8
Mae ymweld â Jerwsalem yn brofiad emosiynol a chofiadwy iawn. Dyma’r llwyfan lle’r actiwyd allan oriau olaf ein Harglwydd. Yn rhyfeddol, wedi dwy fil a mwy o flynyddoedd, a newidiadau mawr dros y canrifoedd, mae mannau a meini yno heddiw fel y gwelodd Iesu hwy. Dim ond sylfeini’r deml sydd wedi goroesi a hwn yw Mur yr Wylofain sy’n enwog drwy’r byd gan fod yr Iddewon yn mynd ato i weddïo – y dynion a’r merched ar wahân. Bydd gweddïau yn cael eu hysgrifennu ar bapur a’u gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r Arglwydd ‘Deled dy deyrnas, gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.’ Mae’r meini hyn yn gysegredig i’r Iddewon. Ar safle’r deml ei hun mae mosg sy’n gysegredig i’r Mwslim. Ychydig o bellter i ffwrdd mae eglwys y Beddrod Sanctaidd. Dyma ran o Jerwsalem lle mae Iddewiaeth, Cristnogaeth a Mwslemiaeth yn dod yn llythrennol agos at ei gilydd ac mae angen gweddïo am heddwch a chytgord yn y fangre arbennig yma. Mae Gardd Gethsemane ar waelod Mynydd yr Olewydd. Un o brofiadau mawr fy mywyd i oedd cael gweinyddu Swper yr Arglwydd yn yr ardd i’m cyd-deithwyr, gan edrych i fyny ar furiau’r ddinas a’r haul yn machlud y tu ôl iddynt. Coed Olewydd hynafol, Gardd Gethsemane CC-BY-SA-4.0 Self-published work Files by User:Beko/Israel Files uploaded by Beko Gerllaw’r ardd heddiw mae Eglwys Yr Holl Genhedloedd – adeilad mawreddog a hardd sy’n sefyll ar safle eglwysi cynt yn dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif. Oddi fewn i’r eglwys ac o flaen yr allor mae craig yn dod i’r wyneb. Yn ôl traddodiad dyma’r fan lle gweddïodd Iesu, ‘O Dad, os wyt ti’n fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i.’ Adeiladwyd yr eglwys dros y graig ac enw arall arni yw Basilica’r Dioddefaint. Yn y fangre hon down yn eithriadol o agos at Iesu’r dyn ac Iesu’r Duw. Wedi iddo gael ei gymryd gan y milwyr fe’i gorfodwyd i groesi afon Cedron a dechrau dringo i fyny i dª’r archoffeiriad. Ychydig yn is na’r tª mae grisiau hir o gerrig garw sy’n dyddio nôl i gyfnod Iesu. Dychmygais ei weld yn cael ei lusgo i fyny’r grisiau gan filwyr didrugaredd a hyn yn rhagfynegiad o’r dioddefaint oedd i ddod. Mae cerdded y Via Dolorosa- Ffordd y Dioddefaint yn brofiad dirdynnol. Mae cannoedd o Gristnogion o wahanol wledydd yn cyd gerdded gan ganu emynau a gweddïo. Bydd rhywun yn dringo y rhan fwyaf o’r amser a cheir eglwysi yma ac acw ar hyd y ffordd lle syrthiodd Iesu o dan bwysau’r groes. Mae un yn arbennig i gofio am Seimon o Cyrene yn codi’r groes ac yn ei chario i ben y bryn. Yno y croeshoeliwyd, y claddwyd ac yr atgyfododd ein Harglwydd. Erbyn heddiw eglwys rwysgfawr sydd yma. Dyma’r meini sy’n fynegiant o ffydd cenhedloedd byd ac mae llawenydd rhyfeddol yma. Eirlys Gruffydd-Evans CYFROL CXLVIII RHIF 35 DYDD GWENER, AWST 28, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU O Benllwyn i Lerpwl … t. 2 • Ffydd a Diwylliant… t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 MEINI BYWIOL (3) Y Ddinas Sanctaidd Grisiau Caiaffas Licensed from John Telford, September 2002 https://contentdm.lib.byu.edu/digital/collection/RelEd/ id/1117/ Cof am y cyfiawn Iesu, y Person mwyaf hardd, ar noswaith drom anesmwyth bu’n chwysu yn yr ardd, a’i chwys yn ddafnau cochion yn syrthio ar y llawr: bydd canu am ei gariad i dragwyddoldeb mawr.

MEINI BYWIOL (3) · 2020. 8. 27. · gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r

  • Upload
    others

  • View
    11

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: MEINI BYWIOL (3) · 2020. 8. 27. · gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r

Mae ymweld â Jerwsalem yn brofiad emosiynol a chofiadwyiawn. Dyma’r llwyfan lle’r actiwyd allan oriau olaf ein Harglwydd.Yn rhyfeddol, wedi dwy fil a mwy o flynyddoedd, a newidiadaumawr dros y canrifoedd, mae mannau a meini yno heddiw fel ygwelodd Iesu hwy. Dim ond sylfeini’r deml sydd wedi goroesi ahwn yw Mur yr Wylofain sy’n enwog drwy’r byd gan fod yrIddewon yn mynd ato i weddïo – y dynion a’r merched arwahân. Bydd gweddïau yn cael eu hysgrifennu ar bapur a’ugwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y murni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïaisfrawddegau o Weddi’r Arglwydd – ‘Deled dy deyrnas, gwnelerdy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.’ Mae’r meinihyn yn gysegredig i’r Iddewon. Ar safle’r deml ei hun mae mosgsy’n gysegredig i’r Mwslim. Ychydig o bellter i ffwrdd maeeglwys y Beddrod Sanctaidd. Dyma ran o Jerwsalem lle maeIddewiaeth, Cristnogaeth a Mwslemiaeth yn dod yn llythrennolagos at ei gilydd ac mae angen gweddïo am heddwch achytgord yn y fangre arbennig yma.

Mae Gardd Gethsemane ar waelod Mynydd yr Olewydd. Un obrofiadau mawr fy mywyd i oedd cael gweinyddu Swper yrArglwydd yn yr ardd i’m cyd-deithwyr, gan edrych i fyny arfuriau’r ddinas a’r haul yn machlud y tu ôl iddynt.

Coed Olewydd hynafol, Gardd GethsemaneCC-BY-SA-4.0 Self-published work Files by User:Beko/Israel Files uploaded by Beko

Gerllaw’r ardd heddiw mae Eglwys Yr Holl Genhedloedd –adeilad mawreddog a hardd sy’n sefyll ar safle eglwysi cynt yndyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif. Oddi fewn i’r eglwys ac o flaenyr allor mae craig yn dod i’r wyneb. Yn ôl traddodiad dyma’r fanlle gweddïodd Iesu, ‘O Dad, os wyt ti’n fodlon, cymer y cwpan

hwn oddi wrthyf. Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i.’Adeiladwyd yr eglwys dros y graig ac enw arall arni ywBasilica’r Dioddefaint. Yn y fangre hon down yn eithriadol oagos at Iesu’r dyn ac Iesu’r Duw.

Wedi iddo gael ei gymryd gan y milwyr fe’i gorfodwyd i groesiafon Cedron a dechrau dringo i fyny i dª’r archoffeiriad.

Ychydig yn is na’r tª maegrisiau hir o gerrig garwsy’n dyddio nôl i gyfnodIesu. Dychmygais ei weldyn cael ei lusgo i fyny’rgrisiau gan filwyrdidrugaredd a hyn ynrhagfynegiad o’r dioddefaintoedd i ddod. Mae cerdded yVia Dolorosa- Ffordd yDioddefaint yn brofiaddirdynnol. Mae cannoedd oGristnogion o wahanolwledydd yn cyd gerddedgan ganu emynau agweddïo. Bydd rhywun yndringo y rhan fwyaf o’ramser a cheir eglwysi ymaac acw ar hyd y ffordd llesyrthiodd Iesu o danbwysau’r groes. Mae un ynarbennig i gofio am Seimono Cyrene yn codi’r groes acyn ei chario i ben y bryn.Yno y croeshoeliwyd, ycladdwyd ac yr atgyfododd ein Harglwydd. Erbyn heddiweglwys rwysgfawr sydd yma. Dyma’r meini sy’n fynegiant offydd cenhedloedd byd ac mae llawenydd rhyfeddol yma.

Eirlys Gruffydd-Evans

CYFROL CXLVIII RHIF 35 DYDD GWENER, AWST 28, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

O Benllwyn i Lerpwl … t. 2 • Ffydd a Diwylliant… t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

MEINI BYWIOL (3)Y Ddinas Sanctaidd

Grisiau CaiaffasLicensed from John Telford, September 2002

https://contentdm.lib.byu.edu/digital/collection/RelEd/id/1117/

Cof am y cyfiawn Iesu, y Person mwyaf hardd,ar noswaith drom anesmwyth bu’n chwysu yn yr ardd,a’i chwys yn ddafnau cochion yn syrthio ar y llawr:bydd canu am ei gariad i dragwyddoldeb mawr.

Page 2: MEINI BYWIOL (3) · 2020. 8. 27. · gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r

2 Y Goleuad Awst 28, 2020

Mae amser meddai pawb ohonom ynlleddfu ing profedigaethau, mae hefyd yngyfrwng anghofio pobl a fu mor weithgaryn y cymunedau. Bardd a weithiodd yngelfydd ar y wythïen hon yw J. GlynDavies. Ac y mae ei delyneg i’r HenForwr a luniodd yn 1943 yn cyfleu i’r dimy gair o’r Ysgrythur.

Bu hefyd rai heb fod coffa amdanynt, yrhai y darfu amdanynt fel pe na buasent.Y mae’r delyneg yn haeddu eichyhoeddi’n llawn.

Hen forwr dinod yn y fynwent wledig,fan hyn tan gudd, yn bell o sfin y byd,pwy fiyr amdano? A oes rhywun debygo’i gofio yn yr ardal hon o hyd?

Ac eto bu yn grefftwr gyda’r gwyntoedd,a gosod hwyliau, trin ei long ar fôr,“All royals set”, i hwylio i borthladdoeddPeriw a Chile a San Salvador.

Fe ganodd hwn wrth yru’r iardau i fyny,a chodi angor yn y porthladd pell,a’i enaid ifanc yn dyheu am Gymru;ni wyddai hwn erioed am wlad oedd well.

Fe rowndiodd hwn yr Horn drwy stormyddgaea’

cynefin oedd â niwloedd Labrador,a mochel gwres dan balmwydd

Sourabaya,a cherdded strydoedd poethion

Singapore.

Fe garodd drwst y dociau mawr a’utrefydd,

Bwmbau a Frisco, Antwerp a Hong Kong;

ond dyma ef mewn llecyn digon llonydd,yn forwr dinod, diddim heb ei long.

Canodd J Glyn Davies, un o feirddpennaf Cymry Lerpwl, yn gelfyddgofiadwy, a tharo’r nodyn sy’n goleuo fyrhagymadrodd i deulu a dreulioddflynyddoedd ar y Glannau. Ymserchaisyn hanes y teulu am un rheswm yn unig,ei bod yn hanu o ardal Capel Bangor,o’r un sir â minnau. A bum yn chwilotaam eu hanes ar ôl imi ddod ar draws euhenwau ar lyfrau Capel Cymraeg yMethodistiaid Calfinaidd Stanley Road,Bootle. Dau frawd a chwaer sydd yn yteulu hwn, hen deulu Gwarcwm,Penllwyn ger Aberystwyth.

I ddechrau soniaf am Richard Richards(1862-1934) gfir a ddaeth ynbymtheg oed i Bootle ac arhosodd ynoweddill ei ddyddiau. Yr oedd RichardRichards yn meddu ar ddawn y bardd,a pherthynai i nythaid o feirdd a welidyn nhref Bootle ym mlynyddoeddcyntaf yr ugeinfed ganrif, pobl felRobert Parry (Madryn) a G. DwyfachJones. Lluniodd Gwilym Deudraethenglynion gogleisiol i Dwyfach yn eigaethiwed;

A mi yn wir yma’n iach – heb ochain,Heb achos i rwgnach;

Meddwl yr wyf am DdwyfachDraw yn ei boen, druan bach.

Euog wyf werth ei gofio – am na fûmYn fwy fy sêl iddo;

Ga’i weled Dwyfach etoYn ddyn rhydd i faddau ‘nhro?

Clywais ei fod yn codi – da iawn wir,Daw’n araf drwy ynni

A hir wydnwch i RodneyEto mewn nerth atom ni.

Mae gofid, mae gaeafau – onid ynt?Yn dweud arnom ninnau;

Y gwir eddyf ein gruddiau –Mynd i oed yr ym ein dau!

Gwelir cerddi Richard Richards yn yBrython yn achlysurol, cerddi hiraethus,crefyddol ydynt. Meddai RichardRichards ar ysbryd dwys. Gfir o ddifrif.Dywedir i’w Weinidog, y ParchedigWilliam Davies, pregethwr nerthol adawnus, cael un o oedfaon mwyaf eiweinidogaeth wrth weinyddu ysacrament o Swper yr Arglwydd i’rbardd o Gapel Bangor yn ei gystudd olaf.Geiriau William Davies ddydd ei arwyloedd:

Ynddo ef cawsom ar ambell dro rywsyniad o’r hyn fydd y saint tu draw i’rbedd.

Yr oedd Richard Richards yn fir tanbaid,ac mewn teyrnged hyfryd iddo dywedoddE Meirion Evans (un o benaethiaidGwasg y Brython yr adeg honno ablaenor yng nghapel Stanley Road) –

Moddion gras oedd gwrando arRichard Richards yn tynnu yn rhaffau’raddewidion mewn cyfarfod gweddi.

Peidiodd y cyfarfodydd grasol hyn bronym mhob man. Yr unig gyfarfodyddgweddi cyson yn Gymraeg bellachar yGlannau yw yn y gymuned o dan fyngofal yn ymyl Penny Lane. A llond dauddwrn a ddawn ar y mwyaf hyd yn oedadeg Cyfarfodydd Diolchgarwch am yCynhaeaf. Ond yn nyddiau RichardRichards yr oedd y cyfarfod gweddi yndal i ddenu’r Cymry. Yr oedd ei frawdDavid Richard (1864-1935) yr un morddefosiynol-dduwiol. Dyma gofnod i brofipeth, o ysgrifbin E. Meirion Evans:

Bu’n aelod ffyddlon a gwerthfawr oeglwys Stanley Road ar hyd yblynyddoedd (1880 i 1935), yn ffyddlonyn yr holl dª, a chymerai ran mewncyfarfod gweddi a seiat gydagarddeliad oherwydd crefyddolder asirioldeb ei ysbryd.

Chwaraeodd ran amlwg yn addysggrefyddol yr Eglwys. Am ddeg mlyneddar hugain bu’n athro yr Ysgol Sul ac ynparatoi’n fanwl ar gyfer ei ddosbarth ooedolion. Edrychai ymlaen am yresboniadau a baratoid, rhai ganweinidogion ei enwad ar y Glannau, aceraill gan weinidogion ysgolheigaidd addeuai ar eu troi i Lerpwl i draethu’rgwirionedd yng Nghrist Iesu. Rhoddodddymor sylweddol fel Arolygwr yr YsgolSul, swydd gyfrifol arall. Ef fyddai’nllywio’r gweithgareddau, gofalu bodrhywun yn cymryd y defosiwn arddechrau’r Ysgol, yn rhoddi cyfle i’rYsgrifennydd nodi yr ystadegau, gwneudy cyhoeddiadau, a chyhoeddi’r fendith.Gwnaed y cyfan gyda graen,democratiaeth weithredol, ar ei orau.

(I’w barhau)

Teulu Richards o Benllwyn:Pobol Stanley Road, Bootle

gan D. Ben Rees

Capel Penllwyn ar fin y ffordd fawr rhwng Ponterwyd a Llanbadarn Fawr

Page 3: MEINI BYWIOL (3) · 2020. 8. 27. · gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r

Awst 28, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Mae gan Gymorth Cristnogol swyddogrhanbarthol newydd yng ngogleddCymru. Penodwyd Llinos Roberts i’rswydd ac mae eisoes wedi cychwyn arei gwaith.Yn wreiddiol o Felin-y-wig, Sir

Ddinbych, mae gan Llinos brofiadhelaeth o weithio gyda ChymorthCristnogol yn barod. Bu’n aelod o’r staffam y chwe blynedd diwethaf, yngyfrifol am waith gweinyddol swyddfaBangor. Cyn hynny, roedd wedigwirfoddoli i’r elusen am bymthegmlynedd, a chafodd gyfle i ymweld agIndia a Sierra Leone i weld gwaithpartneriaid Cymorth Cristnogol drosti eihun.‘Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn wrth

gychwyn fy swydd,’ meddai Llinos.‘Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i’rmudiad ac i’r eglwysi yr ydan ni’ndibynnu arnyn nhw. Ond mae gweld yrymateb sy wedi bod i her y Coronafirws– yn enwedig yn y maes digidol – yn fyllenwi efo gobaith. Rwy’n edrychymlaen yn fawr at gael gweld pawbunwaith yn rhagor.’Mae Llinos yn dod â phrofiad helaeth

gyda hi i’w rôl newydd fel Swyddog

Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian. Ar ôlgadael Ysgol y Berwyn aeth i weithio iFanc y Midland, cyn cael gwaith felSwyddog Dyngarol Urdd GobaithCymru. Yn fwy diweddar bu’n SwyddogCymunedol gydag eglwysi Trefor,Gwynedd.‘Mae gweld y gwahaniaeth y mae

cyfraniadau ariannol bach a mawrcefnogwyr Cymorth Cristnogol yn eigael yn sbardun pwysig imi yn fy

ngwaith. Mae’r byd yn decach ac yn fwycyfiawn oherwydd y gefnogaeth hon –er bod digon eto o waith i’w wneud. Ynbenodol, mae gennym waith mawr i’wwneud ar yr argyfwng hinsawdd ac maehelpu’r eglwysi i ymgyrchu ar bwnc morallweddol yn rhan hynod bwysig o’rswydd,’ meddai Llinos.Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth

Gweithredol Cymorth Cristnogol yngNghymru, ‘Mae Cymorth Cristnogolwedi mynd trwy newidiadau mawr ynddiweddar. Rydym wedi cau ein swydd -feydd ym Mangor a Chaerfyrddin, onder hynny mae gennym swyddogion ynparhau i fod ar lawr gwlad a bydd Llinosyn aelod gwerthfawr iawn o’r tîm. Maeei phrofiad eang a’i hangerdd drossicrhau cyfiawnder i’r tlawd yn gryf -derau pwysig ac rwy’n edrych ymlaenat weld ein gwaith yn datblygu ar drawsy gogledd yn y blynyddoedd nesaf.’

Fel rhan o’r newidiadau i GymorthCristnogol, swyddfa Caerdydd fyddcyswllt cyntaf y gwaith ar draws Cymrugyda swyddogion penodol yno i ymatebi alwadau cefnogwyr ledled y wlad.Dylid anfon pob gohebiaeth i Gaerdydd.Ceir yr holl fanylion cyswllt ar y wefan.

Swyddog Cymorth Cristnogol newydd yng ngogledd Cymru

Gwers 8

Y gweddwonGweddiYn ein myfyrdod heddiw cawn gyfle ifeddwl am y gwragedd sy’nddiymgeledd ac eto’n effro i angeneraill. Cymorth ni i ystyried beth ywystyr haelioni a mesur ein cyfraniadau ihelpu gyda’r frwydr yn erbyn tlodi.Amen.

Darllen:Luc 7: 11-17 (Cyfodi Mab y Weddw ynNain); 20:45-21:4 (Offrwm y Weddw)

CyflwyniadCeir 80 o gyfeiriadau Beiblaidd atwragedd gweddwon, ac yn ôl y gyfraithIddewig roedd angen eu gwarchod a’uhanrhydeddu, yn arbennig y rhai oeddwedi colli eu gwªr a hwythau heb fab.Ystyrid bod cyfrifoldeb teuluol gan

berthnasau eu gwªr drostynt, ac y dylaibrawd dibriod y gfir gymryd ei chwaeryng nghyfraith weddw fel cymar iddo.Roeddent yn cael eu hystyried gyda’rbobl fregus a’r diamddiffyn. Gallentfynd i’r caeau ªd a chasglu o weddill ycynhaeaf, fel yn stori Ruth. Yn y ddwy stori o Efengyl Luc,

roedd yr awdur am nodi bod Iesu ynsylwi arnynt ac yn eu gwerthfawrogi.Cydymdeimlwyd â’r naill wrth iddigerdded wrth ochr elor ei hunig-anedigfab, ac mae Iesu yn adfer bywyd y gfirifanc. Wrth wneud hynny, roedd nid ynunig yn dileu ei galar ond yn sicrhaustatws a chynhaliaeth iddi yn eichymdeithas. Mae’n ddarlun oadnewyddu a chyfannu bywyd y weddwdrachefn. Bydd yr ail stori’n sylwi argyfraniad y weddw, ac er mai’r darnarian lleiaf ei werth sy’n cael ei roi,nodir iddi roi’n hael yn ei thlodi: rhoio’u harian sbâr wnaeth y cyfoethogion;

rhoi heb fedru fforddio gwneud wnaethy wraig weddw.

MyfyrdodNodwyd yn y cyflwyniad nad oes raid iwraig weddw fod yn oedrannus.Gwyddai’r Iddewon yn dda amfarwolaethau dynion ifainc, gan adaeleu gwragedd yn ddiamddiffyn a hebgynhaliaeth. Nid oedd statws i’r wraig,a’i phrif swyddogaeth yng nghyd-destun Iddewiaeth gynnar oeddcyflawni dyletswyddau yn y tª a maguteulu. Dyletswydd pob gfir oeddsicrhau meibion, gan fod cael bachgenyn y gyfundrefn batriarchaidd yngolygu parch ac anrhydedd. Ond, ynamlach na pheidio, roedd ar wraig

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

Mae fideo o’r deunydd i'w weld yn yr adran ‘Gwersi Ysgol Sul i Oedolion’ar sianel deledu www.cristnogaeth.cymru

(parhad ar y dudalen nesaf)

Page 4: MEINI BYWIOL (3) · 2020. 8. 27. · gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r

5 Y SACRAMENTAUMae’r sacramentau yn rhan annatod ofywyd yr eglwys. Chwithig felly ywpeidio cyfranogi o’r ordinhadau yn ystody cyfnod dan glo. Ond cymerwn gysurmai felly mae hi wedi bod i Gristnogiondan amgylchiadau tebyg cyn hyn.Mae gan eglwysi sefydledig olwg

uchel ar y sacramentau ac yn troi’rordinhadau’n ddefodau gosgeiddigiawn. I’r eglwys Anglicanaidd, dawplentyn yn Gristion wrth iddo gael eidaenellu’n faban. Ac i’r eglwysBabyddol, mae’r bara a’r gwin yn troi’ngorff a gwaed Crist yn llythrennol.Golwg wahanol sydd gan eglwysi

Anghydffurfiol ar y sacramentau. Nid eubod nhw’n meddwl yn llai amdanyntond yn hytrach eu bod nhw’n meddwlyn uchel am eu hystyr ysbrydol. Ar ywedd fewnol yn fwy na’r wedd allanolmae’r pwyslais yn gorwedd.Mae sacramentau’r bedydd a

chymundeb yn arwyddion allanol owirioneddau dyfnion (Galatiaid 3:27;Hebreaid 9:15). Yr Arglwydd Iesu Grista’u sefydlodd ar gyfer ei eglwys i fod ynsymbolau gweladwy o’i Efengyl. Daw’rhen ymadrodd i’r meddwl: ‘Clywaf,anghofiaf; gwelaf, cofiaf; gwnaf,deallaf.’Y bedydd yw’r cam gweladwy cyntaf

o fynediad i’r eglwys. Dynoda fod

person wedi marw i’w hen fywydpechadurus, ei gladdu iddo a’i atgyfodi ifywyd newydd yn Iesu Grist(Rhufeiniaid 6:4). Unwaith yn unig fellyy mae angen i berson fynd drwyddyfroedd y bedydd.

Ceir gwahaniaeth rhwng eglwysiBedyddiedig ar y naill law ac eglwysiAnnibynnol a Phresbyteraidd ar y llawarall ynghylch y modd y deallant ybedydd. Roedd y Diwygwyr Protestan -naidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ynglynu wrth yr arfer o daenellu(bedyddio) plant. Roedd hynny o bosibloherwydd y cysylltiad agos ar y prydrhwng yr eglwys a’r wladwriaeth adymuniad y diwygwyr i sicrhau llwydd -iant y diwygiad ar gyfandir Ewrop. Ond credai’r Ailfedyddwyr mai

bedydd trochiad credinwyr oedd yr arferBeiblaidd. Felly, bedyddiwyd plant neuoedolion oedd wedi profi’r bywyd

newydd yng Nghrist ac a oedd yncyffesu ffydd bersonol ynddo Ef.Gweithred o edrych yn ôl (retrospective)yw bedydd y rhai sy’n bedyddiocredinwyr – Credo-baptists – ynwahanol i fedydd sy’n edrych ymlaen(prospective) y rhai sy’n bedyddioplant – Paedo-baptists; maen nhw’nbedyddio plant yn y gobaith y deuant ifeddu’r bywyd newydd yng Nghrist achyffesu ffydd bersonol ynddo Ef.Yn wahanol i fedydd, cyfranna’r

Cristion yn rheolaidd yn y cymundeb.Mae’r cymundeb yn dynodi’r cyfamodnewydd rhwng Duw a dyn yng Nghristtrwy’r Groes (Luc 22:19–20). Mae’nsymbol gweladwy amlwg ac yn einhatgoffa’n gryf o waith Crist yn marwdrosom ar y Groes i’n cymodi â Duw.Er na chytunant ynghylch y bedydd,

eto mae eglwysi Anghydffurfiol yngytûn ar y cymundeb. Credant fod y baratoredig yn cynrychioli corff toredig Crista bod y gwin arllwysedig yn cynrychioligwaed arllwysedig Crist. Trwygyfranogi o’r elfennau hyn, bwydantdrwy ffydd ar Grist.Yn ddigon naturiol, y rhai sy’n credu

yng Nghrist sy’n eistedd wrth ei fwrdd.Arferid cyfyngu’r cymundeb mewn rhaieglwysi Bedyddiedig i Fedyddwyr ynunig (caeth-gymuno). Ond mae trwchyr eglwysi Bedyddiedig yn agoredi Gristnogion o enwadau eraillgydgymuno (rhydd-gymuno).Mae’r sacramentau’n symbolau gwel -

adwy iawn. Maent i’w gweinyddu’nbarchus. Cryfhânt ffydd Cristnogion yneu Harglwydd a thystiant i nerth yrEfengyl yn y byd.

(i’w barhau)

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Awst 28, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

weddw, fel yr un o bentref Nain, angenrhywun i’w hymgeleddu. Heddiw, byddy gwledydd cyfoethocaf yn darparu i’ranghenus yn ôl eu gofyn ac nid yn ôl eurhywedd na’u hoedran. Eto, yn ygwledydd tlotaf heddiw nid oesdarpariaeth felly, ac mae’n sifir fodcanran uwch o wragedd gweddwon ynddiymgeledd. Bydd pwyslais y wasg aryr angen am addysg a darpariaethfeddygol y cymunedau tlawd, ond maeangen ar grwpiau llawer ehangach naphlant, ac mae’n ddyletswydd iwarchod yr henoed ym mhob cymuned,yn arbennig ymysg y tlotaf o bobl ybyd. Pwy sy’n cyfrannu i goffrau

mudiadau fel Cronfa Achub y Plant neuGymorth Cristnogol? Yn rhyfeddol,bydd y tlodion eu hunain yn cyfrannuhyd orau eu gallu, am eu bod yngwybod beth yw angen. Bydd ergyd yr

hanesyn yn Luc mor wir heddiw agerioed felly: rhoi o’n harian sbâr awnawn yn aml, heb feddwl bod ein‘gweddill’ ni yn gyfoeth i’r sawl y maeei bocedi’n wag. Pan ddaw’r apeliadaugan y mudiadau dyngarol, bydd llaweryn troi cefn neu’n cau’r drws yn glep.Dros gyfnod y Nadolig yn arbennig, afyddwn yn effro i wir angen eraill o’ncwmpas? Diolch am bob rhodd, bachneu fawr, ond prin y byddwn yn rhoi’nhael, yn rhoi nes ei fod i’w deimlo. Bethyw ein darlun ni o haelioni? Darlun Iesuoedd sôn am y weddw yn rhoi’r hatling,ac roedd Iddewon y dydd yn deallhynny’n dda.

GweddiTrugarha wrthym, Arglwydd, yn eincybydd-dod difeddwl. Mae yna elfeno’r Scrooge yn y mwyafrif ohonom, hebfeddwl am fesur dy haelioni di.

Cyfaddefwn ein bod yn rhy aml ynmeddwl am ein hanghenion ein hunainyn gyntaf, heb roi llawer o amser iystyried pwy sydd â’u boliau a’ucypyrddau’n wag, heb syniad o ble ydaw’r pryd bwyd nesaf. Amen.

Trafod ac ymateb:

• Beth sy’n gwneud rhoi yn ‘rhoiaberthol’?

• Aeth y bwlch rhwng y rhai sydd ârhywbeth wrth gefn a’r rhai sydd hebddim yn fwy yn ystod y cyfnod clo.A yw eich llygaid yn agored ianghenion pobl sy’n ddiymgeledd ynystod cyfnod y pandemig?

• Sut y byddwch yn mynd ati i ymatebi wahanol apeliadau gan fudiadauCristnogol a dyngarol: ceisio’ucefnogi i gyd neu roi sylw i raipenodol? Pa arweiniad y dylem eigeisio?

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd (parhad)

MODDION GRASCyfres yn ystyried beth sy’n angenrheidiol wrth inni barhau

i addoli a gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist yn y cyfnod hwn

gan y Parch. PETER H. DAVIES

Page 5: MEINI BYWIOL (3) · 2020. 8. 27. · gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r

Awst 28, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Mae’n debyg fod llawer ohonoch yncofio’r cyfnod pan nad oedd ond uncyfieithiad cyfan o’r Beibl ar gael yn einhiaith. Ychydig dros 30 mlynedd sydd ersi’r Beibl Cymraeg Newydd (BCN) gael eigyhoeddi, a chyn hynny, am bedair canrifgyfan, dim ond ffrwyth llafur WilliamMorgan (BWM) a fodolai. Buymdrechion ar rannau o’r Ysgrythurrhyngddynt a bu diwygio ar yr hengyfieithiad hefyd, ond o ran cyfieithiadaucyflawn, newydd, ni fu yr un. Prysuroddpethau wedi cyhoeddi’r BCN gyda’rArgraffiad Diwygiedig (BCND) yn cael eigyhoeddi yn 2004 a beibl.net (BNET)wrth gwrs yn 2015. Wedi canrifoedd,felly, heb y fraint o allu dewis pagyfieithiad i’w ddarllen, y mae gennymbellach dri chyfieithiad ac y mae’n rhaiddysgu arfer â’r dewis hwn sydd yn awr ynein hwynebu.

Mae’r Beibl yn ei gyflawnder yncyflawni’r un bwriad. Nid oes un darnohono yn gwrth-ddweud y llall; nid oes unrhan ohono sy’n amherthnasol ac nid oesyr un darn ohono sydd heb gael eiysbrydoli gan Dduw. Sonia Paul am:

yr Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abli’th wneud yn ddoeth a’th ddwyn iiachawdwriaeth trwy ffydd yngNghrist Iesu. Y mae pob Ysgrythurwedi ei hysbrydoli gan Dduw ac ynfuddiol i hyfforddi, a cheryddu, achywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder.(2 Timotheus 3:15–17)

Dyma grynodeb gwych o’r Beibl, eidarddiad, a’i bwrpas. Nid yw’r hyfforddiyn berthnasol i rai pobl yn unig, ac nidyw’r disgyblu mewn cyfiawnder ynberthnasol i rai pobl yn unig; mae’r Beiblyn fuddiol i wneud yr oll o’r pethau hyn ibawb. Mae’r emynydd yn canmol GairDuw yn llawer taclusach nag y medrwn ibyth wneud:

Dyma Feibil annwyl Iesu,dyma rodd deheulaw Duw;

dengys hwn y ffordd i farw,dengys hwn y ffordd i fyw;

dengys hwn y golled erchyllgafwyd draw yn Eden drist,

dengys hwn y ffordd i’r bywyddrwy adnabod Iesu Grist.

Mae’r gwirioneddau hyn i gyd yn rhaicyffredinol, gwir i bawb, ac mae’r Beiblyn berffaith i gyflawni’r bwriadau hyn.Fodd bynnag, darllenir y Beibl mewnllawer o gyd-destunau a sefyllfaoeddgwahanol, a chan ein bod yn awr yn trafodcyfieithiadau, tybed a oes rhaicyfieithiadau sy’n fwy addas na’i gilyddar gyfer sefyllfaoedd a chyd-destunaupenodol? Dyna gwestiwn a amlygodd eihun i mi fel un pwysig i ni fel pobl Dduw

yng Nghymru ei ystyried, a dyna pam fymod yn gwneud gwaith ymchwil yn ymaes ar hyn o bryd. Yma ac yn rhifyn yrwythnos nesaf, byddaf yn trafod un neuddau o’r ystyriaethau diddorol, yn fy marni, ac yn ceisio cyflwyno rhesymau droswerthfawrogi pob un o’r cyfieithiadausydd ar gael. Yr wythnos hon, fe roddafgyflwyniad i ambell beth cyffredinol ac feystyriaf ambell beth yn fanylach yrwythnos nesaf.

Os cydiwch mewn copïau o’r trichyfieithiad dan sylw, fe sylwch ar raigwahaniaethau yn syth. Y diwyg fydd ypeth cyntaf, mae’n debyg: maent ynamrywio o ran y math o ffont, nifer ycolofnau ar dudalen, rhai gyda phenawdauo fewn penodau a BWM heb benawdau;mae BWM hefyd yn unigryw yn rhoillinell newydd i bob adnod. Pethau pitwydy’r rhain, ond mae’n ddigon posibl eichbod yn ffafrio rhyw ddull neu’i gilydd ogyflwyno. Rwy’n cofio pan lansiwydBNET yn Ysgol Glantaf yn 2015,gofynnwyd i mi ddarllen yn ygwasanaeth. Cefais gopi ohono yn fy llawam y tro cyntaf, ac un o’r pethau cyntafi’m taro oedd y diwyg. Cofiaf i mi gaeltrafferth dilyn y llinellau hir yn ôl yngywir wrth fynd o un linell i’r llall,oherwydd diffyg arfer efallai, ondrheswm mwy tebygol oedd nerfusrwyddbachgen ysgol yn darllen o flaencynulleidfa fawr!

Un peth arall a’m trawodd ar y nosonhonno, er fy mod yn lled-gyfarwydd âdarllen BNET ar fy ffôn yn flaenorol,oedd yr iaith. Er bod llawer o iaith BNETyn adlewyrchu fy iaith lafar, roedd ambellbeth yn ddieithr, yn enwedig wrth ei weldar bapur. Roedd ffurfiau cwmpasog berfauyn llifo’n naturiol iawn i mi, ond roeddgweld ‘dªn ni’ ar y papur yn fy maglu bobtro, gan mai ‘’da ni’ fyddwn ni’n ei

ddweud ar lafar yn Llªn ac Eifionydd ac‘rydym ni’ oedd yn gyfarwydd imi eiddarllen ar bapur. Mae’r cyhoeddwyr yncyfeirio at hyn yn y Rhagair, fod modd eiolygu wrth ei ddarllen ar y we (fel ybwriadwyd), a rhoi’r ffurfiau sy’n naturioli’r darllenydd yn lle’r rhai cyffredinol.Y gwir amdani yw, os darllenwch yr unadran yn y tri chyfieithiad yn eu tro,mae’n bosibl y bydd un ohonynt ynteimlo’n ddieithr neu’n chwithig i chi osydych chi’n ei ddarllen am y tro cyntaf.Os ydych wedi arfer â darllen BWM a’rBCND, mae’n bosibl iawn y bydd darllenBNET yn brofiad rhyfedd iawn i chi. Ynyr un modd, i rywun sydd wedi arferâ BNET, mae iaith BWM yn medruteimlo fel iaith ddieithr. Byddbrawddegau annormal BWM (e.e. ‘Efe addywedodd …’) yn baglu rhai a chymalaullafar BNET (e.e. ‘Dyma Iesu’n mynd…’)yn teimlo’n annaturiol i eraill. Byddtreiglo enwau e.e. ‘i Ddafydd’ yn chwithigi rai a bydd peidio â threiglo enwau e.e.‘yn Bethlehem’ yn llawn mor chwithig ieraill. Bydd rhai hefyd yn dadlau fodurddas i’r iaith yn bwysig a bod hynnywedi ei golli yn BNET (mae gan bawb eifarn ei hun ar hynny!). Ond eto, y mae hydyn oed cysyllteiriau a geiriau ‘bob dydd’BWM mor ddieithr â geiriau Mandarin irai Cymry heddiw, geiriau megis ‘canys’,‘oblegid’, ‘eithr’, ac ‘wele’. Mae iaith ynnewid ac yn esblygu o genhedlaeth igenhedlaeth, ac mae’n rhaid cofio nadydym bellach yn byw mewn cymdeithaslle mae iaith draddodiadol y Beibl ynganolog i fywydau pobl. Hyd yn oed i’rrhai breintiedig hynny ohonom gafodd eumagu mewn eglwys, yn sfin Gair Duw, yny ganrif hon, ni fydd y mwyafrif ohonomwedi clywed llawer o iaith WilliamMorgan; nid yw bellach yn rhan ofagwraeth pob Cymro.

Efallai nad y rhain yw’r materion sy’ncynhyrfu pobl ond mae’n rhaid euhystyried. Gwahaniaethau bach ydynt,heb fod angen gormod o drafod arnynt,ond mae pobl yn sicr yn mynd i ffafriorhai cyfieithiadau dros eraill ar sail ypethau hyn ac mae hynny’n ddigon teg. Feawn ymlaen yr wythnos nesaf i drafodrhai o’r materion ‘trymach’ a cheisiogwerthfawrogi’r cyfoeth o gyfieithiadausydd gennym yn well.

[Ein llongyfarchion i Gruffydd, a enilloddWobr Gwyn Thomas am y traethawdisraddedig gorau gan fyfyriwr sy’n graddioyn y Gymraeg, a Gwobr Norah Isaac am ymarciau gorau yn Nhystysgrif Sgiliau Iaithy Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dymunwnyn dda i Gruffydd yn ei astudiaethauôl-raddedig ym maes cyfieithiadauCymraeg o’r Beibl.]

Cyfoeth ein cyfieithiadaugan Gruffydd Rhys Davies

RHAN 1

Page 6: MEINI BYWIOL (3) · 2020. 8. 27. · gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r

Bu llawer o deyrngedau i’r diweddarElfed ap Nefydd Roberts ar bob cyfrwngers ei farwolaeth yn gynharach y mishwn. Yr oedd ei gyfraniad i nifer ofeysydd yn helaeth ac yn werthfawr, felbugail ym Mangor, Wrecsam a Licswm;fel cyfathrebwr a chyhoeddwr hyglyw aryr Efengyl; fel athro a phrifathro yngngholeg diwinyddol ei enwad ynAberystwyth, fel hanesydd ac felarweinydd yn llysoedd ei enwad ac felawdur nifer fawr o gyfrolau. Cawsomninnau yn y Tudalennau Cydenwadol a’rcylchgronau enwadol brofi bendith o’ilafur wrth inni ddilyn ei gyfrolau o’rgyfres boblogaidd ‘Dehongli …’, ynffrwyth myfyrdod i ddosbarthiadauysgolion Sul i oedolion am gyfnod osaith mlynedd, gyda’r olaf ar Timotheusyn dod i ben y flwyddyn ddiwethaf.Cofiwn am ei wersi Ysgol Sul cysondros flynyddoedd maith i’r Cymrohefyd.

Fel hyn y cyfeiriodd y Parch. Aled

Davies ar ran Cyngor yr Ysgolion Sulam gyfraniad Elfed: ‘Cyfrannodd morhelaeth i gynnyrch Cristnogol Cymraeg

dros y blynyddoedd mewn gweddïaugwreiddiol a chreadigol heb sôn am eiesboniadau niferus. Tan yr wythnosaudiwethaf roedd yn dal i feddwl amgyfrolau, ac wedi trosglwyddo cyfrolaui ni i’w cyhoeddi. Bu Trefor Lewis yncydweithio ag Elfed i gasglu ei hollweddïau gwreiddiol at ei gilydd, agobeithiwn gyhoeddi’r rhain fel cyfrolcyn diwedd y flwyddyn, ynghyd âchyfrol o fyfyrdodau a deunydddosbarth derbyn. Diolch am eibarodrwydd i wneud yr holl waith, acam ei gyfeillgarwch ar hyd yblynyddoedd. Bu i Gyngor yr YsgolionSul gyflwyno medal Gee er anrhydeddiddo rai blynydoedd yn ôl fel arwyddo werthfawrogiad ar ran eglwysiCymru.’

Estynnwn ein cydymdeimlad ninnaufel darllenwyr ag Eiddwen, ei weddw, aJonathan ac Elen Mai, ei blant, a’uteuluoedd oll yn eu hiraeth a’u colled.(Gol.)

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Awst 28, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Colli cymwynaswr mawr i eglwysi Cymru yn Elfed ap Nefydd Roberts

Elfed ap Nefydd Roberts ac AledDavies adeg lansio ei gyfrol olaf yn y

gyfres Dehongli yn EisteddfodGenedlaethol Caerdydd yn 2018.

Ein llongyfarchion calonnog i IfanMorgan Jones, sydd wedi ennill gwobrLlyfr y Flwyddyn eleni am ei nofel,Babel.

Fe adolygwyd y nofel yma ynNhudalennau Cydenwadol y cylch -gronau enwadol Cymraeg gan CynanLlwyd pan gyhoeddwyd hi gyntaf yllynedd, a hynny yn addas ddigonoherwydd rôl ganolog y wasg Gymreiganghydffurfiol yn y nofel, pwnc oeddyn destun ymchwil doethuriaeth i Ifan.

Fel hyn y dywedwyd bryd hynny amyr olwg sydd ar grefydd yn y nofel:

‘Elfen ddiddorol arall i’r nofel ywbywyd crefyddol Babel a’r modd ymae crefydd a gwleidyddiaeth yncyd-blethu. Mae datgysylltu’r EglwysWladol yn dod yn bwnc llosg ymmywyd crefyddol Babel, a’r enwadauanghydffurfiol yn ymgyrchu yn erbyntalu trethi neu’r degwm i gynnal yreglwys honno. Wrth wneud hynnymaent yn ymryson am galonnau ameddyliau y werin Gymreig, ond mewngwirionedd mae’r pwnc ymhell oddiwrth wir angen gwerin dlawd tref Babelam gyfiawnder ac amgylchiadau teg ifyw ynddynt. Hawdd iawn y gall MrJoseph Glass golli ychydig o ddodrefnyn yr ymgyrch. Dyma feirniadaeth yrawdur ar drothwy canmlwyddiantdatgysylltu’r eglwys wladol, ar yr hyn aalwn yn ‘Rhyfel y Degwm’ yngNghymru ddiwedd oes Fictoria y bu gany wasg anghydffurfiol Gymreig, ac un

perchennog gwasg tebyg iawn eiddylanwad i Mr Glass o dref ogleddolDinbych gymaint rhan ynddo. Yn yretholiad sy’n ganolog i’r plot, mae’rymgeiswyr seneddol yn ymladd â’igilydd am gefnogaeth yr enwadau ganbwysleisio maint dylanwad crefydd ar ygymdeithas. Diddorol oedd gweld Ifanyn creu enwadau newydd, a phob unohonynt gyda’u defodau ac addoldaigwahanol, ond eto i gyd Cristnogaethoedd eu crefydd. Roedd y Trochwyr, erenghraifft, yn derbyn bedydd o haearntawdd, os oeddent am ddod yn aelod o’renwad!’

Roedd ei nofel eisoes wedi dod i’rbrig yng nghategori ffuglen cystad -leuaeth flynyddol Llenyddiaeth Cymru,yn ogystal â chipio Gwobr Barn yBobol Golwg360 eleni.

Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlith -ydd mewn Newyddiaduraeth yn YsgolAstudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau,Prifysgol Bangor, ac ef hefyd ywgolygydd y wefan gwleidyddiaeth amaterion cyfoes Nation.Cymru.

Daw o’r Waunfawr yng Ngwyneddyn wreiddiol, ond mae bellachwedi ymgartrefu gyda’i deulu ymMhenrhiw-llan, ger Llandysul.

Ar ran panel beirniadu Llyfr yFlwyddyn, dywedodd Siôn TomosOwen: “Braf yw nodi ein bod ni felbeirniaid wedi’n plesio’n fawr gydaphob un o’r cyfrolau ar y rhestr fereleni.

“Nid hawdd oedd dewis un o blith ypedwar enillydd categori, ond roedd ypanel yn gytûn fod Babel, nofel IfanMorgan Jones – sy’n trafod Cymrugyfoes, hanes ein gwleidyddiaeth achyflwr ein moesau cymdeithasol trwyddrych y cyfryngau cenedlaethol – ynllawn haeddu teitl Llyfr y Flwyddyneleni. Llongyfarchiadau i bob un o’rpedwar enillydd a’u cyhoeddwyr.”

Babel yn ennill y gamp lawn ym myd llyfrau Cymraeg

Oedfa Radio Cymru30 Awst am 12:00yp, yng ngofal

Y Tad Alanus, Daventry

Page 7: MEINI BYWIOL (3) · 2020. 8. 27. · gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r

Gweld y diemwnt yn y priddMae diemwntau yn hardd. Yn brinnach nagaur ac yn galetach na dim arall y gwyddonni amdanyn nhw. Swigod o garbon wedicychwyn ar eu taith gan milltir dan ddaearmewn tymheredd dros fil gradd a’uhebrwng i’r wyneb ar afon o lafa, lle maennhw’n oeri i greu crisialau ag iddyn nhwwyth wyneb prydferth. Perffeithrwydd clirfel golau wedi ei greu yn nhanau tywyllafuffern.

Diolch i’r Eisteddfod AmGen ges i sbeciantrwy’r ffenest ar sgwrs fendigedig rhwngdwy ddynes arbennig iawn, Ffion Dafis aLleuwen Steffan.

Roedd eu sgwrs yn un gelfydd, yngelfyddyd o’r fath orau, a braint oedd caelgwrando.

Gwrando a rhyfeddu at eu doethineb, euclyfrwch, eu haeddfedrwydd a’u huodledda choethni eu hiaith. Dotio at y modd yr

oedden nhw, hyd yn oed drwy ddwy sgrin,yn syllu i lygaid ei gilydd, yn ymgolli yn eusgwrs, nes bod y sgrin yn ddrych a’r naillyn dilyn ystumiau’r llall – yn crafu’i gên,sgubo cydyn o wallt, cyffwrdd â’i chlust.Wedi ymroi’n llwyr i gwmni’i gilydd ac iangerdd yr hyn oedd ganddyn nhw’n eidrafod.

Trafod salwch Lleuwen oeddan nhw.Un wedd, dim ond un, ond eto mae o yn uno wynebau’r diamwnt, ac yn un pwysig sy’nhaeddu ei le yn ei dro. Mae Lleuwen ynbyw gyda chyflwr dau begwn. Cyflwr yrhwyliau. Cyflwr y mae’n rhaid ei dderbyn fel(eithafion) y tywydd.

Roedd y sgwrs ar ei hyd yn werth gwrandoarni, a gwrando arni eto. Ond roeddcasgliadau Lleuwen yn rhai gwerth eucofio a chnoi cil arnyn nhw.

Mae hi’n ei theimlo hi’n fraint byw gyda’ichyflwr. Rhoddodd y cyflwr y rheswm iddi

edrych yn ddwfn i mewn iddi hi ei hun.Rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud wrthfynd yn hªn ac wrth adfer o wahanolbrofiadau. Ond po ddyfnaf yr argyfwng ydyfna’n byd yw’r mewnwelediad maerhywun yn ei gael ar ei chyflwr hi ei hun.Mae’n gyfle i weld yr hyn sy’n hardd mewnbywyd a bod yn ddiolchgar. A’r peth arall i fod yn ddiolchgar amdanoydy’r fraint o gael tyfu’n hªn, o gaelaeddfedu, i geisio rhannu profiad. ‘Befyddet ti’n ddweud wrth y Lleuwen iau?’‘Edrych ar ôl dy hun a derbyn dy hun felrwyt ti.’Mae’r Hindwiaid yn credu mewn camu ynbendant o un cyfnod o fywyd i’r llall acroedd rhywun yn cael ei atgoffa o hynny ynnoethineb ac aeddfedrwydd y ddwy yma.Ffion soniodd am ddyfyniad yr actorRichard Dreyffus am y cyflwr. ‘Fyddai’n ddagen i petai pobl yn gweld y diamwnt yn ypridd.’A dyna grynhoi’r sgwrs. Purdeb caled wediei greu yn uffern ond ag iddo sawl wynebprydferth all hollti golau’n enfys ogreadigrwydd. Diolch am gael eistedd wrth droed yr enfyshonno. Gan ei bod hi’n debyg eich bodchi’n darllen hwn ar gyfrifiadur, allainnau’ch gwahodd i glosio a chlustfeinio ary ddwy. Dewch ... cliciwch yma ...https://eisteddfod.cymru/amgen-gwerin-lleuwen … wnewch chi ddim difaru.

Arwel Rocet Jones

Awst 28, 2020 Y Goleuad 7

Ffydd… a diwylliant

1

2

3

4

5

6

7 8

9 10

11

12 13

14

15 16 17 18 19 20

21 22 23 24

25 26

27

28 29 30

31 32 33

34

AR DRAWS

2. Tad y brenin Saul.3. Ffrind Daniel a alltudiwyd i Fabilon.5. Arweinydd rhyfelgar, nid o’r De!9. Mab Noa.10. Un o’r barnwyr.12. Llywodraethwr Arabia.16. Cydymaith ifanc Paul.18. Dyn yr arch fawr.20. Brenin Moab a laddwyd gan Ehud.

21. Casglwr trethi.22. Chwaer Herod Agrippa ii.24. Ail fir i wraig Nabal.25. Brenin Jwda.26. Mab Ruth a Boas.28. Un o’r Deuddeg.31. Gwraig Nabal.34. Dim syniad pwy yw! Gorchwyliwr tª Ahab.

Gogyfer atebion: Sylwer fod ph, ll, ch, dd, ff, th, ng yn defnyddio DAU sgwâr.

Gan nad ydym yn gallu cyfarfod pobl eraill, dyma gyfle i ymweld â phobl yn yr Ysgrythur Lân.Atebion tro nesaf.

I LAWR

1. Aelod o’r Sanhedrin … at Iesu liw nos.4. Y dyn mawr iawn.6. Y wraig gyntaf erioed.7. Y dyn cryf iawn.8. Cadfridog afíach ar un tro – Syriad.11. Mab y Duw byw.13. Y Merthyr Cristnogol cyntaf.14. Merch Jacob.15. Awdur y drydedd Efengyl, meddyg.17. Arweinydd a rhoddwr y gyfraith i Israel.19. Y dyn cyntaf erioed.23. Perchen gwinllan am ryw hyd!27. Cyfaill teyrngar i Dafydd, gwrthryfel Absalom.29. Mam Iago.30. Mab doeth iawn i Dafydd.32. Y diafol.33. Ysbïwr enwog.

Pos: Pobl yn y Beibl

Page 8: MEINI BYWIOL (3) · 2020. 8. 27. · gwthio rhwng y meini. Wedi aros fy nhro i gael lle i fynd at y mur ni allwn weddïo, doedd yr un gair yn dod, felly gweddïais frawddegau o Weddi’r

8 Y Goleuad Awst 28, 2020

• Wythnos nesaf – Wynebu pennod newydd •

Wedi treulio misoedd lawer yng nghwmni Iesu o’r diwedd sylweddolodd y disgyblion bod eu dealltwriaeth a’u hadnabyddiaeth o Iesuyn ddyfnach nag yr oedd eu geiriau wedi ei fynegi cyn hynny. Ti yw y Crist, y Meseia, Mab Duw. I lawer ohonom fe ddaw’n sioc i

ddarganfod, er ein hansicrwydd a’n amheuon, er ein bod wedi bod heb yr eirfa i fynegi’n cred, bod sylwedd ac ystyr a ffydd real ynom.

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

EMYN 347:Pa feddwl, pa madrodd …

GWEDDI

Arglwydd, drwy’r Ysbryd Glân a wnei dioleuo llygaid ein deall, a chaniatáu i’regin egwan o ffydd sydd yn ein calonnaudyfu a ffrwytho. Dysg ni o’r newydd bethyw bod yn ddisgybl. A helpa ni heddiw iddod i’r fan lle’r ydym yn medru cael eindysgu gennyt. Nid dy ffyrdd di mo’nffyrdd ni. Ac weithiau dyn ni ddim ynmedru dy gael i ffitio i’n bocs bach ni.Caniatâ i ni ddysgu bryd hynny bod ynrhaid newid y bocs – yn wir dy fod yn fwynag unrhyw ymdrech o’n heiddo i’thgyfyngu! Gogonedda dy Fab ynom.Maddau ein dyledion a’n pechodau ynIesu Grist. Amen.

DARLLEN: Mathew 16:21-28

Dwi’m yn gwybod amdanoch chi ondmae yna rywbeth sy’n ymddangos ynreit od am ymateb Iesu Grist iddatganiad Pedr. Ers chwe phennodmae Iesu wedi bod yn dysgu eiddisgyblion am fod yn ddisgyblionfyddai’n cyhoeddi dyfodiad y Deyrnas.Ac mae o wedi eu rhybuddio bodanawsterau ar y ffordd, a’u hannog drwysicrhau y byddai ffrwyth o’u llafur ac ybyddai grym y Deyrnas fel lefain yn ytoes yn treiddio drwy’r byd i gyd. Ac ynawr, ar awr eu ‘darganfyddiad’ syfrdanolam ei fawredd, ymateb Iesu iddynt yw eurhybuddio. ‘Gorchmynnodd i’wddisgyblion beidio â dweud wrth nebmai ef oedd y Meseia.’ (ad 20)Nid cyhoeddi ond rhybudd i fod yndawel! Yn lle eu hannog i dystio iddodechreuodd eu dysgu am wir natur eifrenhiniaeth.

1. ‘Dechreuodd Iesu ddangos...’

Hyd yn hyn mae Iesu wedi bod yn eutywys i’w adnabod fel Meseia Duw.O hyn allan, wedi iddynt ei adnabod,mae angen iddo eu hyfforddi am naturgweinidogaeth y Meseia. Niddisgwyliadau’r cyhoedd oedd ei batrwmef.

Os ydyn ni’n onest efo’n hunain fefyddwn, fel Pedr, yn brwydro gyda’rhyn mae Iesu’n ei ddweud wrthym.Mae’n troi holl ddisgwyliadau’r byd amnatur llywodraeth a brenhiniaeth ben iwaered.

2. Dechreuodd ddysgu mai Meseiasy’n dioddef ydyw ad 21

Meddyliwch glywed hyn am y tro cyntaf.Bydd yn ‘dioddef llawer’ dan arweinwyr eibobl, ‘a’i ladd, a’r trydydd dydd ei gyfodi.’Beth yn y byd yw ystyr hyn? Lladd ...a chyfodi...?

Ac yn waeth na hynny, mae’n disgwyl i’wddisgyblion gerdded gydag ef a’iefelychu!

Cyfeirio mae Iesu at ei lwybr tuag atddioddefaint ei groes.

Oedwn i feddwl am hyn. Nid ‘piti i hynnyddigwydd’ mo dioddefaint y groes. Nidcamgymeriad. Nid canlyniadgwrthwynebiad yr arweinwyr na phendraw eu cynllwynio i’w ddifa arweinioddIesu i’w groes. Ef ei hun ddewisodd yllwybr heb orfodaeth na thrais.

3. Dechreuodd ddysgu pa morganolog oedd llwybr y groes

Faint o weithiau ydym wedi clywed poblyn ymateb i eiriau Iesu gydaganghrediniaeth neu ddryswch llwyr? ‘Naato Duw.’ Ddim o gwbl! Ffwlbri yw sôn amy groes, am angen am groes, am FabDuw’n dioddef ar groesbren. (1 Corinth1:18 ymlaen)

Yn wir yn ôl Iesu ei hun mae’rgwahoddiad i geisio brenhiniaeth hebufudd-dod, llywodraeth heb aberth yngynllwyn dieflig. ‘Dos ymaith o’m golwgSatan... maen tramgwydd wyt ti i mi,oherwydd nid ar bethau Duw y mae dyfryd.’ I Iesu nid trechu drwy ddifa arheibio yw sail ei Deyrnas. Yn hytrach,hunanaberth yw llwybr yr oruchafiaeth a’rfuddugoliaeth.

Argyhoeddiad canolog ein ffydd yw bodIesu Grist yn ei aberth ar Galfariarhywsut wedi trechu pwerau drwg adieflig. Yn wir, wrth geisio meddwl amgymhariaeth fyddai’n egluro arwyddocâddioddefaint Iesu ar y Groes dywedoddPaul, ‘Diarfogodd y tywysogaethau a’rawdurdodau, a’u gwneud yn sioe gerbrony byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaetharnynt ar y groes.’ (Colos. 2:15)

4. Dechreuodd ddysgu bod y groes ynbatrwm i’w ddisgyblion.

Cawsom ein gwahodd at Iesu. Mae’naddfwyn ac yn drugarog ac yn rhoi i niheddwch. Ond y mae ar ein llwybr elfen oorfodaeth ddewisol! ‘Rhaid iddo ymwaduag ef ei hun...’

Golygai codi’r groes bod yr un oedd argael ei ddienyddio ar ddechrau llwybrpoenus. Yn ail, roedd yn llwybr aarweiniai i un cyfeiriad di-droi’n ôl. Yndrydydd, er ei fod yn llwybr cywilyddroedd hefyd yn llwybr gwbl gyhoeddus.Byddai pawb yn gwybod i ble roedd yllwybr yn arwain.

5. Cawsom ein galw i fesur o’rnewydd werthoedd ein bywyd

Jim Eliot, Cenhadwr a gafodd ei ferthyruwrth estyn allan at lwyth brodorol yn Ne’rAmerig ddywedodd, ‘He is no fool to losewhat he cannot keep to gain what hecannot lose.’ Meddai Iesu. Cofiwch fodMab y Dyn (Daniel 7:13-14) ‘ar ddyfodgyda’i angylion, ac yna fe dâl i bob un ynôl ei ymddygiad.’ Mae amser yn fyrmeddai. Dyma sy’n lliwio ac yn llywio’chgwerthoedd i gyd.

6. Cawsom ein galw i fentro colli(ad 25)

Colli er mwyn ennill. Dyma herwirioneddol i ni wrth i ni geisio adeiladuo’r newydd ar ddechrau tymor newydd.Faint ohonom, er mwyn y deyrnas,er mwyn Iesu Grist, er mwyn bod ynffyddlon iddo, fydd yn fodlon ‘colli’ bywydcynulleidfaoedd na ellir eu harbed ermwyn sefydlu gwaith newydd a bywiol?Dim ond gofyn!

GWEDDI

Arglwydd Dduw, mor rhyfedd yw dyffyrdd. Mor rhyfedd yw dy ras. Morrhyfedd yw dy fuddugoliaeth. Diolch naddaethost atom mewn rhwysg allywodraeth dreisgar i’n difetha. Diolch ydaethost atom fel gwas, wedi ymwacáuo’r ysblander nefol gan fod yn ufudd hydangau. Arglwydd, dyn ni’n cyffesu i ti einbod mor aml am fynnu’n statws a’n henwa’n huchelgais. Maddau i ni os ydym yntybied mai trwy ddilorni, bychanu, neudwyllo, neu fanteisio neu fwlio pobl eraillmae sicrhau grym. Diolch i ti mai trwyhunanaberth a chroes y daethbuddugoliaeth y trydydd dydd. Diolch maiwrth godi’r groes y down ninnau i fywyd.

Gweddi dawel.

Gweddi’r Arglwydd.

EMYN 746:Dilynaf fy mugail drwy f’oes

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.