4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 10 Mawrth 7, 2019 50c. Bu aelodau eglwys Caersalem, Pontyberem wrthi’n brysur yn bwyta losin Smarties yn ystod y chwech wythnos ddiwethaf. Ar ôl eu bwyta roedd yn rhaid llenwi’r bocs hir crwn ag arian man er budd apêl yr eglwys i Fadagasgar. Gweler yn y llun rhai o ferched yr ysgol Sul yn cynorthwyo Delyth Price y Trysorydd i gyfrif arian. Bydd y prosiect hwn o fewn yr eglwys yn dod i ben ddechrau Mawrth. Cyhoeddir y cyfanswm wedi hynny. Ffordd felys o godi arian tuag at Apêl Madagascar Mae’r BBC wedi neilltuo 2019 fel ‘Blwyddyn y Credoau’. Awgrymodd arolwg diweddar fod gormod o sylw yn cael ei roi i Gristnogaeth ar sianeli’r Gorfforaeth, ac yn ystod eleni fe fydd sawl cyfres a rhaglen unigol ar radio a theledu yn sôn am grefyddau eraill. Er bod rhaglenni Cristnogol i barhau ‘yn gonglfaen darlledu o gwmpas y Nadolig a’r Pasg,’ meddai’r BBC, bydd sylw’n cael ei roi i wyliau crefyddau eraill, fel Ramadan, Rosh Hashanah, Diwali, a gŵyl hirddydd haf y derwyddon – y rhai sy’n ymgasglu oddeutu Côr y Cewri, nid o gylch meini’r orsedd! Amrywiaeth eang Ymhlith yr amrywiaeth eang o raglenni cawn weld y tu ôl i’r llenni yn y Fatican, allai ddenu mwy o wylwyr o gofio’r sgandalau diweddaraf. Adroddir hanes pentref Bruderhof ger Hastings, lle mae cymuned o 300 o bobl yn byw ‘fel disgyblion i Iesu,’ gan ymwrthod â dyfeisiadau cyfoes fel ceir a ffonau symudol. Fe fydd cyfres o raglenni ar Radio 4 yn ystyried y Fatwa Islamaidd yn 1989 yn erbyn Salman Rushdie, a fu’n cuddio ym Mhowys am gyfnod pan oedd pris ar ei ben am gabledd honedig y Satanic Verses. Bydd cyfres arall yn ystyried y berthynas rhwng crefydd a gwyddoniaeth. Crefydd Pobol y Cwm Mae’r BBC hefyd am weld themâu ffydd a chred yn cael eu gweu mewn i ddramâu ac operâu sebon. Efallai y gwelwn Dai Scaffalde a Gary Monk yn cael tröedigaeth ac yn ailgodi’r Band of Hope ym Methania! Mae’r capel i’w weld yn fynych ar Bobol y Cwm, er rhan amlaf fel lleoliad i ryw helynt neu’i gilydd – fel pan wnaeth yr arweinydd ‘fenthyg’ o gronfa’r eglwys er mwyn prynu tafarn. Capel Annibynnol yw’r adeilad mewn bywyd go iawn hefyd – sef y Tabernacl, Efailisaf. Meithrin arbenigedd Ond i ddod ’nôl i realiti. Bwriada’r BBC benodi tîm o newyddiadurwyr sydd ag arbenigedd ym maes crefydd i ohebu ar straeon ar draws y byd, ac i feithrin mwy o ddealltwriaeth grefyddol mewn eitemau newyddion. Mae hyn i’w groesawu’n fawr. Mae digon o le i ddechrau wrth ein traed yng Nghymru. Rhan o’m gwaith i’r Undeb fel Swyddog y Wasg yw ceisio esbonio statws eglwysi Annibynnol. Sawl tro y cefais yr ymholiad gan ohebydd, ‘Beth yw barn yr Annibynwyr am briodi pobl hoyw?’ Rwy’n gorfod esbonio wedyn bod gan bob cynulleidfa unigol ei barn ei hun – dyna pan rydym yn Annibynwyr! Anwybodaeth Mae anwybodaeth yn bodoli hefyd am sefyllfa enwadaeth Gristnogol yn ein gwlad. Ers bron i ganrif does dim crefydd wladol yng Nghymru, ond mae’r Archesgob Anglicanaidd yn cael ei weld (neu ei gweld) fel pennaeth holl Gristnogion Cymru. Yn sicr, dyna’r argraff sy’n cael ei roi gan y Western Mail lle mae ceisio cael sylw i’n datganiadau a’n hymgyrchoedd ni fel Annibynwyr yn dalcen caled iawn. Ar y llaw arall, rhaid canmol y Daily Post am fod yn fwy deallus. A beth am Dechrau Canu Dechrau Canmol? Er bod cymaint o’r canu cynulleidfaol yn cael ei recordio mewn capeli, eglwysig yw’r delweddau dros y sig tune ar ddechrau pob rhaglen. Gobeithio y bydd dathlu canfed pen-blwydd datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru’r flwyddyn nesaf yn fodd i ddadansoddi’r sefyllfa a’r berthynas gydenwadol heddiw. Cyfle gwerthfawr Dyma gyfle gwerthfawr i’r BBC esbonio gwahanol statws Cristnogaeth yng ngwledydd Prydain – bod eglwys Lloegr yn rhan o’r sefydliad gwleidyddol yn y wlad honno. Mae Archesgob Caergaint a 25 o esgobion Seisnig yn eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan drafod a phleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â’r Deyrnas Unedig i gyd, er mai cynrychioli esgobaethau yn Lloegr yn unig y maent. Ers datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru yn 1920, ni fu esgobion Cymreig yn ‘gwisgo’r carlwm’. Camarweiniol yw defnyddio’r ymadrodd am Brydain fel ‘gwlad Gristnogol’ am sawl rheswm. Gobeithio’n wir y bydd cynhyrchwyr y rhaglenni yn rhoi sylw i anghydffurfiaeth Gymreig a’i gyfraniad i ddiwylliant a radicaliaeth wleidyddol, fel y gwnaeth Huw Edwards yng nghyfres ardderchog y BBC ar hanes Cymru. Os bosib na fydd lle i hynny rhywle ymhlith y 7,000 o oriau o ddarlledu crefyddol eleni? Cawn weld! Alun Lenny RHAGLENNI CREFYDDOL AR Y BBC

RHAGLENNI CREFYDDOL AR Y BBC - Annibynwyr · argyhoeddedig pe bai’r gwasanaeth wedi ei gynnal ym Methlehem, sy’n adeilad enfawr, y buasai’r capel bron yn orlawn, gymaint oedd

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: RHAGLENNI CREFYDDOL AR Y BBC - Annibynwyr · argyhoeddedig pe bai’r gwasanaeth wedi ei gynnal ym Methlehem, sy’n adeilad enfawr, y buasai’r capel bron yn orlawn, gymaint oedd

Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 10 Mawrth 7, 2019 50c.

Bu aelodau eglwys Caersalem, Pontyberem wrthi’n brysur yn bwyta losin Smarties ynystod y chwech wythnos ddiwethaf. Ar ôl eu bwyta roedd yn rhaid llenwi’r bocs hir crwnag arian man er budd apêl yr eglwys i Fadagasgar. Gweler yn y llun rhai o ferched yr ysgolSul yn cynorthwyo Delyth Price y Trysorydd i gyfrif arian. Bydd y prosiect hwn o fewn yreglwys yn dod i ben ddechrau Mawrth. Cyhoeddir y cyfanswm wedi hynny.

Ffordd felys o godi arian tuag at Apêl Madagascar

Mae’r BBC wedineilltuo 2019 fel‘Blwyddyn yCredoau’.Awgrymodd arolwg diweddar fod gormodo sylw yn cael ei roi i Gristnogaeth arsianeli’r Gorfforaeth, ac yn ystod eleni fefydd sawl cyfres a rhaglen unigol ar radio atheledu yn sôn am grefyddau eraill. Er bodrhaglenni Cristnogol i barhau ‘yngonglfaen darlledu o gwmpas y Nadolig a’rPasg,’ meddai’r BBC, bydd sylw’n cael eiroi i wyliau crefyddau eraill, fel Ramadan,Rosh Hashanah, Diwali, a gŵyl hirddyddhaf y derwyddon – y rhai sy’n ymgasgluoddeutu Côr y Cewri, nid o gylch meini’rorsedd! Amrywiaeth eangYmhlith yr amrywiaeth eang o raglennicawn weld y tu ôl i’r llenni yn y Fatican,allai ddenu mwy o wylwyr o gofio’rsgandalau diweddaraf. Adroddir hanespentref Bruderhof ger Hastings, lle maecymuned o 300 o bobl yn byw ‘feldisgyblion i Iesu,’ gan ymwrthod âdyfeisiadau cyfoes fel ceir a ffonausymudol. Fe fydd cyfres o raglenni arRadio 4 yn ystyried y Fatwa Islamaidd yn1989 yn erbyn Salman Rushdie, a fu’ncuddio ym Mhowys am gyfnod pan oeddpris ar ei ben am gabledd honedig ySatanic Verses. Bydd cyfres arall ynystyried y berthynas rhwng crefydd agwyddoniaeth.Crefydd Pobol y CwmMae’r BBC hefyd am weld themâu ffydd achred yn cael eu gweu mewn i ddramâu acoperâu sebon. Efallai y gwelwn DaiScaffalde a Gary Monk yn cael tröedigaethac yn ailgodi’r Band of Hope ymMethania! Mae’r capel i’w weld yn fynychar Bobol y Cwm, er rhan amlaf fel lleoliadi ryw helynt neu’i gilydd – fel pan wnaethyr arweinydd ‘fenthyg’ o gronfa’r eglwyser mwyn prynu tafarn. Capel Annibynnolyw’r adeilad mewn bywyd go iawn hefyd –sef y Tabernacl, Efailisaf. Meithrin arbenigeddOnd i ddod ’nôl i realiti. Bwriada’r BBCbenodi tîm o newyddiadurwyr sydd agarbenigedd ym maes crefydd i ohebu arstraeon ar draws y byd, ac i feithrin mwy oddealltwriaeth grefyddol mewn eitemaunewyddion. Mae hyn i’w groesawu’n fawr.Mae digon o le i ddechrau wrth ein traedyng Nghymru. Rhan o’m gwaith i’r Undeb

fel Swyddog y Wasg yw ceisio esboniostatws eglwysi Annibynnol. Sawl tro ycefais yr ymholiad gan ohebydd, ‘Beth ywbarn yr Annibynwyr am briodi poblhoyw?’ Rwy’n gorfod esbonio wedyn bodgan bob cynulleidfa unigol ei barn ei hun –dyna pan rydym yn Annibynwyr! AnwybodaethMae anwybodaeth yn bodoli hefyd amsefyllfa enwadaeth Gristnogol yn eingwlad. Ers bron i ganrif does dim crefyddwladol yng Nghymru, ond mae’rArchesgob Anglicanaidd yn cael ei weld(neu ei gweld) fel pennaeth hollGristnogion Cymru. Yn sicr, dyna’r argraffsy’n cael ei roi gan y Western Mail lle maeceisio cael sylw i’n datganiadau a’nhymgyrchoedd ni fel Annibynwyr yndalcen caled iawn. Ar y llaw arall, rhaidcanmol y Daily Post am fod yn fwydeallus. A beth am Dechrau Canu DechrauCanmol? Er bod cymaint o’r canucynulleidfaol yn cael ei recordio mewncapeli, eglwysig yw’r delweddau dros y sigtune ar ddechrau pob rhaglen. Gobeithio ybydd dathlu canfed pen-blwydd

datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru’rflwyddyn nesaf yn fodd i ddadansoddi’rsefyllfa a’r berthynas gydenwadol heddiw.Cyfle gwerthfawr Dyma gyfle gwerthfawr i’r BBC esboniogwahanol statws Cristnogaeth yngngwledydd Prydain – bod eglwys Lloegryn rhan o’r sefydliad gwleidyddol yn ywlad honno. Mae Archesgob Caergaint a25 o esgobion Seisnig yn eistedd yn Nhŷ’rArglwyddi, gan drafod a phleidleisio arfaterion sy’n ymwneud â’r Deyrnas Unedigi gyd, er mai cynrychioli esgobaethau ynLloegr yn unig y maent. Ers datgysylltu’rEglwys yng Nghymru yn 1920, ni fuesgobion Cymreig yn ‘gwisgo’r carlwm’.Camarweiniol yw defnyddio’r ymadroddam Brydain fel ‘gwlad Gristnogol’ am sawlrheswm. Gobeithio’n wir y byddcynhyrchwyr y rhaglenni yn rhoi sylw ianghydffurfiaeth Gymreig a’i gyfraniad iddiwylliant a radicaliaeth wleidyddol, fel ygwnaeth Huw Edwards yng nghyfresardderchog y BBC ar hanes Cymru. Osbosib na fydd lle i hynny rhywle ymhlith y7,000 o oriau o ddarlledu crefyddol eleni?Cawn weld!

Alun Lenny

RHAGLENNI CREFYDDOL AR Y BBC

Page 2: RHAGLENNI CREFYDDOL AR Y BBC - Annibynwyr · argyhoeddedig pe bai’r gwasanaeth wedi ei gynnal ym Methlehem, sy’n adeilad enfawr, y buasai’r capel bron yn orlawn, gymaint oedd

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mawrth 7, 2019Y TYST

TEYRNGED I WEINIDOG Y RHONDDA: Y PARCHEDIG WILLIAM CYRIL LLEWELYN

Bu’r Parchg Cyril Llewelyn yn weinidogyn y Rhondda am 50 mlynedd, cynymddeol yn 76 oed yn 2006. Arddechrau ei weinidogaeth, cafodd yprofiad bendithiol o weld y capeli bronyn llawn gyda gweinidog mewn bronpob un. Erbyn diwedd ei yrfa, ef oedd yrunig weinidog anghydffurfiol ar ôl yn yRhondda gyfan. Bu farw ym mis Ionawreleni. Diolch i’w gyfaill mawr y ParchgDYRINOS D.C.THOMAS am ydeyrnged hon. Bore diflas oedd 6 Ionawr i mi, oherwydddyna pryd y derbyniais alwad ffôn ganCeri, mab y Parchg William CyrilLlewelyn i ddweud wrthyf bod fy ffrindCyril wedi colli ei frwydr â’r afiechydoedd wedi ei oddiweddyd dros y flwyddynddiwethaf.

Brodor o Lanaman oedd Cyril, wedigadael yr ysgol, fe aeth am gyfnod o ddwyflynedd i weithio gydag adeiladwr ynnyffryn Aman, Richie Jones, ac yno caelprentisiaeth fel saer coed. Ond cyn bo hirfe dderbyniodd alwad y saer o Nasareth ifod yn bysgotwr dynion. Dan ddylanwad eiweinidog y Parchg D. T. Evans ym MrynSeion Glanaman, fe ddechreuodd ar y daithi fod yn fyfyriwr diwinyddol yng NgholegCoffa Aberhonddu. Roedd Cyril yn un odri ohonom oedd dan ddylanwad D. T.Evans am ddilyn yr un llwybr, sef ydiweddar Barchedig Arwyn Phillips agollwyd yn llawer rhy gynnar ym Mehefin1993, a minnau, a bûm i’n gydfyfyriwr âCyril yn Aberhonddu.

Cyfnod euraidd y capeliDechreuodd Cyril ei weinidogaeth ynRama, Treorci ym mis Medi 1954. Roedd yRhondda yn dal i fod mewn cyfnodcrefyddol euraidd, er mai tua diwedd ycyfnod oedd hi mewn gwirionedd. Eto,roedd eglwysi Treorci ag aelodaeth gref, âgweinidog ar bob eglwys – gweinidogioncryf adnabyddus megis Alban Davies, W.T. Gregory, W. E. Anthony ac Islwyn Lakegyda’r Annibynwyr. Roedd hefyd cyffelybweinidogion blaengar gan y Presbyteriaid.Ond o fewn ychydig o flynyddoedd yn yweinidogaeth, gwelodd Cyril fod yrarwyddion o’r newid i’w weld yn glir. Panddaeth yr Achos yn Rama i ben, fegymerodd Cyril yn eu tro ofal o eglwysiSoar Cwm-parc, yna Salem Llwynypia acyn olaf eglwys Bresbyteraidd Bethlehem, achael ei gydnabod gan Gorff yPresbyteriaid fel eu gweinidog. Rhwnggofal yr eglwysi a enwyd uchod, ar ôlRama, bu hefyd yn athro ysgrythur aChymraeg yn Ysgol Gyfun y Porth, acyna’n bennaeth adran ysgol isaf YsgolGyfun Gymraeg y Cymer.Yr unig weinidogYng nghyfnod y 1990au Cyril oedd yr unigweinidog anghydffurfiol trwy’r Rhondda igyd. Mawr bu’r galw cyson ar iddogymryd gofal angladdol llawer o drigolion,hyd yn oed y rhai oedd â chysylltiaid tenauag unrhyw un o’r eglwysi y bu’n gofaluamdanynt. Ond ni throdd Cyril yr unohonynt i ffwrdd heb gynnig cysur agobaith. O ganlyniad i hyn, roedd cerdded

yng nghwmni Cyril ar hyd heol ynNhreorci yn brofiad nad anghofiwyd ynhawdd, oherwydd y mynych gyfarchioniddo, ac roedd y parch yn y cyfarchion iMr Llewelyn i’w weld yn amlwg. Wrthdrafod gyda ffrindiau a gweinidogion eraillar ôl clywed am ei farwolaeth, yr hyn anodwyd yn aml oedd ei addfwynderdiymhongar a’i barodrwydd i helpu.Parch mawr y boblFe es i’w weld yn yr ysbyty ’nôl ym misTachwedd y llynedd. Dyna phryd ygofynnodd i mi addo cymryd gofal o’iangladd. Roedd y trefniadau i fod yn syml.Doedd dim ffỳs i fod, gwasanaeth bychanyn y tŷ i’r teulu ac yna i’r fynwent. Migeisiais gael iddo gytuno cael gwasanaethym Methlehem, gan dynnu sylw i’r ffaith ybuasai llu o ffrindiau yn dymuno taluteyrnged iddo, ynghyd â phobl y Rhondda.Ond doedd dim yn tycio. Felly nichyhoeddwyd am ei farwolaeth yn ypapurau dyddiol, ond pan gyrhaeddais y tŷar 18 Ionawr, bore ei angladd, roedd ynamlwg nad oedd aelodaeth fechanBethlehem a llu o gyfeillion eraill yn myndi golli’r cyfle o dalu eu teyrnged olaf iddo,ac roeddent wedi ymgasglu yno. Roedd ytŷ yn orlawn. Pan gyrhaeddais y fynwent,roedd tyrfa arall wedi casglu yno, erwaethaf y tywydd garw. Rwy’nargyhoeddedig pe bai’r gwasanaeth wedi eigynnal ym Methlehem, sy’n adeiladenfawr, y buasai’r capel bron yn orlawn,gymaint oedd parch pobl y Rhondda tuagato. Yn y gwasanaeth yn y tŷ, middyfynnais adnod o lyfr Eclesiasticus, un olyfrau coll yr Apocryffa a theimlais fodhon yn crynhoi teimladau lu am Cyril: ‘Ymae cyfaill ffyddlon yn gysgod diogel, a’rsawl a gafodd un, fe gafodd drysor.’

Page 3: RHAGLENNI CREFYDDOL AR Y BBC - Annibynwyr · argyhoeddedig pe bai’r gwasanaeth wedi ei gynnal ym Methlehem, sy’n adeilad enfawr, y buasai’r capel bron yn orlawn, gymaint oedd

Mawrth 7, 2019 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

Barn AnnibynnolMwyafrif!

Peth poenus a diflas yw cofio bod Hitlerwedi dod i’w bomp trwy bleidleisiaumwyafrif! Yn ein dyddiau ni, y maepleidleisiau 51% yn ddigon i benderfynubod rhywbeth yn iawn. Y mae hyn yngolygu fod 49% o’r bobl wedi colli.Efallai taw lleiafrif o’r corff cyfan yw’r51% hefyd. Fe allai’r 49% ynghyd â’rrhai wnaeth ddim pleidleisio fod yn fwyniferus. Mewn sefyllfaoedd felly byddbywyd yn y dyfodol yn ddibynol ar natury rhai a gollodd. Os na fyddant yn barodi ildio’n urddasol gall chwalfacymdeithasol ddilyn gyda’r buddugol yngorfod cynnal trefn trwy drais. Y fathdrefn! Natur democratiaethAi teyrnasiad y mwyafrif ywdemocratiaeth? Roedd sôn amddemocratiaeth yn yr hen fyd clasurolond, hyd y gwn i, nid llais y mwyafrifoedd yn cyfrif yno oherwydd dim ondlleiafrif o’r boblogaeth oedd â phleidlais.Oes lle yn ein dyddiau ni i roi pleidlaisyn unig i’r sawl sydd wedi ennilltystysgrif i gael y fraint i bleidleisio?Wrth gwrs byddai gwneud hyn yn llawno beryglon difrifol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf ymae dau air wedi mynd ynghlwm â’igilydd, sef, democratiaeth aphoblyddiaeth (os mai dyna’r gair am‘populism’). Os yw’r ddau air yn myndgyda’i gilydd fe all fod peryglon yn ymyl.All cymdeithas fod yn ddiogel pan apelirat flys, nwyd neu chwant? Y mae apelioat y rhain bob amser wedi bod yn fforddi wneud ffortiwn a bod yn boblogaidd. Ymae apelio at ryw reddfau sylfaenol hebreolaeth yn fygythiol, ac, os gofynnwn i’rPab, efallai bod greddf wedi ei reoli ynberyclach fyth! Mae’n sefyllfa berygluspan fydd gwleidyddiaeth yn ddim mwynag offeryn i roi i bobl yr hyn y maennhw eisiau heblaw eu bod yn bobl call,gwybodus, teg a goddefgar. Hawlio awdurdodHyd a lled ein byd, y mae yna boblddigyfaddawd sy’n credu bod ganddyntafael ar yr hyn sy’n wir a chywir. Y maemiliynau yn argyhoeddedig bodganddynt afael ar wirioneddautragwyddol ac felly, yn gwblargyhoeddedig bod ganddynt yr hawl ihawlio awdurdod. Yn ôl trefn reolaethgan y mwyafrif, un broblem yw nad oesgan un o’r carfannau hyn fwyafrif ond ofewn rhyw gylchoedd arbennig ac y maehyd yn oed rhaniadau o fewn pobcarfan. Bron bob tro y mae pobl ynhawlio awdurdod tragwyddol, y mae yna

derfysg a gwrthdaro gyda’r carfannaugwahanol yn cynddeiriogi ei gilydd.Mewn sefyllfaoedd felly dyw trais bythymhell.Beth am Gristnogaeth?All ffydd yng Nghrist mewn gwirioneddfynd law yn llaw a chulni ymosodol,caled a digyfaddawd? Ymhellach, ydywhi’n bosib i fod yn Gristnogol ac ynboblyddol? Nid yw troedio yn y byd llemae parch at droi’r foch arall, mynd yrail filltir, maddau 70x7 a chyflawni gydachariad aberthol byth yn mynd i fod ynboblogaidd. Clywir ar hyd yr oesoeddmai ffydd i bobl gwan, methiannus a di-asgwrn cefn yw’r ffydd Gristnogol.

Hyd y gwelaf i, all y ffydd gristnogolfyth apelio at yr arwynebol sy’n byw iymateb ar yr olwg gyntaf. Credaf fodCristnogaeth yn ‘acquired taste’; mae’rblas yn gwella gyda phrofiad. Pwy syddam ‘godi croes’ a gwasanaethu’naberthgar ac ati? Ond wedyn, onid llemae maddau, gofalu, gwasanaethuaberthgar a chyflawni’n ddaionus ymae’r posibilrwydd am wynfyd ac oniddyna’r union werthoedd wna iddemocratiaeth lwyddo ynghyd âthunelli o’r peth prin hwnnw – gras?

Eirian Rees(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwyddyn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr

na’r tîm golygyddol.)

Erbyn hyn bydd holl ddathliadau ein gŵylgenedlaethol wedi mynd heibio, a gobeithiwn ybydd ein hargyhoeddiadau Cristnogol a

Chymreig yn gryfach nag erioed. Yr ydym yn fodau amser, ac yn gallu edrych ar amserdrwy dair ffenestr, sef ffenestr y gorffennol, ffenestr y dyfodol a ffenestr y presennol. Wrthfeddwl am Gymru, tybed pa ffenestr yr edrychwn drwyddi amlaf?Ffenestr y gorffennolFel yr awn yn hŷn, tueddwn i edrych drwy hon yn amlach na’r ddwy ffenestr arall. Maedwyn i gof yn esgor ar fendithion bywyd a’i brofedigaethau. Ni ddylwn ar unrhyw gyfrifddiystyru ein gorffennol. Llwyddodd fy rhieni, fel rhieni llawer ohonoch rwy’n siŵr, beri imiymwybod fy mod yn perthyn i deulu, i fro, ac i genedl. Onid tebyg oedd profiad yrArglwydd Iesu hefyd yn ystod ei fywyd daearol? Disgrifia’r bardd Rhydwen Williams hynyn afaelgar iawn:

Cenedl fechan oedd ei genedl ef fel ninnau …Hen linach, hen wynebau, hen lawenydd, a hen, hen iaith;

Salm ac Ysgrythur yn drysorau hen draddodiad,A’r Capel Mawr ar y bryn yn sefyll rhywle rhwng Jerwsalem a’r Nef.

Yntau, dysgodd garu’r ‘hen wlad’ a gwarchod ‘y pethe’,Nid am fod eu tipyn tir a’u pethe’n amgenach, dim ond

Am mai nhw oedd a’u piau, ac i’r patrwm harddDdod i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth, o law i law.

Wrth edrych yn ôl ar orffennol ein cenedl, gelwir arnom i sylweddoli fod i ni etifeddiaethdeg. Do, bu Dewi gynt yn rhodio daear Cymru i efengylu a sefydlu canolfannau addoli;William Salesbury a William Morgan yn gwneud y Gymraeg ‘yn un o dafodieithoeddDatguddiad Duw’ a William Williams Pantycelyn, ac eraill, yn costrelu profiadau credinwyri lawr ar hyd y cenedlaethau. Ni allwn ddiystyru ein dyled i weithwyr Duw yn y dyddiau afu. Y mae cenedl sy’n diystyru ei gorffennol yr un fath â dyn wedi colli ei gof.Ffenestr y presennolWrth edrych ar gyflwr teuluoedd, cymdeithas a’n cenedl heddiw, ni allwn wadu’r dirywiadmawr sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd. Adlewyrchir hynny yng nghyflwr ysbrydolein heglwysi a safonau moesol ein cymdeithas. Y mae’n hawdd iawn ymdrybaeddu yn ein

methiannau ac ymollwng i anobaith llwyr.Nid i hynny y’n galwyd, ond i ddygnu arniheb ddigalonni. Meddai’r Apostol Paul,‘Peidiwch â blino gwneud daioni. Ynddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eichysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd.’ Wrthgwrs, mae Iesu yn Waredwr personol, ondcofiwn ei fod hefyd yn Arglwydd sy’n galwarnom i gyfieithu ein cred, fel y gall erailltrwom ni adnabod cariad Duw. Dyma’rysbryd sy’n gydnaws â chariad Duw yn IesuGrist.

Ffenestr y dyfodolPrin fod angen dweud fod dyfodol pawbohonom yn aneglur iawn, ond drwy ffyddyn Nuw, daliwn i gredu ac i ddweud:

Cans gwn er f’anwybodMai da yw Duw.

Gair allweddol yr Apostol Paul wrth edrychymlaen yw ‘gobaith. Meddai. ‘A bydded iDduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi âphob llawenydd a thangnefedd wrth ichwiarfer eich ffydd, nes eich bod trwy nerth yrYsbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.’

Onid dyma’r agwedd meddwl sydd eiangen arnom ninnau hefyd? Y mae gennymEfengyl gobaith i’w chredu a’i chyhoeddi.Nid ynom ni, ond yng ngallu cariad Duw ynIesu Grist y mae ein gobaith. Ac oherwyddhynny, er ein gwaetha’ ni’n hunain, ac ergwaetha’ pawb a phopeth, rydym yma ohyd!

John Lewis Jones

Ffenestri Bywyd

Page 4: RHAGLENNI CREFYDDOL AR Y BBC - Annibynwyr · argyhoeddedig pe bai’r gwasanaeth wedi ei gynnal ym Methlehem, sy’n adeilad enfawr, y buasai’r capel bron yn orlawn, gymaint oedd

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Ty John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mawrth 7, 2019Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

GolygyddAlun Lenny

Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Bedyddio ‘seren’ yn Saron!

Roedd dydd Sul 10 Chwefror yn ddiwrnodllawen iawn yn Saron, Creunant, ar achlysurbedyddio Llian-Mai, merch fach Michael acAmy. Roedd y gwasanaeth yng ngofal RhysLocke, sy’n gwneud gwaith ardderchog ohyrwyddo achos Iesu Grist yn y rhan yna oGwm Nedd. Roedd cynulleidfa sylweddol yno idystio i fedydd Llian-Mai, sydd eisoes yn dipyno seren, gan iddi chwarae rôl y baban Iesu ynnrama’r geni adeg y Nadolig!

Dyddiad i’w nodiDIWRNOD

GWEINIDOGIONY GOGLEDD

Capel CoffaCyffordd Llandudno

dydd Mercher, 3 Ebrill 10.30am‘Pregethu’r Pasg’

Darperir cinioEnwau mewn da bryd i

Dŷ John Penri, os gwelwch yn dda

Y FALAGASEG YN SWYNO SOAR

Yn ystod oedfa a drefnwyd gan y ParchgCasi Jones yn Soar, Nefyn, cafoddaelodau a ffrindiau’r fraint o groesawugŵr a gwraig o Fadagascar, sef Serge acOlivia Tazafinjatoniar. Gwefreiddioloedd clywed tair iaith yn y gwasanaeth.Cafwyd darlleniad o Rhufeiniaid 10 ynGymraeg a Malagaseg ac anerchiadSaesneg gan Serge. Canwyd yn yFalagaseg hefyd gan y ddau ymwelydd.

Uchafbwynt y noson oedd canu ‘Miglywaf dyner lais’ gan ein hatgoffa o’rbore Sadwrn arbennig hwnnw ymmynwent Neuadd-lwyd adeg yr Undeb

yn Aberaeron. Nis anghofir y profiad oweld y Cymry’n ymuno gyda thrigolionMadagascar i ganu’r emyn. Y Gymraega’r Falagaseg yn cyd-ganu.

Cyffyrddwyd pawb gan y profiad agwelwyd ambell ddeigyrn. Cyffyrddwydaelodau Nefyn yn fawr gan ymweliadSerge ac Olivia hefyd ac aethpwyd atirhag blaen i drefnu gweithgareddau igodi arian ar gyfer Apêl Madagascar.Mawr ddiolch i Casi am drefnu’r oedfaa’r ymweliad. (Llun: Casi gyda Serge acOlivia)

Glenys Jones

Eglwysi Annibynnol; Brynteg, Bethel Drefach, Capel Nonni Llanllwni,Gwyddgrug, a Tabernacl

PencaderAr ymddeoliad eu Gweinidog, y

Parchedig Ddr Rheinallt Davies, mae’reglwysi uchod yn awyddus i benodi

gweinidog llawn amser, neu byddem ynbarod i drafod penodiad rhan amser.Gellir derbyn rhagor o fanylion drwygysylltu ag ysgrifennydd yr ofalaeth:

Marina Davies,Heddfryn, New Inn, Pencader,

Sir Gar SA39 9AY01559 384 252

e-bost: [email protected]’r trysorydd

e-bost: [email protected] cyflwyno datganiad o ddiddordebar ffurf llythyr i’r ysgrifennydd erbyn,

31 Mawrth, 2019.

CYNGOR YR UNDEBMawrth 8-9Gregynog

Powys