Upload
others
View
8
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Mae’r llyfr adolygu hwn yn cynnwys ymarferion fydd yn eich helpu i baratoi at arholiad Canolradd. Bydd eich tiwtor yn gwneud nifer o ymarferion tebyg gyda chi yn y dosbarth. Bydd siawns arall i ymarfer cyn yr arholiad ar ein Penwythnos Adolygu ym mis Mai.
Pob lwc i chi yn yr arholiad!
Gwefannau defnyddiol:https://dysgucymraeg.cymruwww.southwales.ac.uk/learnwelshitunes.southwales.ac.ukwww.facebook.com/Morgannwgwww.s4c.co.uk/dysgwyrwww.bbc.co.uk/wales/learnwelshwww.telesgop.co.uk/clicclonc
Dyma gynnwys arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd:
1. Gwrando a Deall 15%i. Deialogii. Bwletin Newyddion
2. Siarad i. Tasg Sgwrsio 15%
Prawf Llafar: 40% ii. Trafod Pwnciii. Sgwrs Gyffredinol
3. Darllen a Deall, a Llenwi Bylchau 15%i. Erthyglii. Negeseuoniii. Llenwi Bylchau
4. Ysgrifennu 15%i. Llythyrii. Llenwi Ffurflen
Gwrando a Deall
2
Mae 2 ran i’r prawf yma yn yr arholiad:
1. Deialog
Rhaid i chi wrando ar ddeialog ac ateb cwestiynau yn Gymraeg yn seiliedig (based) arni. Byddwch yn cael clywed y ddeialog 3 gwaith. Bydd eich tiwtor yn gwneud ymarferion Gwrando a Deall gyda chi yn y dosbarth.
2. Bwletin Newyddion
Rhaid i chi wrando ar fwletin newyddion ac ateb cwestiynau yn Gymraeg yn seiliedig arno.
Dyma eirfa i’ch helpu:-
Y Llys
llys ynadon magistrates’ courtllys y goron crown courtachos casetyst witnesscarchar prisoncarcharu to imprisonrhyddhau to freecyhuddo to accusear gyhuddiad o accused ofparhau to continuellanc youthdwyn to steal
Gwleidyddiaeth
3
Prif Weinidog Prime Minister/First Ministerarweinydd leaderarlywydd (e.e. gwlad) president of a country (e.g. Obama )llywydd president, e.g. of a committeecynhadledd i’r wasg press conferencellywodraeth governmentllefarydd spokespersonSan Steffan WestminsterAelod Seneddol Member of ParliamentAelod Cynulliad Assembly MemberY Cynulliad The AssemblyLlywodraeth Cymru The Welsh GovernmentBae Caerdydd Cardiff Bay
Yr Economi
diweithdra unemploymenttraffordd motorwaygwariant expenditurecyhoeddi to announce, publishproblemau ariannol financial problemsperchennog owner
Damwain
mewn gwrthdrawiad â in collision withdod o hyd i to finddaethpwyd o hyd i ….. was foundtriniaeth treatmentdigwyddiad eventdod i law to come to handlladd to killlladdwyd ..... was killedllofruddio to murderanafu to injureanafwyd ..... was injuredsaethu to shootsaethwyd ..... was shot
4
trywanu to stabffrwydrad explosionffrwydro to explodeymchwilio to research/investigate
Chwaraeon
gêm gyfartal draw gamear y blaen in the leadterfynol final
Y Tywydd
cilio to ease off (e.g. bydd y glaw yn cilio)lledu to spread (e.g. bydd y glaw yn lledu)ledled throughouttymheredd temperaturemwyn mildcawod(ydd) shower(s)ysbeidiau heulog sunny spells
Bydd eich tiwtor yn ymarfer y Bwletin Newyddion gyda chi yn y dosbarth.
Yn y prawf Gwrando a Deall, mae rhaid i chi ateb y cwestiynau yn Gymraeg. Fyddwch chi ddim yn colli marciau am gamgymeriadau gramadegol neu sillafu (grammatical or spelling mistakes) ond rhaid i chi ddangos eich bod chi wedi deall y darnau.
Siarad
5
1. Tasg sgwrsio
Cyn yr arholiad, rhaid i chi recordio un sgwrs gyda rhywun sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Dylai’r sgwrs bara tua 5 munud. Cyflwynwch (introduce) eich hun a’r person arall ar ddechrau’r sgwrs, yna rhaid i chi arwain (lead) y sgwrs, gofyn y cwestiynau ac ymateb (respond) i beth mae’r person arall yn ei ddweud. Dych chi’n gallu holi’r person am unrhyw beth, e.e. gwaith, bywyd cymdeithasol, diddordebau, yr ardal, teulu. Bydd y marcwyr yn asesu eich gallu i ryngweithio (interact), i holi’r person arall, a chywirdeb (accuracy) eich Cymraeg. Dylech chi recordio’r dasg fel ffeil sain naill ai ar ffôn symudol neu ar beiriant MP3 a’i hanfon fel atodiad e-bost at: [email protected] erbyn Dydd Llun 29 Ebrill 2019 ar yr hwyraf.
2. Y Prawf Llafar
Bydd rhaid i chi wneud cyfweliad sy’n para tua 20 munud.
Mae 2 ran i’r prawf siarad:
i. Trafod pwnc
Cyn mynd i mewn i’r cyfweliad, byddwch chi’n cael edrych ar daflen gyda dewis o 3 phwnc trafod. Rhaid i chi ddewis un pwnc yn unig i drafod gyda’r cyfwelydd llafar. Bydd 20 munud gyda chi i baratoi’r pwnc. Mae’r rhan hon yn para tua 5 munud gyda’r cyfwelydd.
Trafod pwnc.
Dyma’r math o bynciau sydd wedi bod yn yr arholiad yn y gorffennol.
1. Mae ymarfer corff yn fwy pwysig na bwyta’n iach.
2. Dyddiau ysgol = dyddiau da?
3. Mae safon rhaglenni teledu wedi mynd i lawr.
6
4. Mae’r ffordd mae pobl yn siopa’n newid.
5. Mae pobl yn gweithio’n rhy galed y dyddiau yma.
6. Mae Cymru’n dibynnu ar dwristiaid.
Dyma enghraifft o sut y gallwch chi drafod pwnc. Byddwch chi’n cael ysgrifennu nodiadau cryno (brief notes) yn ystod y cyfnod paratoi a mynd â nhw i mewn i’r ystafell cyfweld, ond fyddwch chi ddim yn cael sgriptio’r sgwrs ymlaen llaw (but you will not be allowed to write a script before hand).
“Dw i wedi dewis trafod y pwnc: Does dim rhaglenni da ar y teledu erbyn hyn.”
Dw i ddim yn cytuno o gwbl! Ar ôl diwrnod hir yn y gwaith, dw i wrth fy modd yn gwylio’r teledu. Fel arfer, dw i’n gwylio’r newyddion ac yna fy hoff opera sebon ‘Pobol y Cwm’ ar S4C. Erbyn hyn dwi’n deall mwy a mwy - mae’n ffordd wych o ymarfer Cymraeg.
Weithiau, dw i’n gwylio rhaglenni fel Y Clwb Rygbi a Sgorio achos yn fy amser sbâr dw i’n mwynhau chwaraeon o bob math. Dyma’r rhaglenni cyntaf wyliais i yn Gymraeg cyn i fi ddechrau mynd i ddosbarth nos i ddysgu Cymraeg. Ro’n i’n gallu dilyn y gemau hyd yn oed pan do’n i ddim yn deall yr iaith! Gwyliais i ddrama o’r enw “Y Gwyll” yn ddiweddar ar S4C. Do’n i ddim yn gallu deall popeth ond wrth i fi wrando’n ofalus a gyda help yr is –deitlau ro’n i’n gallu dilyn y stori yn eithaf da.
Erbyn hyn mae llawer iawn o ddewis sianelau. Mae fy mab yn gwylio Sky Sports am oriau ac mae’n mynd ar fy nerfau i achos dylai fe fod yn gwneud ei waith cartref! Mae pob math o raglenni ar y teledu nawr ac, a dweud y gwir, mae rhywbeth i siwtio pawb!
Pan o’n i’n fach, doedd dim llawer o ddewis ar gael. Dim ond dwy sianel oedd, BBC 1 ac ITV. Doedd dim teledu lliw ar gael, du a gwyn yn unig oedd gyda ni. Ro’n ni fel teulu‘n eistedd a gwylio rhaglenni gyda’n gilydd. Roedd rhai o’r rhaglenni’n dda, fel Ski Sunday a The Generation Game ac eraill yn anniddorol fel The Golden Shot. Ro’n ni’n arfer gwylio rhaglenni fel Colditz, Dallas, Top of
7
the Pops a sioe Morcombe a Wise yn wythnosol. Dyna beth oedd sbort ac roedd pawb yn eu trafod yn yr ysgol y diwrnod wedyn.
Heddiw, ar y llaw arall, dych chi’n gallu recordio rhaglen ddiddorol a’i gwylio rhywbryd yn hwyrach pan mae’n gyfleus i chi. Dych chi’n gallu dewis gwylio rhywbeth sy’n apelio atoch chi. Mae ambell sianel yn ddiflas iawn ac yn llawn rhaglenni gwael yn fy marn i, ond mae digon o raglenni gwych ar gael, hefyd. Os dych chi’n chwilio, dewch chi o hyd iddyn nhw heb lawer o broblem. Faswn i ddim eisiau gwylio’r teledu am oriau ac oriau, cofiwch!
Mae patrwm gwylio pobl wedi newid yn fawr iawn. Mae llawer o bobl yn gwylio D.V.Ds yn lle gwylio rhaglenni teledu. Erbyn hyn mae’n bosib gwylio rhaglenni ar y we, neu hyd yn oed ar eich ffôn symudol!
Does dim llawer o amser gyda fi i wylio’r teledu. Ta beth, ‘dw i’n meddwl ein bod ni’n gwylio gormod o deledu y dyddiau yma yn lle defnyddio ein hamser yn gwneud pethau pwysicach, er enghraifft gwneud ein gwaith cartref Cymraeg ar gyfer y wers nesa!!
3. Sgwrs gyffredinol .
8
Bydd y rhan hon yn para tua 15 munud. Dyma enghraifft o’r math o gwestiynau sydd wedi codi yn y gorffennol. Sgwrsio’n naturiol yw’r nod.
Gwreiddiau (Roots)
Dych chi’n enedigol o’r ardal yma?Ble yn union mae’r tŷ?Pryd symudoch chi yma?Aethoch chi i’r ysgol leol?Beth oedd eich hoff bynciau yn yr ysgol?Fasech chi’n symud byth?
Ces i fy ngeni/magu yn ………….Ces i fy addysgu yn ………..Symudon ni yma o …………Yn wreiddiol, ‘dw i’n dod o ……….Faswn i byth eisiau symud …….
Gwaith
Dych chi’n gweithio?Ble dych chi’n gweithio?Ble ro’ch chi’n gweithio?Pam penderfynoch chi ymddeol?Beth dych chi’n wneud o ddydd i ddydd?Beth wnaethoch chi ddoe?Fasech chi’n newid swydd?
Ar hyn o bryd, dw i’n gweithio yn ……………Ro’n i’n arfer gweithio yn ………………. cyn i fi ymddeol.Baswn i’n hoffi newid fy swydd ……………Ddoe yn y gwaith, ro’n i’n brysur yn ………………
Teulu
9
Oes teulu gyda chi?Oes brawd neu chwaer gyda chi?
Oes, mae tri o blant gyda fi o’r enw …………Dw i’n dod o deulu mawr. Mae pedair chwaer ‘da fi ac mae dau frawd ‘da fi. Mae fy mrawd i’n byw yn ……………..
Diddordebau
Oes llawer o amser sbâr gyda chi?Beth dych chi’n hoffi wneud yn eich amser sbâr?Pa mor aml dych chi’n ………..?Ydy e’n ddrud?Pryd gwnaethoch chi hyn ddiwethaf?
Dw i wrth fy modd yn ..………..Dw i’n mwynhau ................ yn fawr iawnHoffwn i …………. ond yn anffodus does dim amser gyda fi…………Ar ôl i fi ymddeol, bydda i’n…………
Profiad yn dysgu Cymraeg
Pryd dechreuoch chi ddysgu Cymraeg?Ble?Gyda phwy?Pam?Beth yw’r peth mwyaf anodd am ddysgu Cymraeg?
Dysgais i dipyn bach o Gymraeg yn yr ........……….Pan o’n i’n fach, ro’n i’n arfer ............……….Dechreuais i ..............………..Ar ôl i fi ymddeol .....................Ar ôl i fi gael plant .....................Y Treigladau! Dod o hyd i bobl sy’n siarad Cymraeg i ymarfer sgwrsio. Ateb cwestiynau, er enghraifft: do, ie, ydyn, oes, baswn, gwnaf, cewch, dylwn, byddaf, ydw! AAAGHH!!!
10
Y Dyfodol
Beth dych chi’n mynd i’w wneud ar ôl gorffen y cwrs?Beth fyddwch chi’n wneud dros yr haf?Oes trefniadau gyda chi ar gyfer y penwythnos?Ewch chi i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni?Beth fasech chi’n wneud tasech chi’n ennill y loteri?
Dw i’n bwriadu mynd i/ ymweld â .........…………………..Bydda i’n ..............………………..Dw i wedi trefnu ...............................Trefnais i .................…………………….Af i i .........…………………… eleni, gyda ...............………Taswn i’n ennill y loteri, baswn i’n .............................
Yr Ardal
Ers pryd ‘dych chi’n byw yn yr ardal hon?Dych chi’n hoffi byw yn .................?Disgrifiwch yr ardal!Fasech chi’n hoffi symud i fyw yn rhywle arall?
Dw i’n byw yma ers ....................Dw i wrth fy modd yn byw yn ...........................Mae’r ardal yn dawel ac yn bert iawn. Mae’r cymdogion yn hyfryd. Mae llawer o siopau da a thafarnau gwych.Mae’r ardal yn rhy brysur ac yn swnllyd nawr. Mae llawer o dai newydd wedi cael eu hadeiladu ac mae gormod o geir ar y ffyrdd.Baswn i’n symud i ardal arall, taswn i’n gallu.
Y Tŷ
11
Dywedwch rywbeth am eich tŷ!Pa fath o dŷ sy ‘da chi?
Dw i’n byw mewn tŷ teras gyda phedair ystafell wely. Mae’r tŷ yn hen ond yn hyfryd.Mae gardd fawr ‘da ni ac mae digon o le i bawb.Dw i’n byw mewn byngalo bendigedig.Dw i’n byw mewn tŷ ar wahân.Dw i’n byw mewn tŷ semi / tŷ un talcen.
Gwyliau
Dych chi’n hoffi mynd ar wyliau?Pa mor aml dych chi’n mynd ar wyliau?Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?Beth wnaethoch chi?Ble byddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
Ydw, dw i wrth fy modd yn mynd ar wyliau!Dyn ni’n mynd ar wyliau unwaith y flwyddyn, os dyn ni’n lwcus!Aethon ni i Sbaen ym mis Awst. Arhoson ni mewn gwesty pump seren. Aethon ni i nofio yn y pwll nofio bob dydd a bwyton ni fwyd hyfryd yn y tŷ bwyta bob nos. Aethon ni o gwmpas yr ardal i weld y golygfeydd.Byddwn ni’n mynd i Ffrainc ar ein gwyliau nesaf yn yr haf, a dyn ni’n edrych ymlaen.
Darllen a Llenwi Bylchau
12
1. Erthygl [20]
Darllenwch y darn (passage) isod. Yna, atebwch y cwestiynau yn Gymraeg, yn eich geiriau eich hun lle bydd hynny’n bosibl.
Siop Lyfrau Llygad y Ddraig
Ers i Anwen Morris agor siop lyfrau Llygad y Ddraig yn Abermelin ddengmlynedd yn ôl, mae’r busnes wedi datblygu a thyfu ac mae’n un o siopaumwyaf adnabyddus y dre erbyn heddiw.
Mae Anwen yn falch iawn o’i siop brysur heddiw, ond mae’n dweud mai’rgwaith caled yn nyddiau cynnar y busnes – pan oedd e ar un llawr yn unig –oedd yr allwedd i’w llwyddiant. ‘Roedd rhaid i fi weithio oriau hir iawn,’meddai Anwen. ‘Ro’n i’n gorfod gwneud popeth fy hun – addurno’r siop,gosod y stoc allan, gweithio trwy’r dydd bob dydd, a gwneud y gwaith papur igyd wedyn gyda’r nos.’
Ond daeth mwy a mwy o bobl i wybod am y gwasanaeth da roedd Anwen yn eigynnig i’w chwsmeriaid ac fe dyfodd y busnes dros amser. Ar ôl pum mlynedd,penderfynodd Anwen fentro eto. Agorodd gaffi ar y llawr uwchben, adechreuodd werthu lluniau gan artistiaid lleol, nid dim ond llyfrau a chardiau.Mae’r fenter hon wedi llwyddo, ac erbyn hyn, mae Anwen yn cyflogi wyth obobl i weithio yn y siop.
‘Gofalu am ein cwsmeriaid yw’r peth pwysica i ni o hyd,’ meddai Anwen, ‘acmae pob math o bobl yn siopa yn Llygad y Ddraig erbyn hyn. Dim ondathrawon a myfyrwyr oedd yn dod yma ar y dechrau,’ meddai, ‘ond mae llawero rieni yn dod â’u plant i’r siop nawr. Ers i ni ddechrau agor tan saith o’r glochy nos, yn lle cau am bump, mae llawer o weithwyr o swyddfeydd a siopau erailly dre’n dod yma cyn mynd adre.’
Mae bywyd Anwen wedi newid hefyd wrth i Llygad y Ddraig lwyddo. Dimond ar ddau ddiwrnod yr wythnos mae hi ei hun yn gweithio yn y siop ydyddiau hyn ac wrth iddi yrru i ffwrdd yn ei char Mercedes crand, dych chi’ngallu gweld yn glir bod y busnes yn gwneud arian da!CWESTIYNAU
13
Nodwch sut mae siop Llygad y Ddraig wedi newid ers y blynyddoedd cyntaf,gan gyfeirio at yr isod. Cofiwch sôn am sut roedd pethau a sut mae pethauerbyn hyn.
e.e. Oriau agor:Ar y dechrau, roedd y siop yn cau am bump o’r gloch, ond mae hi ar agortan saith nawr/rŵan.
**
1. Maint y siop [4]
________________________________________________________________
________________________________________________________________
2. Beth sy’n cael ei werthu yno [4]
________________________________________________________________
________________________________________________________________
3. Pwy ydy’r cwsmeriaid [4]
________________________________________________________________
________________________________________________________________
4. Staff [4]
________________________________________________________________
________________________________________________________________
5. Oriau gwaith Anwen yn y siop [4]
________________________________________________________________
________________________________________________________________
2. Negeseuon E-bost [20]
14
CWESTIYNAU:
15
Oddi wrth: Alwen LewisAt: Cyfeillion Theatr y BontPwnc: Ailagor y theatr ______________________________________________________ Annwyl Gyfeillion,
‘Dw i’n ysgrifennu atoch chi gyda’r newyddion da bod Theatr y Bont yn mynd i ailagor ym mis Gorffennaf. Erbyn hyn, mae’r fynedfa a’r caffi newydd yn barod. Un peth fydd ddim wedi newid ydy’r croeso cynnes byddwch chi’n ei gael gan y staff i gyd wrth i chi ddod i’r Theatr. Bydd rhaglen arbennig iawn dros y mis cyntaf ar ôl i ni ailagor, gan gynnwys cyngerdd arbennig gyda’r canwr enwog Emyr Teifi. Gallwch chi weld manylion y rhaglen ar ein gwefan www.theatrybont.com yn barod.
’Dyn ni eisiau diolch i chi am gefnogi’r Theatr ac am helpu i godi arian i wella’r adeilad. Felly trwy fis Gorffennaf, bydd hi’n bosib i aelodau Cyfeillion Theatr y Bont brynu tocynnau am hanner pris. Anfonwch eich archeb ata i trwy e-bost neu ffoniwch y Theatr ar 02103 342342.
‘Dw i’n edrych ymlaen at eich gweld chi yn y Theatr unwaith eto cyn bo hir.
Pob hwyl, Alwen
Oddi wrth: Huw MorysAt: Alwen LewisPwnc: Ailagor y Theatr (eto) ______________________________________________________
Annwyl Alwen
Diolch yn fawr am y neges. ‘Dw i’n edrych ymlaen at fwynhau perfformiadau yn Theatr y Bont unwaith eto a gweld sut mae’r adeilad wedi gwella. Hoffwn i brynu wyth tocyn i gyngerdd Emyr Teifi. ‘Dw i wrth fy modd bod Emyr yn dod adre i ganu yn yr ardal yma a ‘dw i eisiau dod â fy nheulu i gyd i’r cyngerdd. Roedd Emyr yn yr un dosbarth â fi, a ‘dw i ddim wedi ei weld yn canu ers iddo ennill cystadleuaeth yn eisteddfod yr ysgol.Wnewch chi anfon manylion cost y tocynnau ata i os gwelwch yn dda? Fydda i’n cael wyth am bris pedwar?
Diolch yn fawr, Huw Morys
Nodwch yr ateb mwya priodol (appropriate) o’r brawddegau isod drwy roillythyren yn y blwch. Mae 4 marc am bob cwestiwn. e.e. [ch]
1. Prif neges Alwen Lewis yw/ydy... [ ]
a. bod y theatr yn mynd i gau.b. bod gwefan newydd gyda/gan y theatr.c. bod y theatr yn mynd i agor eto.ch. bod dim byd wedi newid yn y theatr.d. bod angen staff ar y theatr.
2. I gael gwybodaeth am berfformiadau yn Theatr y Bont... [ ]
a. dylech chi edrych yn y papur lleol.b. dylech chi anfon amlen â stamp arni.c. rhaid i chi aros tan fis Gorffennaf.ch. dylech chi edrych ar wefan y theatr.d. dylech chi ddod i’r caffi.
3. Bydd ‘Cyfeillion y Theatr’ yn cael... [ ]
a. coffi am ddim.b. tocynnau rhatach.c. perfformio yn y theatr.ch. tocynnau am ddim.d. seddi gwell.
4. Prif neges Huw Morys i Alwen yw/ydy... [ ]
a. ei fod eisiau tocynnau i gyngerdd Emyr Teifi.b. ei fod wedi gweld Emyr Teifi yn y theatr.c. ei fod wedi prynu pedwar tocyn i’r cyngerdd.ch. ei fod ddim eisiau dod i’r theatr eto.d. bod y theatr wedi gwella llawer.
5. Roedd Huw Morys ac Emyr Teifi... [ ]
a. yn arfer canu gyda/efo’i gilydd.b. yn ddau frawd.c. yn yr ysgol gyda/efo’i gilydd.ch. yn gweithio yn y theatr.d. wedi ennill cystadleuaeth yn yr eisteddfod.
3. Llenwi Bylchau (1) [20]
16
Llenwch y bylchau yn y darn yma gan ddefnyddio’r geiriau mewn cromfachau(brackets) fel sbardun lle bydd yn briodol.
Dw i’n hoff iawn o fy _______________ (bwyd). Dw i’n mwynhau popeth, o
ginio dydd Sul traddodiadol i fwyd egsotig y Dwyrain Pell. Yr unig beth dw i
ddim yn ei fwyta ydy jeli.
Pan oeddwn i’n _______________ (plant), roeddwn i’n hoff iawn o jeli, ond
_______________ i ddim yn bwyta llysiau gwyrdd o gwbl. Roedd Mam yn
poeni _______________ hyn, ac yn gwneud pob math o _______________
(peth) i drio fy mherswadio i fwyta pys, sbrowts ac ati. Unwaith,
_______________ (gwneud) hi jeli gwyrdd i mi a rhoi tipyn o frocoli ynddo!
Fwytais i ddim brocoli ar ôl _______________ hi wneud hynny, a stopiais i
fwyta jeli hefyd!
Erbyn hyn, dw i’n hoff iawn o lysiau gwyrdd o bob math a dw i’n meddwl fy
mod i’n bwyta’n iach ar y cyfan. Dim ond _______________ (x 1) y mis
dw i’n cael sglodion. Roeddwn i’n arfer bwyta gormod o siocled, ond dw i’n
bwyta llawer llai _______________ roeddwn i. Dw i’n bwyta bara brown
yn lle bara gwyn. Yr unig broblem fawr ydy cacennau. Mae siop gacennau
hyfryd drws nesa i’r swyddfa a dw i’n prynu cacen bob dydd. Taswn i’n stopiobwyta cacennau, _______________ ’r siop yn cau. Rhaid _______________ ni
17
gefnogi busnesau bach lleol!
Dw i’n meddwl _______________ caws ydy fy hoff fwyd. Mae caws yn ddrwg
i chi, meddai’r doctoriaid, ond does dim ots beth mae’r doctoriaid yn ei
ddweud; dw i ddim yn mynd i stopio bwyta caws. Mae’r doctoriaid yn newid
_______________ meddwl bob munud beth bynnag. Roedden nhw’n arfer
dweud _______________ gwin coch yn ddrwg i chi, ond erbyn hyn, mae gwin
coch yn dda i’r galon, medden nhw. Caf fi frechdan gaws a diod o win coch
_______________ swper heno felly!
Dw i’n edrych ymlaen _______________ fy ngwyliau bob blwyddyn, achos dw
i’n mwynhau’r cyfle i flasu bwydydd gwahanol. Pan _______________(mynd)
i i Awstralia wyth _______________ (blwyddyn) yn ôl, y peth
_______________ diddorol wnes i yno oedd bwyta cawl cynffon cangarŵ. A
phan _______________ (mynd) i i Periw y flwyddyn nesa, y peth cynta bydd
rhaid i mi wneud fydd ffeindio tŷ bwyta lle bydda i’n gallu trio mochyn cwta!
Geirfamochyn cwta - guinea pig
Llenwi Bylchau (2) [20]
18
Llenwch y bylchau yn y darn yma gan ddefnyddio’r geiriau mewn cromfachau(brackets) fel sbardun lle bydd yn briodol.
Byw mewn Goleudy (Lighthouse)
Mae Robert Thomas yn byw ar Ynys Lochwen, ers naw
_______________ (blwyddyn). Edrych ar ôl y goleudy ar yr ynys ydy ei
waith. Mae e’n byw yn y goleudy a rhaid _______________ fe/fo wneud yn
siŵr fod popeth yn gweithio. Mae e/o’n gallu bod yn waith unig iawn, ac ar un
adeg, roedd Robert wedi cael llond _______________ , ac yn barod i ddod yn
ôl i fyw ar y tir mawr. Ond yna, _______________ (cael) e/o gyfrifiadur, a
newidiodd ei fywyd. Roedd e/o’n gallu defnyddio’r cyfrifiadur i siarad
_______________ ’r byd mawr tu allan.
‘Ar y dechrau, _______________ i ddim yn deall y peth o gwbl,’ meddai
Robert. ‘Ond roedd digon o amser sbâr gyda fi/gen i, ac ar ôl llawer o
_______________ (awr) ar y ffôn, ro’n i’n gallu mynd ar y we. Newidiodd
hyn fy _______________ (bywyd) i. Ar ôl ymuno â FfrindiauYsgol.com,
_______________ (gweld) i fod hen ffrind ysgol wedi cofrestru hefyd. Roedd
hi’n sioc fawr pan ddaeth neges yn ôl am y tro _______________ (1)!
Dw i’n meddwl _______________ y peth yn ardderchog!’ meddai fe/fo.’
Erbyn hyn, mae Robert _______________ ei fodd yn cysylltu â llawer o
19
ffrindiau ysgol, a hefyd pobl eraill _______________’n gweithio mewn
goleudai dros y byd.
Er ei fod e/o’n byw ar ei ben ei _______________, dyw e / dydy o byth yn unig.
‘Mae’r cyfrifiadur yn well _______________ gwylio’r teledu,’ meddai. ‘Y
cyfrifiadur yw/ydy’r peth _______________ pwysig yn y byd i fi.’
Ond ydy’r diddordeb yn troi’n obsesiwn? _______________ ( √ ), yn bendant.
Mae’r obsesiwn yn gallu bod yn _______________ (peryglus) hefyd. Un
noson, doedd Robert ddim wedi sylwi bod bylb yn y goleudy wedi torri, achos
ei fod e/o’n edrych _______________ y cyfrifiadur!
Heddiw, tasai Robert yn cael cynnig swydd arall ar y tir mawr, ______________
fe/fo ddim yn ei chymryd hi o gwbl.
Llenwi Bylchau (3) [20]
20
Llenwch y bylchau yn y darn yma gan ddefnyddio’r geiriau mewn cromfachau(brackets) fel sbardun lle bydd yn briodol.
Gweithio yn y Cairngorms
Dw i’n byw ym Mharc Cenedlaethol y Cairngorms, yng _______________
(canol) _______________ (mynydd) uchaf yr Alban. Dw i’n licio’r ardal yn fawr
er fy _______________ i’n colli siarad Cymraeg. Yma mae Stad Balmoral;
Balmoral ydy un o’r stadau _______________ (mawr) yng ngwledydd Prydain.
Mae cant o _______________ (tŷ) yma, llawer o weithwyr, a’r rhan fwyaf
_______________ (o) nhw’n byw’n lleol hefyd. Dw i’n byw _______________
tŷ fferm ar lan afon Dee ar hyn o _______________ , a dw i’n meddwl
_______________ dyma’r lle mwya prydferth yn y byd.
Dw i _______________ yn codi’n gynnar iawn fel arfer, ond y bore ’ma,
_______________ (codi) i am hanner awr wedi pedwar. Roedd rhaid
_______________ mi godi’n gynnar i fynd i wylio adar, ar ôl _______________
noson oer iawn mewn pabell. Roedd hi’n oer iawn a phan
_______________ (dod) i allan o’r babell roedd hi wedi rhewi’n
_______________ (caled).
Yn fy amser sbâr, dw i wrth fy _______________ yn ymarfer dringo. Y
21
flwyddyn nesa, dw i a ffrind yn bwriadu mynd _______________ wyliau i’r
Alpau i ddringo yno. Mae llefydd da i ddringo yma yn Yr Alban wrth gwrs, ond
dydyn nhw ddim _______________ uchel â’r Alpau.
Dw i’n aelod o dîm achub y Cairngorms; _______________ (cael) i fy ngalw
allan dros dri deg o weithiau y llynedd, mewn tywydd ofnadwy. Ond faswn i’n
symud i weithio mewn swyddfa gynnes? Na _______________ , byth!
Llenwi Bylchau (4) [20]
22
Llenwch y bylchau yn y darn yma gan ddefnyddio’r geiriau mewn cromfachau(brackets) fel sbardun lle bydd yn briodol.
Cafodd Rhian Williams ei _________ yn Aberystwyth, ond _________ (symud)
y teulu i India pan _________ hi’n dri mis oed. Roedd ei _________ (tad) hi’n
Gymro di-Gymraeg ac roedd ei mam hi’n dod o Lundain yn wreiddiol, felly
_________ (clywed) Rhian ddim Cymraeg yn y tŷ yn India. Doedd dim llawer o
Gymraeg ar _________ (stryd) Delhi chwaith!
_________ (mynd) Rhian i’r Brifysgol yn Llundain, ac yno syrthiodd hi
_________ cariad gyda dyn ifanc _________ enw Gwyn Evans. Roedd tad
Gwyn yn Gymro di-Gymraeg hefyd a’i fam yn Saesnes. Fel Rhian, doedd Gwyn
ddim yn siarad Cymraeg o gwbl. Ond gydag enwau fel Rhian Williams a Gwyn
Evans, roedd pawb yn meddwl eu _________ nhw’n siarad Cymraeg yn rhugl.
Ar ôl gorffen eu cwrs yn y Brifysgol, penderfynodd y ddau fod rhaid _________
nhw ddysgu Cymraeg. Aeth Rhian ar gwrs Wlpan ym _________ (Powys) ac
wedyn gweithio ar fferm ger Machynlleth. Mewn llai _________ chwe mis,
roedd Rhian yn siarad Cymraeg _________ ffermwyr lleol bob dydd. Dysgodd
Gwyn ar ei ben ei _________ , drwy ddilyn cwrs ar y we a gwrando
_________Radio Cymru yn y car bob dydd.
23
Erbyn hyn, mae Gwyn a Rhian wedi priodi ac yn siarad Cymraeg gyda’i
_________ trwy’r amser. Ond ble _________ nhw’n byw? Yn Saudi Arabia!
Mae Gwyn yn gweithio mewn ysgol a Rhian yn rhedeg busnes yno ers pum
_________ (blwyddyn). Erbyn hyn hefyd, mae tri o _________ (plentyn) wedi
cyrraedd. A’r newyddion da ydy bod Llywelyn, Gwenllian a Rhodri Evans nid
yn unig wedi cael enwau Cymraeg ond eu bod nhw’n siarad Cymraeg yn hollol
rugl hefyd!.
Ysgrifennu
24
Rhaid i chi ysgrifennu dau ddarn. Bydd y marcwyr yn asesu eich gallu i ysgrifennu’n gywir, i ddefnyddio amserau a phatrymau gwahanol, i ddefnyddio geirfa a bod y cynnwys yn briodol i’r dasg. Mae dwy ran i’r prawf yma.
You must write two pieces. The examiners will assess your ability to write correctly, to use different tenses and patterns, to use vocabulary and content which is appropriate to the task. There are two parts to this test.
1. Llythyr
Rhaid i chi ysgrifennu llythyr tua 100 o eiriau o hyd ar destun (topic) penodol (specific). Mae dewis o destunau.
Brawddegau defnyddiol ar gyfer ysgrifennu llythyr:-
Annwyl Megan Dear MeganAnnwyl Gyfaill Dear FriendAnnwyl Syr/Fadam Dear Sir/Madam
Sut mae pethau ers talwm? How are things this long time?Gair bach i ddiolch i chi am … A brief word to thank you for …Gair bach ynglŷn â … A brief word regarding…
Dw i’n ysgrifennu atoch chi ynglŷn â… I am writing to you regarding…
Dw i’n ysgrifennu atoch chi ar ran… I am writing to you on behalf of…
Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig… Thank you for your letter dated…Roedd hi’n flin gyda fi glywed… I was sorry to hear…Baswn i wrth fy modd yn … I would be delighted to…
Yn anffodus, fydda i ddim yn gallu dod. Unfortunately I will not be able to come.
‘Dw i’n edrych ymlaen at glywed I look forward to hearing from youoddi wrthoch chi. Dwi’n edrych ymlaen at dderbyn eich I look forward to receiving your ymateb. response.
25
Diolch am eich cydweithrediad. Thank you for your cooperation.
Dw i’n amgau siec. I enclose a chequeAmgaeaf siec.
Yr eiddoch yn gywir Yours sincerelyYn gywir Yours sincerelyCofion gorau Best regards
26
Ysgrifennwch ateb i’r llythyr yma:-
Cyngor Tre Llanaber, Heol y Cil-dwrn,
Llanaber.
13 Chwefror 2019
Annwyl Gyfaill,
Mae Cyngor Tre Llanaber eisiau barn (opinion) pobl yr ardal am y syniad o adeiladu canolfan siopa newydd yng nghanol y dre. Dyn ni’n gobeithio bydd llawer o fusnesau newydd yn dod i ganol y dre, gan greu nifer o swyddi newydd.
Hoffen ni wybod ;
i) Pa fath o siopau/cyfleusterau (amenities) hoffech chi eu gweld yn y dre a pham?
ii) Pa mor aml dych chi’n dod i’r dre?
iii) Sut dych chi’n teithio i’r dre?
iv) Oes eisiau maes parcio arall?
Hoffai’r Cyngor glywed oddi wrthoch chi yn fuan iawn.
Yn gywir
Elin Mair WilliamsMaeres Tre Llanaber
27
Mwy o Ymarfer!
Trefnodd eich ffrindiau barti pen-blwydd syrpreis i chi. Ysgrifennwch lythyr i ddiolch am y parti gwych.
Neu
Dych chi ddim yn gallu mynd i briodas eich ffrind. Ysgrifennwch lythyr i esbonio pam, ac i ymddiheuro.
Neu
Aeth parsel pwysig dych chi’n disgwyl ar goll yn y post. Ysgrifennwch lythyr at bennaeth eich swyddfa post i gwyno.
Neu
Mae grant ar gael gan y Cyngor i wella eich parc chwarae lleol. Ysgrifennwch lythyr at bennaeth y Cyngor i ofyn am arian i’ch parc chwarae chi.
Neu
Byddwch yn mynd i ffwrdd i America am fis ac mae eich ffrind yn gofalu am y tŷ. Ysgrifennwch lythyr at y ffrind yn dweud beth i’w wneud.
Neu
Dych chi wedi cwrdd â rhywun ar lein ar wefan ‘Cariad i Bawb’. Ysgrifennwch lythyr yn disgrifio eich hunan ac i drefnu cyfarfod.
2. Llenwi Ffurflen [32]
28
Mae Cwmni Croeso Cymru eisiau gwybod sut mae pobl yn dewis ble i fynd ar wyliau. Llenwch yr holiadur yma os gwelwch chi’n dda.
Holiadur Cwmni Croeso Cymru
1. Cyfenw:______________________________________________ [1]
2. Enw(au) cyntaf:________________________________________ [1]
3. Cyfeiriad e-bost:_______________________________________ [1]
4. Faint o bobl sydd yn eich teulu chi?______________________________
______________________________________________________________
5. Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwetha?
______________________________________________________________
______________________________________________________________
Pam aethoch chi yno? (tua 40 o eiriau)
________________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
6. Ble byddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
29
__________________________________________________________________________
Pam dewis mynd yno? Rhowch fanylion. (tua 30 o eiriau)
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
Pa fath o bethau dych chi’n hoffi eu gwneud ar wyliau fel arfer? (tua 30 o
eiriau)
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
30
Fasech chi’n hoffi derbyn gwybodaeth am wyliau yng Nghymru oddi wrth
Gwmni Croeso Cymru?
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
Diolch yn fawr!
31
LLENWI FFURFLEN [32]
Mae eich hen ysgol chi (Ysgol y Dref) yn gant oed eleni. Mae rhywun yn ysgrifennu llyfr am hanes yr ysgol, ac atgofion pobl oedd yn arfer bod yn ddisgyblion (pupils). Llenwch y ffurflen hon, i sôn am eich amser chi yno.
1. Eich enw chi:__________________________________________[1]
2. Eich cyfeiriad chi:______________________________________
________________________________________________________
________________________________________________________ [2]
3. Pryd roeddech chi’n ddisgybl yn Ysgol y Dref? [2]
Rhwng ________________a__________________________________
4. Pa athrawon dych chi’n eu cofio? [8]
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
Pam? (tua 40 gair)
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
32
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
5. Oes rhywbeth diddorol dych chi’n ei gofio am eich amser yn yr ysgol, e.e.
tripiau, chwaraeon, ffrindiau? (tua 60 gair) [10]
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
6. Bydd noson i ddathlu pen-blwydd yr ysgol ar 1 Medi eleni. Beth fasech
chi’n hoffi ei weld yn digwydd ar y noson? [8]
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
Fyddwch chi’n dod i’r noson ddathlu? _________________________ [1]
33
Mwy o Ymarfer!
Llenwi Ffurflen
Mae cwmni teledu Boomopolis yn paratoi rhaglen newydd o’r enw ‘Gorau
Cymru’ - rhaglen am bobl ddiddorol Cymru. Dych chi’n mynd i enwebu
(nominate) person dych chi’n nabod i fod ar y rhaglen.
Gorau Cymru
Eich enw chi _____________________________________________________
Eich rhif ffôn/e-bost chi ____________________________________________
Enw a chyfeiriad y person yr hoffech chi ei enwebu ______________________
Sut dych chi’n nabod y person yma?
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
Beth mae’r person yma wedi ei wneud- pethau fasai o ddiddordeb i bobl sy’n gwylio’r rhaglen ‘Gorau Cymru’?
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
34
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
Pa fath o berson yw e/hi?
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
________________________________________________________________
Fasai’r person yma’n hapus i fod ar raglen fel hon, yn eich barn chi?
___________________
Diolch yn fawr i chi am eich help.
35
36
Gair o gymorth!Dyma gyfres o ymarferion i’ch helpu chi i adolygu patrymau, rheolau a threigladau.
1. Cwis Iaith 1.
2. Arddodiaid (Prepositions).
3. Eich tro chi!
4. Cwis Iaith 2.
5. Baswn, Dylwn, Gallwn!
6. Af i / Caf i / Gwnaf i / Dof i
7. Rhaid.
8. Wrth fy modd.
9. Ar fy mhen fy hunan.
10. Cymharu.
11. Ces i fy .........
12. Cwis Iaith 3.
13. Atebion i Cwis Iaith 1, 2 a 3.
Pob lwc i chi yn yr arholiad!
Cwis Iaith 1
Pa arddodiad?
Siaradais i -------- fy chwaer neithiwr.
Edrychon ni ---------- y ffilm yn y sinema.
Dwi’n ddi-waith; ‘dwi’n chwilio --------- swydd newydd.
Dwedwch --------- eich ffrindiau am ddod i’r cyngerdd.
Chwarae ---------- eich gwlad yw uchelgais pob chwaraewr rygbi.
Rhaid ------- ni fwyta llai ac ymarfer corff yn amlach.
Roedd y ddannodd arna i, felly es i ------ y deintydd.
‘Dw i wrth fy modd yn gwrando ------ jazz.
37
ardd
odia
id
amaratgandrosdrwywrthdanhebhydoi
pumpcolldantpwylltrodrwscwrstollaethTachweddLlanelliCaerdydd
pa d
reig
lad?
am bump--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------...........................
Arddodiaid (Prepositions)
Am Ar AtAmdana(f) i Arna(f) i Ata(f) iAmdanat ti Arnat ti Atat tiAmdano fe Arno fe Ato feAmdani hi Arni hi Ati hiAmdanon ni Arnon ni Aton niAmdanoch chi Arnoch chi Atoch chiAmdanyn nhw Arnyn nhw Atyn nhw
Yn Wrth OYnddo(f) i Wrtho i Ohono(f) iYnddot ti Wrthot ti Ohonot tiYnddo fe Wrtho fe Ohono feYnddi hi Wrthi hi Ohoni hiYnddon ni Wrthon ni Ohonon niYnddoch chi Wrthoch chi Ohonoch chiYnddyn nhw Wrthyn nhw Ohonyn nhw
Heb DrosHebddo i Drosto(f) iHebddot ti Drostot tiHebddo fe Drosto feHebddi hi Drosti hiHebddon ni Droston niHebddoch chi Drostoch chiHebddyn nhw Drostyn nhw
Ii fii tiiddo feiddi hii nii chiiddyn nhw
Eich tro chi!
38
Hefyd, dysgwch!Mohono(f) iMohonot tiMohono feMohoni hiMohonon niMohonoch chi
Am Ar At………. i ………. i ………. i………. ti ………. ti ………. ti………. fe ………. fe ………. fe………. hi ………. hi ………. hi………. ni ………. ni ………. ni………. chi ………. chi ………. chi………. nhw ………. nhw ………. nhw
Yn Wrth O………. i ………. i ………. i………. ti ………. ti ………. ti………. fe ………. fe ………. fe………. hi ………. hi ………. hi………. ni ………. ni ………. ni………. chi ………. chi ………. chi………. nhw ………. nhw ………. nhw
Heb Dros………. i ………. i………. ti ………. ti………. fe ………. fe………. hi ………. hi………. ni ………. ni………. chi ………. chi………. nhw ………. nhw
I Mo
........ i ………. i
........ ti ………. ti
........ fe ………. fe
........ hi ………. hi
........ ni ………. ni
........ chi ………. chi
........ nhw ………. nhw
Cwis iaith 2.39
Beth sy’n digwydd i’r geiriau yma os dych chi’n rhoi “nhw” ar eu hôl, yn yr amser gorffennol? (e.e Bwyta – bwyton nhw)
Siarad ------------------------Cerdded ----------------------Dawnsio ----------------------Dechrau ----------------------Cyrraedd --------------------Cael ------------------------Gwneud -----------------------Dod ---------------------------Gadael ------------------------
Rhowch ‘yn’o flaen y geiriau yma.
Du --------------------------------Pinc -------------------------------Trist -------------------------------Blinedig ----------------------------Mawr -------------------------------Poblogaidd --------------------------Tlawd -------------------------------
Rhowch ‘yn’ (in) o flaen y geiriau yma
Caerdydd _____________________________ Gwaelod y Garth _____________________________Pontypridd _____________________________ Dinas Powys _____________________________Bedwas _____________________________ Llanelli _____________________________Treorci _____________________________ Rhydaman _____________________________
Would, Should, Could!
40
Would go If I were to go Would like to go
Baswn i’n myndBaset ti’n myndBasai fe’n myndBasai hi’n myndBasen ni’n myndBasech chi’n myndBasen nhw’n myndBasai Dafydd yn myndBasai Sian yn myndBasai’r plant yn mynd
Taswn i’n myndTaset ti’n myndTasai fe’n myndTasai hi’n myndTasen ni’n myndTasech chi’n myndTasen nhw’n myndTasai Dafydd yn myndTasai Sian yn myndTasai’r plant yn mynd
Hoffwn i fyndHoffet ti fyndHoffai fe fyndHoffai Dafydd fyndHoffai hi fyndHoffai Sian fyndHoffen ni fyndHoffech chi fyndHoffen nhw fyndHoffai’r plant fynd
Could go Should go Should have gone
Gallwn i fyndGallet ti fyndGallai fe fyndGallai hi fyndGallen ni fyndGallech chi fyndGallen nhw fyndGallai Dafydd fyndGallai Sian fyndGallai’r plant fynd
Dylwn i fyndDylet ti fyndDylai fe fyndDylai hi fyndDylen ni fyndDylech chi fyndDylen nhw fyndDylai Dafydd fyndDylai Sian fyndDylai’r plant fynd
Dylwn i fod wedi myndDylet ti fod wedi myndDylai fe fod wedi myndDylai hi fod wedi mynd Dylen ni fod wedi myndDylech chi fod wedi myndDylen nhw fod wedi myndDylai Dafydd fod wedi myndDylai Sian fod wedi myndDylai’r plant fod wedi mynd
Cofiwch y negyddol!
Faswn i ddim yn mynd, tasai dim rhaid i fi.‘Taswn i ddim yn dost, baswn i’n mynd i’r cyngerdd.Ddylwn i ddim gwario gormod o arian heddiw.Allwn i ddim yfed deg peint o gwrw!Hoffwn i ddim byw mewn dinas fawr.
Rhaid!
41
Must Had to Will have to
Rhaid i fiRhaid i tiRhaid iddo feRhaid iddi hiRhaid i niRhaid i chiRhaid iddyn nhwRhaid i DafyddRhaid i Sian Rhaid i’r plant
Roedd rhaid i fiRoedd rhaid i tiRoedd rhaid iddo feRoedd rhaid iddi hiRoedd rhaid i niRoedd rhaid i chiRoedd rhaid iddyn nhwRoedd rhaid i DafyddRoedd rhaid i Sian Roedd rhaid i’r plant
Bydd rhaid i fiBydd rhaid i tiBydd rhaid iddo feBydd rhaid iddi hiBydd rhaid i niBydd rhaid i chiBydd rhaid iddyn nhwBydd rhaid i DafyddBydd rhaid i Sian Bydd rhaid i’r plant
Would have to If …….. had to + Treiglad meddal
Basai rhaid i fiBasai rhaid i tiBasai rhaid iddo feBasai rhaid iddi hiBasai rhaid i niBasai rhaid i chiBasai rhaid iddyn nhwBasai rhaid i DafyddBasai rhaid i Sian Basai rhaid i’r plant
Tasai rhaid i fiTasai rhaid i tiTasai rhaid iddo feTasai rhaid iddi hiTasai rhaid i niTasai rhaid i chiTasai rhaid iddyn nhwTasai rhaid i DafyddTasai rhaid i Sian Tasai rhaid i’r plant
T > DC > GP > BB > FG > /
D > DdLl > LM > FRh > R
Cofiwch y negyddol!
Does dim rhaid i fi brynu petrol heddiw.Doedd dim rhaid i fi fynd i’r gwaith ddoe.Fydd dim rhaid i fi ffonio’r banc heddiw.Fasai dim rhaid i fi smwddio heno, taswn i wedi smwddio ddoe.Tasai dim rhaid i fi golli pwysau, baswn i’n gallu cael sglodion i de!
Wrth fy modd! (In my element)
42
‘Dw i wrth fy modd I’m in my element
Rwyt ti wrth dy fodd You are in your element
Mae e wrth ei fodd He is in his element
Mae Dafydd wrth ei fodd Dafydd is in his element
Mae hi wrth ei bodd She is in her element
Mae Sian wrth ei bodd Sian is in her element
Dyn ni wrth ein boddau We are in our element
Dych chi wrth eich boddau You are in your element
Maen nhw wrth eu boddau They are in their element
Mae’r plant wrth eu boddau The children are in their element
Ar fy mhen fy hunan (On my own) !
43
Baswn i wrth fy modd taswn i’n gallu ymddeol yn gynnar!
Mae Ifan wrth ei foddyn dringo yn y mynyddoedd
Roedd y plant wrth eu bodd yn chwarae yn y pwll nofio
Ar fy mhen fy hunan On my own
Ar dy ben dy hunan On your own
Ar ei ben ei hunan On his own
Ar ei phen ei hunan On her own
Ar ein pennau ein hunain On our own
Ar eich pennau eich hunain On your own (plural)
Ar eich pen eich hunan On your own (singular)
Ar eu pennau eu hunain On their own
Gorffennwch y brawddegau!
1. ‘Dw i ddim yn hoffi aros yn y tŷ _________________________________
2. Fyddi di ddim yn cael mynd i’r parc ______________________________
3. Fasai fe’n hoffi mynd ar wyliau _________________________________?
4. Dydy’r plant ddim yn cael croesi’r heol ___________________________
5. Fydd hi ddim eisiau mynd i’r parti _______________________________
6. ‘Dych chi’n byw _____________________________________________?
Cwis iaith 3.
Beth yw ‘r rhain yn Gymraeg?
44
Brecon ---------------------------- Manchester -----------------------London ---------------------------- London ----------------------------Germany -------------------------- Scotland --------------------------Italy -------------------------------- Newport --------------------------Builth Wells --------------------- - Carmarthen -----------------------
Beth sy’n bod ar y rhain? Rhowch gylch o gwmpas y camgymeriadau (mistakes). Mae dau gamgymeriad ym mhob brawddeg.
Cododd y merch a cicio’r bêl.Darllenais ti llyfr da.Roedd merch bach yn y ty.Dylen ni ddim fwyta gormod o losin.Coginion hi’r cig mewn y ffwrn.
Mo !Mo!Mo! (ddim o….)
Er enghraifft:
Gwelais i’r rhaglen / Welais i ddim o’r rhaglen / Welais i mo’r rhaglen.
Gyrrodd hi’r car ______________________________________________
Bwytodd e’r cinio _____________________________________________
Dysgodd Mr Jones y plant ______________________________________
Gwisgon ni’r genhinen _________________________________________
Ffoniais i ti / Ffoniais i ddim ohonot ti / Ffoniais i mohonot ti.
Ffonion ni chi ________________________________________________
45
Clywoch chi nhw _______________________________________________
Gwelaist ti fe __________________________________________________
Anghofiais i hi _________________________________________________
Trowch y rhain i’r negyddol (negative) :
Mae Dennis yn hapus yn ei waith.
-----------------------------------------------
Bydda i’n dawnsio nos Sadwrn.
------------------------------------------------
Galla i gofio popeth.
--------------------------------------------------
Dylai hi fynd at y deintydd.
---------------------------------------------------
Daethoch chi adref yn hwyr.
----------------------------------------------------
Baswn i’n hoffi bwyta malwod yn Ffrainc.
----------------------------------------------------
Roedd problem gyda‘r car ar y draffordd.----------------------------------------------------Cwis Iaith 1 – Atebion
46
Pa arddodiad?
Siaradais i â fy chwaer neithiwr.
Edrychon ni ar y ffilm yn y sinema.
Dwi’n ddi-waith; ‘dwi’n chwilio am swydd newydd.
Dwedwch wrth eich ffrindiau am ddod i’r cyngerdd.
Chwarae dros eich gwlad yw uchelgais pob chwaraewr rygbi.
Rhaid i ni fwyta llai ac ymarfer corff yn amlach.
Roedd y ddannodd arna i, felly es i at y deintydd.
‘Dw i wrth fy modd yn gwrando ar jazz.
Cwis iaith 2 - Atebion
Beth sy’n digwydd i’r geiriau yma os dych chi’n rhoi “nhw” ar eu hôl, yn yr amser gorffennol? (e.e Bwyta – bwyton nhw)
47
ardd
odia
id
amaratgandrosdrwywrthdanhebhydoi
pumpcolldantpwylltrodrwscwrstollaethTachweddLlanelliCaerdydd
pa d
reig
lad?
am bumpar gollat ddantgan bwylldros drodrwy ddrwswrth gwrsdan doheb laethhyd Dachweddo Lanelli i Gaerdydd
Siaradon nhwCerddon nhwDawnsion nhw Dechreuon nhw Cyrhaeddon nhw Cawson nhw Gwnaethon nhw Daethon nhw Gadawon nhw Rhowch ‘yn’o flaen y geiriau yma.
Du yn dduPinc yn bincTrist yn dristBlinedig yn flinedigMawr yn fawrPoblogaidd yn boblogaiddTlawd yn dlawd
Rhowch ‘yn’ (in) o flaen y geiriau yma
Caerdydd yng Nghaerdydd Gwaelod y Garth yng Ngwaelod y GarthPontypridd ym Mhontypridd Dinas Powys yn Ninas PowysBedwas ym Medwas Llanelli yn LlanelliTreorci yn Nhreorci Rhydaman yn Rhydaman
Cwis iaith 3 - Atebion
Beth yw ‘r rhain yn Gymraeg?
Brecon Aberhonddu Manchester Manceinion48
London Llundain Ireland IwerddonEngland Lloegr Scotland Yr AlbanGermany Yr Almaen Italy Yr EidalNewport Casnewydd Builth Wells Llanfair-ym-MualltCarmarthen Caerfyrddin Edinburgh Caeredin
Beth sy’n bod ar y rhain? Rhowch gylch o gwmpas y camgymeriadau (mistakes). Mae dau gamgymeriad ym mhob brawddeg.
Cododd y ferch a chicio’r bêl.Darllenaist ti lyfr da.Roedd merch fach yn y tŷ.Ddylen ni ddim bwyta gormod o losin.Coginiodd hi’r cig yn y ffwrn.
Mo !Mo!Mo! (ddim o….)
Er enghraifft:
Gwelais i’r rhaglen / Welais i ddim o’r rhaglen / Welais i mo’r rhaglen.
Gyrrodd hi’r car Yrrodd hi ddim o’r car / Yrrodd hi mo’r car
Bwytodd e’r cinio Fwytodd e ddim o’r cinio / Fwytodd e mo’r cinio
Dysgodd Mr Jones y plant Ddysgodd Mr Jones ddim o’r plant Ddysgodd Mr Jones mo’r plant
Gwisgon ni’r genhinen Wisgon ni ddim o’r genhinenWisgon ni mo’r genhinen
Ffoniais i ti / Ffoniais i ddim ohonot ti / Ffoniais i mohonot ti.
Ffonion ni chi Ffonion ni ddim ohonoch chi / Ffonion ni mohonoch chi
49
Clywoch chi nhw Chlywoch chi ddim ohonyn nhw / Chlywoch chi mohonyn nhw
Gwelaist ti fe Welaist ti ddim ohono fe / Welaist ti mohono fe
Anghofiais i hi Anghofiais i ddim ohoni hi / Anghofiais i mohoni hi
Trowch y rhain i’r negyddol (negative) :
Mae Dennis yn hapus yn ei waith.Dydy / Dyw Dennis ddim yn hapus yn ei waith.
Bydda i’n dawnsio nos Sadwrn.Fydda i ddim yn dawnsio nos Sadwrn.
Galla i gofio popeth.Alla i ddim cofio popeth.
Dylai hi fynd at y deintydd.Ddylai hi ddim mynd at y deintydd.
Daethoch chi adref yn hwyr.Ddaethoch chi ddim adref yn hwyr.
Baswn i’n hoffi bwyta malwod yn Ffrainc.Faswn i ddim yn hoffi bwyta malwod yn Ffrainc.
Roedd problem gyda‘r car ar y draffordd.Doedd dim problem gyda’r car ar y draffordd.
Dyma restr o’r eirfa a’r cystrawennau tafodieithol y disgwylir i ymgeiswyr Canolradd allu eu deall yn y profion yn yr arholiad. This is a list of the regional variations in vocabulary and constructions that Canolradd candidates may come across in the examination papers.
50
Ffurfiau’r De Ffurfiau’r Gogledd Mae ___ gyda fi Mae gen i ___Mae ___ gyda ti Mae gen ti ___Mae ___ gyda fe Mae gynno fo ___Mae ___ gyda hi Mae gynni hi ___Mae ___ gyda ni Mae gynnon ni ___Mae ___ gyda chi Mae gynnoch chi ___Mae ___ gyda nhw Mae gynnyn nhw ___ Aeth hi Mi aeth hi
Gwelodd hi Mi wnaeth hi weld
Mae coffi yn y cwpwrdd Mae ’na goffi yn y cwpwrdd
Beth yw ___? Be’ ydy ___?
fe/e fo/o
gyda efo
allwedd (a)’goriadarian presbola bolcot côtcusan swsllaeth llefrithmam-gu nainpen tost cur pentad-cu taidtwym/poeth poeth/cynnes
cwrdd â cyfarfodcwympo syrthiodechrau cychwyn
51