Upload
city-and-county-of-swansea
View
243
Download
6
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Pecyn Cynadledda - Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe
Citation preview
Pecyn Cynadledda
01792 463980 ● www.abertawe.gov.uk/dtc
Canolfan Dylan Thomas, Somerset Place, Abertawe, SA1 1RR
www.abertawe.gov.uk/dtc
Cynnwys Cefndir…………………………………………………….. ……... Tudalen 3 Cysylltu â ni…………………………………………..…….......... Tudalen 3 Yr ystafelloedd a’u maint...........…………................................ Tudalen 4 Llogi ystafell a chyfarpar……………………............................. Tudalen 5 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 1……………….......................... Tudalen 6 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 2……………….......................... Tudalen 7 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 3……………….......................... Tudalen 8 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 4……………….......................... Tudalen 9 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 1b……………............................ Tudalen 10 Opsiynau’r bwffe – bwffe twym bwydlen 1…........................... Tudalen 11 Opsiynau’r bwffe – bwffe twym bwydlen 2…........................... Tudalen 11 Opsiynau’r bwffe – bwffe twym bwydlen 3…........................... Tudalen 12 Opsiynau’r bwffe – bwffe twym bwydlen 4…........................... Tudalen 13 Lleoliad…………………………………………........................... Tudalen 14
2
www.abertawe.gov.uk/dtc
Cefndir.........
A hithau gynt yn Neuadd y Ddinas, Abertawe, adnewyddwyd Canolfan Dylan Thomas yn sylweddol fel rhan o Flwyddyn Llenyddiaeth 1995. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol ar 1 Mawrth 1995 gan gyn-arlywydd UDA, Jimmy Carter. Ers iddi agor, mae Canolfan Dylan Thomas wedi derbyn sawl ymwelydd, gan gynnwys Catherine Zeta Jones a Michael Douglas.
Roedd twf cyflym y dref a chreu Bwrdeistref Sirol ym 1889 a Deddf Awdurdod Addysg 1902 wedi cynyddu cyfrifoldebau llywodraeth leol Abertawe’n sylweddol. Ym 1902, adnewyddwyd llawr cyntaf hen Neuadd y Ddinas yn sylweddol ac, yn fuan ar ôl hynny, prynwyd sawl tŷ mewn strydoedd cyferbyn fel swyddfeydd ychwanegol. Ym 1914, ychwanegwyd estyniad arall i’r ochr ogledd-ddwyreiniol, ar safle’r hen orsaf dân Fictoraidd.
Erbyn 1929, roedd yn glir bod angen adeilad newydd ar Neuadd y Ddinas ac, ym mis Hydref 1934, cwblhawyd Neuadd y Ddinas bresennol. Roedd gan yr hen Neuadd y Ddinas sawl rôl newydd addysg a hyfforddi ieuenctid yn bennaf. Yn hwyr yn y 1930au, roedd yn Ganolfan Cyflogi Ieuenctid; yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y fyddin wedi caffael yr adeilad. O 1949 tan 1969, roedd y Ganolfan Hyfforddi Ieuenctid un rhan o’r adeilad gyda rhan helaeth yr adeilad yn Ysgol Dechnegol Uwchradd Abertawe o 1949 tan 1960. O 1960-70 roedd yr adeilad yn gartref i’r Coleg Addysg Bellach ac o 1970 tan 1982, roedd yn estyniad i Ysgol Dinefwr.
Heddiw, gyda chymorth siop lyfrau fasnachol arbenigol a bwyty a chyfleusterau gwledda arobryn, mae’r adeilad wedi bod yn gartref i amrywiaeth o ddigwyddiadau o 1995 tan heddiw. Mae’r digwyddiadau’n cynnwys perfformiadau a darllen llenyddiaeth, cyfweld ag awduron, trafodaethau, darlithoedd, dramâu bach, fideo, dangos ffilmiau, arddangosfeydd, seminarau, seremonïau gwobrwyo, lansio llyfrau a gweithdai. Yn ogystal â hyn, mae’r arddangosfa barhaol, Dylan Thomas: Man and Myth, wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae’n parhau i ddenu pobl o bedwar ban byd.
Gydag enw da sy’n lledu ym mhob maes, a Gŵyl flynyddol Dylan Thomas, Mae Canolfan Dylan Thomas yn cadw ei haddewid sef bod yn adeilad ar gyfer trigolion Abertawe a thu hwnt.
Cysylltu â ni Canolfan Dylan Thomas Somerset Place, Abertawe SA1 1RR Ffôn: 01792 463980 Ffacs: 01792 463993 e-bost: [email protected]
3
www.abertawe.gov.uk/dtc
Yr ystafelloedd a’u maint
Ystafell
Cynllun
Lle
Cabare
120
Ystafell Gynadledda 1
Arddull Theatr
180
Theatr y Stiwdio
Seddi Gosod
111 (+ 3 Cadair Olwyn)
Gosod Byrddau
120
Bwyty
Bwffe
180
Ystafell Gyfarfod
14
Ystafell Gyfarfod 1
Arddull Theatr
24
Ystafell Gyfarfod
20
Ystafell Carter
Arddull Theatr
30
Ystafell Gyfarfod
10
Llyfrgell
Arddull Theatr
18
4
www.abertawe.gov.uk/dtc
Llogi ystafelloedd a chyfarpar
Cost Llogi Ystafell Ardal i’w llogi Hyd Pris
Ystafell Gynadledda 1 8 awr £326
Gyda’r hwyr
£326
yn ogystal â chostau
staff
Theatr y Stiwdio
Dydd Llun-dydd Gwener,
9am tan 5pm
£100 neu £25 yr awr
yn ogystal â chostau
staff
Ystafell Carter 4 awr £132
Ystafell Gyfarfod 1 4 awr £90
Llyfrgell 4 awr £50
Lluniaeth Eitem Manylion Pris
Te a Choffi Y person, am bob un £1.20
Te, Coffi a Bisgedi Y person, am bob un £1.60
Llogi Cyfarpar Cyfarpar Pris†‡
Uwch-daflunydd a sgrîn £26.50
Siart troi ac ysgrifbinnau £13
Monitor teledu a fideo £50
Taflunydd sleidiau £50
Taflunydd PowerPoint £100
System cyfarch y cyhoedd (meicroffon a seinyddion) £95
Llinell ffôn BT £47.50
Llinell ISDN £125
† Mis Ebrill 2009 tan fis Mawrth 2010 ‡ Ychwanegir TAW at gostau llogi’r holl gyfarpar
5
www.abertawe.gov.uk/dtc
Opsiynau’r Bwffe
Bwffe Oer 1
Dewis o frechdanau
Gweinir gyda llenwadau cig, pysgod a llysieuol ar fara gwyn neu frown ***
Coesau cyw iâr wedi’u marinadu ***
Rholiau selsig / rholiau caws ***
Tatws trionglog sbeislyd Gweinir gyda hufen sur
*** Quiche twym
Dewis o gig neu lysieuol ***
Salad gardd gyda dresin Caesar
*** Crudities a dip
*** Ffrwythau ffres
***
£11 y person
6
www.abertawe.gov.uk/dtc
Opsiynau’r Bwffe
Bwffe Oer 2
Dewis o frechdanau
Gweinir gyda llenwadau cig, pysgod a llysieuol ar fara gwyn neu frown ***
Parsel crwst mango a brie ***
Parseli llysieuol Thai ffyn Asia ar sgiwer bambŵ â llenwad o lysiau mewn saws cyri melyn poeth siarp
*** Tatws trionglog sbeislyd Gweinir gyda hufen sur
*** Quiche twym
Dewis o gig a llysieuol ***
Coesau cyw iâr wedi’u marinadu ***
Salad gardd Gyda dresin Caesar
*** Ffrwythau ffres
***
£13 y person
7
www.abertawe.gov.uk/dtc
Opsiynau’r Bwffe
Bwydlen Bwffe Oer 3
Lleiafswm o 30 person yn y dydd / 75 person gyda’r hwyr
Ham gamwn wedi’i rostio mewn mêl
Gyda mwstard grawn garw ***
Cig eidion wedi’i rostio Gyda saws rhuddygl poeth
*** Coesau cyw iâr wedi’u marinadu
*** Salad gardd
Gyda dresin Caesar ***
Coleslaw llysiau ***
Tatws twym â menyn ***
Rhôl fara a menyn ***
Torte tryffl siocled ***
£15 y person
8
www.abertawe.gov.uk/dtc
Opsiynau’r Bwffe
Bwydlen Bwffe Oer 4
Isafswm o 50 person yn ystod y dydd / 75 person gyda’r hwyr
Dewis o eog a bwyd môr
Escalope o eog gyda chocos, cregyn gleision, corgimychiaid mawr a chorgimychiaid yn eu cregyn
*** Ham gamwn wedi’i rostio mewn mêl
Gyda mwstard grawn garw ***
Cig eidion wedi’i rostio Gyda saws rhuddygl poeth
*** Coesau cyw iâr wedi’u marinadu
*** Darn o quiche twym
Dewis o gig a llysieuol ***
Salad gardd Gyda dresin Caesar
*** Coleslaw llysiau
*** Tatws twym â menyn
*** Rhôl fara a menyn
*** Teisen gaws fanila wedi’i phobi
Gyda saws ffrwythau
£19 y person
9
www.abertawe.gov.uk/dtc
Opsiynau’r Bwffe
Bwydlen Bwffe Oer 1B
Isafswm o 100 person
Gyda’r hwyr yn unig
Dewis o frechdanau
Gweinir gyda llenwadau cig, pysgod a llysieuol ar fara gwyn neu frown ***
Coesau cyw iâr wedi’u marinadu ***
Rholiau selsig / rholiau caws ***
Tatws trionglog Gweinir gyda saws sur
*** Darn o quiche twym
Dewis o gig neu lysieuol ***
Parsel crwst mango a brie ***
Parseli llysieuol Thai ffon Asia ar sgiwer bambŵ â llenwad o lysiau mewn saws cyri melyn poeth siarp
£13.50 y person
10
www.abertawe.gov.uk/dtc
Opsiynau’r Bwffe
Bwydlen Bwffe Twym 1
Lleiafswm o 10 person
Yn ystod y dydd yn unig
Pastai stecen a madarch
Cig eidion, winwns a madarch mewn grefi â chrwst pwff ***
Ragout llysiau a ffa Cymysgedd o lysiau a ffa mewn saws tomato a basil
*** Tatws wedi’u ffrio
*** Pys o’r ardd
*** Teisen gaws fanila wedi’i phobi
Gyda saws ffrwythau ***
£11 y person
Bwydlen Bwffe Twym 2
Lleiafswm o 10 person
Pastai cyw iâr
Cyw iâr, madarch a winwns mewn saws gwyn gyda chrwst pwff ***
Chilli llysiau a ffa ***
Tatws wedi’u ffrio ***
Reis wedi’i ferwi ***
Pys o’r ardd ***
Teisen gaws fanila wedi’i phobi Gyda saws ffrwythau
£12 y person
11
www.abertawe.gov.uk/dtc
Opsiynau’r Bwffe
Bwydlen Bwffe Twym 3
Isafswm o 30 person
Yn ystod y dydd yn unig
Pastai datws stwnsh
Cig eidion wedi’i falu a llysiau mewn grefi gyda thatws stwnsh ***
Cyri Thai llysiau ***
Ffiled o bysgodyn mewn briwsion bara Gyda saws tartare a lemwn
*** Tatws newydd â menyn
*** Reis wedi’i ferwi
*** Pennau brocoli
*** Teisen gyffug siocled
Gyda hufen y gellir ei arllwys
£14.50 y person
12
www.abertawe.gov.uk/dtc
Opsiynau’r Bwffe
Bwydlen Bwffe Twym 4
Isafswm o 75 person am ddigwyddiad gyda’r hwyr
Cig eidion brwysiedig mewn saws pupur
***
Ragout pysgod Cymysgedd o bysgod a physgod cregyn gyda saws gwin gwyn, gwewyrllys a
hufen ***
Cyw iâr brwysiedig Cyw iâr, winwns, pupurau, garlleg, tomatos a gwin coch
*** Chilli llysiau a ffa
*** Tatws wedi’u berwi
*** Reis wedi’i ferwi
*** Pennau brocoli
*** Rhôl fara a menyn
*** Teisen gaws lemwn a resins bach
gyda saws ffrwythau
£17.95 y person
13
www.abertawe.gov.uk/dtc
Lleoliad
I gyrraedd Canolfan Dylan Thomas o’r dwyrain Gadewch yr M4 ar gyffordd 42. Ewch ar yr A483 (Abertawe); dilynwch y ffordd hon am tua 4 milltir nes i chi fynd dros Bont Afon Tawe. Trowch i’r chwith wrth y goleuadau traffig AR ÔL Sainsbury’s ar y chwith. Mae Canolfan Dylan Thomas ugain llath ar hyd y ffordd hon ar eich chwith, gyda maes parcio talu ac arddangos ar ddiwedd y ffordd hon. I gyrraedd Canolfan Dylan Thomas o’r gorllewin Gadewch yr M4 ar gyffordd 47. Ewch ar yr A483 Abertawe a pharhewch ar y ffordd hon nes i chi gyrraedd Abertawe. Byddwch yn mynd heibio Gorsaf Drenau Stryd Fawr Abertawe a Chastell Abertawe ar eich chwith. Ewch yn syth ymlaen ar ôl castell Abertawe lle byddwch yn cyrraedd Stryd y Gwynt. Ewch yn syth ymlaen wrth y goleuadau ar waelod Stryd y Gwynt i Somerset Place. Mae Canolfan Dylan Thomas tua 20 llath ar eich chwith gyda maes parcio talu ac arddangos ar y diwedd.
14