23
2012 Adroddiad Blynyddol

Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Welsh Language version of Annual Report for Cilip Cymru Wales 2012, highlighting the work of CILIP Cymru Wales and events that have taken place in Libraries across Wales. Includes Financial Statement, Committee details and Business Plan.

Citation preview

Page 1: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

2012

Adroddiad Blynyddol

Page 2: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

2

Amdanom ni Mae CILIP Cymru yn un o Ganghennau Gwledydd Datganoledig y Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth. Mae CILIP yn Elusen Gofrestredig – Rhif 313014

Cysylltwch â ni

Y We http://www.cilip.org.uk/get-involved/regional-branches/wales-cymru/Pages/default.aspx

Ebost [email protected]

Twitter @CilipinWales

Facebook http://www.facebook.com/?sk=welcome#!/pages/Cilip-cymru-wales/113013115442296?fref=ts

Blog http://cilipcymruwales.blogspot.co.uk/

Ffôn 07837 032536 (Swyddog Polisi, CILIP Cymru)

CILIP Cymru, Llyfrgell Bute, Prifysgol Caerdydd, Blwch Post 430. Caerdydd. CF24 0DE.

Cynnwys tudalen CILIP: Arolwg o’r Flwyddyn 3

Newyddion o’r ochr draw i Fôr Iwerddon 5 Cronfa Wybodaeth a Sgiliau CILIP 5 Cynhadledd CILIP 6 Gwirfoddolwyr mewn Llyfrgelloedd Cyhoeddus 8

Newyddion a Gohebiaeth 11 Materion Ariannol 12 Grwpiau Diddordeb Arbennig 14 Atodiad 1: Cynllun Busnes 17 Atodiad 2: Pwyllgor CILIP Cymru 2012 21

Page 3: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

3

Arolwg o’r flwyddyn Gan Karen Gibbins Cadeirydd CILIP Cymru

Dechreuodd fy ngwaith fel cadeirydd CILIP Cymru yn gynnar ym mis Ionawr 2012 pan dderbyniais wahoddiad i siarad mewn digwyddiad a drefnwyd gan Sefydliad y Merched Cymru i hyrwyddo’r ymgyrch Caru Eich Llyfrgell. Roedd hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo llyfrgelloedd a llyfrgellwyr, a hynny yng nghalon llywodraeth Cymru. Cafwyd cefnogaeth gref gan Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a chan Margaret Lloyd Jones, Cadeirydd Sefydliad y

Merched yng Nghymru, i’r rôl mae llyfrgelloedd yn ei chwarae mewn cymdeithas, ac roedd yn galonogol clywed eu geiriau o gefnogaeth i’r sector. Ymddangosodd adroddiad yn CILIP Update yn y gobaith o dynnu mwy o sylw at y digwyddiad yng Nghymru.

“Trefnwyd y digwyddiad hwn heddiw gyda’r bwriad o atgyfnerthu’r rôl bwysig mae llyfrgelloedd yn ei chwarae mewn cymunedau lleol, ac i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd ddydd Sadwrn, 4 Chwefror. Gan ein bod yn sefydliad addysgol, sylweddolwn pa mor werthfawr yw gwasanaethau llyfrgell lleol i’n cymunedau, yn aml mewn ardaloedd anghysbell, a chredwn ei bod yn bwysig i ni ddangos ein cefnogaeth gref i lyfrgelloedd.”

Margaret Jones, Cadeirydd Sefydliad y Merched Cymru

Page 4: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

4

Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd: trefnwyd digwyddiadau trwy

Gymru benbaladr, ac er bod y tywydd yn ofnadwy o wael, cymerwyd rhan gan lyfrgelloedd ym mhob sector.

“Roedd y digwyddiad Caru Eich Llyfrgell, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, yn gyfle hynod gadarnhaol i dynnu ynghyd NFWI-Wales/Cymru a sefydliadau eraill a chanddynt ddiddordeb mewn cefnogi llyfrgelloedd yng Nghymru a chodi proffil Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd ar 4 Chwefror. Ar lefel Llywodraeth Cymru, dangoswyd cefnogaeth hynod galonogol i lyfrgelloedd gan y Gweinidog, Huw Lewis AC, a chan Aelodau Cynulliad eraill.”

http://www.thewi.org.uk/wi-in-wales/news-and-events/love-your-libraries-event-at-the-assembly http://www.thewi.org.uk/media-centre/news-and-events/past-news-and-events/news-1 http://www.cilip.org.uk/news-media/pages/news120201a.aspx

Cynllun Busnes Bydd eleni – a’r blynyddoedd i ddod, rwy’n sicr – yn parhau i gyflwyno heriau newydd i lyfrgelloedd yng Nghymru.

Bydd CILIP Cymru yn parhau i geisio darparu cefnogaeth i bob un sy’n gweithio yn y proffesiwn. Eleni, lluniwyd cynllun busnes tair-blynedd i’n cynorthwyo i gyflawni’r amcan hon.

Gweler copi ar ddiwedd yr adroddiad hwn (Atodiad 1).

Mae CILIP Cymru yn bodoli er budd aelodau unigol:-

● Hybu a chefnogi’r rhai sy’n gweithio i gyflwyno’i weledigaeth.

● Darparu a dosbarthu gwybodaeth i aelodau

● Cynrychioli barn aelodau

Page 5: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

5

Newyddion o’r ochr draw i Fôr Iwerddon

Cefais y pleser o dderbyn gwahoddiad i fynychu Cynhadledd CILIP Iwerddon, a gynhaliwyd yn Belfast fis Ebrill. Thema’r gynhadledd oedd “Gweddnewid Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth” (mewn

cydweithrediad â Chymdeithas Llyfrgelloedd Iwerddon). Diddorol oedd clywed sut oedd y ddau gorff llyfrgelloedd yng Ngogledd Iwerddon ac yng Ngweriniaeth Iwerddon yn llwyddo i gydweithio’n llwyddiannus, a chafwyd cyfle hefyd i ddysgu am strwythur gwahanol gyrff llyfrgelloedd Iwerddon, y rhaglen LMS unigol, prosiectau diwylliannol Dulyn a rhaglenni eraill yn llyfrgelloedd Iwerddon. Mae nifer o’r syniadau hyn eisoes yn cael eu trafod yn y cyd-destun Cymreig, ac roedd yn ddiddorol clywed sut y llwyddwyd i wneud cynnydd. Er mai byr oedd yr ymweliad, roeddwn yn ffodus o fod yn Belfast am y tro cyntaf ar adeg pan oedd cryn gyffro o gwmpas y Titanic a’r amgueddfa newydd. Yn sicr, hoffwn ddychwelyd yno pan fydd gennyf ragor o amser.

Cronfa Gwybodaeth a Sgiliau (PKSB) CILIP Yng nghyfarfod mis Ebrill o bwyllgor CILIP Cymru, croesawyd Annie Mauger, Prif Swyddog Gweithredol CILIP, a Francis Muzzu, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmer CILIP, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith ail-lunio CILIP, y sefyllfa ariannol a chynlluniau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, yn cynnwys Diwrnod Allan CILIP a gynhaliwyd yn Newcastle ym mis Medi. Amlinellwyd hefyd y cynlluniau ar gyfer y wefan newydd a fydd i’w gweld yn fuan. Mae’r ddogfen Professional Knowledge and Skills Base – prosiect fawr i CILIP yn ganolog

Page 6: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

6

– bellach ar gael. Byddwn yn annog unrhyw un nad yw eto wedi gweld y cynllun i wneud hynny. Cynlluniwyd y cynnwys i gefnogi staff ym mhob sector wrth iddynt gynnal eu cymwyseddau proffesiynol, tra hefyd yn sicrhau bod eu rheolwyr a’u sefydliad yn gwbl ymwybodol o rôl bwysig y Llyfrgellydd a’r Gweithiwr Gwybodaeth Proffesiynol yn y gweithle. Dyma rai awgrymiadau ymarferol: • Darllenwch y ddogfen Professional Knowledge and Skills Base: http://www.cilip.org.uk/jobs-careers/professional-knowledge-and-skills-base/pages/professional%20knowledge%20and%20skills%20base.aspx • Defnyddiwch y ffigurau hunanasesiad i sgorio eich lefel chi o ran gwybodaeth a sgiliau • Nodwch unrhyw feysydd y byddech am eu datblygu, ac ystyriwch sut y byddech yn gwneud hynny • Dangoswch y ddogfen i’ch cyflogwr neu i’ch rheolwr llinell. Mae hwn yn ddull gwych o helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith y proffesiwn cyfan • Ystyriwch ei defnyddio gyda’ch rheolwr llinell fel dull o adnabod ar y cyd unrhyw feysydd y byddech am eu datblygu.

Cynhadledd CILIP Roedd Cynhadledd Flynyddol CILIP Cymru 2012 (17–18 Mai) yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu rhagor o fynychwyr (yn enwedig mynychwyr dydd), y nifer uchaf erioed (17) o stondinau masnach, darparu rhaglen ddiddorol o siaradwyr a gweithdai, a rhoi digon o gyfle am drafodaethau diddorol a rhwydweithio.

Mynychwyr dydd yn cyrraedd y gynhadledd ac yn casglu eu bagiau arbennig a’u pecynnau gwybodaeth.

Page 7: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

7

Trwy gynnal y gynhadledd yng Ngwesty’r Radisson, Caerdydd, roedd modd trefnu cysylltiadau teithio rhwyddach, gyda rhagor o bosibiliadau ar gyfer mynychwyr dydd, defnydd o gyfleusterau cynadledda newydd, a thîm ehangach o wirfoddolwyr lleol.

Yn ogystal, roedd y tîm trefnu yn fwriadol wedi adeiladu ar gryfderau cynadleddau blaenorol. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys yr araith allweddol gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, cyflwyniadau ar y cyd gan WHELF a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, newyddion o Brosiect Llyfrgell Ganolog Birmingham, a derbyniad lle cyflwynwyd gwobrau Saesneg Tir na n-Og, mewn cydweithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru, yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Gwnaed gwarged ariannol yng Nghynhadledd 2012, ac mae cynlluniau eisoes mewn llaw i gynnal Cynhadledd 2013 hefyd yng Ngwesty’r Radisson, Caerdydd (16–17 Mai 2013). Ar gyfer 2014, byddwn yn chwilio am leoliad yng Ngogledd neu Ganolbarth Cymru.

Darparwyd croeso cynnes gan dîm o wirfoddolwyr lleol i’r gynhadledd, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Radisson, Caerdydd, lle roedd y cyfleusterau’n benigamp.

Croesawyd Huw Lewis AC, Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, gan Annie Mauger (CILIP), Karen Gibbins (Cadeirydd CILIP Cymru) ac Andrew Green (Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Llywydd Anrhydeddus CILIP Cymru)

Page 8: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

8

Mae cyflwyniadau o Gynhadledd 2012 ar gael ar: http://www.cilip.org.uk/get-involved/regional-branches/wales-cymru/events/cilip-in-wales-conference-2012/pages/conference-presentations.aspx

Gwirfoddolwyr mewn Llyfrgelloedd Cyhoeddus

Ym mis Gorffennaf 2012, cytunodd Cyngor CILIP ar y datganiad polisi canlynol ar y defnydd o wirfoddolwyr mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.

“Mae CILIP yn credu bod cymdeithas yn elwa o’r cyfraniad a wneir i ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau gan weithwyr gwybodaeth a llyfrgellyddiaeth sydd wedi eu hyfforddi ac yn meddu ar y sgiliau perthnasol. Ni chredwn y dylai gwirfoddolwyr ymgymryd â chyflwyno gwasanaethau craidd ac na ddylent ychwaith gymryd swyddi arbenigol staff sy’n gweithio mewn llyfrgelloedd.”

Ers tro byd, mae gwirfoddolwyr wedi cynnig cefnogaeth ychwanegol hynod werthfawr, gan weithio ochr yn ochr â staff cyflogedig, cymwys, a dylid eu cydnabod a’u gwerthfawrogi am hynny. Dylid hefyd roi iddynt ddisgrifiadau swydd priodol, hyfforddiant a rheolaeth. Mae CILIP yn gwrthwynebu dirprwyo swyddi lle caiff swyddi cyflogedig, proffesiynol, a swyddi cefnogi, eu cyfnewid yn uniongyrchol â naill ai gwirfoddolwyr neu swyddi gweinyddol, heb hyfforddiant, er mwyn arbed arian. Mae hyn yn berthnasol i’r holl wasanaethau llyfrgell a gwybodaeth ym mhob sector.

Rhoddodd Brian Gambles gyflwyniad diddorol ar brosiect newydd Llyfrgell Ganolog Birmingham.

Page 9: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

9

Nid yw CILIP yn rhagweld y bydd y datganiad hwn yn achosi newid sylweddol yn yr amgylchedd cyfredol, ond mae’n gobeithio atgyfnerthu gwerth staff cymwys, sydd wedi derbyn hyfforddiant. http://www.cilip.org.uk/get-involved/policy/statements%20and%20briefings/Pages/use-of-volunteers.aspx

Cyfarfodydd CILIP Cymru trwy Fideo-gynadledda Mae CILIP yn awyddus i gysylltu â’i holl aelodau trwy Gymru benbaladr, a threfnwyd cyfarfod mis Gorffennaf o Bwyllgor Gwaith CILIP trwy ddull fideo-gynadledda fel bod modd i gydweithwyr yn Aberystwyth a Choleg Llandrillo gymryd rhan. Gobeithiwn wneud hyn yn amlach, gan ei fod yn gweithio’n arbennig o dda.

Siarad gyda Myfyrwyr AAGLl Bu Mandy Powell a minnau’n siarad gyda grŵp o fyfyrwyr yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth (DILS) i bwysleisio rhai o’r manteision o fod yn aelod o CILIP. Cafwyd ymateb da, gydag o leiaf ddwsin o fyfyrwyr yn bresennol, a hynny ar adeg brysur iddynt o ran paratoi gwaith cwrs.

Y Pwyllgor Cafodd nifer o swyddi gwag ar y pwyllgor eu llenwi eleni wrth i gyn-aelodau sefyll i lawr a symud i ffwrdd. Diolchwn i’r rhai sydd newydd ein gadael, a phob dymuniad da i’r dyfodol.

Penodiadau Newydd Marlize Palmer, Is-Gadeirydd Hywel James, Cynrychiolydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru Sarah Baker, Ysgrifennydd Mygedol Paul Jeorrett, Cynrychiolydd WHELF Rhestrir aelodau’r pwyllgor llawn yn Atodiad 2. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, cysylltwch â ni ar [email protected] – byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

Page 10: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

10

CILIP Cymru a Llythrennedd Gwahoddwyd CILIP Cymru i gymryd rhan yn y cyfarfod a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru ar Gyfathrebu a Marchnata Llythrennedd. Roedd yn gyfle defnyddiol iawn i glywed am y nifer fawr o brosiectau yng Nghymru benbaladr sy’n cefnogi llythrennedd, ac yn un a allai helpu CILIP i sicrhau bod llyfrgelloedd yn rhan o’r gweithgareddau. Cefais gyfle i grybwyll pwysigrwydd y gefnogaeth i Lyfrgelloedd Ysgolion, sy’n dod dan ofal yr Adran Addysg a Sgiliau yng Nghymru. Anfonodd y pwyllgor ymateb i’r Fframwaith Ysbrydoli, Llythrennedd a Rhifedd yn gynharach eleni, gan bwysleisio pwysigrwydd darllen er mwyn pleser, ac ymchwil bwysig ar gyfraniad llyfrgelloedd a lefelau uwch o gyrhaeddiad myfyrwyr.

Newidiadau i’r Hawl Benthyca Cyhoeddus (PLR) Anfonodd CILIP Cymru ei sylwadau i Bencadlys CILIP ar y cynllun arfaethedig i drosglwyddo swyddogaeth yr Hawl Benthyca Cyhoeddus (PLR) o’r corff presennol i sefydliad arall.

Arolwg o Fenthyca E-lyfrau mewn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Mae’r ymgynghoriad cyfredol ar E-lyfrau hefyd wedi derbyn ymatebion o Gymru trwy CyMAL a CILIP.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru Fel cadeirydd CILIP Cymru, gofynnwyd i mi hefyd eistedd ar Fwrdd y Llyfrgell Genedlaethol, ac edrychaf ymlaen at fynychu’r cyfarfod cyntaf yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Lloegr: Cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant y bydd y Llywodraeth yn cynnal Arolwg o Fenthyca E-lyfrau mewn Llyfrgelloedd Cyhoeddus

Page 11: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

11

Newyddion a Gohebiaeth CILIP Cymru a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru

Estynnwyd gwahoddiad i CILIP fynychu lansiad yr ymgyrch ‘Get Reading, Get Better, Get Libraries’ yn Llyfrgell y Pîl, Penybont-ar-Ogwr, ar 11 Hydref. Mae’r ymgyrch newydd hon yn gobeithio atgoffa partneriaid yng Nghymru o’r rôl bwysig mae llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth gefnogi Mentrau Iechyd. Cafwyd cefnogaeth gref gan Lyfrgell Hyrwyddo Iechyd Cymru.

Cyfarfod Blynyddol CILIP Mae Pencadlys CILIP wrthi’n adolygu eu trefn lywodraethol, a chawsom ni yng Nghymru gyfle i roi ein barn pan ymwelodd John Dolan, cadeirydd CILIP, â’r cyfarfod blynyddol yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ym mis Tachwedd.

Cymynrodd Kathleen Cooks Yn 2011, cynhyrchodd Cronfa Kathleen Cooks £5,508.39 mewn taliadau llog, ac felly roedd y swm yma ar gael i gynnig grantiau. Darparwyd grantiau i gefnogi Gwobrau Tir na n-Og, a chefnogwyd awdurdodau lleol Torfaen, Conwy a Sir y Fflint, gan wario cyfanswm o £3,995. Defnyddiwyd y gweddill i ddarparu cymorth TG yn y gynhadledd (3 mynychwr llawn, £810) a darparu 11 o lefydd noddedig ar gyfer mynychwyr dydd (£990). Ni nodwyd y gwariant yn y gynhadledd yn gywir yn erbyn y Gronfa yng Nghyfrifon 2011, ac o’r herwydd gwariwyd y gronfa gyfan yn 2011. Am fanylion pellach am y Gronfa: http://www.cilip.org.uk/get-involved /regional-branches/wales-cymru/pages/kathleen-cooks-fund.aspx

Page 12: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

12

Sefyllfa Ariannol Cymeradwywyd cyfrifon archwiliedig ar gyfer 2011 yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Aberystwyth ym mis Tachwedd 2012. Y rhain yw’r cyfrifon llawn diweddaraf sydd ar gael, a gellir eu gweld ar: http://www.cilip.org.uk/FileDownloadsLibrary/Branches/Wales/Wales%20Members%20Event%202012/CILIP-Cymru-Wales-Annual-Accounts-2011-approved.pdf Cynhyrchwyd gwarged bychan o £912.91 yn 2011. Cyfanswm yr incwm oedd £32,157.60, a chyfanswm y taliadau oedd £31.244.69. Gweler Ffigwr 1 am fanylion o’r incwm a’r gwariant hwn. Cynhyrchodd y Gynhadledd hefyd warged o £4,606.32.

Page 13: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

13

Oherwydd gwall wrth baratoi’r cyfrifon, ni nodwyd holl wariant Cronfa Kathleen Cooks dan y pennawd hwn. Mae’r Gronfa’n cefnogi Cynhadledd Flynyddol CILIP Cymru trwy ddarparu llefydd yn rhad ac am ddim, a thrwy dalu mynychwyr i ddarparu cymorth TG yn ystod y gynhadledd. Ni nodwyd y gwariant hwn yn gywir yn erbyn y Gronfa. Mae sefyllfa ariannol CILIP Cymru yn iach iawn. Bwriedir llunio polisi i sefydlu lefel briodol o gronfa ariannol wrth-gefn ac i gynllunio ar gyfer arian a gedwir dros y lefel wrth-gefn dros y 3 blynedd nesaf.

Page 14: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

14

Grwpiau Diddordeb Arbennig Grŵp Datblygu Gyrfa Cymru – Bu 2012 yn flwyddyn dda i GDG Cymru a threfnwyd pump o ddigwyddiadau llwyddiannus:

23/1/12 – Ar y cyd â Phartneriaeth Llyfrgelloedd Gogledd Cymru, trefnwyd cyflwyniad i faes llyfrgellyddiaeth llywodraeth ac eiddo deallusol. Roedd 20 yn bresennol yn y digwyddiad yng Nghyffordd Llandudno.

31/5/12 – Mynychodd saith person Gyfarfod Cymdeithasu a Rhwydweithio i Weithwyr Proffesiynol Newydd, yn Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd.

8/9/12 – Cynhaliwyd taith gerdded noddedig er budd Prosiectau Rhyngwladol y GDG. Cerddodd deuddeg o bobl o Cold Knap i Fae Jackson ar Ynys y Barri, ac ar y ffordd cafwyd cyfle i rwydweithio a chodi £75 ar gyfer cronfa’r prosiectau!

13/9/12 – Bu tri pherson yn mynychu ail daith o amgylch Gwasanaeth Ymchwil Aelodau Llywodraeth Cymru, ac adeilad y Senedd.

29/11/12 – Yn ystod ymweliad â Llyfrgell Ganolog Abertawe cafwyd cyfle i drafod materion megis gwasanaeth y cwsmer, arddangos a chynllun llyfrgell. Mynychwyd y daith ddifyr hon gan bum person.

Yn anffodus, ni lwyddwyd i gynnal dau ddigwyddiad oherwydd na chafwyd digon o enwau: digwyddiad cefnogi ymgeiswyr i’w gynnal ym Mhontypridd ym mis Mai, ac ymweliad â Gwasanaeth Llyfrgell Gardd Fotaneg Cymru ym mis Mawrth.

Mae’r GDG yn anelu at gefnogi aelodau sy’n gweithio tuag at ennill Cymwysterau CILIP, ac mae ein Swyddogion Cefnogi Ymgeiswyr yng Ngogledd a De Cymru wedi delio â llu o ymholiadau ac wedi cefnogi nifer o ymgeiswyr. Hyd yn hyn, credwn fod dau ymgeisydd MCLIP ac un ymgeisydd ACLIP wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru yn 2012.

Cynhyrchwyd dau rifyn o’n e-gylchlythyr, Ymlaen, oedd yn cynnwys adroddiadau o’n digwyddiadau, ac adroddiad ar y profiad o gymryd rhan mewn Sgwrs Siarteriaeth ar Twitter. Dosberthir Ymlaen trwy gyfrwng ein gwe-ddalennau, a’i hyrwyddo trwy ebostiadau i LIS-Wales, ar Twitter ac ar ein tudalen Facebook: http://www.facebook.com/?sk=welcome#!/cdgwales?fref=ts

Page 15: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

15

Cafodd ein pwyllgor, sy’n cynnwys aelodau o bob rhan o Gymru, flwyddyn brysur iawn yn 2012. Trwy gyfrwng fideo-gynadledda, rydym wedi cwrdd dair gwaith. Ar hyn o bryd mae GDG Cymru mewn sefyllfa ariannol ffafriol iawn. Mae gennym gysylltiadau effeithiol â Phwyllgor Cenedlaethol y GDG, a llwyddwyd i anfon cynrychiolydd i Glasgow ym mis Mawrth i fynychu cyfarfod o’r Cyngor Cenedlaethol. Bydd sawl un o’n cydweithwyr yn gadael Pwyllgor GDG Cymru ar ddiwedd 2012, felly rydym yn awyddus i recriwtio aelodau newydd i gyflawni nifer o swyddi diddorol a phleserus. Cofiwch gysylltu os oes gennych ddiddordeb! Cysylltiadau allweddol: Cadeirydd: Hywel Lloyd, Llyfrgellydd Cynorthwyol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru [email protected] Ysgrifennydd: Stephen Gregory, Swyddog Polisi (Cymru), CILIP [email protected] Grŵp Llyfrgelloedd Iechyd Cymru – Roedd 2012 yn flwyddyn weithgar i’r Grŵp. Yn dilyn cyfnod cymharol dawel, ac apêl lwyddiannus am aelodau newydd ar y pwyllgor, mae pob swydd bellach wedi ei llenwi. Cyfarfu’r Pwyllgor dair gwaith yn 2012, ac ar hyn o bryd maent yn cynllunio i gynnal digwyddiad astudio ar y cyd â Chyfarfod Blynyddol ym mis Mawrth 2013, yn ogystal â phresenoldeb yng Nghynhadledd Flynyddol CILIP Cymru. Mae sefyllfa ariannol y Grŵp yn hynod gadarn. Y cysylltiadau allweddol ar gyfer GLlIC yw: Cyd-Gadeiryddion: Angela Perrett, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru [email protected] a Stephen Storey, Dirprwy Lyfrgellydd Gwyddor Iechyd, Prifysgol Abertawe [email protected] Ysgrifennydd: Erin Abbott, Swyddog Adnoddau Gwybodaeth NHS Direct, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru [email protected]

Page 16: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

16

Grŵp Llyfrgelloedd Ieuenctid Cymru – Cafwyd blwyddyn lwyddiannus eto eleni, gan ddarparu hyfforddiant ar gyfer staff llinell-flaen, a’r rhai sy’n arbenigo mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Cafodd mynychwyr yr Ysgol Undydd ar 27 Ebrill, a’n digwyddiad CILIP Carnegie Kate Greenaway (CKG) a Chyfarfod Blynyddol ar 12 Hydref, gyfle i fwynhau cyflwyniadau gan Bev Humphrey – Ymgynghorydd Llythrennedd, Llyfrgelloedd Ysgolion a Thechnoleg, Sefydliad y Darllenwyr – a Jackie Morris, awdur a darlunydd, ac enillydd Gwobr Tir na n-Og 2005. Codwyd y ffi ar gyfer yr Ysgol Undydd eleni i £65.00, yn cynnwys TAW, sy’n cynnig gwerth ardderchog am arian o ystyried y lleoliad gwych a’r lluniaeth sy’n gynwysedig yn y pris. Eleni, cynhaliwyd yr Ysgol Undydd ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, a Diwrnod CKG yn y Ganolfan Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe. Mae’r pwyllgor yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn i drefnu’r digwyddiadau hyn, ac yn ogystal mae’n gofalu am osod arddangosfa yng Nghynhadledd Flynyddol CILIP Cymru. Er ein bod yn fychan o ran nifer, rydym hefyd yn cynrychioli Cymru’n flynyddol ar banel beirniaid a phwyllgor cenedlaethol Gwobrau Carnegie a Kate Greenaway. Rydym yn awyddus iawn i ddenu aelodau newydd o’r pwyllgor ac i gydweithio’n agosach â’r Grŵp Llyfrgelloedd Ysgolion. Cynhaliwyd ysgol undydd ar y cyd â hwy eleni, gan ddenu cynulleidfa ehangach, yn cynnwys nifer o lyfrgellwyr ysgolion. Y cysylltiadau allweddol ar gyfer GLlIC yw: Cadeirydd: Kate Middleton, Llyfrgellydd Cangen, Llyfrgell y Drenewydd, Powys [email protected] Ysgrifennydd: Angela Noble, Ymgynghorydd Ysgolion, Llythrennedd ac Adnoddau, Cyngor Sir Fynwy [email protected]

Page 17: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

17

Atodiad 1

Uchelgeisiau Strategol CILIP Cymru Cynllun Tair-blynedd 2012–2015

Gweledigaeth Mae CILIP Cymru yn rhannu’r un weledigaeth â phencadlys y sefydliad yn y DG, sef cymdeithas deg a llewyrchus yn economaidd, sy’n seiliedig ar lythrennedd, mynediad at wybodaeth a throsglwyddo gwybodaeth.

Mae CILIP Cymru yn haeru bod darpariaeth llyfrgelloedd a gwybodaeth o safon uchel yn anghenraid cwbl sylfaenol i gymdeithas wybodus, ddemocrataidd a dwyieithog yng Nghymru; trwy gyfrwng ei aelodau mae’n ceisio sicrhau bod darpariaeth o’r fath ar gael i bawb.

Datganiad o Bwrpas Mae CILIP Cymru yn bodoli er budd aelodau unigol:-

● Hybu a chefnogi’r rhai sy’n gweithio i gyflwyno’i weledigaeth ● Darparu a dosbarthu gwybodaeth i aelodau ● Cynrychioli barn aelodau

Mae CILIP Cymru yn gweithio er budd y gymuned llyfrgelloedd a gwybodaeth:-

● Anelu at fod y prif lais dros rai sy’n gweithio ym maes gwybodaeth a llyfrgellyddiaeth, gan weithio i eiriol yn gryf, darparu unoliaeth trwy werthoedd ar y cyd, a datblygu sgiliau a rhagoriaeth

● Uno pawb sy’n rhan o faes llyfrgelloedd a gwybodaeth yng Nghymru, a rhai sydd â diddordeb yn y maes

● Cydweithio gydag asiantaethau eraill i hyrwyddo datblygu’r ddarpariaeth llyfrgelloedd a gwybodaeth yn genedlaethol yng Nghymru, yn y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol

● Cefnogi buddiannau aelodau sy’n gweithio mewn meysydd penodol ● Cynyddu aelodaeth CILIP Cymru trwy’r dulliau canlynol:

● Cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithareddau ledled y wlad

Page 18: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

18

● Cefnogi a chyfathrebu â GDGau yng Nghymru, a chefnogi eu gweithgareddau a gwaith y grŵp

● Sicrhau bod datblygiad uchelgeisiau CILIP yn y DG yn derbyn ymdriniaeth o bersbectif Cymreig yng Nghymru

Mae CILIP Cymru yn gweithio er budd cymdeithas:-

● Hyrwyddo rôl holl bwysig darpariaeth llyfrgelloedd a gwybodaeth o safon uchel

● Ceisio dylanwadu ar ddatblygu polisïau sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a llyfrgelloedd ar lefel leol a chenedlaethol

Bydd CILIP Cymru yn cyflawni’r datganiad o bwrpas hwn trwy’r meysydd targed allweddol canlynol. Codi Proffil y Proffesiwn

Lobïo gwleidyddion lleol ar lefel Llywodraeth Cymru ac ar lefel Leol

Cysylltu â phartneriaid sy’n rhannu’r un amcanion i hyrwyddo’r proffesiwn a’r sector

Cynyddu presenoldeb ar-lein trwy ddefnydd effeithiol o gyfryngau cymdeithasol

Cynnal presenoldeb ar y we gyda gwybodaeth berthnasol, gyfredol Datblygu Sgiliau ar gyfer y dyfodol

Cyfeirio aelodau at gyfleoedd hyfforddiant

Annog aelodau i gymryd rhan mewn grwpiau proffesiynol

Darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad Addas ar gyfer y dyfodol

Sicrhau bod gan CILIP Cymru strwythur addas ar gyfer y dyfodol – un sy’n ategu ei werth i’r aelodau.

Rheoli adnoddau i sicrhau datblygiad parhaus

Page 19: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

19

Yn y cyfnod 2012–2015 bydd CILIP Cymru yn targedu’r meysydd canlynol gyda’r bwriad o gyflawni ei amcanion cyfundrefnol. Cynyddu Aelodaeth

Tasg Pryd Pwy

Defnyddio ebost i gyfathrebu ag aelodau

Rhagfyr 2012 Y Swyddog Polisi

Datblygu rhaglen o weithgareddau y gellir ei dilyn i gefnogi aelodau cyfredol ac i ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol

Blynyddol Y Swyddog Polisi a’r Swyddog Gweithgareddau

Targedu aelodau newydd gyda phecyn croeso

Rhagfyr 2012 Y Swyddog Polisi a Thîm Aelodaeth CILIP

Hyrwyddo Aelodaeth CILIP ymhlith cydweithwyr

Cyfredol Y Pwyllgor

Datblygu pecyn o ddigwyddiadau i ddenu aelodau posibl

Mehefin 2013 Y Swyddog Polisi a’r Swyddog Gweithgareddau

Datblygu Gwe-ddalennau CILIP Cymru

Chwefror 2013 Y Swyddog Polisi a’r Pwyllgor i gydweithio â Richard Hawkins, Pencadlys CILIP

Trefnu astudiaeth i nodi bylchau mewn aelodaeth trwy Gymru benbaladr

I’w gadarnhau Prosiect posibl yn ystod cyfnod cyflenwi absenoldeb mamolaeth (Medi – Mawrth)

Page 20: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

20

Cyfathrebu â Grwpiau Diddordebau Arbennig yng Nghymru a chefnogi eu gweithgareddau a’u sefydliadau

Mynychu digwyddiadau a drefnwyd gan Grwpiau Diddordeb Arbennig drwy Gymru

Yn rheolaidd Y Swyddog Polisi ac aelodau’r pwyllgor

Ymgynghori â grwpiau i gynnig cefnogaeth (ffôn, ebost neu wyneb yn wyneb)

Yn rheolaidd Y Swyddog Polisi ac aelodau’r pwyllgor

Darparu Cyfleoedd Rhwydweithio

Blynyddol Y Swyddog Polisi ac aelodau’r pwyllgor

Cyhoeddi Adolygiad Blynyddol yn adlewyrchu gwaith y Grwpiau Diddordeb Arbennig yng Nghymru, a’u haelodau, a darparu dogfen eiriolaeth

Blynyddol, yn dilyn y Gynhadledd

Yr Ysgrifennydd Mygedol a’r Swyddog Polisi, aelodau’r pwyllgor

Hyrwyddo cyfleoedd yng Nghymru, yn cynnwys Cronfa Kathleen Cooks, ariannu gan CyMAL, graddau Sylfaen ac AAGLl Aberystwyth

Cyfredol Y Swyddog Polisi, Y Pwyllgor

Cynrychiolaeth a rhwydweithiau ehangach

Cyfrannu at Bolisi CILIP, a sicrhau bod materion sy’n berthnasol i AGLl yng Nghymru’n cael eu cynrychioli gan CILIP

Cyfredol Y Swyddog Polisi, Y Pwyllgor

Datblygu a chynnal cysylltiad â rhwydweithiau ehangach (CPL Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Prosiect

Cyfredol Y Swyddog Polisi, y Cadeirydd, a’r pwyllgor llawn

Page 21: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

21

Llythrennedd Cymru, WHELF). Sicrhau bod CILIP Cymru yn cael ei gynrychioli yng Nghymru ac yn ehangach yn y DG (prosiect Llythrennedd Gwybodaeth CILIP, Umbrella, Gwledydd Datganoledig CILIP)

Sicrhau gwireddu uchelgeisiau CILIP UK yng Nghymru, gan roi iddynt berspectif Cymreig

Trefnu cynhadledd flynyddol i rannu arfer dda yng Nghymru, a chyflwyno syniadau newydd o’r tu allan i ffiniau’r wlad

Blynyddol Y Swyddog Polisi, Y Swyddog Gweithgareddau

Cysylltu â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru – CyMAL – i sicrhau bod dulliau hwylus o gyfathrebu’n cael eu cynnal gyda CILIP Cymru

Cyfredol Y Swyddog Polisi, aelodau o’r pwyllgor

Cynnal cynrychiolaeth ar bwyllgorau strategol yng Nghymru i sicrhau bod CILIP Cymru yn bartner allweddol wrth ddatblygu mecanwaith cefnogi newydd, a’i fod yn datblygu dulliau newydd o hyrwyddo gwaith Llyfrgelloedd yng Nghymru

Cyfredol Y Swyddog Polisi, aelodau o’r pwyllgor

Page 22: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

22

Atodiad 2

Pwyllgor CILIP Cymru 2012

Allwedd:

Mae’r Pwyllgor Llawn (pawb ar y rhestr hon) yn cwrdd 3 neu 4 gwaith y flwyddyn

Mae’r Swyddogion yn cwrdd yn amlach gyda’r Swyddog Polisi i ddatblygu digwyddiadau a phrosiectau

Staff CILIP yw’r pwynt cyswllt cyntaf

Sylwedyddion

Swyddog/Aelod Enw Llywydd Anrhydeddus Andrew Green

Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cadeirydd Karen Gibbins Prif Lyfrgellydd, Gwybodaeth a Dysgu Llyfrgelloedd Abertawe

Is-Gadeirydd

Marlize Palmer Gwasanaethau Llyfrgell ac Archifau Llywodraeth Cymru

Ysgrifennydd Mygedol Sarah Barker Uwch-gynorthwyydd Adnoddau Dysgu Canolfan Adnoddau Dysgu Coleg Iâl

Trysorydd Mygedol

Carol Edwards Rheolwr Datblygu, Gwasanaethau i’r Defnyddwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Swyddog Gweithgareddau

Helen Staffer Llyfrgellydd Safleoedd Bute a Senghennydd Prifysgol Caerdydd

Trysorydd Cronfa Kathleen Cooks

Rebecca Davies Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth

Aelod o’r Pwyllgor

Andrew Eynon Rheolwr Adnoddau Llyfrgell

Page 23: Adroddiad Brynyddol Cilip Cymru Wales 2012

23

Coleg Llandrillo

Aelod o’r Pwyllgor (o fis Tachwedd 2012)

Lori Havard Pennaeth Cefnogaeth Academaidd Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau Prifysgol Abertawe

Aelod o’r Pwyllgor Cynrychiolydd WHELF

Paul Jeorrett Pennaeth y Llyfrgell a'r Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr

Aelod o’r Pwyllgor Cynrychiolydd CPL Cymru

Hywel James Prif Lyfrgellydd Gwynedd

Aelod o’r Pwyllgor (o fis Tachwedd 2012)

Tracey Stanley Dirprwy Lyfrgellydd Prifysgol a Chyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Caerdydd

Sylwedydd CyMAL Huw Evans CyMAL Llywodraeth Cymru

CILIP Guy Daines CILIP

Swyddog Polisi CILIP Cymru

Mandy Powell (absenoldeb mamolaeth o fis Medi 2012) CILIP Cymru

Stephen Gregory (o fis Hydref 2012 – cyflenwi dros absenoldeb mamolaeth) CILIP Cymru