Am rôl y Cydgysylltydd Ffrindiau Gigiau
Teitl y SwyddCydgysylltydd Ffrindiau Gigiau
CyflogGraddfa 4 ADC - £20,272 to £22,803 y flwyddyn am oriau llawn amser.
Oriau30 awr yr wythnos wedi’i ei rannu rhwng 2 berson.
RheolwraigLyndsey Richards, Rheolwraig Arloesi.
Tudalen 1
Hawdd ei Ddeall
Nod y rôlCefnogi rhedeg y prosiect Ffrindiau Gigiau yng ngogledd Cymru.
Pa waith fyddwch chi’n ei wneudRhedeg y prosiect
Recriwtio gwirfoddolwyr.
Recriwtio pobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth.
Gweitho gyda’r tîm gweinyddol ac ar y cyfrifiadur i gofnodi gwybodaeth bwysig.
Gweithio gyda phobl y tu mewn a’r tu allan i’r prosiect.
Adrodd ar yr holl risgiau a’r problemau i wneud gyda diogelu wrth eich rheolwraig. Diogelu ydy cadw pobl yn saff rhag niwed.
Tudalen 2
Trefnu digwyddiadau cymdeithasol i aelodau’r prosiect.
Hyrwyddo’r prosiect
Defnyddio cyfryngau cymdeithasol a mynd i ddigwyddiadau i:
dweud wrth bobl am Ffrindiau Gigiau
codi arian
recriwtio pobl
rhannu straeon
dweud wrth bobl beth sydd yn digwydd a sut i ymuno
Helpu eich rheolwraig i godi ymwybyddiaeth am beth mae Ffrindiau Gigiau yn ei wneud i bobl
Helpu pobl i ddeall y pethau sydd yn gallu stopio pobl anabl rhag cymryd rhan
Tudalen 3
Arall
Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a rhwydweithiau grŵp llywio. Grŵp o bobl ydy’r grŵp llywio sydd yn cyfarfod i gynllunio beth mae’r prosiect yn mynd i wneud.
Cadw’i fyny gyda beth sydd yn digwydd gyda’r prosiect drwy:
o mynd i gyfarfodydd tîm
o darllen adroddiadau’r prosiect a chofnodion y grŵp llywio
Darganfod a defnyddio gwybodaeth i’w rannu gyda phobl ac i ysgrifennu adroddiadau prosiect.
Dweud wrth bobl am Ffrindiau Gigiau.
Tudalen 4
Gwneud beth rydych chi’n gallu yn eich rôl i’n helpu ni i ateb y nodau yn ein cynllun strategol.
Tudalen 5