael cyfle ichwarae mewn rhywle sych.

Marc SafonBu’r ysgol yn llwyddianus yn derbyn y Marc Safon am y 3ydd tro ymmis Mehefin yn dilyn ymweliad Mr Terwyn Tomos a Mrs GillianJones.

Proms Ysgolion Cynradd CeredigionBu amryw o’r plant hñn yn cymeryd rhan yn y cyngerdd yn chwarae yny gerddorfa ac yn canu yn y côr. Bu band yr ysgol yn chwarae hefyd arôl eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghonwy.

Bwlch Nant yr ArianBu plant Blynyddoedd 4, 5 a 6 yn cymeryd rhan mewngweithgareddau Bygiau Bacio yn Bwlch Nant yr Arian tra fu’r plant llaiyn mynd am dro ac yn ymchwilio i greaduriaid bach yn y llyn.

MabolgampauTîm Cletwr enillodd y mabolgampau eleni. Enillwyr y pwyntiau uchafoedd:Bechgyn Cyfnod Allweddol 2 – Llñr JonesMerched Cyfnod Alweddol 2 – Nansi Dingle a Bridget PotterBechgyn Cyfnod Allweddol 1 – Connor ByrneMerched Cyfnod Allweddol 1 – Tobia Heathfield a Maeve Courtier-Lilley

GlanllynAeth criw o blant Blynyddoedd 4, 5 a 6 i Glanllyn am dri diwrnod.Mwynhaodd pawb eu hamser yno yn canwio, gwneud rafftiau, dringoa nofio.

BarbeciwCynhaliwyd ein barbeciwblynyddol ar noson sych ymMis Gorffennaf. Codwyd £670a diolchwn i Mrs SarahMumford o Fanc Barclays amnoddi’r swm punt am bunt.

Ymwelydd o ZimbabweDaeth Martha Muzona o Zimbabwe atom i siarad am ei chartref. Bu’ndiddori’r plant gyda’i storiau a’i chaneuon hyfryd. Siaradodd hefyd ambwysigrwydd Masnach Deg i bobl Zimbabwe.

Page 6: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

Symud TñRydym yn dymuno pobhapusrwydd i Edna ac EmyrThomas, Lletylwydin, yn eucartref newydd yn Cross Innger Cei Newydd. Bydd eu colliyn gadael bwlch mawr i ni ynRehoboth ac yn y gymdeithasehangach.

Garddwest yn EglwysfachCodwyd £1500 tuag at yreglwys pan gynhaliwydgarddwest yn y Foelas.

CydymdeimladCydymdeimlir yn ddiffuantiawn â Mr T. Mitchell, Tan-y-bwlch, Bont-goch a gollodd eibriod yn annisgwyl yn ystodmis Gorffennaf.

Llongyfarchiadau iFlic Eden ,Taliesin a ZoeForster-Brown, Eglwysfach amennill cymeradwyaeth uchelmewn cystadleuath celf yngNgãyl Machynlleth agynhaliwyd yn Y Tabernacl, ynddiweddar.

Pasio’r prawf gyrruLlongyfarchiadau i GwynJones, Ffion Southgate, LisaSouthgate, Steffan Nutting aGeraint Jenkins ar basio’r prawfgyrru yn ddiweddar.

LlwyddiantLlongyfarchiadau i SusanLithgow, Hafod Elerch, Bont-goch ar ei llwyddiant diweddarmewn arholiad Cymraeg, ahynny gyda chlod arbennig.

Ysgoldy BontgochCydsyniodd PwyllgorCynllunio Ceredigion i gaisCyngor Plwyfol Elerch i newiddefnydd yr Hen Ysgol i dyannedd. Bydd hyn yn sicrhaudyfodol adeilad hanesyddolpwysig, tra’n gwarantu hefydcyllid digonol i ganiataugwaith cynnal a chadwanghenrheidiol ar Eglwys St.Pedr yn ogystal â‘i addasu argyfer gofynion cymunedol.

Arddangosfa GelfAr hyn o bryd mae gan JâmsMorgan, Maesnewydd ddarn owaith celf mewn arddangosfaGelf Ysgolion y Tair Sir yngNghanolfan y Celfyddydau acmae’n werth ymweld â hi.

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn yn fawr gydateulu Llwynglas, Tal-y-bont wrthi Janet golli ei chwaer, AnwenHarding o Fachynlleth, ynsyfyrdanol o sydyn yn ddiweddar.

Dymuna Janet, Alun a Ceriddiolch am bob arwydd ogydymdeimlad yn euprofedigaeth sydyn ac annisgwylo golli chwaer, chwaer yngnghyfraith a modryb annwyliawn. Diolch am y llu o gardiau,galwadau ffôn, blodau acymweliadau. Gwerthfawrogir ycyfan.

Bad Achub y BorthYn ystod yr wythnos BadauAchub ym mis Gorffennaf,casglwyd y swm o £187.72 oddrws i ddrws yn Nhal-y-bonttuag at Bad Achub y Borth. Yn yrardal gyfan casglwyd £2,635.82.Diolch i bawb am gyfrannu morhael ac am y croeso wrth gasglu.Eirlys Jones a Myrtle Parker

Cartref NewyddDymuniadau gorau i Jules, acOwain a’r teulu sydd wedi symudo Ebeneser i’w ty newydd drwsnesaf a enwyd yn Pennant.Croeso cynnes i Daphne Watsona ddaeth i fyw i Ebeneser - syddbellach wedi ei ail enwi ynBwthyn Rhosyn Gwyllt.

Anffawd mam a merchTra ar wyliau yn Ne Americacafodd Nia Evans, gynt o Maes-y-deri, Tal-y-bont boen yn ei chefn.Bu’n rhaid iddi hedfan adre gydachriw meddygol yn ei chludo yrholl ffordd. Daeth adre yn sâff aLuned, ei mham yn gofaluamdani yn Bow Street, ond ynanffodus cwympodd Lunedhithau a thorri ei bigwrn.Anfonnwn ein cyfarchioncynhesaf at y ddwy.

GenedigaethLlongyfarchiadau i Catherine acAndrew, 10 Maes Cletwr, Tre’rDdôl ar enedigaeth mab, Tyler ary 5ed o Fedi. Brawd bach iAngharad.

CydymdeimloCydymdeimlwn gyda Gwilym acAnn Jenkins a’r teulu; MargaretJones a’r teulu; Non a JohnGriffiths a’r teulu; Edna ac EmyrThomas a’r teulu ar golli modryb,Winnie Glickman, yn Henffordd.Hefyd gyda Dai Davies, (YFferyllfa gynt), ar golli ei chwaer,Ann Lloyd Hughes, a oedd ynbyw yng Ngharmel, Llanelli.

Yn yr YsbytyAnfonwn ein cyfarchion at MrsDouglas Jones, Brooklyn sydd arhyn o bryd yn Uned Twymyn,ym Machynlleth.

Iolo yn beirniadu yn yrIwerddonYm mis Gorffenaf cafodd IoloDavies, Doleifion y fraint acanrhydedd i fynd i sioeCastlewellan yng NgogleddIwerddon i feirniadu defaid PollDorset. Mae’r sioe yma yn unbwysig iawn yn NgogleddIwerddon gyda phawb yncystadlu am y gorau. TreulioddIolo gryn amser yn edrych atheimlo’r defaid i gyd mewndosbarthiadau gwerth eu gweld.Da iawn ti Iolo.

CydymdeimloCydymdeimlwn gydag Othniel aWendy James a’r teulu, Wenoth,Tre’r Ddôl ar golli mam Othnielsef Megan James, Llanfarian achefyd gyda Stephen a Janet Evansa’r teulu, Cefngweiriog ar gollimodryb i Stephen yn Bow Street.Hefyd gyda Katie ac Evan Jamesa’r teulu, Tre’r Ddôl ar farwolaethchwaer i Katie, sef Annie Slack,Llanbadarn.

Croeso Croeso cynnes i’r ardal i DaphneWatson, perchennog newyddEbeneser, neu Bwthyn RhosynGwyllt i roi iddo ei enw newydd.

Caws, Gwin a Chân EglwysElerch Gwefreiddiwyd cynulleidfa fawrgan berfformiad Cor ABC danarweiniad medrus y Dr AngharadFychan yn noson flynyddolCaws, Gwin & Chan EglwysElerch ar ddiwedd Mehefin.Llwyddwyd i godi dros £600 i’rcoffrau a chytunwyd i gyflwyno£50 o’r elw i Gronfa leolEisteddfod Genedlaethol yr Urdd,Ceredigion, 2010. Diolch i bawba gyfrannodd mewn unrhywffordd at lwyddiant y noson syddbellach yn ennill ei phlwyf argalendr digwyddiadau’r ardal.

O’r YsbytyCofion gorau i Mark Bradley, 88 Maes-y-deri a Gerald Roberts,90 Maes-y-deri, Tal-y-bont a fuyn yr ysbyty yn ddiweddar.

LlwyddiantBu’r haf yn dymor canlyniadau’rarholiadau TGAU a lefel A, gydallu o ieuenctid yr ardal yn profillwyddiant. Mae nifer ohonynt yndychwelyd i’r chweched dosbarth,a rhai wedi penderfynu mynd igoleg. Dymuniadau gorau i chigyd.

6

Pobl aPhethe

BedyddAr Ddydd Sul, 7 Medi yn Eglwys St. Pedr, Elerch bedyddiwyd BecaAngharad, merch fach Huw a Margaret, Llety Ifan Hen, Bont-goch.

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i’r teulu.

Page 7: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

7

Swyddi NewyddDymuniadau gorau i Ceri Jones, Llwynglas sydd wedi cael ei phenodiyn athrawes yn Ysgol Gynradd Llanilar ac i Lisa Evans, Y Dderwen,Tal-y-bont sydd wedi dechrau fel Cynorthwyydd Dosbarth yn YsgolPenglais, gan fod Modurdy Cwm Einion, Ffwrnais yn cau ddiwedd ymis.

Wedi bod yn yr YsbytyY rhai fu yn yr ysbyty yn ddiweddar oedd Geraint Howard a fu yn yrYsbyty yng Nghaerdydd, Gwenllïan Parry-Jones, Is-Allt a IorwerthJones, Ger-y-Nant a dderbyniodd lawdriniaeth yr un yn Aberystwyth.Hefyd Gillian West, White Windows, Gary Jones, Llwynadda a DavidJenkins, Ynys Eidiol y tri wedi treulio amser ym Mronglais. Cofiongorau i bawb.

CroesoCroeso cynnes iawn i’r Athro a Mrs Karl Hoffmann a’i merch fach iGlanceulan, Tal-y-bont.

LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i John Southgate a Wendy ar enedigaeth merch fach,Kelsey.

DiolchDymuna Kathleen Richards, Y Bryn ddiolch am yr holl gardiau,anrhegion a’r cyfeillgarwch a ddangoswyd iddi tra’n yr ysbyty ac ar ôldod adref ar ôl cwympo yn ddiweddar.

Geoff yn diolchHoffwn ddiolch o galon i bawb gyfrannodd tuag at fy nhysteb a’r niferhelaeth o anrhegion a chardiau a dderbyniais wrth ffarwelio â‘r ysgol.

Cefais dros ddeunaw mlynedd hapus fel aelod o staff yr ysgol amawr yw fy niolch i’m cydweithwyr dros y cyfnod yma.

Teimlais o’r cychwyn groeso a chefnogaeth cymuned glos, unigrywTal-y-bont, a diolch am y gefnogaeth.

Pleser oedd dysgu plant Tal-y-bont. Mae gen i atgofion hapus iawn.Pob llwyddiant i’r ysgol yn y dyfodol.

Geoff

Enillwyr raffl Eglwys Sant Mihangel Eglwysfach ar 24-8-08Cinio i 2 yn yr Orendy, Aberystwyth –Renata a Hans Bredow, GlandyfiBasged o nwyddau yn rhoddedig gan H G Jones, Machynlleth –Stuart Neal, GlandyfiSiampên –Mr Major, FfwrnaisTocyn £25 i’r spa ym Mhlas Talgarth - Mrs Jan Rideout, Eglwysfach

MERCHED Y WAWR TAL-Y-BONT A’R CYLCHEtholwyd yr aelodau canlynol i weithredu ar y pwyllgor am y tymornesaf: Llywydd: Megan Mai; Is-lywydd: Diana Jones; Ysgrifenyddion:Mai Leeding ac Ann Thomas; Is-ysgrifenyddion: Falyri Jenkins a NonGriffiths; Trysorydd: Glenys Edwards; Is-drysorydd: Meinir Fleming;Gofalwr y Te: Myfanwy James; Dosbarthwr Y Wawr: Betty Jenkins;Gohebydd y wasg: Carys Briddon.

Bydd cyfarfod cyntaf y tymor newydd ar nos Lun, 15 Medi am7.30 o’r gloch yn y Neuadd Goffa, a bydd y noson yng nghwmniDebra Griffiths, un o sêr y rhaglen deledu ‘Coalhouse’.

CYMORTH CRISTNOGOLYn ystod mis Mai bu casgliad o ddrws i ddrws tuag at CymorthCristnogol ym mhlwyf Llangynfelyn gan Olwen Rowlands, AnnHumphreys a Carys Briddon. Diolch i bawb a gyfrannodd, ac elenicodwyd y swm o £244.87. Owen Jenkins oedd yng ngofal y trefniadauariannol.

CYMORTH CANSER MACMILLANYn ystod mis Gorffennaf bu Mrs Eirlys Jones a Mrs Tegwen Jones ogwmpas Tal-y-bont a’r rhan fwyaf o gymuned Ceulanamaesmawr yncasglu tuag at yr elusen yma. Cawsant groeso arbennig gan bawb a brafyw cyhoeddi iddynt gasglu swm anrhydeddus o £299.15. Diolch ynfawr iawn i bawb.

Ysgol Gymunedol Tal-y-bont

Masnach DegAr ddiwedd tymor yr Haf enillodd yr ysgol y fraint o fod yn YsgolMasnach Deg – un o bymtheg yn unig ledled Cymru! Hwn oedddiweddglo dros flwyddyn o waith cyson a mwynhad, gyda’r bwriad ohybu mentrau Masnch Deg. Gwelwyd pob aelod o’r ysgol ynmwynhau gwersi a gweithgareddau hwyliog ac amrywiol yn hyrwyddonwyddau a neges MasnachDeg – o bicnic i herwgipio tea choffi’r staff! Dathlwyd einllwyddiant gydag ymweliadoddi wrth Martha oZimbabwe sydd â phrofiaduniongyrchol o’r ffordd y gallMasnach Deg trawsnewidbywydau. Diolch i bawb ameu cefnogaeth i’r brosiect.

Llwyddiant dros y gwyliauEr bod gwyliau’r haf yn gyfle i ymlacio a chael hoe o’r ysgol, mae’namlwg fod llawer o’r plant wedi bod yn brysur yn cyfrannu i wahanolgystadlaethau. Hoffwn, felly, longyfarch y plant a’r staff a gafoddlwyddiant mewn gwahanol gystadlaethau dros yr wythnosau diwethaf.

Ymddeoliad Mr DaviesDechreuodd y tymor newydd, ac roedd hi’n rhyfedd iawn yma heb MrDavies. Fel y gwyddoch igyd erbyn hyn, fe wnaethMr Davies adael yr ysgolar ddiwedd tymor yr hafac fe gafwyd nosonhyfryd i ddathlu eigyfraniad i’r ysgol. Gallneb wadu ei ymroddiadllwyr i fywyd a gwaith yrysgol dros y deunawmlynedd a mwy y buyma a doedd hi ddimsyndod fod dros gant obobl wedi dod i’r ysgol idalu eu diolchiadau iddo,yn cynnwys llawer iawn ogyn-ddisgyblion. Roeddhyd yn oed Radio Cymruwedi clywed am ydigwyddiad! Cafwydcacen flasus iawn a jeli ahufen iâ ac fe gyfrannoddblant yr ysgol sawl eitemddifyr. Cafodd Mr Davies nifer o anrhegion hefyd i gofio am ei gyfnodyn Nhal-y-bont, ac roedd wrth ei fodd gyda’r ffotograff gan Ron Daviesa’r llun arbennig o’r pentref a’r ardal gan Ruth Jên yn enwedig. Hoffwnddymuno’n dda iddo ym mha beth bynnag y bydd yn dymuno eiwneud a diolch o galon iddo am ei waith a’i gwmni. Pob hwyl i chi MrDavies.

Arian LoteriCafodd yr ysgol newyddion da iawn drwy’r post yn ddiweddar. Buomyn llwyddiannus i ennill grant sylweddol o’r gronfa “Arian i Bawb” yLoteri Genedlaethol. Fel rhan o’r grant, mae’n ofynnol i ni drefnugwersi ar sut i ddefnyddio agweddau o’r cyfrifiadur. Mwy o fanylion iddilyn.

Mae wedi bod yn braf cael croesawu plant newydd i’r ysgol ac mae’n braf hefyd gael croesawu Mrs Meinir Edwards fel aelod newyddo staff hefyd.

Page 8: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

8

C.Ff.I. Tal-y-bontBu nifer o gystadlaethau gyda’r Ffermwyr Ifanc yn ystod yr haf. Ar ddyddSul, 15 Mehefin, bu Geraint, Iolo, Rhys, Gareth, Rhydian, Aled aCarwyn yn cystadlu yn Rygbi’r sir. Y nos Wener ganlynol, roedd ygystadleuaeth Tynnu’r Gelyn. Llongyfarchiadau i glwb Tal-y-bont amddod yn 3ydd.

Yr wythnos ganlynol, dydd Sadwrn 28 Mehefin, bu nifer o’r aelodaulawr yn Ysgol Dyffryn Teifi a Chanolfan Hamdden, Llandysul, yncymryd rhan yn Chwaraeon y Sir – mewn cystadlaethau megis athletau,rounders ayb. Cafwyd noson hwyliog y nos Fawrth ganlynol – pêl-droed5 bob ochr yn y Neuadd Goffa. Cyfle i gael bach o hwyl wedi’r hollgystadlu.

Ar nos Fercher, 2 Gorffennaf, bu 2 dîm o 6 aelod, dan 18, yn cymrydrhan yn ‘It’s a Knockout’. Cynhaliwyd y gystadleuaeth eleni eto yn CelAeron, Aberaeon. Llongyfarchiadau i un o’r timoedd, gan iddynt ddod yn2il.

Cynhaliwyd ein Cyfarfod Blynyddol ar nos Fawrth, 15 Gorffennaf.Ein swyddogion eleni yw:

Cadeirydd: Elgan Evans, TynantYsgrifenyddion: Mererid James, Cwmudw a Danielle PryceTrysorydd: Geraint Jenkins, CerrigcaranauLlywyddion: Enoc a Margaret Jenkins, Tyngraig

Bu Geraint, Eifion a Dewi Jenkins yn cynrychioli’r Sir yn y SioeFrenhinol, gan gystadlu yn y cystadlaethau Barnu Stoc. Llongyfarchiadaui Geraint am gael 1af dan 21 gyda Barnu Gwartheg Godro, ac hefyd amennill cwpan.

Bu rhai o’r aelodau yn cystadlu yn Nhreialon Cwn Defaid y Sir ar nosFercher, 6 Awst. Llongyfarchiadau i Aled Llyr am ddod yn 2il, ac ElganEvans am ddod yn 3ydd.

Bellach mae’r clwb wedi ail-ddechrau. Cynhaliwyd y Sosial Fach arnos Fawrth, 2 Medi, gyda Derrick Davies, Tynddraenen. Llawer oddiolch iddo am ein diddanu gyda’i gêmau. Cafwyd noson difyr, hwyliog,a phawb yn llawn egni! Braf oedd gweld ambell aelod newydd yn einplith.

Os hoffai unrhyw berson rhwng 11 a 26 ymuno â’r clwb, rydym yncyfarfod yn wythnosol ar nos Fawrth, am 8.00yh, yng ngwaelod NeuaddGoffa Tal-y-bont. Hefyd, estynir croeso i gyn-aelodau i’n cyfarfodydd,nosweithiau a thripiau.

CSJ

Canlyniadau Clwb 100 CFfI Tal-y-bont:Mehefin£20 Mrs J M Pugh, Fronddewi, Capel Dewi£15 Cathy Jones, Cnwc-y-Barcud, Bont Goch£10 Geraint Jones, Brynolwg, Bont Goch

Gorffennaf£20 A. Williams, Maes Meillion, Tal-y-bont£15 Evan Evans, Tynrhelyg, Tal-y-bont£10 Teulu Tyngraig, Tal-y-bont

Y beirdd ifanc, Esther Llwyd Ifan, Zoe Forster-Brown a Catrin Huws,gyda Joy Neal, Falyri Jenkins ac Ellen ap Gwynn.

Gãyl Farddoniaeth R.S. ThomasAr benwythnos cyntaf y gwyliau haf cynhaliwyd Gãyl FarddoniaethR.S. Thomas yn Eglwys St. Michael’s a’r Ystafell Haearn ynEglwysfach.

Cafwyd dechrau da i’r ãyl gyda’r Gystadleuaeth Farddoniaeth iblant oed cynradd. Roedd disgyblion o ysgolion cynraddMachynlleth, Pennal, Llangynfelyn a Thal-y-bont wedi cystadlu adywedodd y beirniad, Dr Gwendraeth Morgan, fod safon y cerddiyn uchel iawn. Yn y gystadleuaeth ysgrifennu cerdd Gymraegenillodd Esther Llwyd Ifan, Llys Alaw y wobr gyntaf ac enilloddCatrin Huws, Henllan y drydedd wobr. Enillodd Zoe Foster Browno Eglwysfach, sydd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Tal-y-bont, y wobrgyntaf am ysgrifennu cerdd Saesneg.

Yn dilyn hyn cafwyd beirniadaeth y Gystadleuaeth Farddoniaethi oed uwchradd. Beirniad y cerddi Saesneg oedd Mrs WendyCrockett a beirniad y cerddi Cymraeg oedd y Prifardd GwenalltLlwyd Ifan. Unwaith eto roedd safon y cerddi a ddaeth i law oYsgolion Uwchradd Bro Ddyfi, Tregaron a Llanfair Caereinion ynuchel iawn. Cyflwynwyd tystysgrif, gwobr ariannol a llyfr, ynrhoddedig gan Y Lolfa, i bob un o’r beirdd buddugol.

Yn y prynhawn cafwyd seremoni i ddadorchuddio cofeb i’r barddR.S. Thomas. Agorwyd y seremoni gan Mrs Lona Jones adadorchuddiwyd y gofeb gan yr Arglwydd Elystan Morgan. Roedd ygofeb wedi cael ei rhoi gan Mr Paul James o James Memorials,Aberystwyth. Cyflwynodd Emily, llysferch Mr Paul James, dusw oflodau i’r Arglwydd Elystan. Traddododd yr Athro G.A. Williamsddarlith fer ar fywyd R.S. Thomas a chafwyd darlleniadau gan yParch Rhidian Jones a Mr Erwyd Howells. Mrs Alvina Grant oeddyn canu’r organ.

Yn hwyrach yn y prynhawn cyhoeddwyd mai enillydd yGystadleuaeth Farddoniaeth Agored Cymraeg oedd Mrs Margaret E.Jones-Robinson o’r Fenni. Y ddau feirniad oedd Yr Athro Williamsa’r Parch Rhidian Jones a Cyngor Llyfrau Cymru oedd wedi rhoi’rgwobrau.

Yn y Gystadleuaeth Farddoniaeth Agored Saesneg dyfarnodd yddau feirniad, sef Yr Athro Tony Brown a Mr Byron Rogers, y wobrgyntaf i’r Fonesig Cecilia Chance o Gricieth, a’r ail wobr i MrsGillian Walker o Bwllheli. I gloi’r Ãyl, cynhaliwyd arwerthiantllyfrau enfawr yn yr Ystafell Haearn.

Page 9: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

9

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]

Trebor Edwards Sicrwydd Bendigaid Casgliad o emynau

Geraint Jarman Atgof fel Angor 15 CD am £49.99!

Piantel Casgliad newydd i’r piano a’r delyn

Gwibdaith Hen Frân Tafod Dy Wraig

Geraint Løvgreen Busnes Anorffenedig

Calan Grwp gwerin ifanc llawn afi aith

David Kempster Bariton byd-enwog o’r Waun

4 CD o oreuon… Hanner Pei

Delwyn Sion Jim O’Rourke

Maffi a Mr Huws

Gwrandewch! Gwyliwch! Corau Meibion Llanelli a Chymry Hong Kong; Côr Ieuenctid Ceredigion; Môntre; Parti Meibion Y Foel

DVDs…Tecwyn y TractorFfi -ffi Bob y Bildar Myffi n y Mul Clwb Carioci16 o Ganeuon Poblogaidd

Harbwr DiogelLlyfr o 4 o ganeuon Arfon Wyn wedi eu trefnu ar gyfer llais, piano a chordiau gitâr - Harbwr Diogel, Cae o Yd, Paid â Chau y Drws a Cariadon Bosnia

CDs a DVDs newydd

Clocsio yn y GenedlaetholRydw i wedi cael llawer o brofiadau gwahanol dros yr haf, un o’r rhaimwyaf cofiadwy oedd dawnsio ar lwyfan Eisteddfod GenedlaetholCaerdydd a’r cylch.

Dim ond Medi, Neuadd Fawr, oedd wedi clocsio o’r blaen, ac y mae hiwedi bod yn clocsio am o leiaf dwy flynedd. Roedd pawb arall yn eingrãp – Grãp Medi – wedi dysgu o fewn y tri mis - dim ond tri mis i greudawns ac ei hymarfer! Roedden ni yn cystadlu yn erbyn grwpiau mawr felTalog a Nantgarw oedd wedi bod yn dawnsio am dros deg mlynedd.

Roedden ni gyd yn nerfus iawn cyn mynd ymlaen. Roedd y grwpiaueraill yn neis iawn achos roedden nhw yn ein cefnogi ni wrth ddweud poblwc i bawb. Ar y llwyfan roedd pawb yn gwenu ac roedden ni gyd yn galluclywed ein rhieni yn gweiddi o’r gynulleidfa. Ar ôl i ni ddawnsio dyma niyn gwylio y rhai eraill o tu nôl llwyfan. Roedd pawb o’r grãp eisiau myndyn nôl ar y llwyfan a dawnsio eto am fod pawb wedi mwynhau gymaint.

Naethon ni ddim cael cyntaf, ail na thrydydd ond roedd pawb wedimwynhau yn fawr iawn a gaethon ni feirniadaeth dda iawn felly roeddenni ddim yn siomedig.

Diolch i Mrs Falyri Jenkins ac Elen Ebenezer am gyfeilio i ni ar yllwyfan ac yn arbennig i Carwyn am fod yn athro ffab!

Elan

ugeinfed ganrif, yn 1917 a 1918 oherwydd y Rhyfel Mawr ac o1939-1945 oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Gan fod y Sioe Frenhinol yncael ei chynnal yn Aberystwyth yn 1933 a 1957 ni fu sioe yn Nhal-y-bont y ddwy flynedd honno.

Mewn datganiad i Bapur Pawb nododd swyddogion y sioe eusiom o orfod canslo’r sioe eleni. ‘Boddi yn ymyl y lan, dyna fu hanessioe Tal-y-bont fel nifer o sioeau a digwyddiadau awyr agored eraill yrhaf yma. Bu’n siom fawr i aelodau’r pwyllgor, cefnogwyr y sioe a’rcyhoedd yn gyffredinol. Er i Sadwrn, Awst 23ain droi allan ynddiwrnod cymharol braf rhaid paratoi y maes ddyddiau ymlaen llaw.Nid oedd hi’n dêg a theulu Glanleri i fynd a thractorau ac offer trwmi’r cae, yn enwedig lorri fawr Pebyll Fedwen.’

Teimla Dilys Morgan, Alltgoch, ysgrifenyddes y Babell iddo fodyn benderfyniad anorfod er fod trefniadau’r Babell Fawr eisoes bronyn eu lle erbyn y dydd Mawrth cyn y sioe. Gorchwyl diflas iawn futreulio dau ddiwrnod cyfan ar y ffôn yn torri’r newydd i gystadleuwyra beirniaid fel ei gilydd a gofyn ar yr un pryd am eu cefnogaeth etoyn 2009.

Yr un oedd teimladau Janet Jones yr Ysgrifenyddes Gyffredinol;‘Mae trefniadau’r sioe yn flynyddol yn cychwyn y mis Hydref cyn ysioe gyda dewis beirniaid. Bu sioe 2007 yn anodd gyda Chlwy Traeda’r Genau ac roedd cwmwl Clwy’r Tafod Glas eisoes yn fygythiol i’rsioe eleni. Rhaid edrych ymlaen at sioe lwyddiannus yn 2009.’

Mae Evan Jenkins, Carregcadwgan, Cadeirydd Pwyllgor y Sioe amddatgan gwerthfawrogiad y Pwyllgor i’r cyd-ddealtwriaeth hapus syddwedi bodoli rhwng y Sioe a theulu Glanleri ar hyd y blynyddoedd ahynny dros sawl cenhedlaeth bellach. Mae pawb yn edrych ymlaen igydweithio er sicrhau sioe gofiadwy arall ar gaeau’r Llew Du yn 2009.

Gyda’r newid hinsawdd a’r cynhesu byd eang mae’n bosib y byddtywydd ansefydlog yn peri i’r sioe gael ei chanslo yn amlach yn ydyfodol.

Siom y SioeParhad o dudalen 1

Page 10: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

10

Medal aur i Iolo

Yng nghanol yr holl firi am y medalau aur Olympaidd a ddaeth iBrydain mae’n braf medru llongyfarch un o drigolion Tal y Bont ardderbyn y fedal aur am wyddoniaeth yn Eisteddfod Caerdydd. Ynhollol haeddiannol dyfarnwyd y fedal i Dr Iolo ap Gwynn Garregwen achyflwynwyd y fedal iddo yn ffurfiol ar lwyfan yr Eisteddfod ac ynamewn seremoni hyfryd yn y Pagoda ar y maes - y ddau ddigwyddiad arbrynhawn Iau. Dyma’r ail dro i’r fedal gael ei dyfarnu i’r teulu -anrhydeddwyd ei fam, Dr Eirwen Gwynn yn yr un modd ynEisteddfod Abertawe dwy flynedd yn ôl.

Ganwyd Iolo yn Llundain yn 1944. Symudodd y teulu i fferm ynEifionydd yn 1950 a mynychodd ysgolion cynradd Llanystumdwy aChricieth ac ysgol uwchradd Eifionydd. Symudodd y teulu i Fangor yn1962 a bu Iolo yn fyfyriwr isradd ac wedyn uwch- radd yn AdranSãoleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Fe’i penodwyd yn GydymaithYmchwil, yn Ddarlithydd ac yna’n Uwch ddarlithydd yn y Brifysgol.Priododd Ellen ( a oedd gyda llaw yn gariad iddo ers dyddiau ysgol ) abu’r teulu yn byw yn Aberystwyth a Llangwyryfon cyn symud iGarregwen yn 1988. Mae ganddynt dri o blant - Llñr sy’n rhedeg eifusnes peirianneg ei hun, ac yn byw gyda’i bartner Meleri yn Llandre,Rhian, sy’n byw gyda’i gwr Robbie a’u plentyn Caio Jac yngNghaerdydd a Rhys, sy’n olffiwr proffesiynol ac yn byw yn Basingstokegyda’i wraig Hayley a’u plant, Billy a Lucy.

Wrth gyflwyno’r fedal cyfeiriodd Llywydd Llys yr Eisteddfod HuwThomas at gyfraniad arbennig Iolo i wyddoniaeth yng Nghymru.Roedd naw gwyddonydd arall wedi eu henwebu ond ym marn y PanelAsesu roedd Iolo yn sefyll ben ac ysgwydd uwch ben y lleill. Maesymchwil Iolo yw datblygu technegau meicrosgopeg electron mewnastudiaethau o gelloedd ac o feinwe cartilag cymalog. Mae’n awdurdros gant o bapurau yn y maes ac yn cyfarwyddo gwaith ymchwil ynAberystwyth ac yn cyd-weithio gydag arbenigwyr yng Nghaerdydd,Bilbao a Davos Swisdir. Ei brif ddiddordebau hamdden yw mynydda affotograffiaeth ac yng nghanol ei holl brysurdeb mae’n gyson barod iroi o’i amser i gynorthwyo a chysodi Papur Pawb.

Roedd yr Archdderwydd, Dic Jones hefyd yn bresennol yn yseremoni yn y Pagoda ac wrth longyfarch Iolo ar ei gamp cyflwynoddyr englynion hyn iddo:

Boed ein defod a’n clodydd – yn deilwngO dalent gweledydd,A rhown ein mawl i’r sawl syddWedi’i eni’n wyddonydd

Gwyn ein byd ddyfod hogyn bach – EirwenA Harri’n gawr bellach,Gan dyfu’n eilun ei ach,Yn olyniaeth ei linach.

Llongyfarchiadau cynnes i Iolo ar ei gamp a phob hwyl ar wisgo’r fedal– gyda choler a thei wrth gwrs!! Sgersli bilif!

EnwogrwyddAnnisgwyl i Sioe Tal-y-BontMewn atodiad ar gyfer y Gemau Olympaidd ym mhapur newydd yGUARDIAN ar Dydd Sadwrn 9fed Awst gwelwyd hysbys anarferol isioe y pentref.

Cynnwys yr atodiad oedd manylion i wylwyr teledu am ygwahanol gampau y disgwylir eu gweld yn ystod y pythefnos i ddodyn Beijing. Eglurwyd manylion am y gamp, y sêr, y rheolau,erthyglau am y lleoliadau newydd drud yn y ddinas a rhagolygonPrydain. Yn ogystal yr oedd taflen amser fanwl fesul dydd i wylwyrteledu, doethinebau Conffiwsiws (gydag eglurhad), pytiau amenwogion y byd yn y maes a nifer helaeth o luniau’r sêr a’r lleoliadaupenigamp.

Ar ddiwedd y dudalen yr oedd paragraff dan y pennawdATYNIADAU ERAILL i’r rhai nad oedd a diddordeb yn y fath bethyn cynnig rhywbeth i’w wneud yn hytrach nag eistedd o flaen y bocsac am Ddydd Sadwrn 23ain Awst nodwyd bod, ‘Madonna ynperfformio noson gyntaf ei sioe newydd Sticky and Sweet yngNghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd cyn mynd o gwmpas ybyd gyda’r sioe. Nid dyna’r unig atyniad yng Nghymru heddiwychwaith. O na. Y mae SIOE TAL-Y-BONT A GOGLEDDCEREDIGION ymlaen hefyd’.

Enwogrwydd yn wir!

Iolo yn derbyn y fedal gan Lywydd Llys yr Eisteddfod , Huw Thomas, yngnghwmni’r Archdderwydd, Dic Jones)

TeiarsAliniad Olwyn

EcsôstsBatrisBrêcs

HongiadBar tynnu

GwasanaethMOT

Am y pris gorau a dewis eang o deiars cysylltwch â ni drwy’r wefan neu galwch heibio am gyngor.

Am docyn disgownt ar gyfer alinio eich car ewch i’n gwefan

ALIGNMYCAR.CO.UKArchebwch eich MOT nesaf ar ein gwefan.

HUWLEWISTYRES.COM

Glanyrafon Rhodfa’r Parc

Ffôn 01970 636774

Page 11: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

11

Treialon Cwn Defaid Tal-y-bont

Cynhaliwyd ein treialon eleni ar ddydd Mercher Awst 6fed ar gaeau LletyIfan Hen ar wahoddiad caredig y teulu. ‘Doedd y cyfryngau ddim ynrhagweld tywydd rhy ffafriol ond cafwyd bore sych a chododd y niwl o’rbryniau cyfagos. ond yn gynnar yn y prynhawn dechreuodd lawio ac oganol y prynhawn cafwyd cyfnodau o law trwm iawn. Cychwynnodd ytreialon yn fuan wedi hanner awr wedi saith y bore, a chafwyd ond torriadbyr i ginio, daliwyd ati yn gyson hyd bron hanner awr wedi wyth yr hwyr.

Ar ddiwedd y dydd diolchodd y cadeirydd, Dafydd Jenkins, Tanrallt ideulu Llety Ifan Hen am y caeau a’r defaid i redeg y treialon, i’rcystadleuwyr am eu cefnogaeth yn enwedig yn ystod tywydd garw’rprynhawn ac i’r beirniad, Mrs Rona Davies o Lambed oedd wedi caeldiwrnod hir iawn. Yna cyflwynodd y llywyddion sef Dilwyn ac ElisabethJames, Cwmudw, diolchodd iddynt am eu cefnogaeth a’u gwahodd igyflwyno’r gwobrau.

Prif enillydd y dydd oedd Eirian Morgan o Aberystwyth gyda’i gi Spotyn ennill y cwpan, rhoddedig gan y diweddar Mrs. Iona Rowlands er cofam ei brawd Evan Hopkins, am y rhediad gorau yn null de Cymru, y wobrer cof am Mary Edwards a Jenkin Morris am y rhediad gorau cyn hannerdydd a hefyd y cawg rhosynnau er cof am Richard Edwards, Lletyllwyd amrediad orau’r dydd. Ennillwyd y dosbarth nofis cyfyngedig i Geredigion a’rcwpan rhoddedig gan y diweddar Ken Jones er cof am ei ewythr, D. J.Williams, Cynnullmawr gan Aled Evans o Beulah gyda’i gi Roy. Enillydd ytreialon lleol ar nos Fawrth oedd Elgan Evans, Tynant gyda Sam.

Oherwydd y tywydd garw bu’n rhaid cynnal y cystadleuthau cneifiodan do yn Llety Ifan Hen. Bu cystadlu brwd ar y cneifio gyda deg yn ydosbarth agored gyda pheiriant ac yn y dosbarth agored i aelodau ClybiauFfermwyr Ieuanc. Enillwyd y dosbarth agored gan Dilwyn Evans, Tynantgyda Dafydd Jenkins, Tanrallt yn ail ac Elgan Evans, Tynant yn drydydd.Yn y dosbarth agored i aelodau Clybiau Ffermwyr Ieuanc yr enillydd oeddRhydian Evans, Tynant gyda Dylan Jones yn ail a Ceredig Lewis yndrydydd. Ceredig Lewis ennillodd y dosbarth i aelodau Clybiau FfermwyrIeuanc o dan 21 gyda Dylan Jones yn ail a Sion Evans yn drydydd. Yn ydosbarth i gneifwyr gyda gwellau Enoc Jenkins ddaeth yn gyntaf gydaDafydd Jenkins yn ail ac Arthur Morgan yn drydydd.

Er gwaethaf y tywydd garw cafwyd diwrnod llwyddianus ac unwaitheto gyda chystadlu brwd yn y treialon a’r cneifio.

IM

Mae cloch Eglwys Dewi Sant “yn eingwahodd tua’r llan” unwaith etoAr fore dydd Sul yn Hydref 2007 a gyda hanner awr i fynd cyndechrau’r gwasanaeth, aeth Mrs Eurlys Jones i ganu cloch yr Eglwys.Lleolir y gloch yn nhãr yr Eglwys ac mae angen tynnu’r cortyn ermwyn i’r gloch ganu. Wrth wneud hyn y bore hwn, fe ddigwyddoddrhywbeth brawychus ac anffodus. Torrodd y teclyn oedd yn dal y glochac fe gwympodd y gloch i lawr y tãr gan wneud y sãn mwyaf ofnadwy- ond yn ffodus iawn i Eurlys - roedd llawr y tãr yn ddigon cryf i ddalpwysau’r gloch! Mi roedd Miss M M Williams a Dr Myrtle Parker yndigwydd bod yn yr Eglwys yn paratoi ar gyfer y gwasanaeth panddigwyddodd hyn.

Mae arysgrifiad ar y gloch yn dangos ei bod wedi cael ei rhoi ynanrheg gan aelodau o Gymdeithas Wnïo Llanfihangel Genau’r Glyn yn1909 ac felly mi fydd yn gan mlwydd oed y flwyddyn nesaf.

Roedd y Ficer, aelodau’r Eglwys a bobl yr ardal yn gweld eisiauclywed y gloch yn canu ar adeg y gwasanaethau ac yn enwedig arachlysuron fel angladdau. Yr oeddem i gyd yn gwybod y byddaiatgyweirio’r gloch yn mynd i fod yn eitem gostus iawn. Mae’r gloch ynbwysig iawn i ni fel addolwyr ac mae hefyd yn rhan o’n hetifeddiaetheglwysig ni. Felly, roeddwn i gyd fel aelodau o’r Eglwys yn awyddus iatgyweirio’r gloch mor fuan â phosib.

Yr ydym yn ddiolchgar i Gronfa Eleri - Amgen a gytunodd i’n cais igyfrannu £200 tuag at yr achos a hefyd i Gyngor CymunedCeulanamaesmawr a gyfrannodd £100. Derbyniwyd rhoddion hefydoddi wrth unigolion tuag at yr achos. Cynhaliwyd Bore Coffi ym misIonawr a bwriedir trefnu Bore Coffi eto ar ddydd Sadwrn, 20 Medirhwng 10.30 - 12.00 o’r gloch i helpu’r gronfa.

Erbyn hyn, mae’n braf medru adrodd fod y gloch wedi cael ei adfer.Gwnaethpwyd y gwaith o atgyweirio’r gloch gan ‘GwasanaethauPeirianyddiaeth Llyr’- (Llyr ap Iolo, Lôn Glanfred, Llandre) ac mae’ndiolchiadau gwresaf ni yn mynd i Llyr am ei holl help a’i waith trylwyra medrus. Mae Llyr wedi adeiladu ffrâm bren o gwmpas y gloch i’wdiogelu rhag iddi gwympo eto! Rydym yn ffodus iawn i gaelpeiriannydd medrus yn byw yn yr ardal.

Felly, er nad oedd “haul Gorffennaf gwych eleni, yn ein gwahoddtua’r mynydd” braf ydyw medru dweud bod cloch Eglwys Dewi Santeto “yn ein gwahodd tua’r llan”.

Dr Myrtle Parker/Mrs Eurlys Jones

Age Concern - Ceredigion

CLWB CINIO TAL-Y-BONT

YDYCH CHI’N MWYNHAU CYMDEITHASU,Cael hwyl, cadw’n iach, mwynhau bwyd blasus?

YMUNWCH A NI - CLWB CINIO TAL-Y-BONT.CWRDD UNWAITH Y MIS YN Y LLEW DU

Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â Jane Raw-Rees, SwyddfaAberystwyth, Cyngor Henoed Ceredigion, Yr Hen Ysgol Gymraeg,

Ffordd Alexandra, Aberystwyth,Ceredigion, SY23 1LF.Ffôn: (01970) 615151. E-bôst: [email protected]

Elusen Cofrestredig1042789

Page 12: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

12

Menter NewyddYchydig fisoedd yn ôl, agorwyd llety gwely a brecwast moethus ynLlandeilo a chroesawyd y gwesteion cyntaf yno ddechrau mis Ebrill.Menter Owain ac Eva Huw yw Fronlas; mae Owain yn hanu o Dal-y-bont, ac yn fab i Eleri a Gwilym, Pengwern. Un o Malmesbury,Wiltshire, yw Eva ac yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae hi wedidysgu Cymraeg ac yn mwynhau defnyddio’r iaith yn y busnes newydd.Eva sy’n rhedeg y busnes o ddydd i ddydd, tra bod Owain yn gweithiofel Swyddog y We a Thechnoleg Gwybodaeth yn y Ganolfan AddysgUwch Cyfrwng Cymraeg, Caerfyrddin.

Ar ôl iddynt dreulio blwyddyn a hanner yn ei adnewyddu, mae’r tñEdwardaidd bellach wedi’i gynllunio’n chwaethus i gynnig pob cysur amoethusrwydd, ac y mae hefyd yn defnyddio eco-drydan a phanelisolar. Mae’r brecwast llawn, organig, yn defnyddio cynhwysion ffres offynonellau lleol.

Yn fuan ar ôl iddo agor dyfarnwyd statws pum seren i Fronlas, achafodd ei ddewis i fod yn rhan o gynllun Wales in Style – casgliadannibynnol o rai o’r llefydd gorau yng Nghymru i aros, i fwyta ac iymweld â hwy. Mae hefyd wedi cael nifer o adolygiadau hynod ffafriolmewn papurau lleol a chenedlaethol.

Dymunwn bob lwc i Owain ac Eva gyda’u menter newydd. Amragor o wybodaeth am Fronlas, ffoniwch 01558 824733 neu ewch i’wgwefan, www.fronlas.com.

Ravin’ StompersAr benwythnos gãyl y banc wrth lansio Gãyl y Prom am yr ailflwyddyn yn olynol, gwelwyd Aberystwyth yn llawn cerddoriaeth canugwlad a dawnsio brwdfrydig y Ravin’ Stompers. Syniad gwych y feistresddawnsio llinell leol, Heulwen Astley oedd cychwyn codi arian i ApêlCancr y Fron Ysbyty Bronglais bron i bedair blynedd yn ôl.

Daeth Paul Bailey ac B J Locklin i ddiddanu’r dorf ar y dydd Sul,gyda Donna Wilde a Paul yn parhau i ddifyrru’r gynulleidfa ddyddLlun. Yn wir bu Paul Bailey ddigon drygionus i ddringo ar ben castellneidio gyfagos efo’i gitâr, tipyn o boen pen oedd trio dod yn ôl lawrmewn trowsus lledr! Daeth Sandra, dancerS AND RAvers, Gobowen iedrych ar ôl y disgo ac i ddysgu ambell ddawns gan gynnwys un oeddwedi’i ‘sgwennu’n arbennig i’r penwythnos sef “Bandstand Boogie”!Daeth pawb ynghyd nos Sul yng nghlwb RAFA, lle cafwyd gwledd oadloniant gyda Mark Brown yn canu. Cafwyd cyfle i brynu pêl rygbiwedi’i arwyddo gan dîm y Sgarlets rhodd gan Loteri’r Sgarlets, awerthwyd am £250 yn yr ocsiwn unigryw gan Eleri James! I gloi’rpenwythnos ar y nos Lun awd fyny i gopa “Constitution Hill”.

Gan fod arian yn dal i lifo mewn bydd y cyfanswm yn rhifyn nesa’Papur Pawb! Byddwch yn falch o glywed bod y digwyddiad wedi’ifwcio ar gyfer penwythnos gãyl y banc flwyddyn nesa’!

EJ

Dofednod ffres o fferm leol.Archebwch wydd, twrci, hwyadenneu gyw iar erbyn y NadoligCysylltwch â Dilwyn, Marion,

Rhydian neu ElganTynant, Tal-y-bont 01970 832 257

Dofednod Cwmtynant

Ysgol Gymunedol Tal-y-bont

Rhieni Plant y CyfnodSylfaen yn cynnal

BORE COFFIBore Sadwrn 27 Medi 2008Neuadd Goffa Tal-y-bont

10 – 12 y boreBeirniedir Cystadleuthau’rSioe (plant) yn ystod y bore

Page 13: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

13

Sefydliad y Merched TaliesinArdal Y Trallwng oedd cyrchfan trip blynyddol Sefydliad Y Merched Taliesinddydd Sadwrn 5 Orffennaf. I faes awyr Ambiwlans Awyr Cymru aethpwyd yny bore lle cawsom groeso cynnes gan y paramedics oedd wrth law i ddisgwylgalwadau brys. Maent yn darparu gwasanaeth hanfodol drwy Gymru gyfan ibawb sy’n wynebu salwch neu niweidiau sy’n fygythiol i fywyd. Yna cafwydamser i gael cinio a siopa yng Nghoed y Dinas cyn ymweld a Chastell Powis acherdded yn hamddenol o gwmpas y gerddi hardd a’r castell sy’n llawn o gelfi,tecstiliau a pheintiadau yr Herberts a’r Clives.

I gynorthwyio ymgyrch cenedlaethol Ambiwlans Awyr Cymru eleni sy’nanelu at gael hofrennyddion newydd yn 2009, daeth nifer dda i dñ MeinirFleming i fwynhau te hufen a mefys ar brynhawn heulog Sadwrn 26Orffennaf. Cafwyd stondinau gacennau a raffl i godi arian a throsglwyddwyd

£350.00 tuag at yr ymgyrch.Yn ystod mis Awst aeth criw ohonom am dridiau i Lundain. Unwaith eto,

cafwyd hwyl a chyfle i ymlacio gyda’n gilydd gan ymweld a phalasBuckingham, gerddi Kew a dwy sioe yn y Strand - sef Joseph a Lion King -sioeau gwerth i’w gweld a pawb wedi mwynhau y profiadau yn y ddinas fawr.Mi fyddwn yn cwrdd fel arfer ar nos Fawrth cyntaf y mis yn y Llan Fach,Taliesin a dyma rhai o ddigwyddiadau y misoedd sy’ i ddod –7fed Hydref Cyfarfod Blynyddol4ydd Tachwedd Gwneud Cardiau2 Rhagfyr Coginio i’r Nadolig15 Rhagfyr Cyngerdd y Nadolig Croeso cynnes i bawb i daro fewn i ymuno yn y gangen.

Ar 19eg o Orffennaf cynhaliwyd 6ed Gãyl a Barbeciw blynyddolBontgoch, a drefnwyd gan Gymdeithas Elerch ac a gynhaliwyd yng nghanoly pentref. Cafwyd diwrnod pleserus a llwyddiannus iawn eleni eto gyda dros30 o blant a 30 o oedolion yn mynychu. Roedd yn braf i weld cymaint obobl o bob oedran wedi dod ynghyd i fwynhau cwmni eu gilydd. Er i’rdiwrnod ddechrau braidd yn gymylog, cafwyd prynhawn godidog. Profoddy llithren ddãr i fod yn boblogaidd iawn eleni eto gan y plant tra eisteddai’roedolion o gwmpas yn sgwrsio hyd fachlud haul. Yn ogystal â’r llithrenddãr roedd yna nifer o gemau ar gyfer pawb, yn cynnwys ‘cow hoppers’,cystadleuaeth taflu wyau ac amryw o gystadlaethau pabell megis: detholiado lysiau cartref, trefniant o flodau mewn fâs, coginio cacennau, addurnobisgedi yn ogystal â chystadlaethau paentio a dod o hyd i’r mwydyn hiraf i’rplant. Cafwyd hwyl di-ri gyda’r gystadleuaeth adnabod y simdde wrth ibawb geisio adnabod simneau’r pentref o luniau agos.

Roedd yna ddigonedd o fwyd i bawb – selsig, byrgyrs, cig oen a chigmoch, y cyfan wedi’u coginio yn hyfryd gan Mike Lithgow, Phil Clarke aGwladys Evans. I ddilyn mwynhawyd sgoniau jam a hufen wedi eu gwneudgan Jane Bailey. Ar wahân i’r bwyd, uchafbwynt yr achlysur oedd y Ras

Hwyaid. Ymgasglodd pawb wrth y bont i wylio 86 o hwyaid yn nofioheibio. Yr hwyad gyntaf i basio’r llinell derfyn oedd un Geraint Jones ahwyad rhif 100 o eiddo Mike Bailey oedd y diwethaf a fe felly enillodd ywobr wirion, sef medal siocled fawr!Enillwyr gwobrau’r babell oedd:Llysiau wedi’u tyfu ym Montgoch: Oedolion – Mr Gareth Evans, Sãn y Ffrwd; Plant – Ianto HammondCacen Foron – Mina MorelCacen Siocled – Christopher MorelBisgedi wedi’u addurno – George a Flori LithgowFâs o flodau – Phil ClarkePaentio i blant: 0-6 oed – Flori Lithgow; 7 – 11 oed – Jack Horwood; 11-16 oed – Serian EvansMwydyn hiraf – Andrew Morel

Roedd pawb yn gytûn taw dyma’r Barbeciw gorau eto, roedd yn wych iweld y gymuned yn tynnu ynghyd i drefnu a mwynhau digwyddiad a oeddmor llwyddiannus. Er nad pwrpas y diwrnod oedd i godi arian, fe godwyddigon o arian i’n galluogi i gynnal y Coelcerth a Thân Gwyllt blynyddol amddim i’r gymuned eleni.

M.M.

Daniel Basnett, Steffan Evans a Richard Bailey

Ciss Jones a Geraint Evans

G wyl a Barbeciw Bontgoch 2008

Page 14: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

14

Richard BayfordSynnwyd pawb ddiwedd Mehefin gyda’r newydd am farwolaeth RichardBayford. Er yr olwg wael oedd amo daeth y diwedd yn sydyn acannisgwyl ac yntau ond yn 64 oed.

Hannai o ardal Bryste a chafodd ei addysg mewn ysgol breswyl yn yrardal honno. Ei brif ddiddordebau yn yr ysgol oedd athletau achwaraeon a chafodd lawer o lwyddiant yn y maes yma. Parhaodd yrhoffter yma o bob math o chwaraeon gydol ei oes. Yn ddeunaw oedymunodd a’r awyrlu fel heddwas ac yno y bu am naw mlynedd gan weldllawer gwlad ac esgyn i fod yn is-ringyll. Wedi gadael yr awyrlu bu amgyfnod yn hyfforddi milgwn, eto gyda chryn lwyddiant gan ennill nifero rasys cydnabyddedig. Yna symudodd yn ôl i ardal Bryste, cyfarfod âgAnn a phriodi a byw yno am y blynyddoedd nesaf yn rhedeg bwytaiKentucky Fried Chicken.

Yn 1983 symudodd y teulu i Daliesin a dechreuodd Richard weithiofel peintiwr ac addumwr. Wedi i’w briodas dorri lawr symudodd amdymor byr i Aberystwyth ac yna i Dal-y-bont. Cymerodd nifer o swyddifel y dyn lolipop a gofalu am y toiledau yng ngwaelod y pentref ondcofir amdano yn bennaf fel gofalwr y Neuadd Goffa. Roedd yngydwybodol gan ofalu fod yr ystafelloedd bob amser yn barod i’rgwahanol fudiadau i’w llogi. Hefyd daliodd i beintio a gwelir ôl ei waithyn y neuadd, ym Methel ac ar nifer o dai yr ardal. Roedd yn beintiwrgraenus a chymen gyda balchder yn ei waith.

Fel y gwelir bu fyw bywyd lliwgar ac amrywiol. Cydymdeimlwn a’rteulu i gyd yn eu profedigaeth.

I.M.

Margaretta Jane Pierce 1908-2008Bu farw Getta ar ôl cyfnod yng nghartref Heatherslade ym Mro Gãyrychydig fisoedd cyn ei phenblwydd yn gant oed. Hi oedd yr ieuengaf ochwe phlentyn a aned i William a Mary Edwards, Llys Cynfelin,Taliesin. Bu farw ei brawd Haydn yn ifanc. Priododd ei chwioryddGweneth ac Edna ac ymsefydlu yn Lloegr. Bu ei chwaer hynaf, Lilian,yn athrawes am 40 mlynedd yn Ysgol Tal-y-bont. Roedd Reg yngyfreithiwr adnabyddus yn Aberystwyth ac yn grwner GogleddCeredigion nes iddo ymddeol yn ei 80au.

Bu Getta yn athrawes gynorthwyol am gyfnod cyn priodi OliverPierce o Ynysybwl, oedd â theulu yn Rock House, Llangynfelyn, cynsymud i fyw i Gaerdydd ble ganwyd eu dwy ferch, Bethan a Siân.

Yn 1965, wedi i’r plant fynd i’r coleg, aeth Oliver a Getta iLlwyncelyn ger Aberaeron i redeg y Llythyrdy yno, lle bu’r ddau ynasgwrn cefn yn y gymdeithas. Wedi ymddeoliad Oliver o’r post,daethant yn ôl i Dal-y-bont ac ymsefydlu yn Elgar gyda Lilian (a’ichwaer yng nghyfraith Olive yn byw’n gyfagos yn Tñ Twt). Ar ôlmarwolaeth ei gãr, Oliver, aeth Getta a Lilian i fyw i Landaf i fod ynagos i Bethan a’i theulu. Yn 2002, bu farw Lilian. Naw mis yn ôl,symudodd Getta i gartre ym Mro Gãyr, nepell o gartref Siân ynPennard. Bu farw yn dawel ar ôl un noson yn Ysbyty Singleton, hebgolli ei chof na’i diddordeb ym mhawb a phopeth – yn enwedig eihwyrion a’i gorwyrion. Daeth torf ynghyd i angladd Getta yng Nghapely Crwys, Caerdydd; prawf o werthfawrogiad pawb o’i chyfraniad i’rgymdeithas yn ystod ei chyfnodau yn y Brifddinas.

B.P.L.

Y Llyfr – Y Bennod Olaf?Mae ‘na hir ddarogan amddiwedd y llyfr ac mae’rteclyn diweddaraf o stablSony yn ymgais i brysurotranc y llyfr fel cyfrwng.Lansiwyd y teclyn - YSony Reader - mewncydweithrediad a chadwyno siopau llyfr ac un o’rcyntaf i brynu’r Reader ynyr ardal hon yw GarmonGruffudd, RheolwrGyfarwyddwr Gwasg YLolfa.

Yn fwriadol mae Sony wedi llunio’r teclyn i edrych fel llyfr - maeganddo ‘siaced’ ledr, mae maint a phwysau y Reader tua’r un fath a llyfrclawr papur ac fe fyddwch yn ‘darllen’ y testun ar sgrin fechan o 6modfedd. Y gwahaniaeth mawr yw’r gallu i storio 160 o deitlau -llyfrgell sylweddol felly - a’u cludo nhw gyda chi ble bynnag yr ewch -glan y môr, ar eich gwyliau neu’r stafell ymolchi. Mae’r rhan helaeth o’rteitlau sydd ar gael nawr yn weithiau sy allan o hawlfraint megis Warand Peace neu Macbeth ond mae modd lawr-lwytho teitlau eraill ynunion fel a wneir drwy sustem itunes.

Beth felly ym marn Garmon yw manteision ag anfanteision yddyfais? Mae’n sicr yn fantais i gael 160 o deitlau o fewn un pecynbychan. Mae ‘na fanteision amgylcheddol - nid oes rhaid cymryd yfwyell i fwy fyth o goedwigoedd i greu papur y llyfr confensiynol acmae cael y cyfan yn electronig yn arbed yr ynni a ddefnyddir gan weisgi argraffu a rhwymo. Mae’r ddyfais a’r dechnoleg yn creu cyfle i’r Lolfa iwerthu i farchnad fyd-eang - darllenydd yn Efrog Newydd yn caelmanylion am gyfrol ac yn ei harchebu a’i derbyn yn electronaidd. Mae’rLolfa yn effro iawn i’r posibiliadau ac fe fydd nofel nesa’ Martin Davies,Tonnau Tryweryn, ar gael yn union y ffordd hon. Mae ‘na fodd hefyd igyhoeddwr i roi ‘tameidiau’ o gyfrol ar ei gwefan - y darllenydd yn‘blasu’ a gobeithio yn symud ymlaen i brynu!

Anfanteision? Mae’r testun ar y sgrin fechan yn llonydd - fedrwchchi ddim tanlinellu na gwneud nodiadau - agwedd a allai fod ynbwysig i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr. Gall y ddyfais a’r dechnoleggreu cyfleodd am lên-ladrad - mae’r farchnad gerddoriaeth eisoes ynrhemp o pirate editions. Mae’r fantais fawr yna o gael 160 o deitlaugyda chi ar eich gwyliau yn medru troi’n anfantais - dychmygwch eichhunan ar y traeth, yn mynd am hufen ia - ac wrth i chi droi cefn eichSony Reader drudfawr a’ch holl lyfrgell yn cael eu dwyn!

Cydymaith i’r llyfr, nid cystadleuydd yw’r Sony Reader yn ôlGarmon ac yn ei farn ef bydd y Lolfa yn dal i argraffu a chyhoeddicyfrolau print ar bapur am gryn amser. Os oes gyda chi £199 i sbariofalle fod y Reader jyst y peth i chi - ond yn fy marn i mae tranc y llyfrmor bell i ffwrdd ag erioed.

GIE

Teyrngedau

Nodyn: NEWYDD! PRYDPRE-SIOE!Bydd nifer ohonom yncael pryd bar yn y LlewDu tua 7 o’r gloch.

Fel cynnig arbennig iaelodau’r Clwb, mae’rLlew Du yn cynnig PrydBasged am ddim ond £3 adim ond £5 am un o’rprydau Cartre (Lasagne,Pastai Bugail, PastaiStecen, Cyw a Madarch,Chilli con Carne, aLasagne llysieuol).

TAITH GERDDED‘PNAWN SADWRN 27 MEDI 2008

Ymgunnull ar y Patsyn Glas am 13:45 i ddal y bws i Landyfi.Cerdded oddi yno i Fachynlleth mewn da bryd am bryd.

(Cewch dewis eich bwyty o’r dewis eang o lefydd.)Dychwelyd i Dal-y-bont hefo bws 21:20 ar ddiwedd y noson.

Os nad ydych am fwyta mae bws am 17:57.

Os oes gennych ddiddordeb anfonwch eich enwau i [email protected] angen rhagor o wybodaeth am y daith yna cysylltwch â

Rhys neu Trisch ar 832076 yn yr wythnos cyn y daith.CLW

B NOS WENER

CLW

B NOS WENER

Page 15: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

15

Canlyniad SWDOCW mis GorffennafH M Jones, Maestyrnol, Machynlleth – tocyn llyfrau £10.00 iddo ef.

Ble yn y byd?Sut i chwaraeBle yn nhalgylch Papur Pawb mae’r llun yma wedi cael ei dynnu?

Ateb

Enw

Cyfeiriad

Côd Post

Rhif Ffôn

Atebion: i Geraint Evans, Garnwen, Tal-y-bont erbyn 2 Hydref.

Gwobr: Tocyn Llyfr £10i’r ateb cywir cyntaf allan o’r het.

Estynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Nest Jenkins, groeso cynnesi’w chyd-gynghorwyr i’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf.Derbyniwyd cofnodion cyfarfod mis Mehefin fel rhai cywir.

Derbyniwyd adroddiad llafar o’r gwaith gynnal a chadw a wnaedar y Cae Bach. Roedd y cynghorwyr yn hapus iawn gyda’r gwaithoedd wedi ei wneud cyn belled ac yn falch o ddeall ei fod ar findirwyn i ben. Gan na chafwyd unrhyw wybodaeth cyn belled ganGyngor Ceredigion ar ganlyniad yr arolwg a wnaed yn y Gwanwyn igyflwr a diogelwch y ffordd C1019, cytunodd y Cynghorwyr igysylltu unwaith yn rhagor ag Adran Ffyrdd y Cyngor Sir.

Cafodd y Cynghorwyr gyfle i weld y paneli gwybodaeth yn deillioo brosiect Ysbryd y Mwynwyr sydd i’w codi yn y dyfodol agos ymmhentrefi Tal-y-bont a Bont-goch. Mae’r paneli hyn yn arddangos ynweladwy dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal er gwybodaeth i’rtrigolion ac ymwelwyr. Hefyd dosbarthwyd copïau o daflennigwybodaeth a gynhyrchwyd i gyd-fynd â’r paneli.

Adroddwyd bod y Cyngor heb eto gael ymateb i’r llythyr aanfonwyd i wrthwynebu argymhelliad BT i gau dau giosg ffôn ofewn y gymuned (un yn Bont-goch a’r llall yng Nghwm Eleri). Sail ygwrthwynebiad oedd y derbyniad gwael sydd o fewn yr ardal i ffonausymudol. Pasiwyd hefyd i anfon at Ofcom yn gwasgu arnynt i bwysoar gwmnïau ffonau symudol i wella’r signal mewn ardaloedd gwledigyng Nghymru.

Mynegodd y Cynghorwyr eu hanfodlonrwydd llwyr gydag ymatebAdran Priffyrdd y Cyngor Sir i’w llythyr yn tynnu sylw at ddiffygionyr arwyddion ffordd sy’n dynodi system unffordd ar bwys y PatshynGlas. Pasiwyd i ysgrifennu eto at yr Adran yn awgrymu cynnalcyfarfod safle fel mater o frys er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaetho natur y broblem.

Derbyniodd y Cyngor wahoddiad gan Elin Jones AC i ymateberbyn 10 Hydref i ddogfen ymgynghorol gan Lywodraeth yCynulliad ar ddatblygiadau cynaliadwy yng nghefn gwlad. Cytunoddy Cynghorwyr Enoc Jenkins ac Evan Evans i fwrw golwg dros yddogfen ac i gyflwyno adroddiad yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.

Hysbyswyd y Cyngor gan yr Awdurdod Cynllunio fod y cais igodi annedd ar bwys Alderbaran, Bont-goch, wedi ei dderbyn.

Cafodd y Cynghorwyr gyfle i fwrw golwg dros nifer o geisiadaucyllunio newydd, a chynnig sylwadau: estyniad i 7 Maes y Deri,newid defnydd adeiladau allanol Lerry View, adeiladu anneddnewydd yng ngardd Lerry View, estyniad i 92 Maes y Deri, manylionlleoliad yr annedd newydd a llif traffig ar y plot ar bwys Cae’r Gog,Bont-goch, ac yn olaf y cais i godi annedd newydd ar bwys Bryn-y-Wawr, Tal-y-bont.

Mae’r Cyngor wedi derbyn cwynion am y graffiti a chwistrellwydar y gysgodfan bysiau ar bwys yr ysgol. Cyflwynwyd tystiolaeth ganun o’r Cynghorwyr oedd yn awgrymu’n glir bod y sawl achwistrellodd y graffiti wedi manteisio ar ganister bondio bitwmen aadawyd ar ochr y ffordd gan weithwyr oedd wedi bod yn trwsio’rffordd yn ystod mis Gorffennaf. Pasiwyd i anfon llythyr at yr AdranPriffyrdd yn nodi hyn, ac yn gofyn iddynt gysylltu â’r contractwyr idynnu sylw at flerwch eu gweithwyr a gofyn iddynt lanhau’r graffiti.

Derbyniwyd cwyn hefyd bod sawl modurwr wedi dechrau parcioeu cerbydau ar y llain tir rhwng yr ysgol a’r gyffordd yn arwain atEglwys Dewi Sant gydag arwyddion ‘Ar Werth’ ar y cerbydau. Roeddy Cynghorwyr o’r farn bod yr arfer hwn yn peryglu diogelwch yffordd a phasiwyd i dynnu sylw’r Cyngor Sir a’r awdurdod heddlu atgonsyrn y Cyngor.

Cyngor Cymuned Ceulanamaesmawr

CHWARAEONSgorio pump yn NolgellauCafodd tîm pêl-droedd Tal-y-bont ddechrau campus i’r tymor newydd,wrth guro Eilyddion Dolgellau o bum gôl i ddwy, gyda Todd Penfold aCraig Marshall yn sgorio dwy yr un ac Anthony Southgate yn rhwydo’rllall. Gohiriwyd y gêm yn erbyn Eilyddion Bow Street oherwydd ytywydd. Cawn fwy o hanes y tîm yn y rhifyn nesaf.

Page 16: Papur Pawbgwasanaeth ar dractor MF 35x, wedi ei adnewyddu yn ofalus gan Deulwyn Evans, Llwynsguborwen. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol yn eu cartref yn

16

CHWARAEON

Geraint Williams, agorwr Tal-y-bont, yn cael trafferth yn erbyn bowlwyrAberystwyth (llun drwy garedigrwydd Arvid Parry-Jones)

Tymor boddhaolMae’n syndod cymaint o griced a chwaraewyd gan Glwb Criced Tal-y-bont ynystod haf gwlyb a diflas 2008. Wedi bod ar frig Cynghrair Gorllewin Cymruam gyfnod ar ddechrau’r tymor, roedd gobeithion y clwb am ennill ybencampwriaeth am y tro cyntaf yn uchel, ond unwaith yn rhagor roedd yrhen elyn, Aberystwyth, yn drech na phawb. Serch hynny, gyda’r tymor yndirwyn i ben ym mis Medi, gall Tal-y-bont, dan arweiniad Jim Vaughan,ymfalchio mewn sawl perfformiad da, a chynnal safle anrhydeddus ymhlithceffylau blaen y cynghrair.

Unwaith yn rhagor roedd y tîm yn ddibynnol ar Jim Vaughan am rediadau.Ei brif gyfraniad oedd 120 heb fod allan yn erbyn eilyddion Aberystwythddiwedd Mehefin. Gan fod y lleiniau yn wlyb roedd hwn yn dymor a oedd ynffafrio’r bowlwyr. Hyd yn hyn mae Dan MacLean wedi cipio 27 wiced, a brafoedd gweld y bowliwr ifanc, David Evershed yn dangos addewid, gan gynnwyscipio 5 am 25 yn y fuddugoliaeth yn erbyn Tywyn ym mis Gorffennaf.Bowliwr llawer mwy profiadol sydd wedi cymryd y mwyafrif o’r wicedi sefAlastair Rhodes (35 wiced hyd yn hyn), gyda’i brif gyfraniad (5 am 19) yn dodyn y gêm yn erbyn eilyddion Aberystwyth.

Cynhaliwyd diwrnod o hwyl yn Nhal-y-bont ar Orffennaf 19ed lledaeth aelodau, hyfforddwyr a chefnogwyr o dîmau pêl-droed ieuenctidTal-y-bont ynghyd i fwynhau ac i godi arian ar gyfer rhedeg y clwb.

Cychwynnodd y diwrnod â thwrnament pêl-droed 5 bob ochr arffurf Cwpan y Byd ar gaeau’r ysgol a thimau cymysg o ran oed a rhywyn cystadlu am y gorau. ‘Portugal’ cipiodd y safle cyntaf. (Aelodau’rtîm: Carwyn, Lowri, Anna, Lefi a Carwyn).

Yna ymlaen i ffald Penpompren er mwyn gweld y ras hwyaid ar hydAfon Ceulan. Daeth y ras i’w therfyn wrth y bont a Mark Richards ynennill y wobr gyntaf o £100.

Penllanw’r gweithgareddau oedd noson deuluol wrth y patsyn glaslle cynhaliwyd barbeciw, raffl ac ocsiwn addewidion o dan ofal einharwerthwr amatur lleol, Geraint Evans.

Daeth tyrfa gref ynghyd i fwynhau cwmni eu gilydd yn y tywyddbraf ac ar ddiwedd y noson roedd y cyfanswm a godwyd wedi cyrraedddros £4,000.

Roedd llwyddiant y diwrnod yn sicr yn ganlyniad i drefniadauardderchog y clwb ac i ymroddiad yr aelodau hynny bu’n paratoi amwythnosau o flaen llaw. Hefyd i’r holl gefnogwyr a ddaeth i sicrhaudyfodol llewyrchus i glwb pêl-droed ieuenctid Tal-y-bont.

Llwyddiant y Diwrnod Hwyl