Upload
mare
View
533
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Treiglo. Beth yw ‘ treiglo ’ a ‘ threigladau ’?. Gall llythrennau cyntaf rhai geiriau newid weithiau . e.e . Gall ‘c’ ddechreuol ‘ cath ’ ymgyfnewid ag ‘g’ , ‘ ngh ’ neu ‘ ch ’ : gwelais g ath fy ngh ath ei ch ath - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Treiglo
Beth yw ‘treiglo’ a ‘threigladau’?
Gall llythrennau cyntaf rhai geiriau newid weithiau.e.e. Gall ‘c’ ddechreuol ‘cath’ ymgyfnewid ag ‘g’, ‘ngh’ neu ‘ch’:
gwelais gathfy nghathei chath
Digwydd hynny am eu bod, fel arfer, yn dilyn rhyw air neu eiriau sy’n achosi’r newid. Mae’r newid hwnnw, yn ei dro, yn ei gwneud hi’n haws i ni ynganu’r geiriau efo’i gilydd.
Treiglo yw’r enw ar y newid hwn.Treiglad yw’r hyn a achosir.
Treigladau
Er mor sylfaenol yw treiglo i ramadeg y Gymraeg, dim ond ar naw cytsain y gall effeithio:
p, t, c, b, d, g, ll, m, rh.
Canolbwyntir yma ar y mannau sy’n achosi trafferthion; am ymdriniaeth lawn ar reolau treiglo gweler:- Morgan, T. J., Y Treigladur a’u Cystrawen (Caerdydd, 1952)- Lewis, D. Geraint, Y Treigladur (Llandysul, 1994)
p t c
b d g
ll m rh
1. Y treiglad meddal
2. Y treiglad trwynol
3. Y treiglad llaes
Ceir tri math o newid neu dreiglad:
Y Treiglad Meddal
Mae pob un o’r naw cytsain yma’n treiglo’n feddal:
p, t, c, b, d, g, ll, m, rh.
Y treiglad meddal yw’r un sy’n digwydd amlaf o bell ffordd.
Y Treiglad TrwynolY chwe llythyren gyntaf yn unig sy’n treiglo’n drwynol:
p, t, c, b, d, g.
Y Treiglad Llaes Y tair llythyren gyntaf sy’n treiglo’n llaes:
p, t, c.
Cytsain Tr. Meddal Tr. Trwynol Tr. Llaesp b mh pht d nh thc g ngh chb f md dd ng - ngll fm lrh r
Treigladau
Rhagenwau a threigladau
Rhagenwau a threigladauRhagenw = gair sy’n cael ei ddefnyddio yn lle enw.
Person Unigol Lluosog1af fy ein2il dy eich
3ydd ei (gwr.)ei (ben.)
eu
Rhagenwau Dibynnol Blaen
Tasg 1Yn eich grwpiau, ceisiwch ddidoli’r cardiau
gan eu paru’n gywir, yn y drefn canlynol:FyDyEi (ben.)Ei (gwr.)EinEich Eu
Atebion
Fy nghathDy gathEi (ben.) chathEi (gwr.) gathEin cathEich cathEu cath
Ei (gwr.) Dy Treiglad Meddal
Fy Treiglad Trwynol
Ei (ben.) Treiglad Llaes
Cytsain Enw MEDDALei (gwr.) + dy
TRWYNOLfy
LLAESei (ben.)
P Pen ei/dy ben fy mhen ei phenT Troed ei/dy droed fy nhroed ei throedC Coes ei/dy goes fy nghoes ei choesB Braich ei/dy fraich fy mraichD Dant ei/dy ddant fy nantG Gwddw ei/dy wddw* fy ngwddwLl Llaw ei/dy lawM Migwrn ei/dy figwrnRh Rhan ei/dy ran
* g > _
Y ffordd hawsaf i ddangos patrwm y treigladau, ac i’ch helpu i gofio’r treigladau, yw drwy ddefnyddio’r tabl canlynol:
Felly, y rheolau yw:
Ceir treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen trydydd unigol gwrywaidd ‘ei’.
Ceir treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ail unigol ‘dy’.
Ceir treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen cyntaf unigol ‘fy’.
Ceir treiglad llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen trydydd unigol benywaidd ‘ei’.
Enghraifft o gwestiwn tebygol
1. Mae fy cath yn wael.
Enghraifft o gwestiwn tebygol
1. Mae fy cath yn wael.
Camgymeriad Cywiriad Rheswm
fy cath fy nghath Ceir treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol
blaen, cyntaf unigol ‘fy’.
TASG 2
Cwestiynau anodd!
1. Gwêl y bardd lawer o’u gerddi mewn cylchgronnau.
Cwestiynau anodd!
1. Gwêl y bardd lawer o’u gerddi mewn cylchgronnau.Camgymeriad Cywiriad Rheswm
o’u gerddi o’i gerddi Mae angen y rhagenw dibynnol blaen trydydd unigol gwrywaidd yma yn hytrach na’r trydydd person lluosog i gyd-fynd â’r enw lluosog ‘cylchgronnau’.
Cwestiynau anodd!
2. Carwn fod ar ben fy hun heddiw gan nad yw hi wedi cysylltu â fi.
Cwestiynau anodd!
2. Carwn fod ar ben fy hun heddiw gan nad yw hi wedi cysylltu â fi.
Camgymeriad Cywiriad Rheswm
ar ben ar fy mhen Mae angen defnyddio’r rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’
yma. Mae’r rhagenw dibynnol blaen, person
cyntaf unigol ‘fy’ yn achosi treiglad trwynol.
Cwestiynau anodd!
3. Mae’r bachgen yn dangos ei theimladau iddyn nhw’n amlwg iawn ar y cae rygbi.
Cwestiynau anodd!
3. Mae’r bachgen yn dangos ei theimladau iddyn nhw’n amlwg iawn ar y cae rygbi.
Camgymeriad Cywiriad Rheswm
ei theimladau ei deimladau Camdreiglad. Mae angen treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen trydydd unigol gwrywaidd ‘ei’. / Mae’r rhagenw’n cyfeirio at fachgen felly mae angen treiglad meddal.
TASG UNIGOL