8
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI Unwaith eto eleni cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau gan eglwys Hope-Siloh Pontarddulais er mwyn dathlu Gŵyl Ddewi. Dechreuwyd y dathliadau ar fore Sul Mawrth 1 gan wasanaeth arbennig a drefnwyd gan Marie-Lynne ac athrawon yr ysgol Sul. Braf oedd gweld ystod eang o oedran yn dod at ei gilydd i gynnal y gwasanaeth. Cyflwynwyd eitemau cerddorol, adroddiadau, darlleniadau a chafwyd cyflwyniad ar hanes Dewi Sant. Gwasanaeth bendithiol iawn. Y nos Fawrth canlynol daeth nifer dda ynghyd i fwynhau noson o gawl a chân. Bu Gwenda Evans a’i thîm ffyddlon o weithwyr yn brysur yn paratoi llond crochan enfawr o gawl blasus ac yna pastai ’fale hyfryd a wnaeth Anita Appleton un o’n haelodau fel pwdin. Bendigedig! Wedi’r gwledda cawsom ein diddanu yn ôl yr arfer gan barti Lleisiau Lliw o dan arweiniad Berian Lewis a Luned Manon yn cyfeilio. Noson i’w chofio. Diolch o galon iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr. Yna fore Mercher tro’r clwb Babanod oedd hi i ddathlu. I gloi’r cyfan ar y bore Gwener, cynhaliwyd ein bore coffi misol gyda phlant dosbarth Derbyn a blwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Bryniago yn diddanu selogion y boreau coffi. Wythnos i’w chofio. Aelodau newydd Ar fore Sul 8 Mawrth braf oedd bod yn bresennol yn y gwasanaeth Cymun, pan dderbyniodd ein gweinidog y Parchedig Llewelyn Picton Jones bymtheg aelod newydd. Croesawyd hwy yn gynnes wrth iddynt ddod yn rhan o fywyd a brwdfrydedd teulu eglwys Hope-Siloh. Croesawyd ni yn gynnes i Wasanaeth Dydd Gweddi’r Byd 2020 i gapel Pencae gan Enid Jones, Llanarth, Cylch Ceinewydd. Roedd y gwasanaeth eleni wedi ei baratoi gan Ferched Cristnogol Zimbabwe sy’n galw arnom, ‘Cod! Cymer dy fatras a Cherdda.’ Wrth i aelodau’r cylch gymryd rhan yn y gwasanaeth roeddem yn rhan o ddolen enfawr o weddi o amgylch y byd, oedd yn cychwyn wrth i’r haul godi dros Samoa ac yn gorffen tua 36 awr yn hwyrach yn ôl yn y Môr Tawel wrth i’r haul fachlud dros Samoa Americanaidd. Wrth i ni ymuno mewn gweddi gyda phobl mewn dros 120 o wledydd ac ynysoedd ledled y byd cawsom ein herio wrth glywed eu straeon i geisio cariad, heddwch a chymod yn barhaus. Diolch i wragedd Pencae am y croeso ac am baratoi paned a chacen i bawb cyn troi am adre. Gwenno Evans Yn y llun gwelir yr aelodau newydd ynghyd â Llewelyn Picton Jones a Marie-Lynne ei wraig Aelodau Cylch y Cei wedi dod ynghyd i gapel Pencae, Llanarth i gymryd rhan yng ngwasanaeth Dydd Gweddi’r Byd Oedfa Weddi’r Byd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg YMDDEOLIAD Ar ddiwedd mis Mawrth ymddeolodd Mrs Nerys Humphries o’i gwaith fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn Nhŷ John Penri. I laweroedd o Annibynwyr, Nerys oedd llais yr Undeb, yn delio’n dawel, effeithiol â’u hymholiadau ynghylch Y Tyst a Dyma’r Undeb, ffurflenni bwyd y gynhadledd flynyddol a swper y Cyngor, tystysgrifau bedydd, amlenni casgliadau wythnosol a gwin cymundeb, heb sôn am lu o faterion eraill, mawr a mân, trafferthus i saint. Bu’n gyd-aelod staff cyfeillgar, parod ei chymwynas. Nid yn lleiaf ei hawydd i sicrhau cyflenwad gyson o de a choffi i bawb o’i chwmpas. Dymunwn iddi, ac i Mark ei phriod flynyddoedd lawer o ymddeoliad dedwydd a da.

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI … · 2020. 4. 14. · ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI … · 2020. 4. 14. · ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c.

COFIO DEWIUnwaith eto eleni cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau gan eglwys Hope-Siloh Pontarddulais er mwyn dathlu Gŵyl Ddewi. Dechreuwyd y dathliadau ar fore Sul Mawrth 1 gan wasanaeth arbennig a drefnwyd gan Marie-Lynne ac athrawon yr ysgol Sul. Braf oedd gweld ystod eang o oedran yn dod at ei gilydd i gynnal y gwasanaeth. Cyflwynwyd eitemau cerddorol, adroddiadau, darlleniadau a chafwyd cyflwyniad ar hanes Dewi Sant. Gwasanaeth bendithiol iawn.

Y nos Fawrth canlynol daeth nifer dda ynghyd i fwynhau noson o gawl a chân. Bu Gwenda Evans a’i thîm ffyddlon o weithwyr yn brysur yn paratoi llond

crochan enfawr o gawl blasus ac yna pastai ’fale hyfryd a wnaeth Anita Appleton un o’n haelodau fel pwdin. Bendigedig!

Wedi’r gwledda cawsom ein diddanu yn ôl yr arfer gan barti Lleisiau Lliw o dan arweiniad Berian Lewis a Luned Manon yn cyfeilio. Noson i’w chofio. Diolch o galon iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr. Yna fore Mercher tro’r clwb Babanod oedd hi i ddathlu. I gloi’r cyfan ar y bore Gwener, cynhaliwyd ein bore coffi misol gyda phlant dosbarth Derbyn a blwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Bryniago yn diddanu selogion y boreau coffi. Wythnos i’w chofio.

Aelodau newydd Ar fore Sul 8 Mawrth braf oedd bod yn bresennol yn y gwasanaeth Cymun, pan dderbyniodd ein gweinidog y Parchedig Llewelyn Picton Jones bymtheg aelod newydd. Croesawyd hwy yn gynnes wrth iddynt ddod yn rhan o fywyd a brwdfrydedd teulu eglwys Hope-Siloh.

Croesawyd ni yn gynnes i Wasanaeth Dydd Gweddi’r Byd 2020 i gapel Pencae gan Enid Jones, Llanarth, Cylch Ceinewydd. Roedd y gwasanaeth eleni

wedi ei baratoi gan Ferched Cristnogol Zimbabwe sy’n galw arnom, ‘Cod! Cymer dy fatras a Cherdda.’ Wrth i aelodau’r cylch gymryd rhan yn y gwasanaeth roeddem yn rhan o ddolen enfawr o weddi o amgylch y byd, oedd yn cychwyn wrth i’r haul godi dros Samoa ac yn gorffen tua 36 awr yn hwyrach yn ôl yn y Môr Tawel wrth i’r haul fachlud dros Samoa Americanaidd. Wrth i ni ymuno mewn gweddi gyda phobl mewn dros 120 o wledydd ac ynysoedd ledled y byd cawsom ein herio wrth glywed eu straeon i geisio cariad, heddwch a chymod yn barhaus. Diolch i wragedd Pencae am y croeso ac am baratoi paned a chacen i bawb cyn troi am adre.

Gwenno Evans

Yn y llun gwelir yr aelodau newydd ynghyd â Llewelyn Picton Jones a Marie-Lynne ei wraig

Aelodau Cylch y Cei wedi dod ynghyd i gapel Pencae, Llanarth i gymryd rhan yng ngwasanaeth Dydd Gweddi’r Byd

Oedfa Weddi’r Byd

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

YMDDEOLIAD Ar ddiwedd mis Mawrth ymddeolodd Mrs Nerys Humphries o’i gwaith fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn Nhŷ John Penri. I laweroedd o Annibynwyr, Nerys oedd llais yr Undeb, yn delio’n dawel, effeithiol â’u hymholiadau ynghylch Y Tyst a Dyma’r Undeb, ffurflenni bwyd y gynhadledd flynyddol a swper y Cyngor, tystysgrifau bedydd, amlenni casgliadau wythnosol a gwin cymundeb, heb sôn am lu o faterion eraill, mawr a mân, trafferthus i saint.

Bu’n gyd-aelod staff cyfeillgar, parod ei chymwynas. Nid yn lleiaf ei hawydd i sicrhau cyflenwad gyson o de a choffi i bawb o’i chwmpas.

Dymunwn iddi, ac i Mark ei phriod flynyddoedd lawer o ymddeoliad dedwydd a da.

Page 2: Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI … · 2020. 4. 14. · ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 9, 2020Y TYST

IachawdwriaethGair hyfryd yn y Beibl Cymraeg yw’r gair iachawdwriaeth. Y mae’n ymddangos yn yr Hen Destament 49 o weithiau (העושי = Ieshŵa yn Hebraeg) ac yn y Testament Newydd 42 o weithiau (σωτήρiα = Soteria – yn y Groeg). Yn ôl pob tebyg William Salesbury fathodd y gair iachawdwriaeth gan ei fod yn ymddangos yn ysgrifenedig am y tro cyntaf, ar y ffurf iechydwriaeth yn Nhestament Newydd 1567.

Mae dwy ffordd o gyfieithu’r gair Groeg soteria (dyma wraidd y gair Saesneg soteriology). Yn gyntaf, gellir ei gyfieithu i olygu achub rhywun o sefyllfa beryglus ac yn ail, gall olygu gwella rhywun o salwch. Yn ddiddorol aeth y cyfieithwyr Saesneg ar ôl yr ystyr cyntaf trwy ddefnyddio’r gair salvation ac fe aeth y cyfieithwyr Cymraeg ar ôl yr ail ystyr gan ddefnyddio’r gair iachawdwriaeth.

Dyma i chi ddwy enghraifft lle defnyddir y gair iachawdwriaeth. Ar ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, oherwydd mab i Abraham yw’r gŵr hwn yntau. Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.’ (Luc 19:9–10) Ac yna yn hanes Pedr yn siarad gerbron y Cyngor dywedir, ‘Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i’r ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.’ (Act 4:12) Rwy’n hoff o’r gair hwn oherwydd ei fod yn agor drysau arbennig i’n dealltwriaeth o’r hyn gyflawnodd Iesu trwy ei fywyd perffaith, ei farw aberthol ar y Groes a’i atgyfodiad buddugoliaethus. Dyma rai pethau trawiadol,

Y Meddyg Da Mae’r gair iachawdwriaeth yn ein harwain i feddwl am Iesu fel Meddyg Da sydd wedi dod i wella pobl, cymdeithas a’r greadigaeth o salwch. Dywedodd Iesu un tro, ‘Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.’ (Marc 2:17) Fe ddaeth i iachau pobl o’u pechodau – ein gwrthryfel yn erbyn Duw – sydd â sgil effeithiau andwyol o bob math ar ddynoliaeth ac unigolion. Dyma pam fod yr Iesu yn iachau cleifion, yn uniaethu gyda’r tlawd a’r anghenus ac yn gwrthwynebu anghyfiawnder cymdeithasol a chrefyddol. Oherwydd y mae Ef yn iachawdwr cyflawn. Y pechod hwnnw sydd fel gwahanglwyf yn ein hynysu oddi wrth Dduw.

Salwch Trwy ddefnyddio’r gair iachawdwriaeth cyffelybir pechod i salwch y mae pawb ohonom yn ddiwahân yn dioddef ohono nad oes gennym foddion i’w wella. Y mae

hyn o gymorth inni beidio â meddwl am bechod fel cyfres o weithredoedd drwg. Nid dyna ydyw pechod ond ein cyflwr, rydym yn sâl ac angen iachawdwriaeth. Ac mae Iesu trwy gariad a gras Duw yn cynnig moddion i’n gwella a dileu effeithiau’r aflwydd. Yn wir Iesu yw’r Meddyg a’r moddion.

Y Groes a’r Atgyfodiad A dyma arwyddocâd syfrdanol digwyddiadau’r Pasg. Trwyddynt y mae Duw wedi trefnu ffordd i ddod ac iachawdwriaeth i’r clefyd blin trwy ei annwyl Fab Iesu. Ar y groes fe gymerodd ein pechodau arno ef ei hun gan ddioddef canlyniadau hynny yn ein lle. Trwy inni gredu ynddo fe gawn faddeuant ac iachawdwriaeth. Ar y trydydd dydd fe atgyfododd a dengys hyn fod ei waith yn gyflawn. Canlyniad ein gwrthryfel yn erbyn Duw yw marwolaeth – ein pechod – ond roedd Iesu yn ddibechod ac nid oedd gan farwolaeth hawl arno.

Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. (Rhuf. 6:23)

Dathlwn a gorfoleddwn yn ddiarbed ar Sul y Pasg. Mae’r moddion ar ein cyfer wedi ei ddarparu yn Iesu, moddion sy’n dod ag iachawdwriaeth.

Yr Iesu atgyfododd, nid ofnwn angau mwy, daeth bywyd annherfynol o’i ddwyfol, farwol glwy’; datganwch iachawdwriaeth yn enw Iesu gwiw; mae’r ffordd yn rhydd i’r nefoedd, a’r Iesu eto’n fyw.

THOMAS LEVI, 1825–1916

CADWYN WEDDI Mae’r Parchg Emlyn Dole, gweinidog Caersalem, Pontyberem wedi paratoi cynllun ar gyfer aelodau’r eglwys yn sgil ein sefyllfa bresennol o fethu dod at ein gilydd i gyd-addoli oherwydd y firws. Y syniad yn syml iawn yw cadwyn weddi lle bydd pawb sydd â diddordeb yn ymrwymo i weddïo ar adeg arbennig yn y sicrwydd fod yna eraill wedi ymrwymo i wneud yr un peth ar yr un pryd.

Dyma restr o destunau gweddi ond does dim rhaid cyfyngu eich hunain i’r rhain.

RHESTR WEDDI I’R GADWYN

Gweddïwch y bydd y firws yma yn ein gadael heb gymryd gormod o’n cyd-ddynion mewn angau.

Gweddïwch ar ran pawb sydd yn dioddef oherwydd y firws mewn unrhyw ffordd.

Gweddïwch dros yr amrywiol wasanaethau a’i gweithwyr sydd wrthi’n ceisio cynorthwyo pawb sydd yn dioddef.

Gweddïwch dros wirfoddolwyr sydd yn rhoi o’i hamser a’i gwasanaeth i gynorthwyo.

Gweddïwch y daw adferiad llwyr i ni fel cymdeithas pan ddaw diwedd ar yr argyfwng.

Gweddïwch am ddiogelwch ein cymdeithas.

Dyma fydd amserau gweddi y gadwyn:

Rhwng 8.00pm ac 8.30 pm ar nos Lun, nos Fercher a nos Wener.

Rhwng 11.00am ac 11.30am ar foreau Dydd Sul.

Diolch am y bwriad ac i chithau os ydych am ymuno. Nid yw eglwys yn peidio â bod yn eglwys os nad ydym yn cwrdd â’n gilydd. Diolch am y syniad – rwy’n falch iawn o’i rannu gyda chi.

Deris Williams

A dyna beth oedd dienyddio. O bob dull ellid ei ddefnyddio y mwyaf hyll ydoedd croeshoelio; nid y fwled i ddiffodd y golau mor sydyn â thaflu switsh a noswylio; nid y nodwydd i chwistrellu’r gwenwyn i’r gwythiennau gwancus sydd yn llyncu’r angau gwyddonol, yr angau glân clinigol. Ond hwn oedd y marw araf, marw budr y chwipio a’r curo a’r hoelio – y drain yn drwm, yn pigo, pigo, y gwaed yn ceulo a’r oriau’n llusgo.

Do, bu hwn am oesoedd yn marw; rhoi digon o amser i ni ddechrau amgyffred holl ystyr ei dynged. Dychwelodd yr offeiriaid i’w temlau a’r gwleidyddion i’w palasau gan ddiolch i’w trefn fod y cyfan ar ben. Ond iddo yntau, fel ag i ninnau, nid oedd hyn ond megis dechrau.

O CADW DRWS, Meirion Evans (Gwasg Gomer)

GWENER Y GROGLITH

Page 3: Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI … · 2020. 4. 14. · ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth

Wythnos 30 – Sul, 19 Ebrill

DANIEL

Deil i waredu, heb lesgáu, ei blant rhag llewod yn y ffau.

Felly gorchmynnodd y brenin iddyntddod â Daniel, a’i daflu i ffau’r llewod;ond dywedodd wrth Daniel, “Byddedi’th Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu’nbarhaus, dy achub.” (Daniel 6:16;tud. 255 yn y Gwerslyfr)

Darllen: Daniel 6:1–28

Gweddi: Deuwn yn llon at orsedd Duw,ein Ceidwad digyfnewid yw; gwyrth ei drugaredd sydd o hydar waith ynghanol helbul byd. Amen

(Caneuon Ffydd, 9)

Ar fore’r Pentecost clywn Pedr yn tystioi Atgyfodiad Iesu fel hyn:

“Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwyfwriad penodedig a rhagwybodaethDuw, ac fe groeshoeliasoch chwi efdrwy law estroniaid, a’i ladd. Ondcyfododd Duw ef, gan ei ryddhau owewyr angau, oherwydd nid oedddichon i angau ei ddal yn ei afael.”(Actau 2:23–4)

Mae’r adlais yn gryf yn yr hanes dansylw y tro hyn. Daw gelynion y dyncyfiawn ynghyd mewn cynllwyn iddedfrydu Daniel i farwolaeth. Nidoedd Peilat yn medru canfod ffordd oryddhau Iesu, ac felly hefyd mae dwyloDareius yn rhwym, ac fe deflir Danieli’r pydew at y llewod rheibus. YnSalm 22 (disgrifiad proffwydol ofarwolaeth Iesu) darllenwn ddwy waitham safn y llew yn cau amdano: “ymaent yn agor eu safn amdanaf fel llewyn rheibio a rhuo” (adn. 13, cymhareradn. 21).

Yn achos Daniel daw angel i gau

safnau’r llewod, ac fe’i gwaredir. Nidoedd safnau angau’n medru dal eugafael ar Iesu, a’r trydydd dydd fe ddawyn fuddugol rydd o enau’r bedd:

Ni allodd angau duddal Iesu’n gaeth

ddim hwy na’r trydydd dyddyn rhydd y daeth.

(Caneuon Ffydd, 764)

Mae’r stori’n gyfarwydd i ni o’nmebyd, ond yn y stori a gyflwynir iblant, tybed faint o bwyslais a roddir argydsynio Daniel â’u cynllwyn?Darllenwch adn. 10 eto: “Pan glywodd

Ebrill 9, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

Ceir rhestr gyflawn o’r hollddarpariaeth Gristnogol Gymraeg arbob cyfrwng – radio, teledu arecordiadau – drwy ddilyn y ddolen‘Cyfryngau a Ffilm’ ar wefanwww.Cristnogaeth.Cymru.

Yn ychwanegol at yr uchod, felansiwyd llinell ffôn ar gyfer rhaia hoffai glywed oedfa wythnosol:

Gwasanaethau dydd Sul EBC dros yffôn: 02920 101 564.

Hefyd, fe gawsom ein hatgoffa ganGyngor yr Ysgolion Sul fod pedairtudalen Facebook ganddyn nhw sy’ncynnig geiriau o anogaeth acysbrydoliaeth:

Beibl Byw / Cristnogaeth CymruTudalen a grëwyd ynwreiddiol i helpupobl i ddarllen yBeibl. Dros ymisoedd nesaf byddmyfyrdodau Bobdydd gyda Iesu gan Selwyn Hughes ynymddangos ar hon yn ddyddiol – ar hyno bryd yn dilyn llwybr y Pasg ac yna tany Pentecost yn ein harwain drwy hanesyr Eglwys Fore.

Tudalen sy’n rhannu adnodau a darnauo’r Beibl. Hanes y Pasg o beibl.net sy’n

cael ei rannu ar hyn o bryd, ac yna’rActau tan y Pentecost.

Gair o WeddiTudalen i rannu gweddiddyddiol yn y cyfnodheriol hwn. Byddwnyn rhannu gweddinewydd a gwreiddiolbob dydd, ac yncydweithio â Nick Fawcett, awdurGweddïau’r Pedwar Tymor, DoesDebyg Iddo Fe ayyb, i gyfieithu eiweddïau dyddiol yntau.

Cyngor yr Ysgolion Sul /Cyhoeddiadau’r GairTudalen sy’n rhannunewyddion / gwybodaetham fentrau newydd asyniadau yw hon – gangeisio rhannu beth mae’rgwahanol enwadau amudiadau yn ei wneudhefyd.

Chwiliwch a dilynwch y tudalennauhyn ar Facebook!

Y Cyfryngau Cristnogol CymraegDechrau Canu, Dechrau Canmol,Sul y Pasg, 12 Ebrill, am 7:30yh

Ymunwch â ni i gydganu a gwrandoar rai o hoff emynau Gfiyl y Pasg.Byddwn yn dathlu ac yn cydlawenhauar uchafbwynt y calendr Cristnogol –atgyfodiad Crist. Fe gawn glyweddarlleniadau cyfarwydd o’r Beibl,perfformiadau cerddorol gan AledMyrddin, Côr CF1 a Chôr Caerdydd,a gwrando ar ambell stori a fydd yngwneud inni i gyd oedi, meddwl amyfyrio am funud fach.

Cofiwch hefyd am oedfa deleduDechrau Canu ar fore Sul am 11 o’rgloch.

(parhad ar y dudalen nesaf)

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad

(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Page 4: Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI … · 2020. 4. 14. · ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth

Ar glawr rhifyn diweddarafY Traethodydd, sef rhifyn Ebrill 2020,ceir llun o gyfrol bwysig iawn, sef TheCambridge History of Welsh Literature,a olygwyd gan Geraint Evans oBrifysgol Abertawe a Helen Fulton oBrifysgol Bryste, a’i chyhoeddiy llynedd gan Wasg PrifysgolCaer-grawnt. Nid yn aml y ceirastudiaeth o bwys a maintioli hon ynymddangos o un o brif weisgacademaidd Lloegr, a hynny mewncyfres a gaiff sylw cydwladol. Mewn 35pennod rhoddir sylw i holl rychwantllên Cymru, o’r chweched ganrif hyd yrunfed ganrif ar hugain, a sylw hefyd ilên yn y ddwy iaith, a hynny gan doretho awduron hysbys ac, ysywaeth,anhysbys (fe dybiwn i) i ddarllenwyrY Traethodydd. Yn ei erthygl-adolygiadmanwl a chynhwysfawr, dyma addywed yr adolygydd:

Rhennir y penodau yn chwe adranyn nhrefn amser, pob adran yn agorâ phennod ar gefndir hanesyddol achymdeithasol y cyfnod dan sylw.Mae’r penodau’n gryno, a’r rhanfwyaf ohonynt wedi eu rhannu’nisadrannau i’n helpu. Darllenais hwyfesul un bob dydd, yn chwilfrydigam wybod beth ddôi nesaf, a chanbenderfynu’n gynnar fod rhaid cadwmeddwl hollol agored. A’r rheswm

arbennig am hynny yw fod yrawduron un ai yn bobl ifainc neu ynbobl ddfiad o wahanol fannau, a rhaiohonynt y ddeubeth hynny. Yn wirnid oes yma fawr mwy na hannerdwsin y byddem yn eu galw’n ‘henlawiau’ neu’n ‘hoelion wyth’.

Un o’r ‘hen lawiau’, ac un o’r mwyaf o

blith yr ‘hoelion wyth’, yw’r adolygyddsef Dafydd Glyn Jones, ac eithriadolddiddorol yw darllen ei farn ef ar ygyfrol hon. Yn ôl un arall o’r hoelionwyth, sef M. Wynn Thomas, achlysur obwys cenedlaethol oedd cyhoeddi’rastudiaeth, a gwych o beth yw caelbeirniad o bwys a maintioli DafyddGlyn i drin y mater gyda pharchcyfaddas.

Does dim amheuaeth na fyddffyddloniaid Y Traethodydd yngwerthfawrogi gweddill yr arlwy. Maeyna gerddi gan y beirdd John Emyr aMary Burdett-Jones; dwy ysgrif onodwedd hanesyddol, y naill ganD. Ben Rees ar yr hen ffefryn WilliamsPantycelyn, a Noel Gibbard ar yBedyddiwr John Jenkins o’r Hengoed,awdur Gwelediad y Palas Arian; ac ynaysgrif annwyl a diddorol gan Eryl WynnDavies yn trafod y GenhadaethGymreig ym Misoram, ar sail eiymweliadau â’r cyfeillion yn yrIndia a’r profiadau cyfoethog a gafoddyno.

Yn ogystal â’r erthygl-adolygiad‘Hanes ein Llên trwy Wydrau Newydd’,ceir adolygiad helaeth a manwl ganJohn Glyn ar Argyfwng Hunaniaeth aChred: Ysgrifau ar Athroniaeth J. R.Jones, sef Astudiaethau Athronyddol 6,a olygwyd gan E. Gwynn Matthews, a’ichyhoeddi gan y Lolfa. Unwaith eto,astudiaeth fanwl yw hon ar wrthrychsydd o ddiddordeb parhaus iddarllenwyr Y Traethodydd, ac un offigyrau allweddol dadeni cenedlaetholtrydydd chwarter y ganrif o’r blaen, adwy ymdriniaeth lai, y naill ganGoronwy Wyn Owen ar Cerddi MorganLlwyd, a Meilyr Powel, un o’n beirniaidiau, ar gyfrol ddiweddar Aled Eirug,Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn yRhyfel Mawr.

Mae’r rhifyn hwn o’r Traethodydd ynymddangos tra bydd ei darllenwyradref, yn ymochel rhag effeithiau’rfeirws COVID-19. Hoffwn ddiolch istaff Gwasg Gomer, Llandysul, amofalu fod y rhifyn wedi cyrraedd ycyhoedd cyn i’r cyfyngiadaugwaethaf gael eu gweithredu. Oshoffech archebu copi, gallwch wneudhynny trwy gyfrwng y wefan:www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch nihefyd ar Drydar ac ar Facebook.Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan([email protected]), Y Gilfach,Ffordd y Gogledd, Llanbedr PontSteffan, SA48 7AJ. Am wybodaethychwanegol gellwch gysylltu agAlice Williams ([email protected]),Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru,81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd,Caerdydd, CF14 1DD.

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 9, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Daniel fod y ddogfen wedi eiharwyddo, aeth i’w dª. Yr oedd ffenestriei lofft yn agor i gyfeiriad Jerwsalem,ac yntau’n parhau i benlinio deirgwaithy dydd, a gweddïo a thalu diolch i’wDduw, yn ôl ei arfer.” Y mae’n fwriadolyn herio cyfraith ddigyfnewid yMediaid a’r Persiaid, ac yn profi bodcyfraith gras Duw yn drech na hi. Maegallu ein Duw, fel y mae Dareius ynymbalfalu tuag at gredu, yn drech nadim all y byd ei daflu atom. Ein tasg niyw cadw ein llygaid arno a dal i alw arei enw mewn ffydd yn wyneb yr heriaumwyaf dieflig sydd ar ein gwarthaf.

Nid coronafirws oedd gelyn Daniel,eto mae gwers ganddo i’w chynnig:agorodd ffenestri ei lofft a gweddïo’ngyson gyda diolch, “yn ôl ei arfer”. Osydym yn canolbwyntio ar y cyfyngder,a’r anawsterau, hawdd yw digalonni adiffygio. Tybed, yn hytrach, allwn niganfod testun diolch yn y cyfnod anoddyma? A allwn eiriol dros y gwan a’r rhaisydd yng ngafael yr aflwydd,bendithio’r staff meddygol a’r lliawscymorthyddion sy’n galluogi ein bywydi fynd yn ei flaen?

A boed i ni gofio’r stori fwy: fod

Iesu wedi trechu angau a’r bedd, eiAtgyfodiad yn ernes i ni o’rgobaith sydd ymhlyg yn ei GyfamodNewydd:

Llyncwyd angau mewn buddugol iaeth.O angau, ble mae dy fuddugoliaeth?O angau, ble mae dy golyn?

(1 Corinthiaid 15:54–5)

Trafod ac Ymateb:

1. “Daeth y bobl hyn gyda’i gilydd adal Daniel yn ymbil ac yn erfyn ar eiDduw” (adn. 11). Beth a ddywedidamdanom ninnau mewn sefyllfadebyg?

2. Nid oes modd osgoi meddwl amfarwolaeth ar adeg fel hyn.Myfyriwch ar eiriau John Elias adysgwch ganddynt:

Bu’n angau i’n hangau ni wrth farw ar y pren,

a thrwy ei waed y dygir llu, drwy angau, i’r nefoedd wen.

(Caneuon Ffydd, 482)

3. Ystyriwch dysiolaeth Dareius ynwyneb achubiaeth Daniel (Daniel6:25–8).

AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENT (parhad)

Y TraethodyddRhifyn Ebrill 2020

Page 5: Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI … · 2020. 4. 14. · ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth

Ebrill 9, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Mae’r Coronafirws yn effeithio arnom igyd. Ond mae cariad yn ein huno ac‘Nid yw cariad yn darfod byth’(1 Corinthiaid 13:8).

A ninnau ar drothwy’r Pasg byddllawer ohonoch yn meddwl ymlaen atWythnos Cymorth Cristnogol – ond,wrth gwrs, mae’r firws COVID-19 wedirhoi stop ar honno yn ei ffurf arferol.Mae iechyd a diogelwch ein cymunedaua’n casglwyr ym mlaen ein meddyliau,a rhaid atal unrhyw gasgliadau o ddrwsi ddrws a digwyddiadau torfol i godiarian.

Mae Cymorth Cristnogol, fel eglwysia chapeli ar lawr gwlad, yn ceisio ffyrddnewydd o weithio ac o gysylltu efo’ngilydd fel pobl drwy dechnoleg – acmae pethau cyffrous yn digwydd yn ymaes hwnnw wrth i ni ddysgu mwy.

Yn sicr, bydd pethau ar-lein yndigwydd i roi cyfle i bobl gyfrannu achefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol– dros y ffôn, drwy neges destun ac ar-lein. Yn ogystal â bod yn wythnos morbwysig i godi ymwybyddiaeth o achos ytlawd yn fyd-eang ymhlith eincymunedau, Wythnos CymorthCristnogol yw’r wythnos codi arianfwyaf yn y Deyrnas Gyfunol, fellyrydym yn awyddus i wneud y gorau o’r

cyfle ac yn croesawu unrhyw syniadaunewydd gennych chi, bob un, am ffyrddnewydd o ddangos ein cariad atgymydog – dramor, adref ac felcymuned.

Ein hymateb rhyngwladolMae gan nifer o bartneriaid CymorthCristnogol brofiad o gyfyngu lledaeniadhaint ac fe ddysgwyd sawl gwers, ynarbennig yn Sierra Leone yn ystod yrargyfwng Ebola. Rydym yn gobeithio ybydd y gwersi hynny’n help i baratoicymunedau tlawd i wynebu bygythiadCOVID-19 mewn cymunedau lle maegolchi dwylo a hunanynysu’n fwy ofreuddwyd nag o bosibilrwydd go iawn.

I bobl sy’n byw mewn gwersylloedddyngarol neu mewn gwledydd heb ofaliechyd digonol, mae ein partneriaid ynmynd ati i weithio ar lefel gymunedol iaddysgu am y perygl a gosodstrwythurau yn eu lle i helpu i atallledaeniad yr haint. Mewn llefydd felCox’s Bazaar, lle mae miloedd offoaduriaid yn byw dan amodau heriol,rydym yn gweithio gyda’n partneriaid igynnig cyngor hylendid a golchi dwylo,sicrhau bod cyfleusterau iechyd yn ygwersylloedd ar gyfer arwahanu a rhoihyfforddiant i weithwyr iechyd.

Gofynnwn am eich gweddïau dros ygwaith hanfodol hwn – ac os hoffechgyfrannu, gellir gwneud hynny ar-leinneu drwy ffonio un o’r swyddfeydd yngNghymru: mae ein llinellau ffôn yn dodyn syth i’n cyfrifiaduron adref tra mae’rswyddfeydd ar gau. Rhif ffôn SwyddfaCaerdydd yw 02920 844646, SwyddfaBangor 01248 353574 – neuGaerfyrddin 01267 237257. Nid ydymyn gallu prosesu sieciau’n ddiogel arhyn o bryd, felly gofynnwn ichi ddefnyddio ffordd amgen ogyfrannu.

Mae gweddïau wedi cael euparatoi ar gyfer yr argyfwng acmaent ar gael o’n gwefan:https://www.christianaid.org.uk/get-involved-locally/wales/coronafirws ynGymraeg a Saesneg. Plis gwnewchddefnydd ohonynt fel unigolion neu felteulu’r eglwys yn eich gwasanaethaudigidol gwahanol.

Mewn cyfnodau fel hyn – cyfnodaucaled – byddwn yn darganfod ein bodyn annatod glwm â’n gilydd. MaeCoronafirws yn effeithio ar bob unohonom, ond mae cariad yn ein huno igyd.

Anna Jane EvansCydlynydd Rhanbarth

Nid yw cariad byth yn darfodCymorth Cristnogol yng Nghymru yn ymateb i newidiadau yn sgil COVID-19

Arglwydd Dduw, deuwn ger dy fronunwaith eto mewn ffordd sydd ynddiarth i ni, ond credwn dy fod ti ymagyda ni nawr a gyda phawb sy’n ymunoâ ni heddiw, ble bynnag y maent. Duwsydd yn llond pob lle ac yn bresennol ymmhob man wyt ti. Mae hynny’n dangos ini pa mor fawr wyt ti. Bydd pobl yn galwarnat ti bob awr o’r dydd, o fannaugwahanol ar draws ein byd, ac mewnieithoedd gwahanol; ond rwyt ti’n galluclywed ac yn gwrando ar bob un sy’ngalw ar dy enw, ac yn rhoi sylw i bobgweddi a offrymir – gweddi cynulleidfaa gweddi’r unigolyn. Wrth gofio hyn, niallwn ond dweud,

Pa dduw ymhlith y duwiau sydd debyg i’n Duw ni?

Mae’n hoffi maddau beiau,mae’n hoffi gwrando’n cri.

Clyw ein gweddi heddiw wrth inni ddod

o’th flaen mewn cyfnod pan rªm ni felpe mewn anialwch, heb wybod ble i droi– ‘mewn anialwch ’rwyf yn trigo’, fel yrIddewon gynt. Ond gad inni gofio iddyntddod allan o’r anialwch i fan gwell. Bu’rArglwydd Iesu mewn anialwch hefyd acyn wynebu anawsterau mawr, ondgorchfygodd ef y cyfan a wynebodd ynoa dod allan yn fuddugoliaethus. Pandeimlwn ni ein bod mewn anialwchpersonol, dim ond inni alw ar ei enw ef,fe ddaw atom i’n cysuro ac i’n harwainninnau allan hefyd.

Arglwydd, arwain drwy’r anialwch,fi, bererin gwael ei wedd,

nad oes ynof nerth na bywyd,fel yn gorwedd yn y bedd:

hollalluog ydyw’r un a’m cwyd i’r lan.

Am yr anialwch a grëwyd yn ein byd gan‘firws corona’, gad inni fod yn ffyddiog

y down allan ohono, maes o law. Yn ycyfamser, bydd yn agos at y cleifion sy’ndioddef o’r dwymyn hon; cysura hwy,a’r sawl sy’n gofidio am deulu affrindiau; a bydd yn dyner gyda’r rhaisy’n galaru ar ôl colli rhywun annwyl o’iherwydd. Bendithia ac ymgeledda’r rhaisy’n gofalu am y cleifion: y doctoriaid, ynyrsys, y cynorthwywyr a’r gofalwyr; achymdogion parod eu cymorth. Mae rhaiyn mentro’u bywyd wrth ofalu am ycleifion. Diolch amdanynt i gyd; acArglwydd, ymgeledda hwynt a’ugwneud yn hyderus ynot ti. Diolchwnhefyd am y gwyddonwyr sy’n ceisioffordd o oresgyn y dwymyn; ysbrydolahwy a rho iddynt weledigaeth.

Gwyddom, Arglwydd, y gelli di ddodâ daioni allan o ddrwg; clyw ein gweddiar ran y gymdeithas sydd ar chwâloherwydd y dwymyn, a hefyd ar ran einbyd. Tyn ddaioni allan o’r amgylchiadauhyn, fel bod gwledydd y byd yn agosáuat ei gilydd ac yn cyfeillachu fel bodunrhyw elyniaeth a all fodoli rhyngddyntyn y dyddiau hyn yn cael ei dileu.

Clyw ein gweddi, a rhagora ar eindeisyfiadau. Gofynnwn hyn oll yn enwyr Arglwydd Iesu Grist. Amen.

Gweddi amserolgan y Parch Hugh Matthews

Page 6: Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI … · 2020. 4. 14. · ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth

DIBYNNU AR DDUWGweddi yw mwynhau bod y Tad yn Dad ini mewn gwirionedd. Ond beth yn unionmae’n ei olygu bod Duw yn Dad? Yngyntaf, mae’n golygu ei fod yntragwyddol genhedlu ei Fab. Y mae bobamser yn rhoi bywyd ac yn tywallt eigariad ar ei Fab. Felly, fel Tad, ef ywffynhonnell pob bywyd, cariad a bendith.A beth mae bod yn Fab yn ei olygu? Yndragwyddol, mae’r Mab yn cael einodweddu fel yr un sy’n derbyn gan yTad. Os mai honno yn awr yw’r berthynasyr ydym ni wedi ein dwyn i mewn iddi hi,yna mae moli’r Tad fel y gwnaeth Iesu,gofyn i’r Tad am bethau fel y gwnaethIesu a dibynnu ar y Tad fel y gwnaeth Iesuyn mynd i fod yn fwyd a diod i’ncymundeb ni gydag ef. Trwy ddiolch iddoa’i foli, yr ydym ninnau’n cydnabod eigaredigrwydd a’i fawredd, ei fod ynddaionus a bod popeth da yn dod oddiwrtho ef mewn gwirionedd. Trwy ofyn

iddo am bethau, yr ydym yn ymarfer eincred mai ef yn wir yw ffynhonnell pobdaioni ac na allwn ni hebddo wneud dimsydd yn wirioneddol dda.

Os byddai Duw yn berson annibynnolsengl, yna annibyniaeth fyddai’r pethduwiol. Felly y byddem ni yn debyg iddo.Ond fel y dibynna’r Mab bob amser ar yTad, dyna felly yw natur daioniCristnogol. Derbyn, gofyn a dibynnuydy’r pethau cyntaf a’r prif bethau am fodyn Gristion. Pan na fyddwch chi’nteimlo’n anghenus (ac felly heb fodyn gweddïo llawer), y mae’nbosibl ichi golli gafael ar yr hyn sy’nbwysig mewn gwirionedd a chael eichcyflyru i ymddwyn mewn ffyrddanghristnogol. Y ffaith yw y dylech chideimlo’n fwy anghenus fyth ac yn llaihunanddibynnol wrth ichi dyfu felCristion. Os nad felly y mae hi, yna dwiddim yn sifir a ydych chi’n tyfu ynysbrydol. Ond os byddwch chi’ngwirioneddol deimlo eich angen i

ddibynnu ar Dduw, yna bydd gweddi ynllifo’n syml o hyn.

Gweddi, felly, yw mwynhau gofal Tadnerthol yn hytrach na chael ein gadael ynofnus mewn sefyllfa o unigrwydd lle maepopeth yn dibynnu arnom ein hunain.Gweddi yw gwrthbwynt llwyr hunan-ddibyniaeth. Dyma ein ‘na’ i annibyniaetha’n ‘na’ i uchelgais bersonol. Dyma roiffydd ar waith – bod angen Duw arnocha’ch bod yn dderbynnydd anghenus.

Gyda hyn mewn golwg, yn hytrach namynd ar ôl yr eilun o fod yn gynhyrchiol,gadewch inni fod yn blant dibynnol – agadael i’r prysurdeb a allai fod yn eincadw rhag gweddi fod yn ein gyrru iweddïo. Dim ond wedyn – fel y Mab – ygallwn ni fod yn wir gynhyrchiol.

Mae gennyf ddigon yn y nefar gyfer f’eisiau i gyd;oddi yno mae y tlawd a’r gwaelyn cael yn hael o hyd.

(Eben Fardd, Caneuon Ffydd, 168)

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 9, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Yn ystod cyfnod y Grawys byddwn yn cyflwyno rhai penodau o lyfr Michael Reeves, Enjoyingyour prayer life (10ofthose publishing) er mwyn ein hybu a’n helpu yn ein bywyd o weddi

Mwynhau ein Bywyd Gweddi – 7

Mae bugail eglwys o Ogledd Iwerddon adderbyniodd driniaeth mewn Uned GofalDwys ar ôl cael ei brofi’n positif am ycoronafirws wedi dweud wrth yr orsafradio a newyddion Cristnogol Premier amy ffordd y bu i Dduw ei helpu drwy’rprofiad enbyd.

Fe aeth Mark McClurg o Eglwys ElimAards yn wael yr wythnos diwethaf a’iyrru i’r ysbyty ar ôl cael trafferth gyda’ianadlu.

Nid oedd ei deulu’n gallu ymweld agef, wrth gwrs, ond fe ddywedodd ei fodwedi cyfarfod Duw mewn ffordd naphrofodd erioed o’r blaen.

“Yn yr Uned Gofal Dwys, tra oeddennhw’n rhoi’r cymorth anadlu ar waith acyn gweithio arnaf fi am dair neubedair awr, fe ddigwyddodd rhywbethnerthol,” dywedodd. “Fe weddïais,‘Arglwydd, helpa fi.’ Doeddwn i erioedwedi clywed llais clywadwy Iesu – ondfe siaradodd efo mi y noson honno adweud, ‘Fab, yr wyt ti’n fwy nachoncwerwr.’

“Wnes i ddim sylweddoli y nosonhonno bod ‘mwy na choncwerwr’ yngolygu bod yna fwy nag un frwydr yndigwydd. Roedd y noson honno moranodd. Roedd hi mor anodd anadlu.Roeddwn i mor wan. Doedd gen i ddimegni ar ôl i anadlu. Ond roeddwn i’ngwybod, er y byddai pob brwydr ynanodd, er fy mod i’n mynd at ymyl dibyn

marwolaeth, y byddwn fyw, ond roeddhi’n mynd i fod yn frwydr.”

Dywedodd Mark fod ei frwydr wedidwysáu ar ôl y profiad hwn, ond eto iddoweld Duw yn dod yn agos ato.

“Roedd y nyrsys yn dweud, ‘Mark,anadla, anadla’n ddwfn.’ Dywedon nhwwrth Claire (ei wraig) mai newyddiondrwg oedd ganddyn nhw ac felly’r cyfanallwn i wneud o ngwely oedd dweud:‘Arglwydd, helpa fi.’ Roedd fy llaw dde ilawr ochr fy nghorff. Teimlais yrArglwydd yn dod i mewn i’r ystafell

honno, a gafael yn fy llaw. Doeddwn ierioed wedi cael profiadau fel hyn o’rblaen, ond fe’m tynnwyd yn ôl o afaelmarwolaeth. Wnaeth Iesu mo ngadael i ogwbl.”

Tra mae’r llywodraeth yn rhyddhauffigurau dyddiol am nifer yr achosion a’rmarwolaethau o ganlyniad i coronafirws,mae’r rhan helaethaf o bell ffordd yngwella.

Mae hanes Mark wedi ei rannu bellachar draws y byd ac mae’n gobeithio troi’rsylw yma a gafodd gan y cyfryngau ynweddi, ac wedi dechrau cynnalcyfarfodydd gweddi dyddiol ar-lein.

“Rwy’n darllen o 2 Cronicl 7:14. Ynomae’n dweud: ‘yna bod fy mhobl, a elwirwrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo,yn fy ngheisio.’ Ar ei diwedd mae’ndweud: ‘fe wrandawaf o’r nef, a maddaueu pechod ac adfer eu gwlad.’ Os oesunrhyw un am weddïo 7:14 efo mi, dewchi dudalen Facebook Aards Elim.”

Mae’r Parch Mark McClurg ynhunanynysu ar wahân i’w deulu ond yngwella’n dda. Mae’n gobeithio gallugweld ei wraig a’i dri o blant ar ôlcwblhau’r cyfnod angenrheidiol o ynysu.

(Gyda diolch i’r cylchgrawn PremierChristianity am ganiatâd i gyhoeddi’rerthygl hon. Gellir archebu copi caled o’rcylchgrawn neu ddiweddariadau ar ebostoddi ar eu gwefan: www.premier.org.uk)

Bugail yn brwydro’r Coronafirws ac yn clywed llais Duw

Page 7: Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI … · 2020. 4. 14. · ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth

Ebrill 9, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

Barn AnnibynnolY DRYSAU WEDI’U CLOI

Mewn un ffordd, rydym ni yn yr un sefyllfa â’r disgyblion cyntaf ar noson yr atgyfodiad: ‘y drysau wedi’u cloi am fod ganddyn nhw ofn …’ (Ioan 20.19–23). Bydd ein lockdown ni yn parhau am rai misoedd, o leiaf, mae’n siŵr, ac mae’r rheswm amdano yn wahanol iawn i brofiad disgyblion cyntaf Iesu. Ond mae agweddau ar eu profiad nhw allai ein calonogi a’n hysbrydoli ni yn y cyfnod rhyfedd ac anghredadwy hwn.

Gyda’i gilydd Yn un peth, ‘roedd y disgyblion gyda’i gilydd.’ Roedd y cwlwm rhyngddynt fel cymuned disgyblion Iesu, yn dal yn gadarn, ynghanol eu hofn. Yn wir, eu hofn oedd yn eu cadw gyda’i gilydd! Yn eu hachos nhw – er ein bod ni yn gwybod yn wahanol – roedden nhw’n gorfod dysgu byw gyda phrofiad marwolaeth erchyll Iesu a cholli’r un person yr oeddent wedi rhoi eu gobeithion arno. Hebddo fe yr oedd y byd yn lle llawer mwy brawychus a bygythiol. Felly, clowch y drysau! Dyna un wers bwerus i ni: mae absenoldeb Iesu o’n bywyd yn gwneud y byd yn lle llawer mwy brawychus! Ond bydd ffydd yn Iesu, y croeshoeliedig a atgyfodwyd, yn medru’n cynnal a’n grymuso ni. Dyma oedd Paul wedi ei gyhoeddi cyn i’r Efengylau ymddangos: ‘Ond dyn ni’n concro’r byd a mwy’ (‘Yn fwy na choncwerwyr …’ yn yr hen Feibl, nid dim ond ‘concwerwyr’ ond ‘mwy na choncwerwyr’!) trwy gariad Duw yn Iesu.

Ar wahân? Ond yn eu braw, tu ôl i ddrysau clo, yr oeddent gyda’i gilydd. Yn ein lockdown ni rydym, ar un olwg, ar wahân fel cymunedau Cristnogol. Am y tro cyntaf ers tro byd – erioed, efallai – ni chawn ddathlu’r Pasg gyda’n gilydd. Ond, diolch i Dduw, nid yw hyn yn golygu chwalu’r gymuned Gristnogol. Yn ein tai a’n hystafelloedd unigol, rydym yn dal yn deulu Duw, yn gorff Crist, yn gymdeithas yn yr Ysbryd Glân. Mae cyfryngau cymdeithasol yn medru bod yn boen (gwrandewch ar yr hen foi yma’n siarad!!), ond mewn sefyllfa fel hon dônt i’w gogoniant. Gall gweplyfr, trydar, blogio, e-bostio a ffonio henffasiwn (a llu o ddulliau eraill nad ydynt wedi fy nghyrraedd i eto!) fod yn fodd grymus i fugeilio’n gilydd a chynnal y cwlwm Cristnogol rhyngom. Tybed a fyddwn ni’n cynnal bywyd a chymdeithas ein heglwysi drwy’r cyfryngau gwahanol hyn pan fydd yr argyfwng hwn drosodd. Rydym wedi darganfod ffyrdd newydd o fod, yng ngeiriau Ioan, ‘gyda’n gilydd’. Gall hyn fod yn gyfle i ni – sydd ddim wedi bod mor fentrus â hynny hyd yn hyn – fod yn eglwysi mewn ffyrdd gwahanol a chyffrous.

Taro’r tlotaf Y peth sydd wedi fy nharo i’n arbennig yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn, yw fod y pryder a’r braw sydd wedi gafael yn llawer ohonom yn brofiad newydd iawn i ni, ond wedi bod yn brofiad oes gyfan i filiynau lawer o’n brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd. Edrychwch ar wefan Cymorth Cristnogol, er enghraifft, mae yno gyfeiriad at eu profiad sylweddol o ddelio â heintiau peryglus megis y firws Ebola yn Africa Is-Sahara. Yn yr argyfwng presennol, ‘Y tlotaf fydd yn cael ei heffeithio waethaf. Nid yw’ r firws corona yn gwahaniaethu pwy y mae’n eu dargedu –

cyfoethog neu dlawd – mae ein profiad wedi dangos i ni mai’r tlotaf fydd yn dwyn y pwysau trymaf. Rydyn ni’n rhagweld y bydd rhai o wledydd tlotaf y byd, gyda’r systemau iechyd gwannaf a’r bobl fwyaf agored i niwed, yn fwy agored i’r firws marwol hwn. Byddant yn ei chael yn anodd ymdopi ag unrhyw gostau gofal iechyd, costau methu ennill bywoliaeth tra’u bod nhw’n sâl neu mewn cwarantîn, a chostau ailadeiladu eu bywydau wedi hynny’ (o wefan Cymorth Cristnogol). Sut y gallwn ni, ar drothwy Wythnos Cymorth Cristnogol fydd yn wahanol iawn i’r arfer, ddal i sefyll ochr yn ochr â’n chwiorydd a’n brodyr ar draws y byd na fyddant yn medru cloi eu hunain yn eu tai, fydd yn gorfod byw mewn amgylchiadau tlawd heb gyfleusterau iechyd a charthffosiaeth mewn gwersylloedd enbyd lle na allant gadw ar wahân i bobl eraill a lle, o ganlyniad, mae’r risg yn llawer, llawer uwch? Mae’n solidariaeth Cristnogol gyda’n chwiorydd a’n brodyr hyn yn elfen dyngedfennol yn ein hufudd-dod a’n tystiolaeth Gristnogol drwy’r misoedd hyn wrth i’r firws ymledu ar draws y byd.

Ond nid y perygl a’r braw yw’r gair olaf. Roedd y disgyblion ag ofn am nad oeddent hwy’n sylweddoli’n ddigonol beth oedd wedi digwydd. Mair aeth yn fyrlymus i ddweud wrth y disgyblion, ‘Dw i wedi gweld yr Arglwydd!’ Ond yn y foment hon, nid ydynt yn credu beth mae’n ei ddweud nac yn dirnad beth mae hyn yn ei olygu iddynt hwy ac i’r byd. Maent yn dal i fyw ym myd dominyddiaeth marwolaeth.

Ei bresenoldeb Felly, maent yn cael syndod eu bywyd pan mae Iesu yn sydyn yn ymddangos yn eu canol. Yn eu braw yn eu hystafell glo, mae Iesu yn eu plith! A dyma neges sydd angen i ni ddal gafael ynddi o hyd yn y dyddiau hyn: nid oes unman lle nad yw’r Iesu byw yn bresennol gyda’i bobl. Nid yw drysau clo yn medru cadw’r Arglwydd byw allan o’r cwmni. Nid yw’r Arglwydd wedi’n gadael. Y mae gyda ni, yma, nawr, pa mor enbyd bynnag yw’r argyfwng y mae’r byd ynddo. Nid yw lockdown yn medru cadw Iesu allan!

Tangnefedd A sylwch: Iesu gyda’r clwyfau yn ei draed a’i ddwylo sydd yn ymddangos iddynt. Yno, ar noson yr atgyfodiad, y mae ôl dioddefiadau’r oesau a’n dioddefiadau ni fel dynolryw heddiw, yn dal i fod arno. Iesu clwyfedig yw’r un sydd wedi cyfodi. Mae braw pobl wrth i haint y firws corona ymledu yn dal i adael ei ôl ar ddwylo cariadus a thosturiol yr Iesu sy’n dal i fod yn Feddyg da. A hwn, yr un sy’n bresennol, deued a ddelo, sy’n dweud wrthym ni, fel y dywedodd wrth ei ddisgyblion, ‘Shalôm-Salaam. Tangnefedd i chwi.’ Nid oes trasiedi nac argyfwng, nid oes braw na dychryn, nid oes bygythiad na pherygl, lle nad yw Iesu byw’r dioddefiadau yn bresennol ac yn ein cyfarch heddiw, fel erioed, ‘Shalôm!’ ‘Boed i dangnefedd Duw sydd uwchlaw pob deall gadw ein calonnau a’n meddyliau yng Nghrist Iesu!’

Noel Davies (Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr na’r tîm

golygyddol.)

GWEDDI Arglwydd y Gwanwyn, tosturia at dy fyd yn ei gyflwr gofidus; am fod ofn yn pylu lliwiau’r blodau a chân yr adar, a gwyrth y tymor newydd wedi colli ei ryfeddod. Arglwydd y Gwanwyn, er fod y gaeaf wedi cilio a’r dydd yn ymestyn rydym yn dal i fyw yn ngharchar du ansicrwydd gan boeni’n barhaus am beth all ddod yfory.

Arglwydd yr Ardd, bydd yn gysur i ni yn ein Gethsemane, a ninnau yn chwys a chryndod ein dryswch heb wybod pa ffordd i droi na sut i ddianc. Arglwydd yr Ardd, atgyfnertha ni yn ein gwendid a rho i ni’r hyder i ildio’n llwyr i’th ewyllys di, gan dderbyn pob dydd fel y daw.

Arglwydd yr Atgyfodiad, helpa ni i weld y tu hwnt i Golgotha ein cyflwr – y tu hwnt i fynyddoedd ein gofidiau at diroedd gwastad rhyddid a rhyfeddod. Arglwydd yr Atgyfodiad, planna Ysbryd anfarwol Crist yn nhir ein heneidiau – yr Ysbryd sy’n abl i’n codi o’n cyflwr marwol; a gad i’r gwanwyn flodeuo eto yn ein bywydau.

Amen. Alun Lenny

CORONAFEIRWS Y TYST

I SYLW DOSBARTHWYR Y TYST Oblegid canllawiau hunanynysu a’r cais i bawb aros yn agos i adref sylweddolwn nad yw’n bosibl i bob un o ddosbarthwyr Y Tyst drefnu dosbarthu yn ystod y cyfnod hwn.

Mewn ymgais i ddatrys y sefyllfa hon bwriadwn osod copi o rifyn diweddaraf Y Tyst ar wefan yr Undeb yn wythnosol wrth iddo gael ei gyhoeddi.

Nid pawb sy’n defnyddio technoleg ac sy’n gyfarwydd â defnyddio cyfrifiaduron a’r we.

Gall Undeb yr Annibynwyr drefnu i’r darllenwyr nad ydynt yn defnyddio cyfrifiadur i dderbyn Y Tyst yn uniongyrchol i’w cartrefi drwy’r post.

Cysylltwch â’r Undeb i drefnu hyn trwy anfon neges e-bost at [email protected]

TANYSGRIFIADAU PERSONOL (COPÏAU UNIGOL) Bydd copi o’r Tyst yn cael ei anfon atoch drwy’r post fel arfer.

Page 8: Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 15 Ebrill 9, 2020 50c. COFIO DEWI … · 2020. 4. 14. · ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Serol Print, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 9, 2020Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected]

Golygydd

Alun Lenny Porth Angel, 26 Teras Picton

Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX Ffôn: 01267 232577 /

0781 751 9039 E-bost: [email protected]

Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

chynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Ysgol Thomas Bevan: camu ymlaen i’r dyfodol ADEILAD NEWYDD – DYFODOL NEWYDD

Y mae ysgol Thomas Bevan yn Tamatave – neu Toamasina fel y’i gelwir hefyd – yn gweithio’n galed i wella’r adnoddau a’r adeiladau sydd ganddynt ar gyfer eu disgyblion drwy’r adeg. Dinas yng ngogledd Madagascar yw Tamatave, mae ar yr arfordir gorllewinol, dyma ble glaniodd y cenhadon o Gymru. Ysgol Thomas Bevan yw un o’r ysgolion hynaf ym Madagascar ac yn wir maen nhw’n hynod falch eu bod yn cario enw un o’r cenhadon cyntaf a gychwynnodd ar osod seiliau addysg a Christnogaeth ar yr Ynys Fawr, sef Thomas Bevan o Neuadd-lwyd, Ceredigion. Bu farw Thomas Bevan a’i deulu yn weddol fuan ar ôl cyrraedd Madagascar ond y mae ei dreftadaeth yn dal yn amlwg yn y wlad dros ddau gan mlynedd yn ddiweddarach.

Ehangu ac adeiladu Y mae ysgol Thomas Bevan wrthi ar hyn o bryd yn adeiladu ystafelloedd dosbarth newydd ar gyfer y plant. Bydd yr ysgol yn dathlu 90 mlynedd ar ddiwedd 2020 ac mae bwriad i godi adeilad newydd, cadarn i gymryd lle’r hen adeilad pren simsan, fydd yn adnodd teilwng i blant ysgol Thomas Bevan. Dywedodd y prifathro, Mr

Gidéon Ranaivoson, ‘Mae tua 920 o blant yn yr ysgol o oed cynradd hyd at oedran uwchradd. Mae gennym 64 o athrawon hefyd. Roedd yr hen adeilad pren wedi mynd yn druenus iawn ac yn beryglus, roedd yn bryd newid pethau.’

Datblygiadau Hyd yma, chwalwyd yr hen adeilad pren, cloddiwyd y sylfeini a gosodwyd y garreg sylfaen ar gyfer cychwyn ar y gwaith. Y mae’r cyllid cychwynnol ar gyfer y gwaith yn ei le ond bydd yr ysgol yn chwilio am fwy o nawdd i fedru gwireddu’r weledigaeth. ‘Mae’n anodd iawn dod o hyd i nawdd i fedru cwblhau’r gwaith hanfodol hwn yn yr ysgol. Ond dydyn ni ddim yn anobeithio ac rydym yn gweddïo i Dduw bob dydd y daw cymorth o rywle. Mae ein plant ni’n haeddu gwell.’

Dyma ysgol a staff sy’n edrych tua’r dyfodol ac yn ceisio’u gorau i fuddsoddi yn nyfodol eu plant, addysg yw’r ffordd ymlaen dyma sut y bydd y genhedlaeth nesaf yn gwella eu bywydau. Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar eu cynlluniau mawrion.

SEREN HANES YN ARWAIN Y CRISTION

Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion. (Ioan 15:12–13)

Dros y canrifoedd mae Cristnogion wedi ufuddhau i orchymyn mawr Iesu Grist trwy fentro’u bywydau i ofalu am gleifion mewn sawl pla, fel yr un mawr a darodd Ewrop yn y flwyddyn 166OC. Fel heddiw, o’r dwyrain daeth y pla ac yn yr Eidal y cafodd yr effaith gwaethaf i ddechrau. Roedd yr Ymerawdwr Lucius Verrus wedi cael buddugoliaeth fawr dros ei elynion y Parthiaid, oedd yn rheoli darn anferth o’r Dwyrain Canol o Twrci hyd at gyrion India. Dychwelodd ei fyddinoedd i Rufain yn llwythog o ysbail a thrysorau. Ond fe wnaethant hefyd gario pla heintus yn ôl gyda hwy.

Lledaenodd y pandemig trwy’r holl Ymerodraeth Rufeinig, o’i ffiniau dwyreiniol yn Irac i’w ffiniau gorllewinol ar afon Rhein a Gâl, a gorllewin yr Almaen. Credir mai naill ai’r frech wen neu anthracs oedd y pla. Fe gafodd effaith ddinistriol ar yr ymerodraeth. Bu farw tua phum miliwn o bobl, sef un ymhob tri o’r boblogaeth mewn sawl ardal. Cafodd effaith ddifrodol iawn ar yr economi a’r fyddin. Awgryma haneswyr mae’r pla yma achosodd ddechrau dirywiad yr

Ymerodraeth Rufeinig a arweiniodd yn y pen draw at ei chwymp yn y gorllewin yn y bumed ganrif OC.

Gelyn anweledig Fe aeth y cymunedau Cristnogol ati i ofalu am y cleifion, heb ystyried y perygl i’w hiechyd hwy eu hunain. O ganlyniad, mewn dinasoedd lle’r oedd cymunedau Cristnogol cymharol gryf, roedd canran y rhai a fu farw yn llawer is – hanner yr hyn ydoedd mewn dinasoedd eraill. Fe sylwodd yr awdurdodau ar hyn a rhyfeddu. Cafodd enw Crist ei ddyrchafu a’i edmygu fel grym gweithredol ynghanol y pla ac fe ledaenodd Cristnogaeth yn llawer cynt trwy’r Ymerodraeth Rufeinig cyn diwedd yr ail ganrif. Yn wyneb y gelyn anweledig ac anorchfygol yma, bu adnewyddiad mewn ysbrydolrwydd a chrefydd. Roedd pobol bryd hynny, fel mae llawer nawr, yn fwy parod i droi at Dduw neu dduwiau ar adeg o ansicrwydd ac ofn.

Profiad Luther Ni ddylai’r Cristion beryglu ei fywyd ei hun ac eraill trwy fod yn esgeulus neu’n ddi-hid o’r peryglon wrth ofalu am y rhai a heintiwyd. Pan drawodd y pla bubonig Wittenberg yn 1527, fe wrthododd Martin Luther a’i deulu ffoi er mwyn aros i ofalu am gleifion. O ganlyniad, fe drawyd Elizabeth ei ferch gan y pla, a bu farw. Er na ddylai meddygon Cristnogol adael eu hysbytai, na gweinidogion eu cynulleidfaoedd, meddai Luther, rhaid iddynt ufuddhau i reolau cwarantîn a

glendid personol. Cafodd yr ysbytai cyntaf yn Ewrop eu sefydlu gan Gristnogion fel llefydd glân i ddarparu gofal ar adegau o bla. Credent fod unrhyw esgeulustod a fyddai’n lledaenu’r afiechyd ymhellach yn llofruddiaeth.

Profiad dieithr Roedd Cristnogion ar hyd y canrifoedd yn gyfarwydd â haint a phla, ond nid oeddem ni heddiw – tan nawr, meddai Lyman Stone ar wefan Foreign Affairs:

The modern world has suddenly become reacquainted with the oldest travelling companion of human history: dread and fear of an unavoidable disease from which no vaccine can save us for the time being. Because this experience is foreign to modern people, we are psychologically and culturally underequipped for the current coronavirus pandemic.

Beth yw’r neges i ni Gristnogion heddiw felly? Cadw at drefn glendid gofalus a manwl er mwyn osgoi heintio ein hunain ac eraill, fel dylai pawb wneud wrth gwrs. Er bod addoldai ar gau, rhaid cadw mewn cyswllt agos â’n cydaelodau er mwyn cynnal ein hysbryd. A byddwn yn barod i aberthu dros eraill, fel y gorchmynnodd Iesu i ni wneud. Dyma’r seren sydd wedi arwain cymunedau Cristnogol drwy sawl haint a phla ar hyd yr oesoedd. Mae ei harweiniad yn dal i fod yn berthnasol i’n hoes Covid-19 ni.

Alun Lenny