15
yr AnIfAIL eI hUn! yr AnIfAIL eI hUn! RHYS TU Mewn MC MAbon, CofI bACh A Tew ShADy, beChgyn bAnDIT A LLAwer Mwy ! RHIFYN 2 CHWEFROR 2005 AM DDIM! GRUFF

Y Selar - Chwefror 2005

  • Upload
    y-selar

  • View
    246

  • Download
    7

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Ail rifyn Y Selar a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Chwefror 2005. Gruff Rhys sydd ar y clawr, a chyfweliad gydag o rhwng y cloriau. Mae'r rhifyn hefyd yn cynnwys MC Mabon, Cofi Bach a Tew Shady + llawer mwy

Citation preview

Page 1: Y Selar - Chwefror 2005

yr AnIfAILeI hUn!yr AnIfAILeI hUn!RHYS

TU Mewn MC MAbon, CofI bACh A Tew ShADy, beChgyn bAnDITA LLAwer Mwy !

RHIFYN 2 CHWEFROR 2005

AMDDIM!

GRUFF

Page 2: Y Selar - Chwefror 2005

6 4 8

Cynhyrchwyd gan gwmni rASAL Cyf, ariannwyd gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol.

goLygyDDOwain Morgan-Jones

IS-oLygyDDLlinos Wyn Thomas

DyLUnyDDElgan Clwyd Griffiths

CyfrAnwyrOwain Llyr, Lynsey Anne, Hefin Jones, Owain Schiavone, Trystan Pritchard, Geraint Criddle, Alun Chivers, Deian ap Rhisiart,Gwyneth Glyn, Gareth Glochben

Y SELAR 3

CofI bACh

beChgyn bAnDIT 

MC MAbon   

ADoLygIADAU CD

gIg

CySTADLeUAeTh

... yn y SeLAr

grUffrhyS

eDryCh yMLAen AT y PArTI !SIArAD MAwr CofI bACh CyfweLIAD ArALL !

FFOTOGRAFYDD: OWAIN LLYR

OS AM ANFON DEMO, LLYTHYR, NEU UNRHYW BETH ARALL, Y CYFEIRIAD YW :Y Selar, Llawr Un, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG

NEU E-BOSTIWCH [email protected]

NEU EWCH I’N GWEFAN WWW.YSELAR.COM

LLUN CLAWR: GRUFF RHYS

^

goLygyDDoL“I ddechrau, blwyddyn newydddda i bawb, a chroeso i Y Selarcyntaf 2005. Gyda phawb ynsownd i’r sgrîn yn gwylio’rWawffactor yna, beth am i chidynnu’ch llygaid oddi ar JohnFfilicanu a’i fêts a gwneudrhywbeth mwy buddiolfel...mynd mas i gig. Yn dilyn y trychineb mas ynAsia mi fydd gigs di-ri yn caeleu trefnu i godi arian i apêl yTsunami. Cefnogwch rhain dachi, wrth dalu i fynd i weldbandiau, cewch gefnogi’r apêl achael noson dda.

Mae llwythi o sêr yr SRG wediymgasglu i recordio fersiwnnewydd o Dewch at eich Gilydder mwyn apêl S4C, (mwy am hynyn y rhifyn nesa’.) Prynwch e. Ers y rhifyn diwethaf mae tîmY Selar wedi bod yn cymysgugyda popstars, rocars, rappars,a slappars (…wel, just fi oeddyn gyfrifol am y dwetha' yna, agon i di meddwi ok?) er mwyndod ar straeon mwyaf difyr ichi.Yn y rhifyn yma fe gewch

gyfweliad gyda Gruff Rhys am eialbym Yr Atal Genhedlaeth,

(wel, mae pawb arall wedicyfweld ag e!!), cyfweliad gydasêr newydd byd rap Cymraeg,Cofi Bach a Tew Shady, ac fefyddwn ni yn edrych ymlaen yneiddgar at yr esgus mwyafamlwg am biss-up ym mydcerddoriaeth Gymraeg, GwobrauRoc a Phop Radio Cymru. Nawrte, stopiwch wastraffu’ch amseryn darllen beth sydd gyda fi i’wddweud a mwynhewch yn ymodd mwyaf uffernol!"

hwyL

y goLygyDD

roC A PhoP2005

CofI bACh

Page 3: Y Selar - Chwefror 2005

bLw

yDDy

n o Sw

n!

4 Y SELAR

^

Dros y blynyddoedddiwethaf mae RadioCymru wedi bod yncymeradwyo grwpiau ac

artistiaid trwy gyflwyno tlysauRoc a Phop i’r bandiau a’runigolion hynny wnaeth argraffarbennig dros y flwyddyn a fu, ahynny mewn noson wobrwyofawreddog. A dyw eleni ddim yneithriad. Bydd Gwobrau RAP yncyflwyno tair gwobr ar ddeg ifandiau ac artistiaid yn NeuaddPritchard Jones ar Chwefror 19eg.“Ma hi’n neuadd glasurol,

fawreddog sy’n edrych yn wychwedi’i goleuo a’i llenwi eforocstârs!” meddai DwynwenMorgan, cynhyrchydd GwobrauRAP.Cafodd y noson wobrywo

gyntaf ei chynnal ym 1999 yn yCelt yng Nghaernarfon, ac ershynny mae’r digwyddiad wedityfu o ran maint aphwysigrwydd. Fuodd hi ynStiwdios Barcud, cyn symud iNeuadd Pritchard Jones, Bangorlle fyddan nhw eto ar Chwefror19eg.Medd Dwynwen Morgan,“Bwriad y digwyddiad ydi

cydnabod y grwpiau,cynhyrchwyr a threfnwyr gigssy’n cynnal sîn mor ffantastic.Mae’n gyfle i Radio Cymruddangos ein gwerthfawrogiad amy gwaith caled sy’n mynd ymlaendrwy’r flwyddyn, ac i ddiolch i’rrhai sy’n creu’r gerddoriaeth deni’n chwarae.”Mae’r noson wedi tyfu i fod yn

un o uchafbwyntiau calendrcerddorol y sîn yng Nghymru. “I

fi, mae’n bwysig cynnal nosonwobrwyo o’i math oherwydd fodunrhywbeth sy’n codi proffeil ysîn yn beth iach iawn,”dywedodd Dwynwen Morgan.“Mae e hefyd yn ddigwyddiadhollol unigryw - yn gyfle i weldbandiau hollol wahanol ynchwarae efo’i gilydd ac iddathlu’r bwrlwm sy’ didatblygu’n ddiweddar.”Mae arnai ofn mai y bandiau yn

bennaf, sy’n cael gwahoddiad i’rnoson fawreddog yma, heblawam ambell wrandawr lwcus fyddyn ennill tocynnau prin arraglenni C2. Mae’r darlun yn unanghygoel pan ‘rydych yncyrraedd; dychmygwchnoson y Brits ychydigyn llai o ran maint,gyda byrddau cylchgwyn yn llawnpoteli gwin, a’rbyrddau wedi’ugwasgaru o gwmpasneuadd fawr sydd wedi’igoleuo gan rig enfawr.Mae’r llwyfan yn unswmpus gyda henddigon o le i Anweledig,Drymbago a SambaBangor chwarae gyda’igilydd! Yn ystod yseremoni ei hun fefydd amryw ogyflwynwyr yncyflwyno tlysau, sy’ncael eu dylunio’narbennig ar gyfer yrenillwyr gan yr artistdur Ann Catrin Evans.Llynedd, roedd TexasRadio Band a Kentucky

gwobrAU

rADIo CyMrU 2005roC  APhoP

EnnilwyrGwOBrAU rAP

2004

CYFANSODDWR MEINIR GWILYMGRWP DDAETH KENTUCKY AFCI AMLYGRWYDD DIGWYDDIAD BYW PESDA ROCSESIWN C2 KENTUCKY AFCCYNHYRCHYDD DYL MEIARTIST GWRYWAIDD MC MABONARTIST BENYWAIDD MEINIR GWILYMBAND BYW KENTUCKY AFCGRWP / ARTIST POP PHEENAEP / SENGL ORAU KENTUCKY AFC - OUTLAW / 11ALBYM ORAU JAKOKOYAK - AM CYFAN DY PETHAU PRYDFERTHBAND Y FLWYDDYN KENTUCKY AFCCYFRANIAD ARBENNIG DAVID R EDWARDS

KenTUCKy AfC: reCorD AM y MwyAf o wobrAU. ( 5 yn 2004 ) 

Page 4: Y Selar - Chwefror 2005

Y SELAR 5

AFC ymhlith y perfformwyr, acunwaith eto eleni bydd pedwargrwp sy’n adlewyrchu’ramrywiaeth a’r safon yn y sîn yncael eu dewis i berfformio. Mae maes-e wedi cynnal

trafodaeth hir ers misoedd ambwy ddylai ennill y gwobrau,ond panel o tua 40 sy’n gwneudy penderfyniadau hollbwysig.Maent yn cynrychioli pobagwedd ar y diwydiant cerddorolyng Nghymru - labeli,cyhoeddiadau sy’n trafodcerddoriaeth, cymdeithasau sy’ntrefnu gigs ac ati. Hefyd mae yna

ddau gategori sy’n cael euhenwebu ganwrandawyr RadioCymru, sef Bandy Flwyddyn aDigwyddiad

Byw y

Flwyddyn.Un o’r uchafbwyntiau bob

blwyddyn ydi gwobrwyounigolyn am eu cyfraniad i’r sîn -yn y gorffennol ma DaveDatblygu, Geraint Jarman a MeicStevens wedi’i hennill hi, ac mahi wastad yn wobr sy’n ennyntrafodaeth!Roedd Gwobrau RAP 2004 yn

llwyddiant ysgubol i KentuckyAFC. Ychwanegodd DwynwenMorgan, “Enillodd Kentucky fwy o

wobrau llynedd na’r un banderioed o’r blaen! Dwi’n amheusy gwelwn ni’r un fath o sefyllfa‘leni - ond am resymau da iawn. Gyda gymaint o CDs

gwirioneddol safonol wedi’urhyddhau a mwy o gigs nac ersblynyddoedd, dwi’n rhagweldfydd hi’n lot agosach ‘leni yn yrhan fwya o gategoriau. Ma gany panelwyr a’r gwrandawyrwaith anodd iawn ibenderfynu - fyseunrhywbeth yn galludigwydd.”Bydd darllediad llawno’r noson ar BBC RadioCymru ar Nos Lun, 21Chwefror am 8 o’rgloch, a chyfle i weldyr uchafbwyntiau arBandit ar y 24 oChwefror am 10yh.Lynsey Anne

  rHESTr FEr

GwOBrAU rAP

2005EP/SENGL

MATTOIDZ - Y DYN TELESALESANWELEDIG - BYWWINEBAGO - HYDER BREGUS

ALBYM

TEXAS RADIO BAND - BACCTA CRACKIN'ALUN TAN LAN - ADERYN PAPURLO-CUT A SLEIFAR - MIWSIC I'CH TRAED AMIWSIC I'CH MEDDWL

GRWP A DDAETH I AMLYGRWYDD

FRIZBEE, DRUMBAGO, WINABEGO

CYFANSODDWR

MC MABON, ALUN TAN LAN, MATTHEW“MINI” WILLIAMS

BAND BYW

DRUMBAGO, PEP LE PEW, ASHOKAN

CYNHYRCHYDD

DYL MEI, JOE GIBB, CURIG HUWS

ARTIST BENYWAIDD

GWYNETH GLYN, ELIN FFLUR, COFI BACH

ARTIST GWRYWAIDD

ALUN TAN LAN, MC SAIZMUNDO, EDHOLDEN

GRWP/ARTIST POP

ELIN FFLUR, SIBRYDION, FRIZBEE

SESIWN C2

* PLEIDLAIS GWRANDAWYR RADIOCYMRU *

DIGWYDDIAD BYW

TYRFE TAWE, MIRI MADOGGIGS CYMDEITHAS YR IAITH YM MHONTEBWY, EISTEDDFOD CASNEWYDD* PLEIDLAIS GWRANDAWYR RADIOCYMRU *

BAND Y FLWYDDYN

ASHOKAN, FRIZBEE, TEXAS RADIO BAND

CYFRANIAD ARBENNIG I’R SIN

SIbryDIon: rheSTr fergrwP PoP y fLwyDDyn. 

ALUn TAn LAn: 2 enwebIAD,CyfAnSoDDwr Ag ArTIST gwrywAIDD.

eLIn ffLUr: rheSTr fer ArTISTbenywAIDD A grwP/ArTIST PoP

TexAS rADIo bAnD: 2 rheSTr fer.ALbyM A bAnD y fLwyDDyn

wInbAbego: 2 rheSTr fer; grwP ADDAeTh I AMLygrwyDD, eP/SengL orAU.

Page 5: Y Selar - Chwefror 2005

SIARAD MAWRCOFI BACH

6 Y SELAR

YO! YO! Y MYDDYZ DYMA GOLOFN NEWYDD RAPCYMRAEG JON-Z. I DDECHRE, CYFWELIAD GYDACOFI BACH AG E-GYFWELIAD GYDA MC MABON.MWY WRTHA I TRO NESA, TA TA LWZARS!

Mae hi’n fach ac yn dod o Gaernarfon, mae e’nfawr ac yn hoffi Eminem. Dim ond ers ychydigfisoedd mae nhw’n rapio, dim ond un cân maenhw wedi’i rhyddhau a dim ond dwy gig mae nhwwedi’i chwarae. Er hyn, mae’r ddeuawd KerryWalters a Gronw Roberts, neu Cofi Bach a TewShady i roi eu henwau iawn, wedi derbyn llwythi osylw ers i’r gân ‘Triwch Hi Ar’ gael ei rhyddhau. Cofi Bach a Tew Shady, croeso i’r SRG, chi ‘di caelllwythi o sylw yn y wasg a’r cyfryngau Cymraeg ersi chi rhyddhau ‘Triwch Hi Ar’, ydych chi wedi caeleich siomi ar yr ochr orau?CB: “Yn bersonol, do’n i ddim yn gwbod ygwahaniaeth eniwe, to’n i ddim yn dilyn y Sîn RocGymraeg, dwi ‘di gwrando ar un ne ddau o bethagynna fi, fatha Anweledig, ond do’n i byth yngwbod gymaint o big deal odd o,“TS: “Ddoth on sydyn iawn, dwi’n meddwl efo CofiBach am fod o’n wahanol i bob dim arall sy’nmynd ymlaen rwan. ‘Tmo, ma rhaid i ti neud ypeth iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn o flaen ybobl iawn ... lwc llu. O’dd o’n sioc, ond sioc neis,fedra ni ddim cwyno o gwbl.”Dyw hi ddim yn deg dweud fod y ddau yn

newydd i’r byd cerddorol gan fod Gronw wedi bodyn rhan o’r band Cint, oedd yn chwarae stwfftecno a dawns trwm. Tra roedd Kerry yn gitaryddmewn band roc oedd yn teithio Prydain o’r enwUltra Violet, ond nath hwnna ddim para’n hir.CB: “Nes i adal achos doeddan nhw’m yn gadalchdi neud dim byd de, ac o’dd gynna nhwcontracts fatha phoney contracts yma, ag o’n nhwmenthyg pres gin ti a byth yn talu chdi nôl.”

Felly troi oddi wrth y drum‘n bass a’r metaltrwm naeth y ddau ac, ar ôl clywed Lo-Cut aSleifar yn herio rapwyr newydd, aethon nhwati yn y stiwdio yn nhy Tew i ddechre ar eugwaith. Mae’r gân sydd wedi ennill y sylw i’rddau, ‘Triwch Hi Ar’ yn gân reit ysgafn,ond hefyd cawn gipolwg ar y dicter syddym mhen Cofi Bach. Wrth drafod hanesy gân mae Cofi Bach yn sôn am eigorffennol a dydi’r darlun ddim yn unffafriol. Mae’n amlwg ei bod hi dal ynflin am bethau ddigwyddodd iddi a tydihi ddim yn un all anghofio hynny’n

CoLfon

 rAP

 Jon-

Z

Page 6: Y Selar - Chwefror 2005

Ble wyt ti nawr, a beth wytti’n wisgo? MC Mabon: Rwyf ym mhriflyfrgell Caerdydd yn gwisgotrowsus, jympyr a sgarff.Lliw fy mhants heddiw ywglas.

Mae MC Mabon ynrhyddhau casgliad o ‘out-takes’. Wyt ti’n teimlocatharsis gwefreiddiol ar ôlrhyddhau’r caneuoncuddiedig yma?MC Mabon: Yndw, mae’nbraf cael gwagiad. Onddwi’n hapus efo’r caneuona ma nhw’n werth eurhyddhau yn fy marn i. Patarall ar fy nghefn.

Mae’r gân ‘Nes i ofyn amchips’ yn hen ffefryn byw.Oes na rhyw gân MCMabon sy’n rhoi gwefrarbennig iti pan ti’nchwarae’n fyw? Hefyd,wnes ti fwyta’r grefi wedyn?MC Mabon: Os byse grefi arfy mhen i byswn yn: (a) eifuta cyn iddo fo galedu (b)cwyno i’r awdurdodauperthnasol (c) rwbeth arall

Dwyt ti heb chwarae’n fywers tro nawr. Pam? MC Mabon: Pam fod eira’nwyn? Mae na daith KerrrddDant yn Chwefror - fyddhwne’n ddiddorol.

Ti wedi rhyddhau recordiautrwy labeli Ankst, Fflach aBoobytrap. Wyt ti’n teimlody fod ti wedi darganfod dygartref ysbrydol gyda Slacyr?MC Mabon: Wel, roedd yslacyriaid yn hapus iryddhau y c.d. a finnehefyd, felly ma pawb ynhapus, heblaw y chinchillas.

‘Y Gororau’ yw’r unig drac o2004 ar yr albym. Ydy’r tracyma yn rhagflas o gyfeiriadnewydd i MC Mabon? MC Mabon: Na, ddim bofi’n gwbod ond diolch amofyn, ond dwi heb recordiodim byd ers Y Gororau so,ie ond na ond ie a.y.b.

Beth allwn ni ddisgwylnesaf gan MC Mabon? Oesna albym arall ar y gweill?MC Mabon: Dwi’ngobeithio rhyddhau albymo seshiwns radio a chlirio’rcwpwrdd eto fel ti’n deud.

Wyt ti’n credu mewn uwd?MC Mabon: UUWD- prydarbennig o dda dwi’nmeddwl. Ma uwd ynhaeddu medal am fod ynuwd. Mae o’n uffernol orhad, maethlon a ma’nllenwi ti. Ond jyst weithiema 'creision-yd cnaucreinsion' yn well.Owain Llyr

MC Mabon

- gyfweliad

* CALCIwLeIDDIwyD y ffIgyrAU UChoD yn DILyn gwAITh yMChwIL TryLwyr, yn ogySTAL â honIADAU hoLLoL DDI-SAIL.

tew shady v slim shady

hawdd. Mae’n cyfeirio at ei hun fel “workingclass scumbag o Gaernarfon”, pam?CB: “jyst barn pobl arall, on i’n gweld pobl eraillyn sbio arnai yn ysgol, yn asiwmio’n syth, ambo fi’n byw mewn council house, bod gynna fiddim byd. Dwi’n cofio un tro pan o’n i’n ysgol,odd y lleill i gyd efo tada nhw yn ddoctros apetha, on nhw’n gofyn, oes gin ti £100 i lendio ifi a neith dad talu chdi nôl fory teip o beth,eniwe, oddan nhw’n sbio i lawr arnai bob tro.”Ti hefyd yn cael pop ar Glanaethwy yn y gân...

CB: “Gas gina fi nhw, mama a tada nhw yn taluam bob dim, rheina dwi’n sôn am drwy’r gân igyd. Mae nhw’n cael bob un job sy’ ar gael, atydyn nhw ddim wastad yn dda.”Eu cynlluniau ar y funud yw rhyddhau cwpwl

o singles cyn gwneud albym, ond i ddechrau,mae’r ddau yn recordio sesiwn i rhaglen newyddHuw Stephens gyda aelodau o deulu brenhinolhip-hop Cymraeg. Gan eu bod felly, yn ymuno âchriw o hip-hopwyr elît, lle mae’n bwysigedrych yn cwl, a dangos eich hun a brolio, ydyhyn yn golygu eu bod am ddechrau gwario’nwirion ar pimpmobile a gemwaith ?TS: “Be bling ?!! Ymmm, na, dwi’n meddwl bofi’n dreifio’r car lleia’n y byd!”Felly, dy’n ni ddim yn debygol o weld chi ar 04wal, y fersiwn Gymraeg o Cribs?

TS: “O ie! Fedra’i weld o wan...‘hwn di slym ni,da ni’n byw yn y gornal na fanna, hwnna di’runig bit sych sydd ‘na!”A’ch gobeithion chi ar gyfer 2005?CB: “Grammy ?!”TS: “Jesus ! Wel nawn ni ddechra efo recordio’ralbym, wel jyst rhyddhau stwff basically, caelstwff allan. Da ni ddim di trafod ambitionsmawr, i fod yn realistic, ma rhaid i ti jyst gweldbe sy’n digwydd … elli di ddim ‘fforsio’ dynhun ar bobol.”Gyda chyfweliad arall gyda’r Wasg Gymraeg

dan ei gwregys does dim rhaid i Cofi Bach a TewShady fforsio’i hunain ar neb, os ydyn nhw’n dali ryddhau caneuon o safon, newn ni ofalu amhynny drostyn nhw. OMJ

Enw: Gronw Roberts Marshall Bruce Mathers IIISwydd: Rapar, Cynhyrchydd Rapar, Cyhyrchydd, ActorAlbyms: 0 5 solo, 2 D12Gwerthu: llai na 100,000 dros 40miliwn Arian: llai na £0.1m tua $75miliwn

ALbyM MC MAbon - KerrDD DAnT

ALLAn rwAn - LAbeL SLACyr

Jon-Z

Page 7: Y Selar - Chwefror 2005

Cyfw

eLIA

D

^

‘Rydym ni ar y soffa yn swyddfa foelAnkst yn Nhreganna, Caerdydd, ac oamgylch y ‘stafell mae paraphenaliahen deithiau’r Super Furry Animals,gyda dau geffyl cardbord mawr oglawr ‘Phantom Power’ mewn uncornel a chi mawr blewog ar y walo’n blaen. Ac yn ôl ei arfer, maeGruff yn synfyfyriol betrusgar felpetai’r cwesitynau dwi’n ei roi iddoangen ystyriaeth fanwl ...“Damwain llwyr ydy hyn. O’n i di

gorffen albym efo’r band (PhantomPower). Oeddwn i ddim wedimeddwl gwneud albym fy hun, jystrecordio fo ar ddamwain. Dw’n liciomynd i lle Gorwel Owen (StiwdioOfn, Llanfaelog, Môn) a treulio rhywddiwrnod neu ddau yn rhoi syniadaulawr cyn i fi eu anghofio nhw, bobmath a beth bynnag ddaw. Oeddgen i bump braslun o gân oedd yn

teimlo’n dda. Doedden nhw ddimangen gwaith am eu bod nhw yngweithio ar lefel syml iawn ac o‘n i’nlicio hynny felly nes i bump arall agalw fo yn albym” meddai Gruff.Doedd y caneuon yma ddim yn

ffitio gyda’r cysyniad a’r cyfeiriadfydd y band yn mynd â ni arno nesaf

ac er bod ei themau yn cyffwrdd ar yGymru newydd sy’n cael ei chreugan wleidyddion y Cynulliad, maeGruff yn pellhau ei hun oddi wrth ysyniad o concept album …“Na, dwi’n ddigon bodlon gadael

hynna i fandia fel Pink Floyd, a bethbynnag dydi’r syniadau sydd gen iddim yn aros efo’i gilydd ddigon hiri’w galw yn concept! Oedd o ynrywbeth nath ddatblygu erbyn ydiwedd, wrth ddod a bob dim at eigilydd. Efo’r band ‘da ni’n gweithioar swn mwy clasurol a doedd ycaneuon yma ddim yn addas bethbynnag. Fi sy’n chwarae’r offerynnauar yr albym i gyd heblaw y bras, fellyfy mai i ydy hyn i gyd!”Ond mae’n glir fod peth meddwl

tu ôl i eiriau Gruff fel yr arfer ac maethemau yn rhedeg trwy’r albym hon.Yn sicr dydy’r Sefydlaid Cymraeg

ddim yn ei blesio ryw lawer ac maeneges reit gref tu ôl i’r melodiauswynol diniwed.“Mae na lot o ganeuon yn chwara

gwmpas efo geiria. Ma hynna’nrywbeth dwi’n licio neud, troi gairben ei lawr a defnyddio ystyr arallohono fo. Y tro yma roedd y gân yndatblygu o’r geiriau, sy’n anarferol ifi, achos fel arfer mae’r gerddoriaethyn dod gyntaf. Mae na lot o ganeuongwirion arno fo, rheswm aralldoeddwn i ddim eisiau gorfodi albymwirion ar y band a dod a phawb lawri lefel isel efo fi.Mae caneuon fel Caerffosiaeth a

Epynt yn rhai sy’n cwyno am bethaudwi’n gweld o gwmpas sy’n gwneuddim synnwyr i mi. Caerffosiaeth ynsôn am sut mae Caerdydd yn cael eidroi i mewn i far chwaraeon anfertha sut mae nhw’n galw pethau yn

8 Y SELAR

Mae’n dweud Mai daMwain o swn yw ei albyM newydd ac Mae Gruff

rhys Mor abstract aG erioed. trystan Pritchard Gafodd y cyfle i

drafod ei olwG ar fywyd cyfoes, syrthio Mewn cariad â Merch o’r

enw Pwdin wy a llwyddo i waredu ei hun rhaG cân Glasurol GyMreiG

a fu’n fwrn ar ei feddwl ers blynyddoedd…

Fi sy’n chwarae’rofferynnau ar yralbym i gydheblaw y bras,felly fy mai i ydyhyn i gyd!”

DAMwAIn LLwyr !  

Page 8: Y Selar - Chwefror 2005

‘Millennium’ bod dim. MillenniumStadium, Millennium Centre,Millennium Fish Bar! Mae’r peth ynwirion, defnyddio enwau cachu fel‘Mermaid Quay’ ac ‘Atlantic Wharf’–petha sydd ddim byd i wneud efoCaerdydd.Mae Epynt yn sôn am fi isio cael

gwared o’r bunt achos dwi ddim ynlicio gweld wyneb y Frenhines yn syllunôl arna fi o hyd. Mae’r gân yn rhannolam hynny ond hefyd am falu cachu efogeiria a gwneud racket.”

Y peth olaf fyddai rhywun yn eiddisgwyl fyddai clywed un o glasuronamheus Caryl Parry Jones yng nghanolpopeth. Yn sicr, mi gododd ofn ym mârf’esgyrn i pan glywais i hyn am y trocyntaf. Does bosib fod Gruff wedi eicholli hi go iawn a bellach yn cael eiysbrydoliaeth o waith brenhines popcawslyd Cymru? Dim ffiars!“Roedd Chwarae’n Troi’n Chwerw yn

gân oedd yn hunllef i mi wrth dyfu ifyny. Dipyn o hwyl oedd hyn ond mae’rgân wedi bod yn fy mhen i ersblynyddoedd yn gwneud dwn i ddimfaint o ddrwg. Ella bod gwneud fyfersiwn fy hun yn ffordd o gael gwaredo hynny a rhyddhau fy meddwl oddiwrth hi.”

Y SELAR 9

“Dwi ddim yn licio gweld gwyneb yfrenhines yn syllu’n ôl arna’i o hyd ...”

Page 9: Y Selar - Chwefror 2005

Mae hon yn albym sy’n swnio lot mwystripped down na albymau y band. Mae efallai yndebycach i Mwng nac unrhyw un o’r albymaueraill o ran yr ychydig iawn o waith cynhyrchu apheirianyddiaeth. Wedi synfyfyrio cryn dipyn,mae Gruff Rhys yn cytuno:“Ydy mae’n siwr, mae o’n fwy elfennol a dwi

ddim y cerddor gorau yn y byd felly mae o’n swnbregus iawn. Ond hefyd yn gyfle i drio pethamwy amrwd nac arfer. Mae’r grwp yn liciochwilio am synnau gwahanol.”Mae rhywun yn cael yr argraff fod gwerthu

recordiau yn bell o feddwl Gruff wrth iddo dreulioei amser yn malu cachu efo geiriau ar ei ben eihun. Yn sicr dydi’r polish ddim wedi cael ei roi aryr albym yma a’r canlyniad ydy swn organig heble i guddio y tu ôl i berianyddiaeth gormodol.Mae’n glir mai angen Gruff i gael yn caneuon ymai lawr sydd wrth graidd Yr Atal Genhedlaeth.“Nes i ddim meddwl amdano fo ond roedd hi’n

bryd i gael nhw o’m mhen ac i lawr fel record er

T.P: Fuoch chi yn Brasil yn ddiweddar. Pa fath obethau wnaethoch chi yn fana?Mae Gruff yn troi at Cian wrth iddo ddod trwy’r drws:“Be oeddan ni’n neud yn Brasil Cian?” ond mae Cian ynbrysur yn siarad i mewn i’w ffôn symudol.

“Na, aethom ni drosodd i gymysgu’r albym yno,naeth y cynhyrchydd berswadio ni i fynd draw amantur a ma recordio yno yn rhatach nac yng Nghymrudigwydd bod o ran cael stiwdio 48 trac. Gobeithioawn ni nôl yno ac i’r Ariannin efo’r albym nesa.Ar lefel fach iawn mae geno ni ryw fath o fanbase

yn y rhan fwya o lefydd ond dyda ni ddim yn fandmawr yn unlle. Faswn i’n deud mai yn Iwerddonydan ni’n cael yr ymateb gorau tu allan i Gymru.Mae nhw i weld yn gwybod be da ni amdan, a wedicymryd atom ni.

T.P: Be am y croeso da chi’n gael yn Japan?“Mae na rai petha gwahanol. Mae nhw’n disgwylencore. Ma raid i ni ddeud wrthyn nhw pryd da niwedi gorffen neu fydda nhw yn disgwyl encoresdrwy’r nos. Ond ma na gynulleidfa yn Japan ibawb. Mae’r Gorky’s di cael lot o hwyl yno. Maena label Cymraeg a chylchgrawn ar gyfer bandiaCymru wedi setio fyny yno erbyn rwan. Mae nasôn am roi petha allan gan Jakokayak a MC Mabon,mae’r peth yn reit wallgo wrth feddwl am y peth.”

T.P.: Os faswn i yn dy roi di mewn ‘stafell gron adweud wrthat ti i biso yn y gornel, be fasa ti’nwneud?“Ummmh, faswn i’n meddwl yn ddryslyd am y

cwestiwn am ryw ddeg munud a wedyn piso yn fynhrowsus.”

Taith gruff rhys :Mi fydd Gruff Rhys yn cael ei gefnogi gan Alun TanLan, Kerrdd Dant a DJ Andy Votel.

Chwefror yr 8fed : Neuadd Ogwen, BethesdaChwefror y 10fed – Theatr Colwyn, Bae ColwynChwefror y 13eg - Theatr y Sherman, CaerdyddChwefror y 14eg – Theatr y Werin, Aberystwyth

mwyn fy lles fy hun. Roedd y syniadau oedd gen iangen gweld golau dydd ac efallai fod o’n bethperyg i fy ngadael i’n rhydd mewn stiwdio ar benfy hun ond dyna beth ddigwyddodd.” T.P Mae’r SFA yn fand sy’n defnyddio dipyn arsamplo. Sut mae dod o hyd i’r sampl yn y llecynta?G.R: “Rywbeth collective ydy o. Ma pawb yn

gwrando ar betha mor wahanol a jyst dod ardraws petha yda ni. Dwi’n gwrando ar ‘The Eaglesof Death Metal’ a lot o electro ar hyn o bryd, ondma na lot o stwff Cymraeg da allan ar hyn o bryd.Ma Guto newydd bigo rywbeth i fyny o fiwsig

traddodiadol o Hawaii i roi ar yr albym nesa’ anath Daf ffeindio’r sampl i The Man Don’t Give aFuck oddi ar rywbeth gan Steely Dan.”Bu rhai yn cymharu’r albym nesaf gan y band i

‘Steely Dan on Crack’, dydy Gruff ddim i weld ynmeindio’r gymhariaeth ...“Dyna naeth y cynhyrchydd alw fo ond am wn

i roedd Steely Dan o hyd ar crack beth bynnag

felly dwi myn gwybod be ma hynna’n ddweudamdano ni. Ella Steely Dan sydd methu chwaraeofferynnau!”Does dim teitl i albym nesaf y band eto. Hon

fydd y seithfed ac wrth i ddeinameg y band newidrywfaint mae Gruff yn ildio ei le fel prif leisydd arrai o’r caneuon. Ond, mae’n hapus iawn i wneudhynny a gyda hon, y seithfed albym, mae’nbendant nad yw’r ffynnon greadigol yn sychu… “Da ni’n newid fel band drwy’r amser, a mae

gennym ni fwy fyth o ganeuon achos mae Bunfyn ‘sgwennu yn ddiweddar, ac mae caneuon i’ralbym nesa’ yn anhygoel. Mae Cian, Bunf a Dafyn canu dwy gân yr un ar yr albym nesa. A mae’nbwysig i ni fel band fod petha’n newid i stopiopetha rhag mynd yn stêl. Mae gan bawb ei ran adim ond un rhan o hynny ydw i achos band ydani yn y pendraw ac am fod neb ohonom ni ynextroverts mae’n hawdd i bawb dynnu ‘mlaen agweithio efo’i gilydd.”

Cyfw

eLIA

D

“Doeddwn iddim eisiau

gorfodialbym wirion

ar y band adod a phawb

lawr i lefelisel efo fi”

LLUnIAU: owAIn LLy^rgeIrIAU: TrySTAn PrITChArD

10 Y SELAR

Page 10: Y Selar - Chwefror 2005

Yn ddiweddar mae'r alwad am ddiwygiodarpariaeth ieuenctid Radio Cymru yncryfhau gyda nifer o bobl yn galw amnewidiadau. Dwi'n meddwl fod yr hyn yrydych yn gynnig ar hyn o bryd ynannigonol gyda phwyslais gwallgof ar londllaw o artistiaid a rhai sydd wedi bod wrthiers ugain mlynedd a mwy, yn cynhyrchuyr un hen stwff yn ddigyfnewid.Mae'namser cael newid.Gwraidd y broblem ydifod tîm cynhyrchu C2 yn gorfod bod yngaeth i ganllawiau arbennig, canllawiausy'n hyrwyddo artistiaid sâff fel Bryn Fôn aMeinir Gwilym a cherddoriaeth Saesneg.Wrth gwrs, mae Bryn Fôn yn boblogaiddymhlith y caeau a'r cloddiau ond dwi'nteimlo fod gormod o bwyslais arno. Nidgwaith yr orsaf yw adweithio ond arwain.Y DJ ydi'r arbenigwr cerddorol, felly, ydisgwyl yw fod y DJ yn cyflwyno stwffnewydd yn gyson, yn cadw'r hengynulleidfa draddodiadol yn hapus ond fodcydbwysedd rhwng y ddau. Ond yn achosRadio Cymru, mae hyd yn oed C2 ynchwarae peth wmbreth o Bryn Fôn, er eifod yn cael ei glywed yn y p'nawn ar raglenOwain a Dylan. Petai Radio Cymru yn

penderfynu fory i gwtogi ar ganeuon BrynFôn, neu Meinir Gwilym ar C2, dwi'n siwrna fyddai yna wrthryfel. Mae pobl ynmwynhau yr hyn y maent yn wrando arnocyn prynu, nid yn mynd i brynu'r CD acwedyn yn mwynhau.Rôl y radio ywhyrwyddo albym i bobl fynd allan i'wbrynu.Dyna pam, fyddwn i yn dadlau, yrheswm fod Bryn Fôn wedi gwerthucymaint.Ond dwi wedi cael fy nghalonogiyn ddiweddar wrth glywed Jonsi ynchwarae Texas Radio Band, MC Mabon aGruff Rhys.Dwi'n siwr na gafwyd o gwblgwynion gan wragedd ty a ffansobsesiynol yr hen goes wrth "glwad yllafna' ifanc yn mynd drw'u petha". Tybedoes yna newid yn y gwynt?

Gyda phenodi Huw Stephens yn DJ igymryd lle John Peel ar Radio Un,mae'ndangos yn glir fod angen chwistrelliad onewid yn BBC Radio Cymru, a chaelmwy o bobl fel Huw sy'n gwybod eustwff. A fyddai Terwyn yn cael swyddyn BBC Radio 1? Dwi'n siwr eich ynbod yn gwybod yr ateb.

ANNWYL RADIO CYMRU,

Chwefror 8-11 Theatr Gwynedd,BangorChwefror 17 Theatr Ardudwy,HarlechChwefror 19 Canolfan Celfyddydau, AberystwythChwefror 22 Theatr Y Lyric, CaerfyrddinChwefror 25 Theatr Mwldan, AberteifiChwefror 26 Neuadd Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan

(trwy Theatr Felinfach)Chwefror 28 Neuadd Goffa, Y BarriMawrth 2 Neuadd Dwyfor, PwllheliMawrth 3 Theatr Colwyn, Bae ColwynMawrth 4-5 Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug

Mawrth 9-11 Garter Lane Arts Centre, WaterfordMawrth 15-16 Town Hall Theatre, GalwayMawrth 18-19 An Culturlann, BelfastMawrth 21-26 Project Arts Centre, Dublin

Mawrth 28 Galeri, CaernarfonMawrth 30 Thear y Stiwt, RhosllannerchrugogMawrth 31 Neuadd Ysgol y Berwyn, Bala

Yn ogystal â Naws, Abri a Gwener yGrolsch, mae yna ddwy noson reolaidd arallwedi dechrau yn ddiweddar. CWRWgl yngNghaerfyrddin, a Maes-b yng Nghaerdydd.“Y syniad tu ôl i sefydlu nosweithiau Maes-b ydy ceisio hyrwyddo Maes-b fel rhywbethsy’n cael ei gysylltu â cherddoriaethGymraeg drwy’r flwyddyn yn hytrach nacwythnos yr Eisteddfod” meddai GutoBrychan y trefnydd. Mae nosweithiau Maes-b yn cael eu cynnalar ail nos Wener bob mis yng Nghlwb yToucan, Caerdydd ar y funud. Mae ynagynlluniau ar y gweill i ehangu tu fas iGaerdydd drwy drefnu taith Maes-b er mwyn creu cysylltiad rhwng un gig ar llall. Mifydd Melys yn chwarae ar noson Maes-b ar Mawrth 10 (eu gig cyntaf yn y brifddinasers dwy flynedd.) Croeso i fandiau sy’n chwilio am gigs i gysylltu drwy e-bostio [email protected] neu ewch i www.maes-b.com

CWRWgl - Fe fydd rhai o fandiau gorau Cymru’n perfformio mewn gigsmisol yng Nghlwb y Quins, Caerfyrddin yn 2005 mewn ymgais i gryfhau sîn roc yDref. Dyna oedd gan hyrwyddwyr CWRWgl i'w ddweud wrth iddynt lansio’r nosonddiwedd llynedd. Eleni fe fydd nosweithiau CWRWgl yn cynnwys perfformiadau ganMim Twm Llai, Frizbee, Estella, Elin Fflur a Mattoidz a'r gobaith yw rhoi llwyfan ifandiau ifanc lleol i gefnogi’r enwau mawrion. Trefnir CWRWgl gan Menter TafMyrddin. Bydd Frizbee yn perfformio yn CWRWgl yng Nghlwb y Quins, Caerfyrddin,nos Wener 11, Chwefror 2005. Tocynnau ar gael o swyddfa Menter Taf Myrddin(01267) 676831 neu (01994) 241222.

rADIo LUxeMbUrg - MAeS-b, ??/1/05

2 noSon newyDD

MAE’R SAIZ

YN BWYSIG!

MC SaizmundoYn gywir

Page 11: Y Selar - Chwefror 2005

12 Y SELAR

Fe allai’r dyn yma ganu darnauo lawlyfr injian wnio eich nain adal i gael ei alw’n arwr yngNghymru. Roedd Yr AtalGenhedlaeth yn sicr o’i lle felalbym y flwyddyn yng Nghymrucyn i Gruff chwarae nodyn. Acfel y disgwyl, cawsom wleddacwstig i'w gwerthfawrogi. MaeGruff yn dibynnu ar y melodiausyml sydd wedi ei gynnal trwyei yrfa efo ‘Pwdin Wy’ a ‘Ni yw

y Byd.’ Ac wrth gwrs mae’r lluo synnau ac effiethiau electronigyn ei demtio eto. Y gymysgfa o’rdechnoleg a’r llais sy’n dod i’rwyneb eto gyda Epynt a YGaerffosiaeth. Mae’rawgrymiadau gwleidyddol yngweu i mewn heb gymylu’rswn. Mae’r steil syml, moelweithiau yn cau’r bwlch rhwngyr artist a’r clustiau y mae’nceisio eu ddiddanu. Mae hyn yn

braf i’w gael mewn oes ble maegormodedd o waith cynhyrchuyn tynnu’r mîn oddi ar swnnaturiol llawer o fandiau. Fanhyn, mae’r gwaith lleisio morfelys ag y bu erioed. Dim ond taflu albym gyda’igilydd ar hap yn ei amser sbarwnaeth Gruff a dyna yw cryfdery gwaith yma. Label - Placid CasualTrystan Pritchard

wInAbego – hyDer bregUS

gwLeDD ACwSTIggrUff rhyS - yr ATAL genheLAeTh

y LLADron - y LLADron 2“Lladron yn dwad dan weu sanna!” a dyma’r ail hosanamrywiol, amryliw i’r Lladron ei gweu hefo’u gweillhud a’u gwlân hyd-y-lle. 25 trac yn amrywio o’rgwleidyddol (O Fangor Aye i'r Bae') i’r lledrithiol('Lleidar Llancesi/ Hancesi') i’r digri a’r di-chwaeth ('YCaban Coffi', 'Dos o Ma y Pwff'.) Uchafbwynt:'McMyddarffycars' sy’n briodas berffaith rhwng Mc Mabon, Saizmundo a’rsampl a dreisiwyd mor drylwyr yn ‘Can’t touch this’ MC Hammer. Mae’rgymysgedd athrylithgar o demos prin a sylwadau bygythiol gan bileri’rgymdeithas, yn dod â gwên i’r galon ac anarchiaeth i’r enaid. Lladda amgopi. Neu’n well byth, jyst dwyn un. Label - Crafu Byw Gwyneth Glyn

AShoKAn - AShoKAn 2

frIZbee – LennonogIAeTh

Mae Ashokan wedi dod yn un o’mhoff fandiau byw Cymraeg. Mae ynaryw egni yn perthyn i’wperfformiadau byw sy’n mynnu bodcynulleidfa yn eu mwynhau, maenhw’n rhoi popeth i fewn i’r gig bobtro. Dwi’n siwr y byddai boisAshokan yn barod iawn i gyfaddef nalwyddodd eu halbwm gyntaf iadlewyrchu eu swn byw – rhywbethy mae nhw a’r cynhyrchydd, Joe Gibb,wedi sortio gyda’r albym newydd‘Ashokan 2’. Mae’n albym llawer trymach na’rgyntaf, ond mae adlais o’r hen swnffynci yn treiddio drwy ganeuon felHot Wok a dechrau Kill The OldGuard. Mae’r gân acwstigAberystwyth yn cyrraedd braidd yn

annisgwyl,ond mae’negwyl i’wchroesawuyng nghanol ycaneuontrwm. Y peth pwysicaf am yr albymyw ei fod yn dangos fod y band yndatblygu a bod eu cerddoriaeth ynaeddfedu. Dwi’n meddwl fodAshokan wedi darganfod cyfuniad dao’r arddull metal a ffync sy’nrhinwedd o’u cerddoriaeth. O bosib,does dim cymaint o ganeuoncofiadwy arno, ond fel cyfanwaithdwi’n credu fod ‘Ashokan 2’ yn llawergwell albym na ‘Diolch am Ddal yGannwyll’ Label -DockradOwain Schiavone

ADoL

ygIA

DAU

CD’S

Ers rhyddhau Hyder Bregus mae’r e.p. yma wedi cael eiganmol i’r cymylau gan Radio Cymru ac yn fwy ar wefanmaes-e.com. Mae’r caneuon yn fachog a’r melodiau’ngofiadwy, ac fe welwn beth sydd wrth wraidd Winabegosef roc gitâr egniol. Clywir rhyw adlais o’r Strokes drwyeu caneuon yn enwedig eu trac enwocaf Unarddeg Dyn iLawr. Heb os, mae’r e.p. yn swnio’n dda, ond y peth y dylai Winabegoganolbwyntio arno fel band ar hyn o bryd yw trosglwyddo’r swn o’r CD i’wperfformiadau byw. Label – Rasal Gareth Glochben

Dyma ryddhau ail Cd Frizbee mewn ychydig fisoeddac yma fe welwn Frizbee yn trio gwthio’i swn euhunain ar glustiau parod y gwrandawyr. Pop/rocsafonol a geir ar yr e.p ond hefyd gwelwn beth arallsydd gan Frizbee i’w gynnig. Mae swn acwstigswynol Cân Hapus yn atgoffa rhywun o Alun Tan Lan tra bod Olwyn Hudyn cyffwrdd ar arddull Meinir Gwilym-aidd ( a dwi ddim yn rhy siwr os ywhwnna’n beth da! ) Mae’r caneuon yn rhai o safon ond, ar yr e.p ymateimlaf nad yw Frizbee yn cyflawni eu potensial a disgwyliaf fwy oddiwrthynt yn y dyfodol.Label – Recordiau Cosh. Gareth Glochben

Chi moyn ennill copi o sengl ag albym

newydd Gruff Rhys wedi eu

harwyddo, a chrys T cyfyngedig

arbennig, yn ogystal â E.P.’s

newydd Frizbee, a Winabego ag

albyms newydd MC Mabon ag

Ashokan?

Atebwch y cwestiwn yma ac os

mai’ch enw chi fydd y cyntaf i

gael ei dynnu mas o fotwm bol

Dyl Mei yna chi fydd yn ennill.

Cwestiwn

Ymha stiwdio y recordiodd Gruff

Yr Atal Genhedlaeth ?

Nawr e-bostiwch yr ateb, eich enw

a’ch cyfeiriad i [email protected]

erbyn Chwefor 28.

Ennillydd cystadleuaeth y rhifyn diwethaf oedd Rhian Dobson o

Benrhyn-Coch. Llongyfarchiadau! ac mi fydd y gwobrau ar ei

ffordd i ti yn fuan.

Llongyfarchiadau!

GRUFF RHYS!CYSTADLEUAETHGRUFF RHYS!

Page 12: Y Selar - Chwefror 2005

Y SELAR 13

Fflur a’i Barf yn cychwyn y noson yn fendigedig. Yllais yn felfedaidd swynol hudolus, a’r Barf yncyfrannu’n helaeth i’r naws hyfryd a’r tiwnscofiadwy. Mi fydd yr albym, pan daw allan, rhywdrorhyw ddydd, yn rhywbeth arbennig. Yna daeth Gwilym Morus ac Alun Tan Lan i gyd-

chwarae. Mae Gwilym Morus yn wych. Mae AlunTan Lan yn wych. Ond gyda’u gilydd, yn perfformiocaneuon y naill a’r llall, hefo system sain Mr TanLan....wel, roedd y cegau agored a’r pennau cwbwllonydd yn ddynodiad perffaith o’r ddeuawdanhygoel, yma. Bwciwch nhw hefo’u gilydd.

A Mattoidz. Wedi gweld Mattoidz dros yblynyddoedd olaf roedd disgwyl perfformiad soled adymunol ac ingol fel arfer. Ond beth a gafwydbobol, oedd y set acwstig mwyaf egnïol,gwefreiddiol, hwyliog, brwdfrydig a chrefftus fedrrhywun feiddio ei ddychmygu. A gwell. Dwi’n ysu iweld hyn eto.Efallai fod yr adolygiad uchod yn swnio’n or-

frwdfrydig, ond does dim ffordd arall i ddisgrifio fyhoff gig o 2004. Perffaith. ( saff dweud bod hwnwedei ei blesio !-gol )Hefin Jones

neIL roSSer A’r bAnD, MArI LwyD,

gwener y groLSCh, Ty TAwe, AberTAwe 10/12/04

Kentucky AfC, Maharishi,gareth bonellogig Maes b, Clwb Ifor bach,Caerdydd, 3/12/2004

Cafwyd perfformiad i ddechrau gan GarethBonello. Doeddwn i erioed wedi’i glywed o’rblaen, ond roedd y gymysgedd o ganeuongwerin o Gymru, Lloegr a thu hwnt ynhyfryd i’w clywed, ac yn rhywbeth a oedd yncyferbynnu’n dda â’r hyn a oedd i’w glywedwedi hynny.Maharishi oedd nesaf, band sydd heb

chwarae’n fyw ers tipyn. Serch hynny,roedd y band yn dal i swnio’n dda gyda’igilydd, ac mae’n siwr fod eu cefnogwyr ynedrych ymlaen at fwy ganddyn nhw yn ydyfodol agos.Kentucky AFC, prif act y noson,

orffennodd gyda nifer o ganeuon o’uhalbym ddiweddar, Kentucky AFC. Egniolswnllyd ac effeithiol. Syml. Geraint Criddle

MATToIDZ, gwILyM MorUS AC ALUn TAn LAn, ffLUr DAfyDD

A’r bArf, PenLAn PwLLheLI 3/12/04

Torf cymharol fach oedd ar gyfer adloniant NeilRosser, wedi’i gefnogi gan fand a ffurfiwyd ynarbennig ar gyfer ‘Tyrfe Tawe’, sef ‘Mari Lwyd’.Mae Rosser newydd ryddhau albym o’i oreuon ers

1987, gyda’r arian yn mynd at Apêl EisteddfodGenedlaethol Abertawe 2006. Dawnsiodd y dorf i glasuron fel ‘Heol Gellifedw’,

‘Merch Gomon o Townhill’ ac ‘Ochor Treforys o’rDre’ - Dyma berfformiad gwbl hyderus o ganeuonjazz, blws, pop ac addasiadau o glasuron Saesneg, fel‘Merch o Bort’ (fersiwn Gymraeg o ‘Brown Eyed Girl’gan Van Morrison), sy’ bob tro’n ffefryn gan y dorf. Siom oedd ei ymgais at ganu’r clasur ‘Rue St.

Michel’ gan Meic Stevens - go brin all unrhyw un

ganu caneuon ‘Y Brawd Houdini’ fel y dyn ei hun.Roedd hi’n addas fod Neil Rosser wedi’i gefnogi

gan ‘Mari Lwyd’, gan uno’r ddau am y tro cynta’ ersgwyl ‘Tyrfe Tawe’ ym mis Hydref. Eu prif leisydd ywHuw Dylan Owen, gynt o ‘Gwerinos’. Mae ‘MariLwyd’ yn enghraifft berffaith o ganu gwerin ar eiorau, gyda chymysgedd o offerynnau’n amrywio o’rmandolin i’r gitâr, o’r bodhran i’r chwisl dun. Roeddeu set yn cynnwys llu o glasuron gwerin, gyda rhaicaneuon gwreiddiol. Y trac sy’n sefyll mas i fi yw‘Nos Fawrth yn Abertawe’. Dim ond ychydig iawn ogigs sydd y tu cefn i’r band, ond mae’n nhw’n myndo nerth i nerth gyda phob un.Alun Chivers

Er gwaetha’u nerfau amlwg, gwnaeth Cofi Bach a’iphartner, Tew Shady, ddwyn clod y mwyafrif o’r dorf,yn ôl ymholiadau eich gohebydd, fu’n hwyr yn glanioo’r De. Cafodd Sibrydion ymateb ffafriol hefyd, yn ôlpob sôn, y set yn gorffen jyst cyn i fi lwyddo iffeindio’r clwb.Yna ddaeth Meinir Gwilym. Wel, dwi ddim cweit yn

siwr os wnaeth hi, ond roedd hi’n swnio’n emosiynola blinedig ar adegau. Mae angen gwyliau braf ar Meiniram gyfnod, tybiaf, ond mae’r set i weld yn boblogaidd,ac mae’n anodd methu rhyfeddu ar ei hegni di-baid.Roedd set Frizbee yn egniol ac yn dynn, ac mae gan

y band oll, Ywain y canwr yn enwedig, ddealltwriaethaeddfed o’r hyn sydd ei angen am berfformiad bywpoblogaidd. Mim Twm Llai sy’ ein tywys i fedd-dodddiwedd nos, y set yn cychwyn gyda rhyw fath o‘boogie’ brwnt heb eiriau, cyn adeiladu at fyuchafbwynt personol o’r set, sef y foment panwnaeth tua deg o bobl ymddangos o nunlle i’r llawrdawnsio, ar yr union eiliad pan gychwynnodd gytgan‘Y Dylluan.’ Oedd hwnna’ ei hun werth £7 tuag at yrapêl. Owain Llyr

ADoLygIADAUgIgS

CofI roC : 20/12/04

CeLT, DAnIeL LLoyD A Mr.PInC

Er bod Daniel Lloyd eisioes wedi recordiosesiwn C2, dyma’r gig cyntaf erioed iddowneud gyda’i fand Mr. Pinc. Roeddynt yngweithio’n dda gyda’i gilydd, er iddynt fynddrwy ychydig o byliau sigledig, ond dimmwy na sydd i’w ddisgwyl gan unrhywfand yn eu gig cyntaf. Roedd y caneuon ynrhai melodic, safonol, ond teimlaf ybyddai’r set wedi cael trafferth diddanucynulleidfa iau. Er hyn, gig llawn potensial iDaniel Lloyd a Mr. Pinc, a mi fydd albym iddilyn yn 2005.Celt yn llawn harmonis gyda’i set arferol.Dywedodd Beattie cyn y glasur accapella‘One day … Bethesda’ “ Os dach chi ddimyn dwad o Besda gewch chi ffwcio o ma!”So ‘na beth wnes i.Gareth Glochben

CLwb PêL- DroeD CAernArfon  29/12/04

gIg APêL LUIS AUSTInMIM TwM LLAI, frIZbee, MeInIr gwILyM, SIbryDIon, CofI bACh A Tew ShADy

Page 13: Y Selar - Chwefror 2005

14 Y SELAR

Enw Llawn

Oed

CD dwetha i ti brynu ?

Hoff gan o 2004 ? :

Cas fand /artist?

Hoff fand Cymraeg?

Hoff raglen deledu ?

Pa un ohonoch chi sy'n troi lan i'r gwaith gynta' ?

Wyt ti erioed wedi defnyddio dy statwscyfryngol/cerddorol i hudo merch i'r gwely..?

Pwy sydd fwya 'showbiz' o'r 2 ohonoch chi?

Pa un ohonoch chi sy'n gallu yfed fwya?

Wyt ti erioed wedi bod mewn trwbwl gyda'rheddlu ?

Pwy yn y "SRG!" yw'ch tip chi i wneud orau yn2005 ?

Hoff berfformiad ar Bandit, 2004?

HUW MEREDYDD STEPHENS

23

'Duelling Banjos' - soundtrack y ffilm Deliverance

Triwch Hi Ar - Cofi Bach

Mwsog ! a dydi caneuon Robbie Williams ddimyn neud fin hapus.

Gorky's Zygotic Mynci

Y Newyddion

Evans bob tro.

Naddo.

Fi, wrth gwrs!

Evans siwr y fod. Tri pheint a mae'n mynd ynblurry.

Na. Diolch Byth

Poppies!

Roedd y Poppies yn dda iawn a Gwyneth Glyn. Alot mwy, ond mae'n anodd dewis un penodol.

HUW GWYNFRYN MOWGLI EVANS

19

Murcof - Utopia,

"Max-N, fy nghorff ar dân ... hmmmm!"!

Max-N / Embrace / Max-N /Max-N /Max-N

Texas Radio Band / Drymbago

Monkey Dust / Dartsplayers Wives

Nid ras yw cyrraedd gwaith

Naddo... fel arfer, mae'n haws just slipiorywbeth yn eu diodydd nhw !

Stephens, mae e ‘di newid.

Mae Huw yn yfwr sudd oren gwell ond bo fi'nhandy iawn pan mae'n dod i yfed bleach."

Do, ond daflon yr hen fenyw allan o'r cwrt wediiddyn nhw ddarganfod eu bod hi'n wallgof!

Bryn Fôn

O’dd pawb ar y gyfres yn wych, sa'n anhegrhoid clod penodol i un band yn unig.

Cyfw

eLIA

D

beChgyn bAnDIT

bAnDIT bob noS IAU 10 o’r gLoCh S4C. DeChrAU Ar Chwefror 3, 2005

MAe bAnDIT yn ÔL Ar eIn SgrIn, rhAgLengerDDorIAeTh orAU S4C.    y DDAU hUw wyneb yn wyneb... 

LLUn: bbC

Mae Huw yn edrych ymlaen i gael chware miwsic Cymraeg ar Radio Un, adyw e ddim yn un am wastraffu amser. Mae sesiwn gan Melys ar ei raglengynta' ar Chwefror 1 ac fe fydd sesiwn Hip-Hop Cymraeg gyda llwythi offigyrau blaenllaw y byd rap Cymraeg ar ei ail raglen. (Gallwch ddarllen ammwy am hwn yn y rhifyn nesa’) Mi fydd ei raglen newydd ar Radio Un yn dechrau am 11 yr hwyr tan 1 ybore ar Nos Fawrth, Chwefror1.

AR RhAGLEN HUW . . .

Yn dilyn marwolaeth sydyn John Peel,mae Huw Stephens am gael y cyfle iddarlledu drwy Brydain ar Radio Un felun o’r tri DJ sy’n cymryd yr awennau.Saff dweud ei fod yn brofiadol iawn oystyried ei fod mor ifanc, ond yn amlwg,mae e wedi gorfod dechrau yn rhywle:

HS: “Nes i ddechrau wrth neud tapiegytre pan on i tua 15, wedyn es i arbrofiad gwaith at orsaf radio ysbyty.Arweiniodd hwnna at raglen ar radioysbyty bob dydd Mawrth. Wedyn gesi swydd yn ateb ffôn i Radio Cymru.On i’n nabod Bethan Elfyn drwy gigs,a nath y ddau ohonon ni neud demo’si Radio Un ac yn lwcus 'naethon nigael y swydd.” Mae e wedi bod yn cyflwyno ar RadioUn, gyda Bethan Elfyn ersblynyddoedd, a fe hefyd oedd yr enwmawr wrth i C2 lawnsio eu line-upnewydd, mae e hefyd yn cyfrannu igylchgronnau Tacsi ac i V, yn ogystal âchyflwyno Bandit ar S4C. Ond bethyw ei hoff gyfrwng?

HS: Radio, heb os. Mae e’n fwyimmediate, os ydych chi’n hoffi cânallwch chi chware fe ar y radio ynsyth, ond chi methu neud hwnna ar yteledu. Fi’n mwynhau gwneud stwffBandit achos dwi'n mwynhu gweldbandie yn perfformio ac yn cael y cyflei wneud fideo, ond radio yw'n hoffgyfrwng i.Er ei fod wedi bod i weld ambell i gêmbêl-droed Caerdydd a Chymru, dyw eddim yn rhestru chwaraeon fel un o’iddiddordebau. HS: Cerddoriaeth yw’r hoff un heb

os, a siarad gyda phobol … a magictricks. Es i weld consuriwr diwrnodo’r blaen lawr yn Llundain, odd e’ndda iawn chware teg.Faint o amser ti’n mynd i fod yntreulio lawr yn Llundain nawr te ?Beth yw cynllun dy wythnos di ?HS: Peidio cysgu lot ! Fyddai’ngwneud C2 ar nos Lun, Mawrth aMercher am 10. A Radio Un nosFawrth a Nos Iau. Bydd rhaglen C2nos Fawrth wedi ei recordio o flaenllaw, ac wrth gwrs, fyddai'n dal i 'neudBandit.

Holi Huw

Page 14: Y Selar - Chwefror 2005
Page 15: Y Selar - Chwefror 2005