Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
1
STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL TORFAEN:
ASESIAD O ANGEN TOILEDAU TORFAEN 2018
Cynnwys
Tudalen 2: Cyflwyniad
Tudalen 3: Gwybodaeth Gyffredinol am Dorfaen
Tudalen 4: Iechyd
Tudalen 5: Amcanestyniadau Demograffaidd
Tudalen 6: Tlodi
Tudalen 7: Cymudo
Tudalen 8: Twristiaeth a Digwyddiadau
Tudalen 11: Ymgysylltiad
Arolwg Toiledau Lleol, t.11
Arolwg Newid Babanod, t.24
Tudalen 28: Y Ddarpariaeth Bresennol
Toiledau cyhoeddus sy’n eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan CBST, t.28
Adeiladau CBST sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd, t.29
Cynghorau Cymuned, t.29
Adeiladau eraill yn y sector cyhoeddus sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd, t.29
Eiddo yn y trydydd sector sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd, t.29
Cyfleusterau toiled Canolfan Cwmbrân, t.30
Gorsafoedd petrol â chyfleusterau toiled, t.30
Archfarchnadoedd â chyfleusterau toiled, t.30
Cynllun Cenedlaethol Changing Places, t.30
Tudalen 31: Argaeledd Allwedd Radar
Tudalen 31: Atodiadau
Tudalen 31: Ffynonellau
2
Cyflwyniad
Ymgymerwyd â’r asesiad yma mewn ymateb i Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru)
2017, Rhan 8, sy’n gofyn i awdurdodau lleol i ymgymryd ag Asesiad o Angen mewn
perthynas â thoiledau cyhoeddus ac, i ddefnyddio’r Asesiad o Angen yma i drwytho
Strategaeth Toiledau Lleol .
Mae mynediad i doiledau yn cefnogi pobl i fynd allan a theimlo’n hyderus bod modd
iddyn nhw ddefnyddio toiled yn ddiogel, os bydd angen. Dyma’r sefyllfa i bobl o bob
oed, os oes ganddyn nhw gyflwr iechyd ai peidio. I’r rheiny sydd ag angen am doiled
yn fwy aml neu ar frys, maen nhw’n aml yn cynllunio’u teithiau o gartref ar sail a oes
toiled ar gael neu dydyn nhw ddim yn mynd allan o gwbl. Gall hyn arwain at
arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd ac mae’n effeithio pobl o bob oed.
Mae Sefydliad y Bledren a’r Coluddyn yn honni fod gan tua 14 miliwn o bobl yn y DU
broblem rheoli’r coluddyn (tua 1 o bob 5 o bobl) ac mae tua 6.5 miliwn yn dioddef â
phroblem rheoli’r coluddyn sy’n drafferthus iddyn nhw (tua 1 o bob 10 o bobl)1.
Mae gan Dorfaen boblogaeth o tua 92,3002. Mae allosod y ffigyrau uchod yn
awgrymu bod tua 18,460 o bobl yn Nhorfaen â phroblem rheoli’r bledren a 9,230 o
bobl yn Nhorfaen yn dioddef â phroblem rheoli’r coluddyn sy’n drafferthus iddyn nhw.
Yn amlwg, mae bod toiledau ar gael yn cael effaith sylweddol ar allu nifer o bobl i fyw
eu bywyd pob dydd, a gall gael effaith ar gynhwysiant cymdeithasol, bywyd teuluol,
lefelau gweithgaredd corfforol a gallu pobl i deithio i’r gwaith. Pwrpas y ddogfen hon
yw asesu’r anghenion yma yng nghyd-destun y ddarpariaeth gyfredol o doiledau yn
Nhorfaen.
Yn ogystal ag edrych ar Dorfaen yn gyfan gwbl, rydym wedi edrych ar ein tair prif
ardal – Blaenafon (poblogaeth: 6,171), Pont-y-pŵl (37,220) a Chwmbrân (48,661)3 –
a’r cymunedau sydd ynddyn nhw. Rydym wedi canolbwyntio ar gryfderau ac
asedau’n cymunedau a’r seilwaith sylfaenol – ac mae toiledau’n rhan bwysig o hynny
– sy’n galluogi pobl i fyw eu bywydau pob dydd.
Does dim rheidrwydd statudol i awdurdodau lleol ddarparu toiledau cyhoeddus, ac
mewn nifer o ranbarthau’r DU, mae cynghorau wedi cau’r cyfleusterau toiled neu rhai
ohonyn nhw, neu wedi dechrau codi tâl i’w defnyddio. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol
Torfaen yn cynnal nifer o flociau toiled traddodiadol gyda mynediad am ddim ac yn
caniatáu mynediad i doiledau yn nifer o’n hadeiladau. Ar hyn o bryd (Hydref 2018)
does dim toiledau yn y fwrdeistref sy’n gofyn i bobl dalu i’w defnyddio.
Wrth ddatblygu’r Strategaeth Toiledau Lleol, gan gynnwys yr Asesiad o Angen yma,
rydym wedi ystyried a oes toiledau ar gael mewn adeiladau fel siopau, caffis, bwytai,
tafarndai a garejys, y mae nifer dda ohonyn nhw’n darparu cyfleusterau a all fod yn
rhywle i ruthro atyn nhw ar frys. Gan fod busnesau’n darparu’r toiledau yma’n
bennaf, ac weithiau’n unswydd, ar gyfer defnydd cwsmeriaid, edrychodd ein
hasesiad hefyd ar p’un a yw trigolion yn teimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio toiledau
3
busnesau heb brynu rhywbeth ac a fydden nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus pe bai
busnesau’n arddangos arwyddion i ddangos bod eu toiledau ar gael i bobl nad sy’n
prynu cynnyrch neu wasanaeth.
Gwybodaeth gyffredinol am Dorfaen
Mae Torfaen yn 126km2 a hi yw’r 3ydd lleiaf o fwrdeistrefi Cymru. Mae yna dair prif
ardal sef Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon gyda chymunedau llai yn cysylltu’r trefi
yma ar hyd y cwm. Mae Torfaen hefyd yn cynnwys cefn gwlad gan gynnwys
ucheldiroedd ym mhen uchaf y cwm o amgylch Blaenafon (a ddynodir yn Safle
Treftadaeth y Byd) ac ochrau’r cwm, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, camlas a
glannau afonydd, parciau a thir fferm.
Mae CBS Torfaen yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i reoli bioamrywiaeth
ac adnoddau naturiol yn y fwrdeistref ac o’i hamgylch yn ogystal â’r amgylchedd
sydd wedi ei adeiladu, heolydd lleol a phriffyrdd.
Mae poblogaeth Torfaen yn cynnwys 28,010 o blant a phobl ifanc (0 i 25 oed) ar hyn
o bryd; 45,330 o oedolion (26 i 64 oed); a 18,460 o bobl hŷn (65 oed a throsodd)4.
Mae rhagolygon ynglŷn â phoblogaeth yn dweud wrthym ni y bydd nifer y bobl 0 i 64
oed yn gostwng dros y 20 i 30 mlynedd nesaf, bydd nifer y bobl hŷn yn codi (newid
mewn niferoedd genedigaethau a disgwyliadau einioes cynyddol), er y gall y newid
yn y ffigyrau yma amrywio gan ddibynnu ar adeiladu tai, denu pobl i fyw yn yr ardal,
cadw’n pobl ifanc i fyw’n lleol a bod yn gymuned economaidd lewyrchus.
Mae Asesiad Lles Torfaen (2017) a gwblhawyd gan Fwrdd Iechyd Cyhoeddus
Torfaen o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac Asesiad
Anghenion Poblogaeth Gwent (2017) a gwblhawyd gan Fwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gwent o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014, yn rhoi gwybodaeth helaeth ar iechyd, a llesiant cymdeithasol, economaidd,
amgylcheddol a diwylliannol y boblogaeth ar draws Torfaen. Gan ddefnyddio’r
wybodaeth yma ynghyd â’r wybodaeth o’n hymgysylltiad cyhoeddus ar doiledau lleol
yn ystod yr haf / hydref cynnar 2018, rydym wedi gallu creu darlun o’r angen ar
draws Torfaen.
Mae gwaith pellach mewn perthynas â datblygu strategaeth toiledau lleol i Dorfaen
wedi cynnwys mapio’r ddarpariaeth gyfredol o doiledau i’r cyhoedd, gan nodi bylchau
yn y ddarpariaeth ac ymgysylltiad eang gyda phobl ar draws ein cymunedau.
4
Iechyd
Mae’r darlun Iechyd yn Nhorfaen yn un amrywiol, o gymunedau difreintiedig gyda
lefelau isel o iechyd da a lefelau isel o ddisgwyliad oes iach (ble bydd gan berson
gyfnod byr o iechyd da, ac yna cyfnod hir o iechyd gwael cyn marw), at bobl sydd â
lefelau uchel o iechyd da a lefelau uchel o ddisgwyliad oes iach (ble bydd gan
berson gyfnod hir o iechyd da, ac yna cyfnod byr / dim cyfnod o iechyd gwael cyn
marw’n hen).
Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru (2014/15) mae dros hanner poblogaeth oedolion Torfaen
yn dweud eu bod wedi cael triniaeth am salwch meddyliol neu gorfforol cronig5.
Mae iechyd gwael a chyflyrau cronig fel canser, cyflyrau’r galon, strôc, diabetes,
cyflyrau cyhyrysgerbydol, bod yn ordew neu fod â phwysau uchel ac iechyd meddwl
gwael, yn gallu achosi trafferthion i bobl yn ddyddiol. Tra bod gwasanaethau iechyd
a gofal cymdeithasol yn gweithio i drin a chefnogi’r bobl hynny sy’n derbyn
canfyddiad meddygol, mae gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cydweithio i ddarparu
amrywiaeth o grwpiau cefnogaeth a gwasanaethau cymunedol ac i hybu
ymddygiadau a ffyrdd o fyw’n iach.
Er gwaethaf manteision bod yn weithgar, ychydig o dan draean (30.8%) o drigolion
Torfaen sy’n dweud eu bod yn cwrdd â’r canllawiau ar weithgaredd corfforol (AIC
2014/15) ar gyfer ymarfer corff ar gyfer iechyd [5]. Mae cyfran y bobl sy’n cael digon
o weithgaredd corfforol i fod o fudd i’w iechyd yn Nhorfaen a Chymru dros y degawd
diwethaf wedi aros yn gyson. Mae dros draean poblogaeth Torfaen yn dweud eu bod
yn gorfforol segur; mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig. Mae afiechydon
cylchredol yn un o brif achosion marwolaeth yn Nhorfaen ac mae’n hysbys fod
segurdod corfforol yn ffactor yn hyn.
Mae dau allan o dri o oedolion rhy drwm neu’n ordew (62%, AIC 2014/15), yn uwch
na Chymru (59%) [5]. Mae cofrestrau afiechydon meddygon teulu yn dangos bod
bron i 6,000 o drigolion Torfaen â diabetes6.
Mae dros chwater y plant yn y flwyddyn derbyn (4-5 oed) yn Nhorfaen eisoes yn rhy
drwm neu’n ordew (28.6%) sydd yn uwch na chyfartaledd Cymru o 26.2%7. Mae
disgwyl i gyfraddau gordewdra godi ymhellach ymhlith cenedlaethau’r dyfodol, gan
greu problem sylweddol i iechyd a lles a chynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus
yn y dyfodol.
Mae Cymdeithas Genedlaethol Colitis a Chlefyd Crohn (NACC) yn elusen
genedlaethol sy’n cynnig cefnogaeth o bobl sydd â Cholitis neu Glefyd Chron -
clefydau sy’n gallu taro ar unrhyw oed. Mae Colitis Briwiol a Chlefyd Chron, sy’n cael
eu hadnabod ar y cyd fel Clefyd Coluddyn Llidiol, yn effeithio ar tua 1 ym mhob 400
o bobl sy’n byw yn y DU8. Mae’r angen sydyn nad oes modd ei reoli i ddefnyddio
toiled yn symptom dilys a chydnabyddedig o Glefyd Coluddyn Llidiol. Mae cael
‘damwain’ mewn lle cyhoeddus yn destun pryder o’r mwyaf i bob claf a gall gael
effaith andwyol ar eu gallu i ymgymryd â gweithgareddau dydd i ddydd fel mynd i’r
gwaith, siopa neu gymdeithasu.
5
Rhaid gweld ein lles meddyliol fel adnodd am oes, gan ddylanwadu ar sut yr ydym
yn meddwl ac yn teimlo ynglŷn â ni’n hunain ac eraill, sut yr ydym yn dehongli
digwyddiadau ac felly sut yr ydym yn ymddwyn ac yn gweithredu mewn bywyd dydd i
ddydd.
Mae Sgôr Gryno yr Elfen Feddyliol ar gyfartaledd (AIC, 2014/15) ar gyfer Torfaen yn
48.7, sydd ychydig yn is na Chymru (49.4) sy’n golygu fod gan Dorfaen les meddyliol
ychydig yn llai na Chymru gyfan5.
Mae ein Dangosyddion Dyfodol Iach (AICC, 2015) yn dangos bod bron i draean
(31%) trigolion Torfaen yn dweud bod ganddyn nhw broblem iechyd meddwl
gyffredin9.
Dros y deg mlynedd ddiwethaf, mae astudiaethau i effaith unigrwydd ac
arwahanrwydd cymdeithasol ar iechyd pobl wedi dangos y gall fod yn ffactor fawr
mewn lleihau iechyd a lles pobl wrth iddyn nhw heneiddio, yn gysylltiedig ag iechyd
meddwl gwael chyflyrau fel clefyd cardiofasgwlar, gorbwysedd a dementia. Mae’r
risgiau yn debyg i ysmygu a gordewdra. (Holt-Lunstad, 2015 /Hawkley et al, 2010)10.
Mae aelwydydd sengl ymhlith pobl hŷn yn cynyddu, yn rhannol oherwydd bod
ysgariad yn cynyddu ymhlith y rhai dros 60 oed (gan wrthdroi’r tueddiad o gyfraddau
ysgariad sy’n lleihau ymysg y boblogaeth gyfan) a thrwy bobl sy’n dewis byw ar eu
pennau’u hunain, yn ogystal â phrofedigaeth partner neu gymar. Tra bod rhai pobl yn
ymdopi’n dda wrth fyw ar eu pennau’u hunain, mae eraill yn cael hyn yn anodd. Gall
hyn fod ar lefel ymarferol, ond yn aml mae o ganlyniad i ddiffyg cwmnïaeth, o fod
heb rywun i rannu meddyliau a syniadau â nhw a gweld eisiau’r anogaeth a’r
ysgogiad meddyliol i gymryd rhan mewn gweithgareddau - yn y cartref a’r tu allan
mewn gweithgareddau gwaith, dysgu neu gymdeithasol.
Nid yw unigrwydd ac arwahanrwydd yn gysylltiedig â phobl hŷn yn unig, gall
ddigwydd waeth beth yw’r cefndir cymdeithasol, oed, hil, uniaethiad rhywiol, tueddiad
rhywiol, statws ariannol neu ddaearyddiaeth a gall effeithio ar gydlyniad cymunedol.
Mae nifer o bobl ifanc yn dweud eu bod yn teimlo’n unig. Serch hynny, mae
arwahanrwydd sy’n gysylltiedig ag oedran yn cynyddu gyda thlodi ac mae pobl dlawd
yn fwy tebygol o gael eu hynysu pan fyddan nhw'n ifanc na’r rheiny nad sy’n dlawd.
Mae mynd allan yn bwysig i iechyd corfforol a meddyliol a gall cael mynediad i doiled
fod yn ffactor allweddol i fod rhywun yn mynd allan i’w cymuned leol. Mae hyn yn
arbennig o bwysig i nifer o bobl hŷn, pobl sydd â chyflwr iechyd sy’n golygu bod
angen iddyn nhw ddefnyddio toiled yn aml ac i deuluoedd â phlant ifanc.
Amcanestyniadau Demograffaidd
Mae amcanestyniadau yn dangos y bydd canran y boblogaeth gyfan yn Nhorfaen,
sy’n 65 oed a throsodd yn codi o 20.1% yn 2016 i 28.3% erbyn 2039 ac mae disgwyl
i nifer trigolion Torfaen sy’n 85 oed a throsodd mwy na dyblu yn y 23 mlynedd nesaf,
o 2,372 yn 2016 i 5,595 yn 2039; cynnydd o 136%11.
6
Y darlun ehangach i Dorfaen, fel gweddill Cymru, yw bod disgwyliadau einioes a’r
gyfradd o farwoldeb cynnar yn gwella. Serch hynny, o dan y darlun hwnnw, mae yna
anghydraddoldebau mawr mewn iechyd a chlefydau gyda bod pobl yn byw’n hirach
gydag amrywiaeth a chymhlethdod o gyflyrau iechyd cronig.
Bydd angen i ni ystyried cynnydd yn y nifer o bobl hŷn yn y dyfodol wrth gynllunio’n
gwasanaethau. Mae angen i ni feddwl hefyd ynglŷn â sut y byddan nhw’n mynd i ac
yn ymdopi â’r amgylchedd naturiol a’r amgylchedd sydd wedi ei adeiladu, a rôl
toiledau wrth hwyluso hyn. Mae cadw pobl yn iach ac yn annibynnol yn eu henoed
yn rheidrwydd ac mae buddsoddiad mewn cynnal lefel rhesymol o gyfleusterau
toiledau cyhoeddus sy’n cefnogi gweithgaredd corfforol ac annibyniaeth yn gallu bod
yn gost-effeithiol yn y tymor hir.
Tlodi
Yn gyfan gwbl yn Nhorfaen, mae 1 o bob 5 aelwyd yn byw ag amddifadedd materol
(mae hyn yn cynnwys eitemau fel bwyd, gwres, nwyddau gwydn a biliau’r cartref);
uwch, ond nid yn wahanol iawn yn ystadegol o gymharu â Chymru (Arolwg
Cenedlaethol Cymru)12.
Mae dros hanner yr aelwydydd ym Mlaenafon a bron i hanner yr aelwydydd ym
Mhont-y-pŵl yn byw ar incwm is (£0k - £20k). Mae un o bob pump o drigolion yn y
ddwy dref wedi eu hamddifadu o ran incwm ac mae gan Bont-y-pŵl lefelau arbennig
o uchel o drigolion sydd â salwch tymor hir neu’n anabl13.
Mae gan Gwmbrân lefelau ychydig yn uwch o incwm yn yr aelwyd ond eto mae
ganddi lefelau uwch o bobl sy’n hawlio budd-daliadau na Chymru ac mae canran y
tai sydd ‘mewn tlodi’ yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru13.
Tra bod nifer o awdurdodau ar draws y DU, yn arbennig yn Lloegr, wedi cyflwyno
taliadau i fynd i mewn i doiledau cyhoeddus, fel arfer rhwng 20c a 50c, nid yw CBS
Torfaen yn codi ar gyfer defnyddio toiledau cyhoeddus a does dim cynlluniau i
wneud hynny. Awgrymodd ein hymgysylltiad y byddai 60% o’r rhai a ymatebodd (136
o bobl) “yn fodlon talu tâl rhesymol i ddefnyddio toiledau cyhoeddus pe bai hyn yn
cael ei ddefnyddio i ariannu gwelliannau mewn cyfleusterau toiledau”, er bod 22%
(50 o bobl) yn anghytuno gyda’r gosodiad hwn. Rhaid i ddata o gylch tlodi yn ein
hardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd fod yn ystyriaeth bwysig.
Gallai cyflwyno taliadau hefyd effeithio menywod yn fwy na dynion. Ar draws
Torfaen, Cymru a Phrydain Fawr, mae yna fwlch sylweddol mewn cyflogau i ddynion
a menywod mewn gwaith amser llawn, gyda menywod yn ennill llai yn sylweddol.
Hefyd, mae’r cyflog wythnosol ar gyfartaledd yn Nhorfaen i ddynion a menywod yn is
na Chymru, sydd yn ei thro yn is na chyfartaledd Prydain Fawr14.
7
Cymudo
Yn ddaearyddol, mae Torfaen yn ymestyn o Flaenau’r Cymoedd yn y gogledd i
goridor yr M4 yn y de ac mae yna dair prif dref ar hyn y ffordd - Blaenafon, Pont-y-
pŵl a Chwmbrân.
Mae mwyafrif y boblogaeth yn dibynnu ar gar ar gyfer ei siwrnai i’r gwaith ac mae
yna gymudo sylweddol i mewn ac allan er mwyn cyrraedd cyfleoedd gwaith. Mae
gan 83.1% o drigolion Torfaen sydd mewn gwaith fynediad at gar neu fan fel
trafnidiaeth i’w gweithle15.
Mae ychydig dros (51%) o drigolion sy’n gweithio yn teithio i leoedd gwaith i’r tu allan
i Dorfaen. Mae canrannau mwyaf trigolion Torfaen yn gweithio yng Nghwmbrân
(12435 allan o 40415 (poblogaeth Torfaen sy’n gweithio) = 31%), ac yna Pont-y-pŵl
(6423/16%), yna Casnewydd (6064/15%), Sir Fynwy (2459/6%), Caerdydd
(2055/5%) a Chaerffili (1051/3%)13.
Er mwyn cynllunio ar gyfer lles ein cymunedau yn y dyfodol mae angen i ni hefyd
ystyried ffactorau eraill a allai ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn teithio at
ddibenion gwaith trwy’r fwrdeistref. Gallai Bargen Ddinesig Caerdydd, Brexit,
newidiadau i bolisi cenedlaethol ar lefel y DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru a
chael gwared ar dollau ar Bont Hafren effeithio ar benderfyniadau pobl ynglŷn â ble
maen nhw’n gweithio a/neu sut maen nhw’n teithio i’r gwaith.
Mae yna ddatblygiadau newydd ar y gweill hefyd. Bydd agor yr ysbyty newydd ym
Mhlas Llanfrechfa yn cynyddu gweithlu’r GIG yn Nhorfaen, yn ogystal â thraffig ar
hyd yr A4042.
Oherwydd y tir addas sydd ar gael, mae datblygiadau tai wedi eu canolbwyntio yn
ne’r fwrdeistref. Bydd hyn yn cael effaith ar nifer y bobl sy’n cymudo o’r ardal hon ac,
o ganlyniad, hyd siwrneiau ar adeg oriau brig.
Gyda’r oedran pensiwn gwladol yn cael ei godi i 68 a mwy dros y blynyddoedd
nesaf, dylem hefyd ystyried y bydd pobl yn cymudo ymhellach i mewn i oed hŷn.
Bydd anghynhwyster a phroblemau gyda’r bledren – sydd wrth gwrs yn gallu effeithio
ar gymudwyr iau hefyd – yn datblygu’n broblem fwy wrth i weithwyr heneiddio.
Does dim data lleol sy’n ein helpu i gysylltu defnyddio toiledau gyda phatrymau
teithio. Wrth gynhyrchu’r Asesiad o Angen yma fe edrychon ni felly ar ddau brif
ffactor:
1. Faint o doiledau sydd ar gael mewn garejys a lleoliadau cyfleus eraill ar hyd y
prif ffyrdd cymudo?
2. A yw trigolion Torfaen wedi profi anhawster wrth gymudo i’r gwaith oherwydd
diffyg cyfleusterau toiled rhwng eu cartref a’u lle gwaith.
Mae Torfaen yn 126km2 a hi yw’r drydedd fwrdeistref leiaf yng Nghymru. O
ganlyniad darnau cymharol fyr o heol sydd rhwng ei phrif drefi. Dangosodd ein
gwaith mapio mai’r pellter mwyaf rhwng toiledau ar hyd unrhyw ffordd yw 6 milltir
(A4043 - Blaenafon i Bont-y-pŵl). Rydym wedi nodi bod toiledau yng Nghanolfan
Adnoddau Tŷ Nant Ddu ym Mhontnewynydd hefyd ar gael ar hyd y ffordd yma, sy’n
8
lleihau’r pellter at 5.1 milltir (Blaenafon i Bontnewynydd) ond mae’r rhain ar gael
rhwng 9.00am a 4.30pm yn unig ac nid ar adegau cymudo brig. Dyw’r orsaf betrol ar
y darn yma o’r A4043 ddim yn darparu toiledau.
Dangosodd ein harolwg fod 31 allan o 133 (23%) o’r rhai 18-64 oed a ymatebodd yn
dweud eu bod wedi profi anhawster wrth gymudo i’r gwaith oherwydd diffyg
cyfleusterau toiled rhwng eu cartref a’u lle gwaith. Byddai angen ymchwil pellach er
mwyn cael manylion o ran pa mor aml yr oedd yna drafferthion, neu gyfatebiaeth i
lwybrau teithio.
Mewn ymgysylltiad wyneb yn wyneb roedd modd i ni gael mwy o ddealltwriaeth;
soniodd rhai pobl am ddiffyg parcio y tu allan i doiledau cyhoeddus sy’n rhwystro’r
cyfleusterau rhag bod yn arbennig o hygyrch wrth deithio. Serch hynny, canfyddwyd
hefyd fod 66% o bobl yn y grŵp oedran yma yn teimlo nad oes digon o wybodaeth
am leoliad toiledau cyhoeddus a’r cyfleusterau sydd ar gael yno, gan awgrymu nad
yw rhai o’r grŵp yma o leiaf yn ymwybodol o doiledau y gallen nhw eu defnyddio.
Mae ein gwaith mapio yn dangos bod pobl sy’n cymudo mewn car byth (tra yn
Nhorfaen) mwy na 3 milltir o’r toiled agosaf ac mae toiled o fewn 6 milltir i gyfeiriad
eu taith ar bob adeg.
Mae hyn yn ein harwain ni i gredu y gallai mwy o wybodaeth ar leoliadau toiledau yn
nwylo cymudwyr, gan gynnwys y rheiny sydd efallai ychydig i ffwrdd o’u ffordd
arferol, fod yn ddigon i wella’r darlun hwn.
Mae gan bobl sy’n teithio ar fysiau fynediad hawdd i doiledau wrth ymyl gorsafoedd
bysiau ym Mhont-y-pŵl (toiledau Neuadd y Dref ar Hanbury Road / toiled hygyrch
Llyfrgell Pont-y-pŵl) ac yng Ngorsaf Fysiau Cwmbrân sy’n gyfnewidfa i nifer o
wasanaethau. Serch hynny, mae yna nifer o lwybrau bysiau y mae cymudwyr yn eu
defnyddio i fynd o ardaloedd preswyl i’w lleoedd gwaith nad sy’n mynd heibio i’r
lleoliadau yma. Mae’r rhai o’r llwybrau yma’n deithiau bws cymharol fyr, ond yn
ddiamau yn achosi anawsterau ar adegau i rai defnyddwyr, yn arbennig os yw
gwasanaethau’n cael eu gohirio, er enghraifft.
Mae gan orsaf drenau Cwmbrân doiled Cynllun Allwedd Cenedlaethol sy’n hygyrch
trwy Allwedd Radar. Does dim toiledau yng ngorsaf drenau ym Mhont-y-pŵl , a allai
fod yn broblem i gymudwyr os oes gohirio a chanslo. Unwaith y’i bod ar y trên, gall
gymudwyr ddefnyddio’r toiledau ar y trên.
Twristiaeth a digwyddiadau
Mae tref Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, mewn 33 cilomedr sgwâr, yn darparu
amrywiaeth o atyniadau a gweithgareddau gyda thirlun naturiol trawiadol sy’n ei
wneud yn gyrchfan perffaith am ddiwrnod allan. Mae toiledau i’w cael yn bennaf ym
mhrif atyniadau Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Big Pit, Gweithfeydd Haearn
Blaenafon, Neuadd y Gweithwyr ac Amgueddfa Gymunedol Blaenafon a’r Ganolfan
Treftadaeth y Byd a Llyfrgell. Mae’r safleoedd yma ond ychydig o funudau oddi wrth
ei gilydd.
Mae amgylchedd naturiol allanol Blaenafon hefyd yn denu ymwelwyr. Mae’r Tumble
yn un o’r dringfeydd seiclo mwyaf adnabyddus yng nghymoedd y de. Mae’r ddringfa
9
enwog wedi bod yn rhan o nifer o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd, gan gynnwys
y Tour of Britain ac mae’n rhan annatod o Velothon Cymru bob blwyddyn.
Mae Gwarchodfa Natur Llynnoedd y Garn yn fan poblogaidd gydag ymwelwyr a
phobl leol fel ei gilydd a soniwyd amdani trwy gydol ein proses ymgysylltu fel rhywle
a fyddai’n elwa o doiledau.
Mae cyn-dref ddiwydiannol Pont-y-pŵl, gyda’i marchnad dan do ac allanol
traddodiadol, yng nghalon y fwrdeistref. Yn 2015, cwblhawyd gwaith ar adnewyddiad
helaeth gwerth £2.5 miliwn o Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl, a oedd yn cynnwys
adnewyddu’r toiledau. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys toiled hygyrch niwtral o ran
rhywedd ar wahân ac ystafell ar gyfer newid babanod.
Mae treftadaeth ddiwydiannol y dref yn cael ei dathlu yn Amgueddfa Pont-y-pŵl sydd
â thoiledau at ddefnydd cwsmeriaid, ac mae mannau o ddiddordeb yn cynnwys
hanes y dref o gynhyrchu haearn a dur, cloddio glo a thwf y rheilffyrdd. Roedd y
diwydiant cynhyrchu artistig, Japanio, math o nwyddau â lacer, hefyd yn ffynnu yma.
Trysor canol y dref yw Parc Pont-y-pŵl, sydd yn ymestyn dros 64 hectar ac sydd â
sawl nodwedd hanesyddol – gan gynnwys Gerddi Eidalaidd, Tai Iâ, a Groto Cregyn
– sydd wedi eu hadnewyddu trwy grant gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth ac arian gan
Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae yna gyswllt hefyd o’r Parc, trwy dir fferm
cyfagos ar Dŵr y Ffoledd, trwy lwybr cyhoeddus.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys man chwarae i blant, cae rygbi (cartref Clwb Rygbi
Pont-y-pŵl), cyrtiau tenis, golff, bowls a llethr sgïo. Mae yna gysylltiadau trwy
lwybrau troed at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y ffin mwyaf gogleddol.
Mae blociau toiled traddodiadol, sy’n eiddo i ac yn cael eu cynnal a’u cadw gan
Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, wrth ymyl y cae rygbi ym Mharc Pont-y-pŵl ac
wrth ymyl mynedfa’r parc ar Hanbury Road (cyfeirir atynt yn y dogfennau yma fel
‘Bloc Toiledau Neuadd y Dref’. Mae Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl hefyd yn y
parc ac mae’n caniatáu i bobl nad sy’n defnyddio’r ganolfan i ddefnyddio’r toiledau.
Yng Ngorffennaf 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod cynllun gwerth £4 miliwn
i drawsnewid camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn hyb antur wedi derbyn cytundeb o
arian gan yr UE. Mae’r Cynllun ar y Cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Glandŵr Cymru - Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac
Afonydd yng Nghymru, yn rhan o raglen Cyrchfan Denu Twristiaid ehangach gan
Lywodraeth Cymru a ariennir gan yr UE, ac a arweinir gan Groeso Cymru, sy’n
bwriadu creu 11 o gyrchfannau anhepgor ar draws Cymru. Mae cynllun Triongl Antur
Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn bwriadu datblygu hamdden awyr agored,
twristiaeth a gweithgareddau hamdden ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn
Nhorfaen a Chaerffili ac ardal gysylltiol ucheldir Mynydd Maen.
Bydd y cynllun yn cynnwys adeiladu Canolfan Gweithgareddau Ymwelwyr ym Masn
Camlas Pont-y-moel ym Mhont-y-pŵl, fel rhan o raglen o welliannau i’r basn. Y
bwriad yw uwchraddio’r ddarpariaeth toiledau i gynnwys gwella dyluniad a gosodiad,
cyfleuster newid babanod, mynediad i bawb a chyfleusterau newid ar gyfer
gweithgareddau chwaraeon dŵr.
10
Yn ne’r fwrdeistref, mae Cwmbrân yn unigryw fel yr unig Dref Newydd yng Nghymru,
dynodwyd yn 1949 ac wedi ei dylunio fel tref fodern neilltuol a blaengar sy’n cynnig
cyfleoedd newydd i’w thrigolion.
Mae Canolfan Cwmbrân yn denu’r nifer fwyaf o ymwelwyr i siopa gyda 17 miliwn o
gwsmeriaid y flwyddyn o ardal ehangach Gwent a choridor yr M4. Mae dwy set o
gyfleusterau toiled ar gael ac mae gan nifer o’r 170 o siopau yn y ganolfan siopa
doiledau, gan gynnwys Marks and Spencer, House of Fraser a nifer o siopau coffi.
Mae Llyfrgell Cwmbrân hefyd yn yr ardal hon ac yn darparu cyfleusterau toiled.
Mae Cwmbrân yn gartref i nifer o atyniadau i ymwelwyr gan gynnwys Fferm
Gymunedol Greenmeadow, Canolfan Celfyddydau Plas Llantarnam a Chanolfan
Treftadaeth Wledig Maenor Llanyrafon, y mae pob un ohonyn nhw’n darparu
toiledau i ymwelwyr. Cyfeiriodd Fferm Greenmeadow at fwriad i wella’u cyfleusterau
newid babanod ac i ddarparu cyfleusterau toiled hygyrch gwella a chyfleuster
Changing Place, ar ôl ceisiadau gan fudiadau sydd am ddod â defnyddwyr gydag
anableddau difrifol i’r fferm.
Mae Llyn Cychod Cwmbrân yn atyniad allweddol yng Nghwmbrân, sy’n boblogaidd
iawn gydag amrywiaeth eang o bobl gan gynnwys teuluoedd, cerddwyr â chŵn a
phobl sy’n pysgota yn y llyn. Yn ystod ein proses ymgysylltu mynegodd pobl
anfodlonrwydd gyda’r cyfleusterau toiled yn Llyn Cychod Cwmbrân, a soniodd dros
30 o bobl am hyn. Mae’r cyfleuster hwn yn denu nifer o ymwelwyr ac, oherwydd
natur yr ardal, mae mwd yn cael ei gario’n rheolaidd ac mae angen i’r cyfleusterau
gael ei glanhau’n aml bobl dydd.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gynllun gwella mewn grym ar gyfer y safle
hwn, sy’n cynnwys:
Gwella’r llwybrau y tu allan i’r toiledau fel nad yw dŵr yn casglu mewn pyllau
mwdlyd. Bydd hyn yn lleihau amlder y bydd y toiledau’n mynd yn wlyb ac yn
fwdlyd.
Ailosod golchwyr/sychwyr newydd yn lle’r rhai’r presennol.
Mae’r holl gyrchfannau i ymwelwyr y cyfeirir atyn nhw yn yr adran hon – gan
gynnwys Llyn Cychod Cwmbrân – yn cael adolygiadau cadarnhaol yn y cyfryngau
cymdeithasol/gwefannau teithio, gyda chyfartaledd ar hyn o bryd o 4, 4.5 neu 5
seren allan o fwyafswm o 5 ar y safleoedd mwyaf poblogaidd. Gall gwefannau o’r
fath gael dylanwad mawr ar dwristiaeth ac mae’n bosibl bydd ymwelwyr posibl sy’n
dioddef â phroblemau gyda’r coluddyn neu’r bledren yn defnyddio’r safleoedd yma i
weld a yw adolygiadau gwael yn rhoi toiledau fel rheswm.
Dywedodd un person fu’n adolygu Llynnoedd y Garn “Y unig rheswm yr ydw i wedi
rhoi 4 yn lle 5 yw fy mod i’n cytuno gydag eraill y byddai’r ardal yn elwa o fod â
thoiledau ar gael”.
Mewn perthynas â thwristiaeth a’i effeithiau economaidd, mae’n bwysig felly bod
cyrchfannau â nifer resymol o doiledau glân mewn cyflwr da sy’n cwrdd ag
anghenion ymwelwyr. Dylai staff yr awdurdod lleol ac eraill sy’n hybu asedau
11
Torfaen fel cyrchfannau twristiaeth, ystyried bod gwybodaeth ar-lein am gyfleusterau
toiled.
Digwyddiadau mawr
Mae Torfaen yn cynnal rhai digwyddiadau mawr un diwrnod sy’n digwydd mewn
lleoedd awyr agored mawr pob haf. Mae toiledau cludadwy yn cael eu llogi i gwrdd
ag anghenion ymwelwyr. Gan fod y rhan fwyaf o’r rhain yn ddigwyddiadau
sefydledig, mae’r trefnwyr yn gyfarwydd â rhagweld y lefel gywir o ddarpariaeth y
mae ei hangen.
Mae’r Digwyddiad Mawr yn digwydd bob blwyddyn yng Nghwmbrân ar ddydd
Sadwrn ym Mehefin a gall ddenu dros 10,000 o ymwelwyr. Ariennir gan Gyngor
Torfaen, Cyngor Cymuned Cwmbrân, Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon,
Cyngor Cymuned Henllys a nawdd o’r sector preifat. Mae digwyddiad yn cynnwys
cystadlaethau chwaraeon, stondinau crefftau a bwyd, gweithgareddau i blant ac
amrywiaeth o berfformwyr cerddoriaeth a dawns. I gyd-fynd â’r bloc toiledau wrth y
Llyn Cychod, a fyddai’n annigonol ar gyfer y nifer yma o ymwelwyr, mae tîm
Gwasanaethau Chwarae CBS Torfaen yn darparu man addas i deuluoedd sy’n
cynnig lle ychwanegol i newid babanod a bwydo o’r fron ac mae toiledau cludadwy
yn cael eu llogi.
Mae’r Parti yn y Parc ym Mhont-y-pŵl yn ddigwyddiad tebyg sy’n digwydd ym Mharc
Pont-y-pŵl yng Ngorffennaf pob blwyddyn, sy’n cael ei drefnu gyda Chyngor
Cymuned Pont-y-pŵl, Partneriaeth Adfywio Pont-y-pŵl, Ymddiriedolaeth Hamdden
Torfaen, Cartrefi Melin a Marchnadoedd Cotyledon. Mae toiledau ar gael ym mloc
toiledau Parc Pont-y-pŵl a Chanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl.
Gofynnodd Tîm Tref Blaenafon ein bod yn nodi pwysigrwydd Bloc Toiledau Lion
Street i’r posibilrwydd i drigolion greu a chynnal eu digwyddiadau eu hunain yn y
dref, yn arbennig o ganlyniad i gau nifer o gaffis yn y brif stryd.
Ymgysylltiad
Er mwyn helpu i drwytho’n Strategaeth Toiledau Lleol fe wnaethom ni gynhyrchu dau
arolwg dwyieithog yn haf 2018; Arolwg Toiledau Lleol ac Arolwg Newid Babanod. Er
mwyn sicrhau hygyrchedd, cafwyd arolwg peilot gyda Fforwm 50+ Cwmbrân a
roddodd adborth cadarnhaol ynglŷn â’r cynnwys a’r fformat. Dilynodd yr Arolwg
Newid Babanod drefn debyg. Gosodwyd yr arolygon ar-lein wedyn trwy Hyb
Ymgynghoriadau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen (Citizen Space) ac
mewn copïau caled ar gyfer grwpiau a lleoliadau penodol.
Arolwg Toiledau Lleol
Yn gyfan gwbl cafwyd 233 ymateb i’r Arolwg Toiledau Lleol. Allan o’r rhain,
dywedodd 72 eu bod yn ddynion, 160 eu bod yn fenywod ac 1 yn drawsrywiol.
Roedd 90 (39%) o’r rhai a ymatebodd yn ystyried bod ganddyn nhw anabledd.
12
Nid yw pob anabledd yn gofyn am doiled hygyrch neu gyfleuster Changing Place:
O’r 233 a ymatebodd:
Gall 167 o bobl ddefnyddio toiled cyffredinol (72% o’r rhai a ymatebodd)
Mae 50 o bobl angen toiled hygyrch (21% o’r rhai a ymatebodd)
Mae 16 o bobl angen cyfleuster Changing Place (7% o’r rhai a ymatebodd)
Ble maen nhw’n defnyddio toiledau?
Mae 57 allan o’r 233 yn defnyddio toiledau ym Mlaenafon
Mae 194 allan o’r 233 yn defnyddio toiledau yng Nghwmbrân
141 of the 233 yn defnyddio toiledau ym Mhont-y-pŵl
Oed y rhai a ymatebodd:
Sut gafwyd ymateb?
Cafwyd 127 ymateb i’r Arolwg Toiledau Lleol ar-lein trwy Hyb Ymgynghoriad y BGC.
Cafwyd 106 ymateb trwy sesiynau ymgysylltiad wyneb yn wyneb gan staff CBST
rhwng Gorffennaf a Hydref 2018. Aethom ni i leoliadau gwahanol i siarad â grwpiau
ac unigolion er mwyn sicrhau trawstoriad da o atebion …
Gwrandawon ni ar bobl hŷn a chasglu eu hymateb i’r arolwg yn:
13
Fforwm 50+ Cwmbrân - 24/07/18
Hyb Cymunedol / Clwb Cinio Ponthir - 07/08/18
Fforwm 50+ Blaenafon - 07/08/18
Fforwm 50+ Pont-y-pŵl - 08/08/18
Hyb Cymunedol / Clwb Cinio Croesyceiliog - 09/08/18
Safle Age Connects Torfaen yn Widdershins, Sebastopol - 20/08/18
Dysgwyd am brofiadau pobl ifanc trwy:
Sesiynau arolwg un wrth un a hwyluswyd gan Wasanaeth Chwarae CBST
gyda phobl ifanc ag anghenion ychwanegol - Awst 2018.
Staff a defnyddwyr gwasanaeth Gwasanaethau Chwarae CBST yn rhoi
ymateb yn ystod cyfnod cynllun chwarae’r haf - Awst 2018.
A chafwyd sesiynau cyffredinol yn:
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl - 22/08/18
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl - 29/08/18
Llyfrgell Cwmbrân - 30/08/18
Canolfan Adnoddau Blaenafon - 31/08/18 (gan gynnwys sesiwn gyda
chynrychiolydd o Dîm Tref Blaenafon a Chynghorydd o Flaenafon)
Pa mor gynrychioliadol oedd y sampl yma?
Mae maint y sampl (233) ar fesur Confidence 95% yn rhoi lled gwall o +/- 6.14%
Dylem fod yn ofalus felly o dynnu casgliadau yn seiliedig ar yr ymateb i’r
datganiadau yn yr arolwg os nad oes cytundeb cryf i gyfeiriad penodol.
Crynodeb o’r ymatebion i’r Arolwg Toiledau Lleol:
Gofynnon ni i bobl a ddywedodd eu bod angen toiled hygyrch neu gyfleuster
Changing Place pa gyfleusterau/cyfarpar sy’n bwysig iddyn nhw:
14
Gofynnon ni wedyn i bob un a ymatebodd a oedden nhw’n cytuno neu anghytuno â
datganiadau gwahanol, isod:
15
16
17
18
19
Gwahaniaethau Daearyddol
Mae’r graffiau uchod yn dangos lefel is o fodlonrwydd gyda chyfleusterau toiled ym
Mhont-y-pŵl. Dim ond 34% oedd yn cytuno bod yna ddigon o gyfleusterau toiled ym
Mhont-y-pŵl i gwrdd â’u hanghenion, o gymharu â 50% oedd yn teimlo bod yna
gyfleusterau digonol ym Mlaenafon a 53% yn teimlo bod yna gyfleusterau digonol
yng Nghwmbrân. Roedd hyn yn arbennig o amlwg ymhlith defnyddwyr toiledau
20
hygyrch; dim ond 25% o bobl sydd angen toiled hygyrch oedd yn teimlo fod yna
gyfleusterau digonol ym Mhont-y-pŵl i gwrdd â’u hanghenion. Roedd hyn yn
cymharu â 55% o bobl sydd angen toiled hygyrch yn cytuno bod yna gyfleusterau
digonol yng Nghwmbrân i gwrdd â’u hanghenion a 79% o bobl sydd angen toiled
hygyrch yn cytuno bod yna gyfleusterau digonol ym Mlaenafon i gwrdd â’u
hanghenion.
Pwysleisiodd rhai o’r bobl a ymatebodd cau Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl am
hanner diwrnod ar brynhawn dydd Llun fel rheswm am eu hymateb. Mae cau’r
cyfleusterau toiled yma’n cyd-fynd â chau Llyfrgell Pont-y-pŵl am ddiwrnod llawn ar
ddydd Llun, mae’r llyfrgell fel arall, o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, yn darparu
toiled hygyrch yn lle toiledau hygyrch ym mloc toiledau Neuadd y Dref ar Hanbury
Road. O ganlyniad, yr unig doiledau hygyrch sydd ar gael ar brynhawn dydd Llun yw
rhai Tesco a Chanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl, ac mae’r ddau cryn bellter o ganol
tref Pont-y-pŵl. Mae’r un sefyllfa’n codi ar ddydd Sul.
Serch hynny, dylid nodi na roddodd mwyafrif y rhai a ymatebodd reswm ac felly
mae’n bosibl bod ganddyn nhw ystyriaethau eraill, fel celfi’r toiledau hygyrch neu
ddiffyg toiled hygyrch yn y ddau floc toiledau yn y dref.
Defnyddio toiledau busnesau
21
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymgysylltu o’r blaen â busnesau yn y
sector breifat a’r trydydd sector i’w hannog i ganiatáu i’r cyhoedd, yn hytrach na dim
ond cwsmeriaid, ddefnyddio’u toiledau. Dangosodd ein harolwg a’n hymgysylltiad
ehangach cefnogaeth gref am ddarparu arwyddion er mwyn cynnig defnydd o
gyfleusterau toiled.
Cwestiynau Agored yn yr Arolwg Toiledau Lleol:
Rhoddon ni nifer o gwestiynau agored i bobl er mwyn rhoi digon o gyfle iddyn nhw
nodi lleoliadau penodol, ymhelaethu ar eu hatebion neu wneud pwyntiau pellach os
oeddynt yn dymuno.
Gofynnwyd: Oes yna unrhyw adeiladau, cyfleusterau/gwasanaethau neu leoedd
(o unrhyw fath) yn Nhorfaen yr hoffech chi fynd iddyn nhw ond nad oes modd i
chi oherwydd diffyg cyfleusterau toiled addas? Os oes, esboniwch os gwelwch
yn dda:
Lleoliad # pobl yn awgrymu
Lleoliad # pobl yn awgrymu
Sinema 3 Llwybrau Seiclo 1
Parc Manwerthu Lock Gate 3 Siopau pentref Tref Gruffydd 1
Blaenafon (Canol y Dref) 2 Gweithfeydd Haearn 1
Blaen Bran 2 Hen Gwmbrân 1
Bowl Plex 2 Ar bwys Lidl ac Aldi 1
Stadiwm Cwmbrân 2 Mynwent Panteg 1
Llyfrgell 2 Pentref Pontnewydd 1
Pont-y-pŵl – yn gyffredinol 2 Primark 1
Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl 2 Nifer o siopau 1
Fferm Gymunedol Greenmeadow 1 Siopau Trefddyn 1
Big Pit 1 Siop What 1
Llwybrau Halio’r gamlas 1 Canolfan Gymdeithasol Woodland Road
1
22
Ac eithrio’r ddau awgrym o’r ‘llyfrgell’ ac un o Fynwent Panteg, doedd dim awgrym
bod gwasanaethau allweddol y cyngor neu rhai statudol yn anhygyrch oherwydd
diffyg cyfleusterau toiled addas.
Gofynnwyd: Oes yna gyfleusterau toiled yr ydych yn teimlo bod angen eu
gwella?
Cyfleuster # pobl yn awgrymu
Darperir gan
Llyn Cychod 15 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Neuadd y Dref, Pont-y-pŵl 12 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl
Gorsaf Fysiau Cwmbrân 8 Canolfan Cwmbrân (M&G Real Estate Limited)
Woodland Road / Parc Croesyceiliog 8 Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon
Parc Pont-y-pŵl 5 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Canolfan Cwmbrân Town Centre 4 Canolfan Cwmbrân (M&G Real Estate Limited)
Abersychan 2 Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd
Gweithfeydd Haearn 2 Cadw
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl 2 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Asda 1 Asda Stores Limited
Llynnoedd pysgod yn Sebastopol 1 Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd
Inshops 1 Toiledau ar gyfer staff yn unig
Hen Gwmbrân 1 Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd
Pontnewydd 1 Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd
Llain Fowlio Parc Pontnewydd 1 Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd
Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl 1 Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen
Meysydd y De 1 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Gofynnwyd: Oes yna unrhyw leoedd gwyrdd ble hoffech chi weld mwy o
gyfleusterau toiled neu rai gwell?
Lleoliad # pobl yn awgrymu
Lleoliad # pobl yn awgrymu
Llyn Cychod 31 Pontnewydd 2
Camlesi 20 Sebastopol 2
Parc Pont-y-pŵl 18 Y Ffoledd 2
Woodland Road 12 Parc Alexander Road 1
Abersychan 8 Blaen Bran 1
Llynnoedd y Garn 8 Lleiniau Bowlio 1
Meysydd y Gogledd (gan gynnwys ymatebion yn cyfeirio at Oasis neu’r Ganolfan Ffitrwydd)
7 Parc Sgrilau, Llanyrafon 1
Parc Cwmbrân 5 Tal-y-waun 1
Pont-y-Moel 4 Y British 1
Parc y Llynnoedd Pysgod Tref Gruffydd
3 Ochr y Clawdd, Croesyceiliog 1
23
Meysydd y De 3 Y Groto 1
Trac/llwybrau seiclo 2 Trefddyn 1
Gwarchodfa Natur Cwm-ynys-cou 2
Roedd y rhan fwyaf o’r sylwadau ynglŷn â’r Llyn Cychod (31 sylw) yn gysylltiedig â
glendid, a rhoddwyd adroddiadau yn ôl i Wasanaethau Strydlun CBST sy’n cynnal a
chadw’r cyfleuster. Roedd rhai sylwadau’n sôn bod nifer y toiledau’n annigonol ar
adegau brig.
Mae’r gamlas yn Nhorfaen (20 sylw) yn ased gwych, gyda theithiau cerdded
trawiadol, awyr iach a bywyd gwyllt. Sicrhawyd arian i ddatblygu Basn Camlas Pont-
y-moel, gan gynnwys toiledau newydd. Bydd hyn yn rhoi pwynt mynediad i
rwydwaith y gamlas i’r rheiny sydd â phryderon ynglŷn â bod ag angen toiledau.
Awgrymodd nifer o bobl a soniodd am Barc Pont-y-pŵl (18 sylw) fod angen
moderneiddio’r toiledau.
Roedd mwyafrif y sylwadau ynglŷn â Woodland Road (12 sylw) yn ymwneud a
mynediad, yn bennaf cwynion fod toiledau ar glo ar oriau brig pan fod teuluoedd yn
defnyddio’r parc. Roedd rhai sylwadau’n cyfeirio ar yr angen am foderneiddio.
Sylwadau dethol mewn perthynas â gwybodaeth ac arwyddion
“Rydym yn teimlo y byddai arwyddion mwy clir o gwmpas Torfaen gyfan fel bod
pawb yn gwybod ble mae’r toiled agosaf yn fantais i bawb sy’n edrych am
gyfleusterau cyhoeddus”
“Dangoswch yr holl gyfleusterau toiled ar fap neu ap gan nad yw rhai pobl yn
gwybod amdanyn nhw”
“Byddai’n syniad da i gael adran ar app/gwefan Torfaen sy’n rhoi manylion am
adeiladau/busnesau sy’n caniatáu mynediad i gyfleusterau toiled. Yn yr oes sydd
ononi â thechnoleg, byddai hyn yn ddefnyddiol iawn ac yn galluogi pobl i gynllunio
teithiau o flaen llaw.”
“Does dim arwyddion da iawn. Rydw i wedi teithio ymhell ac mae’r cyfleusterau’n
wael iawn o’u cymharu â nifer o wledydd eraill yr ydw i wedi ymweld â nhw..Yr
Almaen, Sweden a nifer o rai eraill. Fel gwlad mae angen i ni feddwl am dwristiaeth
a phrofiad ymwelwyr, sydd ddim yn un da, mae’n siŵr!”
Sylwadau dethol mewn perthynas â mynediad gyda choets neu nifer o blant
“Yn aml mae’r ciwbiclau’n rhy fach ar gyfer rhiant a phlentyn - heb sôn am riant a
dau o blant!”
“Fel mam rydych chi’n cael trafferth i gael plant i ddal nhw’u hunain i gyrraedd toiled
da. Pan fyddwch yn cyrraedd rhai maen nhw’n aml mewn cyflwr gwael neu â
hygyrchedd cyfyngedig.”
24
“Mae’n anodd rheoli fy ail blentyn tra fy mod yn delio â’r cyntaf. Mae’r seddi â
gwregys sydd ar gael mewn rhai lleoedd yn syniad da”.
Sylwadau dethol yn ymwneud ag amserau agor neu argaeledd cyfyngedig
“Mae’r Toiledau cyhoeddus yng Nghanolfan Woodland Road yn aml ar gau felly
does gan deuluoedd sy’n defnyddio’r parc neu’r siop goffi fach unman”
“Byddai defnydd allwedd radar yn y rhan fwyaf o doiledau y Tu allan i Oriau’n
fanteisiol.”
“Mae gan y farchnad, neuadd y dref, y ganolfan hamdden etc. gyfleusterau da sydd
ddim ar agor yn ddigon hir ond mae’n nhw’n lân buaswn yn fodlon talu i ddefnyddio /
gwybod bod cyfleuster glân ar gawl 24 awr y dydd”
“Gallant fod ar agor yn gynharach ac yn hirach os gwelwch yn dda”
“Gallai toiledau’r parc (Woodland Road / llyn cychod) fod ar agor yn hirach.”
Sylwadau dethol mewn perthynas ag anghenion ychwanegol neu gyflyrau
meddygol penodol
“Rwy’n dioddef â Colitis Briwiol, felly pan fydda’ i angen cyfleusterau toiled, mae
angen nhw arna’ i bron yn syth. Mae’r rhai o dan Costa Coffee/W H Smiths wedi bod
yn fendith. Mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd dim ond un ciwbicl, weithiau
dau, mae hyn yn broblem wirioneddol i bobl sydd â Cholitis neu Glefyd Crohn.”
“Mae angen parcio i’r anabl y tu allan i doiledau ar gyfer y rheiny sydd â phroblemau
dal dŵr.”
“Mae glendid yn hanfodol. Mae’n rhaid i ni brynu gorchuddion toiled (ar werth yn
Poundland, ond nid trwy’r amser) ac yn aml rwy’n osgoi yfed cyn gadael y tŷ -
problem disychu. Gwerthfawrogi gofalwyr yn helpu os oes problem/ cwymp” (Mae
gan yr unigolyn yma glefyd hunanimíwn sy’n achosi mynediad i’r ysbyty os oes haint)
Arolwg Newid Babanod
Yn ogystal â’r arolwg ar-lein, gofynnwyd yn rhagweithiol i rieni am eu profiadau o
gyfleusterau newid babanod yn ystod sesiynau ymgysylltiad cyffredinol yng
Nghanolfan Adnoddau Blaenafon, Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, Llyfrgell Cwmbrân
a thrwy sesiynau penodedig yn:
• Fforwm Dad a Fi - 06/10/18
• Fferm Gymunedol Greenmeadow - 14/08/18
Yn gyfan gwbl roedd yna 40 o bobl a oedd wedi ymateb i’r Arolwg Newid Babanod. O’r rhain, roedd 6 yn ddynion a 34 yn fenywod. Roedd 4 yn ystyried fod ganddyn nhw anabledd. Dim ond un ym mhob pedwar o bobl a atebodd yr Arolwg Newid Babanod ddywedodd eu bod yn teimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio cyfleusterau newid
25
babanod busnesau heb brynu unrhyw beth neu ddefnyddio’u gwasanaethau. Dywedodd 92% o’r rhai a atebodd yr Arolwg Newid Babanod y bydden nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus ynglŷn â defnyddio cyfleusterau busnesau pe baen nhw’n arddangos arwydd i ddweud bodd modd defnyddio’u cyfleusterau heb brynu unrhyw beth neu ddefnyddio’r gwasanaeth. Roedd 81% yn teimlo nad oes digon o wybodaeth ynglŷn â lleoliad cyfleusterau newid babanod. Roedd 72% yn anfodlon ar y cyfan gyda’r cyfleusterau newid babanod mewn blociau toiled cyhoeddus. Roedd hyn yn anfodlonrwydd trawiadol o uwch na’r ymateb mewn perthynas â chyfleusterau sy’n cael eu darparu gan siopau (53%), caffis/bwytai/tafarnau (43%), llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac adeiladau cyhoeddus tebyg (29%) neu mewn neuaddau/lleoliadau lleol ar gyfer dosbarthiadau/gweithgareddau (23%). Roedd 67% yn anfodlon ar y cyfan gyda glendid cyfleusterau newid babanod. Roedd 55% yn anfodlon ar y cyfan gyda nifer y cyfleusterau newid babanod Roedd 53% yn anfodlon ar y cyfan gyda’r cyfarpar ar gael mewn cyfleusterau newid babanod. Soniwyd fod rhai cyfleusterau weithiau heb finiau ac yn cynnwys dim ond cyfleusterau sylfaenol i newid babanod. Soniodd sawl un am yr her y maen nhw’n eu wynebu gyda nifer o blant bach, yn arbennig o ran bod ag unman i roi ail blentyn yn ddiogel tra’u bod yn delio â chewyn brwnt y llall. Yn ystod ymgysylltiad wyneb yn wyneb cyfeiriodd rhai pobl at seddi â gwregys sydd mewn rhai toiledau – gan roi rhywle i osod ail blentyn yn ddiogel – gan ddweud y dylen nhw fod mewn mwy o doiledau yn Nhorfaen. Soniodd nifer o bobl am adegau pan fod yr angen iddyn nhw, y rhiant, ddefnyddio’r toiled yn broblem. Dyw gorfod gadael plentyn mewn coets y tu allan i giwbicl ddim yn ddiogel ac yn aml does dim lle i gymryd coets i mewn i giwbicl. Defnyddiwyd toiledau hygyrch – gyda mwy o le – weithiau o ganlyniad, er bod y rhain yn aml yn anhygyrch oherwydd bod angen allwedd radar. Dywedodd 50% fod diffyg cyfleusterau newid babanod yn atal neu’n pwyso arnyn nhw rhag ymweld â rhai o leoedd gwyrdd Torfaen (parciau, camlesi, coedwigoedd ac amgylcheddau ‘awyr agored’ eraill). Mae hyn yn destun pryder o ran gweithgaredd corfforol a lles meddyliol ac mae’n ategu’r ymateb i’r un cwestiwn yn yr Arolwg Toiledau Lleol, ble ddywedodd dau draean (67%) o bobl bod diffyg toiledau addas yn eu hatal neu’n pwyso arnyn nhw rhag ymweld â lleoedd gwyrdd. Gyda gordewdra ymhlith plant yn broblem gynyddol a phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn cynyddu, mae’n bwysig bod plant yn cael cyfleoedd i fod yn weithgar yn yr awyr agored ac yn parhau gyda’r ffordd yma o fyw yn eu harddegau ac fel oedolion. Roedd canran y bobl a oedd yn cytuno bod gan Gwmbrân ddigon o gyfleusterau newid babanod (38%) yn uwch na chanran y bobl a oedd yn teimlo bod gan Bont-y-pŵl (19%) neu Flaenafon (14%) ddigon o gyfleusterau newid babanod, er bod 51% yn credu nad oes gan Gwmbrân ddigon o gyfleusterau newid babanod.
26
Gofynnwyd: “Oes yna fannau gwyrdd penodol ble’r hoffech chi weld rhai, neu
well, toiledau/cyfleusterau newid babanod? Os felly, ble?”
Lleoliad # pobl yn awgrymu
Lleoliad # pobl yn awgrymu
Llyn Cychod Cwmbrân 25 Abersychan 1
Camlesi 6 Park y Llyn Pysgod, Sebastopol
1
Parc Pont-y-pŵl 4 Parc Glansychan 1
Woodland Road 3
Gofynnwyd: Oes yna unrhyw adeiladau, cyfleusterau/gwasanaethau neu leoedd
(o unrhyw fath) yn Nhorfaen yr hoffech fynd iddyn nhw ond nad oes modd i chi
oherwydd diffyg cyfleusterau newid babanod addas? Os felly, esboniwch:
Lleoliad # pobl yn awgrymu
Lleoliad # pobl yn awgrymu
Theatr y Gyngres 1 Nifer o siopau 1
Lleoedd bwyta yng Nghwmbrân
1 Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl
1
Fferm Gymunedol Greenmeadow
1 Ochr Maes Parcio Riverside y dref (Pont-y-pŵl)
1
Mae’r ymateb i’r cwestiwn hwn yn awgrymu nad yw rhieni a gwarcheidwaid yn cael
trafferth sylweddol mynd at wasanaethau hanfodol neu statudol y cyngor oherwydd
diffyg cyfleusterau newid babanod yn yr adeiladau neu’r lleoedd y mae’r
gwasanaethau yma i’w cael.
Gofynnwyd: Os oedd cyfle i wella’r cyfleusterau presennol, be fyddech chi’n
awgrymu sydd angen gwneud?
Awgrym # pobl yn awgrymu
Awgrym # pobl yn awgrymu
Mwy o/gwell glanhau 9 Mwy o arwyddion i ddangos ble mae cyfleusterau
1
Toiledau i rieni – h.y. digon mawr i goetsys, gyda thoiled a lle newid babanod yn yr un lle
5 Goleuadau i’r baban edrych arnyn nhw
1
Biniau’n cael eu gwagio’n aml
4 Bachau i grogi bag cewynnau arnyn nhw
1
Newid babanod yn nhoiledau’r dynion
3 Gwregysau ar fyrddau 1
Diheintyddion i lanhau mannau newid babanod / dwylo
3 Silff i osod pethau arnyn nhw
1
27
Man bwydo / cadair 2 Seddi â gwregys ar gyfer plant eraill
1
Cymryd newid babanod allan o doiledau i’r anabl
1
Roedd sylwadau ynglŷn â newid babanod yn canolbwyntio’n bennaf ar:
Glendid
Diffyg hygyrchedd gyda choets
Heriau ymarferol os yw’r oedolyn neu blant eraill angen defnyddio toiled
Cydraddoldeb rhyw – cyfleusterau’n hygyrch i dadau
Sylwadau dethol yn ymwneud â hygyrchedd gyda choets:
“Mae’r cyfleusterau newid babanod yn y llyn cychod yn llawer rhy fach. Does dim
ffordd cael coets i mewn yna heb rwystro pawb arall rhag cyrraedd y toiledau.”
“Llyn Cychod Cwmbrân. Mae yna doiled i’r anabl sydd bob amser wedi ei gloi a does
gan y caffi ddim oll i wneud â’r toiledau. Gall fy mhram dwbl ddim mynd i mewn i
doiledau’r menywod.”
“Fel mam i 3 (i gyd o dan 5) mae ceisio cael hyd i doiled hygyrch yn unrhyw le yn
anodd ac os oes angen i fi ddefnyddio’r toiled fy hun mae’n rhaid i fi gynllunio bod
rhywun gyda fi gan nad yw’r rhan fwyaf o gyfleusterau newid babanod yn cynnig
toiled oedolion a dyw’r toiledau menywod ddim digon mawr i gynnwyd coets.”
“Mae cyfleusterau toiled ar y cyfan yn rhy fach i fynd â phram iddyn nhw tra byddwch
yn defnyddio’r cyfleusterau – sy’n golygu bod angen fel arfer i fi fynd i’r ciwbicl anabl.
Byddai’n dda hefyd pe bai’r ystafelloedd newid babanod yn gallu cynnwys ciwbicl
toiled hefyd fel gall fy mhlentyn arall ddefnyddio’r toiled tra fy mod i’n newid y babi.
Mae’n berffaith yn Asda. Mae M&S yn anodd oherwydd yr angen i fynd i fwy nag un
lle, mae’r toiledau cyhoeddus wrth y maes parcio yng Nghwmbrân yn berffaith –
mae’r ystafell newid babanod sydd â thoiled yn berffaith! Ac yn lân bob tro.”
Sylwadau dethol mewn perthynas â heriau os yw’r oedolyn neu blant eraill
hefyd eisiau defnyddio toiled:
“Os yw oedolyn allan gyda babi bach mae’n bosibl cael hyd i doiled gyda man newid
babanod, serch hynny, dyw e ddim yn bosibl yn aml i’r oedolyn hefyd fynd at doiled.
Gall yr oedolyn ddim mynd i giwbicl gyda babi na gadael y plentyn y tu allan i’r
ciwbicl. Mae yna gyfleuster newid gyda digon o le ar gyfer coets ac sy’n darparu
cyfleuster [toiled] i’r oedolyn yn y maes parcio tanddaearol yng Nghwmbrân, ond ar y
cyfan os ydych chi’n mynd allan gyda phlentyn bach mae angen dau oedolyn arnoch
chi.”
Sylwadau dethol mewn perthynas â glendid a glanweithdra:
“Does dim o’r cyfleusterau yr ydw i wedi eu defnyddio yn Nhorfaen â gorchuddion ar
gael ar gyfer y bwrdd newid na chwaith unrhyw ffordd o lanhau/diheintio’r bwrdd.
Does gan llawer o’r cyfleusterau ddim gwregysau sy’n golygu ei fod yn beryglus
cerdded i ffwrdd o’r babi hyd yn oedd i olchi’ch dwylo.”
28
Soniodd nifer o rieni am le ar gyfer bwydo o’r fron:
“Byddai mannau i fwydo o’r fron yn ddefnyddiol – lle diogel â chadair gyfforddus.”
Sylwadau mewn perthynas â chyfleusterau newid babanod mewn toiledau
dynion:
“Unedau newid babanod ar wahân fel gall dynion a menywod eu defnyddio.”
“Ychydig iawn o unedau newid babandod sydd dim yn rhan o doiledau menywod,
sy’n golygu na all dynion newid eu babanod. Mae gosod cyfleusterau newid babanod
mewn toiledau i’r anabl yn helpu ond rydych chi’n teimlo’n euog os oes rhaid i berson
anabl aros i ddefnyddio’r toiledau oherwydd eich bod chi’n newid babi.” Noder: does
dim gwahanu ar ran rhyw yn y ffordd hyn yng nghyfleusterau CBS Torfaen.
Sylwadau gydag ystyriaethau ariannol:
"Mae’n drueni nad yw’r rhai sydd gyda ni yn cael gofal gan y bobl sy’n eu defnyddio.
Buaswn i’n falch o dalu i ddefnyddio cyfleusterau pe baen nhw’n cael eu cynnal at
safon digon uchel.”
“Rwy’n credu y byddai’n well gwario unrhyw arian dros ben ar bethau eraill. Os
ydych chi’n mynd â’ch plant allan yna mae’n siŵr mai cyfrifoldeb y rhiant yw sicrhau
eu bod yn mynd â digon o bethau newid babanod gyda nhw a pheidio disgwyl i eraill
ddarparu pethau ar eu rhan.”
Y ddarpariaeth bresennol
Mae toiledau sydd ar agor i’r cyhoedd ar gael ar draws Torfaen. Mae’r rhan fwyaf yn
ddarpariaeth gyffredinol gyda mynediad cyfyngedig i gyfleusterau niwtral o ran
rhywedd, cyfleusterau newid babanod neu gyfleusterau changing places (fel y’i
dynodwyd gan y cynllun cenedlaethol i blant hŷn ac oedolion ac oedolion sydd
angen lleoedd mwy a chyfarpar penodol).
Mae toiledau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael eu hyrwyddo mewn taflen y mae
modd ei lawrlwytho o wefan CBS Torfaen. Mae rhai o’n partneriaid – fel Age
Connects Torfaen – yn darparu copïau caled o’r daflen hon i’n cwsmeriaid.
https://www.torfaen.gov.uk/cy/RoadsTravelParking/StreetCareandCleaning/Publicco
nveniences/PublicaccesstotoiletsinTorfaen.aspx
Mae’r wefan yn rhoi manylion am leoliad ac oriau agor ond mae yna drosolwg yma:
Toiledau cyhoeddus sy’n eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan CBST
• Bloc Toiledau Lion Street+, Blaenafon. NP4 9NH
• Bloc Toiledau’r Llyn Cychod+, Llanfrechfa Way, Llanyrafon, Cwmbrân. NP44 8HT
• Ystafelloedd Newid Meysydd y De, Llanyrafon, Cwmbrân, NP44 8HT
• Bloc Toiledau Neuadd y Dref*, Hanbury Road, Pont-y-pŵl. NP4 6JL
• Bloc Toiledau Parc Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl. NP4 8AT
29
*Mae Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl yn cyfrannu’n ariannol at gost y toiledau yma.
+Angen allwedd radar i fynd i’r toiled hygyrch.
Adeiladau CBST sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd
• Canolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon, Church Road, Blaenafon. NP4 9AE
• Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, The Highway, Croesyceiliog, Cwmbrân.
NP44 2HF
• Llyfrgell Cwmbrân+, Gwent Square, Cwmbrân. NP44 1XQ
• Mynwent Llwyncelyn, Llwyncelyn Drive, Llwyncelyn, Cwmbrân. NP44 7PF
• Canolfan Addysg i Oedolion Power Station, Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân. NP44
4SY
• Llyfrgell Pont-y-pŵl, Hanbury Road, Pont-y-pŵl. NP4 6JL
• Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl+, Pont-y-pŵl. NP4 6JW
• Canolfan Dysgu i Oedolion y Settlement, Trosnant Street, Pont-y-pŵl. NP4 8AT
• Canolfan Adnoddau Tŷ Nant Ddu, Hospital Road, Pontnewynydd, Pont-y-pŵl. NP4 8LE
+Angen allwedd radar i fynd i’r toiled hygyrch.
Mae Cynghorau Cymuned fel arfer yn caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio’r toiledau yn
yr adeiladau sy’n eiddo iddyn nhw neu maen nhw’n eu rhedeg ar sail disgresiwn, pan
fo staff yn bresennol. Serch hynny, gall staff fod yna ar adegau afreolaidd ac felly, er
mwyn rheoli disgwyliadau, mae’n well gan Gynghorau Cymuned i’r cyfleuster yma
beidio â chael ei hysbysebu:
• Swyddfeydd Cyngor Tref Blaenafon, 101 High Street, Blaenafon. NP4 9PT
(darperir gan Gyngor Tref Blaenafon)
• Tŷ’r Cyngor, Ventnor Road, Cwmbrân. NP44 3JY
(darperir gan Gyngor Cymuned Cwmbrân)
• Canolfan Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road+, Croesyceiliog, NP44 2DZ
(darperir gan Gyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon
Mae Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl yn cyfrannu at gostau cadw Bloc Toiledau Neuadd
y Dref, Hanbury Road, Pont-y-pŵl. NP4 6JL (gweler uchod).
Nid yw Cyngor Cymuned Henllys na Chyngor Cymuned Ponthir yn meddiannu eiddo
ar sail amser llawn ac felly nid ydynt yn rhoi mynediad i doiledau.
Adeiladau sector cyhoeddus sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd
• Canolfan Adnoddau Blaenafon, Middle Coed Cae Road, Blaenafon. NP4 9AW
(darperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
30
Eiddo yn y trydydd sector sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd
• Capel Bethlehem, Broad Street, Blaenafon. NP4 9NE
• Canolfan Byw’n Egnïol Bowden, Folly Road, Trefddyn, Pont-y-pŵl. NP4 8JD
• Stadiwm Cwmbrân, Henllys Way, Cwmbrân NP44 3YS
• Canolfan Hamdden Fairwater, Ty Gwyn Way, Fairwater, Cwmbrân NP44 4YZ
• Neuadd y Mileniwm Garndiffaith, Top Road, Garndiffaith, Pont-y-pŵl. NP4 7LT
• Neuadd Bentref Ponthir, Ponthir Road, Ponthir, Casnewydd NP18 3XL
• Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl, Trosnant Street, Pont-y-pŵl NP4 8AT
• Prosiect Kickplate, Adeiladau Portland, Commercial Street, Pont-y-pŵl. NP4 6JS
• Neuadd Gymunedol y Pishyn Tair, Deerbrook, Greenmeadow, Cwmbrân. NP44 4SX
Cyfleusterau toiled Canolfan Cwmbrân
Yr Orsaf Fysiau+, Gwent Square, Glyndwr Road, Cwmbrân. NP44 1QS
Monmouth Square+, Cwmbrân. NP44 1PX
Mae’r Amserau Agor ar gyfer y mwyafrif o gyfleusterau toiled uchod i’w gweld yn
Atodiad 1: Mapio Data – Toiledau y gellir eu hyrwyddo at gyfer defnydd cyhoeddus.
Gorsafoedd petrol â chyfleusterau toiled
Gorsaf Betrol Esso, Rockhill Road, Pont-y-pŵl NP4 8AN (Rontec)
Gorsaf Betrol Shell, Henllys Way, Cwmbrân. NP44 3JA (Euro Garages)
Gorsaf Betrol Shell Folly Tower, Cylchfan A4042, Pont-y-pŵl. NP4 0XB (24 awr) (Euro
Garages)
Archfarchnadoedd â chyfleusterau toiled
Archfarchnad Asda, Cwmbrân, Llewelyn Road, Cwmbrân. NP44 1UL
Morrisons, Grange Road, Cwmbrân. NP44 1QP
Archfarchnad Sainsburys, Llewellyn Road, Cwmbrân. NP44 1UL
Archfarchnad Tesco, y Maes Parcio Uchaf, Lower Bridge St, Pont-y-pŵl NP4 6JU
Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gorsafoedd petrol a’r archfarchnadoedd uchod
yn ffurfiol i ofyn am ganiatâd i gynnwys y cyfleusterau ar y map cenedlaethol o
doiledau sy’n cael ei gynhyrchu.
Cynllun Cenedlaethol Changing Places
Mae gwybodaeth am fanylion toiledau Changing Places i’w gweld yn:
http://www.changing-
places.org/the_campaign/what_are_changing_places_toiledau_.aspx
Mae’r unig gyfleuster toiled sy’n cwrdd â gofynion Changing Places ar gael yn:
• Archfarchnad Asda, Cwmbrân+, Llewelyn Road, Cwmbrân, NP44 1UL
31
Allwedd Radar ar gael
Mae’r eiddo sydd â + angen allwedd radar i fynd i’r toiledau(au) hygyrch. Gellir prynu
allweddi radar gan nifer o werthwyr ar-lein neu’n lleol o:
Age Connects Torfaen, East Avenue, Tref Gruffydd, Pont-y-pŵl NP4 5AB.
Argos, 2-4 Monmouth Walk, Cwmbrân NP44 1PE.
Argos, 16 Crane Street, Pont-y-pŵl NP4 6LY.
Bush Healthcare, 33 Gwent Square, Cwmbrân NP44 1PQ.
Haven Mobility, Uned 14, Ystâd Ddiwydiannol Avondale, Cwmbrân NP44 1UG
Trafnidiaeth Gymunedol Torfaen/Shopmobility, 32 Gwent Square, Cwmbrân NP44 1PL.
Atodiadau
Atodiad 1: Data Mapio (hyd yn hyn) – Toiledau adnabyddwyd yn Nhorfaen
Atodiad 2: Arolwg Toiledau Lleol
Atodiad 3: Arolwg Newid Babanod
Ffynonellau
1Cyfwelodd Populus Research â 1040 o oedolion 18 oed a throsodd rhwng 9-22
Mehefin 2008. Dywedodd 23% bod ganddynt broblem rheoli’r bledren ac 11%
broblem rheoli’r coluddyn.
https://psnc.org.uk/south-staffordshire-lpc/wp-
content/uploads/sites/95/2015/02/BowelProblems.pdf
2Amcanestyniadau poblogaeth canol y flwyddyn y SYG (2017)
https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/popula
tionestimates/bulletins/annualmidyearpopulationestimates/mid2017?:uri=peoplepopu
lationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualmid
yearpopulationestimates/mid2017
3Amcanestyniadau poblogaeth canol y flwyddyn y SYG, MSOAs (2016)
https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/popula
tionestimates/bulletins/annualsmallareapopulationestimates/mid2016?:uri=peoplepo
pulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annuals
mallareapopulationestimates/mid2016
4Asesiad Lles Torfaen 2017
http://www.torfaenpublicservicesboard.co.uk/cy/Documents/Assessment-of-Well-
being/Part-1-Torfaen-Well-being-Assessment.pdf
32
5Arolwg Iechyd Cymru 2015
https://gov.wales/docs/statistics/2016/160601-welsh-health-survey-2015-initial-
headline-results-cy.pdf
6ABUHB – cofrestrau heintiau meddygon teulu i Dorfaen.
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/866/ABUHB%20Diabetes%20Annual
%20Report%202014%20final%20September%202015.pdf
7Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/12518%20PHW%20CMP%20Rep
ort%20%28Wel%29.pdf
8Memorandwm gan Gymdeithas Genedlaethol Colitis a Chlefyd Crohn
https://publications.parliament.uk/pa/cm200708/cmselect/cmcomloc/636/636we24.ht
m
9Dangosyddion Ein Dyfodol Iach (2015)
http://www.arsyllfaiechydcyhoedduscymru.wales.nhs.uk/dangosyddion-ein-dyfodol-
iach-2015
10Holt-Lunstad, 2015 / Hawkley et al, 2010
https://www.ahsw.org.uk/userfiles/Research/Perspectives%20on%20Psychological%
20Science-2015-Holt-Lunstad-227-37.pdf
11Amcanestyniadau ar sail poblogaeth (2014), Llywodraeth Cymru
https://gov.wales/statistics-and-research/local-authority-population-
projections/?skip=1&lang=cy
12Uned Data Cymru (2016). Deall Data Cryno Llesiant Lleol, Hydr ef 2016.
http://www.data.cymru/SharedFiles/Download.aspx?pageid=30&mid=64&fileid=95
13Tarddiad-Cyrchfan, Cyfrifiad 2011
https://www.nomisweb.co.uk/census/2011/origin_destination
14Cyflog Gros dynion v menywod. Ffynhonnell : Arolwg Blynyddol y SYG o oriau ac
enillion – dadansoddiad y gweithle, 2015, trwy NOMIS.
https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkin
ghours/bulletins/annualsurveyofhoursandearnings/2015provisionalresults?:uri=emplo
ymentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/bulletins/annualsurv
eyofhoursandearnings/2015provisionalresults
15Asesiad Lles Torfaen infograffeg Pont-y-pŵl
http://www.torfaenpublicservicesboard.co.uk/cy/Documents/Assessment-of-Well-
being/Part-3-Well-being-of-Pontypool-and-its-communities.pdf