20
PAPUR DRE I BOBOL DRE Rhifyn 63 RHAGFYR 2008 Pris40c PAPUR DRE PAPUR DRE A chodi calon tud.4 Codi hwyl tud. 15 Codi’r llen tud. 7 BE’ SYDD YN Y PAPUR NADOLIG LLAWEN I’N DARLLENWYR I GYD – A CHOFIWCH GEFNOGI SIOPAU’R DRE! Mae'r dyn sydd wedi bod yn brysur ers blynyddoedd yn helpu Siôn Corn i ymweld â phlant Caernarfon cyn y Dolig i'w weld unwaith eto eleni gyda'i sach fawr ar ei gefn a'i gloch yn ei law. Mae'n helpu'r Siôn Corn go iawn i ddosbarthu anrhegion i blant a henoed Caernarfon. Ond am y tro cyntaf erioed mi fydd y Siôn Corn yma'n treulio'r Dolig eleni ymhell o dre'r Cofis. Mae’r hanes ar dudalen 12. COFI CORN COFI CORN

Rhifyn 63 RHAGFYR 2008 Pris40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/63.pdftreulio'r Dolig eleni ymhell o dre'r Cofis. Mae’r hanes ar dudalen 12. COFI CORN 2 Cadeirydd

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • PAPUR DRE I BOBOL DRE

    Rhifyn 63 RHAGFYR 2008 Pris40c

    PAPUR DREPAPUR DRE

    A chodi calontud.4

    Codi hwyltud. 15

    Codi’r llentud. 7

    BE’ SYDD YN Y PAPUR

    NADOLIG LLAWEN I’N DARLLENWYR I GYD – A CHOFIWCH GEFNOGI SIOPAU’R DRE!

    Mae'r dyn sydd wedi bod yn brysur ers blynyddoedd yn helpu SiônCorn i ymweld â phlant Caernarfon cyn y Dolig i'w weld unwaitheto eleni gyda'i sach fawr ar ei gefn a'i gloch yn ei law. Mae'n helpu'r

    Siôn Corn go iawn i ddosbarthu anrhegion i blant a henoedCaernarfon. Ond am y tro cyntaf erioed mi fydd y Siôn Corn yma'ntreulio'r Dolig eleni ymhell o dre'r Cofis. Mae’r hanes ar dudalen 12.

    COFICORNCOFICORN

  • 2

    Cadeirydd a DerbynLlythyrauGLYN TOMOSGarreg Lwyd, 7 Bryn RhosRhosbodrual, LL55 2BT(01286) [email protected]

    BWRDD GOLYGYDDOLROBIN EVANS(01286) 676963RHIAN TOMOS(01286) 674980TRYSTAN ACAROLYN IORWERTH(01286) 676949GERAINT LOVGREEN(01286) 674314 R. ELWYN GRIFFITHS(01286) 674731 CATRIN ROBERTS(01286) 675834JANET ROBERTS(01286) 669066BETHAN EDWARDS

    TrysoryddGWYNDAF ROWLANDS46 Stryd yr Hendre,(01286) 678254

    Hysbysebion ELERI LOVGREENY Clogwyn, LL55 1HYFfôn: 05600 157099Ffacs: (01286) [email protected]

    Clwb 100CEREN WILLIAMS13 Lôn Oleuwen, LL55 2UP(01286) 676073

    Tanysgrifio/TrefnyddDosbarthuALUN ROBERTSMelangell, Lôn Sgubor WenLL55 1HS(01286) 677208

    PWY ‘DIPWY...

    Stiwdio Gwallta Harddwch

    46 Stryd Llyn, Caernarfon

    Rhif Ffôn: 672999Perchnogion: G Geal a G Evans

    Nid yw’r Bwrdd Golygyddolna’r noddwyr o

    angenrheidrwydd yn cytunogyda’r farn yn y Papur

    Tŷ'n y Clawdd, Tregarth, Bangor, Gwynedd

    LL57 4ALe-bost: [email protected]

    Ffôn: 01248-601-206

    CD I’W WERTHU ER LLESCYMDEITHAS CLEFYD YNIWRONAU MOTOR

    Annwyl Olygydd,Ysgrifennaf atoch ar ran CantorionColin Jones. Oherwydd bod un o'nhaelodau yn dioddef o glefyd yniwronau motor - a hynny gydadewrder anhygoel - ysgogwyd rhaio unawdwyr y côr i gynhyrchu CDi'w werthu er lles CymdeithasClefyd y Niwronau Motor. Dewispersonol y cantorion yw y deunawcân ar y CD ac maent yngymysgedd diddorol o'r clasurol a'rgwerinol.Ein gobaith yw y bydd y CD ynrhoi pleser i lawer a hefyd yn codiswm sylweddol o arian tuag at yrachos da hwn.Pris y CD yw £11 (£10 + £1cludiant). Gellir gwneud unrhywymholiad pellach neu archebu o'rcyfeiriad uchod.

    Yn gywir iawn, GARETH OLIVERRhyd, Rhosbodrual

    YSGWN I YDI MRS THOMASYN EI GOFIO?

    Annwyl PAPUR DRE

    Diddorol iawn oedd gweld llun oGôr Cae’r Saint yn PAPUR DREmis Tachwedd. Y dyn sydd ar ben y drydedd res ary chwith o’r llun yw brawd fy nhad

    Byddwch yn llawergwell allan hefo Ni!Ellis Davies a’i Gwmni

    CYFREITHWYR

    Yn gwasanaethupobl Caernarfon ers

    1898

    27 Stryd Bangor,Caernarfon LL55 1AT

    Ffôn:(01286) 672437

    [email protected]

    Deunydd i law’r golygyddionperthnasol

    NOS LUN – RHAGFYR 29 Os gwelwch yn dda

    Daw’r rhifyn nesaf o’r wasgNOS LUN – IONAWR 12

    Y RHIFYN NESAF DEWCH ATOMI BLYGUPAPUR DRERhifyn: IONAWR

    Noson Plygu:NOS LUN, IONAWR 12

    Yn lle:YSGOL MAESINCLAFaint o’r gloch? o 5.30 ymlaen

    a hefyd brawd i dad ElwynRobinson. Ei enw oedd WillieRobinson. Roedd yn denor ardderchog, ac ynaelod o sawl côr yn y dre yr adeghonno. Cafodd ei eni a’i fagu yn TŷMwdwal oedd ar ben Gypsy Hill. Ysgwn i ydi Mrs Thomas yn eigofio?

    Diolch yn fawr am PAPUR DRE

    GLYN ROBINSON

    Hywel James Prif Lyfrgellydd

    Cyngor Gwynedd

    CEFNOGI BUSNESAU LLEOL

    Hoffwn dynnu sylw eichdarllenwyr at safle we sydd yncynnig ffordd hwylus i ddod o hydi fusnesau lleol i chi sefCyfarwyddiadur Busnesau LleolGwynedd. Os ydych yn chwilio am fusneslleol i gyflenwi eich angheniondefnyddiwch y cyfarwyddiadur ar-lein hwn:www.gwynedd.gov.uk/cbllAm fwy o wybodaeth cysylltwch agAlun Williams ar 01286 679465neu Colin Morris ar 01286 679677neu e bostiwch:[email protected]

    JUST NATURALBwydydd Iach a deunydd Bragu

    4 Penllyn, Caernarfon01286 674748

    Dewis helaeth o fwydydd iach, bwydydd cyflawn, fitaminau ac ychwanegion.

    Barod bob amser i archebu nwyddausydd ddim yn y siop.

    Stoc mwyaf gogledd Cymru o Berlysiau a sbeisiau.

    Llythyrau

    Wrth fynd â’i gi am dro ar eidaith foreol ar draeth Ala Lasdaeth Eddie Williams ar drawsmorlo marw. Morlo ifanc oeddo ac mae hyn yn beth goanarferol ar lannau’r Fenai.Ond maen nhw’n weddolgyffredin ar arfordir Gwyneddyn ôl un o swyddogion Adranforol y cyngor. Yn yr Hydref adechrau’r Gaeaf, bydd pedwarmorlo ifanc yr wythnos yn caeleu darganfod ar arfordir y sir astormydd sydd fel arfer yngyfrifol am eu tranc.

    MORLOMARW ARDRAETHALA LAS

    Eddie Williams a’r morlo marw

    ADUNIAD DOSBARTH ’79

    Mae aduniad yn cael ei drefnuar nos Sadwrn, 31ain o Ionawr

    2009 yng Nghlwb GolffPwllheli i gyn aelodau Ysgol

    Glan y Môr, Pwllheli agychwynnodd ym Medi 1979.

    Am fanylion pellach cysylltwchâ Nicola Pacey 07874956811,Einir Jones 07967905126 neuWendy Breeze 07799042345

    www.bwrdd-yr-iaith.org

    Cydnabyddir cefnogaeth

  • 3

    CAFFIBWYTY

    BARY Maes, Caernarfon, LL55 2YD

    (01286) 673100

    Siambrau Banc LloydsCaernarfon

    Swyddfeydd ym Mangor,Porthaethwy a Chaergybi

    Tudur OwenRoberts, Glynne & Co.

    Ffôn: (01286) 672207

    Cyfreithwyr

    MEDIBar Coffi

    Stryd y Plas (01286) 674383Bwyd drwy’r dydd

    Agored yn hwyr dros y penwythnosCoctels 2 am bris 1 (8.00 – 10.00)

    Y Pantri Cymraeg6 Y Maes, Caernarfon 673884

    Cynnyrch LleolCawsiau, Siocledi, Pate, Cigoedd,Pysgod, Gwinoedd, Gwirodydd,

    Danteithion luHamperi bwyd ac anrhegion

    trwy’r flwyddynBar salad a chownter deli ac

    amrywiaeth wych o frechdanau ffresi’w cludo allan

    Paratoir bwffes ar gyfer cyfarfodydd,partïon ayb

    Oriau agor: 9.30 – 5.00Y cyfan o Gymru

    www.ypantricymraeg.co.uk [email protected]

    Mae pawb wedi cael eu cyffwrdd gyda storiJosh. Dydy Josh Clark, 16 mis oed, ddim yngweld ond mae gobaith y gallai ennillychydig o olwg drwy deithio i Shanghai igael triniaeth bôn gelloedd (stem cells). Nidoes unman arall yn y byd yn gallu cynnigtriniaeth i geisio cywiro ‘Optic Nerve

    JOSHUA BACH

    1 Anthony Clark (tad Josh), Ian Sheddon,Wendy “Casa Dudley” Thomas, RhiannnonJones, Diane Peters, Carys Crawford2 Joshua Clark

    Bedwyr yn agor y ‘Bocs’.

    Hypoplasia’ (ONH). I wireddu hyn mae’nrhaid i’r teulu, godi £40,000 cyn mis Mai.Mae cymdogion, ffrindiau a phobl y dreeisoes wedi cychwyn ar yr gwaith.

    Mae un criw am drefnu taith gerdded yndilyn llwybr y Goets Fawr drwy NantFfrancon ac ymlaen oddi amgylch LlynOgwen cyn dychwelyd i Fethesda. Hyd ydaith fydd tua 15 milltir, ond gellir ymunogyda’r cerddwyr ar unrhyw ran. Gobeithir

    Agor BocsNadoligMae grŵp o artistiaid ifanc wedi dod at eigilydd i gydweithio yng Nghaernarfon dan yteitl ‘Bocs’. Wrth graidd y fentergydweithredol hon i artistiaid ifainc maearlunwyr sydd eisoes wedi arddangos ynOriel Dafydd Hardy. Nhw yw sefydlwyrmudiad celfyddydol y dyfodol yngNgwynedd.Bydd ‘Bocs’ yn unigryw oherwydd bydd ygrŵp yn cael ei sefydlu a’i redeg gan yrartistiaid ifainc eu hunain Yn yr arddangosfagyntaf hon a agorwyd gan yr artist BedwyrWilliams, mae aelodau bocs wedi dewisartistiaid y maen nhw’n eu parchu, artistiaidy maen nhw am eu gweld ar waliau OrielDafydd Hardy. Bydd yr arddangosfa ar agori’r cyhoedd tan 9 Ionawr.Cawn glywed mwy am gynlluniau cyffrous‘Bocs’ yn Papur Dre yn y misoedd i ddod.

    Roberts y Newyddion 44 Y Bont Bridd, Caernarfon

    01286 672 991 Papurau newydd • cardiau cyfarchoffer ysgrifennu • Da-da a diodydd

    Tlysau aur ac arian o Fôn Ar agor Llun – Sad (5.30am tan yr hwyr)

    dydd Sul (5.30am – 12.00)Dosbarthu papurau i’r drws

    Gwasanaeth cyfeillgar bob amser

    cerdded ar Ddydd Gŵyl Dewi gan gychwynam 9.00 y bore. Os hoffech chi ymuno â’rdaith, neu i gael rhagor o wybodaeth,ffoniwch: Diane Peters 07760391574 / 01286669186 neu Ian Sheddon 07733476704Os hoffech gyfrannu tuag yr ymgyrch gelliranfon rhoddion i: Cyfrif Ymddiriedolaeth –Trust Account - Banc HSBC, Caernarfon,Rhif y cyfrif – 41694359 Sort Code – 40 – 16– 02. Mae’r Cyfirif Ymddiredolaeth wedi eileoli yn Bryn Dedwydd, Ffordd y Gogledd,cartref Joanna ac Anthony Clark, rhieni Josh.

  • 4

    Moduron Menai

    Ffôn: 678681Ffôn symudol:

    07780 998637Ffordd y Gogledd,

    Caernarfon, Gwynedd LL55 1BEwww.moduronmenai.co.uk

    Dewis helaetho geir o’r ansawdduchaf am brisiau

    cystadleuol

    Cae Llenor, Lôn Parc,CAERNARFON, LL55 2HH

    Ffôn: (01286) 685300 • Ffacs: (01286) 685301Ffôn: 01286 677771

    29 Stryd Fawr,Caernarfon

    Gwynedd LL55 1RH

    Croeso cynnes bob dyddgan

    31 Stryd y BontCaernarfon

    Ffôn: (01286) 672427

    CAFFI CEI

    Ysgol Syr Hugh OwenBocsys i BlantMae disgyblion yr ysgol a’u teuluoedd wedi bod yn brysurunwaith eto’n cefnogi ymgyrch Plentyn y Nadolig ac eleni, fegasglwyd 146 o focsys sgidiau’n llawn anrhegion eleni. Diolch ibawb am eu haelioni ac i Mrs Gwenda Morgan Jones am ygwaith trefnu. Llun rhai o genod Blwyddyn 9 yn brysur yn hely bocsys sydd ar y dudalen flaen.

    Her yr HeddluCafodd 5 o ddisgyblion blwyddyn 8 eu dewis i gynrychioli’rysgol mewn cwis heddlu. Capten y tîm, Lliwen Jones 8S acaelod arall o’r tîm, Ceri Owen 8N sy’n sôn am eu profiad…Er mwyn paratoi at y cwis heddlu, cawsom ddewis dau bwnc yrun, sy’n gysylltiedig â’r heddlu i’w hastudio - diogelwch yffyrdd, tân, iechyd, cyffuriau a gwybodaeth o lyfr cyswllt CLIC. Ar ddiwrnod y cwis fe gawsom weld pwy oedd yn ein herbyn -Ysgol Dyffryn Ogwen ac Ysgol Dyffryn Nantlle! Cafodd y pumpohonon ni sef Lliwen Jones, Ceri Owen, Cai Gryffudd, CynanGlyn a Mabon Huws gystadlu yn y chwech rownd. Roedd pobrownd yn agos iawn, ond yn diwedd, ni wnaeth gipio’r gwpan ynôl eto eleni!!Roedd pawb wedi gwneud yn ardderchog yn nhîm Syr Hugh ynenwedig yn erbyn timau da o’r ysgolion eraill. Ond mae sialensy rownd Gogledd Cymru o’n blaenau ym mis Ionawr ynLlandudno. Rydym yn edrych ymlaen at yr her yma ac yngobeithio bydd lwc ar ein hochor ni yno, er mwyn mynd ymlaeni’r rownd derfynol yng Nghaerdydd.

    Wacsio, Godro a Chysgu?Mae disgyblion Syr Hugh wedi bod yn brysur iawn yn codi presat blant mewn angen eleni. Llwyddwyd i godi £1,185.84. Ondsut?

    Trip i weld y BwdhaDyma rai o genod Blwyddyn 9 a aeth ar drip i Fanceinion ynddiweddar i ymweld â’r Ganolfan Fwdhaidd yno.

    Dwy goes ddi-flew!

    Bu ambell un yn godro'r fuwch

    A chafodd rhai o genod Blwyddyn 11 eu noddi am ddod i'r ysgol yneu pyjamas.

    Cofiwch wylio rhaglenni Cwmni Da dros y Nadolig

    Sbesial Nadolig “Byw yn yr Ardd”17/12/08 S4C am 8:25

    “Lle aeth Pawb” arbennig Nadolig17/12/08 S4C am 9:00

    “Atgofion Nadolig yng Nghymru"16/12/08 S4C am 8:25

    “Nadolig Plentyn yng Nghymru”Noswyl Nadolig S4C am 07:30

    NADOLIG LLAWEN a BLWYDDYN NEWYDD DDAOddiwrth pawb yn

  • 5

    CYFREITHWYR•

    O. Gerallt Jones LL.B (HONS)•

    Gail Jones LL.B (HONS)Cyfreithwraig Gynorthwyol

    Gwasanaeth Personol ac Agos Atoch•

    4 Stryd y CastellCaernarfon LL55 1SE

    Ffôn: 672307 • Ffacs: 678244Ebost: [email protected]

    Emyr Thomas a’i FabPEIRIANNAUW H JONESTanciau Septig, Gosod Sylfeini,Concritio, Llogi peiriannau,Draenio, Clirio Safleoedd,Tirlunio GerddiRhif ffôn: 01286 871993Ffôn symudol: 07920516221

    Y Gegin Fach5-9 Penllyn, Caernarfon01286 672165

    Dewis helaeth o fwyd ffres,gan gynnwys brecwast, byrbrydau,

    prydau llawn, cawl a chacenni cartref.Y cyfan mewn awyrgylch Cymreig cartrefol.

    Darperir ar gyfer partïon preifat a chyfarfodydd hefyd.Croeso cynnes gan Alwyn a Pat yn disgwyl pawb.

    Siop IwanPapurau Newydd

    Da-da, Cardiau, Nwyddau FfansiPresantau

    43 Stryd y Bont Bridd, Caernarfon

    (01286) 673300

    Plant yr Hendre a’r Gelli’n Ymweld â Syr Hugh

    Criw o genod Blwyddyn 9 a fu'n rhoi arddangosfa goginio yn y Bloc Technoleg

    Cynhaliwyd noson agored yn Syr Hughyn ddiweddar i groesawu rhai oddisgyblion ysgolion cynradd y dalgylch.Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol.

    Hanes Ysgol Santes Helen a Chylch Meithrin Twthil ar dudalen 19

    Jade Parry 7G yn gwneud mins peis i fyndefo’r baned!

    Ryan Austin o Ysgol yr Hendre yn cael golwgar y labordy Ffiseg efo’i fam, Gwen.

    Alaw Haf Williams o Ysgol y Gelli yndisgleirio wrth ddatrys problemauMathemategol ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.

    Beth mae Disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol yr Hendre’n ei weld yn y labordy?

  • 6

    Adda ac EfaARBENIGWYR GARDDIOOs am weld eich gardd ar ei gora’Codwch y ffôn, galwch ADDA ac EFA

    Twtio, plannu, chwynnu…chewch chi neb gwell!

    Rhif ffôn: 674400

    Pryd i bawbArlwyo at bob achlysur ynunrhyw leoliadBwffe blasus o safon

    • Priodas • Cyfarfodydd busnes• Bedydd/Parti /Te angladd • Basged Picnic• Bwyd yn unig neu gwasanaeth llawnCerid Mackinnon Ffôn: 01286 673190Symudol: 07774 925502

    OWEN GLYN OWEN CYFCigydd i’r Tai Bwyta Gorau

    Ffôn: (01286) 672146 •Ffacs: (01286) 6777612 STRYD BANGOR, CAERNARFON

    UN SAFON –Y SAFON GORAU

    AELOD O URDD CIGYDDIONSefydlwyd 1939

    CARPEDI John WilliamsYn ôl at eich gwasanaeth!

    Ffôn: (01286) 674432 • Symudol: 07721 750958Sefydlwyd 1972

    Cyflenwi a Gosod CarpediTEILS CARPED, FEINYL, MATIAU

    LLORIAU PREN

    Pob Dim i Ddodrefnu’r T ŷCanol y Dref, Caernarfon LL55 1NN

    Parcio aml-lawr, 100 medr i ffwrddFfôn: 01286 676040 Oriau Agor Llun - Sadwrn 9.30 - 5.00

    DODREFNA LLORIAU

    Cydnabyddir cefnogaeth

    BWRDD YR IAITH GYMRAEGOs oes angen gwybodaeth

    o unrhyw fath am yr iaith Gymraeggalwch y

    LLINELL GYSWLLT

    0845 6076070cyfradd galwadau lleol

    www.bwrdd-yr-iaith.org.uk

    PRIODAS AUR

    Ar ddydd Llun yn ddiweddar, fe ddathloddy Parchedig Iorwerth a Mrs Helena JonesOwen eu Priodas Aur. Hwy oedd y pâr olafi’r Parchg. Tom Nefyn Williams eu priodiyn 1958 a digwyddodd hynny hefyd arddydd Llun. Cyd-ddigwyddiad arall oeddfod Y Parchg. Iorwerth Jones Owen yndarlithio ar Tom Nefyn yr Efengylydd ar ynoson arbennig yma yn Theatr Seilo. Arddiwedd y noson cyflwynodd yParchg.Gwenda Richards flodau i Helena adaeth y gynulleidfa i lawr i’w llongyfarchac arwyddo cerdyn. Roedd paned athamaid o deisen i’w blasu hefyd.Darllenwyd englyn o waith Alan WynRoberts Brynsiencyn, cyfaill ers dyddiaucoleg a’u gwas priodas, gan Mr. Jones Oweni gynulleidfa Seilo y Sul canlynol.

    Uchel gamp mabolgampau – yw yr Aur,Gwobr yw hi i’r gorau,

    Daeth, trwy’r Deyrnas i chwi’ch dauOlud uwchlaw medalau.

    ALAN WYN

    Anrheg Nadolig i Bryan oddi wrthCapel SeiloYn ystod y flwyddyn hon bu aelodauCapel Seilo wrthi’n trefnu gwahanolweithgareddau i godi arian tuag at ApêlBryan “Yogi” Davies. Cafodd Bryanniwed difrifol i’w gefn wrth chwarae eigêm olaf i Glwb Rygbi’r Bala nôl ym misEbrill 2007. Yn dilyn y ddamwain bucymdogaeth eang yn codi arian i’r apêl,arian a fyddai’n galluogi i’w gartref yn yBala gael ei addasu ar gyfer ei anghenion.Ac wedi deunaw mis hir mewn gwahanol

    ysbytai mae Bryan gartref gyda’i deulua’r newidiadau angenrheidiol wedi’ucwblhau, diolch i’r arian a godwyd –bron i chwarter miliwn o bunnoedd –gan bobol o bell ac agos. A dyma arheg Capel Seilo i Bryan – siec

    o £4,500 yn cael ei gyflwyno gan ygweinidog, y Parch Gwenda Richards iMr a Mrs Dic Morris, rhieni yngnghyfraith Bryan ac aelodau yngNghapel Seilo.

    Janice Jones, Dic a Morfudd Morris, Gwenda Richards a Marian Parry Jones

  • 7

    Ffair NadoligCapel Seilo

    Prynhawn dydd Iau, 20fed o Dachwedd,cynhaliwyd ffair Nadolig yn Seilo. Yr oeddllawer o aelodau’r eglwys wedi gweithio’ngaled i drefnu a chynnal y ffair a chafwydamrywiaeth da o sondinau a nwyddau arwerth. Gwnaed elw o £3,700 tuag atEglwys Seilo ac Apel Bryan. Yn y llungwelir Mrs. Edith Evans; Mrs Mair Evansa Mrs Alice Evans.

    Lobscows ar LwyfanLobscows oedd teitl diweddaraf sioe Sbarca Chofis Bach yn Galeri ac ella bod ’na gliwyn y teitl. Hanes cysylltiad yr ardal hon âdinas Lerpwl oedd thema’r sioe. MaeLerpwl wrth gwrs yn Ddinas DiwylliantEwrop eleni, ac fel y dywedodd ycynhyrchwyr, prin bod neb yn yr ardal ymasydd heb fod â rhyw gysylltiad â’r ddinas –eu teulu’n byw neu’n gweithio yno neuymweld â’r ysbyty o bosib.

    Cafodd dros 100 o blant gyfle i ymddangosar lwyfan Galeri yn Lobscows wrth iddynnhw adrodd stori Deio a’i deulu a’ucysylltiad dychmygol â Lerpwl. “Er bodllwyfannu sioe gyda chymaint o blant yn ycast yn dipyn o her, roedd hefyd yn bleser,meddai Rhian Cadwaladr (cynhyrchydd-gyfarwyddwr). Yr is-gynhyrchydd oeddTammi Gwyn a Sioned Wyn Jones/JenyPearson a Manon Llwyd oedd ycyfarwyddwyr cerdd.

    Am gymorth:i gychwyn prosiecti gael hyfforddianti geisio am granti redeg mudiadi wirfoddoli

    cysylltwch â Mantell Gwynedd– yn cefnogi grwpiau

    gwirfoddol a chymunedol

    [email protected]

    01286 672626 neu01341 422575

    Elusen Gofrestredig 1068851Cofrestrwyd yng Nghymru

    Cwmni Cyfynedig drwy Warant 3420271

  • 8

    Roedd darllen yn Papur Dre mis Tachweddam yr ystorfeydd olew a leolwyd ger y pieryn ystod cyfnod blynyddoedd cynnar y 19.ganrif hyd at ddiwedd yr wythdegau ynmynd â mi yn ôl bron i drigain mlynedd ada y cofiaf weithio fel clerc yn Shell o 1949– 1953. Pump o gwmnïau olew oedd yno,sef Esso; Shell; National Benzole; Power; aVanwil, ac roedd y rhan honno o’r dref ynun o’r llefydd prysuraf yng Nghaernarfona’r cwmnïau oll yn derbyn eu cyflenwad ynrheolaidd o danceri olew.

    Yr Anglo American Oil Co., (EssoPetroleum) wedyn, oedd y cwmni cyntaf isefydlu yng Nghaernarfon a chyrhaeddoddy dancer olew gyntaf y dref ar Ddydd Lluny Pasg, Mawrth 24. 1913. Ei henw oedd S.S.Tioga, (Capten Hall,) a bu’r dancer hon yngngwasanaeth y cwmni am 30 mlynedd.Roedd y digwyddiad hwnnw nid yn unigyn un o bwys hanesyddol i drefCaernarfon, ond hwn oedd y tro cyntaf iolew gael ei gludo mewn llong i unrhyw leyng Nghymru. Llong gymharol newyddoedd y Tioga bryd hynny, a chafodd eihadeiladu yn y flwyddyn 1912 gan yGreenock & Grangemouth DockyardCompany, Grangemouth. Roedd ei hyd a’illed yn 180 wrth 31 troedfedd a gallaidrafaelio ar gyflymder o 9 milltiroedd môryr awr.

    Asiant yr Anglo American Oil Co. yngNghaernarfon ar y pryd oedd y gwerthwrnwyddau haearn yn y Bont Bridd, EdwardHughes, lle mae Siop Ddodrefn Perkinsheddiw. Yn ôl nai i’w wraig, sef y diweddarStewart Whiskin, hanesydd lleol ac awdurllyfrau o luniau am Gaernarfon, taloddEdward Hughes am dynnu llun y Tioga a’ifframio a’i roi yn anrheg i’r dref oherwyddei phwysigrwydd hanesyddol. Dywed yradroddiad yn y papur hefyd bod EdwardHughes wedi chwarae rhan allweddol i roiperswâd ar y cwmni i sefydlu yngNghaernarfon a byddai ei dyfodiad i’r dre ofawr les i’r Porthladd.

    Shell oedd yr ail gwmni i ddod iGaernarfon ac fe’i lleolwyd wrth ochr yrAnglo American Oil Co. gyda’r cwmnïaueraill yn dilyn wedyn. Golygai hyn bodsawl llong olew bob mis yn cael eidadlwytho fel y cynyddai y busnes a mwy amwy o geir yn ymddangos ar yr heolydd.Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fodd bynnag,

    gwnaed i ffwrdd â’r gystadleuaeth rhwngcwmnïau gan ffurfio un man dosbarthumawr (Pool Petroleum) i fod yn gyfrifol amgyflenwi olew i’r rhanbarth hon o OgleddCymru. Bryd hynny, ychydig iawn o geirpreifat oedd ar y ffyrdd oherwydd y dognillym ar betrol ac ni wnaed i ffwrdd â hynnyam 5 mlynedd neu fwy ar ôl i’r rhyfel ddodi ben, er i’r cwmnïau gael eu hail ffurfio raiblynyddodd ynghynt.

    Roedd gan y ddau gwmni mwyaf Esso aShell lawer iawn o “depots” bychain ar hyda lled y wlad, gan gynnwys amryw yngNgogledd Cymru, ond gyda’r dogni yn dodi ben a llawer mwy o geir yn ymddangos arein heolydd newidiodd y cwmnïau eupolisi gan ddechrau archebu wageni neudanceri mwy a mwy o faint a gwnaed iffwrdd â’r “depots” yn raddol. Collwyd yrhai a dderbyniau eu cyflenwadau ar yrheilffordd mewn yr hyn a elwid yn “RailCars” i ddechrau, gan adael ddim ond y“depots” yng Nhaernarfon a dderbyniai eucyflenwadau gyda llongau.

    Ni pharhaodd y sefyllfa hynny yn hir,fodd bynnag, a chollwyd y cwmnïau oGaernarfon o un i un, gan wneud llawer o’rgweithwyr yn segur, a’r olaf i adael oeddEsso, sef yr un a ddaeth i’r dref gyntaf .Cauwyd y “depot” ar y dydd olaf o’rflwyddyn 1989. Profiad dirdynnol oeddhwnnw fel y tystiai Mr. Dafydd LlewelynJones, 66, Cae Mur, a roes chwarter canrif owasanaeth i’r cwmni fel gyrrwr ac fedynnodd sawl llun o’r lle, a diolch iddo amwneud hynny. Yn sicr byddant yn recordparhaol ar gyfer y cyhoedd ac yn enwedig ihaneswyr y dyfodol. Ef a dynnodd lun y

    dancer ddiwethaf i ddadlwytho ymmhorthladd Caernarfon, sef yr M.V.Beckenham. Cyrhaeddodd ar Ragfyr 13.1989 a hwyliodd oddi yma drannoeth arRhagfyr 14.

    Y peilot a fu’n gyfrifol am ei llywio’nddiogel ôl a blaen ar hyd afon Menai oeddMr. Emrys Jones sy’n cofio’r digwyddiadyn iawn ac yng ngofal ei fab Mr. RichardJones, Harbwr Feistr, Caernarfon, yn eiswyddfa , mae’r llun o’r dancer gyntaf, yTioga, a ddaeth i’r dref yn 1913, a’i hendaid, y diweddar Richard Jones, oedd ypeilot ar yr achlysur hanesyddol hwnnw. Cyn terfynu, fodd bynnag, dylid talu sylw

    i’r hyn a ddigwyddodd i’r S.S. Tioga. Ar y29ain o Hydref 1919 bu mewngwrthdrawiad â sgwner o’r enw HelbertFoarm, (Capt. Kemp), ar y ffordd i Barrie oFleetwood ac achubwyd criw y sgwner ganstemar arall. Fodd bynnag, o ganlyniad iwrthdrawiad arall gyda’r S.S.Pundit arDachwedd 1. 1943 ger Hartlepool aeth yTioga i wir drafferthion. Ar y pryd roeddyn teithio mewn balast rhwngMiddlesbrough a Grangemouth a bu raid eithowio, ond pan oedd o fewn 5 milltir ioleudy Longstone dechreuodd suddomewn dŵr bas gan adael dim ond y bowuwchben dŵr. Ddeuddydd ynddiweddarach bu raid galw’r LlyngesBrydeinig i danio arni gyda gynnau mawrac fe’i suddwyd ar Dachwedd 3ydd, 1943.Achos o lawenydd oedd croesawu’r cwmni

    a’r Tioga i Gaernarfon ar y Pasg 1913, fel ymae pennawd yr adroddiad yn yr Herald,sef “New Industry”, yn awgrymu , ondachosion trist oedd hanes diwedd y Tiogayn 1943 a gwaeth fyth oedd hanes y bennodolaf yng nghysylltiad Caernarfon â’r‘diwydiant newydd.’T. Meirion Hughes

    DOC FICTORIA CYN Y DATBLYGIAD NEWYDD

    Y llong olaf i ddod yma ar Ragfyr 13. 1989 sef M.V. Beckenham.

    Y 3 gweithiwr olaf i Gwmni Esso cyn cau y depot arddydd olaf y flwyddyn 1989. (Lluniau trwygaredigrwydd Mr Dafydd Ll Jones)

    SS Tioga, y llong olew gyntaf i ddod i’r dref ar Sul y Pasg 1913

  • 9

    01286 678310Papur Dre

    Hywel WilliamsAelod Seneddol

    Alun Ffred JonesAelod Cynulliad

    Etholaeth Caernarfon

    CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei drafod gyda’r A.S. neu’r A.C.mewn cymhorthfa, ffoniwch 01286 672076 i wneud apwyntiad

    neu ysgrifennwch atynt: Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon LL55 1SE

    neu e-bost: [email protected]@wales.gov.uk

    BRON IWYTH MILO GASGLIADELENI Cynhaliwyd Ffair Hydref Sefydliad yGalon, oedd wedi ei threfnu gan BwyllgorArfon, yng Ngwesty'r Celt yn ddiweddar, agwnaethpwyd elw o £605.90. DiolchoddJenkin Griffiths i bawb a gefnogodd ynoson, ac yn enwedig i'r canlynol amnoddi'r achlysur, Dodrefn Perkins, Siop yPlas, Glyn Owen Cigydd, Stylish Interiorsa W.J Mathews. Diolchwyd hefyd iaelodau'r Pwyllgor am eu gwaith diflinodrwy'r flwyddyn. Wrth groesawu Maer yDref, y Cynghorydd Myfi Powell Jonesdiolchwyd iddi am ei phresenoldeb achefyd am ei rhodd anrhydeddus i'r noson.'Roedd y trysorydd, Richard Parry, yn falcho gael datgan fod siec am £7,900, sefcyfanswm casgliad cylch Arfon am eleni,wedi ei anfon i'r Pencadlys yngNghaerdydd, hyn i gyd yn gymorth i hybuymchwil at glefyd y galon.

    Gweno Millar (Ysgrifennydd) a RichardParry (Trysorydd)

    Sion a Gwion yn y Proms

    Bu Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn(sef band prês Gwasanaeth YsgolionWilliam Mathias) yn perfformio yn yProms Ysgolion yn Neuadd Albert,Llundain ar Dachwedd 12. Yn eu plith,roedd Siôn Owens a GwionWilliams, YsgolSyr Hugh. Dyma Siôn yn sôn am y profiad.

    Mae Frank Sinatra, Pavarotti a’r Beatlesymhlith rhestr faith o artistiaid enwogsydd wedi perfformio yn Neuadd Albert.Gellir erbyn hyn ychwanegu Band PresIeuenctid Gwynedd a Môn at y rhestr ar ôli’r band berfformio yno yn y PromsYsgolion.

    Mae’r Proms Ysgolion yn cael eu cynnaldros dair noson ac roedden ni ynperfformio ar y noson olaf. Dewiswyd yband i gymryd rhan yno yn dilyn einhymddangosiad yn y ‘Music for YouthFestival’ yn Birmingham cyn yr haf.

    Mae Neuadd Albert yn dal 7,000 o boblac mae’r seddi ar siap cylch sy’n mynd ifyny’n uchel felly mae’r neuadd yndrawiadol iawn. Roedden ni’n perfformioyn yr ail hanner felly yn yr hanner cyntafcawsom eistedd yn y gynulleidfa. Roedd yrawyrgylch yn anhygoel hyd yn oed cyn

    dechrau gyda’r lle o dan ei sang a phawbmewn hwyliau da. Llwyddodd ein criw ni iddechrau ‘Mexican Wave’ a aeth o amgylchy neuadd am rai munudau. Roedd hi’nolygfa drawiadol iawn.

    Roedd amrywiaeth o grwpiau ynperfformio – o grŵp roc i gerddorfallinynnol. Roedden ni’n perfformiorhaglen deng munud yn seiliedig ar storiBranwen oedd yn cynnwys dawnsio acelfennau o gerddoriaeth werin yn ogystalag offerynnau pres. Cawsom ymateb gwychgan y dorf.. Roedd ffobs gyda goleuadauarnynt wedi eu dosbarthu ac roedd hi’nwefreiddiol yn ystod ein perfformiad iedrych allan i dywyllwch y gynulleidfa agweld saith mil o bobl yn chwifio’rgoleuadau i gyfeiliant Gwŷr Harlech.

    Roedd nifer o rieni a chefnogwyr wedidod i Lundain i’n gwylio, ac yn wahanol i’rproms arferol roedd dreigiau coch ynamlwg iawn yn y dorf. Daeth y noson i bengyda balŵns yn disgyn o’r to, a thân gwyllt.Profiad anhygoel! Diolch i Gwyn Evans yrarweinydd, Wynne Williams, a gweddill ytiwtoriaid am y cyfle.Siôn Owens 12L

    Cofiwch gefnogi ein hysbysebwyr

  • 10

    Gwyliau – os gwyliau hefyd – i bump ohogia Dre yn ddiweddar oedd taith i’rHimalaya a chopa mynydd Lobuche sy’dros ugain mil o droedfeddi.Mae’r stori’n cychwyn fel hyn.Roedd Wyn Jones wedi cyfarfod â boi o FaeColwyn oedd yn ‘guide’ yn Nepal. Misoniodd Wyn am drip posib i’r Himalayaswrth Dave Hughes pan oedd y ddau ynaros am eu plant tu allan i’r GanolfanHamdden. Crybwyllodd Dave y fenterwrth Keith Williams a Neil Elias. A dymaair yng nglust Trystan Gwilym gan Wyn.Felly y daeth Neil , Keith , Wyn , Dave aTrystan at ei gilydd a phacio eu bagiau amdaith fythgofiadwy i ganol mynyddoedducha’r byd.LUKLAHedfan i Katmandu,prifddinas Nepal, ydycymal cynta nifer fawr o dripiau i’rHimalayas. O Katmandu mae taith anturusmewn awyren fechan i Lukla. Mae hon yndaith ddramatig ar y gorau and pan fo’chpeilot yn glanio mewn cae ar ochr mynyddag un llaw ar y llyw a’r llall a’r gamera idynnu lluniau pump o hogia Dre, mae’nreit frawychus !NAMCHE BAZAARDeuddydd o gerdded i Namche Bazaaroedd o flaen yr hogia wedyn a chyfle i weldEverest am y tro cynta’. Yn Namche hefydy cyfarfuon’ nhw â’r pâr priod cynta igyrraedd copa Everest. Roedd y ddau yndigwydd cael paned mewn caffi ac Ian, ytywysydd o Fae Colwyn, yn eu hadnabod.Nŵdls a chacen jocled oedd y swper cyntayn Namche cyn clwydo mewn mynachdy.Mae’r hogia i gyd reit ffit ac wedi gwneudcryn dipyn o redeg yn Eryri. Ond rhedegi’r toiled fu hanes ambell un am ddiwrnodneu ddau wedyn ! DINGBOCHECodi o Namche Bazaar ac anelu amDingboche. Yno, ar ol 5 diwrnod arall ogerdded a cholli 15,000 o galoriau, yllwyddon nhw i ddringo rhyw ‘gopa bach

    lleol’ . Rhyw ‘fryncyn’ 5,200 metr ! Roeddhwn yn ymarfer da ar gyfer y Lobucheuwch oedd i ddod. Ond dyna pryd yr aethpethau o chwith i un o’r criw.LOBUCHEPeth ofnadwy ydy salwch uchder.Gofynnwch i Trystan.Bu’n rhaid iddo fo droi nôl a cherdded 2kmi lawr i’r pentref agosaf lle roedd na doctorblin (meddai Trystan) yn aros amdano.Roedd yn teimlo’n well ar ôl chydig odabledi ond yn fan’no (yn gwrando ar EricClapton) y bu’r bonwr Gwilym amddeuddydd tra roedd ei fêts ar ochr ymynydd mewn pebyll yn dynesu at gopaLobuche. Doedd na fawr o gysgu ar ymynydd y noson cyn cychwyn am gopaLobuche. Yn ôl Wyn roedd Dave yn canucaneuon Oasis drwy’r nos! Dyma godi tua1 o’r gloch y bore. ‘Dwi ddim am ddod’meddai Neil (Ducks i’w fêts). Roeddganddo gur pen ofnadwy – yr uchder eto.‘Bwyta dy frecwast, a t’yd’, oedd unig

    gyngor y geid ! Ac felly bu. Cychwyn am2.30 y bore. Y tymheredd yn -10C. Colli’uffordd yn y tywyllwch a gorfod dringo eforhaffau a chrampons drwy’r eira. Roeddgweld yr haul yn codi am 6 o’r gloch y boreyn olygfa fythgofiadwy.Y COPACyrraedd copa Lobuche am 9 y bore. Pawbwedi ymlâdd, yn emosiynol, yn crio bronnes i Ian yngan y frawddeg anhygoel:“Reit, switch on ‘wan hogia achos ma’rrhan fwyaf o bobol yn marw ar y fforddlawr!” Cysurwr job ydy Ian.Ond lawr yn ddiogel yr aeth pawb, iPeriche i gyfarfod Trystan. Ond roedd owedi mynd yn ôl am Namche Bazaar ynbarod. Cyn dod adra, fe gafodd yr hogiagyfle i ymlacio tipyn, yn rafftio a mynd arsafari mewn jyngl ar gefn eliffantod.Ond “I’m a Cofi Get Me Out of Here” oeddhi’n y diwedd ac ar ôl tair wythnos gyffrousroedd y pump nôl yn Dre yn ddiogel.

    HOGIA’R HIMALAYA

    Y criw (o’r chwith) : Sam (o Lanrwst), Steve (o Fae Colwyn), Keith ‘Nebo’ Williams, Ian (y tywysydd o Fae Colwyn), Trystan Gwilym, Barry (o Ddulyn), Dave ‘Gel’ Hughes, Neil ‘Ducks’ Elias a Wyn ‘Coch’ Jones.

    Y ddraig goch yn nesau at gopa LobucheWedi’i gwneud hi! Neil, Keith, Dave a Barry(y Gwyddel) ar gopa Lobuche.

  • 11

    Fe gynhaliwyd Noson Ffasiwn gan aelodau Clwb Ieuenctid yn y Clwb Pêl- droed yn ddiweddar. Roedd elw’r noson yn mynd tuagat y Clwb ei hun a Chwmni Ifanc Tŷ’r Ysgol. Ar y noson hefyd, cafodd tîm dawnsio disgo’r Clwb Iau a oedd wedi’u hyfforddi ganAllana a Cari, dwy aelod o’r Tîm Dawns Hŷn, gyfle i berfformio am y tro cyntaf.

    NOSON FFASIWN Y CLWB IEUENCTID

    Shaunagh, Elin Sara a Cheryl yn modeludillad ‘Dymuniad’ a ‘Q’

    Y dawnswyr disgo

    Rhai o’r modelau’n gwisgo dillad ‘Dymuniad’

  • 12

    ModurdyB & K Williams

    Lôn Parc/South Road, CaernarfonGwynedd LL55 2HP

    Ffôn: 01286 675557Ffôn symudol: 07768900447

    Gwasanaeth Cyfeillgaro’r Safon Orau Bob Amser

    ADNODDAU TELEDUFfôn: (01286) 684 300

    Ffacs: 684 379E-bost: [email protected]

    Mae Bobby Haines yn wyneb cyfarwydd –yn gyn faer a chyn gynghorydd tre adreuliodd flynyddoedd ym mydllywodraeth leol. Ar ôl ymddeol mae wediparhau yn ddyn prysur iawn ac ar hyn obryd mae'n ymwneud â nifer o bwyllgoraufel pwyllgor rheoli Noddfa, pwyllgor Gisdaac mae'n un o Is Lywyddion Côr MeibionCaernarfon - i enwi dim ond ychydig o'rmeysydd mae'n ymwneud â nhw. Ondoeddech chi'n gwybod mai fo ydi'r dyn y tuôl i'r wisg goch a gwyn, y barf a'r sbetcolsydd i'w weld bob mis Rhagfyr? Ers drosugain mlynedd mae wedi bod yn ymweld ârhai o ysgolion yr ardal, Ysgol FeithrinNoddfa a'r Cylch Ti a Fi a'r Ganolfan GofalDydd ym Maesincla. Ac mi fydd yn eigarafan ym mhen draw Stryd Llyn ar ypenwythnosau sy'n arwain at y Dolig. Ernad yw'n aelod o'r Llewod, sy'n gyfrifol amymweliadau Siôn Corn â chanol y dre,mae'n hapus iawn yn eu helpu bobblwyddyn.

    Yn Feed My Lambs y dechreuoddymwneud â'r gwaith o helpu Siôn Corngyntaf. Yn ddiweddarach dechreuoddhelpu'r Llewod ac wedyn ymweld â'rysgolion. A thros y blynyddoedd mae wedicael llawer o hwyl yn sgwrsio â phlantCaernarfon. ”Dwi'n cofio un tro ar ôl i mifod yn Feed My Lambs, mi ofynnodd un

    o'r hogia' – “Chi oedd y Siôn Corn welsonni ynde?” “Naci wir”, medda fi, “ia, ia MrHaines”, medda'r hogyn, “mi welais i eichwatch chi wrth i chi estyn am y sach.” Miaeth yr hogyn hwnnw i weithio i'r heddlu adwi'n siwr ei fod wedi dod yn dditectif!”,meddai Bobby Haines gan chwerthin.“Dro arall mi roddodd un plentyn gic i mia deud nad oedd o'n ffrindia efo SiônCorn!”.

    Yn ogystal â llawer o hwyl mae hefydwedi cael boddhad mawr o'r gwaith, ynarbennig o weld wynebau'r plant wrthiddyn nhw gyfarfod Siôn Corn. Ond maewedi sylwi fod y Dolig wedi newid cryndipyn dros y blynyddoedd, a bod SiônCorn wedi colli ychydig o'i swyn. “Panddechreuais i hyn i gyd roedd Siôn Cornyn ddyn arbennig, ond be sydd wedidigwydd i Siôn Corn druan? Ar un adegdim ond yn Siop y Nelson oedd o i'w weldac ar y float oedd yn mynd o gwmpas Dre –ond rwan mae o i'w weld ymhob man yn ysiopa' mawr 'ma. Ac yn Y Drenewydd ma''na fil ohonyn nhw yn rhedeg ras fel brigâdo filwyr!”Rhywbeth arall sydd wedi newid, meddai,ydi rhestr anrhegion y plant. “Ar un adegroeddan nhw'n gofyn am un peth arbennigond rwan maen nhw'n gofyn am betha' sy'ncostio cannoedd!”.

    Ond er ei fod yn camu i'r wisg goch bobblwyddyn i helpu'r Siôn Corn go iawn iddosbarthu anrhegion, nid dyn y Dolig ydiBobby Haines. “I fi dydi'r Dolig yn golygudim. Ma'n llawer gwell gen i'r Pasg, gŵylsy'n agos iawn i mi a sy'n bwysig iawn iGristnogion. Gŵyl ydi'r Dolig i gael hwylac esgus i orwario. Mae mwy o ystyr i'r Pasgond ymhen amser dwi'n ofni y bydd yr wylhonno'n cael ei llyncu hefyd.”

    Ac wedi dosbarthu'r holl anrhegion oamgylch y dre y mis hwn mi fydd y SiônCorn yma'n cadw'r wisg am flwyddyn arall- gwisg mae'n cael ei benthyg er y byddaiwrth ei fodd yn cael gwisg ei hun. Ac elenibydd yn pacio'r cês yn barod i dreulio eiDdolig cynta erioed o dre Caernarfon. MaeBobby Haines wedi treulio pob Doligerioed yn Dre a hyd yn oed pan oedd yn yLlu Awyr am ddwy flynedd cafodd ddodadref i dreulio'r Dolig. Ond eleni mi fyddo a'i wraig Margaret yn treulio'r ŵyl gyda'udau fab, Vernon a Martin, a'u teuluoedd ynardal Bromley yn Ne Ddwyrain Lloegr.“Mi fydd hi'n rhyfedd iawn treulio'r Doligymhell o Gaernarfon, ond rydan ni'nedrych ymlaen yn fawr. Dydan ni ddimwedi bod efo'n gilydd fel un teulu mawr(yn cynnwys ein hwyr a'n hwyresau) dros yDolig o'r blaen felly mi fydd yn braf iawnac mi fydd yn Ddolig arbennig”.

    Cofi Corn

    Bobby a’r teulu

  • 13

    Cyfreithwyr

    Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd

    Ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiol • Gwasanaeth dwyieithog personol a chyfeillgar

    Siambrau'r Castell2A Y Bont Bridd

    Caernarfon(01286) 673381

    25 Stryd yr EglwysLlangefniYnys Môn

    (01248) 723106

    15 Stryd SalemAmlwch

    Ynys MônLL68 9BP

    (01407) 831777

    Trem y DonBenllech

    Ynys MônLL74 8TF

    (01248) 852782

    Y GilfachStryd Penlan

    PwllhwliLL53 5DE

    (01758) 703000

    Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol • Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol

    O Sul i SulEBENESER

    Gwasanaethau am 10 y bore. Yr Ysgol Sulyn cydredeg a'r OedfaRhagfyr 21 Oedfa Nadolig y PlantRhagfyr 28 Y Parch Gwynfor Williams.

    Gweinyddir y Cymun Sanctaidd.

    Ionawr 4 UndebolIonawr 11 Y Parch Reuben Roberts,

    LlanwndaIonawr 18 Mr Merfyn Jones, Caernarfon

    EGLWYS CYNULLEIDFAOL PENDREF

    Rhagfyr 21 Parch Gwynfor Williams,Caernarfon

    CAPEL SALEMRhagfyr 2110 a.m. Gwasanaeth yng ngofal yr IeuenctidCinio. Bara Caws i ddilyn. Arian at Apêl DêAffrica5 p.m. Gwasanaeth Nadolig y plant parti iddilynDydd Nadolig9.30 a.m. gwasanaeth yn y festri.Rhagfyr 28Bore’n unig Y gweinidog Y Parch. J.RonaldWilliamsIonawr 410 a.m. Undebol yn Salem4 p.m Parch. Dafydd Wyn Wiliam,BodedernIonawr 1110 a.m. a 4 p.m. Gweinidog

    CAPEL SEILORhagfyr 21, 10 a 5.00 Y Parchg. GwendaRichards. 'Dathlu'r Nadolig' am 10 a DramaNadolig y Plant am 5 Rhagfyr 24 Noswyl Nadolig. 11.30pmCymun a Charol Rhagfyr 25. 9.30am Oedfa fer Rhagfyr 28 10.00 Y Parchedig GwendaRichards. Oedfa'r Bore'n unig

    EGLWYS NODDFARhagfyr 21 – Gwasanaeth Nadolig am 3 o’rgloch. Mae croeso cynnes i unrhyw un droi mewni ymuno â ni i ddathlu’r Nadolig. Dewch ynffrindiau hen a newydd.Cynhelir oedfa gynta’r flwyddyn yn Noddfa

    ar Ionawr 11eg am 3 o’r gloch. Bydd yrYsgol Sul yn cyfarfod am 2:30

    COFIS BACHBydd Cofis Bach yn ail gychwyn ar DdyddMawrth, Ionawr 13eg.

    PLWYF LLANBEBLIG Rhagfyr 21: Y Pedwerydd Sul yn Adfent10.00: Y Cymun Bendigaid a Drama’r Geni(Llanbeblig)6.00: Hwyrol Weddi (Santes Fair) Rhagfyr 24:Noswyl Nadolig 11.30: Y Cymun Bendigaid (Cymraeg)(Llanbeblig) 11.30: Y Cymun Bendigaid (Saesneg)(Santes Fair) Rhagfyr 25: Dydd Nadolig 7.00: Y Cymun Bendigaid (Llanbeblig)8.00: Y Cymun Bendigaid (Saesneg) (SantesFair) Rhagfyr 28: Y Sul Cyntaf wedi’r Nadolig 10.30: Cymun Bendigaid Dwyieithog(Llanbeblig) 6.00:Llithoedd a Charolau (Santes Fair)

    Ionawr 4: Yr Ail Sul wedi’r Nadolig 10.00: Gwasanaeth Undebol (Salem) 6.00: Hwyrol Weddi (Santes Fair) Ionawr 11: Y Sul Cyntaf wedi’r Ystwyll 10.00: Boreol Weddi (Santes Fair) 6.00: Hwyrol Weddi (Llanbeblig)

    Bore dydd Mercher:10.00. Cymun Dwyieithog (Santes Fair) Bore dydd Gwener:8.30: Cymun Bendigaid (Llanbeblig)

    ADNODDAUBEIBLAIDDCYMRAEG AM DDIM

    Yn ddiweddar, lansiwyd adnoddauBeiblaidd Cymraeg newydd ar ddwywefan wahanol. Mae’r wefanwww.amserbeibl.org yn cynnig cyfres 3blynedd o wersi Beiblaidd ar gyfer plant5-7 oed; 8-10 oed; 11-13 oed ac 14+ oed.Enw’r cynllun yw Amser Beibl ac mae’rgwersi ar ffurf taflenni gwaith parod,llawn hwyl gydag amrywiaeth oweithgareddau a phosau. Y nod yw dodâ’r Beibl yn fyw a’i neges yn berthnasolar gyfer ein hoes ni.

    Yn ychwanegol at y gwersi uchod maedetholiad o storïau Beiblaidd Cymraegar PowerPoint ar gael ar y wefanwww.visionforchildren.com. Cliciwch ary ddraig goch i ddod o hyd i’r deunyddCymraeg. Mae’r adnodd hwn yn lliwgara deniadol ac yn gyfrwng effeithiol achyfoes i gyflwyno hanesion y Beibl iblant. Bydd storïau eraill yn cael euhychwanegu atynt o bryd i’w gilydd.

    Mae’r adnoddau hyn yn rhad ac amddim a byddant yn ddefnyddiol ar gyferYsgolion Sul, clybiau Cristnogol,ysgolion a’r cartref.

    Manylion pellach ar gael gan AledDavies, Cyngor Ysgolion Sul ar(01766)819120 e-bost:[email protected] neu Nigel Davies, Menter CydenwadolGogledd Myrddin (01994)230049 e-bost:[email protected]

    Ordeinio Blaenoriaidyn SeiloMewn oedfa arbennig yn eglwys Seilo ar25ain o Dachwedd ordeiniwyd deuddeg ofaenoriaid newydd gan y Parchedig GarethEdwards, Porthmadog, Llywydd Sasiwn yGogledd. Bydd wyth yn flaenoriaid yn Seilo,tri yn Abergwyngregyn ac un yn y Felinheli.Blaenoriaid newydd Seilo yw: Meleri TudurThomas; Lucille Hughes; Elizabeth Jones;John Idwal Williams; Thomas AlunWilliams; Glyn Robinson; Richard MorrisJones ac Edwina Morgan.

    Blaenoriaid newydd Seilo yng nghwmni’rParchedig Gareth Edwards a’r Parchedig EricJones, Llywydd Henaduriaeth Arfon

    Croesawu Baner MasnachDeg i GaernarfonBu baner Masnach Deg Cymru ynteithio’r wlad yn ystod Mis Tachwedd iddathlu mai Cymru oedd y wlad gyntafi gael statws Masnach Deg. Daeth yfaner i Gaernarfon ar Dachwedd 16 acynhaliwyd gwasanaeth arbennig ynEglwys Noddfa.

  • 14

    Lloriau

    YstafelloeddArddangosCibynCaernarfon(01286) 677757

    • GwasanaethDyfynbris aChynllunio am ddim

    • Pob gwaith wedi eiwneud gan ein tîm oweithwyrproffesiynol

    Amtico,KarndeanLloriau Pren

    Carpedia Rygs

    FFILBI… yn gwylio

    a gwrando!

    CYMDEITHASY RHYFEDDODCriw o artistiaid, cerddorion,technegwyr, ac ysgrifenwyr ywCymdeithas y Rhyfeddod, sydd ar hyno bryd yn gweithio ar brosiect ar gyferAmgueddfa Genedlaethol Cymru.

    Bydd ‘Y Prosiect Llechi’ yn osodiadcelfyddydol, ac mi fydd yn cael eiarddangos yn Amgueddfa Lechi,Llanberis am chwe wythnos yncychwyn ar Fawrth y 1af 2009. Eu bwriad yw creu pedwar ar hugain offilmiau byrion (oddeutu munud yrun), i’w taflunio ar wal yr ystafellarddangos, yn cyfuno delweddaucyfoes o’r defnydd a wneir o ardaloeddllechi Cymru. Yn ogystal â lluniau achofnod sain o’r dyddiau a fu. Bydd rhain yn amrywio o gyfweliadaugyda dringwyr, cerddwyr, deifwyr,artistiaid, pobl ifanc, a phobl hŷn.

    Mae gwahoddiad i darllenwyr PapurDre recordio rhai o’u hatgofionhwythau ar dâp fideo – gall yr atgofionamrywio o straeon, penillion, alawonneu lythyrau yn deillio o’r chwareli, ycaban, y cei llechi, y dafarn neu o’rstryd fawr. Gall y Gymdeithas ddod â’u hofferrecordio i’r Neuadd Gymunedol leol,i’r cartref, y dafarn, i’r chwarel, yn wir,i unrhyw le cyfleus.

    Cred criw’r Gymdeithas fod y prosiectyn un all fod yn hanesyddol ddiddoroltu hwnt ac maent yn erfyn yn daer amgymorth y cyhoedd.

    Gallwch gysylltu â Chymdeithas yRhyfeddod drwy ysgrifennu at :

    Gwion E Llwyd, Graianfryn, Carmel,Caernarfon, Gwynedd, LL54 7AE neuffonio 07887996765

    Gwyndaf Williams a’i Fab15 Penllyn, Caernarfon

    (01286) 675433Trwsio esgidiau, Torri goriadau

    Gosod straps a batris oriawrEngrafiadau a chwpanau ar

    gyfer pob achlysur

    T wsi d

    LLOND HOSAN OEITEMAUNadolig Llawen i bawb! Mae’r tymordathlu’n-boncyrs efo ni eto. Ynanffortunus fydd y Prince of Wales [y pyb,nid y darpar frenin] ddim yn cynnaldathliadau mae’n debyg. Mae’r lle ar gaueto. Mewn rhyw dair blynedd mae’r pybyma wedi cael digon o laisynsîs i greu côrmeibion! Mae pawb wedi methu gwneudbywoliaeth yno, a rŵan mae’r hotelsnewydd yn Doc Fictoria yn hoelion pellachyn arch y busnas. Ella bydd na rywun dewryno dros y Nadolig yn ceisio gwneud cwicbyc ond mae’n debyg y bydd y lle yn cauam byth cyn Nadolig nesa’. Ydi WatkinJones yn monitro’r lle tybed? Siopau efofflatiau uwchben? Yn bendant maedyddiau’r pyb i’w weld drosodd. Ond ydysiopau newydd, gwag, yn syniad da yn yramseroedd yma?Mae Siop Johnny wedi cau. Fydd na wisgysgol ar gael yn Dre ar ôl hyn? Diwrnodtrist iawn fydd hwnnw pan fydd yn rhaid irieni Dre orfod mynd i Fangor i brynudillad ysgol !

    Mae na sôn ers stalwm fod Woolworth’sDre am gau, ond mae hyn yn debycach fythrŵan â’r cwmni mewn trafferthion. Tybedfaint o’n siopau eraill sydd mewn trwbwl?Mae’n amser o risesion, a mae mags yndynn dros ben. Ddyla ni Gofis wneud ati ibrynu yn siopau Dre dros y Dolig a’rmisoedd [a’r blynyddoedd] nesa.Cefnogwch eich Dre gymaint â fedrwchchi, neu flwyddyn i rŵan fydd na fwy fytho siopau gwag a “charity shops” yma.Defnyddiwch nhw neu collwch nhw !

    O’r diwedd mae datblygu’r Maes bron âgorffen. Mae o’n edrych yn grêt, ond biti ’ifod o mor llithrig yn y glaw. Os felly mae’rsyniad o ffowntan yn taflu dwr drosto fo ynsyniad od iawn! A beth am symud SyrHuw Owen….rhyw lathan neu ddwy!Pam? Faint oedd y gost? Ydy ei symud ocyn lleied yn gwneud llawer o wahaniaeth?Dwys ydi meddyliau town planyrs!

    Ond chwara teg, mae’r datblygiad ynedrych yn dda. Ella bod angen UN newidbach : rhoi slot parcio i un cerbyd arbennigmewn rhyw gornel fach. Wedyn mi fysai’nbosib cadw ambiwlans yno pan mae’nbwrw!

    O sôn am barcio [eto!] mae rhaidllongyfarch Cyngor Gwynedd ar goc yparall. Maen nhw wedi creu tacsi rancnewydd wrth beintio TACSI ar y lôn, ondheb roi platiau arbennig, efo manylion, ar ywal uwchben. Felly, medda nhw i mi, tydi’rranc ddim yn gyfreithlon. Gall rhywunbarcio yno. Ac heb linell felyn cewch arosyno drwy’r dydd! Cym on hogiaGwynedd!

    Yn olaf dwi’n gobeithio y bydd pawb yngall dros yr ŵyl ond yn dal i gael Doliggwych a lot o firi. Byddwchyn gymhedrol ynmhob…na, wai boddyr!

    CAM ARWYDDION !

    Tybed pryd byddan nhw’n codi’r castell goiawn? Mae o di para’n dda o ystyried maiun dros dro oedd o!

    Ildiwch i gerbydau sy’n dŵad tuag atochchi meddai’r arwydd ar y chwith. Does narun i FOD i ddŵad yn ôl yr arwydd ar ydde!

    CLWB CANTEnillwyr Hydref 081af M Sexton Rhif 612il Howard Jones Rhif 403ydd Lynwen Williams Rhif 47

    Enillwyr Tachwedd 081af Catrin Rees Rhif 312il A Williams Rhif 693ydd Ifan Ll Jones Rhif 36

  • 15

    Jason Parry16 Stryd BangorCaernarfon

    Ffôn:(01286) 672366Symudol:

    07900594279

    Panorama Cymru19 Stryd y Plas

    Arddangosfa o dirluniau trawiadol ganGeraint Thomas

    a ffotograffwyr eraill.Llogi offer ffotograffig arbenigol.

    Argraffu lluniau o safon uchel.Gwasanaeth fframio.

    Gwasanaeth meddalwedd.

    BWYDa BALLU

    AM FUNUD

    O fy mlaen i, ar y ddesg, mae yna lun daufabi. Llun papur newydd ydi un o Babi P- y bychan syn, na chaniatawyd rhoi enwiddo ar y pryd - a llun clasurol ydi’r llallo’r Baban Iesu gyda Mair, ei fam. A doesyr un o’r ddau ddarlun yn cynhesu’nghalon i.Y llun cyntaf am resymau amlwg. Maehyd yn oed gwleidyddion a phobl ycyfryngau, sy’ wedi hen galedu, yn haerubod y darlun o’r bychan diamddiffyn yndwyn dagrau i’w llygaid. ‘Pa galon morgaled na thodd?’Mi rydw i’n cael trafferth i syllu’n hir aryr ail ddarlun yn ogystal. Ond amresymau eironig o wahanol. Harddwchyr ail ddarlun sy’n fy mhellhau i oddiwrtho. Mae o’n ddarlun mor ffuantus acafreal. Mop o wallt melyn sy gan y BabanIesu, fel Babi P o ran hynny, a chroengwyn fel eira. Ym Mhalesteina’r GanrifGyntaf? Erioed! Ac mae gan Fair‘Forwyn’ wisg o sidan glas a chadairhyfryd i eistedd arni - serch maistabl/ogof oedd y man geni yn ôl yTestament Newydd.Mae’r ddau ddarlun, fel ei gilydd, felpe’n dwyn y Nadolig gwirioneddol oddiarnom. I mi, y darlun o Babi P, hwyrach,sydd agosaf at realaeth y geni gwyrthiol -serch bod yr amgylchiadau moreithriadol o wahanol. Mae’r straeonBeiblaidd, a dyna’r unig ffynhonnell syar gael, yn sôn am ddigartrefedd - Heb leyn y llety, heb aelwyd heb wely’, amffoaduriaeth, Cod, a chymer y plentyn a’ifam gyda thi, a ffo i’r Aifft - ac am hil-laddiad - A rhoddodd orchymyn i laddpob un o’r plant ym Methlehem a’r hollgyffiniau a oedd yn ddwyflwydd oed neulai. ‘Nadolig fel hynny gadd hwn.’

    Mor addas oedd ei eniYng ngharpiau ein trueniAr domen dynol-ryw!

    Harri ParriCefnogwch ein

    hysbysebwyr

    Tafarn gartrefol a chlydCwrw da, gwasanaeth cyfeillgar

    Ffôn: (01286) 672871

    Yr Alexandra

    Mae llawer lle'n y byd yr hoffwn ymweld âhwy, ond mae hi'n rhy hwyr bellachoherwydd diffygion corfforol ac ariannol.Bu Affganistan ar fy rhestr am flynyddoedd,felly difyr tu hwnt i mi oedd cael darllen "YrAnweledig", sef llyfr diweddaraf LlionIwan. Diolch iddo amdano. 'Roeddwn ardrip Seren Arian i Harrogate, a thra'r oeddpawb arall yn byseddu edeuon a dafeddimewn arddanghosfa, ac am fod gennyfinnau gefn drwg, eistedd efo'r nofel honmewn congl o'r theatr yno wnes i. Yn sicr,dyma'r nofel ddylsai fod wedi cael y fedalryddiaeth yn Eisteddfod Caerdydd. Braf imi oedd cael darllen am wledydd pell ynGymraeg gan fy mod yn llyncu cymaint olyfrau taith yn Saesneg. Mae rhywbeth yn ynofel sy'n fy atgoffa o "The ReluctantFundamentalist" gan Mohsin Hamid ganfod y ddwy nofel fel ei gilydd yn dangos innisut a pham y mae bechgyn ifanc yn dod ynffwndamentalwyr a llofruddwyr hunan-ddinistriol. Efallai y gallsem wneud efo llyfrsy'n dangos pam mae unrhyw fachgen ynfodlon ymladd yn unrhyw fyddin ynunman.(Un cwestiwn bach i'r awdur - wn iddim os gellir enwi plentyn yn Haji ac maidim ond gwyr sydd wedi bod ar yr Haj iFecca gaiff gymeryd yr enw hwn. Gallswnyn hawdd fod yn anghywir, a maddeuer imios wyf.) Yr oedd darllen y nofel hon ynbleser beth bynnag.

    Yr un gwrthdaro fu ym Mwmbai yrwythnos ddiwethaf, gyda gwreiddiau'r hollbroblem yn deillio o hanes dwy (neu bedairefallai) grefydd fawr. Mae gwrthdaroPalesteina, mae Irac, mae Affganistan aChashmir yn rhan fawr o'r un broblem.Cashmir, wrth gwrs, yn "rhan" o India eihun, a chymerwn ni yma fawr o sylw o'rbroblem honno. Petai Cashmir a'iphrotestiadau yn Tibet (cwyn fwy ffasiynol),byddai yma hen ddeud y drefn. Nid ywIndia mor lan ei dwylo a hynny - yn ôlHamid eto - mae hanner plant India yn caeleu nych-fagu ac oherwydd hynny, byth yntyfu i'r maint y dylent. Mae hyn yn rhif syddddwywaith maint rhif y plant sy'n nychu ynAffrica, (sub-Sahara.)

    Mae dros ugain mlynedd ers pan fûm iyng Nghashmir, a 'does dim i weld wedinewid ac mae'r un hen ladd diddiwedd yndal ati. I Bacistan y dyliai Cashmir fod wedimynd adeg yr ymrannu mawr yn 1947, ondam amryw resymau - un ohonynt oedd fodNehru wedi ei fagu yno ac yn caru'r wlad.

    Ond fe addawodd refferendwm iddynt, ondnis cafwyd. Gwlad Fwslemaidd yw ac efoPacistan gredaf i mae ei lle. Pan oeddwn iyno, gwlad dan warchau oedd hi a milwyrIndia ar bob cornel o bob stryd ymhobpentref a thref yno a rheini yn hogiau mawrcryf a gwn i bob un. Buom yn llygad-dyst ileinio creulon ein gyrrwr tacsi ganddynt undiwrnod, ninnau rhy ofnus i wneud dim.Roedd y milwyr wedi gorchuddio euhwynebau i'r swydd afiach honno. Ni - fyngwr a minnau - oedd yr unig ddau o wladarall a welsom yno. Caem glywed cwyn oesoly rhai sydd dan draed gan ein gyrrwr tacsiclen bob dydd. Pan ofynnais yn ddiniwedddigon iddo, "Pam maent yn dy nguro felhyn?" ei ateb oedd,"Am mai Mwslem wyf acam fy mod yr oed iawn", h. y. tua deg arhugain, yr oed mae bechgyn yn y fathsefyllfa yn dechrau meddwl fod yn rhaidgwneud rhywbeth amgenach na chwyno!Na, nid yw dwylo India'n lan mwy na'n rhaininnau, a than warchae mae Cashmir o hyd.Mae'n wlad digon a dychryn dyn o harddhefyd.

    Mae gan William Dalrymple - fy hoff lenorffeithiol yn Saesneg - erthygl wych arGashmir yn y Guardian ddydd Sadwrn y30ain o Dachwedd. Chwiliwch amdani ar ywe.

    Tawaf cyn dechrau cega am Bush, Blair a'uholl gynffon fain hir. Dim rysêt troma.

    CYW YN YMWELDÂ’R COFISCafodd rhai o blant y dre fodd ifyw yn Galeri’n ddiweddar wrthgroesawu cymeriadau poblogaiddrhaglen S4C ‘Cyw’ i’r dre.

  • 16

    Gemwaith o Safon

    GEMWAITHYn newydd eleni – PANDORADewis cynhwysfawr o emwaith

    aur ac arian ar gyfer pob oed a phoced

    Aur Cymruy Metel (C.Y.M.) a Clogau

    Trwsio rhesymolY Bont Bridd, Caernarfon

    (01286) 675733

    POBOL DRE

    QUANTUM OF SOLACE [12A] 22, 29 Rhagfyr – 11yb / 2yh / 7.30yh, 23, 30 Rhagfyr – 11yb / 2yh / 4.45yh

    BURN AFTER READING [15] 7 Ionawr – 2yh / 7.30yh

    CITY OF EMBER [PG] 10 Ionawr – 2yh

    HUNGER [15] 14 Ionawr – 2yh / 7.30yh

    EASY VIRTUE [PG] 21 Ionawr

    2yh – Dangosiad Rhiant a Phlentyn (dan 2 oed) 7.30pm

    OF TIME AND THE CITY [12A] 28 Ionawr – 2yh / 7.30yh

    * Bydd ffilmiau yn dechrau yn brydlon ar yr amser a nodir (dim hysbysebion)Awgrymir eich bod yn bwcio tocynnau o flaen llaw gan y bydd y prisiau yn codi rhywfaint ar y diwrnod.

    T: 01286 685 222 www.galericaernarfon.com

    Dangosodd Victor Doughty ei lun gydathîm pêl droed “Caernarfon Thurdays”dynnwyd yn 1938.“Ro’n i’n gweithio ynSwyddfa’r Post yn Dre ac un o’r hogia yn ytîm oedd Thomas Glyn Hughes, gŵr cyntaffy ngwraig, Mary. Doeddwn i ddim yn ei'nabod hi’r adeg hynny. Hanner canmlynedd yn ddiweddarach a’r ddauohonom yn weddw y gwnaethomgyfarfod.”

    Pan agorwyd y Llyfrgell newydd ar AlltPafiliwn dechreuwyd Clwb Galar yn y’stafell gymuned, ac ar ôl bod yn weddw amsaith mlynedd, dyma Victor yn penderfynugalw heibio. Dyna’r tro cyntaf a’r olaf ganmai fo oedd yr unig ddyn yno! Ond ynlwcus, cyfarfyddodd Mary a sylweddoli eubod yn byw yn agos at eu gilydd. Maennhw’n briod bellach ers 1989 a phlant yddau yn falch iawn o’u gweld mor hapus.VICTOR – HOGYN TELEGRAMCychwynnodd Victor weithio ym mhostCaergybi yn 1935, fel hogyn telegram, yncario’r negeseuau i ben eu taith a braf oedddanfon telegram cyfarch mewn amlen aur.Cyflog Victor oedd 8/- yr wythnos a swlltam llnau ei feic. Mae’n cofio llawer o

    geginau cawl yn ysgoldai’r capeli a phlantyn cael esgidiau gan yr heddlu am fod 50%o’r boblogaeth yn ddi-waith yn sir Fôn.POST CAERNARFONErbyn 1938 roedd Victor Doughty yn glercyn Swyddfa Bost Caernarfon. Arhosaicannoedd o bobol ifanc mewn lojins a buVictor yn hapus iawn yn Stryd Margaret.Âi adref ar y trên i Gaergybi ar ddyddSadwrn tan nos Sul a bob pnawn Iau a’rsiopau’n cau ganol dydd, byddai Victor ynchwarae pêl droed ar y Morfa (safle’r caerygbi) efo tîm “Caernarfon Thursdays”.

    Ond daeth dyddiau tywyll y rhyfel adiolchodd Victor na fu raid iddo ddanfon ytelegramau melyn i deuluoedd oedd mewnprofedigaeth. Rhwng 1942 a 1946 bu yntauyn India a Burma heb ddod adref unwaith.Ffurfiwyd Côr Meibion Cymreig ar y llong“Capetown Castle” tra’n teithio i’rgwledydd pell a buont yn canu yn ystod yfordaith hir. Roedd Gwilym OwenLlanberis ac Ula Larsen, cyd-weithiwr ynSwyddfa Bost Caernarfon yn y côr. Arddiwedd y rhyfel priododd Rose, fu’n arosamdano am bedair blynedd. Buont yn bywyng Nghaernarfon er i Victor fynd ynbostfeistr i Borthmadog a Phwllheli. Erbynhyn mae’r ferch Linda yn athrawes ynLlanfairfechan, a’r efeilliaid Dr Kevin aPeter Doughty yn byw yng Nghaernarfon. MARY- SIOPAU’R FARCHNADGanwyd Mary Tindall yn Eryri Terracedynnwyd i lawr pan godwyd y lôn newydd.Mynychai ysgol genod Twtil a HigherGrade, ond âi i weithio i’r farchnad yn sytho’r ysgol tan 8 ar nos Wener a 9 ar nosSadwrn am swllt yr wythnos. Mae’n cofio’rstondinau prysur a’r cymeriadau weithiaiyno.

    Stâd y Faenol oedd biau’r Farchnad; MrsBenest oedd yn gosod y siopau; dyn oChapel Street fyddai’n llnau bob nos a MrKelly yn cloi. I fyny’r grisiau roedddodrefn ail law “Coombs & Coombs” a

    Watches Lloyd. Yr unig ddyn du yn y Dreoedd doctor Tomavo ddefnyddiaiberlysiau i wneud ffisig. Yn y Lle Llestriroedd gramaffon fawr a chwaer Mrs Benestyn troi’r handlan i chwarae “Minuet in G”drwy’r dydd.Ar y llawr roedd stondin dda-da Dan West

    ac un arall efo digon o daffi “Blue Bird”.Gladys o Twtil Bach werthai injarocnymbar 8 bob dydd Sadwrn. Wrth y drwsffrynt roedd stondin ffrwythau MrsBenest; gwerthai ei mab hadau gan eu codifesul un efo pin-het i wniadur a’i cyfrifwrth lenwi’r pacedi 1d a 2d. Roedd yfeithrinfa blanhigion yn lle mae GerddiMenai heddiw a cherddai Mary yno i nôlblodau ffresh.GWEITHIO YN DREWedi gadael yr ysgol aeth Mary i Staffordcyn dod yn ôl i Gaernarfon yn 1936 i siopPeacocks ar y Maes am gyflog o 5/- yrwythnos.Yna bu yn siopau groser GeorgeMason a Star oedd drws nesaf i’r Nelson allosgwyd y ddwy yn y tân mawr. Priododdyn 1941 a byw gyda’i mam yng nghyfraithar stryd Bangor. Yn ystod y rhyfelgorfodwyd hi i wneud caniau petrol yn yffatri yn Griffith’s Crossing ac aeth ei gŵri’r Almaen a’r Eidal. Pan ddaeth adrefroedd eu merch Madelaine yn 4 oed.Ganwyd 3 mab iddynt hefyd, Gareth, Alana Glyn Hughes.CASA DUDLEY A DYMUNIADBLWYDDYN NEWYDDPrif ddiddordeb Mary a Victor Doughtyydi’r teulu. Maen nhw wedi gwirioni gweldwyres Mary yn coginio ar Casa Dudley sefWendy Thomas sy’n gweithio yn Galerigyda’r nos. “Mi fasan ni’n fodlon blasu’rbwyd Sbaenaidd ond ddim i ginio Nadoligchwaith!” Gor-ŵyr Victor ydi Joshua Clark, (stori ardudalen 3). Dymuniad Mary a Victor ydi iJoshua fedru gweld cyn diwedd 2009.MARGARET WYN ROBERTS

    VICTOR A MARYDOUGHTY

  • 17

    Gemwaith o Safon

    SIOP y PLASDewis cynhwysfawr o

    emwaith aur ac arian argyfer pob oed a phoced

    Aur Cymruy Metel (C.Y.M.) a Clogau

    Trwsio rhesymolStryd y Plas, Caernarfon

    (01286) 671030Rhif Cofrestredig Elusennol: 1084271

    Cynigir hyfforddiant cerddorolo safon uchel ar amrywiaeth o

    offerynnau a llais. Pob lefel.Croeso cynnes i bob oed

    Grwpiau cerdd i blant18mis i 3oed yn ystod y dydd

    Canolfan Gerdd William MathiasGaleri, Doc VictoriaCaernarfon, Gwynedd LL55 1SQ(01286) 685230 • [email protected]

    TOWN CABSPerchennog:

    Brian O’Shaughnessy

    TACSI TACSITACSI

    01286 67609107831 268995

    Siwrneiau LleolMeysydd AwyrDydd a NosCar 7 person

    Glain Gryffudd, 18 oed Pam wnes i gychwyn yn Glanaethwy...“Nes i ddechra mynd i Glanaethwy ynBlwyddyn 5. Roedd lot o fy ffrindia' i ynmynd i Glanaethwy yn barod, ac r'on i wediclywed bod nhw'n cael lot a hwyl. R'on i'n

    canu yn y côr yn ysgol yn barod, ond roeddo'n gyfle i gael mynd a cyfarfod criwgwahanol a neud ffrindia newydd.”Uchafbwyntiau...“Mae 'na gymaint ohonyn nhw, ynarbennig am wahanol resymau. Roeddennill Côr yr ŵyl yn Steddfod yn grêt, a caelmynd i Iwerddon ar holl brofiada gwahanolyn fan'na. Roedd Last Choir Standingwedyn yn brofiad hollol wahanol. Maepobl lleol wedi dod i nabod y côr yn well ershynny dwi'n meddwl, yn deall be' maGlanaethwy yn gneud. Mae hynny wedibod yn grêt.”

    Meinir Wyn, 18 oed Pam wnes i gychwyn yn Glanaethwy...“Roedd gen i ffrind, Ffion Llwyd, oedd ynmynd i’r ysgol yn barod, felly nes i ddechramynd efo hi. Ro’n ni wedi bod yn cystadluar yr unawd mewn Eisteddfodau a ballu, acr’on ni’n teimlo y bysa gwneud ydosbarthiadau actio ac ymuno â’r côr ynhelpu i mi symud ymlaen os oeddwn i ishodatblygu fy niddordeb mewn perfformio.Rwan dwi'n gneud lefel A drama efo’r ysgol.Uchafbwyntiau...“I ddechra’, ’da ni’n cael gymaint o hwyl yny dosbarthiada’. Wedyn, 'da ni wedi cael

    mynd ar lwyth o dripiau a gweld llefyddnewydd. Un o’n atgofion cynta’ oedd caelmynd pryd oeddwn i’n rili bach i ganu ynyr Albert Hall. Dwi'n cofio’r lle'n enfawr,a'r balŵns 'ma i gyd yn disgyn lawr arna nio'r to ar y diwedd - roedd o'n hollolamazing! Yn fwy diweddar, roedd mynd iBudapest a gwneud yn dda yno tua tairblynedd yn ôl yn brofiad gwych. Ac wrthgwrs, roedd Last Choir Standing jyst ynhollol briliant. Doeddan ni ddim yndisgwyl mynd mor bell, roedd o'n riliemosiynol!"

    Lowri Wynn – 17 oed (18 Ionawr)Pam wnes i gychwyn yn Glanaethwy...“Dwi’n gwbod i fod o’n swnio’n cheesy, ondmi nesh i ymuno achos mod ‘n injoioperfformio. Doedd gen i ddim hyder a mioedd Mam yn meddwl y basa ymuno hefoGlanaethwy yn rhoi mwy o hyder i mi. Mioedd cyfnither mam yn arfer mynd yno, acfelly dyna sut oeddan ni yn gwybodamdano do.”Uchafbwyntiau...“Bod ar Last Choir Standing, yn bendant.A hefyd mi fuon ni yn Iwerddon 'leni yncystadlu mewn Gŵyl Geltaidd, ac er maicystadleuaeth oedd hi roedd y gynulleidfa igyd ar eu traed oedd yn anhygoel.”

    DATHLU DEUNAWMae wedi bod yn flwyddyn fawr iYSGOL GLANAETHWY. Maent ynrhyddhau CD y Nadolig hwn. Miholodd PAPUR DRE dair aelod oGlanaethwy sydd yn byw yngNghaernarfon.....

  • 18

    CLIWIAU CRYPTIGAr Draws1. Pum cant a deg heb ddillad – gw?r y

    tymor. (7)5. Ysbryd Diane wedi troi (5)8. Dyn neu fuchod heb fod yn gyflawn (5)9. Cryfder diddiwedd un gwirion sy’n byw

    yma (7)10. Ll’gada Dil’n rhyfeddu at yr hyn oedd ar

    y lein (5,4)12. Daw cyffro i gyn gwango (1,1,1,)13. Panel newydd ddechrau ymlwybro i

    darddle llythyr enwog (6)14. Dur – na un anghywir yn dechrau

    dywediad (3,3)16. Un Caerdydd neu Geredigion ond nid yr

    un sy’n swnio fel yr un a gewch ar gam(3)

    17. Rhys heb orffen etholiad amheus y boblsy’n cael eu dewis (1,3,5)

    20. Lleufer dyn o ystafell fach ar waelod lonPafiliwn (7)

    21. Cyfarpar goleuni yn cuddio ebychiad (5)

    23. Pum cant pum deg un dim pumdeg hebffwdan (5)

    24. Dyn yn dechrau’n fodern wrth adeiladucadeiriau efallai (7)

    I Lawr1. Siarad yn y dryswch dudew (5)2 Yn ei dei newydd, mae’n perthyn i ni (3)3. Edi, ydach chi’n ffwndro wrth roi

    cyfarchiad? (5,2) 4 Nadolig swnllyd, neu stori dda? (5)5 Delwedd sy’n drysu ein tad yng

    Nghaernarfon (5)6. Mae un a’r wyth yn troi’n gymysgedd (9)7. Mae gan y doctor gasgliad o lythrennau

    sy’n rhegi (7)11. Eglwys sy’n ddel er yn swnllyd ger y Bala

    (9)13. Arweinydd eglwys lle? Do, fe roes loches

    rhyfedd. (5,2)15. I Dai, nid yw siaradwyr Hindi yn ei

    ddrysu (7)17. Dringa hon ac fe gei deimlad wrth lyncu

    disgyrchiant (5)18. Alan Llwyd sy’n dechrau drysu dan

    ymddygiad ffiaidd (5)19. Cylchgrawn dychanol yn gwneud tipyn o

    ffwl ohono’i hun (5)22. Yng nghanol Ogwen, mae dalfa’r pry (3)

    CLIWIAU HAWSAr draws1.Lle mae Meithrhian a Gwasg Pantycelyn.

    (3,4)5. Beth oedd yn gorwedd mewn preseb. (5)8. Roeddem yn crio. (5)9.Bwlch rhwng Dolgellau a Dinas

    Mawddwy. (7)10.Enw 5 ar draws. (4,5)12.MI5 U.D.A., neu ganolfan yng

    Nghaerdydd. (1,1,1)13.Cariad George Hughes. (6)14.Aderyn ysglyfaethus - buteo buteo. (6)

    16.Merch brenin Tir na n’Og. (3)17.Ffrwyth bach coch a charreg yn ei ganol.

    (9)20. Lleiaf sych. (7)21. Lle mae gwaelod y bol a’r cluniau’n

    cyfarfod, côl. (5)23. “Gosod babell yng ngwlad -----”, W.W.

    Pantycelyn. (5)24. Y noson cyn heddiw. (7)I lawr1. Enw merch. (5)2. Mofyn. (3)3. Ffan, un sydd â meddwl mawr o rywun.

    (7)4. Deunydd y nodau gwyn ar biano. (5)5. “Llysgennad” Kazakhstan. (5)6. John Evans, awdur y Pedwar Llew Tew.

    (4,5)7. Diwedydd, gyda’r hwyr. (7)11. Disgwyliwn ymweliad gan hwn ar y

    25ain. (5,4)13. Addoldy’r Iddewon. (7)15. Crefft plygu papur. (7)17. Llestr i yfed ohono. (5)18. Afon ym Mhowys. (5)19. Dalier sylw. (5)22. Dianc. (3)

    Atebion Cliwiau Cryptig TachweddAr draws: 1. Ffens. 3. Ffyrnicach. 8. Gwynt.9. Af i’r dre. 11. Swp. 13. Maesincla. 14.Panama. 16. Murlun. 18. Ysgolhaig. 20. Nos.22. Troi’n ôl. 23. Amser. 25. Ffasiynol. 26.Clên.I lawr: 1. Ffigys. 2. Nwy. 4. Ymateb. 5.Neiniau. 6. Codi Calon. 7. Atom. 10. Elain.12. Penygroes. 14. Pwynt. 15. Melynwy. 17.Cawlio. 19. Glaw. 21. Seren. 24. Sâl.

    Enillydd: John Davies, Ffordd Cwstenin, Caernarfon

    Atebion Cliwiau Haws TachweddAr Draws: 1. Pasg. 3. Dros y ffin. 8. Rasel. 9.Feranda. 11. Dall 13. Manon a Haf. 14. HenGar. 16. Purdan. 18. Yr euog a ffy. 20. Gwe.22. Nercwys. 23. Echdoe. 25. Segurdod. 26.Oren.I Lawr: 1. Pared. 2. Sos. 4. Rafins. 5.Serennu. 6. Ffini Hadog. 7. Elim. 10. Arfon.12. Llanbedrog. 14. Heyrn. 15. Agorwyr. 17.Lansio. 19. Yfed. 21. Edern. 24. Dur.

    Enillydd: Awen Roberts, Rhosgadfan

    Anfonwch eich atebion, erbyn diweddy mis, at Trystan Iorwerth, Graigwen,Lôn Ddewi, Caernarfon LL55 1BH. Tocyn Llyfr yn wobr i’r enillydd.

    ! 01286 676946Dewch i Na-nôg ar y maes am y

    dewis gorau o CDs, fideos, DVDs,llyfrau, gemau, lluniau mewn

    ffrâm, anrhegion, cardiau cyfarch,dillad Cymreig a’r ddraig goch, a

    llawer iawn mwy …

    PETER HARROPB.Sc. (Anrh) MCOptom

    OPTOMETRYDDOPTEGYDD

    43, Stryd Llyn, Caernarfon(01286) 673631

    9-11 Pen Deitsh, Caernarfon Gwynedd LL55 2AUFfôn: (01286) 672602 • Ffacs: (01286) 676728

    Gwaith artistiaid lleol • Crefftau o GymruAnrhegion at bob achlysur • Busnes teulu • Sefydlwyd 1924

    Oriel ac AnrhegionAgored 7 diwrnod yr wythnos

    Tocynnau anrheg ar gael o £1 i fynyCynigion arbennig ar lawer o nwyddau

    Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.

    9-11 PFfôfôf n

    5 2AU728

    www.gray-thomas.co.uk [email protected]

    CROESAIR

    NOSON I WARBITHEATR SEILO, CAERNARFON

    Sadwrn 31ain Ionawr 2009, am 7.30pmGARETH OWEN yn cyflwyno JOHN

    EIFION, HOGIA'R WYDDFA, DYLAN ANEIL, PIANTEL, GARI JONES, HOWARD

    HUGHES, SARAH LOUISE, MONTRE,Cyfeilydd ANNETTE BRYN PARRY

    Tocynnau £10.00. Yr elw i gyd tuag at“The Warburton Trust”

    Tocynnau: Siop Na Nog ,Caernarfon; Awen Menai,Porthaethwy; Megan Williams 01286 674013; Brian

    Richardson 01286 675446; Gareth Jones 01286650812

    NOSON I'W CHOFIO

    Cyngerdd Deunaw Oed

    GLANAETHWYNoswyl Nadolig

  • 19

    Ar gyfer eich hollanghenion yswiriant

    6 Stryd Bangor, CaernarfonFfôn: (01286) 677787Ffacs: (01286) 677629

    Gyda’r tymor sgota ar ben a’r gêr yn y garej,adeg i edrych nôl. Sut dymor fu hi ?Un digon cymysglyd yn y bôn gyda’rllynoedd yn sgota’n dda ar adegau ond efogormod o ddwr ar adegau eraill.Mae aelodau Cymdeithas Pysgota Seiont,Gwyrfai a Llyfni wedi cael anrheg Nadoligeleni – ni fydd tâl aelodaeth yn codi ytymor nesaf. Bydd na ambell i anrheg aralldros yr Wyl hefyd mae’n siwr -gan aelod o’rteulu efallai. Weithiau, â’r prynwr yngwybod dim byd am sgota, ni fydd y rîlneu’r enwair cweit yn taro deuddeg. Ondrhaid peidio â bod yn anniolchgar ac iosgoi digwyddiad o’r fath beth am awgrymar gyfer yr hosan ‘na.Dewis amlwg ydy pluen glasurol i ddal eogyr arferid ei defnyddio ar afonydd Cymru,sef y ‘Barkworth’, wedi’i henwi ar ôl W.T.Barkworth a oedd, mae’m debyg yn gawiwrmedrus iawn. Ar Afon Gwy y byddai o ynsgota. Dyma oedd gwisg wreiddiol yBarkworth:Tag – aur gydag edau oren tywyllCynffon – topping, hwyaden a toucanButt – estrys duCorff – mewn dau ddarn. Edau lliw gwelltac asenau aur yna butt estrys du gydaphluen toucan oren oddi tano.Wedyn edauoren tywyll gydag asenau aurGwddf – gallina glas tywyll neu sgrech ycoedAdain – dwy tippets gefn wrth gefn ynatwrci lliw oren, macaw glas, alarch lliwgwellt, cynffon ffesant a dau topping.Llygaid - jungle cockBochau – chattererPen – estrys du.Erbyn heddiw, efallai bod angen newid yradain a defnyddio blew yn lle plu. Beth bynnag fydd yn yr hosan, Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.

    Glas y Dorlan

    ’SGOTA GENOD Y GOLFFTŷ Tricia Parkin ydy’r lle i fod drosDolig !

    Fe darodd hi’r bêl fach wen ddigon dai ennill twrci a photel o wirod dros yrwythnosau diwethaf. Llongyfarchiadauhefyd i Esme Dyson. Mae hi wedi cael eiphenodi yn gapten Cymdeithas GolffSiroedd Gogledd Cymru.

    Dyma ganlyniadau’r mis yn llawn.Gwirod a golff (agored): 1. S Hague ac AFowell, Henllys 2. G Williams a JFenton, Henllys 3. R Hughes a SylviaJones, Porth Llechog 4.Sian Hughes aMegan Roberts, NefynGwirod a golff (Caernarfon yn unig):1.Eirian Jones a Tricia Parkin 2.CarysEvans ac Awen Edwards 3. MarionHughes ac Ann Lloyd.Dal y twrci : 1 Tricia Parkin 2.OlwenRowlands 3.Lorrie JamesTeisen Dolig : Blodwen ThomasCystadleuaeth i Bedwarawdau Cymysg :1. Nan Bate a Wil Jones 2.LauraWilliams a Wil Jones (capten)Pedwarawdau Bruce Edwards (cymysg):Lorrie James a Wil W Jones 2. LunedJones a Dave.

    YSGOL SANTES HELEN - DIWRNOD SBOTIOG!Cawsom ddiwrnod sbotiog yn yr ysgol i hel pres ar gyfer Plant mewn Angen. Cyfanswm yrysgol tuag at y gronfa oedd £107.

    Cylch MeithrinTwtil yn caelhwylCafodd y plant hwyl a sbriym mharti Calan Gaeaf yCylch. Cawsant chwaraegemau a phaentiowynebau.Rydym yn derbyn plant o2 ymlaen. Os dymunwchgofrestru eich plentynyn y Cylch cysylltwch ar01286 674856 neu07810242058.

    POSAUSWDONTIUMSef Swdocw Segontium! Defnyddiwch yllythrennau SEGONTIUM i lenwi’rgrid.

    Rhaid i bob llythyren ymddangos unwaith yn unig ym mhob rhes, pob colofna phob bocs 3x3.

  • ChwaraeonChwaraeonPAPUR DRE PAPUR DRE

    PAPUR DRE I BOBOL DRE

    Mi fu 2008 yn flwyddyn arbennig olwyddiannus i Segontium Rovers.Ennill pum cystadleuaeth a dod yn ailmewn un arall. Cafwyd buddugoliaethau ynnhwrnameintiau Caernarfon Wanderers,Bontnewydd, Nantlle Vale, CynghrairGwyrfai (yn Llanrug) a Threfor gan ddodyn ail yng nghystadleuaeth Cae Glyn.

    Ond mae’r rheolwyr Gerald Reynolds a

    Gareth Olsen yn cydnabod bod cefnogaethnoddwyr a chymorth ffrindiau wedicyfrannu’n helaeth tuag at y llwyddiant.“Dan ni’n ddiolchgar iawn i Chubbs, MenaiBlinds, Alwena Thomas, Dooleys, RobertsPortdinorwic, Chubb Haulage, Gwynfor aGerallt Roberts ac Express Motors,” meddaiGerald. “Hebddyn nhw i gyd mi fyddairhedeg tîm fel hyn bron yn amhosib.”

    Yn y llun mae’r tîm (gyda’u rheolwyr a’utlysau) yn edych ymlaen at y Dolig ganobeithio y bydd 2009 hanner cystal anhwtha bellach yn cystadlu yn yr adran 9B.Yn sicr mae na anrhegion Nadolig ar yffordd. Tracwisgiau newydd gan Sion Corn(a Gofal Bro) yn ôl y sôn.

    BLWYDDYN WYCH SEGONTIUM ROVERS

    (cefn o'r chwith..) Laura, Sara, Ceri, Lowri, Gwenno (tua blaen o'r chwith..)Sara, Lisa, Diion, Erin

    PÊL-RWYDYR AELWYDDyma dîm genod pel-rwyd Aelwyd yrUrdd Ysgol Syr Hugh Owen. Fe'uffurfiwyd flwyddyn yn ôl wrth i'rcynllun 5x60 gydweithio gyda'r Urdda threfnu sesiwn pêl-rwyd am awr arôl ‘rysgol bob prynhawn Gwener.Genethod 6ed dosbarth yr ysgol sy'nhyfforddi'r criw, ac mae eu gwaithcaled a'u brwdfrydedd i’w weld yndwyn ffrwyth wrth i'r genod drechuysgolion Llangefni a Brynrefail o 14-6ac o 7-1 mewn twrnament cyfeillgar.Diolch yn fawr i'r genethod hŷn ameu gwaith caled.