20
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2016 Camau gweithredu gofynnol: Ymateb erbyn 23 Chwefror 2017 www.bridgend.gov.uk Newidiadau polisi arfaethedig ar godi tâl am ofal a chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Dogfen ymgynghori

Trosolwg - Bridgend County Borough · Web view– Ystyriwyd y dewis hwn ac fe'i gwrthodwyd gan y byddai gan y bobl hyn asedau (yn eu heiddo) o fwy na £24,000, ac felly ystyrid y

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Cyngor Bwrdeistref Sirol

Pen-y-bont ar Ogwr

Newidiadau polisi arfaethedig ar godi tâl am ofal a chymorth

Dogfen ymgynghori

Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2016

Camau gweithredu gofynnol: Ymateb erbyn 23 Chwefror 2017

Ffôn: (01656) 643 664

E-bost: [email protected]

Y we: www.bridgend.gov.uk/consultation

www.bridgend.gov.uk

2

www.bridgend.gov.uk

www.bridgend.gov.uk

CynnwysCynnwys2Trosolwg4Sut i ymateb4Diogelu Data4Dogfennau cysylltiedig4Cefndir a gwybodaeth5Y cynigion5Yr hyn y mae cynghorau eraill yn ei wneud8Pam mae'r cynigion wedi'u dwyn gerbron?8Beth fydd y manteision os bydd y cynigion yn mynd ymlaen?8Beth yw'r anfanteision posibl os bydd y cynigion yn mynd ymlaen?8Dewisiadau eraill a wrthodwyd8Effaith y cynnig11Y broses ymgynghori11Sut i ymateb11Ffurflen1215

Trosolwg

Mae'r Cyngor yn adolygu ei bolisi presennol ar godi tâl am wasanaethau gofal dibreswyl a ffurfioli polisi codi tâl am wasanaethau gofal preswyl ers cyflwyno'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn eich gwahodd chi i rannu eich barn am y ffordd y mae'r Cyngor yn codi tâl am wasanaethau gofal preswyl ac yn adolygu ei bolisi ar gyfer gwasanaethau gofal dibreswyl tra'n parhau i fod yn deg â defnyddwyr ein gwasanaethau yn ystod yr amser ariannol anodd hwn.

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 1 Rhagfyr 2016 ac yn diweddu ar 23 Chwefror 2017.

Gellwch ymateb neu ofyn cwestiynau pellach yn y ffyrdd canlynol:

Ffôn: (01656) 643664

E-bost: [email protected]

Ar-lein: Cliciwch yma neu ymwelwch â www.bridgend.gov.uk/consultation

Post: Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Llys y Gigfran, Aden 3, Lôn Bragdy, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AP.

Mae fformatau gwahanol ar gael hefyd ar gais.

Diogelu Data

Sut byddwn yn defnyddio'r farn a'r wybodaeth y byddwch yn ei rhannu â ni.

Caiff yr holl ymatebion a dderbynnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu gweld yn llawn gan ei aelodau o staff sy'n rhan o'r broses ymgynghori. Gall adrannau eraill o fewn y cyngor neu aelodau'r bwrdd gwasanaethau lleol weld y wybodaeth i helpu i wella ar y gwasanaethau a ddarperir.

Gall y Cyngor hefyd ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gyhoeddi dogfennau dilynol sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol â'r ymgynghoriad hwn. Fodd bynnag, ni fydd y Cyngor byth yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol fel enwau neu gyfeiriadau a allai fod yn gyfrwng i adnabod unigolyn.

Os nad ydych yn dymuno i'ch barn gael cyhoeddusrwydd, nodwch hynny yn eich ymateb, os gwelwch yn dda.

Dogfennau cysylltiedig

· Polisi codi tâl cyfredol am ofal a chymorth di-breswyl

· Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Am fwy o wybodaeth ar ymgynghoriadau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y- bont ar Ogwr neu sut i ymuno â'n Panel Dinasyddion.

ewch i: www.bridgend.gov.uk/consultation

Cefndir a gwybodaeth

Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 reolau newydd ar gyfer codi tâl am ofal a chymorth o 6 Ebrill 2016 ymlaen. Ar hyn o bryd, mae rhai pobl yn gorfod talu tuag at wasanaethau megis y gofal cartref a’r gofal dydd y maent yn ei dderbyn, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gorfod talu tuag at eu gofal preswyl a’u gofal nyrsio.

Caiff yr arian y mae’r Cyngor yn ei dderbyn o daliadau ei ail-fuddsoddi er mwyn darparu mwy o wasanaethau gofal ac, mewn rhai amgylchiadau, sybsideiddio rhai gwasanaethau gofal dibreswyl na allem fforddio eu darparu fel arall.

Yn ogystal â glynu at y newidiadau cyfreithiol angenrheidiol drwy Ddeddf newydd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Cyngor yn ystyried gwneud newidiadau i’r polisi codi tâl cyfredol am ofal a chymorth dibreswyl; a ffurfioli polisi codi tâl am wasanaethau gofal preswyl.

Y cynigion

Mae yna chwe chynnig yr hoffai’r Cyngor i chi eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.

1. Mae'r Cyngor yn cynnig parhau i godi tâl am gost y gofal a'r cymorth mewn cartref gofal a’i gynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.

O dan y rheolau blaenorol roedd yn rhaid i’r Cyngor godi tâl ar ddefnyddwyr gwasanaeth am dderbyn gofal preswyl neu ofal nyrsio. O ganlyniad mae'r rhan fwyaf o bobl yn talu tuag at gost gofal a chymorth mewn cartref gofal.

Mae'r incwm y mae'r Cyngor yn ei dderbyn drwy godi tâl ar bobl am y gwasanaethau hyn yn gyfraniad hanfodol i'r gyllideb ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion.

1. Mae’r Cyngor yn cynnig codi ffi weinyddol (niwtral o ran cost) am drefnu Cytundeb Taliadau Gohiriedig ar gyfer y rheiny sydd mewn gofal preswyl. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig codi llog ar unrhyw swm gohiriedig o dan Gytundeb Taliadau Gohiriedig o ddyddiad marwolaeth y person sy’n gohirio costau gofal gan gynnwys unrhyw gostau gweinyddol a ohiriwyd.

Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnig y dewis i'r rhai sy'n mynd i mewn i ofal preswyl neu ofal nyrsio ddefnyddio peth o werth eu heiddo fel gwarant yn erbyn ffioedd cartref gofal. Gelwir y trefniant hwn yn Gytundeb Taliadau Gohiriedig (CTG). O dan y Ddeddf, rhaid i'r Cyngor wneud y cytundeb hwn yn ffurfiol a gall godi ffioedd gweinyddol i dalu costau megis y ffi i gofrestru arwystl cyfreithiol gyda'r Gofrestrfa Tir, gwerthusiad yr eiddo a chostau eraill sy'n gysylltiedig â rheoli Cytundeb Taliadau Gohiriedig (CTG). Bwriad y trefniadau hyn yw gweithredu ar yr union swm y mae'n gostio i'r Cyngor weinyddu'r CTG. Codir llog ar yr ystâd ar unrhyw swm gohiriedig o dan Gytundeb Taliadau Gohiriedig, gan gynnwys llog ar unrhyw gostau gweinyddol a ohiriwyd ar ôl marwolaeth y person sy'n derbyn gofal a chymorth o dan y CTG.

1. Mae'r Cyngor yn cynnig codi tâl am unrhyw arosiadau seibiant dros dro mewn cartref gofal sy'n fwy nag wyth wythnos (ond nid yn arhosiad parhaol) o dan y rheolau preswyl.

a) O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 am arosiadau llai nag wyth wythnos, rhaid i'r Cyngor asesu fel pe bai’r person yn derbyn gofal a chymorth dibreswyl. Os bydd person yn aros yn hwy nag wyth wythnos ond nid yw’r arhosiad yn barhaol, mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried a ddylid parhau i godi tâl ar sail arhosiad tymor byr ynteu a ddylid cychwyn codi tâl fel pe bai’r person yn derbyn gofal preswyl.

b) At hynny, mae'r Cyngor yn cynnig parhau i ganiatáu lwfans ddewisol o £10 yr wythnos i unrhyw arhosiad tymor byr / dros dro yn ychwanegol at leiafswm yr incwm (y swm y mae Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai preswylydd ei gadw ar gyfer ei dreuliau personol ei hun).

c) Bydd y Cyngor yn parhau i beidio â chodi tâl am wasanaethau gofal seibiant tymor byr ar gyfer preswylwyr o dan 21 oed.

4. Cyflwyno ffi flynyddol (niwtral o ran cost) i dalu am gostau gweinyddol trefnu gofal a chymorth mewn cartref gofal â darparwr gofal, pan ofynnir i’r Cyngor wneud hynny. Ni fydd hyn yn effeithio ond ar breswylwyr gydag arbedion uwchlaw £24,000.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae modd i berson sy'n gallu fforddio talu’n llawn am ei ofal a’i gymorth mewn cartref gofal ofyn i'r awdurdod lleol drefnu hyn ar ei ran. Pan fydd y Cyngor yn ymrwymo i gontract gyda'r darparwr gofal ar ran y preswylydd, caiff godi ffi trefnu i dalu am y costau o sefydlu'r gofal a'r cymorth a ddarperir.

1. Mae'r Cyngor yn cynnig parhau i beidio â chodi tâl am wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol i ofalwyr sy'n cael eu darparu o ganlyniad i asesiad gofalwr.

Mae asesiad gofalwr yn asesiad a ddarperir i unrhyw un sydd mewn rôl gofalu, ac mae'n edrych ar y cymorth a'r gefnogaeth y gall y Cyngor ei gynnig i'r gofalwr er mwyn parhau yn ei rôl o ofalu.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i godi tâl am wasanaethau a ddarperir i ofalwyr. Fodd bynnag, ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hanesyddol, nid oes taliadau wedi'u codi am wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol i'r gofalwr pan fo'r gwasanaeth hwnnw yn ganlyniad asesiad y gofalwr.

6. Mae'r Cyngor yn cynnig parhau i beidio â chodi tâl am wasanaethau ataliol a gwasanaethau a ddarperir mewn carchardai.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu, neu gynnig amrywiaeth o wasanaethau ataliol, i fod o gymorth i fynd i'r afael â phroblemau er mwyn atal, gohirio neu leihau'r angen am ofal a chymorth ychwanegol yn y dyfodol.

Mae'r Ddeddf yn datgan y dylai awdurdodau lleol osgoi sefyllfa lle y mae’r taliadau yn cael yr effaith mai ychydig o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau ataliol, gyda’r canlyniad bod mwy o bobl yn datblygu anghenion gofal a chefnogaeth, naill ai ar lefel uwch neu ar bwynt cynharach.

Yn hanesyddol, nid yw'r Cyngor wedi codi ffi am wasanaethau ataliol er mwyn helpu'r holl breswylwyr sydd angen cefnogaeth o'r fath.

Yn yr un modd, mae'r Cyngor yn cynnig peidio â chodi tâl am wasanaethau a ddarperir i bobl mewn sefydliadau diogel. Byddai rhaid cydbwyso unrhyw incwm a gynhyrchid yn erbyn y gost o gasglu'r tâl.

Mae pob un o'r cynigion i gael ei ystyried yn annibynnol.

Yr hyn y mae cynghorau eraill yn ei wneud

Rhaid i bob cyngor weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ond gall pob Cyngor benderfynu defnyddio ei ddisgresiwn i godi tâl am y gofal a'r cymorth y mae'n ei ddarparu neu'n ei drefnu.

Pam mae'r cynigion wedi'u dwyn gerbron?

Mae’r cynigion wedi'u dwyn gerbron er mwyn i'r Cyngor gadw at y newidiadau cyfreithiol angenrheidiol drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Beth fydd y manteision os bydd y cynigion yn mynd ymlaen?

Mae arnom eisiau sicrhau ein bod yn dal i ymdrin yn deg â defnyddwyr ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod ariannol anodd hwn. Diben yr ymgynghoriad yw sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth newydd y Llywodraeth a bod o gymorth inni wrth adolygu ein polisi o godi tâl am ofal dibreswyl. Caiff incwm o'r gwasanaethau hyn ei ail-fuddsoddi, yn arbennig ar gyfer yr oedolion agored i niwed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac felly, heb hwn, byddai angen i feysydd eraill godi'r incwm i dalu am y gwasanaethau hyn neu byddai angen i'r Cyngor gwtogi ar y gwasanaethau.

Beth yw'r anfanteision posibl os bydd y cynigion yn mynd ymlaen?

Ar hyn o bryd mae polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o godi tâl am ofal dibreswyl, mewn rhannau, yn fwy hael na'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, efallai y gofynnir i'r defnyddwyr gwasanaeth hynny, y mae ganddynt y modd ariannol i wneud hynny, dalu mwy.

Dewisiadau eraill a wrthodwyd

Wrth ystyried y newidiadau arfaethedig i bolisi Talu am Ofal ar gyfer gofal preswyl a gofal dibreswyl, ystyriwyd dewisiadau eraill.

1. Gwneud dim – Gwrthodwyd y dewis hwn gan fod angen inni sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. Mae angen inni hefyd gael y cydbwysedd cywir rhwng codi incwm o daliadau fel y gallwn fuddsoddi yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

1. Peidio â chodi tâl am y gost o ddarparu gofal mewn cartref gofal – Ystyriwyd y dewis hwn ac fe'i gwrthodwyd oherwydd bod angen inni sicrhau ein bod yn cynhyrchu incwm mewn ffordd deg a chyfiawn fel y gallwn barhau i ddarparu'r gwasanaethau ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed.

1. Peidio â chodi ffi weinyddol sy'n gysylltiedig â Threfniant Taliadau Gohiriedig – Ystyriwyd y dewis hwn ac fe'i gwrthodwyd gan y byddai gan y bobl hyn asedau (yn eu heiddo) o fwy na £24,000, ac felly ystyrid y byddent yn gallu talu cost y cartref gofal eu hunain. Ni fyddai'r bobl hyn yn derbyn cymorth ariannol gan y Cyngor ond ar sail dros dro, e.e. tra y byddent yn gwerthu eu cartref; galwn hwn yn Gytundeb Taliadau Gohiriedig. Yn yr amgylchiadau hyn, rydym yn teimlo ei bod yn deg iddynt dalu am unrhyw gostau cysylltiedig sy'n cael eu hachosi drwy sefydlu'r trefniant hwn.

Mae'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau lleol godi llog ar unrhyw swm gohiriedig o dan Gytundeb Taliadau Gohiriedig. Penderfynwyd na fyddwn yn codi llog tan ddyddiad marwolaeth y person sy'n derbyn gofal a chymorth o dan Gytundeb Taliadau Gohiriedig. Y rheswm am hyn yw mai ein polisi presennol yw peidio â chodi tâl llog ond ar adeg marwolaeth fel y cytunwyd gan Gabinet yr Awdurdod ac felly byddwn yn parhau gyda'r trefniant hwn.

1. (a) Peidio â pharhau i godi tâl am seibiant o fwy nag 8 wythnos dan y polisi codi tâl am ofal di-breswyl - Cafodd y dewis hwn ei ystyried a'i wrthod gan fod arosiadau tymor byr yn cael eu hasesu o dan reolau codi tâl gofal di-breswyl a'r uchafswm y byddai person yn ei dalu fyddai £60 yr wythnos. Mae seibiant tymor byr yn rhan bwysig o becyn ehangach o ofal sy'n gymorth i bobl barhau i fod yn annibynnol am gyhyd ag y bo modd. Pan fydd arhosiad yn hwy nag 8 wythnos, bydd y pecyn gofal yn y cartref fel arfer yn dod i ben ac felly rydym o'r farn ei bod yn rhesymol i bobl gael eu hasesu'n ariannol ar yr incwm y maent yn ei dderbyn.

(b) Peidio â chaniatáu ymrwymiadau cartref o £10 yr wythnos - Gwneir lwfans ymrwymiadau cartref o £10 yn ogystal â diystyru materion eraill i helpu gydag unrhyw filiau sydd ar y gweill tra bo'r person mewn gofal preswyl.

(c) Codi tâl ar bobl ifanc 18-21 mlwydd am seibiant tymor byr - Gan fod yr incwm y mae pobl 18-21 mlwydd oed yn ei dderbyn yn isel, mae'r tâl (os oes un o gwbl) hefyd yn isel iawn. Am hynny, byddai’r gost o asesu a chasglu'r incwm hwn yn fwy nag y byddem yn ei gasglu drwy daliadau.

1. Peidio â chodi ffi weinyddol flynyddol am drefnu gofal a chymorth mewn cartref gofal ar gyfer pobl sydd â mwy na £24,000 - Ystyriwyd y dewis hwn ac fe'i gwrthodwyd gan fod y rhain yn bobl yr ystyrir bod ganddynt yr asedau i allu talu eu costau gofal preswyl eu hunain heb unrhyw gymorth ariannol gan y Cyngor. Yn yr amgylchiadau hyn, gallwn helpu i drefnu gofal a chymorth i'r unigolyn ond rydym yn teimlo ei bod yn deg adennill y costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â hyn.

1. Codi tâl am wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol i ofalwyr – Ystyriwyd y dewis hwn ac fe'i gwrthodwyd oherwydd dengys tystiolaeth y gall cefnogi gofalwyr wneud cyfraniad gwerthfawr at gynorthwyo'r rheiny y maent yn gofalu amdanynt i aros yn eu cartrefi eu hunain am gyhyd ag y bo modd.

1. Codi ffi am wasanaethau ataliol a gwasanaethau a ddarperir mewn carchardai – Ystyriwyd y dewis hwn ac fe'i gwrthodwyd oherwydd bod y mathau hyn o wasanaethau yn gymorth i nifer fawr o bobl fyw'n dda ac yn annibynnol am hirach. Yn ei thro mae'r ymyrraeth gynnar hon yn lleihau'r tebygolrwydd o gymorth gofal cymdeithasol mwy dwys a chostus yn y dyfodol. Fel arfer nid yw carcharorion yn cael tâl ac ychydig iawn o incwm y maent yn ei dderbyn.

Effaith y cynnig

Mae sgrinio cychwynnol Asesiad Effaith Cydraddoldeb (AEC) wedi'i gwblhau yn barod ar gyfer pan fydd yr ymgynghoriad yn fyw a chaiff ei adolygu yn dilyn cwblhau'r ymgynghoriad hwn. AEC llawn i gael ei gwblhau ar ôl cyflwyno data.

Y broses ymgynghori

Yr amserlen arfaethedig ar gyfer gweithredu'r cynnig a'r weithdrefn

Gweithgaredd

Dyddiad 

Dyddiad cau ar gyfer ymateb

23 Chwefror 2017

Cyhoeddi'r adroddiad terfynol

13 Mawrth 2017

Adroddiad i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad

28 Mawrth 2017

Gweithredu posibl

10 Ebrill 2017

Adroddir canlyniadau'r ymgynghoriad (a gaiff eu cynnwys yn y cynnig yn yr adroddiad lle y bo'n bosibl) wrth Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Os mai'r penderfyniad fydd peidio â symud ymlaen, dyna fydd diwedd y cynnig hwn ac efallai y ceisir gwneud cynnig gwahanol.

Os derbynnir unrhyw rai o'r cynigion gan y Cabinet, y cynharaf y daw'r newid(iadau) i rym fydd 10 Ebrill 2017.

Sut i ymateb

Post: Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Llys y Gigfran, Aden 3, Lôn Bragdy, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AP.

Ffôn: 01656 643 664

E-bost:[email protected]: Cliciwch yma neu ymwelwch â www.bridgend.gov.uk/consultation

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 1 Rhagfyr 2016 ac yn diweddu ar 23 Chwefror 2017. Gellwch ymateb neu ofyn cwestiynau pellach yn y ffyrdd canlynol:

Mae fformatau gwahanol ar gael ar gais hefyd.

Ffurflen

Ffurflen - Newidiadau polisi arfaethedig ar godi tâl am ofal a chymort

Cynnig un

Mae'r Cyngor yn cynnig parhau i godi tâl am gost y gofal a'r cymorth mewn cartref gofal a’i gynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.

O dan y rheolau blaenorol roedd yn rhaid i’r Cyngor godi tâl ar ddefnyddwyr gwasanaeth am dderbyn gofal preswyl neu ofal nyrsio. O ganlyniad mae'r rhan fwyaf o bobl yn talu tuag at gost gofal a chymorth mewn cartref gofal. Mae'r incwm y mae'r Cyngor yn ei dderbyn drwy godi tâl ar bobl am y gwasanaethau hyn yn gyfraniad hanfodol i'r gyllideb ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion.

Q1. I ba raddau yr ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â chynnig un i godi tâl ar bobl a all fforddio i dalu tuag at eu gofal a chymryd chwyddiant i ystyriaeth? Nodwch un dewis yn unig.

Anghytuno'n gryf

Anghytuno

Dim yn cytuno nac yn anghytuno

Cytuno

Cytuno'n gryf

Cynnig dau

Mae’r Cyngor yn cynnig codi ffi weinyddol (niwtral o ran cost) am drefnu Cytundeb Taliadau Gohiriedig ar gyfer y rheiny sydd mewn gofal preswyl. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig codi llog ar unrhyw swm gohiriedig o dan Gytundeb Taliadau Gohiriedig o ddyddiad marwolaeth y person sy’n gohirio costau gofal gan gynnwys unrhyw gostau gweinyddol a ohiriwyd.

Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnig y dewis i'r rhai sy'n mynd i mewn i ofal preswyl neu ofal nyrsio ddefnyddio peth o werth eu heiddo fel gwarant yn erbyn ffioedd cartref gofal. Gelwir y trefniant hwn yn Gytundeb Taliadau Gohiriedig (CTG). O dan y Ddeddf, rhaid i'r Cyngor wneud y cytundeb hwn yn ffurfiol a gall godi ffioedd gweinyddol i dalu costau megis y ffi i gofrestru arwystl cyfreithiol gyda'r Gofrestrfa Tir, gwerthusiad yr eiddo a chostau eraill sy'n gysylltiedig â rheoli Cytundeb Taliadau Gohiriedig (CTG). Bwriad y trefniadau hyn yw gweithredu ar yr union swm y mae'n gostio i'r Cyngor weinyddu'r CTG. Codir llog ar yr ystâd ar unrhyw swm gohiriedig o dan Gytundeb Taliad Gohiriedig, gan gynnwys llog ar unrhyw gostau gweinyddol a ohiriwyd ar ôl marwolaeth y person sy'n derbyn gofal a chymorth o dan y CTG.

Q2. I ba raddau yr ydych chi'n cytuno neu’n anghytuno â chynnig dau i'r rheiny sy'n dewis gwneud Cytundeb Taliadau Gohiriedig dalu am eu gofal? Nodwch un dewis yn unig.

Anghytuno'n gryf

Anghytuno

Dim yn cytuno nac yn anghytuno

Cytuno

Cytuno'n gryf

Cynnig tri

Mae'r Cyngor yn cynnig codi tâl am unrhyw arosiadau seibiant dros dro mewn cartref gofal sy'n fwy nag wyth wythnos (ond nid yn arhosiad parhaol) o dan y rheolau preswyl.

a) O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 am arosiadau llai nag wyth wythnos, rhaid i'r Cyngor asesu fel pe bai’r person yn derbyn gofal a chymorth dibreswyl. Os bydd person yn aros yn hwy nag wyth wythnos ond nid yw’r arhosiad yn barhaol, mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried a ddylid parhau i godi tâl ar sail arhosiad tymor byr ynteu a ddylid cychwyn codi tâl fel pe bai’r person yn derbyn gofal preswyl.

b) At hynny, mae'r Cyngor yn cynnig parhau i ganiatáu lwfans ddewisol o £10 yr wythnos i unrhyw arhosiad tymor byr / dros dro yn ychwanegol at leiafswm yr incwm (y swm y mae Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai preswylydd ei gadw ar gyfer ei dreuliau personol ei hun).

c) Bydd y Cyngor yn parhau i beidio â chodi tâl am wasanaethau gofal seibiant tymor byr ar gyfer preswylwyr o dan 21 mlwydd oed.

Q3. I ba raddau yr ydych chi'n cytuno neu’n anghytuno â chynnig tri? Nodwch un dewis yn unig.

Anghytuno'n gryf

Anghytuno

Dim yn cytuno nac yn anghytuno

Cytuno

Cytuno'n gryf

Cynnig pedwar

Mae'r Cyngor yn awgrymu cyflwyno ffi flynyddol (niwtral o ran cost) i dalu am gostau gweinyddol trefnu gofal a chymorth mewn cartref gofal â darparwr gofal, pan ofynnir iddo wneud hynny. Ni fydd hyn yn effeithio ond ar breswylwyr gydag arbedion uwchlaw £24,000.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae modd i berson sy'n gallu fforddio talu’n llawn am ei ofal a’i gymorth mewn cartref gofal ofyn i'r awdurdod lleol drefnu hyn ar ei ran. Pan fydd y Cyngor yn ymrwymo i gontract gyda'r darparwr gofal ar ran y preswylydd, caiff godi ffi trefnu i dalu am y costau o sefydlu'r gofal a'r cymorth a ddarperir.

Q4. I ba raddau yr ydych chi'n cytuno neu’n anghytuno â chynnig pedwar? Nodwch un dewis yn unig.

Anghytuno'n gryf

Anghytuno

Dim yn cytuno nac yn anghytuno

Cytuno

Cytuno'n gryf

Cynnig pump

Mae'r Cyngor yn cynnig parhau i beidio â chodi tâl am wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol i ofalwyr sy'n cael eu darparu o ganlyniad i asesiad gofalwr.

Mae asesiad gofalwr yn asesiad a ddarperir i unrhyw un sydd mewn rôl gofalu, ac mae'n edrych ar y cymorth a'r gefnogaeth y gall y Cyngor ei gynnig i'r gofalwr er mwyn parhau yn ei rôl o ofalu.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i godi tâl am wasanaethau a ddarperir i ofalwyr. Fodd bynnag, ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hanesyddol, nid oes taliadau wedi'u codi am wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol i'r gofalwr pan fo'r gwasanaeth hwnnw yn ganlyniad asesiad y gofalwr.

Q5. I ba raddau yr ydych chi'n cytuno neu’n anghytuno â chynnig pump? Nodwch un dewis yn unig.

Anghytuno'n gryf

Anghytuno

Dim yn cytuno nac yn anghytuno

Cytuno

Cytuno'n gryf

Cynnig chwech

Mae'r Cyngor yn cynnig parhau i beidio â chodi ffi am wasanaethau ataliol a gwasanaethau a ddarperir mewn carchardai.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu, neu gynnig amrywiaeth o wasanaethau ataliol, i fod o gymorth i fynd i'r afael â phroblemau er mwyn atal, gohirio neu leihau'r angen am ofal a chymorth ychwanegol yn y dyfodol.

Mae'r Ddeddf yn datgan y dylai awdurdodau lleol osgoi sefyllfa lle y mae’r taliadau yn cael yr effaith mai ychydig o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau ataliol, gyda’r canlyniad bod mwy o bobl yn datblygu anghenion gofal a chefnogaeth, naill ai ar lefel uwch neu ar bwynt cynharach.

Yn hanesyddol, nid yw'r Cyngor wedi codi ffi am wasanaethau ataliol er mwyn helpu'r holl breswylwyr sydd angen cefnogaeth o'r fath. Yn yr un modd, rydym yn cynnig peidio â chodi tâl am wasanaethau a ddarperir i bobl mewn carchardai. Byddai rhaid cydbwyso unrhyw incwm a gynhyrchid yn erbyn y gost o gasglu'r tâl.

Yn yr un modd, mae'r Cyngor yn cynnig peidio â chodi tâl am wasanaethau a ddarperir i bobl mewn sefydliadau diogel. Byddai rhaid cydbwyso unrhyw incwm a gynhyrchid yn erbyn y gost o gasglu'r tâl.

Q6. I ba raddau yr ydych chi'n cytuno neu’n anghytuno â chynnig chwech? Nodwch un dewis yn unig.

Anghytuno'n gryf

Anghytuno

Dim yn cytuno nac yn anghytuno

Cytuno

Cytuno'n gryf