Upload
others
View
2
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Cydgysylltydd Rhwydwaith Gŵyl Ieuenctid Cymru (rhan amser – tymor sefydlog)
Adran: Wicked Film (The Pop in Centre, Prestatyn)
Lleoliad:Gofod swyddfa ar gael yn The Pop In Centre, ond gallu gweithio o bell ledled Cymru
Teitl y Swydd:Swyddog Rhwydwaith Gŵyl Ieuenctid Cymru
Cyflog:£ 20,800 pro rata
Contract:16 awr yr wythnos (tymor sefydlog Tachwedd 2018 – diwedd Mawrth 2019) Atebol i:Cyfarwyddwr Wicked Wales Cyfrifol am:Dim adroddiadau uniongyrchol. Rheolaeth o bosibl dros ymgynghorwyr neu interniaid.
Diben y Swydd
Ymchwilio a chydgysylltu menter rhwydwaith newydd Gŵyl Ffilm Cymru, a ddatblygwyd gan Ganolfan Ffilm Cymru, Wicked Wales a gwyliau allweddol yn y rhanbarth, gyda’r nod o gynyddu rhaglenni ffilmiau Prydeinig annibynnol a rhyngwladol sydd ar gael i gynulleidfaoedd ifanc, a rhai wedi’u gwneud ganddyn nhw.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
· Gweithio gyda phartneriaid gŵyl i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflwyno ar amser ac yn unol â briff y prosiect,
· Defnyddio adroddiad cyfrdol Canolfan Ffilm Cymru ar Rwydweithiau Gŵyl Fflm Ieuenctid fel sylfaen, ymgynghori gyda gwyliau allweddol yng Nghymru o ran dichonoldeb ac anghenion y rhwydwaith. Gall archwiliad/cyfrifoldebau y rôl yn y dyfodol gynnwys:
Cyfarfodydd
· Cyfarfodydd chwarterol (yn agored i bartneriaid Cymru, DU ac Ewropeaidd) gyda’r nod o rannu arfer gorau,
Hyfforddiant
· Presenoldeb uniongyrchol mewn digwyddiadau hyfforddi allweddol ac/neu ddigwyddiadau perthnasol fydd yn cefnogi datbygiad y rhwydwaith ,
· Ymchwilio i gynlluniau hyfforddi sydd ar gael i bobl ifanc, a’u hyrwyddo i bartneriaid yr ŵyl a’u rhwydweithiau, gyda’r nod o greu llysgenhadon ifanc ym mhob rhanbarth,
· Datblygu cyfleoedd cyfnewid, naill ai’n ddigidol neu yn gorfforol gan alluogi pobl ifanc i rannu syniadau ,
Rhaglennu
· Ymchwilio i ffilmiau a wnaethpwyd i gynulleidfaoedd ifanc ar draws y byd, cefnogi gwyliau gyda digwyddiadau i bobl ifanc ar draws y rhwydwaith ,
· Datblygu rhaglenni ar themâu neu dymhorau y gellir eu rhannu gan y rhwydwaith, cydgysylltu gyda dosbarthwyr a thrafod telerau lle mae’n berthnasol,
· Datblygu gwobr ffilm cenedlaethol mewn partneriaeth gda BAFTA Cymru ac Into Film, y gellir ei rhannu ar draws y rhanbarth ,
· Gweithdai Gwneud Ffilm a Rhaglenni Ifanc gyda’r bwriad o hybu sgiliau ymarferol pobl ifanc ar draws Cymru, cefnogi datblygiad y lefel nesaf o wneuthurwyr ffilm ifanc a rhai sydd yn frwdfrydig dros ffilm i lefel cyfatebwyr Ewropeaidd,
Marchnata
· Archwilio gwerth/angen brand ar y cyd,
· Datblygu marchnata ar y cyd, fel y cyfryngau cymdeithasol, taflen ganolog yn hysbysebu gwyliau yng Nghmru, tudalennau llwytho i bobl ifanc ddarganfod gweithgaredd gwyliau (gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff fel Canolfan Ffilm Cymru, FAN Ifanc a Chynghrair Sgrin Cymru i osgoi dyblygu),
· Allgyrraedd cymunedol a phartneriaethau i ddatblygu cynulleidfaoedd, proffil y prosiect a chroesawu lleoliadau newydd i’r prosiect lle mae’n bosibl ac yn ymarferol,
· Cefnogi gwyliau gyda datblgu cynulleidfa drwy gyfryngau cymdeithasol, creu ffotograffi/vox-pops, adolygiadau, blogiau, nodiadau rhaglenni ar y cyd, sesiynau holi ac ateb teithiol neu wedi eu recordio, mentrau, ymgyrchoedd ar-lein etc,
· Anfon deunyddiau print allan a chasglu deunyddiau marchnata,
· Casglu gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod a diweddaru rhestrau ar-lein,
Eiriolaeth
· Creu partneriaethau gydag elusennau, ysgolion, arbenigwyr addysgol i gefnogi diwylliant ehangach o addysg ffilm yng Nghymru yn cynnwys cysylltiadau gyda cherdyn ffyddlondeb peilot Into Film,
Incwm a Gwariant
· Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr i fonitro gwariant y prosiect,
· Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr i godi arian ar gyfer incwm ychwanegol,
Adrodd
· Casglu a phrosesu data cynulleidfa i ddibenion adrodd,
· Cyfathrebu dyddiadau cau adrodd gyda phartneriaid a chasglu gwybodaeth,
· Monitro cynnydd digwyddiadau ac adrodd yn ôl i’r tîm i wella gweithgareddau yn y dyfodol.
Amrywiol
· Unrhyw ddyletswyddau eraill fel ag sydd yn rhesymol ofynnol gan y Cyfarwyddwr,
· Ymgyfarwyddo gyda’r holl weithdrefnau Iechyd a Diogelwch, gweithrediadol, personel, gofal cwsmer, Diogelu Data ac ariannol gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r holl rwymedigaethau statudol, yn enwedig mewn perthynas â deddfau trwyddedu a chymorth cyntaf.
· Rhaid cyflawni dyletswyddau deiliad y swydd bob amser mewn cydymffurfiaeth gyda pholisi Cyfle Cyfartal Canolfan Galw Heibio Prestatyn/Wicked Wales a sicrhau cyfle cyfartal i bob person yn fewnol ac yn allanol i Ganolfan Galw Heibio Prestatyn a Wicked Wales.
Dydy’r disgrifiad swydd yma ddim wedi’i bwriadu i fod yn gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd fabwysiadu agwedd hyblyg tuag at y dyletswyddau sydd yn gallu bod yn amrywiol (yn dilyn trafodaeth gyda deiliad y swydd) yn amodol i anghenion y corff ac yn unol â phroffil cyffredinol y swydd.
MANYLEB PERSON
Sgiliau/galluoedd hanfodol
· Cymhwyster addysg bellach/uwch neu brofiad gwaith perthynol cyfatebol
· Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac ar amrywiol dasgau,
· Rhifedd a llythrennedd i lefel TGAU/’A’ neu gyfatebol
· Sgiliau gweinyddol ardderchog,
· Y gallu i gadw cofnodion cyllidebol/taenlenni/crofneydd data cywir ,
· Sgiliau bysellfwrdd da a gwybodaeth ardderchog o becynnau Microsoft (yn cynnwys Outlook, Word ac Excel),
· Gwybodaeth am y cyfryngau cymdeithasol a dealtwriaeth o farchnata ar y we,
· Gwybodaeth waith dda o ffilm,
· Dealltwriaeth dda o gynulleidfaoedd ifanc,
· Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar y ffon, yn bersonol ac ar e-bost,
· Dull creadigol o ddatrys problemau,
· Y gallu i weithio i amserlen, deall sut mae hyn yn effeithio ar aelodau’r t
· Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf,
· Ymrwymiad i amcan BFI i ymestyn ehangder, dyfnder a chyrhaeddiad dewis ffilm i gynulleidfaoedd amrywiol.
Dymunol
· Gwybodaeth/profiad o gydgysylltu digwyddiadau,
· Y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg,
· Profiad o godi arian,
· Profiad o weithio gyda phobl ifanc,
· Profiad o weithio gyda gwyliau ffilm,
· Trwydded car ac yn berchen ar gerbyd.
Mae ffurflenni cais a disgrifiad swydd ar gael i’w lawrlwytho yma neu cysylltwch gyda [email protected]
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 2il Tachwedd 5.30pm
Cynhelir y cyfweliadau yn y Rhyl Little Theatre, 17 Vale Rd, Rhyl LL18 2BS ar: Dydd Llun 12 Tachwedd.