Upload
city-and-county-of-swansea
View
237
Download
5
Embed Size (px)
DESCRIPTION
summer newsletter healthy preschool scheme 2012 welsh version
Citation preview
Croeso i rifyn cyntaf…
Cylchlythyr Cyn-ysgol Iach Abertawe. Bydd hwn yn gyhoeddiad chwarterol a anfonir i bobl lleoliad cyn-ysgol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn lleol.
Lansiwyd y Cynllun Cyn-ysgol Iach yng
Nghanolfan Ddatblygu Richard Ley ar 21
Chwefror 2012.
Nod y lansiad oedd cynyddu
ymwybyddiaeth lleoliadau cyn-ysgol a
sefydliadau partner o’r Cynllun Cyn-
ysgol Iach.
Bu’r lansiad yn llwyddiannus, gyda mwy
na 30 lleoliad cyn-ysgol yn mynegi
diddordeb yn y cynllun.
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth; y gwesteion a’r siaradwyr.
Sefydlwyd gwefan y Cynllun Cyn-ysgol Iach yn ddiweddar, ewch i:
http://www.swansea.gov.uk/index.c
fm?articleid=49220 Mae’r wefan yn cynnwys
gwybodaeth am y saith pwnc a gynhwysir yn y Cynllun Cyn-ysgol
Iach. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dolenni i wefannau defnyddiol â gwybodaeth am
faterion iechyd.
Mae’n ffordd wych o rannu arferion da
gyda lleoliadau cyn-ysgol eraill a dathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau. Bob
chwarter byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn am wybodaeth gan bob lleoliad cyn-ysgol sydd eisiau ymddangos yn y
cylchlythyr. Efallai y bydd rhai rhifynnau yn canolbwyntio ar thema benodol, fel y
rhifyn hwn, sy’n canolbwyntio ar rannu
arferion da gydag eraill.
Rhifyn 1 Haf 2012
Bydd y gemau gweithredu yn
ddefnyddiol iawn, ac rwy’n
gwybod y bydd y plant yn eu
mwynhau yn fawr
Cynhaliwyd Hyfforddiant Traed Prysur yng Nghanolfan Richard Ley ar 23 Ebrill 2012. Darparwyd yr hyfforddiant er mwyn
cynyddu hyder i ddarparu gweithgareddau corfforol mewn lleoliadau cyn-ysgol.
Roedd y sesiwn yn cynnwys arddangosiadau gweithgarwch corfforol a
gweithgareddau gyda bwyd. Roedd potiau drewllyd, gemau cyffwrdd a chreu delweddau gyda gweddillion bwyd
hefyd yn rhan o’r gweithgareddau.
Roedd y gweithgareddau
corfforol yn gwneud i ni
feddwl o ddifrif am sut y
gallem ddefnyddio’r pecyn
gyda’r plant yn ein lleoliad
Mae Dechrau’n Deg Waun Wen
yn gwneud gwaith ardderchog
gyda’r Plât Bwyta’n Iach.
Edrychwch ar gynnwys siwgr y losin a’r diodydd gwahanol!!
Dysgu sut i frwsio fy nannedd, diolch i Cynllun Gwên
Isod mae rhai sylwadau o’r ffurflenni gwerthuso:
“Mwynhaom ni’n dau, ac mae fy mhlentyn yn
bwyta ffrwythau gwahanol ar ôl eu treial yma”
“Rwyf i a fy mhlentyn wedi mwynhau popeth
am y cwrs”
“Rydym ni’n dau wedi mwynhau’r cwrs ac mae
wedi rhoi syniadau i mi eu ceisio adref”
Mae hwn yn syniad gwych i leoliadau sy’n gallu darparu sesiynau rhieni!!
Os nad ydych yn gallu darparu sesiynau
rhieni, efallai y byddai anfon ryseitiau
gartref neu gynnwys rysáit mewn cylchlythyr neu ar hysbysfwrdd yn ffordd
neis o anfon negeseuon gartref am y gwaith rydych chi’n ei wneud yn eich
lleoliadau.
Yn Dechrau’n Deg
Pentrechwyth rydym wedi bod yn cynnal sesiynau
coginio 6 wythnos i rieni a phlant bach wedi’u seilio ar hwyl, bwyd a chwarae actif
i blantos bach!!
Wythnos Caru Parciau 21/07/2012 - 29/07/2012
Wythnos Genedlaethol Gordewdra Plant 05/07/2012 - 11/07/2012
Wythnos Bwydo ar y Fron 01/08/2012 - 07/08/2012
Wythnos Genedlaethol y Teulu 25/08/2012 - 31/08/2012
Catrin Jones, Ymarferydd Cyn-ysgol Iach 01792 607375
Tîm Iechyd y Cyhoedd ABM Llawr 12, Canolfan Oldway, 36 Stryd y Berllan,
Abertawe SA1 5AW